POPULARITY
Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn y fraint o sgwrsio gyda Phrifardd y Goron, Gwynfor Dafydd, i drafod pob math o bethau am y byd barddol, gan gynnwys ei gerddi gwych a gipiodd Goron yr Hen Bont iddo. Cawn hefyd gerdd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn, Mari George, o'i phamffled newydd hi o gerddi. Cawn hefyd gwmni sawl un arall gan gynnwys, Elinor Wyn Reynolds, Jo Heyde, Tudur Dylan a Gruffudd Antur. Mae gennych hefyd gyfle i gefnogi clera yn ariannol os ydych chi'n mwynhau'r podlediad. Cliciwch ar y linc: https://www.crowdfunder.co.uk/p/podlediad-clera
Llongyfarchiadau Bethan Gwanas ar ennill Gwobr Mary Vaughan Jones 2024, sydd yn dathlu cyfraniad arbennig at lenyddiaeth i blant a phobl ifanc.Trafod darllen llyfrau ar yr amser cywir, beth mae tylluanod yn ei wybod, cerddoriaeth a chyfrolau, a lansiad llyfr sy'n cynnwys stripper.Mae hwn i fod yn bodlediad am lyfrau!Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:Y Daith ydi Adra - John Sam Jones (cyfieithad Sian Northey)Tell Me Who I Am - Georgia RuthDog Days - Ericka WalkerY Morfarch Arian - Eurgain HafLwmp - Rhian Wyn GriffithsY Fran Glocwaith - Catherine Fisher (cyf. Mared Llwyd)Nightshade Mother - Gwyneth Lewis Ystorïau Bohemia - amrywiol, cyf. T H Parry-WilliamsPen-blwydd Hapus - Ffion EmlynClear - Carys DaviesTywyllwch y Fflamau - Alun DaviesY Twrch Trwyth - Alun DaviesGwaddol - Rhian Cadwaladr.Oedolyn-ish - Mel OwenThe Rhys Davies Short Story Award AnthologyMartha Jac a Sianco - Caryl Lewis
Llyfr newydd Bethan Gwanas, trafod meddiannu diwylliannol (cultural appropriation), a ble mae'r lle gorau i wrando ar bodlediad Colli'r Plot?Ymddiheuriadau Heledd Cynwal!Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:The Glutton - A.K BlakemoreYsgrifau Llenorion - gol. John Lasarus WilliamsThe Story Spinner - Barbara ErskineHi-Hon - gol. Catrin Beard ac Esyllt Angharad LewisNice Racism - Robin DiangeloTadwlad - Ioan KiddSunset - Jessie CaveThe Satanic Mechanic – Sally AndrewY Morfarch Arian - Eurgain HafThe Hoarder - Jess KiddMadws - Sioned Wyn RobertsThe Trees - Percival EverrettAr Amrantiad - Gol Gareth Evans-JonesCysgod y Mabinogi - Peredur Glyn
Croeso i bennod Mis Mehefin o bodlediad barddol Clera. Y Mis hwn, Elinor Wyn Reynolds sy'n tafoli cyfrolau barddol Llyfr y Flwyddyn ac yn rhoi ei phen ar y bloc. Ond pa gyfrol mae Elinor yn tybio ddylsai ennill o blith y tair cyfrol wych sy'n y categori barddol eleni? Gwrandwch i gael gwybod. Cawn hefyd gerdd gan yr hyfryd Jo Heyde sydd wedi cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o gerddi drwy Gyhoeddiadau'r Stamp. Mynnwch gopi! Hyn oll a mwy!
