POPULARITY
Cyfres 5, Pennod 25. Dafydd Iwan yn sgwrsio am beth sydd yn ei gymell i ymgyrchu dros gyfiawnder yr iaith a Chymru annibynnol, gyda Gaynor Jones o YesCymru Dyma'r link i'r ysgrif ar waith Dafydd Iwan gan Yr Athro E Wynn James- darllen difyr: https://www.cardiff.ac.uk/special-collections/subject-guides/welsh-ballads/dafydd-iwan
Yn y pennod yma mae Rhodri a Scott yn trafod sefyllfa yr amgylchedd a pa rol all Gogledd Cymru chwarae i wella pethau. hefyd mae Rhodri yn cyfweld a Rhian Williams o Dref Werdd ym Mlaenau Ffestiniog, i archwilio eu dull o fod yn fwy cynaliadwy yn gymunedol.
Pod 41: Tudalen newydd i Rob Page! Cyfweliad arbennig gyda Rob Page ar ôl iddo arwyddo cytundeb newydd pedair blynedd fel rheolwr Cymru. Cawn glywed hefyd gan reolwr Met Caerdydd, Ryan Jenkins, sy'n trafod y tymor hyd yma. A special interview with Rob Page who has signed a new four-year deal as Wales manager. Cardiff Met manager, Ryan Jenkins, joins Sioned Dafydd and Dylan Ebenezer to discuss the JD Cymru Premier season so far.
Cyfweliad estynedig gydag Ashley Williams ar drothwy Gemau Rhagbrofol Cwpan Y Byd yn erbyn Belarws a Gwlad Belg.
Pwy sy'n cofio gweld Emyn roc a rôl ar S4C? Neu Bob a'i Fam? Actores wych yw Delyth Eirwyn, neu efallai mai 'oedd' sy'n gywir erbyn hyn gan mai athrawes yw hi bellach. Cyfweliad wedi ei recordio yn ystod tywydd poeth iawn eleni ag ambell i hofrennydd neu feic modur yn y cefndir! Ha!! Recordio byw! Sgwrs ddiddorol am ei dyddiau cynnar yn actio a'i rhesymau dros newid gyrfa, 10 cwestiwn cyflym, a chwis bach! Ac os oes rhywun wedi gweld y ffilm sinema 'Arthur's Dyke', wel mae Delyth yn y ffilm honno! Ond i fi, 'Bob a'i fam' odd y gorau!
Cyfweliad arbennig gyda Phrif Weithredwr Y Gymdeithas Bêl-droed, Noel Mooney a chyfle i edrych mlaen i drydedd rownd Cwpan Cymru gydag Andy Morrison, rheolwr Cei Connah a Richard Ryan, rheolwr Trefelin. Am y tro cyntaf erioed, bydd camerâu byw Sgorio ar Barc yr Ynys, wrth i'r tîm o'r ail haen yn y de groesawu Pencampwyr yr Uwch Gynghrair. Trefelin v Cei Connah yn fyw ar S4C ddydd Sadwrn 25/09/21 am 12.30
Rheolwr Cymru C ac un o leisiau'r botwm coch, Mark Jones sy'n edrych nôl ar ddigwyddiadau mis Awst yn y Cymru Premier. Cyfweliad arbennig gydag MJ Williams, chwaraewr canol cae Bolton sy'n trafod dylanwad y Cymry ar y garfan ac edrych nôl ar y gêm gyfeillgar rhwng Y Ffindir a Chymru.
Nid Owain Gwynedd, y brenin hynafol sydd ar y podlediad wythnos hon (obvs) ond Owain Gwynedd, y cyflwynydd teledu ac un o'r bobl fwyaf diymhongar a 'neis' dwi'n i nabod. Dwi mor ddiolchgar i Owain am drafod pob fath o bethau yn ystod ein sgwrs dros zoom. Gyrfa, rygbi, gwaith a mater trist a phersonol o farwolaeth ei dad. Cyfweliad naturiol iawn, yn llawn hwyl ond hefyd yn un dewr iawn. Diolch Owain!
Cyfweliad a hanner wythnos hon! ''Cymraeg, ffeminist a phesimist'' (ei geiriau hi) Elliw Gwawr sy'n darlledu ar y teledu a'r radio am faterion seneddol a gwleidyddol yn San Steffan. Yn ogystal â hynny, mae hi hefyd yn sgrifennu llyfrau coginio ac yn fam frysur i ddau o fechgyn bach. Pleser oedd cael siarad â hi yn ddiweddar, dros zoom wrth gwrs, a fe nes i rili fwynhau ei chwmni (yn rhithiol). Sgwrs am wleidyddiaeth, darlledu, coginio, yr iaith Gymraeg, a chyfle i ddysgu lot fwy amdani drwy ofyn y 10 cwestiwn chwim! Mwynhewch y sgwrs, ac eto, cofiwch i wrando ar y penodau eraill sydd ar gael ar nifer o lwyfannau amrywiol.
