Podcasts about nghaernarfon

  • 9PODCASTS
  • 22EPISODES
  • 42mAVG DURATION
  • 1MONTHLY NEW EPISODE
  • May 11, 2025LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about nghaernarfon

Latest podcast episodes about nghaernarfon

Beti a'i Phobol
Welsh Whisperer - Andrew Walton

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later May 11, 2025 48:56


Y canwr gwlad Andrew Walton o Gwmfelin Mynach yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel y Welsh Whisperer, ac mae'n dathlu 10 mlynedd eleni ers dechrau perfformio. Mi fydd y caneuon 'Ni'n Beilo Nawr' a 'Bois y JCB' yn gyfarwydd i'w ffans.Cafodd ei fagu yng Nghwmfelin Mynach yn Sir Gaerfyrddin. Mae bellach yn byw yng Nghaernarfon, Gwynedd.Graddiodd mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Sheffield , a bu'n athro ysgol gynradd yn y gogledd am sawl blwyddyn, cyn mentro o ddifri i'r byd perfformio.Mae'r Welsh Whisperer bellach yn wyneb cyfarwydd ar y teledu, yn perfformio canu gwlad mewn gwyliau cerddorol ac yn denu niferoedd i neuaddau pentref ar hyd y wlad.Mae'n cyflwyno cyfres o bodlediadau newydd ' Y Byd yn Grwn' sy'n rhoi cipolwg y tu ôl i'r llenni ar glybiau pêl-droed llawr gwlad a'r gwirfoddolwyr allweddol sy'n eu rhedeg.Cawn hanesion difyr ei fywyd, ac mae'n dewis caneuon Gwyddelig ac un gan ei arwr Tecwyn Ifan.

welsh whisperer jcb beti gwynedd andrew walton cawn cafodd nghaernarfon
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#115 - Tyfu'n Fyd-eang: Sut Daeth Meithrinfeydd Seiont yn Bwerdy Allforio Garddwriaethol yng Nghymru

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear

Play Episode Listen Later Apr 6, 2025 23:28


Ydych chi erioed wedi meddwl sut y daeth meithrinfa yng Nghymru yn allforiwr mawr o blanhigion gardd ar draws y DU ac Ewrop? Ymunwch â'r cyflwynydd gwadd Neville Stein wrth iddo ymweld â Meithrinfeydd Seiont yng Nghaernarfon. Dysgwch y cyfrinachau y tu ôl i'w llwyddiant, o'u sefydlu ym 1978 i'w cynhyrchiad blynyddol trawiadol o dros filiwn o blygiau a leinin, gan arbenigo mewn mathau newydd cyffrous. Darganfyddwch sut maen nhw'n partneru â bridwyr rhyngwladol ac yn rheoli eu gwasanaeth dosbarthu wythnosol. Hefyd, clywch am eu cynlluniau i ehangu i farchnad Iwerddon. Mae'r bennod hon yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn garddwriaeth, twf busnes, a chymhlethdodau masnach ryngwladol yn y diwydiant planhigion.

nghymru hefyd ewrop daeth nghaernarfon ydych
Beti a'i Phobol
Yassa Khan

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Sep 8, 2024 50:28


Yassa Khan, cyfarwyddwr ffilmiau o Gaernarfon yn wreiddiol yw gwestai Beti George.Mae Yassa Khan yn dweud bod rhannau o'i fagwraeth yn ei atgoffa o'r ffilm maffia Goodfellas – ond yng Nghaernarfon, nid Efrog Newydd. Roedd ei Dad yn lleidr banc adnabyddus o Gaernarfon, ac fe dreuliodd flynyddoedd yn y carchar trwy gyfnod plentyndod Yassa.Doedd tyfu i fyny yn y dre' yn yr 1980au ddim yn hawdd iddo gyda'i dad i mewn ac allan o garchar - ac i wneud pethau'n anoddach, roedd o'n fachgen o dras Pakistani ac yn hoyw.Ond mae ei fagwraeth liwgar wedi arwain ato'n gweithio fel cyfarwyddwr sydd wedi ffilmio'r Pet Shop Boys, Vivienne Westwood a Billie Eilish. Bu hefyd yn gweithio gyda chynllunwyr ffasiwn Gucci a YSL.Yn ddiweddar mae wedi bod yn gweithio ar ffilm Pink, ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ffilm hir Daffodil, sydd yn ddarlun o hanes ei fagwraeth.

