POPULARITY
Trafodaeth am ddwy ras Fflandrys a'r hyn sydd i'w ddisgwyl ar goble dieflig gogledd Ffrainc dros y penwythnos
Ar ôl penwythnos i anghofio yn Ffrainc mae gobeithion Cymru o ennill gêm yn troi i'r Eidal. Nick a Carwyn sy'n trafod y newidiadau, be aeth yn anghywir ym Mharis ac oes gobaith fod pethau am newid y penwythnos yma. #Welshrugby #RygbiCymraeg #Cymraeg Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Profi pawb yn anghywir - dyna'r her i dîm Rhian Wilkinson yn ôl Malcolm ac Owain ar ôl cael grŵp anodd tu hwynt yn rowndiau terfynol Ewro 2025, sy'n cynnwys Ffrainc, Iseldiroedd a Lloegr. Ond roedd lwc o blaid Craig Bellamy pan ddaeth yr enwau allan o'r het ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026. Mae'r hogia wedi cyffroi yn lan yn barod ac wedi mynd ati i wneud gwaith ymchwil manwl iawn ar y gwrthwynebwyr Gwlad Belg, Gogledd Macedonia, Kazakstan a Liechtenstein.Roedd hi'n benwythnos eithaf siomedig ar y cyfan i bedwar prif glwb Cymru, ac mae Owain wedi gweld digon yn barod... "mae Caerdydd yn mynd i lawr!"
Gyda'r enwau mas o'r het ar gyfer Euro 2025, mae Cymru yn gwybod taw Ffrainc, Lloegr a'r Iseldiroedd fydd eu gwrthwynebwyr nhw yn y Swistir haf nesa. Yn ogystal ag ymateb i grwp Ewros Cymru, mae Ifan a Sioned yn trafod Cwpan Cymru a'r Brif Adran yn dilyn sawl sioc dros y penwythnos. With the names drawn for Euro 2025, Wales know that France, England and the Netherlands will be their opponents in Switzerland next summer. As well as reacting to Wales's group, Ifan and Sioned discuss the Welsh Cup and the Adran Premier following a few shocks over the weekend.
Mae Carwyn a Iestyn yn trafod newyddion a chanlyniadau'r penwythnos yn cynnwys colledion I'r Gweilch, Scarlets, Caerdydd a'r Dreigiau yn y URC cyn symud ymlaen I drafod y gêm rhwng Cymru D20 a Ffrainc cyn y gêm fawr yn y Chwe Gwlad. Dilynwch ni ar gyfryngau gymdeithasol @RygbiCymruPod Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices
Wythnos yma mae Carwyn ac Iestyn yn dadansoddi perfformiadau'r pedwar rhanbarth yn Ewrop ar ôl buddugoliaethau i'r Gweilch a'r Dreigiau ond teithiau anodd i'r Sgarlets a Chaerdydd yn Ffrainc. Dilyn ni ar gyfryngau gymdeithasol @RygbiCymruPod Mae unrhyw ymateb yn werthfawr i ni. Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices
Mae Carwyn ac Iestyn yn ol i siarad am y bedwar tim rhanbarthol yn y gemau cyn-dymor, gobethion Cymru yn y chwarteri o gwpan y Byd ac yn amcan pwy bydd yn rownd gyn-drfynol Ffrainc 2023. Mae unrhyw ymateb yn werthfawr i ni. Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices
Pigion Dysgwyr – Y Wladfa Mae Llinos Howells o Ferthyr Tudful yn gweithio ar hyn o bryd yn y Wladfa, sef y rhan o‘r Ariannin ble mae siaradwyr Cymraeg yn byw. Yn ei gwaith bob dydd mae hi‘n dysgu Cymraeg i blant yr ysgolion lleol. Wythnos diwetha cafodd Aled Hughes gyfle i sgwrsio gyda hi i weld sut mae pethau‘n mynd hyd yn hyn... Yr Ariannin Argentina Union fis A month exactly Rhagbrofion Preliminary competition Llefaru Reciting Braint o feirniadu The honour of adjudicating Deng mlynedd ar hugain 30 years Cyngerdd mawreddog A grand concert Croesawgar Welcoming Twymgalon Warm-hearted Pigion Dysgwyr – Ann Evans Llinos Howells oedd honna'n brysur iawn yn y Wladfa, ond i weld yn mwynhau bob eiliad. Merch arall o Ferthyr sydd yn y clip nesa - Ann Evans, dorrodd record Cymru i ferched dros 65 oed yn Hanner Marathon Casnewydd fis Mawrth diwetha, ond sydd erbyn hyn wedi cyflawni camp arall. Bythefnos yn ôl roedd hi yn Kenya yn cymryd rhan mewn ras barodd bump o ddiwrnodau drwy ardaloedd cadwraeth y wlad. Roedd rhaid rhedeg 30 milltir y dydd mewn tywydd poeth iawn. Dyma hi‘n sgwrsio gyda Alun Thomas ar Bore Sul ac yn sôn am un digwyddiad arbennig ar y daith…… Tu fas i Tu allan i Cyflawni camp To fulfil an achievement Ardaloedd cadwraeth Conservation areas Heol (hewl) Ffordd Eiddo Possessions Perchen Ownership Dwyn To steal Gofidus Worried Rhydd Loose Dros y dibyn Over the precipice Pigion Dysgwyr – Karen Wynne Mae merched Merthyr yn hoff iawn o antur on'd dyn nhw? Ac roedd hi'n dipyn o antur i'r actores Karen Wynne yn ddiweddar wrth iddi hi gael ei derbyn i'r Cylch Hud. Dyma Karen ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha yn sôn wrth Shan am y broses o gael eich derbyn i'r cylch arbennig hwn……. Cylch Hud Magic Circle Mynd amdani Going for it Syth bin bot Straight away Digwydd bod Happened to be Hanu Deriving from Sêl bendith Seal of approval Gweinidog Minister Hud a lledrith Magic Honni To claim Arallfydol Otherworldly Pigion Dysgwyr – Hafodwennog Basai'r gair ‘hudolus', falle, yn un gair i ddisgrifio taith Aelwyd Urdd Hafodwennog i Ffrainc. Mae'r aelwyd yn y wlad fel rhan o ymgyrch Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd. Cafodd Ifan Evans gwmni Gwenan Evans a Dai Baker o'r Aelwyd ar ei raglen yr wythnos diwetha i sôn mwy am daith... Hudolus Magical Ymgyrch Campaign Swmpus Substantial Arweinyddion cyfrifol Responsible leaders Gweithdai Workshops Cytgan Refrain Pigion Dysgwyr – Gwion Clarke A dw i'n siŵr bod aelodau'r Aelwyd wedi ysbrydoli cefnogwyr Cymru yn ystod y gêm bwysig honno yn erbyn Awstralia yn Lyon. Nos Fawrth diwetha cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Gwion Clarke o Gaernarfon. Mae Gwion yn sgriptio darnau comedi