Podcasts about flwyddyn

  • 17PODCASTS
  • 79EPISODES
  • 26mAVG DURATION
  • ?INFREQUENT EPISODES
  • May 25, 2025LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about flwyddyn

Latest podcast episodes about flwyddyn

Beti a'i Phobol
Ian Keith Jones

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later May 25, 2025 48:32


Ian Keith, sydd newydd ymddeol fel Prifathro yw gwestai Beti George. Fe adawodd y byd addysg llynedd ar ôl bod yn Bennaeth ysgol San Siôr, Llandudno. Fe enillodd sawl gwobr, gan gynnwys Pennaeth y Flwyddyn gyda'r Daily Express a'r Daily Post; gwobr David Bellamy am ysgol oedd yn gwneud gymaint gyda byd natur; a gwobr werdd y World Wildlife Fund.Roedden nhw'n cadw ieir a gwenyn ac yn gwerthu'r cynnyrch yn y siopau lleol. Mae'n trafod heriau byd addysg, ac yn rhannu hanesion ei blentyndod. Mae'n hoff iawn o gasglu planhigion ac yn teithio pellteroedd i weld adar a gwyfynod prin.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pont: Alanna Pennar Davies

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Feb 11, 2025 23:50


Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Alanna Pennar Davies.Cerddor llawrydd yw Alanna Pennar Davies. Yn wreiddiol o dref Sterling yr Alban, mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Dechreuodd ddysgu'r Gymraeg o ddifri yn 2020 yn ystod y cyfnod clo. Cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2024. Erbyn mae hi wedi sefydlu cwmni creu adnoddau i ddysgwyr sef Pennarbapur

davies pont alban yn cymraeg gymraeg flwyddyn nghaerdydd erbyn
Bwletin Amaeth
Enillydd gwobr Prentisiaid Yswiriant Proffesiynol y Flwyddyn

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Jan 7, 2025 4:57


Megan Williams sy'n sgwrsio gyda Heledd Roberts sydd wedi ennill clod mawr yn ddiweddar.

Clera
Clera Hydref 2024

Clera

Play Episode Listen Later Oct 31, 2024 92:41


Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn y fraint o sgwrsio gyda Phrifardd y Goron, Gwynfor Dafydd, i drafod pob math o bethau am y byd barddol, gan gynnwys ei gerddi gwych a gipiodd Goron yr Hen Bont iddo. Cawn hefyd gerdd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn, Mari George, o'i phamffled newydd hi o gerddi. Cawn hefyd gwmni sawl un arall gan gynnwys, Elinor Wyn Reynolds, Jo Heyde, Tudur Dylan a Gruffudd Antur. Mae gennych hefyd gyfle i gefnogi clera yn ariannol os ydych chi'n mwynhau'r podlediad. Cliciwch ar y linc: https://www.crowdfunder.co.uk/p/podlediad-clera

goron croeso hydref cawn flwyddyn llyfr
Beti a'i Phobol
Malachy Owain Edwards

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Oct 13, 2024 50:20


Beti George yn sgwrsio gyda'r awdur Malachy Owain Edwards. Cafodd Malachy ei fagu yn Ffynnon Taf. Saesneg oedd iaith yr aelwyd, ond fe aeth ei dad ati i ddysgu Cymraeg.Mae'n trafod y ffaith ei fod eisiau bod yn awdur, ac fe gafodd ei fagu yng nghanol llyfrau. Fe wnaeth ei hunangofiant 'Y Delyn Aur' gyrraedd rhestr fer Llyfr Ffeithiol Greadigol 'Llyfr y Flwyddyn' eleni.Wrth drafod ei hunaniaeth mae'n mynd a ni ar daith i Lundain, Hong Kong, Iwerddon a Barbados, ac mae dylanwad ei deulu yn fawr arno.Mae Malachy bellach yn byw hefo'i wraig Celyn a'r teulu ar Ynys Môn.

Bwletin Amaeth
Ffermwr Bîff y Flwyddyn Gwobrau'r Farmers Weekly

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Oct 9, 2024 4:57


Rhodri Davies sy'n llongyfarch Dylan Jones, Fferm Castellior, Porthaethwy, Ynys Môn.

Bwletin Amaeth
Pencampwr Da Byw y Flwyddyn NFU Cymru

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Oct 8, 2024 4:53


Megan Williams sy'n clywed mwy am y gystadleuaeth gan Dafydd Jarrett o NFU Cymru.

megan williams flwyddyn nfu cymru
Bwletin Amaeth
Llwyddiant ffermwyr o Gymru yng Ngwobrau'r Farmers Weekly

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Oct 7, 2024 5:00


Megan sy'n sgwrsio gyda Rheinallt a Rachel Harries, enillwyr 'Ffermwyr Llaeth y Flwyddyn.

Bwletin Amaeth
Chwilio am Stocmon Llaeth y Flwyddyn NFU Cymru

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Sep 4, 2024 4:46


Megan Williams sy'n trafod y gystadleuaeth gydag un o'r beirniaid, Rhys Williams.

Bwletin Amaeth
Meinir Howells yw Ffermwraig y Flwyddyn NFU Cymru

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Jul 26, 2024 5:37


Rhodri Davies sy'n sgwrsio gyda Meinir Howells ar ôl iddi ennill cystadleuaeth NFU Cymru.

howells rhodri davies flwyddyn nfu cymru
Clera
Clera Mehefin 2024

Clera

Play Episode Listen Later Jun 28, 2024 76:14


Croeso i bennod Mis Mehefin o bodlediad barddol Clera. Y Mis hwn, Elinor Wyn Reynolds sy'n tafoli cyfrolau barddol Llyfr y Flwyddyn ac yn rhoi ei phen ar y bloc. Ond pa gyfrol mae Elinor yn tybio ddylsai ennill o blith y tair cyfrol wych sy'n y categori barddol eleni? Gwrandwch i gael gwybod. Cawn hefyd gerdd gan yr hyfryd Jo Heyde sydd wedi cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o gerddi drwy Gyhoeddiadau'r Stamp. Mynnwch gopi! Hyn oll a mwy!

stamp ond croeso hyn cawn flwyddyn llyfr mehefin
Clera
Clera Mai 2024

Clera

Play Episode Listen Later May 25, 2024 74:38


Hawddamor, glwysgor glasgoed! Croeso i bennod Mis Mai o bodlediad Clera. Yn hoff fis Dafydd ap Gwilym cawn drafod llawysgrif newydd y mae'r Llyfrgell genedlaethol newydd ei brynu, Llyfr y Flwyddyn 2024, Eisteddfodau yr Urdd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam ac fe gawn hefyd gerddi gan Aron Pritchard ac Aled Lewis Evans. Hyn oll, a mwy!

yn dafydd gwilym croeso hyn wrecsam flwyddyn urdd llyfr
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 19eg o Fawrth 2024

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Mar 19, 2024 15:56


DROS GINIO 11.03.24Buodd Rhodri Llywelyn yn holi Mahum Umer o Gaerdydd. Mae'r cyfnod Ramadan i Foslemiaid ar draws y byd wedi cychwyn. Beth mae'r ŵyl yn ei olygu i Foslem ifanc Cymraeg?Ympryd A fastCymuned CommunityNodi To markCrefyddol ReligousDatgelu To revealHunanddisgyblaeth Self disciplineLlai ffodus Less fortunateAnsicrwydd UncertaintyHeriol ChallengingAdlewyrchu To reflect ALED HUGHES 12.03.24Blas ar sut mae cyfnod Ramadan yn effeithio ar Foslemiaid ifanc Cymru yn fanna ar Dros Ginio. Pwy fasai'n meddwl ei bod yn bosib cynhyrchu gwin cyn belled i'r gogledd â Dyffryn Clwyd? Wel dyna sy'n digwydd yng Ngwinllan y Dyffryn a buodd perchennog y winllan, Gwen Davies, yn sgwrsio gydag Aled Hughes fore Mawrth am yr her o dyfu grawnwin yn yr ardal honno.Cynhyrchu To produceGwinllan VinyardHer A challengeGrawnwin GrapesLlethr SlopeGwerthfawrogi To appreciateAddas AppropriateSefydlu To establishMicro hinsawdd Microclimate Yn y man Mewn munudGwinwydd VinesArallgyfeirio To diversify GEORGIA RUTH 12 03 24Ac erbyn hyn mae sawl gwinllan yng Nghymru on'd oes e? Pwy â ŵyr, falle mai Cymru bydd y Bordeaux newydd!Bardd mis Mawrth Radio Cymru yw Sam Robinson. Mae e'n byw ym Machynlleth, nawr ond yn dod o Rydychen yn wreiddiol ac mae e'n rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn. Dyma fe'n sôn wrth Georgia Ruth am daith arbennig buodd e arni i Wlad y Basg...Rhydychen OxfordGwlad y Basg The Basque CountryOfferyn InstrumentGwneuthurion ManufacturersPreniach Small pieces of woodPastynau ClubsGwledda To feastWedi swyno CharmedYmatebol ResponsiveLlanast MessRhyfeddol Wonderful BORE COTHI 15.03.24Un arall sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhyfeddol, fel Sam Robinson yw Debora Morgante o Rufain. Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes dydd Gwener, noson cyn gêm rygbi Cymru a'r Yr Eidal, a chafodd hi sgwrs gyda Debora gan ofyn iddi hi sut gwnaeth hi ddysgu Cymraeg yn y lle cynta...Rhufain RomeCwrs Preswyl Residential courseYmarfer To practiceDROS FRECWAST 14.03.23Debora Morgante o Rufain oedd honna, fuodd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yn 2015. Yn anffodus colli wnaeth Cymru yn y gêm yn erbyn yr Eidal a hon oedd gêm ola George North i chwarae dros Gymru gan iddo ddweud basai'n ymddeol yn dilyn y gêm honno. Cennydd Davies fuodd yn sgwrsio gyda George am ei benderfyniad.Rhestr fer Short listPenderfyniad enfawr Huge decisionCyflawni To achieveY cyhoedd The publicUchafbwynt HighlightBETI A'I PHOBOL 17.03.24George North oedd hwnna enillodd cant dau ddeg o gapiau i Gymru gan ennill ei gap cynta yn 2010. Trueni mawr ei fod yn ymddeol ond mae e wedi rhoi gwasanaeth arbennig i Gymru dros y blynyddoedd. Hazel Thomas o Lanwenog yng Ngheredigion fuodd yn sôn wrth Beti George am ei hamser yn gweithio fel chef yn y Dorchester yn Llundain …y ferch gynta i wneud hynny!Trueni BechodSylw a stwr Fuss and attentionCefn gwlad The countrysideEnwoca The most famousBodoli To exist

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 5ed o Fawrth 2024

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Mar 5, 2024 17:11


TRYSTAN & EMMA DYDD GWENER 2302Tesni Evans gafodd air gyda Trystan & Emma fore Gwener. Cafodd hi sialens i gael tatŵ gydag enw band Y Cledrau ar ei choes! Wnaeth hi dderbyn y sialens tybed?Prif leisydd Main vocalistFfyddlon FaithfulYmwybodol Aware COFIO DYDD SUL 2502A miwsig Y Cledrau oedd i'w glywed yn y cefndir yn fanna. Gobeithio, on'd ife, bod y band yn gwerthfawrogi tatŵ Tesni. Mae hi'n flwyddyn naid sef y flwyddyn pan mae dau ddeg naw, neu naw ar hugain, o ddyddiau ym mis Chwefror. Mae'n debyg bod y siawns o gael eich geni ar y dyddiad hwnnw yn un ymhob 1,461. Un o'r mil a hanner rheini yw Elin Maher (pron. Mahyr). Felly faint yn union yw oed Elin nawr?Gwerthfawrogi To appreciateY gwirionedd The truthAr bwys Wrth ymylGwneud yn fawr Making the most Cyfoedion PeersAi peidio Or notSbo I supposeTrin To treatTynnu sylw To draw attentionRHYS MWYN DYDD LLUN 2602Elin Maher oedd honna, sydd ychydig bach yn hŷn na thair ar ddeg oed mewn gwirionedd! Ar raglen Rhys Mwyn clywon ni bod y Beatle enwog, George Harrison, wedi treulio amser yng ngwesty Portmeirion pan gafodd sengl y Beatles 'Get Back' ei rhyddhau ar Ebrill 11 1969. Rheolwr Safle Portmeirion, Meurig Rees Jones, sy'n sôn yn y clip nesa ‘ma am sut daeth e ar draws bwydlen oedd wedi ei harwyddo gan George Harrison ar y diwrnod hwnnw. Rhyddhau To releaseArwyddo To signYr arbenigwr The expertY cysylltiadau The connectionsAnhygoel IncredibleAmrywiaeth VarietyYmchwil ResearchAtgofion MemoriesDROS GINIO DYDD MAWRTH 2702Hanes diddorol George Harrison ym Mhortmeirion yn fanna ar raglen Rhys Mwyn. Sut dysgoch chi Gymraeg - ar-lein, wyneb yn wyneb neu'r ddwy ffordd? Pa ffordd ydy'r mwya effeithiol tybed? Cafodd llythyr ei gyhoeddi yn Golwg yn dweud ei bod yn bwysig cael gwersi Cymraeg wyneb yn wyneb yn dilyn twf dysgu ar-lein yn ystod y cyfnod clo. Jennifer Jones fuodd yn trafod hyn ar Dros Ginio a chafodd hi sgwrs gydag Alison Roberts o'r Alban, ond sydd nawr yn byw yng Nghymru, yn sôn am sut aeth hi ati i ddysgu'r iaithEffeithiol EffectiveWyneb yn wyneb Face to faceCymuned CommunityAnghonfensiynol UnconventionalCARYL PARRY JONES DYDD MAWRTH 2702Alison enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, ac mae hi wedi dysgu Cymraeg yn anhygoel on'd yw hi, o feddwl nad ydy hi erioed wedi bod mewn dosbarth Cymraeg! Beth sy'n gwneud bwyty da? Llio Angharad, sy'n sgwennu am deithio a bwyd ar y gwefannau cymdeithasol, fuodd yn trafod hyn efo Caryl Parry Jones ddydd Mawrth wythnos diwetha Gwefannau cymdeithasol Social media Hynod o bwysig Extremely importantCrafu To scratchY goleuo The lighting Swnllyd Noisy(H)wyrach EfallaiALED HUGHES DYDD MERCHER 2802Caryl a Llio yn trafod beth sy'n gwneud bwyta da yn fanna. Dych chi'n cytuno â nhw? Pawlie Bryant o Santa Barbara fuodd yn sgwrsio efo Aled Hughes ddydd Mercher diwetha. Mae Pawlie yn gerddor ac mae e newydd sgwennu ei gân gynta yn Gymraeg! Does dim llawer o amser ers i Pawlie ddechrau dysgu Cymraeg a gofynnodd Aled iddo, pryd oedd y tro diwetha iddo ymweld â Chymru… Cerddor MusicianO'r blaen PreviouslyY Deyrnas Unedig The UKDinesydd CitizenSylweddolais i I realisedSwyddogol OfficialDeunaw 18

Addysg Cymru | Education Wales
Ymgynghoriad Blwyddyn Ysgol – ymarferwyr yn trafod newidiadau arfaethedig i'r flwyddyn ysgol yng Nghymru

Addysg Cymru | Education Wales

Play Episode Listen Later Jan 24, 2024 35:54


Mae cynigion ar waith i 'ail-gydbwyso'r flwyddyn ysgol yng Nghymru drwy newid hyd y tymor. Yn y podlediad hwn, mae tri phrifathro yn trafod y goblygiadau - cadarnhaol a negyddol - gyda Tegwen Ellis, Prif Weithredwr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol Cymru. Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 12fed Chwefror 2024.

