POPULARITY
Where will benefits cuts hit hardest? What's the impact of public sector pay rises in Wales? James and Fliss are joined by Policy in Practice's Sam Fathers, Welsh Labour's Mick Antoniw MS, and Nicky Hughes from the Royal College of Nursing to discuss. And, with the Eisteddfod yr Urdd well underway, James and Fliss also catch up with Welsh Language Commissioner, Efa Gruffudd Jones to talk targets.
Daw Eurgain o Benisa'r-waun yn Eryri ond mae hi'n byw ym Mhontypridd erbyn hyn gyda'i gwr a'u dau o blant. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau, ac wedi ennill sawl gwobr am lenydda gan gynnwys Coron Eisteddfod yr Urdd. Eurgain oedd enillydd y fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2024 gyda ' Y Morfarch Arian' . Mae hi'n gweithio fel Uwch Reolwr y Cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru.
‘Sgwrsio' ydy enw'r podlediad hwn ac mae'n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Isabella Colby Browne, enillydd Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod eleni. Cafodd Isabella ei geni yn America cyn symud i'r Wyddgrug pan yn ifanc. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores.
Croeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y rhifyn hwn, cawn sgwrs ddifyr gyda Bardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd eleni, Lois Medi Wiliam. Cawn hefyd sgwrs ddifyr am bamffledi gyda dau fardd sy'n cyhoeddi pamffledi newydd, sef Mari George a Jo Heyde. Cawn hefyd flas o gerddi arobryn Cadair Gŵyl Fawr Aberteifi, gan yr enillydd, Lowri Lloyd. Hyn a llawer mwy. Mwynhewch!
Mae criw Colli'r Plot wedi colli'r plot!Trafod bob dim dan haul yn cynnwys Eisteddfod yr Urdd, Gŵyl Y Gelli, a llyfrau (ond dim gymaint ag arfer).Dafydd yn datgelu ei hoffter am gofleidio coed ac yn ddatgelu noddwr newydd Colli'r Plot.Rhowch gwtsh i goeden.Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:Trigo - Aled EmyrHomegoing - Yaa GyasiThe Wall – Marlen Haushofer (cyfieithiad Shaun Whiteside)Tir y Dyneddon - E. Tegla DaviesYellowface - Rebecca F. KuangArwana Swtan a'r Sgodyn Od - Angie Roberts a Dyfan RobertsCamu - Iola YnyrDemon Copperhead - Barbara KingsolverHow to Read A Tree - Tristan Gooley
Beti George sy'n sgwrsio gyda Nia Bennett, Cadeirydd Mudiad yr Urdd.Fe gafodd ei hudo i fyd adnoddau dynol HR pan oedd hi'n astudio drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ôl cyfnod yn gweithio ym Mrwsel i Eluned Morgan, bu'n gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd ac yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cymdeithas Tai Taf, gan weithio gyda'r gymuned Somali. Mae hi'n frwd dros helpu cwmnïau i lwyddo, a bu'n rhan o ail strwythuro llywodraethant yr Urdd. Mae hi wedi wynebu sawl her ac fe gawn glywed yr hanesion hynny.
Hawddamor, glwysgor glasgoed! Croeso i bennod Mis Mai o bodlediad Clera. Yn hoff fis Dafydd ap Gwilym cawn drafod llawysgrif newydd y mae'r Llyfrgell genedlaethol newydd ei brynu, Llyfr y Flwyddyn 2024, Eisteddfodau yr Urdd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam ac fe gawn hefyd gerddi gan Aron Pritchard ac Aled Lewis Evans. Hyn oll, a mwy!
Ar Blât – Elinor SnowsillY cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda'r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta'n dda ac yn iach pan oedd hi'n ifanc…?Cyn-chwaraewr Former player Rysetiau Recipes Atgofion Memories Gwrthod To refuse Cytbwys Balanced Adnabyddus Famous Wastad AlwaysDros Frecwast – Toiledau CyhoeddusWel dw i'n siŵr bod Elinor yn bwyta'n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi'n ifanc! Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy'n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi … Diffyg Lack of Cyflwr Condition Coluddyn Bowel Rheolaeth Control Straen Stress Croen Skin Ar hap Randomly Ailadroddus Repetitious Cyfleusterau cyhoeddus Public conveniences Cymryd yn ganiataol Taking for grantedBore Cothi – Menna WilliamsLois Mererid Edwards oedd honna'n sôn am pa mor bwysig yw bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael, yn enwedig i'r rhai sy'n diodde o gyflwr meddygol. Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Gwobr yw hon sy'n cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. Wythnos diwetha, Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes, a chafodd hi sgwrs fach gyda Menna ar y rhaglen: Tlws Trophy Cyfraniad sylweddol A substantial contribution Braint A privilege Dirprwy Deputy Cyfeilio To accompany (on piano) Amyneddgar iawn Very patient Llenni Curtains Deuawd Duet Pan ddaru o Pan wnaeth e Ienga Ifanca Anrhydedd An honourBeti a'i Phobol – Shelley ReesA llongyfarchiadau mawr i Menna Williams ar ennill y Tlws arbennig yna, dw i'n siŵr bydd hi'n mwynhau'r seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Shelley Rees yr actores, a chyflwynydd Radio Cymru oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen nos Sul. Yma mae Shelley yn sôn am actio. Mae hi wedi perfformio ers pan oedd hi'n blentyn bach, ond nawr bod hi'n bum deg oed tybed ydy hi'n anoddach iddi hi gael gwaith actio? Cyflwynydd Presenter Sefyll yn llonydd Standing still Menywod Merched Arallgyfeirio Diversify Ymgyrchu To campaign Egni Energy Drygionus Naughty Yn go glou Yn eitha cyflym Mam-gu Nain Taw MaiAled Hughes – SingaporeYchydig o hanes gyrfa actio Shelley Rees yn fanna ar Beti a'i Phobol. Basen ni'n disgwyl clywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, neu gweld eisteddfod mewn ysgol yng Nghymru …ond yn Singapore? Wel dyna sy'n digwydd mewn un ysgol draw ar yr ynys bell honno, diolch i bennaeth o Gymru, sydd wedi recriwtio nifer o athrawon Cymreig i weithio yn yr ysgol. Rhys Myfyr, un o athrawon yr ysgol fuodd yn sgwrsio gydag Aled Hughes: Pennaeth Head Rhyfedd Strange Rhyngwladol International Wedi ei leoli Located Diwylliannol Cultural Hap a damwain Luck Denu To attract Ymddiried To trust Cystadleuol CompetitiveDros Ginio – LlyfrauEisteddfod ysgol yn Singapore, gwych on'd ife? Tybed faint o lyfrau dych chi'n llwyddo i'w darllen o glawr i glawr? Yn ddiweddar, mae sawl ap yn crynhoi cynnwys llyfrau, ond ydy hyn yn mynd i gael effaith ar werthiant llyfrau? Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha, buodd Jennifer Jones yn holi'r awdur a'r golygydd, Elinor Wyn Reynolds am ei barn: Clawr Cover Crynhoi cynnwys To summarise the content Cyfrolau Books Adolygiadau Review Yn ei chrynswth In its entirety Drwgdybus Suspicious Yn hytrach na Rather than Bod dynol Human being Bygythiad Threat Annog To encourage Agor cil y drws To open the door slightly
Bob wythnos ar raglen Bore Cothi mae Shân yn sgwrsio efo gwesteion am eu Atgofion cynta. Ac yn y clip hwn mae Tara Bethan yn cofio am yr arogl cynta, ac mae'r arogl yma wedi gwneud dipyn o argraff arni hi: Atgofion Memories Arogl Smell Argraff Impression Chwyslyd Sweaty Dw i'n medru eu hogla fo I can smell it Cael fy ngwarchod Being looked after Golygu'r byd Means the world Delwedd Image Carco To take care of Tara Bethan yn fanna yn cofio aroglau chwyslyd y reslars! Fel rhan o Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg mae Aled Hughes wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yng nghynllun Siarad y Ganolfan Dysgu Cymraeg. Yn ddiweddar mi gafodd ei sgwrs gyntaf gyda'i bartner dysgu, sef Chloe Edwards, sy'n byw ym Mhenmaenmawr ond sydd yn wreiddiol o Cryw. Dyma Chloe yn sôn am sut daeth hi i ddysgu Cymraeg yn y lle cyntaf: Gwirfoddoli Volunteering Unrhyw gysylltiad Any connection Ymwybodol Aware Gwatsiad Gwylio Anhygoel Incredible Wel mae Aled wedi cael partner Siarad diddorol iawn yn Chloe yn tydy o? Francesca Sciarrillo oedd gwestai Ffion Emyr, hi oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro yn 2019. Cafodd Francesca ei magu yn Sir y Fflint, ond Eidalwyr ydy ei theulu hi. Mi ddysgodd Francesca Gymraeg fel oedolyn ac erbyn hyn mae hi'n ac yn gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru, yn hyrwyddo darllen i blant a phobol ifanc. Hyrwyddo To promote Wastad Always Parchu penderfyniad Respect the decision Cymuned Community Diolchgar Thankful Mor raenus So polished Heriol Challenging Gwerthfawr Valuable Ac mae Francesca yn gweithio'n rhan amser erbyn hyn fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Yr actores Mali Ann Rees oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Pan oedd hi'n 17 oed mi fuodd hi'n fyfyrwraig mewn Coleg yn India am ddwy flynedd yn astudio bagloriaeth rhyngwladol. Mae Mali yn un o'r actoresau mwya enwog Cymru ac wedi actio yn Craith, The Tourist Trap a The Pact. Mae hi hefyd yn un o dair sy'n cyfrannu i'r podlediad wythnosol, Mel Mal a Jal, sef tair Cymraes siaradus. Yn y clip hwn mae Mali yn trafod y profiad o hiliaeth gafodd yn yr ysgol ac yn India: Hiliaeth Racism Bagloriaeth rhyngwladol International Baccalourate Beirniadaeth Critisism Hunaniaeth Identity Hiliol Racist Chwerthin To laugh Trin To treat Gwerthfawr Valuable Mali Ann Rees oedd honna'n sôn am brofiadau o hiliaeth annifyr iawn gafodd hi yn yr Ysgol ac yn y coleg. Nos Lun y 23ain o Hydref Marci G oedd yn sedd Caryl Parry Jones ac mi gafodd o gwmni Sian Elin Thomas oedd yn sôn am ddathliadau penblwydd Aelwyd Crymych yn 80 oed. Mae Sian wedi bod yn aelod ei hun am nifer o flynyddoedd ac yn y clip mi wnewch chi ei chlywed yn egluro beth yn union ydy Aelwyd yr Urdd... Aelod Member Cefnogol Supportive Traddodiad Tradition Arwain Leading Dathliad A celebration Llywydd anrhydeddus Honorary President Arddangosfa Exibition Lluniaeth Refreshments A penblwydd hapus i Aelwyd Crymych a gobeithio i chi ddathlu mewn steil ynde? Nos Fawrth ddiwetha ar raglen Georgia Ruth, roedd Glyn ac Ellis o'r band Mellt yn cadw cwmni iddi hi. Roedden nhw wedi dod adra i Aberystwyth i ymweld â rhai o'r lleoliadau oedd yn bwysig iddyn nhw fel band, gan gynnwys y sied yng ngwaelod gardd tŷ Glyn lle buon nhw'n recordio. Yn y clip hwn mae Glyn yn sôn wrth Georgia am bwysigrwydd geiriau eu caneuon, a'r defnydd o Gymraeg naturiol, bob-dydd: Lleoliadau Locations Cymhleth Complicated Denu mewn To draw in Pert Pretty Sa i'n gwybod Dw i ddim yn gwybod
Elin Maher yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae hi'n gweithio fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg, ac yn ymgynghorydd iaith ac addysg lawrydd ers nifer o flynyddoedd bellach - ac wedi bod yn gweithio yn y byd addysg ac o fewn maes datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol trwy gydol ei gyrfa, gyda'r Gymraeg a dwyieithrwydd yn graidd i'w gwaith. Yn enedigol o Gwm Tawe, ond yn byw yng Nghasnewydd gyda'i theulu ers ugain mlynedd. Mae'n parhau i weithio'n ddyfal yn datblygu addysg Gymraeg a'r Gymraeg o fewn y gymuned yng Ngwent a thu hwnt drwy ei gwaith fel llywodraeth wraig ysgol brofiadol ac aelod o fyrddau nifer o elusennau lleol a chenedlaethol. Bu'n byw yn yr Iwerddon am gyfnod ar ôl priodi Aidan yn 1998, fe gwrddodd y ddau yn 1993 pan oedd Elin wedi mynd efo'r Urdd i wersyll yn Iwerddon gan fudiad tebyg iawn i'r Urdd. Bu hefyd yn byw am gyfnod yn Angers, ardal y Loire yn Ffrainc yn ystod ei blwyddyn allan o'r Brifysgol.
