Podcasts about iestyn tyne

  • 5PODCASTS
  • 19EPISODES
  • 45mAVG DURATION
  • ?INFREQUENT EPISODES
  • Feb 27, 2025LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about iestyn tyne

Latest podcast episodes about iestyn tyne

Clera
Clera Chwefror 2025

Clera

Play Episode Listen Later Feb 27, 2025 93:15


Croeso i bennod y mis bach o bodlediad barddol Clera. Y tro hwn cawn gwmni difyr Y Prifardd Rhys Iorwerth a Gruff Davies sy'n trafod y ffilm newydd Bardd Gwlad, yn ogystal â cherdd yn egsliwsif o gyfrol newydd Jo Heyde. Ar ben hynny, cawn hefyd gerdd newydd sbon gan Fardd Tref Caernarfon, Iestyn Tyne. Hyn, a llawer mwy!

croeso hyn iestyn tyne
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd yr 28ain 2003.

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Nov 28, 2023 15:31


1 Byd y Bandiau Pres:Ar raglen Byd y Bandiau Pres nos Sul y 12fed o Dachwedd, John Glyn Jones, oedd gwestai Owain Gruffudd Roberts. Mi roedd John Glyn yn arfer arwain Seindorf Arian yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog ond yn y clip nesa ma, cofio Band Pres Ieuenctid Gwynedd a Môn mae'r ddau, pan oedd Owain yn aelod o'r band a John yn arwain:Arwain Seindorf Arian To conduct the Silver Band Band Pres Brass band Ieuenctid Youth Dyddiau aur Golden era Tu hwnt o lwyddiannus Extremely successful Uchafbwynt Highlight Safon Quality Pencampwriaeth Championship Ac felly bu And so it was Disgyblion Pupils2 Beti a'i Phobol:John Glyn Jones ac Owain Gruffudd Roberts oedd y rheina'n cofio eu hamser efo'r band pres.Tomos Parry, cogydd a pherchennog tri bwyty yn Llundain oedd gwestai Beti George yn ddiweddar. Mae Tomos yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae o'n brysur yn rhedeg bwytai Brat, Mountain a Brat Outdoors. Mi enillodd o seren Michelin yn Brat, ei fwyty cyntaf. Yma, mae'n sôn am bobl enwog sydd wedi bod yn ei fwytai:Cynhwysion Ingredients Yn weddol gyson Fairly regularly Aballu And so on Cefnogol Supportive Ysbrydoli To inspire Cerddoriaeth Music3 Rhaglen Ifan gyda Hana Medi yn cyflwyno:Tomos Parry y cogydd oedd hwnna, ac mae'n amlwg bod pobl enwog ar draws y byd yn mwynhau dod i'w fwytai.Gwestai ar raglen Hana Medi oedd Esyllt Ellis Griffiths Llysgenhades Sioe Frenhinol 2024. Mi fuodd hi'n sôn am gale ndr sy newydd ei gyhoeddi i godi arian at apêl y Sioe Frenhinol yn 2024 – Sioe'r Cardis fel mae'n cael ei galw! Ond ddim calendr arferol ydy hon, o na ond un noeth!…Llysgenhades Ambassador Noeth Naked Pwyllgorau Committees Trefniadau Arrangements Pen tost Cur pen Balch Pleased Ar y cyfan On the whole Ffili Methu Elusennau Charities Cwympo mas Falling out Cneifio Shearing4 Rhalgen Ffion Dafis:Wel dyna i chi gesys ynde? Dw i'n siŵr bydd y calendr yn gwerthu'n arbennig o dda!Ar Sul y 19eg o Dachwedd, Hywel Gwynfryn oedd gwestai Ffion Dafis. Mae Hywel newydd gyhoeddi cofiant yr actores Siân Phillips, ac mae o ar gael yn y siopau rŵan ar gyfer y Nadolig. Yma mae Hywel yn sgwrsio am y broses o sgwennu‘r cofiant:Cofiant Biography Rŵan ac yn y man Now and then Yn awyddus Eager Hunangofiant Autobiography Deugain mlynedd 40 years Rhwyd Net Daeth e i fwcwl Came to fruition Gogwydd An angle I raddau To an extent Ffynhonnell Source Ysgrifau Articles 5 Dros Ginio:Ia, dyna fasai anrheg Nadolig gwerth chweil i rywun ynde - cofiant Sian Phillips gan Hywel Gwynfryn.Ers dechrau'r rhyfel yn Gaza, mae'r bardd Iestyn Tyne wedi bod yn cydweithio gyda beirdd o Balesteina i gyfieithu eu gwaith a rhoi llwyfan Gymraeg i'w lleisiau a'u profiadau. Mi fuodd o'n trafod y gwaith efo Rhodri Llywelyn ar Dros Ginio bnawn Llun wythnos diwetha:Beirdd Poets Llwyfan A stage Barddoniaeth Poetry Estyn allan To reach out Mewn difri Seriously Ymwybyddiaeth Awareness Gweithred fach A small deed6 Aled Hughes:Prosiect diddorol iawn gan Iestyn Tyne yn cyfieithu gwaith beirdd Palesteina i'r Gymraeg.Ddydd Mawrth yr 21ain o Dachwedd, Lisa Fearn y gogyddes yn oedd yn cadw cwmni i Aled Hughes. Sôn am daffi triog oedd hi ac am y traddodiad o fwyta'r taffi yr amser yma o'r flwyddyn:Taffi triog Treacle toffee Cyflaith Toffee Yn rheolaidd Regularly Traddodiad Tradition Gwirionedd Truth Canrif Century Ar ddihun Awake

