POPULARITY
Mae Mark Williams yn gyn-nofiwr Paralympaidd, fe yw sylfaenydd LIMB-art - cwmni sy'n cynhyrchu cloriau unigryw a hwyliog ar gyfer coesau prosthetig .Newidiodd bywyd Mark Williams o'r Rhyl un diwrnod ym Mehefin 1982 pan gollodd ei goes chwith mewn damwain ffordd wrth seiclo adref o'r ysgol. Roedd Mark yn 10 mlwydd oed.Mae'r ddamwain wedi siapio ei fywyd a'i yrfa mewn nifer o ffyrdd ac wedi arwain Mark i sefydlu cwmni yn 2018 o'r enw LIMB-art sy'n dylunio gorchuddion ar gyfer coesau prosthetig.Mae ei waith wedi cael ei gymeradwyo gan y Brenin yn 2024 gyda'r cwmni yn ennill un o Wobrau'r Brenin am ei fenter.Mae wedi ennill nifer o wobrau am ddyfeisio pethau a hefyd 30 mlynedd nol fe enillodd fedal aur, arian ac efydd ym Mhencampwriaethau'r byd i'r anabl fel nofiwr Paralympaidd. Mae ei stori yn anhygoel!
Georgia Ruth, y gantores a'r gyflwynwraig yw gwestai Beti George. Mae wedi rhyddhau 4 albwm, ac yn ystod y cyfnod clo, mi ddechreuodd sgwennu ychydig bob dydd. Mi ddaru hunan gyhoeddi ei nofel gyntaf “Tell Me Who I am”. Cafodd gynnig wedyn i sgwennu yn Gymraeg – Casglu Llwch, sef casgliad o fyfyrdodau ganddi.Roedd llynedd yn dipyn o flwyddyn rhwng popeth! Roedd ganddi albwm allan mis Mehefin. Roedd hi'n cyhoeddi llyfr Saesneg yr un cyfnod ac yn cyhoeddi llyfr Cymraeg mis Tachwedd. A dros yr haf – ar lwyfan Sesiwn Fawr yn Nolgellau - fe aeth Iwan ei gwr yn sâl, roedd bron a gorffen ei set (efo Cowbois) pan gafodd strôc ar y llwyfan. Mae Georgia yn trafod y cyfnod yma, a sut y gwnaeth hi ac Iwan ymdopi.Mae hi'n fam i 3 bellach, recordiwyd y sgwrs cyn genedigaeth Alma Gwen.
Croeso i bennod Mis Mehefin o bodlediad barddol Clera. Y Mis hwn, Elinor Wyn Reynolds sy'n tafoli cyfrolau barddol Llyfr y Flwyddyn ac yn rhoi ei phen ar y bloc. Ond pa gyfrol mae Elinor yn tybio ddylsai ennill o blith y tair cyfrol wych sy'n y categori barddol eleni? Gwrandwch i gael gwybod. Cawn hefyd gerdd gan yr hyfryd Jo Heyde sydd wedi cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o gerddi drwy Gyhoeddiadau'r Stamp. Mynnwch gopi! Hyn oll a mwy!
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mai yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.Geirfa ar gyfer y bennod:- Clip 1 Creais i - I created Pam est ti ati - Why you went about it Cerddoriaeth - MusicClip 2 Hediadau - Flights Ymdopi - To cope Blinedig - Tiring Seibiant - A rest Effro - Awake Wrth y llyw - At the tiller Newid perchnogaeth - Change of ownership Diwydiant - Industry Adfer - To recoverClip 3 Profiadau -Experiences Antur - Adventure Rhyngwladol - International Gwerthfawr tu hwnt - Extremely valuable Anhygoel - IncredibleClip 4 Rhydychen - Oxford Rhyfedd - Strange Prif Weinidog - Prime Minister Doniol - Amusing Dwyrain Canol - Middle East Cyfreithiwr - SolicitorClip 5 Chwerthin - To laugh Y cof cynta - The first memory O waelod bol- From the bottom of the stomach Gweladwy - Visual Llwyfan - StageClip 6 Ynglŷn â - Regarding Breuddwyd - A dream ‘Swn i ddim yn synnu - I wouldn't be surprised Wedi eu dodrefnu - Fitted Rargian mawr - Goodness me Cnau - Nuts Chwalu mhen i - Blew my mind Ffasiwn beth - Such a thingClip 7 Magu hyder - To build confidence Pennod - EpisodeClip 8 Cyfrifoldeb - Responsibility Dangos parch - To show respect Ysbrydoli - To inspire Croesawgar - Welcoming Gwefreiddiol - Thrilling Yn falch o fy hun - Proud of myself Diwylliant - Culture Llenyddiaeth - Literature
Aled Williams o YesCaerfyrddin sy'n sôn am y rali fawr YesCymru / Pawb Dan Un Faner dros annibyniaeth fydd yn cychwyn am 1.00, Sadwrn 22 Mehefin. Dewch i Gaerfyrddin i ddangos eich ochr a mwynhau'r hwyl!
Croeso i'r bennod swmpusaf erioed o bodlediad Clera! Yn ogystal â thrin a thrafod y cyfnod hynod brysur sydd ar ein gwarthaf yn y byd barddol, a llongyfarch aml i fardd ar eu lwyddiannau, cawn orffwysgerdd yn egsliwsif gan fardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd, Tegwen Bruce-Deans. Cawn farn Jo Heyde hefyd ar lyfrau'r categori barddol yn Llyfr y Flwyddyn 2023 a llawer mwy.
Rhy boeth i gysgu? Aircon yn freuddwyd pell? WEL, co' chi Haclediad mis Mehefin i ffanio chi efo breezy chat tri ffrind am dechnoleg, billionaires a ffilms rybish Byddwn ni'n sipian coctêls oer a thrafod Reddit, VR Headset freaky newydd Apple, trip Bryn i dŷ'r Cyffredin a FfilmAmDdim-DiDdim waethaf (?) ein run ni o 40 hyd yn hyn: London has Fallen. Diolch o galon i bob un ohonnoch chi sy'n gwrando ac yn cyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) bob mis - chi'n ridic a da ni'n meddwl y byd ohonoch!
Pod 66: Ymateb: Gemau Rhyngwladol Mehefin Cyfle i edrych nôl ar ffenest rhyngwladol rhwystredig i Gymru wrth i dîm y dynion golli yn erbyn Armenia a Thwrci yng Ngemau Rhagbrofol Ewro 2024 tra bod y tîm dan-21 yn cael pwynt gwerthfawr allan yn Denmarc. Dylan Blain sy'n asesu'r cyfan yng nghwmni Ifan Gwilym tra bod Sioned Dafydd yn Samsun. A chance to look back at a frustrating international window for Wales as the men's team lose ground in their Euro 2024 Qualifying group losing to Armenia and Türkiye. The under-21s earn a crucial point away to Denmark to start off their own Euro Qualifiers. Dylan Blain assesses it all with Ifan Gwilym with Sioned Dafydd reflecting from Samsun.
Gwern Gwynfil sy'n esbonio at beth sydd i'w edrych ymlaen yn y Gynhadledd a gynhelir ar benwythnos10-11 Mehefin yn Aberystwyth. Bydd sgyrsiau, gweithdai, dangosiad ffilm, dadansoddi data, hawl i holi a llawer mwy. Manylion pellach: https://cy.yes.cymru/cynhadledd_conference_2023 Dolenni/ Links: Dr John Ball talk on economics of independence: https://www.youtube.com/watch?v=Hwiwra17mbo Jim Wingate, co-author of 'Twenty Radical Steps to Welsh Independence by First Decolonising our Minds': https://www.youtube.com/watch?v=13pDOAavWew&t=1458s Robin McAlpine on the situation in Scotland: https://www.youtube.com/watch?v=2b-QkzDTCOM&t=5585s
With the news that Joe Allen has retired from international football, like London buses, it's a second consecutive tribute episode. Fittingly, it was Valentine's Day and Leon and Russell pay tribute to the heartbeat of the Wales team for the last decade. They also look at the prospects of Wrexham's Paul Mullin receiving a call up to one or other of the international windows in March and June. Wedi i Joe Allen gyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol, fel bysiau Llundain, dyma rifyn teyrnged olynol. Yn briodol, roedd yn Ddydd Gŵyl Sain Folant ac mae Leon a Russell yn talu eu teyrgend i guriad calon tîm Cymru ers y degawd diwethaf. Hefyd maen nhw'n edrych ar ba obaith sydd gan Paul Mullin o Wrecsam o dderbyn galwad i naill ai'r ffenestr rhyngwladol mis Mawrth neu'r llall ym mis Mehefin.
