Hansh: Blas Cyntaf

Follow Hansh: Blas Cyntaf
Share on
Copy link to clipboard

Cyfle i chi greu podlediad ar gyfer Hansh. Rhywbeth newydd bob mis, am bob math o bynciau, gyda lleisiau newydd a diddorol. Syniad am bodlediad? Cysylltwch gyda ni!

Hansh

  • Jun 16, 2020 LATEST EPISODE
  • monthly NEW EPISODES
  • 25m AVG DURATION
  • 22 EPISODES


Search for episodes from Hansh: Blas Cyntaf with a specific topic:

Latest episodes from Hansh: Blas Cyntaf

Ydy hi'n amser edrych ar sut i wella addysg hanes BAME mewn ysgolion?

Play Episode Listen Later Jun 16, 2020 24:29


Gyda phrotestiadau Black Lives Matter yn digwydd ledled y byd, mae Nia Morais a Marged Parry yn siarad am hiliaeth yn yr ysgol a'r gwahaniaeth y byddai addysgu pobl am hanes BAME yn ei wneud. Mae nhw'n trafod profiadau Nia o hiliaeth, pwysigrwydd dysgu am lenyddiaeth awduron BAME, a sut y gallwn gadw'r sgwrs i fynd.

Cadw i Fynd gyda'r Chwiorydd EmpowerMe

Play Episode Listen Later Apr 1, 2020 21:39


Yn dilyn eu podlediad ar addunedau blwyddyn newydd ym mis Ionawr, mae’r Chwiorydd EmpowerME yn ôl i sôn am sut i gadw i fynd a gwneud gwir newidiadau tymor hir i’n meddylfryd, ein bywydau a’n hapusrwydd. Ma’ nhw’n trafod y pwysigrwydd o gymryd amser i edrych nôl, y ffyrdd gorau i gadw ffocws ac yn rhoi tipiau ar sut i gadw i fynd pan ma’ pethau yn mynd yn anodd. Rhybudd: Yn cynnwys iaith gref. Nodyn: Recordiwyd y podlediad cyn i’r canllawiau presennol o hunan-ynysu COVID-19 ddod yn weithredol.

Blwyddyn Newydd Dda gyda'r Chwirorydd EMpowerME: Addunedau

Play Episode Listen Later Jan 24, 2020 28:55


Oes pwrpas i addunedau blwyddyn newydd bellach? Sawl un sy’n cadw’i addunedau heibio i Ionawr gan wir neud newid i'w bywyd? Ydy ‘neud addunedau’n beth da neu’n beth drwg? Yn y podlediad yma mae'r mentoriaid meddylfryd Heledd a Lowri, y Chwiorydd EMpowerME, yn trafod manteision ac anfanteision addunedau blwyddyn newydd; pam eu bod yn methu, sut i ddewis yr addunedau cywir a sut mae’u cadw nhw; er mwyn gwneud gwir wahaniaeth i’n meddylfryd a’n hapusrwydd. RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref.

FFOTOPOD #1 - Daf a Rob

Play Episode Listen Later Dec 20, 2019 32:40


Mae'r ffotograffwyr Dafydd Nant a Rob Holding yn siarad am technegau ac yn rhoi tips tynnu lluniau.

Nadolig Y Morgans

Play Episode Listen Later Dec 19, 2019 20:32


Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda’r Morgans. Yn y podlediad yma ma’ Carys a Ffion o sianel youtube The Morgans yn trafod eu hoff a cas bethau am y Nadolig a sut ma’ nhw’n dathlu fel teulu. Beth yw eu hanrhegion gorau a gwaethaf? Oes rhaid gwisgo siwmper Nadolig dros yr ŵyl? A sut wnaeth Ffion ddanfon dad i A & E un 'Dolig? RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref!

