POPULARITY
Flight and aerial warfare have inspired new artistic perspectives throughout the 20th and 21st centuries. Taking as a starting point, the IWM collection artworks selected by Heather Phillipson for display alongside Out of This World, Rebecca Newell considers how artists have grappled with seen and unseen threats from the sky – and with aircraft, parachutes, balloons, clouds and light – to forge new forms of representation. Rebecca Newell has been IWM's Head of Art since 2017, working on all aspects related to the care, display and interpretation of the museum's preeminent art collection. She was lead curator for the Blavatnik Art, Film and Photography Galleries which opened at IWM London in November 2023, and also leads the IWM 14-18 NOW Legacy Fund art commissioning programme. With a background in art history and museology, she is part of the research-active staff community at IWM, engaging in research, publishing and exhibition projects to deepen understanding of war and its impact. Her current areas of research also include gender violence in conflict and marginalisation in the art collection. This event was part of a programme of activities to celebrate Heather Phillipson's Out of this World exhibition. Mae hedfan a rhyfel yn yr awyr wedi ysbrydoli safbwyntiau artistig newydd drwy'r 20fed a'r 21ain ganrif. Gan ddechrau gyda gwaith celf casgliad yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol (IWM) a ddewiswyd gan Heather Phillipson i'w arddangos ochr yn ochr ag Out of this World, bydd Rebecca Newell yn ystyried sut y mae artistiaid wedi mynd i'r afael â bygythiadau gweladwy ac anweladwy o'r awyr – a cherbydau awyr, parasiwtiau, balŵns, cymylau a goleuni – i lunio mathau newydd o gynrychiolaeth. Mae Rebecca Newell wedi bod yn Bennaeth Celf yr IWM ers 2017, gan weithio ar bob agwedd sy'n ymwneud â gofalu am gasgliad celf rhagorol yr amgueddfa, yn ogystal â'u harddangos a'u dehongli. Bu'n guradur arweiniol ar gyfer Orielau Celf, Ffilm a Ffotograffiaeth Blavatnik a agorwyd yn IWM Llundain ym mis Tachwedd 2023 ac mae hi hefyd yn arwain rhaglen gomisiynu celf y Gronfa Waddol IWM 14-18 NOW. Gyda chefndir ym myd hanes celf ac astudiaethau amgueddfaol, mae hi'n rhan o'r gymuned staff sy'n weithredol o ran ymchwil yn IWM, gan gymryd rhan mewn ymchwil, cyhoeddi a phrosiectau arddangosfeydd er mwyn gwella dealltwriaeth o ryfel a'i effaith. Mae ei meysydd ymchwil presennol hefyd yn cynnwys trais ar sail rhywedd yn ystod gwrthdaro a gwthio pobl i'r ymylon yn y casgliad celf. Mae'r digwyddiad yn rhan o raglen o weithgareddau i ddathlu arddangosfa Out of this World Heather Phillipson.
Georgia Ruth, y gantores a'r gyflwynwraig yw gwestai Beti George. Mae wedi rhyddhau 4 albwm, ac yn ystod y cyfnod clo, mi ddechreuodd sgwennu ychydig bob dydd. Mi ddaru hunan gyhoeddi ei nofel gyntaf “Tell Me Who I am”. Cafodd gynnig wedyn i sgwennu yn Gymraeg – Casglu Llwch, sef casgliad o fyfyrdodau ganddi.Roedd llynedd yn dipyn o flwyddyn rhwng popeth! Roedd ganddi albwm allan mis Mehefin. Roedd hi'n cyhoeddi llyfr Saesneg yr un cyfnod ac yn cyhoeddi llyfr Cymraeg mis Tachwedd. A dros yr haf – ar lwyfan Sesiwn Fawr yn Nolgellau - fe aeth Iwan ei gwr yn sâl, roedd bron a gorffen ei set (efo Cowbois) pan gafodd strôc ar y llwyfan. Mae Georgia yn trafod y cyfnod yma, a sut y gwnaeth hi ac Iwan ymdopi.Mae hi'n fam i 3 bellach, recordiwyd y sgwrs cyn genedigaeth Alma Gwen.
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Tachwedd yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Croeso i bennod y mis Du o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn glywed cerdd arobryn Mared Fflur Jones a enillodd Gadair Eisgteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc. Cawn hefyd glywed darlith Gruffudd Antur o Wyl Gerallt yn cofio y Prifardd Feuryn ei hun, y diweddar Gerallt Lloyd Owen, ddeng mlynedd wedi inni ei golli. Hyn a llawer mwy.
Wrth i gemau Cymru yn erbyn Twrci a Gwlad yr Iâ agosau, cyfle i wrando ar sgwrs Sioned Dafydd gyda Sorba Thomas (Cymru a Nantes). Yn fyw ar Sgorio yr wythnos yma: * Rhydaman v Hwlffordd, Cwpan Cymru, Dydd Sadwrn 16 Tachwedd am 14:00 ar S4C ac ar-lein * Twrci v Cymru, Cynghrair y Cenhedloedd, Dydd Sadwrn 16 Tachwedd am 16:30 ar S4C ac ar-lein * Cymru v Gwlad yr Iâ, Cynghrair y Cenhedloedd, Nos Fawrth 19 Tachwedd am 19:20 ar S4C ac ar-lein As Wales' matches against Turkey and Iceland approach, an opportunity to listen to Sioned Dafydd's conversation with Sorba Thomas (Wales and Nantes). Join us live on Sgorio this week: * Ammanford v Haverfordwest, Welsh Cup, Saturday 16 Nov at 14:00 on S4C and online * Turkey v Wales, Nations League, Saturday 16 Nov at 16:30 on S4C and online * Wales v Iceland, Nations League, Tuesday 19 Nov at 19:20 on S4C and online
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Hydref yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Gall artistiaid proffesiynol ac amatur gyflwyno cynigion ar y thema annibyniaeth i Gymru erbyn 16 Medi - Diwrnod Owain Glyndŵr. Bydd y ceisiadau a dderbynnir yn gweld eu gwaith yn cael ei arddangos yn Oriel Stryd y Frenhines Castell-nedd ym mis Tachwedd. Bydd yr artistiaid gorau yn ennill arddangosfa mis o hyd yn Oriel Studio 40 yng Nghastell-nedd. Y beirniaid yw: Iwan Bala, Bethan Ash, a Claire Hiett. Website: https://art-of-independence.wales/ Facebook: / artoannibyniaeth Cyfres 6, Rhaglen 8 - Yn Gymraeg/In Welsh.
Gyda S4C yn sacio un pennaeth ac Open AI yn sacio/ddim sacio un nhw, dyma bodlediad i chi sy wastad dan yr un arweinyddiaeth gadarn... ond sydd hefyd ddigon twp i wylio ffilms ofnadwy bob mis
1 Byd y Bandiau Pres:Ar raglen Byd y Bandiau Pres nos Sul y 12fed o Dachwedd, John Glyn Jones, oedd gwestai Owain Gruffudd Roberts. Mi roedd John Glyn yn arfer arwain Seindorf Arian yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog ond yn y clip nesa ma, cofio Band Pres Ieuenctid Gwynedd a Môn mae'r ddau, pan oedd Owain yn aelod o'r band a John yn arwain:Arwain Seindorf Arian To conduct the Silver Band Band Pres Brass band Ieuenctid Youth Dyddiau aur Golden era Tu hwnt o lwyddiannus Extremely successful Uchafbwynt Highlight Safon Quality Pencampwriaeth Championship Ac felly bu And so it was Disgyblion Pupils2 Beti a'i Phobol:John Glyn Jones ac Owain Gruffudd Roberts oedd y rheina'n cofio eu hamser efo'r band pres.Tomos Parry, cogydd a pherchennog tri bwyty yn Llundain oedd gwestai Beti George yn ddiweddar. Mae Tomos yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae o'n brysur yn rhedeg bwytai Brat, Mountain a Brat Outdoors. Mi enillodd o seren Michelin yn Brat, ei fwyty cyntaf. Yma, mae'n sôn am bobl enwog sydd wedi bod yn ei fwytai:Cynhwysion Ingredients Yn weddol gyson Fairly regularly Aballu And so on Cefnogol Supportive Ysbrydoli To inspire Cerddoriaeth Music3 Rhaglen Ifan gyda Hana Medi yn cyflwyno:Tomos Parry y cogydd oedd hwnna, ac mae'n amlwg bod pobl enwog ar draws y byd yn mwynhau dod i'w fwytai.Gwestai ar raglen Hana Medi oedd Esyllt Ellis Griffiths Llysgenhades Sioe Frenhinol 2024. Mi fuodd hi'n sôn am gale ndr sy newydd ei gyhoeddi i godi arian at apêl y Sioe Frenhinol yn 2024 – Sioe'r Cardis fel mae'n cael ei galw! Ond ddim calendr arferol ydy hon, o na ond un noeth!…Llysgenhades Ambassador Noeth Naked Pwyllgorau Committees Trefniadau Arrangements Pen tost Cur pen Balch Pleased Ar y cyfan On the whole Ffili Methu Elusennau Charities Cwympo mas Falling out Cneifio Shearing4 Rhalgen Ffion Dafis:Wel dyna i chi gesys ynde? Dw i'n siŵr bydd y calendr yn gwerthu'n arbennig o dda!Ar Sul y 19eg o Dachwedd, Hywel Gwynfryn oedd gwestai Ffion Dafis. Mae Hywel newydd gyhoeddi cofiant yr actores Siân Phillips, ac mae o ar gael yn y siopau rŵan ar gyfer y Nadolig. Yma mae Hywel yn sgwrsio am y broses o sgwennu‘r cofiant:Cofiant Biography Rŵan ac yn y man Now and then Yn awyddus Eager Hunangofiant Autobiography Deugain mlynedd 40 years Rhwyd Net Daeth e i fwcwl Came to fruition Gogwydd An angle I raddau To an extent Ffynhonnell Source Ysgrifau Articles 5 Dros Ginio:Ia, dyna fasai anrheg Nadolig gwerth chweil i rywun ynde - cofiant Sian Phillips gan Hywel Gwynfryn.Ers dechrau'r rhyfel yn Gaza, mae'r bardd Iestyn Tyne wedi bod yn cydweithio gyda beirdd o Balesteina i gyfieithu eu gwaith a rhoi llwyfan Gymraeg i'w lleisiau a'u profiadau. Mi fuodd o'n trafod y gwaith efo Rhodri Llywelyn ar Dros Ginio bnawn Llun wythnos diwetha:Beirdd Poets Llwyfan A stage Barddoniaeth Poetry Estyn allan To reach out Mewn difri Seriously Ymwybyddiaeth Awareness Gweithred fach A small deed6 Aled Hughes:Prosiect diddorol iawn gan Iestyn Tyne yn cyfieithu gwaith beirdd Palesteina i'r Gymraeg.Ddydd Mawrth yr 21ain o Dachwedd, Lisa Fearn y gogyddes yn oedd yn cadw cwmni i Aled Hughes. Sôn am daffi triog oedd hi ac am y traddodiad o fwyta'r taffi yr amser yma o'r flwyddyn:Taffi triog Treacle toffee Cyflaith Toffee Yn rheolaidd Regularly Traddodiad Tradition Gwirionedd Truth Canrif Century Ar ddihun Awake
Croeso i bennod y Mis Du o bodlediad Clera. Yn gydymaith i chi wrth i'r nosweithi dywyllu'n gynt bydd arlwy difyr o'r byd barddol Cymraeg. Cawn sgwrs ddifyr a Gorffwysgerdd gan Clare E. Potter a fu'n fardd y mis ar Radio Cymru. Sgwrs ddifyr hefyd gyda'r Prifardd-Feuryn Twm Morys am ei gyfrol newydd a ddaeth allan dros yr haf, 'Y Clerwr Olaf' yn ogystal â sgwrs gyda Twm,y Meuryn, a'r Islwyn newydd yn Ymryson Barddas, Gruffudd Antur. Hyn...a mwy!!