Wedi ei fagu yn Abergele ac yn gyn ddisgybl Ysgol Glan Clwyd, mae Karl Davies yn ymuno a Beti i drafod ei fywyd yr wythos yma. Dychwelodd Karl nôl i Gaerdydd ddiwedd mis Mehefin eleni o China, ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion yno am 4 blynedd. Hanes China gaiff y sylw heddiw, gan ei fod yn credu bod anwybodaeth y gorllewin am y wlad yn broblem enfawr. Bu Karl yn gweithio yn y byd gwleidyddol fel ymchwilydd yn San Steffan i Blaid Cymru, wedyn i'r byd newyddiadura gan ddringo i fod yn Olygydd Newyddion BBC Cymru. Ar ôl hynny fe fu'n Brifweithredwr Plaid Cymru am 9 mlynedd; I'r byd addysg aeth o wedyn fel Cyfarwyddwr Undeb y Prifathrawon. Aeth nol i swydd weinyddol yn y BBC ac wedyn draw i China i ddysgu saesneg i oedolion.
Beti a'i Phobol Aled Roberts Ar Beti a'i Phobol ddydd Sul, mi gaethon ni gyfle i ail-wrando ar sgwrs Beti efo Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, fuodd farw mis Chwefror eleni yn 59 mlwydd oed. Cafodd Aled ei eni a'i fagu yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, a dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae o'n esbonio wrth Beti beth oedd o'n ei weld yn heriau'r swydd a sut oedd o'n eu hwynebu... Heriau - Challenges Hwyrach - Efallai Arweinydd cyngor - Council leader Hamddenol - Leisurely Gwthio - To push Awyddus - Eager Adlewyrchu - To reflect Cryfder - Strength Twf aruthrol - Huge growth Drwy gyfrwng - Through the medium of ...ac mae colled mawr i Gymru ac i'r Gymraeg ar ôl Aled Roberts. Aled Hughes ac Meurig Rees Jones Buodd Syr Paul McCartney yn perfformio yn Glastonbury wythnos diwetha ac yntau newydd ddathlu ei benblwydd yn 80. Ond oeddech chi'n gwybod bod y Beatles yn ymwelwyr cyson â Phortmeirion? Meurig Rees Jones ydy Rheolwr Lleoliadau Portmeirion, a buodd o'n siarad efo Aled Hughes fore Llun am gysylltiad y canwr a'r ardal dros y blynyddoedd Rheolwr Lleoliadau - Location Manager Y cyswllt - The contact Bythynnod hunanarlwyo - Self catering cottages Ar les byr - On a short lease Gatws - Gatehouse A dyna i chi hanes pobl enwog yn mwynhau gwyliau moethus yn y chwedegau ym Mhortmeirion. GBYH Campio Math gwahanol iawn o wyliau sy nesa wrth i Hanna Hopwood holi beth sy'n gwneud bywyd yn haws wrth fynd i wersylla. Kelly Morris sy'n esbonio beth ydy apêl y math yma o wyliau... Moethus - Luxurious Gwersylla - Camping Cyfeillgar - Friendly Mas tu fas - Outside Dw i'n dwlu mynd - Dw i wrth fy modd yn mynd Chwarae aboiti - Playing around Sbort - Hwyl Hala amser - Treulio amser Llanw - Llenwi Ia, mae gwersylla'n sbort, tydy, ond i'r tywydd fihafio ynde? BORE COTHI CROQUET 2206 Mae'n debyg fod y gêm croquet wedi dod yn fwy poblogaidd yn dilyn cyfresi fel Bridgerton ac un o'r rhai sy wedi dechrau chwarae'r gêm ydy Davyth Fear o Lanrug ger Caernarfon. Aeth Davyth a'i wraig, Rhiannon, i ddiwrnod agored yng nghlwb croquet Llanfairfechan yn 2018 a phenderfynu rhoi tro arni a dyn nhw ddim wedi edrych yn ôl ers hynny. Rheolau - Rules Dyfeisio - Devise Yr Ymerodraeth Brydeinig - The British Empire Cymhleth - Complicated Naill ai - Either Hanes croquet yn nhref fach lan y môr Llanfairfechan yn fan'na ar Bore Cothi. DROS GINIO NEIL AC ALED ROSSER Tad a mab, Neil ac Aled Rosser oedd gwestai dau cyn dau efo Dewi Llwyd. Mae'r ddau yn gerddorion ac mae Aled, y mab, yn byw yn y gogledd ac mae Neil yn byw yng Nghaerfyrddin, ac newydd ymddeol o ddysgu. Dyma i chi ran o'r sgwrs ble maen nhw'n sôn am effaith y cyfnod clo ar eu bywyd teuluol... Cerddorion - Musicians Turnio pren - Woodturning Rhingt - Rhwng Rhwystredig - Frustrating Ffili - Methu Heolydd - Ffyrdd Ddim rhy ffôl - Ddim yn rhy ddrwg Gweld eisiau - Colli Aelwyd gerddorol - A musical home Pwysleisio - To emphasise A dan ni'n aros efo cerddorion yn y clip nesa. Cafodd Georgia Ruth sgwrs efo'r delynores Catrin Finch. GEORGIA A CATRIN FINCH Mae Catrin wedi bod yn perfformio ers blynyddoedd efo Seckou Keita, sy'n canu'r Kora, offeryn o Orllewin Affrica. Mae Catrin a Seckou wedi rhyddhau tair albwm gyda'i gilydd. Ond doedd ei phrofiad cynta o gydweithio efo perfformiwr Kora ddim yn un hapus iawn. Toumani Diabaté oedd y perfformiwr ac yn Theatr Mwldan, Aberteifi oedd y cyngerdd. Dyma Catrin yn dweud yr hanes... Telynores - Female harpist Offeryn - Instrument Yn llythrennol - Literally I ystyried - Considering Parhau - To continue
Croeso i bennod mis Mehefin o Clera! Cawn sgwrs gyda Phrifardd yr Urdd, Ciaran Eynon am ei gerdd arobryn ar y testun 'Diolch' yn ogystal â sgwrs gyda'n Posfeistr, Gruffudd Antur am y gyfrol fawreddog newydd, 'A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes gan Daniel Huws. Hefyd, mae llinell gynganeddol ddamweiniol y mis yn ei hôl! Hyn oll yn ogystal â Delicassy gan Dylan a Diweddgan gan Jo Heyde, sef ei cherdd fuddugol yng Nghadair Eisteddfod Llandudoch.
