Cyfle i ni gyflwyno rhagor o wybodaeth am gynlluniau a cyfweld arbenigwyr, rhanddeiliaid a partneriaid. Mwynhewch! An opportunity for us to present more information about projects and interview the experts, stakeholders and partners. Enjoy!
In this Bonus Episode Scott interviews Craig from SportThought, an Anglesey based sports journalist, who works free to promote local sport. Y cyfweliad wedi ei weithredu yn Saesneg.
Yn y pennod yma mae Rhodri a Scott yn trafod sefyllfa yr amgylchedd a pa rol all Gogledd Cymru chwarae i wella pethau. hefyd mae Rhodri yn cyfweld a Rhian Williams o Dref Werdd ym Mlaenau Ffestiniog, i archwilio eu dull o fod yn fwy cynaliadwy yn gymunedol.
Wythnos yma ma Rhodri a Scott yn rhannu eu trafferthion fflyrtio yn y iaith Gymraeg, ac yn gymharu dydd sant Ffolant a dydd santes Dwynwen.
Ymunwch a Rhodri a Scott efo pennod arall o WMBO, lle fyddynt yn trafod y scene cerddoriaeth Cymraeg ac os oes modd i'w wella? Hefyd mae'r ddau yn mynd trwy eu spotify wrapped ac yn cymharu faint o gerddoriaeth Cymraeg wrandawon arnynt yn 2022.
Pennod 3 o wmbo. gan Scott Evans a Rhodri Prysor, yn y podlediad yma fyddynt yn trafod stad y diwydiant ffilm yng ngogledd Cymru, ac yn rhannu eu profiadau a'u gobeithion am dyfodol ffilm Cymraeg, gyda'r pwnc yn ymestyn i drafod y newyddion o'r sensws fod y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng, a'r prosiect GALWAD 2052 yng nghyd-destyn a hynny.
I ymuno a'r miwtini llawryddion gyrrwch e-bost i jade@mentermon.com am ffurflen cais, dyddiad cau: 18/01/2023 Yn yr pennod yma mae Rhodri a Scott yn son am eu profiadau yng ngweithio'n llawrydd a'r mantesion a'r anfanteision. Pennod llawn amdan ffilm yn nghymru ar ei ffordd yn fuan, felly gwrandwch allan!
Yr ail bennod o gyfres podleidiadau 'Wmbo' gan Scott Evans a Rhodri Prysor. Trafodwn ein profiad o defnyddio trafnidiaeth cyhoeddus Cymru, felly fyddwch yn barod am lawer o gwyno a swnian!
Podlediad newydd sy'n trafod popeth am bêl-droed o ein clybiau lleol i Gwpan y byd!
Podlediad newydd sy'n trafod popeth am bêl-droed o ein clybiau lleol i Gwpan y byd!
Podlediad newydd sy'n trafod popeth am bêl-droed o ein clybiau lleol i Gwpan y byd!
Podlediad newydd sy'n trafod popeth am bêl-droed o ein clybiau lleol i Gwpan y byd! Mwynhewch
Gwrando ar pennod cyntaf cyfres podlediadau 'Wmbo' gan Scott Evans a Rhodri Prysor. Yn y pennod yma cliwch y ddau yn trafod eu perthynas a'r iaith a beth mae'n ei olygu i fod yn berson ifanc Cymreig.
Podlediad newydd sy'n trafod popeth am bêl-droed o ein clybiau lleol i Gwpan y byd! Yn y bennod yma mae Begw Elain a Tesni Hughes yn trafod popeth am y gêm fawr heno rhwng Cymru v UDA! Mwynhewch!
‘Mae'n amser i ni yma yng Nghymru i ddweud stori ein hunain' // ‘It's time for us in Wales to tell our own story' Rhodri Prysor (Llwyddo'n Lleol 2050) yn siarad â Charlotte Williams sylfaenydd Hiraeth Films. Gwrandewch i glywed am brofiad Charlotte fel dogfenwraig ifanc o Gymru. Rhodri Prysor (Llwyddo'n Lleol 2050) speaks to Charlotte Williams founder of Hiraeth Films. Listen to hear about Charlotte's experience as a young Welsh documentarian.
Mae Gwyl Cefni yn ôl! Podlediad arbennig yn sôn mwy am yr Wyl.
Sgwrs efo Dewi Fôn Evans, Gwneuthurwr Ffilmiau o Fôn.
Sgwrs efo Bethan Morris, Swyddog Datblygu TIDE (Together in Dementia Everyday)
Sgwrs efo Tesni Hughes, Cantores a Chyfansoddwraig ifanc o Fôn.
Sgwrs efo Sioned Young, Swyddog Cyswllt a Chefnogaeth Hybiau Cymunedol Ynys Môn efo Age Cymru Gwynedd a Môn
Sgwrs efo Kai Saraceno, yn wreiddiol o'r Ffindir sydd wedi dysgu'r iaith Gymraeg ac yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Sgwrs efo Emily Roberts, Rheolwr Gweithredu a Profiad Cwsmer M-SParc am ei swydd, merchaid ym myd STEM a'r iaith Gymraeg.
