POPULARITY
Mae'r bennod hon wedi'i recordio yn un o 15 digwyddiad fferm arddangos Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd drwy gydol mis Medi 2024. Rydym yn Fferm Lower House ger Llandrindod gyda Robert a Jessica Lyon. Maent yn ffermio 146 hectar ac yn rhedeg menter gymysg, gan wyna 900 o famogiaid yn ogystal â 32,000 o frwyliaid. Maen nhw hefyd yn gorffen 150 o heffrod croes Belgian Blue yn flynyddol. Mae fferm Lower House wedi treialu cynnwys pys a ffa a brynwyd i mewn yn y dogn mamogiaid beichiog y gaeaf diwethaf er mwyn cynyddu gwytnwch a lleihau ôl troed carbon ei fferm, mae Robert eisiau tyfu cymaint o'r porthiant ar y fferm â phosibl. Maen't wedi cychwyn ar brosiect ‘Ein Ffermydd' Cyswllt Ffermio i werthuso sut y gallai pys a ffa ei helpu i gyrraedd y nod hwnnw. Gwrandewch i glywed y canfyddiadau!
Gwrandewch ar rifyn arbennig o bodlediad Clust i'r Ddaear sy'n rhoi ffocws ar Iechyd a Diogelwch ar y fferm. Mae'n sgwrs ddifyr rhwng Ifan Jones Evans a Mari Lovgreen. Mae gan Mari ac Ifan deuluoedd ifanc a brwdfrydig a'r ddau yn byw ar fferm. Yn y rhifyn hwn maent yn rhannu eu profiadau, trafod yr heriau a'u teimladau am bwysigrwydd diogelu eu teuluoedd adre ar y fferm. Mae gwyliau'r haf yn benodol yn amser prysur a'r plant adre gyda nhw fwy. Nid yw Mari ac Ifan yn arbenigwyr yn y maes, nid ydynt yn cynnig cyngor am iechyd a diogelwch.
Gwrandewch ar y recordiad yma o ddigwyddiad fferm Pentrefelin, Llandyrnog i glywed trafodaeth ar sut i hybu pridd iach. Bydd Huw Foulkes yn rhannu ei daith wrth gymryd yr awenau ar y fferm deuluol sy'n cynnwys creu system ffermio adfywiol. Gall ei system, sy'n cynnwys gwerthu cynnyrch yn uniongyrchol o'r fferm fod o fudd i'r amgylchedd, cynhyrchu bwyd maethlon yn lleol, a mynd i'r afael a materion cymdeithasol sy'n wynebu ffermwyr Cymru, yn ogystal ag adeiladu gwytnwch ar y fferm rhag sychder, llifogydd ac effeithiau eraill newid hinsawdd ar y fferm. Bydd yr agronomegydd profiadol Nick Woodyatt sydd wedi bod yn helpu i ymgorffori systemau adfywiol proffidiol gyda ffermwyr ers blynyddoedd lawer yn ymuno â ni rannu eu farn. Mae wedi gweithio'n agos gyda Tim Parton, Rheolwr Fferm Fferm Parc Brewood, lle mae wedi bod yn frwd dros amaethyddiaeth adfywiol ers 15 mlynedd, gan feithrin yr ystâd 300 hectar yn Swydd Stafford gyda gweledigaeth i wella'r pridd am genedlaethau i ddod.
