Podcasts about byddwn

  • 12PODCASTS
  • 26EPISODES
  • 1h 1mAVG DURATION
  • ?INFREQUENT EPISODES
  • Mar 23, 2025LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about byddwn

Latest podcast episodes about byddwn

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#114 - Ffocws ar eneteg, iechyd yr anifail a defnyddio EID yn y ddiadell Gymraeg Cyfnod newydd yn Ystâd Rhug

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear

Play Episode Listen Later Mar 23, 2025 23:55


Cyfle unigryw i ymweld ag Ystâd Rhug ac i ddysgu mwy am y newid mawr yn y ddiadell ddefaid yn sgil y cyngor a chymorth a gafwyd drwy'r Rhaglen Geneteg Defaid Cymru. Byddwn yn clywed yn uniongyrchol am y rhan arwyddocaol technoleg, gan ddarparu data i helpu i reoli penderfyniadau'n ymwneud â bridio wrth ganiatáu i'r fferm ŵyna'n bennaf yn yr awyr agored, gan gadw diadell gaeedig ac felly bridio defaid cyfnewid ei hun.

yst gymraeg iechyd byddwn
Clera
Clera Ionawr 2024

Clera

Play Episode Listen Later Jan 27, 2024 85:25


Blwyddyn newydd dda i chi gyd! Ym mhennod gynta'r flwyddyn cawn ddwy gerdd arbennig gan y Prif Lenor Sioned Erin Hughes. Byddwn hefyd yn Pwnco am Bwnco! Gwrandewch i wybod mwy a mwynhau pennod arall lawn dop o drin a thrafod barddol.

ym gwrandewch byddwn
Clera
Clera Awst 2023

Clera

Play Episode Listen Later Aug 31, 2023 61:43


Croeso i bennod mis Awst o Clera, sy'n dechrau ar y gwaith o drin a thrafod a thafoli'r Eisteddfod yng nghwmni'r Prifardd Hywel Griffiths. Byddwn yn gwneud mwy o adladd parthed y steddfod yn y misoedd i ddod. Ond cawn un eitem y tro hwn a recordiwyd ar faes y brifwyl, sef llinell gynganeddol ddamweiniol y maes, gyda Gruffudd Antur.

Haclediad – Hacio’r Iaith
Caernarfon Has Fallen

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Jun 26, 2023 162:44


Rhy boeth i gysgu? Aircon yn freuddwyd pell? WEL, co' chi Haclediad mis Mehefin i ffanio chi efo breezy chat tri ffrind am dechnoleg, billionaires a ffilms rybish Byddwn ni'n sipian coctêls oer a thrafod Reddit, VR Headset freaky newydd Apple, trip Bryn i dŷ'r Cyffredin a FfilmAmDdim-DiDdim waethaf (?) ein run ni o 40 hyd yn hyn: London has Fallen. Diolch o galon i bob un ohonnoch chi sy'n gwrando ac yn cyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) bob mis - chi'n ridic a da ni'n meddwl y byd ohonoch!

Haclediad – Hacio’r Iaith
The Iest and the Furious

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Feb 23, 2023 166:05


Dewch am dro draw i diroedd pell Mastodon efo'r Haclediad mis yma - bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn gweld sut mae dechrau o'r dechrau ar rwydwaith gymdeithasol sy'n chydig o ddrysfa o'r tu allan. Da ni yma i ddal eich llaw i neud y naid! Byddwn ni hefyd yn rhoi Iest Test i'r frwydr am hawliau trans, yn ogystal â gwylio ffilm di ddim sy mor ridiculous allwn ni ddim hyd yn oed: Furious 7 Diolch o galon i bob un ohonoch chi sy'n gwrando, cefnogi a chyfrannu bob mis - caru chi!

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#70 - Cynllun Ffermio Cynaliadwy - Ymchwilio'n ddyfnach i'r manylion

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear

Play Episode Listen Later Oct 9, 2022 45:22


Bydd y podlediad hwn yn gyfle i ddeall ychydig mwy am gynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a sut y gallai'r cynllun weithredu yng nghyd-destun fferm ddefaid go iawn. Byddwn yn canolbwyntio ar y camau gweithredu cyffredinol ar gyfer meincnodi, iechyd anifeiliaid a bioddiogelwch yn benodol wrth i ni ystyried y broses barhaus o gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy o fewn y cynigion. Mae holl ffermwyr Cymru'n cael eu hannog i gwblhau'r arolwg SFS i helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynigion yr SFS i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio ar lawr gwlad. Gellir dod o hyd i'r arolwg [yma] a daw i ben ar 31 Hydref 2022.