Bwletin Amaeth
Edrych nôl ar flwyddyn CFFI Cymru

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Jan 3, 2024 4:52


Megan Williams sy'n edrych nôl ar 2023 gyda Phrif Weithredwr CFFI Cymru, Mared Rand Jones

As the Season Turns
6. Daw Hyfryd Fis - Gwilym Bowen Rhys

As the Season Turns

Play Episode Listen Later Dec 31, 2023 2:03


June. A song sung in Welsh schools - usually in a round - celebrating the return of the cuckoo. Caneuon y Flwyddyn is an album of Welsh folk songs by Gwilym Bowen Rhys first compiled for the 2023 edition of As the Season Turns. Mastered for Ffern by Geoff Bird. Artwork by Gemma Koomen. © Gwilym Bowen Rhys.

As the Season Turns
1. Teg Wawriodd Boreddydd - Gwilym Bowen Rhys

As the Season Turns

Play Episode Listen Later Dec 31, 2023 2:11


January. A Welsh carol for the new year. Caneuon y Flwyddyn is an album of Welsh folk songs by Gwilym Bowen Rhys first compiled for the 2023 edition of As the Season Turns. Mastered for Ffern by Geoff Bird. Artwork by Gemma Koomen. © Gwilym Bowen Rhys

As the Season Turns
2. Ambell i Gân - Gwilym Bowen Rhys

As the Season Turns

Play Episode Listen Later Dec 31, 2023 2:13


February. A song to guard against heartbreak and bad weather. Caneuon y Flwyddyn is an album of Welsh folk songs by Gwilym Bowen Rhys first compiled for the 2023 edition of As the Season Turns. Mastered for Ffern by Geoff Bird. Artwork by Gemma Koomen. © Gwilym Bowen Rhys

As the Season Turns
3. Lisa Lân - Gwilym Bowen Rhys

As the Season Turns

Play Episode Listen Later Dec 31, 2023 3:28


March. A very old love song that mentions flowers, birds, melting waxen hearts - and, of course, death. Caneuon y Flwyddyn is an album of Welsh folk songs by Gwilym Bowen Rhys first compiled for the 2023 edition of As the Season Turns. Mastered for Ffern by Geoff Bird. Artwork by Gemma Koomen. © Gwilym Bowen Rhys

As the Season Turns
4. Blodau'r Flwyddyn - Gwilym Bowen Rhys

As the Season Turns

Play Episode Listen Later Dec 31, 2023 2:56


April. A song describing the beauty of the singer's love with the emerging flowers of April - but the singer's heart is as brittle as a dry reed. This is an example of 'old verses' - thousands of verses that can be fitted together in different combinations, all to the same melody. Caneuon y Flwyddyn is an album of Welsh folk songs by Gwilym Bowen Rhys first compiled for the 2023 edition of As the Season Turns. Mastered for Ffern by Geoff Bird. Artwork by Gemma Koomen. © Gwilym Bowen Rhys.

As the Season Turns
5. O Deuwch Deulu Mwynion - Gwilym Bowen Rhys

As the Season Turns

Play Episode Listen Later Dec 31, 2023 2:07


May. A Mayday wassailing song, written by a 17th-century poet who went by the name 'Eos Ceiriog' - the nightingale of the Ceiriog Valley. Caneuon y Flwyddyn is an album of Welsh folk songs by Gwilym Bowen Rhys first compiled for the 2023 edition of As the Season Turns. Mastered for Ffern by Geoff Bird. Artwork by Gemma Koomen. © Gwilym Bowen Rhys.

As the Season Turns
11. Cartref - Gwilym Bowen Rhys

As the Season Turns

Play Episode Listen Later Dec 31, 2023 3:00


November. A popular 19th-century song that describes how wonderful and comforting the warm hearth and home is when the weather starts to turn, and the stormy heavens 'blow their bugles to signal in the coming of winter.' Caneuon y Flwyddyn is an album of Welsh folk songs by Gwilym Bowen Rhys first compiled for the 2023 edition of As the Season Turns. Mastered for Ffern by Geoff Bird. Artwork by Gemma Koomen. © Gwilym Bowen Rhys.

As the Season Turns
7. Moliannwn - Gwilym Bowen Rhys

As the Season Turns

Play Episode Listen Later Dec 31, 2023 2:20


July. A joyous song that's often sung in the pub. Caneuon y Flwyddyn is an album of Welsh folk songs by Gwilym Bowen Rhys first compiled for the 2023 edition of As the Season Turns. Mastered for Ffern by Geoff Bird. Artwork by Gemma Koomen. © Gwilym Bowen Rhys.

As the Season Turns
8. Gwen Lliw'r Lili - Gwilym Bowen Rhys

As the Season Turns

Play Episode Listen Later Dec 31, 2023 2:05


August. A haunting love song comparing the singer's love, Gwen, to the flowers of summer - as birds of prey circle above. Caneuon y Flwyddyn is an album of Welsh folk songs by Gwilym Bowen Rhys first compiled for the 2023 edition of As the Season Turns. Mastered for Ffern by Geoff Bird. Artwork by Gemma Koomen. © Gwilym Bowen Rhys.

As the Season Turns
9. Y Dyrnwr Tân - Gwilym Bowen Rhys

As the Season Turns

Play Episode Listen Later Dec 31, 2023 3:15


September. A threshing song, written by a farm hand, describing the excitement of the day the steam thresher came to the big farm. The Welsh word for September is 'Medi' which translates as 'reaping'. Caneuon y Flwyddyn is an album of Welsh folk songs by Gwilym Bowen Rhys first compiled for the 2023 edition of As the Season Turns. Mastered for Ffern by Geoff Bird. Artwork by Gemma Koomen. © Gwilym Bowen Rhys.

As the Season Turns
10. Y Wasgod Goch - Gwilym Bowen Rhys

As the Season Turns

Play Episode Listen Later Dec 31, 2023 4:22


October. One of the many welsh words for Halloween is 'ysbrydnos' which means 'ghost/spirit night'. The singer describes himself tossing and turning in bed - then all of a sudden the ghost of his late lover appears, and starts conjuring up a fancy suit that floats in the air in front of him that he is to wear to go bury her. Very spooky. Caneuon y Flwyddyn is an album of Welsh folk songs by Gwilym Bowen Rhys first compiled for the 2023 edition of As the Season Turns. Mastered for Ffern by Geoff Bird. Artwork by Gemma Koomen. © Gwilym Bowen Rhys.

As the Season Turns
12. Ar Fore Dydd Nadolig - Gwilym Bowen Rhys

As the Season Turns

Play Episode Listen Later Dec 31, 2023 2:42


December. A very old Christmas song, 'On the Morning of Christmas Day' - likely 15th Century. Caneuon y Flwyddyn is an album of Welsh folk songs by Gwilym Bowen Rhys first compiled for the 2023 edition of As the Season Turns. Mastered for Ffern by Geoff Bird. Artwork by Gemma Koomen. © Gwilym Bowen Rhys.

Colli'r Plot
Llyfrau'r Flwyddyn

Colli'r Plot

Play Episode Listen Later Dec 20, 2023 59:38


Trafod y llyfrau wnaethon ni mwynhau yn ystod y flwyddyn a cheisio creu ein rhestr Llyfr Y Flwyddyn. Sut mae cyfieithu i BT yn ennill 'kudos' a fel y disgwyl mae'r podlediad llawn hwyl yr wyl.Llyfrau 2023:SiânLlyfr Y Flwyddyn - Mari EmlynProphet Song - Paul LynchAledY Bwthyn - Caryl LewisAnd Away - Bob MortimerBethanSut i Ddofi Coryn - Mari GeorgeLessons in Chemistry - Bonnie GarmusDafyddSut i Ddofi Coryn - Mari GeorgeA Terrible Kindness - Jo Browning WroeManonLlyfr Y Flwyddyn - Mari EmlynThe Folklore of Wales: Ghosts - Delyth Badder, Mark NormanDyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:Sut i Ddofi Coryn - Mari GeorgeThe Rich - Rachel LynchDathlu - Rhian CadwaladrI Let You Go - Clare MackintoshCregyn ar y Traeth - Margaret PritchardDros fy mhen a nghlustiau - Marlyn Samuel A Little life - Hania YanagiharaRhwng Bethlehem a'r Groes - Barry Archie JonesPryfed Undydd - Andrew Teilo Y Cylch - Gareth Evans JonesThe Christmas Guest - Peter SwansonSian Phillips - Hywel GwynfrynGwreiddio - straeon byrion - amrywiol awduronA Christmas Carol - Charles DickensPlant Annwfn - DG Merfyn JonesAlone - Kenneth Milligan

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 15fed 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Aug 15, 2023 13:42


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Trystan ab Ifan dw i ac i ddechrau'r wythnos yma … Pigion Dysgwyr – Dechrau‘r Steddfod Buodd Radio Cymru‘n darlledu o Faes yr Eisteddfod ym Moduan drwy'r wythnos diwetha gan ddechrau am ganol dydd ar y dydd Sadwrn cyntaf. Dyma sut dechreuodd y darlledu…… Darlledu To broadcast Cynnau tan To light a fire Cynnal To maintain Blodeuo To flower Eisteddfodwr o fri A renowned Eisteddfod person Hawlio To claim Deuawd Duet Craith A scar Llwyfan Stage Noddi To sponsor Pigion Dysgwyr – Martin Croydon …ac wrth gwrs bydd blas ar sawl darllediad o'r Eisteddfod yn y podlediad wythnos yma, gan ddechrau gyda Martyn Croydon enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddeg mlynedd yn ôl. Daw Martin o Kidderminster yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae o'n byw ym Mhen Llŷn. Gwobr Prize Enwebu To nominate Rowndiau terfynol Final rounds Gwrthod To refuse Cyfweliad Interview Beirniaid Judges Cynifer So many Cyfathrebu To communicate Ysbrydoli To inspire Cynulleidfa Audience Terfynol Final Pigion Dysgwyr – Dysgwr y Flwyddyn Ac roedd Martyn yn un o'r criw fuodd yn brysur iawn yn cynnal gweithgareddau Maes D yn Steddfod Boduan. Ond pwy enillodd gwobr Dysgwr y Flwyddyn eleni tybed? Roedd pedwar ymgeisydd ardderchog wedi cyrraedd y rownd terfynol, a dydd Mercher yn yr Eisteddfod cyhoeddwyd mai Alison Cairns yw Dysgwr y Flwyddyn eleni. Daw Alison yn wreiddiol o'r Alban ond mae hi a'i theulu erbyn hyn yn byw yn Llannerchymedd ar Ynys Môn. Dyma hi'n sgwrsio ar Post Prynhawn yn dilyn y seremoni wobrwyo. Y gymuned The community Pigion Dysgwyr – Esyllt Nest Roberts de Lewis A llongyfarchiadau i Alison ar ennill y wobr – dwi'n siŵr bydd hi'n mwynhau ei blwyddyn. Daw Esyllt Nest Roberts de Lewis yn wreiddiol o Bencaenewydd ger Pwllheli ond mae hi erbyn hyn yn byw yn ardal Gymraeg Patagonia, sef Y Wladfa, ac wedi bod yno ers nifer o flynyddoedd. Ar Dros Frecwast yr wythnos diwetha cafodd Kate Crocket gyfle i'w holi hi gan ofyn iddi'n gynta iddi pam aeth hi allan i'r Wladfa yn y lle cynta? Yn y cyfamser In the meantime Annerch To address (a meeting) Y cyfryngau The media Dylanwadu To influence Rhyngrwyd Internet Yn anymwybodol Unaware Pigion Dysgwyr – Cai Erith Ac Esyllt oedd yn arwain Cymru a'r Byd, sef y Cymry sy'n byw ym mhob rhan o'r byd erbyn hyn, yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni Os chwiliwch chi ar BBC Sounds gwelwch raglen arbennig wnaeth Aled Hughes ei recordio dan y teitl Mordaith. Rhaglen yw hi lle mae Aled yn hwylio o amgylch Penrhyn Llŷn yn sgwrsio gyda rhai o drigolion yr ardal. Morwr yw Cai Erith a dyma fe'n sôn ychydig am ei fywyd Penrhyn Peninsula Trigolion Residents Porthladdoedd Ports Yn llythrennol Literally Wedi dy hudo di Has lured you Pigion Dysgwyr - Ffobia Hanes bywyd diddorol Cai Erith yn fanna ar raglen Mordaith. Buodd Catrin Mai yn siarad ag Emma Walford a Trystan Ellis Morris ar eu rhaglen yn ddiweddar. Mae gan Catrin ffobia anarferol iawn… sbyngau, neu sponges! Dyma Emma yn holi Catrin gynta……. Cyffwrdd To touch Colur Makeup Fatha Yr un fath â Trin To treat Nadroedd Snakes Corynnod Pryfed cop Arnofio To float Amsugno To absorb

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 8fed 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Aug 8, 2023 13:54


