POPULARITY
Ffilm ddogfen 58 munud a 2 eiliad o hyd a wnaed yn 2003 yw Swansea Jack Memorial Dog Swimming Competition. Mae'n ymwneud â digwyddiad a grëwyd gan Shimabuku fel prosiect celf. Pan ymwelodd Shimabuku ag Abertawe i wneud gwaith ymchwil ar gyfer ei arddangosfa unigol yn Oriel Gelf Glynn Vivian, dechreuodd ymddiddori yn stori Jac Abertawe, y ci enwog a achubodd 27 o bobl rhag boddi yn ardal harbwr Abertawe yn ystod y 1930au. Wrth iddo ymchwilio i Jac Abertawe, sylwodd fod y cof lleol amdano'n pylu. I adfywio'r cof am yr arwr lleol hwn, gwahoddodd Shimabuku breswylwyr i gynnal cystadleuaeth nofio cŵn er cof am Jac Abertawe. Ryw brynhawn hydrefol cymylog ym mis Hydref 2003, ar draeth Bae Langland, galwyd drwy uchelseinydd ar 70 o gŵn yn eu tro i gymryd rhan yn y gystadleuaeth nofio gan Karen MacKinnon, menyw wen yn ei thridegau a'r curadwr ar y pryd, a chawsant eu tywys i'w safleoedd cychwynnol. Taflwyd hoff bêl neu ffon pob ci i'r môr, ac mae'r lluniau'n dangos y cŵn yn nofio yn y môr tonnog i'w casglu. Pan ddaeth tro pob ci, ymddangosodd ei enw yng nghornel chwith isaf y sgrîn. Mae'r lluniau'n dangos y dorf – gwylwyr, cŵn, perchnogion a chefnogwyr yn cymysgu â'i gilydd – yn annog y cystadleuwyr, yn eu cymeradwyo ac yn codi eu lleisiau i'w dathlu. Artist o Japan yw Shimabuku sydd wedi teithio i leoedd amrywiol yn Japan a thramor ers dechrau'r 1990au, gan greu perfformiadau a gosodweithiau am fywydau beunyddiol a diwylliannol pobl wrth iddo gwrdd â nhw, yn ogystal â mathau newydd o gyfathrebu. Mae ei waith hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o gyfryngau, megis cerfluniau, ffilmiau a ffotograffiaeth. Mae ei arddull yn llawn ymdeimlad barddonol a hiwmor, gan ysbrydoli pobl yn drosiadol ac ennill bri byd-eang. Mae ei broses yn aml yn cynnwys taith i rywle a fu gynt yn anhysbys lle mae'n cofnodi ei brofiadau. Mae syniadau am gyfathrebu rhwng yr hun a phobl eraill, a rhwng celf a'i chynulleidfa, wrth wraidd gwaith yr artist. Mae Shimabuku yn ceisio creu darnau heriol a llyfn, sy'n ymgysylltu'n uniongyrchol â chynulleidfaoedd amrywiol yn y gymuned y mae'n gweithio ynddi. Mae'n ail-greu straeon lleol mewn modd cynnil er mwyn chwalu'r ffiniau, sydd yn aml yn anhyblyg, rhwng pobl y tu mewn i'r sefydliad celf ac y tu allan iddo, ac mae ei wres naturiol yn annog pobl i fwynhau cymryd rhan yn ei brosiectau dychmygus. Mae ei waith bob amser yn emosiynol ac yn aml yn ddoniol, ac eto mae'r hiwmor hwn yn rhoi camargraff o'r difrifoldeb a'r uniondeb sydd wrth wraidd ei waith, a'r parch sydd ganddo tuag at y straeon y mae'n eu darganfod, y bobl y mae'n cwrdd â nhw, a'r lleoedd y mae'n ymweld â nhw.
Ffilm 9 munud, 39 eiliad o hyd a wnaed gan Anthony Shapland yn 2012 yw [pause] Time & Motion Study. Mae'r ffilm wedi'i gosod yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn 2011 yn ystod y cyfnod cyn iddi gael ei chau ar gyfer prosiect ailddatblygu ac adfer gwerth miliynau o bunnoedd. Roedd y weithred o bacio, clirio a newid wedi dechrau ym mhob rhan o'r adeilad – yn yr arddangosfeydd cyhoeddus yn ogystal ag yn y coridorau cudd a'r ystafelloedd cefn. Mae'r ffilm du a gwyn hon yn portreadu diwrnod ffuglennol, mewn tair rhan. Y rhan gyntaf yw'r bore lle dangosir y casgliad yn dal ynghyd yn yr orielau, a lle mae ardaloedd cyhoeddus a phreifat yr adeilad yn cael eu cyfleu yn yr un modd. Mae set o sbanwyr ar wal mewn gweithdy neu res o fylbiau golau wedi'u trefnu gyda'r un manylder â'r rhes o jygiau buchod crochenwaith Abertawe sy'n sefyll mewn cypyrddau gwydr yn yr oriel, ac mae modd cymharu'r grisiau mawreddog â'r grisiau ymarferol yn y cefn. Yr ail ran yw dechrau'r diwrnod wrth i'r gweithwyr gyrraedd, gyda'r dasg o adfer darnau crochenwaith, eu didoli a'u llenwi'n ofalus â phapur sidan, cyn eu rhoi mewn deunydd lapio swigod a'u labelu. Yn olaf, gyda'r hwyr, mae'r casgliad o wrthrychau a fyddai fel arfer wedi cael eu harddangos yn yr oriel bellach wedi'u cuddio y tu mewn i gardbord. Mae rhifau'r blychau'n cynyddu wrth iddyn nhw luosi'n ymddangosiadol ddiwedd. Mae'r cypyrddau gwydr a fu gynt yn llawn bellach yn wag. Dywedodd Anthony Shapland y canlynol am y gwaith: “Roedd y briff yn agored, sef creu dehongliad o Oriel Glynn Vivian. Dros sawl mis, ymwelais â'r oriel bum gwaith, gan recordio am fwy na 400 o funudau heb syniad pendant am strwythur y ffilm. Wrth wylio'r deunydd hwn y dechreuodd y naratif ffurfio. “Wrth i fi olygu'r ffilm, sylweddolais fy mod yn cynhyrchu rhywbeth a fyddai'n destun hiraeth yn fuan gan y byddai llawer o'r lleoliadau roeddwn yn eu ffilmio yn diflannu yn ystod y gwaith ailwampio a oedd ar ddod. Mae teitl y ffilm yn deyrnged i astudiaethau Frank a Lillian Gilbreth o ergonomeg ac effeithlonrwydd gweithwyr wrth eu gwaith. Roedd eu ffilmiau wedi sbarduno newid, fel arfer wedi'u comisiynu gan reolwyr neu sefydliadau. Serch hynny, dim ond cofnodi newid y mae'r ffilm hon. Heblaw am y gwaith golygu, nid oes unrhyw ystrywiau gyda'r camera, dim byd ffug nac effeithiau; ni ofynnwyd i unrhyw un wneud unrhyw beth gerbron y camera ac ni chafodd unrhyw beth ei ailffilmio. Dyma ffilm lle mae'r gwyliwr yn arsylwi drwy lens oddefol y camera.” Artist a nofelydd o Gymru yw Anthony Shapland ac ef yw sylfaenydd g39, man a arweinir gan artistiaid. Cafodd ei fagu ym Margoed yng nghwm Rhymni. Drwy ei waith ysgrifenedig ac artistig, mae'n cyfuno deunydd dogfennol a ffuglennol, gan ddefnyddio ei brofiad uniongyrchol o fod yn hoyw yng nghefn gwlad a pherfformio fel rhywun heterorywiol wrth dyfu i fyny.