PenRhydd
Mared Llywelyn a Buddug Roberts

PenRhydd

Play Episode Listen Later Nov 27, 2023 28:38


Beth yw'r grymoedd sy'n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd son gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.Heddiw, y ddau sy'n darllen a datgymalu darnau o'u gwaith, yng nghwmni Iestyn Tyne fydd Mared Llywelyn a Buddug Roberts.Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

PenRhydd
Eluned Gramich a Sara Borda Green

PenRhydd

Play Episode Listen Later Nov 21, 2023 32:37


Beth yw'r grymoedd sy'n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd son gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.Heddiw, y ddau sy'n darllen a datgymalu darnau o'u gwaith, yng nghwmni Grug Muse fydd Eluned Gramich a Sara Borda Green.Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru

PenRhydd
Llŷr Titus a Peredur Glyn

PenRhydd

Play Episode Listen Later Nov 13, 2023 31:03


Beth yw'r grymoedd sy'n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd son gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.Heddiw, y ddau sy'n darllen a datgymalu darnau o'u gwaith, yng nghwmni Iestyn Tyne fydd Llŷr Titus a Peredur Glyn.Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

PenRhydd
Alun Parrington

PenRhydd

Play Episode Listen Later Nov 6, 2023 24:45


Beth yw'r grymoedd sy'n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd son gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.Y sgwennwr comedi, Alun Parrington, sy'n darllen ac yn datgymalu darnau o'i waith heddiw, yng nghwmni Grug Muse.Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

PenRhydd
Dylan Huw a Talulah Thomas

PenRhydd

Play Episode Listen Later Oct 30, 2023 29:54


Beth yw'r grymoedd sy'n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd sbon gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.Yn y bennod hon, y ddau sy'n darllen a datgymalu darnau o'u gwaith, yng nghwmni Grug Muse fydd Dylan Huw a Talulah Thomas.Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru

PenRhydd
Marged Elen a Leo Drayton

PenRhydd

Play Episode Listen Later Oct 23, 2023 29:15


Beth yw'r grymoedd sy'n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd son gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.Yn y bennod hon, y ddau sy'n darllen a datgymalu darnau o'u gwaith, yng nghwmni Iestyn Tyne fydd Marged Elen a Leo Drayton.Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru

PenRhydd
Marged Tudur a Steffan Gwynn

PenRhydd

Play Episode Listen Later Oct 17, 2023 29:51


Beth yw'r grymoedd sy'n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd sbon gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.Yn y bennod hon, y ddau sy'n darllen a datgymalu darnau o'u gwaith, yng nghwmni Grug Muse fydd y beirdd Marged Tudur a Steffan Gwynn.Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru

PenRhydd
Croeso i bodlediad PenRhydd

PenRhydd

Play Episode Listen Later Oct 9, 2023 0:56


Croeso i bodlediad PenRhydd.Beth yw'r grymoedd sy'n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd?Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd sbon gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 1af 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Aug 1, 2023 18:16