Mae criw Colli'r Plot wedi colli'r plot!Trafod bob dim dan haul yn cynnwys Eisteddfod yr Urdd, Gŵyl Y Gelli, a llyfrau (ond dim gymaint ag arfer).Dafydd yn datgelu ei hoffter am gofleidio coed ac yn ddatgelu noddwr newydd Colli'r Plot.Rhowch gwtsh i goeden.Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:Trigo - Aled EmyrHomegoing - Yaa GyasiThe Wall – Marlen Haushofer (cyfieithiad Shaun Whiteside)Tir y Dyneddon - E. Tegla DaviesYellowface - Rebecca F. KuangArwana Swtan a'r Sgodyn Od - Angie Roberts a Dyfan RobertsCamu - Iola YnyrDemon Copperhead - Barbara KingsolverHow to Read A Tree - Tristan Gooley
Hawddamor, glwysgor glasgoed! Croeso i bennod Mis Mai o bodlediad Clera. Yn hoff fis Dafydd ap Gwilym cawn drafod llawysgrif newydd y mae'r Llyfrgell genedlaethol newydd ei brynu, Llyfr y Flwyddyn 2024, Eisteddfodau yr Urdd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam ac fe gawn hefyd gerddi gan Aron Pritchard ac Aled Lewis Evans. Hyn oll, a mwy!
Mae 'na wledd o lyfrau yn Colli'r Plot Tachwedd. Trafod y Rhinoseros yn yr ystafell, canmoliaeth ar gyfer Sut i Ddofi Corryn a beth yw pwrpas lansiad llyfr?Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:The Warehouse - Rob HartDros fy mhen a 'nglustia - Marlyn SamuelThe Year of Yes - Shonda RhimesThe Darkness - Ragnar JónassonThe Mist - Ragnar JónassonTom's Midnight Garden - Philippa PearceGwreiddio - straeon byrion - amrywiol awduronCoblyn o Sioe - Myfanwy Alexander Bullet in the brain - Tobias Wolff (stori fer)I am Pilgrim - Terry Hayes.The Martian Chronicles & Dandelion Wine - Ray BradburySut i Ddofi Corryn - Mari GeorgeHiwmor Tri Chardi Llengar - Geraint H. JenkinsUnruly - David MitchellThe Sanatorium - Sarah PearsePryfed Undydd - Andrew TeiloO Glust i Glust - Llwyd OwenDarogan - Siân LlywelynIsaac and the egg - Bobby PalmerWelsh Rugby: What Went Wrong - Seimon WilliamsHow to Win Friends and Influence People - Dale CarnegieCyfres Rwdlan - Angharad Tomos
Croeso i'r bennod swmpusaf erioed o bodlediad Clera! Yn ogystal â thrin a thrafod y cyfnod hynod brysur sydd ar ein gwarthaf yn y byd barddol, a llongyfarch aml i fardd ar eu lwyddiannau, cawn orffwysgerdd yn egsliwsif gan fardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd, Tegwen Bruce-Deans. Cawn farn Jo Heyde hefyd ar lyfrau'r categori barddol yn Llyfr y Flwyddyn 2023 a llawer mwy.
Beti George yn sgwrsio gyda'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi ysgrifennu pedair nofel ac wedi ennill gwobr Tir na n-Og a Llyfr y Flwyddyn i bobol ifanc, ac yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad gydag anabledd ac yn gwisgo coesau prosthetig yn union fel mae merch yr awdur. Mae hi hefyd yn Weinydd Dyneiddiol ac yn rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.