Leon, Gareth and Russell review the June Nations League programme: who enhanced their reputation and stake for a seat to Qatar; who did their chances harm; the likelihood of avoiding relegation from tier A of the Nations League. Mae Leon, Gareth a Russell yn arolygu rhaglen Cynghrair y Cenedloedd mis Mehefin: pwy wellodd eu henwau a chyfle am sedd i Qatar; pwy wnaeth ddrwg i'w siawnsau; y tebygolrwydd o osgoi diraddiad o haen A Cynghrair y Cenedloedd. Images | Lluniau: Tim Hartley
Gwneud Bywyd yn Haws Oeddech chi'n gwybod mae'r Ffindir a'r Swistir ydy'r ddwy wlad hapusa i fyw ynddyn nhw? Wel yn ôl un adroddiad beth bynnag. Dewch i ni gael clywed dipyn am fywyd yn y ddwy wlad gan Dwynwen Hedd o'r Swistir a Tristan Owen Williams o'r Ffindir. Dyma nhw'n sgwrsio efo Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws. Mor ddwfn - So deep Diwylliant - Culture Cyd-fynd - To agree Traddodiad - Tradition Coedwigoedd - Forests Penodol - Specific Ysgogi - To motivate Noeth - Naked Bedydd tân - Baptism of fire A sôn am sauna, os dach chi isio gwybod rhagor gan Trystan a Dwynwen ac am fywyd yn y Ffindir a'r Swistir yna agorwch ap BBC Sounds a theipio'r geiriau Gwneud Bywyd yn Haws i fewn i'r bar bach chwilio. Aled Hughes a Maggie Morgan Wedi dysgu Cymraeg mae Maggie Morgan a buodd hi'n chwilio mewn i hanes ei theulu yn y gobaith o ddod o hyd i'r rhesymau pam nad oedd ei theulu bellach yn siarad Cymraeg. Cafodd Aled Hughes sgwrs efo Maggie ar ei raglen fore Llun. Bellach - By now Di-Gymraeg - Non Welsh speaking Mewn gwirionedd - In reality Teulu estynedig - Extended familly Tad-cu - Taid Aelod - Member Yr aelwyd - The hearth Mamiaith - Mother tongue Mae mwy o hanes Maggie i'w gael yn y rhaglen arbennig ‘Fy Achau Cymraeg' ar BBC Sounds Ifan Evans a Nan Thomas Enillodd rhaglen Ifan Evans wobr arbennig mewn ŵyl Geltaidd yn ddiweddar ac un o'r cynta i'w longyfarch ar ei raglen oedd Nan Thomas o Eglwyswrw. Roedd Nan yn falch bod Cymru'n gwneud yn dda ar lwyfan rhyngwladol ac yn awyddus i ni gymryd rhan fel gwlad yn yr Eurovision Song Contest, ond pwy fasai Nan yn licio ei weld yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth tybed? Achau - Ancestry Gwobr - Award Llongyfarch - To congratulate Llwyfan rhyngwladol - International stage Cynrychioli - Represent Pwy gelen i? - Pwy gawn ni? Yr unig fai - The only fault Pallu - Gwrthod Dewis da ynde? Morgan Elwy enillodd Can i Gymru y llynedd, ac mae o'n diwtor Cymraeg yn ogystal! Rhys Mwyn a Catrin Saran Buodd Rhys Mwyn yn trafod sut mae cerddoriaeth yn siapio ein bywydau efo Catrin Saran o Abertawe. Aeth Catrin yn eitha emosiynol wrth gofio am ei mam-gu yn canu ‘Y Darlun – Dwy Law yn Erfyn' – iddi pan oedd hi'n blentyn... Mam-gu - Nain Erfyn - Praying Difyr - Diddorol Wyres - Grand-daughter ‘Y Darlun – Dwy Law yn Erfyn' dyna i chi gân hyfryd, syml ac un emosiynol iawn i Catrin Saran ynde? Bore Cothi - Shan Cothi a Debra Drake Os dach chi'n gwylio ‘The Great British Sewing Bee' dach chi'n siŵr o fod yn nabod Debra Drake sydd yn cystadlu yn y rhaglen. Mi wnaeth hi blesio'r beirniaid yn arbennig yr wythnos o'r blaen ac ennill gwobr ‘Dilledyn yr Wythnos'. Dyma Debra yn sôn am y gystadleuaeth wrth Shan Cothi... Beirniaid - Judges Dilledyn - Garment Uffar o brofiad - Hell of an experience Gwnio - To sow Her - A challenge Cyd-destyn - Context Becso - Poeni Cywrain - Elaborate Trawsnewid - To transform Dyluniad - A design Lluchio - Taflu A phob lwc i Debra efo'r gystadleuaeth o hyn ymlaen! Dei Tomos a Dani Schlick Mi symudodd Dani Schlick o Berlin i Gymru saith mlynedd yn ôl, mae hi wedi dysgu Cymraeg ac erbyn hyn mae hi'n gweithio i'r Mentrau Iaith. Dyma hi'n egluro wrth Dei Tomos sut daeth hi i Gymru i ddechrau, a pham ei bod hi wedi dysgu Cymraeg. Wedi gwirioni ar - Wedi dwlu ar Tebygrwydd - Similarity Synau - Sounds Ymdopi - To cope Ieithyddol - Linguistic Cam - A step Mynychu digwyddiadau - Attending evebts Cysylltiadau - Connections
Dros Ginio Dafydd Iwan Mi fydd tîm pêl-droed Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd ar ôl i'r tîm guro Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd wythnos diwetha. Mi wnaeth y crysau coch yn wych ond roedd canu'r Wal Goch yn bwysig hefyd yn enwedig wrth iddyn nhw ganu 'Yma o Hyd' efo Dafydd Iwan. Dyma Dafydd yn sôn am y profiad ar Dros Ginio Breuddwyd - A dream Cyfuno - To combine Manteisio ar y cyfle - Taking advantage of the opportunity Bwriadol - Intentional Mynegi teimladau - Expressing the feelings Rhyfeddol - Wonderful Cyfraniad - Contribution Trefnwyr cefn llwyfan - Backstage organisers Profiad bythgofiadwy - An unforgettable experience Ac mi gyrhaeddodd y gân 'Yma o hyd' rhif 1 yn siart I-Tunes wythnos diwetha - anhygoel ynde? Arfon Wyn Un o arwyr Cymru yn y gêm oedd y gôl-geidwad, neu'r gôli, Wayne Hennessey. Aeth Wayne i ysgol gynradd Biwmares pan oedd o'n blentyn a dyma i chi Arfon Wyn, oedd yn bennaeth yr ysgol ar y pryd, yn sôn wrth Dylan Ebenezer am sut dechreuodd gyrfa bêl-droed Wayne... Pennaeth - Head Hogyn dymunol - A likeable boy Dihyder - Lacking in confidence Dirprwy - Deputy Syth bin - Straight away Menyg - Gloves Wedi dotio - Wrth ei fodd Y gamp - The sport Diolch i staff Ysgol Biwmares ynde, am roi'r cyfle cynta i Wayne Hennessy. Beti a Geraint Davies Geraint Davies oedd gwestai Beti a'i Phobol dydd Sul Eleni mae Geraint wedi ymddeol fel cynghorydd sir dros ardal Treherbert yng Ngwm Rhondda ar ôl iddo fo wneud y gwaith am dros 30 mlynedd. Buodd o hefyd yn Aelod Cynulliad dros y Rhondda rhwng 1999 a 2003, roedd o'n fferyllydd yn y cwm am flynyddoedd maith a hefyd yn aelod o'r clwb tenis lleol. Dyn prysur iawn felly... Aelod Cynulliad - Assembly member Fferyllydd - Chemist Cyflwyniad - Introduction Sbort mawr - Llawer o hwyl Parhau eich bywyd - Prolong your life Ymennydd - Brain Poblogaidd - Popular Rhyfedd - Strange Wedi cwympo - Had fallen O ganlyniad - As a consequence Diddorol ynde - Covid wedi gwneud i bobl feddwl mwy am eu hiechyd a'u ffitrwydd. Aled Hughes ac Alex Harry Gemau'r Gymanwlad Mi wnawn ni aros ym myd y campau rŵan ond y tro 'ma efo Gemau'r Gymanwlad. Bydd y gemau'n cael eu cynnal yn Birmingham ddiwedd mis Gorffennaf ac un o'r athletwyr fydd yn mynd i Birmingham ydy Alex Harry, sy'n dod o Lanelli yn wreiddiol, ac sy wedi cael ei dewis yn rhan o dim reslo Cymru. Dyma flas i chi ar y sgwrs rhwng Aled Hughes ac Alex... Gemau'r Gymanwlad - The Commonwealth Games Pwysau - Weight I gael dy ystyried - For you to be considered Cynrychioli dy wlad - Representing your Country Aled Hughes a Non Stanford Pob lwc i Alex ynde a hefyd i Non Stanford sydd yn rhan o dîm triathlon Cymru. Pa fath o baratoadau mae hi wedi eu gwneud ar gyfer Gemau'r Gymanwlad tybed? Aled Hughes oed yn holi eto... Paratoadau - Preparations Canolbwyntio - To concentrate Cic lan y pen-ôl - A kick up the backside Cydwybod - Conscience Geraint Lloyd a Nia Medi Wel, dan ni wedi sôn am bêl-droed, tenis, athletau ac rŵan dan ni'n mynd i glywed hanes criw bach sydd am seiclo o Lundain i Amsterdam - Fflamingos Pinc Trystan. Mae'r pum 'fflamingo' am wneud y daith er cof am eu ffrind Trystan Gwyn Rees fuodd farw dair blynedd yn ôl. Geraint Lloyd fuodd yn holi un o'r criw, Nia Medi... Er cof am - In memory of Cymeriad lliwgar - A colourful character Tyle - Hill Galar - Bereavement Cyfnod tywylla ein bywydau - Darkest period of our lives Doniol - Amusing Cynghori - To advice
