Podcasts about dyfodol

  • 15PODCASTS
  • 29EPISODES
  • 34mAVG DURATION
  • ?INFREQUENT EPISODES
  • Aug 31, 2023LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about dyfodol

Latest podcast episodes about dyfodol

Y Coridor Ansicrwydd
Dyfodol Rob Page, "shin pads" a taro 200

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Aug 31, 2023 38:48


Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried os ydi dyfodol rheolwr Cymru Rob Page yn y fantol dros y ddwy gêm nesaf. A'r cwestiwn mawr - pa "shin pads" oedd y ddau'n gwisgo?

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#81 - Dyfodol moesegol y diwidiant llaeth

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear

Play Episode Listen Later Jul 4, 2023 64:54


Mae Angharad Menna, cyflwynydd newydd arall ar y podlediad hwn yn cyfweld â'i gwestai cyntaf, Anna Bowen, Ysgolhaig Nuffield (a noddir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Elizabeth Creake) sydd wedi teithio'r byd i astudio dyfodol moesegol ffermio llaeth. O fewn y bennod hon, byddwn yn clywed mewn manylder am eu phrofiadau mewn meysydd megis ymarferoldeb cyswllt buchod a lloi,  y defnydd gorau o semen rhyw, a dod o hyd i farchnad ar gyfer lloi eidion or fuches laeth. A allai'r diwydiant hefyd ddysgu oddi wrth rasio ceffylau a'i drwydded gymdeithasol? Os yw'r bennod hon yn eich cymell i ehangu'ch gorwelion mae'r ceisiadau ar gyfer Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield 2024 AR AGOR! Y dyddiad cau yw 31 Gorffennaf 2023, ewch i'w gwefan am ragor o fanylion.

os dyfodol
Pod Sgorio
Irate 8: Y Dyfodol

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Jun 11, 2023 31:52


Dyma stori yr Irate Eight: Bae Colwyn, Bangor, y Barri, Caernarfon, Casnewydd, y Drenewydd, Merthyr, a'r Rhyl. Mewn cyfres arbennig gan bodlediad Sgorio fyddwn ni'n olrhain hanes ein cynghrair cenedlaethol, a'r wyth clwb cafodd yr alwad i ddychwelyd i Gymru yn 1992. Fe glywn ni wrth y cefnogwyr a'r chwaraewyr oedd yno ar y pryd, newn ni ddilyn hanes yr wyth clwb hyd heddiw, a gofyn shwt ma pethe am newid i'r clybiau yn y dyfodol. Wedi 30 mlynedd wedi mynd ers dechrau Uwch-gynghrair Cymru, mae clybiau'r Irate Eight wedi dilyn wyth trywydd hollol wahanol erbyn hyn. Gyda'r Gymdeithas Bel-droed yn rhedeg arolwg o'r gynghrair yng Nghymru, sut mae perthynas yr wyth clwb gyda'r system ddomestig yng Nghymru am newid yn y dyfodol? Diolch i holl gyfrannwyr y gyfres am eu hamser nhw – eu stori nhw yw hwn. This is the story of the Irate Eight: Colwyn Bay, Bangor, Barry, Caernarfon, Newport, Newtown, Merthyr, and Rhyl. In a special series by the Sgorio podcast we trace the history of our national league, and the eight clubs that were called to return to Wales in 1992. We will hear from the fans and players who were there at the time, we will follow the story of the eight clubs up to this day, and ask what the future holds in store. 30 years have passed since the start of the League of Wales, with the Irate Eight clubs having all followed different paths. The FAW is currently reviewing the league, so how is the relationship of the eight clubs with the domestic system in Wales likely to change in the future? Thanks to all the contributors to the series for their time - this is their story.

Welsh phrase of the week- week one
Gwaith iaith- amser dyfodol/ language work- future tense

Welsh phrase of the week- week one

Play Episode Listen Later Mar 17, 2023 4:20


In this podcast we'll be practising the future tense

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#75 - Bridio porfeydd: Plannu hadau'r dyfodol

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear

Play Episode Listen Later Jan 8, 2023 23:29


Porfa bydd ffocws y podlediad yma yng nghwmi Cennydd Jones, darlithydd rheolaeth glaswelltir ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn ffermwr rhan amser hefyd. Bydd Cennydd yn cael cwmni Alan Lovatt sydd wedi bod yn fridiwr glaswellt trwy yrfa ac erbyn hyn yn gwneud gwaith ymgynghorol i gwmni Germinal sydd wedi ei leoli yng Ngogerddan ger Aberystwyth. Gyda dros 75% o dirwedd Cymru yn laswelltir o ryw fath neu'i gilydd, ac o ystyried bod glaswelltir yn rhan hanfodol bwysig o ddiet gwartheg, defaid, ceffylau a hyd yn oed geifr ac alpacas, mae glaswelltir heb os nac oni bai yn rhan allweddol o'r jig-so pan mae'n dod at daclo newid hinsawdd, bwydo'r boblogaeth a chynyddu elw ar ein ffermydd, ac fe fyddwn yn cyffwrdd a'r holl agweddau pwysig hyn yn ystod yr 20 munud nesaf.

