Podcast appearances and mentions of mae iwan

  • 5PODCASTS
  • 23EPISODES
  • 46mAVG DURATION
  • ?INFREQUENT EPISODES
  • Aug 6, 2023LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about mae iwan

Latest podcast episodes about mae iwan

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#83 - Sgwrs gyda Dr Iwan Owen- Deugain mlynedd o ddarlithio rheolaeth glaswelltir ym Mhrifysgol Aberystwyth

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear

Play Episode Listen Later Aug 6, 2023 21:40


Bydd Cennydd Jones, darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth a ffermwr rhan amser yn cael cwmni Dr Iwan Owen. Mae Iwan yn enw adnabyddus i lawer o gyn-fyfyrwyr Amaeth Prifysgol Aberystwyth, lle bu'n ddarlithydd rheolaeth glaswelltir am ddeugain mlynedd cyn iddo ymddeol yn llawn-haeddiannol yn 2021. Yn y rhifyn hwn fe gawn glywed am ei daith i fod yn ddarlithydd yn WAC (Welsh Agricultural Collage), pam fod gwneud gradd neu addysg bellach yn ddefnyddiol mewn diwydiant y mae nifer yn ei ystyried fel un ymarferol. Fe gawn hefyd gyfle i glywed ei argraffiadau am ddyfodol amaeth yng Nghymru.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 30ain 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Dec 30, 2022 13:34


Troi'r Tir – Cofio'r Nadolig 18.12 Buodd Troi'r Tir yn hel atgofion am Nadoligau'r gorffennol. Un o'r rheini siaradodd ar y rhaglen oedd Bessie Edwards o Gribyn ger Llanbedr-Pont-Steffan, a dyma hi'n cofio dydd Nadolig oedd yn wahanol iawn i Nadoligau'r dyddiau hyn... Hel atgofion Recollecting Tylwyth Teulu Arferiad A custom Celyn Holly Addurno To decorate Dim byd neilltuol Nothing particularly Melysion Sweets Cyngerdd cystadleuol A competitive concert Adloniant Entertainment Bore Cothi – Alwyn Sion 20.12 Blas ar Nadoligau'r gorffennol yn fanna gydag atgofion Bessie Edwards. Yn ystod wythnos y Nadolig ar Bore Cothi clywon ni Shan Cothi yn holi gwahanol bobl beth yw ystyr y Nadolig iddyn nhw. Dyma i chi Alwyn Sion yn sôn am sut oedd cymuned ffermio ardal Meirionnydd yn paratoi at yr Ŵyl….. Gwyddau Geese Nefoedd Heaven Plentyndod Childhood Prysurdeb Business Pluo To pluck Cynnau tân To light a fire Llygad barcud A keen eye Rhwygo To tear Braster Fat Glynu To stick Aled Hughes Rysait Nadolig 19.12 Pluo twrci ar gyfer ei rostio oedd Alwyn a'i deulu mae'n debyg, ond nid dyna sut oedd hi ers talwm. Dyma Elin Thomas yn esbonio wrth Aled Hughes sut oedd pobl yn coginio twrci yn y gorffennol pell... Brodorol Native Darganfod To discover Y cyfnod Tuduraidd The Tudor Age Poblogaidd Popular Ymhlith Amongst Bonheddig Aristocratic Uchelgeisiol Ambitious Y bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century Ymarferol Practical Cyfrol Tome Trystan ac Emma – Iwan Jones 16.12 Dw i'n siŵr bod nifer ohonon ni wedi bwyta llawer gormod dros yr Ŵyl, ond mae angen i Iwan Jones o Lwynygroes ger Tregaron fod yn ofalus iawn faint a beth mae e'n ei fwyta, a hynny oherwydd ei fod yn hoff iawn o gystadlu mewn cystadlaethau Ironman. Mae Iwan newydd ddod yn ôl o'r Unol Daleithiau ar ôl cystadlu ym mhencampwriaeth Ironman y byd. Dyma fe'n esbonio wrth Trystan ac Emma sut mae paratoi at gystadleuaeth o'r fath... Wedi bennu Wedi gorffen Ymroddiad Commitment Cyffwrdd To touch Egni Energy Yn feddyliol gryf Mentally strong Llonydd Tranquil Dros Ginio – Traddodiadau'r Nadolig 19.12 Iwan Jones oedd hwnna'n sôn am sut mae paratoi'n gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer cystadleuaeth Ironman. Ar Dros Ginio cafodd Dewi Llwyd sgwrs gyda'r hanesydd Nia Watkin Powell am hanes Gŵyl y Nadolig. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Cymharol diweddar Fairly recent Cydnabuwyd Was acknowledged I ryw raddau To some extent Yr Ymerodraeth Rufeinig The Roman Empire Mabwysiadu To adopt Troad y rhod Solstice Ailymddangos To reappear Led-led Throughout Wedi goroesi Has survived Dynodi To note Cofio – Nadolig 21.12 Diddorol on'd ife, bod cymaint o arferion y Nadolig wedi dod yn wreiddiol o'r oes cyn Crist. Ac i orffen yr wythnos hon dyma glip o raglen Cofio gyda W J Jones o Fangor yn cofio cinio Nadolig anarferol gafodd e yn yr Aifft adeg yr Ail Ryfel Byd. Yr Aifft Egypt Y lluoedd arfog The Armed Forces Gweinyddiaeth Administration Rheidrwydd Necessity Ufuddhau To obey Pa mo afresymol bynnag However unreasonable be it Byddent Basen nhw Llw tragwyddol An eternal oath Atgas Detestable Yn awchus Eagerly