Nia yn esbonio i Dai pwy sydd wedi cael ei ddewis am tîm GB gemau's Olympaidd ym Mharis 2024. Ni'n trafod y penderfyniad dadleuol i adael Sophie Coldwell allan o'r tim ac yn darllen ei datganiad emosiynol sy'n trafod hyn. Symudwn ymlaen i drafod y ffordd ma'r penderfyniadau yma yn cael ei wneud. Gwrandewch ar ein barn ni ac ymunwch a'r sgwrs ar X @nawrywrawr P.S. Warning - defnyddir y gair "cachu" yn yr ep yma - #shitintheseine
Mae Carwyn, Iestyn a Carwyn yn asesu tymor rhanbarthau Cymru yn edrych yn ol ar eu huchafbwyntiau ac yn rhagdybio beth fydd yn dibyg flwyddyn nesaf. A fydd y Dreigiau yn gwella? A gall u Gweilch cyrraedd y gemau ail-gyfle eto? Gwrandewch a dilynwch ni ar gyfryngau gymdeithasol i wybod yr ateb. Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Mae Cennydd Jones yn cael cwmni Non Williams, Swyddog Arbenigol Carbon, Cyswllt Ffermio. Mae'r rhifyn hwn yn seiliedig ar ganfyddiadau archwiliadau ôl-troed carbon a gwblhawyd ar 185 o ffermydd bîff a defaid drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio. Pwrpas yr astudiaeth fer hon oedd crynhoi canlyniadau'r archwiliadau hyn a gwblhawyd yn 2022 er mwyn echdynnu ffigyrau defnyddiol a fydd yn rhoi mewnwelediad i'r sefyllfa bresennol o ran ôl-troed carbon ffermydd bîff a defaid yng Nghymru. Mae astudiaeth Cyswllt Ffermio ar allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) a gynhyrchir gan fentrau cig coch wedi dangos bod ffermydd Cymru yn is na'r meincnod ar gyfer ffermydd tebyg ar draws y DU. Gwrandewch am fwy o wybodaeth! Dolenni defnyddiol- Astudiaeth newydd ar Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr yn awgrymu canlyniadau calonogol i ffermydd bîff a defaid Cymru Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio Cysylltwch a ni Digwyddiad- MEISTR AR ÔL TROED CARBON: BETH MAE HYN YN EI OLYGU?
Blwyddyn newydd dda i chi gyd! Ym mhennod gynta'r flwyddyn cawn ddwy gerdd arbennig gan y Prif Lenor Sioned Erin Hughes. Byddwn hefyd yn Pwnco am Bwnco! Gwrandewch i wybod mwy a mwynhau pennod arall lawn dop o drin a thrafod barddol.
Hwciwch y pumpkin spice lattes na i'ch veins i ddathlu dechre'r hydref efo Bryn, Iest a Sions
Dyma'r cyntaf o bodlediad dwy ran a recordiwyd yn fyw yn Eisteddfod yr Urdd. Ymunwch â Daniel Davies o'r Gwasanaeth Cyflawniad Addysgol i arwain panel Trafod Addysgeg. Gwrandewch ar Manon Tinnuche (Ysgol Maes y Gwendraeth), Catherine Evans (Estyn), Gareth Owens (Ysgol Caerelen) a Meleri Jones (Ysgol Gyfun Penweddig) wrth iddynt drafod sut mae addysgeg yn esblygu o dan Gwricwlwm i Gymru. This is the first of a two part podcast recorded live at Eisteddfod yr Urdd. Join Daniel Davies from the Educational Achievement Service lead a Talk Pedagogy panel. Hear from Manon Tinnuche (Ysgol Maes y Gwendraeth), Catherine Evans (Estyn), Gareth Owens (Ysgol Caerelen) and Meleri Jones (Ysgol Gyfun Penweddig) as they discuss how pedagogy is evolving under Curriculum for Wales. This podcast is available in Welsh only.
Dyma'r ail o bodlediad dwy ran a recordiwyd yn fyw yn Eisteddfod yr Urdd. Ymunwch â Daniel Davies o'r Gwasanaeth Cyflawniad Addysgol i arwain panel Trafod Addysgeg. Gwrandewch ar Manon Tinnuche (Ysgol Maes y Gwendraeth), Catherine Evans (Estyn), Gareth Owens (Ysgol Caerelen) a Meleri Jones (Ysgol Gyfun Penweddig) wrth iddynt drafod y Gymraeg, nodi'r un peth yr hoffent ei newid am y system addysg a sut y gall yr Urdd helpu ysgolion i weithredu Cwricwlwm i Gymru. This is the second of a two part podcast recorded live at Eisteddfod yr Urdd. Join Daniel Davies from the Educational Achievement Service lead a i panel. Hear from Manon Tinnuche (Ysgol Maes y Gwendraeth), Catherine Evans (Estyn), Gareth Owens (Ysgol Caerelen) and Meleri Jones (Ysgol Gyfun Penweddig) as they discuss y Gymraeg, identify the one thing they'd like to change about the education system and how the Urdd can help schools implement the Curriculum for Wales. This podcast is available in Welsh only.