Syniadau Iach
Dyfodol digidol y GIG

Syniadau Iach

Play Episode Listen Later Jul 11, 2022 26:26


Mae Syniadau Iach yn croesawu Ifan Evans o Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Huw Thomas o Fwrdd Iechyd Hywel Dda i drafod technoleg a'r chwildro digidol fydd yn rhan annatod o'r GIG y dyfodol.

gig iechyd dyfodol
Bwletin Amaeth
Systemau cynhyrchu bwyd y dyfodol

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Jun 14, 2022 5:14


Aled Rhys Jones gydag ymateb Owen Roberts o HCC i adroddiad y ‘Social Market Foundation'.

The Democracy Box
Beth yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol?

The Democracy Box

Play Episode Listen Later Apr 26, 2022 24:14


Yn y rownd derfynol hon o dair pennod mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol mae'r cyd-grewyr ifanc Kat a Rhys yn sgwrsio â Cara, aelod o dîm y Comisiynydd ac yn cynnal cyfweliad cwestiynu chwim terfynol gyda Eurgain Powell wrth iddynt fynd i'r afael â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a'r hyn y mae'r ddeddfwriaeth hon yn ei olygu i bob cenhedlaeth yng Nghymru a'n democratiaeth.

yn nghymru dyfodol
The Democracy Box
Beth yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol? (Pennod Oedran Ysgol Gynradd)

The Democracy Box

Play Episode Listen Later Apr 12, 2022 30:12


Dyma pennod arbenning yn ein podleidiad sy'n cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer ein gwrandawyr iau. Yn ystod y pennod yma, sydd trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, mae cyd-grëwr ifanc Emily yn sgwrsio â Cara o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, a disgyblion o Ysgol Gymraeg Casnewydd, Casnewydd

The Democracy Box
Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, Etholiadau Lleol a Maniffestos

The Democracy Box

Play Episode Listen Later Mar 28, 2022 29:03


Mae cyfres podlediadau Y Blwch Democratiaeth yn ôl gyda 6 phennod ddwyieithog newydd sbon mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i helpu pawb i ddeall ddemocratiaeth Cymru/DU. Yn y ddwy bennod newydd hon mae cyd-grewyr ifanc Y Blwch Democratiaeth yn sgwrsio â phobl ifanc yn nhîm Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i weithio allan beth yw eu barn am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, Etholiadau Lleol a Maniffestos. Yn ystod y bennod Gymraeg mae'r cyd-grewyr ifanc Kat & Rhys yn sgwrsio gyda Huw a Deian.

huw yn gymraeg dyfodol deian
Y Coridor Ansicrwydd
Heb y gorffennol, does dim dyfodol...

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Dec 21, 2021 46:07


Y sylwebydd pêl-droed Dylan Griffiths sy'n ymuno efo Owain Tudur Jones a Malcolm Allen i edrych yn ôl ar uchafbwyntiau 2021. Ac wrth gwrs, mae gan Mal ddigon o jôcs Nadoligaidd i agor ffatri gracers.

ac dyfodol
Just the Ticket | Jest y Tocyn
Building Futures - On the Right Track | Creu Dyfodol - Ar y trywydd iawn

Just the Ticket | Jest y Tocyn

Play Episode Listen Later Dec 6, 2021 28:07


We're joined by Rail Programme Director Karl Gilmore and Arc Cymru's Kate Carr to talk about Building Futures, a scheme that will help rehabilitate people and provide them with an opportunity to change their life. Ar y bennod hon, mae Cyfarwyddwr y Rhaglen Rheilffordd Karl Gilmore a Kate Carr o Arc Cymru yn ymuno â ni i siarad am Creu Dyfodol, cynllun a fydd yn helpu i ailsefydlu pobl a rhoi cyfle iddynt newid eu bywyd.

Menter Môn - Sgyrsiau am Gynlluniau / Talks About Projects

Efo 2020 a 2021 wedi tynnu fwy o sylw tuag at y diwydiant gofal ac iechyd, mae’r sgwrs hyn yn trafod y mater o ddenu fwy o bobl ifanc fewn i yrfa yn y maes hwn. Gyda Gwenno Williams (Gofalwn Cymru) a Aimee Parry (prentis gofal) maent yn amlygu'r cyfleoedd sydd yn bodoli i bobl ifanc o fewn y maes gofal a sut all atynnu fwy ohonynt i ffeindio swyddi o fewn y diwydiant.

efo dyfodol
Cardiff University
Y Gymraeg a’r Pandemig: Ail-lunio’r Dyfodol?

