POPULARITY
Categories
Ffilm 12 munud, 2 eiliad a wnaed gan Hetain Patel yn 2024 yw Come As You Really Are. Mae'r ffilm yn archwilio creadigrwydd a brwdfrydedd neilltuol pobl sy'n ymroi i'w hobïau. Mae'n dangos amrywiaeth o hobïau o bob rhan o'r wlad, o ddawnsio dull rhydd i nofio gwyllt, gwisg-chwarae, garddio, mân reilffyrdd, modelau awyrennau radio-reoledig, ffeltio, addasu ceir, casglu, mân grochenwaith, mân origami a chelf addurno ewinedd. Nod Patel oedd dod â'r hobïau cwbl wahanol hyn ynghyd a'u cysylltu'n weledol drwy naratif sinematig anunionlin, gan ddefnyddio lliw, gweadedd a siâp i adrodd stori weledol wrth i hobïau ailymddangos drwy gydol y ffilm. Mae'r olygfa sy'n dangos olwynion car yn troi, er enghraifft, yn arwain at olygfa uwchben mân olwyn lestri'n troelli; mae merched sy'n dawnsio ac yn neidio i'r awyr yn arwain at awyrennau'n hedfan, gan adlewyrchu'r ymdeimlad o ryddid. Mae cysylltiad corfforol hefyd rhwng hobïau sy'n ymddangos gyda'i gilydd drwy wrthrychau o waith llaw a deithiodd o gwmpas y wlad i bob lleoliad ffilmio: mân origami, llestri, ffigwr Warhammer a chwningen ffelt. Creodd y rhain ymdeimlad o'r annisgwyl, megis golygfa o fân geffyl origami ar gygnau rhywun sy'n dal yr olwyn lywio wrth addasu car. Mae cyfosod y rhain yn creu eiliadau a allai fod yn ddigrif neu'n rhyfedd, ond sy'n adlewyrchu realiti'r cysylltiad annisgwyl. Mae'r ffilm yn dilyn arddull adnabyddus yr artist o gyfuno cynhyrchiad sinematig o safon uchel â golygfeydd pob dydd i arddangos hobïau byrhoedlog a gwrthrychau o waith llaw mewn ieithwedd weledol sydd fel arfer yn nodweddiadol o ffilmiau Hollywood a hysbysebu eitemau moethus. Creodd Hetain Patel y prosiect cenedlaethol Come As You Really Are gydag Artangel, gan gynnwys 13 o gyflwyniadau rhanbarthol ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban rhwng haf 2024 a 2027. Dechreuodd y prosiect, a adwaenid fel The Hobby Cave gynt, drwy alw ar aelodau o'r cyhoedd ledled y wlad i rannu'r gweithgaredd y maent yn rhoi o'u hamser hamdden iddo. Ledled y wlad, bu cyflwyniadau o waith llaw gan y rhai hynny sy'n dilyn hobi penodol ochr yn ochr â darnau newydd a blaenorol gan Patel. Rhan ganolog yr arddangosfeydd hyn oedd Come As You Really Are (2024), y ffilm newydd a wnaed ar gyfer y prosiect hwn, gan adlewyrchu diddordebau byrhoedlog na fyddai wedi bod yn bosib eu cyfleu fel arall. Crëwyd Somerset Road (2024), sef Ford Escort wedi'i bwytho gan yr artist yn ôl patrwm y carped yn ystafell fyw ei fam-gu, ar gyfer yr arddangosfa hefyd. Mae'r gwrthrychau hyn a wnaed â llaw dros amser yn adleisio'n uniongyrchol y gwaith corfforol y mae cymunedau mudol megis teulu Patel wedi ymgymryd ag ef yn aml, ac mae eu natur hybrid yn cyfeirio at y posibiliadau newydd sy'n dod i'r amlwg pan fyddwn yn herio confensiynau. Cyflwynodd Come As You Really Are amrywiaeth o hobïau a oedd yn dangos rhyddid mynegiant a dyfeisgarwch yr unigolyn, gan ehangu ein canfyddiad ynghylch pwy sy'n greadigol a tharddiad yr awydd i greu. Mae cymuned o bobl ledled y wlad yn ganolog i'r prosiect hwn, ac mae eu llafur cariad yn galluogi'r artist i gyflwyno portread amgen o'r DU. Ochr yn ochr ag Oriel Gelf Glynn Vivian, cymerodd y sefydliadau partner canlynol ran yn y prosiect: Factory International, Manceinion; Oriel Gelf Grundy, Blackpool; Museum of Making, ymddiriedolaeth Derby Museums; National Festival of Making gydag Amgueddfa ac Oriel Gelf Blackburn; Oriel Gelf Wolverhampton; Barnsley Civic; Amgueddfa ac Oriel Gelf Inverness; Oriel Celf Gyfoes y Gogledd, Sunderland; CCA Derry~Londonderry; Hospitalfield yn Arbroath; a Tate St Ives.
Ffilm 9 munud, 39 eiliad o hyd a wnaed gan Anthony Shapland yn 2012 yw [pause] Time & Motion Study. Mae'r ffilm wedi'i gosod yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn 2011 yn ystod y cyfnod cyn iddi gael ei chau ar gyfer prosiect ailddatblygu ac adfer gwerth miliynau o bunnoedd. Roedd y weithred o bacio, clirio a newid wedi dechrau ym mhob rhan o'r adeilad – yn yr arddangosfeydd cyhoeddus yn ogystal ag yn y coridorau cudd a'r ystafelloedd cefn. Mae'r ffilm du a gwyn hon yn portreadu diwrnod ffuglennol, mewn tair rhan. Y rhan gyntaf yw'r bore lle dangosir y casgliad yn dal ynghyd yn yr orielau, a lle mae ardaloedd cyhoeddus a phreifat yr adeilad yn cael eu cyfleu yn yr un modd. Mae set o sbanwyr ar wal mewn gweithdy neu res o fylbiau golau wedi'u trefnu gyda'r un manylder â'r rhes o jygiau buchod crochenwaith Abertawe sy'n sefyll mewn cypyrddau gwydr yn yr oriel, ac mae modd cymharu'r grisiau mawreddog â'r grisiau ymarferol yn y cefn. Yr ail ran yw dechrau'r diwrnod wrth i'r gweithwyr gyrraedd, gyda'r dasg o adfer darnau crochenwaith, eu didoli a'u llenwi'n ofalus â phapur sidan, cyn eu rhoi mewn deunydd lapio swigod a'u labelu. Yn olaf, gyda'r hwyr, mae'r casgliad o wrthrychau a fyddai fel arfer wedi cael eu harddangos yn yr oriel bellach wedi'u cuddio y tu mewn i gardbord. Mae rhifau'r blychau'n cynyddu wrth iddyn nhw luosi'n ymddangosiadol ddiwedd. Mae'r cypyrddau gwydr a fu gynt yn llawn bellach yn wag. Dywedodd Anthony Shapland y canlynol am y gwaith: “Roedd y briff yn agored, sef creu dehongliad o Oriel Glynn Vivian. Dros sawl mis, ymwelais â'r oriel bum gwaith, gan recordio am fwy na 400 o funudau heb syniad pendant am strwythur y ffilm. Wrth wylio'r deunydd hwn y dechreuodd y naratif ffurfio. “Wrth i fi olygu'r ffilm, sylweddolais fy mod yn cynhyrchu rhywbeth a fyddai'n destun hiraeth yn fuan gan y byddai llawer o'r lleoliadau roeddwn yn eu ffilmio yn diflannu yn ystod y gwaith ailwampio a oedd ar ddod. Mae teitl y ffilm yn deyrnged i astudiaethau Frank a Lillian Gilbreth o ergonomeg ac effeithlonrwydd gweithwyr wrth eu gwaith. Roedd eu ffilmiau wedi sbarduno newid, fel arfer wedi'u comisiynu gan reolwyr neu sefydliadau. Serch hynny, dim ond cofnodi newid y mae'r ffilm hon. Heblaw am y gwaith golygu, nid oes unrhyw ystrywiau gyda'r camera, dim byd ffug nac effeithiau; ni ofynnwyd i unrhyw un wneud unrhyw beth gerbron y camera ac ni chafodd unrhyw beth ei ailffilmio. Dyma ffilm lle mae'r gwyliwr yn arsylwi drwy lens oddefol y camera.” Artist a nofelydd o Gymru yw Anthony Shapland ac ef yw sylfaenydd g39, man a arweinir gan artistiaid. Cafodd ei fagu ym Margoed yng nghwm Rhymni. Drwy ei waith ysgrifenedig ac artistig, mae'n cyfuno deunydd dogfennol a ffuglennol, gan ddefnyddio ei brofiad uniongyrchol o fod yn hoyw yng nghefn gwlad a pherfformio fel rhywun heterorywiol wrth dyfu i fyny.
