Clera

Follow Clera
Share on
Copy link to clipboard

Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)

Clera


    • May 30, 2025 LATEST EPISODE
    • monthly NEW EPISODES
    • 1h 13m AVG DURATION
    • 105 EPISODES


    Search for episodes from Clera with a specific topic:

    Latest episodes from Clera

    Clera Mai 2025

    Play Episode Listen Later May 30, 2025 81:55


    Duw gwyddiad mae da gweddai Dechreuad mwyn dyfiad Mai. Fel gwedodd Dafydd ap Gwilym, mae'n braf gweld mis Mai (ond fe'i gwedodd yn well!). Croeso i bennod newydd o Clera, sef podlediad barddol Cymraeg yn trafod agweddau o bob math ar farddoni yng Nghymru. Cawn Orffwysgerdd gan fardd y gadair yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid, Iwan Morgan, sgyrsiau gyda'r artist Marian Haf a Siôn Tomos Owen, y Delicysi gan Dylan, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis, y pwnco a llawer llawer mwy! Diolch hefyd i Tudur Dylan Jones a'i awyren am y llun bendigedig ar glawr y bennod.

    Clera Ebrill 2025

    Play Episode Listen Later Apr 30, 2025 83:03


    Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad Clera. Y mis hwn rydyn ni'n trafod yr hyn sydd ar dân ar wefusau pawb ledled Cymru....teitlau cerddi! Yn ogystal â hynny, cawn Orffwysgerdd hyfryd gan Haf Llewelyn, cerdd o'r flodeugerdd newydd, 'O ffrwyth y Gangen Hon'.. Hefyd rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y fraint o gael cynnwys nid dim ond un Ebenezer, ond dau! Diolch i Dylan Ebz am fynd â holi ei dad, Lyn, ynglŷn a'i gyfrol fendigedig newydd, Cerddi'r Ystrad. Ar ben hyn oll, cawn sgwrsa gyda'r cyn-Fardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, a hefyd y delicyssi gan Dylan, Tudur Dylan, neb llai. Ac ar ddiwedd y bennod, syrpreis bach ar eich cyfer. mwynhewch!

    Clera Mawrth 2025

    Play Episode Listen Later Mar 29, 2025 104:43


    Clera Mawrth 2025 by Clera

    Clera Chwefror 2025

    Play Episode Listen Later Feb 27, 2025 93:15


    Croeso i bennod y mis bach o bodlediad barddol Clera. Y tro hwn cawn gwmni difyr Y Prifardd Rhys Iorwerth a Gruff Davies sy'n trafod y ffilm newydd Bardd Gwlad, yn ogystal â cherdd yn egsliwsif o gyfrol newydd Jo Heyde. Ar ben hynny, cawn hefyd gerdd newydd sbon gan Fardd Tref Caernarfon, Iestyn Tyne. Hyn, a llawer mwy!

    croeso hyn iestyn tyne
    Clera Ionawr 2025

    Play Episode Listen Later Jan 31, 2025 97:03


    Clera Ionawr 2025 by Clera

    Clera Rhagfyr 2024

    Play Episode Listen Later Dec 20, 2024 112:46


    Gyda chyfarchion yr Ŵyl, croeso mawr i chi i bennod mis Rhagfyr, 2024 o Clera. Mae gyda ni wledd o lyfrau a sgyrsiau â'r beirdd a'u saerniodd ar eich cyfer. Cawn gwmni felly, Christine James, Daniel Huws, Meleri Davies a Dafydd John Pritchard, sydd oll newydd gyhoeddi cyfrolau newyd sbon. Ewch ati i'w prynu fel anrhegion Nadolig, neu jyst fel llyfrau gwerth eu cael. Hefyd cawn glywed y Delicysi gan Tudur Dylan ac mae ein beirniad llym, Gruffudd Antur yn ei ôl i ddewis y llinell gynganeddol ddamweiniol y mis orau ar gyfer mis Rhagfyr. Hyn oll, a mwy o'r dwli arferol! Ac os hoffech wneud cyfraniad ariannol i'n helpu ni i ddatblygu'r podlediad, ewch i: https://www.crowdfunder.co.uk/p/podlediad-clera Nadalek llawen i chi gyd!