Pigion Dysgwyr – Lloyd Lewis Gwestai arbennig Bore Sul yn ddiweddar oedd y rapiwr Lloyd Lewis. Mae e wedi perfformio ar y cae rygbi, ar deledu, ac mae e'n falch ei fod e'n Gymro Cymraeg aml-hil. Dyma Lloyd yn sôn wrth Betsan Powys am ei ddyddiau ysgol... Yn ddiweddar Recently Aml-hil Mixed-race Amrywiaeth Variety Ystyried To consider Pigion Dysgwyr - Nofio yn y Seine Y rapiwr o Cwmbrân , Lloyd Lewis oedd hwnna'n sgwrsio gyda Betsan Powys. Cyn bo hir mae'n bosib bydd pobl Paris yn gallu nofio yn yr afon Seine. Mae can mlynedd union wedi mynd heibio ers i nofio yn yr afon gael ei wahardd am fod gwastraff o bob math yn peryglu iechyd y nofwyr. Dyma Ceri Rhys Davies sy'n byw ym Mharis yn sgwrsio gyda Dewi Llwyd ar Dros Ginio wythnos diwetha…... Gwahardd To ban Deugain mlynedd 40 years Cydnabyddiaeth Acknowledgement Brwnt Budr Yn raddol Gradually Mynd i'r afael To get to grips Breuddwyd gwrach Pipe dream Pigion Dysgwyr – John Eifion Jones Ac ers y sgwrs honno daeth y newyddion bod nofio yn y Seine wedi cael ei wahardd eto oherwydd lefel y gwastraff yn yr afon. Gobeithio bydd popeth yn iawn erbyn Gemau'r Olympaidd on'd ife? Yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 1999 enillodd y tenor John Eifion Jones y Rhuban Glas i gantorion. Mae'r Rhuban Glas neu Gwobr Goffa David Ellis yn 80 oed eleni ac ar Raglen Bore Cothi wythnos diwetha gofynnodd Shan Cothi i John Eifion Jones, beth oedd e'n gofio am yr adeg enillodd e'r gystadleuaeth…… Gwobr Goffa Memorial Prize Y to ifanc The young generation Y darnau gosod The set pieces O'r neilltu To one side Unawd Solo Nefolaidd Heavenly Dehongli To interpret Pigion Dysgwyr – Bara Caws Y tenor John Eifion Jones oedd hwnna'n sôn am yr adeg enillodd e'r Rhuban Glas, ond pwy fydd yn ennill y Rhuban yn Eisteddfod Boduan tybed? Ac yn ystod wythnos y Steddfod eleni, bydd Cwmni Theatr Bara Caws yn perfformio Dinas, sef gwaith un o ddramodwyr enwoca'r ardal sef Wil Sam Jones. Ysgrifennodd Wil Sam y ddrama ar y cyd â'r awdur Emyr Humphreys. Aeth Ffion Dafis draw i holi Betsan Llwyd, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, gan ofyn iddi hi pam penderfynodd y cwmni berfformio Dinas yn y Steddfod…. Enwoca Most famous Ar y cyd â In collaboration with Cyfarwyddwr Artistig Artistic Director Talu teyrnged To pay tribute Anghyfarwydd Unfamiliar Yng nghrombil yr adeilad In the depths Euraidd Golden Traddodiad llenyddol Literary tradition Llygad y ffynnon The source (lit: the eye of the well) Diddanu To entertain Pigion Dysgwyr – Alan Whittick Drysau a grisiau amdani felly! Mae dramâu Theatr Bara Caws wastad yn boblogaidd yn yr Eisteddfod a digwyddiad poblogaidd, a phwysig, arall ydy cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn - gwobr sy'n bedwar deg oed eleni. Ac i ddathlu, mae na aduniad mawr o holl enillwyr blaenorol y wobr wedi ei drefnu yn yr Eisteddfod eleni. Un o'r dysgwyr cynta i ennill y wobr hon oedd Alan Whittick, sydd yn byw yn ardal Llangurig ger Llanidloes ym Mhowys. Dyma fe ar Bore Sul yn sgwrsio gyda Betsan Powys Aduniad Reunion Blaenorol Previous Cyflwyno To introduce Ymddiddori To be interested in Trwy gyfrwng Through the medium of Yn anad dim More than anything Pigion Dysgwyr – Rhedeg yn Araf Ac mae pedwar o ddysgwyr gwych yn cystadlu am y wobr – cawn wybod ddydd Mercher pwy sydd wedi ennill Dych chi wedi clywed am y arfer ddiweddara o Redeg yn Araf? Mae Siwan Elenid yn arwain Clwb Rhedeg yn ardal y Bala, a buodd hi'n siarad gyda Jennifer Jones bnawn Mawrth diwetha ar Dros Ginio am yr arfer newydd yma... Hygyrch Accessible Cynhwysol Inclusive Cyfryngau cymdeithasol Social media Oriawr Watch

Clera
Clera Mehefin 2023

Clera

Play Episode Listen Later Jun 30, 2023 103:42


Croeso i'r bennod swmpusaf erioed o bodlediad Clera! Yn ogystal â thrin a thrafod y cyfnod hynod brysur sydd ar ein gwarthaf yn y byd barddol, a llongyfarch aml i fardd ar eu lwyddiannau, cawn orffwysgerdd yn egsliwsif gan fardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd, Tegwen Bruce-Deans. Cawn farn Jo Heyde hefyd ar lyfrau'r categori barddol yn Llyfr y Flwyddyn 2023 a llawer mwy.

yn eisteddfod croeso cawn flwyddyn urdd llyfr mehefin
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 21ain o Fawrth 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Mar 21, 2023 16:42


Pigion Dysgwyr – Doctor Cymraeg Cafodd Steven Rule ei eni yn Nghoed-llai ger yr Wyddgrug ond mae llawer yn ei nabod erbyn hyn fel y Doctor Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar Twitter mae Steven yn ateb cwestiynau dysgwyr Cymraeg am yr iaith. Gofynodd Aled Hughes iddo fe'n gynta, gafodd Steven ei fagu ar aelwyd Cgymraeg? Aelwyd Home Cyfryngau cymdeithasol Social media Yr Wyddgrug Mold Bodoli To exist Bellach By now Fel petai As it were Ar y ffin On the border Anogaeth Encouragment Pigion Dysgwyr – Dawnswyr Mon On'd yw hi'n braf cael clywed am blant y ffin yn cael Dysgu Cymraeg? Daliwch ati Doctor Cymraeg! Buodd Mair Jones yn sgwrsio gyda Shan Cothi ar ei rhaglen yr wythnos diwetha yn apelio am aelodau newydd i ymuno â chriw Dawnswyr Môn. Dyma Mair i esbonio yn gynta sut a pryd ffurfiwyd y grŵp... Mi ddaru John sefydlu John formed Treulio To spend (time) Y clo The lockdown Ail-gydio To rekindle Gwlad Pwyl Poland Cynulleidfaoedd Audiences Anferth Huge Yn rhwydd Yn hawdd Yn helaeth Extensively Pigion Dysgwyr – Geraint Roberts Felly os dych chi'n byw yn y gogledd orllewin ac eisiau dysgu dawnsio gwerin , cysylltwch â dawnswyr Môn. Fe gafodd Trystan ac Emma gwmni y pibydd o Ystradgynlais Geraint Roberts ar eu rhaglen yn ddiweddar. Mae Geraint yn chwarae'r bib Gymreig mewn gorymdeithiau a phriodasau, a bu'n esbonio beth yn gwmws yn ei farn e yw eu hapel Mewn – gallech chi ddweud Allan – I ddweud y gwir Hyd – 1'39” Pigion Dysgwyr – Pryd Ma Te Felly os dych chi'n byw yn y gogledd orllewin ac eisiau dysgu dawnsio gwerin , cysylltwch â dawnswyr Môn. Nos Lun ar ei raglen gwahoddodd Rhys Mwyn - Mair Tomos Ifans, Carys Huw, Sian Wheway a Nia Owens i'r stiwdio. Yn yr 80au ffurfion nhw fand o'r enw Pryd Ma Te. Dyma Mair Tomos Ifans yn gynta i sôn am ba offeryn roedd hi yn chwarae yn y band Offeryn Instrument Mi ddaru ni benderfynu Penderfynon ni Genod Merched Chdi Ti Pigion Dysgwyr – Quincy Jones Criw Pryd Ma Te yn fanna'n cofio dyddiau cynnar y band efo Rhys Mwyn. Ddydd Mawrth diwetha roedd y cerddor a'r cyfansoddwr Quincy Jones yn dathlu ei benblwydd yn 90 oed. Ar Dros Ginio y diwrnod hwnnw cafodd y cerddor jazz Tomos Williams gyfle i edrych yn ôl dros ei yrfa, gan ddechrau drwy sôn am ble gafodd Jones ei fagu….. Y cerddor a'r cyfansoddwr The musician and composer Ardal ddiwydiannol Industrial area Hiliaeth Racism Rhaglenni dogfen Documentaries Llygod Ffrengig Rats Cnewyllyn o brofiadau A grain of experiences Y tu hwnt i Beyond Tlodi enbyd Extreme poverty Ysgoloriaeth Scholarship Mireinio ei grefft To refine his craft Pigion Dysgwyr – Berwyn Rowlands Bach o hanes Quinzy Jones yn fanna ar ddiwrnod ei benblwydd yn 90 oed. Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol bnawn Sul oedd Berwyn Rowlands. Berwyn oedd sylfaenydd gwyl ffilmiau Iris sef gwyl ffilmiau ar gyfer y gymuned LGBTQ+ . Dyma fe i sôn am ei ddyddiau Ysgol ar Ynys Môn Sylfaenydd Founder Mynedfa Entrance Babanod Infants Arlunio Painting Gwnïo Sewing Cofrestr register Gydol yr wythnos Throughout the week Ymddangos To appear Chwysu chwartiau Sweating like a pig ( lit: sweating quarts) Pigion Dysgwyr – Sandra de Pol Dw i'n meddwl bod ysgolion Môn wedi newid yn fawr ers dyddiau ysgol Berwyn Rowlands. Wel gobeithio on'd ife? Dros yr wythnosau nesa bydd Aled Hughes yn sgwrsio gyda rhai o enillwyr Gwobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn y gorffennol i nodi 40 mlynedd er cychwyn y wobr. Wythnos diwetha dechreuodd Aled drwy holi enillydd y flwyddyn 2000 sef Sandra De Pol sy'n dod o'r Ariannin yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel tiwtor Cymraeg. Ariannin Argentina Adfywio To revive Disgynyddion Descendants Diwylliant Culture Enwebu To nominate Cyfweliadau Interviews Cyfathrebu To communicate Ymdrech Attempt Hynod o arwyddocaol Very significant Heriol Challenging

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 28ain o Chwefror 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Feb 28, 2023 13:37


Pigion Dysgwyr – Heledd Sion ...dwy Heledd - Heledd Cynwal a'r gwestai ar ei rhaglen, Heledd Sion. Buodd y ddwy yn sôn am fyd ffasiwn ac yn arbennig felly am ddillad ail law. Dyma Heledd Sion yn esbonio sut dechreuodd ei chariad hi at ffasiwn, a pham aeth hi ati i werthu hen ddillad ar y we Uwch seiclo To upcycle Gwinio To sew Cyfnither Female cousin Gwehyddu Weaving Yn llonydd Still Addasu To adapt Awch Eagerness Esblygu To evolve Didoli To sort Buddsoddi To invest Pigion Dysgwyr - Francesca Sciarillo Heledd Cynwal yn fanna'n cadw sedd Shan Cothi'n gynnes ac yn sgwrsio gyda Heledd Sion am uwch seiclo dillad. Francesca Sciarillo oedd Dysgwr y Flwyddyn yr Urdd yn 2019 ac eleni mae hi wedi bod yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Eidalwyr ydy rhieni Francesca, ac ar raglen Dei Tomos nos Sul buodd hi'n dweud faint o ddylanwad gafodd ei hathrawes Gymraeg arni, sef Nia Williams, pan oedd Francesca yn ddisgybl yn Ysgol Alun yr Wyddgrug . Disgybl Pupil Yr Wyddgrug Mold Dylanwad Influence Eidales Italian (female) Sylweddoli To realise Darganfod To discover Pigion Dysgwyr – Dion Davies Ac mae Francesca newydd gael ei phenodi fel swyddog hybu darllen yn adran blant y Cyngor Llyfrau. Pob lwc iddi yn ei swydd newydd on'd ife? A sôn am lwc, prynodd yr actor Dion Davies docyn loteri pan oedd e'n ymddangos mewn pantomeim yn Aberdaugleddau fis Rhagfyr, ond anghofiodd e bopeth am y tocyn. Dyma Dion yn sôn am beth ddigwyddodd pan oedd e'n gwagio ei gar ddechrau Chwefror… Ymddangos To appear Gwagio To empty Hap a damwain Chance Sa i'n gallu Dw i ddim yn medru Pencadlys Headquarters Pigion Dysgwyr – Costa Rica Dyna beth yw sioc braf i'w chael – gwagio'r car a ffeindio eich bod wedi ennill pum deg pump o filoedd o bunnau ar y loteri! Nos Lun roedd y naturiaethwr Iolo Williams yn sôn am ei ymweliad â Costa Rica. Gwlad fechan ydy hi, tebyg i Gymru ond mae sawl peth yn wahanol rhwng y ddwy wlad a dyma Iolo‘n sôn ychydig am y gwahaniaethau rhwng Costa Rica a Chymru… Dylanwad Influence Argraff Impression Amrywiol Varied Gwlad werdd A green country Tebygrwydd Similarity Cynefinoedd Habitiats Amcangyfrif Estimate Gorchuddio To cover Ugain y cant 20% Pigion Dysgwyr – Angela Owen Mae Iolo Williams yn amlwg wrth ei fodd gyda Costa Rica, on'd yw e? Nos Iau ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Angela Owen. Mae Angela a'i ffrindiau wedi sefydlu Clwb Cerdded yn Mhen Llŷn a dyma hi‘n esbonio pam gwnaeth hi benderfynu sefydlu'r clwb arbennig yma yn y lle cynta Sefydlu To establish Awyr iach Fresh air Anhygoel Incredible Diogel Safe Pigion Dysgwyr – Jac y Do Angela Owen oedd honna'n sôn am lwyddiant Clwb Cerdded Pen Llŷn. Bob mis mae Daniel Jenkins Jones yn sgwrsio ar raglen Shan Cothi am aderyn y mis. A'r aderyn y mis yma oedd Jac y Do. Heledd Cynwal oedd unwaith eto'n cadw sedd Shan yn gynnes ddydd Mercher a dyma i chi flas ar y sgwrs cafodd hi gyda Daniel. Jac-y-Do Jackdaw Golygfa aeafol Winter scenery Ar ein gwarthau ni Imminent Heidio To flock Drudwennod Starlings Gwlad yr haf Somerset Wrth iddi nosi As the night draws in Cynrhon Maggots Enw torfol Collective noun

costa rica sul shan jac pob cymraeg gymraeg gymru podlediad iolo flwyddyn urdd iolo williams rhagfyr
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 24ain 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jan 24, 2023 15:20


Pigion Dysgwyr – Chris Summers Mae'r cogydd o Gaernarfon Chris Summers newydd symud i Lundain i weithio fel prif chef tafarn hynafol y Cheshire Cheese ar Fleet Street yng nghanol dinas Llundain. Cafodd Trystan Ellis Morris gyfle i holi Chris am ei yrfa fel chef, gan ddechrau gyda'r adeg pan wnaeth e gyfarfod â Gordon Ramsay. Hynafol Ancient Lasai fo Basai fe wedi gallu Poblogaidd Popular Coelio Credu Parch Respect Cyflwyno To introduce Sbio Edrych Smalio Esgus Padell ffrio Ffrimpan Pigion Dysgwyr – Nerys Howell 16.1 Chris Summers yn amlwg â pharch mawr tuag at Gordon Ramsay, a r'yn ni'n aros ym myd y cogyddion gyda'r clip nesa. Buodd y gogyddes Nerys Howell yn sgwrsio gyda Shan Cothi am y gwahanol ffyrdd r'yn ni'n defnyddio sbeisys... Ryseitiau Recipes Sy'n cynnwys Which include Sawrus Savoury Tanllyd Fiery Pobi To bake Ymchwil Research Penodol Specific Buddion iechyd Health benefits Meddyginiaethau Medicines Afiechydon Illnesses Pigion Dysgwyr – Munud I Feddwl 17.1 Nerys Howell oedd honna'n siarad am sbeisys gyda Shan Cothi. Arhoswn ni gyda Bore Cothi i wrando ar y Parchedig Ddoctor Manon Ceridwen James yn rhoi Munud i Feddwl i ni fore Mawrth. Parchedig Reverend Digalon Trist Dyled Debt Manteisio To take advantage of Llonni'r galon To gladden the heart Diddanu To entertain Iselder Depression Tywynnu Shining Cadarnhaol Positive Cysuro To comfort Pigion Dysgwyr – Joe Healy 16.1 A rhywbeth arall sy'n llonni'r galon ar ddydd Llun Glas yw dysgu Cymraeg on'd ife, a does dim gwell esiampl o hynny na Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 ac sydd nawr yn diwtor Cymraeg i Oedolion ei hunan. Mae Joe yn dod o Wimbledon yn wreiddiol, a chafodd Aled Hughes sgwrs gyda fe a chael ychydig o'i hanes... Sylweddoli To realise Cynrychioli To represent Anhygoel Incredible Yn llythrennol Literally Trywydd Thread Enwebu To nominate Pigion Dysgwyr – Peaky Blinders 17.1 Ie, anhygoel on'd ife? Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn ac nawr yn dechrau gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Mae'r gantores a'r actores Mabli Gwynne ar hyn o bryd yn perfformio yn Sioe Peakey Blinders yn Camden yn Llundain. Cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda hi fore Mercher am y sioe. Cymeriadau Characters Creadigol Creative Denu To invite Menyw Merch Gwyddeles Irish Woman Greda i! I don't doubt it! Adolygiadau Reviews Clyweliad Audition Pigion Dysgwyr – Caren Hughes 17.1 Mabli Gwynne oedd honna'n sôn am ei chymeriadau yn sioe Peaky Blinders. Pa mor daclus ydy eich tŷ chi? Wel os dych chi eisiau ‘tips' ar sut i dacluso, Caren Hughes o Ynys Môn ydy'r un i chi. Dyma hi'n dweud wrth Caryl Parry Jones am y ffordd orau i gadw'r ystafell ymolchi'n daclus... Cadachau Cloths Di-raen In poor condition Gweddill The rest of