Mae A Day at the Hunt gan Ingrid Murphy, a wnaed yn 2016, yn ffiguryn Swydd Stafford ceramig gwyn ac aur sy'n cynnwys côd QR rhyngweithiol y gellir ei sganio er mwyn gwylio'r ffilm sy'n cyd-fynd ag ef. Mae'r ffiguryn yn 33cm o uchder ac yn 20cm o led ac mae'n portreadu Ingrid a'i thad Brendan fel dau heliwr. Cafodd y tebygrwydd anhygoel ei greu drwy sganio ac argraffu pennau Ingrid a'i thad ar ffurf 3D a defnyddio castin slip i'w rhoi ar ffiguryn gwreiddiol heliwr o'r 19eg ganrif. Mae ffiguryn yn ffigwr addurniadol cerfluniol a chanddo dri dimensiwn o bob ochr heblaw am y cefn, sy'n wastad, wedi'i ddylunio i'w roi ar silff ben tân. Mae pennau Ingrid a Brendan wedi'u hargraffu'n gymesur â gweddill y gwaith, ac nid ydynt yn ymddangos yn rhyfedd. Mae'r ddau ffigwr yn gwisgo gwisgoedd hela traddodiadol, sy'n cynnwys tiwnigau pen-glin, esgidiau pen-glin, sasiau ar draws y corff a chyrn hela. Mae aroleuadau haenau aur ar ben coleri'r cotiau, pen yr esgidiau, byclau'r gwregysau a'r cyrn hela. Yn y cefndir rhwng y ddau ffigwr y mae hen foncyff gweadog. Mae Brendan yn eistedd ar y chwith. Mae ganddo wyneb caredig ac ystyriol a gwallt cwta ac mae'n ymddangos yn oedrannus. Mae'n syllu'n uniongyrchol o'i flaen ac mae ei law chwith ar ei ben-glin. Mae Ingrid yn sefyll ar y dde. Mae ganddi wallt cwta ac mae wedi troi ei chorff tuag at ei thad wrth i'w llygaid syllu arno'n llawn edmygedd. Mae ei braich dde yn yr awyr, gan ddal arwydd sgwâr â chôd QR du wedi'i brintio arno. Mae'r darn yn rhyngweithiol a phan fyddwch yn sganio'r côd QR, bydd ffilm liw 5 munud o hyd sy'n cyd-fynd ag ef yn dangos ymweliad Ingrid a Brendan â The Hunt Museum yn Iwerddon ym mis Mehefin 2016. Roedd y daith yn y car gyda'i thad yn ganolog i'r gwaith hwn. I ddechrau, roedd Ingrid wedi meddwl y byddai'n ymwneud â'r ymweliad â'r amgueddfa, ond wrth wylio'r deunydd sylweddolodd ei fod yn ymwneud â'r daith mewn gwirionedd, gan mai dyna oedd eu bywyd gyda'i gilydd. Mae'r ffilm ysgafn hon yn llawn sgyrsiau digrif rhwng y tad a'r ferch. Er enghraifft, mae camddealltwriaeth wrth iddyn nhw fynd heibio i siop o'r enw Mace ger eglwys; mae Ingrid yn edrych ar y siop ac mae Brendan yn edrych ar yr eglwys. Mae hi'n siarad am Mace ac mae e'n siarad am offeren (mass). Maen nhw'n mynd ar goll ar y daith; mae eiliadau emosiynol lle mae tad Ingrid yn ymddwyn yn naturiol. Mae'n cerdded i mewn i ystafell ac yn edrych o'i gwmpas fel petai ar fin dweud rhywbeth anhygoel. Yna, meddai, ‘Jesus, they got new carpets I'd say', yn hollol anymwybodol o'r gwrthrychau hardd ar y waliau. Wrth yrru adref, mae ffermwr yn ceisio dal gwartheg sydd wedi dianc o gae i'r ffordd. Cigydd oedd Brendan ac yn nheulu Ingrid mae jôc barhaol pryd bynnag y byddai rhywbeth yn ymwneud â gwartheg, y byddai pawb yn dweud eu bod wedi dod i ddial arno! Mae gwaith Murphy yn canolbwyntio ar ychwanegu amrywiaeth o dechnolegau rhyngweithiol at arteffactau ceramig. Mae hi'n manteisio ar ffiniau deunydd ceramig i greu rhyngweithiadau a phrofiadau arloesol a chwareus. Mae hi'n defnyddio sain, hiwmor ac elfennau hunangofiannol, gan greu gweithiau ceramig diddorol a chwareus, sydd hefyd yn dod â chwedlau hanesyddol a chymdeithasol dyfnach gwrthrychau ceramig a'u defnydd arfaethedig yn fyw. Cafodd A Day at the Hunt ei gomisiynu gan The Hunt Museum yn Iwerddon i fod yn rhan o Gasgliad Crochenwaith Cyfoes Iwerddon. Cafodd Oriel Gelf Glynn Vivian afael ar fersiwn o'r gwaith hwn drwy Wobr Wakelin 2022 mewn partneriaeth â Chyfeillion y Glynn Vivian. Fe'i dewiswyd gan Catrin Webster, artist a darlithydd yn Abertawe.
Mae Wavy Gravy yn ffilm o 2014 gan Alex Duncan, sy'n para 1 funud 10 eiliad. Crëwyd y ffilm fud hon o ddeunydd fideo a gafwyd ac a ail-weithiwyd, sy'n darlunio môr o ffurfiau tonnog gyda symudiadau tonnau sy'n llwybro o frig y sgrin i'r gwaelod. Nid yw'n glir yn syth o beth y gwnaethpwyd y màs haniaethol amryliw hwn, yn lle, mae ei symudiad ailadroddus yn rhoi ansawdd sydd bron yn gerfluniol iddi. Mae'r olygfa mewn gwirionedd yn brofiad nofio mewn pwll tonnau tswnami wyneb i waered, gyda chyrff yn codi ac yn disgyn sy'n rhyngweithio â'u hysgafnder eu hunain ac yn colli'r hunan o fewn yr ymchwydd, gan archwilio realiti a natur artiffisial symudiad a chanfyddiad. Mae rhywbeth hwyliog yn digwydd ar yr un pryd â rhywbeth drwgargoelus. Meddai Alex Duncan, "Mae ble a sut rydym yn gosod ein hunain yn y byd, yr hyn rydym yn ymateb iddo fel bodau dynol a'n perthynas â deunyddiau, gwrthrychau a sefyllfaoedd yn fy nghyfareddu. Mae'r hyn sy'n real a'r hyn sy'n dynwared y real bob amser wedi fy nghyfareddu, ynghyd â pha mor oddrychol rydym yn ymateb i rywbeth rhwng y ddau gyflwr gwahanol hyn". Mae'r gwaith sy'n cyd-fynd â hwn, Like Swimming, sydd yng nghasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian, yn osodiad 'cymhorthion arnofio achub bywydau' haearn bwrw. Mae crafiadau ac olion cnoi ar eu harwynebau, gan gyferbynnu ysgafnder ieuenctid ag ansicrwydd bywyd go iawn. Graddiodd Alex Duncan, a aned yn Abertawe, o Brifysgol Fetropolitan Abertawe yn 2007 ac enillodd ei radd meistr o'r Coleg Celf Brenhinol yn Llundain. Mae ei waith sy'n croestorri cerfluniau, arlunio, gwaith fideo a gosodiadau wedi cael ei arddangos yn y DU, yn enwedig Oriel Whitechapel, V&A, MOSTYN, Camden Arts Centre ac oriel gelf Ferens; ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Milan, yr Eidal; Bilbao, Santander; Sbaen a Mawrisiws.
Ffilm 9 munud, 39 eiliad o hyd a wnaed gan Anthony Shapland yn 2012 yw [pause] Time & Motion Study. Mae'r ffilm wedi'i gosod yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn 2011 yn ystod y cyfnod cyn iddi gael ei chau ar gyfer prosiect ailddatblygu ac adfer gwerth miliynau o bunnoedd. Roedd y weithred o bacio, clirio a newid wedi dechrau ym mhob rhan o'r adeilad – yn yr arddangosfeydd cyhoeddus yn ogystal ag yn y coridorau cudd a'r ystafelloedd cefn. Mae'r ffilm du a gwyn hon yn portreadu diwrnod ffuglennol, mewn tair rhan. Y rhan gyntaf yw'r bore lle dangosir y casgliad yn dal ynghyd yn yr orielau, a lle mae ardaloedd cyhoeddus a phreifat yr adeilad yn cael eu cyfleu yn yr un modd. Mae set o sbanwyr ar wal mewn gweithdy neu res o fylbiau golau wedi'u trefnu gyda'r un manylder â'r rhes o jygiau buchod crochenwaith Abertawe sy'n sefyll mewn cypyrddau gwydr yn yr oriel, ac mae modd cymharu'r grisiau mawreddog â'r grisiau ymarferol yn y cefn. Yr ail ran yw dechrau'r diwrnod wrth i'r gweithwyr gyrraedd, gyda'r dasg o adfer darnau crochenwaith, eu didoli a'u llenwi'n ofalus â phapur sidan, cyn eu rhoi mewn deunydd lapio swigod a'u labelu. Yn olaf, gyda'r hwyr, mae'r casgliad o wrthrychau a fyddai fel arfer wedi cael eu harddangos yn yr oriel bellach wedi'u cuddio y tu mewn i gardbord. Mae rhifau'r blychau'n cynyddu wrth iddyn nhw luosi'n ymddangosiadol ddiwedd. Mae'r cypyrddau gwydr a fu gynt yn llawn bellach yn wag. Dywedodd Anthony Shapland y canlynol am y gwaith: “Roedd y briff yn agored, sef creu dehongliad o Oriel Glynn Vivian. Dros sawl mis, ymwelais â'r oriel bum gwaith, gan recordio am fwy na 400 o funudau heb syniad pendant am strwythur y ffilm. Wrth wylio'r deunydd hwn y dechreuodd y naratif ffurfio. “Wrth i fi olygu'r ffilm, sylweddolais fy mod yn cynhyrchu rhywbeth a fyddai'n destun hiraeth yn fuan gan y byddai llawer o'r lleoliadau roeddwn yn eu ffilmio yn diflannu yn ystod y gwaith ailwampio a oedd ar ddod. Mae teitl y ffilm yn deyrnged i astudiaethau Frank a Lillian Gilbreth o ergonomeg ac effeithlonrwydd gweithwyr wrth eu gwaith. Roedd eu ffilmiau wedi sbarduno newid, fel arfer wedi'u comisiynu gan reolwyr neu sefydliadau. Serch hynny, dim ond cofnodi newid y mae'r ffilm hon. Heblaw am y gwaith golygu, nid oes unrhyw ystrywiau gyda'r camera, dim byd ffug nac effeithiau; ni ofynnwyd i unrhyw un wneud unrhyw beth gerbron y camera ac ni chafodd unrhyw beth ei ailffilmio. Dyma ffilm lle mae'r gwyliwr yn arsylwi drwy lens oddefol y camera.” Artist a nofelydd o Gymru yw Anthony Shapland ac ef yw sylfaenydd g39, man a arweinir gan artistiaid. Cafodd ei fagu ym Margoed yng nghwm Rhymni. Drwy ei waith ysgrifenedig ac artistig, mae'n cyfuno deunydd dogfennol a ffuglennol, gan ddefnyddio ei brofiad uniongyrchol o fod yn hoyw yng nghefn gwlad a pherfformio fel rhywun heterorywiol wrth dyfu i fyny.