ac yn gomedïwr ei hun, a dyma fe'n sôn wrth Caryl am sut dechreuodd e yn y maes……. Ysbrydoli To inspire Testunau List of competitions Creadigol Creative Edmygu brwdfrydedd Admire the enthusiasm Buddugol Successful Doniol Funny Deunydd Material Llifo To flow Difrifol iawn Very serious Tawelwch Silence Pigion Dysgwyr – John Shaw A phob lwc i Gwion gyda'r gigs on'd ife? Ar Dros Frecwast fore Mercher clywon ni lais John Shaw. Mae John yn byw yn Utah ond roedd ei deulu'n dod Gymru yn wreiddiol. Alun Thomas aeth draw i Ysgol Llangynwyd ger Maesteg i weld John ar ei ymweliad cynta â gwlad ei gyn-deidiau Cyndeidiau Forefathers Gwyddonydd coedwig Forestry scientist Gweddill The rest of Annerch To address Troedio llwybrau Treading the paths Y bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century Cysylltiad Connection Degawdau Decades Bedyddwyr Baptist Emyn Hymn
Pigion Dysgwyr - Gruffydd Vistrup Parry Mae Gruffydd Vistrup Parry yn byw yn Nenmarc sydd, yn ôl yr ystadegau, y wlad leia “stressful” yn Ewrob. Dyma Gruffydd i sôn mwy am y rhesymau symudodd e i'r wlad yn y lle cynta ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha…. Ystadegau Statistics Calon Heart Ymchwil Research Perthynas Relationship Pigion Dysgwyr - Y Meddyg Rygbi Ac mae Gruffudd yn swnio'n hapus iawn gyda'i benderfyniad i symud i Ddenmarc on'd yw e? Dw i'n siŵr eich bod wedi sylwi bod Cwpan Rygbi'r Byd newydd ddechrau gyda'r gêm agoriadol rhwng Ffrainc a Seland Newydd. Mae Dewi Llwyd wedi bod yn dilyn Dr Gareth Jones, un o'r meddygon sy'n delio â'r nifer cynyddol o anafiadau ym myd rygbi. Enw'r rhaglen yw Y Meddyg Rygbi ac mae'r rhaglen gyfan i'w chlywed ar BBC Sounds wrth gwrs, ond dyma Gareth Jones yn sôn mwy am ei waith Nifer cynyddol Increasing number Fel petai So to say Sylweddoli To realise Curiad i'r pen Knock to the head Y Gweilch The Ospreys Pigion Dysgwyr – Angharad Jones Gobeithio na fydd Dr Gareth yn rhy brysur gydag anafiadau i'r pen yn ystod Cwpan y Byd on'd ife? Bore Mercher ar ei raglen, cafodd Aled Hughes gyfle i siarad ag Angharad Jones, sydd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Casgwent. Beth sy'n arbennig am Angharad yw ei bod hi wedi dysgu Cymraeg ei hunan a hynny mewn blwyddyn yn unig. Dyma hi i sôn mwy am ei siwrne i ddod yn siaradwr Cymraeg... Casgwent Chepstow Tad-cu Taid Sa i'n gallu Dw i ddim yn medru Trosglwyddo To transmit Yn gyfrifol am Responsible for Mo'yn Eisiau Dwyieithrwydd Bilingualism Dw i'n dyfalu I guess Her A challenge Pigion Dysgwyr – Mari Catrin Jones Gwych iawn Angharad, yn un o nifer o athrawon sy wedi dod yn rhugl yn y Gymraeg mewn blwyddyn, drwy ddilyn y Cwrs Sabothol. Mae'r Athro Mari Catrin Jones yn ddarlithydd ieithoedd ym Mhrifysgol Caergrawnt ac ar Raglen Dei Tomos wythnos diwetha clywon ni hi'n sôn am un o ieithoedd llai Ynysoedd Prydain sef iaith ynys Jersey, sydd ond ychydig filltiroedd wrth gwrs oddi ar arfordir Normandy yn Ffrainc. Darlithydd Lecturer Caergrawnt Cambridge Pedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century Saesneg oedd ei piau hi English took over Ariangarwch Avarice Yn gwmws Yn union Yn raddol Gradually Y plwyf The parish Goresgyn To invade Alltudio To exile Pigion Dysgwyr – Y Drenewydd Diddorol on'd ife? A phob lwc i'r rhai sy'n ceisio ail-godi iaith Jersey. 24 awr yn…..yw slot achlysurol Caryl Parry Jones ar ei rhaglen gyda'r nos ble mae hi'n gwahodd person o dre neu bentre gwahanol i sôn am y lle a'r pethau sydd i'w gwneud yno. Tro Y Drenewydd oedd hi nos Fawrth a dyma Nelian Richards sy'n dod o'r dre i sôn mwy, gan ddechrau gydag un o ddynion enwog y dre sef Robert Owen….. Achlysurol Occasional Cefnog Cyfaethog Sefydlu To establish Gweithlu Workforce Diwygiwr cymdeithasol Social Reformer Pigion Dysgwyr – Eilyr Thomas Hanes un o enwogion y Drenewydd, Robert Owen yn fanna ar raglen Caryl Parry Jones. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda'r athrawes ganu Eilyr Thomas yr wythnos diwetha. Yn ystod ei gyrfa mae hi wedi hyfforddi cantorion enwog fel i Jessica Robinson a Trystan Llŷr Griffiths a llawer o rai eraill. Dyma hi i sôn am sut dechreuodd hi ei hunan ar ei gyrfa ym myd canu O ddifri Seriously Rhinweddau Merits Angerddol Passionate Ymroi To commit Datblygiad y llais The development of the voice Trueni Bechod Ymgodymu Tackling
Elin Maher yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae hi'n gweithio fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg, ac yn ymgynghorydd iaith ac addysg lawrydd ers nifer o flynyddoedd bellach - ac wedi bod yn gweithio yn y byd addysg ac o fewn maes datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol trwy gydol ei gyrfa, gyda'r Gymraeg a dwyieithrwydd yn graidd i'w gwaith. Yn enedigol o Gwm Tawe, ond yn byw yng Nghasnewydd gyda'i theulu ers ugain mlynedd. Mae'n parhau i weithio'n ddyfal yn datblygu addysg Gymraeg a'r Gymraeg o fewn y gymuned yng Ngwent a thu hwnt drwy ei gwaith fel llywodraeth wraig ysgol brofiadol ac aelod o fyrddau nifer o elusennau lleol a chenedlaethol. Bu'n byw yn yr Iwerddon am gyfnod ar ôl priodi Aidan yn 1998, fe gwrddodd y ddau yn 1993 pan oedd Elin wedi mynd efo'r Urdd i wersyll yn Iwerddon gan fudiad tebyg iawn i'r Urdd. Bu hefyd yn byw am gyfnod yn Angers, ardal y Loire yn Ffrainc yn ystod ei blwyddyn allan o'r Brifysgol.