Clip 1 Trystan ac Emma: Buodd Steffan Long o Gaerdydd yn sgwrsio ar raglen Trystan ac Emma yn ddiweddar, ac yn sôn am ei waith fel cynorthwyydd dysgu Saesneg mewn Ysgol yn Tokyo, a dyma i chi flas ar y sgwrs: Cynorthwyydd Assistant Ma's Allan Hir dymor Long term Parhau Continue Disgyblion Pupils Mymryn A little Clip 2 Rhaglen Cofio: Steffan Long oedd hwnna'n sôn am ei waith mewn ysgol yn Tokyo. Wythnos diwetha roedd hi'n Sul y Cofio a dyna beth oedd thema rhaglen Cofio gyda John Hardy. A dyma i chi glip o Harold Williams yn sôn am ddod i Lanrwst fel ifaciwî o Lerpwl yn ystod yr Ail Ryfel Byd: Ail Ryfel Byd Second World War Trais Violence Pledu cerrig Throwing stones Cyfnod Period Yn achlysurol Occasionally Mynd yn eu holau Returning Lleia'n byd o sôn oedd The less it was mentioned Buan iawn Very soon Clip 3 Bwrw Golwg: Hanes rai o ifaciwîs Llanrwst yn fanna ar raglen Cofio. Ar Bwrw Golwg ar y 12fed o Dachwedd, mi roddwyd sylw i Diwali neu Ŵyl y Goleuni, sy'n cael ei dathlu gan Hindŵiaid a Sikhiaid. Yn y clip nesa ‘ma mae Mohini Gupta, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn sôn am draddodiadau'r Ŵyl hon efo Gwenfair Griffith: Goleuni Light Traddodiadau Traditions Addurno To decorate Gweddïau Prayers Buddugoliaeth Victory Tywyllwch Darkness Gwahodd ffyniant Inviting prosperity Pryder amgylcheddol Environmental concern Ymdrechion i annog Efforts to encourage Melysion Confectionary Byrbrydau Snacks Clip 4 Rhaglen Aled Hughes: Mae'n swnio fel bod dathliadau Diwali yn llawn o fwyd blasus yn tydy? DJ Katie Owen oedd gwestai Aled Hughes yn ddiweddar. Mae Katie wedi dilyn Cymdeithas Bêl-Droed Cymru ar draws y byd yn chwarae cerddoriaeth i'r cefnogwyr, ac mae hi wedi dysgu Cymraeg. Buodd Katie ar y rhaglen Iaith ar Daith efo'i mentor Huw Stephens yn 2021. Mi gafodd Aled â Katie sgwrs yng Nghanolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn, ac yn y clip hwn mae hi'n sôn am gymaint mae hi'n caru dysgu Cymraeg: Cymdeithas Bêl-Droed Cymru Football Association of Wales Cefnogwyr Fans Mo'yn Eisiau Cerddoriaeth Music Ar goll Lost Mi ddylet ti fod You should be Clip 5 Rhaglen Caryl: Dal Ati Katie, mi fyddi di'n rhugl cyn bo hir, dw i'n siŵr. Lowri Cêt oedd yn cadw cwmni i Caryl ddechrau'r wythnos diwetha. Mae Lowri yn chwarae rhan Sindarela ym mhantomeim blynyddol Theatr Fach Llangefni. Yma mae'n dweud mwy am y sioe: Stori draddodiadol Traditional story Llysfam gas Wicked stepmother Annifyr Unpleasant Yn gyfarwydd â Familiar with Hyll Ugly Gwisgoedd Costumes Cymeriadau Characters Yn brin iawn Very rarely Hawlfraint Copyright Clip 6 Bore Cothi: Wel am hwyl ynde? A phob lwc i griw Theatr Fach Llangefni efo'r pantomeim. Bob nos Fawrth mae'r rhaglen Gwesty Aduniad i'w gweld ar S4C. Mae'r rhaglen yn trefnu aduniad i bobl sydd wedi colli cysylltiad â'i gilydd ond hefyd yn trenu i bobl gyfarfod â'i gilydd am y tro cynta mewn amgylchiadau arbennig. Mae'n gyfres boblogaidd ac emosiynol iawn. Nos Fawrth y 14eg o Dachwedd roedd Guto Williams o Dregarth ar y rhaglen. Mae Guto wedi cael ei fabwysiadu ac yn awyddus i ddod o hyd i'w deulu coll: Aduniad Reunion Mabwysiadu To adopt Adlewyrchiad Reflection Magwraeth Upbringing Rhieni maeth Foster parents Tebygolrwydd Similarity Cam mawr A big step Greddf Instinct Parch Respect Ffawd Lwc Clamp o stori A huge story
Clip 1: Bore Cothi Bore Llun y 6ed o Dachwedd, Mici Plwm oedd yn cadw cwmni i Shân Cothi. Gan ei bod hi'n dymor piclo a gwneud siytni, dyma gael sgwrs efo'r prif biclwr ei hunan. Yma mae Mici yn sôn am nionod brynodd o yn Roscoff, Llydaw, a sut mae o am eu piclo mewn cwrw: Nionod Winwns Llydaw Britanny Ar gyrion Ger Bragdai Breweries Arbrofi To experiment Eirin Plums Eirin tagu Sloes Hel Casglu Y werin The common people Byddigion Posh people Clip 2 – Rhaglen John ac Alun. Www, nionyn wedi ei biclo mewn cwrw, swnio'n ddiddorol yn tydy? Roedd ‘na barti mawr ar Raglen John ac Alun ar y 5ed o Dachwedd– parti penblwydd y rhaglen yn 25 oed! Ac mi ymunodd Dilwyn Morgan yn yr hwyl hefyd, a buodd hi'n gyfle i hel atgofion. Yma, mi gawn ni glywed clip o'r archif sef rhaglen gyntaf John ac Alun cafodd ei darlledu yn ôl yn Ebrill 1998: Hel atgofion Reminisce Darlledu To broadcast Dipyn o gamp Quite an achievement Para To last Cyflwyno Presenting Cynulleidfa Audience Wch chi be? You know what? Cefndir Background Clip 3: Dros Ginio John ac Alun yma o hyd, ac yn boblogaidd iawn gyda gwrandawyr Radio Cymru. Yn ddiweddar mae llawer mwy o bobl ifanc yn delio efo eco-bryder, sy'n cael ei achosi drwy boeni am effeithiau newid hinsawdd. Mae Fflur Pierce o Ddyffryn Nantlle yn un o'r rheini, a buodd hi'n sôn wrth Cennydd Davies wythnos diwetha am y profiad o fyw efo'r cyflwr hwn: Eco-bryder Eco anxiety Newid hinsawdd Climate change Cyflwr Condition Yn fengach Yn ifancach Baich A burden Teimlo'n euog Feeling guilty Rhwystredig Frustrating Gwyddonwyr Scientists Sbio Edrych Amgylchedd Environment Clip 4: Newid Hinsawdd a Fi Does na ddim llawer o fanteision i newid hinsawdd nac oes, ond mi glywon ni am un fantais ar y rhaglen Newid Hinsawdd a Fi bnawn Sul y 5ed o Dachwedd. Aeth Leisa Gwenllian draw i Winllan y Dyffryn ger Dinbych. Mae newid hinsawdd yn golygu ei bod yn bosib cynhyrchu gwin yn Nyffryn Clwyd hyd yn oed. Yma mae Leisa yn sgwrsio efo perchennog y winllan, Gwen Davies sydd wedi dysgu Cymraeg: Cynhyrchu To produce Perchennog Owner Gwinllannoedd Vineyards Cynnydd sylweddol A substantial increase Yn yr un gwynt In the same breath Gwinwydd Vine Arallgyfeirio Diversify Datblygu To develop Aeddfedu To mature Cysgodi To shelter Clip 5: Rhaglen Ifan Ia, mae na sawl gwinllan wedi agor yng Nghymru dros y blynyddoedd diwetha yn does? Er dw i ddim yn cofio clywed am un mor ogleddol a Gwinllan y Dyffryn chwaith. Pob lwc a iechyd da i holl gynhwychwyr gwin Cymreig! Yn ddiweddar ar raglen Ifan, tra bod Hana Medi yn cadw ei sedd yn gynnes, sgwrsiodd Hana gyda Cefin Evans o glwb Dyfed Dirt Bikes. Mae Cefin wedi teithio yr holl ffordd o Gymru i'r Ariannin i wylio cystadleuaeth arbennig iawn, un o brif gystadlaethau Enduro'r Byd, a hynny gan fod ei fab Rhys yn cystadlu yno ar ran y clwb: Ariannin Argentina Eang Wide Mas Allan Bola Bol Paratoi To prepare Tlodi Poverty Gwerthfawrogi To appreciate Clip 7 – Beti a'i Phobol Wel dyna brofiad gwych i glwb Dyfed Dirt Bikes ynde? Dw i'n siŵr eu bod wedi mwynhau pob eiliad o'r daith arbennig i'r Ariannin. Bronwen Lewis, y gantores, oedd gwestai Beti George nos Sul ddiwetha. Cafodd Bronwen ei magu ym Mlaendulais a daeth yn amlwg ar y gwefannau cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo, wrth iddi hi ganu o'i chartref a rhannu'r perfformiad ar Facebook. Mi fuodd Branwen yn cystadlu ar raglen deledu The Voice yn y gorffennol ac mae'n cyflwyno rhaglen ar Radio Wales ar foreau Sul ar hyn o bryd: Amlwg Prominent Gwefannau cymdeithasol Social media Yr aelwyd The home Tad-cu Taid Ffili Methu Arweinydd Conductor Mas Allan