Paned Am Y Blaned....gyda Ffion a Heini

Play Episode Listen Later Dec 5, 2019 20:47


Ymunwch a Ffion a Heini yn y podlediad yma wrth iddyn nhw gael Paned Am Y Blaned a siarad am….wel….y blaned. Ma’ nhw’n trafod yr hinsawdd, protestio a sut allwn ni gyd ddefnyddio ein llais i greu newid; ac yn rhoi ei barn ar bwy sy’n neud beth, ydyn ni gyd yn gallu neud mwy neu a oes angen i rai tynnu ei bys mas er mwyn i ni allu rhwystro’r argyfwng hinsawdd. Ydi e’n iawn i deimlo ‘euogrwydd eco’? Dyle ni gyd fod fel Greta Thunberg? A beth sy’n apelio am Extinction Rebellion? RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi!

Cysgu ("Awen" a "Sheila")

Play Episode Listen Later Oct 25, 2019 20:44


Mae Awen (Caryl Bryn) a Sheila (Mared Llywelyn) yn mynd i helpu chi ymlacio a disgyn i gysgu yn y podlediad arbennig ASMRaidd yma. Os oes ganddo'ch awydd wneud podlediad i Hansh, cysylltwch - hansh@antena.co.uk

Taith i'r Craidd

Play Episode Listen Later Oct 24, 2019 28:05


Yn y podlediad arbennig yma ma’ Tina a Nia yn sôn am eu Taith i’r Craidd: Siwrne ysbrydoledig o Fangor i Gaerdydd ar gefn beic tandem unigryw; wedi ei addasu i seiclo gyda choesau a breichiau. Ma’ nhw’n trafod y pwysigrwydd o beidio rhoi pobl mewn bocsys, pam dyle pawb wthio heibio’i limits a pha effaith gafodd y daith eithafol hon ar eu cyfeillgarwch.

Helo, Sut Ti'n Creu Sh*t?

Play Episode Listen Later Sep 27, 2019 24:41


Beth sy’n cysylltu bagpipes a chreadigrwydd? A ddylen ni gyd osgoi Twitter? Yn y podlediad yma mae’r dylunydd a Steffan Dafydd yn dringo mewn i ben y ‘sgwennwr’ Dyfan Lewis i ddarganfod be sy’n ei ysbrydoli i lenwi (a gwagio) ei sach creadigol, a pam benderfynodd gamu o’r pot i’r toiled ac mewn i’r byd cyhoeddi DIY. Ond, a fydd yr holl ymbalfalu yma ym mhen Dyfan yn helpu Steffan i ddeall creadigrwydd yn well? RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi

Panad Parr #1 - Stacy Winson

Play Episode Listen Later Aug 29, 2019 31:28


Ymunwch ag Al Parr wrth iddo drio paneidiau gwahanol o de tra'n rhoi'r byd yn ei le. Yn y bennod gyntaf ei westai ydi Stacy Winson, dynas trawsrywiol o Lanrug, sy'n trafod Pride, dod allan, troseddau casineb ac agwedd tuag at fywyd, yn ogystal a cael panad o de fintys.

Rhywlediad Hansh gyda Elin a Katie

Play Episode Listen Later Aug 22, 2019 23:38


Ydyn ni’n siarad digon am ryw yng Nghymru? Yn y podlediad hwn ma’ Elin Meredydd a Katie Hall yn trafod un o’u hoff bynciau - rhyw: Gan rannu eu straeon a’u profiadau personol mewn ffordd agored ac weithiau graffig. Mae’r sgwrs rywiol amrywiol yn neidio o ddirgrynwyr i siâp y serfics, o iechyd rhywiol i beli siglo ac mae gan Elin rhywbeth go arbennig i ddangos i Katie. RHYBUDD: MAE’R PODLEDIAD HWN YN CYNNWYS PYNCIAU GRAFFIG AEDDFED AC IAITH GREF SYDD YN ANADDAS I BLANT A GWRANDAWYR IFANC Do we talk about sex enough in Wales? In this podcast Elin Meredydd and Katie Hall chat about one of their favourite topics - sex: sharing personal stories and experiences in an open and sometimes graphic manner. The varied sex-themed dicussion leaps from vibrators to the shape of the cervix, from sexual health to jiggle balls and Elin has something special to show Katie. WARNING: THIS PODCAST CONTAINS MATURE GRAPHIC THEMES AND LANGUAGE WHICH IS UNSUITABLE FOR CHILDREN AND YOUNGER LISTENERS