Cwpan Y Byd 15: Y Rownd Gyn-Derfynol Ifan Gwilym sy'n trafod gemau Rownd Cyn-Derfynol Cwpan y Byd 2022. Nicky John bydd yn edrych yn ôl ar taith anhygoel Morocco cyn iddyn nhw cael eu trechu gan Ffrainc ac mae Sioned Dafydd, sydd dal yn Qatar yn rhoi ei hargraffiadau hi ar fuddugoliaeth cadarnhaol Yr Ariannin dros Croatia. Ifan Gwilym discusses all the talking points from the World Cup semi-finals. Nicky John joins him in discussing Morocco's incredible tournament before being beaten by France as Sioned Dafydd, who's still out in Qatar shares her thoughts on Argentina's dismantling of Croatia.
Cwpan Y Byd 5: Cymru 0-2 Iran Ifan Gwilym a Nicky John sy'n trafod gemau'r dydd yng Nghwpan y Byd. Canlyniad siomedig i Gymru tra bod Lloegr ac UDA yn cael gêm ddi-sgôr. Cyfle hefyd i edrych ymlaen at Ffrainc v Denmarc, Tunisia v Awstralia, Gwlad Pwyl v Saudi Arabia, Ariannin v Mexico a… Wrecsam v Farnborough yng Nghwpan FA Lloegr sy'n fyw ar Sgorio! Ifan Gwilym and Nicky John discuss all the talking points from the World Cup in Qatar. A disappointing result for Wales as England and USA play out a goalless draw. There's also a chance to look forward to France v Denmark, Tunisia v Australia, Poland v Saudi Arabia, Argentina v Mexico and… Wrexham v Farnborough in the FA Cup, live on Sgorio!
Cwpan Y Byd 2: Saudi Arabia! Ifan Gwilym a Nicky John sy'n trafod gemau'r dydd yng Nghwpan y Byd. Y sioc fawr rhwng Saudi Arabia a'r Ariannin, dwy gêm ddi-sgôr a buddugoliaeth gyfforddus Ffrainc dros Awstralia. Hefyd bydd cyfle i edrych ymlaen at gemau heddiw rhwng Morocco v Croatia, Yr Almaen v Japan, Sbaen v Costa Rica a Gwlad Belg v Canada. Ifan Gwilym and Nicky John discuss all the talking points from the World Cup in Qatar. Saudi Arabia's shock win over Argentina, the two goalless draws and France's comfortable win over Australia. They also look ahead to today's games between Morocco v Croatia, Germany v Japan, Spain v Costa Rica and Belgium v Canada.
Cwpan Y Byd 1: UDA 1-1 Cymru Ifan Gwilym a Nicky John sy'n trafod gemau'r dydd yng Nghwpan y Byd. UDA 1–1 Cymru, Lloegr 6–2 Iran, Senegal 0–2 Iseldiroedd a Qatar 0-2 Ecuador. Hefyd bydd cyfle i edrych ymlaen at gemau heddiw rhwng Ariannin v Saudi Arabia, Denmarc v Tunisia, Mecsico v Gwlad Pwyl a Ffrainc v Awstralia. Ifan Gwilym and Nicky John discuss all the talking points from the World Cup in Qatar. USA 1–1 Wales, England 6–2 Iran, Senegal 0–2 Netherlands and Qatar 0-2 Ecuador. They also look ahead to today's games between Argentina v Saudi Arabia, Denmark v Tunisia, Mexico v Poland and France v Australia.