Clip 1 Rhaglen Trystan ac Emma: Ddydd Gwener Hydref 27, pan oedd hi bron yn Galan Gaeaf, ysbrydion oedd yn cael sylw ar raglen Trystan ac Emma. Mae Islwyn Owen yn Ysbrydegydd neu Spiritualist Medium, ac mae'n dweud bod ganddo'r gallu i gysylltu a derbyn negeseuon gan ysbrydion. Yn y clip nesa ‘ma mae o'n sôn am ysbrydion yn cysylltu efo fo drwy freuddwydion: Calan Gaeaf Halloween Ysbrydion Spirits Ysbrydegydd Spiritualist Medium Breuddwydion Dreams Cryn dipyn Quite a bit Arferol Usual Chwalu fy mhen Blew my mind Manwl Detailed Clip 6: Rhaglen Dros Ginio: Rhaglen arall fuodd yn trafod ysbrydion ond ar ddiwrnod Calan Gaeaf y tro hwn, oedd Dros Ginio. Dyma i chi Rheinallt Rees, cynhyrchydd y podlediad 'Ofn', yn sôn wrth Jennifer Jones am ei brofiadau ysbrydol ei hun, a pham bod na fwy o ddiddordeb gan bobl yn y byd paranormal y dyddiau hyn ... Cynhyrchydd Producer Cyffwrdd To touch Unigryw Unique Canolbwyntio To concentrate Synau Sounds Awel Breeze Gwyddonol Scientific Ymennydd Brain Llwydni Mould Esboniadwy Explainable Yn ein plith ni Amongst us Clip 4 Rhaglen Aled Hughes: O mam bach, roedd yr holl sôn am ysbrydion yn ein paratoi ni'n dda at ddiwrnod Calan Gaeaf yn doedd? Ac ar y diwrnod hwnnw mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo'r Dr Adam Coward sydd yn arbenigo mewn marciau gwrachod mewn tai. Mae Adam yn dod o Missouri yn wreiddiol, wedi dysgu Cymraeg, ac yn byw yn ardal Aberystwyth erbyn hyn. Dyma i chi ran o'r sgwrs lle mae Aled yn holi Adam lle basai rhywun yn dod o hyd i farc gwrachod a sut basai rhywun yn ei nabod: Gwrachod Witches Pren Wood Trawstiau Beams Ar bwys Wrth ymyl Amrywiol lefydd Various places Cuddio To hide Rhwymo To wrap Am wn i As far as I know Saer maen Stone mason Clip 5 Rhaglen Bore Cothi/ Heledd Cynwal yn cyflwyno: Wel dyna ddigon am wrachod ac ysbrydion, mae'n hen bryd i ni droi at rywbeth ysgafnach yn tydy? Bob nos Fercher ar S4C mae ail gyfres Gogglebocs Cymru i'w gweld am 9 o'r gloch. Buodd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes yn diweddar a chafodd hi sgwrs efo un o sêr y gyfres, sef Annaly Jones o Gaerfyrddin. Mae Annaly yn sôn yn y clip yma am gymaint mae hi'n mwynhau bod yn rhan o'r rhaglen: Ail gyfres Second series Ysfa A strong desire O'r dechrau'n deg From the very beginning Parchedig Reverand Ta beth Beth bynnag Wedi cydio Has caught on Ymateb Response Annog To encourage Clip 7: Rhaglen Rhys Mwyn: Mae Annaly wrth ei bodd efo'r gyfres yn amlwg, ac mae hi'n lot o sbort yn tydy? Ar raglen Rhys Mwyn nos Lun Hydref 30, mi fuodd Clare Potter o Gefn Fforest ger Caerffili, oedd yn Fardd y Mis Radio Cymru yn ystod mis Hydref, yn sgwrsio efo Rhys am ei chyfnod yn astudio llenyddiaeth Affro Caribïaidd yn New Orleans a Mississippi a dyma i chi flas ar y sgwrs: Llenyddiaeth Literature Dwlu ar Wrth fy modd efo Cymhariaeth Comparison Clip 8: Rhaglen Caryl: Clare Potter oedd honna'n sgwrsio efo Rhys Mwyn am lenyddiaeth Affro Caribïaidd. Nos Fawrth ddiwetha, Delyth Eirwyn, y cyn actores, ond sydd erbyn hyn yn Bennaeth Drama yn Ysgol Bro Morgannwg, oedd gwestai Caryl Parry Jones. Sôn am fwyd cysur oedd hi, ac yma mae'n trafod lobsgóws fel ei bwyd mwya cysurus pan oedd hi yn sâl: Cysur Comfort Cig eidion Beef Mor gysurus So comforting Trwchus Thick Maeth Nutrition Anwydog Full of cold Gwaith cnoi Chewy Taten A potato Cennin a phannas Leeks and parsnips Tewhau To thicken Blawd corn Cornflour
Dewch mewn o'r gwynt a'r glaw i swatio gyda ni a mwynhau pennod y Mis Du. Yn y rhifyn hwn, byddwn yn Pwnco mewn 2 ran gyda'r Prifardd Llŷr Gwyn Lewis. Cawn hefyd Orffwysgerdd gan Elen Ifan o'i phamffled gyntaf o farddoniaeth, 'Ystlum'. Ac mae'r Delicassy gan Dylan hefyd yn ei ôl, gyda'r Prifardd Tudur Dylan Jones yn canfod perl fach arall i'n diddanu. Hyn a mwy! Mwynhewch
Bore Cothi – Iestyn Jones Mae Iestyn Jones o Gapel Hendre yn Sir Gaerfyrddin yn gerddor llwyddiannus sy'n gweithio yn y West End, ac ar hyn o bryd mae e'n aelod o gerddorfa sioe ‘Back to The Future'. Buodd Iestyn yn sôn wrth Shan Cothi am ei yrfa…………. Cerddor llwyddiannus A successful musician Cerddorfa Orchestra Sioe gerdd Musical theatre Dwlu ar Wrth ei fodd efo Llwyfan Stage Anghyffredin Unusual Profiadau Experiences Trwy rinwedd By virtue of Beti a'i Phobl – John Owain Jones 27.11 Iestyn Jones oedd hwnna'n sôn am rai o'i brofiadau yn y West End ar Bore Cothi. Pnawn Sul ar Beti a'i Phobl y Parchedig John Owain Jones oedd gwestai Beti. Bydd e'n ymddeol fel gweinidog ar Ynys Bute yn yr Alban ym mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel gweinidog yno. Dyma fe'n sôn am sut dechreuodd ei gysylltiad â'r ynys... Parchedig Reverend Gweinidog Minister Yn y fyddin In the army Hel pres Casglu arian Llongau Ships Ymerodraeth Empire Ffrindiau mynwesol Bosom pals Ddaru Wnaeth Naill ai Either Gwas priodas Best man Gwneud Bywyd yn Haws – Lloyd Henri 22.11 Y Parchedig John Owain Jones yn fanna, ac mae Owain yn cyfrannu'n aml i'r slot Thought for Today Radio Alban ac wedi cyfrannu hefyd i'r Daily Service Radio 4. Bydd e hefyd yn cyfrannu ar Munud i Feddwl, Radio Cymru. Nos Fawrth ar ei rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws, cafodd Hanna Hopwood gwmni Lloyd Henri , athro coginio sydd wedi sgwennu llyfr o'r enw Cegin Mr Henri. Gofynnodd Hanna iddo fe'n gynta pam aeth o ati i sgwennu'r llyfr Ymarferol Practical Cynyddu To increase Enfawr Huge Llwyth Loads Gwastraff Waste Yn eu harddegau In their teens Rhwng y cloriau Between the covers Heriol Challenging Cynhwysyn Ingredients Sawrus Savoury Aled Hughes – Ian ap Dewi 21.11 Dw i'n siŵr basai hwnna'n gwneud anrheg Dolig neis i rywun –Cegin Mr Henri. Dyw hi ddim yn bosib dianc rhag pêl-droed y dyddiau hyn nag yw hi? Bore Llun aeth Aled Hughes i Ganolfan yr Urdd Llangrannog a chafodd air gyda Ian ap Dewi sylfaenydd tîm pêl-droed y pentre sef Crannog. Dianc rhag To escape from Sylfaenydd Founder Cyfaill Ffrind Y gynghrair The league Cais Application Cymuned Community Ieuenctid Youth O dipyn i beth Little by little Mas Allan Caryl – Eleri Lloyd Jones 22.11 Hanes sefydlu tîm pêl-droed Crannog yn fanna ar raglen Aled Hughes. Cafodd Caryl Parry Jones gyfle i sgwrsio gyda Eleri Lloyd Jones o Ffostrasol yng Ngheredigion ar ei rhaglen nos Fawrth. Mae Eleri yn athrawes wrth ei gwaith bod dydd, ond gyda'r nos mae hi'n hoff iawn o uwchgylchu dodrefn. Uwchgylchu Upcycle Dodrefn Celfi Tywyll Dark Gweddill The rest Yn dueddol Tend to Cael gwared To get rid of Harddwch Beauty Derw Oak Goleuo To lighten Newid ei wedd To change its complexion Bore Cothi – Elinor Young Os nad oeddech chi'n gwybod beth ydy uwchgylchu o'r blaen, dych chi'n siŵr o fod yn gwybod nawr! Wythnos diwetha roedd rhaglen Shan Cothi yn rhoi sylw i elusennau bychain Cymru a buodd Elinor Young o Cŵn Cymorth Cariad yn siarad â Shan am y gwaith mae ei chi Tana yn ei wneud ar ran yr elusen Elusennau bychain Small charities Lles Welfare Cleifion Patients Mwythau Pandering Delwedd Image Ystyried To consider
Russell, Leon, Gareth and Huw reflect on Wales's first World Cup finals match in 64 years, against the United States. They also look back at the other match in Group B, England versus Iran, and begin to look ahead to the Iran clash on Friday 25 November. Mae Russell, Leon, Gareth a Huw yn myfyrio ar gêm Cymru cyntaf mewn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ers 64 mlynedd, yn erbyn yr Unol Dalieithau. Hefyd maen nhw'n edrych yn ôl at y gêm arall yng Ngrŵp B, Lloegr yn erbyn Iran, a dechrau edrych ymlaen at y brwydr ag Iran Ddydd Gwener 25 Tachwedd. pic | llun: Tim Hartley