Beti a Ceri Isfryn Mae Ceri Isfryn wedi gweithio ar sawl gyfres deledu fel The One Show, Watchdog Rogue Traders, a Panorama a hi ydy cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell sy'n dilyn hanes Robert Maxwell a'i deulu. Dim ond dwy oed oedd Ceri pan fuodd Robert Maxwell farw yn 1991. Faint felly oedd hi'n gwybod am hanes teulu Maxwell cyn dechrau gweithio ar y gyfres? Dyma hi'n sgwrsio efo Beti George... Cynhyrchydd - Producer Cenhedlaeth - Generation Dylanwad - Influence Ymchwilio - To research Diflasu - To become bored of Iddew - Jew Datblygu - To develop Moesau - Morals Cofeb - Memorial Delwedd - Image Ceri Isfryn yn sôn wrth Beti George am ei gwaith ymchwil i deulu Robert Maxwell. Dros Ginio Ieuan a Rhisiart Y ddau frawd Ieuan Wyn Jones a Rhisiart Arwel oedd y ddau cyn dau efo Dewi Llwyd . Roedd Ieuan yn arfer bod yn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru ac mae Rhisiart yn gerddor. Faint o ffrindiau oedden nhw pan oedden nhw'n ifanc tybed? Dirprwy Brif Weinidog Cymru - Deputy First Minister of Wales Cerddor - Musician Traddodiad - Tradition Ddaru - Gwnaeth Difyr - Diddorol Ffraeo - To row Prin dw i'n cofio - I hardly remember Tueddiad - A tendency Ar wahân - Separately Cecru - Bickering Y ddau frawd Ieuan Wyn Jones a Rhisiart Arwel yn fan'na'n sgwrsio gyda Dewi Llwyd. GBYH Eleri Evans Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth cafodd Hanna Hopwood gwmni Eleri Evans sy'n byw yng Ngorllewin Cymru gyda'i gŵr Ian, a'u plant Alys sy'n 7, Aaron sy'n 9 a Liam sy'n 17. Oherwydd gwahaniaeth oedran y plant roedd hi'n anodd weithiau cadw pawb yn hapus. Dyma Eleri'n sôn am sut aeth y teulu ati i geisio gwella'r sefyllfa... Mo'yn - Eisiau Llwyth - Loads Sylweddoli - To realise Mynd am wâc - Mynd am dro Mae e'n dwlu ar - Mae o wrth ei fodd efo Wel dyna syniad da ynde - gwrando ar leisiau'r plant a chadw pawb yn hapus! Rhydian a Shelley ac Esther Rhydian a Shelley fuodd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes ac mi gaethon nhw sgwrs efo Esther, sy'n 13 oed ac yn mynd i Ysgol David Hughes, Porthaethwy ar Ynys Môn. Ar ei ffordd i Eisteddfod yr Urdd oedd Esther, a dyma hi'n sôn am yr holl gystadlu oedd o'i blaen... Parti Deulais - Two voice party Llefaru Unigol - Solo recitation Côr Gwerin - Folk Choir Detholiad - A selection Tawelu - To quieten Cyngor - Advice Cefnogi - To support Enfawr - Huge Wel mi roedd Esther wedi cael eisteddfod brysur yn doedd? Bore Cothi Sioned Mair a Caryl Parry Jones Buodd Caryl Parry Jones a'i ffrind Sioned Mair yn cystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd pan oedden nhw yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy Sir Ddinbych, a dyma glip bach ohonyn nhw'n hel atgofion am y cyfnod yna.. Hel atgofion - Reminiscing Arweiniad - Leadership Ysbrydoli - To inspire Roedd y brwdfrydedd yn heintus - The enthusiasm was infectious Creu ymdeimlad o berthyn - Create a feeling of belonging Bodoli - To exist Hyfforddi - Coaching Y diweddar - The late Caryl ac Sioned yn amlwg wedi mwynhau cystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd. Stiwdio Os wnaethoch chi wrando ar yr Eisteddfod wythnos diwetha dw i'n siŵr eich bod wedi clywed sawl côr ac unigolion yn canu caneuon oedd wedi cael eu cyfansoddi gan Robat Arwyn. Mae Robat yn dod o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol ond erbyn hyn mae'n byw yn Nyffryn Clwyd yn agos at le cafodd Eisteddfod eleni ei chynnal. Gofynnodd Nia Roberts iddo fo pryd ddechreuodd ei ddiddordeb mewn cyfansoddi... Cyfansoddi - To compose Dylanwadau cynnar - Early influences Alawon - Tunes Arbenigo - To specialise Unawdydd - Soloist
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” CARYL AG ALUN …wel pêl-droed wrth gwrs! Mae Cymru wedi llwyddo i fynd drwodd i rownd nesa'r Ewros ac mae Carl Roberts yn un o'r bobl lwcus sy wedi bod yn Baku ac yn Rhufain yn sylwebu ar gemau Cymru ar ran Radio Cymru. Cafodd Caryl ac Alun sgwrs gyda fe ar y Sioe Frecwast fore Iau… Sylwebu - Commentating Ychwanegu - To add Syth bin - Straight away Ynganu - To pronounce Awrgylch - Atmosphere Yn drydanol - Electric Yn y cnawd - In the flesh Cymeradwyo - To applause Parchus - Respectful Di-ri - Countless Llifoleuadau - Floodlights MERCHED Y WAL GOCH Dim ond ychydig o ffans Cymru oedd wedi gallu mynd i Baku oherwydd Covid, ond roedd hi dal yn bosib clywed y Wal Goch yn canu drwy gydol y gêm. Mae'r Dr Penny Miles yn un o fenywod y Wal Goch ond dyw hi ddim wastad wedi cael croeso gan rhai o'r cefnogwyr eraill. Penderfynodd hi felly fod angen gwneud gwaith ymchwil i brofiadau menywod sy'n gwylio gemau pêl-droed, fel cawn ni glywed yn y clip nesa 'ma… Drwy gydol - Throughout Menywod - Merched Ymchwil - Research Aelodau - Members Rhannu eu profiadau - Sharing their experiences Yn gyffredinol - Generally Meithrin - To nurture TITWS TAF …a dyn ni'n aros gyda merched a phêl-droed yn y clip nesa. Oeddech chi'n gwybod bod tîm pêl-droed merched yng Nghaerdydd o'r enw Titws Tâf Cymric? Dyma i chi rai o'r chwaraewyr yn dweud eu hanes … Defod - Custom Hogan - Merch Rhanbarthol - Regional Parhau - To continue Gwledig - Rural Hogiau - Bechgyn Genod - Merched Annog - To encourage LISA GWILYM … dyn ni heb orffen eto gyda merched na gyda phêl-droed. Mae Sioned Dafydd yn brysur iawn ar hyn o bryd yn sylwebu ar y pêl-droed ar S4C, ond gaeth hi amser i sôn wrth Lisa Gwilym am ei dydd Sul perffaith , a hynny yn Madrid. Ond wrth gwrs roedd rhaid dod â thimoedd pêl-droed y ddinas mewn i'r sgwrs… Dwlu ar - Mad about Cartrefol - Homely Prif ddinas - Capital city Wrth ystyried - Considering Ffili - Methu Enfawr - Huge Yn amlwg - Obviously Yn gwmws yr un peth - Exactly the same Sa i'n rhugl - Dw i ddim yn rhugl Unioni - To unite ESGUSODWCH FI Nid pêl-droediwr ond chwaraewr rygbi oedd tad y ‘TikToker' Ellis Lloyd Jones, ac mae'r ffaith honno a'r ffaith bod Ellis yn berfformiwr drag wedi achosi ambell i broblem iddo fe yng nghymoedd y de. Fe oedd gwestai Podlediad Esgusodwch Fi wythnos diwetha a dyma i chi flas ar ei sgwrs… Cymoedd - Valleys Colur - Make-up Yn falch - Pleased FFION EMYR Y Perfformiwr drag TIK Tok, Ellis Lloyd Jones oedd hwnna'n sgwrsio ar Esgudowch Fi. Mae'r gantores Betsan Haf yn briod ag Eleri, a buodd hi'n rhannu ambell i stori am sut wnaeth eu perthynas ddatblygu gyda Ffion Emyr… Cantores - Singer (female) Datblygu - To develop Cwrdd - Cyfarfod Graddio - To graduate Cwympo mewn cariad - To fall in love Trefnu - To organise
Recordiwyd y bennod hon ar Alban Hefin, cyn inni glywed am golli David R Edwards. Bydd teyrnged i Dave Datblygu, felly, ym mhennod mis Gorffennaf. Yn y cyfamser, mae pennod orlawn yn eich disgwyl a'r haf yn ei anterth.