SHELLEY & RHYDIAN Yr awdures Manon Steffan Ros oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae Manon wedi ennill Gwobr Medal Yoto Carnegie am ei llyfr “The Blue Book of Nebo” sy'n gyfieithiad o'i llyfr “Llyfr Glas Nebo” enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018. Sut deimlad oedd ennill gwobr Carnegie tybed… Y Fedal Ryddiaith The prose medal Wedi gwirioni Over the moon Braint Privilege Enwebu To nominate Rhestr fer Short list Coelio Credu Trosi To translate Yn reddfol Instinctively Addasu To adapt Llenyddiaeth Literature Hunaniaeth Identity CLONC Manon Steffan Ros oedd honna'n sôn am lwyddiant anferthol “Llyfr Glas Nebo” sydd wedi ei gyfieithu i nifer fawr o ieithoedd. Roedd rhaglen gomedi newydd ar Radio Cymru dros y penwythnos, wedi cael ei hysgrifennu gan Tudur Owen, Sian Harries a Gareth Gwynn. Mae Gareth yn dysgu Cymraeg, a dyma i chi Radio Clonc... Sy berchen Who owns Yn sgil As a result of Disgyrchiant Gravity Wedi cythruddo Has angered Atal To stop Synau Sounds Cael eu hystyried Being considered Anferth Huge Gwichian To squeak Y diweddara The most recent ALED HUGHES Doniol iawn on'd ife? Blas ar Radio Clonc yn fanna – rhaglen gomedi newydd Radio Cymru. Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Gwilym Morgan, enillydd Medal y Dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023, a hefyd gyda Rebecca Morgan, ei athrawes, a hithau wedi ennill Medal y Dysgwyr yn 2018. Mae Gwilym yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Caerdydd a dyma fe'n sôn am ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol... Doniol Funny Disgybl Pupil Ysbrydoli To inspire Cwblhau To complete Y genhedlaeth nesa The next generation Yn amlwg Obvious Ewch amdani Go for it ALED HUGHES Wel dyna stori dda on'd ife? Yr athrawes a'r disgybl wedi ennill Medal y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd. Ar raglen Aled Hughes clywon ni Iestyn Tyne, bardd preswyl Eisteddfod Llyn ac Eifionydd, yn sôn am y llaw-lyfr lliwgar ar gyfer ymwelwyr a dysgwyr, neu siaradwyr newydd, i'r Eisteddfod eleni. Aled Hughes fuodd yn ei holi. Bardd preswyl Resident poet Deunydd Material Diwylliant Culture Arwynebol Superficial Annog To encourage Gafael weddol A reasonable grasp Cenedl ddwyieithog A bilingual nation Safbwynt Perspective Pwyllgor Llen Literature committee Gwaddol Residue BORE COTHI On'd yw hi'n dda o beth bod yr Eisteddfod yn gwneud yn siŵr bod croeso i bawb ym Moduan eleni? Mae'r tri chlip nesa i gyd i wneud ag amaethyddiaeth, a hynny gan fod y Sioe Fawr, neu'r Sioe Frenhinol wedi cael ei chynnal yn Llanelwedd yr wythnos diwetha. Bechgyn “Trio” oedd gwesteion arbennig Shân Cothi yn y Sioe Fawr a chafodd Shân sgwrs gyda'r tri cyn iddyn nhw ganu ar lwyfan Radio Cymru yn y Sioe. Mae'r cantorion Emyr Wyn Gibson, Bedwyr Gwyn Parri a Steffan Lloyd Owen yn dathlu 10 mlynedd eleni fel Trio. Amaethyddiaeth Agriculture Y Sioe Fawr The Royal Welsh Dwlu Hoff iawn Asiad y lleisiau The blend of the voices Cyfarwyddiadau Instructions Yn unigol Individually Doniau Talents Yndw Ydw Droeon Many times BORE COTHI Un arall welodd Shan Cothi ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd fore Iau oedd Huw Williams o'r Felinheli ger Caernarfon. Mae Huw yn ffarmwr balch ac ar dân dros gefn gwlad ac amaethyddiaeth. Balch Proud Ydy glei Of course it is Golygfeydd godidog Superb views Yn gyfarwydd Familiar Cynnyrch Produce Ffasiwn angerdd Such passion Dieithr Unfamiliar Beirniadu To judge Annerch To address (a meeting) BETI A'I PHOBOL ..ac mae Huw yn llawn angerdd dros amaethyddiaeth on'd yw e? Mared Rand Jones oedd gwestai Beti George. Cafodd ei magu ar fferm yng Ngheredigion, ac ymunodd hi â'r Ffermwyr Ifanc pan oedd hi'n ddeuddeg oed. Erbyn hyn hi yw Prif Weithredwr y mudiad a dyma hi'n sôn am ei thad wnaeth ddysgu Cymraeg ar ôl cwrdd â mam Mared... Prif Weithredwr Chief Executive Bant I ffwrdd Mynychu To attend
Croeso i'r bennod swmpusaf erioed o bodlediad Clera! Yn ogystal â thrin a thrafod y cyfnod hynod brysur sydd ar ein gwarthaf yn y byd barddol, a llongyfarch aml i fardd ar eu lwyddiannau, cawn orffwysgerdd yn egsliwsif gan fardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd, Tegwen Bruce-Deans. Cawn farn Jo Heyde hefyd ar lyfrau'r categori barddol yn Llyfr y Flwyddyn 2023 a llawer mwy.
Dyma'r cyntaf o bodlediad dwy ran a recordiwyd yn fyw yn Eisteddfod yr Urdd. Ymunwch â Daniel Davies o'r Gwasanaeth Cyflawniad Addysgol i arwain panel Trafod Addysgeg. Gwrandewch ar Manon Tinnuche (Ysgol Maes y Gwendraeth), Catherine Evans (Estyn), Gareth Owens (Ysgol Caerelen) a Meleri Jones (Ysgol Gyfun Penweddig) wrth iddynt drafod sut mae addysgeg yn esblygu o dan Gwricwlwm i Gymru. This is the first of a two part podcast recorded live at Eisteddfod yr Urdd. Join Daniel Davies from the Educational Achievement Service lead a Talk Pedagogy panel. Hear from Manon Tinnuche (Ysgol Maes y Gwendraeth), Catherine Evans (Estyn), Gareth Owens (Ysgol Caerelen) and Meleri Jones (Ysgol Gyfun Penweddig) as they discuss how pedagogy is evolving under Curriculum for Wales. This podcast is available in Welsh only.
Dyma'r ail o bodlediad dwy ran a recordiwyd yn fyw yn Eisteddfod yr Urdd. Ymunwch â Daniel Davies o'r Gwasanaeth Cyflawniad Addysgol i arwain panel Trafod Addysgeg. Gwrandewch ar Manon Tinnuche (Ysgol Maes y Gwendraeth), Catherine Evans (Estyn), Gareth Owens (Ysgol Caerelen) a Meleri Jones (Ysgol Gyfun Penweddig) wrth iddynt drafod y Gymraeg, nodi'r un peth yr hoffent ei newid am y system addysg a sut y gall yr Urdd helpu ysgolion i weithredu Cwricwlwm i Gymru. This is the second of a two part podcast recorded live at Eisteddfod yr Urdd. Join Daniel Davies from the Educational Achievement Service lead a i panel. Hear from Manon Tinnuche (Ysgol Maes y Gwendraeth), Catherine Evans (Estyn), Gareth Owens (Ysgol Caerelen) and Meleri Jones (Ysgol Gyfun Penweddig) as they discuss y Gymraeg, identify the one thing they'd like to change about the education system and how the Urdd can help schools implement the Curriculum for Wales. This podcast is available in Welsh only.
New studio, new Elis James and John Robins? Not a chance; no matter how many times one disgruntled listener might text into the show they'll never change their loveable ways! However, change was certainly afoot content wise, as the guys launched a brand spanking new feature which ticks all of Producer Dave's boxes (except maybe getting people ready for the weekend). Yes, you're about to hear the very first episode of DI Robbyns - and no, this isn't a Radio 4 podcast. Elsewhere, John comes up with about thirty different text topics, Elis shares his love for the inimitable Mr Urdd, Producer Dave brags about a recent purchase and a listener shares their musical talents LIVE on air.