Ffilm 33 munud, 50 eiliad o hyd a wnaed gan David Cushway yn 2012 yw Last Supper. Mae'r ffilm hon yn profi ffiniau arferion a thrafodaethau cerameg. Mae 13 o wirfoddolwyr yn eistedd wrth fwrdd petryalog hir â lliain bwrdd gwyn ar fesanîn atriwm mawr Oriel Gelf Glynn Vivian. Mae pensaernïaeth arddull baróc Edwardaidd fawreddog yr adeilad y tu ôl iddynt. Mae cypyrddau gwydr llawn y casgliad cerameg enfawr ar y waliau y naill ochr a'r llall i'r cyfranogwyr. Dyma'r bensaernïaeth a wnaeth atgoffa Cushway o'r Swper Olaf, paentiad Leonardo da Vinci, sy'n dangos swper olaf Iesu a'i 12 apostol. Ysbrydolodd hyn Cushway i ddefnyddio lleoliad y cyfranogwyr i gyfeirio'n uniongyrchol at y paentiad drwy gydol y ffilm. Mae pob gwirfoddolwr yn ei dro'n dal gwrthrych ceramig o'i ddewis o gasgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian ac yn ei drafod. Wrth wneud hynny, mae Cushway yn trafod y tabŵ ynghylch cyffwrdd yng nghyd-destun amgueddfa. Felly, rydym yn dyst i brofiad personol y cyfranogwyr o'r gwrthrych o'u dewis, sef profiad a fyddai fel arfer yn waharddedig. Amlygir hyn drwy ei gyfosod â'r casgliad cerameg yn y cefndir, sy'n ddiogel y tu ôl i wydr. Mae wedi'i warchod a'i gadw i ffwrdd fel nad oes modd cyffwrdd ag ef o gwbl. Er mwyn datgelu naratifau ac arsylwadau amgen am y gwrthrychau a gwreiddio'r gwaith yn ddiwylliannol yn ei leoliad, ni roddwyd unrhyw gyfarwyddyd i'r gwirfoddolwyr ynghylch eu sylwadau am y gwrthrychau o'u dewis a'u rhesymau dros eu dewis. Mae sŵn diwrnod gwaith arferol yn parhau yn y cefndir yn y ffilm – ffonau'n canu, drysau'n curo, rhywun yn chwibanu a chlebran cyffredinol. Meddai David Cushway am y gwaith: “Mae'r corff hwn o ymarfer creadigol yn dangos datblygiad fy nodau i ddarparu model o ymgysylltu â'r gwrthrych ceramig a chasgliad yr amgueddfa. Mae'n dadansoddi arferion amgueddfeydd ac arferion curadurol, wrth gyflawni meini prawf modelau ymarfer newydd a ddatblygwyd y tu hwnt i'r ddisgyblaeth a'r stiwdio, lle nad oes gan glai na cherameg bresenoldeb corfforol. “Mae'r profiad personol sy'n deillio o gyffwrdd yn amlwg yn y ffilm, sy'n cyfleu llawenydd a chyffro pur y profiad, drwy ddeialog y cyfranogwyr yn ogystal â'u gweithredoedd a'u hymatebion i'r gwrthrychau o'u dewis. Mae'r arddangosiad emosiynol ysgogol hwn yn adfywio'r gwrthrychau, a thrwy hynny mae'n ennyn diddordeb cynulleidfa'r amgueddfa mewn ffyrdd newydd ac arwyddocaol. Dyma broses sy'n meithrin gwybodaeth a phrofiad newydd, o ran y sefydliad ei hun yn ogystal â'r cyfranogwr.” Mae brwdfrydedd David Cushway dros glai fel cyfrwng wrth wraidd ei waith. Hanes defnyddio clai yw hanes y ddynolryw; dyma'r deunydd sy'n ein rhwymo i'r ddaear lle rydym yn byw. Mae ei waith yn gweithredu yn yr arenâu rhwng celf a chrefft ac yn aml mae'n trafod yn uniongyrchol y gwahaniaeth rhyngddynt, yn ogystal â'r tir cyffredin.
Gosodwaith ffilm a wnaed gan Cinzia Mutigli yn 2020 yw Sweet Wall. Mae'n cynnwys motiff parhaus papur wal siwgr, posteri sy'n dangos rysáit jam, brechdanau jam a ffilm ganolog 19 munud, 29 eiliad o hyd. Mae'r ffilm yn archwilio'r cysylltiad rhwng trawma a dibyniaeth, patrymau ymddygiad a masnach caethweision, siwgr a nwyddau eraill rhwng Prydain, Affrica ac Ynysoedd y Caribî. Cafodd Cinzia ei chomisiynu gan Jupiter Artland i ymateb i waith gan Allan Kaprow, artist perfformio Americanaidd, a'i ddychmygu o'r newydd. Dewisodd Sweet Wall, a gynhaliwyd ym 1970 yn Berlin, ar dir diffaith ger Wal Berlin ymysg adfeilion adeiladau a fomiwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd y gwaith yn cynnwys adeiladu wal goncrit oddeutu 30 metr o hyd a hanner metr o uchder. Defnyddiwyd jam mefus ar dafellau o fara fel morter i gysylltu'r blociau. Adeiladodd Kaprow y wal mewn prynhawn gyda chydweithrediad dwsin o bobl, ac ar ôl iddi gael ei chwblhau, cafodd ei dymchwel. Mae Mutigli yn defnyddio siwgr fel trosiad canolog, gan gysylltu trawma hanesyddol y fasnach drawsatlantig mewn caethweision â thrafodaeth am ddibyniaeth, sef ymddygiad y mae rhywun yn teimlo rheidrwydd i barhau ag ef, yn aml o ganlyniad i drawma heb ei ddatrys. Mae'r ffilm yn cynnwys llu o ddelweddau melys, gan gynnwys deunydd du a gwyn o gynhyrchu ciwbiau siwgr a'u hychwanegu at de; llinellau ailadroddus lliwgar Candy Crush yn gollwng er boddhad i'w lle; tonnau o siwgr yn creu jam; a chiwb siwgr yn cael ei osod ar dafod Cinzia. Mae'r delweddau hyn yn cyd-fynd â naratif cyfochrog am ddibyniaeth ac ymddygiad parhaus. Mae llais Cinzia yn gorgyffwrdd â Dr Maté Gabor, arbenigwr adnabyddus ym maes dibyniaeth, sy'n galw am ymagwedd dosturiol at ddibyniaeth bersonol a dibyniaeth pobl eraill. Mae Gabor yn credu mai ffynhonnell dibyniaeth yw trawma yn ystod plentyndod, a'r straen a'r datgysylltiad cymdeithasol sy'n rhemp mewn systemau anghyfartal ac anghyfiawn, yn hytrach na genynnau. Dywedodd Anthony Shapland, y dewiswr, y canlynol am y gwaith: “Mae ymadrodd ynghylch y ffaith ein bod yn ddall i'n gorffennol uniongyrchol, a dim ond amser a phellter sy'n caniatáu i ni weld yn glir y pethau a ddaw â ni i'r presennol sy'n symud yn barhaus. Mae trosiad y byd celf ynghylch darganfod arferion cudd yn ysgytwol o gofio eu bod bob amser yno, ac yn amlwg. Nid ydynt anodd eu cyrraedd nac yn aneglur. Mae Cinzia yn ein hatgoffa bod rhai o'r patrymau neu'r systemau hyn rydym yn symud drwyddynt ddydd ar ôl dydd mor anweledig i ni ag aer bellach, er eu bod yn bodoli ac yn llunio'r byd.” Meddai Cinzia, “Rwy'n ystyried sut mae agweddau domestig, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol poblogaidd ein hamgylchedd yn effeithio ar ein persona … ein hymdeimlad o le yn y byd.” Mae Cinzia Mutigli yn gweithio ar draws cyfryngau ffilm, clywedol, print, animeiddio, perfformio a thestun. Mae'n archwilio themâu personol, cymdeithasol, ysbrydol a seicolegol. Mae dulliau, ffurfiau a motiffau presennol a pharhaus yn cynnwys ei llais, eiconau diwylliannol poblogaidd, lles a hunanofal yng nghyd-destun defnyddwyr, a sut mae'r unigolyn yn cysylltu â'r grŵp. Cafodd Sweet Wall gan Cinzia Mutigli ei gaffael yn 2021 drwy Wobr Wakelin, sef gwobr flynyddol a roddir i artist sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru ac y prynir ei waith ar gyfer casgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.
Ffilm 10 munud a 41 eiliad o hyd a wnaed gan Helen Sear RA yn 2012 yw Chameleon. Mae'r ffilm fud hon yn dechrau yn nhywyllwch y nos ac yn raddol mae blodyn haul euraidd agored, ychydig cyn hadu, yn ymddangos. Y tu allan i'r llun, defnyddir yr unig ffynhonnell golau, un tortsh â ffocws addasadwy, i oleuo'r petalau sy'n siglo yn ysgafn yn awel y nos. Mae ffocws y tortsh yn cael ei addasu'n raddol i ddwysáu'r paladr golau ar ganol y blodyn. Mae'r blodyn haul yn dechrau ymdebygu i lygad symudol amwys sy'n syllu, fel cameleon sy'n gallu symud ei ddwy lygad ym mhob cyfeiriad ac yn annibynnol ar ei gilydd. Yna mae'n encilio i'r tywyllwch wrth i ffocws y tortsh gael ei ailosod. Meddai Helen Sear, yr artist: “Mae blodau haul bob amser wedi bod yn eiconig iawn yn hanes celf, gan gynnwys, yn amlwg, van Gogh, Ai Weiwei, Rose Finn-Kelcey, Man Ray a llawer o artistiaid eraill. Ac roeddwn am roi cynnig ar greu darn o waith a fyddai'n ychwanegu dimensiwn arall at y blodyn haul, sydd eisoes wedi'i ddarlunio'n aml. “Mae gennyf ddiddordeb mawr yn natur fandyllog anifeiliaid, llysiau a mwynau a sut gall y pethau hyn gyfuno â'i gilydd weithiau. Er fy mod yn edrych ar y blodyn haul yn ei gyflwr agored, ychydig cyn iddo hadu, roeddwn yn meddwl bod golwg debyg iawn arno i lygad a oedd yn edrych yn uniongyrchol ataf. Felly, roeddwn yn ceisio meddwl sut gallwn gyfleu'r teimlad hwn, lle gallai'r blodyn mewn rhyw ffordd ddod yn fyw, neu fod rhywle rhwng planhigyn neu anifail neu fod mytholegol, sydd wir yn edrych yn syth tuag at y gwyliwr ac yn edrych yn syth ym myw ei lygad.” Mae gwaith Helen Sear yn canolbwyntio ar gydfodolaeth pobl, anifeiliaid ac amgylcheddau naturiol ac mae wedi'i wreiddio yn ei diddordeb mewn realaeth hud, swrrealaeth a chelf gysyniadol. Astudiodd Gelfyddyd Gain ym Mhrifysgol Reading ac Ysgol Slade yng Ngholeg Prifysgol Llundain a daeth ei gwaith i'r amlwg tua diwedd y 1980au, pan fu'n defnyddio gosodweithiau cyfryngau cymysg, perfformiado a fideos yn bennaf. Mae ffotograffiaeth yn parhau i fod wrth wraidd ei gwaith, sydd yn aml yn herio goruchafiaeth y llygad a'r safbwynt sefydlog sy'n gysylltiedig â lens y camera, ac yn archwilio potensial y gwaith celf i ddeffro ac ennyn teimladau. Sear oedd y fenyw gyntaf i gynrychioli Cymru yn Biennale Fenis, pan gafodd y digwyddiad ei gynnal am y 56ed tro yn 2015, gan gyflwyno cyfres o ddarnau newydd o'r enw …the rest is smoke. Fe'i hetholwyd yn aelod o Academi Frenhinol y Celfyddydau yn 2024.