    ac gyda nadolig hefyd hyn cawn rhagfyr
    Clera Tachwedd 2024

    Play Episode Listen Later Nov 30, 2024 96:17


    Croeso i bennod y mis Du o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn glywed cerdd arobryn Mared Fflur Jones a enillodd Gadair Eisgteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc. Cawn hefyd glywed darlith Gruffudd Antur o Wyl Gerallt yn cofio y Prifardd Feuryn ei hun, y diweddar Gerallt Lloyd Owen, ddeng mlynedd wedi inni ei golli. Hyn a llawer mwy.

    croeso hyn cawn tachwedd
    Clera Hydref 2024

    Play Episode Listen Later Oct 31, 2024 92:41


    Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn y fraint o sgwrsio gyda Phrifardd y Goron, Gwynfor Dafydd, i drafod pob math o bethau am y byd barddol, gan gynnwys ei gerddi gwych a gipiodd Goron yr Hen Bont iddo. Cawn hefyd gerdd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn, Mari George, o'i phamffled newydd hi o gerddi. Cawn hefyd gwmni sawl un arall gan gynnwys, Elinor Wyn Reynolds, Jo Heyde, Tudur Dylan a Gruffudd Antur. Mae gennych hefyd gyfle i gefnogi clera yn ariannol os ydych chi'n mwynhau'r podlediad. Cliciwch ar y linc: https://www.crowdfunder.co.uk/p/podlediad-clera

    goron croeso hydref cawn flwyddyn llyfr
    Clera Medi 2024

    Play Episode Listen Later Sep 28, 2024 115:48


    Croeso i bennod hynod o swmpus o bodlediad Clera. Yn rhifyn mis Medi cawn nid yn unig glywed llais yr Archdderwydd, Mererid Hopwood yn trafod gwaith arobryn Cadair Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, ond cawn hefyd sgwrs hynod ddifyr yng nghwmni enillydd y Gadair honno, Y Prifardd Carwyn Eckley. Cawn hefyd y fraint o roi llwyfan i gerdd Gymraeg gyntaf yr awdur Mike Parker ynghyd a llawer mwy o'r dwli arferol.

    Clera Awst 2024 - Yn Fyw o'r Babell Lên

    Play Episode Listen Later Aug 16, 2024 45:00


    Croeso i bennod arbennig o Clera - yn fyw o'r Babell Lên. Ar sadwrn ola'r brifwyl wych a gynhaliwyd ym Mhontypridd, cawsom gwmni gwesteion ffraeth a difyr, sef Llio Maddocks, Siôn Tomos Owen, Gruffudd Antur a'r Prifardd Gwynfor Dafydd.

    Clera Gorffennaf 2024

    Play Episode Listen Later Jul 31, 2024 104:10


    Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y rhifyn hwn, cawn sgwrs ddifyr gyda Bardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd eleni, Lois Medi Wiliam. Cawn hefyd sgwrs ddifyr am bamffledi gyda dau fardd sy'n cyhoeddi pamffledi newydd, sef Mari George a Jo Heyde. Cawn hefyd flas o gerddi arobryn Cadair Gŵyl Fawr Aberteifi, gan yr enillydd, Lowri Lloyd. Hyn a llawer mwy. Mwynhewch!

    yn cymraeg eisteddfod croeso hyn cawn mwynhewch urdd
    Clera Mehefin 2024

    Play Episode Listen Later Jun 28, 2024 76:14


    Croeso i bennod Mis Mehefin o bodlediad barddol Clera. Y Mis hwn, Elinor Wyn Reynolds sy'n tafoli cyfrolau barddol Llyfr y Flwyddyn ac yn rhoi ei phen ar y bloc. Ond pa gyfrol mae Elinor yn tybio ddylsai ennill o blith y tair cyfrol wych sy'n y categori barddol eleni? Gwrandwch i gael gwybod. Cawn hefyd gerdd gan yr hyfryd Jo Heyde sydd wedi cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o gerddi drwy Gyhoeddiadau'r Stamp. Mynnwch gopi! Hyn oll a mwy!

    stamp ond croeso hyn cawn flwyddyn llyfr mehefin
    Clera Mai 2024

    Play Episode Listen Later May 25, 2024 74:38


    Hawddamor, glwysgor glasgoed! Croeso i bennod Mis Mai o bodlediad Clera. Yn hoff fis Dafydd ap Gwilym cawn drafod llawysgrif newydd y mae'r Llyfrgell genedlaethol newydd ei brynu, Llyfr y Flwyddyn 2024, Eisteddfodau yr Urdd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam ac fe gawn hefyd gerddi gan Aron Pritchard ac Aled Lewis Evans. Hyn oll, a mwy!

