POPULARITY
Ryan Rowe Gwestai Angharad yn y bennod hon yw Ryan Rowe. Magwyd Ryan yn Peterborough yn Lloegr. Symudodd i'r brif ddinas er mwyn astudio daeareg yn y brifysgol. Erbyn hyn mae'n gyd-berchennog siop gacennau ym Mharc Fictoria. Penderfynodd ddysgu'r Gymraeg er mwyn siarad â chwsmeriaid ei siop yn Gymraeg. Eleni, cyrhaeddodd rownd gynderfynol ar raglen deledu Y Llais. Dyma ei brofiad cyntaf o ganu'n fyw yn y Gymraeg. Geirfa ar gyfer y bennod. Daeareg-geology Uniaethu- to relate Cyfarchiad- greeting Awyddus- eager/ keen Danteithion- delicacies Cofiadwy-memorable Ail alwadau- second calling Clyweliadau cudd- masked audition
gyda Huw Birkhead a Neil Williams.
Gareth Hallet Davis yw gwestai Beti George. Fe ddaw yn wreiddiol o bentref bach Pant y Brad, sydd rhwng Tonyrefail a Llantrisant. Mae wedi treulio 20 mlynedd yn teithio'r byd gan iddo weithio i gwmni Americanaidd oedd yn cynhyrchu rhaglenni teithio. Mae wedi hwylio'r afon Nîl dair gwaith ac wedi cysgu allan yn yr anialwch yng ngwlad yr Iorddonen.Ar ôl ymweliad â'r Tŷ Gwyn yn Washington fe benderfynodd ddod i wybod mwy am hanes gogledd America a'r Unol Daleithiau a gwneud ei radd doethuriaeth yn y pwnc. Erbyn hyn mae'n byw yn y byd academaidd, yn aelod o staff adran Hanes Prifysgol Abertawe ar Coleg Cymraeg.
Megan Williams sy'n trafod yr adroddiad gyda Dirprwy Lywydd NFU Cymru, Paul Williams.
Celf yw diddordeb ein gwestai Annie Morgan Suganami, a hynny ers yn blentyn bach - ond fe aeth hi i'r Academi Frenhinol yn Llundain yn 15 mlwydd oed i gael ei hyfforddi i chwarae'r ffliwt, a dyna oedd yr offeryn roddodd fywoliaeth iddi a hynny fwy neu lai ar draws y byd.Yna yn 60 mlwydd oed penderfynodd wireddu breuddwyd a mynd nôl i'r coleg a chael gradd mewn celfyddyd gain. Erbyn hyn mae hi'n artist adnabyddus ac wrth galon ei gwaith mae portreadau urddasol a chynnes o fenywod hŷn. Fe ddaw yn wreiddiol o bentref Dolau ger Aberystwyth. Mae hi'n trafod ADHD, ac yn sôn ei bod hi ar y sbectrwm yma a nifer o'r teulu ac yn ei gwneud yn berson creadigol a phenderfynol. Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis 4 cân yn cynnwys un o ganeuon Cusan Tân, grŵp y bu hi'n rhan ohono sydd wedi ail ffurfio yn ddiweddar ar ôl 25 mlynedd o seibiant.
