Podcasts about cafodd

  • 11PODCASTS
  • 92EPISODES
  • 34mAVG DURATION
  • 1MONTHLY NEW EPISODE
  • May 18, 2025LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about cafodd

Latest podcast episodes about cafodd

Beti a'i Phobol
Iona Roberts

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later May 18, 2025 48:51


Iona Roberts, neu Iona Pen Ffridd i bawb sy'n ei hadnabod yw gwestai Beti a'i Phobol.Mae Iona yn ffarmwraig ac yn gadwraethwr, mae'n hyfforddwr yoga, yn gyn warden gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn fam i 3 o blant (Nel, Nedw a Joe) a gwraig i John. Mae hi hefyd yn rhedeg rasys Iorn Man. Ganwyd ar fferm Pen Ffridd, Penmachno (pentref ger Betws y Coed, yn Sir Conwy). Cafodd ei magu gyda'i Nain a'i Thaid a 3 ewythr oedd yn adnabyddus yn yr ardal sef Ifor, Elw a Hyw."Tyfais fyny yma ym Mhen Ffridd, gyda digon o ryddid ac awyr iach, erbyn hyn dwi'n deall pa mor unigryw oedd fy magwraeth erbyn hyn!" Bu'n gweithio yn Llundain am gyfnod gyda chwmni Saatchi and Saatchi ac yn Wimbledon ble daeth ar draws Pat Cash. Ond dychwelyd i ffermio gwnaeth hi i Pen Ffridd, ac mae'n angerddol am amaethu mewn dull cynaliadwy.Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae'n dewis caneuon sydd yn ffefrynnau gan gynnwys Meic Stevens – Gwenllïan. Dyma'r gân oedd yn chwarae pan gerddodd Iona mewn i'r gwasanaeth priodas.

Beti a'i Phobol
Welsh Whisperer - Andrew Walton

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later May 11, 2025 48:56


Y canwr gwlad Andrew Walton o Gwmfelin Mynach yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel y Welsh Whisperer, ac mae'n dathlu 10 mlynedd eleni ers dechrau perfformio. Mi fydd y caneuon 'Ni'n Beilo Nawr' a 'Bois y JCB' yn gyfarwydd i'w ffans.Cafodd ei fagu yng Nghwmfelin Mynach yn Sir Gaerfyrddin. Mae bellach yn byw yng Nghaernarfon, Gwynedd.Graddiodd mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Sheffield , a bu'n athro ysgol gynradd yn y gogledd am sawl blwyddyn, cyn mentro o ddifri i'r byd perfformio.Mae'r Welsh Whisperer bellach yn wyneb cyfarwydd ar y teledu, yn perfformio canu gwlad mewn gwyliau cerddorol ac yn denu niferoedd i neuaddau pentref ar hyd y wlad.Mae'n cyflwyno cyfres o bodlediadau newydd ' Y Byd yn Grwn' sy'n rhoi cipolwg y tu ôl i'r llenni ar glybiau pêl-droed llawr gwlad a'r gwirfoddolwyr allweddol sy'n eu rhedeg.Cawn hanesion difyr ei fywyd, ac mae'n dewis caneuon Gwyddelig ac un gan ei arwr Tecwyn Ifan.

welsh whisperer jcb beti gwynedd andrew walton cawn cafodd nghaernarfon
Beti a'i Phobol
Mandy Watkins

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later May 4, 2025 48:57


Mandy Watkins, cynllunydd cartref a chyflwynwraig ar gyfres S4C Dan Do, Hen Dŷ Newydd a 'BBC Wales' Home of the Year' yw gwestai Beti George.Cafodd ei magu yn y Fali, ar Ynys Môn mewn tŷ o'r enw Graceland, a hynny gan fod ei rhieni yn hoff iawn o'r canwr Elvis, ac mae ganddi atgofion hapus iawn o blentyndod yn gwylio ffilmiau Elvis ar y teledu gyda'i theulu.Doedd bod yn gynllunydd cartrefi ddim yn rhan o'r cynllun gwreiddiol, fe raddiodd mewn cymdeithaseg a busnes ym Mhrifysgol Bangor. Bu'n gweithio gyda chwmni gwerthu gwyliau yng Nghaer a hefyd i gynllunydd cartrefi. Bu'n gweithio gyda Cyngor Cefn Gwlad Cymru am 10 mlynedd ac fe gafodd gyfnod yn labro i'w thad, cyn adnewyddu cartref iddi hi a'i theulu. Mae wedi sefydlu busnes ei hun a'r Ynys Môn, Space Like This.Mae'n trafod cael ei bwlio yn yr ysgol, pwysigrwydd cwnsela a'i chyfnod yn dioddef o bulimia. Mae hi'n Fam i 3, ac yn rhannu straeon ei bywyd prysur ac yn dewis 4 can yn cynnwys un gan Amy Winehouse, Elvis a Bryn Fon.

Beti a'i Phobol
Georgia Ruth

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Feb 16, 2025 50:15


Georgia Ruth, y gantores a'r gyflwynwraig yw gwestai Beti George. Mae wedi rhyddhau 4 albwm, ac yn ystod y cyfnod clo, mi ddechreuodd sgwennu ychydig bob dydd. Mi ddaru hunan gyhoeddi ei nofel gyntaf “Tell Me Who I am”. Cafodd gynnig wedyn i sgwennu yn Gymraeg – Casglu Llwch, sef casgliad o fyfyrdodau ganddi.Roedd llynedd yn dipyn o flwyddyn rhwng popeth! Roedd ganddi albwm allan mis Mehefin. Roedd hi'n cyhoeddi llyfr Saesneg yr un cyfnod ac yn cyhoeddi llyfr Cymraeg mis Tachwedd. A dros yr haf – ar lwyfan Sesiwn Fawr yn Nolgellau - fe aeth Iwan ei gwr yn sâl, roedd bron a gorffen ei set (efo Cowbois) pan gafodd strôc ar y llwyfan. Mae Georgia yn trafod y cyfnod yma, a sut y gwnaeth hi ac Iwan ymdopi.Mae hi'n fam i 3 bellach, recordiwyd y sgwrs cyn genedigaeth Alma Gwen.

iwan cymraeg saesneg mehefin georgia ruth tachwedd cafodd beti george
Glynn Vivian Art Gallery - On Air
Out of this World talk: Chris Parry – The life of Margaret Watts Hughes

Glynn Vivian Art Gallery - On Air

Play Episode Listen Later Nov 20, 2024 52:17


A World of Mystery: the life of Margaret Watts Hughes The name of Margaret Watts Hughes will not be familiar to many, but it certainly should be. A Dowlais born, child vocalist of great fame, who grew to be known across the country for her voice. Fascinated by sound she invented a way of making the human voice visible. To her there was an invisible world of mystery that sound revealed, and she was at the forefront of revealing that world. A selection of Margaret Watts Hughes Voice Figures, chosen by Heather, are currently on display in Room 8 from Cyfarthfa Castle Museum and Art Gallery Collection as part of the Out of this World exhibition. An IWM 14-18 NOW Legacy Fund commission in partnership with Glynn Vivian Art Gallery. Ni fydd enw Margaret Watts Hughes yn gyfarwydd i nifer ohonoch, ond, yn sicr, dylai'r enw fod yn un cyfarwydd iawn. Ganwyd y gantores, a ddaeth i'r amlwg pan oedd hi'n blentyn, yn Nowlais, a daeth yn adnabyddus ar draws y wlad am ei llais. Cafodd ei swyno gan sain, ac roedd hi'n arbrofi gyda sain a dyfeisiodd ffordd o wneud y llais dynol yn weladwy. Iddi hi, roedd byd anweladwy llawn dirgel yr oedd sain yn ei amlygu, ac roedd hi ar flaen y gad o ran datgelu'r byd hwnnw. Mae detholiad o gasgliad Voice Figures Margaret Watts Hughes, a ddewiswyd gan Heather, yn cael ei arddangos yn Ystafell 8 o gasgliad Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa fel rhan o'r Arddangosfa Out of this World.

Beti a'i Phobol
Aled Lewis

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Oct 20, 2024 49:43


Aled Lewis yw gwestai Beti George.Mae'n gynllunydd a saer dodrefn, sydd wedi sefydlu ei fusnes ei hun ers pum mlynedd ar hugain.Cafodd ei fagu ar fferm ger Machynlleth gan ddod dan ddylanwad ei dad - oedd yn grefftwr da.Yn 16 oed fe aeth i Goleg Rycotewood yn Rhydychen i astudio gwaith coed a dylunio dodrefn cyn mynd draw i America i weithio. Mae wedi treulio cyfnod yn Ne Affrica hefyd yn y cyfnod cyn i Apartheid ddod i ben.Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn hwylio.

Beti a'i Phobol
Katie Hall

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Aug 4, 2024 49:37


Y gantores Katie Hall yw gwestai Beti George. Katie yw prif leisydd y band amgen o Bontypridd, CHROMA. Mae'r band wedi profi llwyddiant yn y blynyddoedd diwethaf, gan ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2016, ac ennill lle yn nghynllun Gorwelion y BBC i artistiaid newydd yn 2018, ynghyd â pherfformio mewn gigs a gwyliau ledled Cymru a thu hwnt. Bu'n cefnogi'r Foo Fighters yn ddiweddar ac yn teithio i Dde Korea. Cafodd ei magu yn Aberdâr. Mynychodd ysgol gynradd Aberdâr ac yna ysgol Uwchradd Rhydywaun. Cafodd ddiagnosis o Dyslecsia yn eithaf ifanc., a thrwy gydol ei dyddiau ysgol yn ffodus iawn, cafodd pob cymorth a chefnogaeth.Dewis ar y funud olaf oedd mynd i astudio Cymraeg yng Nghaerdydd, ac y penderfyniad yma oedd yr allwedd i Katie, ac fe wnaeth hynny newid trywydd ei bywyd. Cafodd ei chyflwyno i fandiau newydd Cymraeg gan ei ffrindiau coleg, wnaeth arwain at ddilyn bandiau a gweithio yn Clwb Ifor Bach.Pan ddaeth CHROMA at ei gilydd, fe wnaeth y triawd sgwennu caneuon Saesneg a Chymraeg yn rhannol er mwyn bod yn wahanol i fandiau o'r Cymoedd - a gan eu bod nhw'n gallu.Mae'n rhannu profiadau bywyd yn trafod ei chyfnod yn gweithio mewn canolfan alwadau, cyfansoddi caneuon gwleidyddol a'r dylanwadau eraill sydd wedi ysgogi cerddoriaeth CHROMA, gan gynnwys Cate Le Bon a Gwenno.

bbc pan bu foo fighters chroma cymru cate le bon cymraeg gwenno katie hall saesneg nghaerdydd cymoedd cafodd clwb ifor bach beti george
Beti a'i Phobol
Dan McCallum

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later May 19, 2024 49:51


Dan McCallum Cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Awel Aman Tawe yw Gwestai Beti George. Cafodd ei fagu yn Plymouth yn Lloegr. Roedd ei Dad, Daniel yn dod o Glasgow a'i fam Mari yn dod o'r Betws yn Rhydaman.Mae wedi cymhwyso fel syrfëwr effeithlonrwydd ynni ac mae ganddo radd mewn Hanes Modern o Brifysgol Rhydychen. Ar ôl graddio bu'n gweithio gyda ffoaduriaid yn Sudan ac yn gweithio gyda'r Kwrdiaid yn Iraq ac yn fanno y cafodd flas ar weithio i wella cymunedau.Mae Dan yn siarad Cymraeg a Ffrangeg yn rhugl, a rhywfaint o Arabeg. Cawn hanesion ei fywyd a'r straeon am sefydlu'r elusen yn Dyffryn Aman.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 9fed 2024

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Apr 9, 2024 15:36


Pigion y Dysgwyr - Rosalie Caryl 020224Rosalie Lamburn o Moggerhanger ger Bedford oedd gwestai Caryl nos Fawrth ac roedd Caryl eisiau gwybod mwy am gefndir Rosalie. Cafodd hi ei geni yn Hong Kong ar ddechrau'r rhyfel, cyn symud i fyw i Awstralia a symud wedyn o fanno i Ddeiniolen ger Llanberis. Dyma Rosalie yn dechrau drwy sôn am ei hatgofion o Awstralia. Rhyfel WarAtgofion MemoriesMynyddog MountainousAnferth HugeBobol annwyl Goodness me Llong ShipGrawnwin Grapes Pigion y Dysgwyr – Magnets Oergell Aled Hughes 030424Rosalie Lamburn oedd honna'n sôn am ei phrofiad yn symud i Gymru o Awstralia pan oedd hi'n chwech oed. Dych chi'n un o ‘r rhai sy'n hoff o brynu magnet i roi ar y ffrij, neu'r oergell, pan dych chi ar wyliau? Wel mae'n ffordd dda o gofio am y gwyliau ymhen blynyddoedd wedyn on'd yw e? Mae Lowri Mair Williams newydd fod yn teithio am 5 mis yn Asia ac fel cawn ni glywed, mae casglu magnetau yn rhan bwysig o'i gwyliau iddi hi...Traddodiad TraditionCelf ArtLlawn bwrlwm BuzzingCynnyrch lleol Local producePwytho â llaw HandstitchedPren Wood Cysylltiad ConnectionAtyniad AttractionPigion y Dysgwyr – Clare Mackintosh Dros Ginio 02.04.24Faint o le sydd ar ffrij Lowri erbyn hyn tybed i gadw'r holl fagnetau na? Mae'r awdures Clare Mackintosh, sy'n byw yn y Bala, wedi cyhoeddi ei llyfr diweddara. Fel arfer basen ni'n cysylltu ei llyfrau hi â ffuglen a throsedd, ac mae ei llyfrau wedi gwerthu dros 2 filiwn ar draws y byd. Mae ei llyfr diweddara yn wahanol iawn i'r lleill ac yn sôn am ei phrofiad personol hi o alar…Ffuglen a throsedd Fiction and crimeDiweddara Most recentGalar GriefDynes MenywCennin Pedr DaffodilsAmser maith yn ôl A long time agoYn union ExactlyPigion y Dysgwyr – Cerys Hafana Beti a'i Phobol 070404A dw i'n siŵr bydd llyfr diweddara Claire yn gysur ac yn gymorth i rai eraill sy'n galaru ar ôl colli rhywun agos. Tair perfformwraig sydd i'w clywed yn y tri chlip nesa ‘ma gan ddechrau gyda'r delynores ifanc, Cerys Hafana, oedd yn westai ar Beti a'i Phobol ddydd Sul, Dim ond 22 oed ydy hi ac mae hi'n berfformwraig boblogaidd iawn oherwydd ei harddull arbennig yn canu'r delyn. Cafodd hi ei geni yn Chorlton, Manceinion ac yma mae hi'n sôn am hanes ei theulu….Cysur ComfortTelynores HarpistArddull StyleChwarelwyr QuarrymenDychwelyd To returnCwympo To fall Pigion y Dysgwyr – Golden Oldies Bore Cothi 020404Ac mae Cerys yn perfformio mewn sawl lleoliad yng Nghymru rhwng nawr a'r haf – cerwch i'w gweld os cewch chi gyfle, mae'n delynores arbennig iawn. Buodd Shelley Morris o Faenclochog yn Sir Benfro yn sôn am brosiect arbennig sef y Golden Oldies ar Bore Cothi. Cynllun ydy hwn drwy Gymru sy'n cynnig siawns i rai ddod at ei gilydd i fwynhau a chael cyfle i ganu pob math o ganeuon, nid fel côr, ond yn fwy hamddenol. Ond mae Shelley yn berfformwaig ei hunan hefyd, a dyma hi'n sôn wrth Shan Cothi am ei phrofiad hi o berfformio ar lwyfannau enwog iawn...Hamddenol Leisurely Profiad Experience Llwyfannau Stages Nefoedd annwyl Good HeavensPigion y Dysgwyr – Connie Orff Caryl 030204Wel pob lwc i'r Golden Oldies on'd ife? Mae'n swnio'n brosiect diddorol a hwyliog iawn. Ac yn ola, y frenhines drag, Connie Orff, gafodd sgwrs gyda Caryl i sôn am beth sy'n gwneud perfformiad drag llwyddiannus … Dylanwadau InfluencesUniaethu fel To identify asFfraeth WittyIsraddol InferiorCaniatáu To permit

Beti a'i Phobol
Y Parchedicaf Andy John Archesgob Cymru

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Mar 31, 2024 50:08


Y Parchedicaf Andy John, Archesgob Cymru ac Esgob Bangor yw gwestai Beti George. Yn ogystal â phregethu mewn eglwysi, yn ei ieuenctid yn Aberystwyth roedd yn chwarae'r gitâr mewn band roc, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth byw ac yn hoff o'r grŵp Rush, Led Zepplin ac Elin Fflur.Mae ei Fam yn Kiwi. Cafodd ei magu yn Wellington yn Seland Newydd. Roedd ei Dad yn dysgu yn y Sorbonne ym Mharis a'i Fam yn cwblhau ei gradd ym Mharis yr un pryd. Cyfarfu'r ddau felly. Pan oedd Andy'n rhyw ddwyflwydd cafodd ei Dad waith yn gweithio ym Mhrifysgol Dunedin yn Seland Newydd a bu'r teulu'n byw yno am ddwy flynedd, ac mae'n siarad am y cyfnod yma.Cawn hanesion ei fywyd ac fe fydd yn sôn am ei obaith ar gyfer yr Eglwys. Gobaith Andy ar gyfer y dyfodol ydi i'r Eglwys fod yn hyderus a gallu llawenhau yn ei hunain. Ond hefyd o safbwynt y wlad, fod pobl Cymru yn gallu wynebu'r dyfodol efo gobaith ac i fwynhau'r pethau Cymraeg sy'n ein tynnu ni at ein gilydd.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 5ed o Fawrth 2024

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Mar 5, 2024 17:11


TRYSTAN & EMMA DYDD GWENER 2302Tesni Evans gafodd air gyda Trystan & Emma fore Gwener. Cafodd hi sialens i gael tatŵ gydag enw band Y Cledrau ar ei choes! Wnaeth hi dderbyn y sialens tybed?Prif leisydd Main vocalistFfyddlon FaithfulYmwybodol Aware COFIO DYDD SUL 2502A miwsig Y Cledrau oedd i'w glywed yn y cefndir yn fanna. Gobeithio, on'd ife, bod y band yn gwerthfawrogi tatŵ Tesni. Mae hi'n flwyddyn naid sef y flwyddyn pan mae dau ddeg naw, neu naw ar hugain, o ddyddiau ym mis Chwefror. Mae'n debyg bod y siawns o gael eich geni ar y dyddiad hwnnw yn un ymhob 1,461. Un o'r mil a hanner rheini yw Elin Maher (pron. Mahyr). Felly faint yn union yw oed Elin nawr?Gwerthfawrogi To appreciateY gwirionedd The truthAr bwys Wrth ymylGwneud yn fawr Making the most Cyfoedion PeersAi peidio Or notSbo I supposeTrin To treatTynnu sylw To draw attentionRHYS MWYN DYDD LLUN 2602Elin Maher oedd honna, sydd ychydig bach yn hŷn na thair ar ddeg oed mewn gwirionedd! Ar raglen Rhys Mwyn clywon ni bod y Beatle enwog, George Harrison, wedi treulio amser yng ngwesty Portmeirion pan gafodd sengl y Beatles 'Get Back' ei rhyddhau ar Ebrill 11 1969. Rheolwr Safle Portmeirion, Meurig Rees Jones, sy'n sôn yn y clip nesa ‘ma am sut daeth e ar draws bwydlen oedd wedi ei harwyddo gan George Harrison ar y diwrnod hwnnw. Rhyddhau To releaseArwyddo To signYr arbenigwr The expertY cysylltiadau The connectionsAnhygoel IncredibleAmrywiaeth VarietyYmchwil ResearchAtgofion MemoriesDROS GINIO DYDD MAWRTH 2702Hanes diddorol George Harrison ym Mhortmeirion yn fanna ar raglen Rhys Mwyn. Sut dysgoch chi Gymraeg - ar-lein, wyneb yn wyneb neu'r ddwy ffordd? Pa ffordd ydy'r mwya effeithiol tybed? Cafodd llythyr ei gyhoeddi yn Golwg yn dweud ei bod yn bwysig cael gwersi Cymraeg wyneb yn wyneb yn dilyn twf dysgu ar-lein yn ystod y cyfnod clo. Jennifer Jones fuodd yn trafod hyn ar Dros Ginio a chafodd hi sgwrs gydag Alison Roberts o'r Alban, ond sydd nawr yn byw yng Nghymru, yn sôn am sut aeth hi ati i ddysgu'r iaithEffeithiol EffectiveWyneb yn wyneb Face to faceCymuned CommunityAnghonfensiynol UnconventionalCARYL PARRY JONES DYDD MAWRTH 2702Alison enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, ac mae hi wedi dysgu Cymraeg yn anhygoel on'd yw hi, o feddwl nad ydy hi erioed wedi bod mewn dosbarth Cymraeg! Beth sy'n gwneud bwyty da? Llio Angharad, sy'n sgwennu am deithio a bwyd ar y gwefannau cymdeithasol, fuodd yn trafod hyn efo Caryl Parry Jones ddydd Mawrth wythnos diwetha Gwefannau cymdeithasol Social media Hynod o bwysig Extremely importantCrafu To scratchY goleuo The lighting Swnllyd Noisy(H)wyrach EfallaiALED HUGHES DYDD MERCHER 2802Caryl a Llio yn trafod beth sy'n gwneud bwyta da yn fanna. Dych chi'n cytuno â nhw? Pawlie Bryant o Santa Barbara fuodd yn sgwrsio efo Aled Hughes ddydd Mercher diwetha. Mae Pawlie yn gerddor ac mae e newydd sgwennu ei gân gynta yn Gymraeg! Does dim llawer o amser ers i Pawlie ddechrau dysgu Cymraeg a gofynnodd Aled iddo, pryd oedd y tro diwetha iddo ymweld â Chymru… Cerddor MusicianO'r blaen PreviouslyY Deyrnas Unedig The UKDinesydd CitizenSylweddolais i I realisedSwyddogol OfficialDeunaw 18

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 27ain o Chwefror 2024

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Feb 27, 2024 13:55


Pigion Dysgwyr – JapanWythnos diwetha buodd Aled Hughes yn siarad gyda Rhian Yoshikawa sydd yn byw yn Japan. Cafodd e air gyda hi am yr arfer o dynnu sgidiau yn Japan wrth fynd mewn i dŷ rhywun. Ymwybodol AwareYn llythrennol LiterallyGofod SpaceYn y bôn EssentiallyLle ddaru Ble wnaethY tu hwnt BeyondRheolau RulesParch RespectYmddwyn To behaveMeistroli To master Pigion Dysgwyr – Adam JonesTraddodiadau diddorol Japan yn cael eu hesbonio ar raglen Aled Hughes gan Rhian Yoshikawa - diddorol on'd ife? Garddwr o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin yw Adam Jones, neu Adam yn yr Ardd fel mae'n cael ei nabod. Dechreuodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd e'n 3 oed yng ngardd ei dad-cu, neu daid, yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd ei dad-cu yn fentor pwysig iawn iddo, a fe ddechreuodd meithrin sgiliau a gwybodaeth garddio Adam.. Balch ProudAr goedd PubliclyCwato To hideRhyched o dato A furrow of potaoesTueddiad A tendencyMas draw Yn fawr iawnGwybedyn bach A small flyAwch A keenessCyfuno To combine Cenedlaethau GenerationsPigion Dysgwyr – Rhys MeirionFelly mae diolch i dad-cu Adam am y rhaglenni garddio gwych sydd ar S4C. Gwestai Shan Cothi yn ddiweddar ar gyfer slot Cofion Cyntaf oedd y canwr Rhys Meirion. Yn y rhan yma o'r rhaglen mae gwestai gwahanol yn cofio eu dyddiau cynnar a rhai o'u hatgofion cynhara. Dyma Rhys Meirion i sôn am ei atgofion e….. Atgofion cynhara Earliest memories Diffoddwr tân Fire ExtinguisherGollwng To dropArogl A smellGwydn Tough Pigion Dysgwyr – RNLIDw i'n siŵr ein bod ni i gyd, fel Rhys Meirion, yn cofio arogl cinio ysgol! Eleni mae'r RNLI yn dathlu penblwydd yn 200 oed. Ers 1824 mae badau achub ar draws Ynysoedd Prydain wedi bod yn achub bywydau a phnawn Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd Jennifer Jones air gyda Mali Parry Jones o Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn. Mae hi'n gwirfoddoli gyda Bad Porth Dinllaen a dyma hi'n cofio gweld y bad achub yn mynd allan pan oedd hi'n ifanc. Badau Achub LifeboatsGwirfoddoli To volunteerRhan annatod Integral partGalwad A callClogwyni CliffsYmdrech ehangach A wider effortElusen CharityYsgogi To motivateGwythiennau VeinsPigion Dysgwyr – RentMae'n amlwg bod y badau achub yn chwarae rhan mawr ym mywyd cymuned Morfa Nefyn on'd yw e? Llongyfarchiadau mawr i'r RNLI ar ei ben-blwydd yn 200 oed. Nos Fercher ddiwetha ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Steffan Lloyd. Mae Steffan yn canu mewn cynhyrchiad o'r sioe lwyfan Rent sydd ymlaen ym Mhort Talbot yr wythnos hon. Gofynnodd Caryl i Steffan yn gynta sut mae'r ymarferion wedi bod yn mynd hyd yn hyn Cynhyrchiad Production Cyfarwyddwr cerddoriaeth Musical directorGolygfa SceneCywilydd gen i ddweud I'm ashamed to sayCyflwyno To present Pigion Dysgwyr – JemeimaA phob lwc i Steffan a'r cast ar y perfformiad. Dw i'n siŵr ei bod yn sioe ardderchog.Dych chi'n gwybod am hanes Jemima Nicholas helpodd rwystro glaniad y Ffrancod yn Sir Benfro yn 1797. Wel dyma y Parchedig Richard Davies o Gasnewy(dd) Bach ger Abergwaun i sôn am ddigwyddiad dros y penwythnos i gofio am Jemima ar Bore Cothi fore Iau. Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shan yn gynnes y diwrnod hwnnw.Rhwystro glaniad To prevent the landingIldio To surrenderAmlwg ProminentDadorchuddio To unveil Mynwent CemetaryCarreg goffa Memoria stoneArddangosfa hanesyddol Historical exhibitionBrodwaith TapestryYsbrydoli To inspireMas Allan

