Dala Lan

Follow Dala Lan
Share on
Copy link to clipboard

Cyfle i ddala lan gyda chriw Heno a Prynhawn Da ac ambell i westai arbennig wrth iddynt edrych nôl dros yr eitemau a’r digwyddiadau sydd wedi ysbrydoli sgwrs ac annog clonc. Hefyd, bydd cyfle i chi glywed pa westeion fydd yn cael eu croesawu yn ystod yr wythnos i ddod. Catch up with the Heno and Pr…

Heno Prynhawn Da


    • Sep 18, 2019 LATEST EPISODE
    • infrequent NEW EPISODES
    • 31m AVG DURATION
    • 7 EPISODES


    Search for episodes from Dala Lan with a specific topic:

    Latest episodes from Dala Lan

    Dala Lan: Wythnos Rhoi Organau, Stryd Fawr Orau Prydain, Caffi Riverside Treorci, Siopau Annibynol, Casglu Mwyar.

    Play Episode Listen Later Sep 18, 2019 26:04


    Yr wythnos hon mae’r criw yn trafod sgwrs stiwdio Nathan Rogowski o Bwllheli a Lewis Evans o Dregaron wnaeth dderbyn organau. Mae rhestr Stryd Fawr Orau ym Mhrydain wedi ei chyhoeddi eleni eto gyda thair stryd yng Nghymru ar y rhestr fer - Arberth yn Sir Benfro, Abertawe a Treorci. Arberth sydd wedi cael ein sylw ni wythnos hyn a ni’n trafod beth sy’n neud siopa yn y stryd fawr yma mor bleserus yn cynnwys y gwasanaeth o’r siopau boutique…..a dyma beth sydd wedi dala sylw Helen Humphreys yn Cwpwrdd Helen ar Prynhawn Da, o’r dillad unigryw i’r gwasanaeth arbennig. Ni wedi bod lawr i Caffi Riverside yn Tregaron i weld beth sy’ mor arbenning amdano ac i orffen ni yn y gegin gyda Gareth sy’n coginio gyda mwyar du, yn cynnwys brownies mwyar! Wythnos rhoi organau https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/604709616602581/ Stryd Fawr Arberth https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/2487218777967820/ Casgliadau Hydref Siopau Annibynnol Cymreig gyda Helen Humphreys! https://www.facebook.com/PrynhawnDaS4C/videos/942612756071736/ Caffi Riverside Tregaron  https://www.facebook.com/PrynhawnDaS4C/videos/544224402984882/ Coginio – Brownies mwyar Gareth https://www.facebook.com/PrynhawnDaS4C/videos/660464557773620/

    Dala Lan: Nadroedd, Aimee Ffion Edwards, Catherine Zeta Jones, Trystan Beard

    Play Episode Listen Later Aug 2, 2019 43:51


    Beth yw eich ffobia chi? Byddwn ni’n trafod beth sy’n codi ofn ar Daf Wyn, Lowri Jones, Catrin Reynolds a Bethan Wyn. Un peth sy’n siwr, ni’n gwybod beth yw ffobia’r cyflwynydd Alun Williams, wrth iddo fe ddathlu diwrnod y neidr gyda neb llai na Geraint Snakes! O nadroedd i un o sêr Luther, Skins a Peaky Blinders, byddwn ni’n clywed sgwrs llawn rhwng Alun a’r actores Aimee Ffion Edwards o Gasgwent – tybed pa gyfrinachau’r byd actio sy’n cael eu datgelu? Ga’th Daf Wyn y pleser o gyfarfod seren arall o’r byd actio, Catherine Zeta Jones wrth iddi ddychwelyd i’w chartref i dderbyn anrhydedd rhyddid dinas Abertawe. Ac yn olaf, pwy all anghofio gwên ddireidus Trystan Beard, un o blant rhaglen Dathlu Dewrder sy’n byw gyda’r cyflwr Cerebral Palsy. Erbyn hyn mae angen llawdriniaeth brys ar Trystan a   byddwn ni’n clywed am ymdrech cymuned Cilgerran i godi £40,000. Mwynhewch!   Eitem Diwrnod y Neidr gyda Alun Williams a "Geraint Snakes" https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/2366507703404596/ Catherine Zeta Jones https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p07gl93z/heno-wed-24-jul-2019 Stori Trystan Beard https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/2376868949233774/

    Dala Lan: Cór Heol y March, Bwyty Beach House, Bae Oxwich, y blogwraig Jess Davies a'r dyn Tywydd Owain Wyn Evans

    Play Episode Listen Later Jul 16, 2019 30:31


    Yr wythnos hon, rydyn ni’n dathlu deng mlynedd o’r côr plant, Heol y March gyda’r arweinydd, Eleri Roberts.  Mae’r bwyty Beach House ym Mae Oxwich wedi’i enwi fel un o’r llefydd gorau i fwyta’n “al-fresco” ym Mhrydain gan bapur newydd The Times a cafodd Lowri Cooke y fraint o flasu danteithion y cogydd, Hywel Griffith. Gyda dim ond wythnos tan Sioe Frenhinol Cymru, mae’r blogwraig, Jess Davies yn ymweld â sioeau bach amaethyddol i gael blas ar beth y gallwn ni ddisgwyl. Yr wythnos hon, mae Jess yn cyfarfod â’r cymeriadau a’r holl anifeiliaid yn Sioe Bancffosfelen. Ac yn olaf, mae’r cyflwynydd tywydd, Owain Wyn Evans yn trafod ennill y wobr fel y Cyflwynydd Teledu Gorau’r Flwyddyn. Darganfyddwn sut aeth e’n firol ar Twitter a’i hanes gyda’r tîm o’r rhaglen fyd-enwog , Queer Eye. Mwynhewch!   Sgwrs Eleri Roberts Arweinydd Cór Plant Heol y March https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p07fbrnp/heno-thu-11-jul-2019  o 8’20”.  -   Bwyty Beach House, Bae Oxwich https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/429870764530220/   Jess Davies yn Sioe Bancfosfelen https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/2571616636401677/   Sgwrs Soffa Owain Wyn Evans https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p07fjl6r/heno-fri-12-jul-2019 - 8’00”   Twitter Owain. https://twitter.com/OwainWynEvans?ref_src=twsrc%5Egoogle%7Ctwcamp%5Eserp%7Ctwgr%5Eauthor

    Dala Lan: Gwyliau yn Gymru, Sain Ffagan, Tour De France, Gwisg un darn a'r dyn llaeth.