Dyma bennod spesial iawn o PYC a phaned, gyda'n gwestai gyntaf sef Richard Lynch! Gwrandwech i glywed y goss i gyd tu ol i Gary a'i fywyd!
Cyfweliad ffraeth a threiddgar gyda'r storïwraig Tamar Eluned Williams www.tamarelunedwilliams.com Mae hi'n sôn am ei thaith o'r theatr i'r chwedl a dod nôl i Gymru a'r deunydd oedd wedi bod yn rhan ohoni eirioed - y Mabinogi.Siaradon ni am rym y chwedlau arnon ni fel rhai sydd yn eu hadrodd a'r effaith ar y gynulleiddfa; natur 'carpiog' naratif y Mabinogi fel adlewyrchiad teg a deinamic y byd sydd ohoni; grym cymdeithasol chwedleua fel arf diwylliannol sydd yn gallu gwneud ei hunan yn anweladwy ac wedyn camu ar lwyfan fawr a llawer mwy.
Bisâr, swreal, clyfar, doniol, deallus. Boneddigion a boneddigesau....Y comediwr, Noel James! Dylanwadau comedi, stâd comedi Cymraeg, Britain's got talent, cerdd fach i Max Boyce (nid i wrandawyr sensitif
Ar y rhaglen yma rydym yn cyfweld Nerys Jones. Merch o Aberteifi yw Nerys ac mae'n saff i ddweud fod chwaraeon yn rhan enfawr o fywyd Nerys. Mae wedi cynrhychioli GB mewn Biathlon a dechreuodd ei gyrfa triathlon trwy ENNILL Long Course Weekend yn 2014! Mae Nerys hefyd yn caru rhedeg yn enwedig o gwmpas arfordir Ceredigion. Cyfweliad hynod o ddiddorol gyda un o ferched mwyaf ysbrydoledig Cymru. Noddwyd y rhaglen yma gan JT Bicycle Service & Repairs. Ffeindiwch ei fanylion ar Facebook https://www.facebook.com/jtsbicycleseriviceandrepair I cysylltu â ni ebostiwch nawrywrawr@hotmail.com neu os yr ydych am rhagor o wybodaeth am cael ei hyfforddi gan Dai ebostiwch dctriathlon@outlook.com
Cyfweliad gyda dau o chwaraewyr Uwch Gynghrair Cymru Premier, Jake Phillips sy'n ymuno â'r Drenewydd, a Leo Smith sy'n ymuno â'r Seintiau Newydd. Wrth i Lionel Messi sgorio 700 gol yn ei yrfa, Gareth Roberts sy'n trafod y chwaraewyr eraill sydd wedi cyrraedd yr un garreg filltir.
Cyfweliad gyda'r chwaraewraig ifanc Carrie Jones, wrth edrych mlaen i gem Cymru yn erbyn Gogledd Iwerddon yn Rowndiau Rhagbrofol Ewro 2021.
⚽Pam mae Osian yn gadael tîm Cymru am Moroco? ⚽Pwy sydd yn ei “dream 11” Cymru? ⚽Sut mae cael y gorau allan o Gareth Bale? Sioned Dafydd sydd yn darganfod y cyfan yn y podlediad yma! #AtléticoHansh Mis yma ar y podlediad mae cyn is-reolwr a chyfarwyddwr technegol Cymru, Osian Roberts yn ymuno â Sioned ar y Gic Rydd. Ar ôl iddo gyhoeddi yn ddiweddar ei fod yn gadael ei swydd gyda Chymru er mwyn symud i weithio gyda thîm rhyngwladol Moroco, mae Sioned yn holi Osian am ei gyfnod gyda Chymru, uchafbwyntiau, isafbwyntiau a mwy am yr her newydd sydd ar y gweill yng Ngogledd Affrica.
Siôn Jobbins yn darlledu o Lansiad 'Undod' o'r Hen Goleg yn Aberystwyth, 26/1/2019, Cyfweliad gyda Sandy Clubb a Carl Morris.
Cyfweliad Aled Gwyn Job, Caffi Lolfa 18.11.2018 by Radio Yes Cymru
Siôn Jobbins yn sgwrsio gyda Jonathan Edwards ar gyfer Radio YesCymru 21/10/2018
Siôn Jobbins yn cyfweld ag Eurfyl ap Gwilym yn ystod Eisteddfod Caerdydd 2018. Yn Gymraeg.
Siôn Jobbins yn Cyfweld ag Adam Price yn narllediad cyntaf Radio YesCymru yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Yn Gymraeg / Siôn Jobbins interviews Adam Price in the first broadcast of YesCymru Radio during the 2018 National Eisteddfod at Cardiff.
Rhelowr newydd Llandudno yn son am gynlluniau Tudno a gair ar gyfer y Cofi Army.
Cyfweliad gyda Watcyn a Lowri James ar waith Cymdithas y Beibl. Yn dilyn mae Watcyn yn pregethu ar bennod cyntaf o'r Efengyl yn ol Ioan
Rhodri Darcy yn holi Gwenllian Edwards
Rhodri Darcy mewn cyfweliad a Arfon Jones