Beti a'i Phobol
Guto Bebb

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 28, 2024 77:18


Mae Guto'n Brif Weithredwr Gwasanaeth Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru ers 2020 ac yn Brif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru yn ei gyfanrwydd ers Chwefror 2021. Cyn hynny, fe fu'n Aelod Seneddol dros Aberconwy am ddegawd gan wasanaethu fel Gweinidog yn Swyddfa Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.Yn enedigol o Sir y Fflint, mae Guto wedi byw yng Nghaernarfon (ac eithrio ambell gyfnod yn crwydro) ers deugain mlynedd. Cyn ei ethol i San Steffan fe fu'n rhedeg amrywiol fusnesau gan gynnwys Ymgynghoriaeth Datblygu Economaidd a Siop Lyfrau. Am gyfnod, bu hefyd yn gydberchennog ar dŷ tafarn.Mae'n rhannu straeon am ei fywyd gyda Beti George ac yn sôn i'w yrfa bleidiol wleidyddol mewn dwy blaid wedi dod i ben oherwydd materion Ewropeaidd. Cawn glywed am ei hoffter o gerddoriaeth o bob math, a'i gasgliad o recordiau sy'n cynnwys nifer o rai Bruce Springsteen a Marillion.

bruce springsteen sir cyn guto marillion yn cawn nghaernarfon beti george
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 16eg o Ionawr 2024.

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jan 16, 2024 12:44


Pigion Dysgwyr – Gwyneth Keyworth Mi fydd yr actores o Bow Street ger Aberystwyth, Gwyneth Keyworth, yn perfformio mewn cyfres ddrama deledu newydd, Lost Boys and Fairies cyn bo hir. Dyma Gwyneth ar raglen Shelley a Rhydian yn sôn mwy am y ddrama a'i rhan hi ynddi. Cyfres SeriesYmdrin â To deal with Mabwysiadu To adoptHoyw GayTyner Gentle Pigion Dysgwyr – Ian Gwyn Hughes Gwyneth Keyworth oedd honna'n sôn am ei rhan hi yn y ddrama deledu newydd Lost Boys and Fairies . Gwestai Arbennig rhaglen Bore Sul oedd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Yn ystod ei sgwrs gyda Betsan Powys mi soniodd Ian am ei weledigaeth pan ddechreuodd weithio efo'r Gymdeithas Bêl-droed. Gweledigaeth VisionPennaeth Cyfathrebu Head of CommunicationCyflwyno IntroduceNaws Cymreig A Welsh ethosPlannu hadau Planting seedsGorfodi To forceDiwylliant CultureHunaniaeth IdentityCynrychioli To representBalchder PrideYmateb To respondGan amlaf More often than not Pigion Dysgwyr – Nayema Khan Williams Cofiwch y gallwch chi wrando ar sgwrs gyfan Ian Gwyn Hughes unrhyw bryd sy'n gyfleus i chi drwy fynd i wefan neu ap BBC Sounds. Nayema Khan Williams ymunodd â Beti George ar Beti a'I Phobol wythnos diwetha. Mae Nayema a'i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Mi gafodd hi ei magu yng Nghaernarfon, ond roedd ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn yn dod o Bacistan yn wreiddiol. Daeth ei thad draw yn y 50 i Gaernarfon, ac ar y dechrau mi fuodd o'n gwerthu bagiau o gwmpas tafarndai. Wedyn mi fuodd yn gwerthu bagiau ym marchnad Caernarfon ac mewn marchnadoedd eraill am flynyddoedd. Dyma Nayma yn sôn am ei ffydd…… Ffydd FaithDwyn i fyny Brought upGweddïo To prayAballu And so onPigion Dysgwyr – Pilates Nayema Khan Williams o Gaernarfon yn fanna yn sôn ychydig am Islam. Drwy gydol wythnos diwetha thema Rhaglen Aled Hughes oedd “ Dydy hi byth yn rhy hwyr” sef cyfres o eitemau i annog gwrandawyr i sylweddoli nad ydy hi byth yn rhy hwyr i wynebu sialensau newydd. Mi ymwelodd Aled ag Eirian Roberts yng Nghaernarfon i gael gwers Pilates. A dyma sut aeth pethau Annog To encourage Garddwrn WristY glun The hipAnadlu To breathAsennau HipsTueddu i or-ddatblygu Tend to over developSbio Edrych Pigion Dysgwyr – Chloe Edwards Gobeithio bod Aled yn iawn ynde ar ôl yr holl ymarferion Pilates ‘na! Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu Cymraeg chwaith, ac un sydd wedi profi hynny ydy Chloe Edwards. Fore Mercher diwetha ar raglen Aled Hughes mi soniodd Chloe wrth Aled am y daith mae hi wedi gymryd i ddod yn rhugl yn yr iaith. Trwy gyfrwng Through the mediumGweithgareddau Activities Pigion Dysgwyr – Pantomeim Ac mae Chloe newydd ymuno â thîm tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor. Pob lwc iddi hi ynde? . Nos Fawrth ddiwetha ar ei rhaglen mi gafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Rhian Lyn Lewis. Mae Rhian ar hyn o bryd yn chwarae rhan un o'r gwragedd drwg ym Mhanto y Friendship Theatre Group yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli. Gofynnodd Caryl iddi hi'n gynta ers pryd mae'r cwmni wedi bod yn perfformio Pantomeim Elusennau CharitiesLlwyfan StagePres ArianBant I ffwrddY brif ran The main partYmylol PeripheralTywysoges PrincessTylwyth teg Fairy