Sgwrs efo Josef Roberts cyd-grëwr cwmni Pai Language Learning yn M-SParc,Gaerwen.
Sgwrs rhwng Elen Hughes a Virginia Crosbie am y profiad a'r pwysigrwydd o ddysgu Cymraeg ym Môn / Elen Hughes interviews Virginia Crosbie about her decision to learn the Welsh Language.
https://www.mentermon.com/wp-content/uploads/2018/01/PROFFIL-IAITH-MON-26-2-2021.pdf
https://www.mentermon.com/wp-content/uploads/2018/01/PROFFIL-IAITH-MON-26-2-2021.pdf
A podcast regarding the Ein Hanes Ni project
Podlediad yn trafod cynllun Ein Hanes Ni MIM
A chat about the Agri Food Director Role
Sgwrs am Swydd Cyfarwyddwr Bwyd Amaeth
Efo 2020 a 2021 wedi tynnu fwy o sylw tuag at y diwydiant gofal ac iechyd, mae’r sgwrs hyn yn trafod y mater o ddenu fwy o bobl ifanc fewn i yrfa yn y maes hwn. Gyda Gwenno Williams (Gofalwn Cymru) a Aimee Parry (prentis gofal) maent yn amlygu'r cyfleoedd sydd yn bodoli i bobl ifanc o fewn y maes gofal a sut all atynnu fwy ohonynt i ffeindio swyddi o fewn y diwydiant.
This podcast takes a look back at the 4 Smart Town Masterclasses which highlighted how towns in Wales could benefit from Smart Technology to help them recover from the impact of COVID 19. The podcast also provides an overview of the support which will be available to towns via the Welsh Government as part of the 'Year of SMART Towns' project. Contributing to the podcast is Clive Davies from Cardigan, Linda Chandler from Hyperlocal Cities, and Dafydd Gruffydd from Menter Môn. Mae'r podlediad yn edrych yn ôl ar y 4 gwersfeistr Trefi Smart oedd yn amlygu sut mae trefi yng Nghymru yn medru buddio wrth ddefnyddio Technoleg Smart. Mae'r podlediad hefyd yn rhoi trosolwg o'r gefnogaeth sydd ar gael i drefi fel rhan o'r cynllun "Blwyddyn Trefi Smart' Llywodraeth Cymru. Yn cyfrannu mae Clive Davies o Aberteifi, Linda Chandler o Hyperlocal Cities a Dafydd Gruffydd o Menter Môn.
In this episode, Rhys chats to Jo Hinchliffe, one of the technicians in Ffiws, about the project. We discuss Makerspaces, making, Repair Cafes and everything in between!
Sgwrs rhwng Nathan Craig a Daniel Lewis, ddau o Gaernarfon sydd yn rhan brosiect Llwyddo’n Lleol. Mae hefyd cwpl o leisiau cyfarwydd o’r dre i drafod sut beth yw bod cofi mewn busnes!
Sgwrs rhwng Alaw Williams, Mirain Rhisiart a Cynan Glyn o ail cohort Llwyddo’n Lleol. Mae Cynan yn gobeithio agor siop goffi ar stryd fawr Caernarfon, ble mae Mirain yn rhedeg siop INDI ar-lein, ac mae Alaw am agor bar ‘Jinsan’ gan ddefnyddio hen drelar ceffyl. Tri a ffyrdd gwahanol o redeg ei busnesau, felly beth yw eu teimladau a meddyliau am ddyfodol ein strydoedd mawr?
Sgwrs rhwng Lois Hughes, Osian Cai a Hedydd Ioan o ail cohort Llwyddo’n Lleol. Mae Lois yn datblygu ap iaith arwyddo drwy gyfrwng y Gymraeg, ar ôl gweld bod adnoddau fel hynny ddim yn bodoli yn barod. Mae Osian a Hedydd yn bartneriaid busnes a datblygu gwefan Tonfedd Arall yn cynnig gwersi offerynnol drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma ei barn nhw am y pwysigrwydd o ddysgu sgiliau newydd a bod y dewis yno i wneud hun yn yr iaith Gymraeg.
Gofod Gwneud cydweithredol sydd wedi cael ei leoli yn 125 Stryd Fawr, Porthmadog ydi Ffiws. Mae’r gofod yn cynnwys amryw o wahanol offer uwch-dechnolegol yn ogystal â offer electroneg ac offer llaw. Gan bod Ffiws ar gau ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau Covid-19, dyma sgwrs yn trafod Ffiws rhwng Rhys, Swyddog Prosiect Arloesi Gwynedd Wledig, a Menai, un o dechnegwyr Ffiws.
Ymunwch â Rhian, Elin a Rhys - Uwch Swyddogion Prosiect Arloesi Gwynedd Wledig i ddysgu mwy am y cynllun! Maent yn trafod y themâu, sef Mentro, Gwytnwch a Lleoedd, ac yn trafod rhai o'r prosiectau sydd o few y themâu yma.