Podpeth
Podpêl-droed 2022 (v Iran)

Podpeth

Play Episode Listen Later Nov 26, 2022 39:25


Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod ail gêm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 wrth iddynt golli 2-0 i Iran. Mae Mel yn darllen barddoniaeth Ryan Giggs, ac yn gofyn y cwestiwn - Pwy oedd Hitler?  Hefyd, cawn hanes sioe Spotify newydd Iwan (The Internet Radio Tapes). Mae Hywel ar ei ffordd i gig ym Mryngwran - Bragdy'r Beirdd, ac yn sôn am ei gigs ar y gweill.

Podpeth
Podpêl-droed 2022 (v Yr UDA)

Podpeth

Play Episode Listen Later Nov 22, 2022 30:57


Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958, ac yn trafod Qatar, caneuon Cwpan y Byd, Covid, Tudur Owen ar Gogglebocs, a Matt Hancock. Mae Hywel wedi cael lot gormod i yfed ac yn gohebu o Neuadd y Farchnad.

Podpeth
Syniadad #9 - LGBTQIA+ (15)

Podpeth

Play Episode Listen Later Jul 19, 2022 29:54


"Ydi o dal yn syniad fi 'lly?" "... Di o'm yn syniad" Mae calon @SpursMel yn y lle iawn gyda'i syniad diweddara' - ond mae o'n codi lot o gwestiynau. Mae Iwan, Elin a Hywel yn trio'u gorau i'w hateb.

lgbtqia elin hywel ydi mae iwan
Podpeth
Podpêl-droed 2021 (v Denmarc)

Podpeth

Play Episode Listen Later Jun 26, 2021 28:20


Mae antur Cymru yn Euro 2020 (a gyrfa Matt Hancock) wedi dod i ben, wrth i Denmarc guro ni 4-0... Mae Iwan a @SpursMel yn trafod y gêm, a'r stad ar Spurs, sydd bellach 2 fis heb rheolwr ers i Jose Mourinho adael, ac mae Hywel ac Elin yn galw i fewn o Bae Colwyn. Www! Egsotic! (Mae 'na sŵ yno). Croesi bysedd, bydd "Podpêl-droed" yn dychwelyd ar gyfer Cwpan y Byd 2022! Bydd Podpeth yn nôl yn fuan... 'Run amser wythnos nesaf?

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#20 - Ennill gwell dealltwriaeth o'ch busnes trwy fod yn aelod o grŵp trafod

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear

Play Episode Listen Later Jun 14, 2020 30:28


Yr wythnos hon mae Aled yn cyfweld Iwan Davies, Hafod y Maidd, Corwen. Mae Iwan yn aelod o Grŵp Bîff Hiraethog ac mae bod yn rhan o'r grŵp yn hanfodol i wella perfformiad ei fusnes. Mae Geraint Jones, ymgynghorydd busnes yn Kite Consulting wedi dadansoddi perfformiad busnes y grŵp ac wedi ymdrechu i gynyddu maint yr elw dros y blynyddoedd diwethaf.

yr aled corwen mae iwan
Podpeth
Podpeth #56 - "Paff-ddydd Hapus"

Podpeth

Play Episode Listen Later Dec 26, 2018 30:47


Iawn latch? Mae Iwan, Hywel ag Elin yn trafod Diwrnod Westminster.  Hefyd: rap battles Y Fari Lwyd, addunedau blwyddyn newydd a traddodiadau eraill Boxing Day Cymreig.

elin hywel paff hefyd mae iwan podpeth
Podpeth
Podpeth #47 - "Henffych"

Podpeth

Play Episode Listen Later Apr 1, 2018 73:00


Mae Podpeth yn ôl! Mae Iwan wedi cael gig gwael, ac yn cael rant mor anghyfforddus am y peth ein bod ni'n ei gladdu ar ddiwedd y bennod, ac mae Elin a Hywel wedi prynu tŷ! Wythnos yma yn Class Cymraeg, mae Elin yn trafod termau pêl-droed. Hefyd, mae Dad yn trafod y SyniaDad diweddaraf - "Talwn Y Beirdd".