01. Beti – Laura Karadog Clip o Beti a'i Phobol ddydd Sul diwetha, a Laura Karadog oedd gwestai Beti. Yn y clip hwn mae Laura'n sôn am yr amser buodd hi'n gweithio yn San Steffan fel profiad gwaith yn rhan o gwrs gradd mewn gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth. Fel gwnawn ni glywed cafodd hi brofiadau diddorol iawn yno…. San Steffan Westminster Gradd mewn gwleidyddiaeth A politics degree Breintiedig Privileged Yn rheolaidd Regularly Erchyll Awful Hurt Stupid Dinistrio bywydau Destroying lives Diniwed Innocent Grym Power Tu hwnt Beyond Heb os Without doubt 02. Bore Cothi – Rhona Duncan Ychydig o hanes diddorol Laura Karadog yn fan'na ar Beti a'i Phobol. Oes planhigion gyda chi yn y tŷ? Dych chi'n poeni fyddan nhw'n para dros y gaeaf? Os felly dylai'r tips glywon ni ar Bore Cothi fod o ddiddordeb mawr i chi. Rhona Duncan, sy'n rhedeg siop blanhigion yng Nghaerdydd, fuodd yn rhoi cynghorion ar sut i ofalu am blanhigion suddlon... Planhigion suddlon Succulent plants hinsawdd cras An arid climate Dail Leaves Mo'yn Eisiau Gofod Space Hyd oes Lifespan Enfawr Huge 03. Cofio – Bryn Terfel Rhona Duncan oedd honna ac mae hi'n amlwg yn caru planhigion suddlon! Canu a Byd y Gân oedd thema Cofio wythnos diwetha. Dyma i chi glip o Bryn Terfel yn sgwrsio gyda Beti George yn ôl yn 1995 ac yn sôn am weithio gyda chantorion enwog ac yn sôn am sut mae hynny wedi effeithio ar ei ddiddordeb mewn gwin… Cantorion Singers Arweinyddion Conductors Cig eidion Beef Rhyngddon ni Between ourselves 04. Shelley a Rhydian yn holi Dan Lloyd Tenoriaid ‘tempremental', gwin a bwyd da – dyna i chi flas ar fywyd seren y byd opera yn fan'na ar Cofio. Daniel Lloyd oedd y gwestai cyntaf i ateb Ho Ho Holiadur y Sioe Sadwrn gyda Shelley a Rhydian, ond cyn iddo fe wneud hynny, holodd Shelley Dan am ei waith ar un o ffilmiau'r Muppets.. O nerth i nerth From strength to strength Barf/Locsyn Beard Aled Hughes – Carys Eleri Daniel Lloyd oedd hwnna'n sôn am ei ran e yn un o ffilmaiu'r Muppets. Dych chi wedi meddwl beth i'w gael yn anrheg Nadolig i rywun, wel mae hi wastad yn braf cael llyfr newydd on'd yw hi? Wel beth am lyfr newydd gan yr actores a'r gomedïwraig Carys Eleri ‘Dod nôl at fy nghoed'. Llyfr ydy hwn ble mae Carys yn sôn am rai o'r digwyddiadau sy wedi newid ei ffordd o feddwl a'i ffordd o fyw. Un o'r digwyddiadau hynny oedd marwolaeth ei thad ac yn y clip yma mae Carys yn sôn wrth Aled Hughes am daith beics o Lundain i Baris aeth hi a'i chwaer Nia arni ychydig wythnosau ar ôl iddyn nhw golli eu tad. Dameg Parable Ffili Methu Sa i'n gwybod Dw i ddim yn gwybod Angladd Funeral Dim lot o glem Not much of an idea Nunlle Nowhere Pennod Chapter Galar Grief Datgelu To reveal Tanwen Cray - Gucci Ac os dych chi eisiau gwybod sut aeth y daith beics – prynwch y llyfr! Ar raglen Aled Hughes ddydd Llun cafodd Aled gwmni'r hanesydd ffasiwn Tanwen Cray, a soniodd Tanwen am y ffilm ‘House of Gucci' sydd yn y sinemâu ar hyn o bryd. Ond, oeddech chi'n gwybod bod yna Gymraes o Groesoswallt wedi prodi un o'r Guccis, sef un o deuluoedd mawr y byd ffasiwn? Olwen Price Gucci oedd hi a dyma Tanwen yn dweud yr hanes wrth Aled. Croesowallt Oswestry Sefydlu To establish Sylfaenydd Founder Menyw Dynes Y tîm cynhyrchu The production team Yn gysylltiedig Connected to Offeiriaid A priest Rhyfeddol Astonishing
Llywelyn ap Gwilym @llcwlg yn trafod ei Lyfr Du, a'r gorymdeithiau annibyniaeth, gyda'r cyflwynydd Siôn Jobbins. Yn Gymraeg. https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781800990401/llyfr-du-cymru-fydd-the-black-book-of-the-new-wales
Mae clwb darllen Manon yn fwy o sgwrs dros baned na chyfweliad arferol. O nofelau dirgelwch i lyfrau hunan-help ac o gylchgronau i Twitter, bydd Manon yn trafod pob math o lenyddiaeth a straeon personol gyda rhai o ddysgwyr mwyaf ysbrydoledig Cymru.
