Podcasts about geraint jarman

  • 4PODCASTS
  • 10EPISODES
  • 1h 3mAVG DURATION
  • ?INFREQUENT EPISODES
  • May 5, 2024LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024

Related Topics:

pennod

Best podcasts about geraint jarman

Latest podcast episodes about geraint jarman

Beti a'i Phobol
Dafydd Rhys

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later May 5, 2024 51:02


Dafydd Rhys Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru yw gwestai Beti George. Mae'n trafod heriau ariannol y mae'r sector yn eu hwynebu a'r cyfrifoldeb sydd arno a'r anrhydedd o gael gwneud y swydd. Cafodd Dafydd ei eni yn Brynaman ac roedd ei Dad yn Weinidog a'i Fam yn ddiwylliedig ac yn gerddorol yn chwarae'r delyn a'r piano. Oherwydd swydd ei Dad roedd Dafydd a'r teulu yn symud yn aml. Mae Dafydd wedi byw ddwywaith yn ardal Llanelli yn ystod ei fywyd ac felly mae'r ardal yma yn agos iawn at ei galon. Yna fe ddaeth cyfnod y 70'au, '76 a '77 ȃ cherddoriaeth Pync. Fe newidiodd y gerddoriaeth yma fywyd Dafydd yn llwyr. "Mi ddechreuais i fand o'r enw'r‘ Llygod Ffyrnig' ac mae Beti'n chwarae sengl o'r enw NCB – National Coal Board a Dafydd oedd y prif ganwr. Dechreuodd Dafydd gwmni teledu annibynnol gyda Geraint Jarman. Cwmni Criw Byw a nhw oedd yn gyfrifol am Fideo Naw. Bu'n gweithio gyda S4C am gyfnodau ac mae'n trafod pwysigrwydd y sefydliad.

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM
Pennod 055 - John Griffiths (Llwybr Llaethog)

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM

Play Episode Listen Later Nov 23, 2020 78:04


Sgwrs grwydrol gyda John Griffiths, y cerddor arloesol ac un o aelodau craidd un o fandiau mwyaf dylanwadol y sin gerddorol yng Nghymru dros yr hanner canrif ddiwethaf, sef Llwybr Llaethog. Pynciau llosg: atgofion cerddorol cynnar, Top of the Pops, Cymru-Lloegr-a-Llanfrothen, mynd nol i Flaenau Ffestiniog, cwrdd a Kevs Ford, The Who, TAFF, dub reggae, gwallt hir a jins tynn, punk rock, Llundain 1977, The Managing Directors, cefnogi Europe (The Final Countdown!) a Link Wray yn Sweden, Llwybr Llaethog, Dic Ben, Rhys Mwyn, Ffred Ffransis, gwleidyddiaeth cerddorol, cerddoriaeth amgen Cymru yn y 1980au, bodio, gwyliau cerddorol yn y 1970au, Richard Rees, John Peel, Criw Byw, Fideo 9, Geraint Jarman, John Gedru, clytweithiau, Neud Nid Deud, Mr Phormula, Dave Datblygu, y Coldcut Cymraeg, samplo ar y slei, Cool Cymru, annibyniaeth i Grangetown (!) a llawer mwy. www.llwybrllaethog.com https://peel.fandom.com/wiki/Llwybr_Llaethog https://www.youtube.com/watch?v=vtdPW0eumT8 https://www.youtube.com/watch?v=XgRcya0SY70 https://www.youtube.com/watch?v=Z5asChbAYxI https://www.youtube.com/watch?v=lHCUl6mUz4o&list=PLya1lvcdVjm1Oskb2yhgAzuVHhcSJR2T9&index=9&t=0s&app=desktop https://www.youtube.com/watch?v=-QWPP4x8QGE https://www.youtube.com/watch?v=XSXa7dK4KlE https://www.youtube.com/watch?v=CJHRDkvrFME https://www.youtube.com/watch?v=lwZXeCqng2U

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM
Pennod 047 - Mark Roberts

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM

Play Episode Listen Later Nov 10, 2019 73:38


Orig ddifyr yng nghwmni Mark Roberts, un o leisiau mwyaf adnabyddus y SRG a dyn sydd wedi cyfansoddi a chanu degau o ganeuon poblogaidd gyda’r bandiau Y Cyrff, Catatonia a MR (ymysg eraill) yn ystod gyrfa sy’n ymestyn yn ôl dros 30 o flynyddoedd. Pynciau llosg: dydd Sadwrn arferol seren roc, My Name is Dolemite, cartridges cerdd, Johnny Cash, Llanrwst, Lerpwl, y recorder, osgoi gwersi Ffrangeg, Y Cyrff, Tony Schiavone, The Clash, Rhys Mwyn, Maffia Mr Huws, Cam o’r Tywyllwch, Geraint Jarman, Y Testament Newydd, Yr Anhrefn, U-Thant, teithio Ewrop, Crumblowers, Cymru-Lloegr-a-Llanrwst, Catatonia, Mulder & Scully, Road Rage, gwerthu cachlwyth o records, y Rolling Stones a Jimmy White, Paul Jones, Y Ffyrc, Sherbet Antlers, The Earth, MR, Strange Town Records, daddy (un)cool a llawer mwy. Diolch, fel arfer, i Daf Palfrey a Hanner Pei am y theme tune.