Bore Cothi - Gruffydd Rees 16.11 Ydy gwenyn yn cysgu dros y gaeaf? Nac ydyn, ddim yn ôl y gwenynwr Gruffydd Rees o'r Dryswyn yn Sir Gaerfyrddin. Dyma Gruffydd yn dweud mwy wrth Shan Cothi….. Gwenyn Bees Cwch Hive Para To last Peillio To pollinate Hanfodol Essential Diwydiant Industry Cnwd Crop Trystan ac Emma – Gari'r Gwiningen Y gwenyn yn brysur yn bwyta mêl drwy'r gaeaf – braf on'd ife? Nesa dyma i chi hanes Gari, anifail anwes Emma o Lanbedrog ym Mhen Llŷn, sydd wrth ei fodd yn mynd am dro i'r traeth gyda thri o gŵn Emma. Dim byd yn rhyfedd am hynny nag oes? Wel oes, gan mai cwningen ydy Gari. Dyma Emma'n sgwrsio gyda Trystan ac yr Emma arall… Cwningen Rabbit Aballu And so on Dychmygu To imagine Ymateb Response Aled Hughes – Nyrsus Phillipines 14.11 Felly peidiwch â chael gormod o sioc tasech chi'n gweld cwningen yn mynd am dro ar draethau Pen Llŷn! Fore Llun cafodd Aled Hughes gyfle i sgwrsio gyda Noel Davies mab Lottie, nyrs o Ynysoedd Philippines yn wreiddiol, ddaeth draw i Gymru i weithio yn y Gwasanaeth Iechyd gyda nifer o nyrsys eriall o'r Ynysoedd. Llais Noel ei hunan dyn ni'n ei glywed ar ddechrau'r clip pan oedd e'n 6 oed. Mae e dipyn yn henach nawr ac ymunodd e gydag Aled i ddathlu 21mlynedd ers i nyrsys o'r Ynysoedd gyrraedd Cymru ac i roi ychydig o'i hanes personol e… Uffernol Hellish Cyn gyd-weithwraig annwyl A dear former colleague Yn gyfarwydd Familiar Poblogaidd Popular Hyfforddi To train I chdi I ti Beti – Iestyn Davies 20.11 Noel Davies oedd hwnna'n sgwrsio gydag Aled Hughes yn sôn gymuned Philippino y gogledd. Bnawn Sul ar raglen Beti a'i Phobl, cyn dditectif ac Uwch Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Iestyn Davies oedd y gwestai. Dyma fe'n sôn am rywbeth doniol iawn ddigwyddodd iddo fe pan oedd e'n blismon ar Ynys Môn Uwch Arolygydd Superintendent Cau stopio Gwrthod stopio Buarth Farmyard Drewi Stinking Sylweddoli To realise Yn wirioneddol In reality Caryl – Wendy Williams 14.11 Wel dyna stori dda ‚on‘d ife ? Nos Lun a'r raglen Caryl roedd Wendie Williams o Gaerfyrddin yn sôn am y rhaglen deledu Yma O Hyd a'r effaith mae'r gân arbennig hon wedi ei gael y tu hwnt i fyd siaradwyr Cymraeg… Y tu hwnt Beyond Cysylltu To contact Torf Crowd Ias A shudder Aberth Sacrifice Ymgyrchu Campaigning Hunaniaeth Identity Llefain Crïo Angerdd Passion Bore Cothi – Manon Fisher Jenkins 15.11 Ac mae sawl fersiwn o'r gân i'w gael erbyn hyn on'd oes, ers Cwpan y Byd. Mae Manon Fisher Jenkins o Gaerdydd wedi newid gyrfa sawl gwaith er mai yn ei phedwardegau yn unig mae hi. Ond erbyn hyn mae hi wedi dod o hyd i yrfa sydd wrth ei bodd. Dyma hi'n esbonio wrth Shan Cothi... Gradd Degree Amgueddfa Museum TAR PGCE Tost Sâl Mamolaeth Maternity leave Hedyn A seed Tad-cu Taid Rhandir Allotment Dwlu Mwynhau Andros o ffodus Lwcus iawn
S'mae... Ry'ch chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse ydw i, ac i ddechrau'r wythnos yma... Aled Hughes - Dafydd Iwan 7.11 Roedd Dafydd Iwan yn westai ar raglen Aled Hughes fore Llun i sôn am Yma o Hyd, y gân sydd wedi ei dewis fel anthem tîm Pêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd. Recordiwyd Yma o Hyd gynta bron i bedwar deg mlynedd yn ôl, ond mae hi wedi cael bywyd newydd yn ddiweddar, gyda recordiad newydd sydd wedi cael sylw mawr y tu hwnt i Gymru. Tu hwnt Beyond Wedi hen arfer Well used to Bodoli ers degawdau Existed for decades Rhyfedda Strangest Pwysleisio'r angen Stresses the importance Ail-greu To recreate Ers tro For a long time Ysbrydoli To inspire Yr alwad The call Llorio To floor Bore Cothi – Roy Noble 7.11 ...a buodd chwarter miliwn o blant ysgol Cymru yn canu Yma o Hyd fel rhan o Jiwbili yr Urdd, gwych on'd ife? Ddydd Llun hefyd cafodd Shan Cothi gyfle i groesawu y darlledwr Roy Noble oedd yn edrych ymlaen at ei ben-blwydd yn 80. Dechreuodd Roy drwy sôn am ei ddyddiau cynnar yn darlledu……. Darlledwr Broadcaster Traffordd Motorway Bwrw To hit Yr Hollalluog The Almighty Camsyniad Camgymeriad Menwyod Merched Wejen Cariad Yn gymharol ddiweddar Fairly recently Traddodiad Tradition Beti a'I Phobl – Meleri Davies 13.11 Roy Noble oedd hwnna'n siarad gyda Shan Cothi. Brynhawn Sul, Meleri Davies o Fenter Ogwen oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobl. Mae brawd Meleri, Dewi Prysor, yn nofelydd a gofynnodd Beti oedd diddordeb gyda hi mewn creu llenyddiaeth yn ogystal Llenyddiaeth Literature Dihangfa An escape Rhyddiaith Prose Cerddi rhydd Free verse Chwant An inclination Cyfrwng Medium Atomfa Nuclear power station Dylanwad Influence Amaethwyr Farmers Ymbelydredd Radiation Peri dychryn To cause alarm Dros Ginio - Delyth Wyn a Elin Fflur 8.11 Blas ar sgwrs gafodd Beti George gyda Meleri Davies oedd hwnna, a nawr cawn wrando ar ran o sgwrs cafodd Jennifer Jones ar Dros Ginio gyda Delyth Wyn ag Elin Fflur sef cynhyrchydd a chyflwynwraig y gyfres deledu Sgwrs Dan y Lloer. Cynhyrchydd Producer Cyflwynwraig Female presenter Addas i'r cyfnod Suitable for the period Dynoliaeth Humanity Rhyfeddu To wonder Gwerthfawrogi To appreciate Cymdeithasu To socialise Cefnlen Backdrop Creu'r naws Creating the atmosphere Caryl - Heledd Fflur 8.11 Ac mae rhaglenni Sgwrs Dan y Lloer wedi bod yn rhai gwych on'd yn nhw? Heledd Fflur, sydd yn dod o Drewyddel, Sir Benfro yn wreiddiol, yw garddwraig wadd rhaglen Caryl gyda'r nosau, a'r wythnos yma buodd hi'n sôn wrth Caryl am gyfrinachau tyfu moron da Cyfrinachau Secrets Dyfrhau To water Os wedwn i If I say so Pridd Soil Parhau To continue Yn hytrach na Rather than Diog Lazy Sychder Drought Arwynebedd Surface area Tueddol i Tend to Ifan Evans – Clive Edwards 10.11 Dyna ni wedi cael gwybod sut i dyfu moron da – dyfrhau o'r gwaelod! Brynhawn Iau buodd Ifan Evans yn siarad gyda'r canwr Clive Edwards am ei gryno ddisg, neu CD, newydd, Dyddie Da, sy'n cael ei ryddhau cyn bo hir. Llongyfarchiadau Congratulations Offerynwyr Instrumentalists Ffair Aeaf Winter Fair Hala Anfon Diniwed Innocent