Yn y bennod ddiweddaraf o bodlediad Ofcom, Bywyd Arlein, rydym yn trin a thrafod ein rôl fel y rheoleiddiwr darlledu.Pam mae pobl yn cael eu cymell i gwyno i Ofcom, beth sy'n digwydd ar ôl iddynt wneud ac a yw'r cyfryngau cymdeithasol yn annog mwy o gwynion – am deledu realiti, yn arbennig? Mewn sgwrs sy'n amrywio o boblogrwydd teledu realiti a'i effaith ar ymddygiad gwylwyr, hel atgofion am Bacha hi o ‘ma a'r angen am ofal tuag at rheini sy'n cymryd rhan mewn cyfresi realiti, mae'r newyddiadurwraig a'r darlledwr Dot Davies, y cyfarwyddwr teledu, Sioned Wyn a Phennaeth Materion Rheoleiddiol Ofcom , Cymru, Elinor Williams yn trafod pwysigrwydd y Cod Darlledu, sut mae pobl yn teimlo am deledu realiti a nifer y cwynion rydym yn dderbyn am rhai cyfresi.Gwrandewch ar Spotify neu ble bynnag y cewch eich podlediadau.
Mewn cyfres byr newydd ar gyfer 2023, mae Ciaran Fitzgerald yn cyflwyno cyfres o phodlediadau Gymraeg, yn cyfweld a phobol fwyaf adnabyddus Cymru. Wythnos yma, y nofelydd Llwyd Owen yw'r gwestai. Ar ol astudio ym Mhrifysgol Bangor, wnaeth Llwyd addasu sgript ffilm i fewn i'w nofel cynta 'Ffawd.' Hyd heddiw, mae Llwyd wedi sgwennu 13 nofel, sgwennodd eu nofel diweddara 'O Glust i Glust' yn ystod y pandemic. Mae Llwyd hefyd yn podledydd, wedi hostio'r podlediad 'Does Dim Gair Cymraeg am Random,' ac ar hyn o bryd yn hostio 'Ysbeidiau Heulog,' gyda Leigh Jones. Gwrandewch i glywed mwy am gyrfa Llwyd! In a short new series for 2023, Ciaran Fitzgerald presents a series of Welsh-Language podcasts, interviewing some of Wales' best loved faces. This week, the novelist Llwyd Owen is the guest. After studying at Bangor University, Llwyd adapted a film script into his first novel 'Ffawd.' Llwyd has written 13 novels, his latest novel 'O Glust i Glust' was written during the pandemic. Llwyd is also a podcaster, having hosted 'Does Dim Gair Cymraeg am Random,' and currently hosts 'Ysbeidiau Heulog' with Leigh Jones. Listen now. to hear more about Llwyd's career
‘Mae'n amser i ni yma yng Nghymru i ddweud stori ein hunain' // ‘It's time for us in Wales to tell our own story' Rhodri Prysor (Llwyddo'n Lleol 2050) yn siarad â Charlotte Williams sylfaenydd Hiraeth Films. Gwrandewch i glywed am brofiad Charlotte fel dogfenwraig ifanc o Gymru. Rhodri Prysor (Llwyddo'n Lleol 2050) speaks to Charlotte Williams founder of Hiraeth Films. Listen to hear about Charlotte's experience as a young Welsh documentarian.
Beth yw probs fwyaf teithio? Gwrandewch ar bennod olaf Probcast i weld beth mae Hollie, Beth, Mared ac Amber yn meddwl.
Wythnos yma mae Mared, Hollie, Amber a Beth yn trafod problemau gwaith ac arian. Faint o gynulleidfa Hansh sydd erioed wedi tynnu sickie?
Ein gwesteuon wthnos 'ma yw'r par priod Noelwyn a Sharon. Gwnaeth y ddau cwblhau Ironman Barcelona yn ddiweddar. Ironman cyntaf i Sharon a hi yn ei 50au. Gwrandewch ar hwn os yr ydych am cael eich ysbrydoli. Yn geiriau Sharon - "anything is possible"! Os yr ydych am wrando nôl ar ein podlais gyda Noelwyn a dysgu fwy am ei hanes ef a'i waith fel trefnwr rasus triathlons, dyma'r linc:
Yr hyfryd Jalisa Andrews sy'n cadw cwmni i ni yr wythnos yma. Da ni'n cael y cyfle i'w holi am ei magwraeth, ei phlentyndod a'i hunaniaeth deurywiol. Oes yna ragdybiaethau am ddeurywioldeb? Ydyn ni'n euog o anghofio am y 'D' yn LHDTC+?Gwrandewch, myfyriwch a mwynhewch!Iestyn a Meilir :)
Lowri Morgan yw fy ngwraig gwadd ar y podlediad wythnos hon. Rhedwraig, antur wraig, siaradwraig, awdures a chyflwynwraig! Super-woman Cymru! Dwi di bod yn lwcus iawn i weithio gyda Lowri rhai blynyddoedd yn ôl tra yn Planed Plant a dwi wastad wedi meddwl ei bod hi yn berson cryf, angerddol ac yn bleser i gael ar unrhyw dim. Ond maint ohonom ni oedd yn gwybod mai canu odd cariad cyntaf y ferch o'r Gwŷr? Gwrandewch ar ei stori a'i meddylfryd hi a diolch eto i bawb am wrando!