Gwneud Bywyd yn Haws Hanna Hopwood yn holi Gwenllian Thomas, sy' wrth ei bodd yn gwneud triathlon – nofio, rhedeg a beicio! Mae hi'n fam brysur ond mae cymryd rhan mewn triathlon yn rhan bwysig o'i bywyd. Sut dechreuodd ei diddordeb yn gamp tybed? Camp Sport Bant I ffwrdd Dim taten o ots Dim ots o gwbl Croesawu To welcome Meddylfryd Mindset Rhannu profiadau To share experiences Dros Frecwast – Gemau'r Gymanwlad Gwenllian yn fan'na yn sôn am ei diddordeb mewn triathlon sef un o'r campau cynta i ddigwydd yn Ngemau'r Gymanwlad eleni. Agorwyd y Gemau yn Birmingham ar yr 28ain o Orffennaf a chafodd Ifan Gwyn Davies sgwrs efo Ashleigh Barnikel sy'n cymryd rhan yn y Gemau fel aelod o garfan Jiwdo Cymru... Gemau'r Gymanwlad Commonwealth Games Carfan Squad Un fodfedd dros bum troedfedd Five foot one Dwywaith ei maint Twice her size Pencampwraig Champion (female) O ddifri Seriously Rhyngwladol International Torfeydd Crowds Ail wynt Second wind Dros Frecwast – Ewros y merched A phob lwc i garfan Cymru yn y Gemau ynde? Mi wnawn ni aros ym myd y campau efo'r clip nesa ‘ma, ond i fyd pêl-droed y tro 'ma ac i gystadleuaeth Ewros y Merched 2022. Y Gymraes Cheryl Foster oedd yn dyfarnu'r gêm gynderfynol rhwng Ffrainc a'r Almaen wythnos diwetha ac roedd Cheryl yn arfer chwarae i dîm pêl-droed merched Cymru. Lowri Roberts fuodd yn sgwrsio efo Owain Llyr cyn y gêm.. Dyfarnu To referee Cynderfynol Semi final Y Seintiau Newydd TNS Dychmygu To imagine Ysbrydoli To inspire Y genhedlaeth nesa The next generation Bore Cothi Yr Almaen enillodd gan fynd â nhw i'r ffeinal yn erbyn Lloegr, ac mi gafodd Cheryl gêm dda iawn fel dyfarnwr. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause Mae Helgard yn dod o ardal Pfalz yn Yr Almaen yn wreiddiol, a daeth hi i Gymru yn 2005 ac erbyn hyn mae'n byw yn Aberaeron. Dwy flynedd ar ôl iddi hi symud i Gymru, dechreuodd Helgard ddysgu Cymraeg ac o fewn ychydig fisoedd, roedd hi'n rhugl. Pa mor anodd oedd dysgu Cymraeg iddi hi…? Prif Weithredwr Chief Executive Parhau To continue Mwyafrif Most Aled Hughes Ac mae Helgard yn cael ei hanrhydeddu yn yr Eisteddfod eleni drwy dderbyn y Wisg Werdd. Buodd Aled Hughes yn siarad efo Meirion Pritchard o Landysul ond sy nawr yn byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd efo cwmni Meta. Dyma'r cwmni sy'n berchen ar Facebook, Instagram a Whatsapp ac sy'n datblygu'r dechnoleg nesa ym myd realaeth rithiol , neu virtual reality. Dyma Meirion yn sôn ychydig wrth Aled am ei gefndir ac am ei waith.. Anrhydeddu To honour Y Wisg Werdd The Green Gown Efrog Newydd New York Sy'n berchen ar Which owns Datblygu To develop Amrywiol Varied Hyrwyddo To promote Pensaer Architect Celf Art Dylunio To design Dros Ginio Guto ac Elis Meirion Pritchard oedd hwnna'n sôn am sut dechreuodd ei ddiddordeb yn y byd digidol Dau frawd oedd gwesteion Alun Thomas ar “Dau cyn Dau” bnawn Llun. Dau fardd o bentre Trefor yng Ngwynedd oedd y gwestai. Guto Dafydd, sydd wedi ennill y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a'i frawd Dr Elis Dafydd sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd. Gofynnodd Alun i Guto'n gynta oedd y cysylltiad efo barddoniaeth yna pan oedd o'n ifanc Barddoniaeth Poetry Ddim fel y cyfryw Not as such Gwirioni ar Dwlu ar Pori To browse Adeiladol Constructive Sylw a bri Attention and fame Clod Praise Cenfigen Jealousy Cyfathrebu To communicate Aeddfedu To mature
Y tro yma rwy'n siarad gyda Helgard Krause. Cafodd Helgard ei magu yng ngorllewin yr Almaen. Mae hi wedi dysgu Cymraeg ac erbyn hyn mae hi'n gweithio fel Brif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru. Rydyn ni'n trafod ei phlentyndod ger y ffin gyda Ffrainc, ei barn hi am Rwsia ac Wcráin, Ewrop a Brexit, ei chyngor neu 'tips' am ddysgu Cymraeg, ac wrth gwrs, llyfrau! Mae mwy o wybodaeth, geirfa a lluniau ar fy ngwefan i. Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
In the run-up to Wales's crunch qualifying match with France for the 2023 Women's World Cup, Russell is joined by Hales Evans, founder of feWales to discuss the match, the growing Red Wall at women's internationals and why she set up feWales to provide fan wear for women. Gyda gêm anferthol Cymru ar ddiwedd yr wythnos yn erbyn Ffrainc ar gyfer Cwpan y Byd Menywod 2023, mae Russell yn cael ei ymuno â fe gan Hales Evans, sylfaenydd feWales i drafod y gêm, y Wal Goch grar ei thyfiant wrth gemau rhyngwladol mewnywod, a'i rhesymau am sylfaeni feWales i ddarparu gwisg i ffans benywaidd. Hales Evans a chapten Cymru, Sophie Ingle | Hales Evans and Wales captain, Sophie Ingle
Sgwrs arbennig gyda rheolwr Cymru, Gemma Grainger. Bydd Gemma Grainger yn ymuno â Sioned Dafydd a Dylan ebenezer i edrych nôl ar ei blwyddyn gyntaf wrth y llyw fel rheolwr tîm rhyngwladol y merched ac yn edrych ‘mlaen at flwyddyn cyffrous i bêl-droed Merched yng Nghymru. Bydd Cymru yn cystadlu yn y Pinatar Cup yn Sbaen ym mis Chwefror cyn parhau a'u hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2023 gyda gêm fawr yn erbyn Ffrainc i ddod ym mis Ebrill. Croeso i'r pod!
