CYMERIADAU CYMRU

Follow CYMERIADAU CYMRU
Share on
Copy link to clipboard

Cyfres o gyfweliadau onest, sgyrsiol a naturiol gyda rai o gymeriadau mwyaf doniol, diddorol, ysbrydoledig a..... boncyrs Cymru. (gydag ambell 'i air anweddus!). Rhif 1......STIFYN PARRI. Mae pawb yn nabod Stifyn Parri ond sut mae'r actor, cyflwynydd, gwr bisnes a siaradwr wedi ymdopi â'r cyfnod diweddar? Sut brofiad oedd hi i ddod allan o'r ''spenj'' (gair Rhôs mae'n debyg)? Sut un yw Shirley Bassey go iawn? Ac oes gan iâr bwrs? 🤔

Chris Jones


    • Jun 25, 2023 LATEST EPISODE
    • infrequent NEW EPISODES
    • 43m AVG DURATION
    • 119 EPISODES


    More podcasts from Chris Jones

    Search for episodes from CYMERIADAU CYMRU with a specific topic:

    Latest episodes from CYMERIADAU CYMRU

    CYMERIADAU CYMRU: GWAWR EDWARDS-PHILLIPS

    Play Episode Listen Later Jun 25, 2023 43:29


    Y gantores dalentog a hyfryd Gwawr Edwards-Phillips sy'n sgwrsio â fi wythnos hon am ei bywyd, gyrfa, cerddoriaeth, opera a llawer mwy. Gwawr yw un o sopranos mwyaf dawnus Cymru, sydd wedi symud nôl i Geredigion yn ddiweddar i fagu'r plant ac i arall gyfeirio ar fferm ei theulu. Mae Cymeriadau Cymru yn cymeryd hoe fach am rhai wythnosau. Dwi di sgwrsio â dros 130 o bobl amrywiol, dalentog a diddorol erbyn hyn ar y podlediad a dwi angen hoe fach i ail ystyried, i ail feddwl ac i chwilio am fwy o Gymeriadau!

    CYMERIADAU CYMRU: MARI GRUG

    Play Episode Listen Later Jun 18, 2023 48:33


    Fi'n nabod Mari Grug ers rhai blynyddoedd bellach, y ddau ohonom ni ar un tro yn rhan o'r tîm tywydd ar S4C, y tîm gorau yn fy marn i (gydag Erin Roberts). Erbyn hyn wrth gwrs mae Mari yn un o wynebau cyfarwydd y sianel ac yn gyflwynwraig naturiol a thalentog ac roedd hi'n bleser cael sgwrsio â hi am bopeth dan haul.....a choeliwch chi fi, ma hi yn gallu sgwrsio!!!

    CYMERIADAU CYMRU: PHIL WYMAN

    Play Episode Listen Later Jun 11, 2023 46:35


    Yn ddiweddar, bu farw cymeriad mawr go iawn. Roedd Phil Wyman yn wreiddiol o Galifornia. Yn athrylith, gweinidog, awdur a bardd, bu Phil yn byw yng Nghaernarfon, yn dysgu Cymraeg, yn codi ymwybyddiaeth o'i ffydd, Cymru a'r iaith, ac yn bwriadu teithio dros Gymru gyfan o fis Awst eleni, yn siarad Cymraeg yn unig ac yn hyrwyddo'r iaith. Yn anffodus, bu farw Phil yng ngŵyl Y Gelli ac mae pawb yn cydymdeimlo'n fawr gyda'i deulu a'i ffrindiau yng Nghymru ag America. Fe ges i'r cyfle i sgwrsio â Phil rhai misoedd yn ôl am ei fywyd lliwgar a'r holl bethau amrywiol, gan gynnwys dysgu Cymraeg, yn ei fywyd. Fe wnes i ddileu'r cyfweliad ar gyfer y podlediad am gyfnod allan o barch ond mae mab Phil, Elijah, wedi gofyn i fi ei ddefnyddio erbyn hyn. Felly roedd hi'n bleser ac yn anrhydedd i gael siarad ag un o'r bobl fwyaf diddorol, deallus, cefnogol a hwyl dwi erioed di cael ar y podlediad. Gorffwyswch mewn hedd, Phil Wyman a diolch am bopeth.