    Play Episode Listen Later Jul 12, 2019 27:08


    Yr wythnos hon, mae Geraint Hardy yn trafod ei gyfres newydd, “Codi Pac” ar S4C. Mae’r tîm yn siarad am eu profiadau o fynd ar wyliau yng Nghymru a’r ardaloedd maent yn ymweld o amgylch y wlad. Rydyn ni’n dathlu llwyddiant Amgueddfa Sain Ffagan am ennill Amgueddfa'r Flwyddyn. Mae’r Tour De France yn ôl a chlywn am stori Kitty a gafodd ei hysbrydoli’n fawr iawn gan Geraint Thomas ac aeth Hana I fragdy Brains I ddarganfod mwy am ei gwrw. Ydy’r wisg un darn yn un o’ch wardrobe essentials? Gwyliwch dipiau Huw Ffash ar sut ei wisgo! Ac I orffen, rydyn ni’n trafod y gyfres  “O Fan i Fan” ar Prynhawn Da ac yn hel atgofion am y dyn llaeth. Llawer o glecs a llawer o chwerthin yr wythnos hon!   Geraint Hardy https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/499707943902337/   Amgueddfa Cymru Sain Ffagan. https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/459218664876524/   Cwrw Brains – “G” https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/482476682523819/ - Cwrw Brains – “G” Stori Kitty https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p07dw342/heno-fri-05-jul-2019 - 39’00" Gwisg un darn a tips Huw https://www.facebook.com/PrynhawnDaS4C/videos/420001538855393/ “O Fan i Fan” https://www.facebook.com/PrynhawnDaS4C/videos/621776398317028/

    Dala Lan: Sgwrs gyda'r Cynhyrchydd, Cyfarwyddwr ar Athrawes Yoga, Nia Ceidiog.

    Play Episode Listen Later Jul 8, 2019 29:33


    Yr wythnos hon mae Mari Grug yn dala lan gyda’r Cynhyrchydd, Cyfarwyddwr, Cyflwynydd ac Athrawes yoga, Nia Ceidiog arol iddi hi ddod nól o neud ymarfer dysgu yoga yn Efrog Newydd.

    Dala Lan: IVF Elin Fflur, Bwydydd Tun Alison Huw a Finegr Gwyn Nerys Taclus.

    Play Episode Listen Later Jun 17, 2019 36:28


    Yr wythnos hon, bydd y criw yn sôn am lwyddiant y rhaglen Chdi, Fi ac IVF yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd ac fel mae’r rhaglen yn ysgogi pobl i fod yn fwy agored wrth drafod IVF.   Mae Mari yn siarad gyda’r steilydd bwyd a chyfrannydd cyson i Prynhawn Da, Alison Huw am yr ysbrydoliaeth tu ol ei gyrfa a’r ffordd mae’r trends bwyd wedi newid dros y 25 mlynedd diwethaf. Y mae hefyd yn trafod llyfr Jack Monroe am brydiau bwyd i’r teulu gan ddefnyddio bwydydd tun yn unig.   Bydd y tîm hefyd yn trafod fel mae tipiau glanhau Nerys Taclus gan ddefnyddio finegr gwyn wedi newid eu bywydau!    Chdi, Fi ac IVF https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/697761307349820/   Alison Huw o 34'50" https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p07b2437/prynhawn-da-wed-05-jun-2019   Tips Nerys Taclus https://www.facebook.com/PrynhawnDaS4C/videos/851373545229791/

    Dala Lan: Wythnos Iechyd Meddwl, teach your Cat Welsh a gins o Gymru

    Play Episode Listen Later Jun 12, 2019 28:45


    Yr wythnos hon, bydd y criw yn trafod pwysigrwydd Wythnos Iechyd Meddwl ar ôl iddynt glywed stori’r ffarmwr, Eurig Evans a gollodd ei ffrind i'r afiechyd, sydd nawr yn cynnal sesiynau a gweithdai ar ei ffarm i bobl sydd yn dioddef. Mae Tara Bethan wedi ysgrifennu erthygl i www.meddwl.org am ei phrofiad o golli ei thad. Hefyd, ceir stori Gwen Goddard a gafodd diagnosis o’r cyflwr bipolar. Mae Hana yn edrych ar stori Llŷr Jones wnaeth rhoi mêr ei esgyrn i blentyn yn Ffrainc. Bydden yn trafod “Teach Your Cat Welsh” gan yr awdures, Anne Cakebread ac yn sôn am lwyddiant gin o Gymru wrth drafod eu hoff ddiodydd nhw. Iechyd Da!   Sgwrs Soffa Tara Bethan https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p0789j4p/heno-fri-17-may-2019   Stori Llyr Jones https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/2192544760799910/   Teach Your Cat Welsh https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/2249248161954746/   Jin, jin, jin! https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/417104155788373/

    Claim Dala Lan

    In order to claim this podcast we'll send an email to with a verification link. Simply click the link and you will be able to edit tags, request a refresh, and other features to take control of your podcast page!

    Claim Cancel