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” NIA ROBERTS - MORFYDD CLARK Mae Morfudd Clark yn Seland Newydd ar hyn o bryd yn ffilmio cyfres newydd o Game of Thrones, a fel soniodd hi wrth Nia Roberts, roedd cael Cymro arall ar y set yn gysur mawr iddi hi… Cyfres - Series Cysur mawr - A great comfort Cwympo mewn cariad - To fall in love Profiad - Experience Sylweddoli - To realise So ti’n deall - Dwyt ti ddim yn deall ALED HUGHES Morfudd Clarke yn cael amser i ymarfer ei Chymraeg tra’n ffilmio Game of Thrones- da on’d ife? Ar raglen Aled Hughes clywon ni sut mae’r môr a syrffio yn arbennig wedi helpu merch ifanc gydag iselder. Dyma i chi flas ar y sgwrs rhwng Aled a Laura Truelove o'r Rhondda … Cyfnod o iselder - A period of depression Nofio gwyllt - Wild swimming Pwerus iawn - Very powerful Cysylltiad - Connection Ar bwys - Wrth ymyl Rhyddhau - To release Yn wirioneddol - Truly DANIEL GLYN Laura Truelove o'r Rhondda yn esbonio wrth Aled Hughes sut mae syrffio wedi ei helpu i ymdopi gyda’i chyfnod o iselder. Y cerddor a’r actor Neil Williams, oedd yn arfer perfformio gyda’r band Maffia Mr Huws, oedd gwestai Daniel Glyn fore Sadwrn a soniodd e wrth Daniel am elusen sy’n bwysig iawn yn ei fywyd. Cerddor - Musician Elusen - Charity Cartref gofal - Care Home Gwyrthiol - Miraculous Hollol amlwg - Totally obvious Creu - To create Yn fyw - Live Baglu - To trip COFIO …a gobeithio bydd cyfle i Neil gario ymlaen gyda’i waith pwysig unwaith bydd y cyfnod clo drosodd on’d ife? Dw i’n siŵr bod llawer ohonon ni’n falch ei bod yn bosib cael torri ein gwallt unwaith eto ar ôl misoedd y clo. Falle bod sawl ci hefyd yn edrych ymlaen at fynd i’r salon i gael ‘trim’ bach. Ar Cofio yr wythnos diwetha clywon ni Katie Hughes Ellis o Borthmadog sy'n berchen ar siop anifeiliaid a salon i gŵn ym Mhwllheli yn sôn am sut i steilio blew y cŵn Sy’n berchen ar Who owns I fyny’r grisiau lan stâr Blew cwta Short haired Dibynnu ar To depend on Yn debyg i Similar to Sgynnoch chi gi? Oes ci gyda chi? TROI’R TIR Hanes salon cŵn Pwllheli oedd hwnna ar Cofio yr wythnos diwetha. Mae Janie Davies yn dod o Bumpsaint sir Gaerfyrddin yn wreiddiol ond erbyn hyn mae hi’n ffermio o yn Mayenne yng ngogledd orllewin Ffrainc gyda ei phartner. Dyma hi’n sôn ar Troi’r Tir am beth wnaeth iddi hi benderfynu setlo yn Ffrainc… Fferm ddefaid - Sheep farm Ma’s - Allan Amser ŵyna - lambing season Ŵyn swci - Pet lambs Pert - Del Tsêp - Rhad IFAN EVANS Janie Davies o Sir Gâr y wreiddiol oedd honna’n sôn am ei phenderfyniad i ffermio yn Ffrainc. Roedd ffermwr arall o Sir Gâr i’w glywed ar Ant and Dec’s Saturday Night Takeaway nos Sadwrn. Steven John oedd y ffermwr hwnnw, a buodd e’n llwyddiannus mewn cystadleuaeth ar y rhaglen a dyma fe’n dweud wrth Ifan Evans beth enillodd e i gyd… Gwobr - Prize Bant - Away Twym - Cynnes Llond llwyth - A shedful Bai Elin - Elin’s fault
Mae Dewi a Rheinallt yn ol i drafod tymor newydd o seiclo proffesiynol, gan gychwyn gyda'r rasio yn Ffrainc a'r penwythnos agoriadol yng Ngwlad Belg Find out more at https://y-dihangiad.pinecast.co
Ifan, Rhodri a Telor sy’n edrych ar brif benawdau pêl-droed o Ffrainc, Yr Almaen a’r Eidal, yn ogystal â Chynghrair y Pencampwyr
Heddiw, gyda 1,000 o ddyddiau i fynd cyn Cwpan Rygbi'r Byd 2023 yn Ffrainc, fe ddarganfyddodd Cymru pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn y twrnament. Shane Williams a Rhys Patchell sydd yn ymuno â Rhodri Gomer i drafod y gystadleuaeth yn ogystal â thrafod cyfergydion yn rygbi.
Shane Williams, Sioned Harries a Dyddgu Hywel sydd yn ymuno â Rhodri i drafod y golled yn erbyn Ffrainc ac i edrych ymlaen at gemau'r Menywod a'r Dynion yn erbyn Yr Alban.
Wrth i Gymru baratoi ar gyfer gêm gynta'r Hydref, mae Shane Williams, Sioned Harries a Nigel Owens yn ymuno â Rhodri i edrych ymlaen at y penwythnos.
Aled Hughes a hanes Sabrina Vergee Efallai eich bod wedi clywed am rai sy wedi dringo 14 copa ucha Eryri, sy’n ddipyn o gamp. Ond mae Sabrina Verjee o Cumbria wedi rhedeg ‘Y Wrainwrights’ yn Ardal y Llynnoedd - 214 copa, ie 214, a hynny mewn 6 diwrnod, 17 awr a 51 munud. Hi ydy’r ferch gynta i wneud hyn ac un sy’n ei hadnabod yn dda ydy Jane Harries, golygydd Cylchgrawn Adventure She, a chafodd Aled Hughes dipyn o hanes Sabrina ganddi ar ei raglen... Copa Summit Camp Achievement Edmygu To admire Parchu To respect Yn ddi-stop Without stopping Anhygoel Incredible Menyw Dynes Bwriadu To intend Mor glou So quickly Aruthrol Tremendously Chwyddodd e lan It swelled up Dychmygu To imagine Dyrchafiad Leed United Mae ffans Leeds United yn meddwl bod y tîm hwnnw wedi creu dipyn o gamp, drwy ennill dyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr ar ôl iddyn nhw ddisgyn o’r Uwchgynghrair 16 o flynyddoedd yn ôl. Buodd Dylan Jones a rhai o ffans eraill Leeds yn dathlu ar Ar y Marc... Dyrchafiad Promotion Uwchgynghrair Premier League Y chwiban ola The final whistle Cefnogwyr Fans Blynyddoedd maith Many years Yn haeddianol Deservedly Y ffyddloniaid The faithful Ysbrydoliaeth Inspiration Dadansoddwr Analyst Gwyddbwyll Chess Chwa o awyr iach A breath of fresh air Cofio: Swyddi Swyddi cofiadwy oedd yn cael sylw ar Cofio wythnos diwetha wrth i rai o’r gwrandawyr rannu hanes rhai o’r swyddi oedd gyda nhw yn y gorffennol… Cofiadwy Memorable Profiadau Experiences Taro tant To strike a chord Pigo Collecting Yr henoed The elderly Llnau Glanhau Twrcwns