    CYMERIADAU CYMRU: ELIN PRYDDERCH

    Play Episode Listen Later Jun 4, 2023 39:36


    Elin Prydderch yw fy ngwraig gwadd wythnos hon. Mae Elin yn gweithio fel maethydd a hyfforddwraig ac yn arbenigo mewn rhoi cymorth a chyngor i fenywod sy'n dioddef o'r peri-menopause a'r menopause. Mae ganddi ei busnes ei hun erbyn hyn ac mae hi'n amlwg yn byw bywyd iach ei hun! Iach yw siarad am y menopause dwi'n meddwl, er gobeithio y gwneith hi faddau i mi am ofyn ambell i gwestiwn ''gwrwaidd'' digon gwirion! Ei safle we yw www.elinprydderch.com

    CYMERIADAU CYMRU: MILLIE-MAE ADAMS (MISS CYMRU 2023)

    Play Episode Listen Later May 21, 2023 34:10


    Yn ddiweddar iawn fe ddaeth Millie-Mae Adams o Gaerdydd yn Miss Cymru/Wales 2023! Ond mae 'na tipyn fwy i Millie na hyn. Yn fyfyrwraig yn astudio meddyginiaeth ym Mhrifysgol Exeter, mae Millie yn lysgengadwraig i elusen Calan DVS ac yn gwirfoddoli ac yn cefnogi elusennau amrywiol, yn ogystal â hybu'r iaith Gymraeg! Llongyfarchiadau mawr i'r wraig ddiymhongar, garedig a deallus hon a phob lwc iddi yn ystod ei hamser fel brenhines Cymru!

    CYMERIADAU CYMRU: HELEDD FYCHAN, AS

    Play Episode Listen Later May 14, 2023 46:25


    I fyd gwleidyddiaeth wythnos hon ar yn podlediad a sgwrs ddifyr dros ben gydag aelod seneddol Plaid Cymru ar gyfer Canol De Cymru, Heledd Fychan. Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Heledd yn byw ym Mhontypridd bellach ac yn cynrychioli'r ardal yn y senedd. Sgwrs am ei gyrfa, ei haddysg, dylanwadau, gwleidyddiaeth, y senedd, ei hangerddau a llawer mwy, yn ogystal â chwis am Bonty a 10 cwestiwn chwim . Diolch o galon iddi am ei hamser! Unwaith eto, sgwrs gyda pherson deallus, difyr, a diddorol!

    CYMERIADAU CYMRU: CEFIN ROBERTS

    Play Episode Listen Later Apr 30, 2023 61:18


    Polymath go iawn yw Cefin Roberts. Teledu, radio, cerddoriaeth, theatr, sioeau cerdd, ysgol gerdd, awdur.....mae Cefin 'di bod yn wyneb ac yn ffigwr cyfarwydd, talentog a dylanwadol ers rhai blynyddoedd bellach a fy mhleser i oedd cael sgwrsio â fo ar y podlediad. O ddyddiau cynnar S4C gyda Hapnod, i Ysgol berfformio Glanaethwy, mae Cefin di neud y cyfan ac wrthi'n sgrifennu ei hunangofiant ar hyn o bryd. Mwynhewch !

    CYMERIADAU CYMRU: EZZATI ARAFFIN

    Play Episode Listen Later Apr 23, 2023 30:48


    Croeso nol i Gymeriadau Cymru ar ôl brêc bach dros gyfnod y Pasg! A dechrau gyda gwraig gwadd ifanc sy'n fam ac yn wraig ac yn gweithio i Fudiad Meithrin, sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn wreiddiol.......o wlad Brunei! Ie, Brunei, ar ynys Borneo yn y Môr Tawel. Ac os nad ydy hynny'n ddigon, ma' hi hefyd wedi cyhoeddu cyfrol o farddoniaeth am gariad, yn y Gymraeg, o'r enw Hen Fanila. Mwynhewch fy sgwrs gyda fy nghymeriad wythnos hon, Ezzati Araffin.