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Hydref 2002

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 25, 2022 15:48


BETI A'I PHOBOL Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe'n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae'n sôn am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu'r iaith… Treulio amser - To spend time Mynd mas - Mynd allan Profiad - Experience Mam-gu - Nain Cymdeithasol - Sociable Gorfodi - To force Cefnogol - Supportive Becso - Poeni Trochi - To immerse ALED HUGHES Dim ond ers mis Ebrill eleni mae Katie Owen o Ferthyr yn dysgu'r iaith ar ôl iddi gymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith gyda'r DJ Huw Stephens yn fentor iddi hi. Dyma hi'n sgwrsio gydag Aled Hughes… Gwahanol - Different Tad-cu - Taid ALED HUGHES Cafodd Laura Jones o Gaerdydd ychydig o wersi Cymraeg yn yr ysgol, ond penderfynodd ddysgu'r Gymraeg fel oedolyn er mwyn cyfieithu rhannau o'r Quran. Dyma flas ar y sgwrs cafodd hi gydag Aled Hughes... Oedolyn - Adult TGAU - GCSE Annog - To encourage Gyrfa - Career Cyfleoedd Gwaith - Work opportunities Bwlch - A gap Dywediadau - Sayings ALED HUGHES Beth tybed oedd rheswm Kelly Webb-Davies sy'n dod o Awstralia'n wreiddiol dros ddysgu'r iaith? Fel cawn ni glywed mae hi'n briod â Peredur Glyn awdur nofel o'r enw ‘Pumed Gainc y Mabinogi' ac mae hi wedi magu ei mab drwy'r Gymraeg. Dyma hi'n sgwrsio efo Aled Hughes... Ieithyddiaeth - Linguistics Bathu term - To coin a phrase Sillafu - To spell Seiniau - Sounds Clwt - Cewyn Llwglyd - Hungry BORE COTHI Mae stori Sara Maynard o Sir Gaerfyrddin ychydig yn wahanol. Cafodd hi ei haddysg mewn ysgolion Cymraeg ond ar ôl gadael ysgol collodd hi ei hyder o ran sgwennu Cymraeg. Aeth hi ar gwrs Cymraeg i Oedolion i wella'r sgil yma ac erbyn hyn mae hi'n swyddog iaith ym Mhrifysgol De Cymru. Ysgol gynradd - Primary School Ysgol Gyfun - Secondary School Trwy gyfrwng - Through the medium of Ysgrifenedig - Written Sbarduno - To spur BORE COTHI Cafodd Shân Cothi sgwrs ddiddorol arall gyda Dickon Morris, cafodd ei eni yng Nghaergrawnt, ei fagu yn Sir Benfro ond sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Mae e'n gweithio fel daearegydd ac yn amlwg mae e wrth ei fodd gyda'r gwaith... Caergrawnt- Cambridge Daearegydd - Geologist Plentyndod - Childhood Dinbych y Pysgod - Tenby Diwydiant - Industry Tirwedd - Landscape Llethrau serth - Steep slopes Amrywiaeth - Variety

wimbledon quran fel cymraeg daith gymraeg dyma mabinogi podlediad wythnos iaith hydref ysgol aeth nghaerdydd gaerdydd flwyddyn ebrill sir benfro cafodd daeth beti george
Bwletin Amaeth
Llwyddiant i Gymry yn Sioe Ceffyl y Flwyddyn 2022

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Oct 6, 2022 4:29


Alaw Fflur Jones sy'n holi Peter Jones, Bridfa Menai am y wobr mae'r teulu wedi'i derbyn.

peter jones flwyddyn
Bwletin Amaeth
NFU yn chwilio am Stocmon Llaeth y Flwyddyn

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Sep 23, 2022 4:51


Wrth i'r NFU lansio'r gystadleuaeth, Elen Mair sy'n sgwrsio gyda chyn-enillydd o Sir Gâr.

Hefyd
Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn 2022 | Pennod 17

Hefyd

Play Episode Listen Later Sep 15, 2022 43:06


Yn y pennod yma rwy'n sgwrsio gyda Joe Healy, ennillydd Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2022. Symudodd e i Gaerdydd o Lundain, er mwyn astudio yn y Prifysgol. Yn fuan iawn, roedd e wedi gwneud ffrindiau gyda Chymry Cymraeg a dechreuodd e ddysgu'r iaith. Trafodon ni sut mae siaradwyr Cymraeg yn gallu helpu dysgwyr, ei fand roc sy'n chwilio am enw (rhannwch eich syniadau!), a'r argraff positif mae pêl droed wedi gwneud o ran yr iaith. Gallwch chi weld lluniau o Joe ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 30ain o Awst 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Aug 30, 2022 14:06


Dros Ginio Mae Jeremy Paxman wedi dweud ei fod am roi'r gorau i University Challenge wedi 28 mlynedd o gyflwyno'r cwis.   Dr Alun Owens fuodd yn sôn wrth Dewi Llwyd am ei amser ar y rhaglen yn 2015 pan oedd o'n fyfyriwr yn Mhrifysgol Abertawe. Dyna oedd y tro cynta i Brifysgol Abertawe fod ar y rhaglen ers tua 20 mlynedd.     Rhoi'r gorau i To give up Haerllug Cheeky Camddeall To misunderstand Ymdrech An attempt Dychrynllyd Frightening Yr ystafell werdd The green room Lled awgrym A hint of a suggestion Delwedd darlledu Broadcasting image Croesholwr Cross examiner Dirmygus Scornful Bore Cothi Dr Alun Owens oedd hwnna'n sôn am ei brofiad ar University Challenge. Mi fuodd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes wythnos diwetha ac mi gafodd hi sgwrs efo'r arbenigwraig ffasiwn, Sina Haf Hudson am y cynllunydd ffasiwn o Siapan , Issey Myake fuodd farw ar Awst 5 eleni... Persawr Perfume Oglau Fragrance Hawlio To claim Fyw i rywun arall No-one else would dare Blaenllaw Prominent Dylanwadu To influence Plentyndod Childhood Arddull Style Efrog Newydd New York Ymysg Amongst Dysgwr y Flwyddyn Joe Healy Ychydig o hanes y cynllunydd ffasiwn o Siapan , Issey Myake yn fan 'na ar Bore Cothi. Ar raglen Aled Hughes cafodd Bryn Tomos sgwrs efo enillydd cystadleuaeth Dysgwr y flwyddyn yn Eisteddfod Ceredigion eleni  sef Joe Healy o Wimbledon ond sydd erbyn hyn wedi setlo yng Nghaerdydd.  Gofynnodd Bryn iddo fo oedd o wedi clywed am y Gymraeg pan oedd o'n blentyn ysgol yn Llundain.  Tyfu lan Growing up Ymwybodol Aware Ysgogi To motivate Ysbrydoli To inspire Mo'yn Eisiau Shelley & Rhydian a Sarra Elgan ...a llongyfarchiadau mawr i Joe ar ennill Dysgwr y Flwyddyn ynde?. Y gyflwynwraig Sarra Elgan oedd gwestai Shelley Rees Owen a Rhydian Bowen Phillips fore Gwener – a buodd hi'n sôn am roi gwersi Cymraeg i chwaraewr rygbi enwog iawn o Dde Affrica, Bryan Habana.  O ddifri Seriously Stwr A row Hala Anfon Dishgwl Edrych Awyddus Eager Brwdfrydedd Enthusiasm Ymateb Response Profiad anhygoel An incredible experience Ni y Nawdegau Sarra Elgan oedd honna fuodd yn diwtor Cymraeg ar Bryan Habana! Buodd Esyllt Sears y ddigrifwraig yn edrych yn ôl ar oes aur y nawdegau yng Nghymru.   Dyma hi'n trafod “brand” Cymru, neu ella diffyg brand Cymru.  Digrifwraig Comedienne Oes aur Golden Age Diffyg Lack of Byth yn buddsoddi ceiniog  Never investing a penny Arbenigwyr Experts Cael gwared o nadroedd Getting rid of snakes Gwelededd Visibility Anwastad Rugged Mabwysiadu arloesedd Adopting innovation Beti a'i Phobol ‘Brand Cymru' yn cael amser caled gan Esyllt Sears yn fanna. Yr artist Seren Morgan Jones o Aberystwyth oedd gwestai Beti George wythnos diwetha.  Pan oedd hi'n 15 oed symudodd y teulu i Kuwait, ond nid dyna ddiwedd ei theithio, fel cawn ni glywed... Mas Allan Awyddus Eager Twymo lan Warming up Tamaid bach Tipyn bach Porfa las Green grass Anialwch Desert

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 26ain o Orffennaf 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jul 26, 2022 14:22


Pigion Aled Hughes Rhestr fer dysgwr y flwyddyn Mi fuodd Aled Hughes yn cael sgwrs efo'r 4 sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn 2022. Mi fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Tregaron wythnos nesa. Bore Llun mi gafodd o gyfle i ddod i nabod Stephen Bale, un o'r pedwar sydd yn y ffeinal. Mae Stephen yn dod o ardal Castell-nedd yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o'n byw yn Sir Fynwy. Rhestr fer Short list Cyhoeddi To announce Castell-nedd Neath Sir Fynwy Monmouthshire Cwrs dwys Intensive course Yn y pendraw In the end Degawd Decade Gohebydd Correspondent Rhyngwladol International Y Llewod The Lions Hyrwyddo To promote Pigion Aled Hughes DyFlwyddyn – Sophie Tuckwodd Stephen Bale oedd hwnna – gohebydd rygbi sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni. Dydd Mawrth mi gafodd Aled gyfle i gael sgwrs efo Sophie Tuckwood un arall sydd ar y rhestr fer. Daw Sophie o Nottingham yn wreiddiol ond symudodd hi i Sir Benfro ddeg mlynedd yn ôl. Wynebu To face Ar yr un pryd At the same time Yr ifanca Y fenga Cyfathrebu To communicate Pigion Aled Hughes DyFlwyddyn – Joe Healy Ac mae Sophie erbyn hyn wedi ennill cymhwyster Dechrau Dysgu i fod yn diwtor Cymraeg i Oedolion ac mae hi'n dysgu dosbarthiadau Mynediad yn Sir Benfro.. Cyfle i ddod i nabod Joe Healy oedd hi ddydd Mercher. Mae Joe yn dod o Wimbledon yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o'n byw yng Nghaerdydd. Gwiwer Squirrel Diwylliant Culture Cysylltiad Connection Braidd ‘di gadael Hardly left Ymwybodol Aware Iau ‘fengach/ifancach Pigion Aled Hughes Rhestr fer dysgwr y flwyddyn – Ben Ó Ceallaigh Mae Aled yn amlwg yn mwynhau sgwrsio efo'r 4 sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn ac yn synnu bod eu Cymraeg nhw cystal ar ôl cyn lleied o amser yn dysgu. Dydd Iau mi gafodd o gyfle i sgwrsio efo'r pedwerydd ymgeisydd, Ben Ó Ceallaigh sydd ond wedi bod yn dysgu ers 20 mis! Daeth Ben i Gymru o Iwerddon flwyddyn yn ô,l ac erbyn hyn mae o'n darlithio yn Gymraeg. Darlithio Lecturing Ymgeisydd Candidate Gwyddeleg Irish language Rhwystredig Frustrating Parhau To continue Rhyfeddol Amazing Mynychu To attend Diolchgar Thankful Pigion – Bore Cothi Sioe Fawr Lowri Dyna bedwar dysgwr gwych ynde? Pob lwc i bob un ohonyn nhw yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn wythnos nesa. Roedd y Sioe Fawr ymlaen yn Llanelwedd wythnos diwetha am y tro cynta ers tair blynedd ac mi roedd Shan Cothi wrth ei bodd yng nghanol hwyl y sioe. Clwyd oedd Sir Nawdd y sioe a mi gafodd Shan air efo Lowri Lloyd Williams, llysgennad y sioe, fore Llun. Mae Lowri'n dod o Efenechtyd ger Ruthin. Rownd derfynol Final round Y Sioe fawr The Royal Welsh Nawdd Sponsorship Llysgennad Ambassador Braint ac anrhydedd An honour and a privilege Cynrychioli To represent Atgofion Memories Cystadlu To compete Agosatrwydd Intimacy Pigion – Ar Blat Roy Noble Shan a Lowri yn amlwg wrth eu boddau yn y Sioe yn Llanelwedd. Cafodd Beca Lyne-Pirkis gwmni y darlledwr Roy Noble i drafod bwyd. Ydy Roy yn hoffi bwyta allan tybed? Darlledwr Broadcaster Ers achau A long time ago Pan o'n i'n caru When I was courting Lan lofft I fyny'r grisiau Swllt A shilling Wejen Girlfriend Beudy Cowhouse Hanesyddol Historical

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 31ain 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later May 31, 2022 17:15