Turkeys Lleta Widest Godro to ‘milk’ Ceiliogod Stags Andros o lot o hwyl Loads of fun Marc Roberts a Daniel Glyn Cigydd oedd swydd tad Marc Roberts o’r band Catatonia. Oedd Marc wedi ystyried bod yn gigydd o gwbl pan oedd o’n blentyn? Dyna un o gwestiynau Daniel Glyn iddo fe fore Sadwrn... Ystyried To consider Cerddor Musician Yn hŷn Yn henach Gwaed Blood Ddim gymaint Not as much I ryw raddau To some extent Gethin Jones Tybed ai chef oedd y cyflwynydd teledu Gethin Jones eisiau bod pan oedd yn blentyn? Wel mae’n cael cyfle i ddangos ei ddoniau coginio ar hyn o bryd gan ei fod yn cystadlu yn y rhaglen Celebrity Masterchef. Mae Gethin yn Ffrainc ar hyn o bryd ond ymunodd e â Caryl a Daf i sôn am ei brofiadau ar y rhaglen, a dechreuodd wrth sôn am y seleb dall oedd yn cystadlu yn y sioe ac roedd yn ysbrydoliaeth i Gethin. Cyflwynydd Presenter Doniau Skills Dall Blind Ysbrydoliaeth Inspiration Darllediad A broadcast Cyllyll Knives Winwnsyn Nionyn Gwendidau Weaknesses Angharad Tomos a Dewi Llwyd Yr awdures Angharad Tomos oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd fore Sul a dyma hi’n sôn dipyn am yr her o gael plant i ddarllen rhagor o lyfrau yn oes y cyfrifiaduron... Rownd cyn-derfynol Semi final Yr her The challenge Yn oes In the age of Chwyldro Revolution Yn gymharol brin Comparatively rare Diddanu To entertain Brwydr Battle Ymddiddori To take an interest in Pa bynnag gyfrwng Whichever media Perthnasol Relevant
Zizou, Bunny Hops, Boteli Bleach, Iran v USA, Reggae Boyz, Kits Cŵl, a Norwy pan o nhw’n dda!
Beti A'i Phobol - Alis Hawkins ail-gydio yn... - to reconnect with dros dair degawd - over three decades sbarduno'r chwant - to motivate the desire mynd bant - to go away annog - to encourage darganfod - to discover ar lafar - orally rhwydd - easy clytwaith - patchwork amrywiol - varied Mae Alis Hawlins yn dod o Gwm Cou ger Castell Newydd Emlyn yn wreiddiol ond wedi byw yn Lloegr ers dros drideg mlynedd. Roedd hi'n poeni ei bod yn colli ei Chymraeg ond mi wnaeth ffrind iddi hi ei helpu i ddod yn ôl i'r arfer o siarad yr iaith ac nawr mae hi'n rhugl umwaith eto. Yn y clip yma mae Allis yn sôn am rywbeth arall helpodd hi gyda'i Chymraeg hefyd. Gwrandewch ar hyn... Geraint Lloyd - Het Mali Sion yn enwedig - especially y gwynt yn hyrddio - the wind blowing strongly marchogaeth - horse riding ambell i gae - the odd field fan hyn a fan draw - here and there Ie, podlediad y dysgwyr wedi helpu Alis i ail-gydio yn ei Chymraeg - da on'd ife? Dych chi wedi clywed am yr Het ar Raglen Geraint Lloyd? Mae'r Het yn cael ei phasio o un person i'r llall bob wythnos, a'r wythnos yma - Mali Sion o Lanrwst oedd y ferch lwcus. Mae Mali yn ferch brysur iawn. Yn ogystal â gweithio yng Nghaffi Ffika yn Llanrwst, mae hi hefyd yn aelod o'r band Serol Serol, a dyma hi'n sôn am y band wrth Geraint LLoyd... Rhaglen Recordiau Rhys Mwyn - Neil Rosser cyfeillion - friends gei di ymateb - you'll get a response cystal â - as good as ymgais - an attempt roedd yn berchen - he owned mo'yn - eisiau y fenyw - the woman myn uffern i - goodness me jacôs - calm blaenoriaeth - priority Mali Sion oedd honna yn sôn wrth Rhys Mwyn am ei band Serol Serol. A dyn ni am aros ym myd pop nawr gyda rhaglen Rhys Mwyn. Nos Lun cafodd Rhys gwmni y canwr Neil Rosser a buon nhw'n edrych yn ôl ar yr albwm "O'r Gad" gafodd ei recordio yn Nyffryn Ogwen. Dyma Neil yn sôn am adeg y recordio... Sioe Frecwast - Pêl-droed cerdded Cwpan Pêl-droed Cerdded y Byd - Walking Football World Cup eitha anhygoel - quite incredible Yr Eidal - Italy dod lan - to come up tairgwaith - three times wedi cynrychioli - has represented baner - flag hyd yn oed - even camp - game Neil Rosser oedd yn siarad gyda Rhys Mwyn am recordio'r albwm 'O'r Gad'. Roedd llawer o bobl yn hapus iawn bedair blynedd yn ôl bod tîm pêl-droed Cymru wedi cyrraedd semis yr Euros yn Ffrainc. Ond oeddech chi'n gwybod bod Cymru wedi ennill Cwpan Pêl-droed y Byd? Mae hynny'n wir ond cwpan ychydig bach yn wahanol oedd e - Cwpan Pêl-droed Cerdded y Byd. Ar y Sioe Sadwrn cafodd Geraint a Elan sgwrs gyda John Pritchard sy'n chwarae i dim pêl-droed cerdded Amlwch ar Ynys Môn ond sydd hefyd wedi chwarae dros Gymru... Cofio - Dewi Sant yr un mor llwyddiannus - as succesful wedi cwympo - has fallen cyd-ddigwyddiad - coincidence haeddu - to deserve nawddseintiau - patron saints beirdd a llysieuwyr - poets and vegetarians yn y bôn - basically llysenw - nickname eitha anniddorol - quite uninteresting creulon - cruel A gobeithio bydd tîm pêl-droed normal Cymru yr un mor llwyddiannus yn yr Euros eleni on'd ife? Roedd hi'n ddydd Gwyl Dewi dydd Sul diwetha a dw i'n siwr basai'r Sant wedi bod yn falch iawn o weld cymaint o ddathliadau ym mhob ran o Gymru. Dw i ddim yn siwr, cofiwch, beth fasai'r hen Ddewi'n feddwl o berfformiad Daniel Glyn yn y clip nesa 'ma... Aled Hughes - Corgi ast - bitch Arwr - Hero sunsur sgleiniog - shiny ginger Sir Aberteifi - Ceredigion Y Frenhines - The Queen ci defiad Cymreig - Welsh sheepdog hel gwartheg - to drive cattle mwythlyd - doting torraid - litter(animals) goroesi - to survive Dewi Sant gwahanol iawn yn cael ei ddisgrifio yn fan'na gan y comedïwr Daniel Glyn. Mae bridiau cwn Cymreig a Phrydeinig yn ffashiynol iawn ar hyn o bryd ac mi aeth Aled Hughes draw i Dalybont i weld dau gorgi Ceredigion Sioned Humphreys a hefyd i weld Jack Russell bach blin o'r enw Nel.