Pigion Cofio Amelia Earhart 28.05 Gan fod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri wythnos diwetha, y dref honno a Sir Gar oedd thema'r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy. Buodd e'n chwilio am hanesion o'r sir a dyma i chi glip bach o raglen “Ddoe yn ôl” o 1983 a Gerald Jones, cyn bennaeth Brigâd Dan Sir Gaerfyrddin yn llygad dyst i Amelia Earhart yn glanio ym Mhorth Tywyn o'r America yn 1928. Llygad dyst Eye witness Arbenigo To specialise Lodes Merch Ehedeg Hedfan Porth Tywyn Burry Port O bellter From a distance Pigion Bore Sul Nicky John 28.05 Hanesion diddorol am Amelia Earhart yn fanna gan Gerald Jones . Gwestai arbennig Iwan Griffiths ar raglen Bore Sul oedd Nicky John, y gohebydd chwaraeon. Mae hi wedi gweithio ar raglen Sgorio ar S4C ers tua 17 o flynyddoedd, a dyma hi'n sôn am uchafbwyntiau ei gyrfa. Gohebydd Correspondent Uchafbwyntiau Highlights Dychryn To frighten Gwibio heibio Flying past (lit: darting past) Rhyngwladol International Braint Privilege Ar lawr gwlad At grassroots level Pigion Shelley & Rhydian Llyr Ifans 27.05 Wel ma Nicky John wrth ei bodd gyda'i gwaith on'd yw hi? Llyr Ifans oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae o'n cymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith ar S4C ar hyn o bryd yn helpu'r actor Neet Mohan, sydd i'w weld ar Casualty, i ddysgu Cymraeg. Buodd Llyr hefyd yn actio ar Casualty ddwywaith ac wedi dod ar draws Neet yn y gyfres... Cyfres Series Digwydd bod It so happened Bellach By now Awydd Desire Gweithgareddau Activities Carchar Rhuthun Ruthin Gaol Anhygoel Incredible Synau Sounds Pigion Bore Cothi Marlyn Samuel 29.05 A tasech chi eisiau gweld pa mor dda yw Llŷr fel tiwtor mae'n bosib ei weld yn dysgu Neet at S4C Clic. Elain Roberts enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd eleni , ond cafodd Shan Cothi sgwrs gyda un o gyn enillwyr y Fedal - yr awdures Marlyn Samuel. Enillodd Marlyn y Fedal yn Eisteddfod yr Urdd Merthyr Tydfil yn 1987. Ei ffug enw oedd ‘Sallad‘ – pam tybed? Wel ‘roedd Marlyn yn ffan mawr o'r opera sebon Dallas, ond tasai hi wedi rhoi Dallas fel enw basai pawb wedi ei hadnabod – felly penderfynodd droi'r enw o gwmpas! 22 oed oedd Marlyn ar y pryd, ac yn gweithio fel Gohebydd Môn a Gwynedd i'r rhaglen radio Helo Bobol Ffug enw Pseudonym Ffodus Lwcus Y flwyddyn cynt The previous year Testunau Syllabus (list of competitions) Cynrychiolydd Representative Fy nghyfnither My female cousin Duwadd annwyl Dear me Rhybudd Warning Dim siw na miw Not a word Pigion Siarcod Jake Davies 29.05 Marlyn Samuel oedd honna'n cofio'r adeg pan enillodd hi Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd. Y biolegydd Jake Davies, oedd yn sôn am siarcod oddi ar arfordir Cymru ar y rhaglen wyddonol Yfory Newydd. Mae'n gweithio i Gyfoeth Naturiol Cymru ac i Sw Llundain, a dyma fe'n siarad am ei waith yn astudio'r moroedd ym Mhen Llŷn... Cymunedau Communities Gwaith maes Fieldwork Abwyd Bait Mecryll Mackerels Rhywogaethau Species Bad achub Lifeboat Cynefinoedd Habitats Pigion Sara Gibson 31.05 Hawdd iawn gweld bod Jake yn frwd iawn am ei waith on'd yw hi? Bore Mercher roedd Sara Gibson yn cadw sedd Aled Hughes yn dwym. Cafodd hi sgwrs am y pryder ynglŷn â datblygiad deallusrwydd artiffisial. Dyma'r cerddor Lewys Meredydd yn sôn am effaith AI ar greu cerddoriaeth... Brwd Enthusiastic Pryder Concern Deallusrwydd Intelligence Creu Creating Bwrlwm Babble Yn y bôn Essentially Ffynnu To flourish Meddalweddau Software Cynhyrchu To produce
Pennod arbennig o faes Eisteddfod yr Urdd, Sir Gâr yn Llanymddyfri. Cawn sgyrsiau gyda chyn-enillwyr Cadair yr Urdd, Iwan Rhys a Kayley Sydenham ynghyd â chlywed gan Drefnydd Creadigol yr Eisteddfod, Llio Maddocks. Cawn hefyd gerdd gan Tegwen Bruce-Deans o'i chyfrol gyntaf, 'Gwawrio'.
Pigion Dysgwyr – Heledd Sion ...dwy Heledd - Heledd Cynwal a'r gwestai ar ei rhaglen, Heledd Sion. Buodd y ddwy yn sôn am fyd ffasiwn ac yn arbennig felly am ddillad ail law. Dyma Heledd Sion yn esbonio sut dechreuodd ei chariad hi at ffasiwn, a pham aeth hi ati i werthu hen ddillad ar y we Uwch seiclo To upcycle Gwinio To sew Cyfnither Female cousin Gwehyddu Weaving Yn llonydd Still Addasu To adapt Awch Eagerness Esblygu To evolve Didoli To sort Buddsoddi To invest Pigion Dysgwyr - Francesca Sciarillo Heledd Cynwal yn fanna'n cadw sedd Shan Cothi'n gynnes ac yn sgwrsio gyda Heledd Sion am uwch seiclo dillad. Francesca Sciarillo oedd Dysgwr y Flwyddyn yr Urdd yn 2019 ac eleni mae hi wedi bod yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Eidalwyr ydy rhieni Francesca, ac ar raglen Dei Tomos nos Sul buodd hi'n dweud faint o ddylanwad gafodd ei hathrawes Gymraeg arni, sef Nia Williams, pan oedd Francesca yn ddisgybl yn Ysgol Alun yr Wyddgrug . Disgybl Pupil Yr Wyddgrug Mold Dylanwad Influence Eidales Italian (female) Sylweddoli To realise Darganfod To discover Pigion Dysgwyr – Dion Davies Ac mae Francesca newydd gael ei phenodi fel swyddog hybu darllen yn adran blant y Cyngor Llyfrau. Pob lwc iddi yn ei swydd newydd on'd ife? A sôn am lwc, prynodd yr actor Dion Davies docyn loteri pan oedd e'n ymddangos mewn pantomeim yn Aberdaugleddau fis Rhagfyr, ond anghofiodd e bopeth am y tocyn. Dyma Dion yn sôn am beth ddigwyddodd pan oedd e'n gwagio ei gar ddechrau Chwefror… Ymddangos To appear Gwagio To empty Hap a damwain Chance Sa i'n gallu Dw i ddim yn medru Pencadlys Headquarters Pigion Dysgwyr – Costa Rica Dyna beth yw sioc braf i'w chael – gwagio'r car a ffeindio eich bod wedi ennill pum deg pump o filoedd o bunnau ar y loteri! Nos Lun roedd y naturiaethwr Iolo Williams yn sôn am ei ymweliad â Costa Rica. Gwlad fechan ydy hi, tebyg i Gymru ond mae sawl peth yn wahanol rhwng y ddwy wlad a dyma Iolo‘n sôn ychydig am y gwahaniaethau rhwng Costa Rica a Chymru… Dylanwad Influence Argraff Impression Amrywiol Varied Gwlad werdd A green country Tebygrwydd Similarity Cynefinoedd Habitiats Amcangyfrif Estimate Gorchuddio To cover Ugain y cant 20% Pigion Dysgwyr – Angela Owen Mae Iolo Williams yn amlwg wrth ei fodd gyda Costa Rica, on'd yw e? Nos Iau ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Angela Owen. Mae Angela a'i ffrindiau wedi sefydlu Clwb Cerdded yn Mhen Llŷn a dyma hi‘n esbonio pam gwnaeth hi benderfynu sefydlu'r clwb arbennig yma yn y lle cynta Sefydlu To establish Awyr iach Fresh air Anhygoel Incredible Diogel Safe Pigion Dysgwyr – Jac y Do Angela Owen oedd honna'n sôn am lwyddiant Clwb Cerdded Pen Llŷn. Bob mis mae Daniel Jenkins Jones yn sgwrsio ar raglen Shan Cothi am aderyn y mis. A'r aderyn y mis yma oedd Jac y Do. Heledd Cynwal oedd unwaith eto'n cadw sedd Shan yn gynnes ddydd Mercher a dyma i chi flas ar y sgwrs cafodd hi gyda Daniel. Jac-y-Do Jackdaw Golygfa aeafol Winter scenery Ar ein gwarthau ni Imminent Heidio To flock Drudwennod Starlings Gwlad yr haf Somerset Wrth iddi nosi As the night draws in Cynrhon Maggots Enw torfol Collective noun