SHELLEY & RHYDIAN Yr awdures Manon Steffan Ros oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae Manon wedi ennill Gwobr Medal Yoto Carnegie am ei llyfr “The Blue Book of Nebo” sy'n gyfieithiad o'i llyfr “Llyfr Glas Nebo” enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018. Sut deimlad oedd ennill gwobr Carnegie tybed… Y Fedal Ryddiaith The prose medal Wedi gwirioni Over the moon Braint Privilege Enwebu To nominate Rhestr fer Short list Coelio Credu Trosi To translate Yn reddfol Instinctively Addasu To adapt Llenyddiaeth Literature Hunaniaeth Identity CLONC Manon Steffan Ros oedd honna'n sôn am lwyddiant anferthol “Llyfr Glas Nebo” sydd wedi ei gyfieithu i nifer fawr o ieithoedd. Roedd rhaglen gomedi newydd ar Radio Cymru dros y penwythnos, wedi cael ei hysgrifennu gan Tudur Owen, Sian Harries a Gareth Gwynn. Mae Gareth yn dysgu Cymraeg, a dyma i chi Radio Clonc... Sy berchen Who owns Yn sgil As a result of Disgyrchiant Gravity Wedi cythruddo Has angered Atal To stop Synau Sounds Cael eu hystyried Being considered Anferth Huge Gwichian To squeak Y diweddara The most recent ALED HUGHES Doniol iawn on'd ife? Blas ar Radio Clonc yn fanna – rhaglen gomedi newydd Radio Cymru. Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Gwilym Morgan, enillydd Medal y Dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023, a hefyd gyda Rebecca Morgan, ei athrawes, a hithau wedi ennill Medal y Dysgwyr yn 2018. Mae Gwilym yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Caerdydd a dyma fe'n sôn am ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol... Doniol Funny Disgybl Pupil Ysbrydoli To inspire Cwblhau To complete Y genhedlaeth nesa The next generation Yn amlwg Obvious Ewch amdani Go for it ALED HUGHES Wel dyna stori dda on'd ife? Yr athrawes a'r disgybl wedi ennill Medal y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd. Ar raglen Aled Hughes clywon ni Iestyn Tyne, bardd preswyl Eisteddfod Llyn ac Eifionydd, yn sôn am y llaw-lyfr lliwgar ar gyfer ymwelwyr a dysgwyr, neu siaradwyr newydd, i'r Eisteddfod eleni. Aled Hughes fuodd yn ei holi. Bardd preswyl Resident poet Deunydd Material Diwylliant Culture Arwynebol Superficial Annog To encourage Gafael weddol A reasonable grasp Cenedl ddwyieithog A bilingual nation Safbwynt Perspective Pwyllgor Llen Literature committee Gwaddol Residue BORE COTHI On'd yw hi'n dda o beth bod yr Eisteddfod yn gwneud yn siŵr bod croeso i bawb ym Moduan eleni? Mae'r tri chlip nesa i gyd i wneud ag amaethyddiaeth, a hynny gan fod y Sioe Fawr, neu'r Sioe Frenhinol wedi cael ei chynnal yn Llanelwedd yr wythnos diwetha. Bechgyn “Trio” oedd gwesteion arbennig Shân Cothi yn y Sioe Fawr a chafodd Shân sgwrs gyda'r tri cyn iddyn nhw ganu ar lwyfan Radio Cymru yn y Sioe. Mae'r cantorion Emyr Wyn Gibson, Bedwyr Gwyn Parri a Steffan Lloyd Owen yn dathlu 10 mlynedd eleni fel Trio. Amaethyddiaeth Agriculture Y Sioe Fawr The Royal Welsh Dwlu Hoff iawn Asiad y lleisiau The blend of the voices Cyfarwyddiadau Instructions Yn unigol Individually Doniau Talents Yndw Ydw Droeon Many times BORE COTHI Un arall welodd Shan Cothi ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd fore Iau oedd Huw Williams o'r Felinheli ger Caernarfon. Mae Huw yn ffarmwr balch ac ar dân dros gefn gwlad ac amaethyddiaeth. Balch Proud Ydy glei Of course it is Golygfeydd godidog Superb views Yn gyfarwydd Familiar Cynnyrch Produce Ffasiwn angerdd Such passion Dieithr Unfamiliar Beirniadu To judge Annerch To address (a meeting) BETI A'I PHOBOL ..ac mae Huw yn llawn angerdd dros amaethyddiaeth on'd yw e? Mared Rand Jones oedd gwestai Beti George. Cafodd ei magu ar fferm yng Ngheredigion, ac ymunodd hi â'r Ffermwyr Ifanc pan oedd hi'n ddeuddeg oed. Erbyn hyn hi yw Prif Weithredwr y mudiad a dyma hi'n sôn am ei thad wnaeth ddysgu Cymraeg ar ôl cwrdd â mam Mared... Prif Weithredwr Chief Executive Bant I ffwrdd Mynychu To attend

trio sh medal carnegie nebo blas yr blue book huw iau cymraeg eisteddfod sut caernarfon rebecca morgan awst podlediad sian harries radio cymru gareth gwynn urdd erbyn cafodd beti george iestyn tyne
Clera
Clera Ionawr 2023

Clera

Play Episode Listen Later Jan 25, 2023 74:17


Croeso i bennod mis y Cariadon. Ym mhennod mis Ionawr o clera cawn sgwrs gyda g Golygydd blodeugerdd wych newydd o'r enw 'Cariad, (Cyhoeddiadau Barddas), sef Mari Lovgreen. Cawn hefyd Orffwysgerdd gan Iestyn Tyne o'i gyfrol ddigidol newydd, 'Dileu', y Delicassy gan (Tudur) Dylan a Gruffudd Antur sy'n pwnco gyda ni am Eisteddfod fawreddog Caerwys, 1523 a'i harwyddocâd.