cymru sfs bydd hydref byddwn llywodraeth cymru
Clera
Clera Medi 2022

Clera

Play Episode Listen Later Sep 29, 2022 84:00


Ym mhennod mis Medi o bodlediad Clera cawn yr olwg gyntaf ar Gyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yng Nghwmni Osian Wyn Owen. Byddwn yn trafod a thafoli mwy ar gynnyrch llên y Brifwyl yn y misoedd i ddod hefyd. Cawn hefyd drafod cyfrol gyntaf o gerddi Osian yn y rhifyn hwn yn ogystal â hel atgofion am gyfnod Tudur Dylan Jones fel Meuryn yr ymryson, wedi iddo gyhoeddi ei ymddeoliad o'r swydd. Cawn hefyd glywed rhai o gerddi buddugol y Brifwyl, o gywydd Geraint Roberts i'r Soned a enillodd Gadair Adran y Siaradwyr Newydd i Wendy Evans.

medi ym cawn byddwn
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#68 - Tair elfen ffermio cynaliadwy, Elw, Planed a Phobl' gyda Rhys Williams ac Aled Picton Evans

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear

Play Episode Listen Later Sep 21, 2022 32:01


Y bennod hon fydd y gyntaf mewn cyfres a gyflwynir gan amrywiaeth o gyflwynwyr gwadd ar amrywiaeth o bynciau o Amaeth yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y cyflwynydd gwadd cyntaf yn llais cyfarwydd ir podlediad, Rhys Williams, ffermwr defaid a gwartheg ac ymgynghorydd busnes fferm i Precision Grazing Ltd. Cafodd Rhys y fraint o ddal i fyny gyda Ffermwr Cig Eidion y Flwyddyn Farmers Weekly, Aled Evans fferm Rest ger Hendy-gwyn ar Daf. Yn y bennod hon byddant yn trafod taith Aled i ddatblygu system ffermio da byw cynaliadwy. Byddwn yn edrych yn benodol ar dair elfen o ffermio cynaliadwy, sef Elw, Planed a Phobl.

Pod Sgorio
Pod 23: Cup fever! Rhagolwg Rownd Derfynol Cwpan Nathaniel MG

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Feb 2, 2022 38:44


Croeso i pod 23! Dylan Ebenezer a Sioned Dafydd sy'n trafod y ffenestr drosglwyddiadau wrth i rai o brif sêr Cymru ymuno â chlybiau newydd. Cawn ymateb o Aberystwyth ar ôl i'r clwb chwarae eu milfed gêm yn yr Uwch Gynghrair. Byddwn hefyd yn edrych ymlaen at rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG brynhawn Sul wrth i Adam Roscrow o'r Met ac Aeron Edwards o Gei Connah ymuno â ni ar y pod. 06/02 – Met Caerdydd v Cei Connah – yn fyw ar S4C am 1.45

Colli'r Plot
Pum Diwrnod a Phriodas a Phenblwydd

Colli'r Plot

Play Episode Listen Later Nov 19, 2021 61:40


Croeso i 10fed rhifyn o bodlediad Colli'r Plot.Mae'r bennod yma yn dathlu pen-blwydd y Cyngor Llyfrau yn 60. Byddwn yn trafod Pum Diwrnod a Phriodas gan Marlyn Samuel ac yn cael hanes joli llenyddol cyntaf Manon i Barcelona.Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennodLess is More - Jason HickelThe Ladies of Llangollen – Elizabeth MavorBachgen Bach o Fryncoch - Ieuan ParryPiranesi - Susanna Clarke. Ar Daith Olaf - Alun Davies. O Hedyn i Ddalen - Dathlu'r Cyngor Llyfrau yn 60. Y Stori Orau, Lleucu Roberts.Happiness and Tears, The Ken Dodd Story - Louis BarfeC'mon Midffild, Stori Tîm o Walis - Ioan RobertsThe Order of Time - Carlo RovelliOut in the Open - Jesùs CarrascoMerch Y Gwyllt - Bethan GwanasNone So Blind - Alis HawkinsPum Diwrnod a Phriodas - Marlyn Samuel

Esgusodwch fi?
‘Da chi'n efeilliaid?

Esgusodwch fi?