    CYMERIADAU CYMRU: RICHARD ELIS

    Play Episode Listen Later Apr 2, 2023 43:57


    Maint o actorion, yn enwedig rhai sy'n siarad Cymraeg, sy di bod ar nid yn unig Eastenders, ond Coronation Street hefyd!? Yn ogystal â bod yn wyneb cyfarwydd iawn ar S4C wrth gwrs, ma'r actor Richard Elis, wedi bod yn actio yn y ddwy iaith ers rhai blynyddoedd bellach. Ond maint oedd yn gwybod mai Richard oedd y llais Cymraeg yn Big Brother? Sgwrs wych gyda'r gwr o Sir Gâr am ei fagwraeth, addysg, actio, ei yrfa amrywiol a lliwgar a llawer mwy.

    CYMERIADAU CYMRU: BECA BROWN

    Play Episode Listen Later Mar 26, 2023 45:37


    Dim rhyw lawer o bobl sy di gweithio mewn cymaint o feysydd â fy ngwraig arbennig iawn wythnos hon. Teledu, radio, papurau newydd, cylchgronau, dysgu a gwleidyddiaeth. Beca Brown yw un o'r bobl fwyaf amryddawn a deallus dwi di gyfarfod ac mi wnes i fwynhau clywed am ei bywyd, ei magwraeth, ei gyrfaoedd amrywiol a'i newid cyfeiriad i fyd gwleidyddiaeth fel cynghorydd Plaid Cymru yng nghyngor Sir Gwynedd. Lot o sgwrsio diddorol am lot o bynciau.

    CYMERIADAU CYMRU: NEIL ROSSER

    Play Episode Listen Later Mar 19, 2023 43:45


    Un o ddylanwadau cerddorol mwyaf Cymru sy'n sgwrsio â fi wythnos hon ar y podlediad. Mae Neil Rosser yn ganwr ac yn gyfansoddwr ac yn un o hoelion wyth y sîn gerddorol Gymraeg a phleser odd cael clywed am ei yrfa, ei gerddoriaeth, dylanwadau, chwarae'n fyw a llawer mwy. A chofiwch chwilio am gigs a cherddoriaeth Pwdin Reis!

    CYMERIADAU CYMRU: LLIO MILLWARD

    Play Episode Listen Later Mar 12, 2023 49:26


    Dwi wrth fy modd yn siarad â phobl talentog a chreadigol a phobl sy'n dilyn cyfeiriad ei hunan. Mae Llio Millward wedi bod yn actores (cofio 3 chwaer?) ac yn gantores ers cryn dipyn erbyn hyn ac wrthi'n recordio ac yn perfformio yn Llundain. Nes i wir fwynhau ein sgwrs ar y podlediad yn ddiweddar, yn trafod ei gyrfa, cerddoriaeth, byw yn Aberystwyth, Caerdydd a Llundain, ei thad Teddy, ei henw, The Crown, a llawer mwy. Diolch o galon iddi am fod mor onest a chofiwch ar y penodau i gyd ar Spotify. (ac ewch i wrando ar gerddoriaeth Llio ar Spotify hefyd)

    CYMERIADAU CYMRU: LAURA WYN

    Play Episode Listen Later Mar 5, 2023 43:38


    Felly pwy sy'n neud yoga? Pwy sydd wedi meddwl neud yoga ond heb fentro? Athrawes yoga Laura Wyn sy'n siarad â fi ar y bennod nesaf o Cymeriadau Cymru ac i ni'n siarad am ei bywyd diddorol hi, ei dylanwadau, iechyd meddwl a chorfforol, ac wrth gwrs, am yoga! Braf yw cael sgwrsio â phobl neis a braf iawn oedd dod i nabod Laura.

    CYMERIADAU CYMRU: DYLAN CERNYW

    Play Episode Listen Later Feb 26, 2023 38:31


    Rhywun sydd ar frig ei fyd, yw'r telynor Dylan Cernyw a braf oedd cael siarad â fe yn ddiweddar, o'i gartref, am ei yrfa, ei fagwraeth, telynorion a cherddoriaeth, ei ddylanwadau ac wrth gwrs, am y delyn. Pennod newydd o Cymeriadau Cymru gyda thalent byd enwog.