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” DEWI LLWYD ...pêl-droed wrth gwrs gan fod yr Ewros wedi cychwyn a Chymru wedi dechrau'n dda gyda gêm gyfartal yn erbyn tîm y Swistir. Cyn y gêm honno cafodd Dewi Llwyd air gydag Iwan Roberts cyn i Iwan deithio allan i Baku i weld dwy gêm gynta Cymru... Gêm gyfartal - Drawn game Gohirio - To postpone Pencampwriaeth - Championship Cefnogwyr - Fans Awyrgylch - Atmosphere Cenfigenus - Jealous Dw i'n amau dim - I don't doubt Crynhoi - To summarise Ymosodwr - Attacker Yn ddyfnach - Deeper SIOE FRECWAST A phob lwc i Gymru yn y gemau nesa on'd ife? Cofiwch mae'n bosib clywed sylwebaeth fyw ar holl gemau Cymru yn yr Ewros ar Radio Cymru. A phêl droed oedd pwnc Ffeithiadur y Sioe Frecwast gyda Caryl, Huw a Hywel Llion fore Llun, a chlywon ni nifer o ffeithiau diddorol iawn am y gêm... Iesgob annwyl! Good grief! Cynhyrchu To produce Fel a gydnabuwyd As acknowledged Iseldiroedd Netherlands Clip Gilian Elisa Mae yna dîm pêl-droed yn y Llanfairpwll enwog hefyd cofiwch! Rhydian Bowen Phillips a Shelley Rees oedd yn cyflwyno yn lle Trytsan ac Emma fore Gwener, a'r actores Gillian Elisa oedd eu gwestai a buodd hi'n sôn am ei phrosiect newydd yn LLundain... Gwmws - Exactly Adeiladol - Constructive Ciniawa - To dine Dan y Wenallt - Under Milk Wood Llwyfannu - To stage Ymarferion - Rehearals DEWR Clywon ni Rhydian Bowen Phillips ar Bodlediad Dewr yn ogystal. Roedd Rhydian yn arfer perfformio gyda'r band Mega a buodd e'n sgwrsio gyda Non o'r band Eden am rai o'r sylwadau negyddol a chas roedden nhw'n derbyn ar gyfryngau cymdeithasol, yn enwedig ar o wefannau cymdeithasol cynta yn Gymraeg – maes-e… Cas - Nasty Cyfryngau cymdeithasol - Social media Canmol - To praise Bodoli - To exist Sylwadau - Comments Canolbwyntio - To concentrate Yn fyw - Live Cynulleidfa - Audience Diflannu - To disappear TRYSTAN AC EMMA Ie , mae'r cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn lefydd negyddol iawn on'd y'n nhw. Buodd Lowri Cooke yn adolygu'r ffilm newydd Dream Horse ar Bore Cothi a chlywon ni bod gan y ffilm gysylltiadau cryf iawn â Chymru. Rhyfeddol - Amazing Cyfarwydd - Familiar Llwyth - Loads Cyfarwyddwr - Director Trin - To treat Argraff - Impression Urddas - Dignity Nid nepell o - Ddim yn bell o Gorbwysleisio - Overemphasising Difreintiedig - Deprived Ffraeth - Witty LISA GWILYM Arhoswn ni gydag actorion Cymreig – y tro hwn Steffan Rhodri sy'n byw yn Llundain ar hyn o bryd. Beth mae e'n licio wneud ar ei ddydd Sul delfrydol? Rhannodd yr actor ei benwythnos perffaith gydag Ifan Davies oedd yn cyflwyno yn lle Lisa Gwilym Delfrydol - Ideal Cyflwyno - Presenting Amrywio - To vary Ymhellach - Further Traddodiadol - Traditional Arbrofol - Experimental Dylanwadau - Influences Dwyrain Canol - Middle East Môr y Canoldir - Mediterranean Sea Cyfuniad - Combination Dychmygol - Imaginative
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BORE COTHI Credwch neu beidio roedd hi'n wythnos dathlu llaeth, neu lefrith, yr wythnos diwetha felly penderfynodd Bore Cothi ofyn i'r cogydd Kit ELlis rannu rhai o'i hoff ryseitiau llaeth – a daeth hi'n amlwg ei bod hi'n ffan mawr o'r stwff gwyn... Yr un fagwraeth - The same upbringing Godro - Milking Cyflawn - Complete Cryfhau - To strengthen Tlodi - Poverty Brasder - Fat Cydbwysedd - Balance Mwy o les - More good Uchafbwynt - Highlight Atgyfodi - To revive TROI'R TIR Mwy o laeth/llefith nawr. Clywodd Troi'r Tir gan ffermwr ifanc o Ynys Môn sydd wedi arallgyfeirio ac yn godro defaid! Beth sy'r tu ôl i'r cynllun hwn tybed? Arallgyfeirio - To diversify Ar fin - About to Ysgytlaeth - Milk shake Addasu - To modify Rhinweddau - Virtues Cynhesu byd eang - Global warming Yn faethol - Nutriciously Egni - Energy Amrwd - Crude Ehangu - To expand TRYSTAN AC EMMA Nid godro pengwiniaid mae Dafydd Wyn Morgan ond casglu unrhywbeth sy'n ymwneud â nhw. Buodd e'n sgwrsio gyda Trystan ac Emma am ei hobi diddorol ac rhywsut trôdd y sgwrs at y band Eden roedd Emma'n rhan ohono ac at eu cân eiconig ‘Paid â bod ofn'... Chwarter canrif - A quarter of a century Casgliad gwreiddiol - The original Yn glou iawn - Yn gyflym iawn Ennill ei chalon hi - To win her heart Mynd mas ‘da fi - Mynd allan efo fi Yn ddiweddarach - More recently Cyffesu - To confess Ffefrynnau - Favourites Yn gyson - Constantly Dychwelyd - Returning ALED HUGHES Basai ‘Paid â bod ofn' yn gân dda i Angharad Mair ei chlywed cyn iddi fynd ar awyren, gan fod ganddi ofn hedfan. Dyma i chi ran o sgwrs gafodd Angharad gyda pheilot cwmni BA ble roedd hi'n gobeithio cael cyngor ar sut i ymdopi gyda'r ofn mawr yma... Camu mewn - To step in Crynu - Shaking Ystadegau - Statistics Diogel - Safe Mynd o'i le - To go wrong Y gyfrinach - The secret Wrth y llyw - Steering Hediad - Flight ALED HUGHES Cyflwyno rhaglen Aled Hughes oedd Angharad Mair yn fan'na a'r clip hwnna'n dangos yn glir mai'r Gymraeg wrth gwrs ydy'r ateb i wella popeth! Cafodd Caryl a Geraint gwmni Megan Williams, sydd yn cyflwyno'r tywydd, ar eu rhaglen ar RC2 fore dydd Mercher. Ydy hi'n mwynhau'r swydd hon tybed? Canmol To praise Beio To blame Cyflwyno Presenting Clip Bronwen Lewis Gobeithio bydd gan Megan lawer mwy o newyddion da i ni dros yr haf on'd ife? Mae'r gantores Bronwen Lewis wedi bod yn y newddion yn ddiweddar oherwydd llwyddiant ei chaneuon Cymraeg ar Tik Tok. Ond mae hi wedi llwyddo mewn sawl ffordd arall, ar raglen ‘The Voice' ond hefyd fel actores yn y ffilm ‘Pride'. Dyma i chi flas ar sgwrs gaeth Bronwen gyda Rhydian a Shelley am ei rôl yn y ffilm honno… Ar y gorwel - In the pipeline Fflili - Methu Profiad - Experience Agwedd - Attitude Y byd creadigol - The creative world Ymateb - Response Ysbrydoledig - Inspiring
[English below] Yn y pennod yma, dwi'n siarad gyda JD. Dechreuodd JD dysgu'r Gymraeg ar ddechrau'r cyfnod clo llynedd, a'r recordiad yma yw ei sgwrs gyntaf erioed yn y Gymraeg!JD yw prif-fagwr bragdy Wild Weather, ac felly, rydym ni am drafod cwrw a bragu!Mae gennym ni gynnig arbennig ar gael i chi nes 1af Mehefin 2021. Mae gan Fragdy Wild Weather côd gostwng sef SGWRSIO, sy'n cynnig gostyngiad o 5% pan rydych yn prynu ei cwrw. Rwy'n argymell eich bod yn mynd amdani, gan ei fod yn wych o gwrw!In this episode I'm chatting with JD. JD started learning Welsh at the beginning of lockdown 2020 and this recording was his first ever proper conversation in Welsh!JD is the head brewer of Wild Weather Ales and so naturally, we discuss beer and brewing.We have an exclusive offer now until 1st June 2021. Wild Weather Brewery will have a 'discount code' SGWRSIO to get 5% off when you buy their beer. Which I completely recommend as it's gorgeous!