Mae clwb darllen Manon yn fwy o sgwrs dros baned na chyfweliad arferol. O nofelau dirgelwch i lyfrau hunan-help ac o gylchgronau i Twitter, bydd Manon yn trafod pob math o lenyddiaeth a straeon personol gyda rhai o ddysgwyr mwyaf ysbrydoledig Cymru.
Mae clwb darllen Manon yn fwy o sgwrs dros baned na chyfweliad arferol. O nofelau dirgelwch i lyfrau hunan-help ac o gylchgronau i Twitter, bydd Manon yn trafod pob math o lenyddiaeth a straeon personol gyda rhai o ddysgwyr mwyaf ysbrydoledig Cymru.
Duncan Brown, Rhys Evans a Hywel Roberts sy'n trafod pynciau o fyd natur gyda Gerallt Pennant. Llyfr adar mawr y plant Onwy Gower a hanes diweddaraf y Bele Goed yn ardal Pontarfynach ydi rhai o'r pynciau sydd dan sylw.
Mae clwb darllen Manon yn fwy o sgwrs dros baned na chyfweliad arferol. O nofelau dirgelwch i lyfrau hunan-help ac o gylchgronau i Twitter, bydd Manon yn trafod pob math o lenyddiaeth a straeon personol gyda rhai o ddysgwyr mwyaf ysbrydoledig Cymru.
Manon Steffan Ros sy'n cyflwyno podlediad 'Y Clwb Darllen'. Mae clwb darllen Manon yn fwy o sgwrs dros baned na chyfweliad arferol. O nofelau dirgelwch i lyfrau hunan-help ac o gylchgronau i Twitter, bydd Manon yn trafod pob math o lenyddiaeth a straeon personol gyda rhai o ddysgwyr mwyaf ysbrydoledig Cymru.
Mae clwb darllen Manon yn fwy o sgwrs dros baned na chyfweliad arferol. O nofelau dirgelwch i lyfrau hunan-help ac o gylchgronau i Twitter, bydd Manon yn trafod pob math o lenyddiaeth a straeon personol gyda rhai o ddysgwyr mwyaf ysbrydoledig Cymru.
Mae clwb darllen Manon yn fwy o sgwrs dros baned na chyfweliad arferol. O nofelau dirgelwch i lyfrau hunan-help ac o gylchgronau i Twitter, bydd Manon yn trafod pob math o lenyddiaeth a straeon personol gyda rhai o ddysgwyr mwyaf ysbrydoledig Cymru.
Fersiwn byw o'r podlediad, wedi'i recordio yn Tafwyl 2019, yng nghwmni'r chwiorydd amryddawn o Riwlas, y gantores / cyfansoddwraig, Lleuwen, a'r awdur arobryn, Manon Steffan Ros. Pynciau llosg: Llyfr y Flwyddyn, ysgytlaeth banana, camthreiglo, Caerdydd, Michael Jackson v Morrissey, Bryn Fôn v Huw Chiswell, Oasis v Cole Porter, Ysgol Glanaethwy, chwydu ar athrawon, eisteddfota, ditties, A470, Llyfr Glas Nebo, Olew Olbas, jazz llyfn, Y Lleuanod, Gwn Glan Beibl Budr, dynsbonio, Von Trapps Cymru a mwy.
Trafodaeth am gyfrol ddiweddaraf Manon Steffan Ros a ennillodd y Fedal Ryddiaeth eleni.