Mae Sandhouse yn ffilm o 2006 gan Jonathan Anderson, sy'n para 2 funud 44 eiliad. Mae'r ffilm yn darlunio tŷ ar ffurf fechan yng nghanol y sgrîn, wedi'i wneud o dywod heb ffenestri na drysau, ar draeth ym Mae Abertawe ar brynhawn gwyntog o wanwyn, wedi'i amgylchynu gan ddŵr ysgafn ewynnog wrth i'r tonnau ddechrau ysgubo ar draws o'r tu ôl i'r tŷ tuag atom. Mae darnau o wymon a cherigos wedi'u gwasgaru yn y tywod o amgylch y tŷ sy'n siglo'n ysgafn ar draws y dŵr wrth i'r llanw eu golchi i ffwrdd. Mae'r tonnau ysgafn yn taro ochrau'r tŷ, un ar ôl y llall, gan erydu'r waliau'n raddol nes bod y tywod unwaith eto'n dod yn rhan o'r traeth. Mae'r ffilm yn rhan o gyfres 'House' yr artist ac fe'i prynwyd yn 2011. Mae pedwar gwaith celf o'r gyfres hon yng nghasgliad parhaol yr oriel, Time and Tide, Sand House Mould, Concrete house a Concrete House with Coal Seam. Mae'r gwrthrychau y mae Anderson yn eu gwneud i bob golwg yn ymddangos yn syml ac fe'u gwneir yn aml o ddeunyddiau a gafwyd fel pridd, tywod, cerrig a llwch glo. Mae arwyddocâd arbennig y defnydd o lo yn gysylltiedig â gorffennol diwydiannol, cymdeithasol a gwleidyddol de Cymru wrth wneud sylw hefyd ar faterion amgylcheddol cyfredol. Defnyddiwyd cerflun Sand House Mould a wnaed o wydr ffibr, paent sglein a llwch glo fel offeryn i greu'r tŷ tywod yn y ffilm. Mae'r tŷ tywod ar ffurf fechan yn drosiad ar gyfer natur ddi-ildio bywyd sy'n destun grymoedd amgylcheddol y tu hwnt i reolaeth ddynol. Roedd y detholwr Meg Anthony, Cyfarwyddwr Oriel Myrddin, Caerfyrddin ar y pryd, o'r farn bod 'y gweithiau hyn yn farddonol ac yn hynod deimladwy gan fod ffurf y tŷ yn ein tynnu'n agos at enaid yr artist yn ogystal â chwestiynu anghytgord ar lefel gymdeithasol a gwleidyddol'.
Ffilm o 2008 gan Jonathan Anderson yw Time and Tide, sy'n para 10 funud 18 eiliad. Mae'r ffilm yn darlunio tŷ syml ar ffurf fechan yng nghanol y sgrin, wedi'i wneud o dywod heb ffenestri na drysau, ar draeth ym Mae Abertawe ar ddiwedd prynhawn gwyntog o aeaf, gyda gwrid gwasgarog pelydrau'r haul yn gynnar fin nos yn adlewyrchu ar draws y dŵr. Mae'r llanw'n sgubo'n ysgafn tuag at y tŷ gan ddisgleirio gydag ewyn gwyn wrth iddo ymchwyddo'n dawel, gan dynnu tywod a gwaddodion ar draws y traeth gyda phob ton. Yn raddol mae'r tonnau meddal yn erydu sylfaen y tŷ, nes iddo ddechrau cwympo gan golli pob ffurf yn y pen draw cyn i'r tywod ddod yn rhan o'r traeth unwaith eto. Mae'r ffilm yn rhan o gyfres 'House' yr artist ac fe'i prynwyd yn 2011. Mae pedwar gwaith celf o'r gyfres hon yng nghasgliad parhaol yr oriel, Time and Tide, Sand House Mould, Concrete house a Concrete House with Coal Seam. Mae'r gwrthrychau y mae Anderson yn eu gwneud i bob golwg yn ymddangos yn syml ac fe'u gwneir yn aml o ddeunyddiau a gafwyd fel pridd, tywod, cerrig a llwch glo. Mae arwyddocâd arbennig y defnydd o lo yn gysylltiedig â gorffennol diwydiannol, cymdeithasol a gwleidyddol de Cymru wrth wneud sylw hefyd ar faterion amgylcheddol cyfredol. Defnyddiwyd cerflun Sand House Mould a wnaed o wydr ffibr, paent sglein a llwch glo, fel offeryn i greu'r tŷ tywod yn y ffilm. Mae'r tŷ tywod ar ffurf fechan yn drosiad ar gyfer natur ddi-ildio bywyd sy'n destun grymoedd amgylcheddol y tu hwnt i reolaeth ddynol, ac mae'n ein hatgoffa o sylw Geoffrey Chaucer, sef ‘nid erys amser'. Roedd y detholwr Meg Anthony, Cyfarwyddwr Oriel Myrddin, Caerfyrddin ar y pryd, o'r farn bod 'y gweithiau hyn yn farddonol ac yn hynod deimladwy gan fod ffurf y tŷ yn ein tynnu'n agos at enaid yr artist yn ogystal â chwestiynu anghytgord ar lefel gymdeithasol a gwleidyddol'.
Ffilm 1 funud a 41 eiliad o hyd gan Peter Finnemore a wnaed yn 2005 yw Armageddon. Mae'r ffilm yn dechrau gyda hisian, wrth i dân gwyllt ffrwydro y tu mewn i dŷ gwydr gardd gartref a gynhelir gan ffrâm fetel arian ryw noson tua diwedd yr haf. Mae mwg yn llenwi'r lle ac yn dianc drwy'r fynedfa i'r awyr dywyll wrth i'r tân gwyllt barhau i saethu llwybrau tanllyd euraidd i fyny tuag at do'r tŷ gwydr. Mae pigiadau euraidd yn addurno'r lle rhwng clystyrau o ffrwydradau euraidd sy'n fflachio, nes i'r hadau euraidd olaf ddisgyn i'r tir sydd wedi'i orchuddio gan bilenni chwyn du, wrth i raeadr o fwg barhau i ddeillio o'r tŷ gwydr. Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yng ngosodwaith tair sgrîn penodol i'r safle Peter Finnemore yn Biennale Fenis yn 2005. Mae'r gwaith yn rhan o'r gyfres Zen Gardener.
Ffilm 6 munud, 20 eiliad o hyd a wnaed gan Anthony Shapland yn 2005 yw A Sign. Yn ogystal ag arsylwi ar bethau go iawn neu wirioneddol, mae'r ffilm hon o naws ddogfennol hefyd yn cyfeirio at lwyfannu, sgriptio a dichell. Wedi'i ffilmio o safbwynt sefydlog, yn y tu blaen mae malurion ar ochr ffordd, gan gynnwys oergell wen ar ei hochr, byrddau pren ac amrywiaeth o ddeunydd pecynnu plastig a chynwysyddion, wedi cael eu tipio ar draws y glaswellt gwyrddlas wrth i geir fynd heibio ar y ffordd y tu ôl iddynt, fel trydar adar. Mae ffocws hollol wrthrychol y camera'n arsylwi ar goeden Nadolig frown sydd wedi'i gadael yng nghanol y malurion. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu'n gryf â'r cefndir ar draws ochr arall y ffordd, sef tirwedd atyniadol a llonydd. I'r dde, mae bryn yn ymestyn ar draws y gorwel ac yn torri ar ei draws y mae cefnen bryn arall sy'n gogwyddo tuag at y ffordd. Y tu ôl i'r bryniau, mae glesni amwys yn creu argraff o'r môr ond mae'n ddigon posib mai'r awyr yw ef yn hytrach na'r môr. Wrth i'r haul fachlud ar yr olygfa, mae'r goeden yn mynd ar dân ac yn y pen draw mae'r fflamau'n diffodd, mewn archwiliad dirdynnol o drist o'r ymdrech i ganfod ystyr mewn bywyd pob dydd. Mae'r tân yn diffodd mor gyflym ag y cafodd ei gynnau, ac mae'r olygfa arferol yn dychwelyd; mae ceir yn dal i fynd heibio ar y ffordd yn y tu blaen, ac mae'r adar yn parhau i ganu. Mae'r gwaith yn eich cadw mewn rhyw fath o dir neb rhwng dydd a nos, a rhwng ffuglen a realiti. Yma yn yr ansicrwydd chwareus hwn y mae'r gwaith yn eich gorfodi i ailystyried y pethau pob dydd rydych chi'n siŵr ohonyn nhw. Artist a nofelydd o Gymru yw Anthony Shapland ac ef yw sylfaenydd g39, man a arweinir gan artistiaid. Cafodd ei fagu ym Margoed yng nghwm Rhymni. Drwy ei waith ysgrifenedig ac artistig, mae'n cyfuno deunydd dogfennol a ffuglennol, gan ddefnyddio ei brofiad uniongyrchol o fod yn hoyw yng nghefn gwlad a pherfformio fel rhywun heterorywiol wrth dyfu i fyny.
Gosodwaith pum ffilm a wnaed gan Peter Finnemore (a aned ym 1963) yn 2004 a 2005 yw Birdwatcher. Bwriedir i bobl wylio pob un o bum ffilm (rhan) Birdwatcher ar yr un pryd a'r hyd cyfan yw 7 munud, 11 eiliad. Hyd y rhan gyntaf yw 1 funud, 4 eiliad ac mae'n dangos titwod tomos las yn bwydo o ddau borthwr gwyrdd llawn hadau sy'n hongian o onnen Sbaen. Y tu ôl i'r goeden y mae sied rychiog oren llachar lle mae ffigwr gwryw gwyn sy'n gwisgo dillad cuddliw gwyrdd nad ydyn nhw'n ei ffitio a sbectol haul oren â fframiau oren; mae golwg syfrdan arno wrth iddo syllu ar yr adar o agoriad petryal yn yr adeiledd. Mae iorwg yn llifo o'r ffigwr i'r tir, gan helpu i'w guddio. Mae'r dyn yn camu i ffwrdd o'r agoriad, gan ollwng rhywbeth wrth iddo wneud hynny. Hyd yr ail ran yw 2 funud, 34 eiliad ac unwaith eto mae'n portreadu titwod tomos las yn bwydo o ddau borthwr gwyrdd llawn hadau sy'n hongian o goeden Sbaen o flaen sied rychiog oren llachar. Ond y tro hwn y mae'r ffigwr militaraidd yn sefyll y tu ôl i goeden ac yn syllu o dde isaf y sgrîn, gan newid ei olwg yn araf rhwng yr adar sy'n bwydo o'r porthwr chwith a'r rhai hynny sy'n bwydo o'r porthwr de. Mae ei lygaid yn gwibio rhwng yr adar a'r gwyliwr. Hyd y drydedd ran yw 59 eiliad ac y tro hwn y mae'n portreadu ffigwr militaraidd yn crymu ei gefn y tu ôl i goeden Sbaen, o flaen y sied rychiog oren llachar. Mae ei wyneb o fewn modfeddi yn unig i'r porthwr chwith, lle mae titw tomos las yn llyncu'r hadau'n llawen. Mae llygaid y dyn yn gwibio rhwng yr adar a'r gwyliwr. Hyd y bedwaredd ran yw 24 eiliad ac unwaith eto y mae'n dangos y ffigwr militaraidd y tu ôl i goeden Sbaen, o flaen y sied rychiog oren llachar, er bod heulwen euraidd yn tywynnu ar ei wyneb y tro hwn wrth iddo wylio'r porthwyr. Nid oes unrhyw ditwod tomos las yn bresennol, ac mae'r dyn yn dechrau chwibanu cân i ddynwared adar. Hyd y bumed ran yw 1 funud, 46 eiliad ac mae'n dechrau gyda golygfa aeafol lle mae'r sied rychiog oren llachar bellach wedi'i gorchuddio gan eira ac mae'r ddau borthwr adar llawn yn dal i hongian o goeden Sbaen heb ddail. Mae'r ffigwr militaraidd yn sefyll ar yr ochr chwith i'r goeden, ac yn gwylio wrth i ditwod tomos las ddisgyn a bwydo'n gyflym cyn hedfan i ffwrdd. Mae'r gwaith yn rhan o'r gyfres Zen Gardener, lle mae Finnemore yn cydweithredu'n weithredol ag amgylchedd ei ardd a byd natur. Mae gwylio adar yn un o hobïau mwyaf poblogaidd y DU. Wrth iddo wisgo dillad cuddliw, mae Finnemore yn estyniad modern o'r Dyn Gwyrdd mytholegol. Mae'n cymysgu â'r amgylchedd, yn gweld pa mor gorfforol agos y gall fod at yr adar, ac yn meithrin eu hymddiriedaeth.