Ym mhennod ddiweddaraf Y Busnes Rhedeg Ma mae Owain yn cael cwmni y cwpl o Aberteifi sy'n gyfrifol am bodlediad triathlon Nawr yw'r Awr. Lansiwyd y pod ym mis Mehefin 2020, ac fe wnaethon nhw gyhoedd 25 pennod wythnosol yn y gyfres gyntaf. Maen nhw wedi cyfweld llwyth o athletwyr ac enwogion o'r byd chwaraeon, ynghyd ag arbenigwyr mewn maesydd penodol o fyd y campau. Mae wir yn werth i chi chwilio am Nawr yw'r Awr ar eich chwaraewr podlediadau a gwrando nôl ar gymaint â phosib o'r penodau. Roedd cymaint i'w drafod nes bod rhaid rhannu'r bennod yn ddwy ran. Yn y cyntaf, rydan ni'n trafod Nawr yw'r Awr, hanes Nia a Dai fel rhedwyr, a'r gobeithion o weld digwyddiadau mawr triathlon a rhedeg yn dychwelyd yn fuan. Rhan 2 i ddilyn yn fuan! Cerddoriaeth y bennod: 'Breuddwyd' gan Eädyth (allan ar Recordiau UDISHIDO)
Doedd dim Eisteddfod Genedlaethol eleni ond mi fyddwn ni’n edrych yn ôl ar Ŵyl AmGen Radio Cymru ar Pigion yr wythnos yma Mae hi’n draddodiad i gael cywydd croeso i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal bob blwyddyn. Wrth gwrs mae pethau’n wahanol eleni ond ysgrifennodd y bardd Ceri Wyn Jones gywydd croeso i’r Eisteddfodd AmGen a dyma hi i chi… Amgen Alternative Bardd Poet Cywydd Croeso A poem to welcome the Eisteddfod Cerdd Poem Sbort Fun Adeg anghyffredin Unusual period Er nad oedd yr Eisteddfod yn debyg i’r un dyn ni wedi arfer â hi , mae’r dysgwyr yn dal i gael lle pwysig iawn yn yr Eisteddfod AmGen. Dros y penwythnos cyhoeddodd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn a dyma i chi Dona Lewis o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn darllen y feiriniadaeth ar ran y tri beirniad… Cyhoeddi To announce Beirniadaeth Adjudication Ein hysbrydoli Inspiring us Rownd derfynol Final Eu hymdrechion Their efforts Wedi dod i’r brig To have won Cyfweliad Interview Mam-gu Nain Prin oedd y cyfle The opportunity was rare Cyfleoedd Opportunities Er mwyn ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn roedd yn rhaid i’r 5 oedd ar y rhestr fer gynnal sgwrs radio gyda Shan Cothi, a dyma flas i chi ar sgwrs Jazz gyda Shan Rhestr fer Short list Yn falch Proud Teimlo’n euog Feeling guilty Cymdeithasu To socialise Cyfrwng Saesneg English medium Safonau Standards Cwympo To fall Cyd-lynydd Co-ordinator Yn gyfrifol am Responsible for Datblygiadau pwnc Subject developments Y dwlu ar To dote on Mae’r gantores Gwawr Edwards wedi ennill 2 o brif wobrau canu’r Eisteddfod Genedlaethol yn y gorffennol a dyma hi’n sôn am sut oedd hynny wedi helpu ei gyrfa fel cantores broffesiynol Ysgoloriaeth Scholarship Cystadleuaeth Competition Ta beth Anyway Cynhyrfu To stir Llawn cystal siawns As good a chance as any Ar fin mynd About to go Braint o’r mwya The greatest honour Pluen yn fy nghap A feather in my cap Ymfalchïo To take pride in Gofynodd Shan Cothi i Stifyn Parri wobrwyo 3 pherson sy’n haeddu tlws eisteddfodol arbennig iawn – Tlws Steddfod Stifyn – a dyma pwy benderfynodd Stifyn oedd yn dod i’r brig… Tlws Trophy Beiriniadu To adjudicate (fy) ngên yn syrthio My jaw dropping Crio Llefain Yn ddiweddarach Later Llorio To floor Creu cerddoriaeth Creating music Beichio crio Crying my eyes out Toda Ogunbanwo oedd yn rhoi araith Llywydd y Dydd Eisteddfod AmGen ddydd Gwener. Symudodd Toda Ogunbanwo, sy’n ugain oed, i Benygroes yng Ngwynedd o Harlow yn Essex pan oedd yn 7 mlwydd oed. Ym mis Mehefin eleni paentiodd rhywun swastica ar ddrws garej y teulu ym Mhenygroes. Roedd hyn yn sioc i lawer o bobl gan ei fod wedi digwydd mewn pentre bach Cymraeg ei iaith. Ond fel mae Toda yn dweud yn ei araith fel Llywydd, mae hiliaeth i’w chael ym mhobman Araith Llywydd y Dydd The President of the Day’s address Coelio Credu Datrysiad Resolution Canran fawr A large percentage Esgusodi ei hun Excusing himself Caethweision Slaves Nad ydy hiliaeth yn bodoli That racism doesn’t exist Casineb Hate Diwylliannau Cultures Lleiafrif Minority Mae’r actor Rhys Ifans wedi treulio‘r cyfnod clo yn Llundain, a dyma fe’n rhoi syniad i ni o sut brofiad oedd bod dan glo yn y ddinas fawr dros y misoedd diwetha… Dan glo Locked down Profiad Experience Dilys Valid Yn benodol Specifically Wneith o atseinio It will resonate Wnaeth o (fy) nharo It struck me Roedd y gwynt yn fy nghyffwrdd i The wind was touching me Anwes A caress Wel, dych chi wedi cael blas ar Ŵyl AmGen Rdio Cymru yn fan’na ond cofiwch bod POPETH o’r Ŵyl i’w glywed ar BBC SOUNDS felly gallwch chi fynd yn ôl i wrando ar unrhyw beth, unrhyw bryd.
Croeso i bennod mis Mehefin o Clera. Y mis hwn rydyn ni'n cael tair gorffwysgerdd gan feirdd buddugol Eisteddfod T yr Urdd, sef Osian Wyn owen, Cristyn Rhydderch Davies a Lois Campbell. Caryl Bryn yw'r Bardd yn y Bath, Llyr Gwyn lewis sy'n trafod ei bamffled newydd o gerddi ac mae Gruffudd a'i Ymennydd llawn Minnions yn cynnig pos difyr arall. Hyn oll a llawer mwy.
AL LEWIS AC ENDAF EMLYN Roedd Endaf Emlyn yn seren y byd pop yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ystod y chwedegau a’r saithdegau. Dydd Gwener diwetha’ cafodd 3 albym Endaf eu rhyddhau yn ddigidol. Mae Al Lewis yn ffan mawr o’i waith a gofynnodd Rhys Mwyn iddo ddewis rhai o’i hoff ganeuon gan Endaf Emlyn Canwr cyfansoddwr Singer songwriter Wnaeth fy nenu i Attracted me Creu enw Made a name Cysyniadol Conceptual O flaen y gad Ahead of his time Diethr Unheard of Senglau Singles Yn cael eu clymu at ei gilydd Are tied in together Macrell Mackerel Teimlad hireithus A nostalgic feeling ANTONIO RIZZO A GWIN CYMREIG LLANSADWRN Mae Antonio Rizzo yn dod o Fanceinion yn wreiddiol ac mae ei rieni yn dod o’r Eidal. Dysgodd e Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac erbyn hyn mae e’n ei siarad yn rhugl. Mae Antonio wedi bod yn cynhyrchu gwin ers 2006 ac mae e’n gobeithio agor gwinllan yn Llansadwrn, Sir Gâr, yn y dyfodol. Shan Cothi gafodd ei hanes Manceinion Manchester Cynhyrchu To produce Gwinllan Vineyard Sir Gâr Carmarthenshire Trefynwy Monmouth Cernyw Cornwall Unigryw Unique Celf Art BRIALLT WYN A GERAINT LLOYD Nos Lun diwetha, mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda Briallt Wyn o Gorsgoch ger Llanbedr Pont Steffan, neu Llambed, yng Ngheredigion sydd wedi creu grwp ar Facebook er mwyn dysgu iaith arwyddo i bobl. Dyma hi’n esbonio’r cyfan wrth Geraint... Arwyddo To sign Tad-cu a Mam-gu Taid a Nain Byddar Deaf Dall Blind Sa i’n cofio Dw i ddim yn cofio Yr wyddor The alphabet Dod i ben To cope Addasu To adapt Swyddogol Official Ymateb To respond Dechreubwynt Starting point AR Y MARC Mae pêl-droed yn ôl ac felly roedd Dylan Jones a chriw Ar y Marc yn hapus