S'mae... Ry'ch chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse ydw i, ac i ddechrau'r wythnos yma... Aled Hughes - Dafydd Iwan 7.11 Roedd Dafydd Iwan yn westai ar raglen Aled Hughes fore Llun i sôn am Yma o Hyd, y gân sydd wedi ei dewis fel anthem tîm Pêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd. Recordiwyd Yma o Hyd gynta bron i bedwar deg mlynedd yn ôl, ond mae hi wedi cael bywyd newydd yn ddiweddar, gyda recordiad newydd sydd wedi cael sylw mawr y tu hwnt i Gymru. Tu hwnt Beyond Wedi hen arfer Well used to Bodoli ers degawdau Existed for decades Rhyfedda Strangest Pwysleisio'r angen Stresses the importance Ail-greu To recreate Ers tro For a long time Ysbrydoli To inspire Yr alwad The call Llorio To floor Bore Cothi – Roy Noble 7.11 ...a buodd chwarter miliwn o blant ysgol Cymru yn canu Yma o Hyd fel rhan o Jiwbili yr Urdd, gwych on'd ife? Ddydd Llun hefyd cafodd Shan Cothi gyfle i groesawu y darlledwr Roy Noble oedd yn edrych ymlaen at ei ben-blwydd yn 80. Dechreuodd Roy drwy sôn am ei ddyddiau cynnar yn darlledu……. Darlledwr Broadcaster Traffordd Motorway Bwrw To hit Yr Hollalluog The Almighty Camsyniad Camgymeriad Menwyod Merched Wejen Cariad Yn gymharol ddiweddar Fairly recently Traddodiad Tradition Beti a'I Phobl – Meleri Davies 13.11 Roy Noble oedd hwnna'n siarad gyda Shan Cothi. Brynhawn Sul, Meleri Davies o Fenter Ogwen oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobl. Mae brawd Meleri, Dewi Prysor, yn nofelydd a gofynnodd Beti oedd diddordeb gyda hi mewn creu llenyddiaeth yn ogystal Llenyddiaeth Literature Dihangfa An escape Rhyddiaith Prose Cerddi rhydd Free verse Chwant An inclination Cyfrwng Medium Atomfa Nuclear power station Dylanwad Influence Amaethwyr Farmers Ymbelydredd Radiation Peri dychryn To cause alarm Dros Ginio - Delyth Wyn a Elin Fflur 8.11 Blas ar sgwrs gafodd Beti George gyda Meleri Davies oedd hwnna, a nawr cawn wrando ar ran o sgwrs cafodd Jennifer Jones ar Dros Ginio gyda Delyth Wyn ag Elin Fflur sef cynhyrchydd a chyflwynwraig y gyfres deledu Sgwrs Dan y Lloer. Cynhyrchydd Producer Cyflwynwraig Female presenter Addas i'r cyfnod Suitable for the period Dynoliaeth Humanity Rhyfeddu To wonder Gwerthfawrogi To appreciate Cymdeithasu To socialise Cefnlen Backdrop Creu'r naws Creating the atmosphere Caryl - Heledd Fflur 8.11 Ac mae rhaglenni Sgwrs Dan y Lloer wedi bod yn rhai gwych on'd yn nhw? Heledd Fflur, sydd yn dod o Drewyddel, Sir Benfro yn wreiddiol, yw garddwraig wadd rhaglen Caryl gyda'r nosau, a'r wythnos yma buodd hi'n sôn wrth Caryl am gyfrinachau tyfu moron da Cyfrinachau Secrets Dyfrhau To water Os wedwn i If I say so Pridd Soil Parhau To continue Yn hytrach na Rather than Diog Lazy Sychder Drought Arwynebedd Surface area Tueddol i Tend to Ifan Evans – Clive Edwards 10.11 Dyna ni wedi cael gwybod sut i dyfu moron da – dyfrhau o'r gwaelod! Brynhawn Iau buodd Ifan Evans yn siarad gyda'r canwr Clive Edwards am ei gryno ddisg, neu CD, newydd, Dyddie Da, sy'n cael ei ryddhau cyn bo hir. Llongyfarchiadau Congratulations Offerynwyr Instrumentalists Ffair Aeaf Winter Fair Hala Anfon Diniwed Innocent
Bore Cothi Sarah Astley Hughes sy'n byw yng Nghaerdydd, ond sy'n dod Lanrhaeadr ym Mochnant, Powys yn wreiddiol, fuodd yn sôn wrth Shelley Rees Owen ar Bore Cothi fore Iau am ei phenderfyniad i groesawu'r gwallt llwyd ar ôl cael llond bol o orfod lliwio ei gwallt bob pythefnos! Croesawu - To welcome Lliwio - To dye Sylweddoli - To realise Ffili - Methu Colurwraig - Make-up artist Bwrw Golwg Ddechrau wythnos diwetha mi ddaeth y newyddion am y llifogydd ofnadwy sydd wedi taro Pacistan. Dyma i chi Tom Davies o'r elusen Cymorth Cristnogol yn sôn am y drychineb… Llifogydd - Floods Trychineb - Disaster Heb rybudd - Without warning Diflannu'n weddol glou - Disappearing quite quickly Distryw - Destruction Ceisio dygymod â - Trying to come to terms with Yn sgil - As a consequence of Cilio - To recede Newid hinsawdd - Climate change Argyfyngau - Crisis Cymry a Mwy Pan symudodd Gwenfair Griffith a'i theulu i Sydney, Awstralia, sefydlodd hi Grŵp Chwarae Cymraeg er mwyn helpu ei phlant i gadw cysylltiad â'u gwreiddiau yng Nghymru. Yn y rhaglen hon, mae Gwenfair yn cwrdd â Lin Dodd sy'n byw yng Nghaerffili, ond sy'n dod o Tseina yn wreiddiol, ac sy'n ceisio dod yn rhan o'r gymuned leol … Y gymuned leol - The local community Cyfathrebu - To communicate Y profiad - The experience Aled Hughes Mae Vaughn Smith o Washington yn medru siarad 36 o ieithoedd ac mae'n rhugl mewn 24 ohonyn nhw! Rhai o'r ieithoedd mae o'n eu siarad ydy Rwmaneg, Ffineg, Sbaeneg, Pwyleg, Norwyeg, Iseldireg….ac erbyn hyn mae Cymraeg ar ei restr o ieithoedd yn ogystal. Pwyleg - Polish Iseldireg - Dutch Defnyddiol - Useful Tras Cymreig - Welsh heritage Ar ei thraws - Across it Y Deyrnas Unedig - The UK Cefais fy swyno - I was enchanted Yn ddiweddarach - Later on Dros Ginio Draw i Feirionnydd aeth Dewi Llwyd i gwrdd â thad a merch o bentre Llanuwchllyn, sef Huw Antur a Marged Gwenllian. Mae Huw yn Gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd yng Nglanllyn ac mae Marged hefyd yn gweithio i'r Urdd fel Swyddog Cymunedol Meirionnydd. Cyfarwyddwr Gwersyll - Camp Director Swyddog Cymunedol - Community officer Dylanwad - Influence Dau gan llath - 200 yards Tebyg - Similar Milltir sgwâr - Square mile Hwyrach - Perhaps Ymgyrchu - Campaigning Cynyddu - To increase Lleihau - To decrease Aled Hughes Cyhoeddodd Aled Hughes newyddion cyffrous ar Radio Cymru ddydd Mercher diwetha! O Hydref y 3ydd, mi fydd cyflwynydd newydd ar y tonfeddi bob nos Lun i Iau o 9 tan hanner nos. Pwy ydy o, neu hi. tybed…? Cyflwynydd - Presenter Tonfeddi - Wavelength Ar fin datgelu - About to disclose Llawn cyffro - Full of excitement Rhoi'r gorau iddi - To give it up Arloesol - Pioneering Cyfrwng - Medium Heb unrhyw amheuaeth - Without any doubt Cynulleidfa - Audience
Cofio - Gwersylla oedd thema Cofio dros y Sul ac mi gaethon ni gyfle arall i glywed Wil Parry Williams o Dregarth yng Ngwynedd, yn sôn am weithio fel Red Coat yng ngwersyll Butlins, Pwllheli rhwng 1954 a 1961. Agorwyd y gwersyll 75 mlynedd yn ôl a chlywon ni'r recordiad arbennig yma am y tro cynta ar raglen Cofio yn 2009. Gwersylla To campOddeutu AboutYchwanegol AdditionalGan benna(f) MainlyAdnoddau ResourcesCychod BoatsAdran feithrin NurseryAdloniant EntertainmentDiddori To entertainDyletswyddau cyffreinol General dutiesDei Tomos – Wel ia, hi di hi yn wir – hanes diddorol Butlins Pwllheli yn fanna ar Cofio. Aeth Dei Tomos i Aberystwyth i weld llyfrgell bersonol Gerald Morgan sydd yn awdur, ac yn gyn athro a phrifathro. Mi aeth draw i'w gartref a chael gweld rhywbeth prin iawn - copi o Destament Newydd William Salesbury oedd yn dyddio'n ôl i 1567! Prin iawn Very rareRhagair IntroductionBiau To ownYn gymharol ddiweddar Fairly recentlyCasglwyr CollectorsCofi dre Person o Gaernarfon O fath yn y byd Of any kind Bore Cothi - Dei Tomos oedd hwnna'n cael golwg ar lyfrgell arbennig Gerald Morgan. Shelley Rees Owen fuodd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes ddydd Mercher diwetha ac mi gafodd hi sgwrs efo Daniel Jenkins Jones o'r RSPB am y Pâl neu'r Puffin. Colur dros eu pig Makeup over their beakTriongl TriangleLlachar BrightMas yn yr Iwerydd Out in the AtlanticNythu To nestY bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th centuryLlongddrylliad ShipwreckLlygod mawr RatsDifa To destroyBeti a'i Phobol - Bach o hanes y palod yn fanna , bechod eu bod wedi ein gadael ni erbyn hyn ynde? Cafodd Beti George sgwrs efo'r dylunydd a'r gemydd Ann Catrin Evans o Dregarth ger Bangor. Ann wnaeth Coron Eisteddfod yr Urdd eleni. Dyma Beti'n gofyn iddi hi ai cael gyrfa ym maes celf oedd hi eisiau ei wneud erioed? Dylunydd a gemydd Designer and jewellerCoron CrownCam i'r tywyllwch A step into the unknownCelfyddydau The artsBywoliaeth A livelihoodClod PraiseHybu To promoteCefnogaeth SupportCydnabyddiaeth AcknowledgementNi y Nawdegau - Ann Catrin Evans yn siarad efo Beti George am ei gwaith fel dylunydd a gemydd. Nos Iau ar Radio Cymru, y ddig-rifwraig Esyllt Sears oedd yn edrych yn ôl ar Oes Aur y 90au ... Digrifwraig Female comedian Oes aur Golden ageAberthu To sacrificeUchafbwyntiau HighlightsMaeddu Curo Ymdrechion AttemptsLlwyfannau StagesDygymod To put up withGoroesi To surviveAmherthnasol IrrelevantBore Cothi - Esyllt Sears oedd honna'n edrych yn ôl ar y nawdegau. Mi roedd hi'n Wythnos y Bandiau Pres ar Bore Cothi ac mi gafodd Shelley Rees Owen sgwrs efo Tomos Evans o Fand Cross Keys, enillodd Dosbarth 4 a 3 yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron. Dyma i chi flas ar y sgwrs,,,Bandiau pres Brass bands Llwyddiannus iawn Very successful Dyrchafu To be promoted Darnau Pieces Yn glou Quickly Crynhoi To summarise
Yn y pennod yma, dwi'n siarad gyda Josh Osborne, enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2022. Mae Josh yn 24 oed ac yn dod o Poole yn Ne Lloegr yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae e'n byw yn Abertawe. Mae ei bartner e yn siarad Cymraeg, felly yn ystod y cyfnod clo (lockdown) penderfynodd e ddysgu'r iaith ar lein. Gallwch chi weld lluniau o Josh yn yr Eisteddfod, ac ymarfer ei hobi (ffitrwydd polyn) ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.