Beti a'i Phobol
Nayema Khan Williams

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 14, 2024 50:12


Nayema Khan Williams sy'n ymuno â Beti. Mae Nayema a'i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Cawn glywed ei hanes difyr yn mentro o fyd y gwasanaeth iechyd i fyd triniaethau anfeddygol. Cafodd ei magu yng Nghaernarfon, daeth ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn y ddau'n wreiddiol o Pacistan. Daeth ei thad draw yn y 50/60au i Gaernarfon ac fe ddilynodd ei mam wedyn . Mae Nayema yn un o naw o blant a hi ydi'r ieuengaf ond un. Gwraig tŷ oedd ei mam a phan ddaeth ei thad draw o Bacistan i gychwyn bu'n gwerthu bagiau o gwmpas y tafarndai. Yna bu'n gwerthu bagiau yn farchnad Caernarfon ac mewn marchnadoedd eraill am flynyddoedd. Cafodd ei magu'n Moslem ac 'roedd ei thad yn ffigwr blaenllaw yn y Mosque ym Mangor. Mae Naymea'n credu'n gryf fod angen mwy o ferched fentro mewn busnesau ac na ddylai merched ddim bod ofn cymryd y risg i ddechrau a chychwyn busnesau eu hunain.

khan mosque beti moslem s4c caernarfon yna mangor cawn cafodd daeth nghaernarfon gaernarfon
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: PHIL WYMAN

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Jun 11, 2023 46:35


Yn ddiweddar, bu farw cymeriad mawr go iawn. Roedd Phil Wyman yn wreiddiol o Galifornia. Yn athrylith, gweinidog, awdur a bardd, bu Phil yn byw yng Nghaernarfon, yn dysgu Cymraeg, yn codi ymwybyddiaeth o'i ffydd, Cymru a'r iaith, ac yn bwriadu teithio dros Gymru gyfan o fis Awst eleni, yn siarad Cymraeg yn unig ac yn hyrwyddo'r iaith. Yn anffodus, bu farw Phil yng ngŵyl Y Gelli ac mae pawb yn cydymdeimlo'n fawr gyda'i deulu a'i ffrindiau yng Nghymru ag America. Fe ges i'r cyfle i sgwrsio â Phil rhai misoedd yn ôl am ei fywyd lliwgar a'r holl bethau amrywiol, gan gynnwys dysgu Cymraeg, yn ei fywyd. Fe wnes i ddileu'r cyfweliad ar gyfer y podlediad am gyfnod allan o barch ond mae mab Phil, Elijah, wedi gofyn i fi ei ddefnyddio erbyn hyn. Felly roedd hi'n bleser ac yn anrhydedd i gael siarad ag un o'r bobl fwyaf diddorol, deallus, cefnogol a hwyl dwi erioed di cael ar y podlediad. Gorffwyswch mewn hedd, Phil Wyman a diolch am bopeth.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 14eg o Fawrth 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Mar 14, 2023 14:09