gyda Huw Birkhead a Neil Williams.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.Gwestai Angharad yn y bennod yma ydy Kevin Davies. Cafodd Kevin ei fagu yn Ninbych y Pysgod yn Sir Benfro. Ar ôl treulio cyfnod yn y fyddin ac yn gweithio dramor, dychwelodd i Gymru. Wedi iddo ymddeol yn 2022 penderfynodd fynd ati i ddysgu'r Gymraeg. Erbyn hyn, mae'n byw ym mhentref Trefgarnowen, Sir Benfro ac yn defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol yn ei ardal. Ers llynedd, mae wedi bod yn gwirfoddoli ar bwyllgor lleol Eisteddfod y Garreg Las ac wedi bod yn rhan ganolog o'r ymgyrch i godi arian tuag at yr Eisteddfod ym mis Awst.Geirfa ar gyfer y bennod:-anogaeth - encouragement crwt - bachgen bach ysu - to crave/yearn cywilydd - shame hiraeth - longing/ homesickness dyhead - aspiration/desire ysfa - desire/craving diwyd - diligent amhrisiadwy - priceless ymroi - to commit/devote oneself
Y CHWIBAN TERFYNOL | Wrecsam yn erbyn Chelsea by Wrexham_AFC
gyda Huw Birkhead a Neil Williams
gyda Huw Birkhead a Neil Williams
Nick, Gareth a Dafydd sy'n trafod colled penwythnos diwethaf ond perfformuad da gyda'r tîm dan 20. A fydd newidiadau i'r tîm yn arwain at lwyddiant yn erbyn Yr Alban? #RygbiCymru #Rygbi #WRU #DysguCymraeg Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
gyda Neil Williams.
gyda Huw Birkhead a Neil Williams.
gyda Huw Birkhead.
gyda Huw Birkhead i Neil Williams.
gyda Huw Birkhead.
gyda Huw Birkhead a Neil Williams.
gyda Neil Williams.
gyda Huw Birkhead.
gyda Huw Birkhead.
gyda Huw Birkhead.
Andrew, Dafydd, Nick a Carwyn sy'n edrych yn ôl ar fuddigoliaeth cyntaf Cymru yng Nghaerdydd ers dros 800 diwrnod ac yn trafod be yw'r gobeithion wrth i'r crysau duon gyrraedd #RygbiCymru #CymvSNW #WalvNZL Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
gyda Huw Birkhead.
gyda Huw Birkhead a Liam Stokes-Massey
gyda Huw Birkhead.
Wedi'r wers bêl-droed yn Wembley nos Iau, lle mae hyn yn gadael tîm Craig Bellamy, sydd yn wynebu her arall enfawr nos Lun - yn erbyn Gwlad Belg, un o gewri pêl-droed y byd - mewn gêm y mae'n rhaid ei hennill os oes unrhyw obaith o orffen ar frig y grŵp ac ennill lle yn Nghwpan y Byd 2026. Hefyd, pwt o werthfawrogiad i'r capten Ben Davies, fydd yn cyrraedd ei 100fed cap dros Gymru nos Lun.
gyda Huw Birkhead.
gyda Huw Birkhead.
gyda Neil Williams
Y CHWIBAN TERFYNOL Wrecsam yn erbyn WBA by Wrexham_AFC
Beti George sydd yn holi'r actores a'r hyfforddwraig yoga Leisa Mererid.Mae'n disgrifio ei phlentyntod fel hogan fferm ym mhentref Betws Gwerfyl Goch fel un 'eidylig' ac roedd yn treulio ei hamser sbâr i gyd allan yn chwarae.Astudiodd Ddrama yn Ysgol Theatr Fetropolitan Manceinion lle enillodd radd mewn actio, cyn hyfforddi ymhellach yn Ysgol Ryngwladol Meim, Theatr a Symudiad Jacques LeCoq ym Mharis.Bu'n byw yn Lesotho am gyfnod yn gwirfoddoli mewn cartref i blant amddifad .Roedd yn aros mewn pentref bach yng nghanol unman yn y mynyddoedd. Dywed fod y profiad yma yn bendant wedi ei siapio hi fel person.Mae Leisa wedi gweithio'n helaeth ym maes Theatr a theledu. Ymddangosodd yn chwe chyfres Amdani. Yn 2002 chwaraeodd rôl Edith yn y ffilm Eldra. Yn 2002 hefyd cychywnodd ei rhan fel Joyce Jones yn y gyfres ddrama Tipyn o Stad. Bu'n gweithio hefyd gyda chwmni theatr Oily Cart, cwmni sydd yn arloesi mewn gweithio yn aml synhwyrol. Ma' nhw yn cyfeirio at eu hunain fel pob math o theatr ar gyfer pob math o bobl. Maen nhw yn gweithio efo babanod, plant, a phobl efo anghenion dwys.Mae Leisa wedi rhyddhau dau lyfr i blant, Y Goeden Yoga yn 2019 a'r Wariar Bach yn 2021.Erbyn hyn, mae Leisa hefyd wedi cychwyn ei busnes ‘Gongoneddus' – sydd yn cynnal sesiynau trochfa gong.Mae hi'n Fam brysur ac yn magu 3 o blant, Martha, Mabon ac Efan.