Ni nol ar ol wythnos i ffwrdd i drafod Pobol y Cwm dros y pythefnos diwethaf. Gwrandewch a rhanwch, diolch!
Listen to how Anna Kershaw, Teacher and International Languages (IL) lead, and Damian Briggs, Teacher and IL provider from Bryn Bach primary, Tredegar, one of our lead International Languages primary schools, are developing International Languages through a whole school approach, engaging in professional learning development and are connecting and linking languages through engaging and practical approaches. Gwrandewch ar sut y mae Anna Kershaw, athrawes ac arweinydd Ieithoedd Rhyngwladol (IR), a Damian Briggs, Athro a darparwr IR o ysgol gynradd Bryn Bach, Tredegar, un o'n hysgolion cynradd arweiniol ar gyfer Ieithoedd Rhyngwladol, yn datblygu Ieithoedd drwy ymrwymo fel ysgol gyfan, ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol ac yn cysylltu ieithoedd drwy ddulliau ymarferol ac atyniadol.
Artist Joan Jones performed ‘Gloomy Mayhill Walk’ as part of our Glynn Vivian Art Night: Supporting LGBT+ History Month in February 2020. Listen again to this captivating journey through the streets and pathways of Mayhill. Perfformiodd yr artist Joan Jones 'Gloomy Mayhill Walk' fel rhan o Noson Gelf Glynn Vivian: Cefnogi Ms Hanes LGBT+ ym mis Chwefror 2020. Gwrandewch unwaith eto ar y daith hudolus hon drwy strydoedd a llwybrau Mayhill.
Croeso i 2021, yn llawn gobaith, uncorns ac enfysau... Neu just blwyddyn arall o tech bants, booze a ffilms gwael gyda Bryn, Iestyn a Sioned
Pennod gyntaf 2021 a chyfres 2 o pyc a phaned. Gwrandewch a joiwch ni yn rhannu ein barn ar Pobol y Cwm yr wythnos hon.
Ydych chi eisiau ateb i'r cwestiwn mae pawb yn y byd wedi bod yn gofyn? (Ble oedd PYCAPh y pythefnos diwethaf) Gwrandewch i ffeindio allan. Ni hefyd yn trafod pobol y cwm am 30 munud so arhoswch am hwna 'fyd. Diolch a Nadolig Llawen
Aled Hughes Mae’r gân Bohemian Rapsody gan y band Queen yn enwog iawn ond roedd rhai yn y band eisiau galw’r gân yn Mamma. Fasai’r gân wedi bod mor boblogaidd gyda’r enw hwnnw tybed? Dyna buodd Geraint Cynan yn ei drafod gyda Aled Hughes a dyma i chi flas ar y sgwrs… Mymryn - A little Crybwyll - To mention Cydio - To grasp Crynhoi’r cyfnod - To summarise the period Yn ddiamheuol - Without doubt Mewn un ystyr - In one respect Uchafbwynt - Highlight Cyfarwyddwr - Director Rhyddhau - To release Gweddu - To suit Dros Ginio Geraint Cynan oedd hwnna’n trafod Bohemian Rhapsody ar raglen Aled Hughes. Roedd Marathon Llundain yn dathlu ei benblwydd yn bedwar deg eleni ond ras wahanol iawn oedd i’w chael penwythnos cyntaf Hydref eleni. Roedd y rhedwyr elitaidd yn rhedeg yn y ddinas fel arfer, ond roedd rhaid i bawb arall redeg ras rithiol. Un o’r rhai gymerodd ran yn y ras rithiol oedd Paul Williams o Lanfihangel y Creuddyn yng Ngheredigion a dyma fe’n siarad am y profiad gyda Dewi Llwyd.. Rhithiol - Virtual Her anferth - A huge challenge Y tywyllwch - The dark Gweddill ein hoes - The rest of our lives (Roedd…)wedi cael eu gohirio - Had been cancelled Dw i’n casglu - I take it Ar y brig - On top Yn argoeli’n dda - It augurs well Rhys Mwyn A phob lwc i Paul yn y rasys sydd i ddod on’d ife? Roedd Huw Jones yn bennaeth S4C yn y gorffennol