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 13eg o Chwefror 2024

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Feb 13, 2024 12:37


Pigion Dysgwyr – Max Boyce Daeth y newyddion trist wythnos diwetha am farwolaeth Barry John cyn chwaraewr rygbi Cymru a'r Llewod yn 79 mlwydd oed. Roedd yn chwaraewr arbennig iawn a dyma ei ffrind, Max Boyce, yn talu teyrnged iddo fe fore Llun diwetha ar Dros Ginio Talu Teyrnged To pay a tribute Wastad AlwaysCyfweliad InterviewCae o ŷd A field of cornSa i'n gwybod Dw i ddim yn gwybodGostyngedig HumbleDewin A wizardSylw AttentionAmlwg ProminentEnwogrwydd Fame Pigion Dysgwyr -Twr Marcwis A buodd timau rygbi cenedlaethol Cymru a Lloegr yn talu teyrnged i Barry John cyn y gêm fawr yn Twickenham ddydd Sadwrn diwetha. Roedd e wir yn seren on'd oedd e? Mae tŵr hynafol wedi cael ei ail agor ar lan y Fenai ger Llanfairpwll. Ers dros 10 mlynedd does neb wedi cael cerdded i ben Tŵr Marcwis oherwydd gwaith adnewyddu ar y safle. Cafodd Aled Hughes gwmni rheolwraig y safle Delyth Jones Williams ar ei ymweliad â'r tŵr, a dyma hi'n rhoi ychydig o hanes y Marcwis a'r tŵr... Tŵr hynafol Ancient TowerAil agor To reopen Adnewyddu To renovateAnrhydeddu To honour Clodi To praiseLlawdriniaeth SurgeryColofn ColumnDehongli To interpretYn uniongyrchol DirectlyCefndir Background Pigion Dysgwyr – Miriam Lynn Ychydig o hanes Marcwis Môn a'r tŵr enwog yn Llanfairpwll yn fanna ar raglen Aled Hughes. Miriam Lynn oedd gwestai Beti a'i Phobl yr wythnos hon. Cafodd Miriam ei magu ym mhentref bach Llanfynydd ger yr Wyddgrug yn Sir Fflint ac aeth hi i Brifysgol Dundee i astudio Microbioleg. Ar ôl iddi hi raddio gwnaeth hi Ddoethuriaeth yn Newcastle mewn Microbioleg, ond ‘roedd well ganddi weithio gyda phobol, a dyma hi'n sôn wrth Beti am ei gyrfa….. Difaru To regretDoethuriaeth DoctorateAr y fainc On the benchHybu iechyd Promoting healthCaergrawnt CambridgeGweithwyr Cymdeithasol Social WorkersMewn gofal In careBeichiog PregnantGwerth ValuePigion Dysgwyr – Caryl Miriam Lynn oedd honna yn sôn wrth Beti George am ei gyrfa ddiddorol. Cafodd cân ddiweddara y grwp Tocsidos Blêr o ardal Dinbych ei lansio ar raglen Caryl Parry Jones wythnos diwetha. Dyfan Phillips o'r grŵp gafodd sgwrs gyda Caryl nos Fawrth….. Diweddara Most recentPedwarawd QuartetWst ti be? Wyt ti'n gwybod beth?Fel ‘tae As it were Bywoliaeth LivelyhoodYn ein plith Amongst usTwrnai SolicitorDyfalu To guess Tynnu stumiau Pulling faces Pigion Dysgwyr – Rhys Mwyn Wel dyna gymeriadau yw'r Tocsidos Blêr on'd ife? Dw i'n siŵr bod llawer o hwyl i'w gael yn eu nosweithiau. Nos Lun wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn gwmni Sara Croesor. Trefnodd Sara gyngerdd yn Neuadd y Dref Llanfairfechan yn ddiweddar gyda'r grwpiau gwerin Pedair a Tant yn perfformio. Dyma Rhys yn gofyn iddi hi sut aeth pethau? Lleisiau VoicesDewr BraveAelod MemberCefnogi To supportAwyrgylch AtmosphereOfferyn InstrumentSain SoundYn fyw LiveTelyn HarpCyflwyno To present Pigion Dysgwyr – Caryl Roese Ac arhoswn ni ym myd cerddoriaeth ar gyfer y clip nesa ma. Buodd Caryl Roese o Ystradgynlais yn gantores opera lwyddiannus yn Llundain am gyfnod a buodd hi hefyd yn byw yn Ne Affrica. Mae hi bron yn 87 oed erbyn hyn a dyma hi'n sgwrsio gyda Shan Cothi yr wythnos diwetha am ei bywyd a'i gyrfa... Chi'n ‘bod Dych chi'n gwybod Cerddorfa Orchestra Arweinydd Conductor Academi Brenhinol The Royal Academy Orielau Galleries Sefyll am Aros am Disglair Brilliant

Beti a'i Phobol
Miriam Lynn

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Feb 11, 2024 51:01


Dr Miriam Lynn sy'n arbenigo ar gydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth mewn gwahanol feysydd yw gwestai Beti a'i Phobol. Cafodd ei magu ym mhentref bach Llanfynydd ger y Wyddgrug. Ei thaid oedd yr emynydd enwog John Roberts Llanfwrog, ac mae Miriam yn sôn am ei hafau hapus yn Sir Fôn gyda Thaid a Nain. Mynychodd Brifysgol Dundee i astudio Microbioleg. Fel rhan o'i gradd cafodd flwyddyn i astudio yn Edmonton Canada. Treuliodd amser gorau ei bywyd yno yn cael cyfle i deithio, sgïo a mynd i ‘r Rockies bob penwythnos. Ar ôl graddio gwnaeth Ddoethuriaeth yn Newcastle mewn Microbioleg, ond ‘roedd well ganddi weithio gyda phobol, ac yn y blynyddoedd diwethaf bu yn gweithio yn cefnogi pobl ifanc LGBTQ+. Fe gafodd ddiagnosis o MS pam yn 37 mlwydd oed, ac mae hynny wedi newid ei bywyd. Mae hi wedi addasu ei ffordd o fyw, ac yn gweithio rhan amser. Mae hi'n hanner Iddewes, bu'n perthyn i'r Crynwyr a nawr Bwdïaeth sydd yn rhoi iddi hapusrwydd a llonyddwch. Mae hi'n rhannu straeon bywyd ac yn dewis ambell i gân.

Beti a'i Phobol
Meleri Wyn James

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Feb 4, 2024 50:40


Yr awdur a golygydd Meleri Wyn James yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu yn Llandeilo, Beulah a Aberporth, ac mae hi bellach yn byw yn Aberystwyth. Mae hi'n redwraig frwd, ac yn credu bod rhedeg yn gymorth iddi gan ei bod yn byw gydag epilepsi. Mae hi wedi mabwysiadu dwy o enethod gyda'i gwr Siôn ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar gyfer plant ac oedolion gan gynnwys y gyfres boblogaidd Na, Nel! i blant. Meleri oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.

nel yr aberystwyth cafodd beti george
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 23ain o Ionawr 2024.

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jan 23, 2024 12:34


Pigion Dysgwyr – Anne Uruska Wythnos diwetha roedd hi‘n 80 mlynedd ers brwydr Monte Cassino yn yr Eidal. Un fuodd yn brwydro ar ran y fyddin Bwylaidd yn erbyn yr Eidalwyr a'r Almaenwyr, oedd tad Anne Uruska o Aberystwyth. Roedd Stanislaw Uruski yn rhan o gatrawd fuodd yn brwydro rhwng Napoli a Rhufain am fisoedd lawer. Dyma Ann i sôn am hanes ei thad…. Byddin Pwylaidd Polish ArmyCatrawd Regiment Brwydro To fight Hanu o To haul fromCipio To captureGwlad Pwyl PolandDengid DiancRhyddhau To releaseMewn dyfynodau In exclamation marksY Dwyrain Canol The Middle EastPigion Dysgwyr – Esgusodwch Fi Anne Uruska yn fanna‘n sôn am hanes diddorol ei thad, ac mae'n siŵr bod llawer ohonoch chi'n nabod Anne fel un o diwtoriaid Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth. Gwestai diweddar y podlediad Esgusodwch Fi, sydd yn trafod materion sydd yn berthnasol i'r gymuned LGBT+, oedd y cyfarwyddwr ffilm Euros Lyn. Mae Euros wedi cyfarwyddo Dr Who, Happy Valley, Torchwood, Sherlock yn ogystal â nifer o gyfresi eraill. Dyma fe i sôn am un o'i brosiectau diweddara sef Heartstopper i Netflix…. Cyfarwyddwr DirectorCyfresi SeriesDiweddara Most recentDau grwt Dau fachgen Eisoes AlreadyEhangach WiderCenhedlaeth GenerationProfiad ExperienceYn ddynol HumanHoyw Gay Pigion Dysgwyr – Antarctica Euros Lyn oedd hwnna'n sôn am y gyfres Heartstopper sydd i'w gweld ar Netflix. Does dim llawer o bobl sy'n gallu dweud eu bod nhw wedi bod yn Antarctica. Ond un sydd wedi bod yno yw y biolegydd morol Kath Whittey, a buodd hi'n siarad am y profiad ar raglen Aled Hughes fore Mawrth diwetha…. Biolegydd morol Marine biologistLlong ShipCynefin HabitatAnghyfforddus UncomfortableSbïad EdrychPigion Dysgwyr – Diwrnod Cenedlaethol yr Het Mae Kath yn gwneud i Antartica swnio fel planed arall on'd yw hi? Roedd Dydd Llun yr wythnos diwetha yn ddiwrnod cenedlaethol yr het. Un sydd a chasgliad sylweddol o hetiau yw Angela Skyme o Landdarog ger Caerfyrddin. Dyma hi'n sgwrsio gyda Shan Cothi am y casgliad sydd ganddi Casgliad sylweddol A substantial collectionCael gwared To get ridHen dylwyth Old familyMenyw DynesDrych Mirror Pigion Dysgwyr – Clare PotterA dw i'n siŵr bod Angela'n edrych yn smart iawn yn ei hetiau. Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi MA o Brifysgol Mississippi mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd. Mae Clare wedi cyfieithu gwaith y bardd Ifor ap Glyn i'r Saesneg ac mae hi wedi bod yn Fardd y Mis Radio Cymru. Mae'n dod o bentref Cefn Fforest ger Caerffili yn wreiddiol a Saesneg oedd iaith y cartref a'r pentref. Cafodd hi ei hysbrydoli gan athro Cymraeg Ysgol Gyfun Coed Duon ac aeth ati i ddysgu'r iaith. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd hi gyda Beti George Llenyddiaeth LiteratureBardd PoetYsbrydoli To inspireMam-gu NainEmynau HymnsRhegi To swearO dan y wyneb Under the surfaceFfili credu Methu coelioBraint A privilegePigion Dysgwyr – Nofio Gwyllt Beti George yn fanna'n sgwrsio gyda clare e. potter ar Beti a'i Phobol ddydd Sul diwetha. Owain Williams oedd gwestai rhaglen Shelley a Rhydian ddydd Sadwrn ar gyfer slot newydd o'r enw Y Cyntaf a'r Ola. Owain yw cyflwynydd cyfres newydd ar S4C o'r enw Taith Bywyd sydd ar ein sgriniau ar hyn o bryd. Yn Llundain mae e'n byw a dyma fe'n sôn wrth Shelley a Rhydian am y nofio gwyllt mae e'n ei wneud…. Degawdau DecadesLlynnoedd Lakes

Beti a'i Phobol
Nayema Khan Williams

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 14, 2024 50:12


Nayema Khan Williams sy'n ymuno â Beti. Mae Nayema a'i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Cawn glywed ei hanes difyr yn mentro o fyd y gwasanaeth iechyd i fyd triniaethau anfeddygol. Cafodd ei magu yng Nghaernarfon, daeth ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn y ddau'n wreiddiol o Pacistan. Daeth ei thad draw yn y 50/60au i Gaernarfon ac fe ddilynodd ei mam wedyn . Mae Nayema yn un o naw o blant a hi ydi'r ieuengaf ond un. Gwraig tŷ oedd ei mam a phan ddaeth ei thad draw o Bacistan i gychwyn bu'n gwerthu bagiau o gwmpas y tafarndai. Yna bu'n gwerthu bagiau yn farchnad Caernarfon ac mewn marchnadoedd eraill am flynyddoedd. Cafodd ei magu'n Moslem ac 'roedd ei thad yn ffigwr blaenllaw yn y Mosque ym Mangor. Mae Naymea'n credu'n gryf fod angen mwy o ferched fentro mewn busnesau ac na ddylai merched ddim bod ofn cymryd y risg i ddechrau a chychwyn busnesau eu hunain.

khan mosque beti moslem s4c caernarfon yna mangor cawn cafodd daeth nghaernarfon gaernarfon
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 9fed o Ionawr 2024.

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jan 9, 2024 15:41


Pigion Dysgwyr – Jessica Robinson Cynrychiolydd Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd, cafodd ei gynnal yng Nghaerdydd yn 2023, oedd y soprano o Sir Benfro Jessica Robinson. Ddydd Calan, hi oedd gwestai Shan Cothi ar ei rhaglen, a gofynnodd Shan iddi hi yn gynta beth oedd ei gobeithion hi am 2024…. Cynrychiolydd RepresentativeGŵyl gerddorol Musical festivalSafon QualityAnelu ato To aim forDatganiad RecitalYn elfennol bwysig Of prime importanceCydbwysedd BalanceCyfansoddwyr ComposersCyfeilio To accompanyDehongliad Interpretation Pigion Dysgwyr – Sion Tomos Owen Wel mae blwyddyn brysur iawn o flaen Jessica yn does? Bardd y Mis ar gyfer mis Ionawr ar Radio Cymru, ydy Sion Tomos Owen o Dreorci. Mae Sion yn arlunydd ac yn fardd, ond mae o hefyd yn un o gyflwynwyr rhaglen Cynefin ar S4C. Dyma fe ar Ddydd Calan yn sgwrsio gyda Sara Gibson, oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes, i sôn am un o uchafbwyntiau 2023 iddo fe…. Bardd y mis Poet of the monthArlunydd ArtistCyflwynwyr PresentersUchafbwyntiau HighlightsMurluniau MuralsOgofau CavesTafliad carreg A stone's throwAmgenach DifferentDylunio DesigningArbrofi ExperimentingPigion Dysgwyr – Meleri Wyn James Sion Tomos Owen oedd hwnna, Bardd y Mis Radio Cymru yn sôn am graffiti. Bob wythnos ar raglen Bore Sul mae gwestai yn rhannu straeon a phrofiadau. Ar rifyn ola 2023, yr awdures Meleri Wyn James o Aberystwyth fuodd yn siarad gyda Betsan Powys. Meleri enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan a hi hefyd ydy awdures y gyfres boblogaidd, Na Nel. Dyma hi i sôn am sut mae arferion darllen plant, yn ei barn hi, wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwetha … Y Fedal Ryddiaith The Prose MedalGofid ConcernAnnog To encourageDychymyg ImaginationAnnibynnol IndependentGwnïo To sewPwytho To stitchPenderfynol DeterminedDisgyblaeth DisciplineDadwneud To undoPigion Dysgwyr – Liz Saville Roberts Ie, mae hi mor bwysig i annog plant i ddarllen ond yw hi? A gobeithio bydd llyfrau Meleri yn llwyddo i wneud hynny yndife? Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts oedd gwestai Beti a'i Phobol yr wythnos hon. Mi gafodd hi ei magu yn Llundain ond mi gafodd hi ei denu i Gymru oherwydd ei diddordeb yn y Mabinogi. Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth mi aeth yn newyddiadurwraig ag yn ddarlithydd cyn iddi hi droi at wleidyddiaeth. Dyma hi'n sôn am ei diddordeb yn y Mabinogi…. Cofiwch bod yna gyfle i glywed y rhaglen gyfan ar BBC Sounds. Cafodd hi ei denu She was luredY Chweched Sixth formTraethawd estynedig DissertationCyhoeddiad A publicationWedi gwirioni Wedi dwlu arFel petai Seems to Bellach yn yr etholaeth In the constituency by nowRhyfedd StrangePigion Dysgwyr – Dylan Jones Liz Saville Roberts oedd honna'n sôn am sut oedd y Mabinogi wedi dylanwadu ar ei bywyd hi. Y ceffyl oedd thema Troi'r Tir fore Sul, ac un oedd yn siarad ar y rhaglen oedd Dylan Jones o Foelfre ger Abergele. Mae Teulu Dylan, ers y 70au, wedi bod yn cyflenwi ceffylau ar gyfer y diwydiant ffilm. Dyma fe i sôn mwy... Wedi dylanwadu Had influencedCyflenwi To supplyDiwydiant IndustryPigion Dysgwyr – Cleif Harpwood Ceffylau Cymru yn chwarae rhan bwysig mewn ffilmiau a rhaglenni teledu. Difyr yndife? Mi fuodd Dei Tomos yn recordio yn ddiweddar yng Nghwm Afan ar gyfer ei raglen Nos Sul. Un gafodd ei fagu yn yr ardal ydy'r cerddor Cleif Harpwood ac mi fuodd o'n sôn wrth Dei am hanes Cymreictod y cwm…… Cerddor MusicianY Canol Oesoedd The Middle AgesArglwyddi LordsYr Ucheldir The HighlandsCaerau FortsCors halenog Salty marshMintai TroopBraw A frightCenhadu Doing missionary work Y groesgadoedd The crusadesYmestyn To extend

Beti a'i Phobol
Liz Saville Roberts

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 7, 2024 51:31


Yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts ydi gwestai Beti George. Y ferch gyntaf yn hanes Plaid Cymru i ennill sedd yn Senedd San Steffan yn cynrychioli Dwyfor Meirionnydd. Cyn mentro i faes gwleidyddiaeth bu'n newyddiadura ac yn darlithio. Cafodd ei geni a'i magu yn Ne Ddwyrain Llundain. Aeth i'r Coleg yn Aberystwyth i astudio Cymraeg a Llydaweg a'r Mabinogi sy'n gyfrifol am ei denu i Gymru a chofleidio'r iaith a'i diwylliant.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr y 5ed 2023.

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Dec 5, 2023 17:33


1 Bore Cothi: Sioe Aeaf.Ddydd Llun Tachwedd 27 roedd rhaglen Bore Cothi yn darlledu o'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Cafodd Shân gwmni mam a merch, sef Ffion a Leia Lloyd-Williams o fferm Bathafarn ger Rhuthun. Roedden nhw wedi bod yn dangos ceffyl yn y Ffair, sut aeth hi tybed?Darlledu Broadcasting Y Ffair Aeaf The Winter Fair Gwisg Costume Fel pin mewn papur Immaculate Awyrgylch Atmosphere Rhan-frîd Part breed Is-bencampwr Reserve Champion2 Ffion Emyr: Tips Pwdin Dolig.Roedd Ffion, Leia a Shân hefyd i weld wrth eu boddau gyda'r Ffair Aeaf on'd oedden nhw? Ddydd Sul Tachwedd 26 roedd hi'n Stir Up Sunday sef y Sul ola cyn yr Adfent, a dyma'r diwrnod traddodiadol i bobl wneud eu pwdin Dolig! Y nos Wener cyn hynny rhannodd Ffion Emyr ychydig o dips ar sut i wneud pwdin Dolig. Roedd Ffion wedi casglu'r tips yma gan chefs enwog fel Delia Smith, Andrew Dixon a Nigella Lawson. Socian To soak Fel rheol As a rule Gorchuddio To cover Llysieuol Vegetarian Blawd Flour Ffigys Figs Cnau wedi malu Chopped nuts Ychwanegwch! Add! Sinsir Ginger Heb wres Without heat 3 Carl ac Alun Gwener 24ain yn lle Trystan ac Emma: Dr Who.Wel dyna ni felly, o dan y gwely â'r pwdin Dolig! Tips defnyddiol iawn yn fanna gan Ffion Emyr. Wel mae Dr Who yn ôl! Dych chi wedi cael cyfle i weld y gyfres newydd eto? Dw i'n siŵr bod Ianto Williams o Faesybont ger Caerfyrddin wedi ei gweld gan ei fod yn superfan y gyfres. Fore Gwener Tachwedd 24, Carl ac Alun oedd yn cadw sedd Trystan ac Emma yn gynnes rhwng 9 ag 11 a chaethon nhw sgwrs gyda Ianto a'i glywed yn sôn am ei gasgliad o ddeunyddiau Dr Who Cyfres Series Casgliad Collection Deunyddiau Materials Gwerthfawr Valuable Wedi ei arwyddo Signed Halais i Mi wnes i anfon Yn amlwg Obviously Unigryw Unique Cyfrannu at To contribute to4 Ffion Dafis: Aled Hall mewn opera newydd.Ianto Williams oedd hwnna'n sôn am ei gasgliad o ddeunyddiau Dr Who. Aled Hall, y tenor operatig o Bencader, Sir Gaerfyrddin oedd yn cadw cwmni i Ffion Dafis yn ddiweddar. Yn y clip hwn, mae Aled yn trafod ei ran yn yr opera newydd Men Sheds, gafodd ei chyfansoddi gan y cerddor Lenny Sayers. Mae'r opera hon yn ceisio codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl dynion:Cafodd ei chyfansoddi Was composed Codi ymwybyddiaeth Raising awareness Cymeriad Character Aeth ati Went at it Ymdrin â Dealing with Ymgynnull To congregate Cymunedau di-rif Countless communities Cysyniad Concept Angen trafod Need to discuss5 Aled Hughes:Mae'n dda gweld opera ar thema modern er mwyn codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl, on'd yw hi? Wythnos diwetha, Arwyn Tomos Jones o Brifysgol Caerdydd, fuodd yn sôn am hen feddyginiaethau gydag Aled Hughes. Dyma i chi flas ar y sgwrs: Meddyginiaethau Medicines Canrif Century Hollol hurt Totally stupid Ysgyfaint Lung Danadl poethion Stinging nettles Dant y Llew Dandelion Tlodi Poverty Cyn bwysiced â As important as Moddion Medicine Hylif Liquid Dim sail No foundation6 Dros Ginio:Dyna ddiddorol on'd ife fel roedd pobl yn defnyddio‘r byd natur o'n cwmpas yn feddyginiaethau yn y gorffennol. Ddydd Mawrth diwetha, banciau bwyd oedd yn cael sylw ar Dros Ginio gyda Jennifer Jones. Mae mwy a mwy o alw am y banciau bwyd y dyddiau hyn, ond mae llai ac yn llai o bobl yn cyfrannu bwyd at y banciau. Yn y clip hwn, Trey McCain, Rheolwr Banc Bwyd Arfon sy'n egluro'r sefyllfa i Jennifer. Mae Trey yn dod o Mississippi yng ngogledd America yn wreiddiol ond wedi dysgu Cymraeg yn rhugl. Budd-daliadau Benefits Hanfodol Essential Gwendidau Weakness Credyd Cynhwysol Universal credit Cyflenwadau Provisions Pwysau Pressure Galluogi To enable Pryderus Concerned Neges The shopping Uniongyrchol Direct Ar y gweill In the pipeline

Beti a'i Phobol
Tomos Parry

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 19, 2023 49:30


Beti George yn sgwrsio gyda'r cogydd, Tomos Parry o Ynys Môn sydd wedi ennill ei seren Michelin gyntaf am ei fwyty yn Llundain. Agorodd Tomos fwyty Brat yn Shoreditch ym mis Mawrth 2018 ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Cafodd y seren ei gwobrwyo i Tomos gan Michelin am "goginio rhagorol dros dân agored". Dros gyfnod COVID agorodd Tomos dŷ bwyta Brats Outdoors lle roedd cwsmeriaid yn gallu eistedd tu allan. Roedd hwn eto'n lwyddiant ac mae'n dal i fynd yn Hackney. Ei fenter ddiweddaraf ydi'r tŷ bwyta Mountain yn Soho a agorwyd yn mis Gorffennaf 2023. Hefyd, Tomos wnaeth goginio pryd o fwyd i ddathlu 20 mlynedd o briodas David a Victoria Beckham.