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM
Pennod 36 - Peredur ap Gwynedd

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM

Play Episode Listen Later May 26, 2019 85:23


Awr a hanner yng nghwmni'r bwyellwr o Bont-y-Pwl, Peredur ap Gwynedd. Leg-end go iawn sydd wedi chwarae'r gitar gyda rhai o fawrion y byd roc a phop, gan gynnwys Geraint Jarman, Datblygu, Norman Cook / Fatboy Slim, Natalie Imbruglia, Sophie Ellis-Bextor, Kim Wilde, Pendulum a llawer mwy. Pynciau llosg: DOM, nostalgia, Titch Gwilym, enway anodd i'w hynganu, dildos Cymreig, roc trwm, Maffia, Crys, widdly-widdly-weeeeeeeee, jazz club... nice, i-dot, gigs mewn bwytai, Fox Mulder, ofergoelion cyn peffermio, strawpedos, teithio'r byd, seiclo a mwy. DOM - Anghenfil Clai / Un Weledigaeth (https://bit.ly/30HCI6A)

Sesiynau Radio Cymru  gyda Cerys Matthews

Cerys Matthews sy'n cyflwyno sesiwn Geraint Jarman o raglen C2 (2002). Cerys Matthews introduces Geraint Jarman and his 2002 Radio Cymru session.

c2 cerys matthews radio cymru geraint jarman
Beti a'i Phobol
Osian Williams

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Dec 23, 2018 46:35


Ers pan oedd yn ifanc, roedd Osian Williams yn gwybod mai cerddor yr oedd am fod. Mae'n teimlo mai dyna'r unig beth y gallai fod wedi ei wneud. Cafodd ei fagu ar aelwyd gerddorol yn Llanuwchllyn, gan ddysgu gan ei dad sut i chwarae'r drymiau a'r gitâr. Roedd ei dad yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, a sioeau cerdd y cwmni yn rhan o fagwraeth Osian. Astudiodd mewn coleg cerdd yn Lerpwl, gan adael ar ôl tymor. Doedd e ddim yn gyfforddus yno, nag yn barod i astudio bryd hynny. Wedi gweithio am gwpl o flynyddoedd, aeth i Brifysgol Bangor, gan gwblhau gradd a gradd meistr. Enillodd Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015, a mae wedi trefnu cerddoriaeth ar gyfer rhai o gyngherddau'r brifwyl, gan gynnwys un Geraint Jarman yn 2018. Mae Osian yn adnabyddus fel prif leisydd y grŵp Candelas, ond fe oedd y drymiwr yn wreiddiol, gan taw'r drymiau oedd ei gariad cyntaf.

ers wedi candelas cafodd geraint jarman
Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM
Pennod 027 - Daf Palfrey a Math Glyn

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM

Play Episode Listen Later Dec 21, 2018 109:36


Hanes Hanner Pei yng nghwmni dau o aelodau'r band, sef Math Glyn a Daf Palfrey. Pynciau llosg: Sanau colledig, mean streets Llandaf, George Benson, the Young Ones, Prince, Cardi B, trips ysgol, babyfoot, James Brown, chwaeth cerddorol Sion Edwards, camthreiglo, cabaret arbrofol, Y Bechgyn Sydd Ddim yn Neis o Gwbl Doctor B, Beastie Boys, byrfyfyrio, Stid, yfed dan oed, Parri'r Barman, Dic Jones, Ann a'r Ci, Fideo 9, Geraint Jarman, Billy Clin, Cofion Ralgex, Geraint Lovejuice, pwrcasu, Monkees, Clwb Ifor Bach, Albert Hoffmann, U Thant, Ffarout, dwyn ffags Tynnal Tywyll, Nadolig Alcoholic,

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM
Pennod 21 - Hanna Jarman a Sion Alun Davies

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM

Play Episode Listen Later Sep 22, 2018 98:53


Sgwrs hynod hwyliog am eu hanturiaethau yn tyfu lan yng Nghaerdydd gyda'r show-offs proffesiynol, Hanna Jarman a Sion Alun Davies. Pynciau llosg: perm Geraint Jarman, halio cyn y rhyngrwyd, pa mor sgwar oedd Hanna'n tyfu fyny, y gansen, Capel y Crwys, eisteddfota gyda Dave Datblygu, moshpits, LSD a llwyth o shout-outs dienw.

Sôn am Sîn
Y Sôn #8 - Odd o mor wahanol...?

Sôn am Sîn

Play Episode Listen Later Aug 29, 2018 48:04


Flwyddyn ar ôl lansio'r podlediad... mae Chris a Geth yn ôl lle 'naethon nhw ddechrau, yn sôn am y 'Steddfod. Ond, am y tro cynta' erioed, ma 'na gyfweliadau arbennig hefo Mellt, Yr Eira, Alffa a'r Ods! Hefyd - maen nhw'n trafod albwm newydd Geraint Jarman a gwaith celf! (Pennod 8)

ond ods geth pennod hefyd flwyddyn geraint jarman
Beti a'i Phobol
16/11/2006 - Geraint Jarman

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Apr 12, 2013 36:32


Beti George yn sgwrsio gyda'r cerddor Geraint Jarman. Darlledwyd y sgwrs 16/11/2006.

beti george geraint jarman