Gwneud Bywyd yn Haws Hanna Hopwood yn holi Gwenllian Thomas, sy' wrth ei bodd yn gwneud triathlon – nofio, rhedeg a beicio! Mae hi'n fam brysur ond mae cymryd rhan mewn triathlon yn rhan bwysig o'i bywyd. Sut dechreuodd ei diddordeb yn gamp tybed? Camp Sport Bant I ffwrdd Dim taten o ots Dim ots o gwbl Croesawu To welcome Meddylfryd Mindset Rhannu profiadau To share experiences Dros Frecwast – Gemau'r Gymanwlad Gwenllian yn fan'na yn sôn am ei diddordeb mewn triathlon sef un o'r campau cynta i ddigwydd yn Ngemau'r Gymanwlad eleni. Agorwyd y Gemau yn Birmingham ar yr 28ain o Orffennaf a chafodd Ifan Gwyn Davies sgwrs efo Ashleigh Barnikel sy'n cymryd rhan yn y Gemau fel aelod o garfan Jiwdo Cymru... Gemau'r Gymanwlad Commonwealth Games Carfan Squad Un fodfedd dros bum troedfedd Five foot one Dwywaith ei maint Twice her size Pencampwraig Champion (female) O ddifri Seriously Rhyngwladol International Torfeydd Crowds Ail wynt Second wind Dros Frecwast – Ewros y merched A phob lwc i garfan Cymru yn y Gemau ynde? Mi wnawn ni aros ym myd y campau efo'r clip nesa ‘ma, ond i fyd pêl-droed y tro 'ma ac i gystadleuaeth Ewros y Merched 2022. Y Gymraes Cheryl Foster oedd yn dyfarnu'r gêm gynderfynol rhwng Ffrainc a'r Almaen wythnos diwetha ac roedd Cheryl yn arfer chwarae i dîm pêl-droed merched Cymru. Lowri Roberts fuodd yn sgwrsio efo Owain Llyr cyn y gêm.. Dyfarnu To referee Cynderfynol Semi final Y Seintiau Newydd TNS Dychmygu To imagine Ysbrydoli To inspire Y genhedlaeth nesa The next generation Bore Cothi Yr Almaen enillodd gan fynd â nhw i'r ffeinal yn erbyn Lloegr, ac mi gafodd Cheryl gêm dda iawn fel dyfarnwr. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause Mae Helgard yn dod o ardal Pfalz yn Yr Almaen yn wreiddiol, a daeth hi i Gymru yn 2005 ac erbyn hyn mae'n byw yn Aberaeron. Dwy flynedd ar ôl iddi hi symud i Gymru, dechreuodd Helgard ddysgu Cymraeg ac o fewn ychydig fisoedd, roedd hi'n rhugl. Pa mor anodd oedd dysgu Cymraeg iddi hi…? Prif Weithredwr Chief Executive Parhau To continue Mwyafrif Most Aled Hughes Ac mae Helgard yn cael ei hanrhydeddu yn yr Eisteddfod eleni drwy dderbyn y Wisg Werdd. Buodd Aled Hughes yn siarad efo Meirion Pritchard o Landysul ond sy nawr yn byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd efo cwmni Meta. Dyma'r cwmni sy'n berchen ar Facebook, Instagram a Whatsapp ac sy'n datblygu'r dechnoleg nesa ym myd realaeth rithiol , neu virtual reality. Dyma Meirion yn sôn ychydig wrth Aled am ei gefndir ac am ei waith.. Anrhydeddu To honour Y Wisg Werdd The Green Gown Efrog Newydd New York Sy'n berchen ar Which owns Datblygu To develop Amrywiol Varied Hyrwyddo To promote Pensaer Architect Celf Art Dylunio To design Dros Ginio Guto ac Elis Meirion Pritchard oedd hwnna'n sôn am sut dechreuodd ei ddiddordeb yn y byd digidol Dau frawd oedd gwesteion Alun Thomas ar “Dau cyn Dau” bnawn Llun. Dau fardd o bentre Trefor yng Ngwynedd oedd y gwestai. Guto Dafydd, sydd wedi ennill y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a'i frawd Dr Elis Dafydd sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd. Gofynnodd Alun i Guto'n gynta oedd y cysylltiad efo barddoniaeth yna pan oedd o'n ifanc Barddoniaeth Poetry Ddim fel y cyfryw Not as such Gwirioni ar Dwlu ar Pori To browse Adeiladol Constructive Sylw a bri Attention and fame Clod Praise Cenfigen Jealousy Cyfathrebu To communicate Aeddfedu To mature
Croeso i bennod mis Mehefin o Clera! Cawn sgwrs gyda Phrifardd yr Urdd, Ciaran Eynon am ei gerdd arobryn ar y testun 'Diolch' yn ogystal â sgwrs gyda'n Posfeistr, Gruffudd Antur am y gyfrol fawreddog newydd, 'A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes gan Daniel Huws. Hefyd, mae llinell gynganeddol ddamweiniol y mis yn ei hôl! Hyn oll yn ogystal â Delicassy gan Dylan a Diweddgan gan Jo Heyde, sef ei cherdd fuddugol yng Nghadair Eisteddfod Llandudoch.
Beti a Ceri Isfryn Mae Ceri Isfryn wedi gweithio ar sawl gyfres deledu fel The One Show, Watchdog Rogue Traders, a Panorama a hi ydy cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell sy'n dilyn hanes Robert Maxwell a'i deulu. Dim ond dwy oed oedd Ceri pan fuodd Robert Maxwell farw yn 1991. Faint felly oedd hi'n gwybod am hanes teulu Maxwell cyn dechrau gweithio ar y gyfres? Dyma hi'n sgwrsio efo Beti George... Cynhyrchydd - Producer Cenhedlaeth - Generation Dylanwad - Influence Ymchwilio - To research Diflasu - To become bored of Iddew - Jew Datblygu - To develop Moesau - Morals Cofeb - Memorial Delwedd - Image Ceri Isfryn yn sôn wrth Beti George am ei gwaith ymchwil i deulu Robert Maxwell. Dros Ginio Ieuan a Rhisiart Y ddau frawd Ieuan Wyn Jones a Rhisiart Arwel oedd y ddau cyn dau efo Dewi Llwyd . Roedd Ieuan yn arfer bod yn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru ac mae Rhisiart yn gerddor. Faint o ffrindiau oedden nhw pan oedden nhw'n ifanc tybed? Dirprwy Brif Weinidog Cymru - Deputy First Minister of Wales Cerddor - Musician Traddodiad - Tradition Ddaru - Gwnaeth Difyr - Diddorol Ffraeo - To row Prin dw i'n cofio - I hardly remember Tueddiad - A tendency Ar wahân - Separately Cecru - Bickering Y ddau frawd Ieuan Wyn Jones a Rhisiart Arwel yn fan'na'n sgwrsio gyda Dewi Llwyd. GBYH Eleri Evans Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth cafodd Hanna Hopwood gwmni Eleri Evans sy'n byw yng Ngorllewin Cymru gyda'i gŵr Ian, a'u plant Alys sy'n 7, Aaron sy'n 9 a Liam sy'n 17. Oherwydd gwahaniaeth oedran y plant roedd hi'n anodd weithiau cadw pawb yn hapus. Dyma Eleri'n sôn am sut aeth y teulu ati i geisio gwella'r sefyllfa... Mo'yn - Eisiau Llwyth - Loads Sylweddoli - To realise Mynd am wâc - Mynd am dro Mae e'n dwlu ar - Mae o wrth ei fodd efo Wel dyna syniad da ynde - gwrando ar leisiau'r plant a chadw pawb yn hapus! Rhydian a Shelley ac Esther Rhydian a Shelley fuodd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes ac mi gaethon nhw sgwrs efo Esther, sy'n 13 oed ac yn mynd i Ysgol David Hughes, Porthaethwy ar Ynys Môn. Ar ei ffordd i Eisteddfod yr Urdd oedd Esther, a dyma hi'n sôn am yr holl gystadlu oedd o'i blaen... Parti Deulais - Two voice party Llefaru Unigol - Solo recitation Côr Gwerin - Folk Choir Detholiad - A selection Tawelu - To quieten Cyngor - Advice Cefnogi - To support Enfawr - Huge Wel mi roedd Esther wedi cael eisteddfod brysur yn doedd? Bore Cothi Sioned Mair a Caryl Parry Jones Buodd Caryl Parry Jones a'i ffrind Sioned Mair yn cystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd pan oedden nhw yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy Sir Ddinbych, a dyma glip bach ohonyn nhw'n hel atgofion am y cyfnod yna.. Hel atgofion - Reminiscing Arweiniad - Leadership Ysbrydoli - To inspire Roedd y brwdfrydedd yn heintus - The enthusiasm was infectious Creu ymdeimlad o berthyn - Create a feeling of belonging Bodoli - To exist Hyfforddi - Coaching Y diweddar - The late Caryl ac Sioned yn amlwg wedi mwynhau cystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd. Stiwdio Os wnaethoch chi wrando ar yr Eisteddfod wythnos diwetha dw i'n siŵr eich bod wedi clywed sawl côr ac unigolion yn canu caneuon oedd wedi cael eu cyfansoddi gan Robat Arwyn. Mae Robat yn dod o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol ond erbyn hyn mae'n byw yn Nyffryn Clwyd yn agos at le cafodd Eisteddfod eleni ei chynnal. Gofynnodd Nia Roberts iddo fo pryd ddechreuodd ei ddiddordeb mewn cyfansoddi... Cyfansoddi - To compose Dylanwadau cynnar - Early influences Alawon - Tunes Arbenigo - To specialise Unawdydd - Soloist