Hollol Nyts....gyda Meleri ac Anna

Play Episode Listen Later Jul 5, 2019 18:28


Bydd chwarter ohonon ni yn cael ein heffeithio gan alergedd rhywbryd yn ystod ein bywyd. Ydy cael alergedd yn golygu stopio bwyta mas a newid ein ffordd o fyw? Beth ddylech chi neud os chi’n meddwl bod alergedd gyda chi? Sut ma’ helpu rhywun sy’n cael adwaith alergaidd? Yn y podlediad hwn bydd Meleri ac Anna yn trafod y pwnc, yn rhannu eu profiadau ac yn rhoi tips ar beth i neud os oes alergedd (neu fod chi’n meddwl bod alergedd) gyda chi. Am fwy o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei drafod yn y podlediad, cliciwch yma: http://www.s4c.cymru/cy/cymorth A quarter of us will be affected by an allergy at some point in our lives. Does having an allergy mean you have to stop eating out and change the way you live? What should you do if you think you have an allergy? How do you help someone who’s having an allergic reaction? In this podcast Meleri and Anna discuss allergies and share their experiences and tips about what to do if you have (or think you have) an allergy. For more information about the topics discussed in this podcast, click here: http://www.s4c.cymru/en/help

Ramadan dan sylw: Rhoi Eid yn ei le gyda Ameer a Yasmin

Play Episode Listen Later Jun 5, 2019 17:21


Yn y podlediad hwn bydd Ameer Rana yn sgwrsio â Yasmin Begum o Gaerdydd ar adeg bwysig yn y calendr Mwslimaidd: Ramadan ac Eid . Maent yn trafod mynd i’r mosg, sialensau ymprydio a’u hatgofion o dyfu fyny a dathlu’r gwyliau yng Nghymru: Beth y’ch chi’n cael neu ddim yn cael neud yn ystod Ramadan? Yw ymprydio’n dda i’r corff? A pham mae Ramadan mor bwysig yn Islam? Rhybudd: Yn cynnwys iaith gref! In this podcast Ameer Rana chats with Yasmin Begum from Cardiff during an important time in the Muslim calendar: Ramadan and Eid. They discuss going to the mosque, the challenges of fasting and their memories of growing up and celebrating the festivals in Wales: What can you and can’t you do during Ramadan? Is fasting good for the body? And why is Ramadan so important in Islam? Warning: Contains strong language!

Safio'r Byd efo Dan a Tom

Play Episode Listen Later May 22, 2019 31:06


A fyddai feganiaeth yn atal cynhesu byd-eang? Ydi Arnold Schwarzenegger yn arwr? Ydi Greta Thunberg jyst yn dojio ysgol? Oes unrhywun yn licio quiche? Tom ap Dan a Daniel Griffith sy'n trafod troi'n fegan, strapio uzi i fochyn, a thaflyd ysgytlaeth ar wleidyddion i SAFIO'R BYD.

Fel i Fod yn Ffeminist

Play Episode Listen Later May 9, 2019 25:56


Beth yw pwynt ffeministiaeth? Oes dal ei angen e yn 2019? Oes digon o ferched yn y diwydiant cerddoriaeth? Bydd Hollie a Gwenllian o'r band Adwaith yn trafod y pwnc a'u profiadau nhw o fod yn ferched ar y sîn gerddorol: Beth yw ffeministiaeth? Pam fod e dal yn bwysig heddiw?….A pham fod rhaid i fwy o ferched bigo lan offeryn a chamu ar y llwyfan. Rhybudd: Yn cynnwys iaith gref! What’s the point of feminism? Do we still need it in 2019? Are there enough women working in the music industry? Hollie and Gwenllian from the band Adwaith discuss feminism and their experiences of being women on the music scene. What is feminism? Why is it still important today?….And why more women need to pick up an instrument and step onto the stage. Warning: Contains strong language!