ac wedi dal swyddi pwysig iawn ym mywyd cyhoeddus Cymru dros y blynyddoedd, ond daeth e’n enwog yn y chwedegau a’r saithdegau fel canwr pop a chanwr caneuon protest. Mae nifer o’r caneuon rheiny i’w cael ar albwm o’r enw Adlais gafodd ei rhyddhau yn wreiddiol yn 1976. Mae’r albwm ar gael yn ddigidol nawr a dyma i chi Huw yn esbonio wrth Rhys Mwyn sut gwnaeth e ddewis y caneuon ar gyfer yr albwm Adlais - Echo Y casgliad - The collection Haeddu - To deserve Awgrym - Suggestion Priodol - Appropriate Mwyafrif - Majority Adlewyrchu - To reflect Ymgyrchoedd - Campaigns Cyfrifoldeb - Responsibility Cenedlaethau - Generations Sioe Frecwast Huw Jones oedd hwnna’n sgwrsio gyda Rhys Mwyn am yr albwm ddigidol Adlais. Mae cystadleuaeth Bake Off Channel 4 wedi dechrau’n barod. Mae Caryl a Daf wrth eu boddau yn trafod y sioe ac un arall sy’n mwynhau ydy’r canwr opera Alun Rhys Jenkins. Buodd y tri’n sgwrsio am fara soda a rhywbeth o’r enw ‘bogels’. Beth yw hwnnw tybed? Gwrandewch ar y clip nesa ’ma i ffeindio allan … Eitha rhwydd - Quite easy Triog - Treacle Surdoes - Sourdough Enfys - Rainbow Bogel - Navel Toes - Dough Geraint Lloyd O diar, dw i’n meddwl bydd hi’n anodd edrych ar ‘bagel’ heb feddwl am fotwm bol ar ôl hynny...Nos Fawrth diwetha, cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda Gwenda Owen o Bontyberem. Gwenda oedd yn cael dewis cyngherddau oedd wedi aros yn y cof iddi hi, a dewisodd hi gyngerdd oedd yn golygu llawer iawn iddi hi’n bersonol … Cancr y fron - Breast cancer Triniaeth - Treatment Llawdriniaeth - Surgery Cyfres - Series Uniaethu - To empathise Ta waeth - Anyway Llawn dop - Full to the brim Cyfansoddi - To compose Gwerthiant - The sales Sian Cothi Gwenda Owen oedd honna’n rhannu atgofion am gyngerdd arbennig iawn gyda Geraint Lloyd. Mae hi wedi bod yn amser caled iawn i gantorion proffesiynol ers y cyfnod clo gan nad oedd yn bosib rhoi perfformiadau byw. Ond mae’r tenor Aled Hall wedi bod ar lwyfan Eglwys St James yn Islington, Llundain, y penwythnos diwetha yn perfformio gydag opera ensemble. Shan Cothi gafodd yr hanes ganddo ar Bore Cothi Rhagarweiniad - Introduction Hala - To send Angerdd - Passion Yn go glou - Quite quickly Cantorion - Singers Mo’yn - Eisiau Cerddoriaeth fyw - Live music Cynulleidfa - Audience Becso - Poeni
Get in the mood for this week's England-Wales friendly by listening to how, fifty years ago Chris Leek, saxophonist in The Barry Horns, caught a train to Cardiff from Swansea and made his way to Ninian Park for his first ever Wales match: versus England in the 1970 Home Championship. Listen to Chris's recollections of the game and also of the game against Northern Ireland a week later when George Best visited Chris's beloved Vetch Field. Byddwch mewn hwyl i groesawu'r gêm cyfeillgar rhwng Lloegr a Chymru gan wrando ar sut esgynodd Chris Leek, sacsoffonydd gyda'r Barry Horns, drên o Abertawe i Gaerdydd a mentro i Barc Ninian am ei gêm Cymru cyntaf erioed: yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth Prydain 1970. Gwrandewch ar atgofion Chris y gêm ac hefyd y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon yr wythnos ddilynol pan ymwelodd George Best â'r Cae Vetch mor annwyl i Chris.