Mae sefyllfa ail gartefi yng Ngwynedd a Môn yn peri ofn a phryder ymysg trigolion y ddwy Sir. Dyma bodlediad yn trafod effaith yr argyfwng ar ein pobl ifanc, ein iaith a’n diwylliant, gyda Rhys Tudur a Mared Llywelyn - aelodau blaenllaw o Gyngor Tref Nefyn. Ymgais Llwyddo’n Lleol yw cefnogi pobl ifanc i allu byw bywyd llawn yn eu cynefinoedd, ond rhaid gofyn y cwestiwn - oes hawl gan bobl ifanc i wneud hyn pan mae’r farchnad dai yn gweithredu fel ag y mae hi?
In this episode Elin, project officer at AGW chats to Geraint Hughes about the situation of the wool industry, and what AGW are doing to help.
Yn y bennod yma mae Elin, Swyddog Prosiect Arloesi Gwynedd Wledig yn sgwrsio gyda Geraint Hughes am yr heriau sy’n wybebu’r diwydiant gwlân.
Mae Lleucu Gwenllian yn un o’r 14 entrepreneur ifanc sy’n rhan o griw Llwyddo’n Lleol 2050. Ei breuddwyd yw agor stiwdio greadigol yng Ngogledd Cymru, sy’n cynnig llwyfan a sicrwydd i unigolion eraill sy’n rhannu’r un doniau. Mae Lisa Taylor yn artist anhygoel, ac yn engrhaifft arbennig o rhywun sydd wedi taclo’r ddamcaniaeth nad oes posib llwyddo yn ei milltir sgwar. Dyma gyfle i Lleucu i’w holi hi am ei phrofiadau. Gwrandewch!
Mae gan bawb iechyd meddwl, ond nid pawb sy’n siwr sut i siarad amdano ar adegau. Mae hyn yn enwedig pan nad yw’r meddwl mor iach ac y gallai fod. Dyma Arddun (meddwl.org) yn sgwrsio gyda Erin, un o’r criw Llwyddo’n Lleol sydd newydd gymhwyso fel hyfforddwraig iechyd meddwl ac eisiu datblygu ei gwasanaeth. Trafodaeth gonest sydd yma, gan obeithio fydd y gwaith mae’r ddwy yn ei wneud yn eu meysydd yn cynnig help llaw i’r rhai hynny sydd ei angen. “Does dim cywilydd gofyn am help...”
Mae Ifan Huw yn wreiddiol o Morfa Nefyn ond bellach yn byw yn Llundain... gwrandewch i glywed ei bersbectif o ar fywyd mewn dau fyd mor wahanol.
Sgwrs gonest yn cwestiynu, procio a herio’r sefyllfa sy’n wynebu ni fel pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru. Yda ni’n disgwl gormod? Yda ni’n styc mewn limbo? Oes na gyfleoedd? Gwrandewch ar beth sydd gan Jim i’w ddweud am ei ymgais o i lwyddo, a hynny yn lleol.
Mae Llwyddo’n Lleol wedi gorfod addasu yn sgîl COVID ond mae’r angen cymaint ag erioed. Dyma Elen a Dafydd yn siarad am y cynllun a sut byddwn yn cydweithio â phobl ifanc Môn a Gwynedd i ddangos fod modd llwyddo’n lleol.
Dafydd from MM and Guto Owen from discuss the creation of a Hydrogen Hub on Ynys Mon to take advantage of renewable energy production in the area, and serve a potential significant market.
Dafydd o MM a Guto Owen o Ynni Glan yn trafod potensial cynhyrchu a defnyddio Hydrogen yng Nghaergybi. English version also available.
In this episode we're discussing Arloesi Gwynedd Wledig's Fitbit on Cows project, which trialled tracking devices on a sample of cows at Glynllifon Farm College. Listen to expert James McIntyre, who installed the technology on the farm, and Rhodri Owen, Glynllifon Farm Manager, discuss the pilot and their initial opinion on the data collected. The project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government. It’s also part funded by the Nuclear Decommissioning Authority (NDA) and Gwynedd Council.
In this episode Eleth talks to Tegid Jones from Menter y Plu and Rhian Hughes from Arloesi Gwynedd Wledig about their crowdfunding campaign. In the summer of 2019 Arloesi Gwynedd Wledig helped Menter y Plu run a crowdfunding campaign to raise money towards buying Tafarn y Plu in Llanystumdwy. The project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government. It’s also part funded by the Nuclear Decommissioning Authority (NDA) and Gwynedd Council.
Mae Eleth yn siarad gyda Tegid Jones o Menter y Plu a Rhian Hughes o Arloesi Gwynedd Wledig am eu hymgyrch cyllid torfol. Yn haf 2019 bu i Arloesi Gwynedd Wledig helpu Menter y Plu i greu ymgyrch cyllid torfol ar gyfer codi arian i'w galluogi i brynu Tafarn y Plu yn Llanystumdwy. Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.