POPULARITY
Elin Prydderch yw fy ngwraig gwadd wythnos hon. Mae Elin yn gweithio fel maethydd a hyfforddwraig ac yn arbenigo mewn rhoi cymorth a chyngor i fenywod sy'n dioddef o'r peri-menopause a'r menopause. Mae ganddi ei busnes ei hun erbyn hyn ac mae hi'n amlwg yn byw bywyd iach ei hun! Iach yw siarad am y menopause dwi'n meddwl, er gobeithio y gwneith hi faddau i mi am ofyn ambell i gwestiwn ''gwrwaidd'' digon gwirion! Ei safle we yw www.elinprydderch.com
Pigion Dysgwyr – Adam yn Yr Ardd Dyn ni i gyd wedi clywed, mae'n siŵr, am brinder a chostau tomatos yn ein siopau ni a dyma flas i chi ar sgwrs gafodd Shan Cothi gyda'r garddwr Adam Jones neu Adam yn yr Ardd am y ffrwyth yma. Mae Adam yn credu dylen ni dyfu tomatos ein hunain. Dyma fe'n sôn yn gynta' am sawl math o domatos sydd yn bosib i ni eu tyfu. Prinder Scarcity Tueddol o To tend to Yn glou Quick Aeddfedu To ripen Tŷ gwydr Greenhouse Anferth Huge Hadau Seeds Chwynnu To weed Olew olewydd Olive oil Maethlon Nutritious Pigion Dysgwyr - Pat Morgan Ffwrdd a ni i'r tŷ gwydr felly i dyfu tomatos… Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobl bnawn Sul oedd y cerddor Pat Morgan oedd yn aelod, gyda David R Edwards, o'r band chwedlonol Datblygu. Yn anffodus buodd David farw ddwy flynedd yn ôl, ond mae gan Pat atgofion melys iawn ohono…… Chwedlonol Legendary Atgofion Memories Wedi dwlu Wedi gwirioni Wastad Always Sbort Fun Pigion Dysgwyr – Elin Roberts Pat Morgan oedd honna'n rhannu ei hatgofion am Dave Dablygu. Dylunydd coron Eisteddfod Genedlaethol eleni yw Elin Roberts. Mae Elin yn gweithio allan o weithdy yng Nghaernarfon ac aeth Aled Hughes draw ati hi wythnos diwetha i weld sut oedd y paratoadau yn mynd ymlaen Dylunydd Designer Paratoadau Preparations Undeb Amaethwyr Cymru Farmers Union of Wales Wedi cael ei gymeradwyo Had been approved Ysbrydoliaeth Inspiration Gorffenedig Finished Sgerbwd Skeleton Yn hytrach na Rather than Gwres heat Hoel llosg A burn mark Llechen Slate Pigion Dysgwyr – Bryn Fon A gobeithio, on'd ife, bydd yna goroni yn yr Eisteddfod eleni er mwyn i ni gyd gael gweld coron Elin Roberts. Gwestai Rhys Mwyn ar ei raglen nos Lun oedd y canwr a'r actor Bryn Fôn. Buodd Bryn yn sôn am ei yrfa ym myd cerddoriaeth, gan ddechrau gyda'r teimlad mae'n gael wrth gamu ar lwyfan i berfformio. Camu ar To step on Ymateb Response Difyrach More interesting Addoli To worship Gwerthfawrogi To appreciate Cysur Comfort I ryw raddau To some extent Cael eu denu Being drawn to Cerddorion Musicians O ddifri Seriously Pigion Dysgwyr – Munud I Feddwl Bryn Fôn oedd hwnna'n sgwrsio gyda Rhys Mwyn. Bob bore ar raglen Shan Cothi dyn ni yn cael clywed gwahanol unigolion yn rhoi Munud i Feddwl i ni. Dechrau'r wythnos diwetha tro Huw Tegid oedd hi, a dyma fe'n sôn am rywle arbennig mae e'n mynd heibio iddo wrth deithio ar yr A470. Cyfarwydd Familiar Swyn Charm Dychmygu To imagine Gwibio To dart Cul a serth Narrow and Steep Brigau Twigs Llethrau Slopes Yn drech na Greater than Yn cael ei roi o'r neilltu Aside Anogaeth Encouragement Pigion Dysgwyr – Bethan Jones Geiriau doeth Huw Tegid yn fanna yn rhoi mwy na munud i feddwl i ni. Nos Fercher ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Bethan Jones. Mae Bethan yn aelod o Glwb Blodau Celyn yn ardal Aberaeron a dyma hi'n sôn am y blodau dyn ni'n debyg o'u gweld ar ddechrau'r gwanwyn fel hyn… Doeth Wise Lili wen fach Snowdrop Saffrwn Crocus Bodlon Content Wedi cael ei sefydlu Has been established Deugain 40
