POPULARITY
Ydych chi erioed wedi meddwl sut y daeth meithrinfa yng Nghymru yn allforiwr mawr o blanhigion gardd ar draws y DU ac Ewrop? Ymunwch â'r cyflwynydd gwadd Neville Stein wrth iddo ymweld â Meithrinfeydd Seiont yng Nghaernarfon. Dysgwch y cyfrinachau y tu ôl i'w llwyddiant, o'u sefydlu ym 1978 i'w cynhyrchiad blynyddol trawiadol o dros filiwn o blygiau a leinin, gan arbenigo mewn mathau newydd cyffrous. Darganfyddwch sut maen nhw'n partneru â bridwyr rhyngwladol ac yn rheoli eu gwasanaeth dosbarthu wythnosol. Hefyd, clywch am eu cynlluniau i ehangu i farchnad Iwerddon. Mae'r bennod hon yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn garddwriaeth, twf busnes, a chymhlethdodau masnach ryngwladol yn y diwydiant planhigion.
Pigion Dysgwyr – Geraldine MacByrne Jones Mae Geraldine MacByrne Jones yn yn byw yn Llanrwst, ond yn dod o'r Wladfa yn wreiddiol, sef y rhan o Ariannin ble mae'r Gymraeg yn dal i gael ei siarad. Yr wythnos diwetha buodd hi'n sgwrsio gyda Aled Hughes am sut mae'r ddwy wlad, Cymru a'r Ariannin wedi ei hysbrydoli i farddoni….. Ariannin Argentina Ysbrydoli To inspire Barddoni To write poetry Tirwedd Landscape Ysbryd Spirit Daearyddiaeth gorfforol Geography Dychymyg Imagination Ysgogi To motivate Digwyddiadau hanesyddol An historical event Pigion Dysgwyr – Dafydd Cadwaladr Mate ydy'r diod mwya poblogaidd yn y Wladfa ond basai nifer yn dweud mai te ydy diod mwya poblogaidd Cymru, ac roedd hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol Yfed Te yn ddiweddar. Ar eu rhaglen fore Gwener buodd Trystan ac Emma yn sgwrsio gyda un sydd yn ffan enfawr o yfed te sef Dafydd Cadwaladr o Fethesda. Dyma fe i sôn am ei hoff de… Nodweddiadol Typical Arogl Aroma Cryfhau a chyfoethogi To strengthen and enrich Cwdyn Bag Ysgafnach Lighter Amrywiaethau Varieties Deilen A leaf Cychwyn crino Begins to wither Gwelltglaets Green grass Pigion Dysgwyr – Clare Mackintosh Dafydd Cadwaladr oedd hwnna'n sôn am ei hoff de. Ar ei rhaglen am y Celfyddydau, buodd Ffion Dafis yn sgwrsio gyda'r nofelwraig boblogaidd o ogledd Cymru, Clare Mackintosh. Dyma Clare yn esbonio ychydig am ei gyrfa cyn iddi ddod yn nofelwraig llawn amser… Poblogaidd Popular Cefndir Background Defnyddiol Useful Ymchwilio To research Troseddau Crimes Pigion Dysgwyr – Iola Ynyr Clare Mackintosh yn sôn am sut mae hi wedi dod â'i phrofiadau fel ditectif i mewn i'w nofelau. Dydd Sul ar Beti a'i Phobol, Iola Ynyr oedd y gwestai. Mae Iola yn cynnal gweithdai ‘Ar y Dibyn' – sydd yn herio'r stereoteip o bobol sydd â dibyniaeth. Buodd Iola yn gaeth i alcohol ar un adeg ond mae hi wedi derbyn cymorth 12 cam ac mae hi'n sobor nawr ers dros bedair blynedd. Yn y clip nesa mae hi'n sôn am y prosiect Ar y Dibyn... Ar y dibyn On the edge Herio To challenge Dibyniaeth Addiction Yn gaeth i Addicted to Camdrin sylweddau Substance abuse Digon difyr Interesting enough Unigolion