Ffilm 9 munud, 39 eiliad o hyd a wnaed gan Anthony Shapland yn 2012 yw [pause] Time & Motion Study. Mae'r ffilm wedi'i gosod yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn 2011 yn ystod y cyfnod cyn iddi gael ei chau ar gyfer prosiect ailddatblygu ac adfer gwerth miliynau o bunnoedd. Roedd y weithred o bacio, clirio a newid wedi dechrau ym mhob rhan o'r adeilad – yn yr arddangosfeydd cyhoeddus yn ogystal ag yn y coridorau cudd a'r ystafelloedd cefn. Mae'r ffilm du a gwyn hon yn portreadu diwrnod ffuglennol, mewn tair rhan. Y rhan gyntaf yw'r bore lle dangosir y casgliad yn dal ynghyd yn yr orielau, a lle mae ardaloedd cyhoeddus a phreifat yr adeilad yn cael eu cyfleu yn yr un modd. Mae set o sbanwyr ar wal mewn gweithdy neu res o fylbiau golau wedi'u trefnu gyda'r un manylder â'r rhes o jygiau buchod crochenwaith Abertawe sy'n sefyll mewn cypyrddau gwydr yn yr oriel, ac mae modd cymharu'r grisiau mawreddog â'r grisiau ymarferol yn y cefn. Yr ail ran yw dechrau'r diwrnod wrth i'r gweithwyr gyrraedd, gyda'r dasg o adfer darnau crochenwaith, eu didoli a'u llenwi'n ofalus â phapur sidan, cyn eu rhoi mewn deunydd lapio swigod a'u labelu. Yn olaf, gyda'r hwyr, mae'r casgliad o wrthrychau a fyddai fel arfer wedi cael eu harddangos yn yr oriel bellach wedi'u cuddio y tu mewn i gardbord. Mae rhifau'r blychau'n cynyddu wrth iddyn nhw luosi'n ymddangosiadol ddiwedd. Mae'r cypyrddau gwydr a fu gynt yn llawn bellach yn wag. Dywedodd Anthony Shapland y canlynol am y gwaith: “Roedd y briff yn agored, sef creu dehongliad o Oriel Glynn Vivian. Dros sawl mis, ymwelais â'r oriel bum gwaith, gan recordio am fwy na 400 o funudau heb syniad pendant am strwythur y ffilm. Wrth wylio'r deunydd hwn y dechreuodd y naratif ffurfio. “Wrth i fi olygu'r ffilm, sylweddolais fy mod yn cynhyrchu rhywbeth a fyddai'n destun hiraeth yn fuan gan y byddai llawer o'r lleoliadau roeddwn yn eu ffilmio yn diflannu yn ystod y gwaith ailwampio a oedd ar ddod. Mae teitl y ffilm yn deyrnged i astudiaethau Frank a Lillian Gilbreth o ergonomeg ac effeithlonrwydd gweithwyr wrth eu gwaith. Roedd eu ffilmiau wedi sbarduno newid, fel arfer wedi'u comisiynu gan reolwyr neu sefydliadau. Serch hynny, dim ond cofnodi newid y mae'r ffilm hon. Heblaw am y gwaith golygu, nid oes unrhyw ystrywiau gyda'r camera, dim byd ffug nac effeithiau; ni ofynnwyd i unrhyw un wneud unrhyw beth gerbron y camera ac ni chafodd unrhyw beth ei ailffilmio. Dyma ffilm lle mae'r gwyliwr yn arsylwi drwy lens oddefol y camera.” Artist a nofelydd o Gymru yw Anthony Shapland ac ef yw sylfaenydd g39, man a arweinir gan artistiaid. Cafodd ei fagu ym Margoed yng nghwm Rhymni. Drwy ei waith ysgrifenedig ac artistig, mae'n cyfuno deunydd dogfennol a ffuglennol, gan ddefnyddio ei brofiad uniongyrchol o fod yn hoyw yng nghefn gwlad a pherfformio fel rhywun heterorywiol wrth dyfu i fyny.
Mae Wavy Gravy yn ffilm o 2014 gan Alex Duncan, sy'n para 1 funud 10 eiliad. Crëwyd y ffilm fud hon o ddeunydd fideo a gafwyd ac a ail-weithiwyd, sy'n darlunio môr o ffurfiau tonnog gyda symudiadau tonnau sy'n llwybro o frig y sgrin i'r gwaelod. Nid yw'n glir yn syth o beth y gwnaethpwyd y màs haniaethol amryliw hwn, yn lle, mae ei symudiad ailadroddus yn rhoi ansawdd sydd bron yn gerfluniol iddi. Mae'r olygfa mewn gwirionedd yn brofiad nofio mewn pwll tonnau tswnami wyneb i waered, gyda chyrff yn codi ac yn disgyn sy'n rhyngweithio â'u hysgafnder eu hunain ac yn colli'r hunan o fewn yr ymchwydd, gan archwilio realiti a natur artiffisial symudiad a chanfyddiad. Mae rhywbeth hwyliog yn digwydd ar yr un pryd â rhywbeth drwgargoelus. Meddai Alex Duncan, "Mae ble a sut rydym yn gosod ein hunain yn y byd, yr hyn rydym yn ymateb iddo fel bodau dynol a'n perthynas â deunyddiau, gwrthrychau a sefyllfaoedd yn fy nghyfareddu. Mae'r hyn sy'n real a'r hyn sy'n dynwared y real bob amser wedi fy nghyfareddu, ynghyd â pha mor oddrychol rydym yn ymateb i rywbeth rhwng y ddau gyflwr gwahanol hyn". Mae'r gwaith sy'n cyd-fynd â hwn, Like Swimming, sydd yng nghasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian, yn osodiad 'cymhorthion arnofio achub bywydau' haearn bwrw. Mae crafiadau ac olion cnoi ar eu harwynebau, gan gyferbynnu ysgafnder ieuenctid ag ansicrwydd bywyd go iawn. Graddiodd Alex Duncan, a aned yn Abertawe, o Brifysgol Fetropolitan Abertawe yn 2007 ac enillodd ei radd meistr o'r Coleg Celf Brenhinol yn Llundain. Mae ei waith sy'n croestorri cerfluniau, arlunio, gwaith fideo a gosodiadau wedi cael ei arddangos yn y DU, yn enwedig Oriel Whitechapel, V&A, MOSTYN, Camden Arts Centre ac oriel gelf Ferens; ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Milan, yr Eidal; Bilbao, Santander; Sbaen a Mawrisiws.