Beti a'i Phobol
Felicity Roberts

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Oct 23, 2023 48:18


Mae Felicity Roberts yn Diwtor a Chydlynydd Cymraeg i Oedolion yn Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi bod yn diwtor Cymraeg am dros hanner can mlynedd. Yn 2023 enillodd wobr am fod yn diwtor Cymraeg Ysbrydoledig gyda ‘Inspire Awards' dan nawdd Llywodraeth Cymru. Magwyd Felicity ar aelwyd llawn cariad yn Chwilog a bu ei magwraeth yno yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd ei hoes. Cafodd ei haddysg yn ysgol gynradd Chwilog hyd nes roedd hi'n 8 oed, yna am 3 blynedd bu'n aros yng nghwfaint St Gerard's Bangor. Roedd ei rhieni'n awyddus iddi gael addysg yn y cwfaint er mwyn gwneud yn siŵr bod Felicity yn pasio'r arholiad 11+. Yna mynychodd Ysgol Ramadeg Pwllheli ac ar ôl 2 flynedd ym Mhwllheli safodd yr arholiadau i fynd i Ysgol Howells yn Ninbych. Ers dyddiau ysgol roedd hi wedi bod yn canlyn Robert Roberts ac roedd y ddau'n fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor. Priododd y ddau ar ddiwedd eu blwyddyn gyntaf a ganwyd eu plentyn cyntaf ar ddiwedd eu hail flwyddyn, y cyntaf o chwe phlentyn i'r ddau. Swydd gyntaf Felicity pan symudodd y teulu i fyw i Flaenplwyf, oedd swydd rhan amser fel cynorthwyydd ymchwil i ysgolion Meithrin Cymru. Yn 1978 cafodd radd mewn Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth ac mi gafodd swydd yn yr adran Gymraeg yn dysgu Cymraeg i ddechreuwyr yno. Ni adawodd Felicity yr adran Gymraeg wedyn am 27 mlynedd. Daeth ei phriodas â Robert i ben ac mae hi mewn perthynas ers 44 o flynyddoedd efo Jaci ac mae'n byw bywyd prysur iawn rhwng y gwaith a'r teulu mawr.

roberts bangor ers jaci yn aberystwyth cymraeg gymraeg yna robert roberts cafodd llywodraeth cymru daeth
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 19eg 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Sep 19, 2023 17:09


Pigion Dysgwyr – Podlediad I Fyfyrwyr Bore Llun diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs ar ei raglen gyda Cerith Rhys-Jones a Steffan Alun Leonard. Mae'r ddau wedi rhyddhau podlediad newydd o'r enw 'Sgwrsio am Brifysgol' sy'n rhoi blas i ddarpar-fyfyrwyr ar beth yw bywyd coleg, gyda phrofiadau myfyrwyr go iawn. Rhyddhau To release Darpar-fyfyrwyr Prospective students Rhannu profiadau Sharing experiences Gwerthfawr Valuable Cyflwyno To present Teimlo'n gartrefol Feeling at home I ryw raddau To some extent Yn gwmws Yn union Rhinwedd Merit Mewnwelediad Insight Trawstoriad eang A wide cross-section Pigion Dysgwyr – Tomatos Podlediad gwerthfawr iawn ac amserol hefyd gyda chymaint o fyfyrwyr yn cychwyn ar eu taith brifysgol yn ystod y mis hwn. Ychydig wythnosau yn ôl ar Pigion clywon ni sgwrs rhwng Adam Jones sef Adam yn yr Ardd a Shan Cothi. Rhoddodd Adam her i Shan i dyfu tomatos ac adrodd yn ôl ar ddiwedd yr haf ar sut aeth pethau. Dyma ddarn o'r sgwrs gafodd y ddau wythnos diwetha…. Her A challenge Teimlo fel oes Feels like ages Crasboeth Scorched Yn y cnawd In the flesh Awdurdod Authority Pencampwyr Champions Carotsen Moronen Llawn cystal Just as good Iseldiroedd Netherlands Chwerw Bitter Pigion Dysgwyr – Fflemeg Wel pwy fasai'n meddwl mai rhywun o'r Iseldiroedd sy'n gyfrifon am liw oren moron, on'd ife! Iseldireg wrth gwrs yw iaith y wlad honno, ond mae hi hefyd yn cael ei siarad mewn rhan o Wlad Belg sef Fflandrys. Ac yn Fflandrys yn ddiweddar mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud Iseldireg yn unig iaith yr iard ysgol. Mae'r Dr Guto Rhys, yn byw ac yn magu ei blant yn Fflandrys a dyma fe i esbonio mwy am y sefyllfa ar Dros Ginio bnawn Mawrth…… Cenhedlaeth Generation Tafodieithoedd Dialects Cymhleth Complicated Pryder A concern Gorfodi To compel Tybio To presume Anniddigrwydd Discontent Anghyfleus Inconvenient Iaith leiafrifol Minority language Iaith rymus A powerful language Pigion Dysgwyr – Bethan Rhys Roberts Hanes sefyllfa gymhleth ieithoedd Gwlad Belg yn fanna gan Dr Guto Rhys. Mae'n wythnos a hanner bellach ers i ddaeargryn nerthol daro dinas Marrakech ac ardaloedd cyfagos. Un oedd yn y ddinas ar y pryd oedd Bethan Rhys Roberts, un o newyddiadurwyr BBC Cymru. Dyma hi ar raglen Bore Sul yn esbonio beth ddigwyddodd ar yr union eiliad pan darodd y daeargryn…… Daeargryn nerthol A powerful earthquake Hynafol Ancient Strydoedd culion Narrow streets Sŵn byddarol A deafening noise Dychrynllyd Frightening Ymgynnull To congregate Llafnau Slabs Dymchwel To collapse Sgrialu Scrambling Anhrefn Disarray Yn reddfol Instinctively Pigion Dysgwyr – La Liga Ac yn drist iawn wrth gwrs buodd miloedd o bobl farw ym Morocco yn dilyn y daeargryn. Bethan Rhys Roberts yn fanna yn rhoi syniad i ni o'r sefyllfa ddychrynllyd ym Marrakesh. Mae tîm pêl-droed pentre Llanfairpwll ar Ynys Môn wedi cael noddwyr newydd ar gyfer y tymor newydd. Mi fydd enw'r gynghrair Sbaenaidd - LaLiga - ar flaen crysau'r chwaraewyr eleni. Ie wir, darn o España ar dir Ynys Môn. Hannah Thomas ydy ysgrifennydd y tîm, a dyma hi i esbonio mwy ar Dros Frecwast fore Mercher Noddwyr Sponsors Ysgrifennydd Secretary Yn raddol Gradually Pwyllgor Committee Manteision Advantages Hogia Bechgyn Diolchgar Thankful Denu To attract Pigion Dysgwyr – Clwb Ifor Bach Wel dyna ni, tybed fyddwn ni'n gweld Llanfairpwll yn chwarae yn erbyn Barcelona neu Real Madrid yn y dyfodol! Dych chi wedi ymweld â Chlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd erioed? Sefydlwyd y clwb bedwar deg o flynyddoedd yn ôl er mwyn rhoi llwyfan i fandiau Cymraeg chwarae, a hefyd fel man ble gallai siaradwyr Cymraeg y Brifddinas ddod i gymdeithasu. Nos Sul darlledwyd rhaglen i nodi y garreg filltir bwysig, hon ac mae cyfle wrth gwrs i chi wrando ar y rhaglen gyfan ar BBC Sounds….. Llwyfan A stage Darlledwyd Was broadcast Carreg filltir Milestone Sylfaenwyr Founders Cyfeddach Companionship Hwb cymdeithasol Social hub Sefydliad Establishment Cynhyrchydd Producer Pigion Dysgwyr – Rhys Taylor Sefydliad arall oedd yn dathlu carreg filltir arbennig oedd Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, a dathlu pumdeg o flynyddoedd ers ei sefydlu oedd yr ysgol hon. Cafodd y cerddor Rhys Taylor sgwrs gyda Caryl Parry Jones wythnos diwetha gan fod Rhys yn gyn-ddisgybl yr ysgol. Nos Sadwrn roedd e'n un oedd yn cymryd rhan mewn cyngerdd yn Nghanolfan y Celfyddydau y dre fel rhan o'r dathliadau Cerddor Musician Breintiedig Privileged Oes euraidd Golden age Preswyl Residential Cerddorfeydd Orchestras Brolio To boast T'mod Rwyt ti'n gwybod

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 22ain 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Aug 22, 2023 14:11


Pigion Dysgwyr – Hiraethog Mae yna ymgyrch ymlaen ar hyn o bryd gan Twristiaeth Gogledd Cymru i ddenu ymwelwyr i ardal Hiraethog yng ngogledd Cymru. Sara Gibson oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes wythnos diwetha wrth i Aled gymryd gwyliau bach ar ôl yr Eisteddfod. Dyma Eifion Jones o Lansannan, yn siarad â Sara am yr ardal arbennig hon Ymgyrch Campaign Denu To attract Ywen Yew Cynaliadwy Sustainable Murluniau Murals Cerflun Statue Taflunydd Projector Pererinion Pilgrims Treffynnon Holywell Pigion Dysgwyr – Brechu Disgrifiad o ardal Hiraethog yn fanna gan Eifion Jones. Gyda'r sôn bod straen newydd o Covid wedi ymddangos cafodd Beti George sgwrs ar Beti a'i Phobol gyda meddyg teulu ddaeth i amlygrwydd ar ddechrau'r pandemig. Chwaraeodd Dr Eilir Hughes ran bwysig wrth geisio rheoli Covid-19 yn ei gymuned. Cafodd ei enwebu am ei waith ar gyfer un o wobrau Dewi Sant a dyma Beti yn ei holi … Amlygrwydd Prominance Enwebu To nominate Sefydlu To establish Brechu To vaccinate Pellter Distance Rhwystredigaeth Frustration Darparu To provide Cyflawnoch chi gampweithiau You achieved great things Gwirfoddolwyr Volunteers Herio To challenge Pigion Dysgwyr – Drws y Coed Gan obeithio na fydd rhaid i Dr Eilir Hughes gyflawni campweithiau tebyg yn y dyfodol agos on'd ife? Yr wythnos diwetha ar raglen Dei Tomos aeth Dei â'r gwrandawyr ar daith i ardal Drws y Coed yn Eryri. Dyma Bob Morus yr hanesydd lleol i sôn am rywbeth ddigwyddodd i gapel Drws y Coed yn 1892 Anferthol Huge Ailadeiladu To rebuild Difrod Damage Addoliad Worship O'r herwydd As a consequence Oedfaon Services Anghydffurfiol Nonconformist Olion Remains Amlinell Outline Helaethu To extend Pigion Dysgwyr – Eisteddfod 1956 Bob Morus oedd hwnna'n adrodd hanes capel Drws y Coes gyda Dei Tomos. Gyda'r miloedd erbyn hyn wedi gadael Boduan ac Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, mae yna edrych ymlaen mawr at Eisteddfod 2024 yn Rhondda Cynon Taf. Dydy'r Eisteddfod ddim wedi bod yn yr ardal honno ers 67 o flynyddoedd. Aberdâr yng Ngwm Cynon oedd y lleoliad ym 1956, ac ar Dros Frecwast yr wythnos diwetha buodd Alun Thomas yn siarad â rhai o drigolion y cwm oedd yno bryd hynny, gan gynnwys yr actores Gaynor Morgan Rees cafodd ei magu yn yr ardal. Oedd yr eisteddfod honno'n wahanol i eisteddfodau'r dyddiau hyn tybed? Trigolion Residents Dawnsio gwerin Folk dancing Ymgasglu To congregrate Emynau Hymns Cerflun Statues Seremoni cyhoeddi Proclamation ceremony Profiad gwefreiddiol A thrilling experience Cymeradwyo Applauding Bythgofiadwy Unforgettable Pigion Dysgwyr – Dill Jones Wel mae'n amlwg bod Gaynor Morgan Rees , a dw i'n siŵr llawer iawn o drigolion Rhondda Cynon Taf yn edrych ymlaen yn arw at y Steddfod. Dych chi wedi clywed am Dill Jones o Gastell Newydd Emlyn? Wel yr wythnos diwetha roedd hi'n ganrif ers iddo fe gael ei eni. Roedd e'n feistr ar y piano ac yn enwedig ar arddull y Stride sef math o jazz oedd yn boblogaidd yn 20au a 30au'r ganrif ddiwetha. Dyma'r cerddor jazz Tomos Williams yn sgwrsio gyda Bethan Rhys Roberts ar Bore Sul am fywyd Dill Jones….. Canrif Century Arddull Style Trwy gydol ei yrfa Throughout his career Ymwybodol iawn Very aware Cymreictod Welshness Angerdd Passion Yn gwmws Exactly Crebwyll Creativity Cyd-destun Context Trwytho Immersed Pigion Dysgwyr – Deintyddiaeth Hanes y pianydd jazz Dill Jones yn fanna ar Bore Sul. Dydd Iau diwetha ar Dros Ginio cafodd Gwenllian Grigg gwmni Siwan Phillips, sydd ar ei blwyddyn ola'n astudio deintyddiaeth ym Mhrifysgol Bryste. Gofynnodd Gwenllian iddi hi yn gynta faint oedd ei hoedran hi pan benderfynodd mai deintydd oedd hi am fod? Profiad gwaith Work experience Deintyddfa Dentist surgery Amgylchedd gweithio Working environment Mantais Advantage Digwydd bod As it happens Hynod o hir Extremely long Cystadleuol Competitive

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 1af 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Aug 1, 2023 18:16


SHELLEY & RHYDIAN Yr awdures Manon Steffan Ros oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae Manon wedi ennill Gwobr Medal Yoto Carnegie am ei llyfr “The Blue Book of Nebo” sy'n gyfieithiad o'i llyfr “Llyfr Glas Nebo” enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018. Sut deimlad oedd ennill gwobr Carnegie tybed… Y Fedal Ryddiaith The prose medal Wedi gwirioni Over the moon Braint Privilege Enwebu To nominate Rhestr fer Short list Coelio Credu Trosi To translate Yn reddfol Instinctively Addasu To adapt Llenyddiaeth Literature Hunaniaeth Identity CLONC Manon Steffan Ros oedd honna'n sôn am lwyddiant anferthol “Llyfr Glas Nebo” sydd wedi ei gyfieithu i nifer fawr o ieithoedd. Roedd rhaglen gomedi newydd ar Radio Cymru dros y penwythnos, wedi cael ei hysgrifennu gan Tudur Owen, Sian Harries a Gareth Gwynn. Mae Gareth yn dysgu Cymraeg, a dyma i chi Radio Clonc... Sy berchen Who owns Yn sgil As a result of Disgyrchiant Gravity Wedi cythruddo Has angered Atal To stop Synau Sounds Cael eu hystyried Being considered Anferth Huge Gwichian To squeak Y diweddara The most recent ALED HUGHES Doniol iawn on'd ife? Blas ar Radio Clonc yn fanna – rhaglen gomedi newydd Radio Cymru. Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Gwilym Morgan, enillydd Medal y Dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023, a hefyd gyda Rebecca Morgan, ei athrawes, a hithau wedi ennill Medal y Dysgwyr yn 2018. Mae Gwilym yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Caerdydd a dyma fe'n sôn am ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol... Doniol Funny Disgybl Pupil Ysbrydoli To inspire Cwblhau To complete Y genhedlaeth nesa The next generation Yn amlwg Obvious Ewch amdani Go for it ALED HUGHES Wel dyna stori dda on'd ife? Yr athrawes a'r disgybl wedi ennill Medal y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd. Ar raglen Aled Hughes clywon ni Iestyn Tyne, bardd preswyl Eisteddfod Llyn ac Eifionydd, yn sôn am y llaw-lyfr lliwgar ar gyfer ymwelwyr a dysgwyr, neu siaradwyr newydd, i'r Eisteddfod eleni. Aled Hughes fuodd yn ei holi. Bardd preswyl Resident poet Deunydd Material Diwylliant Culture Arwynebol Superficial Annog To encourage Gafael weddol A reasonable grasp Cenedl ddwyieithog A bilingual nation Safbwynt Perspective Pwyllgor Llen Literature committee Gwaddol Residue BORE COTHI On'd yw hi'n dda o beth bod yr Eisteddfod yn gwneud yn siŵr bod croeso i bawb ym Moduan eleni? Mae'r tri chlip nesa i gyd i wneud ag amaethyddiaeth, a hynny gan fod y Sioe Fawr, neu'r Sioe Frenhinol wedi cael ei chynnal yn Llanelwedd yr wythnos diwetha. Bechgyn “Trio” oedd gwesteion arbennig Shân Cothi yn y Sioe Fawr a chafodd Shân sgwrs gyda'r tri cyn iddyn nhw ganu ar lwyfan Radio Cymru yn y Sioe. Mae'r cantorion Emyr Wyn Gibson, Bedwyr Gwyn Parri a Steffan Lloyd Owen yn dathlu 10 mlynedd eleni fel Trio. Amaethyddiaeth Agriculture Y Sioe Fawr The Royal Welsh Dwlu Hoff iawn Asiad y lleisiau The blend of the voices Cyfarwyddiadau Instructions Yn unigol Individually Doniau Talents Yndw Ydw Droeon Many times BORE COTHI Un arall welodd Shan Cothi ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd fore Iau oedd Huw Williams o'r Felinheli ger Caernarfon. Mae Huw yn ffarmwr balch ac ar dân dros gefn gwlad ac amaethyddiaeth. Balch Proud Ydy glei Of course it is Golygfeydd godidog Superb views Yn gyfarwydd Familiar Cynnyrch Produce Ffasiwn angerdd Such passion Dieithr Unfamiliar Beirniadu To judge Annerch To address (a meeting) BETI A'I PHOBOL ..ac mae Huw yn llawn angerdd dros amaethyddiaeth on'd yw e? Mared Rand Jones oedd gwestai Beti George. Cafodd ei magu ar fferm yng Ngheredigion, ac ymunodd hi â'r Ffermwyr Ifanc pan oedd hi'n ddeuddeg oed. Erbyn hyn hi yw Prif Weithredwr y mudiad a dyma hi'n sôn am ei thad wnaeth ddysgu Cymraeg ar ôl cwrdd â mam Mared... Prif Weithredwr Chief Executive Bant I ffwrdd Mynychu To attend

trio sh medal carnegie nebo blas yr blue book huw iau cymraeg eisteddfod sut caernarfon rebecca morgan awst podlediad sian harries radio cymru gareth gwynn urdd erbyn cafodd beti george iestyn tyne
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#82 - Godro defaid yng Nghymru

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear

Play Episode Listen Later Jul 16, 2023 26:37


Cig oen, cig dafad a gwlân, dyna'r cynnyrch rydan ni'n gyfarwydd â nhw wrth ffermio defaid yng Nghymru. Bellach, dylem ychwanegu llaeth dafad at y rhestr, wrth i ni weld 14 o ffermwyr eleni yn godro defaid. Mae dau o'r unigolion arloesol yma yn ymuno gyda Geraint Hughes am sgwrs sef Alan Jones o Chwilog, ger Pwllheli a Huw Jones o Lanerchymedd, Ynys Môn.  Cafodd y rhifyn yma eu recordio o safle prosesu newydd, Llaethdy Gwyn ym Methesda, Dyffryn Ogwen, sydd wedi'i ddatblygu gan Carrie Rimes yn bwrpasol i broeseu llaeth dafad. 

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 27ain o Fehefin 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jun 27, 2023 10:59


Pigion Dysgwyr – Sulwyn Thomas Gwestai gwadd rhaglen Bore Cothi ddydd Llun wythnos diwetha oedd y darlledwr Sulwyn Thomas. Am flynyddoedd lawer roedd gan Sulwyn raglen yn y bore ar Radio Cymru. Roedd e'n dathlu ei ben-blwydd yn 80 yn ddiweddar a gofynnodd Shan Cothi iddo fe beth yw cyfrinach cadw'n ifanc ei ysbryd Darlledwr Broadcaster Cyfrinach Secret Ysbryd Spirit Ffodus Lwcus Cam bihafio Misbehaving Newyddiadurwr Journalist Bant I ffwrdd Dyfalu To guess Pigion Dysgwyr – Ann Ellis Sulwyn Thomas yn fanna'n swnio'n llawer ifancach nag wythdeg oed, a gobeithio iddo fe fwynhau'r dathlu yn Nhŷ Ddewi on'd ife? Ann Ellis yw un o benaethiaid cwmni Mauve Group sydd ar fin cael ei bresenoldeb cynta yng Nghymru. Mae'r cwmni yn helpu busnesau sefydlu mewn gwledydd newydd ar draws y byd. Yn ddiweddar ar raglen Bore Sul sgwrsiodd Ann gyda Bethan Rhys Roberts a dyma hi‘n sôn am sut dechreuodd y cwmni mewn cwpwrdd yn yr Eidal…. Sefydlu To establish Ar fin cael About to have Penaethiaid Heads Hardd Pretty Uwchben Above Pigion Dysgwyr – Richard Hughes Rhyfeddol on'd ife, fel mae'r cwmni bach wedi tyfu i weithio mewn dros gant o wledydd! Richard Hughes o Gaernarfon oedd gwestai gwadd Beti George ar Beti a'i Phobol yr wythnos diwetha. Mae e wedi bod yn gweithio ym maes cyfrifiadureg a mathemateg ers y 60au. Mae'n rhaglennydd cyfrifiadureg ac wedi gweithio ar systemau ym meysydd awyr Heathrow a Charles de Gaulle. Cynhaliodd Beti y sgwrs ar Zoom a gwrandewch ar be sydd gan Richard i ddweud am hynny….. Cyfrifadureg Computer science Rhaglennydd Programmer Yn ddyddiol Daily Arbenigo To specialise Chwedl y Sais As they say in English Addas Appropriate Rhan helaeth The majority Dadansoddi To analyse Pigion Dysgwyr – Ian Parry Mae ieithoedd cyfrifiadureg yn swnio'n llawer mwy cymhleth na'r Gymraeg on'd yn nhw? Buodd Ian Parri'n gweithio fel newyddiadurwr, fel tafarnwr ac fel tiwtor Cymraeg i Oedolion ac nawr mae e newydd gyhoeddi llyfr ar Wyddeldod. Buodd Ian yn gyrru o amglych arfordir Iwerddon am naw wythnos yn ei gartre modur. Dyma fe i sôn mwy am y daith wrth Dei Tomos... Gwyddelod Irishness Y Weriniaeth The Republic Dulyn Dublin Ymestyn To extend Y machlud The sunset Yn ei anterth At its peak Trefniant swyddogol Official arrangement Penrhyn Peninsula Yn ei sgil As a consequence Pigion Dysgwyr – Talwrn Ian Parri oedd hwnna'n sôn am ei daith o gwmpas Iwerddon. Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy Y Talwrn a'r wythnos diwetha y ddau dîm oedd yn cymryd rhan oedd Dros yr Aber a Dwy Ochr i'r Bont. Cafodd y rhaglen ei recordio yn Neuadd Bentref Y Groeslon yng Ngwynedd. Dyma Ceri Wyn Jones yn gosod un o'r tasgau ar gyfer y beirdd… Mawl Praise Dychan Satire Casâf Dwi'n casáu Hy Audacious Yr heidiau The swarm Oedi Staying Cyn ymlwybro Before making their way Fe lofruddiaf I will murder Malwod di-frys Unhurried snails Ochneidio Groaning Pigion Dysgwyr – Cor Dysgwyr Ardal Wrecsam Dw i'n falch mai malwod mae Rhys am eu lladd – ro'n i'n poeni am ychydig pwy oedd e'n mynd i fwrw gyda'r rhaw yna! Bore Mercher diwetha ar raglen Shan Cothi cafodd Shan gwmni Pam Evans Hughes. Pam yw arweinydd Côr Dysgwyr Ardal Wrecsam, neu Côr DAW, a dyma hi i esbonio mwy am hanes y côr… Bwrw To hit Rhaw Spade Arweinydd Conductor Cerddorol Musical Trwy gydol fy oes All my life Traddodiadol traditional

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 6ed o Fehefin 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jun 6, 2023 12:33


Pigion Cofio Amelia Earhart 28.05 Gan fod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri wythnos diwetha, y dref honno a Sir Gar oedd thema'r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy. Buodd e'n chwilio am hanesion o'r sir a dyma i chi glip bach o raglen “Ddoe yn ôl” o 1983 a Gerald Jones, cyn bennaeth Brigâd Dan Sir Gaerfyrddin yn llygad dyst i Amelia Earhart yn glanio ym Mhorth Tywyn o'r America yn 1928. Llygad dyst Eye witness Arbenigo To specialise Lodes Merch Ehedeg Hedfan Porth Tywyn Burry Port O bellter From a distance Pigion Bore Sul Nicky John 28.05 Hanesion diddorol am Amelia Earhart yn fanna gan Gerald Jones . Gwestai arbennig Iwan Griffiths ar raglen Bore Sul oedd Nicky John, y gohebydd chwaraeon. Mae hi wedi gweithio ar raglen Sgorio ar S4C ers tua 17 o flynyddoedd, a dyma hi'n sôn am uchafbwyntiau ei gyrfa. Gohebydd Correspondent Uchafbwyntiau Highlights Dychryn To frighten Gwibio heibio Flying past (lit: darting past) Rhyngwladol International Braint Privilege Ar lawr gwlad At grassroots level Pigion Shelley & Rhydian Llyr Ifans 27.05 Wel ma Nicky John wrth ei bodd gyda'i gwaith on'd yw hi? Llyr Ifans oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae o'n cymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith ar S4C ar hyn o bryd yn helpu'r actor Neet Mohan, sydd i'w weld ar Casualty, i ddysgu Cymraeg. Buodd Llyr hefyd yn actio ar Casualty ddwywaith ac wedi dod ar draws Neet yn y gyfres... Cyfres Series Digwydd bod It so happened Bellach By now Awydd Desire Gweithgareddau Activities Carchar Rhuthun Ruthin Gaol Anhygoel Incredible Synau Sounds Pigion Bore Cothi Marlyn Samuel 29.05 A tasech chi eisiau gweld pa mor dda yw Llŷr fel tiwtor mae'n bosib ei weld yn dysgu Neet at S4C Clic. Elain Roberts enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd eleni , ond cafodd Shan Cothi sgwrs gyda un o gyn enillwyr y Fedal - yr awdures Marlyn Samuel. Enillodd Marlyn y Fedal yn Eisteddfod yr Urdd Merthyr Tydfil yn 1987. Ei ffug enw oedd ‘Sallad‘ – pam tybed? Wel ‘roedd Marlyn yn ffan mawr o'r opera sebon Dallas, ond tasai hi wedi rhoi Dallas fel enw basai pawb wedi ei hadnabod – felly penderfynodd droi'r enw o gwmpas! 22 oed oedd Marlyn ar y pryd, ac yn gweithio fel Gohebydd Môn a Gwynedd i'r rhaglen radio Helo Bobol Ffug enw Pseudonym Ffodus Lwcus Y flwyddyn cynt The previous year Testunau Syllabus (list of competitions) Cynrychiolydd Representative Fy nghyfnither My female cousin Duwadd annwyl Dear me Rhybudd Warning Dim siw na miw Not a word Pigion Siarcod Jake Davies 29.05 Marlyn Samuel oedd honna'n cofio'r adeg pan enillodd hi Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd. Y biolegydd Jake Davies, oedd yn sôn am siarcod oddi ar arfordir Cymru ar y rhaglen wyddonol Yfory Newydd. Mae'n gweithio i Gyfoeth Naturiol Cymru ac i Sw Llundain, a dyma fe'n siarad am ei waith yn astudio'r moroedd ym Mhen Llŷn... Cymunedau Communities Gwaith maes Fieldwork Abwyd Bait Mecryll Mackerels Rhywogaethau Species Bad achub Lifeboat Cynefinoedd Habitats Pigion Sara Gibson 31.05 Hawdd iawn gweld bod Jake yn frwd iawn am ei waith on'd yw hi? Bore Mercher roedd Sara Gibson yn cadw sedd Aled Hughes yn dwym. Cafodd hi sgwrs am y pryder ynglŷn â datblygiad deallusrwydd artiffisial. Dyma'r cerddor Lewys Meredydd yn sôn am effaith AI ar greu cerddoriaeth... Brwd Enthusiastic Pryder Concern Deallusrwydd Intelligence Creu Creating Bwrlwm Babble Yn y bôn Essentially Ffynnu To flourish Meddalweddau Software Cynhyrchu To produce