Heddiw, ni'n trafod pennodau gyntaf Pobol y Cwm ers Lockdown. Gwrandewch a mwynhewch!
Mae Lleucu Gwenllian yn un o’r 14 entrepreneur ifanc sy’n rhan o griw Llwyddo’n Lleol 2050. Ei breuddwyd yw agor stiwdio greadigol yng Ngogledd Cymru, sy’n cynnig llwyfan a sicrwydd i unigolion eraill sy’n rhannu’r un doniau. Mae Lisa Taylor yn artist anhygoel, ac yn engrhaifft arbennig o rhywun sydd wedi taclo’r ddamcaniaeth nad oes posib llwyddo yn ei milltir sgwar. Dyma gyfle i Lleucu i’w holi hi am ei phrofiadau. Gwrandewch!
Sgwrs gonest yn cwestiynu, procio a herio’r sefyllfa sy’n wynebu ni fel pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru. Yda ni’n disgwl gormod? Yda ni’n styc mewn limbo? Oes na gyfleoedd? Gwrandewch ar beth sydd gan Jim i’w ddweud am ei ymgais o i lwyddo, a hynny yn lleol.
Beti A'i Phobol - Alis Hawkins ail-gydio yn... - to reconnect with dros dair degawd - over three decades sbarduno'r chwant - to motivate the desire mynd bant - to go away annog - to encourage darganfod - to discover ar lafar - orally rhwydd - easy clytwaith - patchwork amrywiol - varied Mae Alis Hawlins yn dod o Gwm Cou ger Castell Newydd Emlyn yn wreiddiol ond wedi byw yn Lloegr ers dros drideg mlynedd. Roedd hi'n poeni ei bod yn colli ei Chymraeg ond mi wnaeth ffrind iddi hi ei helpu i ddod yn ôl i'r arfer o siarad yr iaith ac nawr mae hi'n rhugl umwaith eto. Yn y clip yma mae Allis yn sôn am rywbeth arall helpodd hi gyda'i Chymraeg hefyd. Gwrandewch ar hyn... Geraint Lloyd - Het Mali Sion yn enwedig - especially y gwynt yn hyrddio - the wind blowing strongly marchogaeth - horse riding ambell i gae - the odd field fan hyn a fan draw - here and there Ie, podlediad y dysgwyr wedi helpu Alis i ail-gydio yn ei Chymraeg - da on'd ife? Dych chi wedi clywed am yr Het ar Raglen Geraint Lloyd? Mae'r Het yn cael ei phasio o un person i'r llall bob wythnos, a'r wythnos yma - Mali Sion o Lanrwst oedd y ferch lwcus. Mae Mali yn ferch brysur iawn. Yn ogystal â gweithio yng Nghaffi Ffika yn Llanrwst, mae hi hefyd yn aelod o'r band Serol Serol, a dyma hi'n sôn am y band wrth Geraint LLoyd... Rhaglen Recordiau Rhys Mwyn - Neil Rosser cyfeillion - friends gei di ymateb - you'll get a response cystal â - as good as ymgais - an attempt roedd yn berchen - he owned mo'yn - eisiau y fenyw - the woman myn uffern i - goodness me jacôs - calm blaenoriaeth - priority Mali Sion oedd honna yn sôn wrth Rhys Mwyn am ei band Serol Serol. A dyn ni am aros ym myd pop nawr gyda rhaglen Rhys Mwyn. Nos Lun cafodd Rhys gwmni y canwr Neil Rosser a buon nhw'n edrych yn ôl ar yr albwm "O'r Gad" gafodd ei recordio yn Nyffryn Ogwen. Dyma Neil yn sôn am adeg y recordio... Sioe Frecwast - Pêl-droed cerdded Cwpan Pêl-droed Cerdded y Byd - Walking Football World Cup eitha anhygoel - quite incredible Yr Eidal - Italy dod lan - to come up tairgwaith - three times wedi cynrychioli - has represented baner - flag hyd yn oed - even camp - game Neil Rosser