Pigion Dysgwyr – Adam yn Yr Ardd Dyn ni i gyd wedi clywed, mae'n siŵr, am brinder a chostau tomatos yn ein siopau ni a dyma flas i chi ar sgwrs gafodd Shan Cothi gyda'r garddwr Adam Jones neu Adam yn yr Ardd am y ffrwyth yma. Mae Adam yn credu dylen ni dyfu tomatos ein hunain. Dyma fe'n sôn yn gynta' am sawl math o domatos sydd yn bosib i ni eu tyfu. Prinder Scarcity Tueddol o To tend to Yn glou Quick Aeddfedu To ripen Tŷ gwydr Greenhouse Anferth Huge Hadau Seeds Chwynnu To weed Olew olewydd Olive oil Maethlon Nutritious Pigion Dysgwyr - Pat Morgan Ffwrdd a ni i'r tŷ gwydr felly i dyfu tomatos… Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobl bnawn Sul oedd y cerddor Pat Morgan oedd yn aelod, gyda David R Edwards, o'r band chwedlonol Datblygu. Yn anffodus buodd David farw ddwy flynedd yn ôl, ond mae gan Pat atgofion melys iawn ohono…… Chwedlonol Legendary Atgofion Memories Wedi dwlu Wedi gwirioni Wastad Always Sbort Fun Pigion Dysgwyr – Elin Roberts Pat Morgan oedd honna'n rhannu ei hatgofion am Dave Dablygu. Dylunydd coron Eisteddfod Genedlaethol eleni yw Elin Roberts. Mae Elin yn gweithio allan o weithdy yng Nghaernarfon ac aeth Aled Hughes draw ati hi wythnos diwetha i weld sut oedd y paratoadau yn mynd ymlaen Dylunydd Designer Paratoadau Preparations Undeb Amaethwyr Cymru Farmers Union of Wales Wedi cael ei gymeradwyo Had been approved Ysbrydoliaeth Inspiration Gorffenedig Finished Sgerbwd Skeleton Yn hytrach na Rather than Gwres heat Hoel llosg A burn mark Llechen Slate Pigion Dysgwyr – Bryn Fon A gobeithio, on'd ife, bydd yna goroni yn yr Eisteddfod eleni er mwyn i ni gyd gael gweld coron Elin Roberts. Gwestai Rhys Mwyn ar ei raglen nos Lun oedd y canwr a'r actor Bryn Fôn. Buodd Bryn yn sôn am ei yrfa ym myd cerddoriaeth, gan ddechrau gyda'r teimlad mae'n gael wrth gamu ar lwyfan i berfformio. Camu ar To step on Ymateb Response Difyrach More interesting Addoli To worship Gwerthfawrogi To appreciate Cysur Comfort I ryw raddau To some extent Cael eu denu Being drawn to Cerddorion Musicians O ddifri Seriously Pigion Dysgwyr – Munud I Feddwl Bryn Fôn oedd hwnna'n sgwrsio gyda Rhys Mwyn. Bob bore ar raglen Shan Cothi dyn ni yn cael clywed gwahanol unigolion yn rhoi Munud i Feddwl i ni. Dechrau'r wythnos diwetha tro Huw Tegid oedd hi, a dyma fe'n sôn am rywle arbennig mae e'n mynd heibio iddo wrth deithio ar yr A470. Cyfarwydd Familiar Swyn Charm Dychmygu To imagine Gwibio To dart Cul a serth Narrow and Steep Brigau Twigs Llethrau Slopes Yn drech na Greater than Yn cael ei roi o'r neilltu Aside Anogaeth Encouragement Pigion Dysgwyr – Bethan Jones Geiriau doeth Huw Tegid yn fanna yn rhoi mwy na munud i feddwl i ni. Nos Fercher ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Bethan Jones. Mae Bethan yn aelod o Glwb Blodau Celyn yn ardal Aberaeron a dyma hi'n sôn am y blodau dyn ni'n debyg o'u gweld ar ddechrau'r gwanwyn fel hyn… Doeth Wise Lili wen fach Snowdrop Saffrwn Crocus Bodlon Content Wedi cael ei sefydlu Has been established Deugain 40

Beti a'i Phobol
Y Parchedig John Owain Jones

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 27, 2022 51:30


Mae'r Parchedig John Owain Jones yn ymddeol fel Gweinidog ar Ynys Bute yn mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel Gweinidog yno. Cafodd ei eni yn Llanelwy a'i fagu yn Rhyl nes roedd yn 13 oed, cyn symud i Gaernarfon. Roedd ei Dad yn gweithio i'r Swyddfa Bost a chafodd swydd fel Post feistr yn Nghaernarfon. Mae cysylltiad Owain â'r Alban wedi bod yno bron o'r cychwyn. Wedi i'w rieni ddyweddïo roedd ei Dad eisiau arian i brynu tŷ felly aeth i weithio am gyfnod i'r Swyddfa Bost yn Rhodesia. Ar y llong ar ei ffordd draw yno rhannodd fync ar y llong gyda David Walker a oedd yn dod o Ynys Bute. Daeth ei Dad ac yntau'n ffrindiau pennaf a bu'n was priodas i'w Dad. Priododd ei fam a'i dad yn Salisbury, Rhodesia (Harare bellach). Priodwyd y ddau yn y Second Presbyterian Church ac roedd y Gweinidog yn dod yn wreiddiol o St Andrews (lle bu Owain yn y Brifysgol), a dychwelodd David yn ôl i Ynys Bute yn ddiweddarach. David hefyd oedd tad bedydd Owain a'i frawd Gethin. Bob haf roedd y teulu'n mynd draw i Ynys Bute ar wyliau. Roedd hynny yn un o'r rhesymau pam y dewisodd Owain Brifysgol St Andrews. Yn ddiweddarach fe aeth Owain i Rhodesia am gyfnod i weinidogaethu. Mae Owain yn cyfrannu'n gyson i'r slot Thought for Today Radio Alban ac wedi cyfrannu hefyd i'r Daily Service ar Radio 4. Fe fydd hefyd yn cyfrannu ar Munud i Feddwl, Radio Cymru. Mae'n rhannu straeon am ei fywyd ac yn dewis ambell i gân.