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Ebrill 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Apr 26, 2023 15:02


Pigion Dysgwyr – Nia Williams Cafodd Aled Hughes gwmni y seicolegydd Nia Williams yr wythnos diwetha i drafod chwerthin. Pam bod ni chwerthin tybed, a pha effaith mae chwerthin yn ei gael ar y corff? Dyma Nia'n esbonio... Chwerthin Laughter Treiddio i mewn To penetrate Ymwybodol Aware Ysbrydoli To inspire Cadwyn A chain Pryderus Concerned Dygymod efo To cope with Dychwelyd To return Parhau To continue Pigion Dysgwyr – Andy Bell Nia Williams oedd honna'n sgwrsio gydag Aled Hughes am chwerthin. Am dros ganrif, Sydney oedd dinas mwyaf poblog Awstralia. Ond erbyn hyn Melbourne sydd gyda'r teitl hwnnw, ar ôl i ffiniau‘r ddinas newid i gynnwys rhannau o ardal Melton. Ond mae rhai 'Sydneysiders' fel mae nhw'n cael eu galw - yn anhapus - ac yn cwestiynu'r ffordd y mae Melbourne wedi mynd ati i ehangu. Cafodd y newyddiadurwr Andy Bell sy'n byw yn Awstralia air am hyn gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio bnawn Mawrth….. Canrif Century Poblog Populous Ffiniau Borders Ehangu To expand Diffiniad Definition Maestrefi Suburbs Tyfiant Growth Tiriogaethau Territories Taleithiau States O ganlyniad As a consequence Pigion Dysgwyr – Delyth Badder Hanes brwydr dinasoedd Awstralia yn fanna gan y newyddiadurwr Andy Bell. Mae Dr Delyth Badder yn casglu hanes llên gwerin o Gymru ac credu'n gryf bod gwahaniaeth rhwng yr ysbrydion sy'n cael eu gweld yng Nghymru a'r rhai sy'n cael eu gweld yng ngweddill gwledydd Prydain, fel y buodd hi'n egluro wrth Rhys Mwyn, nos Lun... Llên gwerin Folklore Ysbrydion Spirits Cael eu crybwyll Being alluded to Dros Glawdd offa Over Offa's Dyke Gwrachod Witches Tylwyth teg Fairies Amaethyddol Agricultural Ystrydebol Stereotyped Cynfas wen White sheet Ystyrlon Meaningful Pigion Dysgwyr – Cob Wel dyna ni, mae hyd yn oed ein gwrachod a'n tylwyth teg yn wahanol yng Nghymru! Yn ddiweddar buodd John Dilwyn yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar ei raglen nos Sul am hanes adeiladu y Cob ym Mhorthmadog. Dyma John i sôn am William Alexander Maddox cynllunydd y Cob Dyn dŵad A stranger Ei hoel o His mark Magwraeth freintiedig A privileged upbringing Etifeddo eiddo To inherit property Tirfeddiannwr Landowner Bargyfreithiwr Barrister Gwaed Gwyddelig Irish blood Mi gladdwyd y tad His father was buried Harddwch Beauty Tynfa The pull Pigion Dysgwyr – Caryl Ac erbyn hyn wrth gwrs mae Ffordd Osgoi Porthmadog yn croesi'r Traeth Mawr, a does dim rhaid defnyddio'r Cob o gwbl. Daw Pegi Talfryn o Seattle yn wreiddiol a daeth i Gymru ar ôl syrthio mewn cariad â'r Gymraeg a chwedlau Cymraeg. Mae hi'n diwtor Cymraeg erbyn hyn ac wedi sgwennu nofelau arbennig ar gyfer dysgwyr. Ond mae yna genre arbennig o lyfrau sydd yn apelio at Pegi ar hyn o bryd, a dyma hi'n sôn mwy am hynny wrth Caryl Parry Jones Ffordd osgoi By-pass Chwedlau Fables Cyfuno To combine Ffuantus Bogus Annwfn The underworld Pigion Dysgwyr – Aled Hughes Pegi Talfryn oedd honna'n sôn am y math o lyfrau mae hi'n mwynhau eu darllen ar hyn o bryd. Daw Marta Listewnik o Poznan yng Nghwlad Pwyl a dydd Iau sgwrsiodd Aled Hughes gyda hi am ei chariad at y Gymraeg, gan ddechrau gyda'r gwaith mae hi wedi ei wneud yn cyfieithu nofel Caradog Pritchard, Un Nos Ola Leuad i Bwyleg…. Gwlad Pwyl Poland Pwyleg Polish I ba raddau To what extent Pa mor gyffredin How common Cydbwysedd balance Adolygiadau Reviews Cyfleu To convey Profiadau plentyndod Childhood experiences

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 28ain o Fawrth 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Mar 27, 2023 14:20


Pigion Dysgwyr – Fiona Bennett Weloch chi'r gyfres ‘The Piano' oedd ar y teledu yn ddiweddar? Cyfres oedd hon sy'n rhoi cyfle i bianydd amatur chwarae o flaen panel o feirniaid i drio ennill gwobr, sef perfformio yn y Festival Hall yn Llundain. Un gymerodd ran yn y gyfres oedd y gantores Fiona Bennet a buodd hi'n siarad gyda Shan Cothi am y profiad Beirniaid Judges Cyfres Series Credwch e neu beidio Believe it or not Cyfrinach Secret Cyfansoddi To compose Angladd Funeral Hysbys(eb) Advert Mabwysiadu milgwn Adopting greyhounds Dere lan Tyrd i fyny Ar bwys ein gilydd Wrth ymyl ein gilydd Pigion Dysgwyr – Beti George Ychydig o hanes Fiona Bennett ar y gyfres ‘The Piano' yn fanna ar Bore Cothi. Buodd Delyth Morgan yn chwarae rygbi dros Gymru yn y gorffennol ac nawr mae hi'n rheoli tîm rygbi merched Cymru dan 18 ac 20 oed. Ond ugain mlynedd yn ôl symudodd hi i fyw i Seland Newydd. Cafodd hi waith yno, priododd hi a buodd hi'n datblygu rygbi merched yno. Dyma Delyth yn sôn wrth Beti George am ble roedd hi yn byw pan oedd hi yn Seland Newydd... Datblygu To develop Deugain munud 40 minutes Deg ar hugain o winllannoedd 30 vineyards Ariannin Argentina Selsig yn y rhewgell Sausages in the fridge Rhyddid Freedom Sefydlu To found Gweithgareddau corfforaethol Corporate activities Tu hwnt Beyond Pigion Dysgwyr – Finyl On'd yw bywyd yn Waiheke yn swnio'n wych? Delyth Morgan oedd yn disgrifio'r ynys ar Beti a'i Phobol. Am y tro cynta mewn tri deg pump o flynyddoedd mae mwy o recordiau finyl yn cael eu gwerthu na CD's. Beth yw'r apêl felly? Dyna ofynnodd Jennifer Jones i'r ffan finyl Aled Llewelyn ar dros Ginio bnawn Mawrth Cloriau Covers Hel To collect Adnabyddus Famous Y cyfrwng penodol The specific medium Yn tyrchu drwy Rummaging through Ansawdd Quality Gwatsiad Gwylio Unigryw Unique Plethu Meshing Seinydd clyfar Smart speaker Pigion Dysgwyr – Cerdded Nordig Pwy fasai wedi meddwl flynyddoedd yn ôl, on'd ife, byddai finyl yn dod yn ôl i ffasiwn? Nos Fawrth ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Catrin o Nordig Cymru. Math o gerdded a chadw'n heini yw Cerdded Nordig, a holodd Caryl Catrin sut dechreuodd ei diddordeb yn y maes. Mwyafrif Majority Traws gwlad Cross country Yn fwy ddiweddar More recently Hyfforddi Training Pigion Dysgwyr Wel dyna i chi ffordd wahanol o gadw'n heini – Cerdded Nordig. Mae Rhian Mills yn ymgynghorydd cwsg, sef person sydd yn helpu pobl i sefydlu patrymau cwsg ac mae busnes gyda hi o'r enw Rested Mama. Cafodd Rhian sgwrs gydag Aled Hughes fore Mercher diwetha gan roi cyngor i ni am beth i'w wneud tasen ni'n deffro ganol nos...…… Ymgynghorydd cwsg Sleep Consultant Cyngor Advice Ail-afael To rekindle Beryg ei bod ar ben That's it, probably Syth bin Straight away Canolbwyntio To concentrate Synnwyr Sense Pigion Dysgwyr – Olwen Jones Cyngor da gan Rhian yn fanna am sut i fynd yn ôl i gysgu ar ôl deffro ganol nos. Cafodd Olwen Jones ei llun yn ‘The Daily Telegraph' yn ddiweddar i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Mae Olwen a'i theulu yn ffermio ger Tregaron a buodd hi'n rhoi hanes tynnu'r llun wrth Shan Cothi ... Diwrnod Rhyngwladol y Merched International Woman's Day Cartrefol dros ben Very homely Cwtsio lan Cuddling up Cwympo mewn cariad Falling in love Cylchgronau byd eang Worldwide magazines Sulgwyn Whitsun Ar yr amod On condition

Beti a'i Phobol
Annie Walker

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 15, 2023 52:10


Annie Walker yw gwestai Beti George. Mae hi'n artist, a ddaw'n wreiddiol o Fferm Blaen Halen, Castell Newydd Emlyn, ac 'roedd hi'n yr un dosbarth â Beti yn ysgol Llandysul. Bu'n astudio Celf yn Newcastle, ac yn ddiweddarach bu'n rhan o greu set 2001 Space Odyssey - Ffilm Ffuglen Wyddonol (sci-fi) Stanley Kubrick MGM, yn Boreham Wood, ar ôl gweld hysbyseb yn y Times. Mae hi'n fam i bedair merch. Mae Hannah yn briod i‘r cyflwynydd teledu a'r actor Alexander Armstrong, ac mae Esther yn briod â'r newyddiadurwr a'r darlledwr Giles Coren. Fe enillodd Ann gystadleuaeth yng nghylchgrawn GIRL. Cafodd dipyn o syndod o gael ei galw i gyfweliad yn Llundain gan fod 17,000 o ferched wedi anfon lluniau i mewn i'r cylchgrawn. Y wobr oedd cael mynd i Florence yn yr Eidal i weld lluniau a cherfluniau o'r Dadeni (Renaissance). Joyce Fitzwilliams oedd yr athrawes gyda hi i Florence, ac roedd yn drip anhygoel, gan gyfarfod â Pietro Annigoni yn ei stiwdio. 'Roedd ef wedi dod yn enwog iawn ar ôl gwneud portread o'r Frenhines. 'Roedd yna erthygl ar y trip mewn cylchgrawn poblogaidd ar y pryd o'r enw 'Picture Post'. Yr un flwyddyn yng nghylchgrawn y bechgyn - yr 'Eagle' enillodd James Dyson y wobr gyntaf a David Hockney y drydedd wobr.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 10fed 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jan 10, 2023 14:34


Aled Hughes – Warner Brothers 5.1 Sefydlwyd y cwmni ffilm Warner Brothers ganrif yn ôl i eleni. Bore Iau cafodd Aled Hughes gwmni Dion Hughes yr adolygydd ffilm i sôn ychydig am y cwmni enwog hwnnw. Adolygydd Reviewer Sefydlwyd Was established Canrif A century Creu To create Anferth Huge Brodyr Brothers Y dechreuad The beginning Datblygu To develop Parhau Continuing Bodoli To exist Beti a'I Phobl – Rhian Morgan Ychydig o hanes cwmni Warner Brothers yn fanna ar raglen Aled Hughes. Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobl yr wythnos diwethaf oedd yr actores a'r gomediwraig Rhian Morgan. Dyma hi'n sôn am yr adeg pan fuodd hi'n perfformio yng Nghadeirlan St Paul's yn Llundain Y Gadeirlan The Cathedral Portreadu To portray Dywediadau Sayings Llwyfan Stage Ganwyd Was born Bri Popular Credwch neu beidio Believe it or not Syfrdan Astounded Dychmygol Imaginary Pigion Dysgwyr – Nofio Oer 3.1 A Rhian Morgan wedi rhoi dipyn o sioc i gynulleidfa St Paul's dw i'n siŵr. Mae llawer o bobl yn dathlu'r flwyddyn newydd drwy fynd i nofio yn y môr, er bod y môr yn oer iawn yr adeg yma o'r flwyddyn. Un sydd wrth ei bodd yn nofio drwy'r flwyddyn, heb boeni am y tywydd, yw Heather Hughes o Ynys Môn. Cafodd hi air gyda Rhodri Lewis ar Dros Ginio bnawn Mawrth a gofynnodd Rhodri iddi hi pam wnaeth hi fentro i'r môr oer yn y lle cyntaf… Cynulleidfa Congregation Gwaedlif ar yr ymennydd Haemorrhage on the Brain Sbïo Edrych Modd i fyw Great pleasure Pa mor fodlon How satisfied Tŷ'd efo fi Dere gyda fi Anadla! Breath! Menig Gloves Pigion Dysgwyr – Rhys Meirion 2.1 Ac mae Heather Hughes yn amlwg yn mwynhau'r profiad o nofio yn y môr oer erbyn hyn. Mae cyfres newydd o Canu Gyda Fy Arwr wedi dechrau ar S4C, cyfres ble mae Rhys Meirion yn gwireddu breuddwyd aelodau o'r cyhoedd ac yn rhoi cyfle iddyn nhw ganu gyda'u harwyr. Cafodd Mari Grug gyfle i holi Rhys am y gyfres newydd... Cyfres Series Arwr Hero Gwireddu breuddwyd To fulfil a dream Aelod o'r cyhoedd Member of the public Gwyddoniaeth Science Enwebu To nominate Darganfyddiad A discovery Profiad Experience Atgofion Memories Anghenraid A necessity Pigion Dysgwyr – Cwm Rhyd y Rhosyn 4.1 Pa arwr fasech chi'n ei ddewis i ganu gyda chi tybed? Dw i'n siŵr basai llawer ohonoch yn enwi Dafydd Iwan, ac ar raglen arbennig gyda Huw Stephens clywon ni Dafydd ac Edward Morris Jones yn cofio un o recordiau plant mwya econig y Gymraeg, ryddhawyd union bum deg mlynedd yn ôl - Cwm Rhyd y Rhosyn….. Rhyddhawyd Was released Magwraeth Upbringing Rhyfeddol o ffodus Very lucky Parchedig Reverend Callach na fi Wiser than me Diwylliedig Cultured Olwynion Wheels Injan ddyrnu Threshing-machine Boneddiges Gentlewoman Pigion Dysgwyr – Braille 4.1 Dafydd Iwan ac Edward oedd y rheina'n sôn am y recordiad eiconig Cwm Rhyd y Rhosyn. Ar Ionawr y 4ydd 1809 cafodd y Ffrancwr Louis Braille ei eni. Fe oedd y dyn ddyfeisiodd y system o ddarllen ag ysgrifennu ar gyfer bobl sydd a nam ar eu golwg neu sy'n ddall. Bore Mercher cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Hannah Stevenson sydd yn defnyddio Braille bob dydd. Nam golwg Visual Impairment Dall Blind Sa i'n gallu Dw i ddim yn medru TGAU GCSE Dirywio to deteriorate Cyflwr Condition Dychrynllyd Frightening Agwedd Attitude Casgliad A collection Gwahanol gyfuniadau Different combinations Cwtogi To shorten

Beti a'i Phobol
Shan Jamil Ashton

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Dec 11, 2022 50:24


Shan Jamil Ashton yw gwestai Beti George. Mae Shan yn gyn darlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn Gymdeithasegydd. Mae hi'n arwain gwaith Cymunedau ac yn byw yn Capel Curig – yn chwaer i Caradog Jones y Cymro 1af aeth i fyny Everest. Cafodd ei geni ym Mhontrhydyfen De Cymru. Ei henw canol ydi Jamil - pan oedd ei thad yn ifanc bu'n aelod o'r Palestine Mountain Police ac mae ei chwaer wedi ei henwi'n Jasmine ar ôl yr ardal. Am flynyddoedd creda Shan mai ystyr Jamil oedd camel. Ond deallodd yn ddiweddarach drwy'r myfyrwyr yn y Coleg mai ystyr y gair ydi prydferth neu hardd. Bu'n astudio Celf am gyfnod yng Nghaerdydd. Ar ôl magu'r plant fe aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Bangor a graddio yn 1990. Roedd hi wedi bwriadu astudio Addysg er mwyn hyfforddi'n athrawes ond pan roedd hi yn ei blwyddyn gyntaf fe ddewisodd Ieithyddiaeth a Chymdeithaseg hefyd fel pynciau. Ar ôl ei darlith gyntaf mewn Cymdeithaseg mi roedd hi'n hooked meddai hi! Bu'n tiwtora a darlithio yn y Coleg Normal ac wedyn yn y Brifysgol ym Mangor.

mount everest bu ei shan jamil ond coleg celf mangor cymro nghaerdydd cafodd beti george
Beti a'i Phobol
Y Parchedig John Owain Jones

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 27, 2022 51:30


Mae'r Parchedig John Owain Jones yn ymddeol fel Gweinidog ar Ynys Bute yn mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel Gweinidog yno. Cafodd ei eni yn Llanelwy a'i fagu yn Rhyl nes roedd yn 13 oed, cyn symud i Gaernarfon. Roedd ei Dad yn gweithio i'r Swyddfa Bost a chafodd swydd fel Post feistr yn Nghaernarfon. Mae cysylltiad Owain â'r Alban wedi bod yno bron o'r cychwyn. Wedi i'w rieni ddyweddïo roedd ei Dad eisiau arian i brynu tŷ felly aeth i weithio am gyfnod i'r Swyddfa Bost yn Rhodesia. Ar y llong ar ei ffordd draw yno rhannodd fync ar y llong gyda David Walker a oedd yn dod o Ynys Bute. Daeth ei Dad ac yntau'n ffrindiau pennaf a bu'n was priodas i'w Dad. Priododd ei fam a'i dad yn Salisbury, Rhodesia (Harare bellach). Priodwyd y ddau yn y Second Presbyterian Church ac roedd y Gweinidog yn dod yn wreiddiol o St Andrews (lle bu Owain yn y Brifysgol), a dychwelodd David yn ôl i Ynys Bute yn ddiweddarach. David hefyd oedd tad bedydd Owain a'i frawd Gethin. Bob haf roedd y teulu'n mynd draw i Ynys Bute ar wyliau. Roedd hynny yn un o'r rhesymau pam y dewisodd Owain Brifysgol St Andrews. Yn ddiweddarach fe aeth Owain i Rhodesia am gyfnod i weinidogaethu. Mae Owain yn cyfrannu'n gyson i'r slot Thought for Today Radio Alban ac wedi cyfrannu hefyd i'r Daily Service ar Radio 4. Fe fydd hefyd yn cyfrannu ar Munud i Feddwl, Radio Cymru. Mae'n rhannu straeon am ei fywyd ac yn dewis ambell i gân.

Hefyd
Steve Dimmick, Dyn Busnes o'r Cymoedd | Pennod 19

Hefyd

Play Episode Listen Later Nov 17, 2022 37:57


Ein gwestai ni y tro yma ydy Steve Dimmick, cyd-sylfaenydd (co-founder) y cwmni Doopoll, sy'n gwneud arolygon ar lein (online surveys). Cafodd e ei fagu yng nghymoedd de-ddwyrain Cymru, ac ar ôl cyfnod yn Abertawe a Llundain mae e'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn. Yn y pennod yma, rydyn ni'n trafod y Gymraeg yn y byd busnes a thechnoleg, yn ogystal â phrofiadau Steve o dysgu'r iaith a'i defnyddio hi gyda theulu, ffrindiau ac yn y gymuned. Hefyd yn y pennod yma rwy'n rhannau rhai o'ch atebion i'r #CwestiwnYMis ar Twitter: ‘Dysgwyr: ble rwyt ti'n defnyddio dy Gymraeg?'. Mae mwy o wybodaeth am Steve, gyda geirfa o'r pennod yma a linciau perthnasol, ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  

spotify google podcasts yn cymru gymraeg pennod hefyd abertawe nghaerdydd steve dimmick cafodd cymoedd
Beti a'i Phobol
Meleri Davies

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 13, 2022 50:35


"Cymuned, Amgylchedd, Economi - dyna ydy calon ein gwaith ni yn Partneriaeth Ogwen, Meleri Davies Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu ar y fferm Hendre yng Nghwm Prysor sydd rhyw 3 milltir o Drawsfynydd ar y ffordd i Bala a'r Fferm fynydd yn magu defaid Cymreig. Mae hi yn un o 4 o blant - y cyw melyn olaf. Dewi Prysor yr awdur ydi'r hynaf sy'n byw ym Mlaenau Ffestiniog, yna Manon sy'n byw yn Sir Fôn sy'n actores ac yn cynnal gweithdai, a mae Rhys sy'n ffermio adref , fo ydi'r 3ydd genhedlaeth i ffermio yno. Fel Prif Swyddog, mae Meleri yn angerddol am dyfu Partneriaeth Ogwen fel menter gymdeithasol sy'n gwneud gwahaniaeth – yn amgylcheddol, gymunedol ac economaidd. Mae wedi arwain ar brosiectau mwyaf y Bartneriaeth, yn cynnwys datblygiad Ynni Ogwen, canolfan Dyffryn Gwyrdd a throsglwyddiadau asedau. Ers ei phenodiad, mae wedi ennill gwobr Pencampwr Cynaladwyedd Cymru yng ngwobrau Academi Cynaliadwy Cymru a Green Energy Pioneer yng ngwobrau Regen Prydain. Dechreuodd Partneriaeth Ogwen yn 2014 drwy gael 3 cyngor cymuned yn gweithio efo'i gilydd, sef Llanllechid, Llandegai a Bethesda. Daeth y tri at ei gilydd i gyflogi un clerc yn hytrach na tri ac yna defnyddio yr arbed i gyflogi Meleri i ddatblygu prosiectau. Dechreuwyd y bartneriaeth efo Meleri'n gweithio 2 ddiwrnod yn unig a clerc am ddau ddiwrnod. Bellach cyflogir 23 o bobl, rhai yn rhan amser ac eraill yn llawn amser. Mae Meleri'n gweithio'n llawn amser ers sawl blwyddyn bellach ac yn magu 3 o blant gyda'i gwr Meirion. Cawn hanesion ei bywyd o Trawsfynydd i Nepal, ac mae hi'n dewis ambell i gân - gan gynnwys caneuon gan Lleuwen Steffan a Gruff Rhys.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Hydref 2002

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 25, 2022 15:48


BETI A'I PHOBOL Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe'n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae'n sôn am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu'r iaith… Treulio amser - To spend time Mynd mas - Mynd allan Profiad - Experience Mam-gu - Nain Cymdeithasol - Sociable Gorfodi - To force Cefnogol - Supportive Becso - Poeni Trochi - To immerse ALED HUGHES Dim ond ers mis Ebrill eleni mae Katie Owen o Ferthyr yn dysgu'r iaith ar ôl iddi gymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith gyda'r DJ Huw Stephens yn fentor iddi hi. Dyma hi'n sgwrsio gydag Aled Hughes… Gwahanol - Different Tad-cu - Taid ALED HUGHES Cafodd Laura Jones o Gaerdydd ychydig o wersi Cymraeg yn yr ysgol, ond penderfynodd ddysgu'r Gymraeg fel oedolyn er mwyn cyfieithu rhannau o'r Quran. Dyma flas ar y sgwrs cafodd hi gydag Aled Hughes... Oedolyn - Adult TGAU - GCSE Annog - To encourage Gyrfa - Career Cyfleoedd Gwaith - Work opportunities Bwlch - A gap Dywediadau - Sayings ALED HUGHES Beth tybed oedd rheswm Kelly Webb-Davies sy'n dod o Awstralia'n wreiddiol dros ddysgu'r iaith? Fel cawn ni glywed mae hi'n briod â Peredur Glyn awdur nofel o'r enw ‘Pumed Gainc y Mabinogi' ac mae hi wedi magu ei mab drwy'r Gymraeg. Dyma hi'n sgwrsio efo Aled Hughes... Ieithyddiaeth - Linguistics Bathu term - To coin a phrase Sillafu - To spell Seiniau - Sounds Clwt - Cewyn Llwglyd - Hungry BORE COTHI Mae stori Sara Maynard o Sir Gaerfyrddin ychydig yn wahanol. Cafodd hi ei haddysg mewn ysgolion Cymraeg ond ar ôl gadael ysgol collodd hi ei hyder o ran sgwennu Cymraeg. Aeth hi ar gwrs Cymraeg i Oedolion i wella'r sgil yma ac erbyn hyn mae hi'n swyddog iaith ym Mhrifysgol De Cymru. Ysgol gynradd - Primary School Ysgol Gyfun - Secondary School Trwy gyfrwng - Through the medium of Ysgrifenedig - Written Sbarduno - To spur BORE COTHI Cafodd Shân Cothi sgwrs ddiddorol arall gyda Dickon Morris, cafodd ei eni yng Nghaergrawnt, ei fagu yn Sir Benfro ond sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Mae e'n gweithio fel daearegydd ac yn amlwg mae e wrth ei fodd gyda'r gwaith... Caergrawnt- Cambridge Daearegydd - Geologist Plentyndod - Childhood Dinbych y Pysgod - Tenby Diwydiant - Industry Tirwedd - Landscape Llethrau serth - Steep slopes Amrywiaeth - Variety

wimbledon quran fel cymraeg daith gymraeg dyma mabinogi podlediad wythnos iaith hydref ysgol aeth nghaerdydd gaerdydd flwyddyn ebrill sir benfro cafodd daeth beti george
Beti a'i Phobol
Bethan Wyn Jones