BETI A'I PHOBOL - MIRAIN IWERYDD Y cyflwynydd Mirain Iwerydd oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ydy Mirain ac mae hi'n cyflwyno Hansh a Stwnsh Sadwrn ar S4C, a'r Sioe Frecwast Radio Cymru 2 fore Sul. Mae hi hefyd yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth newydd bob nos Fercher ar Radio Cymru. Cefndir Jamaicaidd ac Indiaidd sydd gan fam Mirain a gofynnodd Beti iddi oedd hi wedi profi hiliaeth o gwbl o'r herwydd… Hiliaeth Racism O'r herwydd As a consequence Dathlu diwylliant Celebrating the culture Synnu To be surprised Ffodus Lwcus (G)wynebu To face Cymharol Relatively Cyfryngau cymdeithasol Social media Becso Poeni Bodoli To exist SHELLEY A RHYDIAN Mirain Iwerydd oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George. Yr actor, canwr a sylwebydd Rhys ap William oedd gwestai Shelley a Rhydian brynhawn Sadwrn. Rhys oedd yn sylwebu yn Stadiwm y Principality yn ystod y gêm rygbi rhwng Cymru a'r Crysau Duon ddydd Sadwrn diwetha ond beth tybed yw hanes y sgidiau arbennig iawn mae e'n eu gwisgo yn ystod y gêm? Sylwebydd Commentator Y Crysau Duon The All Blacks Cefnogaeth Support Rhyngwladol International Gan amlaf Usually Dylanwadu To influence NIA PARRY - GOGGLEBOX Yn anffodus doedd Rhys ddim yn gallu dylanwadu ar y sgôr ddydd Sadwrn wrth i Gymru golli'n drwm yn erbyn y Crysau Duon. Mae Huw Williams o Frynaman yn un o dri brawd (Mike a Stephen yw'r ddau arall) fydd yn ymddangos ar y gyfres newydd Gogglebocs Cymru cafodd ei weld am y tro cynta nos Fercher diwetha. Nia Parry fuodd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes wythnos diwetha, a chafodd hi sgwrs gyda Huw am y gyfres... Ymddangos To appear Cyfres Series Yr Wyddgrug Mold Swyddogol Official Anghytuno To disagree Hogyn Bachgen Licsen Baswn i'n hoffi Dodi pethau lan Rhoi pethau i fyny Sbort Hwyl BORE COTHI - ALED HALL Hanes y brodyr o Frynaman ar Gogglebox Cymru yn fanna ar raglen Aled Hughes. Mae'r tenor o Bencader, Aled Hall, newydd gyhoeddi ei hunangofiant “O'r Da I'r Direidus”. Gofynnodd Shan iddo a oedd cyfnod wedi bod ble roedd e‘n meddwl bod pethau‘n galed, ac ei fod wedi gwneud y peth iawn yn dilyn y llwybr cerddorol. Hunangofiant Autobiography Direidus Mischievous Y llwybr cerddorol The musical path Llwyfan Stage Cyfarwydd â Familiar with Sa i'n credu Dw i ddim yn credu Ystyried To consider Cynulleidfa fyw A live audience Braidd dim Hardly any Annog To encourage DROS GINIO - DAU CYN DAU …a dw i'n siŵr bydd hanesion diddorol iawn yn hunangofiant Aled Hall. Brawd a chwaer o Aberystwyth oedd ar Dau Cyn Dau yn y rhaglen Dros Ginio. Mae Gwenan Creunant yn gweithio i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen ac mae Deian yn gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg. Dyma i chi flas ar y sgwrs… Ymddiriedolaeth Trust Rhan fwyaf eich oes Most of your life Bwrlwm Buzz Amrywiaeth variety Cymuned glos A close community Atgofion a magwraeth Memories and upbringing Tafod ym moch Tongue in cheek Gwirionedd Truth BORE COTHI - MARK ADEY Gwenan a Deian yn fanna yn amlwg wrth eu boddau gydag Aberystwyth. Mae Mark Adey yn athro Gwyddoniaeth yn ysgol Uwchradd Llanisien, Caerdydd ac mae e hefyd yn ffan mawr o Elvis ac yn perfformio tipyn fel Elvis. Mae e'n dod o Bontlliw ger Abertawe yn wreiddiol a gofynnodd Shan Cothi iddo a oedd e'n clywed Cymraeg ar yr aelwyd pan oedd e'n blentyn. Gwyddoniaeth Science Ar yr aelwyd At home Trwy gyfrwng Through the medium of Rhyfedd Strange Cyfarwyddo To become familiar with Sail Foundation Dynwared To imitate Enfawr Huge Llwyth o Loads of Addas Appropriate
Croeso i bennod mis Tachwedd.Mae Bethan ar wyliau ym Mhatagonia ac yn cael gwell wifi na rhai o'r criw yng Nghymru. Esyllt Nest Roberts sydd yn ymuno efo Dafydd, Bethan, Manon a Siân i roi flas ar fywyd awdur Cymraeg ym Mhatagonia.Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:Sgen i'm syniad: Snogs, Secs a Sens - Gwenllian EllisThe Lives of Brian - Brian JohnsonWonder - R J PalacioRhyfeddod - Eiry MilesDry - Augusten BurroughsRhyngom - Sioned Erin HughesAnthropology - Dan RhodesHow to be an ex-footballer - Peter Crouch
Dros Ginio Dafydd Iwan Mi fydd tîm pêl-droed Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd ar ôl i'r tîm guro Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd wythnos diwetha. Mi wnaeth y crysau coch yn wych ond roedd canu'r Wal Goch yn bwysig hefyd yn enwedig wrth iddyn nhw ganu 'Yma o Hyd' efo Dafydd Iwan. Dyma Dafydd yn sôn am y profiad ar Dros Ginio Breuddwyd - A dream Cyfuno - To combine Manteisio ar y cyfle - Taking advantage of the opportunity Bwriadol - Intentional Mynegi teimladau - Expressing the feelings Rhyfeddol - Wonderful Cyfraniad - Contribution Trefnwyr cefn llwyfan - Backstage organisers Profiad bythgofiadwy - An unforgettable experience Ac mi gyrhaeddodd y gân 'Yma o hyd' rhif 1 yn siart I-Tunes wythnos diwetha - anhygoel ynde? Arfon Wyn Un o arwyr Cymru yn y gêm oedd y gôl-geidwad, neu'r gôli, Wayne Hennessey. Aeth Wayne i ysgol gynradd Biwmares pan oedd o'n blentyn a dyma i chi Arfon Wyn, oedd yn bennaeth yr ysgol ar y pryd, yn sôn wrth Dylan Ebenezer am sut dechreuodd gyrfa bêl-droed Wayne... Pennaeth - Head Hogyn dymunol - A likeable boy Dihyder - Lacking in confidence Dirprwy - Deputy Syth bin - Straight away Menyg - Gloves Wedi dotio - Wrth ei fodd Y gamp - The sport Diolch i staff Ysgol Biwmares ynde, am roi'r cyfle cynta i Wayne Hennessy. Beti a Geraint Davies Geraint Davies oedd gwestai Beti a'i Phobol dydd Sul Eleni mae Geraint wedi ymddeol fel cynghorydd sir dros ardal Treherbert yng Ngwm Rhondda ar ôl iddo fo wneud y gwaith am dros 30 mlynedd. Buodd o hefyd yn Aelod Cynulliad dros y Rhondda rhwng 1999 a 2003, roedd o'n fferyllydd yn y cwm am flynyddoedd maith a hefyd yn aelod o'r clwb tenis lleol. Dyn prysur iawn felly... Aelod Cynulliad - Assembly member Fferyllydd - Chemist Cyflwyniad - Introduction Sbort mawr - Llawer o hwyl Parhau eich bywyd - Prolong your life Ymennydd - Brain Poblogaidd - Popular Rhyfedd - Strange Wedi cwympo - Had fallen O ganlyniad - As a consequence Diddorol ynde - Covid wedi gwneud i bobl feddwl mwy am eu hiechyd a'u ffitrwydd. Aled Hughes ac Alex Harry Gemau'r Gymanwlad Mi wnawn ni aros ym myd y campau rŵan ond y tro 'ma efo Gemau'r Gymanwlad. Bydd y gemau'n cael eu cynnal yn Birmingham ddiwedd mis Gorffennaf ac un o'r athletwyr fydd yn mynd i Birmingham ydy Alex Harry, sy'n dod o Lanelli yn wreiddiol, ac sy wedi cael ei dewis yn rhan o dim reslo Cymru. Dyma flas i chi ar y sgwrs rhwng Aled Hughes ac Alex... Gemau'r Gymanwlad - The Commonwealth Games Pwysau - Weight I gael dy ystyried - For you to be considered Cynrychioli dy wlad - Representing your Country Aled Hughes a Non Stanford Pob lwc i Alex ynde a hefyd i Non Stanford sydd yn rhan o dîm triathlon Cymru. Pa fath o baratoadau mae hi wedi eu gwneud ar gyfer Gemau'r Gymanwlad tybed? Aled Hughes oed yn holi eto... Paratoadau - Preparations Canolbwyntio - To concentrate Cic lan y pen-ôl - A kick up the backside Cydwybod - Conscience Geraint Lloyd a Nia Medi Wel, dan ni wedi sôn am bêl-droed, tenis, athletau ac rŵan dan ni'n mynd i glywed hanes criw bach sydd am seiclo o Lundain i Amsterdam - Fflamingos Pinc Trystan. Mae'r pum 'fflamingo' am wneud y daith er cof am eu ffrind Trystan Gwyn Rees fuodd farw dair blynedd yn ôl. Geraint Lloyd fuodd yn holi un o'r criw, Nia Medi... Er cof am - In memory of Cymeriad lliwgar - A colourful character Tyle - Hill Galar - Bereavement Cyfnod tywylla ein bywydau - Darkest period of our lives Doniol - Amusing Cynghori - To advice
Croeso i bennod y Mis Du o Clera. Y tro hwn cawn longyfarch Carwyn Eckley ar ei gamp yn ennill Cadair yr Urdd Dinbych 2020, gan hefyd lognyfarch Ianto Jones ac An Chabrando Rees ar gipio Cadair y ffermwyr Ifanc a Chadair Eisteddvod Trevelin. Cawn hefyd gyfraniad gwych iawn gan Gruffudd Eifion Owen am y vers libre cyngaenddol a chwmni ein Posfeistr hoff, Gruffudd Antur. Heb sôn am ddiweddgan gan Llion Jones i Gareth Bale.