    yn dafydd gwilym croeso hyn wrecsam flwyddyn urdd llyfr
    Clera Ebrill 2024

    Play Episode Listen Later Apr 28, 2024 78:39


    Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad barddol Clera. Y mis hwn cawn y pleser o holi Sioned Dafydd, Cyflwynydd Sgorio a Golygydd y flodeugerdd newydd o gerddi am y campau, 'Mae Gêm yn Fwy na Gêm' (Cyhoeddiadau Barddas). Clywn hefyd am arddangosfa o gelf a barddoniaeth sy'n ymateb i waith y bardd mawr o Gwrdistan, Abdulla Goran, yng nhgwmni Alan Deelan, Heledd Fychan AS ac Ifor ap Glyn. Hyn oll a chwmni ffraetha difyr ein Posfeistr, Gruffudd Antur.

    croeso ifor hyn fwy ebrill
    Clera Mawrth 2024

    Play Episode Listen Later Mar 23, 2024 74:36


    Croeso i bennod mis Mawrth o bodlediad Clera. Y tro hwn rydyn ni'n Pwnco am Pencerdd - cynllun cyffrous Pencerdd lle mae 5 bardd yn cael blwyddyn gyda 5 athro barddol i gamu ymlaen yn eu cynganeddu. Cawn felly gwmni Non Lewis ac Ana Chiabrando Rees, ill dwy yn rhan o'r 5 disgybl ar gynllun Pencerdd, yn ogystal â Mared Roberts a Leusa Llywelyn o Lenyddiaeth Cymru. Hyn a llawer mwy, mwynhewch.

    croeso hyn cawn
    Clera Chwefror 2024

    Play Episode Listen Later Feb 28, 2024 71:15


    Croeso i bennod y Mis Bach o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon cawn bwnco yng nghwmni mari George a Jo Heyde wrth i ni drafod cyfrol newydd sbon 'Cerddi'r Arfordir' (Cyhoeddiadau Barddas). Hyn a hefyd barn dreiddgar Gruffudd Antur ar Linell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis, ac mae gyda ni rai da y mis hwn!! Hyn a llawer mwy! Mwynhewch.

    Clera Ionawr 2024

    Play Episode Listen Later Jan 27, 2024 85:25


    Blwyddyn newydd dda i chi gyd! Ym mhennod gynta'r flwyddyn cawn ddwy gerdd arbennig gan y Prif Lenor Sioned Erin Hughes. Byddwn hefyd yn Pwnco am Bwnco! Gwrandewch i wybod mwy a mwynhau pennod arall lawn dop o drin a thrafod barddol.

    ym gwrandewch byddwn
    Clera Rhagfyr 2023

    Play Episode Listen Later Dec 19, 2023 101:02


    Croeso i bennod mis Rhagfyr o Clera. Mae 'na gymysgedd o eitemau Nadolig ac eitemau oesol yn y bennod hon. Cawn y fraint o rannu darlith Gurffudd Antur a Peredur Lynch o Blas Mostyn, fel rhan o ŵyl Gerallt yng Nghaerwys. Delicasi Dolig gan Tudur Dylan Jones, Gorffwysgerdd nadoligaidd o gyfrol newydd Rhys Dafis ac englynion newydd sbon gan y Prifardd-Archdderwydd, Mererid Hopwood. Mwynhewch a Nadolig Llawen i chi gyd.

    croeso nadolig nadolig llawen cawn mwynhewch rhagfyr
    Clera Tachwedd 2023

    Play Episode Listen Later Nov 28, 2023 86:37


    Croeso i bennod y Mis Du o bodlediad Clera. Yn gydymaith i chi wrth i'r nosweithi dywyllu'n gynt bydd arlwy difyr o'r byd barddol Cymraeg. Cawn sgwrs ddifyr a Gorffwysgerdd gan Clare E. Potter a fu'n fardd y mis ar Radio Cymru. Sgwrs ddifyr hefyd gyda'r Prifardd-Feuryn Twm Morys am ei gyfrol newydd a ddaeth allan dros yr haf, 'Y Clerwr Olaf' yn ogystal â sgwrs gyda Twm,y Meuryn, a'r Islwyn newydd yn Ymryson Barddas, Gruffudd Antur. Hyn...a mwy!!