Beti a'i Phobol
Iwan John

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 14, 2018 48:00


Yr actor Iwan John yw gwestai Beti George. Ganed Iwan yn Aberdâr ond fe symudodd y teulu i Abergwaun pan oedd yn dair oed. Yn un o dri o frodyr, fe gafodd ei addysg yn ysgol gynradd Abergwaun cyn symud unwaith eto, i Mynachlog-ddu y tro hwn. Mae Iwan yn adnabyddus am bortreadu cymeriadu doniol ac mae wedi ennill ei le yn oriel yr anfarwolion am ei gyfraniadau i deledu plant Cymru, yn eu plith Bwgan, Twm Tisian, Eddie Butler a DJ Sâl. Ond yn ogystal â rhaglenni plant mae wedi bod yn rhan o sawl rhaglen ddrama: Caryl, Cara Fi, Tair Chwaer a Beryl, Meryl a Cheryl.

Podpeth
Podpeth #43 - "Geriatric Mutant Ninja Plwmsans"

Podpeth

Play Episode Listen Later Sep 11, 2017 86:10


Mae Iwan yn ail-ddychmygu y Gruffalo o'r newydd, mae Elin yn dyfal donc yn Class Cymraeg, mae Hywel yn holi Hywel (Williams AS) ac mae @SpursMel yn pitchio SyniaDad newydd - "2050". Fydd y Bonws gyda sgwrs cyfan efo Hywel Williams allan yn fuan... Dilynwch ni ar Twitter @podpeth a cysylltwch drwy'r wefan - podpeth.com

ninjas mutant geriatrics elin gruffalo hywel hywel williams mae iwan podpeth
Podpeth
Podpeth #36- "Dai Sgyffaldi"

Podpeth

Play Episode Listen Later Jun 26, 2017 68:44


Rhan 1 o Podpeth 36! Yn y bennod yma mae Hywel, Elin ac Iwan yn trafod newyddiaduraeth, gwleidyddiaeth, y gwahaniaeth rhwng chick pea a runner bean, a pam bod Rupert The Bear yn gwisgo'r trowsus 'na?! Yn ymuno dros y we o Abertawe yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf mae'r bardd Elan Grug Muse, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter! Mae cyfrol newydd Grug (Ar Ddisberod) ar gael rŵan. Mae Iwan hefyd yn cyflwyno Odpeth yr wythnos (Sgert Cwl). Cadwch lygad allan am Ran 2 (Podpeth 36.5) i glywed SyniaDad wythnos yma (Y Targed) a Class Cymraeg!  

ran elin iwan yn hywel abertawe mae iwan podpeth
Podpeth
Podpeth #28 - Pod Damn

Podpeth

Play Episode Listen Later Mar 27, 2017 94:53


Shalom! Dim gwestai wythnos yma, ond mae'r Podpeth yn un hirach na'r arfer yn yr wythnos lle mae ymosodiad terfysg arall wedi digwydd. Mae Iwan, Hywel ac Elin yn trafod hyn a mwy, gan gynnwys hipster migraines, Zombi 2, gravlax, prancs a mwy! Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Dim Byd O Bwys".

Podpeth
Podpeth #24 - Podulike

Podpeth

Play Episode Listen Later Feb 27, 2017 70:39


#JeSuisIkea Cathod, gwrachod, Yncl Vern a zombies! Mae Iwan a Hywel Pitts yn nol i falu cachu am awr o'ch amser unwaith eto. Tro yma, mae Elan Mererid Rhys (Plu, Bendith) ar y soffa i drafod caws, ceir ac adar (diolch am eich cwestiynau Twitter - @Podpeth), cyn i'r hogia' plygio pethau (gig Hywel Nos Wener 3/3, podlediad arall Iwan sydd yn y "cloud") am rhy hir. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Incognito".

dad incognito tro iwan hefyd mae iwan podpeth hywel pitts
Podpeth
Podpeth #14 - Pod of Egypt