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Oct 9, 2022 51:35


Botanegwraig, darlledwraig, cyfieithydd, awdur, darlithydd, a cholofnydd yn y Daily Post Cymraeg ydy gwestai Beti George yr wythnos hon, sef Bethan Wyn Jones. Mae hi hefyd yn Swyddog Addysg Cyfeillion Gwiwerod Cochion Môn. Cafodd ei magu ym mhentref Talwrn ger Llangefni ac mae Bethan yn dal i fyw yn yr un tŷ. Mae hi'n rhannu hanesion bywyd ac yn trafod galar gyda Beti ac yn credu nad ydym ni'n siarad digon amdano.

bethan beti wyn jones cafodd beti george
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 27ain o Fedi 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Sep 27, 2022 14:24


Radio'r Cymry Mae hi bron yn ganrif ers i'r geiriau Cymraeg cyntaf gael eu clywed ar y radio. Yn y gyfres newydd, Radio'r Cymry, mae Hywel Gwynfryn yn edrych ar raglenni, digwyddiadau â'r cymeriadau sydd wedi gwneud Radio Cymru yr hyn ydy o heddiw. Yn 1935 daeth Sam Jones yn Bennaeth y BBC ym Mangor ac roedd hi'n ddechrau ar gyfnod cyffrous iawn yn hanes Radio Cymraeg. Dyma ei ysgrifenyddes, Morfudd Mason Lewis, yn sôn am y dyddiau hynny..... Canrif - Century Cyfres - Series Pennaeth - Head Parchu - To respect Peirianwyr - Engineers Tyrfa - A crowd Rhaglenni byw - Live programmes Pennill - A verse A ddeuai - Fasai'n dod Aled Hughes Aeth Aled Hughes draw i Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn i gwrdd â Reuben Hughes, sy'n bencampwr reslo braich! Mae o'n aelod o glwb reslo braich Roar yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin, ac mae o newydd ennill ei gystadleuaeth reslo braich gynta. Pencampwr - Champion Am sbort - For fun Yr amser yn brin - Time was scarce Penderfynol - Determined Diogelwch - Safety Poendod - A worry Gwarchod - To protect Rhoi'r fantais - To give an advantage Cryfder - Strength Gwneud Bywyd yn Haws Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth, buodd Hanna Hopwood yn sgwrsio efo Dr Elinor Young. Mae gan Elinor gi therapi o'r enw Tana sydd yn rhan o gynllun Cŵn Cymorth Cariad a dyma hi'n sôn ychydig wrth Hanna am y cynllun… Cafodd ei sefydlu- Was established Hwlffordd - Haverfordwest Disgwyliadau - Expectations Hyfforddiant - Training Cyfathrebu - To communicate Perchennog - Owner Lles - Welfare Dychryn - To frighten Llyfu - To lick Bore Cothi Therapi sy'n cael sylw yn y clip nesa ‘ma hefyd, sef Adweitheg, neu Reflexology. Mi roedd hi'n Wythnos Adweitheg y Byd wythnos diwetha, ac mi fuodd Sioned Jones yn sgwrsio efo Shân Cothi am y therapi. Mae Sioned yn dod o Waunfawr yng Ngwynedd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae hi'n byw yng Nghaerdydd ac yn berchen ar gwmni J Reflexology yn y ddinas. Cysur - Comfort Adweitheg - Reflexology Heriau - Challenges Gradd ychwanegol - An extra degree Addas - Suitable Dan bwysau - Under pressure Egni - Energy Treulio - To digest Crediniol - Convinced Beichiogi - To become pregnant Bore Cothi Sut mae gwybod y gwahaniaeth rhwng colomen a sguthan? Dyna oedd cwestiwn Shân Cothi i Daniel Jenkins Jones, a dyma fo'n ateb mewn ffordd ddiddorol iawn. Colomen - Pigeon (Y)sguthan - Wood Pigeon Gwahaniaethu - To differenciate Turtur Dorchog - Collared Dove Tlws - Pretty Coedwigoedd - Woodlands Yn bla - A plague Cerddorol - Musical Atgoffa - To remind Sill - Syllable Aled Hughes Tybed ydy amser yn ymddangos i fynd yn arafach i blant nag ydy o i oedolion? Mae Dr Rhys Morris yn gweithio yn adran astroffiseg, Prifysgol Bryste, ac mae'n grediniol bod hynny'n digwydd. Dyma fo'n esbonio pam mae o'n credu hynny wrth Aled Hughes... Ymddangos - To appear Hŷn - Henach Atgofion - Memories Canran - Percentage Ymenydd - Brain Golygfeydd - Scenes Cyfnod llai - A shorter period Manylyn - A detail Gweledol - Visual

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 13eg o Fedi 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Sep 16, 2022 12:28


Aled Hughes Hanes anhygoel, ac emosiynol, Gerallt Wyn Jones gafodd ei fabwysiadu yn chwe mis oed o Fanceinion a chael ei fagu ym Methesda, Gwynedd. Aeth Aled Hughes draw ato am sgwrs a dyma Gerallt yn sôn am yr adeg pan ddaeth o i gyswllt efo'i deulu biolegol am y tro cynta… Dod i gyswllt - Come into contact Anhygoel - Incredible Mabwysiadu - To adopt Y fenga - Yr ifanca Tridiau - Tri diwrnod Angladd - FuneralBeti a'i Phobol Ann Ellis, Prif Weithredwr y Mauve Group, sef cwmni sy'n gweithio mewn nifer fawr o wledydd ar draws y byd, oedd gwestai Beti George. Mae ganddi bedwar cartre – ar ynys Cyprus, yn Rhufain, yn Dubai ac yn Miami ond cafodd Ann ei magu ym Merain, Sir Ddinbych, sef cartref uchelwraig o'r unfed ganrif ar bymtheg, Catrin o Ferain. Dod o hyd i - To find Prif Weithredwr - Chief Executive Rhufain - Rome Uchelwraig - Noblewoman Yr unfed ganrif ar bymtheg - 16th century Hardd - Beautiful Cyfoethoca - Richest Cytundeb - Contract Ysbrydoli - To inspire Menywod - MerchedGwneud Bywyd yn Haws Roedd hi'n wythnos ymwybyddiaeth Meigryn wythnos diwetha, ac roedd gan Hanna Hopwood raglen arbennig yn edrych ar Feigryn, neu Migrane, sy'n effeithio ar un ymhob saith person. Ei gwestai arbennig oedd Dr Anna Maclean, a mi roedd rhaid i Dr Anna ymddeol yn gynnar o'i swydd fel meddyg teulu oherwydd meigryn cronig ac erbyn hyn mae hi'n weithgar yn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr. Ymwybyddiaeth Meigryn - Migrane Awareness Cyflwr - Condition Dyddiol - Daily Diolch i'r nefoedd - Thank goodness Byd enwog - World famous Chwistrelliad - Injection Cyffur - DrugCofio Pensaernïaeth oedd pwnc y rhaglen archif “Cofio gyda John Hardy “ bnawn Sul. Roedd gwreiddiau'r pensaer enwog Frank Lloyd Wright yng Nghymru. Cafodd ei fam ei geni ar fferm yn Llandysul ac enw ei gartre yn America oedd “Taliesin”. Mi fuodd Ian Michael Jones yn rhoi ychydig o hanes y pensaer i ni. Pensaernïaeth - Architecture Gwefreiddiol - Thrilling Trawiadol - Striking Bythgofiadwy - Ever-memorable Andros o stori - A heck of a story Dylunio - To design Erw - Acre Rhaeadr - Waterfall Fel petai - As if Hud a lledrith - MagicCrwydro'r Cambria Mae Dafydd Morris Jones, sy'n ffermio yn ardal Ponterwyd, Ceredigion ac Ioan Lord, sy'n hanesydd diwydiannol, yn crwydro mynyddoedd y Cambria ar eu beics gan roi cipolwg ar hanes a thirwedd yr ardal. Ioan sy'n dweud lle yn union oedden nhw y diwrnod o'r blaen. Hanesydd diwydiannol - Industrial historian Cipolwg - A glimpse Tirwedd - Landscape Mwyngloddiau aur - Gold mines Gweithfeydd aur Rhufeinig - Roman gold works Am wn i - As far as I know Plwm - Lead Oes efydd - Bronze age Talaith - Region Ansawdd - QualityBore Cothi Mae Gŵyl Fwyd a Diod flynyddol yr Alban yn cael ei chynnal ar hyn o bryd. Mae Marian Evans yn byw yn Lossiemouth, tref glan y môr, rhwng Inverness ac Aberdeen a buodd Marian yn sôn am frecwast traddodiadol y wlad ar Bore Cothi... Ffasiwn beth - Such a thing Ansawdd - Texture Morwyr pysgota - Fishermen Saim - Fat Cynhesu - Twymo Enllyn - Dairy products Y llwybr cul - The narrow path

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 16eg o Awst 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Aug 16, 2022 13:40


Stiwdio Nofel hanesyddol enillodd gwobr Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac ar Stiwdio buodd Nia Roberts yn dathlu bywyd a gwaith awdures sy'n enwog ar ei nofelau hanesyddol sef Marion Eames. Hi sgwenodd Y Stafell Ddirgel a'r Rhandir Mwyn, ac roedd hi hefyd yn gerddor talentog. Cafodd hi ei geni yn 1921 a buodd farw yn 2007. Aeth Nia draw i Ddolgellau i gwrdd â'r Dr Buddug Hughes yng Nghapel y Tabernacl I gael ‘chydig o hanes cynnar Marion Eames… Cymry alltud Welsh exiles Dianc To escape Yn ddiwylliannol ac yn grefyddol Culturally and religiously Cyfarfu Gwladys a William Gwladys and William met Yr aelwyd The home Prinder tai affwysol Severe housing shortage Prin oedd ei gafael ar y Gymraeg Her grasp of Welsh was very weak Chwithig aruthrol Lletchwith iawn Awyddus Eager Cyfoedion Peers Aled Hughes Ychydig o hanes bywyd cynnar yr awdures Marion Eames yn fan'na ar Stiwdio. Dach chi'n dechrau pob sgwrs yn Gymraeg? Mae Awel Vaughan Evans o Adran Seicoleg Prifysgol Bangor yn ymchwilio i beth sy'n gweithio orau i annog pobl i ddechrau sgyrsiau yn y Gymraeg. Dyma hi'n siarad efo Aled Hughes fore Mawrth. Ymchwilio To research Annog To encourage Arbrawf Experiment Cortyn gwddw Lanyard Yn fwy tebygol More likely Ysgogi To inspire Caniatâd i'r ymennydd Permission for the brain Yn benderfynol Determined Llwybr yr Arfordir Coastal path Daearyddiaeth Geography Dei Tomos Y swigen oren yn gweithio felly – da ynde? Dei Tomos fuodd yn holi'r dramodydd a'r sgriptiwr o Bensarn Ynys Môn, Dewi Wyn Williams, oedd yn cofio y crwydriaid yn galw heibio ei fferm ar yr Ynys. Un ohonyn nhw oedd Washi Bach, crwydryn oedd yn eitha enwog ar Ynys Môn. Crwydriaid Tramps Piser Pitcher Bing Alley in a cow house Yn fratiog iawn Very ragged Mwmian To mumble Gwneud Bywyd yn Haws Hanes Washi Bach yn fan'na ar raglen Dei Tomos. Mae Kayley Sydenham yn dod o Gasnewydd, ond yn astudio ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd ac ar Gwneud Bywyd yn Haws buodd Kayley yn edrych yn ôl ar ei phrofiadau fel myfyrwraig y flwyddyn gyntaf gan siarad yn onest am iechyd meddwl ac am hunan anafu. Profiadau Experiences Hunan anafu To self harm Barddoni To write poetry Lles Welfare Cerdd A poem Gor bryder Anxiety Trafod yn agored To talk openly Gwaethygu To worsen Ffili Methu Mo'yn canolbwyntio Want to concentrate Ni y Nawdegau Kayley Sydenham oedd honna ac os dach chi'n fyfyriwr sy'n cychwyn yn y coleg mae'n bosib cael help a phob math o gyngor drwy gyfrwng y Gymraeg ar les a iechyd meddwl wrth fynd ar myf.cymru Ar Ni y Nawdegau buodd y gomedÏwraig Esyllt Sears yn edrych yn ôl ar y 90au ac yn canolbwyntio ar ffilmiau Cymraeg. Dyma hi'n sôn am ffilm o 1992 cafodd ei enwebu am Oscar – ‘Hedd Wyn'.. Lles Welfare Cafodd ei enwebu Which was nominated Yn gwegian yn feddw In a drunken stupor Degawd Decade Ffynnu Thriving Yn borcyn Naked Dadansoddi To analyse TGAU GCSE Beti a'i Phobol Ifan Jones Evans Esyllt Sears oedd honna'n edrych yn ôl ar y ffilm Hedd Wyn. Ffermwr a darlledwr o Geredigion oedd gwestai Beti George – Ifan Jones Evans - un sydd i'w glywed ar Radio Cymru o ddydd Llun hyd at ddydd Iau. Cafodd Ifan ei fagu ym Mhont-rhyd-y-groes yng Ngheredigion, ac mae'n sôn yn y clip yma am hanes diwydiant yr ardal, yn arbennig felly y gweithfeydd plwm, arian a sinc Darlledwr Broadcaster Diwydiant Industry Gweithfeydd plwm Lead works Olion Remains Twyni tywod Sand dunes Nant A brook Mwynau Minerals Tirwedd Landscape Gadael ôl To leave a mark

Beti a'i Phobol
Meirion Jones

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jul 3, 2022 50:32


Yr artist Meirion Jones yw gwestai Beti ai Phobol. Cafodd ei fagu yn Aberteifi a bu'n cyd weithio mewn stiwdio gyda'i Dad, y diweddar Aneurin Jones. Astudiodd Lefel A mewn Arlunio, Hanes a Cymraeg. Yna aeth i Goleg Celf Dyfed Caerfyrddin i astudio Celf am ddwy flynedd a dysgu llawer. Aeth Meirion ymlaen wedyn i astudio Cwrs Cyfathebu yn y Coleg Normal Bangor cyn mynd yn athro am 10 mlynedd, yn dysgu yn Abergwaun. Yna cyrhaeddodd bwynt yn ei fywyd naill ai ei fod yn aros yn y proffesiwn hyd nes y byddai'n ymddeol, neu ei fod yn torri hynny yn ei flas a gwireddu breuddwyd a byw fel artist o achos doedd o ddim y credu na fyddai wedi gallu maddau iddo fo ei hun tasa fo ddim. Roedd yn byw gartref o hyd a treuliodd y 10 mlynedd nesaf yn y stiwdio efo'i Dad. Roedd gan Meirion berthynas arbennig o glos efo'i Dad, medda fo. Dysgodd lawer iawn ganddo. Roedd hi'n berthynas symbiotig- roedd y ddau angen ei gilydd. Pan fu farw ei Dad, prynodd Joanna ag yntau 'small holding' tu allan i Abereifi. Dyma droi y beudy yno yn stiwdio ar gyfer y ddau. Cyfarfu Meirion Joanna yn Eisteddfod Abertawe ac mae hithau'n arlunydd llawn amser hefyd. Priodwyd y ddau yn 2013. Yn ddiddorol dydy Meirion erioed wedi arlunio ar ben ei hun, Roedd hefo'i Dad o'r blaen a bellach mae rhannu stiwdio efo Joanna. Mae'r byd mytholegol a chwedlonol o ddiddordeb mawr i Meirion. Cawn glywed hanes Chwedl Llyn y Fan fach. Mae'r chwedl hon wedi ei hudo drwy ei fywyd.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 26ain 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Apr 26, 2022 13:54


Bore Cothi - Ciwcymbyr Mae na ddywediad Saesneg 'cool as a cucumber' yn does? Ond beth sydd y tu ôl i'r dywediad hwn tybed? Alison Huw fuodd yn sgwrsio am hyn efo Shan Cothi... Sail wyddonol - A scientific basis Oeri'r gwaed - Cools the blood Ar drothwy - The onset of Cynnwys - To include Dyfrllyd - Watery Unigryw - Unique Si - A rumour Rhesymol - Reasonable Rhwydd - Hawdd Cnwd - Crop Dyna ni felly - ewch ati i blannu'ch ciwcymbers! Eden Cafodd y band Eden ei ffurfio yn 1996 ac ar ôl cyfnod o beidio perfformio mi ddaethon nhw'n ôl at ei gilydd yng ngwyl fawr Caerdydd, Tafwyl, yn 2016. Cafodd hyn ei ddisgrifio fel 'comeback' y ganrif ar Golwg 360! Roedd Rachael Solomon yn aelod o'r band a hi oedd gwestai Iwan Griffiths fore Sul. Dyma hi'n sôn am y profiad o berfformio yn Tafwyl... Man a man - Might as well Ymateb - Response Symudiadau - Movements Cynulleidfa - Audience Synnu - To be surprised Cysylltu - To connect Www, caneuon newydd gan Eden - rhywbeth i edrych ymlaen ato ynde? Aled Hughes Siarcod Ar raglen Aled Hughes clywon ni Lowri O'Neill, myfyrwraig bywydeg ym Mhrifysgol Abertawe, yn sôn am ei phrofiadau yn nofio efo siarcod yn Hawaii. Oedd hi mewn cawell? Oedd yna reolau am sut i ymddwyn wrth nofio efo nhw? Dyna oedd rhai o gwestiynau Aled i Lowri... Bywydeg - Biology Cawell - Cage Ymddwyn - To behave Bwystfil - Monster O hyd - Length Yn y bôn - Basically Cystadleuaeth syllu - Staring competition Ymddangos - To appear to Ysglyfaethod gweithredol - Predator Yn ôl pob golwg - Apparently Merch ddewr iawn ydy Lowri O'Neill ynde? Bore Cothi - deg uchaf adar Dan ni'n aros efo byd natur rŵan ond efo rhywbeth dipyn llai peryglus na siarcod sef yr adar sy'n dod i'n gerddi yng Nghymru. Gofynnodd yr RSPB i bobl nodi pa adar oedden nhw'n eu gweld yn eu gerddi ac mi wnaeth Daniel Jenkins Jones rannu deg ucha yr arolwg ar raglen Shan Cothi... Arolwg - Survey Crybwyll - To mention Ymdrech - Attempt Ji-binc - Chaffinch Pioden - Magpie Nico - Goldfinch Ysguthan - Woodpigeon Drudwy - Starling Titw Tomos las - Blue tit Aderyn y to - House Sparrow Aderyn y to yn ennill unwaith eto, chwarae teg ynde? Dros Ginio - Mererid a Hanna Mam a merch oedd gwesteion Dau cyn Dau Dewi Llwyd bnawn Llun diwetha a'r ddwy yn byw yn ardal Caerfyrddin, sef y prifardd Mererid Hopwood a'i merch, y cyflwynydd radio a theledu Hanna Hopwood. Nid yng Nghymru cafodd Hanna ei geni a dyma Mererid yn dweud rhagor am hynny... Prifardd - National crowned/chaired poet Cyflwynydd - Presenter Tystysgrif geni - Birth certificate Yn benderfynol - Determined Sylweddoli - To realize Y cyfnod Llundeinig - The London period ...a dyna beth da bod y teulu wedi symud i Gymru ynde, fel ein bod ni'n medru gwrando ar Hanna'n cyflwyno Gwneud Bywyd yn Haws ar Radio Cymru. Y Ffatri Ddillad Roedd ffatri ddillad Laura Ashley yn gyflogwr pwysig yng ngogledd Powys gan roi gwaith i tua wyth cant o bobl yr ardal ar un adeg. Buodd Eddie Bebb o Lanidloes yn gweithio i'r cwmni am 37 o flynyddoedd a chafodd Sian Sutton sgwrs efo am ddyddiau cynnar a llewyrchus Laura Ashley... Cyflogwr - Employer Llewyrchus - Prosperous Hwb - A boost Ysbryd - Spirit

Beti a'i Phobol
Dyfed Edwards

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Apr 24, 2022 48:55


Y nofelydd Dyfed Edwards, ydi gwestai Beti George. Enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddod Genedlaethol ddwy waith yn olynol., ac mae hefyd yn awdur toreithog yn Saesneg gan ysgrifennu dan yr enw Thomas Emson. Cafodd ei fagu ym mhentref Rhosmeirch ger Llangefni, ac fe aeth i Ysgol Gynradd Llangefni ac wedyn symud i Ysgol Gyfun Llangefni. Roedd wrth ei fodd yn darllen comics a llyfrau, dechreuodd yn y cyfnod yma ddarlunio a sgwennu straeon bach ei hun. Yna aeth i'r Coleg Normal ym Mangor i astudio ‘r cwrs Cyfathrebu yn 1985 . Dim ond ryw 7 ohonynt oedd yn astudio'r cwrs. Roedd y cwrs yn un weddol newydd ar y pryd ac yn dal i gael ei ddatblygu a'i greu. Un modiwl y dewisodd oedd Ysgrifennu Creadigol o dan arweiniad Rhiannon Davies Jones ac Ifor Wyn Williams sydd wedi ei ddylanwadu'n fawr. Ymgeisiodd am swydd gohebydd dan hyfforddiant efo grŵp papurau newydd yr Herald a bu'n llwyddiannus. Bu'n gweithio gyda'r Holyhead and Anglesey Mail, bu'n Ddirprwy Olygydd y Weekly News yng Nghyffordd Llandudno, a bu hefyd yn Olygydd Cynhyrchu'r Daily Post yng Nghymru. Mae bellach yn gweithio gyda'r Daily Mail gan weithio ar y ddesg fusnes. Mae'n gweithio o adref sy'n grêt. Mae o hefyd yn darlithio mewn ysgrifennu creadigol. Mae wedi ysgrifennu nifer o gyfrolau yn y ddwy iaith, ac mae bob amser nofel neu sgript ar y gweill.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 15fed 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Mar 15, 2022 14:51


Geraint Lloyd a Ann Cooper Athrawes gelf oedd Anne Lloyd Cooper cyn iddi hi ymddeol ond rŵan mae ganddi fusnes yn gwerthu gwawdluniau , neu 'caricatures'. Roedd hi wedi gwneud un o Geraint Lloyd ac roedd yn falch iawn ohono fo, ond sut a pham wnaeth Ann ddechrau gwneud y lluniau 'ma? Dyma hi'n dweud yr hanes wrth Geraint... Gwawdluniau - Caricatures Graddio - To graduate Degawdau - Decades Gwerth chweil - Worthwhile Tomen o luniau - Heaps of pictures Gweddill - The rest Elfennau - Elements Anne Lloyd Cooper o Gapel Garmon yn Sir Conwy oedd honna yn sôn am ei busnes gwneud gwawdluniau. Stiwdio Shirley Valentine Ar y podlediad wythnos diwetha clywon ni Manon Eames yn sôn am ei haddasiad hi o'r ddrama Shirley Valentine. Mae'r ddrama ar daith o gwmpas Cymru ar hyn o bryd ac mi aeth Branwen Cennard i'w gweld. Shelley Rees-Owen oedd yn cymryd rhan Shirley, sut hwyl gaeth hi tybed? Cafodd Nia Roberts sgwrs efo Branwen ar raglen Stiwdio... Addasiad - Adaptation Camu - To step Ysgubol - Sweeping Her aruthrol - A huge challenge Yn llythrennol - Literally Cyfathrebu - To communicate Cael eich denu - Being drawn into Menyw - Merch Cyffwrdd - To touch Roedd Branwen Cennard yn amlwg wedi mwynhau 'Shirley Valentine' yn doedd? Bore Cothi gwylio adar Mae'r Dr Emyr Wyn Jones, meddyg o Doncaster, yn mwynhau byd natur a thynnu lluniau o adar ar gyfer ei gyfrif trydar. Dechreuodd ei ddiddordeb pan oedd yn fachgen ifanc ym Mhwllheli ac mae o wrth ei fodd efo enwau Cymraeg yr adar. Dyma ran o sgwrs cafodd Shan Cothi efo fo... (c)hwyaid - Ducks Dylanwad - Influence Bywydeg - Biology Modrwyon - Rings Brych y coed - Mistle thrush Gylfinir - Curlew Siglo - Waging Cnocell y coed - Woodpecker Troellwr bach - Grasshopper warbler Telor yr helyg - Willow warbler Tydy enwau Cymraeg ar adar yn wych 'dwch? Dw i wrth fy modd efo 'cnocell y coed' - dach chi'n medru ei glywed yn cnocio wrth ei enwi yn tydach? Beti a'i Phobol Siân Elen Siân Elen Tomos ydy Prif Weithredwr GISDA, elusen sy'n cefnogi rhai sy'n ddigartref rhwng 16-25 oed yn y gogledd, a hi oedd gwestai Beti George. Prif Weithredwr - Chief Executive Digartrefedd - Homelessness Cynnydd - Increase Cynllunio - Planning Datblygu - To develop Darpariaeth - Provision Llety - Accommodation Buddsoddiad - Investment Y galw - The demand Rhestri aros - Waiting lists Siân Elen Tomos, o GISDA yn fan'na yn esbonio sut mae digartrefedd yn broblem fawr i bobl ifanc y gogledd. Sam Robinson Mae Sam Robinson o Rydychen yn wreiddiol, wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair mlynedd. Mae o'n byw ym Machynlleth erbyn hyn yn ffermio ac adeiladu waliau. Cafodd o sgwrs hir efo Dei Tomos a dyma i chi ran o'r sgwrs ble mae o'n sôn am pryd clywodd o'r Gymraeg am y tro cynta... Rhydychen - Oxford Y Goron - The (Eisteddfod) Crown Barddoniaeth - Poetry Mynnu - To insist Adrodd - Narrating Ymwybodol - Aware Cydio - To take hold of Uffernol - Hellish Mewnfudwyr - Immigrant Safle - Position Doedd dim eisiau i Sam boeni am ei Gymraeg o gwbl, nac oedd? Llythyr o Wcrain Dydd Iau ar Radio Cymru clywon ni gyfieithiad o waith yr awdur o Wcrain Andrey Kurkov, sy'n edrych yn ôl ar ddigwyddiadau yr wythnosau diwetha yn y wlad ac ar sut gwnaeth ei deulu ddianc o'u cartref yn Kyiv. Ifan Huw Dafydd oedd yn darllen. Mae'n bosib gwrando ar y llythyr ar BBC Sounds ac mi fydd llythyr arall wythnos nesaf. Dianc - To escape Llawenydd - Happiness Gofidiau - Worries Ffrwydrad - Explosion Pwyllo - To pause Rhyfel - War Ochneidio - To sigh Adnabyddus - Enwog Cymhlethdodau - Complications Difetha - To spoil