    yn cymraeg twm croeso sgwrs hyn cawn radio cymru tachwedd
    Clera Hydref 2023

    Play Episode Listen Later Oct 27, 2023 75:42


    Croeso i bennod mis Hydref o bodlediad barddol hyna'r byd yn y Gymraeg. Y tro hwn cawn sgwrs hynod ddifyr a theimladwy gyda'r Prifardd Gruffudd Eifion Owen ynglŷn â'i ail gyfrol wych o gerddi, 'Mymryn Rhyddid' (Cyhoeddiadau Barddas). Hefyd cawn gerdd nas cyhoeddwyd o'r blaen o waith y diweddar Archdderwydd, Dafydd Rowlands, a Sioned Dafydd, y cyflwynydd pêl-droed adnabyddus, ac wyres Dafydd Rowlands sy'n ei darllen. Hyn a llawer mwy.

    Clera Medi 2023

    Play Episode Listen Later Sep 29, 2023 103:22


    Croeso i bennod mis Medi o bodlediad barddol Cymraeg hynaf y byd! Yn y bennod hon cawn sgwrs gyda phrifardd y Goron, Rhys Iowerth am ei gerddi arobryn. Hefyd yn trafod gwaith buddugol Alan Llwyd yn y Gadair mae Jo Heyde a'r Prifardd Tudur Dylan Jones. Hefyd cawn wrando ar gerddi a enillodd wobrau mewn eisteddfodau i Gareth Lloyd James ac Alan Iwi. Mwynhewch

    Clera Awst 2023

    Play Episode Listen Later Aug 31, 2023 61:43


    Croeso i bennod mis Awst o Clera, sy'n dechrau ar y gwaith o drin a thrafod a thafoli'r Eisteddfod yng nghwmni'r Prifardd Hywel Griffiths. Byddwn yn gwneud mwy o adladd parthed y steddfod yn y misoedd i ddod. Ond cawn un eitem y tro hwn a recordiwyd ar faes y brifwyl, sef llinell gynganeddol ddamweiniol y maes, gyda Gruffudd Antur.

    Clera Gorffennaf 2023

    Play Episode Listen Later Jul 21, 2023 92:25


    Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon, cawn nid un, nid dwy, nid tair a na, nid pedair ond pum cerdd gan feirdd amrywiol, o Ddisgyblion Ysgol Uwchradd Aberaeron, i Arwel Rocet, Casi Wyn a Llio Maddocks. Sylw teilwng hefyd i Granogwen yn sgil dadorchuddio'r cerflun newydd arbennig ohoni, ac yn hynod gyffrous hefyd, sgwrs gyda Beirdd Plant Cymru, Casi Wyn, y Bardd Plant cyfredol a Nia Morais, y darpar Fardd Plant. Diolch hefyd i Llio Maddocks am rannu ei thelyneg fendigedig i Granogwen ac i Casi Wyn am y fraint o gael chwarae ei chân hudolus hi a disgyblion Ysgol T Llew Jones i Cranogwen. Hyn oll a mwy!

    Clera Mehefin 2023

    Play Episode Listen Later Jun 30, 2023 103:42


    Croeso i'r bennod swmpusaf erioed o bodlediad Clera! Yn ogystal â thrin a thrafod y cyfnod hynod brysur sydd ar ein gwarthaf yn y byd barddol, a llongyfarch aml i fardd ar eu lwyddiannau, cawn orffwysgerdd yn egsliwsif gan fardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd, Tegwen Bruce-Deans. Cawn farn Jo Heyde hefyd ar lyfrau'r categori barddol yn Llyfr y Flwyddyn 2023 a llawer mwy.

    yn eisteddfod croeso cawn flwyddyn urdd llyfr mehefin
    Clera Mai 2023 - Eisteddfod yr Urdd

    Play Episode Listen Later May 31, 2023 40:40


    Pennod arbennig o faes Eisteddfod yr Urdd, Sir Gâr yn Llanymddyfri. Cawn sgyrsiau gyda chyn-enillwyr Cadair yr Urdd, Iwan Rhys a Kayley Sydenham ynghyd â chlywed gan Drefnydd Creadigol yr Eisteddfod, Llio Maddocks. Cawn hefyd gerdd gan Tegwen Bruce-Deans o'i chyfrol gyntaf, 'Gwawrio'.