Podpeth

Play Episode Listen Later Dec 12, 2016 60:04


Ein gwestai arbennig trwy hud y rhyngrwyd ydi'r digrifwr Sarah Breese, sy'n ateb eich cwestiynau twitter (@Podpeth). Mae Iwan a Hywel yn trafod terfysgaeth a peanut butter, cyn ceisio am swydd fel cydweithredwyr S4C, ac mae Dad efo SyniaDad am gŵn yn canu.

dad hywel s4c sarah breese mae iwan podpeth
Podpeth
Podpeth #12 - Escape Pod New York

Podpeth

Play Episode Listen Later Nov 28, 2016 57:16


Podpeth ahoy! Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Rhys Gwynfor, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Mae Iwan ac Hywel yn trafod Fidel Castro, mae Iwan yn son am ei ddyfodol fel podlediwr a stand-up, cyn i Hywel bron iawn datgelu cyfrinach... Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Helfa'r Drons".

Podpeth
Podpeth #11 - Dad Pod

Podpeth

Play Episode Listen Later Nov 21, 2016 66:21


Wythnos newydd, Podpeth newydd! Ydi Iwan a Hywel wedi aberthu cynnwys o ansawdd er mwyn cael podlediad mwy cyson? Do. Ein gwestai arbennig ydi Nici Beech, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Mae Iwan hefyd yn eich annog i droi at drydaru er mwyn ein beirniadu yn gas am bodledu mor wael, wrth i Hywel (sydd yn hanner cysgu) hel atgofion am gael ei "happy slapio" ym Mangor. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Emosiynol".

dad hywel hefyd wythnos mangor mae iwan podpeth
Podpeth
Podpêl-droed (v Gogledd Iwerddon)

Podpeth

Play Episode Listen Later Jun 25, 2016 15:48


Mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi'r 1-0 yn erbyn Gogledd Iwerddon wrth i Gymru symud ymlaen i'r rowndiau gogynderfynol.  Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd yn y fanzone yn "Bale Coleman".   Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.

Podpeth
Podpêl-droed (v Rwsia)

Podpeth

Play Episode Listen Later Jun 21, 2016 17:37


Mae Iwan a @SpursMel yn dathlu'r 3-0 yn erbyn Rwsia wrth i Gymru orffen top y grŵp.  Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd bellach adra ym Mae Colwyn (neu, Coleman Bale), efo criw o ffrindiau sydd yn cynnwys Jack Peyton, sydd wedi bod yn brysur yn gwario ei bres i gyd ar roi gig mawr ymlaen yng Nghaernarfon (gyda'r gobaith o neud mwy).  Dyma linc Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.

cyn hywel podp gymru nghaernarfon mae iwan jack peyton
Podpeth
Podpêl-droed (v Lloegr)

Podpeth

Play Episode Listen Later Jun 16, 2016 14:12


Mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi ail gêm Cymru yn yr Ewros, yr 1-2 siomedig yn erbyn Lloegr.  Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd dal yn Bordeaux, efo Rhys Evans a Dan Owen o I Fight Lions. Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.

Podpeth
Podpeth 2K15 - Sbeshial Blynyddol

Podpeth

Play Episode Listen Later Jan 13, 2016 80:32


Mae hi'n flwyddyn newydd, amser i adolygu y flwyddyn oedd 2015...Mae Iwan ac Hywel yn trafod y gorau, y gwaethau, a'r Cymraeg: Ffilms Albyms Gêm Rhaglen Teledu Podlediad Ffad Digwyddiad Person Felly disgwyliwch digon o fwydro am Donald Trump, Jupiter Ascending, Great British Bake Off, Topknots a Rory McIlroy...

Podpeth
Podpeth #3 - Christmas Pod

Podpeth

Play Episode Listen Later Dec 23, 2015 49:00


Christmas Special 3 episodes in?! Mae Iwan a Hywel yn trafod bob math o bethau Nadoligaidd - Buddhism, Y Tri Sion Corn, America, Xbox One a Strictly Come Dancing efo Cai Gruffydd o Y Reu. A mi fydd @SpursMel yn nol efo syniad gwych arall.   Nadolig Llawen!

Podpeth - Cyfres 2
Pennod 6 Cyfres 2

Podpeth - Cyfres 2

Play Episode Listen Later May 24, 2013 39:40


Mae Iwan a Hywel yn datgelu'r rhesymau mae'r Gelfa'n dod i ben, mae Iwan yn dangos pam ddylai fod yn gomedïwr, a Hywel yn dangos pam ddylai actio.