Talent a pherson hyfryd arall ar ail bennod 2023 o'r podlediad wythnos hon. Elin Parisa Fouladi o Gaerdydd ac o dras Gymreig a Iranaidd. Mae Elin yn canu ac yn cyfansoddi ei hun ac yn gwneud enw i'w hun ar y sin gerddoriaeth yng Nghymru. Sgwrs gwbl naturiol ganddi am ei magwraeth, ei henw, perfformio a chyfansoddu a lot o hwyl gyda'r 10 cwestiwn a'r cwis! Diolch i Elin neu Parisa, am ei hamser.
Elin Mai, Perchennog y cwmni Style Doctors sydd yn cadw cwmni gyda Beti George. Fe dreuliodd y rhan fwyaf o'i phlentyndod yn Llangristiolus, Ynys Môn a dyma le wnaeth hi ddechrau ei chwmni cyn symud i Lundain, Efrog Newydd, Miami, Dubai... Mae Elin yn cyflogi dros 50 o staff ac maen nhw'n cynnig gwasanaeth steilo dillad i bwy bynnag sydd yn dymuno. Mae hi wedi steilio Malala Yousafzai, Amanda Holden a'r comedïwr Keith Lemon. Mae'n rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.
Mae Elin yn breuddwydio am gael mynd am daith i’r gofod, tybed a ddaw ei breuddwyd yn wir? Elin dreams of a trip to space, will her dream come true?
Mae Elin, Hywel ac Iwan yn nôl ar ôl amser maith i drafod be sydd wedi bod yn digwydd (COVID-19/Coronafeirws, 2020) a be sy'n mynd i fod yn digwydd (clwb llyfrau Podpeth - Un Nos Ola Leuad).
Fe allech ddiystyru API fel jargon technoleg ond fe fyddem ni ar goll hebddynt. Os ydych chi erioed wedi archebu gwesty ar-lein, wedi archebu bwyd neu wedi gwneud eich siop archfarchnad wythnosol ar eich gliniadur, byddwch wedi defnyddio API (Rhyngwyneb Rhaglenni Cymhwysiad). Mae'n god sy'n caniatáu i wybodaeth gael ei throsglwyddo o un defnyddiwr i'r llall - a hebddo, byddai'r rhyngrwyd fel y gwyddom, yn ei chael hi'n anodd bodoli.Mae APIs eisoes yn cael eu defnyddio yn y GIG ond a ellid eu defnyddio'n fwy helaeth i helpu i drawsnewid y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu? Yn y podlediad hwn bydd Dyfan Searell, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol cwmni Elidir Health, sy’n creu rhaglenni cyfrifiadurol ar gyfer y maes iechyd a’r Dr. Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito, yn trafod sut y gall Cymru fod ar flaen y gad yn y maes hwn. Meddai Elin, “ Mae gennym ni gyfle anhygoel i fod yn flaengar…. mae angen i ni beidio bod yn ofnus ond yn fwy uchelgeisiol.” Mae Dyfan, sydd wedi bod yn gweithio gydag arloeswyr blaengar Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr er mwyn datblygu sustem cofnodion cleifion ddi bapur, yn credu bod angen addysgu pawb am botensial y dechnoleg hon er mwyn datrys problemau gofal iechyd. “Mae’r gwasanaeth iechyd wedi dechrau yng Nghymru a nawr mae modd i’r gwasanaeth iechyd digidol hefyd gychwyn yng Nghymru- da ni o’r maint iawn a’r gennym ni’r modd i hynny ddigwydd.” Mae Elin yr un mor bositif. “Rwy’n teimlo’n gyffrous a hyderus bod gobaith mawr yma.” Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
Mae Elin yn nol! A @SpursMel, sydd yn egluro ei SyniaDad gorau eto - "Sgrin". Hefyd, mae Hywel ac Elin wedi bod Ar Y Zip!