Individuals Llenyddiaeth Cymru Literature Wales O nerth i nerth From strength to strength Y weledigaeth The vision Yn benodol Specifically Pigion Dysgwyr – Bethan Wyn Jones A phob lwc i brosiect ‘ Ar y Dibyn' on'd ife? Mae'r naturiaethwraig a'r ddarlledwraig Bethan Wyn Jones newydd ymddeol o ysgrifennu erthyglau a hefyd o gyfrannu i raglen byd natur Galwad Cynnar ar Radio Cymru. Buodd Dei Tomos ar ei raglen yn sgwrsio gyda hi'n ddiweddar gan ddechrau drwy ei holi am sut dechreuodd hi ysgrifennu colofn i'r Herald Cymraeg. Darlledwraig Broadcaster Rhywiogaethau Species Arfordir Môn Anglesey coast Planhigion meddigyniaethol Medicinal plants Y golygydd The editor Ymateb darllenwyr Readers' response Rwbath rwbath Any old thing Wedi mynd i drafferth Had gone to the bother Pigion Dysgwyr – Aderyn y Mis Ac i aros gyda byd natur, bob mis ar raglen Shan Cothi mae'r adarwr Daniel Jenkins Jones yn sgwrsio gyda Shan am un aderyn penodol. Y tro yma roedd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shan yn dwym a'r aderyn dan sylw gan Daniel oedd Gwennol y Bondo. Ydych chi'n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng Gwennol y Bondo a Gwennol cyffredin? Dyma Daniel yn esbonio... Gwennol y Bondo House Martin Gwennol cyffredin An ordinary Sparrow Plu Feathers Gwddf Neck Cynffon fforchog Forked tail Pryfetach Insects Uchder Hight Tebygol Likely
Are you currently in work but looking to change careers? Would you like to progress but lack the qualifications? Are you not utilising your current qualifications? Then listen to the newest episode of the Caerphilly Works podcast. Today, Craig speaks with Ian and Kelly about the support on offer from the Nurture Equip Thrive (NET) project. Ydych chi mewn gwaith ar hyn o bryd ond yn awyddus i newid gyrfa? Hoffech chi symud ymlaen ond heb y cymwysterau? Onid ydych yn defnyddio eich cymwysterau cyfredol? Yna gwrandewch ar bennod newydd podlediad Caerphilly Works. Heddiw, mae Craig yn siarad ag Ian a Kelly am y gefnogaeth sydd ar gael gan y prosiect Meithrin Darparu Ffynu (MDF). Amazon Music: https://music.amazon.co.uk/podcasts/f3b81ca6-f456-430d-985d-69fa2ef44314/caerphilly-works Spotify: https://open.spotify.com/show/5MIJ2SSqAa2m0mKUdAgk5d Anchor: https://anchor.fm/caerphilly-works YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=_cVYvB9tOPA&list=PLAZsP6kt_SLQ9mwcdIv7jpKnY-WVgBjiV Facebook: https://www.facebook.com/CaerphillyRegen Twitter: https://twitter.com/CaerphillyRegen Instagram: https://www.instagram.com/caerphillyregen/
Yn y bennod hon, rydyn ni'n cwrdd â Tom Evans sy'n ffermio gyda'i wraig Beth a'i blant ar Fferm Pendre ger Aberystwyth. Mae Tom yn stocmon brwd ac yn credu'n gryf “os ydych chi'n edrych ar ôl y stoc, bydd y stoc yn edrych ar ôl chi”. Tiwniwch i mewn i glywed mwy am ei athroniaeth ffermio a'r prosiectau y mae wedi'u cyflawni fel safle arddangos Cyswllt Ffermio.