gyda Neil Williams.
gyda Neil Williams a Huw Birkhead.
gyda Huw Birkhead a Neil Williams
gyda Neil Williams a Huw Birkhead.
gyda Neil Williams a Huw Birkhead
gyda Neil Williams.
gyda Neil Williams a Huw Birkhead
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Alanna Pennar Davies.Cerddor llawrydd yw Alanna Pennar Davies. Yn wreiddiol o dref Sterling yr Alban, mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Dechreuodd ddysgu'r Gymraeg o ddifri yn 2020 yn ystod y cyfnod clo. Cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2024. Erbyn mae hi wedi sefydlu cwmni creu adnoddau i ddysgwyr sef Pennarbapur
gyda Neil Williams a Huw Birkhead.
Saesnes yw Judi a gafodd ei magu yn Lloegr. Cwrdd â Chymro di-Gymraeg a'i denodd hi i ymgartrefu yn Aberdâr. Wedi iddi ymddeol yn gynnar o'i swydd fel athrawes, penderfynodd ymuno â Chwrs Dwys, Prifysgol De Cymru er mwyn dysgu'r Gymraeg. Erbyn hyn, mae hi'n fam-gu ac yn defnyddio'r Gymraeg gyda'r wyrion ac yn gwirfoddoli gyda maes Cymraeg i Oedolion. Mae hi'n aelod o gangen leol Merched y Wawr ac yn gwirfoddoli fel siaradwr rhugl ar gynllun partnera'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae ei brwdfryddedd a'i hangerdd dros y Gymraeg yn heintus.
gyda Neil Williams a Huw Birkhead.
gyda Neil Williams a Huw Birkhead.
Gyda Neil Williams
gyda Huw Birkhead a Neil Williams.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Kierion Lloyd.Cafodd Kierion Lloyd ei eni yn Aberhonddu ond oherwydd gwaith y teulu treuliodd ei blentynod yn byw dramor. Dychwelodd i ardal Wrecsam yn ddeunaw oed. Wedi cyfnod yn teithio yn Seland Newydd, roedd yn benderfynol o fynd ati i ddysgu'r Gymraeg ac i ailgydio yng ngwreiddiau'r teulu. Erbyn hyn, mae'n byw yn Rhosllanerchrugog. Mae ei hoffter a'i ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn allweddol yn ei daith iaith.
gyda Neil Williams a Huw Birkhead
gyda Huw Birkhead a Neil Williams.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Joseff Gnagbo.Ffoadur a wnaeth ffoi o'r Arfordir Ifori yng Ngorllewin Affrica yn 2010 yw Joseff. Yn dilyn rhyddhau cân rap yn annog ei gydwladwyr i wrthsefyll y chwyldro yn ei wlad, daeth yn darged milwrol a bu rhaid iddo ffoi o'r wlad. Bu'n byw ym Morocco am gyfnod cyn ymgeisio am loches ym Mhrydain yn 2017. Wedi iddo gyrraedd Cymru aeth ati'n syth i ddysgu'r Gymraeg. Erbyn hyn, mae'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg fel athro cyflenwi yng Nghaerdydd. Wedi cyfnod yn gwirfoddoli gyda Chymdeithas yr Iaith, cafodd Joseff ei ethol yn Gadeirydd y Gymdeithas, ac mae'n newydd gael ei ail-ethol yn Gadeirydd am dymor arall. Eleni yn y Brifwyl ym Mhontypridd cafodd Joseff ei urddo i'r orsedd am ei gyfraniad i'r Gymraeg.