Mae A Day at the Hunt gan Ingrid Murphy, a wnaed yn 2016, yn ffiguryn Swydd Stafford ceramig gwyn ac aur sy'n cynnwys côd QR rhyngweithiol y gellir ei sganio er mwyn gwylio'r ffilm sy'n cyd-fynd ag ef. Mae'r ffiguryn yn 33cm o uchder ac yn 20cm o led ac mae'n portreadu Ingrid a'i thad Brendan fel dau heliwr. Cafodd y tebygrwydd anhygoel ei greu drwy sganio ac argraffu pennau Ingrid a'i thad ar ffurf 3D a defnyddio castin slip i'w rhoi ar ffiguryn gwreiddiol heliwr o'r 19eg ganrif. Mae ffiguryn yn ffigwr addurniadol cerfluniol a chanddo dri dimensiwn o bob ochr heblaw am y cefn, sy'n wastad, wedi'i ddylunio i'w roi ar silff ben tân. Mae pennau Ingrid a Brendan wedi'u hargraffu'n gymesur â gweddill y gwaith, ac nid ydynt yn ymddangos yn rhyfedd. Mae'r ddau ffigwr yn gwisgo gwisgoedd hela traddodiadol, sy'n cynnwys tiwnigau pen-glin, esgidiau pen-glin, sasiau ar draws y corff a chyrn hela. Mae aroleuadau haenau aur ar ben coleri'r cotiau, pen yr esgidiau, byclau'r gwregysau a'r cyrn hela. Yn y cefndir rhwng y ddau ffigwr y mae hen foncyff gweadog. Mae Brendan yn eistedd ar y chwith. Mae ganddo wyneb caredig ac ystyriol a gwallt cwta ac mae'n ymddangos yn oedrannus. Mae'n syllu'n uniongyrchol o'i flaen ac mae ei law chwith ar ei ben-glin. Mae Ingrid yn sefyll ar y dde. Mae ganddi wallt cwta ac mae wedi troi ei chorff tuag at ei thad wrth i'w llygaid syllu arno'n llawn edmygedd. Mae ei braich dde yn yr awyr, gan ddal arwydd sgwâr â chôd QR du wedi'i brintio arno. Mae'r darn yn rhyngweithiol a phan fyddwch yn sganio'r côd QR, bydd ffilm liw 5 munud o hyd sy'n cyd-fynd ag ef yn dangos ymweliad Ingrid a Brendan â The Hunt Museum yn Iwerddon ym mis Mehefin 2016. Roedd y daith yn y car gyda'i thad yn ganolog i'r gwaith hwn. I ddechrau, roedd Ingrid wedi meddwl y byddai'n ymwneud â'r ymweliad â'r amgueddfa, ond wrth wylio'r deunydd sylweddolodd ei fod yn ymwneud â'r daith mewn gwirionedd, gan mai dyna oedd eu bywyd gyda'i gilydd. Mae'r ffilm ysgafn hon yn llawn sgyrsiau digrif rhwng y tad a'r ferch. Er enghraifft, mae camddealltwriaeth wrth iddyn nhw fynd heibio i siop o'r enw Mace ger eglwys; mae Ingrid yn edrych ar y siop ac mae Brendan yn edrych ar yr eglwys. Mae hi'n siarad am Mace ac mae e'n siarad am offeren (mass). Maen nhw'n mynd ar goll ar y daith; mae eiliadau emosiynol lle mae tad Ingrid yn ymddwyn yn naturiol. Mae'n cerdded i mewn i ystafell ac yn edrych o'i gwmpas fel petai ar fin dweud rhywbeth anhygoel. Yna, meddai, ‘Jesus, they got new carpets I'd say', yn hollol anymwybodol o'r gwrthrychau hardd ar y waliau. Wrth yrru adref, mae ffermwr yn ceisio dal gwartheg sydd wedi dianc o gae i'r ffordd. Cigydd oedd Brendan ac yn nheulu Ingrid mae jôc barhaol pryd bynnag y byddai rhywbeth yn ymwneud â gwartheg, y byddai pawb yn dweud eu bod wedi dod i ddial arno! Mae gwaith Murphy yn canolbwyntio ar ychwanegu amrywiaeth o dechnolegau rhyngweithiol at arteffactau ceramig. Mae hi'n manteisio ar ffiniau deunydd ceramig i greu rhyngweithiadau a phrofiadau arloesol a chwareus. Mae hi'n defnyddio sain, hiwmor ac elfennau hunangofiannol, gan greu gweithiau ceramig diddorol a chwareus, sydd hefyd yn dod â chwedlau hanesyddol a chymdeithasol dyfnach gwrthrychau ceramig a'u defnydd arfaethedig yn fyw. Cafodd A Day at the Hunt ei gomisiynu gan The Hunt Museum yn Iwerddon i fod yn rhan o Gasgliad Crochenwaith Cyfoes Iwerddon. Cafodd Oriel Gelf Glynn Vivian afael ar fersiwn o'r gwaith hwn drwy Wobr Wakelin 2022 mewn partneriaeth â Chyfeillion y Glynn Vivian. Fe'i dewiswyd gan Catrin Webster, artist a darlithydd yn Abertawe.
Ar ôl sgorio ei gôl ryngwladol gyntaf yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Ghana, ydi'r amser wedi dod i Lewis Koumas hawlio ei le fel prif ymosodwr Cymru? Does gan Craig Bellamy ddim amheuaeth mai dyfodol fel rhif 9 sydd ganddo, ond ydi'r criw yn rhannu'r un farn am chwaraewr sydd fel arfer ar yr asgell? A beth am y perfformiad yn y gêm gyfartal nos Fawrth?Mae 'na glod mawr haeddiannol i Malcolm ar ôl proffwydo'n gywir wythnos diwethaf bod cyfnod Arne Slot gyda Lerpwl ar fin dod i ben - rhywbeth sydd wedi gwneud Dylan yn ddyn hapus iawn.A gawn ni hanes perfformiad Owain mewn gêm elusennol yn Abertawe, wrth i glip fideo amlygu gwendid amddiffynnol rhyfeddol.
gyda Huw Birkhead a Neil Williams.
Ydi canlyniadau da Abertawe yn golygu bod nhw wedi ymuno yn y ras am gemau ail-gyfle y Bencampwriaeth? Pum pwynt ydi'r bwlch bellach rhwng y ddau glwb, ac fe all hynny leihau i ddau gyda buddugoliaeth i'r Elyrch ar y Cae Ras nos Wener. Mae hi wedi bod yn dipyn o wythnos i Wrecsam yn dilyn amser ychwanegol yn erbyn Chelsea ac yna colled gartref yn erbyn Hull City. A chyda rhagor o anafiadau - gan gynnwys i Kieffer Moore fydd yn bryder i Gymru - ydi'r Dreigiau yn dechrau colli stêm?Ac wrth i Ryan a Rob baratoi i sylwebu ar y gêm am y tro cyntaf, pa air o gyngor sydd gan y criw i rannu gyda'r ddau actor enwog?
Welsoch chi erioed olygfa mwy swrreal na Snoop Dogg - un o rapwyr enwoca'r byd - yn cyfarch cefnogwyr Abertawe tra bod rai o'i ganeuon yn bloeddio o uchelseinydd cartref yr Elyrch? Go brin. Roedd hi'n anodd i Dyl, Ows a Mal wybod lle i gychwyn efo'r holl firi - ond mi fydd y digwyddiad yn sicr yn aros yn hir yn y cof. Ac wrth gwrs, mi oedd rhaid i Mal roi gynnig ar rap bach ei hun...Mi oedd 'na ychydig o amser i drafod pêl-droed hefyd, wrth i Wrecsam sicrhau dwy fuddugoliaeth llawn cymeriad (eto), tra bod 'na sioc i Gaerdydd wrth golli'n drwm i Plymouth. A beth am Eric Ramsay druan... 44 diwrnod yn unig gafodd y Cymro yn West Brom cyn cael ei ddiswyddo.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n gofyn os ydi Abertawe wedi ymuno yn y ras i gyrraedd y gemau ail-gyfle yn y Bencampwriaeth. Ac mae'r criw yn trafod rai o syniadau am reolau newydd gan ddisgyblion Ysgol y Creuddyn.
Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n asesu'r ffenestr drosglwyddo i glybiau Cymru ac yn dadlau dros leoliad rownd derfynol Cwpan Cymru.
Ar ôl buddugoliaeth swmpus ganol wythnos i Gaerdydd, mae'r criw yn dechrau meddwl bod dyrchafiad yn ôl i'r Bencampwriaeth yn anochel yn barod. Maen nhw ar "lefel uwch" yn ôl Malcolm Allen, tra bod Owain Tudur Jones yn credu bod popeth "rhy hawdd" i'r Adar Gleision ar hyn o bryd. Y rheolwr Brian Barry-Murphy sy'n cael y clod i gyd am drawsnewid canlyniadau'r clwb... ond ydi'r llwyddiant yma yn peryglu ei ddyfodol hirdymor yn y brifddinas?Tydi pethau ddim mor hawdd i Abertawe, yn sicr pan maen nhw'n chwarae oddi cartref. Sut all yr Elyrch wella'r record druenus o dair buddugoliaeth mewn 14 gêm? Does dim problem debyg i Wrecsam wrth iddyn nhw ddangos cymeriad drwy frwydo'n ôl unwaith eto i sicrhau buddugoliaeth anhygoel i godi i'r chwe safle uchaf yn y Bencampwriaeth. Ond ar ôl buddugoliaeth i godi hyder ddydd Sadwrn, roedd 'na ergyd drom eto i Gasnewydd wrth golli ganol wythnos.Ac ar drothwy rownd wyth olaf Cwpan Cymru, mae 'na sawl clwb o'r is-gynghreiriau yn breuddwydio am godi'r cwpan ac am daith fythgofiadwy i Ewrop.
Mae ymosodwr da yn gallu bod gwerth y byd i unrhyw glwb. Tymor yma, mae gan dri phrif glwb Cymru streicar sy'n tanio. Zan Vipotnik o Abertawe yw prif sgoriwr y Bencampwriaeth gyda 13 gôl, tra bod 10 gôl Kieffer Moore wedi helpu Wrecsam i aros o fewn gafael i'r safleoedd ail-gyfle. Ac yn yr Adran Gyntaf, mae Yousef Salech wedi serennu wrth godi Caerdydd i frig yr adran. Ond pwy mae'r criw yn ystyried ydi'r gorau o'r tri?Ond mae'r drafodaeth yn cychwyn ar nodyn siomedig yn dilyn y newyddion bod capten Cymru Ben Davies wedi torri ei bigwrn. Go brin fydd o'n holliach i chwarae yn y gemau ail-gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd 2026. Ydi o'n ddewis cyntaf yn y tîm beth bynnag? Ddim yn ôl Malcolm...Ac nid dyna'r unig sioc i ddod o geg Mr Allen... mae o'n rhannu cyfrinach ryfeddol am ei wallt yn yr 80au.
Ar ôl colli'n flêr i Abertawe cyn y Nadolig, prin fyddai rheolwr Wrecsam Phil Parkinson wedi gofyn am ymateb gwell gan eu chwaraewyr. Pedair buddugoliaeth yn olynol - gan godi'r Cochion o fewn chwe phwynt i'r ail safle yn y Bencampwriaeth. Ydi cyfnod perffaith yma yn cynnig gobaith am ddyrchafiad awtomatig?Digon derbyniol oedd canlyniadau a pherfformiadau Abertawe hefyd, gan berswadio Owain mai mynd o nerth i nerth fydd yr Elyrch o dan Vitor Matos o hyn tan ddiwedd y tymor. Parhau ar y brig mae Caerdydd yn Adran Un, ac mae Casnewydd yn symud i'r cyfeiriad cywir drwy godi oddi ar waelod yr Ail Adran.Ond pwy sydd ar frig y tabl proffwydo? Does gan neb fawr o syniad i ddeud y gwir wrth i Dylan golli trac a cholli'i ben.
Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones yw'r tri gŵr doeth sy'n edrych yn ôl ar fuddugoliaeth Abertawe yn erbyn Wrecsam ac yn edrych ymlaen at gemau dros gyfnod y Nadolig. Bydd Dylan yn gofyn beth fydd rheolwyr timau Cymru eisiau fel anrhegion Nadolig, ac mae yna gwis arbennig - ond nid pawb sy'n hapus...mae ffrij Dylan Griffiths wedi torri!
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod perfformiad Caerdydd yn erbyn Chelsea, y darbi rhwng Abertawe a Wrecsam, cyfweliad syfrdanol rheolwr Penybont Rhys Griffiths a'r clybiau annisgwyl sydd wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Cymru.
Gemau all ddiffinio gweddill y tymor. Dyna sut mae'r criw yn gweld dwy gêm nesaf Abertawe - y ddwy adref ac yn erbyn timau o'u cwmpas ger gwaelodion y Bencampwriaeth. A tydi'r arwyddion ddim yn wych ar ôl i'r Elyrch ildio mantais o ddwy gôl wrth golli yn West Brom.Parhau i godi'r tabl mae Wrecsam, gan ddangos yr "ysbryd a'r cymeriad" i sgorio gôl hwyr i osgoi colli yn erbyn Blackburn. A daeth rhediad heb ennill Cymru i ben drwy guro'r Swistir - buddugoliaeth gyntaf tîm Rhian Wilkinson yn 2025.Ac ar ôl cyfweliad hynod onest a chignoeth ar raglen Sgwrs Dal y Lloer, mae 'na lwyth o gariad tuag at Mal.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried y dasg sy'n wynebu rheolwyr newydd Abertawe a Chasnewydd.Ond go brin fod hi'n anoddach na'r cwestiwn cwis yr wythnos yma...
Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones sy'n trafod yr enwau yn y ffrâm i gymryd swydd rheolwr Abertawe ar ôl i'r clwb ddiswyddo Alan Sheehan, ac yn gofyn os fydd diffyg goliau yn brifo Cymru wrth i ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2026 gyrraedd y ddwy gêm olaf.
Ar ôl creu hanes drwy gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2025, y targed amlwg nesaf i ferched Cymru yw cyrraedd Cwpan y Byd yn 2027. Mae'r llwybr i Frasil ychydig cliriach bellach wrth i garfan Rhian Wilkinson ddysgu pwy fydd ei gwrthwynebwyr cyntaf yn y rowndiau rhagbrofol.Roedd Dylan Griffiths ar Y Cae Ras nos Wener i weld "gêm orau'r tymor hyd yma" wrth i Wrecsam guro Coventry City, gan helpu chwalu unrhyw atgofion o'r golled siomedig i Gaerdydd yng Nghwpan y Gynghrair.Tydi'r hwyliau ddim cystal yn Abertawe. Ydi'r rheolwr Alan Sheehan yn tangyflawni o ystyried cryfder y garfan?Ac wrth i Craig Bellamy barhau i gael ei gysylltu gyda swydd wag Celtic, fydd o wir yn cael ei ddenu i'r Alban yng nghanol ymgyrch ragbrofol Cymru?