Ffilm 2 funud a 40 eiliad o hyd a wnaed gan Peter Finnemore yn haf 2004 yw Forest Fire. Mae'r ffilm yn dechrau gyda gardd werdd hyfryd ar ddiwrnod llachar yn yr haf a menyw sy'n gwisgo dillad cuddliw du a gwyrdd nad ydyn nhw'n ei ffitio. Mae hi'n sefyll ac yn pwyso ar ffon gerdded bren fawr, gan wylio tân cynyddol gryf wrth iddo ddinistrio sied simsan. Mae'r sied flêr wedi'i phaentio mewn patrwm cuddliw gwyrdd yn arddull Mondrian ac mae byrddau pren heb eu paentio wedi'u clymu wrth frig ei mynedfa ar ffurf X. Mae'r tân hypnotaidd yn dinistrio'r sied, gan daenu o'r cefn tuag at y fynedfa wrth i ffigwr militaraidd gwryw sy'n gwisgo dillad cuddliw gwyrdd llawn gerdded tuag at yr ochr chwith i'r sied ac yn ôl i'r dde, gan symud ar y cyd â'r person cyntaf wrth i'r fflamau ddod yn rhy boeth. Yn raddol, caiff y sied ei dinistrio gan y tân cryf, gan gwympo i'r chwith a pharhau i losgi ar y ddaear. Yma, mae harddwch ofnadwy tân yn drosiad ar gyfer cyffro, dinistr ac adfywio. Heb fod yn ddangosol nac yn rhagnodol, mae Finnemore yn cyfeirio at ddigwyddiadau byd-eang cyfoes y tu mewn i ffiniau gardd yng Nghymru. Mae'r gwaith hwn yn rhan o'r gyfres Zen Gardener.
Ffilm 1 funud a 52 eiliad o hyd a wnaed gan Peter Finnemore yn 2004 yw Rock Music. Mae craig ddilewyrch lliw brown golau fawr yn gorwedd yn ganolog ar wely pridd rhewllyd yn yr hydref wrth i bâr o esgidiau gwaith brown anniben symud tuag at y graig. Wrth i adar drydar yn bleserus, rhoddir un esgid i ochr chwith y graig a'r llall i'r ochr dde. Mae ymdeimlad o ddisgwyliad cyn i forthwyl ddisgyn yn araf, gan daenu chwa o waddodion a gorfodi'r esgidiau gwaith i gamu'n ôl. Gwneir yr un weithred rymus sawl gwaith ond does dim effaith arhosol ar arwyneb y graig galed. Dyma gerddoriaeth roc ar ei mwyaf elfennol. Mae curo carreg yn ddi-sglein, yn uniongyrchol ac yn reddfol. Mae'n adlewyrchu sut mae cerddoriaeth roc yn aml yn ymwrthod â mireinio ac ymatal. Mae syniad cerrig sy'n canu wedi'i wreiddio yn niwylliant a mytholeg Cymru, lle mae cerrig glas Mynydd Preseli'n atseinio â sŵn uchel pan fydd morthwyl yn eu curo'n ysgafn. Mae'r gwaith hwn yn rhan o'r gyfres Zen Gardener.
Ffilm 1 funud a 55 munud a wnaed gan Peter Finnemore yn 2005 yw Tailspin. Mae'r ffilm yn dangos golygfa wledig gyda'r hwyr tua diwedd yr hydref lle mae dyn sy'n gwisgo dillad cuddliw gwyrdd nad ydyn nhw'n ei ffitio yn cerdded yn glocwedd o gwmpas coelcerth fawr yn y gornel dde isaf. Mae'r dyn yn oedi ac yn plygu i gynnau tân gwyllt tenau ar ffurf tiwb ar ffon, gan godi i ddal y tân gwyllt fel tortsh o'i flaen a cherdded i ganol y lle. Mae'r tân gwyllt ffyrnig tebyg i dortsh yn pallu'n raddol yn fwg eiddil nes iddo ffrwydro yng ngwacter yr awyr las feddal. Mae gwreichion euraidd yn hedfan y tu ôl iddo, gan fflachio ar gyflymder aruthrol nes i liw aur disglair ffrwydro mewn chwa o fwg. Cyn gynted ag y daw i ben, mae ffrwydrad euraidd arall yn tarfu ar yr awyr dywyll, gan barhau am 30 eiliad nes i'r mwg olaf wasgaru. Mae'r gyfres o ffrwydradau tân gwyllt yn awyr yr hwyr yn dwyn i gof ffaglau gofid i liniaru ynysu gwledig. Mae'r tân gwyllt yma'n estyniad o bresenoldeb bydol y corff. Mae'r dyn yn cerdded yn ôl tuag at y tân ac yn taflu'r tân gwyllt gwag arno. Mewn perthynas â'r gwaith hwn, mae Finnemore yn aml yn dyfynnu llinellau enwog Jack Kerouac o On the Road. “The only people for me are the mad ones, the ones who are mad to live, mad to talk, mad to be saved, desirous of everything at the same time, the ones who never yawn or say a commonplace thing, but burn, burn, burn like fabulous yellow Roman candles exploding like spiders across the stars and in the middle you see the blue centerlight pop and everybody goes ‘Awww!'” Mae'r gwaith hwn yn rhan o'r gyfres Zen Gardener.
Ffilm 4 munud a 2 eiliad o hyd a wnaed gan Peter Finnemore yn 2004 yw Eve of Destruction. Mae'r ffilm yn dechrau gyda llwyfan byrfyfyr gwag mewn gardd werdd ar brynhawn llachar yn yr hydref. Mae slab concrit hindreuliedig mawr wedi'i osod yn y glaswellt ac mae lein sychu â dillad arni yn siglo yn y cefndir. O flaen y slab y mae blodyn haul mewn pot terracotta a dim ond tair deilen yn hongian yn is na'i flodyn uchaf, sy'n wynebu oddi arnon ni. Yn eistedd ar y slab i'r dde o'r blodyn haul y mae cath lliw llwyd a gwyn o flaen dau flwch plastig glas mewn pentwr a gerllaw potel gwrw werdd. Yn portreadu cymeriad sy'n dynwared Elvis Presley, mae'r artist Peter Finnemore yn cyrraedd mewn modd comig i'r chwith, gan wisgo dillad cuddliw gwyrdd llawn, sbectol haul a wig Elvis wrth iddo ddechrau dawns sy'n dynwared y canwr. Mae'n defnyddio'r blodyn haul canolog fel microffon ffug, gan efelychu ystumiau eiconig Elvis a meimio i'r gân Eve of Destruction, a gyfansoddwyd gan P. F. Sloan ac yntau'n 19 oed ym 1965, ond sydd fwyaf adnabyddus oherwydd fersiwn Barry McGuire. Ysgrifennwyd y gân yn arddull Bob Dylan a denwyd Finnemore gan ansawdd ingol geiriau rhywun yn ei arddegau. Mae'r seremoni roc a rôl yn arwain at ddiweddglo llawn symudiadau wrth i Peter dynnu'r blodyn haul o'i bot a'i guro droeon ar y concrit, gan gicio'r blodyn tuag aton ni a siglo'r coesyn yn ffyrnig o gwmpas ei ben cyn ei falu ar y llawr a'i daflu aton ni yn y diwedd a cherdded i ffwrdd i'r dde. Meddai Finnemore: “Mae'r gwaith hwn yn rhan o'r gyfres Zen Gardener, a archwiliodd breifatrwydd man gardd i gynnal perfformiad, gweithgarwch artistig, darlunio a dychymyg. Mae'n bwysig bod y gyfres hon yn adlewyrchu ei chyfnod hanesyddol drwy'r perfformiadau absẃrd. Gwnaed y gyfres yn ystod yr ail ryfel yn Irac, a gafodd ei gyfiawnhau gan luoedd gwleidyddol ar seiliau ffug.” Dangoswyd Eve of Destruction yn gyntaf yn 2004 fel rhan o'r arddangosfa Zen Gardener yn Oriel Mostyn.
Archwiliodd y gyfres ‘Zen Gardener' breifatrwydd man gardd fel lleoliad perfformio, gweithgarwch artistig, darlunio a dychymyg. Dyma waith celf ar ffurf cyfres o fideos sy'n cynnwys tua 80 o ffilmiau sydd wedi'u harddangos yn rhyngwladol ac sydd wedi'u harchifo mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus. Yn ddiarwybod, mae'r ardd yn lleoliad cysylltiedigrwydd, yn ficrocosm o fyd mwy, lle caiff ffiniau, mamwlad, ymylon diwylliannol a gwleidyddiaeth eu harchwilio. Yn flaenllaw yn y ffilmiau hyn y mae ffigwr milwrol sy'n gwisgo dillad cuddliw nad ydyn nhw'n ei ffitio. Mae'r lifrai'n cuddio awdurdod symbolaidd ac yn colli pŵer machismo. Mae Finnemore yn ymddiddori mewn syniadau o guddliwiau diwylliannol a sut mae “ymgymysgu” yn dechneg ar gyfer goroesi. Mae'n fwgwd allanol i symud o gwmpas heb ddenu sylw. Mae'r motiff militaraidd hwn hefyd yn estyniad cyfoes o fyth paganaidd/Celtaidd y Dyn Gwyrdd – ffigwr defodol a wnaed o ganghennau coed, deiliach, planhigion, blodau. Mae cymeriad y garddwr gerila yn ffilm Finnemore yn cyfuno natur a diwylliant. Mae e'n amalgam o wahanol archdeipiau. Ffigwr golau a chysgod: addfwyn, comig, sinistr, bardd, ffŵl cysegredig a diogyn, siaman, troedfilwr, gwrthryfelwr, milwr gerila a goroeswr. Yr ysbrydoliaeth ar gyfer y ffigwr ymladdgar hwn yw cymeriad Charlie Chaplin yn The Great Dictator. Rôl ddeuol Adenoid Hynkel (ffigwr tebyg i Hitler) a barbwr Iddewig comig dienw (dyn cyffredin). Yn y ffilm hon, mae Chaplin yr actor, yr ysgrifennwr a'r cyfarwyddwr yn defnyddio comedi, trasiedi a dwyster i wynebu peryglon ffasgiaeth y 1940au a rhybuddio'r byd amdanyn nhw. Mae cymeriadau cyfochrog Chaplin yn rhannu'r un lifrai ond maen nhw'n ei ddefnyddio at ddibenion gwahanol iawn. Dyma gymeriadau sydd ar ddwy ochr yr un geiniog. Mae Chaplin yn defnyddio chwerthin a digrifwch mewn modd chwyldroadol, gan gymodi cymeriadau croes. Mae comedi a thrasiedi bellach yn gydgyfnewidiol. Hiwmor yw deallusrwydd, gan hwyluso dealltwriaeth a gwaredigaeth. Mae Peter Finnemore yn artist sy'n ceisio amlygu pethau, gan groesawu amrywiaeth eang ac iaith arfer celf ffotograffig wrth weithio drwy amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys celf ffotograffig, fideo, gweithgareddau perfformio, gosodweithiau, ysgrifennu ac arfer curadu. Mae'n ymchwilio i'r cyfnewid deinamig rhwng bywgraffiad a phresenoldeb, cof cenedlaethau, diwylliant, hanes a gwreiddiau, a ddechreuodd drwy archwilio cysyniad cartref, cof a stori mewn cyd-destun diwylliannol Cymreig. Graddiodd Peter Finnemore ym 1987 mewn Ffotograffiaeth Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Glasgow yn yr Alban. Ym 1994, derbyniodd MFA mewn Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Michigan yn Unol Daleithiau America.