    CYMERIADAU CYMRU: MIRAIN IWERYDD

    Play Episode Listen Later Feb 19, 2023 30:02


    Merch o Grymych yn wreiddiol yw Mirain Iwerydd ond bellach yn gwneud enw iddi hun ar Radio Cymru (1 a 2) yn cyflwyno sioeau cerddoriaeth ac roedd hi'n braf i gael siarad gyda hi yn ddiweddar am ei magwraeth, clwb ffermwyr ifanc, ei gyrfa, dylanwadau a chyflwyno, yn ogystal â lot o hwyl yn ateb y 10 cwestiwn chwim a'r cwis. Cadwch lygad mas am Mirain. Ma hon yn mynd i fod yn enw i'r dyfodol!

    merch cymru radio cymru
    CYMERIADAU CYMRU: Meinir Howells (Ffermio!)

    Play Episode Listen Later Feb 12, 2023 43:46


    Un o'r bobl fwyaf ffeind a gweithgar ac un o'r cyflwynwyr mwyaf naturiol ar S4C sy'n wraig gwadd ar y podlediad wythnos hon. Meinir Howells neu i nifer, Meinir Ffermio. Yn ffarmwraig frysur, yn fam ac yn wraig yn ogystal ag un o gyflwynwyr y gyfres Ffermio, mi roedd hi'n bleser cael sgwrsio â hi, a ninnau'n nabod ein gilydd ers blynyddoedd bellach. Sgwrs gwbl naturiol am ei gyrfa, magwraeth, cyflwyno, Brexit, Mudiad y ffermwyr ifanc ac wrth gwrs, ffermio! Hefyd, cwis a 10 cwestiwn a lot o hwyl gydag yffach o gymeriad!

    CYMERIADAU CYMRU: BETHANY DAVIES

    Play Episode Listen Later Feb 5, 2023 34:01


    Merch ifanc o Lanelli sydd yn sgwrsio â fi ar y podlediad wythnos hon. Mae Bethany Davies wedi dod yn seren ar y cyfryngau cymdeithasol, ac ar TIK TOK yn arbennig. Mae ei fideos hi yn hybu'r iaith a Chymru yn gyffredinol ac wedi ennill dilyniant anferth a thipyn o sylw yn y wasg. Merch hynod o ffeind ac roedd hi'n bleser i siarad â hi am ei magwraeth, yr iaith Gymraeg, a'i thaith ar Tik Tok! Fel dwi'n dweud pob wythnos, dwi mor lwcus i fedru siarad â phobl neis!

    CYMERIADAU CYMRU: IWAN BALA

    Play Episode Listen Later Jan 29, 2023 42:49


    Artist sydd yn sgwrsio â fi ar y podlediad wythnos hon, sydd wrthi'n creu, yn dylanwadu ac yn gwerthu ers peth amser. Iwan Bala yw un o'r artistiaid mwyaf adnabyddus a llwyddiannus Cymru ac roedd hi mor ddiddorol i siarad efo fo am ei waith, ei broses o greu, ei yrfa gynnar, dylanwadau a llawer mwy.

    CYMERIADAU CYMRU: ELIN PARISA FOULADI

    Play Episode Listen Later Jan 22, 2023 38:09


    Talent a pherson hyfryd arall ar ail bennod 2023 o'r podlediad wythnos hon. Elin Parisa Fouladi o Gaerdydd ac o dras Gymreig a Iranaidd. Mae Elin yn canu ac yn cyfansoddi ei hun ac yn gwneud enw i'w hun ar y sin gerddoriaeth yng Nghymru. Sgwrs gwbl naturiol ganddi am ei magwraeth, ei henw, perfformio a chyfansoddu a lot o hwyl gyda'r 10 cwestiwn a'r cwis! Diolch i Elin neu Parisa, am ei hamser.