Y Coridor Ansicrwydd
Emlyn Lewis: O gwrso defaid i goncro Lloegr

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Apr 21, 2022 48:51


Capten Cymru C Emlyn Lewis sy'n ymuno am sgwrs efo Owain Tudur Jones a Malcolm Allen i drafod y fuddugoliaeth wych ddiweddar yn erbyn Lloegr C yng Nghaernarfon.

nghaernarfon
Beti a'i Phobol
Siân Elen Tomos

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Mar 7, 2022 49:55


Beti George yn sgwrsio gyda Siân Elen Tomos. Fel Prif Weithredwr GISDA mae Siân yn rheoli ac arwain GISDA ers Hydref 2011 i sicrhau gwasanaeth o ansawdd i bobl ifanc bregus yng Ngogledd Cymru. Law yn llaw gyda hynny mae Siân yn ceisio sicrhau parhad mewn gwahanol wasanaethau drwy geisio am grantiau a thendro am arian. Cyn ymuno a'r tîm yn GISDA roedd Siân yn gweithio fel gweithiwr Cymdeithasol yng ngwasanaethau plant Cyngor Gwynedd, aeth yna ymlaen i fod yn Rheolwr Tîm yng ngwasanaeth i blant anabl yng Ngwynedd. Yn enedigol o Ddeiniolen, mynychodd Ysgol Gwaun Gynfi, ac Ysgol Uwchradd Brynrefail, mae hi bellach yn byw yng Nghaernarfon. Mae ei diddordebau yn cynnwys cerdded, bod allan yn yr awyr agored, teithio, materion cymunedol a gwleidyddiaeth, ac mae hi'n rhannu straeon bywyd ac yn dewis ambell i gan sydd yn agos at ei chalon.

law elen cyn yn tomos hydref nghaernarfon beti george
Mwy o Sgwrs Dan y Lloer
8: Olwen Rees

Mwy o Sgwrs Dan y Lloer

Play Episode Listen Later Apr 9, 2021 46:16


Heno fe fydd Elin Fflur yn ymweld â'r actores a'r gantores Olwen Rees yng ngardd ei chartref ym mhentref Wenfô ar gyrion Caerdydd. Yn ferch i'r gantores Sassie Rees ac yn briod â'r actor a'r diddanwr Johnny Tudor mae adloniant a pherfformio wedi bod yn ran anferth o'i bywyd ac mae Olwen wedi bod yn serennu ar sgrin ac ar lwyfan ers dros 50 mlynedd. O flaen tanllwyth o dân mae'r atgofion yn llifo o gyfnod ei phlentyndod yng Nghaernarfon, i fwrlwm cyfnod euraidd y byd adloniant yng Nghymru yn y 70au ac fe fydd y ddwy yn trafod dawnsio, teithio, mwynhau bywyd a'r cyfleoedd sydd ar gael i ferched wrth fynd yn hŷn. In this episode Elin visit's actress and singer Olwen Rees at her home in Wenvoe, Cardiff. Her mother, Sassie Rees, had her own radio and television series, so it is no wonder that Olwen decided to follow in her mother's footsteps and become a professional singer and actress resulting in a career spanning over fifty years on stage and screen. As the sun goes down, they both settle in front of the fire to reminisce about her upbringing in Caernarfon, the early days of television entertainment in Wales in the 70's and discuss all sorts from dancing and travelling to the secrets of growing old gracefully.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 2il Ebrill 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Apr 2, 2021 14:30