Ffilm ddogfen 58 munud a 2 eiliad o hyd a wnaed yn 2003 yw Swansea Jack Memorial Dog Swimming Competition. Mae'n ymwneud â digwyddiad a grëwyd gan Shimabuku fel prosiect celf. Pan ymwelodd Shimabuku ag Abertawe i wneud gwaith ymchwil ar gyfer ei arddangosfa unigol yn Oriel Gelf Glynn Vivian, dechreuodd ymddiddori yn stori Jac Abertawe, y ci enwog a achubodd 27 o bobl rhag boddi yn ardal harbwr Abertawe yn ystod y 1930au. Wrth iddo ymchwilio i Jac Abertawe, sylwodd fod y cof lleol amdano'n pylu. I adfywio'r cof am yr arwr lleol hwn, gwahoddodd Shimabuku breswylwyr i gynnal cystadleuaeth nofio cŵn er cof am Jac Abertawe. Ryw brynhawn hydrefol cymylog ym mis Hydref 2003, ar draeth Bae Langland, galwyd drwy uchelseinydd ar 70 o gŵn yn eu tro i gymryd rhan yn y gystadleuaeth nofio gan Karen MacKinnon, menyw wen yn ei thridegau a'r curadwr ar y pryd, a chawsant eu tywys i'w safleoedd cychwynnol. Taflwyd hoff bêl neu ffon pob ci i'r môr, ac mae'r lluniau'n dangos y cŵn yn nofio yn y môr tonnog i'w casglu. Pan ddaeth tro pob ci, ymddangosodd ei enw yng nghornel chwith isaf y sgrîn. Mae'r lluniau'n dangos y dorf – gwylwyr, cŵn, perchnogion a chefnogwyr yn cymysgu â'i gilydd – yn annog y cystadleuwyr, yn eu cymeradwyo ac yn codi eu lleisiau i'w dathlu. Artist o Japan yw Shimabuku sydd wedi teithio i leoedd amrywiol yn Japan a thramor ers dechrau'r 1990au, gan greu perfformiadau a gosodweithiau am fywydau beunyddiol a diwylliannol pobl wrth iddo gwrdd â nhw, yn ogystal â mathau newydd o gyfathrebu. Mae ei waith hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o gyfryngau, megis cerfluniau, ffilmiau a ffotograffiaeth. Mae ei arddull yn llawn ymdeimlad barddonol a hiwmor, gan ysbrydoli pobl yn drosiadol ac ennill bri byd-eang. Mae ei broses yn aml yn cynnwys taith i rywle a fu gynt yn anhysbys lle mae'n cofnodi ei brofiadau. Mae syniadau am gyfathrebu rhwng yr hun a phobl eraill, a rhwng celf a'i chynulleidfa, wrth wraidd gwaith yr artist. Mae Shimabuku yn ceisio creu darnau heriol a llyfn, sy'n ymgysylltu'n uniongyrchol â chynulleidfaoedd amrywiol yn y gymuned y mae'n gweithio ynddi. Mae'n ail-greu straeon lleol mewn modd cynnil er mwyn chwalu'r ffiniau, sydd yn aml yn anhyblyg, rhwng pobl y tu mewn i'r sefydliad celf ac y tu allan iddo, ac mae ei wres naturiol yn annog pobl i fwynhau cymryd rhan yn ei brosiectau dychmygus. Mae ei waith bob amser yn emosiynol ac yn aml yn ddoniol, ac eto mae'r hiwmor hwn yn rhoi camargraff o'r difrifoldeb a'r uniondeb sydd wrth wraidd ei waith, a'r parch sydd ganddo tuag at y straeon y mae'n eu darganfod, y bobl y mae'n cwrdd â nhw, a'r lleoedd y mae'n ymweld â nhw.
Ffilm 5 munud a 42 eiliad o hyd a wnaed gan Yingmei Duan yn 2002 yw Talk to Myself. Mae'r ffilm yn dangos golygfa hydrefol brudd mewn gardd. Y tu ôl i goed a mieri moel, mae menyw â gwallt du a phenrhwymyn du syml, sy'n gwisgo crys siec gwyn a glas, oferôls jîns golau ac esgidiau gwaith, yn rhacanu dail o'r ddaear yn aflonydd drwy symudiadau unffurf, wrth siarad â'i hun yn ei mamiaith. Mae ei geiriau, sy'n cael eu cyflwyno mewn tôn brudd, wedi'u cyfieithu drwy is-deitlau Saesneg ar waelod y sgrîn. Mae'r trawsgrifiad fel a ganlyn: “Gwelais i'r peiriannau hyn eto ddoe. Bob tro y gwela i'r peiriannau hyn, mae'n rhaid i fi chwerthin. Hoffwn i fod yn anweladwy. Hoffwn i bob amser weld pobl eraill, ond heb iddyn nhw fy ngweld i. Byddai hynny'n hyfryd! Hoffwn i fod yn anweladwy. Hoffwn i! Hoffwn i wybod mwy am y byd. Hoffwn i allu hedfan ledled y byd a gweld sut mae pobl yn byw. Ydy pawb ar y Ddaear yn drist? Ydy hyn yn wir? Pam maen nhw'n drist? (Ochenaid) Dydw i ddim yn gwybod. Ddoe, gwelais i gi bach doniol. Efallai nad oedd ef erioed wedi gweld menyw Tsieineaidd o'r blaen? Roedd e'n hyfryd! (Chwerthin) Rhaid i fi chwerthin bob amser pan fydda i'n meddwl am y ci hwn. Gadewch lonydd i fi! Gadewch i fi fynd, neu gallwn i farw fel arall. Agorwch y ffenestr ar unwaith! Hoffwn i gael awyr las! Neu rhowch dwll i fi neidio i mewn iddo. Dydw i ddim eisiau clywed y synau hyn mwyach! Mae mor wael, mor wael! Ddoe, roeddwn i mor hardd, yn fwy hardd nag ar ddiwrnodau eraill. Efallai mai fy nillad newydd oedd y rheswm. Roeddwn i'n teimlo bod pawb ar y stryd yn edrych arna i. Oeddwn i wir yn hardd iawn? Mae adar, cŵn a chathod yn hapus iawn. Dydyn nhw ddim yn drist. Pam mae'n rhaid i blentyn dyfu i fyny? Pam mae pobl yn meddwl? Pam? Dydw i ddim yn gwybod. Beth ydy da? Beth ydy drwg? Beth ydy daioni? Beth ydy drygioni? Pam nad ydw i'n gwybod eto? Pam mae perthnasoedd â ffrindiau'n fy mlino? Pa fath o berson ydw i? Ydw i'n hapus? (Ochenaid) Does dim clem gen i! Pam rydw i mor weithgar bob dydd? Pam? Pam mae'n rhaid i fi wneud cymaint bob dydd? Efallai y bydda i'n marw yfory, neu fydda i ddim yn deffro o gwbl. Mae popeth yn digwydd er fy ngwaethaf. Does dim byd yno mwyach! (Ochenaid) Hoffwn i atal y cloc. Hoffwn i atal pob cloc! Laoxiong (fy nghi), ble rwyt ti? Meddyliais i am dy lygaid eto. Pan fydda i'n gweld dy lygaid, rydw i eisiau crio bob tro. Pam rwyt ti bob amser yn drist? Pam rwyt ti bob amser yn ofnus pan fydda i'n dy adael? Pam rwyt ti bob amser yn anadlu'n drwm? Rydw i bob amser wedi coginio llawer o fwyd i ti! Rydw i'n meddwl bod dy fywyd di'n llawer gwell na fy mywyd i, ond dydych chi byth yn fodlon.” Yn y diwedd, mae'n canu hwiangerdd Tsieineaidd am chwilio am gyfeillgarwch. Mae'n ymddangos bod ei meddyliau'n drech na hi. Am y gwaith, meddai Melanie Martin, “Mae'n ymddangos bod bygythiad dirgel yn yr awyr. Ni all fynegi rhai o'i meddyliau a'i theimladau ac mae'n gofyn cwestiynau anobeithiol nad oes modd eu hateb. Fodd bynnag, ni all ei barn ddiniwed am y byd atal trychineb. Mae ganddi ddihidrwydd plentynnaidd, ond mae'n ymddangos bod y byd ar ei hysgwyddau. Mae'n crio am help, ond ni allwn ddod i'w hadwy.” Ganed Yingmei Duan ym 1969 yn Daqing, Tsieina. Y corff yw cyfrwng canolog arfer perfformio unigol Duan, sy'n ymroddedig i archwilio ieithwedd y celfyddydau perfformio'n barhaus, drwy arferion arbrofol ar draws cyd-destunau gofodol amrywiol. Mae ei gwaith perfformio unigol ac ar y cyd yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd. Yn ei phrosiectau cydweithredol, mae pobl wrth wraidd y gwaith o hyd; mae wedi canolbwyntio ers amser maith ar sut mae unigolion a grwpiau'n cyfleu hunaniaeth, profiadau, emosiynau, atgofion, meddyliau ac ymwybyddiaeth, a sut mae'r profiadau'n hyn yn cael eu llywio gan gyd-destunau gwleidyddol, cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol, gan greu'r sail am gydweithrediad artistig manwl.