01. Bore Cothi - Daniel Jenkins Jones - Cnocell Y Coed Aderyn y mis ar raglen Bore Cothi oedd Cnocell y Coed. Roedd Caryl Parry Jones wedi gweld cnocell yn ei gardd ac roedd hi eisiau gwybod mwy am yr aderyn cyffrous. Oes mwy nag un math o gnocell i'w weld yng Nghymru tybed? Dyma beth oedd gan Daniel Jenkins Jones neu ‘Jenks' i'w ddweud wrth Caryl…. Cnocell y Coed Woodpecker Creaduriaid Creatures Nythu To nest Ymddangos To appear Rhyfedd iawn Very strange Onglau Angles Madfall Lizard Neidr Snake Hardd Pretty Rhyfeddu To marvel Anarferol Unusual 02. Aled Hughes - Hayley Thomas Llawer o wybodaeth yn fan'na am gnocell y coed gan Jenks. Fuoch chi'n edrych ar raglen Plant Mewn Angen y BBC nos Wener diwetha? Roedd y noson wedi codi miliynau o bunnoedd at elusennau plant. Gwych, on'd ife? Ar ddechrau wythnos her Plant Mewn Angen cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Hayley Thomas sy'n gweithio fel swyddog gyda phrosiect Thrive, prosiect sy'n rhoi cymorth i blant a'u mamau yn ardal Port Talbot ac Afan . Pa mor bwysig ydy arian Plant Mewn Angen i elusen fel Thrive? Dyma Hayley yn esbonio… Esbonio To explain Profiadau Experiences Cam-drin Abuse Canolbwyntio To concentrate Diogelwch Safety Cyfleoedd Opportunities Lloches Refuge Dychryn To frighten 03. Radio Cymru 2 – Strictly Hayley Thomas oedd honna yn siarad am pa mor bwysig ydy arian Plant Mewn Angen i elusennau fel Thrive. Bob wythnos ar y Sioe Frecwast ar Radio Cymru 2, mae Caryl Parry Jones yn dal i fyny gyda Meg Neal, i sôn am beth sy'n digwydd yn Strictly. Roedd rhywbeth arbennig iawn wedi digwydd wythnos diwetha a dyma Meg yn rhoi'r hanes i ni… Hudolus Magical Byddar Deaf Egnïol Energetic Ddim cystal Not so good Meddwl y byd o'i gilydd Think the world of each other 04. Beti a'i Phobol - Steffan Huws Hanes Strictly yn fan'na gan Meg a Caryl. Mae Steffan Huws, gwestai Beti George wythnos diwetha, wedi cael bywyd diddorol iawn. Mae Steffan yn dod o Bontypridd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae'n rhedeg busnes coffi Poblado, yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd. Treuliodd Steffan lawer o amser yn byw ac yn gweithio dramor yn Taiwan ac yn Columbia yn ne America. Yn y clip nesa, mae Steffan yn sôn wrth Beti am y tro cynta iddo fe fentro dramor.... Alldaith Expedition Cronfa Fund Trobwynt Turning point Yng nghanol nunlle In the middle of nowhere Anferth Huge Datblygiad personol Personal development Dilornus Disparaging Meddylfryd Mindset 05. Lisa Gwilym - Kizzy Crawford Steffan Huws oedd hwnna'n sôn am ei brofiad yn mynd ar alldaith dramor am y tro cynta. Ar raglen Lisa Gwilym nos Fercher roedd Kizzy Crawford yn sgwrsio am ei halbwm newydd ‘Rhydd'. Hi sgwennodd holl ganeuon yr albwm a hi chwaraeodd pob offeryn arno hefyd. Ac yn ogystal hi wnaeth gynhyrchu'r albwm mewn stiwdio yn ei chartref yn Aberfan Offeryn Instrument Cynhyrchu To produce Cyfrannu To contribute Hyder Confidence Mae gen i gof I have a recollection Wedi gwirioni Wedi dwlu ar Rhyddhau To release 06. Sioeau Cerdd Steffan ..ac arhoswn ni gyda cherddoriaeth yn y clip nesa, ond cerddoriaeth o sioeau cerdd y tro ‘ma. Dyma i chi ran o sgwrs gafodd Steffan Rhys Hughes wythnos diwetha gyda un o sêr y West End, Samuel Wyn-Morris, sy'n sôn am ei brofiadau'n perfformio yn y sioe gerdd Les Miserables. Sioeau cerdd Musicals Diwydiant Industry Ddim yn fêl i gyd Not a bed of roses Becso Poeni Camu ar lwyfan To step on to a stage Bwrw mlaen Get on with it Dwlen ni Baswn i wrth fy modd
Rheolwr Cymru C ac un o leisiau'r botwm coch, Mark Jones sy'n edrych nôl ar ddigwyddiadau mis Hydref yn y Cymru Premier gyda Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer. Cawn hefyd gyfle i glywed gan reolwr Cymru, Robert Page ar ôl iddo gyhoeddi ei garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 ym mis Tachwedd.
Croeso i benniod y Mis Du. Yn ogystal a'r gorchwyl anodd o goffau Jan Morris a Mari Lisa, gyda theyrnged arbennig i Mari gan y Prifardd Tudur Dylan, mae'r bennod hon yn cynnwys cerdd yn yr Orffwysfa gan Marged Tudur o'i chyfrol newydd, 'Mynd', pwnco, pos a llawer o ddifyrrwch.