Beti a'i Phobol
Gwenan Roberts

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Mar 13, 2022 50:45


Gwenan Roberts ydi gwestai Beti a'i Phobol - mae hi wedi bod yn gweithio am flynyddoedd fel Therapydd iaith a lleferydd, ond bellach yn Athro meddylgarwch. Mae hi'n sôn am ei gwaith a'r amrywiaeth o swyddi gwahanol mae hi wedi ei wneud o weithio gyda throseddwyr ifanc i dreulio blwyddyn yn Calcutta. Yn wreiddiol o bentref Dinmael ger Corwen mae hi'n siarad am ddylanwad y fagwraeth glos yna arni. Cafodd ei chyflwyno i feddylgarwch tua deunaw mlynedd yn ôl ac yr oedd ei ymarfer yn hanfodol iddi yn ystod y cyfnod ansicr a gafodd. Tra'n gweithio llawn amser llawn amser dechreuodd gwrs ôl radd i fod yn athro meddylgarwch.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr y 3ydd 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Dec 3, 2021 16:09


01. GBYH - Leisa Mererid Pam dylen ni ddysgu ioga i'n plant, a sut basai gwneud hyn yn eu helpu? Dyma rai o gwestiynau Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws i'r awdures llyfrau ioga i blant, Leisa Mererid . Dyma flas i chi ar y sgwrs ... Yn gynyddol Increasingly Dyrys Complex Ymwybyddiaeth o'n cyrff Awreness of our bodies Delwedd corff Body image Heriau bywyd Life challenges Angor Anchor Gorbryder Anxiety Isymwybod Subconscious Myfyrio To meditate Synhwyrau Senses Gorlethu To overwhelm 02. Aled Hughes - Dr Sara Wheeler Leisa Mererid yn cael ei holi gan Hanna Hopwood. Hefyd ar y rhaglen roedd Nia Parry ac Anwen Gruffydd Wyn yn sôn am sut aeth y ddwy ffrind ati i sgwennu ‘Llyfr Bach Lles', ac yn ogystal mae Laura Karadog yn sôn am ymarfer ioga. I glywed y sgyrsiau yma ewch draw at BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws. Ar raglen Aled Hughes fore Mawrth, clywon ni sgwrs am Gastell Dinas ger Llangollen gyda'r Dr Sara Wheeler, a dechreuodd Aled a Sara sgwrsio drwy ddyflau o le daeth yr enw ar y castell... Brân Crow Gerllaw Nearby Deillio To derive Cymeriadau o chwedloniaeth Mythical characters Tueddu i fod Tends to be Yn answyddogol Unofficially Dyffryn Valley Gorffwys To rest 03. Stiwdio - Twm Morys Sgwrs am enw Dinas Brân yn fanna rhwng Aled Hughes a'r Dr Sara Wheeler. Mae hi bron yn flwyddyn ers marwolaeth yr awdur Jan Morris ac ar Stiwdio nos Lun, cafodd Nia Roberts sgwrs efo'i mab, y bardd a‘r cerddor Twm Morus. Dyma Twm yn sôn wrth Nia am ei fagwraeth gyda Jan... Magwraeth Upbringing Tomennydd Heaps Annog To encourage Coblyn o hwyl Great fun Grym geiriau The power of words I raddau To an extent Atalnodi Punctuation Llafar Spoken Golygyddion Editors Proflenni Proofs Mympwy A whim 04. Sioeau Cerdd Steffan - Lili Mohammad Twm Morys yn fan'na yn yn sôn am Jan Morris ac am ei fagwraeth gyda hi ar “Stiwdio gyda Nia Roberts” nos Lun diwethaf. I glywed rhagor o'r sgwrs ewch i BBC Sounds. Gwesteion Steffan Rhys Hughes ar ‘Sioeau Cerdd Steffan' yr wythnos diwetha oedd merch ysgol o Gaerdydd, Lili Beth Mohammad, a dyma hi'n esbonio wrth Steffan o ble daeth ei diddordeb hi mewn sioeau cerdd... Cyfryngau Media Cantores amryddawn A versatile singer(female) Arddulliau Styles Yn benodol Specifically Atgofion Memories 05. Dros Ginio - Angharad Lee Y ferch ysgol o Gaerdydd, Lili Beth Mohammad, oedd honna yn sgwrsio gyda Steffan Rhys Hughes am sioeau cerdd. Mae gan y Gymraeg fel pob iaith arall ei thafodieithoedd. Y Wenhwyseg ydy tafodiaith de-ddwyrain Cymru ond does dim llawer o bobl yn ei siarad erbyn hyn. Dyma ddau o'r de-ddwyrain, Vaughan Roderick ac Angharad Lee yn trafod pam mae hynny wedi digwydd... Tafodieithoedd Dialects Adennill To reclaim Corfforol Physical Galaru To mourn Bodoli To exist Yn gyfarwydd Familiar Plethu To weave in and around Yn weddol glou Quite quickly 06. Pigion - Geraint Lloyd gyda Elis a Sion Vaughan Roderick ac Angharad Lee yn trafod y Wenhwyseg ar Dros Ginio. Dros y penwythnos buodd Geraint Lloyd yn mwynhau Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc ym Mhontrhydfendigaid yng Ngheredigion. Cafodd sgwrs gyda sawl un fuodd yn cymryd rhan, a dyma i chi sgwrs cafodd e gydag enillwyr y ddeuawd dan wyth ar hugain oed, Elis Jones a Sion Eilir o Glwyd. Deuawd Duet Pysgotwyr Perl Pearl Fishers Awydd Eagerness Beirniad Adjudicator Heriol Challenging Rhwydd Hawdd Aruthrol o dda Exceptionally good Safon Standard Clod Praise Arwerthwr Auctioneer

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Dachwedd 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Nov 12, 2021 18:33


1. Gwneud Bywyd yn Haws – Clip Cytiau Elliw Gwawr ac Angharad Haf Wyn Mae BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i'r argyfwng newid hinsawdd yn ystod tymor yr Hydref gyda rhaglenni arbennig o'r enw ‘Ein Planed Nawr'. Un o'r rhaglenni hynny ydy ‘Gwneud Bywyd yn Haws' ac yn rhaglen wythnos diwetha clywon ni bod defnyddio clytiau, neu cewynnau, aml-ddefnydd yn llawer iawn gwell i'r amgylchedd na defnyddio'r rhai sy'n cael eu taflu ar ôl eu defnyddio unwaith yn unig. Dyma glip o Hanna Hopwood yn sgwrsio gyda dwy fam sy'n defnyddio'r clytiau aml-ddefnydd, Angharad Haf Wyn ac Elliw Gwawr… Argyfwng newid hinsawdd Climate change crisis Clytiau/cewynnau Nappies Aml-ddefnydd Multiple use Amgylchedd Environment Ymchwil Research Buddsoddi To invest Arbrofi To experiment Ymrwymo To commit ‘Ta beth Beth bynnag Cyflwr Condition Tueddu i hyrwyddo Tends to promote 2. Ifan Evans – Gwobr i Edna Jones Dyna i chi flas ar raglen ‘Gwneud Bywyd yn Haws' gyda Hanna Hopwood sydd ar Radio Cymru bob nos Fawrth am 6pm. Ac os dych chi eisiau clywed mwy o'r sgwrs yma ewch draw i wefan bbc sounds, neu am ragor o raglenni sy'n sôn am yr amgylchedd ewch at y wefan bbc.co.uk/einplanednawr Unwaith eto mae rhaglen Ifan Evans yn dweud ‘Diolch o Galon' i rywun arbennig sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eu hardal, neu glwb, neu mewn cymdeithas arbennig. Wythnos diwetha aeth Ifan i Ynys Môn, i roi tlws Diolch o Galon i Edna Jones, Trefnydd CFFI yr Ynys Tlws Trophy Syfrdanu Astounded Gweithgar Hardworking Ces i fy nychryn I was shocked Enwebiad Nomination Talcen caled A hard grafft Cyn-aelodau Former members Mewn chwinciad In a jiffy Becso Poeni 3. Newid Hinsawdd Taid a Fi – Micro Plastic ...ac os dych chi'n nabod rhywun dach chi'n meddwl dylai ennill tlws ‘Diolch o Galon', cofiwch gallwch chi anfon enwebiad at Ifan drwy e-bost ar ifan@bbc.co.uk Yn y rhaglen ‘Newid Hinsawdd :Taid a Fi' mae Leisa Gwenllian yn mynd ar daith i gyfarfod rhai o'r bobol ar ei stepen drws sydd yn gwneud gwaith difyr ac phwysig i wella'r amgylchedd, yng nghwmni ei thaid, neu dad-cu, y naturiaethwr Duncan Brown. Yn y clip yma, mae Leisa yn cael sgwrs am feicroblastig gyda Nia Jones a'r Dr Dei Huws o Brifysgol Bangor. Hudolus Magical Mor brydferth So beautiful Uwch Ddarlithydd Senior lecturer Gwyddorau Môr Marine Science Gwasgariad Dispersal Llygredd Pollution Amsugno To absorb Tanwydd Fuel Ynni Energy Lleihau To reduce 4. Rhys Mwyn – Fflur Dafydd Pwy fasai'n meddwl bod meicroblastig mor gyffredin on'd ife? Mae e yn ein siwmperi hyd yn oed! Roedd yr awdures Fflur Dafydd gyda Rhys Mwyn wythnos diwetha a buon nhw'n rhannu ei dewisiadau o draciau ffync. Yn ystod y sgwrs soniodd Fflur sut gwnaeth hi ddewis caneuon ar gyfer y gyfres deledu ‘Amgueddfa' oedd ar S4C eleni, er mwyn cael rhoi rhagor o haenau i'r cymeriadau… Cyffredin Wide-spread Haenau Layers Cymeriadau Characters Golygfeydd Scenes Drych Mirror Dylanwadau Influences 5. Geraint Lloyd – Randall Bevan ..a'r newyddion da ydy bod cyfres arall o Amgueddfa ar y ffordd, ac mae Fflur wrthi'n sgwennu'r sgript ar hyn o bryd. Randall Bevan o Ipswich sydd yn gyn-drampolinydd, ac yn 88 oed oedd yn cadw cwmni i Geraint LLoyd nos Fercher, a soniodd Randall ei fod wedi derbyn neges arbennig gan ffrind enwog iawn – pwy oedd e tybed? Halais i Anfones i Gynnau fach A moment ago Tylwyth Teulu Ŵyr a ŵyres Grandson and grandaughter 6. Clip Dros Ginio Randall a Buzz – wedi dyna stori dda on'd ife? Wythnos diwetha, cyhoeddodd Wales Online restr o 15 o Gymry du dylen ni roi sylw iddyn nhw. Roedd Sian Jones, y steilydd gwallt 22 oed o Gaerdydd, yn un o'r pymtheg yma. Cafodd hi sgwrs gyda Catrin Haf Jones ar raglen Dros Ginio, a dyma hi'n sôn am ei harbenigedd hi mewn gwalltiau unigolion duon… Unigolion duon Black individuals Cyhoeddi To publish Arbenigedd Expertise Penodol Specific Yn cynnwys Including Mor brin So scarce Gradd Degree Fy synnu i Surprises me Hyfforddi Training

ac buzz ipswich leisa yn haws s4c ifan diolch dyma duncan brown podlediad wythnos hydref radio cymru nia jones gaerdydd cafodd
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 30ain o Orffennaf 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jul 30, 2021 16:05


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … LISA ANGHARAD Dych chi wedi bod ar wyliau y tu allan i Gymru a chlywed pobl yn siarad Cymraeg? Yn ôl cyflwynydd y rhaglen deledu Cynefin, Sion Thomas Owen, mae hyn yn digwydd iddo fe bob tro mae'n mynd i ffwrdd. Fe oedd gwestai Lisa Angharad fore Gwener ar RC2, a dyma i chi ychydig o'r hanesion rannodd e am ei wyliau.... Cyflwynydd Presenter Mam-gu Nain Mo'yn Eisiau Cnoi Brathu Anghyfarwydd Unfamiliar CARYL AC ALUN Sion Thomas Owen oedd hwnna'n sôn am ddod ar draws pobl o Gymru ar ei wyliau. Cyflwynydd newydd Sioe Frecwast Bore Sul ar RC2, Miriain Iwerydd, oedd gwestai arbennig Caryl ac Alun yr wythnos yma. Mae'n debyg bod Mirain yn hoff iawn o fisgedi a dyma hi'n dewis ei hoff rai... Mae'n debyg Apparently STIWDIO Dych chi'n cytuno gyda dewis Mirain? Mae'n rhaid dweud bod y bisged siocled tywyll yn swnio'n hyfryd! Mae Oriel Môn, oriel gelf ger Llangefni ar Ynys Môn, yn 30 oed eleni ac i nodi'r penblwydd hwnnw cafodd Nia Roberts sgwrs gydag artist o Fôn, Iwan Gwyn Parry, ar Stiwdio nos Lun. Cafodd yr oriel ei hagor yn wreiddiol er mwyn dangos gwaith yr artist bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe, ac mae Iwan yn cofio gweld Tunnicliffe wrth ei waith pan oedd Iwan yn blentyn bach. Pa effaith cafodd hynny ar ei yrfa fel artist tybed...? Oriel gelf Art gallery Cyffredin Common Ymwybodol Aware Dylanwad Influence Trobwynt Turning point Isymwybod Sub-conscious Efelychu To emulate Esblygu To evolve Unigryw Unique Ewyllys Will Cenhedlaeth Generation MOEL Mae Iwan Gwyn Parri wir yn gobeithio bydd e'n berchen ar y darlun hwnnw rywdro on'd yw e? Mae gan Aled Hughes bodlediad gwych o'r enw Moel sy'n trafod pob math o bynciau gwahanol - a'r tro hwn, Ffilmiau Mawr Hollywood oedd yn cael sylw ac yn y clip hwn mae'n trafod ‘Gone with The Wind'... Moel Bald Oedi To delay Dal allan Caught out Heb ‘di Ddim wedi Anhygoel Incredible Ail-adeiladu To rebuild Enfawr Huge Y meddylfryd Mentality SARA GIBSON Ac o bodlediad ‘Moel' i glip sy'n sôn am steiliau gwallt. Sara Gibson oedd yn cyflwyno rhaglen Aled ar Radio Cymru wythnos diwetha a chafodd hi air gyda'r barbwr Jason Parry o Gaernarfon am ddylanwad pêl-droedwyr ar ffasiwn gwallt dynion. Enghraifft Example Yn gyffredinol Generally Ers talwm In the past Poblogaidd Popular Be ddiawl...? What on earth...? SIOE FAWR SHAN Ie, diddorol on'd ife - dw i'n siŵr eich bod yn cofio i lawer o blant ifanc Cymru liwio eu gwalltiau yn wyn er mwyn efelychu Aaron Ramsey pan oedd yn chwarae i Gymru yn Euros 2016. Roedd y Sioe Fawr, neu'r Sioe Frenhinol, ar ffurf wahanol eleni – ac er nad oedd posib mynd i Lanelwedd i fwynhau'r Sioe, roedd digon o adloniant amaethyddol yn digwydd, ac yn cael ei rannu ar Radio Cymru. A dyw'r sioe ddim yn sioe heb Shan Cothi nac yw? Dyma ran o sgwrs Shan gyda Melanie Owen am… beth arall… ond ceffylau!! Y Sioe Frenhinol The Royal (Welsh) Show Amaethyddol Agricultural Tanio diddordeb To spark an interest Tanllyd Fiery Ymddiried ynddyn nhw Trust in them Hyblyg Flexible Y sylw The attention Pencampwriaethau Championships Pedoli To shoe Berwedig Boiling Prydferth Beautiful

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 12fed Mawrth 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Mar 12, 2021 15:22


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … TRYSTAN AC EMMA Roedd gan Trystan ac Emma ddiddordeb mawr mewn rhestr oedden nhw wedi ei weld o‘r gemau bwrdd mwya poblogaidd – a Monopoly oedd ar y brig wrth gwrs! Cafodd y ddau sgwrs gyda Dyfed Edwards o gwmni What Board Games i drafod y rhestr ac i ystyried apel gemau bwrdd yn gyffredinol Rhestr - List Gemau bwrdd - Board games Ar y brig - In the top spot Ystyried - To consider Yn gyffredinol - Generally Yn amlwg - Obviously Ennyn diddordeb - To arouse the interest Ymddiddori - To be interested in Ehangu meddyliau - To expand the minds Rhyngrwyd - Internet FFION EMYR A dw i’n siŵr bod llawer mwy ohonon ni wedi bod yn chwarae gemau bwrdd yn ystod y cyfnod clo on’d oes? Rhywbeth arall sy wedi bod yn boblogaidd yn ystod y flwyddyn ddiwetha ydy cwisiau. Daeth Cris, cwis feistr rhaglen Geth a Ger i gael sgwrs gyda Ffion Emyr nos Wener a rhoi tips iddi hi ar sut i ennill mewn cwis tafarn. Yr un un diddordebau - Exactly the same interests Ail-greu - To re-create Rhyfeloedd - Wars Dw i’n cymryd - I presume Rhestrau - Lists Prif Wenidogion - Prime Ministers Arlywyddion - Presidents Taleithau - States ALED HUGHES Wel dych chi’n gwybod beth i’w wneud nawr pan fydd cwisiau tafarn yn ail-gychwyn – dim ffrindiau yn eich tîm! Gyda Phrifysgol Lerpwl yn dechrau cwrs gradd MA ar hanes a cherddoriaeth y Beatles, cafodd Aled Hughes a Meurig Rees Jones sgwrs am y cysylltiad rhwng y Fab 4 a Chymru Gradd - Degree Cerddoriaeth - Music Cysylltiad - Connection Ddaru nhw - Wnaethon nhw Hel - To collect Diswyddo - To sack GERAINT LLOYD Meurig Rees Jones oedd hwnna yn sôn wrth Aled Hughes am y cysylltiadiau rhwng y Beatles a Chymru. Daeth y sianti yn boblogaidd iawn yn ddiweddar ar Tik Tok ac ar-lein. Ar raglen Geraint Lloyd buodd Anna Sherratt yn sôn am ei chôr rhithiol, Côr Pawb, ac yn rhoi her i Geraint ymuno â nhw i ganu ac i greu sianti môr Her - A challenge Sylweddoli - To realise Caneuon gwerin - Folk songs Ymuno â - To join Dolen - Link Archebu - To order Ymchwilio - Researching Yn y cefndir - In the background SHELLEY A RHYDIAN Tybed fydd Geraint yn derbyn yr her? Dyn ni’n siŵr o gael gwybod ar ei raglen on’d dyn ni?. Matthew Rhys oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Fe oedd yn dewis rhai o’i hoff ganeuon ‘codi calon’ ac yn rhannu rhai o’i hanesion Hollywood – fel pan gafodd y fraint o eistedd ar bwys Michelle Obama mewn swper moethus! Y fraint - The honour Ar bwys - Wrth ymyl Moethus - Luxurious Pob arweinydd y byd - Every world leader Fforcais i e - I forked it Prawf - Proof Ffrwydro - To explode Wir Dduw - God’s truth GWNEUD BYWYD YN HAWS Meddyliwch tasai‘r tomato wedi glanio ar ffrog Michelle – roedd Matthew yn lwcus iawn on’d oedd e? Yr wythnos hon ar Gwneud Bywyd yn Haws buodd Hanna Hopwood Griffiths yn sgwrsio gyda thri sydd wedi dysgu Cymraeg. Yn y clip yma mae hi’n sgwrsio gyda’r Dr Jonathan Hurst, meddyg yn Ysbyty Merched Lerpwl ac Ysbyty Plant Alder Hey sydd wedi dysgu Cymraeg er mwyn gallu siarad yn Gymraeg gyda theuluoedd o Ogledd Cymru sy’n gorfod mynd i’r ddwy ysbyty Mynychu - To attend Yn rheolaidd - Regularly Ymddengys - It appears Gwenu - Smiling Fy annog - Encourages me

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 18fed Chwefror 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Feb 19, 2021 0:49


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Dros Ginio - Anthony Evans Morgi a Draenog y Môr- dyn nhw dim yn swnio’n ddeniadol iawn nac ydyn, er eu bod yn bysgod blasus iawn. Mae pysgotwyr yng Nghernyw eisiau newid enwau eu pysgod er mwyn iddyn nhw swnio’n fwy lleol a deniadol. Ddylai ni wneud yr un peth yng Nghymru? Dyma farn y cogydd Anthony Evans yn sgwrsio gyda Vaughan Roderick… Morgi - Dogfish Draenog y Môr - Sea Bass Pwysleisio - To emphasise Cregyn gleision - Mussels Cynnyrch - Produce Moethus - Luxurious Croen - Skin Papur tywod - Sandpaper Dros Frecwast - Cledwyn Ashford Y cogydd Anthony Evans oedd hwnna yn meddwl dylid newid enwau rhai o‘r pysgod sy’n cael eu dal yng Nghymru. Mae ychydig bach o Hollywood wedi cyrraedd Wrecsam gyda’r newyddion bod yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi prynu’r clwb pêl-droed. Mae ffans y clwb wrth eu boddau a dyma un ohonyn nhw, Cledwyn Ashford, yn sgwrsio gyda chriw Dros Frecwast am y newyddion cyffrous Dylanwad - Influence Y gymuned - The community Anhygoel - Incredible Perchnogion - Owners Dyled - Debt Sicrhau pryniant - To clinch the purchase Buddsoddi - To invest Ieuenctid - Youth Ysbryd - Spirit Troi’r Tir - Emyr Lewis ..a nawr symudwn ni o bêl-droed i rygbi ac roedd Cymru’n chwarae yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y penwythnos diwetha. Ar Troi’r Tir yr wythnos diwetha, clywodd Terwyn Davies hanes ffermwr o ganolbarth Cymru sy bellach yn ffermio yn yr Alban. Pwy oedd e’n ei gefnogi yn y gêm fawr tybed? Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - Six nations Y Canolbarth - Mid Wales Sir Drefaldwyn - Montgomeryshire Rheolwr - Manager Gradd amaeth - A degree in agriculture Sioe Frecwast - Emyr Lewis Gan ein bod ni newydd fod ym myd amaeth beth am i ni sôn am y Tarw – na nid yr anifail fferm ond Emyr Lewis oedd yn arfer chwarae fel rhif wyth i Lanelli ac i Gymru. Cafodd e’r enw tarw achos ei rediadau cryf fel wythwr yn torri drwy’r gwrthwynebwyr ond roedd dawn cicio ganddo hefyd fel buodd e’n sôn wrth Daf a Caryl… Rhediadau - Runs Gwrthwynebwyr - The opposition Cryn dipyn o bwysau - Quite a lot of pressure Digwydd bod - As it happens Asgell - Wing Buddugoliaethau - Victories O’ch plaid chi - In your favour Cenhedlaeth - Generation Cerddorol - Musical Unigryw - Unique Gwneud Bywyd yn Haws - Cerys Davage Ac mae Emyr Lewis yn sylwebu ar holl gemau Cymru yn y Chwe Gwlad ar Radio Cymru. Un o effeithiau’r cyfnod clo yw nad yw hi wedi bod yn bosib mynd i wrando ar gerddoriaeth fyw. Mae’n debyg bod hyn wedi effeithio ar bobl ifanc yn fwy na neb. Ar Gwneud Bywyd Yn Haws, cafodd Hanna Hopwood sgwrs am hyn gyda Cerys Davage sydd ar ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth … Sylwebu - To commentate Cymdeithasol - Social Gweld eisiau - To miss Bloc Llety - Residential block Mae e wir yn drueni - It’s a real shame Yn gyfarwydd iawn - Very familiar Dathlu - To celebrate Cyfryngau cymdeithasol - Social media Bore Cothi - Aled Llyr Gruffudd Cerys Davage o Brifysgol Aberystwyth oedd honna’n sôn am sut mae'r cyfnod clo wedi effeithio ar fywyd cymdeithasol myfyrwyr. Enillodd Aled Llŷr Gruffudd wobr yn ddiweddar am un o’i ffilmiau, a gofynnodd Shan Cothi iddo fe sut cafodd e’r syniad am y ffilm...... Gwobr - Award Pwnc - Subject Galar - Bereavement Nain - Mam-gu Gwacter - Emptiness Di-nod - Pointless Ysbrydoli - To inspire