Beti a Sian Eirian Mae Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Nimbych yr wythnos hon ac mi gafodd Beti George gwmni Cyfarwyddwr Dros Dro yr Eisteddfod, Sian Eirian, ar Beti a'i Phobol fore Sul. Yn y gorffennol buodd Sian yn gweithio fel Pennaeth Rhaglenni Plant S4C a dyma hi'n sôn am yr adeg aeth hi â CYW (y cyw annwyl felly- eicon rhaglenni plant bach) i gyfarfod â Boris Johnson pan oedd o'n Faer Llundain... Cyfarwyddwr Dros Dro - Temporary Director Awyddus I ymestyn - Eager to extend Adran Gyfathrebu - Communications Department Sylweddoli - To realize Tanddaearol - Underground Heddlu cudd - Secret police Terfysgwr - Terrorist Gweithredu - To act (upon) Degau ar ddegau - Many (lit: tens on tens) Hanes 'Cywgate' yn fan'na gan Sian Eirian. Butlins Oeddech chi'n gwybod bod yna Eisteddfodau o fath yn Butlins Pwllheli ac yn Butlins y Barri ers talwm? Wel cystadleuaeth talent oedden nhw cael eu galw mewn gwirionedd! Buodd Ffion Emyr yn cyflwyno rhaglen oedd yn edrych yn ôl ar 75 mlynedd ers agor Butlins Pwllheli. Dyma hi'n cael sgwrs efo Bob Morris fuodd yn gweithio yn Butlins, ac sy'n cofio gweld Billy Butlin ym Mhwllheli, ac yna hanes Mair Evans o Lanbedr Pont Steffan, neu Llambed, wnaeth yn dda iawn yn y cystadlaethau talent - ei mam Janet sy'n dweud yr hanes. Datganiad - Statement Gwersyllwyr - Campers Beirniadaeth - Adjudication Beirniaid - Judges Wedi dotio ar - Wedi dwlu ar Neb llai na - None other than Gwlad yr Haf - Somerset Meddyliwch ennill cystadleuaeth dalent a Catherine Zeta Jones yn dod yn ail i chi - gwych yn de? Bore Cothi a Manuela Manuela Niemetscheck, sy'n seicotherapydd celf, oedd dysgwr y flwyddyn Bwrdd Betsi Cadwaladr. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob dwy flynedd ac roedd y tri beirniad yn cytuno mai Manuela oedd yn haeddu teitl Dysgwr y Flwyddyn. Dyma Manuela ar Bore Cothi yn rhoi ychydig o'i hanes hi ac yn sôn am ei swydd ddiddorol ... Haeddu - To deserve Llwyth - Loads Dwyieithog - Bilingual Bwrw ymlaen - To get on with it Mae talent dysgu ieithoedd anhygoel gan Manuela yn does? Dros Ginio Caryl a Miriam Mam a merch, Caryl Parry Jones a Miriam Isaac, oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Caryl sy'n dechrau'r sgwrs, yn cofio am ei magwraeth yn Ffynnongroyw, Sir y Fflint. Gwerthfawrogi magwraeth - Appreciating the upbringing Pentref glofaol - A coal mining village Pwll glo - Coal mine Brawdgarwch - Brotherhood Y Parlwr Du - Point of Ayr Diwylliant - Culture Nefolaidd - Heavenly Arddull - Style Mae'n amlwg bod Caryl a Miriam wedi cael magwraeth wrth eu boddau, ac atgofion melys iawn gan Miriam o Nain a Taid I Mewn I'r Gol Yn 2021, mi fuodd yna newid anferth i Glwb Pêl-droed Wrecsam wrth i ddau o sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu'r clwb! Cyhoeddodd y ddau fideo aeth yn feiral - a chael Maxine Hughes , sy'n byw yn yr Unol Daleithiau i gyfieithu ar y pryd ar y fideo. Rŵan dan ni'n mynd i glywed lleisiau Maxine, Wayne Phillips, fuodd yn chwarae i Wrecsam, a hefyd Cledwyn Ashford sy'n sgowt I academi'r clwb yn sôn am y newid ddaeth i'r clwb ers i'r sêr ddod mewn. Dylan Griffiths, o Adran Chwaraeon Radio Cymru, fuodd yn dilyn y stori Cyfieithu ar y pryd - Instantaneous translation Perchnogion - Owners Cadarnhad - Confirmation Hyrwyddo - To promote Sylw byd eang - Worldwide attention Disgleirio - To shine Llwyfan - A stage Argraffiadau cynnar - Early impressions Breuddwyd - A dream Yn y cefndir - In the background A dw i'n siŵr bod ffans Wrecsam i gyd yn drist ddydd Sul pan gollodd y clwb gêm fwya'r tymor o bum gôl i bedair. Stiwdio Tlws y Dysgwr Ac mi ddown ni'n ôl at Eisteddfod yr Urdd efo'r clip ola. Mae gan Francesca Sciarrillo atgofion melys iawn o'r Eisteddfod gan iddi hi ennill Medal y Dysgwyr pan oedd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd yn 2019, ac erbyn hyn mae hi'n byw ei bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ei rhieni'n dod o'r Eidal yn wreiddiol a dyma Francesca yn disgrifio sut gwnaeth ei thad ymateb i'w llwyddiant yn yr Eisteddfod Atgofion - Memories Trwy gyfrwng - Through the medium of Yr Wyddgrug - Mold Cyfarwydd - Familiar

Beti a'i Phobol
Siân Eirian

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later May 29, 2022 41:07


"Arbrofi ac arloesi i'r dyfodol". Dyna eiriau Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a chyn Bennaeth Gwasanaeth Plant gyda S4C. Fe ddechreuodd ei gyfra fel clerc mewn cymdeithas adeiladu, wedyn ymunodd gyda'r Urdd, ac fe enillodd gwobr Cymraes y Flwyddyn yn 2006. Yn 2007 fe gafodd Siân ei phenodi yn Bennaeth Gwasanaeth Plant S4C am 6 blynedd. Rhan o friff y swydd oedd creu gwasanaeth ar gyfer plant meithrin ac yn ddiweddarach ar gyfer y rhai cynradd, gan gynnig gwasanaeth cyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg ond efo rhaglenni oedd cystal ansawdd a chynnwys a'r hyn oedd ar gael yn Saesneg. Sefydlwyd y sianel CYW ar gyfer plant oed meithrin i 5 oed ac 'roedd yn gyfnod cyffrous iawn. Mae Siân yn sôn am fynd a'r Cyw ei hun i Lundain, ac mae stori ddigri i'w chlywed ganddi am gyfarfod Boris Johnson. Mae Siân bellach wedi symud nol i'w ardal enedigol yn Llangernyw ac yn rhedeg cwmni ymgynghorol gyda Garffild ei gwr. Bu'r ddau yn gweithio gyda I'm a Celebrity... Get Me Out of Here! gydag Ant a Dec ar gyfer ITV.

Beti a'i Phobol
Rebecca Elizabeth Roberts

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 23, 2022 52:16


Beti George yn sgwrsio gyda'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi ysgrifennu pedair nofel ac wedi ennill gwobr Tir na n-Og a Llyfr y Flwyddyn i bobol ifanc, ac yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad gydag anabledd ac yn gwisgo coesau prosthetig yn union fel mae merch yr awdur. Mae hi hefyd yn Weinydd Dyneiddiol ac yn rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.

roberts tir rebecca roberts flwyddyn llyfr beti george
Bwletin Amaeth
2021 yn flwyddyn heriol

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Dec 27, 2021 5:14


Aled Rhys Jones sy'n trin a thrafod 2021 gydag Aled Jones, Dirprwy Lywydd NFU Cymru.

aled jones flwyddyn
CFfI a fi / YFC & me
Persbectif Pontfaen Perspective

CFfI a fi / YFC & me

Play Episode Listen Later Dec 3, 2021 33:34


*Y bodlediad â ennillodd yn yr Adran Waith Cartref yn Eisteddfod CFfI 2021!* *The Winning Podcast in the Homework Section of Wales YFC Eisteddfod 2021!* Sian Healey, Cadeirydd Cystadlaethau a Aelod hŷn y Flwyddyn sy'n cyfweld â Elwyn Davies, Cyfarwyddwr o Pixelhaze a chyn-aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanelwedd. Competitions Chair and Senior Member of the Year, Sian Healey, interviews Elwyn Davies, Director of Pixelhaze and past member of Builth Wells Young Farmers Club.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 22ain Hydref 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 22, 2021 14:30


CYMRY NEWYDD Y CYFNOD CLO - MOHINI GUPTA Bardd o Delhi Newydd, Mohini Gupta, ddysgodd Cymraeg ar ôl iddi dreulio tri mis yn Aberystwyth yn 2017. Mae hi wedi cyfieithu cân boblogaidd yr Anhrefn a Candelas, Rhedeg i Baris, i Hindi ac mae'n gobeithio cryfhau'r cysylltiad rhwng y ddwy iaith yn y dyfodol. Dyma hi'n esbonio pam dechreuodd hi ddysgu Cymraeg Bardd Poet Cymrawd Fellow Cwympo mewn cariad To fall in love Mwyaf rhyfeddol Most amazing Y gynghanedd Welsh metrical alliteration Yn gysylltiedig â barddoriaeth Connected to poetry Led-led y wlad Throughout the country Gweithdy Workshop Sylweddoli To realise Cenhadon Missionaries GWNEUD BYWYD YN HAWS – ROB LISLE A DAVID THOMAS Mohini Gupta oedd honna'n sôn am y cysylltiad rhwng y Gymraeg a Hindi. Cafodd Hanna Hopwood gwmni rhai o gystadleuwyr 'Dysgwr y Flwyddyn 2021', i rannu cynghorion am sut i wneud bywyd yn haws wrth ddysgu Cymraeg. Mae Rob Lisle wedi bod yn helpu dysgwyr eraill i ddechrau sgwrsio yn Gymraeg mewn ffordd ymarferol a dyma e'n esbonio wrth Hanna sut mae e'n mynd o'i chwmpas hi... Mynd o'i chwmpas hi To go about it Dipyn o gamp Quite an achievment Cymryd yn ganiataol To take for granted Canolbwyntio Concentrating Ystyried Considering Gwybodaeth gyffredinol General information Mo'yn Eisiau BORE COTHI -MELANGELL DOLMA A RHIANNON OLIVER Mae'n wych gweld rhai fel Rob, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn rhoi help llaw i'r rhai sydd eisiau ei defnyddio. Un gafodd gyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn fuan ar ôl ei dysgu ydy'r actores Rhiannon Oliver a lwyddodd i gael rhan yn ‘Enfys' drama ddigidol Theatr Genendlaethol Cymru. Clywon ni'r hanes mewn sgwrs gafodd hi gyda Shan Cothi… Dwys Intensive Cyngor Celfyddydau Cymru Welsh Arts Council Llawrydd Freelance GERAINT LLOYD – JAMES HORNE Wel dyna brofiad gwych i Rhiannon on'd ife? Roedd Geraint Lloyd yn holi ‘dysgwr y dydd' ar ei raglen wythnos diwetha ar nos Fawrth. Myfyriwr sy'n astudio ym Mhrifysgol Bangor o'r enw James Horne oedd yn cadw cwmni iddo fe. Cwrs TAR PGCE course Parhau To continue Hedfan Flying Cwrs Calan New Year's course GERAINT LLOYD – ELISABETH HALIJAS Ac arhoswn gyda Geraint Lloyd nawr i glywed rhan o sgwrs gaeth e gydag Elisabeth Halijas dietegydd sydd yn byw a gweithio yng Nghaerdydd, ond sy'n dod o Estonia yn wreiddiol. Fel James Horne, mae hi wedi dysgu Cymraeg yn gyflym iawn – dim ond tair blynedd mae hi wedi bod wrthi. Gofynnodd Geraint iddi hi a oedd y Gymraeg yn help iddi yn y gwaith. Defnyddiol Useful Ymgynghoriad Consultation Gwirfoddoli To volunteer BETI GEORGE – GRANT PEISLEY Wel dyna fywyd prysur sy gyda Elisabeth on'd ife? Ac mae'n wych ei bod hi, sy'n dod o Estonia yn medru cynnig gwasanaeth Gymraeg i'w chleientau. Grant Peisley oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae Grant yn dod o Picnic Point ger Sydney Awstralia yn wreiddiol ac roedd e'n hapus iawn pan ofynnodd Beti iddo fe am ei deulu…. Hynafiaid Ancestors Ymhlith y carcharorion Amongst the prisoners Go iawn Really Cyswllt Connection Ieuengaf Fenga/ifanca Cyfnitherod Female Cousins Wel dyna ni, mae wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar Radio Cymru wedi mynd â ni i India, Lloegr, Estonia ac Awstralia. Ond ble bynnag dych chi'n byw, o ble bynnag dych chi'n dod, dyn ni yn Radio Cymru a, dw i'n siŵr, pobl Cymru gyfan yn falch iawn ohonoch chi, ac yn falch o'ch cyfraniad at y bywyd Cymraeg. Daliwch ati!

ac estonia hindi rhiannon ond beti cymru aberystwyth baris mynd cymraeg candelas gymraeg dyma enfys hydref radio cymru nghaerdydd flwyddyn rhedeg beti george
Hefyd
David Thomas, Dysgwr y Flwyddyn 2021 | Pennod 7

Hefyd

Play Episode Listen Later Oct 21, 2021 37:38


Y gwestai y tro yma ydy David Thomas. Ennillodd David wobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn eleni, yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn wreiddiol o Gaerdydd, roedd e'n byw yn Lloegr am flynyddoedd, ond mae e wedi symud yn nôl i Gymru gyda'i ŵr. Mae e'n rhedeg y cwmni Jin Talog ac mae e'n awyddus iawn i ddefnyddio Cymraeg yn y gymuned. Ewch i fy ngwefan i weld lluniau a geirfa'r pennod yma. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts  

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 20fed Awst 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Aug 20, 2021 15:58