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … TROI’R TIR Mae Steffan Harri yn actor llwyddiannus sy wedi serenu ar lwyfan y West End mewn sioeau mawr fel Shrek, ond gyda’r theatrau ar gau, penderfynodd Steffan fynd yn ôl i helpu ar y fferm deuluol. Dyma fe’n dweud yr hanes ar Troi Tir Parhau To continue Ŵyna Lambing Dyweddio To engage (to marry) Gwarchod yr ŵyn swcis Looking after the pet lambs Bugeilio Shepherding Gwellt Hay Byrlymus Extremely busy Uffernol Hellish Wlyb sopen Extremely wet Colledion Losses STIWDIO Yr actor Steffan Harri oedd hwnna’n rhoi blas ar fywyd fferm ar yr adeg prysur hwn iddyn nhw. Ac i ni aros myd y theatr, roedd dydd Llun diwetha yn Ddiwrnod Theatr y Byd, ac ar Stiwdio cafodd Nia Roberts sgwrs gyda Melisa Annis, sy’n byw yn Efrog Newydd ac yn gweithio ym myd y theatr yno. Yn y darn yma, mae Melisa’n egluro sut glaniodd hi yn Efrog Newydd yn y lle cyntaf a pha fath o waith mae hi’n ei wneud y dyddiau hyn... Anhygoel - Incredible Dramodydd - Dramatist Cyfarwyddo - To direct Cynhyrchu - To produce Pres - Arian Ysiwrant iechyd - Health insurance Cynhyrchiad - Production DAF A CARYL Dipyn o hanes Melisa Annis yn fan’na ar Stiwdio. Mae llawer iawn ohonon ni angen mynd i’r siop trin gwallt ar ôl y misoedd pan oedd pob salon ar gau. Ond pa steil gwallt sy’n ffasiynol y dyddiau hyn tybed? Dyna un o gwestiynau Daf a Caryl i Paula Morris Jones o siop trin gwallt Paula’s yng Nghaernarfon a dyma oedd gyda hi i’w ddweud… Siop trin gwallt - Hairdressers Yn ôl yn y dydd - Back in the day Poblogaidd - Popular Barf - Beard Talcen - Forehead Drych - Mirror DEWI LLWYD Dw i’n siwr bod salon Paula a phob salon arall yn Nghymru yn brysur iawn y dyddiau ‘ma. Dymunodd Dewi Llwyd benblwydd hapus i gyn Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones ar ei raglen fore Sul. Mae Carwyn yn gweithio i Brifysgol Aberystwyth nawr a gofynodd Dewi iddo fe beth yw ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol Cyn Brif Weinidog - Former First Minister Cymysgedd - A mixture Athro yn y Gyfraith - Professor of Law Ymchwil - Research Ymgynghori - Consulting Darlledu - Broadcasting Datblygu - To develop Gwleidydd - Politician Bywoliaeth - Livelihood Meysydd - Fields LISA GWILYM Carwyn Jones yn swnio’n hynod o brysur yn fan’na. Un fasai’n hoff iawn o cael rhoi ei thraed i fyny ydy’r actores Hannah Danielgan ei bod hi’n disgwyl babi a hi oedd gwestai Bore Sul Lisa Gwilym ar RC2. Beth fasai Hanna’n ei wneud tasai hi’n ennill y loteri? Dyna oedd cwestiwn Lisa iddi hi Rhodd - A gift Yn haeddiannol iawn - Very deserving Beichiogrwydd - Pregnancy Delfrydol - Ideal Ysu am - To long for Cynnes clyd - Warm and cosy Cloncian - Gossiping Cymdeithasu - Socialising HUW CHISWELL Hanna Daniel yn fan’na yn crisialu dymuniadau llawer iawn ohonon ni dw i’n siŵr o ran cymdeithasu pan ddaw’r cyfnod clo i ben. Un o ganeuon mwya eiconig Huw Chiswel ydy Nos Sul a Baglan Bay a buodd Chiz yn siarad gyda Geraint Lovegreen am gefndir y gan arbennig hon... Ymdrin â - To deal with Profiad - Experience Diwylliannau - Cultures Y cyfuniad - The combination Cwmpasu - to encompass

Y Coridor Ansicrwydd
Nathan Craig - y Cofi yn Goodison

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Feb 25, 2021 58:35


Cyn-chwaraewr Everton a Chymru dan21 Nathan Craig sy'n trafod ei yrfa a'i obeithion yng Nghaernarfon gyda Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones.

everton cyn goodison chymru nghaernarfon
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 23ain Hydref 2020