Charlo a Cat sy’n hel atgofion gyda Shane Williams 20 mlynedd ers ei gap cyntaf v Ffrainc
Siri Widgel, Kai Saraceno, Owen Saer, Ffrainc, Priodas Mirain a Jac, Cerdd Megan.
Gareth a Catrin sy’n trafod tîm Cymru i wynebu Ffrainc wrth i filoedd dyrru i Oita!
Charlo’n troi’n gwisfeistr a chyfle i glywed gan Ken y Siryf cyn wynebu Ffrainc.
Gareth a Catrin sy’n trafod bygythiad Ffrainc ar ôl taith ‘ddiddorol’ arall i Oita.
Yr wythnos hon, bydd y criw yn trafod pwysigrwydd Wythnos Iechyd Meddwl ar ôl iddynt glywed stori’r ffarmwr, Eurig Evans a gollodd ei ffrind i'r afiechyd, sydd nawr yn cynnal sesiynau a gweithdai ar ei ffarm i bobl sydd yn dioddef. Mae Tara Bethan wedi ysgrifennu erthygl i www.meddwl.org am ei phrofiad o golli ei thad. Hefyd, ceir stori Gwen Goddard a gafodd diagnosis o’r cyflwr bipolar. Mae Hana yn edrych ar stori Llŷr Jones wnaeth rhoi mêr ei esgyrn i blentyn yn Ffrainc. Bydden yn trafod “Teach Your Cat Welsh” gan yr awdures, Anne Cakebread ac yn sôn am lwyddiant gin o Gymru wrth drafod eu hoff ddiodydd nhw. Iechyd Da! Sgwrs Soffa Tara Bethan https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p0789j4p/heno-fri-17-may-2019 Stori Llyr Jones https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/2192544760799910/ Teach Your Cat Welsh https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/2249248161954746/ Jin, jin, jin! https://www.facebook.com/HenoS4C/videos/417104155788373/
Llwyth i drafod wythnos yma. Trafod y rasio yn yr Eidal, Ffrainc a Gwlad Belg, edrych mlaen i monument cynta'r tymor, Milan San Remo ag edrych ar perchennog newydd tim Sky
Un o Ffrainc yn wreiddiol yw'r artist Valériane Leblond. Cafodd ei magu gan ei thad o Ganada, a oedd yn llawn dychymyg ac yn dyfeisio pob math o bethau. Yn y coleg, cwrddodd â Chymro o Langwyryfon, a mae bellach yn magu tri mab yng Nghymru. Mae gwaith celf Valériane yn aml yn ymwneud â'r syniad o berthyn. Darlunio llyfrau yw ei phrif waith erbyn hyn, ond mae hefyd yn gweithio ar arddangosfa am hanes y Cymry a ymfudodd i Orllewin Virginia.
Mae naws lle yn bwysig i Mike Parker, ac mae'n dweud ei fod bob amser wedi bod eisiau byw yng Nghymru. Cafodd ei fagu yn Kidderminster, tua deugain milltir o'r ffin. Gwahanodd ei rieni pan oedd yn bedair oed, a symudodd ei fam i Ffrainc. Mae'n amau mai dyna a arweiniodd at ei hoffter o fapiau, oherwydd eu bod yn fodd iddo gael trefn ar fyd cymhleth. Astudiodd ddrama a Saesneg yn Llundain, gan droi at 'sgrifennu yn y pen draw fel bywoliaeth. Yn gydawdur The Rough Guide to Wales, symudodd i'r wlad yn 2000 gan ddysgu Cymraeg, ac yn 2015 fe oedd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion.
Leon, Gareth and Russell pay tribute to Chris Coleman and critique the candidates to replace him. Based on the showings in the games against France and Panama they consider what sort of legacy Coleman leaves his successor. Mae Leon, Gareth a Russell yn talu'r deyrnged i Chris Coleman a dadansoddi yr ymgeiswyr i ddod ar ei ôl. Yn deillio ar y dangosiadau yn y gemau yn erbyn Ffrainc a Phanama y maent yn ystyried pa fath o etifeddiaeth bod Coleman yn ei gadael ar gyfer ei olynnydd.
Beti George yn sgwrsio gydag Eryl Besse, aelod o Fwrdd y Comisiwn Elusennau. Cafodd ei geni yn Keele, ond ei magu yn Aberystwyth a Comins Coch, ac ar ôl graddio bu'n gweithio i'r cwmni cyfreithiol hynaf yn y byd. Bu'n llwyddiannus yn ei gyrfa yn Llundain a Paris, ac ym mhrifddinas Ffrainc y magodd ei theulu.
Gareth, Leon and Russell look at the France and Panama friendlies: Coleman's selection options, new caps, young prospects. They share their opinions on the new home kit and the merits of the China Cup in 2018. Mae Gareth, Leon a Russell yn edrych ymlaen at y gemau cyfeillgar yn ebyn Ffrainc a Phanama: opsiynau dewis Coleman, capiau newydd, gobeithion ifainc. Maen nhw'n rhannu'u barn ar y cit newydd a rhinweddau'r Cwpan Tsieina yn 2018.
Beti George yn holi'r Parchedig Rosa Hunt, gweinidog ym Mhentre'r Eglwys a gafodd ei geni a'i magu yn Malta. Mae'n trafod ei chefndir teuluol, ei dyddiau yng Nghaergrawnt a Ffrainc, a nawr Cymru.