Blwyddyn Newydd Dda! Mae Elin yn sal - ond mae'r brodyr Pitts yma efo Papa Pitts (@SpursMel) i chwarae "Heddwch Ei Lwch 2018"! Mae Heddwch Ei Lwch yn SyniaDad am raglen cwis. Mae pob ateb yn berson wnaeth farw yn 2018. Mwynhewch!
Mai bron yn ddolig! Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod beics, carolau dolig a llwyau cariad (eto). Hefyd, da ni'n hel atgofion am tegannau reslo a doli's babis sy'n cachu.
Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod "Be da chi isio?" ac yn dod i'r canlyniad - Syniadau! Felly, mae @SpursMel yn nol ar y Podpeth gyda SyniaDad newydd - "Canwr Clwb Y Flwyddyn".
Bang bang! Mae hi'n fuan ar ol Noson Tan Gwyllt, ac i ddathlu, dyma bennod o Podpeth! Yn y pennod yma, mae Iwan yn cyfarfod Elaine Summer a Howell Pydew. Mae'r gang yn trafod y presennol, penblwyddi a porn parodies diog. Mae Elin yn wglo, mae rhywun yn trigro Alexa heb drio ac mae dipyn o nostalgia tuag at gemau plant a WWE.
Blwyddyn Newydd Dda! Mae Elin wedi creu cwis, ac mae'r brodyr yn mynd ben-ben i weld pwy oedd yn cymryd sylw ar y newyddion yn 2017! Chwaraewch ymlaen adra a thrydarwch eich sgôr i @podpeth! Efallai bydd wobr i'r tîm gyda'r sgôr uchaf. Hefyd, mae 'na rownd gan Dad (Heddwch ei Lwch 2017) sydd efallai ddim yn cyfri tuag at y sgôr terfynol...
Cyfarchion! Spoiler Alert - mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod Game of Thrones wythnos yma, ac yn ailgreu golygfa yn y Gymraeg. Mae Elin yn siarad am faint o sgeri ydi Wcw, ac yn dysgu'r hogia am cyplysnodau yn Class Cymraeg, ac mae Hywel wedi bod ar RADIO CYMRU wythnos yma, a di Iwan ddim yn hapus am y peth!Hefyd, mae gan Dad syniad newydd - "Sêl Y Sêr".
Shwmae! Podpeth - Steddfod Sbeshal! Wel, dim o Bodeds, ond wedi ei recordio yng Nghaernarfon wythnosau wedyn. Mae Elin yn dysgu'r hogiau am do bach, mae Iwan yn nôl gyda Odpeth (Hebog a Neidr yn Ennyn Gwŷdd), a chawn glywed cân arbennig Hywel i Tommo o'r Eisteddfod, a pherfformiad stand-up Iwan yn noson Cabarela! Hefyd, mae Dad yn nôl gyda SyniaDad newydd - "Procar Poeth".
Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn sôn am sound system Dan Owen, Jim Dyson, a hunllef gwaethaf atheists, tra mae Hywel yn cael vanilla latte sy'n achosi meigryn. Mae Elin yn dysgu'r 'ogia am tafodiaeth, a mae Iwan yn cyflwyno Odpeth od iawn - Ti Ddim Ar Ben Dy Hun. Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Cadair Cerddorion".