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … JENI OGWEN - IFAN EVANS ...beth dych chi’n feddwl sy’n gyffredin rhwng Jenny Ogwen, oedd yn arfer cyflwyno rhaglenni teledu Cymraeg, ac Ifan Evans? Wel mae’r ddau â stori i’w dweud am Cliff Richards! Dyma i chi flas ar eu sgwrs nhw ar raglen Ifan... Llofnod - Autograph Diawch - Goodness (an exclamation) Naill ai - Either Ar bwys - Near to Paid sôn - You don’t say Gwaetha’r modd - Unfortunately Trefdraeth - Newport (Pembrokeshire) Nefolaidd - Heavenly So ti - Dwyt ti ddim Mor gaeth - So restricted ALED HUGHES - SIOE FRECWAST HUW STEPHENS Jenny Ogwen yn fan’na yn sôn am Cliff Richards ac am Ynys y Barri ar raglen Ifan Evans. Aled Hughes oedd yn ateb cwestiynau Cocadwdl-do Huw Stephens wythnos diwetha – dyma i chi gyfle i glywed rhai o gyfrinachau Aled… Cyfrinachau - Secrets Ysgwydd - Shoulder Cwlwm - Knot Llwyth - Tribe Eu hadnabod nhw - To know them Ar faes y gad - On the battlefield Rhwyfo - To row (a boat) Parch - Respect Yr un pryd - The same meal RICH HOLT - SIOE SADWRN DANIEL GLYN Wel dyna ni’n cael gwybod am datŵs a thatws Aled yn fan’na! Mae‘r cogydd Richard Holt i’w weld ar S4C ar hyn o bryd yn y gyfres Anrhegion Melys Richard Holt, a fe wrth gwrs yw seren y sioe! Fe hefyd oedd gwestai arbennig Daniel Glyn fore Sadwrn a dyma Richard yn sôn ychydig am ei gefndir a’i waith. Cefndir Background Cerddoriaeth Music Llygoden Ffrengig Rat Cyfuniad Combination Danteithion anhygoel Incredible delicacies Pwysau Pressure Newydd sbon Brand new WRECSAM POST CYNTAF ..a chofiwch wylio Anrhegion Melys Richard Holt ar S4C i gael syniadau am gacennau blasus. Roedd yna ddathlu mawr yn Wrecsam wythnos diwetha wrth i’r newyddion dorri fod sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenny am brynu clwb pel-droed y dre. Cafodd Dylan Jones sgwrs am y newyddion hyn gyda Chris Evans, cadeirydd tafarn gymunedol Wrecsam, Saith Seren, ar Y Post Cyntaf… Dioddef - To suffer Gwireddu - To fulfil Yn rheolaidd - Regularly Boddi eu gofidiau - Drowning their sorrows Wedi cryfhau - Has strengthened Wedi cael ei ffrydio’n fyw - have been streamed live Mentrau cymunedol - Community ventures Byd-eang - Worldwide Ymddiriedolaeth - Trust Mewn bodolaeth - In existence BETI A’I PHOBOL ...a phob lwc i glwb ac i dre Wrecsam gyda’r fenter newydd on’d ife? Mae cefndir teuluol Cymreig gan Robert Joseph Jones ond cafodd ei eni yn Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau ac mae o’n byw nawr yn nhalaith Efrog Newydd. Mae o wedi dysgu Cymraeg ac yn ei siarad yn rhugl fel clywon ni yn y sgwrs yma gyda Beti George Unol Daleithiau - United States Talaith Efrog Newydd - New York State Etifeddiaeth Gymreig - Welsh heritage Cyhoeddi - To publish Tanysgrifio - To subscribe Rhyfedd - Strange Eglurhad - Explanation GWENDA WATSON - ALED HUGHES Mae Cymraeg gwych gan Robert Joseph Jones on’d oes, i feddwl mai o hen lyfr ‘Teach yourself Welsh’ ddysgodd o’r iaith. Mae Gwenda Watson newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 90ed. Treuliodd hi ran o’i phlentyndod yn byw ar Ynys Enlli a buodd hi’n sôn ychydig am ei phlentyndod ar yr ynys wrth Aled Hughes... Pobl mewn oed - The elderly Gweinidog - Minister Cymorth - Help Ynys anghysbell - Remote island Atgofion - Memories Nefoedd ar y ddaear - Heaven on earth
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Elin Angharad – Tro’r Tir Mae Elin Angharad o Fachynlleth ym Mhowys wedi dechrau busnes yn gwneud ac yn gwerthu ategolion lledr. Dyma hi’n sôn wrth griw Troi’r Tir am sut cafodd hi’r syniad o ddechrau’r busnes a sut aeth hi ati i’w sefydlu… Ategolion lledr - Leather accessories Sefydlu - To establish Ymddiddori mewn - To take an interest in Dilyn gyrfa - Pursue a career Gweithdy - Workshop Profiad Gwaith - Work experience Penblwydd Cardiau Draenog - Bore Cothi Merch arall o Bowys sydd wedi sefydlu busnes ei hunan ydy Anwen Roberts a hi oedd un o westeion Shan Cothi yr wythnos yma. Mae ei chwmni, Cwmni Cardiau Draenog, wedi bod mewn busnes am 10 mlynedd ac mae gan Anwen gynlluniau arbennig am sut i ddathlu hynny. Arbenigo - To specialise Cyfoes - Modern Dylunio - To design Casgliad - A collection Yn go llwm - Really tough Personoleiddio - To personalise Yr amrywiaeth - The variety Arddulliau - Styles Anhygoel - Incredible Archeb - Order Richard Burton – Aled Hughes Wel am syniad da, ond’ ife? Tybed beth fydd yr anrhegion bach – cewch wybod os wnewch chi archebu cardiau gan Anwen! Roedd yr actor Richard Burton yn dod o Bontrhydyfen yn Nghwm Afan yn wreiddiol, a tasai fe’n fyw basai wedi dathlu ei benblwydd yn 95 oed yr wythnos yma. Cafodd Aled Hughes sgwrs am yr actor byd enwog gyda Sian Owen, ei nith, sy’n dal i fyw ym Mhontrhydyfen. Cof plentyn - A child’s memory Atgof - a recollection Ffili symud - Couldn’t move Mo’yn mynd lan loft - Wanted to go upstairs Enw’r Clip: Clip Penblwydd Bryn Terfel Rhaglen: Dewi Llwyd Seren fyd enwog arall oedd yn dathlu ei benblwydd yr wythnos diwetha sef Bryn Terfel a fe oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd fore dydd Sul. Dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae Dewi’n holi Bryn a oes yna bendraw i yrfa canwr opera… Pendraw - An end Unwaith yn rhagor - Once more Heb os nac oni bai - Without doubt Cynulleidfa yn cymeradwyo - The audience applauding Mwyniant - Pleasure Cydnabyddiaeth - Acknowledgement Cymhelliad - Motivation Beirniaid - Adjudicators Clod - Praise Cyffelybu - Compare Tony Ac Aloma - Cofio ‘Falle nad ydy’r ddeuawd Tony ac Aloma o Sir Fôn yn sêr byd enwog fel Bryn Terfel a Richard Burton, ond er hynny digwyddodd rhywbeth iddyn nhw mewn caffi yn Nhregaron yn y chwedegau wnaeth iddyn nhw ddechrau meddwl eu bod nhw wedi cyrraedd! Dyma’r ddau yn hel atgofion gyda John Hardy… Deuawd - Duet Hel atgofion - Reminiscing Sêr y byd - Global stars Pres - Arian Pa mor boblogaidd - How popular Ffefryn - Favourite Gwyndaf Lewis - Geraint Lloyd Tony ac Aloma oedd rheina, sêr canu Cymraeg yn y chwedegau a’r saithdegau, yn cofio am ddigwyddiad arbennig yn Nhregaron. Cafodd Geraint Lloyd gyfle i longyfarch Gwyndaf Lewis o glwb Ffermwyr Ifanc Hermon am ennill gwobr ‘Cefnogwr Cymunedol y Flwyddyn’. Beth yn union oedd Gwyndaf wedi ei wneud i ennill y wobr? Wel llawer iawn o bethau, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ’ma… Gwobr - Award Cefnogwr Cymunedol - Community supporter Enwebu - To nominate Yn llawn haeddu - fully deserve Ymdrechion rhyfedda - the most amazing effort s Hyfforddi - To train Elusennau - Charities Llwybr arfordir - Coastal path Cyfwerth â - Equivalent of
"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma..." Clip Sam Thomas – Geraint Lloyd Mae gorsaf radio Bronglais – sef gorsaf radio Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, yn dathlu ei phenblwydd yn 50 oed. Cafodd Geraint Lloyd hanes yr orsaf gan Sam Thomas o Lanafan a dyma i chi flas ar y sgwrs… Gorsaf radio - Radio Station Clwb ieuenctid - Youth club Cynhyrchu - To produce Sioe geisiadau - Request show Cleifion - Patients Darlledu - To broadcast I ddod ynghlwm - To become involved Gwirfoddoli - To volunteer Amrywiaeth - Variety Cyfoes - Contemporary Clip Mark Drayford – Dewi Llwyd Hanes gorsaf radio Bronglais yn fan’na ar raglen Geraint Lloyd. Dw i’n siŵr ein bod ni i gyd wedi gweld llawer iawn ar Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn rhoi gwybod i ni am sefyllfa Covid y wlad yn ystod y misoedd diwetha. Fe oedd gwestai Dewi Llwyd dydd Sul diwetha a chlywon ni bod teulu’r Prif Weinidog wedi bod yn sâl gyda Covid yn ystod y cyfnod hwnnw. Gofynnodd Dewi Llwyd iddo fe sut oedd e wedi dygymod â’r sefyllfa… Prif Weinidog Cymru - First Minister of Wales Dygymod â - To put up with Yr Ail Ryfel Byd - The Second World War O dan bwysau aruthrol - Under immense pressure Cwympo’n dost - To fall ill Ymdopi - To cope Clip Tudur Owen Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, oedd hwnna’n sôn wrth Dewi Llwyd sut oedd e wedi ymdopi pan fuodd aelodau o’i deulu’n sâl gyda Covid. Gyda’r tywydd yn oeri, penderfynodd Tudur, Manon a Dyl Mei ei bod hi‘n dywydd perffaith i swatio a chwarae gêm fwrdd – ond beth oedd eu hoff gêm fwrdd nhw tybed? Swatio - To snuggle Rheolau - Rules Gwyddbwyll - Chess Plentyndod - Childhood Clip Siorts Clive Tudur Owen a’r criw yn sôn am eu hoff gêmau bwrdd yn fan’na. Mae Clive Rowlands yn un o sêr byd rygbi Cymru. Buodd e’n gapten ar y tîm cenedlaethol yn y chwedegau ac wedyn yn hyfforddwr