Gwers rapio? Pam ddim! Ed Holden, y rapiwr adnabyddus o Borthmadog, sy'n ymuno â Beti George i rannu hanes ei fagwraeth a'i yrfa o Genod Droog i Mr Phormula. Yn ogystal â pherfformio ar hyd a lled Cymru, mae o hefyd wedi bod i lefydd fel Yr Eidal, America, Sbaen a Ffrainc.
Wow! Ymateb i gêm hanesyddol arall i Gymru wrth i ni guro'r Gwlad Belg 3-1 i fynd ymlaen i'r rownd gynderfynol! Mae Iwan a @SpursMel yn breuddwydio am Ffrainc, a mae Hywel yn rhegi'n angerddol efo Dan Owen, Mr a Mrs Jones, a dyn mewn poncho (Gaz Clarke) yn y glaw ar faes ŵyl Ymuno. Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.
Y tro ‘ma ar eich hoff bodlediad crasboeth tech Cymraeg: Bryn yn esbonio jyst pam fod DRIP am fusnesa ar eich holl fanylion personol, mwy ar ffonau Microsoft yn colli 18,000 o weithwyr (ac un cwsmer o’r enw Sioned), a chipolwg ar y ‘Tripadvisor’ Cymraeg “Ar y Ffordd”. Hyn oll a llawer mwy i’ch clustiau ar draethau/yng ngerddi/mewn cocktail bars ledled Cymru, joiwch! Doleni Microsoft to slash 18,000 jobs in deepest cuts in tech giant’s history A stopio creu ffonau android DRIP Argraffwyr 3D Gwasanaeth newydd Ar y Ffordd – y tripadvisor Cymraeg? Blogger fined for restaurant review – Ffrainc The post Haclediad #38: tripiau haf a chips poeth appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.
Owain arweiniodd y chwyldro mawr diwethaf gan y Cymry yn erbyn grym Lloegr, chwyldro a ddechreuodd ym 1400. Roedd dicter a phrotest yn erbyn rheolaeth Lloegr wedi bod yn corddi am ganrif a sbardun y chwyldro oedd bod y Barwn Grey o Ruthun wedi dwyn peth o dir Owain. Roedd Owain yn arweinydd gerila effeithiol ond hefyd cipiodd rai targedau mawr, megis castell Normanaidd Harlech a ddaeth yn bencadlys iddo. Creodd gynghreiriau effeithiol, yn cynnwys un gyda brenin Ffrainc, a datblygodd weledigaeth ar gyfer Cymru gyda’i senedd, ei heglwys annibynnol a’i phrifysgolion. Ond methiant fu’r cyfan.
Rhwng blynyddoedd 600 - 800 C.C. dechreuodd y llwythau Celtaidd oedd yn byw yng Nghymru geisio gwneud haearn. Gallwn weld y gwrthrychau a wnaethant mewn casgliadau o ddarnau gwerthfawr yr oeddent yn eu rhoi mewn llynnoedd fel offrwm i’w duwiau. Un enghraifft yw’r casgliad y daethpwyd o hyd iddo yn Llyn Fawr ger Hirwaun yn Rhondda Cynon Taf. Yng nghasgliad Llyn Fawr, yn ogystal â gwrthrychau haearn a wnaed yn lleol, mae rhai gafodd eu gwneud gryn bellter o Gymru, megis rhan o lafn cleddyf addurnedig o ddwyrain Ffrainc. Mae nifer o fannau yng Nghymru lle gallwn weld tystiolaeth sut oedd bywyd bob dydd yn y cyfnod hwn, megis bryngaer Tre’r Ceiri ym Mhenrhyn Llŷn yng Ngwynedd. Roedd bywyd yn y tŷ crwn Celtaidd yn gylch prysur o dyfu, cadw a choginio bwyd, magu anifeiliaid, gwneud defnydd a chreu offer o fetel a phren. Gallai menywod yn ogystal â dynion fod yn arweinwyr, ac roedd plant yn hanfodol i economi’r teulu.
Rhwng blynyddoedd 600 - 800 C.C. dechreuodd y llwythau Celtaidd oedd yn byw yng Nghymru geisio gwneud haearn. Gallwn weld y gwrthrychau a wnaethant mewn casgliadau o ddarnau gwerthfawr yr oeddent yn eu rhoi mewn llynnoedd fel offrwm i’w duwiau. Un enghraifft yw’r casgliad y daethpwyd o hyd iddo yn Llyn Fawr ger Hirwaun yn Rhondda Cynon Taf. Yng nghasgliad Llyn Fawr, yn ogystal â gwrthrychau haearn a wnaed yn lleol, mae rhai gafodd eu gwneud gryn bellter o Gymru, megis rhan o lafn cleddyf addurnedig o ddwyrain Ffrainc. Mae nifer o fannau yng Nghymru lle gallwn weld tystiolaeth sut oedd bywyd bob dydd yn y cyfnod hwn, megis bryngaer Tre’r Ceiri ym Mhenrhyn Llŷn yng Ngwynedd. Roedd bywyd yn y tŷ crwn Celtaidd yn gylch prysur o dyfu, cadw a choginio bwyd, magu anifeiliaid, gwneud defnydd a chreu offer o fetel a phren. Gallai menywod yn ogystal â dynion fod yn arweinwyr, ac roedd plant yn hanfodol i economi’r teulu.
Owain arweiniodd y chwyldro mawr diwethaf gan y Cymry yn erbyn grym Lloegr, chwyldro a ddechreuodd ym 1400. Roedd dicter a phrotest yn erbyn rheolaeth Lloegr wedi bod yn corddi am ganrif a sbardun y chwyldro oedd bod y Barwn Grey o Ruthun wedi dwyn peth o dir Owain. Roedd Owain yn arweinydd gerila effeithiol ond hefyd cipiodd rai targedau mawr, megis castell Normanaidd Harlech a ddaeth yn bencadlys iddo. Creodd gynghreiriau effeithiol, yn cynnwys un gyda brenin Ffrainc, a datblygodd weledigaeth ar gyfer Cymru gyda’i senedd, ei heglwys annibynnol a’i phrifysgolion. Ond methiant fu’r cyfan.