Play Episode Listen Later Jun 19, 2021 42:54


Yn y bennod yma, mi fydd Iestyn yn cael ei gyfweld ar y cyd â'i efaill, Gethin Walker-Lewis. Byddwn yn cael sgyrsiau reit amrwd am deulu, ‘dod allan' a sut brofiad ydi o i gael brawd sydd hefyd yn hoyw.Mi fyddwn ni hefyd, fel yr arfer, yn trafod newyddion LHDT+ yma yng Nghymru a thu hwnt.Meilir a Iestyn :)

Mwy o Sgwrs Dan y Lloer
4: Dewi 'Pws' Morris

Mwy o Sgwrs Dan y Lloer

Play Episode Listen Later Mar 1, 2021 37:44


Â'r lleuad yn olau uwchben Pen Llŷn, Elin Fflur fydd yn cael cwmni y cerddor, actor, cyflwynydd, diddanwr a'r tynnwr coes Dewi ‘Pws' Morris. Wrth i'r haul fynd lawr fe fydd y ddau'n swatio am sgwrs o flaen tanllwyth o dân liw nos yn ei ardd yn Nefyn, Pen Llŷn i drafod rhai o atgofion ei yrfa a'i fywyd.Fe fydd yna ddigon o chwerthin wrth i ni ail-fyw dyddiau Edward H, ffilm fawr y Grand Slam a'r cyfan yn hapus dyrfa o atgofion! Byddwn hefyd yn codi gwydriad i hen gyfeillion ar hyd y daith, cyn mwynhau cân fach o amgylch tanllwyth o dân. Elin Fflur's guest this week is musician, actor, presenter, entertainer and true Welshman Dewi ‘Pws' Morris. As the sun sets, both settle for a chat in front of a blazing fire under the stars in Dewi's garden in Nefyn, Llŷn Peninsula to discuss his life and career. Dewi will take us on a trip down memory lane as we reminisce the golden days of the Grand Slam film, Edward H Dafis and we'll raise a toast to old friends past and present, before enjoying a song around the open fire.

Y Sgwrs
Pennod 2: Lockdown Life

Y Sgwrs

Play Episode Listen Later Apr 27, 2020 25:11


Yn pennod 2 byddwn ni'n croesawu Kim, Cynan a Siwan fach o Gaernarfon, Deltyh o Bala, a Llyr ac Angharad o Lanuwchllyn i ymuno yn Y Sgwrs. Byddwn ni'n trafod nappies, teithiau cerdded ben bore, a dod i garu Iesu yn fwy yn ystod y lockdown.

BE' TI'N MEDDWL!?
"Banana Taped to a Wall"

BE' TI'N MEDDWL!?

Play Episode Listen Later Dec 28, 2019 60:47


Pennod gyntaf rhywbeth newydd sbon. Byddwn ni'n son am lawer o bethau, banana taped to a wall, pigeons efo hetiau, Banksy ym Mhort Talbot, Donald Trump yn gwybod "very much" am windmills ac ein Top 5 Caneuon Nadolig erioed. Felly ymunwch am ychydig o sgwrs. Ffeindiwch ni ar Instagram @betinmeddwl

Dala Lan
Dala Lan: Nadroedd, Aimee Ffion Edwards, Catherine Zeta Jones, Trystan Beard

Dala Lan

Play Episode Listen Later Aug 2, 2019 43:51


Beth yw eich ffobia chi? Byddwn ni’n trafod beth sy’n codi ofn ar Daf Wyn, Lowri Jones, Catrin Reynolds a Bethan Wyn. Un peth sy’n siwr, ni’n gwybod beth yw ffobia’r cyflwynydd Alun Williams, wrth iddo fe ddathlu diwrnod y neidr gyda neb llai na Geraint Snakes! O nadroedd i un o sêr Luther, Skins a Peaky Blinders, byddwn ni’n clywed sgwrs llawn rhwng Alun a’r actores Aimee Ffion Edwards o Gasgwent – tybed pa gyfrinachau’r byd actio sy’n cael eu datgelu? Ga’th Daf Wyn y pleser o gyfarfod seren arall o’r byd actio, Catherine Zeta Jones wrth iddi ddychwelyd i’w chartref i dderbyn anrhydedd rhyddid dinas Abertawe. Ac yn olaf, pwy all anghofio gwên ddireidus Trystan Beard, un o blant rhaglen Dathlu Dewrder sy’n byw gyda’r cyflwr Cerebral Palsy. Erbyn hyn mae angen llawdriniaeth brys ar Trystan a   byddwn ni’n clywed am ymdrech cymuned Cilgerran i godi £40,000. Mwynhewch!   Eitem Diwrnod y Neidr gyda Alun Williams a "Geraint Snakes" https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/2366507703404596/ Catherine Zeta Jones https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p07gl93z/heno-wed-24-jul-2019 Stori Trystan Beard https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/2376868949233774/