Cymru ar ôl iddo fe ymddeol fel chwaraewr. Buodd e hefyd yn rheolwr ar dîm y Llewod. Yn anarferol iawn cafodd ei wneud yn gapten tîm Cymru yn ei gêm gynta dros y wlad - gêm yn erbyn Lloegr. Dyma fe’n cofio’r gêm arbennig honno… Cenedlaethol - National Hyfforddwr - Coach Y Llewod - The Lions Anarferol - Unusual Pencampwriaeth - Championship Cyd-chwaraewyr - Team-mates Ymarfer - Practice Parc yr Arfau - The Arms Park Y tri chwarteri - The three-quarters Mewnwr - Scrum half Clip Ifan a Gary Gwallt Trueni i Clive golli’r gêm gynta ‘na on’d ife? Mae Gary Jones, neu Gary Gwallt, yn byw yn Abir ger Benidorm. Trin gwallt ydy ei waith e ond mae hi wedi bod yn anodd iawn i’r busnes gario ymlaen oherwydd Covid. Beth felly mae Gary wedi bod yn ei wneud yn y cyfamser? Ifan Evans fuodd yn ei holi… Trin gwallt - Hairdressing Y cyfamser - The meantime Distaw - Quiet Gwirfoddolwr ar gyfer elusen - A volunteer for a charity Andros o hwyl - Loads of fun Cyngor - Advice Ymchwil - Research Eitha llym - Quite strict Clip Bore Cothi – Kit Ellis Gary Jones oedd hwnna yn rhoi blas i ni ar fywyd Benidorm yn ystod y cyfnod clo. Blas ar fwyd wedi ei goginio’n araf sydd yn y clip nesa. Rhoddodd Shan a chriw Bore Cothi her i Kit Ellis, sef coginio sawl pryd yn ei ‘slow cooker’… a dyma sut aeth hi… Y cyfnod clo - The lockdown Her - Challenge Hyder - Confidence Arbrofi - To experiment Y gyfrinach - The secret Brasder - Fat Rhwydd - Easy Twlu - to throw Oergell - Fridge
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Shelley a Rhydian - Sioe Sadwrn Roedd yr actor Ieuan Rhys yn astudio drama yn y coleg pan gafodd ei gyfle cynta i actio’n broffesiynol ac yn fuan iawn dechreuodd actio rhan Sarjant James yn Pobol y Cwm a buodd e’n actio’r rhan hwnnw am flynyddoedd maith. Fe oedd un o westeion Shelly a Rhydian ar y Sioe Sadwrn a dyma fe’n esbonio sut cafodd e ei swydd actio gynta… Cwpla - To finish Lan llofft - Upstairs Cyfweliadau - Interviews Cwrdd â - To meet Pennod - Episode Parodd - It lasted Huw Stephens a Huw Chiswell - Sioe Frecwast Radio Cymru 2 Yr actor Ieuan Rhys oedd hwnna’n sôn am sut cafodd o’r cyfle i actio ar Pobol y Cwm. Mae Huw Stephens yn mynnu bod ei westeion yn ateb ei gwestiynau drwy roi’r gair Cocadwdl o flaen yr ateb. Dw i’n siŵr ei bod hi’n ddigon anodd i gofio’r holl atebion yes/no yn Gymraeg heb y dasg ychwanegol honno! Y canwr Huw Chiswell oedd yn ateb y cwestiynau Cocadwdl yr wythnos diwetha a dyma i chi sut aeth o ymlaen… Diflas - Boring Bronoeth - Topless Eitha anghyffredin - Quite unusual Cwlwm - Knot Yn benodol - Specifically Fy nghlustffonau - My headphones Ymwrthod - To reject Cyfaill - Friend Suro’r syniad - Spoiled the idea Fy isymwybod - My subconcious Dewi Llwyd a Shan Cothi - Dewi Llwyd Huw Chiswell yn cocadwdlio efo Huw Stephens yn fan’na. Fel arfer cyflwyno rhaglenni mae Shan Cothi ond hi oedd gwestai Penblwydd Dewi Llwyd ddydd Sul. Sut oedd Shan am ddathlu’r diwrnod mawr tybed? Ffordd unigryw - An unique way Alla i ddychmygu - I can imagine Yn hŷn (e)to - Older again Marchogaeth - Horse riding Uniaethu - To empathise Meddiant - Possession Fy niweddar ŵr - My late husband Teulu gofaint - Blacksmith family Angerdd - Passion Daniel Glyn a Hannah Daniel - Sioe Frecwast Radio Cymru 2 Penblwydd hapus iawn i Shan Cothi. Yr actores Hannah Daniel oedd yn ateb Cwestiynau Diog Daniel Glyn wythnos diwetha a dyma i chi flas ar ei hatebion hi… Cwestiynau diog - Lazy Questions Cymeriad - Character Eitha pert - Quite pretty Hoff lwyfan - Favourite stage Amgueddfa - Museum Darlithoedd - Lectures Atgofion melys iawn - Very sweet memories Lisa Gwilym a Gary Melville Yr actores Hannah Daniel yn cofio am ei dyddiau ysgol wrth ateb Cwestiynau Diog Daniel Glyn. Lisa Gwilym oedd yn cyflwyno rhaglen Aled Hughes wythnos diwetha a buodd hi’n sgwrsio gyda Gary Melville am hanes recordiau 7 modfedd… Unol Daleithau - United States Poblogaidd - Popular Creu - To create Offer - Equipment Gwasgu - To press Rhyddhau - To release Gan amla(f) - More often than not Disodli - To replace Trystan ac Emma – Post Cyntaf Dipyn bach o hanes y byd recordiau yn fan’na gan Gary Melville. Cafodd seremoni wobrwyo BAFTA Cymru ei chynnal nos Sul a dau o’r enillwyr oedd Trystan Ellis Morris ac Emma Walford am eu gwaith yn cyflwyno’r gyfres Prosiect Pum Mil. Kate Crocket gafodd gyfle i longyfarch y ddau ar Post Cynta’ fore Llun… Seremoni wobrwyo - Award ceremony Llongyfarchiadau - Congratulations Mae’n rhaid (i mi) cyfadde - I must admit Llond y lle - Full up Wedi cael eu henwebu - Had been nominated Cefndryd - Male cousins Esblygiad - Evolution Yn y bôn - Basically Cymunedau - Communities Cyfranwyr - Contributors Cyflawni - To achieve
Croeso i bennod y Mis Du! Yn y rhifyn hwn mae gyda ni sgwrs rhwng y ddau Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd a Jim Parc Nest, Gorffwysgerdd Farfog gan Iwan Rhys, Talwrn y Beirdd Ifanc, Pos Gurffydd a'i obennydd miniog a llawer mwy!
John Peel, Manw Lili, Siobhan Davies, Elin Fflur, Llyr ap Cenydd a Stephen Jones.
C'mon Midffild, Dylanwad, Ken Thomas, Guto Dafydd, Taro'r Post a Manw Lili.
Ym mhennod y mis Du mae gyda ni gerdd newydd sbon gan y bardd a'r artist Manon Awst wedi ei recordio ym Marclodiad y Gawres. Sgwrs ddifyr gyda Phrifardd Cadeiriol Eisteddfod Caerdydd, Gruff Sol, eitem ar gynganeddu Llydaweg, pos Gruffudd Antur a llawer mwy!
Stori Ceinwen (Bedydd 18 Tachwedd 2018)
Neges Rhys Llwyd ar achlysur Bedydd Ceinwen - 18 Tachwedd 2018
Dai Francis, Hanner Call, Passendale, Nerys Bowen, Julie Goodfrey, a Gillian Elisa.
Ar bennod mis tywyll Tachwedd - bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dweud tata wrth terabytes o luniau Flickr, trafod y Google walkout a jyst pa mor doji ydy Silicon Valley. Yn yr afterparty mae hi’n Llyfr Glas Nebo spoiler-tastic, da ni’n Stanio’r doctor newydd, ynghyd â llwyth o sgwrs ffilms, teli a Gin (wrth gwrs)
Branwen Niclas, Steven Jones, Matthew Rhys, Tardis, Swci Delic, Post Prynhawn Tammy Jones
Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru yn arbennig i ddysgwyr Cymraeg.
Siop Ty'r Gwrhyd, Huw Stephens a Llio Davies, Diolchgarwch Efrog Newydd, Sue Jones Davies
Pennod lawn dop arall, o Lyfr y Flwyddyn, i daith Cywion Cranogwen, hanes teithjiau Aneurig i India a Llydaw, Cerdd newydd sbon yr Orffwysfa gan y Prifardd Emyr Lewis, Pos Gruffudd a'i ymennydd miniog, Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis a llawer mwy!
Aleida Guevara, Tylluanod, Sion Midway Rees, Grace Capper, Lyn Ebenezer ac Ar y Marc
Dawnsio tadau, steilio bwyd Mari, Lloyd Davies ym Matagonia a Tiger Bay Dafydd James
Lloyd Macey, Kees Huysmans, John ac Alun, Owen Powell, Dafydd Ieuan, Mark Kendall.
1. Pwnco: sgwrs ag Elinor Wyn Reynolds a Gwennan Evans am ferched yn y sîn farddol 2. 29:10 Yr Orffwysfa: cerdd gan Marged Tudur 3. 31:19 Llinell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis! 4. 38:03 Pryd o Dafod: yr acen 5. 41.58 Sgwrs â Dwynwen, cynhyrchydd Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru 6. 47.13 Newyddion
Yn rhifyn mis Tachwedd bydd Iestyn, Sioned a Bryn yn sgwrsio am ddiogelwch Talk Talk, yn codi gwydraid i gofio Telsa Gwynne ac yn clymu eu tafodau rownd Duolingo yn y Gymraeg. Hyn i gyd a llwyth o sangiadau a tangiadau off i lwyth o lefydd diddorol (a lot o drafod pa mor enwog di’r cyfranwyr. Sboilar: ddim yn enwog o gwbl) Mwynhewch a diolch am wrando! Dolenni Telsa Gwynne (1969 – 2015) Second teenager arrested over TalkTalk data breach Introducing the Linus Yale lock UNICEF, Target team up to sell kids’ fitness bands that help save lives Incubator Duolingo Cymraeg Coffee with a Googler: Chat with Macduff Hughes (100 Days of Google Dev) 10 Things Back to the Future 2 Got Right The post Haclediad 45: Siarad Siarad, cofio hen ffrindiau a Duolingo appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.
Dr Robin Gwyndaf yw'r gwestai ar raglen Beti a'i Phobol. Darlledwyd y sgwrs - Tachwedd 30, 2014.
Beti George yn sgwrsio gyda'r dramodydd Gwenlyn Parry. Darlledwyd y sgwrs Chwefror 25, 1988 ac ail ddarlledwyd Tachwedd 08, 2001.
Beti George yn sgwrsio gyda'r actor Gareth Lewis. Darlledwyd y sgwrs Tachwedd 7, 2010.
Cyfweliad gyda Watcyn a Lowri James ar waith Cymdithas y Beibl. Yn dilyn mae Watcyn yn pregethu ar bennod cyntaf o'r Efengyl yn ol Ioan
Pregeth Wyn Jones - Darganfod Tachwedd 2011
Clyde Briggs yn esbonio cefndir a gwaith y mudiad 'Open Doors' ac yn rhannu ei frwdfrydedd dros genhadaeth y mudiad