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 21ain Ionawr 2020

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jan 22, 2021 14:35


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … AR Y MARC Mae Luke Williams o Stafford wedi dechrau cyfrif Twitter, Pêl-droed 5 munud - @PD5Munud, i helpu pobl ddysgu Cymraeg – a hynny drwy ddefnyddio eu cariad tuag at bêl-droed. Cafodd Dylan Jones air gyda Luke ar Ar y Marc Dechreuwr - Beginner Canolradd - Intermediate Parhau - To continue Barnau - Opinions Cyfle - Opportunity Gwelliannau - Improvements BYWYD YN HAWS Blog Cymraeg i ddysgwyr sy’n licio pêl-droed – da iawn Luke - am syniad gwych. Hana Hopwood Griffiths oedd yn gofyn beth sy'n gwneud bywyd yn haws i Sophie Richards, ond am gyfnod doedd ei bywyd hi ddim yn hawdd o gwbl. Buodd Sophie am flynyddoedd yn diodde o boenau yn ei bol ac ar ei brest a doedd y meddygon ddim yn siŵr beth oedd yn bod arni hi. Yn y diwedd cafodd hi ddiagnosis ei bod hi’n diodde o’r cyflwr endometriosis ac mae hi erbyn hyn yn cynnal blog i helpu merched sy’n diodde o’r un cyflwr. Dyma Sophie’n dweud yr hanes… Am gyfnod - For a period Brest - Chest Diodde(f) - Suffering Cyflwr - Condition Bant - I ffwrdd Tyfu lan - Growing up Oddi ar y triniaeth - since the treatment COFIWCH DRYWERYN Sophie Richards oedd honno, sy’n cynnal blog i helpu merched sy’n diodde o’r cyflwr endometriosis. Dw i’n siŵr eich bod wedi gweld y slogan ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ar hyd a lled Cymru ac ar sticeri ceir hefyd. Cafodd y slogan gwreiddiol ei beintio ar wal ar yr A487 ger Llanrhystud yng Ngheredigion ac ar Cofio yr wythnos diwetha cyfaddefodd yr academydd Meic Stephens wrth Beri George mai fe beintiodd y geiriau eiconig hynny yn y chwedegau a hynny pan oedd e’n dysgu Cymraeg… Cyfaddefodd - Admitted Y ddelwedd - The image Darganfod - To discover Ledled - Throughout LISA GWILYM Meic Stephens yn cyfadde anghofio’r treiglad meddwl wrth beintio slogan enwoca’r Gymraeg! Dych chi wedi gwneud addunedau blwyddyn newydd eleni, ac os felly dych chi wedi llwyddo i’w cadw nhw hyd yn hyn? Yn yr Ysgol Sul ar raglen Lisa Gwilym ddydd Sul – edrychodd hi’n ôl ar hanes traddodiad gwneud addunedau… Addunedau Resolutions Mynychu Attend Cyhydnos y gwanwyn Spring Equinox Sicrhau To ensure Yn fwy tebygol More likely Dyled Debt (G)addo dychwelyd promise to return Y Rhufeiniaid The Romans Hynafol Ancient Crefyddol Religous Diwylliant Culture Yn benodol iawn Very specific DROS GINIO Dyma i chi adduned blwyddyn newydd gwych- dwedwch wrth unrhyw ddysgwr dych chi’n ei nabod i wrando ar y podlediad hwn, ac ar bodlediadau Cymraeg eraill wrth gwrs! Mam a mab – Jên a Dylan Ebenezer oedd gwesteion Dau Cyn Dau Dewi Llwyd ar Dros Ginio. Mae Dylan a’i dad Lyn yn ffans mawr o dîm Arsenal, sut oedd hyn wedi effeithio ar ei bywyd fel teulu tybed? Wedi gwirioni - Mad about Agwedd - Attitude Hunllef - Nightmare Ei grud e - His cradle Profiad poenus - A painful experience Rhwydo - To ensnare Gwadu - To deny Gwarchod - To babysit Dad-cu - Taid Cyswllt - Connection Brechlyn - Vaccine TRYSTAN AC EMMA Gobeithio bydd Jên fel sawl mam-gu, neu nain, yn cael gweld eu hwyrion yn y dyfodol agos on’d ife? Dych chi’n ffan o Dr Who, beth ydy’ch barn chi o Jodie Whitaker fel y Doctor a phwy sech chi’n licio ei weld fel y Dr Who nesa? Dyma oedd barn y super-fan Harry Coles ar raglen Trystan ac Emma… Cymuned enfawr - A huge community Dilyniant - A following Cyfres - Series Sibrydion - Whispers Camu mewn - To step in Paid â dweud - You don’t say Yn dy dyb di - In your opinion Cymeriad - Character Sirioldeb - Cheerfulness

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr Tachwedd 6ed 2020

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Nov 6, 2020 14:58


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Shelley a Rhydian - Sioe Sadwrn Roedd yr actor Ieuan Rhys yn astudio drama yn y coleg pan gafodd ei gyfle cynta i actio’n broffesiynol ac yn fuan iawn dechreuodd actio rhan Sarjant James yn Pobol y Cwm a buodd e’n actio’r rhan hwnnw am flynyddoedd maith. Fe oedd un o westeion Shelly a Rhydian ar y Sioe Sadwrn a dyma fe’n esbonio sut cafodd e ei swydd actio gynta… Cwpla - To finish Lan llofft - Upstairs Cyfweliadau - Interviews Cwrdd â - To meet Pennod - Episode Parodd - It lasted Huw Stephens a Huw Chiswell - Sioe Frecwast Radio Cymru 2 Yr actor Ieuan Rhys oedd hwnna’n sôn am sut cafodd o’r cyfle i actio ar Pobol y Cwm. Mae Huw Stephens yn mynnu bod ei westeion yn ateb ei gwestiynau drwy roi’r gair Cocadwdl o flaen yr ateb. Dw i’n siŵr ei bod hi’n ddigon anodd i gofio’r holl atebion yes/no yn Gymraeg heb y dasg ychwanegol honno! Y canwr Huw Chiswell oedd yn ateb y cwestiynau Cocadwdl yr wythnos diwetha a dyma i chi sut aeth o ymlaen… Diflas - Boring Bronoeth - Topless Eitha anghyffredin - Quite unusual Cwlwm - Knot Yn benodol - Specifically Fy nghlustffonau - My headphones Ymwrthod - To reject Cyfaill - Friend Suro’r syniad - Spoiled the idea Fy isymwybod - My subconcious Dewi Llwyd a Shan Cothi - Dewi Llwyd Huw Chiswell yn cocadwdlio efo Huw Stephens yn fan’na. Fel arfer cyflwyno rhaglenni mae Shan Cothi ond hi oedd gwestai Penblwydd Dewi Llwyd ddydd Sul. Sut oedd Shan am ddathlu’r diwrnod mawr tybed? Ffordd unigryw - An unique way Alla i ddychmygu - I can imagine Yn hŷn (e)to - Older again Marchogaeth - Horse riding Uniaethu - To empathise Meddiant - Possession Fy niweddar ŵr - My late husband Teulu gofaint - Blacksmith family Angerdd - Passion Daniel Glyn a Hannah Daniel - Sioe Frecwast Radio Cymru 2 Penblwydd hapus iawn i Shan Cothi. Yr actores Hannah Daniel oedd yn ateb Cwestiynau Diog Daniel Glyn wythnos diwetha a dyma i chi flas ar ei hatebion hi… Cwestiynau diog - Lazy Questions Cymeriad - Character Eitha pert - Quite pretty Hoff lwyfan - Favourite stage Amgueddfa - Museum Darlithoedd - Lectures Atgofion melys iawn - Very sweet memories Lisa Gwilym a Gary Melville Yr actores Hannah Daniel yn cofio am ei dyddiau ysgol wrth ateb Cwestiynau Diog Daniel Glyn. Lisa Gwilym oedd yn cyflwyno rhaglen Aled Hughes wythnos diwetha a buodd hi’n sgwrsio gyda Gary Melville am hanes recordiau 7 modfedd… Unol Daleithau - United States Poblogaidd - Popular Creu - To create Offer - Equipment Gwasgu - To press Rhyddhau - To release Gan amla(f) - More often than not Disodli - To replace Trystan ac Emma – Post Cyntaf Dipyn bach o hanes y byd recordiau yn fan’na gan Gary Melville. Cafodd seremoni wobrwyo BAFTA Cymru ei chynnal nos Sul a dau o’r enillwyr oedd Trystan Ellis Morris ac Emma Walford am eu gwaith yn cyflwyno’r gyfres Prosiect Pum Mil. Kate Crocket gafodd gyfle i longyfarch y ddau ar Post Cynta’ fore Llun… Seremoni wobrwyo - Award ceremony Llongyfarchiadau - Congratulations Mae’n rhaid (i mi) cyfadde - I must admit Llond y lle - Full up Wedi cael eu henwebu - Had been nominated Cefndryd - Male cousins Esblygiad - Evolution Yn y bôn - Basically Cymunedau - Communities Cyfranwyr - Contributors Cyflawni - To achieve

sul fe spoiled shan dw fel yr cymraeg sut cwm gymraeg huw stephens bafta cymru radio cymru pobol tachwedd cafodd
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 30ain o Ebrill

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Apr 30, 2020 19:29


S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Recordiau Rhys Mwyn Llun 20/04/20 Heledd Watkins "Mae clipiau'r wythnos hon i gyd yn sôn am sut mae gwahanol bobl yn ymdopi gyda'r sefyllfa anodd sydd wedi codi oherwydd Covid-19. Dyma Heledd Watkins o'r band HMS Morris yn dweud ar ba gerddoriaeth mae hi'n gwrando yn ystod y cyfnod yma..." ymdopi - to cope profiadau cerddorol - musical experiences gwyllt a gwallgof - wild and mad llwyth - loads droeon - several times yn benodol - specifically syllu - staring gorfeddwl - overthinking cynrychioli - to represent trefnu - arrange Sioe Frecwast "Sul – 19/04/20 Meilir Rhys Williams ".Nesa, sut dach chi'n cadw'n brysur yn y cyfnod anodd yma - garddio, coginio, gwrando ar Radio Cymru? Ar y Sioe Frecwast dydd Llun clywon ni sut oedd yr actor Meilir Rhys Williams o Rownd a Rownd yn cadw ei hun yn brysur..." paratoi - to prepare gwreiddio - to root pobi - to bake gwyddbwyll - chess yn fras - broadly ffyn - sticks andros o hwyl - lots of fun Sioe Frecwast Daf a Caryl "Iau 23/04/20" Owain Wyn Evans Owain Wyn Evans ydy 'dyn tywydd' BBC North West Tonight, ond mae e, fel llawer ohonon ni, yn gorfod gweithio o gartre y dyddiau hyn. Cafodd llawer o wylwyr y rhaglen sioc wythnos diwetha wrth i Wyn orffen sôn am y tywydd a rhedeg at ei ddrymiau a'u chwarae'n fyw ac yn wyllt ar y teledu. Mae miloedd o bobl wedi gweld y clip ohono yn gwneud hyn a chafodd Daf a Caryl sgwrs gyda fe fore Iau am y digwyddiad alla i ddychmygu - I can imagine y blaned Mawrth - The planet Mars gwefannau cymdeithasol - social media dim clem - no idea cyflwynydd - presenter ysbrydoli - to inspire rhagolygon - forecast unigryw - unique anhygoel - incredible Geraint Lloyd Llun 20/04 Dartiau Facetime "Ffordd wahanol iawn sy gyda Llion Thomas i gadw ei hun yn brysur dros y cyfnod yma. Dartiau ydy hobi Llion a 'sech chi'n meddwl basai'n anodd iawn cael gêm dartiau yn erbyn rhywun arall y dyddiau hyn. Ond mae Llion wedi ffeindio ffordd i wneud hynny, fel buodd e'n esbonio wrth Geraint Lloyd." yndw 'chan - ydw, fachgen taflu - to throw ble bynnag - wherever gormod - too much cystadlaethau mawr - big competitions Bore Cothi Llun 20/04/20 "John Williams" "Mae'n bywyd pob un ohonon ni wedi newid gyda'r argyfwng yma on'd dyw e? Ond mae bywyd John Williams o Abergele wedi newid yn llwyr. Mae John yn colli ei olwg oherwydd Glaucoma, ond dyw e ddim yn hollol ddall. Cyn mis Mawrth eleni ei hoff ffordd o dreulio amser oedd teithio o gwmpas Prydain ar y bws neu ar y tren. Mae hynny wrth gwrs wedi stopio am nawr ond dyma John yn sôn wrth Shan Cothi am ei deithiau cyn y cyfyngiadau... " argyfwng - crisis coll ei olwg - losing his sight y cyfyngiadau - the lockdown hollol ddall - totally blind waeth heb â gofidio - there's no point worrying gwneud yn fawr ohono - to make the most of it teimlo'n gaeth - feeling confined cyffredin - normal gweddill y ffordd - the rest of the way ucheldiroedd - highlands Bore Cothi Gwener 24/04/20 Jonathan Davies "Er nad ydy'r cyn chwaraewr rygbi Jonathon Davies yn gallu codi arian i'w hoff elusen - Ysbyty Felindre Caedrydd, mae o'n dal i gadw'n heini a chodi arian yr un pryd - a hynny" ti byth yn llonydd - you're never still egni - energy mo'yn - eisiau cynnal yr elusennau - support the charities llywydd - president hashnod - hashtag colli chydig bach o chwys - shed a little sweat yr un mor dynn - as tight pwysau - weight ... a dyna ni am yr wythnos yma. Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau'r podlediad yma a'i fod wedi bod yn ddefnyddiol ac yn ddifyr i chi. Mae tudalen eirfa arbennig yn cyd-fynd a'r podlediad yma i'w chael ar bbc.co.uk/radiocymru/ a chlicio ar Pigion.

Beti a'i Phobol
Catrin Williams

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later May 5, 2019 45:05


Mae'r artist Catrin Williams wedi'i disgrifio fel chwa o awyr iach yn y byd celfyddydol, oherwydd ei defnydd o liw; serch hynny, mae pobl yn prynu ei gwaith yn parhau i'w synnu. Cafodd ei magu ar fferm ger Y Bala, ac mae'r profiad o fyw yng Nghymru wedi dylanwadu'n fawr ar ei chelf. Astudiodd ym Mangor gyda'r arlunydd Peter Prendergast, ac yna yng Nghaerdydd. Ar daith i Baris fel myfyriwr, gwelodd arddangosfa o waith Matisse. Cafodd ei hysbrydoli, a mae'n dweud iddi ddarganfod ei harddull ei hun fel artist o ganlyniad. Paentio mae hi gan fwyaf, ond mae hefyd yn gweithio gyda chyfryngau a deunyddiau amrywiol, ac yn hen law ar gynnal gweithdai celf ar hyd a lled Cymru. Mae'n sgwrsio gyda Beti am orfod creu, teithio gydag Anhrefn, ac am bwysigrwydd cerddoriaeth.

Beti a'i Phobol
Ifana Savill

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Apr 14, 2019 48:13


Menyw ei milltir sgwâr yw Ifana Savill, wedi dychwelyd i fyw yn y pentref lle cafodd ei magu. Mae chwe chenhedlaeth o'r teulu wedi byw ym Mlaenpennal ger Tregaron, a mae'n sôn wrth Beti am hanes rhai ohonynt. Pan oedd yn ifanc, roedd wrth ei bodd yn darllen, a byddai wedi hoffi astudio celf, ond hyfforddi fel athrawes wnaeth hi'n y pen draw. Un diwrnod yn unig y parodd ei gyrfa fel athrawes. Roedd yn gwybod yn syth iddi wneud camgymeriad, a fe drodd yn lle hynny at lenyddiaeth ac ysgrifennu. Cafodd foment o ysbrydoliaeth wrth sgwennu rhaglenni ar gyfer S4C, sef i ddefnyddio rhai o gymeriadau enwog yr awdur Mary Vaughan Jones ar gyfer cyfres deledu newydd o'r enw Caffi Sali Mali. Daeth rhan o gartre'r teulu'n set ar gyfer Pentre Bach, ac er bod y gyfres honno wedi dod i ben, mae Ifana a'i gŵr wedi troi Pentre Bach yn bentref gwyliau.

pan beti s4c pentre bach cafodd daeth
Beti a'i Phobol
Siân Grigg

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Mar 31, 2019 45:59


Yn ei harddegau, roedd Siân Grigg yn bendant nad oedd am ddilyn ei mham, a oedd yn golurydd gyda'r BBC. Aeth i goleg celf gyda'r bwriad o fod yn artist, ond sylweddolodd nad oedd yn mwynhau gweithio ar ei phen ei hun mewn stiwdio. Cafodd hyfforddiant fel colurydd, gan ddechrau gweithio ar raglenni teledu a ffilmiau. Wrth weithio ar y ffilm Titanic yn 1996, cwrddodd â Leonardo DiCaprio, a Siân sy'n gwneud colur yr actor ar gyfer pob ffilm ers hynny. Mae'n sôn wrth Beti am ei dyslecsia, crefft bod yn golurydd, a heriau gweithio ar ffilmiau fel Titanic a The Revenant.

Beti a'i Phobol
Huw Thomas

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Mar 10, 2019 49:08


Newid bywyd a thirlun y brifddinas oedd un o amcanion Huw Thomas pan gafodd ei ethol yn Arweinydd Cyngor Caerdydd yn 2017. Mae'n cydnabod bod hynny'n her, yn enwedig mewn cyfnod o lymder, ond yn benderfynol o fynd i'r afael ag anhafaledd. Wrth gael ei fagu yng Ngheredigion, yr oedd yn gerddor ac yn chwaraewr rygbi brwd. Astudiodd gerddoriaeth yn Rhydychen, gan ymdaflu i fywyd y Brifysgol. Er na chafodd fagwraeth wleidyddol, datblygodd ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, a mewn sosialaeth yn enwedig. Gweithiodd fel rheolwr prosiect i Airbus, a bu hefyd yn bennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru. Cafodd ei ethol yn gynghorydd yn 2012, ac yn 2015 fe oedd ymgeisydd seneddol y Blaid Lafur yng Ngheredigion.

Beti a'i Phobol
John Phillips

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Feb 24, 2019 46:48


Treuliodd John Phillips flynyddoedd yn gweithio ym myd addysg. Bu'n athro, yn swyddog addysg bellach, yn ddirprwy gyfarwyddwr addysg, a hefyd yn gyfarwyddwr addysg. Yn Sir Aberteifi, ac yna yn Nyfed, roedd yng nghanol y trafod a’r dadlau ynglŷn ag addysg Gymraeg yn y 60au a’r 70au. Cafodd ei eni a'i fagu yng Ngwauncaegurwen, yn fab i löwr, a mae ganddo atgofion melys o'r gymuned lofaol, a chof plentyn o Abertawe'n cael ei bomio'n ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn yr ysgol ramadeg daeth dan ddylanwad Eic Davies, cyn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Y peth gorau am y coleg, meddai John, oedd cwrdd â Bethan, a ddaeth yn wraig iddo'n ddiweddarach. Gweithiodd y ddau yn Llundain am gyfnod, cyn penderfynu dychwelyd i Gymru, ac i Geredigion yn y pen draw. Mae dementia wedi achosi dirywiad yn iechyd Bethan yn y blynyddoedd diwethaf, a mae John yn sôn wrth Beti am ei ymdrech i sicrhau gofal llawn amser iddi.

Beti a'i Phobol
Valériane Leblond

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 27, 2019 46:00


Un o Ffrainc yn wreiddiol yw'r artist Valériane Leblond. Cafodd ei magu gan ei thad o Ganada, a oedd yn llawn dychymyg ac yn dyfeisio pob math o bethau. Yn y coleg, cwrddodd â Chymro o Langwyryfon, a mae bellach yn magu tri mab yng Nghymru. Mae gwaith celf Valériane yn aml yn ymwneud â'r syniad o berthyn. Darlunio llyfrau yw ei phrif waith erbyn hyn, ond mae hefyd yn gweithio ar arddangosfa am hanes y Cymry a ymfudodd i Orllewin Virginia.

yn leblond nghymru cymry ffrainc cafodd
Beti a'i Phobol
Rhys Mwyn

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 13, 2019 48:08


Archeoleg, angerdd ac Anhrefn yw rhai o'r pynciau trafod wrth i Rhys Mwyn sgwrsio gyda Beti George. Un o Sir Drefaldwyn yw Rhys, a mae'n cael ei adnabod fel un sydd â dim ofn dweud ei farn a siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod. Pan oedd yn ifanc, roedd yn teimlo nad oedd cerddoriaeth Gymraeg yn rhoi llais iddo fe a'i debyg. Cafodd ei ysbrydoli wrth wrando ar raglen radio John Peel, a chlywed grwpiau fel Sex Pistols, Delta 5 a'r Mekons. Daeth yn aelod o'r grŵp pync Cymraeg Anhrefn, cyn troi at reoli a hyrwyddo cerddorion. Yn golofnydd i'r Herald Cymraeg, mae hefyd wedi dychwelyd at ei bwnc gradd, sef archeoleg. Dyna ble mae hapusaf, yn cloddio gyda ffrindiau.

Beti a'i Phobol
Osian Williams

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Dec 23, 2018 46:35


Ers pan oedd yn ifanc, roedd Osian Williams yn gwybod mai cerddor yr oedd am fod. Mae'n teimlo mai dyna'r unig beth y gallai fod wedi ei wneud. Cafodd ei fagu ar aelwyd gerddorol yn Llanuwchllyn, gan ddysgu gan ei dad sut i chwarae'r drymiau a'r gitâr. Roedd ei dad yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, a sioeau cerdd y cwmni yn rhan o fagwraeth Osian. Astudiodd mewn coleg cerdd yn Lerpwl, gan adael ar ôl tymor. Doedd e ddim yn gyfforddus yno, nag yn barod i astudio bryd hynny. Wedi gweithio am gwpl o flynyddoedd, aeth i Brifysgol Bangor, gan gwblhau gradd a gradd meistr. Enillodd Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015, a mae wedi trefnu cerddoriaeth ar gyfer rhai o gyngherddau'r brifwyl, gan gynnwys un Geraint Jarman yn 2018. Mae Osian yn adnabyddus fel prif leisydd y grŵp Candelas, ond fe oedd y drymiwr yn wreiddiol, gan taw'r drymiau oedd ei gariad cyntaf.

ers wedi candelas cafodd geraint jarman
Beti a'i Phobol
Hedd Ladd-Lewis

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 18, 2018 47:11


Erbyn ei fod yn un ar ddeg oed, roedd Hedd Ladd-Lewis wedi byw yn Kenya ac yn Zambia. Dychwelodd y teulu i Gymru, ac i lethrau Carn Ingli, pan ddaeth yn amser iddo fynd i'r ysgol uwchradd. Cafodd ei ysbrydoli gan ei athro hanes yn Ysgol y Preseli, yr arlunydd Aneurin Jones, a oedd yn defnyddio dulliau anghyffredin i gynnau diddordeb ei ddisgyblion. Yn ddeuddeg oed, cloddiodd Hedd gyda thîm o archeolegwyr am y tro cyntaf, ac ers hynny hanes ac archaeoleg sydd wedi mynd â'i fryd. Ar ôl cyfnod yn gweithio yn Llundain, dychwelodd i Gymru a chymhwyso fel athro hanes. Mae'n dweud ei bod yn fraint cael defnyddio ei bwnc bob dydd.

kenya zambia ladd yn gymru ysgol preseli erbyn cafodd
Beti a'i Phobol
Bethan Bryn

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 4, 2018 48:59


Dyw'r cerdd dantwraig Bethan Bryn ddim yn or-hoff o’r gair arbrofi. Yn hytrach, mae'n credu y dylid dangos bod mwy i gerdd dant na chystadlu, a bod angen gwthio'r grefft tu hwnt i'r llwyfan eisteddfodol. Ei chwaer Angharad a oedd i fod i gael gwersi telyn yn wreiddiol, ond buan iawn y dechreuodd Bethan ddysgu canu'r offeryn yn ei lle. Bu'n aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cymru, ac yn yr ysgol daeth dan ddylanwad Aled Lloyd Davies, er iddi ei gythruddo gyda'i gosodiad cyntaf ar gyfer Rhianedd Môn. Cafodd le i astudio chwaraeon mewn coleg yn Lerpwl, a bu bron iddi ddilyn y trywydd hwnnw yn lle astudio cerddoriaeth. Cerddoriaeth aeth â hi yn y pen draw, gan arwain at flynyddoedd o berfformio, cyfeilio a hyfforddi; a nid pawb all ddweud i Delynores Maldwyn a Thelynores Eryri ddechrau cecru yng nghanol ei phriodas.

ei bethan yn angharad cerddoriaeth cafodd
Podled Senedd Podcast
Black History Month - podcast from the Assembly

Podled Senedd Podcast

Play Episode Listen Later Nov 1, 2018 57:28


Ali Abdi, Rocio Cifuentes and Vaughan Gething AM have a roundtable discussion on what Black History Month means for Wales and the wider world. Daf Prys poses the questions and they also tell us about their Welsh Black Icons. Ali Abdi joined the Community Gateway team in October 2015. His work focuses on building a successful partnership between Cardiff University and the community of Grangetown and managing community events in the Grange Bowls Pavilion. Rocio Cifuentes is an experienced, committed and values-driven third sector professional with over 15 years' experience specifically in the BME Third Sector in Wales. Sha has led and developed EYST Wales since its inception in 2005, having previously worked for CEMVO Wales. Vaughan Gething AM was born in Zambia and brought up in Dorset. He was educated at Aberystwyth and Cardiff universities, and now lives in his constituency with his wife Michelle. He's been an Assembly Member since 2011. Daf Prys is part of the Communications team looking after the Assembly's digital content and website. Ali Abdi, Rocio Cifuentes a Vaughan Gething sy'n trafod rownd y bwrdd bwrdd ar yr hyn y mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ei olygu i Gymru a'r byd ehangach. Daf Prys sy'n cyflwyno'r cwestiynau ac maen nhw hefyd yn dweud wrthyn ni am eu eiconau duon Cymreig. Ymunodd Ali Abdi â thîm y Porth cymunedol ym mis Hydref 2015. Mae ei waith yn canolbwyntio ar adeiladu partneriaeth lwyddiannus rhwng Prifysgol Caerdydd a chymuned Grangetown a rheoli digwyddiadau cymunedol ym Mhafiliwn bowls Grangetown. Mae Rocio Cifuentes yn weithiwr proffesiynol trydydd sector profiadol ac ymroddedig sydd â thros 15 mlynedd o brofiad yn benodol yn y trydydd sector BME yng Nghymru. Mae hi wedi arwain a datblygu EYST Cymru ers ei sefydlu yn 2005, ar ôl bod yn gweithio i CEMVO Cymru cyn hynny. Cafodd Vaughan Gething ac ei eni yn Zambia a'i fagu yn Dorset. Cafodd ei addysg ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, ac mae bellach yn byw yn ei etholaeth gyda'i wraig Michelle. Mae Daf Prys yn rhan o'r tîm cyfathrebu sy'n gofalu am gynnwys digidol a gwefan y Cynulliad.