    CYMERIADAU CYMRU: YWS GWYNEDD

    Play Episode Listen Later Jan 15, 2023 45:37


    Blwyddyn newydd dda i chi gyd a gobeithio bod pawb yn iach ac yn edrych ymlaen at 2023!? A pha well i ddechrau tymor newydd o Cymeriadau Cymru na gyda fy ngŵr gwadd arbennig iawn. Y cerddor, canwr a chyfansoddwr ac un o'r bobl fwyaf clên dwi erioed di siarad efo, Yws Gwynedd! ...ie, go iawn, y lej Yws Gwynedd!!!! Sgwrs wych am ei fagwraeth, ei yrfa, cerddoriaeth, canu a gigio a phêl droed...lot o bêl droed!

    CYMERIADAU CYMRU: GERAINT LLOYD

    Play Episode Listen Later Dec 18, 2022 44:22


    I orffen 2022, mae'n bleser dweud mai'r darlledwr Geraint Lloyd sydd ar y podlediad, ym mhennod ola'r flwyddyn. Wel, fi'n dweud darlledwr, ond wrth gwrs, nid bellach. Ar ôl cael ei ollwng gan Radio Cymru, yn dilyn 25 mlynedd o ddarlledu, sioc enfawr iddo fe a'i ddilynwyr a gwrandawyr oedd y newyddion. Hon yw'r sgwrs go iawn gyntaf iddo ei wneud am yr holl helynt a'r siom a braf oedd cael ei gwmni. I ni'n trafod ralio, mudiad y ffermwyr ifanc, theatr Felinfach, darlledu, gyrru bws ac wrth gwrs, ei yrfa yn darlledu.

    wel cymru geraint radio cymru
    CYMERIADAU CYMRU: RHODRI OGWEN WILLIAMS

    Play Episode Listen Later Dec 11, 2022 72:43


    Gyda chwpan y byd ar fin dod i ben yn Qatar, dwi di penderfynu ail lwytho cyfweliad â rhywun sy'n byw ac yn gweithio allan yn y wlad honno ac yn frysur ar hyn o bryd gyda'r holl gemau a'r darlledu yno, sef Rhodri Ogwen Williams. Yn wreiddiol o'r Bari, mae Rhodri bellach yn byw yn Doha ers rhai blynyddoedd ac fe ges i'r cyfle i glywed am ei waith a'i yrfa a'i fywyd yn y Dwyrain Canol yn Qatar. Sut wlad yw hi?

    CYMERIADAU CYMRU: RHYS MWYN

    Play Episode Listen Later Dec 4, 2022 56:36


    Wel, eicon go iawn sy'n sgwrsio â fi wythnos hon. Cerddor, sylfaenydd, gwr busnes, cyflwynydd ac arweinydd teithiau cerdded...neb llai na Rhys Mwyn! Pleser oedd cael clywed am ddyddiau cynnar Rhys fel un o'r 'punks' cyntaf yng Nghymru ac un o ddylanwadau pwysicaf ym myd cerddoriaeth Cymru. Ac oedd hi mor ddiddorol clywed am y band Anrhefn, y sîn gerddoriaeth, teithiau cerdded, archaeoleg, punk rock, teithio gyda'r band a llawer mwy. Diolch o galon am ei amser a'i onestrwydd.

    CYMERIADAU CYMRU: BERWYN ROWLANDS

    Play Episode Listen Later Nov 27, 2022 59:54


    Cynhyrchydd, actifydd, rheolwr a sylfaenydd a gwr dylanwadol dros ben, Berwyn Rowlands, sydd ar y podlediad wythnos hon. Sgwrs hynod o ddifyr ag onest am fywyd Berwyn, ei ddylanwadau, ei waith a'i holl gyflawniadau, The Iris Prize, yr 80'au, Sgrîn, a llawer llawer mwy. Mae'n bleser cael rhywun fel Berwyn ar y podlediad. Gwr dylanwadol iawn ym myd busnes, sefydliadau LGBTQ+, a chwmnïau cyfryngau a ffilmiau........ag un sy'n hoffi siarad!

