Lisa Gwilym a chriw cynhyrchu Pethe yn trafod y newyddion diweddaraf o fyd y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt.
Gwion Hallam fuodd yn sgwrsio gyda pump arall fuodd yn yr wyl dros y penwythnos diwethaf - Siwan Haf, Iestyn Lloyd, Daniel Parry Evans, Llyr ab Alwyn ac Osian Howells. Pob un wedi cael profiad hollol wahanol o'r wyl ym Mhortmeirion.
Elan Mererid Rhys o'r band 'Plu' fuodd yn sgwrsio gyda Lisa Gwilym mewn sesiwn yn ystod Gŵyl Arall 2014
Gwenno Saunders fuodd yn sgwrsio gyda Lisa Gwilym mewn sesiwn yn ystod Gŵyl Arall 2014. Mae hefyd cyfle i glywed Gwenno'n perfformio rhai o'i chaneuon.
Ifor ap Glyn sy'n trafod y llyfrau yng nghategori barddoniaeth Llyfr Y Flwyddyn 2014 gyda Gwion Hallam yn ein podlediad diweddaraf
Menna Machreth a Non Tudur sy'n trafod y llyfrau yng nghategori ffuglen Llyfr Y Flwyddyn 2014 gyda Gwion Hallam yn y podlediad yma.
Gwion Hallam fuodd yn trafod llyfrau yng nghategori Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2014 gyda Emyr Gruffudd a Meg Elis.
Gwion Hallam sy’n holi’r cerddor Stephen Rees (Ar Log, Crasdant) a’r canwr Gwilym Bowen Rhys (Y Bandana, Plu) am yr adfywiad yn y sîn gwerin yng Nghymru, a nhw ymhlith deg cerddor sy’n teithio’r sioe werin ‘Cylch Canu/Songchain’ o gwmpas y wlad.
Gwion Hallam fuodd yn sgwrsio gyda Betsan Llwyd am gynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws, 'Dros Y Top'
Gwion Hallam fuodd yn sgwrsio gyda thri o actorion ac ysgrifenwyr 'Dros Y Top' - cynhyrchiad diweddaraf Theatr Bara Caws, sef Carwyn Jones, Rhian Blythe a Rhodri Sion.
Gwion Hallam sy'n holi Yr Athro Gwyn Thomas am gynyrchiad newydd Theatr Genedlaethol Cymru, Blodeuwedd.
Gwion Hallam sy’n holi’r nofelydd John Rowlands am nofel Saesneg gyntaf Owen Martell - Intermission.
Gwion Hallam sy'n trafod cerddoriaeth newydd sydd ar gael rhwng nawr a chyfnod y Nadolig gydag Osian Howells a Gethin Evans
Lisa Gwilym, Aneurin Thomas ac Ifor ap Glyn sy'n trafod ‘Terfysg’ – Cerddi’r Goron. Triniaeth drawiadol o’r casgliad o gerddi a enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Dinbych i Ifor.
Yn y podlediad yma, Lisa Gwilym a Gwion Hallam sy'n edrych ymlaen at gyfres newydd o 'Pethe'
Lisa Gwilym fuodd yn cynnal sesiwn trafod gyda Manon a Lleuwen Steffan yn ystod penwythnos Gwyl Arall yng Nghaernarfon.
Cyfe i fwynhau sgwrs a sesiwn acwstig gyda Gwyneth Glyn fel un o ddigwyddiadau Pethe yn Gwyl Arall 2013.
Nici Beech ac Ifor ap Glyn sy'n ymuno gyda Gwion Hallam ar gyfer trafod categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2013, sef Trydar Mewn Trawiadau gan Llion Jones, Parlwr Bach gan Eigra Lewis Roberts ac O Annwn i Geltia gan Aneirin Karadog.
Gwion Hallam sy’n holi Eirian (Palas Print) James a Rhian George am y nofel Blasu gan Manon Steffan Ros, y nofel Ras Olaf Harri Selwyn gan Tony Bianchi a’r nofel Cig a Gwaed gan Dewi Prysor.
Meg Elis a Non Tudur sy’n trafod y llyfrau ar y rhestr ffeithiol hefo Gwion Hallam. Beth fydd eu barn am Cofnodion gan Meic Stephens, Yr Erlid gan Heini Gruffudd, a Tuchan o Flaen Duw gan Aled Jones Williams?
Lisa Gwilym sy’n sgwrsio efo Osian Howells – aelod o Yr Ods – am yr ail albwm hir ddisgwyliedig. Mae’r albwm “Llithro” yn cael ei rhyddhau yn fuan, a dyma gyfle arbennig i glywed a mwynhau caneuon oddi ar y casgliad newydd. Lisa Gwilym speaks with Osian Howells – a member of “Yr Ods” – about their forthcoming second album. “Llithro” will be released in the next month, but here’s a great opportunity to listen and enjoy tracks from the new collection.
Lisa Gwilym sy’n holi Gwion Hallam am raglen arbennig o Pethe y mae’n ei chyfarwyddo – ‘Lleisiau Ysbyty Dinbych’. Sut y mae Manon Steffan Ros, Aled Jones Williams a’r comediwr Eilir Jones am roi llais i gleifion a choridorau gwag yr hen ysbyty meddwl?
Yn y podlediad yma, mae Gwion Hallam yn holi Lisa Gwilym a'r cyfarwyddwr Heledd Lewis am eu profiadau wrth ymweld ag arddangosfa Bedwyr Williams yn yr Eidal ar gyfer 'La Biennale di Venezia'.
Ar ddiwrnod cyhoeddi rhestr fer gwobr llyfr y flwyddyn 2013 fe aeth Gwion Hallam draw i siop Palas Print, Caernarfon i gael ymateb dau sydd â diddordeb mawr yn y dewis o naw llyfr. Ym mhodlediad Pethe yr wythnos yma cawn ymateb perchennog y siop Eirian James i ddewis y beirniaid eleni, yn ogystal ag ymateb cynhyrchydd rhaglen arbennig ar y wobr eleni, Emyr Gruffudd.
Iestyn Lloyd ac Osian Howells sydd yn ymuno gyda Gwion Hallam yr wythnos hon i adolygu dau albwm newydd sef 'Praxis Makes Perfect' gan Neon Neon a 'week of Pines' gan Georgia Ruth.
Gwion Hallam yn holi'r cyfarwyddwr ffilm Wil Aaron am y frwydr a'r her o wneud ffilmiau yn y Gymraeg. Fel un o arloeswyr y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg fe gyfarwyddodd Wil Aaron y ffilm arswyd gyntaf yn yr iaith - O'r Ddaear Hen, 1981. Dyma ei atgofion o gyfnod cyffrous a chythryblus y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg.
Yn y bennod hon, Lisa Gwilym sydd yn trafod gwaith David Bowie gyda'r gitarydd bas Rheinallt ap Gwynedd.
Yn y bodlediad yma, mae Lisa Gwilym yn sgwrsio gyda thair o griw Cwmni Da, sef Manon Wyn, Rhian Haf a Nerys Lewis. Aeth y pedair wythnos diwethaf i weld 'Cerebellium' ym Mhrifysgol Bangor a chewch glywed am eu profiadau unigryw.
Yn ail bennod podlediad Pethe, mae Gwion Hallam yn cwrdd â'r awdur Angharad Tomos i drafod ei drama newydd, sef Dyled Eileen.