    Clera Ebrill 2023

    Play Episode Listen Later Apr 28, 2023 83:39


    Croeso i bennod mis Ebrill 2023 o bodlediad barddol Cymraeg hynaf y byd. Y mis hwn cawn Orffwysgerdd arbennig gan y Prifardd Mererid Hopwood, yn ogystal â chlywed cyfraniadau gan Mererid fel Meuryn a beirdd talwrn a gynhaliwyd ym Mhontyberem. Hefyd, cawn drafodaeth ddifyr gyda Gruffudd Antur am hen drawiadau ym myd y gynghanedd yn y Pwnco. Mwynhewch!

    cymraeg croeso hefyd ebrill mwynhewch
    Clera Mawrth 2023

    Play Episode Listen Later Mar 30, 2023 78:11


    Croeso i bennod mis Mawrth. Gydag arwyddion bod y gwanwyn ar ei ffordd, a chyn hir Eisteddfod arall ym mis awst, cawn sgwrs ddifyr gyda dau a ddaeth yn deilwng o Gadair Eisteddfod `tregaron llynedd, sef Aros Pritchard a'r Prifardd Rhys Iorwerth am ragoriaethau a heriau sgwennu awdl. Hefyd, fe gawn flas o gyfrol newydd o gerddi y Prifardd Hywel Griffiths, 'Y Traeth o Dan y Stryd', yn ogystal a'r Delicassy gan (Tudur) Dylan a chwmni ein berniad miniog Gruffudd Antur ar gyfer llinell gynganeddol ddamweiniol y mis. Mwynhewch!

    Clera Chwefror 2023

    Play Episode Listen Later Feb 27, 2023 87:25


    Croeso i bennod y Mis Bach! Y tro hwn, cawn gyfle am fash-yp cyffrous rhwng Podlediad Clera a Haclediad, sef y podlediad hynaf yn y Gymraeg. Diolch i Sioned Mills a Iestyn Lloyd am ymuno â ni i drafod y posibilrwydd o weld AI yn camu i fyd barddoniaeth Gymraeg drwy raglenni fel ChatGPT a Dall-e. Ydy byd y beirdd yn dod i ben? Neu ydy beirdd am gael help llaw gyda'u crefft, fel y mae'r odliadur yn cynnig help llaw? Hefyd, cawn Orffwysgerdd gan fardd arobryn Cadair Eisteddfod Caerdydd eleni, Non Lewis, a chawn hefyd gwmni Tudur Dylan Jones a Gruffudd Antur. Mwynhewch!

    Clera Ionawr 2023

    Play Episode Listen Later Jan 25, 2023 74:17


    Croeso i bennod mis y Cariadon. Ym mhennod mis Ionawr o clera cawn sgwrs gyda g Golygydd blodeugerdd wych newydd o'r enw 'Cariad, (Cyhoeddiadau Barddas), sef Mari Lovgreen. Cawn hefyd Orffwysgerdd gan Iestyn Tyne o'i gyfrol ddigidol newydd, 'Dileu', y Delicassy gan (Tudur) Dylan a Gruffudd Antur sy'n pwnco gyda ni am Eisteddfod fawreddog Caerwys, 1523 a'i harwyddocâd.

    ym eisteddfod croeso cawn iestyn tyne
    Clera Rhagfyr 2022

    Play Episode Listen Later Dec 18, 2022 76:28


    Nadolig llawen i chi gyd! Ym mhennod mis Rhagfyr o Clera bydd Gruffudd a'i Ymennydd llawn Manion yn trafod llinacahu barddol gyda ni yn y Pwnco, a detholiad o rai o hoff gerddi'r beirdd yn yr Orffwysfa, gyda Steffan Phillips, Mari George, Carwyn Eckley, Lowri Lloyd a Llŷr James. Nadolig dedwydd i chi gyd a diolch i bawb sy'n gwrando ar hyd y flwyddyn.