Beti a Sian Eirian Mae Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Nimbych yr wythnos hon ac mi gafodd Beti George gwmni Cyfarwyddwr Dros Dro yr Eisteddfod, Sian Eirian, ar Beti a'i Phobol fore Sul. Yn y gorffennol buodd Sian yn gweithio fel Pennaeth Rhaglenni Plant S4C a dyma hi'n sôn am yr adeg aeth hi â CYW (y cyw annwyl felly- eicon rhaglenni plant bach) i gyfarfod â Boris Johnson pan oedd o'n Faer Llundain... Cyfarwyddwr Dros Dro - Temporary Director Awyddus I ymestyn - Eager to extend Adran Gyfathrebu - Communications Department Sylweddoli - To realize Tanddaearol - Underground Heddlu cudd - Secret police Terfysgwr - Terrorist Gweithredu - To act (upon) Degau ar ddegau - Many (lit: tens on tens) Hanes 'Cywgate' yn fan'na gan Sian Eirian. Butlins Oeddech chi'n gwybod bod yna Eisteddfodau o fath yn Butlins Pwllheli ac yn Butlins y Barri ers talwm? Wel cystadleuaeth talent oedden nhw cael eu galw mewn gwirionedd! Buodd Ffion Emyr yn cyflwyno rhaglen oedd yn edrych yn ôl ar 75 mlynedd ers agor Butlins Pwllheli. Dyma hi'n cael sgwrs efo Bob Morris fuodd yn gweithio yn Butlins, ac sy'n cofio gweld Billy Butlin ym Mhwllheli, ac yna hanes Mair Evans o Lanbedr Pont Steffan, neu Llambed, wnaeth yn dda iawn yn y cystadlaethau talent - ei mam Janet sy'n dweud yr hanes. Datganiad - Statement Gwersyllwyr - Campers Beirniadaeth - Adjudication Beirniaid - Judges Wedi dotio ar - Wedi dwlu ar Neb llai na - None other than Gwlad yr Haf - Somerset Meddyliwch ennill cystadleuaeth dalent a Catherine Zeta Jones yn dod yn ail i chi - gwych yn de? Bore Cothi a Manuela Manuela Niemetscheck, sy'n seicotherapydd celf, oedd dysgwr y flwyddyn Bwrdd Betsi Cadwaladr. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob dwy flynedd ac roedd y tri beirniad yn cytuno mai Manuela oedd yn haeddu teitl Dysgwr y Flwyddyn. Dyma Manuela ar Bore Cothi yn rhoi ychydig o'i hanes hi ac yn sôn am ei swydd ddiddorol ... Haeddu - To deserve Llwyth - Loads Dwyieithog - Bilingual Bwrw ymlaen - To get on with it Mae talent dysgu ieithoedd anhygoel gan Manuela yn does? Dros Ginio Caryl a Miriam Mam a merch, Caryl Parry Jones a Miriam Isaac, oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Caryl sy'n dechrau'r sgwrs, yn cofio am ei magwraeth yn Ffynnongroyw, Sir y Fflint. Gwerthfawrogi magwraeth - Appreciating the upbringing Pentref glofaol - A coal mining village Pwll glo - Coal mine Brawdgarwch - Brotherhood Y Parlwr Du - Point of Ayr Diwylliant - Culture Nefolaidd - Heavenly Arddull - Style Mae'n amlwg bod Caryl a Miriam wedi cael magwraeth wrth eu boddau, ac atgofion melys iawn gan Miriam o Nain a Taid I Mewn I'r Gol Yn 2021, mi fuodd yna newid anferth i Glwb Pêl-droed Wrecsam wrth i ddau o sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu'r clwb! Cyhoeddodd y ddau fideo aeth yn feiral - a chael Maxine Hughes , sy'n byw yn yr Unol Daleithiau i gyfieithu ar y pryd ar y fideo. Rŵan dan ni'n mynd i glywed lleisiau Maxine, Wayne Phillips, fuodd yn chwarae i Wrecsam, a hefyd Cledwyn Ashford sy'n sgowt I academi'r clwb yn sôn am y newid ddaeth i'r clwb ers i'r sêr ddod mewn. Dylan Griffiths, o Adran Chwaraeon Radio Cymru, fuodd yn dilyn y stori Cyfieithu ar y pryd - Instantaneous translation Perchnogion - Owners Cadarnhad - Confirmation Hyrwyddo - To promote Sylw byd eang - Worldwide attention Disgleirio - To shine Llwyfan - A stage Argraffiadau cynnar - Early impressions Breuddwyd - A dream Yn y cefndir - In the background A dw i'n siŵr bod ffans Wrecsam i gyd yn drist ddydd Sul pan gollodd y clwb gêm fwya'r tymor o bum gôl i bedair. Stiwdio Tlws y Dysgwr Ac mi ddown ni'n ôl at Eisteddfod yr Urdd efo'r clip ola. Mae gan Francesca Sciarrillo atgofion melys iawn o'r Eisteddfod gan iddi hi ennill Medal y Dysgwyr pan oedd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd yn 2019, ac erbyn hyn mae hi'n byw ei bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ei rhieni'n dod o'r Eidal yn wreiddiol a dyma Francesca yn disgrifio sut gwnaeth ei thad ymateb i'w llwyddiant yn yr Eisteddfod Atgofion - Memories Trwy gyfrwng - Through the medium of Yr Wyddgrug - Mold Cyfarwydd - Familiar
"Arbrofi ac arloesi i'r dyfodol". Dyna eiriau Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a chyn Bennaeth Gwasanaeth Plant gyda S4C. Fe ddechreuodd ei gyfra fel clerc mewn cymdeithas adeiladu, wedyn ymunodd gyda'r Urdd, ac fe enillodd gwobr Cymraes y Flwyddyn yn 2006. Yn 2007 fe gafodd Siân ei phenodi yn Bennaeth Gwasanaeth Plant S4C am 6 blynedd. Rhan o friff y swydd oedd creu gwasanaeth ar gyfer plant meithrin ac yn ddiweddarach ar gyfer y rhai cynradd, gan gynnig gwasanaeth cyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg ond efo rhaglenni oedd cystal ansawdd a chynnwys a'r hyn oedd ar gael yn Saesneg. Sefydlwyd y sianel CYW ar gyfer plant oed meithrin i 5 oed ac 'roedd yn gyfnod cyffrous iawn. Mae Siân yn sôn am fynd a'r Cyw ei hun i Lundain, ac mae stori ddigri i'w chlywed ganddi am gyfarfod Boris Johnson. Mae Siân bellach wedi symud nol i'w ardal enedigol yn Llangernyw ac yn rhedeg cwmni ymgynghorol gyda Garffild ei gwr. Bu'r ddau yn gweithio gyda I'm a Celebrity... Get Me Out of Here! gydag Ant a Dec ar gyfer ITV.
[English below] Heddiw dwi'n siarad gyda Francesca. Enillodd Francesca Medal Dysgwyr yr Urdd 2019.Rydyn ni'n trafod ein taith gyda Chymraeg, hunaniaeth, casglu records a mwy.Today I'm speaking with Francesca. Francesca won the Welsh Learners Medal at the 2019 Urdd.We discuss our journey with Welsh, identity, collecting records and more.
1. Beti a'i Phobol a Rebecca Roberts Buodd Beti George yn sgwrsio efo'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi sgwennu pedair nofel ac wedi ennill sawl gwobr am ei llyfrau. Yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad efo anabledd ac yn gwisgo coesau prosthetig yn union fel rhai merch yr awdur. Roedd Rebecca wedi bod yn ymgyrchu i gael Llywodraeth Cymru i awdurdodi ysbytai i wario ar goesau a breichiau prosthetig. Dyma hi'n sôn wrth Beti sut cafodd hi wybod bod yr ymgyrch wedi llwyddo... Anabledd - Disability Ymgyrchu - To campaign Llywodraeth Cymru - The Welsh Government Awdurdodi - To authorize Arbenigol - Specialized Byd o wahaniaeth - A world of difference Deisebu - To petition Arbenigedd - Expertise Gwaith ymchwil - Research Dadlau fy achos - Arguing my case Rhoi cynnig arni - To give it a go 2. Cymru Carwyn Iau efo Max Boyce Rebecca Roberts oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George am y gwahaniaeth mae cael coesau prosthetig wedi gwneud i fywyd ei merch. Yn y gyfres Cymru Carwyn mae Carwyn Jones yn trafod y pethau sy'n gwneud Cymru'n wlad mor arbennig, yn enwedig felly pobl a hanes y wlad. Yn y clip nesa mi gawn ni glywed Carwyn yn sgwrsio gydag un o drysorau mwya Cymru, Max Boyce. Cymuned - Community Sylw - Attention Dwlu bod - Wrth fy modd bod Hollol lofaol - Predominantly coalmining Prydferth - Beautiful Mo'yn - Eisiau 3. Aled Hughes a Mirain Iwerydd Carwyn Jones oedd hwnna'n sgwrsio gyda Max Boyce. Mi roedd Mr Urdd yn gan mlwydd oed wythnos diwetha ac mi lwyddodd yr Urdd i ddathlu'r pen-blwydd mewn steil drwy dorri record y byd am y nifer mwya o fideos o bobl yn canu'r un gân sef Hei Mistar Urdd. Bore Mercher mi roedd y cyflwynydd Mirain Iwerydd yn sgwrsio efo Aled Hughes am y cyfleoedd mae hi wedi eu cael efo'r Urdd gan gynnwys taith i Batagonia. Dyma Mirain yn sôn am y daith arbennig honno... Cyflwynydd - Presenter O bob cwr - From every corner Y Wladfa - The Welsh settlement in Patagonia Diolchgar - Thankful Cyffelyb - Equivalent Hala ni mas - Anfon ni allan Llwyfan - Stage Lledaenu - Spread Neges Ewyllys Da - The Peace and Good Will Message Cyfrinach - Secret Ymwybodol - Aware 4. Betsan Powys ac Owain Wyn Evans Mirian Iwerydd yn fan'na yn sôn am rai o'r pethau pwysig mae'r Urdd yn ei wneud. Mae Owain Wyn Evans yn gyfarwydd wrth gwrs fel cyflwynydd y newyddion a'r tywydd, ond yn ddiweddar mae o hefyd wedi dod yn enwog am ei ddrymio. Ar gyfer Plant Mewn Angen buodd o'n drymio am ddau ddeg pedair awr a chodi swm anhygoel o arian. Dyma fo'n datgelu mewn sgwrs efo Betsan Powys faint o bres yn union a godwyd... Cyfarwydd - Familiar Pedair awr ar hugain- 24 hours Anhygoel - Incredible Datgelu - To reveal Taw - Mai Amlwg - Prominent Cefnogaeth - Support Anferth - Huge Her - A challenge Ffili - Methu 5. Isio Babi Tri phwynt wyth miliwn o bunnau- dyna swm anhygoel ynde? Nos Fercher mi glywon ni stori Carys Barratt a'i gŵr, Craig, fuodd yn trio cael babi am flynyddoedd. Mae'r rhaglen yn dilyn hanes Carys dros y misoedd pan oedd hi'n paratoi i gael triniaeth IVF, misoedd o obaith ac o siom. Dyma Carys yn rhoi ychydig o gefndir i ni... Triniaeth - Treatment Cefndir - Background Di-Gymraeg - Ddim yn siarad Cymraeg Gofal plant - Childcare Ffodus - Lwcus Llonni - Gwneud yn hapus Ar waith - Working 6. Trystan ac Emma a Mot y ci Pob lwc i Carys ac i Craig ynde? Ac i orffen , dyma i chi hanes anhygoel Mot y ci, aeth ar goll am 5 wythnos. Aeth Tecwyn Vaughan Jones o Fae Colwyn â Mot am dro ond rhywsut aeth y ci ar goll. Ar ôl i Tecwyn chwilio a chwilio efo help cymdogion, drones, yn wir help y gymuned gyfan, o'r diwedd gwelodd neges ar Facebook oedd yn rhoi gobaith iddo fo ..... Mi ddaru - Gwnaeth Ymateb - Response Wedi crwydro - Had wandered Tebygrwydd - Similarity Anobaith llwyr - Sheer hopelessness Traddodiad - Tradition Dianc - To escape Rhuthro - To rush Sefyll yn stond - Standing still Yn cyfarth ac yn llyfu - Barking and licking
Owain a Mal sy'n trafod rhediad da Wrecsam a doniau canu'r perchennog Rob McElhenney, ac yn rhannu straeon am ddau gymeriad lliwgar rhwng y pyst - Willy Gueret a Bruce Grobbelaar.