ym eisteddfod croeso cawn iestyn tyne
Colli'r Plot
Eisteddfod, Gwobrau a beirniaid

Colli'r Plot

Play Episode Listen Later Aug 9, 2022 43:44


Trafod gwobrau, beirniadaethau a phrofiadau Eisteddfod Tregaron 2022.Diolch i Siôn Tomos Owen am y llun anhygoel o'r pump ohonnom.Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:Pridd - Llŷr TitusFrankenstein - Mary ShelleyDracula - Bram StokerCapten - Meinir Pierce JonesModryb Lanaf Lerpwl - Meinir Pierce JonesFive Minutes of Amazing, My Journey Through Dementia - Chris GrahamHedyn / Seed - Caryl LewisAm I Normal Yet - Holly BourneStryd Y Gwystion - Jason MorganY Pump - Elgan Rhys, Tomos Jones, Mared Roberts, Ceri-Anne Gatehouse, Iestyn Tyne, Leo Drayton, Marged Elen Wiliam, Mahum Umer, Megan Angharad Hunter, Maisie AwenManawydan Jones: Y Pair Dadeni - Alun DaviesAsiant A: Her LL - Anni LlŷnNico - Leusa Fflur Llewelyn

Clera
Clera Gorffennaf 2022

Clera

Play Episode Listen Later Jul 29, 2022 66:32


Croeso i rifyn rhagflas y Brifwyl! Gyda chyfraniadau difyr a doeth gan Jo Heyde (trafod llyfrau barddol llyfr y flwyddyn), Anwen Pierce (Cywydd Croeso yr Eisteddfod), Gruffudd Eifion Owen a Iestyn Tyne yn ymateb i sylwadau gan Eifion Wyn a llawer mwy.

Clera
Clera Rhagfyr 2018

Clera

Play Episode Listen Later Dec 23, 2018 69:48


Nadolig llawen i chi gyd! Pennod lawn dop arall, gydag eitem arbennig am holl gyfrolau barddol y flwyddyn yng nghwmni'r bardd, yr artist a'r cerddor Iestyn Tyne. Sgwrs gydag Eurig ar ei awdl a ddaeth mor agos at gipio Cadair Caerdydd, eitem arall am farddoni yn Llydaweg, Cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Idris Reynolds, Pos Gruffudd a'i ymennydd miniog a llond sach Santa o bethau difyr eraill.

santa pennod nadolig sgwrs rhagfyr iestyn tyne
Podpeth
Podpeth #39 - Sesiwn Fawr 2017

Podpeth

Play Episode Listen Later Jul 24, 2017 66:17


Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn cerdded o gwmpas Dolgellau ar y Dydd Sul, lle mae Iestyn Tyne yn bwyta wyau a'r comedïwr Dan Thomas yn trafod The Room. Yn ogystal â hyn, mae Guto Howells, Gerwyn Murray, Gwilym Bowen Rhys a Gruff Jones yn ymddangos, ac mae Iwan yn sôn am be ddigwyddodd pan aeth o am suit fitting. Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - "Lle Mae Wali?".

Podpeth
BONWS Podpeth - Iestyn Tyne

Podpeth

Play Episode Listen Later Apr 26, 2017 79:39


Ei'n gwestai wythnos yma ydi'r bardd Iestyn Tyne!  Mae cyfrol newydd Iestyn - "Addunedau" ar gael rwan, a mae rhifyn gyntaf Y Stamp ar gael rwan hefyd - https://ystamp.cymru/2017/03/25/rhifyn-y-stamp-1/

iestyn tyne podpeth
Podpeth
Podpeth #30 - Podty Ping

Podpeth

Play Episode Listen Later Apr 24, 2017 62:26


Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn eistedd yn yr ardd i drafod newidiadau mawr fydd yn digwydd i'r Podpeth yn fuan.  Mae'r bardd/cerddor Iestyn Tyne yn ymuno a ni i ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Hefyd, mae @SpursMel efo DAU SyniaDad(au) - "Dadansoddi'r Ser" a "Bwydydd Y Bandiau".

Clera
Clera Ebrill 2017

Clera

Play Episode Listen Later Apr 9, 2017 72:04


Y podlediad barddol misol llawn o farddoni, cloncan a difyrrwch. Y Mis hwn mae gyda ni drafodaeth Pwnco ar yr Awdl gyda chyfraniad i'r sgwrs gan y prifardd Tudur Dylan Jones, sgwrs gyda'r Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, Cerdd yn yr orffwysfa gan Iestyn Tyne, pos Gruffudd a'i ymennydd miniog, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis, hanes gornest gyntaf tim newydd sbon o feirdd ar y talwrn, llwyth o newyddion a mwy!

ifor gruffudd ebrill iestyn tyne