Syniadau Iach
Syniadau Iach

Syniadau Iach

Play Episode Listen Later Apr 22, 2019 1:23


Mae Syniadau Iach yn bodlediad a fydd yn adlewyrchu syniadau newydd arweinwyr ym maes arloesol iechyd a gofal. Byddwn yn clywed gan arloeswyr , arweinwyr a dylanwadwyr sy’ wedi dangos eu hymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddyfeisio atebion arloesol.

cymru iach podlediad iechyd byddwn
Haclediad – Hacio’r Iaith
Sneaky Nest a Robo-Iest

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Mar 15, 2019 94:13


Dewch i ymuno efo Bryn, Sioned a Robot Iestyn am bennod arall o’ch hoff podlediad tech/gin/box sets! Byddwn ni’n trafod Google yn sneakio meicroffôn mewn i’r system gartref Nest, Spotify yn prynnu rhwydwaith Gimlet a platfform podcasts Anchor a Plygiaduron (foldable phones, bathu gwych!) Mae gwestai arbennig genno ni mis yma hefyd - Carl o dîm Haciaith Caerfyrddin 2019, bydd o’n sôn am sesiynnau a datblygiadau’r gynhadledd i’r byd digidol Cymraeg. Ymddiheuriadau am safon sain Iestyn, mae o’n troi’n bionic. Special Guest: Carl Morris.

Haclediad – Hacio’r Iaith
Haciaith 2018 yn fyw o’r Tramshed

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Feb 8, 2018 65:04


Croeso i bennod cyntaf 2018 - yr un lle mae Bryn, Iestyn a Sioned yn cael mynd i’r byd go iawn. Croeso i bennod ang-nghynhadledd Hacio’r Iaith! Byddwn ni’n siarad efo llwyth o bobl go iawn am vlogio, myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, trolls, mapio a peints. Cofiwch pingio neges draw os da chi’n gwrando, neu well fyth gadwch adolygiad ar iTunes!

croeso iestyn iaith tramshed byddwn
Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 54: Minilediad Hacio'r Iaith 2017

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Jan 16, 2017 36:45


Yn nhraddodiad yr englyn, yr haiku a’r cwpled, ni’n dod â chywasgiad creadigol byr a bachog* o’r Haclediad i chi cyn digwyddiad Hacio’r Iaith eleni. Byddwn ni’n chwipio trwy ben-blwydd yr iPhone yn 10, a mwy o newyddion, cyn rhoi syniad i chi o be fydd i’w weld yn Pontio, Bangor ar Ionawr yr 21ain - ni’n edrych mlaen i’ch gweld chi yna!

iphone bangor yn iaith byddwn
Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 33: 33: Ho-ho-haclediad

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Dec 9, 2013 67:27


Croeso i rifyn Nadolig yr Haclediad! Byddwn ni’n rhoi sbin tymhorol ar newyddion y mis – Grantiau technoleg y Cynulliad, gêm Gymraeg ar Steam, brwydro’r Xbox vs PS4 a llawer mwy. Bydd Bryn yn deud ei jôcs gorau ac yn awgrymu gemau bwrdd (www hw!), Iestyn yn rhedeg allan o wisgi a Sioned yn trio cadw’r rhestr ‘Dolig lawr o dan £10,000 am unwaith. Hyn oll a mwy yn eich rhifyn Nadoligaidd sgleiniog o’r Ho-ho-haclediad! Nwdlscyf Enaid Coll – gêm Gymraeg ar Steam The post Haclediad #33: Ho-ho-haclediad appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 16: Yr Un Sâl!

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Jan 9, 2012 60:19


Croeso i Haclediad #16: Yr Un Sâl! Ar ddechrau 2012 byddwn ni yn trio ymladd y ffliw ac yn dod â thameidiau blasus y flwyddyn a fu a’r flwyddyn i ddod i’ch clustiau! Byddwn yn trafod y tech gorau o 2011, ac yn darogan pa ddyfeisiau neu gwmnïau bydd yn ffarwelio â ni yn 2012. Byddwn hefyd yn dechrau ar ymgyrch gwrth-#halfarsedWales yn y gobaith o weld dylunio gwych o Gymru. Ac wrth gwrs, byddwn yn edrych mlaen yn arw am Hacio’r Iaith 2012 ar y 27ain a’r 28ain o Ionawr, welwn ni chi yno! Dolenni The Guardian ar yr iPad SnapSeed App TuneIn Radio App Ap Golwg Yudu – Y technoleg y tu ôl i Ap Golwg Adobe Digital Publishing Suite RIM mewn trwbl Nintendo mewn trwbl? How to bring good design to a platform The post Haclediad #16 Yr Un Sâl! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

guardian nintendo ipads ac rim croeso gymru tunein radio app iaith yudu byddwn adobe digital publishing suite
Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 14: Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw)