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … COFIO Mae llawer mwy o bobl yn dewis cael gwyliau yng Nghymru eleni a gwyliau oedd them ‘Cofio' wythnos diwetha. Yn y clip nesa mae T Glynne Davies yn holi Mrs Hannah Jones fuodd yn cadw gwesty yn y Rhyl am dros bedwar deg o flynyddoedd... Rhyfel - War Dogni - Rations Gwerthfawrogi - To appreciate Enwogion - Celebraties Digri - Funny Tynnu wynebau - Pulling faces Maldodi - To pamper POD DYSGWYR Dipyn o hanes Morecambe and Wise a Tony the Wonder Horse yn aros yn y Rhyl yn fan'na ar Cofio. Mae Nick Yeo, dyn ifanc o Gaerdydd wedi dechrau podlediad o'r enw Sgwrsio ar gyfer y rhai sy'n dysgu – ac sy'n rhugl yn y Gymraeg. Hannah Hopwood, oedd yn cyflwyno Bore Cothi, a hi gafodd “sgwrs” gyda Nick… Creu - To create Bodoli - To exist Anffurfiol - Informal Rhithiol - Virtual AmGen - Alternative Profad arbennig - A special experience GARMON RHYS Ie, cofiwch droi mewn i‘r podlediad ‘Sgwrsio' pan gewch chi gyfle. Mae Garmon Rhys wedi cael rhan yn y sioe Tina – sioe gerdd am fywyd yr anhygoel Tina Turner. Dyma fe'n sôn am y profiad o gymryd rhan yn Tina gyda Caryl a Huw ar y Sioe Frecwast Sioe gerdd - Musical Llwyfannu - To stage Newid wedd - Transformation Ailagor - To reopen Anhygoel - Incredible Am wn i - I suppose Llwgu - To starve Ailymweld - To revisit Cyn hired - So long Celfyddydau - Arts GWNEUD BYWYD YN HAWS Mae hi'n swnio'n sioe gyffrous iawn on'd yw hi? Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth buodd Hanna Hopwood yn holi Sian Files am ei phrofiadau fel aelod o'r 'sandwich generation'. Sut mae jyglo bod yn riant, cael gyrfa a gofalu am aelodau hŷn o'r teulu? Dyma Sian yn esbonio sut mae dechrau'r cyfrif Instragam Mamgu Mamgu wedi gwneud bywyd yn haws iddi hi… Cyfrif - Account Sawl rhaglen - Several programmes Gofalu am - To care for Sylweddolais i - I realised Bachu ar y cyfle - Grasped the chance Cofnodi - To record Talu sylw - To pay attention RICHARD HOLT Sian Files oedd honna'n sôn am ei chyfrif Instragram Mamgu Mamgu. Weloch chi'r gyfres Richard Holt a'i Felyn Felys ar S4C? Os weloch chi h, byddwch yn gwybod bod Richard yn gogydd patisserie gwych iawn. Nawr mae e wedi agor bwyty bwyd melys mewn melin wynt ar Ynys Môn ac fel clywodd Nia Griffiths mae ei fenter newydd yn un sy'n cael dipyn o sylw ar yr ynys… Cyfres - Series Melin wynt - Windmill Dw i'm be - I don't know what Cynhyrchu - To produce Erioed wedi gweld - Never seen Nod - Aim Blawd - Flour Gwenith - Wheat Malu - To grind MARED WILLIAMS A phob lwc i Rich Holt gyda'i fenter newydd on'd ife? Mae'r gantores Mared Williams wedi perfformio ar sawl llwyfan yng Nghymru dros y blynyddoedd ac wedi perfformio yn y West End fel un o gast Les Miserable. Clywodd hi'r wythnos diwetha bod ei halbwm Cymraeg cynta wedi ennill gwobr Albym Cymraeg y Flwyddyn eleni. Ifan Davies a Sian Eleri wnaeth longyfarch Mared a gofyn iddi sut oedd hi'n teimlo ar ôl clywed y newyddion. Dyma i chi sut wnaeth hi ymateb… Coelio - Credu Cyfrinach - Secret Rhannu - To share Rhestr fer - Shortlist Yn freintiedig - Privileged Haeddu - To deserve Golygu - To mean Beirniaid - Judges Aeddfedrwydd - Maturity Coroni - To crown

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 13eg Awst 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Aug 13, 2021 16:04


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … CRWYDRO'R CAMBRIA Yn y gyfres newydd, Crwydro'r Cambria, mae Ioan Lord a Dafydd Morris Jones yn mynd â ni ar daith i ganol mynyddoedd y Cambria gan ddechrau yn y clip yma gyda phentref bach Ponterwyd yng Ngheredigion… Cyfres - Series Arwydd - A sign Eithriadol - Exceptional Yn ddiweddar - Recently Canolbarth Lloegr - The Midlands Gwythïen - Vein Hewl (Heol) - Ffordd Pellennig - Remote Twr o bobl - A crowd of people RHYS PATCHELL Cofiwch , tasech chi eisiau clywed pob rhaglen yn y gyfres honno ewch i wefan BBC Sounds. Mae cyflwynydd newydd ar Radio Cymru bob bore Sadwrn – y chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Patchel, a chwarae teg iddo, roedd atebion da gyda fe i gwestiynau digon anodd gan ddwy ferch fach Cyflwynydd - Presenter Chwaraewr rygbi rhyngwladol - International rugby player Arbenigedd - Expertise Diflasu ar - To become bored of Cymhlethu - To complicate Pyst - Posts Llinell ddychmygol - Imaginary line Bant â ni - Ffwrdd â ni Taro - To hit AR Y MARC Siocled a fajitas – deiet da i chwaraewr rygbi rhyngwladol Dwy ferch fach a Catrin Heledd yn ein helpu ni ddod i nabod Rhys Patchell yn well yn fan'na. Newid siâp y bêl nawr a chlip bach am bêl-droed. Mae sawl clwb bach wedi cael amser anodd iawn yn ystod cyfnod Covid felly roedd hi'n braf clywed sôn am glwb newydd yn cael ei ffurfio ym mhentref Llechryd yng Ngheredigion. Cai Emlyn oedd un o westeion Dylan Jones ar Ar y Marc yr wythnos yma a dyma fe'n sôn am y clwb newydd... Digon dewr - Brave enough Ymysg - Amongst Y Gynghrair - The league Rhyfeddol - Amazing Adnabyddus - Enwog Ieuenctid - Youth Hen bennau - Old heads Offer - Equipment Caniatâd - Permission Noddwyr - Sponsors MIRAIN IWERDYDD A phob lwc i glwb pêl-droed Llechryd on'd ife? Mae Miriain Iwerydd wrth ei bodd gyda chrefftau, felly bob wythnos mae hi'n sgwrsio gyda rhywun sy wedi llwyddo i wneud gyrfa yn y maes. Yr wythnos yma – Elin Angharad oedd ei gwestai. Yn gyfarwydd - Familiar Graddio - To graduate LLedr - Leather Datblygu - To develop Uniongyrchol - Directly Arbrofi - To experiment Gweithdy - Workshop Breuddwyd - A dream Creadigol - Creative Di o'm bwys - Does dim ots LISA ANGHARAD Elin Angharad oedd honna'n sgwrsio gyda Mirain Iwerydd am ei gwaith celf lledr. Weloch chi'r rhaglen ddrama wych The Pact ar BBC 1 yn ddiweddar? Un o'r sêr oedd Heledd Gwynn ac ymunodd hi gyda Lisa Angharad a buodd y ddwy'n sgwrsio am eu gwyliau… Becso - Poeni Noeth - Naked Wastad - Always Crac - Angry Rhyddid - Freedom Unigolyn - Individual Hunllef - Nightmare Cyfrifol - Responsible SEREMONI DYSGWYR Ambell i stori ddifyr am wyliau yn fan'na gan Lisa Angharad a Heledd Gwynn. Ac i gloi – dyma Shan Cothi a Trystan Ellis yn cyhoeddi pwy oedd Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod AmGen eleni yng nghwmni Shirley Williams, un o'r beirniaid, a David Thomas yr enillydd Beirniaid - Adjudicators Datgelu - To reveal Gwrach - Witch Hud a lledrith - Magic Braint - An honour Ystyried - To consider Cenhedlaeth goll - Lost generation Ymwybodol - Aware Trawsnewid - To transform Cyfoethogi - To enrich Ehangu fy ngorwelion - Widen my horizons

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 16eg Gorffennaf 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jul 16, 2021 15:54


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … DROS GINIO Dros yr wythnosau diwetha ar Dros Ginio mae Gwenfair Griffiths wedi bod yn holi rhai o newyddiadurwyr Cymru am eu Stori Fawr nhw... Betsan Powys oedd yn cael ei holi y tro diwetha a buodd hi'n sôn am sut oedd hi'n teimlo fel gohebydd ifanc yn Bosnia yn ystod y rhyfel oedd yno yn y 90au. Gohebydd - Correspondent Rhyfel - War Sbïo - Edrych Darbwyllo - To convince Cyflawni - To achieve Y fyddin - The army Anghyfarwydd - Unfamiliar Cydbwyso - Balancing Dychrynllyd - Terrifying Ergyd - A shot STIWDIO Lleisiau Betsan Powys a rhai o'r milwyr fuodd yn ymladd yn Bosnia yn fan'na. Ar Stiwdio nos Lun, cafodd Nia Roberts gwmni'r Athro Menna Elfyn i drafod cyfrol mae Menna newydd ei golygu o'r enw “Cyfrinachau – Eluned Phillips”. Roedd Eluned yn fenyw ddiddorol iawn , roedd hi wedi teithio'r byd a dod yn ffrindiau gydag enwogion fel Picasso ac Edith Piaf. Roedd hi'n fardd ac yn awdur. Enillodd hi goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith y tro cynta yn 1967 ac wedyn yn 1983. Roedd hi wedi sgwennu nofel hunangofiannol ond wnaeth hi mo'i chyhoeddi. Dyma Menna'n egluro pam..... Athro - Professor Cyfrol - A volume Enwogion - Famous people Hunangofiannol - Autobiographical Dagrau pethau - The sadness of it Amheuon - Suspicions Sïon - Rumours Mewn gwirionedd - In reality SHAN COTHI Ychydig bach o hanes y fenyw ryfeddol Eluned Phillips yn fan'na gan Menna Elfyn. Pa ffilmiau sy'n gwneud i chi eisiau mynd ar wyliau? Buodd Dorien Morgan yn siarad gyda Shân Cothi am ffilmiau hafaidd, ac am wylio ffilmiau o'r car mewn ‘drive through'... Y fenyw ryfeddol - The amazing woman Dala lan - To catch up Sa i'n dreifio - Dw i ddim yn gyrru Simsan - Unsteady Crybwyll - To mention Cwympo - Syrthio Efrog Newydd - New York Cludo - To transport Cymeriadau - Characters Dylanwadu - To influence TROI'R TIR A sôn am wyliau, sut fasech chi'n licio gwyliau mewn pod glampio? Mae Joyce Jenkins yn byw ar fferm ym Mlaenplwyf yng Ngheredigion ac mae hi wedi dechrau busnes gosod podiau glampio ar y fferm gyda'i merch yn nghyfraith Gwenan Jenkins. Dyma hanes y fferm a'r menter newydd. Gosod - To rent out Menter - Venture Darn o dir - Piece of land Clawdd - Wall Golygfa - Scenery Mo'yn - Eisiau Unigryw - Unique Canu gwlad - Country & Western ALED HUGHES ...a phob lwc i'r ddwy yn eu menter newydd ond'ife? Mae Michael Davies Hughes yn dod o Gricieth yn wreiddiol ond mae e ‘n byw yn Eureka, gogledd Califfornia erbyn hyn. Mae e newydd gwblhau y ras seiclo anodda yn y byd sef y Ras Ar Draws America. Mae hi'n ras dros 3 mil o filltiroedd, ar hyd 12 talaith wahanol, dros 175 mil o droedfeddi o ddringo, a hynny i gyd yn digwydd mewn 12 diwrnod… Waw Cwblhau - To complete Talaith - State Troedfeddi - Feet (measurement) Seibiant - A respite Corfforol - Physical Gwthio - To push Ddaru - Wnaeth Twll dan grisiau - Cwtsh dan stâr Anialwch - Desert GERAINT LLOYD Roedd hynny'n dipyn o gamp gan Micheal on'd oedd? I Arberth yn Sir Benfro aeth Geraint Lloyd wythnos diwetha i gael sgwrs am yr ardal gyda Dysgwr y Flwyddyn y llynedd, Jazz Langdon. Dyma i flas ar y sgwrs… Dipyn o gamp - Quite an achievement Ar bwys - Wrth ymyl Amgueddfa - Museum Yn gyffedinol - Generally Yn beodol - Specifically Terfysgoedd Beca - The Rebecca Riots

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#41 - Pâr o Gymru yn dringo ysgol ffermio Seland Newydd

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear

Play Episode Listen Later May 2, 2021 43:56


Yn 2016, gadawodd Nia Jones a’i gŵr Marc Gymru i ddilyn eu breuddwyd o redeg fferm laeth yn Seland Newydd. Dair blynedd yn ddiweddarach, fe ddaethon nhw'n ail yng nghystadleuaeth genedlaethol Ffermwr Cyfran y Flwyddyn yn Seland Newydd. Tipyn o gamp! Yn y bennod hon, mae Nia yn rhannu'r stori tu ôl i'w llwyddiant ac yn datgelu'r cam nesaf yn eu taith wrth iddynt barhau i ddringo'r ysgol ffermio.

dair yn gymru ysgol nia jones flwyddyn
The Cardiff Blues Podcast
S3 Ep7: Podlediad Cymraeg: Manon Johnes

The Cardiff Blues Podcast

Play Episode Listen Later Jan 28, 2021 30:06


Ar ôl seibiant fach, mae Podlediad Cymraeg Gleision Caerdydd yn ôl gyda blaen-asgellwr Cymru, Gleision Caerdydd a Bristol Bears, Manon Johnes, yn ymuno â Owain Gruffudd i drafod ei gyrfa trawiadol hyd yn hyn, astudio yn Rhydychen a lawnsiad cit newydd Merched Gleision Caerdydd. Ennillodd Manon ei chap cyntaf dros Gymru yn 17 mlwydd oed ac ers hynny mae hi wedi mynd o nerth i nerth, gan ennill Chwaraewr y Flwyddyn dros dîm Merched Gleision Caerdydd.

Beti a'i Phobol
Matt Spry

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 26, 2020 48:46


Beti George yn sgwrsio gyda Dysgwr y Flwyddyn 2018, Matt Spry, o Aberplym (Plymouth) yn wreiddiol a chawn ei hanes yn dysgu'r Gymraeg, ei waith gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac hefyd ei frwydr ag iselder meddwl.

spry gymraeg flwyddyn beti george
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 20fed Tachwedd 2020

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Nov 20, 2020 15:06


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Elin Angharad – Tro’r Tir Mae Elin Angharad o Fachynlleth ym Mhowys wedi dechrau busnes yn gwneud ac yn gwerthu ategolion lledr. Dyma hi’n sôn wrth griw Troi’r Tir am sut cafodd hi’r syniad o ddechrau’r busnes a sut aeth hi ati i’w sefydlu… Ategolion lledr - Leather accessories Sefydlu - To establish Ymddiddori mewn - To take an interest in Dilyn gyrfa - Pursue a career Gweithdy - Workshop Profiad Gwaith - Work experience Penblwydd Cardiau Draenog - Bore Cothi Merch arall o Bowys sydd wedi sefydlu busnes ei hunan ydy Anwen Roberts a hi oedd un o westeion Shan Cothi yr wythnos yma. Mae ei chwmni, Cwmni Cardiau Draenog, wedi bod mewn busnes am 10 mlynedd ac mae gan Anwen gynlluniau arbennig am sut i ddathlu hynny. Arbenigo - To specialise Cyfoes - Modern Dylunio - To design Casgliad - A collection Yn go llwm - Really tough Personoleiddio - To personalise Yr amrywiaeth - The variety Arddulliau - Styles Anhygoel - Incredible Archeb - Order Richard Burton – Aled Hughes Wel am syniad da, ond’ ife? Tybed beth fydd yr anrhegion bach – cewch wybod os wnewch chi archebu cardiau gan Anwen! Roedd yr actor Richard Burton yn dod o Bontrhydyfen yn Nghwm Afan yn wreiddiol, a tasai fe’n fyw basai wedi dathlu ei benblwydd yn 95 oed yr wythnos yma. Cafodd Aled Hughes sgwrs am yr actor byd enwog gyda Sian Owen, ei nith, sy’n dal i fyw ym Mhontrhydyfen. Cof plentyn - A child’s memory Atgof - a recollection Ffili symud - Couldn’t move Mo’yn mynd lan loft - Wanted to go upstairs Enw’r Clip: Clip Penblwydd Bryn Terfel Rhaglen: Dewi Llwyd Seren fyd enwog arall oedd yn dathlu ei benblwydd yr wythnos diwetha sef Bryn Terfel a fe oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd fore dydd Sul. Dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae Dewi’n holi Bryn a oes yna bendraw i yrfa canwr opera… Pendraw - An end Unwaith yn rhagor - Once more Heb os nac oni bai - Without doubt Cynulleidfa yn cymeradwyo - The audience applauding Mwyniant - Pleasure Cydnabyddiaeth - Acknowledgement Cymhelliad - Motivation Beirniaid - Adjudicators Clod - Praise Cyffelybu - Compare Tony Ac Aloma - Cofio ‘Falle nad ydy’r ddeuawd Tony ac Aloma o Sir Fôn yn sêr byd enwog fel Bryn Terfel a Richard Burton, ond er hynny digwyddodd rhywbeth iddyn nhw mewn caffi yn Nhregaron yn y chwedegau wnaeth iddyn nhw ddechrau meddwl eu bod nhw wedi cyrraedd! Dyma’r ddau yn hel atgofion gyda John Hardy… Deuawd - Duet Hel atgofion - Reminiscing Sêr y byd - Global stars Pres - Arian Pa mor boblogaidd - How popular Ffefryn - Favourite Gwyndaf Lewis - Geraint Lloyd Tony ac Aloma oedd rheina, sêr canu Cymraeg yn y chwedegau a’r saithdegau, yn cofio am ddigwyddiad arbennig yn Nhregaron. Cafodd Geraint Lloyd gyfle i longyfarch Gwyndaf Lewis o glwb Ffermwyr Ifanc Hermon am ennill gwobr ‘Cefnogwr Cymunedol y Flwyddyn’. Beth yn union oedd Gwyndaf wedi ei wneud i ennill y wobr? Wel llawer iawn o bethau, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ’ma… Gwobr - Award Cefnogwr Cymunedol - Community supporter Enwebu - To nominate Yn llawn haeddu - fully deserve Ymdrechion rhyfedda - the most amazing effort s Hyfforddi - To train Elusennau - Charities Llwybr arfordir - Coastal path Cyfwerth â - Equivalent of