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 23, 2020 17:43


Post Cyntaf Roedd hi’n wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg BBC Radio Cymru wythnos diwetha a gaethon ni’r cyfle i glywed gan lawer iawn o ddysgwyr am eu bywydau a’u profiadau’n dysgu’r iaith. Dechreuodd yr wythnos fore Llun wrth i Dylan Jones holi Barry Lord o Drefaldwyn ym Mhowys. Cafodd Barry ei ysbrydoli i ddysgu’r Gymraeg ar ôl bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan aeth hi i ardal Meifod ym Mhowys yn 2015. Ond ydy’r pandemig wedi cael effaith ar ei brofiadau Cymraeg yn y dosbarth a’r tu allan i’r dosbarth? Eu bywydau a’u profiadau - Their lives and experiences Cafodd Barry ei ysbrydoli - Barry was inspired Trefaldwyn - Montgomery Hyder - Confidence Pabell - Tent Yn galonogol iawn - Very encouraging Anhygoel - Incredible Cyfathrebu - To communicate Gan gynnwys - Including Aled Hughes Barry Lord o Drefaldwyn yn dal i ddysgu ac i ddefnyddio’r Gymraeg er gwaetha’r pandemig. Mae Kai Saraceno yn dod o’r Eidal yn wreiddiol a buodd o’n byw yn y Ffindir ers pan oedd e’n naw oed. Ar hyn o bryd mae’n astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Dyma i chi glip o Aled Hughes yn ei holi am ei hanes e’n dysgu’r Gymraeg. Er gwaetha - In spite of Bodoli - To exist Ar hap - By chance Cymeriad - Character Mae’n deg dweud - It’s fair to say Newid cyfeiriad - To change direction Yn falch - Pleased Cymuned - Community Trafod - To discuss Aled Hughes …a dyma i chi glip arall o Kai. Drwy gydol Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg roedd Kai ar ein sioeau yn gyson er mwyn sgwrsio gyda dysgwyr eraill a rhoi’r teimlad i ni gyd sut beth yw dod at yr iaith o‘r newydd fel oedolyn. Un ferch gafodd ei holi oedd Shaun McGovern, sy’n dod o Washington DC yn wreiddiol ond sy erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon. Dyma i chi flas ar y sgwrs… Chdi - Ti Gwatsiad - Gwylio Ffindir - Finland Yn ddiweddar - Recently Y rhan fwyaf - Most Wedi cuddio - Hidden Shan Cothi Eidalwr yn siarad yn Gymraeg gydag Americanes am eu profiadau’n dysgur iaith – gwych on’d ife? Gwestai Sian Cothi i ddathlu’r wythnos arbennig hon oedd Janet Tabor o Gastell-Nedd. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair blynedd a dyma hi’n sôn am ei thaith yn dysgu’r iaith. Caeredin - Edinburgh Caint - Kent Casgwent - Chepstow Hwb - Boost Dychmygu - Imagine Gerallt Lloyd Janet Tabor oedd honna wedi cael blas ar y Gymraeg drwy fynd ar un o gyrsiau Gwent. Tiwtor Cymraeg oedd un o westeion Geraint Lloyd wythnos diwtha – Eilir Jones sydd yn dysgu yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae Eilir hefyd yn gomedïwr ac yn berfformiwr a dyma fe’n egluro wrth Geraint pam oedd e eisiau dod yn diwtor a sut cafodd e’r swydd … Tyrd draw - Come over Fesul awr - Hourly Hyfforddiant - Training Cymwysterau - Qualifications Cyngor - Advice Gwerthfawrogi - To appreciate Cefnogaeth - Support Yr Wyddgrug - Mold Sara Yassine Eilir Jones oedd hwnna’n sôn am fywyd tiwtor Cymraeg. Mae Sara Yassine a’i thad Ali yn dod o Grangetown, Caerdydd ac mae’r ddau’n siarad Cymraeg. Mae eu teulu yn dod o’r Aifft ac o Somalia yn wreiddiol. Dyma Ali’n rhoi o ychydig o hanes y teulu ac wedyn Sara’n chwilio am hanes poblogaeth leiafrifol Caerdydd. Yr Aifft - Egypt Lleiafrif - Minority Mwyafrif y disgyblion - The majority of the pupils Ymgynghorydd Treftadaeth - Heritage Consultant Bedyddio - To baptise Cofnod - Record Cafodd ei gaethiwo - Was enslaved Eu cadw’n gaeth - Kept captive Y Gymanwald - The Commonwealth O dras Prydeinig - Of British heritage

Ar y Marc
Sean Eardley yn rheolwr newydd CPD Llandudno

Ar y Marc

Play Episode Listen Later Jun 6, 2020 29:54


Wrth i Glwb pêl-droed Llandudno benodi Sean Eardley fel rheolwr newydd, ymateb Nathan Craig fu'n chwarae iddo yng Nghaernarfon, a'r golwr Tristan Jones o glwb Llandudno sy'n edrych mlaen i'r cyfnod newydd.

llandudno wrth tristan jones nghaernarfon
Podpeth
Podpeth #66 - "Yas Cymru!"