Ffilm 32 munud, 51 eiliad o hyd a wnaed gan José Alejandro Restrepo ym 1999 yw Paso del Quindío II. Mae'r ffilm yn ail-greu'r ‘carguero' olaf – pobl a oedd yn cario teithwyr Ewropeaidd drwy'r jyngl fynyddig anodd yn wreiddiol. Mae gwaith Restrepo yn ystyried y cysylltiadau pŵer cymhleth sy'n gysylltiedig â'r weithred hon o gario. Yn y ffilm, mae cymeriad gwrywaidd canolog yn dyfalbarhau'n dawel wrth iddo garo menyw ar ei gefn; mae hi'n eistedd ar gadair ‘guadua' (math o fambŵ) ac mae ei gefn ef ar ongl 60 gradd i'r ddaear. Mae'r gadair wedi'i chlymu wrtho â darn o ffabrig wedi'i lapio o dan y sedd ac am ei dalcen chwyslyd. Mae'r dyn canol oed yn berson o liw ac mae ganddo wallt byr du a llecyn moel. Mae'n droednoeth ac yn gwisgo trowsus byr gwyn a chrys T llwyd sy'n colli ei liw, gan ddal ffon bren denau hir er cydbwysedd. Mae'r fenyw sy'n eistedd hefyd yn berson o liw a chanddi wallt du byr ac mae'n gwisgo crys du â darnau patrymog amryliw, trowsus byr ac esgidiau glaw mwdlyd du. Meddai Restrepo, “Mae un o weithgareddau gorau hanes yn ymwneud â phwy sy'n llwyddo i osgoi deddfau cynrychioli a dehongli.” Yn 2007, cafodd arddangosfa Displaced, Contemporary Art from Colombia ei churadu gan María Clara Bernal a Karen MacKinnon a'i chyflwyno yn Oriel Gelf Glynn Vivian. Ochr yn ochr â darnau neilltuol eraill, roedd Paso del Quindío II yn ganolog, oherwydd pŵer ei ymagwedd ôl-drefedigaethol a'i ymgysylltiad â gwleidyddiaeth hunaniaeth ddiwylliannol. Cafodd y gwaith hwn ei brynu drwy gynllun caffael y Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes ar ran Oriel Gelf Glynn Vivian yn 2010. Mae José Alejandro Restrepo yn artist o Golombia a aned ym 1959. Astudiodd y celfyddydau gweledol yn Universidad Nacional de Bogotá a'r École des Beaux-Arts ym Mharis ar ddechrau'r 1980au, gan gael ei ysbrydoli gan waith Bill Viola a Gary Hill. Dros y degawdau, mae wedi archwilio deinameg pŵer cynrychiolaeth weledol drwy gyfuno fideos, cerfluniau a'r archif. Mae ei waith yn archwilio hanesion gormes a gwrthsefyll sy'n llunio bywyd yn America Ladin, gan chwilio am ystyron newydd mewn naratifau gosod, a gofyn pa archifau gweledol a ddefnyddir i greu hanes – a pham. Roedd fersiwn gyntaf y gwaith hwn, Paso del Quindío I (Bwlch Quindío I) (1992), yn garreg filltir yn ei yrfa. Gan gynnwys 17 o sgriniau wedi'u trefnu ar lefelau amrywiol adeiledd pyramidaidd, dangosodd y gwaith ddeunydd o heic yr artist i fyny bwlch mynydd yn yr Andes ym 1991. Recordiodd y daith o uchderau gwahanol; mae rhai lluniau'n dangos cyflymder tawel, ond mae eraill yn cyfleu symudiad cynhyrfus rhywun ar y copa. Drwy'r esgyniad hwn, ail-greodd deithiau fforwyr Ewropeaidd y 19eg ganrif fel Alexander von Humboldt a Max von Thielman. Yn wahanol i'r fforwyr hynny, a gyflwynodd eu gwaith o safbwynt gwrthrychol, cydnabu Restrepo, er gwaethaf ei ymchwil hanesyddol a'i brofiad uniongyrchol, mai dim ond dehongliad arall mewn cadwyn hir, llawn “copïau o gopïau”, oedd ei brosiect.
Ffilm 3 munud ac 16 eiliad o hyd a wnaed gan Tim Davies ym 1992 yw Fflagiau Dros Solfach. Mae'r ffilm du a gwyn hon yn dogfennu digwyddiad penodol i safle'r bryniau uwchben Solfach, Sir Benfro, ar draws y cei o'r Gribin. Yng nghanol yr olygfa gymylog wyntog y mae pum polyn fflag metel a phren 15 troedfedd anhygoel o uchder wrth ymyl ei gilydd mewn grŵp. Mae pentref Solfach i'w weld yn y cefndir ar draws y cei. Mae'r fflagiau'n bwrw yn erbyn ei gilydd bob tro y mae'r gwynt yn chwythu. Mae pob fflag ar ffurf triongl cymesur tenau hir ac mae dwy fflag olau ganolog wedi'u hamgylchu gan fflagiau tywyllach ar y naill ochr a'r llall. Mae rhaff ategol yn clymu'r polion fflag yn sownd ychydig yn llai na hanner ffordd tuag at y ddaear, gan greu rhyw fath o dreipod wedi'i glymu yn y tir gan begiau gwyn. Wrth wneud Fflagiau Dros Solfach, roedd Davies wedi creu'r polion fflag fesul rhannau fel y byddent yn barod i'w cydosod yn ôl yr angen, a threuliodd wythnos yn eu rhoi yn nhirwedd Solfach mewn amrywiaeth o gyfluniadau. Ar ôl treulio rhan o'i blentyndod yn Solfach gyda'i dad-cu, mae'n hen gyfarwydd â'r lleoliad. Gan ddefnyddio fflagiau fel tirnod, archwiliodd y syniad fod perchnogaeth tir yn rhywbeth dros dro, gan hawlio safle am hyd pob ymyriad. O arwyddocâd diniwed fflagiau fel tegan i blant sy'n marcio cestyll tywod, sy'n cael eu llyncu gan y llanw, i oblygiadau glanio ar y lleuad, i edifarhau colli perchnogaeth leol ar hunaniaeth ddiwylliannol Cymru, a'r diymadferthedd sy'n deillio o hynny, mae'r gwaith yn cyfeirio at anghydfodau ynghylch perchnogaeth tir a'r gwrthrych fel dynodwr lleoliad. Mae craidd ei waith yn benodol i amser a lleoliad, gan ddefnyddio cyfryngau perfformio dau a thri dimensiwn. Mae ef hefyd yn archwilio'r gair ysgrifenedig, y gair llafar a'r gair ar ffurf delwedd. Ganed Davies yn Hwlffordd, sir Benfro ym 1960. Astudiodd Gelfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Norwich a chwblhaodd MA mewn Materion Celfyddyd a Phensaernïaeth ym Mhrifysgol y Celfyddydau Creadigol yng Nghaergaint. Mae ef wedi gweithio mewn ystod o gyfryngau dros y 30 mlynedd diwethaf, gan arddangos a chreu gwaith yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae ef wedi ennill llawer o wobrau, gan gynnwys gwobr cystadleuaeth agored Mostyn, y fedal aur mewn Celfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac un o brif wobrau Cymru Greadigol. Ef oedd yr artist cyntaf o Ewrop i gyrraedd rhestr fer Gwobr Celfyddydau Gweledol Artes Mundi a chynrychiolodd Gymru mewn sioe unigol yn Biennale Fenis yn 2011. Cafodd y ffilm Fflagiau Dros Solfach ei chaffael yn 2025 drwy wobr Wakelin, a roddir bob blwyddyn i artist sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru ac y prynir ei waith ar gyfer casgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.
durée : 00:53:07 - Grand bien vous fasse ! - par : Guillemette Odicino - Manger sain est devenu une préoccupation majeure. Mais entre injonctions nutritionnelles et discours anxiogènes, l'assiette peut parfois devenir source d'angoisse. Comment retrouver un rapport serein à l'alimentation ? - réalisation : Maria Pasquet, Joseph Hascal, Anna Massardier, Sirine Ben Younes Vous aimez ce podcast ? Pour écouter tous les épisodes sans limite, rendez-vous sur Radio France
Dans cet épisode de "Comment j'ai réussi?", Stéphane Pedrazzi reçoit Alexis Vaillant, le fondateur d'Alterfood, une entreprise agroalimentaire qui s'est donnée pour mission de proposer des alternatives plus saines et responsables dans le domaine du snacking.L'invité explique que le marché du snacking est dominé par des produits peu vertueux sur le plan nutritionnel, souvent riches en sucre, en matières grasses et en additifs. Avec Alterfood, il souhaite changer la donne en proposant des produits plus équilibrés, à base d'ingrédients compréhensibles et naturels, sans édulcorants. L'entrepreneur détaille les différentes gammes de produits développées par Alterfood, comme la marque de sodas Leamo, les snacks Blast Snack à base de noix et d'oléagineux, ou encore la gamme de soupes Marcel Bio. Il souligne que 80% des produits commercialisés par Alterfood sont fabriqués en interne, dans le but de garder le contrôle sur la qualité et la composition.Alexis Vaillant revient également sur les défis liés à la distribution en grande surface, un marché très dominé par les grandes marques. Malgré des négociations âpres sur les prix, il estime que la grande distribution offre une vitrine exceptionnelle pour les produits Alterfood. L'entrepreneur milite pour que les produits des PME aient davantage de place dans les rayons.Il aborde aussi l'impact de la crise ukrainienne sur le secteur agroalimentaire, avec une forte inflation qui a contraint Alterfood à revoir ses gammes pour proposer des produits toujours sains mais plus accessibles financièrement. Alexis Vaillant souligne que manger mieux ne doit pas coûter beaucoup plus cher, et que l'alimentation doit être remise au cœur des préoccupations.Enfin, il brosse le portrait de la clientèle de l'entreprise, plutôt urbaine et soucieuse de son alimentation, notamment grâce à l'essor d'applications comme Yuka qui permettent de mieux s'informer sur la composition des produits. Une clientèle qui coïncide avec l'explosion du marché du sport et d'un intérêt grandissant pour une alimentation plus saine et responsable.Hébergé par Audiomeans. Visitez audiomeans.fr/politique-de-confidentialite pour plus d'informations.
Chris Sain is an entrepreneur, investor, and content creator who has built a multi-million dollar digital education business helping people achieve financial freedom. With over a million followers online, Chris has generated more than $10 million in revenue and retired himself and his wife before 40. Known for his transparent, no-excuses approach, he teaches everyday people how to build wealth through disciplined investing and consistent action. On this episode we talk about: How Chris built a loyal, “cult-like” audience through consistent content and authenticity Turning free social media content into book sales, speaking gigs, and a scalable business The step-by-step path he teaches beginners to start investing (even with limited money) Why most people delay investing—and how to overcome that mindset Using transparency and real results to build trust and credibility with an audience Top 3 Takeaways You don't need a lot of money to start investing—what matters most is consistency and discipline. Building trust through authenticity and real results is what turns an audience into paying customers. Success comes from taking action early, learning from mistakes quickly, and refusing to adopt a victim mindset. Notable Quotes "Get started. You don't need a lot of money—just build the habit." "People will always take more from watching you than they will from listening to you." "We don't run in the victim Olympics." Connect with Chris Sain: Facebook: https://www.facebook.com/chris.sain.14/ Instagram: https://www.instagram.com/chris_sain/ Other: https://chrissain.com | YouTube: Chris Sain A Word from Our Sponsor: Are you ready to start your own creatorjourney and make it big? Visitwww.fanvue.com today and launch yourcareer! Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices
Comment intégrer davantage de végétal dans son alimentation tout en restant en forme et en bonne santé ?Dans cet épisode, Pauline Budynski reçoit Katia Wilgenbus, alias @katfoodiet sur Instagram, diététicienne-nutritionniste spécialisée en alimentation végétale. Ensemble, elles explorent les bases d'une alimentation végétarienne et végétalienne bien construite, déconstruisent les idées reçues et partagent des repères concrets pour composer des repas équilibrés au quotidien.Et pour la première fois, Tout Sainplement vous est proposé à la fois en version audio et vidéo ! Crédits : Tout Sainplement est un podcast des Supermarchés Match, produit par LACMÉ et réalisé par Quentin Bonnet sur une musique de Basile Beaucaire.Hébergé par Ausha. Visitez ausha.co/politique-de-confidentialite pour plus d'informations.