CFfI a fi / YFC & me
Pennod 21 / Episode 21 - Mared Esyllt

CFfI a fi / YFC & me

Play Episode Listen Later Oct 27, 2020 33:27


Siân Williams o Fyddfai, Sir Gar yn cyfweld Mared Esyllt Evans o glwb Pen-y-bont yn Sir Gar yn ddigidol. Mared ydy Aelod Hyn y Flwyddyn CFfI Cymru 2020-21 ac fe glywn am ei phrofiadau ai atgofion o ymuno a’r clwb i ennill gwobr Aelod Hyn y Flwyddyn. Fe glywn hefyd am ei atgofion o gystadlaethau hanner awr o adloniant, ei phrofiad fel Llysgennad y sir am eleni a’i gobeithion am y blynyddoedd sydd ganddi ar ôl fel aelod. Gyda’r sefyllfa bresennol COVID-19 rydym yn ffodus fod Siân wedi medru cyfweld a Mared yn ddigidol. Dylid nodi cafodd y podlediad yma ei recordio yn fis Ebrill yn ystod y cyfnod clo cyntaf, a cyn I Mared fynd ymlaen i gystadlu yng nghystadleuaeth Aelod Hyn y flwyddyn FfCCFfI. Gobeithio y gwnewch fwynhau gwrando i’r podlediad, a hoffwn ddiolch yn fawr i Siân Williams a Mared Evans am recordio’r podlediad a’i ddanfon draw atom. - Sian Williams from Carmarthenshire digitally interviews Mared Esyllt Evans from Pen-y-bont YFC in Carmarthenshire. Mared is the Wales YFC Senior Member for 2020-21 and we hear about her experiences and memories from first joining her local YFC club, to winning the title of Senior Member of the Year. She shares her memories of the Half Hour Entertainment competitions; her experiences of being an Ambassador for the YFC in Carmarthenshire; and her hopes for the next years as a member of YFC. With the current situation with Covid-19 facing the country, we are lucky that Sian was able to interview Mared digitally. It’s important to note that this podcast was recorded in April during the first lockdown period, and before Mared went on to compete in the NFYFC Senior Member of the Year competition. We hope that you enjoy listening to the podcast; and we’d like to extend a big thank you to both Sian Williams and Mared Evans for recording this episode and sending it in to us.

Galwad Cynnar
Galwad Cynnar

Galwad Cynnar

Play Episode Listen Later Oct 24, 2020 58:03


Rhys Jones, Hywel Roberts a Jess Mead Silvester sy'n cadw cwmni i Gerallt bore yma. Ydi eira cynnar yn yr Hydref yn rhoi arwydd i ni am sut aeaf fydd hi? Twm Elias fydd yma i drafod rhai o’r arwyddion difyr yma. Bydd Cynan Jones yn ymateb i ymholiad am fadarch. Hefyd Llinos Humphreys, Rheolwraig Cyfathrebu ac Ymgysylltu Coed Cadw fydd yn sôn am enillydd cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn

rhys jones hydref hywel roberts flwyddyn ydi
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 13eg 2020

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Aug 14, 2020 16:10


Doedd dim Eisteddfod Genedlaethol eleni ond mi fyddwn ni’n edrych yn ôl ar Ŵyl AmGen Radio Cymru ar Pigion yr wythnos yma Mae hi’n draddodiad i gael cywydd croeso i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal bob blwyddyn. Wrth gwrs mae pethau’n wahanol eleni ond ysgrifennodd y bardd Ceri Wyn Jones gywydd croeso i’r Eisteddfodd AmGen a dyma hi i chi… Amgen Alternative Bardd Poet Cywydd Croeso A poem to welcome the Eisteddfod Cerdd Poem Sbort Fun Adeg anghyffredin Unusual period Er nad oedd yr Eisteddfod yn debyg i’r un dyn ni wedi arfer â hi , mae’r dysgwyr yn dal i gael lle pwysig iawn yn yr Eisteddfod AmGen. Dros y penwythnos cyhoeddodd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn a dyma i chi Dona Lewis o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn darllen y feiriniadaeth ar ran y tri beirniad… Cyhoeddi To announce Beirniadaeth Adjudication Ein hysbrydoli Inspiring us Rownd derfynol Final Eu hymdrechion Their efforts Wedi dod i’r brig To have won Cyfweliad Interview Mam-gu Nain Prin oedd y cyfle The opportunity was rare Cyfleoedd Opportunities Er mwyn ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn roedd yn rhaid i’r 5 oedd ar y rhestr fer gynnal sgwrs radio gyda Shan Cothi, a dyma flas i chi ar sgwrs Jazz gyda Shan Rhestr fer Short list Yn falch Proud Teimlo’n euog Feeling guilty Cymdeithasu To socialise Cyfrwng Saesneg English medium Safonau Standards Cwympo To fall Cyd-lynydd Co-ordinator Yn gyfrifol am Responsible for Datblygiadau pwnc Subject developments Y dwlu ar To dote on Mae’r gantores Gwawr Edwards wedi ennill 2 o brif wobrau canu’r Eisteddfod Genedlaethol yn y gorffennol a dyma hi’n sôn am sut oedd hynny wedi helpu ei gyrfa fel cantores broffesiynol Ysgoloriaeth Scholarship Cystadleuaeth Competition Ta beth Anyway Cynhyrfu To stir Llawn cystal siawns As good a chance as any Ar fin mynd About to go Braint o’r mwya The greatest honour Pluen yn fy nghap A feather in my cap Ymfalchïo To take pride in Gofynodd Shan Cothi i Stifyn Parri wobrwyo 3 pherson sy’n haeddu tlws eisteddfodol arbennig iawn – Tlws Steddfod Stifyn – a dyma pwy benderfynodd Stifyn oedd yn dod i’r brig… Tlws Trophy Beiriniadu To adjudicate (fy) ngên yn syrthio My jaw dropping Crio Llefain Yn ddiweddarach Later Llorio To floor Creu cerddoriaeth Creating music Beichio crio Crying my eyes out Toda Ogunbanwo oedd yn rhoi araith Llywydd y Dydd Eisteddfod AmGen ddydd Gwener. Symudodd Toda Ogunbanwo, sy’n ugain oed, i Benygroes yng Ngwynedd o Harlow yn Essex pan oedd yn 7 mlwydd oed. Ym mis Mehefin eleni paentiodd rhywun swastica ar ddrws garej y teulu ym Mhenygroes. Roedd hyn yn sioc i lawer o bobl gan ei fod wedi digwydd mewn pentre bach Cymraeg ei iaith. Ond fel mae Toda yn dweud yn ei araith fel Llywydd, mae hiliaeth i’w chael ym mhobman Araith Llywydd y Dydd The President of the Day’s address Coelio Credu Datrysiad Resolution Canran fawr A large percentage Esgusodi ei hun Excusing himself Caethweision Slaves Nad ydy hiliaeth yn bodoli That racism doesn’t exist Casineb Hate Diwylliannau Cultures Lleiafrif Minority Mae’r actor Rhys Ifans wedi treulio‘r cyfnod clo yn Llundain, a dyma fe’n rhoi syniad i ni o sut brofiad oedd bod dan glo yn y ddinas fawr dros y misoedd diwetha… Dan glo Locked down Profiad Experience Dilys Valid Yn benodol Specifically Wneith o atseinio It will resonate Wnaeth o (fy) nharo It struck me Roedd y gwynt yn fy nghyffwrdd i The wind was touching me Anwes A caress Wel, dych chi wedi cael blas ar Ŵyl AmGen Rdio Cymru yn fan’na ond cofiwch bod POPETH o’r Ŵyl i’w glywed ar BBC SOUNDS felly gallwch chi fynd yn ôl i wrando ar unrhyw beth, unrhyw bryd.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 28ain 2020

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later May 28, 2020 15:59


Myrddin ap Dafydd ar Aled Hughes Dw i’n sîwr bod y rhan fwya ohonon ni wedi dysgu geirfa newydd un ai yn y dosbarth, wrth ddarllen neu, wrth gwrs, drwy wrando ar Radio Cymru. Ond mae na nifer o eiriau tafodieithiol wnawn ni ond eu clywed drwy ymweld ag ardaloedd arbennig yng Nghymru. Dych chi wedi clywed y gair ‘ “wilibowan” a “sbensh” er enghraifft? Dyma oedd gan Myrddin ap Dafydd i’w ddweud am hen eiriau’r Gymraeg wrth Aled Hughes yr wythnos hon. Tafodieithol Dialectal Wedi gwirioni Really liked Ehangach Wider Y fraint The privilege Yn hanu o Hails from Yn y bôn Essentially Moethus Luxurious Cogio Pretending Yn glymau In Knots Ffashiwn beth Such a thing Catrin Gerallt a Hannah Daniel - Dau Cyn Dau ar Dros Ginio Mam a merch o Gaerdydd fuodd yn cadw cwmni i Dewi Llwyd ar Dau Cyn Dau yr wythnos yma – sef Catrin Gerallt a Hannah Daniel. Mae Catrin Gerallt yn newyddiadurwraig brofiadol iawn sydd wedi gweithio ar raglenni fel Taro Naw, Manylu a’r One Show ac mae Hannah yn actores sydd wedi perfformio mewn cyfresi fel Gwaith Cartref, Hinterland ac Un Bore Mercher. Newyddiadurwraig brofiadol An experienced (female) journalist Cyfresi Series I’r graddau To the extent Y cyfyngiadau The restrictions (G)wynebau cyfarwydd Familiar faces Hogyn Bachgen Mam-gu Nain Cyfres newydd A new series Gweld isie To miss Caryl a Dafydd – Radio Cymru 2 Mae hi’n anodd gweithio ym myd comedi ar adeg mor sensitif ag yw hi nawr, ond dw i’n siŵr ei bod yn bwysicach, o bosib, oherwydd y sefyllfa i godi calonnau pobl. Y gomedïwraig Esyllt Sears oedd gwestai arbennig Caryl a Daf yr wythnos hon i sôn am sut mae’n bosib gwneud i bobl chwerthin y dyddiau hyn... Trafod To discuss Ystafell ddelfrydol Ideal room Yn dynn Tightly Cyffwrdd To touch Ysgwyd ei ysgwyddau Shaking his shoulders Chwerthiniad A laugh Cynulleidfa Audience Gynnau A moment ago Saernïo To construct Llenwi’r bwlch Filling the gap Bore Cothi Faint ohonoch chi sy’n coginio yn amlach y dyddiau hyn? Gaeth Shan Cothi wybod sut i wneud pasta ffres gan Michelle Evans Fecci a dyma i chi flas ar y sgwrs... Diffyg A shortage Oergell Fridge Blawd Flour Rhwydd Easy Tylino To knead Yn gwmws Exactly Garlleg Garlic Winwns Onions Ysbigoglys Spinach Dwlu wneud e Enjoy doing it Cofio – Traed Traed oedd pwnc Cofio yr wythnos diwetha a dyma glip o 2002 pan gafodd Nia Roberts sgwrs gyda Gwenno Saunders o Gaerdydd fuodd yn cymryd rhan yn y sioe Lord of the Dance gyda Michael Flatley. Cwestiwn Nia i Gwenno oedd sut mae’r dawnsio wedi effeithio ar ei thraed hi... Gwyddelig Irish Cystadleuaeth Competition Canolbwyntio Concentrating Ffiaidd Horrible Niwed Harm Cymorth Help Beti a’i Phobol Matt Spry o Aberplym (Plymouth) oedd gwestai Beti George wythnos dwetha. Matt oedd Dysgwr y Flwyddyn yn 2018 ac yn y clip nesa mae e’n sôn am ei hanes yn Lloegr, ei fam-gu o Gymru a pham dewisodd e’r enw Aberplym am Plymouth... Ymuno â Joins with Darganfod To discover Cernyweg Cornish language Ynganu To pronounce Ymwybyddiaeth Awareness Dyfnaint Devon Tad-cu Taid Cysylltiad Connection Syfrdanol Amazing Ar y ffin On the border

CFfI a fi / YFC & me
Pennod 13 / Episode 13 - Endaf Griffiths (Rhan 2 / Part 2)

CFfI a fi / YFC & me

Play Episode Listen Later Apr 7, 2020 12:30


Cennydd Owen Jones yn cyfweld Endaf Griffiths Cennydd Owen Jones CFfI Ceredigion yn cyfweld Endaf Griffiths sydd hefyd o Geredigion. Podlediad anarferol ble mae Ffarmwr Ifanc y Flwyddyn yn nesáu at ddiwedd ei gyfnod fel swyddog a Ffarmwr Ifanc arall ar fin dechrau ei waith. Dyma bennod sydd wedi cael ei recordio ar-lein oherwydd amgylchiadau COVID-19 ac wrth sgwrsio meant yn cyffwrdd ar hanes Endaf o fewn y mudiad yn ogystal â beth mae wedi ceisio ei gyflawn wrth fod yn swyddog yn y sir. Diolch i Cennydd Owen Jones am gyfweld, a diolch yn fawr i Endaf Griffiths am gyfrannu. Cennydd Owen Jones interviewing Endaf Griffiths Cennydd Owen Jones from Ceredigion YFC interviews Endaf Griffiths, which is also from Ceredigion YFC. This is a unique podcast where one Young Farmer of the Year for Ceredigion is nearing the end of his time as an officer and another Young Farmer of the Year for Ceredigion about to start on his time in the role. This episode has been recorded online due to the COVID-19 circumstances and as they chat they touch on Endaf’s history within the organisation and also how what he has tried to achieve within his role of Young Farmer of the Year for Ceredigion. A big thank you to both Cennydd Owen Jones for interviewing and Endaf Griffiths for participating in this episode.