    ym manion nadolig gruffudd rhagfyr
    Clera Tachwedd 2022

    Play Episode Listen Later Nov 30, 2022 94:06


    Dewch mewn o'r gwynt a'r glaw i swatio gyda ni a mwynhau pennod y Mis Du. Yn y rhifyn hwn, byddwn yn Pwnco mewn 2 ran gyda'r Prifardd Llŷr Gwyn Lewis. Cawn hefyd Orffwysgerdd gan Elen Ifan o'i phamffled gyntaf o farddoniaeth, 'Ystlum'. Ac mae'r Delicassy gan Dylan hefyd yn ei ôl, gyda'r Prifardd Tudur Dylan Jones yn canfod perl fach arall i'n diddanu. Hyn a mwy! Mwynhewch

    ac yn hyn cawn mwynhewch tachwedd
    Clera Hydref 2022

    Play Episode Listen Later Oct 31, 2022 59:55


    Croeso i bennod mis Hydref 2022 o Clera. y tro hwn cawn sgwrs llawn o ddifyrrwch a dwyster gyda Phrifardd Coron Eisteddfod genedlaethol Tregaron, Esyllt Maelor. Hefyd, cawn flas o gyfrol gyntaf Elinor Wyn Reynolds, 'Anwyddoldeb', gyda'r gerdd wych 'Cysur'.

    Clera Medi 2022

    Play Episode Listen Later Sep 29, 2022 84:00


    Ym mhennod mis Medi o bodlediad Clera cawn yr olwg gyntaf ar Gyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yng Nghwmni Osian Wyn Owen. Byddwn yn trafod a thafoli mwy ar gynnyrch llên y Brifwyl yn y misoedd i ddod hefyd. Cawn hefyd drafod cyfrol gyntaf o gerddi Osian yn y rhifyn hwn yn ogystal â hel atgofion am gyfnod Tudur Dylan Jones fel Meuryn yr ymryson, wedi iddo gyhoeddi ei ymddeoliad o'r swydd. Cawn hefyd glywed rhai o gerddi buddugol y Brifwyl, o gywydd Geraint Roberts i'r Soned a enillodd Gadair Adran y Siaradwyr Newydd i Wendy Evans.

    medi ym cawn byddwn
    Clera'n Fyw o Steddfod Tregaron 2022

    Play Episode Listen Later Aug 7, 2022 69:51


    Clera'n fyw o Lwyfan y Llannerch yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 yn Nhregaron. Diolch i'r gwesteion gwych, Buddug Roberts, Jo Heyde a Llio Maddocks am eu cyfraniadau difyr a doeth i bennod a recordiwyd ar sadwrn ola'r Eisteddfod yng nghwmni Gruffudd Antur ac Aneurig.

    Clera Gorffennaf 2022

    Play Episode Listen Later Jul 29, 2022 66:32


    Croeso i rifyn rhagflas y Brifwyl! Gyda chyfraniadau difyr a doeth gan Jo Heyde (trafod llyfrau barddol llyfr y flwyddyn), Anwen Pierce (Cywydd Croeso yr Eisteddfod), Gruffudd Eifion Owen a Iestyn Tyne yn ymateb i sylwadau gan Eifion Wyn a llawer mwy.

    Clera Mehefin 2022

    Play Episode Listen Later Jun 29, 2022 94:22


    Croeso i bennod mis Mehefin o Clera! Cawn sgwrs gyda Phrifardd yr Urdd, Ciaran Eynon am ei gerdd arobryn ar y testun 'Diolch' yn ogystal â sgwrs gyda'n Posfeistr, Gruffudd Antur am y gyfrol fawreddog newydd, 'A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes gan Daniel Huws. Hefyd, mae llinell gynganeddol ddamweiniol y mis yn ei hôl! Hyn oll yn ogystal â Delicassy gan Dylan a Diweddgan gan Jo Heyde, sef ei cherdd fuddugol yng Nghadair Eisteddfod Llandudoch.

    scribes croeso hefyd hyn cawn urdd mehefin
    Clera Mai 2022 - Huw Morys, 'Eos Ceiriog'

    Play Episode Listen Later May 25, 2022 80:01


    Croeso i rifyn mis Mai o Clera. Rhifyn arbennig yw hwn sy'n trafod a dathlu bywyd a gwaith y Bardd o Ddyffryn Ceiriog, Huw Morys. Mwynhewch

    croeso mwynhewch
    Clera Ebrill 2022

    Play Episode Listen Later Apr 28, 2022 83:04


    Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad barddol Clera. Cawn gip-wrandawiad ar lansiad cyfrol newydd Menna Elfyn wrth i Elinor WYn Reynolds holi;r bardd yng Nghaerfyrddin. Ifor ap Glyn sy'n trafod ei brosiect olaf fel Bardd Cenedlaethol Cymru, 'Sudoku Iaith' ac Emyr 'Y Graig' Davies sy'n cynnig Gorffwysgerdd i ddiolch am Sgwîdji! Hyn, a llawer iawn mwy, heb anghofio cerdd yn Almaeneg gan Dani Schlick.