Wrth i Abertawe nesu at safleoedd ail-gyfle y Bencampwriaeth diolch i fuddugoliaeth oddi cartref yn Blackburn, mae'r criw yn trafod os ydi dal yn rhy gynnar yn y tymor i gymryd unrhyw sylw o safleoedd ein clybiau yn y tabl. Wedi pedair gêm gartref, dal i ddisgwyl am fuddugoliaeth ar y Cae Ras mae Wrecsam - fydd hynny'n newid gydag ymweliad Birmingham nos Wener?A sôn am ganlyniadau siomedig gartref, beth yn y byd ddigwyddodd i Gaerdydd yn erbyn Burton Albion, oedd ar waelod Adran Un ar gychwyn y gêm? Parhau mae problemau enbyd Casnewydd - oes unrhyw arwyddion bod gan y rheolwr Dave Hughes atebion i atal rhediad o naw colled mewn 10 gêm.Ac ar ôl i amddiffynnwr Arsenal rhywsut lwyddo i osgoi unrhyw gosb am ddyrnu Nick Woltemade, mae gan Mal ac Ows atgofion o dderbyn dwrn neu benelin slei ar y cae.
A look at some fascinating historic links between Swansea and India such as how a scholar of Hinduism played a significant role in bringing public libraries to Swansea in this the 150th anniversary of the founding of Swansea Public Libraries in 1875. As well as looking at the visits to Victorian Swansea by members of the Indian National Congress and tales of the Swansea Captain John Jones of the East India Company. Gwilym Games, Librarian: Local Studies, Swansea Libraries Teigrod, Dreigiau a Llyfrgelloedd – cysylltiadau rhwng Abertawe ac India (cynhelir y sgwrs yn Saesneg yn unig). Cewch gip ar gysylltiadau hanesyddol diddorol rhwng Abertawe ac India, er enghraifft sut gwnaeth ysgolhaig Hindŵaeth chwarae rôl arwyddocaol wrth ddod â llyfrgelloedd cyhoeddus i Abertawe, wrth i ni nodi 150 mlynedd ers sefydlu Llyfrgelloedd Cyhoeddus Abertawe ym 1875. Yn ogystal, bydd yn trafod ymweliadau aelodau o Gyngres Genedlaethol India ag Abertawe yn oes Victoria a hanesion Capten John Jones o Abertawe a oedd yn gweithio i East India Company. Gwilym Games, Llyfrgellydd: Astudiaethau Lleol, Llyfrgelloedd Abertawe
Roedd 'na gyfle i gael cip o'r dyfodol yn Abertawe wrth i rai o chwaraewyr ifanc Cymru wynebu tîm graenus Canada mewn gêm gyfeillgar. Ac er colli 1-0, mi welodd y criw ddigon i gredu bod 'na genhedlaeth newydd yn barod i dorri drwodd. Digon i'r rheolwr Craig Bellamy - doedd ddim rhy hapus gyda dathliadau'r ymwelwyr - asesu cyn y ddwy her enfawr i ddod yn erbyn Lloegr a Gwlad Belg fis nesaf.Nôl i'r bara menyn dros y penwythnos wrth i'r gemau clybiau ddychwelyd, a chyfle i Wrecsam ac Abertawe gynnwys rhai o'r chwaraewyr arwyddodd ar ddiwedd y ffenestr drosglwyddo am y tro cyntaf.
Am y tro cyntaf ers sbel, mae gan y criw ddigon o reswm i deimlo'n obeithiol am obeithion clybiau Cymru. Yn ogystal â chanlyniadau addawol, mae Abertawe wedi cryfhau'r garfan gan wario'n sylweddol ar chwaraewyr newydd am y tro cyntaf ers tro. Ac er nad ydi canlyniadau Wrecsam wedi bod cystal, does dim posib cwestiynu'r uchelgais wrth i'w gwariant nhw dros yr haf fynd heibio £30m.Mae Caerdydd hefyd wedi synnu nifer drwy arwyddo Omari Kellyman ar fenthyg - chwaraewr canol cae symudodd i Chelsea am £19m y llynedd. A phrin fod cefnogwyr yn gallu cwyno efo'r perfformiadau ar y cae wrth i'r Adar Gleision godi i frig Adran Un. Dydi pethau ddim cystal yng Nghasnewydd, ond dyddiau cynnar ydi hi i'r rheolwr newydd Dave Hughes...Ac wrth gwrs, mae gan Gymru daith hir i Kazakstan ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2026. Ydi diffyg munudau rai o amddiffynwyr Cymru am greu penbleth i'r rheolwr Craig Bellamy?
Cyn hir, mi fydd Wrecsam yn chwarae yn ail haen pêl-droed Lloegr am y tro cyntaf mewn 43 o flynyddoedd. Lle gwell, felly, i drafod gobeithion a disgwyliadau'r clwb nag ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam? Ac er gwaetha'r gwynt a'r glaw, mae Dylan, Mal ac Ows yn cael cwmni tri aelod o'r clwb. Yn gyntaf, sgwrs efo Huw Birkhead, sydd yn dysgu Cymraeg i chwaraewyr, staff a chefnogwyr y clwb. Ac yna Cledwyn Ashford, y sgowt a'r gwirfoddolwr sydd wedi gwneud cymaint dros y clwb. Ac mae ganddo egsliwsif neu ddau i rannu hefyd...Mi fydd tymor Abertawe hefyd yn cychwyn ddydd Sadwrn. Oes 'na obaith am fwy na thymor arall yng nghanol y tabl? A beth fydd effaith mewnbwn Snoop Dogg a Luka Modric? Ac wrth gwrs, mae'r tymor wedi cychwyn yn barod i Gaerdydd a Chasnewydd.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n pwyso a mesur sut dymor fydd hi i Gaerdydd a Chasnewydd o dan eu rheolwyr newydd. A pham bod cefnogwyr Abertawe yn dechrau troi ar gefnogwyr Wrecsam..?
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n trafod sut all Cymru adeiladu ar ei ymddangosiad hanesyddol cyntaf yn rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol. Colli tair, chwarae tair ydi'r ffeithiau moel. Ond y gobaith yw fydd effaith cyrraedd Y Swistir i'w deimlo am flynyddoedd i ddod.A pham yn y byd bod y rapiwr Snoop Dogg yn hyrwyddo crys newydd Abertawe..?!
Doedd hi ddim y ffarwel delfrydol i garfan Rhian Wilkinson wrth chwarae am y tro olaf cyn Ewro 2025 yn Y Swistir. Roedd y gêm yn Abertawe wedi ei cholli cyn hanner amser wrth i'r Eidal sgorio pedair gôl yng ngem olaf yr ymgyrch yng Nghrŵp A Cynghrair Y Cenhedloedd. Mi fydd Cymru felly yn mynd i'w ymddangosiad cyntaf yn rowndiau terfynol un o brif gystadlaethau'r byd heb ennill yn eu chwe gêm ddiwethaf.Pa wersi fydd Wilkinson wedi eu dysgu o'r ymgyrch? Sut all Cymru gynnig fwy o fygythiad ymosodol? Pwy sydd heb wneud digon i ennill lle yn y garfan? Fydd Sophie Ingle yn rhedeg allan o amser er mwyn profi ei ffitrwydd?Mae hi'n gyfnod prysur i'r dynion hefyd gyda dwy gêm yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd. Buddugoliaeth swmpus yw'r disgwyliad yn erbyn Liechtenstein. Fydd 'na noson "hanesyddol" i ddilyn yng Ngwlad Belg..?