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Nov 7, 2011 69:38


Croeso i Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw), y rhifyn cyntaf gyda chyfweliad gyda pherson go iawn! Yn ymuno gyda Sioned, Bryn ac Iestyn mae Garmon Gruffydd o gyhoeddwyr Y Lolfa, gyda’u gobeithion a chynlluniau nhw ar gyfer cyhoeddi e-lyfrau yn y Gymraeg. Byddwn yna yn trafod lle mae hyn yn gadael gobeithion rhai am gyhoeddi agored Cymreig ar-lein, ond nid sioe llyfrau yn unig fydd hi peidiwch poeni! Mae’r Nokia Lumia 800 yn ein temtio, ynghyd â’r newyddion gwych am brosiect Radio’r Cymry a’n plyg traddodiadol i Hacio’r Iaith ym mis Ionawr, joiwch! Dolenni Nokia Lumia 800 Pwy sy’n rheoli’r cyfryngau yn y 21ain ganrif? Coelcerth Kindles E-lyfrau 2011, recordiadau 2004 Radio’r Cymry The post Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw) appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad. Special Guest: Garmon Gruffydd.

Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 10: Yr un niwlog

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Jun 30, 2011 53:46


Dyma fo’n boeth i’ch clustiau chi (sôn am boeth, gwrando perffaith i’r gwyliau!) – Haclediad 10, neu Haclediad X i chi ddefnyddwyr Apple. Byddwn yn cael cipolwg ar gemau am y tro cyntaf yn y rhifyn hwn, gyda newyddion am yr Wii U, Duke Nukem Forever ac apps gemau rhad ac am ddim i blant gan S4C. Ym myd ffôns bydd mwy o newyddion am yr Nokia N9, a’r Nokia “Sea Ray” y protoeip Windows Phone 7 ‘cudd’ mae Nokia wedi ei ddangos yn yr wythnosau diwethaf (mae’r fideo wedi diflannu yn anffodus). Byddwn yn trafod yr iCloud (neu’r tamed ohono, yr iNiwl os hoffech chi, sydd allan yno), a chynlluniau sensro’r we, a ddylen ni fod yn ofnus? Diolch eto am wrando ar Bryn (@bryns), Iestyn (@iestynx)  a Sioned (@llef) am 10 hacleciad, welwn ni chi yn yr Eisteddfod! The post Haclediad #10 – Yr un niwlog appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 7: 7: Yr un sy’n Magnifico

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Apr 5, 2011 49:17


Mae’n rhifyn rhyngweithio Cymraeg ar yr Haclediad y mis hwn gyda’r criw, Bryn, Iestyn a Sioned. Byddwn yn trafod pen-blwydd cyntaf Lleol.net, datblygiad ac adborth ar drawsnewidiad gwefan Golwg360 ac erthygl Bryn ar strategaeth (neu ddiffyg strategaeth) ddigidol S4C. ‘Does dim anwybyddu’r tech chwaith serch hynny, felly peidiwch poeni! Mae’r iPad2 wedi cyrraedd, ydi o werth y ciwio? Ac yna mae dyfodiad gwasanaeth cwmwl Amazon hefyd i ni gael busnesa ar tech rhyngwladol yn ystod y rhifyn yma yn ogystal â popeth ychydig agosach i gartre’. Diolch am wrando, a chofiwch adael sylw i ni gael gwybod be da chi’n ei feddwl: da neu ddrwg! Criw’r Haclediad The post Haclediad #7 – Yr un sy’n Magnifico appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 6: Yr un ar ôl yr un byw!

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Mar 2, 2011 55:54


Heia wrandawyr, dyma ni’n cyflwyno Haclediad #6 – Yr un ar ôl yr un byw! Diolch mawr i bawb ddaeth draw i’n gweld a lawrlwytho Haclediad #5 o ddigwyddiad Hacio’r Iaith, ac i’r holl griw technegol oedd yn rhan o’i chyhoeddi, da chi’n bril. Y tro hwn ar Haclediad #6 byddwn yn trafod mwy am ddyfodiad Umap Cymraeg, yr aggregator trydar Cymreig. Byddwn hefyd yn sôn am yr anghydfod rhwng Apple a rhai o’u cyhoeddwyr, dyfodiad yr iPad 2 a phosibiliadau rheolydd y Microsoft Kinect nawr bod teclyn datblygu wedi ei rhyddhau iddo. Fel pob rhifyn arall, bydd digon o fwydro technoleg a’r we o’n cornel ni o’r rhyngrwyd – mwynhewch! The post Haclediad #6 – Yr un ar ôl yr un byw! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.