MADLIBINOGION gyda Elis a Tomos

Play Episode Listen Later Apr 16, 2019 21:21


Mae MADLIBINOGION yn cyfuno chwedlau’r Mabinogi a’r gêm geiriau Mad Libs. Yn y bennod gyntaf (ac, o bosib, yr olaf) mae Elis Derby a Tomos Morris-Jones yn chwarae ac yn ail-greu straeon Pwyll Pendefig Dyfed a Culhwch ac Olwen. Rhybudd – iaith gref a chynnwys anaeddfed.

Ffanibowan....gyda Heledd a Mari Elin

Play Episode Listen Later Mar 31, 2019 34:31


Beth sy'n cysylltu ffasiwn cynaliadwy a gin? Beth allwch chi neud a hen nicsys i achub y blaned? Beth yn y byd yw Ffanibowan? Croeso i fyd Heledd Watkins a Mari Elin Jones: Byd sy'n cyfuno ffasiwn, cerddoriaeth, celf....a gin. Rhybudd: Yn cynnwys rhegi! What links sustainable fashion and gin? What can you do with old knickers to save the planet? What on earth is Ffanibowan?! Welcome to the world of Heledd Watkins and Mari Elin Jones: A fusion of fashion, music, art....and gin. Warning: Contains swearing!

Diwedd y Sîn?....gyda Dan a Gwil

Play Episode Listen Later Mar 18, 2019 22:07


Beth yw dyfodol Sîn Cerddoriaeth Caerdydd? Dan Jones a Gwil Hughes sy'n trafod y sîn presennol, lleoliadau gigs pwysig yn cau a beth ma’ nhw'n meddwl sy'n mynd i ddigwydd nesaf. Oes gobaith i'r Sîn? Rhybudd - cynnwys iaith gref....a chadair wichlyd!

Mwydro Mawreddog Mari a Meilir

Play Episode Listen Later Feb 14, 2019 29:41


Ymunwch a'r actorion amryddawn Mari Beard a Meilir Rhys Williams wrth iddynt falu awyr am bopeth sydd yn bwysig iddyn nhw: Beth sy'n mynd i ddigwydd yn y ddrama 35 awr? pwy sy'n mynd i ennill RuPaul's Drag Race?.....A byddant yn ateb y cwestiwn hollbwysig: 'top or bottom'? Rhybudd – yn cynnwys rhegi!

Dwy Chwaer, Un Het....Sion Corn: Hanna a Mared Jarman

Play Episode Listen Later Dec 23, 2018 30:57


Mae Dwy Chwaer Un Het yn dychwelyd gyda Hanna a Mared Jarman yn tynnu a thrafod pynciau Nadoligaidd o het Sion Corn. Beth oedd eu anrheg Nadolig gwaethaf, pa hysbysebion sydd wedi creu argraff....ac ydy Sion Corn yn 'scary'?! Rhybudd – yn cynnwys rhegi!

Mynd Rownd a Rownd gyda Tom a Dyl

Play Episode Listen Later Dec 7, 2018 24:04


Tom a Dyl sy'n trafod pwnc pwysig sydd yn agos iawn at eu calonnau: Rownd a Rownd! Fel connoiseurs o'r opera sebon anfarwol cawn eu persbectif unigryw nhw ar y gyfres, clywed am eu hoff gymeriadau a straeon dros y blynyddoedd....a beth am spin-off yn Aberystwyth? Rhybudd – yn cynnwys rhegi.

Dwy Chwaer...Un Het: Hanna a Mared Jarman

Play Episode Listen Later Sep 20, 2018 19:18


Hanna a Mared Jarman sydd yn cyflwyno podlediad Hansh yr wythnos hon. Dwy Chwaer, Un Het, fformat newydd i'r podlediad lle mae'r ddwy yn tynnu enwau allan o het ar hap ac yn trafod y pynciau llosg. Rhybudd – yn cynnwys rhegi!

Claim Hansh: Blas Cyntaf

In order to claim this podcast we'll send an email to with a verification link. Simply click the link and you will be able to edit tags, request a refresh, and other features to take control of your podcast page!

Claim Cancel