Beti a'i Phobol
Neville Evans

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Oct 28, 2018 48:48


Ffiseg yw prif ddiddordeb y gwyddonydd Neville Evans. Mae'n dweud ei fod yn wyddor sy'n mynd ar ôl y manwl, ond hefyd yn gweld y darlun ehangach. Treuliodd ei fywyd ym myd addysg, fel athro, arolygwr, ac yna llywodraethwr. Cafodd ei ddiddordeb yng ngwyddonwyr Cymreig cyfoes ei sbarduno wedi iddo glywed hanesion lleol yn blentyn am E. G. Bowen a'i arbrofion radar. Mae'n credu y dylid gwneud rhagor i hybu gwybodaeth disgyblion Cymru am wyddonwyr cyfoes, a fe sy'n gyfrifol am y posteri o wyddonwyr Cymreig mewn ysgolion ledled y wlad. Mae hefyd yn sgwrsio gyda Beti am ei atgofion o fagwraeth braf yn Gendros, Fforestfach, ac am bwysigrwydd ffydd iddo fe.

Beti a'i Phobol
Mike Parker

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Oct 14, 2018 47:34


Mae naws lle yn bwysig i Mike Parker, ac mae'n dweud ei fod bob amser wedi bod eisiau byw yng Nghymru. Cafodd ei fagu yn Kidderminster, tua deugain milltir o'r ffin. Gwahanodd ei rieni pan oedd yn bedair oed, a symudodd ei fam i Ffrainc. Mae'n amau mai dyna a arweiniodd at ei hoffter o fapiau, oherwydd eu bod yn fodd iddo gael trefn ar fyd cymhleth. Astudiodd ddrama a Saesneg yn Llundain, gan droi at 'sgrifennu yn y pen draw fel bywoliaeth. Yn gydawdur The Rough Guide to Wales, symudodd i'r wlad yn 2000 gan ddysgu Cymraeg, ac yn 2015 fe oedd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion.

Beti a'i Phobol
David John

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Sep 23, 2018 48:50


Rhyddid meddwl, bywydau preifat unigolion a hawliau dynol yw'r themâu sy'n mynd â sylw'r awdur David John (D.B. John), dro ar ôl tro yn ei waith. Yn enedigol o Efail Isaf, bu'n gweithio yn adran gytundebau cwmni cyhoeddi mawr yn Llundain, cyn newid cyfeiriad a gweithio fel golygydd llyfrau i'r un cwmni. Trwy gymryd cyfnodau di-dâl o'r gwaith, cafodd gyfle i deithio yn helaeth, gan gynnwys cyfnodau yn Ynysoedd Cook a De America. Cafodd brofiad brawychus yn Wrwgwái, wrth i leidr ei fygwth gyda dryll. Ysbrydolodd hynny stori fer ganddo, gan ailgynnau ei ddiddordeb mewn 'sgrifennu. Penderfynodd ddilyn cwrs M.A. mewn ysgrifennu creadigol, a ffrwyth y cwrs oedd ei nofel gyntaf, Flights to Berlin. Mae hefyd yn sôn wrth Beti George am ei gyfnodau yng Ngogledd Corea, yn ymchwilio ar gyfer ei ail nofel, ac am weithio fel cynorthwy-ydd i'r Gordon Brown a'r Tony Blair ifanc yn San Steffan.

Beti a'i Phobol
Eleri Twynog Davies

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jun 12, 2018 46:11


Mae syniad da, sy'n cydio yn nychymyg pobl, yn medru mynd yn bell iawn, a dyna sydd wedi gyrru Eleri Twynog Davies trwy gydol ei gyrfa ym myd marchnata. Mae wedi hyrwyddo gwyliau fferm i'r Bwrdd Croeso, ac arwain gwaith marchnata'r Eisteddfod mewn cyfnod pan oedd y syniad hwnnw'n un newydd. Bu hefyd yn bennaeth marchnata yn S4C, gan reoli cyllideb o £3 miliwn, a chyflwyno'r syniad o sioeau Cyw. Cafodd ei magu yn Aberteifi, ac mae'r atgofion am ei phlentyndod yn rhai hynod hapus. Pan oedd yn y chweched dosbarth, daeth hi a chriw o ferched eraill yr ysgol at ei gilydd i ffurfio'r grŵp Cwlwm, gan ryddhau sawl albwm a theithio'n helaeth. Astudiodd ddrama a Chymraeg ym Mangor, cyn symud i Guildford i ddilyn cwrs M.A. mewn twristiaeth a marchnata. Er ei bod yn rhy swil i fod yn actores ei hun, mae wrth ei bodd gefn llwyfan, ac wedi dychwelyd i fyd drama ers gadael S4C. Y syniad sy'n ei gyrru hi heddiw yw cyflwyno hanes Cymru i ddisgyblion ysgol. Sefydlodd gwmni Mewn Cymeriad, sy'n darparu sioeau un person yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol, a hefyd Gŵyl Hanes Cymru i Blant. Mae'n credu'n angerddol bod dysgu hanes eich gwlad yr un mor bwysig â dysgu ei hiaith, er mwyn creu ymdeimlad o berthyn.

Beti a'i Phobol
Siân Lewis

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Apr 29, 2018 46:13


Beti George yn sgwrsio â Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru. Dychwelyd at yr Urdd wnaeth Siân, wedi cyfnod yn gweithio gyda'r mudiad ar ddechrau'r 90au, ac mae'n disgrifio'r rôl fel swydd ei breuddwydion, er bod dychwelyd i Wersyll Glan-llyn fel aelod o staff yn hytrach na disgybl ysgol yn brofiad rhyfedd. Cafodd ei magu yng Nghaerdydd, a dyw hi ddim wedi crwydro'n bell iawn o'r brifddinas. Er ei bod wrth ei bodd yn gymdeithasol yn Ysgol Glantaf, doedd y pwyslais academaidd ddim yn plesio. Ailddarganfyddodd ei hoffter o fyd addysg yng Ngholeg Rhymni, cyn symud i Brifysgol Morgannwg i astudio busnes, ac yna cwblhau cwrs ôl-radd mewn busnes a chyllid. Wedi ei chyfnod cychwynnol yn gweithio i'r Urdd, symudodd i Fenter Caerdydd, a thra wrth y llyw yno roedd yn gyfrifol am ddatblygu gŵyl Tafwyl. Gyda throsiant o £10 miliwn, dros 300 o staff, a hefyd 10,000 o wirfoddolwyr, beth yw gobeithion Siân ar gyfer dyfodol yr Urdd?

er gyda wedi nghaerdydd urdd cafodd beti george
Beti a'i Phobol
Roger Scully

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Mar 8, 2018 46:19


Yr Athro Roger Scully, Athro Gwyddor Gwleidyddiaeth, yw gwestai Beti George. Cafodd ei eni a'i fagu yn Luton, a'i addysgu ym Mhrifysgolion Caerhirfryn a Thalaith Ohio. Ymunodd â Chanolfan Llywodraethiant Cymru yn 2012, a chyn hynny Roger oedd Cyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n hoff iawn o gerddoriaeth jazz, yn aelod o Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol ac yn Gymrawd yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru.

scully luton cafodd beti george
Sôn am Sîn
Sgwrs Chroma, Adwaith a Serol Serol

Sôn am Sîn

Play Episode Listen Later Mar 5, 2018 45:29


Mewn podlediad arebennig mae Mari Elen yn holi aelodau o Chroma, Adwaith a Serol Serol. Maent yn trafod bod yn ferch yn creu cerddoriaeth yn Nghymru, perfformio'n ddwyieithog a llawer mwy. Cafodd y sgwrs hon ei recordio'n fyw yn Galeri Caernarfon. Diolch i Sbarc-Galeri am drefnu'r noson.

Beti a'i Phobol
Robert David

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Feb 4, 2018 49:31


Ganwyd y cynllunydd mewnol Robert David yn 1962 cyn cael ei fabwysiadu yn ychydig wythnosau oed gan Owen Morris Roberts a Mary Roberts, Penrhynydyn, Rhydyclafdy. Cafodd fagwraeth fendigedig ar fferm brysur ond celf oedd yn mynd a'i sylw, er mai dewis dilyn cwrs Celfyddydau Perfformio ym mhrifysgol Caerlŷr wnaeth Robert i ddechrau, cyn symud i Gaerdydd ac ymddangos fel actor mewn cyfresi fel Coleg a Dinas. Roedd Robert yn aelod o gast Pobol y Cwm yn y 90au ond ar ôl hir feddwl dyma benderfynu gadael y ddrama a dilyn ei freuddwyd i fod yn gynllunydd mewnol. Symudodd i Efrog Newydd i astudio, gan dderbyn Tystysgrif mewn Cynllunio o'r Parsons School of Design, Manhattan. Cafodd gyfnod wedyn yn adnewyddu tai ar raglenni teledu ond mae bellach yn ôl yn Llŷn, yn byw gyda'i bartner ac wedi sefydlu ei gwmni cynllunio mewnol ei hun.

design manhattan parsons school dinas cwm mary roberts robert david coleg gaerdydd pobol cafodd
Beti a'i Phobol
Duncan Brown

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 21, 2018 45:53


Cafodd Duncan Brown ei eni yn Buxton, Swydd Derby, ond symudodd y teulu i fyw i Waunfawr yn 1949 pan oedd yn flwydd oed. Aeth i Cheltenham i ddilyn cwrs sylfaen mewn Celf ac yno y cyfarfu a'i ddarpar wraig, Gill. Ar ddiwedd y flwyddyn yn y coleg fe symudodd ei rieni i fyw i Wiltshire, oedd yn sioc i Duncan ar ôl 20 mlynedd o fyw yn Waunfawr. Aeth wedyn i Norwich i astudio celfyddyd gain; dechreuodd ddarllen gwaith Kate Roberts a T.H. Parry Williams a phenderfynu ei fod am ddychwelyd i Gymru i fyw a dyna ble y magodd ei ferch, Beca. Ar ôl rhoi'r gorau i ddysgu, treuliodd Duncan Brown gweddill ei yrfa yn rheoli coedwigoedd Dolgarrog ac Abergynolwyn ac yn gweithio i warchodfeydd natur. Cafodd y syniad o greu'r papur Llên y Llysiau, sydd bellach yn wefan dan yr enw Llên Natur ac sydd yn cyd-weithio'n agos gyda Chymdeithas Edward Llwyd.

Beti a'i Phobol
07/01/2018

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 7, 2018 47:45


Yn wreiddiol o Wauncaegurwen, roedd Barry Morgan yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera cyn mynd i'r brifysgol yn Llundain i astudio hanes, ac yna i Gaergrawnt i wneud gradd mewn diwinyddiaeth. Cafodd ei ordeinio gan fynd yn giwrad i Ddinas Powys am dair blynedd a bu ar staff Coleg Mihangel Sant, Caerdydd, am ddwy flynedd yn ogystal ag yn darlithio mewn diwinyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Aeth Barry Morgan wedyn yn gaplan i Fangor, gan ddarlithio yn y Brifysgol yno cyn symud i Wrecsam fel offeiriad plwy. Fe'i galwyd nôl i Esgobaeth Bangor, i Gricieth, i fod yn Rheithor ac Archddiacon Meirionydd, cyn ei ethol yn Esgob Bangor yn 1993, yn Esgob Llandaf yn 1999, ac yna'n Archesgob Cymru yn 2003.

yn barry morgan wrecsam nghaerdydd cafodd
Beti a'i Phobol
Gwion Hallam

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Dec 17, 2017 49:24


Y Prifardd Gwion Hallam yw gwestai Beti George yr wythnos yma. Magwyd Gwion yn Rhydaman yn un o 3 o frodyr, ond mae'n byw bellach yn y Felinheli gyda'i wraig a'u pedwar mab. Aeth i Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydman, Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa ac yna i Goleg Prifysgol Aberystwyth, gan raddio mewn drama. Cafodd Gwion fagwraeth Gristnogol gref ond nid yw'n arddel unrhyw enwad na chrefydd bellach. Mae'n gweithio yng Nghaernarfon fel cynhyrchydd teledu ac wedi creu rhaglenni yn arsylwi'r berthynas rhwng plant bychain a phobl sy'n byw gyda dementia. Cafodd ei gyffwrdd gan y profiad, a dyna'r hedyn ysbrydolodd ei gerdd "Trwy Ddrych" a arweiniodd at ennill y Goron.

hallam goron aeth cafodd nghaernarfon beti george
Beti a'i Phobol
Eryl Besse

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 12, 2017 48:36


Beti George yn sgwrsio gydag Eryl Besse, aelod o Fwrdd y Comisiwn Elusennau. Cafodd ei geni yn Keele, ond ei magu yn Aberystwyth a Comins Coch, ac ar ôl graddio bu'n gweithio i'r cwmni cyfreithiol hynaf yn y byd. Bu'n llwyddiannus yn ei gyrfa yn Llundain a Paris, ac ym mhrifddinas Ffrainc y magodd ei theulu.

aberystwyth keele besse eryl ffrainc cafodd beti george
Beti a'i Phobol
Huw Penallt Jones

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Dec 4, 2016 45:39


Mae Huw Penallt Jones wedi dychwelyd at ei wreiddiau ar ôl gyrfa amrywiol a llwyddiannus yn y diwydiant ffilmiau. Cafodd gwrdd â rhai o sêr Hollywood, yn ogystal â James Bond, ac mae ganddo fwy nag un stori ogleisiol am hwn a'r llall. Roedd yn byw ger y ffin â Mecsico am gyfnod, ond mae bellach yn darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ar fin newid cyfeiriad yn gyfan gwbl.

Beti a'i Phobol
Trefor Davies

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 27, 2016 46:08


Beti George yn holi'r entrepreneur cyfrifiadurol Trefor Davies. Cafodd ei eni yn Llundain cyn treulio cyfnodau yn Nolgellau, Waunfawr ac Ynys Manaw. Wedi gadael yr ysgol, aeth i'r brifysgol ym Mangor cyn symud i Lincoln i weithio i gwmni Marconi.

davies marconi wedi mangor cafodd beti george
Stori Cymru
Llywelyn ein Llyw Olaf

Stori Cymru

Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


Tywysog o Gymru yn byw yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, yn y Canoloesoedd oedd Llywelyn ap Gruffydd. Daeth yn arweinydd y Cymry ac ef yw’r unig Gymro erioed i gael ei gydnabod gan Goron Lloegr yn Dywysog Cymru. Fodd bynnag, pan ddaeth y rhyfelwr ffyrnig Edward I yn Frenin Lloegr cafwyd gwrthdaro hir a chwerw rhwng y ddwy wlad. Ym 1282 lladdwyd Llywelyn gan olygu i bob pwrpas ddiwedd statws Cymru fel gwlad annibynnol. Cafodd y golled hon ganlyniadau anferth ar ddyfodol.

Stori Cymru
Newidiadau Crefyddol y Tuduriaid

Stori Cymru

Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


Roedd crefydd yn bwnc peryglus yng nghyfnod y Tuduriaid. Aeth diwygiad Eglwys Lloegr a Chymru gan Harri’r VIII ag ef i wrthdaro â’r Ewrop Gatholig yn gyfan, yn arbennig Sbaen. Mewn cyfnod o’r fath gosododd y wladwriaeth reolau llym ar addoliad a rhyddid crefyddol. Ond byddai’r sefyllfa swyddogol yn newid yn ôl ffydd y brenin neu’r frenhines. Dilynwyd y Protestant Edward VI gan y Gatholiges Mari ac yna ar ei hôl hi daeth Elisabeth, y Protestant. Cafodd hyn i gyd effaith fawr ar fywydau pobl gyffredin drwy’r eglwysi yr oeddent yn eu mynychu, fel y dywed Huw wrthym yn Eglwys Teilo Sant yn Sain Ffagan.

viii protestant ond huw aeth chymru sbaen cafodd
Stori Cymru
Bywyd Pob Dydd yn ystod y Rhyfeloedd Byd

Stori Cymru

Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


Bu tua 280,000 o Gymry yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a lusgodd ymlaen am bedair blynedd (1914 - 1918). Arhosodd rhai dynion yng Nghymru i weithio mewn swyddi hanfodol, megis mwyngloddio, ond gyda chymaint o ddynion oddi cartref yn ymladd, dechreuodd y menywod gymryd swyddi a oedd cyn hyn wedi eu cyfyngu i ddynion, neu byddent yn gwneud dyletswyddau yn eu cartref neu ar y fferm. Roedd llawer o wragedd yn weddwon ac roedd yn rhaid iddynt godi teuluoedd ar eu pen eu hunain. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ym 1939, unwaith eto camodd y menywod ymlaen. Roedd tua 55% o weithwyr rhyfel mewn ffatrïoedd arfau yng Nghymru yn fenywod. Rhwystrodd y gelyn fewnforion bwyd i Brydain ac felly bu ymdrech fawr i dyfu bwyd adref ac osgoi gwastraff. Cyflwynwyd system dogni er mwyn sicrhau dosbarthiad teg o fwydydd a nwyddau hanfodol eraill. Cafodd y rhyfel hwn effaith mwy uniongyrchol ar Brydain oherwydd yr ymgyrchoedd bomio, felly trefnodd y llywodraeth i blant o’r dinasoedd mawr gael eu symud i ardaloedd mwy diogel. Derbyniodd llawer o faciwîs i Gymru a daeth rhai ohonynt yn ymwybodol o’r iaith Gymraeg am y tro cyntaf. Golygodd y rhyfel bod trefn arferol pobl yn eu cartrefi yn newid a chawsant brofiadau newydd. Lleolwyd milwyr Americanaidd yng Nghymru, gan roi blas ar ddiwylliant a welwyd cyn hyn dim ond mewn ffilmiau Hollywood.

Stori Cymru
Bywyd Pob Dydd yn ystod y Rhyfeloedd Byd

Stori Cymru

Play Episode Listen Later Mar 25, 2013 6:59


Bu tua 280,000 o Gymry yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a lusgodd ymlaen am bedair blynedd (1914 - 1918). Arhosodd rhai dynion yng Nghymru i weithio mewn swyddi hanfodol, megis mwyngloddio, ond gyda chymaint o ddynion oddi cartref yn ymladd, dechreuodd y menywod gymryd swyddi a oedd cyn hyn wedi eu cyfyngu i ddynion, neu byddent yn gwneud dyletswyddau yn eu cartref neu ar y fferm. Roedd llawer o wragedd yn weddwon ac roedd yn rhaid iddynt godi teuluoedd ar eu pen eu hunain. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ym 1939, unwaith eto camodd y menywod ymlaen. Roedd tua 55% o weithwyr rhyfel mewn ffatrïoedd arfau yng Nghymru yn fenywod. Rhwystrodd y gelyn fewnforion bwyd i Brydain ac felly bu ymdrech fawr i dyfu bwyd adref ac osgoi gwastraff. Cyflwynwyd system dogni er mwyn sicrhau dosbarthiad teg o fwydydd a nwyddau hanfodol eraill. Cafodd y rhyfel hwn effaith mwy uniongyrchol ar Brydain oherwydd yr ymgyrchoedd bomio, felly trefnodd y llywodraeth i blant o’r dinasoedd mawr gael eu symud i ardaloedd mwy diogel. Derbyniodd llawer o faciwîs i Gymru a daeth rhai ohonynt yn ymwybodol o’r iaith Gymraeg am y tro cyntaf. Golygodd y rhyfel bod trefn arferol pobl yn eu cartrefi yn newid a chawsant brofiadau newydd. Lleolwyd milwyr Americanaidd yng Nghymru, gan roi blas ar ddiwylliant a welwyd cyn hyn dim ond mewn ffilmiau Hollywood.

Beti a'i Phobol
16/04/1992 - Tom Parry Jones

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 25, 2013 33:00


Beti George yn holi'r ddiweddar Tom Parry Jones. Cafodd y rhaglen yma ei darlledu am y tro cyntaf ym 1992. Beti George chats with the late Tom Parry Jones.

tom parry cafodd beti george
Stori Cymru
Newidiadau Crefyddol y Tuduriaid

Stori Cymru

Play Episode Listen Later Nov 19, 2012 3:15


Roedd crefydd yn bwnc peryglus yng nghyfnod y Tuduriaid. Aeth diwygiad Eglwys Lloegr a Chymru gan Harri’r VIII ag ef i wrthdaro â’r Ewrop Gatholig yn gyfan, yn arbennig Sbaen. Mewn cyfnod o’r fath gosododd y wladwriaeth reolau llym ar addoliad a rhyddid crefyddol. Ond byddai’r sefyllfa swyddogol yn newid yn ôl ffydd y brenin neu’r frenhines. Dilynwyd y Protestant Edward VI gan y Gatholiges Mari ac yna ar ei hôl hi daeth Elisabeth, y Protestant. Cafodd hyn i gyd effaith fawr ar fywydau pobl gyffredin drwy’r eglwysi yr oeddent yn eu mynychu, fel y dywed Huw wrthym yn Eglwys Teilo Sant yn Sain Ffagan.

viii protestant ond huw aeth chymru sbaen cafodd
Stori Cymru
Llywelyn ein Llyw Olaf

Stori Cymru

Play Episode Listen Later Nov 19, 2012 7:33


Tywysog o Gymru yn byw yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, yn y Canoloesoedd oedd Llywelyn ap Gruffydd. Daeth yn arweinydd y Cymry ac ef yw’r unig Gymro erioed i gael ei gydnabod gan Goron Lloegr yn Dywysog Cymru. Fodd bynnag, pan ddaeth y rhyfelwr ffyrnig Edward I yn Frenin Lloegr cafwyd gwrthdaro hir a chwerw rhwng y ddwy wlad. Ym 1282 lladdwyd Llywelyn gan olygu i bob pwrpas ddiwedd statws Cymru fel gwlad annibynnol. Cafodd y golled hon ganlyniadau anferth ar ddyfodol Cymru.

Geometreg Gyfesurynnol: Mathemateg (U/UG)
Adolygu Geometreg Gyfesurynnol 3 (U/UG)

Geometreg Gyfesurynnol: Mathemateg (U/UG)

Play Episode Listen Later Nov 9, 2012


Cafodd y broblem wreiddiol ei chyflwyno yn yr arholiad: CBAC Mathemateg Craidd 1, Cwestiwn 1aiii (Mai 2010)

cafodd cwestiwn cbac mathemateg craidd
Geometreg Gyfesurynnol: Mathemateg (U/UG)
Adolygu Geometreg Gyfesurynnol 4 (U/UG)

Geometreg Gyfesurynnol: Mathemateg (U/UG)

Play Episode Listen Later Nov 9, 2012


Cafodd y broblem wreiddiol ei chyflwyno yn yr arholiad: CBAC Mathemateg Craidd 1, Cwestiwn 1aiv (Mai 2010)

cafodd cwestiwn cbac mathemateg craidd
Trigonometreg: Mathemateg (U/UG)
Adolygu Trigonometreg 1 (U/UG)

Trigonometreg: Mathemateg (U/UG)

Play Episode Listen Later Nov 9, 2012


Cafodd y broblem wreiddiol ei chyflwyno yn yr arholiad: CBAC Mathemateg Craidd 2, Cwestiwn 2b (Mai 2010)

cafodd cwestiwn cbac mathemateg craidd
Geometreg Gyfesurynnol: Mathemateg (U/UG)
Adolygu Geometreg Gyfesurynnol 1 (U/UG)

Geometreg Gyfesurynnol: Mathemateg (U/UG)

Play Episode Listen Later Nov 1, 2012


Cafodd y broblem wreiddiol ei chyflwyno yn yr arholiad: CBAC Mathemateg Craidd 1, Cwestiwn 1ai (Mai 2010)

cafodd cwestiwn cbac mathemateg craidd
Geometreg Gyfesurynnol: Mathemateg (U/UG)
Adolygu Geometreg Gyfesurynnol 2 (U/UG)

Geometreg Gyfesurynnol: Mathemateg (U/UG)

Play Episode Listen Later Nov 1, 2012


Cafodd y broblem wreiddiol ei chyflwyno yn yr arholiad: CBAC Mathemateg Craidd 1, Cwestiwn 1aii (Mai 2010)

cafodd cwestiwn cbac mathemateg craidd
Algebra: Mathemateg (U/UG)
Adolygu Algebra 1 (U/UG)

Algebra: Mathemateg (U/UG)

Play Episode Listen Later Nov 1, 2012


Cafodd y broblem wreiddiol ei chyflwyno yn yr arholiad: CBAC Mathemateg Craidd 1, Cwestiwn 2a (Mai 2010)

algebra cafodd cwestiwn cbac mathemateg craidd