iawn wythnos diwetha. Ond roedd gan Dylan gwestiwn anodd i un o’r panelwyr – Iwan Griffith, sy hefyd yn ddyfarnwr pêl-droed.... Y cyfnod clo Lockdown Dyfarnwr Referee Diduedd Unbiased Dylanwadu To influence Torf Crowd Awyrgylch Atmosphere Y wefr The thrill Yn wyliadwrus Cautious Cwrt cosbi Penalty box Cic o’r smotyn Penalty Ddim yn weddus Foul (language) COFIO TRYCHINEB HILLSBOROUGH Ac arhoswn ni gyda’r pêl-droed yn y clip nesa’ – ond i gofio trychineb Hillsborough tro ’ma. Vaughan Roderick a Dylan Llywelyn sy’n cofio’r drychineb ddigwyddodd yn 1989, wrth i’r rhaglen Cofio fynd â ni yn ôl i’r 80au..... Trychineb Disaster Canlyniadau Results Gohebydd Commentator Gwendid Weakness Ystyried To consider Platfformau cymdeithasol Social media Trydar Tweeting SIAN REES WILLIAMS Yr actores Sian Reese Williams oedd gwestai Beti George wythnos diwetha a dyma hi’n sôn am ei chymeriad, y ditectif Cadi John, yn y gyfres Craith..... Cymeriad Character Cyfres Series Datblygu To develop Pennod Episode Menywod Women Dyw hi ddim yn malio She doesn’t care Dwys Intense Bodoli To exist
Hanes colli cymdogaeth yr Epynt, Mehefin, 1940
HEATHER JONES Mae Dewi Llwyd yn dymuno pen-blwydd hapus i un o’i westeion ar ei raglen bob bore Sul. Yr wythnos yma, y gantores Heather Jones oedd yn torri’r gacen pen-blwydd. Dyma Heather yn cofio am benblwyddi’r gorffennol – ei magwraeth yng Nghaerdydd a’i pherthynas gyda’r canwr Geraint Jarman… Magwraeth Upbringing Hudolus Magical Plentyndod Childhood Cernyw Cornwall Bywiog Lively Swil Shy Denu To attract Efengyl Tangnefedd The Gospel of Peace (a hymn) Yn benderfynol Determined IFAN EVANS A'R WELSH WHISPERER Bachgen bach deg mlwydd oed sy’n mynd i Ysgol Cilie Parc ydy Osian, ac ei arwr ydy’r perfformiwr Welsh Whisperer. Ar raglen Ifan Evans cafodd Osian y cyfle i holi ei arwr, ac roedd gyda fe gwestiynau diddorol iawn i’r Welsh Whisperer… Arwr Hero Yn y man In a moment Enwoca Most famous Glou Quick Cerddoriaeth Music Deuawd Duet Rhed! Run! Hendy-gwyn Whitland YNYS YR HUNAN YNYSWYR Bob wythnos ar y rhaglen Ynys yr Hunan Ynyswyr mae dau westai yn trafod eu hoff lyfrau, eu hoff gerddoriaeth a’u hoff ffilmiau, er mwyn trio perswadio Dylan Ebenezer i adael iddyn nhw aros ar yr ynys. Y gwesteion wythnos diwetha oedd y gomedïwraig Esyllt Sears a’r actor Richard Ellis ac yn y clip mae’r ddau westai yn sôn am beth sydd wedi eu helpu drwy’r cyfnod clo, a beth fasen nhw’n mynd gyda nhw i’r ynys ... Hunan-ynyswyr Self-isolators Cyfnod clo Lockdown Sylweddoli To realise Pa mor llwglyd How hungry Oesoedd yn ôl Ages ago Argymell To recommend PATRICK RIMES A BETI GEORGE Un sy’n gwneud rhywbeth bach yn wahanol yn ystod y cyfnod clo ydy’r cerddor Patrick Rimes. Mae Patrick wedi dod yn ôl i’w gartref ym Methesda, Gwynedd dros y cyfnod er mwyn helpu ei fam gyda’r busnes caws llaeth dafad... Cerddor Musician Godro To milk Ar y gweill In the pipeline (idiom) Ei chael hi’n anodd Finding it difficult Pa mor hurt How stupid Brwdfrydig Enthusiastic Wedi cymryd yr awenau Taken charge of Diadell A flock Ffynhonnell Source Rhy styfnig Too obstinate Annibynnol Independent DROS GINIO Buodd Jennifer Jones yn holi Jenni Hall sy’n fam i 10 o blant ar Dros Ginio yr wythnos yma. Sut, tybed, mae hi’n ymdopi gyda’r cyfnod clo? Dyma i chi flas ar y sgwrs... Ymdopi To cope Prif heriau Main challenges Gafon ni drafferth We had difficulties Hawsach Easier Sylwadau Comments STEFFAN RHYS HUGHES Mae’r cerddor Steffan Rhys Hughes wedi bod yn gwneud fideos cerddorol ers dechrau'r cyfnod clo. Penderfynodd e ddod â chriw o Gymry'r West End at ei gilydd i berfformio caneuon o sioeau a ffilmiau cerdd - er mwyn rhoi gwên ar wynebau pobl. Y syniad oedd codi arian i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac i annog pobl i fynd yn ôl i'r theatrau pan mae hi'n saff i wneud hynny. Daf a Caryl glywodd yr hanes.... Annog To encourage Cantorion Singers Balchder Pride Canlyniad Result Cysylltu â To contact Taflu rhwyd To cast a net Yn falch o wneud Happy to do so Mor hael So generous Negeseuon Messages Creadigol Creative
LOWRI MORGAN A DANIEL GLYN Hanes Lowri Morgan yn teithio dwy awr i waelod Môr Iwerydd mewn llong danfor, er mwyn gweld y Titanic. Mae Lowri wedi cael sawl antur yn ystod ei bywyd ac mae wedi sgwennu amdanyn nhw yn ei llyfr newydd ‘Beyond Limits’ . Dyma hi’n sôn wrth Daniel Glyn sut oedd hi’n teimlo wrth weld y Titanic… Môr Iwerydd The Atlantic Ocean Llong danfor Submarine Yn gwmws Exactlly Ei cholli hi Losing it (mentally) Lleddfu To soothe Cwympo To fall Ymchwil Research Pa mor glou How quickly Sylweddoli To realise Cymaint o fraint How much of a privilege Carreg fedd Tombstone NON ROBERTS Mae hi’n adeg cneifio ar ein ffermydd ac mae llawer o bobl ifanc drwy Gymru yn mynd o amgylch ffermydd i helpu gyda ‘r gwaith. Dyma Non Roberts, merch fferm o Dalyllychau, Caerfyrddin, a myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn sôn wrth Terwyn Davies am sut mae hi a’i ffrindiau’n helpu’r cneifio drwy lapio gwlân i bobl leol… Profiadadau Experiences Cneifio Sheering Myfyrwraig Student (female) Lapio To wrap Cwrdd To meet Gynnau Just now Clymu sachau Tying sacks Gwinio (gwnïo) Stichting BRYN WILLIAMS A DEWI LLWYD Y cogydd proffesiynol Bryn Williams oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd wythnos diwetha. Mae gan Bryn ddau fwyty yn Llundain ac un ym Mae Colwyn – Porth Eirias. Dyma i chi flas (sori eto) ar y sgwrs... Cogydd Chef Wedi’i hen sefydlu Well established Bwydlen Menu Gweini To serve O safon Of quality IFOR AP GLYN - Y GYMRAEG MEWN 50 GAIR Yn y clip nesa cawn ni glywed Ifor ap Glyn yn trafod y gair ‘gwynt’. Gair pwysig iawn i forwyr ers talwm ac mae hynny wedi effeithio ar y ffordd dyn ni’n defnyddio’r gair heddiw. Dyma Ifor yn esbonio… Yr hen forwyr gynt The ancient mariners Iaith lafar Oral language Wedi gostegu’n ddi-rybudd Had quelled without warning Darogan To forecast Ceiliog y Gwynt Weather vane. Y Gwyddel The Irishman Y meirw The dead Ffroen yr ych The oxen’s nostril Cyswllt newydd New context Ar fin digwydd About to happen HANES MARY HOPKIN Roedd Mary Hopkin yn seren y byd pop Cymraeg a Saesneg yn niwedd y chwedegau ac yn ystod y saithdegau. Hi oedd un o’r artistiaid cynta i gael recordio ar label Apple ac roedd Paul McCartney yn sgwennu caneuon yn arbennig iddi hi. Roedd y cyfarwyddwr teledu Eurof Williams yn cofio Mary yn canu yn y capel ym Mhontardawe pan oedd hi’n ifanc. Erbyn hyn mae e wedi gwneud rhaglen deledu amdani hi, a buodd e’n sôn ar raglen Rhys Mwyn nad oedd hynny’n beth hawdd iawn i’w wneud Cyfarwyddwr Director Cyfres Series Annibynwyr Independants Eisoes Already Awyddus Keen Dychmygu To imagine Yn ddiweddarach Later on Hir a llafurus Long and laborious Atgofion Memories Si Rumour DYLAN EBENEZER Dylan Ebenezer, cyflwynydd y gyfres newydd – Ynys yr Hunan Ynyswyr, oedd gwestai Caryl a Daf ddydd Mercher a chafodd y ddau gyfle i holi Dylan am ei brofiadau ynysu ei hunan. Yn y clip yma cawn glywed sut mae Dylan yn cadw’n heini a beth mae e’n ei ddarllen yn ystod y cyfnod clo.. . Hunan ynyswyr Self-isolators Y cyfnod clo The lockdown Anadlu’n ddwfn To breathe deeply Gollwng stêm To let off steam Llwyth Loads Cymeriad adnabyddus A famous character Etifeddu To inherit Rhyfeddol Amazing Wedi mwynhau mas draw Really enjoyed Cyfrannu To contribute