Podpeth

Play Episode Listen Later Jul 27, 2019 30:44


Mae Elidyr Glyn, y flugalist Miriam Trefor, sport expert Jack Peyton ac 8000 mil o bobl eraill yn ymuno ag Iwan, Hywel ac Elin am dro rownd dre ar orymdaith annibyniaeth hanesyddol yng Nghaernarfon.

elin iwan cymru hywel nghaernarfon podpeth jack peyton
Beti a'i Phobol
Llinos Dryhurst-Roberts

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Oct 21, 2018 46:53


Braf 'di cael bod yn hapus, yn ôl Llinos Dryhurst-Roberts. Mae hi bob amser wedi bod yn hoff o antur, ac wedi treulio blynyddoedd yn y fyddin, gan wasanaethu yn Bosnia sawl tro. Mae wedi gweithio hefyd i'r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac i gwmni preifat yn Irac, lle cafodd ei hanafu'n ddifrifol. Wedi’r anaf, daeth cyfnod gyda'r gwasanaeth cudd, ond erbyn hyn mae'n cydreoli ac yn coginio mewn caffi yng Nghaernarfon. Mae'n dweud ei bod yn fodlon ei byd, wedi cael gwireddu sawl breuddwyd, ac wedi dod i ddeall beth sy'n bwysig mewn bywyd.

Beti a'i Phobol
Gwion Hallam

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Dec 17, 2017 49:24


Y Prifardd Gwion Hallam yw gwestai Beti George yr wythnos yma. Magwyd Gwion yn Rhydaman yn un o 3 o frodyr, ond mae'n byw bellach yn y Felinheli gyda'i wraig a'u pedwar mab. Aeth i Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydman, Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa ac yna i Goleg Prifysgol Aberystwyth, gan raddio mewn drama. Cafodd Gwion fagwraeth Gristnogol gref ond nid yw'n arddel unrhyw enwad na chrefydd bellach. Mae'n gweithio yng Nghaernarfon fel cynhyrchydd teledu ac wedi creu rhaglenni yn arsylwi'r berthynas rhwng plant bychain a phobl sy'n byw gyda dementia. Cafodd ei gyffwrdd gan y profiad, a dyna'r hedyn ysbrydolodd ei gerdd "Trwy Ddrych" a arweiniodd at ennill y Goron.

hallam goron aeth cafodd nghaernarfon beti george
Podpeth
Podpeth #41 - Steddfod 2017

Podpeth

Play Episode Listen Later Aug 28, 2017 120:30


Shwmae! Podpeth - Steddfod Sbeshal! Wel, dim o Bodeds, ond wedi ei recordio yng Nghaernarfon wythnosau wedyn. Mae Elin yn dysgu'r hogiau am do bach, mae Iwan yn nôl gyda Odpeth (Hebog a Neidr yn Ennyn Gwŷdd), a chawn glywed cân arbennig Hywel i Tommo o'r Eisteddfod, a pherfformiad stand-up Iwan yn noson Cabarela! Hefyd, mae Dad yn nôl gyda SyniaDad newydd - "Procar Poeth".

dad wel iwan tommo hywel eisteddfod hefyd nghaernarfon mae elin podpeth
Podpeth
Podpêl-droed (v Rwsia)

Podpeth

Play Episode Listen Later Jun 21, 2016 17:37


Mae Iwan a @SpursMel yn dathlu'r 3-0 yn erbyn Rwsia wrth i Gymru orffen top y grŵp.  Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd bellach adra ym Mae Colwyn (neu, Coleman Bale), efo criw o ffrindiau sydd yn cynnwys Jack Peyton, sydd wedi bod yn brysur yn gwario ei bres i gyd ar roi gig mawr ymlaen yng Nghaernarfon (gyda'r gobaith o neud mwy).  Dyma linc Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.

cyn hywel podp gymru nghaernarfon mae iwan jack peyton
Pethe
Pethe 15 - Manon a Lleuwen Steffan

Pethe

Play Episode Listen Later Jul 30, 2013 34:14


Lisa Gwilym fuodd yn cynnal sesiwn trafod gyda Manon a Lleuwen Steffan yn ystod penwythnos Gwyl Arall yng Nghaernarfon.

steffan nghaernarfon