Ydych chi am ddysgu mwy am fywyd ym Mhrifysgol Caerdydd? Bydd Annell Dyfri, Swyddog y Gymraeg newydd Prifysgol Caerdydd, yn cadeirio trafodaeth gyda myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr ar fywyd Cymry Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd Ellis Lloyd Jones, Hannah Beetham a Lloyd Lewis yn siarad am eu profiadau o ddefnyddio'r Gymraeg trwy eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd, eu bywyd yn y ddinas, a'u gyrfaoedd ar ôl gadael y Brifysgol. Bydd ein digwyddiad 'Bywyd Caerdydd, Bywyd Cymraeg' yn arddangos y cyfleoedd sydd ar gael i'n myfyrwyr astudio a byw trwy'r Gymraeg ym mhrif ddinas Cymru. Annell Dyfri, Cardiff University's incoming Welsh Language Officer, will chair a discussion with current and former students on Welsh-speaking life at Cardiff University. Ellis Lloyd Jones, Hannah Beetham and Lloyd Lewis will talk about their experiences of using the Welsh Language through their studies at Cardiff University, living within the city, and in their careers after University. Our ‘A Cardiff life, A Welsh life' event will showcase the opportunities available for our students to study and live through the Welsh language in the capital city of Wales.
Ydych chi eisiau ateb i'r cwestiwn mae pawb yn y byd wedi bod yn gofyn? (Ble oedd PYCAPh y pythefnos diwethaf) Gwrandewch i ffeindio allan. Ni hefyd yn trafod pobol y cwm am 30 munud so arhoswch am hwna 'fyd. Diolch a Nadolig Llawen
Ydych chi wedi ystyried plannu coed ar eich fferm? Ydych chi'n ymwybodol o'r holl fuddion a'r potensial incwm? Yn y bennod hon, mae Geraint Jones, Swyddog Technegol Coedwigaeth Cyswllt Ffermio yn egluro'r opsiynau ac yn trafod am yr egwyddor holl bwysig o gael y goeden iawn yn y lleoliad iawn am y rheswm iawn.
Beti George ac Aled Roberts Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, oedd gwestai Beti George wythnos diwetha'. Cafodd Aled ei fagu yn Rhosllannerchrugog, oedd yn bentref Cymraeg ei iaith ger Wrecsam. Mae gan bobl Rhos acen arbennig iawn ond fel ddwedodd Aled wrth Beti, doedd hynny ddim yn fantais bob tro... Mantais advantage Ar eich tyfiant growing up Swydd allweddol a key job Diogelu to protect Hwyrach maybe Pwysau pressure Profiad experience Ifan Evans a Sara Gibson Daeth y newyddiadurwraig Sara Gibson i ymuno ag Ifan Evans ddydd Mercher i sôn am rai o straeon mwya poblogaidd Cymru Fyw, ond yn y clip nesa mae hi’n rhoi hanes her ffotograffiaeth arbennig iawn.. Her challenge Y cyfnod clo lockdown Sefydlu to establish Sathru to trample Cywrain skillful Cofnod a record Bord bwrdd Pwerus iawn very powerful Byw Heb Blastig Mae defnyddio llai o blastig yn cael ei gyfri’n un o’r heriau pwysica o ran achub y blaned. Ydych chi wedi lleihau eich defnydd o blastig yn y blynyddoedd diwetha? Ffion Francis oedd un o westeion Shan Cothi ddydd Mawrth, a buodd hi’n rhoi cyngor am y pethau bychain gallwn ni i gyd eu gwneud i wella’r sefyllfa.. Achub y blaned saving the planet Lleihau reduce Cyngor advice Ail-lenwi to refill Osgoi to avoid Tatws Rhost Perffaith Mae Dafydd a Caryl yn cyflwyno’r Sioe Frecwast