Post eisteddfod blues? Deifiwch mewn i bennod diweddaraf yr Haclediad i glywed mwy o Bryn blin ar e-lyfrau, Iest yn gadael y nest a Sioned yn ffrîcio allan bod Lin-Manuel Miranda yn Nghymru. Hefyd gwefan newydd ‘Y Pod’, planhigion vs anifeiliaid a llwyth o tech a bywyd ar eich hoff podcast niche am alcohol a wifi.
Pennod wirioneddol lawn dop! Y mis hyn rydyn ni'n clywed gan un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn, Beti George, yn holi'r Prifardd Alan LLwyd, yn cael cerdd newydd sbon yn Yr Orffwysfa gan y Prifardd a'r Bardd Cenedlaethol Ifor ap Glyn, hefyd yn holi Elis Dafydd am waddol Gwyn Thomas, heb son am bos Griffin a'i Ymennyn Miniog, llinell gynganeddol y mis, hanes cyfrol dobarth barddoni Idris Reynolds a llawer mwy! Diolch i Betsan Haf Evans (cwmni Celf Calon) am y llun o Alan Llwyd sydd ar glawr y bennod.
Ganed Manon Steffan ym mhentref Rhiwlas ger Bangor a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Rhiwlas ac yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Fe enillodd hi Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwy flynedd yn olynol, yn 2005 ac yn 2006. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Fel Aderyn, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010, ac fe ddaeth Manon i'r brig yn y gystadleuaeth yn 2013 gan ennill y categori ffuglen orau gyda'i nofel Blasu. Enillodd Wobr Tir na n-Og hefyd yn 2010 am y nofel Trwy'r Tonnau, ac unwaith eto yn 2012 gyda Prism. Mae Manon hefyd yn gerddor ac aelod o'r grŵp Blodau Gwyllt, ac mae'n byw yn Nhywyn gyda'i meibion.
Ifor ap Glyn sy'n trafod y llyfrau yng nghategori barddoniaeth Llyfr Y Flwyddyn 2014 gyda Gwion Hallam yn ein podlediad diweddaraf
Menna Machreth a Non Tudur sy'n trafod y llyfrau yng nghategori ffuglen Llyfr Y Flwyddyn 2014 gyda Gwion Hallam yn y podlediad yma.
Gwion Hallam fuodd yn trafod llyfrau yng nghategori Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2014 gyda Emyr Gruffudd a Meg Elis.
Nici Beech ac Ifor ap Glyn sy'n ymuno gyda Gwion Hallam ar gyfer trafod categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2013, sef Trydar Mewn Trawiadau gan Llion Jones, Parlwr Bach gan Eigra Lewis Roberts ac O Annwn i Geltia gan Aneirin Karadog.
Gwion Hallam sy’n holi Eirian (Palas Print) James a Rhian George am y nofel Blasu gan Manon Steffan Ros, y nofel Ras Olaf Harri Selwyn gan Tony Bianchi a’r nofel Cig a Gwaed gan Dewi Prysor.
Meg Elis a Non Tudur sy’n trafod y llyfrau ar y rhestr ffeithiol hefo Gwion Hallam. Beth fydd eu barn am Cofnodion gan Meic Stephens, Yr Erlid gan Heini Gruffudd, a Tuchan o Flaen Duw gan Aled Jones Williams?
Ar ddiwrnod cyhoeddi rhestr fer gwobr llyfr y flwyddyn 2013 fe aeth Gwion Hallam draw i siop Palas Print, Caernarfon i gael ymateb dau sydd â diddordeb mawr yn y dewis o naw llyfr. Ym mhodlediad Pethe yr wythnos yma cawn ymateb perchennog y siop Eirian James i ddewis y beirniaid eleni, yn ogystal ag ymateb cynhyrchydd rhaglen arbennig ar y wobr eleni, Emyr Gruffudd.
Gwyliwch, gwrandewch a darllenwch drwy’r stori hon am Bentre Bach sy’n seiliedig ar Siani Flewog.
Pregeth Wyn Jones - Darganfod Tachwedd 2011