On the day the Urdd celebrated its 100th birthday, children, families and communities across Wales broke a new Guinness World Record. Alaw John speaks to pupils and teachers of Ysgol y Preseli in Pembrokeshire, about their contribution to the challenge, and the impact the Urdd has had on them throughout their lives.
Shwmai... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Wynne Evans dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma, wythnos sy'n rhoi sylw i ddysgu Cymraeg dyn ni'n mynd at raglen … BORE COTHI Mae Kayley Sydenham yn dod o Gasnewydd ac mae hi ar ei blwyddyn gynta ym Mhrifysgol Bangor yn astudio'r Gymraeg. Doedd ei rhieni hi ddim yn siarad Cymraeg o gwbl ond penderfynon nhw ei hanfon hi i ysgol Gymraeg. Hi enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd eleni, ac yn mis Medi, hi oedd Bardd y Mis Radio Cymru. Dyma hi'n sgwrsio gyda Shan Cothi am ei chefndir, ac i ddechrau holodd Shan am ei llwyddiant hi yn yr Eisteddfod… Cefndir Background Llwyddiant Success Rhannu fy ngherddi Sharing my poems Cysur Comfort Di-Gymraeg Non Welsh speaking Gwerthfawrogol Appreciative Wythnos y glas Freshers Week Cymdeithasu To socialise GERAINT LLOYD A phob lwc i Kayley, on'd ife, ym Mhrifysgol Bangor. Aeth Geraint Lloyd draw i Ynys Enlli ym Mhen Llŷn am y tro cynta yn ei fywyd wythnos diwetha, a chafodd gyfle i gyfarfod rhai o gymeriadau'r ynys. Lle hyfryd ond unig iawn ydy Enlli heddiw, ond sut oedd hi yno yn y gorffennol tybed? Dyma'r ffermwr Gareth Roberts yn rhoi ychydig o hanes y lle i ni… Blaengar iawn Very progressive Ar un cyfnod At one time Ŷd Corn Rhwyfau Oars Cynnyrch Produce Yr oes honno At that time Diweddara Most recent DEI TOMOS Wel pwy fydde'n meddwl mai merched Enlli oedd yn arwain byd ffasiwn Pen Llŷn? Mae ardaloedd llechi Gwynedd wedi dod i sylw'r byd eleni ar ôl ennill statws Safle Treftadaeth Byd Unesco. Ond oeddech chi'n gwybod bod llawer iawn mwy i'r diwydiant llechi na chynhyrchu llechi to yn unig? Mae Pred Hughes wedi cyhoeddi llyfr am y diwydiant ac yn y clip yma o sgwrs gafodd e gyda Dei Tomos, mae e'n sôn am y broses o enamlo , hynny yw rhoi enamel ar lechen... Llechi Slates Treftadaeth Heritage Diwydiant Industry Galwad enfawr A huge demand Moethus Luxurious Mwyafrif Majority Rhiniogau Thresholds Godidog Splendid ‘Sech chi'n taeru You'd swear Plisgyn ŵy Egg shell STIWDIO Pred Hughes oedd hwnna'n esbonio'r broses o enamlo llechi wrth Dei Tomos. Nos Lun ar Stiwdio cafodd Nia Roberts sgwrs gyda Arfon Haines Davies am y llyfr mae e wedi ei olygu , sef “Hunanbortread David Griffiths”. Mae David Griffiths yn dod yn wreiddiol o Bwllheli ac mae e'n un o artistiaid portreadau mwyaf blaenllaw Prydain. Mae e wedi creu portreadau o lawer o enwogion dros y blynyddoedd, fel buodd Arfon yn egluro... Blaenllaw Prominent Brenhinol Royal Straeon difyr Interesting stories Braslunio Sketching Archdderwydd Archdruid Cynnwys To include Diymhongar Unassuming Prif Weithredwyr Chief Executives Loncian Jogging BORE COTHI Dipyn bach o hanes yr artist David Griffiths yn fan'na gan Arfon Haines Davies. Nesa cawn ni glywed rhan o sgwrs rhwng y gantores canu gwlad o Geredigion, Doreen Lewis a Shan Cothi, ble mae Doreen yn sôn am ei mordaith delfrydol! Canu gwlad Country (singing) Mordaith delfrydol Ideal cruise Traethau aur Golden beaches Coed palmwydd Palm trees Naws ffwrdd â hi Relaxed atmosphere Ydy glei Ydy siŵr Ffaelu Methu Braint Privilege Atgoffa To remind SHELLEY A RHYDIAN Doreen Lewis oedd honna'n breuddwydio am fynd yn ôl i'r Caribî. Hyfryd! Bob wythnos ar y Sioe Sadwrn, mae Shelley a Rhydian yn gofyn i un o enwogion Cymru gyflwyno ei anifail anwes i ni fel rhan o ‘Cynghrair y Cŵn', a dyma Eleri Sion yn ein cyflwyno ni i'w chi bach hi, Ralffi. Cynghrair y Cŵn Dog's league Anrhydedd Honour Uchelael Highbrow Ymateb To respond Barus Greedy Fy nghôl i My lap Gwiwerod Squirrels Ei dîn e His backside Talent cudd Hidden talent Toddi nghalon i Melts my heart Wel mae Ralffi'n swnio'n gi bach bendigedig! A dyna ni'r podlediad am wythnos arall. Ond cyn cloi, cofiwch am holl raglenni arbennig yr wythnos nesaf. Mae cwis “Cystadleu-IAITH” bob dydd am hanner awr wedi deuddeg. Cyfres “Cymry newydd y cyfnod clo” am hanner awr wedi chwech, a bydd bwletin newyddion arbennig bob nos am 8. Ewch i BBC Sounds am fwy o wybodaeth. Diolch yn fawr am eich cwmni, a daliwch ati i wrando a siarad Cymraeg. Dw i'n lwcus mod i'n medru darlledu ar Radio Wales ac yma ar Radio Cymru. Tan y tro nesaf!
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … RECORDIAU RHYS MWYN …blas ar sgwrs gafodd Rhys Mwyn gyda'r Eidales Francesca Sciarrillo, enillydd fedal y dysgwyr Eisteddfod yr Urdd 2019. Francesca oedd yn lawnsio Siart Amgen 2021 a buodd hi'n sôn am ba mor bwysig oedd artistiaid fel Datblygu, Gruff Rhys a Gwenno iddi hi wrth ddysgu Cymraeg. Amgen Alternative Telynau Harps Llinach Linage Dylanwadu To influence Bodoli To exist Cantores Female singer Annwyl Adorable ALED HUGHES Wel doedd dim eisiau i Francesca boeni dim am ei Chymraeg cyn sgwrsio efo Gwenno nac oedd – mae ei Chymraeg hi'n wych! Dych chi'n hoff o gyfresi trosedd? Mae sawl un ar y teledu y dyddiau hyn on'd oes? Mae cyfres newydd o Silent Witness ar BBC One ar hyn o bryd, ac mae Pembrokeshire Murders wedi cael enwebiad Bafta Cymru. Ond tybed pa mor realistig ydy'r rhaglenni hyn? Dyma farn Nia Bowen, sy'n batholegydd yn Nhreforys, Abertawe. Cyfresi trosedd Crime series Enwebiad Nomination Ymchwil Research Dwfn Deep Cynhyrchwyr Producers Mwy o alw Greater demand Cael eu parchu Being respected Hela rhyw lofrudd Hunting some murderer Disgwyliadau Expectations Golygfeydd Scenes COFIO GRAV Nia Bowen, y patholegydd o Dreforys, oedd honna'n sgwrsio gydag Aled Hughes. Ar y 12fed o Fedi eleni basai Ray Gravell wedi dathlu ei benblwydd yn 70 oed. Roedd Grav yn chwaraewr rygbi, yn gyflwynydd, yn actor a phawb yn hoff iawn ohono. P'nawn Sul roedd rhaglen arbennig gan John Hardy yn Cofio Grav. Dyma glip bach o Grav yn sgwrsio gyda Beti George yng nghlwb rygbi Mynydd-y-Garreg ger Cydweli yn 2004. Crybwyll To mention Cyfrifoldebau Responsibilities Wap ar ôl Yn fuan ar ôl Uchafbwynt Highlight Heb os Without doubt Sodlau Heels Wedi dweud ar goedd Have proclaimed Genedigaeth Birth Bydwraig Midwife Rhegi mewn gorfoledd Swearing in joy BORE COTHI Dyna gymeriad oedd Grav on'd ife? ac roedd hi'n dipyn o sialens i‘r actor Gareth John Bale chwarae rhan y dyn mawr mewn ffilm cafodd ei gweld ar S4C yn ddiweddar. Dyma fe'n sgwrsio gyda Shan Cothi am yr her a'r pwysau o actio cymeriad oedd mor enwog a phoblogaidd â Grav... Her A challenge Pwysau Pressure Mae'r ymateb mor belled The response so far Rhyddhad Relief Droeon Several times Anrhydedd An honour Dyletswydd A duty Dychwelyd To return Dwlu ar To dote on Cynulleidfa An audience Cyfarwyddwr Director BORE COTHI Ac arhoswn ni gyda Bore Cothi nawr i glywed rhan o sgwrs cafodd Shan gyda Dylan Jones i drafod sut a pham buodd e a'i frindiau yn gwneud Her Tri 3 Chopa Cymru yn ddiweddar. Cerddon nhw Gadair Idris, Pen y Fan ac wrth gwrs, Yr Wyddfa... Asgwrn Bone Her Tri Chopa The Three Peaks Challenge Elusen Charity Cadw'n heini Keeping fit Cyflwr Condition Arbenigwyr Experts Cyflawni To fulfil DROS GINIO Basai'n dipyn o her dringo'r tri chopa unrhyw adeg, ond roedd ei wneud tra'n dioddef o gyflwr ar y traed yn anodd iawn baswn i'n meddwl. Y seicolegydd chwaraeon, Seren Lois oedd yn ymuno â Vaughan Roderick ddydd Mercher i drafod sut mae llwyddo mewn chwaraeon ac i sônam yr her a'r pwysau sydd ar athletwyr ifanc, fel enillydd yr US Open, Emma Raducanu. Trafod To discuss Hyfforddwyr Coaches Pencampwraig Female champion Mewnol Inner Balchder Pride Boed hynny Whether it be Goresgyn To overcome Ymdopi To cope Cysurus Comforting Disglair Brilliant