YNYS YR HUNAN YNYSWYR Mewn cyfres newydd ar Radio Cymru, mae Dylan Ebenezer yn cael dewis pwy sy’n cael aros ar yr ynys gyda fe ar ôl iddo fe glywed beth yw hoff lyfrau, caneuon a ffilmiau’r gwesteion. Dyma i chi’r chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Patchell yn trio perswadio Dylan i adael iddo fe aros ar yr ynys drwy sôn am ei hoff lyfr... Hunan Ynyswyr’ Self Isolators Awgrymu To suggest Cyfres o ddarlithoedd A series of lectures Yn seiliedig ar based on Cyflawni breuddwydion Fulfilling dreams Llefain To cry Canllawiau Guidelines Ysbrodoli To inspire Darganfod To discover Delwedd Image Alla i ddychmygu I can imagine EISTEDDFOD T Drwy’r wythnos diwetha buodd Ifan Jones Evans a Nia Lloyd Jones yn rhannu pob cystadleuaeth yr Eisteddfod hon gyda gwrandawyr Radio Cymru. Dydd Mawrth clywon ni gystadleuaeth yr Ymgom i flwyddyn 6 ac iau. Ymgom Enfys Caerfyrddin o Adran Myrddin enillodd – sef Tomos, Esyllt, Serian ac Efa Haf, ac mi gafodd Nia sgwrs gyda Efa Haf i gael gwybod mwy am yr ymgom arbennig yma… Ymgom Sketch Iau Younger Crafu ‘mhen Scratching my head Hyfforddi To coach Mo’yn To want Yn wên o glust i glust With a broad smile Diwedd cyfnod End of an era Dymuno’n dda - To wish well Llongyfarchiadau Congratulations EISTEDDFOD T Roedd yna gystadlaethau tra gwahanol yn yr Eisteddfod eleni hefyd a dyma Heledd Roberts yn sôn wrth Ifan Jones Evans a Nia Lloyd Jones am rai o’r cystadlaethau gwahanol hynny gan gynnwys ei hoff gystadleuaeth hi - Anifeiliaid Anwes Talentog! Cyfryngau cymdeithasol Social media Trydar Twitter Beirniadu Adjudicating Perthynas Relationship Ci defaid Sheepdog Casgliad o ddoniau A collection of talents Uchafbwynt Highlight Lleidr Thief Cynllunio Planning Y cyffro The excitement SENGL NEWYDD YWS GWYNEDD Mae Yws Gwynedd yn ganwr pop poblogaidd iawn ond dyw e ddim wedi rhyddhau albwm na pherfformio’n fyw ers rhai blynyddoedd. Lisa Gwilym fuodd yn siarad gyda Yws ar raglen Aled Hughes. Mae Yws wedi ysgrifennu ei gân cyntaf ers tair blynedd ac wedi gorfod gwneud hynny mewn ffordd ychydig yn wahanol y tro yma. Dyma fe’n son wrth Lisa am sut lwyddodd e a’r band i recordio cân heb fynd i’r stiwdio... Cyhoeddi To announce Colli’r awen To lose the muse Potsian Messing around Yr hogia The lads Lloft sbâr Spare bedroom Anhygoel Incredible CERDDORIAETH NEWYDD Tra’r oedd Lisa Gwilym yn edrych ar ôl rhaglen Aled Hughes, Sian Eleri oedd yn edrych ar ôl rhaglen Lisa! Ac ar nos Fercher cafodd hi gwmni dau aelod o’r grŵp Anelog – Danny Cattell a Lois Rogers o Ddinbych. Fel Yws Gwynedd dydy Anelog ddim wedi rhyddhau albwm ers rhai blynyddoedd ond mae ‘na un newydd ar y ffordd.... Rhyddhau To release Rhedeg yn gyson Running regularly Yn weddol ddistaw Relatively quiet Ar hap Randomly COFIO'R 60 A MARWOLAETH JFK Thema Cofio yr wythnos diwetha oedd y chwedegau, ac yn y clip yma mae Charlotte Davies, Americanes sy wedi dysgu Cymraeg, yn sôn am y diwrnod cafodd JFK ei ladd Yn ddiweddarach More recently Ymateb Response Annisgwyl Unexpected Cefnogaeth Support Hawliau sifil Civil rights Cofrestru To register Yn ei erbyn Against him Adlewyrchu To reflect
Francesca Sciarrillo, Mari Turner, Nia Mair Roberts, Bridget James, Richard Lewis.
Stori Thora a Nerys a'u derbyn yn aelodau (30 Mehefin 2019)
Dr Sarah Hill, Winnie James, Lauren Phillips, Iwan Parry, Wil Griffiths, Aled Williams
Sgwrs gyda Bardd Plant Cymru - Gruff Sol. Sgwrs fyw o noson Cicio'r Bar yn Aberystwyth rhwng Gruffudd Antur ac Iwan Huws sydd newydd gyhoeddi ei gyfrol gyntaf o gerddi. Gorffwysgerdd gan Iwan Huws hefyd! Sgwrs hefyd o seremoni llyfr y flwyddyn gyda Sion Tomos Owen a hynt a helynt Gouel Broadel ar Brezhoneg, sef Eisteddfod y Llydawyr. Hyn oll, y pos a mwy!
John Davies, Elliw Gwawr, Helgard Krause, Leah Marian, Rhian Lois ac Annaly Jones
Daniel Sumner, Heather Jones, Sara Louise Wheeler, Ameer Rana, Lucy Hughes a Deri Tomos.
Owen Derbyshire, Arwyn Groe, Rhys Iorwerth, Geraint Griffiths a Catherine Treganna.
In this podcast Rich, Leon and Russell look back at how Wales kicked off a third successive qualifying campaign with a victory against Slovakia; a game that also reprised the memorable opening fixture of Euro 2016. They also begin to consider how Ryan Giggs might approach the Croatia and Hungary games in June. Yn y podlediad yma mae Rich, Leon a Russell yn edrych yn ôl at sut ddechreuodd Cymru ymgyrch arbrofol am y trydydd tro olynol gyda ffuddugoliaeth yn erbyn Slovacia; a ddwynodd i gof y gêm agorol hynod atgofiadol o Euro 2016 hefyd. Hefyd maen nhw'n dechrau ystyried sut efallai bydd Ryan Giggs yn agosáu y gemau yn erbyn Croatia a Hwngari fis Mehefin.
Pennod hafaidd ei naws gyda cherdd gan y Prifardd mererid Hopwood, sgwrs bwnco yn trafod beirdd cymraeg oddi cartref, holi enillydd Cadair yr Urdd Osian Owen sgwrs gyda'r bardd Morgan Owen, pos Gruffudd Antur, llinell gynganeddol ddamweiniol gynganeddol y mis, newyddion a mwy
Elinor Wyn Reynolds a 'Gwenllian', Alun Saunders, Eleri Twynog Davies, Mike a Lyn West.
Aled Richards, Cat Jones Hub Cymru Affrica, Odliadur, Giselle Crabtree, Te Macha.
Rhys Mwyn a Glastonbury, llyfrau chwaraeon, William a Molly Gogglesprogs a chardiau post.
Ruth a Salah, Hirddydd Haf, Dr Elin Jones a ffilm Churchill ac Ar Log
Pennod mis Mehefin, gyda sawl eitem o Wyl Gerallt a gynhaliwyd ddiwedd Mai yn Aberystwyth. Cerdd o gyfrol newydd Annes Glyn sydd yn yr orffwysfa y tro hwn, ynghyd a phos newydd wrth Gruffydd Antur, trafodaeth bwnco ar ddarllen cyfrolau barddoniaeth a nifer o eitemau eraill i'ch diddanu, gobeithio!
Iona a Shan, Pupur a Halen, Disgo Rhys Mwyn a Dyfrig a Ieuan Harris yn Ne Affrica
Rafftio Aled Hughes, Dr Carl Clowes, adfer tai efo Rhodri Elis Owen a Sioned Gwen Davies.
Wyn Jones yn son am Ann Griffiths
Pregeth Peter Hallam ar 26 Mehefin 2011 ar 'Pwy ydw i?' yn y gyfres 'Cwestiynau'