Gyda thair gêm yn weddill o'r tymor, mae Caerdydd wedi penderfynu ymateb i'r argyfwng amlwg drwy ddiswyddo'r rheolwr Omer Riza a gobeithio bydd yr arwr lleol Aaron Ramsey yn gallu ysbrydoli atgyfodiad. Ond wrth i'r timau eraill ger gwaelod y tabl barhau i ennill pwyntiau gwerthfawr, mae Mal ac Ows yn pryderu bod hi'n rhyw hwyr i newid trywydd tymor hynod siomedig.Parhau i ennill mae Abertawe, serch hynny, ond tydi Ows dal ddim yn credu mai penodi Alan Sheehan yn rheolwr parhaol ydi'r ateb.Ac am ddiweddglo sydd ar y gweill yn yr Adran Gyntaf wrth i Wrecsam a Wycombe gyfnewid lle unwaith eto yn yr ail safle hollbwysig. Gêm enfawr arall i ddod ar y Cae Ras ddydd Sadwrn wrth i Charlton ymweld, gyda'i rheolwr Nathan Jones yn ychwanegu hyd yn oed mwy o sbeis i'r achlysur wrth alw'r clwb yn "syrcas"!
Dyl, Malcs ac OTJ sy'n trafod taith Owain i Como a buddsoddiad Luka Modric yn Abertawe.
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Rob Lisle. Cafodd Rob Lisle ei fagu yn yr Iseldiroedd ac yn Abertawe. Pensaer yw Rob ac ar ôl cyfnod yn byw yn Llundain penderfynodd ddychwelyd gyda'i deulu i Gymru i Sir Gaerfyrddin. Mae'n byw yno gyda'i wraig Sian a'r plant. Penderfynodd ddysgu'r Gymraeg er mwyn cefnogi addysg ei blant a hefyd er mwyn ymdoddi i'r gymuned leol.
Dyl, Ows a Malcs sy'n trafod canlyniad gwych Cymru ac adfywiad Caerdydd ac Abertawe.
Mae Abertawe yn chwilio am eu 10fed rheolwr mewn naw mlynedd ôl diswyddo Luke Williams.. Ac mae Ows yn poeni fod y clwb yn syrthio mewn i "drwmgwsg" tuag at Adran Un. Pwy fydd y nesa' i gymryd yr awenau? Fydd y clwb yn barod i'w gefnogi drwy arwyddo mwy o chwaraewyr?Tydi sefyllfa Caerdydd heb wella chwaith yn dilyn canlyniadau siomedig, ac mae Wrecsam wedi colli bach o dir yn y ras am ddyrchafiad awtomatig wrth golli eto ar y Cae Ras. Ond mae hi'n gyfnod cyffrous i dîm merched Cymru wrth iddyn nhw gychwyn eu hymgyrch yn Adran A Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Yr Eidal a Sweden.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n asesu sefyllfa Abertawe, Caerdydd, Wrecsam a Chasnewydd ar ddiwedd ffenestr drosglwyddo mis Ionawr. Ac ar ôl dangos ei wir deimladau am 'yr Ayatollah' yn ddiweddar, mae 'na rywbeth arall bellach yn mynd "ar nyrfs" OTJ...
Capten yn gadael, rheolwr yn gwylltio'r cefnogwyr, un pwynt o pum gêm - mae hi wedi bod yn fis hunllefus i Abertawe. Ydyn nhw mewn peryg o ddisgyn o dan Caerdydd yn y tabl mwyaf sydyn? Ond er gwaethaf y siom o weld yr Elyrch yn colli'n drwm yn Norwich, mi gafodd Owain noson i'w chofio yn un o'r tafarndai lleol...
Mae buddugoliaeth fawr Caerdydd dros Abertawe wedi ennyn ymateb syfrdanol gan OTJ, wrth iddo droi ar un o ddathliadau enwocaf cefnogwyr Abertawe. Ac wrth gwrs, mae Malcolm Allen yn cymryd gryn bleser yn yr holl beth...
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n edrych ymlaen at darbi de Cymru rhwng Caerdydd ac Abertawe, ac yn trafod sefyllfa niwlog Uwch Gynghrair Cymru sy'n oedi'r hollt ganol tymor.
Oes 'na gyfle a sioc yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr i Gaerdydd ac Abertawe? Fe all yr Adar Gleision anghofio am y pwysau o geisio osgoi disgyn i'r Adran Gyntaf wrth iddyn nhw deithio Sheffield United, ac mi fydd yr Elyrch yn edrych i fanteisio ar y blerwch sydd yn Southampton ar hyn o bryd.Mae rheolwr Arsenal Mikel Arteta yn ei chael hi am ei sylwadau am safon y bêl yn rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair yn erbyn Newcastle - gêm mae'n debyg sydd wedi ysgogi tröedigaeth i Malcolm "Toon Army" Allen.
Ar ôl cael eu plesio'n fawr yn nwy gêm gyntaf, mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn disgwyl yn eiddgar i weld y perfformiadau nesaf Cymru o dan y rheolwr newydd Craig Bellamy yn erbyn Gwald yr Iâ a Montenegro yng Nghynghrair y Pencampwyr. Pwy fydd yn cychwyn tro ‘ma? Beth fydd siâp y tîm? A pham bod gan Ows atgofion sigledig o chwarae yn Reykjavik?01'00 Cyffro'r cyfnod rhyngwladol 04'00 Anaf Ows a cherydd Bellamy 10'00 Disgwyliadau'n codi? 21'00 Dewis y tîm a dyfalu'r sgôr 28'45 Y ddaear yn symud i OTJ 30'00 Hoff dîm Cymru 35'00 Acen mawr Saesneg 39'00 Tîm dan21 am greu hanes 44'45 Lewis Koumas – y gobaith mawr newydd? 48'00 Omer Riza yn y ffrâm gyda Chaerdydd? 51'20 Paul Watson yn gadael Abertawe
Wrth i reolwr arall adael Caerdydd yn ddisymwth, mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn sicr bod hi'n amser am chwyldro. Yn ôl Owain does "dim gweledigaeth", tra bod Malcolm yn credu bod y clwb "ar y llawr". Ond pwy all achub yr Adar Gleision tro 'ma? A beth sy'n mynd digwydd i'r Seintiau Newydd? Yn gyntaf, mae'r record hir ddi-guro yn diflannu ac yna colli ddwywaith yn olynol am y tro cyntaf ers mis Hydref 2019. Hefyd, fydd Joe Allen yn gwisgo crys coch Cymru eto mis nesa'..?01'20 Peli golff coll Owain 04'10 Sioc i'r Seintiau Newydd 13'40 Blerwch Caerdydd 26'30 Abertawe yn hedfan "o dan y radar" 28'50 Joe Allen yn ôl i Gymru? 35'40 Wrecsam dal ar y brig 40'00 Trafferthion Casnewydd a toiledau Barrow 41'33 Man City v Arsenal 48'20 Malcolm yn serennu ar Youtube 49'30 Anaf Sophie Ingle
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried faint o amser geith Erol Bulut i ddatrys problemau Caerdydd wrth iddyn nhw barhau ar waelod y Bencampwriaeth. Gawn ni wybod hefyd pa glwb sy'n berchen a rhai o'r toiledau gorau yn y Gynghrair Bêl-droed a sut nath Owain adael ei farc ar reolwr Birmingham Chris Davies.01'30 Chwaraewyr ar streic? 09'00 Bulut o dan bwysau 16'00 Abertawe yn curo Norwich 21'30 Owain yn gweld hen ffrindiau 24'00 Birmingham yn gosod y safon 35'30 Owain yn llorio Chris Davies 37'30 Casnewydd a thoiledau Barrow 39'15 Fformat newydd Cynghrair y Pencampwyr 43'00 'Toto' Schillaci a hoff Gwpan y Byd
Dyl, Ows a Mal sy'n edrych nol ar ddarbi de Cymru rhwng Abertawe a Chaerdydd.