CFfI a fi / YFC & me
Pennod 12 / Episode 12 - Endaf Griffiths (Rhan 1 / Part 1)

CFfI a fi / YFC & me

Play Episode Listen Later Apr 7, 2020 14:37


Cennydd Owen Jones yn cyfweld Endaf Griffiths Cennydd Owen Jones CFfI Ceredigion yn cyfweld Endaf Griffiths sydd hefyd o Geredigion. Podlediad anarferol ble mae Ffarmwr Ifanc y Flwyddyn yn nesáu at ddiwedd ei gyfnod fel swyddog a Ffarmwr Ifanc arall ar fin dechrau ei waith. Dyma bennod sydd wedi cael ei recordio ar-lein oherwydd amgylchiadau COVID-19 ac wrth sgwrsio meant yn cyffwrdd ar hanes Endaf o fewn y mudiad yn ogystal â beth mae wedi ceisio ei gyflawn wrth fod yn swyddog yn y sir. Diolch i Cennydd Owen Jones am gyfweld, a diolch yn fawr i Endaf Griffiths am gyfrannu. Cennydd Owen Jones interviewing Endaf Griffiths Cennydd Owen Jones from Ceredigion YFC interviews Endaf Griffiths, which is also from Ceredigion YFC. This is a unique podcast where one Young Farmer of the Year for Ceredigion is nearing the end of his time as an officer and another Young Farmer of the Year for Ceredigion about to start on his time in the role. This episode has been recorded online due to the COVID-19 circumstances and as they chat they touch on Endaf’s history within the organisation and also how what he has tried to achieve within his role of Young Farmer of the Year for Ceredigion. A big thank you to both Cennydd Owen Jones for interviewing and Endaf Griffiths for participating in this episode.

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM
Pennod 049 - Podpeth Nadolig 2019

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM

Play Episode Listen Later Dec 24, 2019 83:33


Pennod arbennig iawn o Does Dim Gair Cymraeg am Random i ddathlu Nadolig 2019, gyda chyflwynwyr un o fy hoff bodlediadau yn y byd, Podpeth, sef Elin Gruffydd ac Iwan a Hywel Pitts. Pynciau llosg: traddodiadau Nadoligaidd (briwsion bara, death-lists), uchafbwyntiau personol y flwyddyn (gorymdeithiau annibyniaeth, dyrnu mwncis, ymladd llewod, tyfu tash, inverted Hitler), Cystadleuaeth Cont y Flwyddyn 2019, Hyna Di’r Goss, anws-heulo, pysgod siap pidyn a llawer mwy...

adolf hitler goss iwan pennod nadolig flwyddyn podpeth hywel pitts elin gruffydd
CFfI a fi / YFC & me
Pennod 1 / Episode 1 - Alaw Fflur Jones

CFfI a fi / YFC & me

Play Episode Listen Later Nov 28, 2019 9:28


Alaw Mair Jones yn cyfweld Alaw Fflur Jones Alaw Mair Jones o Geredigion sydd yn cyfweld Alaw Fflur Jones sydd hefyd o Geredigion. Mae Alaw wedi ennill teitl Aelod Iau y Flwyddyn eleni yng Ngheredigion, Cymru ac ar lefel FfCCFfI. Wrth sgwrsio maent yn cyffwrdd a phrofiadau Alaw Fflur gyda Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru hyd yn hyn a'n trafod sut mae'r sgiliau wedi bod o fudd iddi wrth geisio am le yn y Brifysgol. Diolch i Alaw Mair Jones am gyfweld, a diolch yn fawr i Alaw Fflur Jones am gyfrannu. Alaw Mair Jones interviewing Alaw Fflur Jones Alaw Mair Jones from Ceredigion interviews Alaw Fflur Jones who's also from Ceredigion as she has won the title of Junior Member of the Year this year at a Ceredigion, Wales and National NFYFC level. As they chat they touch on Alaw Fflur's experience with Wales Young Farmers up to now and discuss how the skills she has gained while being a member have been beneficial while applying for University. A big thank you to both Alaw Mair Jones for interviewing and Alaw Fflur Jones for participating in this episode.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Matt Spry a'i westeion yn trafod dysgu Cymraeg

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 14, 2019 52:33


Matt Spry, Dysgwr y Flwyddyn 2018, sy’n sgwrsio gyda mewnfudwyr o wlad Pwyl, Yr Almaen, Arfordir Ifori a Lloegr, sydd wedi dysgu Cymraeg.

spry cymraeg flwyddyn
Dala Lan
Dala Lan: Cór Heol y March, Bwyty Beach House, Bae Oxwich, y blogwraig Jess Davies a'r dyn Tywydd Owain Wyn Evans

Dala Lan

Play Episode Listen Later Jul 16, 2019 30:31


Yr wythnos hon, rydyn ni’n dathlu deng mlynedd o’r côr plant, Heol y March gyda’r arweinydd, Eleri Roberts.  Mae’r bwyty Beach House ym Mae Oxwich wedi’i enwi fel un o’r llefydd gorau i fwyta’n “al-fresco” ym Mhrydain gan bapur newydd The Times a cafodd Lowri Cooke y fraint o flasu danteithion y cogydd, Hywel Griffith. Gyda dim ond wythnos tan Sioe Frenhinol Cymru, mae’r blogwraig, Jess Davies yn ymweld â sioeau bach amaethyddol i gael blas ar beth y gallwn ni ddisgwyl. Yr wythnos hon, mae Jess yn cyfarfod â’r cymeriadau a’r holl anifeiliaid yn Sioe Bancffosfelen. Ac yn olaf, mae’r cyflwynydd tywydd, Owain Wyn Evans yn trafod ennill y wobr fel y Cyflwynydd Teledu Gorau’r Flwyddyn. Darganfyddwn sut aeth e’n firol ar Twitter a’i hanes gyda’r tîm o’r rhaglen fyd-enwog , Queer Eye. Mwynhewch!   Sgwrs Eleri Roberts Arweinydd Cór Plant Heol y March https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p07fbrnp/heno-thu-11-jul-2019  o 8’20”.  -   Bwyty Beach House, Bae Oxwich https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/429870764530220/   Jess Davies yn Sioe Bancfosfelen https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/2571616636401677/   Sgwrs Soffa Owain Wyn Evans https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p07fjl6r/heno-fri-12-jul-2019 - 8’00”   Twitter Owain. https://twitter.com/OwainWynEvans?ref_src=twsrc%5Egoogle%7Ctwcamp%5Eserp%7Ctwgr%5Eauthor

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM
Pennod 039 - Lleuwen a Manon Steffan Ros (yn fyw o Tafwyl 2019)

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM

Play Episode Listen Later Jul 12, 2019 35:35


Fersiwn byw o'r podlediad, wedi'i recordio yn Tafwyl 2019, yng nghwmni'r chwiorydd amryddawn o Riwlas, y gantores / cyfansoddwraig, Lleuwen, a'r awdur arobryn, Manon Steffan Ros. Pynciau llosg: Llyfr y Flwyddyn, ysgytlaeth banana, camthreiglo, Caerdydd, Michael Jackson v Morrissey, Bryn Fôn v Huw Chiswell, Oasis v Cole Porter, Ysgol Glanaethwy, chwydu ar athrawon, eisteddfota, ditties, A470, Llyfr Glas Nebo, Olew Olbas, jazz llyfn, Y Lleuanod, Gwn Glan Beibl Budr, dynsbonio, Von Trapps Cymru a mwy.

Podpeth
Podpeth #50 - "Canwr Clwb Y Flwyddyn"

Podpeth

Play Episode Listen Later Nov 14, 2018 30:00


Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod "Be da chi isio?" ac yn dod i'r canlyniad - Syniadau!  Felly, mae @SpursMel yn nol ar y Podpeth gyda SyniaDad newydd - "Canwr Clwb Y Flwyddyn".

iwan hywel felly flwyddyn mae elin podpeth
Beti a'i Phobol
Sarah Reynolds

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Sep 30, 2018 40:54


Wedi'i geni a'i magu yn Surrey, doedd Sarah Reynolds prin yn ymwybodol o Gymru a'r Gymraeg cyn iddi gwrdd â'i gŵr, Geraint, ar ddêt cudd yn Llundain. Yn byw yng Nghymru erbyn hyn, cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2016. Yn ifanc, ceisiodd wrthryfela trwy fod yn actores, cyn newid trywydd wedi cyfnod o iselder. Mae wedi gweithio yn y cyfryngau, ac yn un o'r criw a oedd yn dyfeisio tasgau ar gyfer preswylwyr tŷ Big Brother, ond fel awdures sy'n magu ei theulu yng Nghymru y mae'n teimlo iddi ddod o hyd i'r lle mae hi’n perthyn.

Sôn am Sîn
Y Sôn #8 - Odd o mor wahanol...?

Sôn am Sîn

Play Episode Listen Later Aug 29, 2018 48:04


Flwyddyn ar ôl lansio'r podlediad... mae Chris a Geth yn ôl lle 'naethon nhw ddechrau, yn sôn am y 'Steddfod. Ond, am y tro cynta' erioed, ma 'na gyfweliadau arbennig hefo Mellt, Yr Eira, Alffa a'r Ods! Hefyd - maen nhw'n trafod albwm newydd Geraint Jarman a gwaith celf! (Pennod 8)

ond ods geth pennod hefyd flwyddyn geraint jarman
Clera
Clera Mai 2018

Clera

Play Episode Listen Later May 25, 2018 74:12


Pennod wirioneddol lawn dop! Y mis hyn rydyn ni'n clywed gan un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn, Beti George, yn holi'r Prifardd Alan LLwyd, yn cael cerdd newydd sbon yn Yr Orffwysfa gan y Prifardd a'r Bardd Cenedlaethol Ifor ap Glyn, hefyd yn holi Elis Dafydd am waddol Gwyn Thomas, heb son am bos Griffin a'i Ymennyn Miniog, llinell gynganeddol y mis, hanes cyfrol dobarth barddoni Idris Reynolds a llawer mwy! Diolch i Betsan Haf Evans (cwmni Celf Calon) am y llun o Alan Llwyd sydd ar glawr y bennod.

diolch pennod flwyddyn llyfr beti george elis dafydd
Beti a'i Phobol
Manon Steffan Ros

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 28, 2018 44:54


Ganed Manon Steffan ym mhentref Rhiwlas ger Bangor a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Rhiwlas ac yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Fe enillodd hi Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwy flynedd yn olynol, yn 2005 ac yn 2006. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Fel Aderyn, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010, ac fe ddaeth Manon i'r brig yn y gystadleuaeth yn 2013 gan ennill y categori ffuglen orau gyda'i nofel Blasu. Enillodd Wobr Tir na n-Og hefyd yn 2010 am y nofel Trwy'r Tonnau, ac unwaith eto yn 2012 gyda Prism. Mae Manon hefyd yn gerddor ac aelod o'r grŵp Blodau Gwyllt, ac mae'n byw yn Nhywyn gyda'i meibion.

Clera
Clera Tachwedd 2017

Clera

Play Episode Listen Later Nov 24, 2017 59:04


Pennod lawn dop arall, o Lyfr y Flwyddyn, i daith Cywion Cranogwen, hanes teithjiau Aneurig i India a Llydaw, Cerdd newydd sbon yr Orffwysfa gan y Prifardd Emyr Lewis, Pos Gruffudd a'i ymennydd miniog, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a llawer mwy!

mis pennod flwyddyn tachwedd
Pethe
Pethe 26 - Categori Barddoniaeth, Llyfr Y Flwyddyn 2014

Pethe

Play Episode Listen Later Jun 26, 2014 28:10


Ifor ap Glyn sy'n trafod y llyfrau yng nghategori barddoniaeth Llyfr Y Flwyddyn 2014 gyda Gwion Hallam yn ein podlediad diweddaraf

ifor flwyddyn llyfr
Pethe
Pethe 25 - Categori Ffuglen, Llyfr Y Flwyddyn 2014

Pethe

Play Episode Listen Later Jun 5, 2014 29:18


Menna Machreth a Non Tudur sy'n trafod y llyfrau yng nghategori ffuglen Llyfr Y Flwyddyn 2014 gyda Gwion Hallam yn y podlediad yma.

flwyddyn llyfr menna machreth
Pethe
Pethe 24 - Categori Ffeithiol Greadigol, Llyfr y Flwyddyn 2014

Pethe

Play Episode Listen Later May 28, 2014 31:21


Gwion Hallam fuodd yn trafod llyfrau yng nghategori Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2014 gyda Emyr Gruffudd a Meg Elis.

flwyddyn llyfr
Pethe
Pethe 13 - Categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn

Pethe

Play Episode Listen Later Jul 16, 2013 33:51


Nici Beech ac Ifor ap Glyn sy'n ymuno gyda Gwion Hallam ar gyfer trafod categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2013, sef Trydar Mewn Trawiadau gan Llion Jones, Parlwr Bach gan Eigra Lewis Roberts ac O Annwn i Geltia gan Aneirin Karadog.

ifor flwyddyn llyfr
Pethe
Pethe 11 - Categori Ffuglen Llyfr y Flwyddyn

Pethe

Play Episode Listen Later Jul 15, 2013 22:09


Gwion Hallam sy’n holi Eirian (Palas Print) James a Rhian George am y nofel Blasu gan Manon Steffan Ros, y nofel Ras Olaf Harri Selwyn gan Tony Bianchi a’r nofel Cig a Gwaed gan Dewi Prysor.

books cig cymru cymraeg welsh language flwyddyn llyfr llyfrau tony bianchi cwmni da
Pethe
Pethe 12 - Categori Ffeithiol Llyfr y Flwyddyn

Pethe

Play Episode Listen Later Jul 12, 2013 22:53


Meg Elis a Non Tudur sy’n trafod y llyfrau ar y rhestr ffeithiol hefo Gwion Hallam. Beth fydd eu barn am Cofnodion gan Meic Stephens, Yr Erlid gan Heini Gruffudd, a Tuchan o Flaen Duw gan Aled Jones Williams?

books cymru cymraeg welsh language flwyddyn llyfr llyfrau cwmni da
Pethe
Pethe 07 - Llyfr y Flwyddyn

Pethe

Play Episode Listen Later May 15, 2013 13:44


Ar ddiwrnod cyhoeddi rhestr fer gwobr llyfr y flwyddyn 2013 fe aeth Gwion Hallam draw i siop Palas Print, Caernarfon i gael ymateb dau sydd â diddordeb mawr yn y dewis o naw llyfr. Ym mhodlediad Pethe yr wythnos yma cawn ymateb perchennog y siop Eirian James i ddewis y beirniaid eleni, yn ogystal ag ymateb cynhyrchydd rhaglen arbennig ar y wobr eleni, Emyr Gruffudd.

ym cymraeg caernarfon flwyddyn llyfr llyfrau