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Sioe Frecwast - Andria Doherty Dych chi’n un o’r miliynau sy wedi gwylio It’s a Sin ar Channel 4? Roedd cysylltiad Cymreig cryf gyda’r gyfres gan fod dau o’r actorion yn dod o Gymru ac yn siarad Cymraeg. Roedd Andria Doherty yn actio rhan Eileen, mam un o brif gymeriadau’r gyfres, Colin. Andria oedd gwestai Daf a Caryl ar Radio Cymru 2 a dyma hi’n rhoi ychydig bach o’i hanes… Cyfres - Series Gwallgo(f) - Mad Dros ben llestri - Over the top Ymateb - Response Poblogaidd - Popular Enfawr - Huge Ysgytwol - Mind-blowing Diweddar - Recent Adrodd - Recitation Ychwanegolion - Extras Nathan Brew Andria Doherty oedd honna, un o sêr It’s a Sin, yn sgwrsio gyda Daf a Caryl. Un arall o westeion RC2 yr wythnos diwetha, oedd y sylwebydd a’r cyn chwaraewr rygbi Nathan Brew. Gan fod y penwythnos diwetha yn un pwysig iawn i dîm rygbi Cymru oherwydd y gêm fawr yn erbyn Lloegr, roedd hi’n amserol iawn i Nathan sôn am obeithion Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Sylwebydd - Commentator Amserol - Timely Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - Six nations Synnu - Surprised Ysbryd - Spirit Anafiadau - Injuries Yn hytrach na - Rather than Ymarfer - Training Rheolau - Rules Lleihau - To reduce Byd Iolo Williams Roedd Nathan Brew yn optimistaidd yn fan’na am obeithion Cymru, ac roedd o yn iawn – enillodd Cymru o 40 – 24. Llongyfarchiadau mawr i dîm Cymru on’d ife? Yn rhaglen Byd Iolo wythnos diwetha buodd Iolo Williams yn dweud wrthon ni sut mae e wedi ymdopi gyda chyfnod anodd y pandemig… Ymdopi - To cope Cynffon - Tail Heb os nac oni bai - Without doubt Andros o anodd - Terribly difficult Bywyd gwyllt - Wildlife Ar gyrion - On the outskirts Ffodus - Lwcus Deutha chi - Dweud wrthoch chi Yn llythrennol - Literally Goroesi - To survive Dros Ginio - Edwina Williams Iolo Williams yn fan’na yn esbonio sut mae o wedi ymdopi gyda chyfnod y pandemig. Dych chi’n gwisgo het? Oes het-fobl yr Urdd gyda chi? Roedd digon o angen het yn ystod tywydd oer yr wythnosau diwetha, ond ydy gwisgo het wedi dod yn rhywbeth ffasiynol erbyn hyn? Dyma farn Edwina Williams Jones ... Cynllunydd - Designer Dilledyn ymarferol - A practical clothing Toreth - An abundance Crasboeth - Boiling hot Yn y cysgod - In the shade Achlysuron - Occasions Cefnogaeth - Support Geraint Lloyd - casglu ceir Y cynllunydd Edwina Williams Jones oedd oedd honna’n trafod hetiau gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio. Nid hetiau ond hen geir ydy diddordeb Sharon Jones Williams o Bentre Berw ar Ynys Môn. Roedd Geraint Lloyd wrth ei fodd yn sgwrsio gyda hi a chlywed am hanes yr hen Mercedes sy gan y teulu Cau - To refuse Miri - Fuss Gynnau - A moment ago Tyrchu - To rummage (y)myrraeth - Curiosity Chwilota - To search for Dewi Llwyd - Osian Roberts Hanes diddorol Mercedes Sharon o Bentre Berw oedd hwnna, ar raglen Geraint Lloyd. Osian Roberts oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd wythnos diwetha. Fe yw cyfarwyddwr technegol tîm pêl-droed cenedlaethol Moroco, swydd fuodd e’n ei gwneud gyda thîm pêl-droed Cymru yn y gorffennol. Ond fel clywon ni yn y sgwrs gyda Dewi mae gan Osian sgiliau y tu hwnt i fyd y bêl… Cyfarwyddwr technegol - Technical Director Y tu hwnt - Beyond Fy ngorwelion i - My horizons Digrifwr - Comedian Llefaru - To recite Trin geiriau - To have a way with words Sbïo - Edrych Siarad cyhoeddus - Public speaking Datblygu - To develop
Croeso i bennod mis Mehefin o Clera. Y mis hwn rydyn ni'n cael tair gorffwysgerdd gan feirdd buddugol Eisteddfod T yr Urdd, sef Osian Wyn owen, Cristyn Rhydderch Davies a Lois Campbell. Caryl Bryn yw'r Bardd yn y Bath, Llyr Gwyn lewis sy'n trafod ei bamffled newydd o gerddi ac mae Gruffudd a'i Ymennydd llawn Minnions yn cynnig pos difyr arall. Hyn oll a llawer mwy.
Stori ddirdynnol gan Mared Roberts, enillydd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2019. *Rybudd Cynnwys* Mae'r stori'n ymdrin â hunan-niweidio ac hunanladdiad.
Recorded live from the Urdd, Welsh language campaigner Toni Schiavone, of Cymdeithas Yr Iaith, speaks on political identity and the evolution of the movement. He tells Martin why he believes every child leaving school in Wales should be able to speak Welsh - and why the resistance to extending Welsh language rights in the workplace is greater among politicians than the private sector itself. See acast.com/privacy for privacy and opt-out information.
Dwi’n hoffi mynd a’r staff ar deithiau i wahanol llefydd, felly trefnodd Elsie Snedge, Senior Housekeeper y daith yma i Eisteddfod yr Urdd - The Welsh League of Youth Eisteddfod - Festival of Choirs, Singers, Musicians and Dance. Mae’n rhoi brêc iddo nhw ac mae’n change o gwaith ar y Manor, ac mae’n cefnogi diwylliant Cymraeg. Dwi byth wedi bod yn aelod o’r Urdd, ac roedd fy rhieni mwy o red, white and blue, ond mae Cymru yn bwysig i fi ac mae fflag y Ddraig Goch uwchben y Manor nawr. Felly, eisteddwch, mwynhewch, tally-ho a dewch gyda fi i’r Wyl! Hwyl!
Beti George yn sgwrsio â Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru. Dychwelyd at yr Urdd wnaeth Siân, wedi cyfnod yn gweithio gyda'r mudiad ar ddechrau'r 90au, ac mae'n disgrifio'r rôl fel swydd ei breuddwydion, er bod dychwelyd i Wersyll Glan-llyn fel aelod o staff yn hytrach na disgybl ysgol yn brofiad rhyfedd. Cafodd ei magu yng Nghaerdydd, a dyw hi ddim wedi crwydro'n bell iawn o'r brifddinas. Er ei bod wrth ei bodd yn gymdeithasol yn Ysgol Glantaf, doedd y pwyslais academaidd ddim yn plesio. Ailddarganfyddodd ei hoffter o fyd addysg yng Ngholeg Rhymni, cyn symud i Brifysgol Morgannwg i astudio busnes, ac yna cwblhau cwrs ôl-radd mewn busnes a chyllid. Wedi ei chyfnod cychwynnol yn gweithio i'r Urdd, symudodd i Fenter Caerdydd, a thra wrth y llyw yno roedd yn gyfrifol am ddatblygu gŵyl Tafwyl. Gyda throsiant o £10 miliwn, dros 300 o staff, a hefyd 10,000 o wirfoddolwyr, beth yw gobeithion Siân ar gyfer dyfodol yr Urdd?
Ym mhennod gyntaf y gwanwyn mae Aneurig yn Pwnco am y ddadl rhwng beirdd sy'n darllen eu gwaith a beirdd sy'n perfformio eu gwaith o'r cof. Mae sgwrs gyda Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru a Steffan Phillips o Lenyddiaeth Cymru, a cherdd yr Orffwysfa yn un arbennig iawn gan taw dyma gywydd croeso Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a'r fro 2019, gyda'r Prifardd Osian Rhys Jones. Hyn oll a llwyth o'r difyrrwch arferol hefyd.
Ar yr Haclediad diweddaraf i gnesu‘ch cocyls bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod digwyddiad Hacio’r Iaith ’13 gyda’u gwestai arbennig Gareth Morlais. Bydd y criw hefyd yn cymryd cipolwg ar wasanaeth fideo byr newydd Twitter, Vine, ac yn troi cadw’n heini yn gêm gyda profiadau Bryn efo’i Nike Fuel band. Hyn oll, a mwy ar Haclediad #26! Dolenni Gareth Morlais twtlol.co.uk Chwe uchelgais ar-lein i’r iaith Gymraeg Ifan Dafydd – Celwydd (feat. Alys Williams) Anger over Twitter porn gaffe on Vine video service Branch Haciaith Nike Fuelband Invasion of the body trackers: take me to your leader Pebble smartwatch video review The post Haclediad #26: Yr un byw na fu appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad. Special Guest: Gareth Morlais.
Mae’r haclediad yn troi’n 21 y mis yma, ond does dim arlliw o dyfu fyny yn perthyn i’r rhaglen, diolch byth! Tro hwn byddwn ni’n trafod Gmail Cymraeg yn cyrraedd wedi siwrne hir, cipio rhagolwg ar Windows 8, aps eisteddfod yr Urdd a rhwystredigaethau di-ri diweddaru Android. Hyn oll a llwyth o fwydro penigamp gydag Iestyn, Bryn a Sioned i’ch diddanu dros y penwythnos hir yma. Joiwch! Dolenni Ap Urdd Urdd 2012 app Windows 8 Release Preview Windows 8 Release Preview now available to download Gmail yn y Gymraeg! Android Fragmentation Growing Worse With ICS Android 4.0 Ice Cream Sandwich: When is it coming to my phone? @PurpleMooseBrew The post Haclediad #21: Hei Mistar Urdd! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.