oedd yn siarad gyda Rhys Mwyn am recordio'r albwm 'O'r Gad'. Roedd llawer o bobl yn hapus iawn bedair blynedd yn ôl bod tîm pêl-droed Cymru wedi cyrraedd semis yr Euros yn Ffrainc. Ond oeddech chi'n gwybod bod Cymru wedi ennill Cwpan Pêl-droed y Byd? Mae hynny'n wir ond cwpan ychydig bach yn wahanol oedd e - Cwpan Pêl-droed Cerdded y Byd. Ar y Sioe Sadwrn cafodd Geraint a Elan sgwrs gyda John Pritchard sy'n chwarae i dim pêl-droed cerdded Amlwch ar Ynys Môn ond sydd hefyd wedi chwarae dros Gymru... Cofio - Dewi Sant yr un mor llwyddiannus - as succesful wedi cwympo - has fallen cyd-ddigwyddiad - coincidence haeddu - to deserve nawddseintiau - patron saints beirdd a llysieuwyr - poets and vegetarians yn y bôn - basically llysenw - nickname eitha anniddorol - quite uninteresting creulon - cruel A gobeithio bydd tîm pêl-droed normal Cymru yr un mor llwyddiannus yn yr Euros eleni on'd ife? Roedd hi'n ddydd Gwyl Dewi dydd Sul diwetha a dw i'n siwr basai'r Sant wedi bod yn falch iawn o weld cymaint o ddathliadau ym mhob ran o Gymru. Dw i ddim yn siwr, cofiwch, beth fasai'r hen Ddewi'n feddwl o berfformiad Daniel Glyn yn y clip nesa 'ma... Aled Hughes - Corgi ast - bitch Arwr - Hero sunsur sgleiniog - shiny ginger Sir Aberteifi - Ceredigion Y Frenhines - The Queen ci defiad Cymreig - Welsh sheepdog hel gwartheg - to drive cattle mwythlyd - doting torraid - litter(animals) goroesi - to survive Dewi Sant gwahanol iawn yn cael ei ddisgrifio yn fan'na gan y comedïwr Daniel Glyn. Mae bridiau cwn Cymreig a Phrydeinig yn ffashiynol iawn ar hyn o bryd ac mi aeth Aled Hughes draw i Dalybont i weld dau gorgi Ceredigion Sioned Humphreys a hefyd i weld Jack Russell bach blin o'r enw Nel.
Caryl Haf, Is-gadeirydd CFfI Cymru yn dilyn y daith wrth recordio sengl gyntaf un Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru. Gwrandewch ar sgyrsiau gyda’r unigolion yn stiwdio Sain, Llandwrog yn ogystal â rhai o aelodau’r côr ym Mhontrhydfendigaid, heb anghofio Lisa Angharad ac Alaw Llwyd Owen. Diolch i Caryl Haf am gyfweld, a diolch yn fawr i bawb am gyfrannu. Bydd sengl gyntaf un Aelodau Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, sef fersiwn o ‘Bydd Wych’ ar gael i’w lawr lwytho o’r 7fed o Chwefror gyda chyfraniad o’r arian yn mynd tuag at yr elusen Meddwl.org. Caryl Haf, the Wales YFC Vice-chairman follows the journey as Wales YFC record their first ever single. The episode includes chats with the soloists in Sain studios, Llandwrog as well as members of the choir in Pontrhydfendigaid, without forgetting Lisa Angharad and Alaw Llwyd Owen. A big thank you to Caryl Haf for interviewing and to everyone that participated in this episode. The first ever single from Members of the Wales Federation of Young Farmers’ Clubs, a cover of the song ‘Bydd Wych’, will be available to download from the 7th of February with a percentage of the earnings going towards the Welsh language mental health charity Meddwl.org.