    CYMERIADAU CYMRU: ELIN WYN WILLIAMS

    Play Episode Listen Later Nov 20, 2022 45:13


    Hyfforddwraig bersonol syn dechrau gwneud enw i'w hun yw Elin Wyn Williams a fy ngwraig gwadd wythnos hon ar y podlediad. Ar ôl astudio a graddio mae Elin wedi dechrau ei busnes, Winning with a Y, sy'n nid yn unig helpu pobl gyda'r ochr gorfforol ond yr ochr feddyliol ag emosiynol hefyd ac mae ganddi angerdd ynglŷn â gwella iechyd meddwl a chorfforol. Mae hi yn 'rising star' yn fy marn i a dwi'n wir gobeithio y gwneith y cyfryngau talu sylw i'r ifanc yma o Sir Gâr.

    CYMERIADAU CYMRU: LOWRI ANN RICHARDS

    Play Episode Listen Later Nov 13, 2022 32:47


    Actores, cantores a chymeriad unigryw iawn sy'n cadw cwmni i mi wythnos hon....nid mewn stafell dawel ond mewn caffi bach digon swnllyd yng nghanol Llundain! (Felly maddeuwch i fi am y sain amherffaith ar brydiau!) Ond sgwrs hynod o ddiddorol a doniol a diolch o galon i Lowri Ann Richards nid yn unig am ei hamser ond am ei gonestrwydd a'i pharodrwydd i siarad am bopeth am ei bywyd, gyrfa, plentyndod, actio, canu mewn grwpiau mawr y 80'au, cyffuriau a llawer mwy! ''Cymeriad'' go iawn!

    CYMERIADAU CYMRU: ROBAT ARWYN

    Play Episode Listen Later Nov 6, 2022 40:43


    Y cyfansoddwr a'r cerddor Robat Arwyn sy'n sgwrsio â fi wythnos hon. Talent go iawn sy di ysgrifennu caneuon ar gyfer corau ac unigolion di-ri! Sgwrs hynod o ddiddorol am ei waith a'i yrfa, ei ddylanwadau, cyfansoddi, corau a llawer mwy, yn ogystal â bach o hwyl efo cwis am gyfansoddwyr ar 10 cwestiwn chwim!

    CYMERIADAU CYMRU: ALUN SAUNDERS

    Play Episode Listen Later Oct 30, 2022 47:07


    Fi wrth fy modd yn siarad â phob un o'r gwesteion ar Cymeriadau Cymru ond wythnos hon, nes i RILI fwynhau! Sgwrs ddifyr, ddoniol, onest a diddorol gyda'r actor, dramodydd, sgriptiwr a brenhines drag, Alun Saunders aka Connie Orff. Lot o chwerthin a sgwrs am bopeth o theatr a theledu, i drag, i'r iaith Gymraeg a llawer mwy. Joiwch!

    CYMERIADAU CYMRU: MEILYR SIÔN

    Play Episode Listen Later Oct 23, 2022 39:05


    Meilyr Siôn, actor, pypedwr ac awdur sy'n dweud y cyfan wrthai mewn sgwrs gret, am ei blentyndod, ei yrfa a dechreuadau, bod ar lwyfan sioe ''The Lion King'' a'i newid cyfeiriad fel awdur llyfrau i blant. Tipyn o all rounder! Wel.....ysgol Aberaeron ontife!

    CYMERIADAU CYMRU: SIONED DAVIES

    Play Episode Listen Later Oct 16, 2022 45:37


    Talent gerddorol wythnos hon ar Cymeriadau Cymru ac i fyd opera. Sioned Gwen Davies o Fae Colwyn ac yn mezzo soprano uchel ei pharch a phrysur sy'n dweud wrtha i am ei gyrfa ac yn siarad yn gwbl gyffyrddus am opera, eisteddfodau, Glasgow, Canwr y byd, sopranos a llawer mwy. Ac unwaith eto, yn gyfweliad â pherson clên, naturiol, onest a diddorol! Ymunwch â ni ac edrychwch am Cymeriadau Cymru ar Spotify, apple, google, anchor, Ypod ac amryw o lwyfannau eraill.

    CYMERIADAU CYMRU: IFAN HUW DAFYDD

    Play Episode Listen Later Oct 9, 2022 38:50


    Yr actor Ifan Huw Dafydd sydd yn sgwrsio â fi tro yma ar Cymeriadau Cymru a bois, na chi actor! O Pobl y Cwm i District Nurse ac o Theatre Clwyd i Radio 4, ma Ifan wedi cael gyrfa a hanner! Cofiwch edrych am y podlediad a phob pennod ohoni ar Spotify a nifer o lwyfannau amrywiol.