ar Radio Cymru 2 – ac mae’n rhaid i’r ddau godi gynnar , felly dydy hi ddim yn syndod eu bod yn licio siarad am fwyd! Yr wythnos yma, roedd Caryl eisiau rhannu tips coginio gyda Daf - a dyma’r ffordd orau o goginio tatws rhost mae’n debyg! Saim y cig the meat’s rendered fat Twymo to heat Ymddangos to appear Gwefannau cymdeithasol social media Mêl honey Cwmni Tanya Whitebits Sioned Owen ydy’r enw – a’r brens – y tu ôl i’r cwmni lliw haul ffug llwyddiannus Tanya Whitebits. Jennifer Jones gafodd hanes y cwmni a’r entrepeneur o Drefor yng Ngwynedd ar Dros Ginio yr wythnos hon.. Ffug fake Y peryglon the dangers Heneiddio ‘r croen ageing the skin Efeilliaid twins Ariannu to finance Cymwysterau qualifications Mynychu to attend Cynnyrch product Symudol mobile Drewllyd smelly Datblygu to develop Lisa Gwilym a Shan Cothi Gan fod Huw Stephens ar ei wyliau, Lisa Gwilym oedd yn cyflwyno Sioe Frecwast Radio Cymru 2 fore Gwener. Shan Cothi oedd ei gwestai a phenderfynodd Lisa ofyn ychydig o gwestiynau Cocadwdl-do iddi!.... Ydw glei of course I have Nefoedd wen Oh heavens! Yn gyfarwydd â familiar with Amrywio to vary Bant â ti away you go Yn glou quickly Fel y cythraul like the devil Delwedd image Sa i’n.. dw i ddim yn..
Blwyddyn Newydd dda a chroeso i bodlediad cyntaf Hansh yn 2020. Be chi’n edrych ‘mlaen ato dros y flwyddyn nesaf? Ymunwch â Miriam, Tom a Sam a’u gweledigaethau am bob dim 2020. Ma’ nhw’n trafod ffilmiau, teledu, Olympics, Euros, Glastonbury a phwy fyddai’n chwarae Miriam mewn ffilm. Ydych chi’n cofio pryd ddaeth yr iPad allan? Neu Pokémon GO? Ma’ nhw hefyd yn edrych nôl ar eu hoff a’u cas bethau o’r ddegawd ddiwethaf a beth i’w ddisgwyl o’r ddegawd newydd sbon. RHYBUDD: YN CYNNWYS IAITH GREF.
Dwy o ferched ifanc y ddinas yn trio newid eu ffyrdd er lles y blaned (gyda help llaw gwesteion arbennig!) Ydych chi bach yn ddi-glem? Ry' ni 'fyd OND peidiwch a becso, fe wnawn ni'r gwaith caled i gael adrodd nôl ato chi! Alwen Marshall sydd yn trafod effaith plastig ar y blaned gyda Herbert a Heledd.
Dwy o ferched ifanc y ddinas yn trio newid eu ffyrdd er lles y blaned (gyda help llaw gwesteion arbennig!) Ydych chi bach yn ddi-glem? Ry' ni 'fyd OND peidiwch a becso, fe wnawn ni'r gwaith caled i gael adrodd nôl ato chi! Ceri Lloyd sydd yn trafod effaith figaniaeth ar y blaned gyda Herbert a Heledd.
Heddiw, fe fyddwch chi'n rhedeg mor bell ac y gallwch am 15 munud, cerdded am 1 munud ac ailadrodd unwaith eto. Mi fyddwch chi'n rhedeg am 5 munud ar y diwedd cyn gorffen. Ydych chi'n barod? Today, you'll run as far as you can for 15 minutes, walk for 1 minute and repeat once more. To finish, you'll run for an extra 5 minutes. Are you ready?
Rhywbeth newydd heddiw wrth i’r patrwm rhedeg newid. Mae Rae yn eich gwthio chi i redeg am ddeng munud, cerdded am ddau funud, gwneud hynny dwywaith, ac yna rhedeg am bum munud heb stopio. Ydych chi'n barod am yr her? Something new today, with a change in the running pattern. Rae encourages you to run for 10 minutes, walk for two minutes, repeat and then run for 5 minutes without stopping. Are you ready?