    davies croeso ifor sgw hyn cawn ebrill
    Clera Mawrth 2022

    Play Episode Listen Later Mar 30, 2022 71:15


    Mae'r gwanwyn wedi dod â phennod newydd o Clera yn ei sgil. Cyfrniadau gwych a difyr gan Kate Wheeler yn ein heitem newydd sef, 'Gwrando Awen ein Gwradawyr', dwy orffwysgerdd deimladwy gan y Prifardd Dafydd John Pritchard, Delicassy gan (Tudur) Dylan, y Pos a llawer mwy gan Gruffudd Antur ac Aneurig.

    Clera Chwefror 2022

    Play Episode Listen Later Feb 28, 2022 81:07


    Mae eisiau beirdd ar y mis bach! (Mererid Hopwood a'i cant). Croeso i bennod mis Chwefror o Clera lle cawn gwmni Gwilym Bowen Rhys, Twm Morys a Gwyneth Glyn gyda chyfraniadau hefyd gan Sian Northey (Cerdd o'r gyfrol a olygwyd ganddi a Ness Owen, A470), Tudur Dylan a'n Posfeistr hollwybodus Gruffudd Antur. Mwynhewch!

    croeso mwynhewch gwyneth glyn
    Clera Ionawr 2022

    Play Episode Listen Later Jan 31, 2022 68:43


    Blwyddyn newydd ddaa chroeso i bennod gyntaf Clera yn 2022! Y mis hwn, yng nhgwmni Aneurig a Gruffudd Antur cawn Orffwysgerdd gan Jo Heyde, cyfraniadau am eu troion cyntaf yn cystadlu ar y Talwrn fel aelodau o dimau newydd (nid o reidrwyd yr ymddangosiadau cyntaf ar y Talwrn) gan Megan Elenid Lewis, Matthew Tucker a Manon Wyn Davies. Y Delicassy gan Dylan, Llinell Gynganeddol Dddamweiniol y Mis a llawer mwy!

    Clera Rhagfyr 2021

    Play Episode Listen Later Dec 20, 2021 73:47


    Nadolig llawen i chi gyd gan griw Clera. Mwynhewch y bennod ola o'r flwyddyn hon, sy'n cynnwys sgyrsiau difyr gyda Bardd Plant Cymru 2021-23, Casi Wyn a'r Prifardd Rhys Iorwerth am ei gyfrol newydd, Cawod Lwch. Hefyd, cerddi hyfryd gan Ana Chiabrando Rees a Geraldine Macburney Jones o Batagonia.

    nadolig hefyd mwynhewch rhagfyr
    Clera Tachwedd 2021

    Play Episode Listen Later Nov 29, 2021 94:45


    Croeso i bennod y Mis Du o Clera. Y tro hwn cawn longyfarch Carwyn Eckley ar ei gamp yn ennill Cadair yr Urdd Dinbych 2020, gan hefyd lognyfarch Ianto Jones ac An Chabrando Rees ar gipio Cadair y ffermwyr Ifanc a Chadair Eisteddvod Trevelin. Cawn hefyd gyfraniad gwych iawn gan Gruffudd Eifion Owen am y vers libre cyngaenddol a chwmni ein Posfeistr hoff, Gruffudd Antur. Heb sôn am ddiweddgan gan Llion Jones i Gareth Bale.

    heb gareth bale croeso cawn ianto jones tachwedd
    Clera Hydref 2021 - Pennod y Pum Mlwyddiant!

    Play Episode Listen Later Oct 29, 2021 79:39


    Croeso i bennod sy'n dathlu pum mlwyddiant Clera! Diolch o galon i'n holl wrandawyr selog am barhau i'n cefnogi dros y pum mlynedd. Yn y bennod hon mae gyda ni sgwrs gyda'n noddwr, Llŷr Hael. Blas o Ymryson Gwyl Gerallt a thrafodaeth Cymdeithas Ceredigion ar y cyfansoddiadau AmGen, cerdd arbennig gan y Prifardd Osian Rhys Jones a llawer mwy, Diolch i Alaw Griffiths am y llun ar glawr y bennod.