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n edrych ymlaen at ddarbi de Cymru rhwng Abertawe a Chaerdydd, ac yn dyfalu pwy fydd yn rhan o dîm hyfforddi Craig Bellamy.
Wrth i'r tymor ddirwyn i ben, mae'r hogia yn edrych ar obeithion Wrecsam o gael dyrchafiad a phwy fydd ar frig uwchgynghrair Lloegr, tra bod perfformiadau Abertawe a Chaerdydd bron mor anobeithiol â jôcs Malcolm!
Pigion y Dysgwyr – Tomos Owen Mae dyn o Gaernarfon wedi dechrau menter newydd yn gwneud "smoothies". Beth sy'n arbennig ydy bod beic yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu'r "smoothies". Cafodd Aled Hughes air gyda Tomos Owen ddydd Mawrth diwetha am ei fenter. Cynhyrchu To produceAr y cyd TogetherHybu To promoteMaeth NutritionTroellwr SpinnerAtgofion MemoriesAgwedd AspectLles WelfareManteisio ar To take advantage ofAddas SuitablePigion y Dysgwyr – Andy John Wel dyna ffordd ddiddorol o gael plant i yfed "smoothies" on'd ife? Sawl Archesgob sydd gyda tatŵ tybed? Wel, mae gan Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andy John, datŵ mawr iawn a fe oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol yr wythnos hon… Archesgob Archbishop Y Parchedicaf The Most ReverandAtgof memoryPam lai? Why not?Olrhain To tracePigion y Dysgwyr – Pasg Hanes tatŵ'r Archesgob yn fanna ar Beti a'i Phobol. Ond sôn am ddathliadau'r Pasg oedd y Parchedig Beti Wyn James pan fuodd hi'n sôn am draddodiadau'r Pasg ar draws y byd wrth Shan Cothi. Dyma'r gweinidog o Gaerfyrddin yn sôn am sut mae Cristnogion Ethiopia'n dathlu… Traddodiadau TraditionsGweinidog MinisterAmrywio To varyY Grawys LentYmprydio To fastDipyn o her Quite a challengeGwylnos A vigilY wawr Dawn Mae'n ymddangos i mi It appears to mePigion y Dysgwyr – Twin Town Y Parchedig Beti Wyn James oedd honna'n sôn am ddathliadau Pasg Ethiopia. Nos Lun wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn gwmni yr actor Llŷr Ifans. Fe, a'i frawd Rhys, oedd prif gymeriadau'r ffilm gomedi enwog Twin Town recordiwyd yn Abertawe a'r cyffiniau. Dyma Rhys yn holi Llŷr am ei atgofion o cael ei gastio i actio yn y ffilm…… Prif gymeriadau Main charactersCyffiniau VicinityYmchwil manwl iawn Very detailed researchYmwybodol AwareAwyddus iawn Very keenCyfweliad InterviewFatha FelPlentyndod ChildhoodProfiad ExperiencePigion y Dysgwyr – PianoAc os dych chi wedi gweld y ffilm, dw i'n siŵr basech chi'n cytuno bod perthynas y ddau frawd wedi dod drosodd yn wych ynddi hi. Mae sawl diwrnod arbennig yn ystod y flwyddyn i ddathlu'r hyn neu'r llall on'd oes yna? Ond oeddech chi'n gwybod bod Diwrnod Rhyngwladol y Piano i'w gael? Catrin Haf Jones fuodd yn holi'r pianydd Gwenno Morgan ar Dros Ginio a gofyn iddi hi beth mae'r diwrnod arbennig hwn yn ei olygu iddi hi…Offeryn InstrumentCyflawni To achieveAnwybyddu To ignoreCymryd yn ganiataol Taking for grantedCerddorfa OrchestraCyfeilyddion AccompanistsHyblyg FlexibleY deunawfed ganrif 18th centuryEsblygu To evolvePigion y Dysgwyr – Isabella Ac mae perfformio yn ganolog i'r sgwrs nesa ‘ma wrth i ni wrando ar Aled Hughes yn sgwrsio gyda Isabella Colby Browne, actores sydd wedi dysgu Cymraeg, ac sydd erbyn hyn yn actio yn Gymraeg ar lwyfan gyda chwmni Arad Goch.… Mae Isabella yn dal i gael gwersi Cymraeg ar-lein ac mae hi am fynd ar gwrs i Nant Gwrtheyrn cyn bo hir. Yr Wyddgrug MoldLlwyfan StageO ddifri(f) SeriouslyTanio dy frwdfrydedd Sparked your enthusiam Argraff enfawr A huge impressionDiwylliant CultureAilgysylltu To reconnectParch Respect
Snwcer, cysgu, record Y Seintiau Newydd a ffeithiau difyr sy'n cael sylw Owain Tudur Jones a Malcolm Allen. Ac ydi hi'n amser i ddechrau poeni o ddifri am ganlyniadau Abertawe?
Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried pa effaith fydd Syr Dave Brailsford yn ei gael yn Manchester United wrth i'r brodor o Ddeiniolen baratoi i ymuno gyda'r clwb fel cyfarwyddwr pêl-droed. Mae'r ddau hefyd yn synnu at berfformiadau'r chwaraewr dartiau ifanc Luke Littler, ac yn cofio rhai o sêr ifanc eraill. A pham bod proses Abertawe i benodi rheolwr newydd wedi cymryd mor hir?
Mae 'na naws Nadoligaidd wrth i Owain Tudur Jones a Malcolm Allen drafod swydd newydd Osian Roberts yn yr Eidal, problemau Abertawe wrth drio penodi rheolwr a chic o'r smotyn anobeithiol Amadou Onana. Mae'r ddau hefyd yn penderfynu pwy sy'n haeddu anrheg Nadolig am serennu dros y flwyddyn..a phwy sydd ddim!