    CYMERIADAU CYMRU: DYLAN EBENEZER

    Play Episode Listen Later Oct 3, 2022 44:41


    Mae podlediad Cymeriadau Cymru nôl! Tymor newydd o sgyrsiau diddorol a naturiol gyda rhai o wynebau a lleisiau a chymeriadau mwyaf adnabyddus Cymru. Ac i ddechrau tymor newydd, sgwrs gyda'r darlledwr a sylwebydd, a boi neis, Dylan Ebenezer. Cofiwch wrando ar pob pennod o Cymeriadau Cymru ar nifer o lwyfannau gan gynnwys Spotify.

    CYMERIADAU CYMRU: JOHNNY TUDOR

    Play Episode Listen Later Jun 23, 2022 37:41


    ''Entertainer'' go iawn sydd ar y podlediad wythnos hon! Actor, dawnsiwr ac ''all round'' diddanwr, Johnny Tudor! Am fywyd!! Roedd hi'n bleser llwyr i sgwrsio â Johnny am ei yrfa, canu a dawnsio, ei ''big break'' ar Opportunity Knocks, ei gyfeillgarwch â Dorothy Squires, ei rhannau yn actio yn Gavin & Stacey, ei lyfr a llawer, llawer mwy! Fasen i wedi gallu siarad am oriau efo'r gwr dawnus a hoffus yma, sydd wedi dysgu Cymraeg mor dda, ac sydd§ dal yn gweithio! Diolch Johnny.

    CYMERIADAU CYMRU: DAFYDD IWAN

    Play Episode Listen Later Jun 16, 2022 49:27


    Heblaw eich bod wedi bod yn byw mewn ogof yn ddiweddar, neu, yn wir, dros y 40 mlynedd a mwy diwethaf, fyddwch chi'n amlwg yn adnabod llais a gwyneb fy ngŵr gwadd wythnos hon. Eicon go iawn, canwr a chyfansoddwr rai o ganeuon mwyaf adnabyddus, pwysig ag eiconig Cymru. Ie, neb llai na Dafydd Iwan! Beth all un ddweud am y gwr yma? Un o gymeriadau pwysicaf ein cenedl ni sy'n sgwrsio am ei fywyd, canu a cherddoriaeth, recordio, yr iaith ac ymgyrchoedd dros yr iaith a Chymru, yn ogystal â phêl droed, tîm Cymru ac wrth gwrs, cân y foment ar hyn o bryd, ''Yma o hyd''. Pleser ac anrhydedd oedd siarad gyda Dafydd a dwi'n wir yn gwerthfawrogi am iddo ymuno â fi wythnos hon.

    CYMERIADAU CYMRU: REBECCA HARRIES

    Play Episode Listen Later Jun 9, 2022 37:24


    Yr actores Rebecca Harries yw fy ngwraig gwadd wythnos hon ar y podlediad. I nifer wrth gwrs, Sali Mali, ond ma Rebecca wedi actio yn nifer o bethau gwahanol, yn Y Gymraeg ac yn Saesneg. Dwi di nabod Rebecca ers rhai blynyddoedd ac roedd hi'n bleser dal lan gyda hi a sgwrsio am ei gyrfa, bywyd, pryderon, byw yn Sir Gâr ac wrth gwrs, yr eicon ei hun, Sali Mali!

    CYMERIADAU CYMRU: SHARON MORGAN

    Play Episode Listen Later Jun 2, 2022 45:46


    Actores o fri, adnabyddus a thalentog, SHARON MORGAN, yw fy ngwraig gwadd wythnos hon ar y podlediad, ac anrhydedd oedd cael sgwrsio gyda hi am ei bywyd, gyrfa, actio, ennill 3 Bafta, Grand Slam, Ronnie Barker a llawer mwy!