    Clera Medi 2021

    Play Episode Listen Later Sep 30, 2021 100:50


    Croeso i'r bennod hiraf yn ein hanes! Ond gyda chymaint i'w gynnwys, dyna'r unig ffordd i wneud teilyngdod â chyfraniadau Anwen pierce, Alaw Mai Edwards, Hywel Griffiths, Sara Louise Wheeler, Gruffudd Antur ac Osian Bonc! Cawn felly adolygiad o Gyfansoddiadau Amgen 2021, Sgwrs ddifyr gyda Sara ac Osian am lwyfaniad arbennig sydd ar y gweill o waith barddol a llawer llawer mwy! Mwynhewch.

    Clera Awst 2021 - Cadwyn o Orffwysgerddi

    Play Episode Listen Later Aug 21, 2021 75:24


    Pennod wahanol o Clera sy'n cynnwys blwyddyn gron o Orffwysgerddi o'r pum mlynedd diwethaf, ers inni sefydlu Clera ym mis Hydref 2016. Mwynhewch!

    awst pennod hydref mwynhewch
    Clera Gorffennaf 2021

    Play Episode Listen Later Jul 20, 2021 95:23


    Ym mhennod Mis Gorffennaf mae gennym deyrnged i'r diweddar David R. Edwards, neu Dave Datblygu. Hefyd cawn gerdd deyrnged iddo gan Ifor ap Glyn a chyfraniadau arbennig gan Lleucu Siencyn a Nerys Williams. Cawn sgwrs yn ogystal gyda Nia Morais a chwmni ein Posfeistr Gruffudd Antur. Hyn a llawer mwy.

    Clera Mehefin 2021

    Play Episode Listen Later Jun 23, 2021 90:32


    Recordiwyd y bennod hon ar Alban Hefin, cyn inni glywed am golli David R Edwards. Bydd teyrnged i Dave Datblygu, felly, ym mhennod mis Gorffennaf. Yn y cyfamser, mae pennod orlawn yn eich disgwyl a'r haf yn ei anterth.

    yn bydd mehefin recordiwyd
    Clera Mai 2021

    Play Episode Listen Later May 28, 2021 88:52


    Croeso i Glera mis Mai! Cawn orffwysgerdd ddwbwl gan y tad a'r mab, John Gwilym Jones a Tudur Dylan Jones, pos ac eitem swmpus gan Gruffudd a'i Lawysgriffau a chyfle i glywed llais newydd, sef Anne Phillips. Hyn a chymaint mwy! Mwynhewch

    croeso glera anne phillips hyn cawn gruffudd mwynhewch
    Clera Ebrill 2021

    Play Episode Listen Later Apr 29, 2021 90:48


    Croeso i bennod mis Ebrill o bodlediad Clera. Y mis hyn cawn gwmni'r Prifeirdd Gwenallt Llwyd Ifan ac Ifor ap Glyn ac fe gawn sgwrs gyda Phrifweithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses. Hyn a chymaint mwy, mwynhewch!

    croeso ifor hyn ebrill
    Clera Mawrth 2021

    Play Episode Listen Later Mar 27, 2021 87:07


    Croeso i bennod mis Mawrth o bodlediad mwyaf barddol y byd. Yn ogystal â chlywed am dwf garlleg Eurig cawn sgwrs gyda’r Arthro-Brifardd Tudur Hallam am ddehongliad R.M. ‘Bobi’ Jones o’r gynghanedd. Cawn orffwysgerdd o gywydd hyfryd gan Les Barker a bydd y Posfeistr, Gruffudd Antur, nid yn unig yn cynnig atebion i’r poas diwethaf ac yn gosod pos newydd ond mi fydd e hefyd yn cynnig eitem newydd inni sef ‘Gruffudd a’i Lawysgriffau’. Hyn a mwy! Mwynhewch.

    yn croeso hyn cawn gruffudd mwynhewch

    Claim Clera

    In order to claim this podcast we'll send an email to with a verification link. Simply click the link and you will be able to edit tags, request a refresh, and other features to take control of your podcast page!

    Claim Cancel