“Nous ne sommes pas ce que nous mangeons.Nous sommes ce que nous nourrissons.”Cette phrase résume parfaitement notre échange sur le microbiome.
Chris Sain is a former Division I athlete turned entrepreneur, author, and financial independence advocate. Starting as a walk-on athlete, he faced significant credit card and student loan debt without the financial support many of his peers had. Raised in the inner city, Chris developed a relentless work ethic and determination to break the cycle of limited opportunity. Through discipline and persistence, he paid off his debt, earned advanced degrees, and built a successful career in business. Chris is the Founder and CEO of Grand C.I.T.Y., a nonprofit dedicated to empowering at-risk youth through sports, education, and mentorship. A dynamic speaker, he regularly shares his story in schools and communities nationwide. After retiring at 37, Chris now focuses on helping others achieve financial freedom and long-term success. During the show we discuss: How Chris Sain built a massive, loyal community (1M+ subscribers) from scratch The importance of trust-building before monetization in today's digital world How to turn content into real income streams and scalable businesses Chris's journey from debt and adversity to financial independence The mindset shifts needed to break out of financial struggle and build wealth How to use platforms like YouTube to educate, influence, and grow a brand Strategies for simplifying investing and making it accessible to everyday people How consistency and authenticity drive long-term audience growth and impact Resources: https://chrissain.com/
Chris Sain built a million-subscriber community and retired at 37, starting with just $250 a month. No inheritance. No silver spoon. Just consistency, faith, and a refusal to run in the victim Olympics. In this episode, Stephen and Chris go beyond the tactics and into the real conversation behind wealth, the mindset traps, the biblical principles, the emotional discipline required, and why being generous can sometimes do more harm than good. What you'll take away: - Why 80% of pro athletes go broke 3–5 years after their playing career ends - How to start building real wealth with whatever you have right now - The asset classes Chris is investing in for the next 5 years (AI, quantum computing & more) - The dangerous downside of generosity nobody talks about - Why stewardship always has to come before abundance Find Chris: chrissain.com | @chris_sain Find Stephen: stephenscoggins.com | @stephen_scoggins
Audio salvestus koosolekult
Most people don't have a job problem… they have a discipline problem.In this episode, we break down why your 9–5 might be the most important asset in your journey as an entrepreneur.Chris Sane explains:Why your job is your first investorHow people misuse their incomeWhy most people fail before they ever get momentumIf you're thinking about quitting your job… you might be making the wrong move.Our Sponsors:* Check out Cash App and use my code CASHAPP10 for a great deal: https://cash.appAdvertising Inquiries: https://redcircle.com/brandsPrivacy & Opt-Out: https://redcircle.com/privacy
Jason Sain shares his journey in the construction industry, highlighting his experiences and the founding of 1 Degree. He discusses working with clients across various states and focuses on the challenges faced by general contractors and subcontractors, including prequalification, cash flow, and communication. Jason emphasizes the importance of enhancing project delivery methods and explores the balance between discipline and regret in leadership. He addresses the resistance to change and the impact of leadership participation on field operations. The conversation touches on balancing work and personal life and concludes with Jason's insights on the four P's for making tough decisions.
Fatigue, nausées, émotions en montagnes russes, changements du corps… Et si la grossesse méritait qu'on prenne (vraiment) soin de la future maman ?Dans cet épisode, Pauline Budynski reçoit Nadia Karmel, sophrologue et naturopathe spécialisée en périnatalité. Ensemble, elles parlent bouleversements hormonaux, alimentation, charge mentale, anxiété et écoute du corps. Pour remettre la femme enceinte au centre dans cette période de bouleversements.Tout Sainplement est un podcast des Supermarchés Match, produit par LACMÉ et réalisé par Alice Deroide sur une musique de Basile Beaucaire.Hébergé par Ausha. Visitez ausha.co/politique-de-confidentialite pour plus d'informations.
Rôtis, blanchis, grillés, rissolés ou encore bouillis, les méthodes de cuisson de ce que l'on met dans notre assiette sont diverses et variées, les amateurs de cuisine le savent. Sous l'action de la chaleur, la cuisson détruit les bactéries et les germes, et rend aussi les aliments plus digestes. Notamment la viande. Elle modifie également le goût, l'aspect, la couleur, et surtout, pour ce qui nous intéresse : la qualité nutritionnelle des aliments. Ils peuvent être cuit de plusieurs façons différentes, or certains modes de cuisson sont réputés plus nocifs que d'autres. La cuisson à la vapeur est-elle vraiment une méthode plus saine que les autres ? Qu'est ce qui pose problème avec les autres modes de cuisson ? Qu'en est-il des cuissons moins connues telles que la tajine ou la plancha ? Écoutez la suite de cet épisode de "Maintenant Vous Savez - Santé". Un podcast Bababam Originals, écrit et réalisé par Emilie Drugeon. Première diffusion : octobre 2024 À écouter aussi : Quelles sont les 3 astuces pour vraiment se débarrasser des moustiques ? Comment bien choisir sa crème solaire ? Comment s'endormir rapidement avec la méthode Alpha Bridge de l'armée américaine ? Retrouvez tous les épisodes de "Maintenant vous savez - Santé". Suivez Bababam sur Instagram Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices
durée : 00:53:11 - Grand bien vous fasse ! - par : Ali Rebeihi - Avec l'arrivée du printemps, la cuisine se pare de nouvelles couleurs et saveurs. Asperges, fraises, artichauts poivrade, petits pois et pommes de terre primeur : découvrez cinq produits stars de la saison et les délicieuses idées recettes de nos invités. - réalisation : Maria Pasquet, Joseph Hascal, Anna Massardier, Sirine Ben Younes Vous aimez ce podcast ? Pour écouter tous les épisodes sans limite, rendez-vous sur Radio France
Avec : Baptiste des Monstiers, grand reporter. Pierre Rondeau, économiste. Et Juliette Briens, journaliste à l'Incorrect. - Accompagnée de Charles Magnien et sa bande, Estelle Denis s'invite à la table des français pour traiter des sujets qui font leur quotidien. Société, conso, actualité, débats, coup de gueule, coups de cœurs… En simultané sur RMC Story.
(1) Sain in-studio w/Rundown on Grizz, Spurs, tanking, Tigers roster decisions (2) Anthony Sain and Kevin Cerrito discussed Grizz and Nashville (3) Kevin Cerrito has Brad Carson read Wrestling Promos -Grizz Wrestling Nite
Aujourd'hui, Fatima Aït Bounoua, prof de français, Bruno Poncet, cheminot, et Antoine Diers, consultant, débattent de l'actualité autour d'Alain Marschall et Olivier Truchot.
My guest this week is Liv Sain the Owner of Liv's Gourmet Pickles- who's makin' pickles that matter. I discussed with Liv about how her pickles are sober made and charity driven and how every bag represents strength and starting over. We talked about everything from what makes her pickles different (Made with English Cucumber; Zero Preservatives and cold packed) to how she was inspired to start selling pickles and the goals she set for herself. Along with making the decision to sell her pickles as chips. To the various flavors she offers and grew from just her original Dill Flavor. We spoke about what she wants for the future of Liv's Gourmet Pickles and how her journey with Sobriety and Business have taught her lessons along the way. Lunch with Biggie is a podcast about small business and creatives sharing their stories and inspiring you to pursue your passion, with some sandwich talk on the side. Created, edited, and produced in Orlando, FL by Biggie- the owner of the sandwich-themed clothing brand- Deli Fresh Threads. Liv's Gourmet Pickles Social:Liv's Gourmet Pickles Instagram: https://www.instagram.com/livs_gourmetpicklesLiv's Gourmet Pickles Facebook: https://www.facebook.com/LivsgourmetpicklesLiv's Gourmet Pickles website: https://www.livsgourmetpickles.comBiggie's Social: Deli Fresh Thread's Instagram- https://www.instagram.com/delifreshthreads/ Podcast's Instagram- https://www.instagram.com/lunchwithbiggie/ Podcast's Facebook Group- https://www.facebook.com/groups/lunchwithbiggie Podcast's Twitter- https://twitter.com/LunchwithBiggie Deli Fresh Threads- https://DeliFreshThreads.com
Ecoutez Ça va beaucoup mieux avec Jimmy Mohamed du 05 janvier 2026.Hébergé par Audiomeans. Visitez audiomeans.fr/politique-de-confidentialite pour plus d'informations.
Ecoutez Ça va beaucoup mieux - Spécial fêtes avec Émilie Steinbach du 23 décembre 2025.Hébergé par Audiomeans. Visitez audiomeans.fr/politique-de-confidentialite pour plus d'informations.
durée : 00:26:36 - Le Mag de la vie quotidienne - par : Ali Rebeihi - Ce matin, deuxième volet du Mag de la vie quotidienne consacré aux douceurs, du petit-déjeuner au goûter en passant par le dessert. Des agrumes, du chocolat, des noix mais aussi de la poire, des châtaignes, du coing et du kaki... De belles idées de bonnes recettes saines et gourmandes ! Vous aimez ce podcast ? Pour écouter tous les autres épisodes sans limite, rendez-vous sur Radio France.
Hour 2--J&J Show Monday 11/17/25--Tigers Football cont', then Breaking News: Ja Morant out at least 2 weeks + Grizz disappointment v Memphis FB tough season+Congrats to Sain & Drew Hill
Hour 2--J&J Show Friday 10/31/25---Sain...continued on the Grizz/Hoops then Preview of Grizzlies vs Lakers tonight on 92.9 FM ESPN + Rice vs. MemphisFB
Tony chats with Frano Sain, CEO at Hero Response, they offer a unique monitoring system that improves profitability and lowers waster on all water related claims. It saves the contractors from having to go back every day to see if the equipment has finished drying the loss.Frano Sain: https://www.linkedin.com/in/franosain/Hero Response: https://heroresponse.com/homeVideo Version: https://youtu.be/dhwqFws83ls
Chris Sain Gets Real: Wealth, YouTube Fame & Why Athletes Go BrokeSee omnystudio.com/listener for privacy information.
Wealth Wednesday With Chris Sain Tell US A Secret Ask YeeSee omnystudio.com/listener for privacy information.