Pigion Dysgwyr – Peris Hatton Mae Peris Hatton newydd gyhoeddi llyfr ar gasglu crysau pêl-droed o wahanol gyfnodau. Enw'r llyfr yw “The Shirt Hunter”. Mae e wedi bod yn casglu ers dros dau ddeg pum mlynedd….dyma fe i sôn mwy am yr obsesiwn ar raglen Aled Hughes. Newydd gyhoeddi Just published Cyfnodau Periods of time Ddaru Wnaeth Poblogaidd Popular Oddeutu Tua Mwydro To bewilder Newydd sbon Brand new Offer Equipment Pigion Dysgwyr – Jane Blank Peris Hatton oedd hwnna'n sôn am ei obsesiwn gyda chrysau pêl-droed. Ar BBC Sounds ar hyn o bryd mae'r awdures Jane Blank yn sôn am hanes ei theulu mewn cyfres o'r enw “Fy Achau Cymraeg”. Roedd hi ar raglen Shan Cothi wythnos diwetha i sôn ychydig am ei theulu. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Cyfres Series Achau Lineage Mamgu a tad-cu Nain a taid Ambell i deulu Some families Chwant Desire Tyrchu'n ddwfn To dig deep Pigion Dysgwyr – Beti George Ewch i BBC Sounds os ydych chi eisiau clywed rhagor o'r sgwrs ddifyr honno. Ers bron i bedwar deg mlynedd mae Beti George wedi cyflwyno Beti a'i Phobol. A hi oedd gwestai gwadd Shelley a Rhydian yn ddiweddar ar eu rhaglen Sadwrn. Dyma Beti i esbonio ychydig am gefndir y rhaglen wythnosol mae hi'n ei chyflwyno Yn ddiweddar Recently Bodlon Willing Enghraifft berffaith A perfect example Hyn a'r llall This and that Croesawu To welcome Dwys Intense Pigion Dysgwyr – Ifan Huw Dafydd Ac mae Beti wastad yn neis on'd yw hi, ac yn cael sgyrsiau diddorol gyda'i gwestai. Yn ddiweddar buodd yr actor Ifan Huw Dafydd ar daith gerdded Llwybr y Pererinion sef y Camino Frances, i Santiago de Compostela yn Sbaen. Roedd e'n codi arian i elusen Jac Lewis. Mae elusen Jac Lewis yn cefnogi lles meddwl pobl ifanc ac yn cynnig help i'w teuluoedd... Dyma Ifan Huw Dafydd ar raglen Ifan Jones Evans yr wythnos diwetha yn rhannu ambell i stori o'r daith. Pererinion Pilgrims Elusen Charities Lles meddwl Mental welfare Traddodiad Tradition Bys troed Toe Crwtyn Bachgen Anhygoel Incredible Llwch Ashes Gwasgaru Scatter Pigion Dysgwyr – Heledd Garddio Llongyfarchiadau mawr i Ifan Huw Dafydd am lwyddo i wneud y daith arbennig hon, ac roedd cwmni diddorol iawn ganddo ar y ffordd on'd oedd? Weithiau mae ‘Heledd Garddio' yn cyfrannu at raglen Caryl Parry Jones i rannu ei chyfrinachau garddio gyda Caryl a'r gwrandawyr. Ond wythnos diwetha rhannodd Heledd gyfrinach wahanol iawn gyda Caryl sef beth fasai ei pharti delfrydol hi…… Cyfrannu To contribute Cyfrinachau Secrets Delfrydol Ideal Crybwyll To mention Plentynaidd Childish Sa i di meddwl Dw i ddim wedi meddwl Pigion Dysgwyr – Awduron Mae parti Heledd yn swnio'n llawer o hwyl on'd yw e? Mae awduron plant ar draws Prydain wedi cyfarfod yn Abertawe yn ddiweddar i gynnal sesiynau storïau ac awduro. Dau oedd yno oedd y gŵr a'r wraig Thomas Docherty a Helen o Abertawe. Maen nhw hefyd wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Dyma nhw ar raglen Ffion Dafis i sôn am eu gwaith…. Awduro Authoring Amser maith yn ôl A long time ago Antur Adventure Cyfleoedd Opportunities Pe byddai rhywun Tasai rhywun Dwlu ar Wrth ei bodd efo Mamiaith Mother tongue
Pigion Dysgwyr – Al Lewis Ar Beti a'i Phobol dydd Sul diwetha cafodd Beti gwmni y cerddor Al Lewis fel gwestai. Esboniodd Al sut aeth e ati i sgwennu llythyrau ac i e-bostio er mwyn cael gwaith yn Nashville, Tennessee a llefydd eraill…… Cynhyrchydd Producer O fewn Within Cerddoriaeth Music Dychmygu To imagine Breuddwydion Dreams Hynod dalentog Extremely talented Profiad anhygoel An incredible experience Hwb A boost Ar y trywydd iawn On the right track Cael ei barchu Being respected Pigion Dysgwyr – Sonia Edwards Profiad anhygoel i Al Lewis yn fanna yn Nashville, Tenesse. Buodd y nofelydd Sonia Edwards yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar ei raglen yr wythnos diwetha am ei nofel ddirgelwch newydd. Dyma Sonia i sôn mwy…. Llacio To loosen Dirgelwch Mystery Llofruddiaeth Murder Yn feddalach Softer Ymgynghori To consult Ymchwil To research Cyffuriau Drugs Darganfod To discover Yn ymarferol Practical Doethuriaeth PhD Pigion Dysgwyr – Jason Mohammad A dyna i chi Sonia Edwards yn rhoi blas i ni ar ei nofel ddirgelwch newydd fydd yn y siopau'n fuan. Un o westai Shelley a Rhydian yn ddiweddar oedd y darlledwr Jason Mohammad. Mae Shelley a Rhydian yn rhoi cyfle i'w gwestai bob wythnos ddewis caneuon Codi Calon. Un o ddewisiadau Jason oedd “Pride in the Name of Love” gan U2. Dyma fe i sôn mwy am ei ddewis….. Yn ddiweddar Recently Darlledwr Broadcaster Codi Calon Raising the spirits Cyfweliadau Interviews Watsio Gwylio T'm bod Rwyt ti'n gwybod Atgofion Memories Pigion Dysgwyr – Theatr Wild Cats Y darlledwr Jason Mohammad oedd hwnna'n esbonio pam mai “Pride in the Name of Love” oedd ei ddewis fel Cân Codi Calon. Ac roedd angen codi calon arno gan i'w dîm, Dinas Caerdydd, golli i Abertawe yn y ‘Derby' Cymreig nes ymlaen y diwrnod hwnnw. Yn Aberhonddu mae yna gwmni theatr arbennig wedi ei sefydlu o'r enw Theatr Wild Cats sy'n gweithio gydag unigolion sydd ag anableddau dysgu. Mae Gwenno Hutchinson yn gwirfoddoli gyda'r Theatr ac esboniodd hi wrth Caryl Parry Jones ar ei rhaglen nos Fawrth, sut aeth ati i helpu'r criw….. Anableddau dysgu Learning disabilities Gwirfoddoli To volunteer Gweithgaredd Activity Yn gyfleus Convenient Haeddu To deserve Cyfraniad Contribution Cymdeithasu To socialise Celfyddydau Arts Pigion Dysgwyr – Vaughan Evans Gwenno Hutchinson oedd honna'n sôn am y gwaith pwysig mae Theatr Wild Cats yn ei wneud. Dych chi yn gwybod beth yw Northern Soul? Wel, daeth Vaughan Evans ar raglen Aled Hughes fore Llun wythnos diwetha i esbonio mwy am y symudiad cerddorol hwn…… Symudiad cerddorol Musical movement Tanddaearol Underground Curiad Beat Cefn gwlad The countryside Tywyll Dark Digalon Downhearted Pigion Dysgwyr – Dylan Rhys Parry A dyna ni'n gwybod llawer mwy am Northern Soul a'r Wigan Casino nawr, diolch i Vaughan Evans. Mae Dylan Rhys Parry wedi ei ddewis fel un o arweinwyr y rhaglen deledu S4C Ffit Cymru am 2023. Gweinidog yw Dylan sy'n byw yn Coety ger Pen-y-bont ar Ogwr, ond sy'n dod o Gaernarfon yn wreiddiol. Buodd Dylan yn sgwrsio gyda Heledd Cynwal fore Mercher diwetha a gofynnodd Heledd iddo fe'n gyntaf pam ei fod e wedi rhoi ei enw ymlaen i fod yn rhan o'r gyfres.…….. Gweinidog Minister Y gyfres The series Gwaed Blood Clefyd siwgr Diabetes Canlyniadau Results Ysgogiad Impetus Canrannau Percentages