Rhodri, Telor, Rhys, ac Ifan sy’n edrych mlaen at gêmau Cymru yn erbyn Azerbaijan a Hwngari. Ar yr agenda: Hanes Azerbaijan ers chwarae Cymru (02m06e) Hwngari (09m36e) Gweddill y gêmau rhagbrofol (25m00e) Amser Ychwnaegol - Cymru Premier, Cwpan Cymru, Ligue 1 a Bundesliga (32m40e) Gwrandewch, tanysgrifiwch, rhannwch gyda'ch ffrindiau, a gadewch ni wybod be chi'n feddwl trwy gysylltu ar Twitter @podligo
Rhodri, Telor, Rhys ac Ifan sy'n trafod pêl-droed y penwythnos o Gymru ac Ewrop, gan gynnwys bloopers y Cymru Premier, pencampwyr Scandinavia 2019, a edrych nôl ar memorabilia y 90au. Cwpan Cymru a'r Cymru Premier (00m26e) Cynghreiriau Ewrop (10m53e) Modelau Corinthian (22m15e) Amser Ychwanegol (32m35) Gwrandewch, tanysgrifiwch, rhannwch gyda'ch ffrindiau, a gadewch ni wybod be chi'n feddwl trwy gysylltu ar Twitter @podligo
Rhodri, Telor ac Ifan sydd wedi mynd draw i dŷ Rhys i drafod gêmau rhyngwladol, gêmau’r Cymru Leagues, ac esgidiau Cei Connah yn y Tunnock’s Caramel Teacake Irn-Bru Wafer Challenge Cup of Scotland. Gêmau rhagbrofol Ewro 2020 (00m26e) Cymru Leagues (23m05e) Amser Ychwanegol (32m54e) Gwrandewch, tanysgrifiwch, rhannwch gyda'ch ffrindiau, a gadewch ni wybod be chi'n feddwl trwy gysylltu ar Twitter @podligo
Rhodri, Telor, Rhys, ac Ifan sy’n cael cysgod o’r glaw mewn caffi yng Nghaerdydd ac yn trafod gêmau rhyngwladol Cymru, un o derbys Belffast, y diweddara gyda Bangor 1876, a’r ras agored am y Cymru Premier! Intro (00m00e) Slofacia (03m07e) Croatia (08m59e) Gogledd Iwerddon - Derby Belffast (19m54e) Cynghreiriau Cymru (27m56e) Amser Ychwanegol (36m51e) Diolch i Blue Honey Local am fod yn gartref i'r pod am brynhawn! Gwrandewch, tanysgrifiwch, rhannwch gyda'ch ffrindiau, a gadewch ni wybod be chi'n feddwl trwy gysylltu ar Twitter @podligo
Gwrandewch- command for listen
ALEX BOYD IN CONVERSATION WITH EMYR YOUNGSCOTLAND / WALES, MAY 2018ALEX BOYD YN SGWRSIO GYDAG EMYR YOUNGYR ALBAN / CYMRU, MAI 2018 Alex Boyd. Portrait © Laurence Winram Alex Boyd is a Scottish photographer with a deep passion for exploring Scottish identity in his raw but beautiful conceptual and figurative landscape photography.Having admired Alex's for some time, Ffoton were pleased to sit down for a long and fascinating discussion on his photography career, landscape and wider work portfolio to date. This second part of our conversation explores the work in his new book: 'St Kilda: The Silent Islands' published in April 2018 and Alex's preparation for his next big project.Second of 2 parts. Listen to Part 1 Y mae Alex Boyd yn ffotograffydd o'r Alban a'i fryd ar archwilio ei hunaniaeth ffotograffig Albanaidd trwy ei luniau cignoeth cysyniadol a ffigurol o'r tirlun.Y mae ffoton wedi edmygu ei waith ers tipyn a da oedd cael cyfle i drafod ei yrfa ffotograffig cyn cyhoeddi ei lyfr newydd am ynys St. Kilda. Cyhoeddwyd y llyfr: The Silent Islands' yn Ebrill 2018. Y mae ail ran y sgwrs yn trafod y gwaith ar ei lyfr newydd: St Kilda: The Silent Islands' a gyhoeddwyd yn Ebrill 2018. Yr ydym hefyd yn trafod ei brosiect newydd a heriol.Yr 2ail o ddau ran / Gwrandewch ar ran 1See below for a small selection of Alex's work, reproduced here on Ffoton with kind permission of the photographer.Yma ar Ffoton trwy garedigrwydd y ffotograffydd fe welwch gasgliad bychan o'i waith isod. View more of Alex's work on his website www.alexboydphotography.comFollow him on Twitter @AlexBoyd and on Instagram @mralexboydGallery images © Alex Boyd and used with permission of the photographer.Banner portrait © Pjotr BurlakovFurther reading from this conversation:Takeshi Shikama: www.shikamaphoto.comJason Hicklin: www.jasonhicklin.comKyūya Fukada: 'One Hundred Mountains of Japan'Please note: Comments or views made by interview participants are their own and are NOT necessarily the views of the Ffoton Wales team.See our Terms page for more details. Our RSS Feed