    CYMERIADAU CYMRU: SHELLEY REES-OWEN

    Play Episode Listen Later May 26, 2022 46:17


    Stacey? DS Morgan? Neu Shirley Valentine? Ie, yr actores ddawnus o'r Rhondda, Shelley Rees-Owen sy'n sgwrsio â fi wythnos hon ar y podlediad a gaethon ni lot o hwyl! Tan yn ddiweddar, mi roedd Shelley yn gynghorydd yn ogystal â bod yn actores ac mae hi di cael llwyddiant mawr gyda'r ddrama un person ac addasiad Cymraeg o Shirley Valentine.

    CYMERIADAU CYMRU: GWENDA OWEN

    Play Episode Listen Later May 19, 2022 40:22


    Mae'n bleser cael siarad gyda nifer o bobl hyfryd ar y podlediad yma yn wythnosol, ac wythnos yma dwi'n cael sgwrsio ag un o'r mwyaf hyfryd! Gwenda Owen y gantores o Gwm Gwendraeth sy'n siarad yn hwylus ac yn agored am ei bywyd. Gyrfa, cerddoriaeth, ei hardal, actio a'i salwch rhai blynyddoedd yn ôl. Cefais y fraint o ganu gyda Gwenda yn 2012 a recordio cân i'w rhyddhau ar gyfer y radio, a braint hefyd oedd cyfweld â hi ar y podlediad. Un o'r bobl neisa' dwi'n nabod!!!

    CYMERIADAU CYMRU: RYLAND TEIFI

    Play Episode Listen Later May 12, 2022 50:05


    O Ffostrasol yng Ngheredigion i Dde Iwerddon yr aeth yr actor, cerddor a boi ffeind Ryland Teifi, ac o'i gartref yn Iwerddon wnaeth Ryland ymuno â fi am sgwrs wych ar gyfer Cymeriadau Cymru wythons hon. Lot o siarad a hwyl am ei yrfa, Y Cnapan, Iwerddon a'r teulu Clancy, canu, actio a'i brofiad yn ennill gyda chân Can i Gymru eleni....o, a chwis a 10 cwestiwn chwim! Gwych o sgwrs.

    CYMERIADAU CYMRU: ALWYN HUMPHRIES

    Play Episode Listen Later May 5, 2022 46:15


    Anrhydedd yw cael croesawi fy hen ffrind Alwyn Humphreys i'r podlediad wythnos hon. Lejynd go iawn arall, yn arweinydd cerddorfeydd a chorau meibion, trefnydd darnau cerddorol a chyflwynydd teledu a radio. Diddorol dros ben oedd cael sgwrsio ag Alwyn am ei yrfa, cerddoriaeth, corau, canu, cyflwyno a llawer, llawer mwy.

    CYMERIADAU CYMRU: MARGARET WILLIAMS

    Play Episode Listen Later Apr 28, 2022 47:46


    Dim byd llai nag eicon, lejynd a brenhines ar y podlediad wythnos hon. Y gantores hyfryd, hyfryd o Frynsiencyn, Ynys Môn, Margaret Williams!!!! Wrthi'n canu a pherfformio ers rhai blynyddoedd ar ein sgrin ac ar radio (yn ogystal â chanu ar y llongau ''cruise''), mi roedd hi'n bleser ac yn anrhydedd cael siarad â Margaret am ei gyrfa, bywyd, canu, Sir Fôn a llawer, llawer mwy a dwi'n ddiolchgar iawn iddi am gytuno cael ei chyfweld.

    CYMERIADAU CYMRU: LOWRI EVANS

    Play Episode Listen Later Apr 21, 2022 38:33


    Y gantores a'r gyfansoddwraig Lowri Evans yw fy ngwraig gwadd wythnos hon a thalent go iawn unwaith eto. Sgwrs hyfryd arall am gyrfa, cerddoriaeth a chyfansoddu, ardal Trefdraeth/Tudraeth, cwis, 10 cwestiwn a llawr mwy! Diolch o galon i Lowri a diolch yn fawr hefyd i Hannah Beth am fod ar y podlediad wythnos diwethaf.

    Claim CYMERIADAU CYMRU

    In order to claim this podcast we'll send an email to with a verification link. Simply click the link and you will be able to edit tags, request a refresh, and other features to take control of your podcast page!

    Claim Cancel