Cardiff University

Play Episode Listen Later Mar 17, 2021 57:12


Y Gymraeg a’r Pandemig: Ail-lunio’r Dyfodol? Prifysgol Caerdydd mewn trafodaeth â… Mabli Jones, Savanna Jones a Yr Athro Laura McAllister (PhD 1995, Hon 2013) The Welsh Language and the Pandemic: Re-shaping the Future? Cardiff University in conversation with… Mabli Jones, Savanna Jones and Professor Laura McAllister CBE (PhD 1995, Hon 2013)

Menter Môn - Sgyrsiau am Gynlluniau / Talks About Projects

Sgwrs rhwng Alaw Williams, Mirain Rhisiart a Cynan Glyn o ail cohort Llwyddo’n Lleol. Mae Cynan yn gobeithio agor siop goffi ar stryd fawr Caernarfon, ble mae Mirain yn rhedeg siop INDI ar-lein, ac mae Alaw am agor bar ‘Jinsan’ gan ddefnyddio hen drelar ceffyl. Tri a ffyrdd gwahanol o redeg ei busnesau, felly beth yw eu teimladau a meddyliau am ddyfodol ein strydoedd mawr?

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#34 - Cynllunio busnes a dyfodol ffermio gydag Euryn Jones

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear

Play Episode Listen Later Jan 22, 2021 34:18


Mae yna newid mawr yn wynebu ffermwyr dros y blynyddoedd nesaf. Yn y podlediad yma mae Euryn Jones, Dirprwy Bennaeth Amaeth HSBC a Chadeirydd Bwrdd Strategol Cyswllt Ffermio, yn rhannu ei weledigaeth a chyngor ar sut i baratoi eich busnes fferm at y dyfodol.

yn dyfodol
Institute of Welsh Affairs
21/01/2021 IWA Media Summit: S4C - Ariannu, Covid a'r Dyfodol (Cymraeg)

Institute of Welsh Affairs

Play Episode Listen Later Jan 21, 2021 49:01


The IWA Cardiff Media Summit 2021 is a series of four events focusing on the new landscape for media in Wales. O Ebrill 2022 ymlaen bydd y cyfan o arian cyhoeddus S4C yn dod o ffi’r drwydded. Gyda’r broses o drafod setliad ariannu S4C o 2022 hyd 2027 wedi cychwyn, y newyddiadurwr Guto Harri sy’n holi Owen Evans, Prif Weithredwr S4C. Dyma gyfle i glywed gan Brif Weithredwr S4C sut bydd y sianel yn ymateb ac yn parhau i esblygu wedi cyfnod heriol iawn ym myd darlledu. From April 2022 all of S4C’s public funding will come from the licence fee. With the discussion over the funding settlement for 2022 to 2027 underway, journalist Guto Harri interviews S4C Chief Executive, Owen Evans. This is an opportunity to hear from the Chief Executive of S4C about how the channel will respond and how the service will continue to evolve despite a challenging time for broadcasting. Attendees could engage in debate and ask questions on the live chat. #IWAMedia

Institute of Welsh Affairs
21/01/2021 IWA Media Summit: S4C - Ariannu, Covid a'r Dyfodol (English)

Institute of Welsh Affairs

Play Episode Listen Later Jan 21, 2021 48:40


The IWA Cardiff Media Summit 2021 is a series of four events focusing on the new landscape for media in Wales. This event uses a simultaneous translator to translate from Welsh into English. From April 2022 all of S4C’s public funding will come from the licence fee. With the discussion over the funding settlement for 2022 to 2027 underway, journalist Guto Harri interviews S4C Chief Executive, Owen Evans. This is an opportunity to hear from the Chief Executive of S4C about how the channel will respond and how the service will continue to evolve despite a challenging time for broadcasting. Attendees could engage in debate and ask questions on the live chat. #IWAMedia O Ebrill 2022 ymlaen bydd y cyfan o arian cyhoeddus S4C yn dod o ffi’r drwydded. Gyda’r broses o drafod setliad ariannu S4C o 2022 hyd 2027 wedi cychwyn, y newyddiadurwr Guto Harri sy’n holi Owen Evans, Prif Weithredwr S4C. Dyma gyfle i glywed gan Brif Weithredwr S4C sut bydd y sianel yn ymateb ac yn parhau i esblygu wedi cyfnod heriol iawn ym myd darlledu.

Ar y Marc
Merthyr, Uwch Gynghrair Merched Cymru a Neville Southall.

Ar y Marc

Play Episode Listen Later Sep 26, 2020 30:08


Dyfodol tîm Merthyr Tudful, gobeithion tîm merched Caerffili am y tymor ac adolygiad o lyfr newydd Neville Southall.

Y Coridor Ansicrwydd
Chwe phwynt, Ampadu a darogan y dyfodol

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Sep 10, 2020 38:10


Owain a Malcolm sy’n asesu dwy fuddugoliaeth Cymru ac yn rhoi eu pennau ar y bloc ar drothwy tymor newydd

cymru owain dyfodol
Bwletin Amaeth
Dyfodol lladd-dai bach

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Jun 16, 2020 5:13


Aled Rhys Jones sy'n trafod dyfodol lladd-dai bach yng nghwmni'r cigydd o Fachynlleth, Wil Lloyd Williams. Hefyd, sylw i'r twf yng ngwerthiant cig eidion a phorc.

bach hefyd dyfodol
Y Coridor Ansicrwydd
Dyfodol Joe Allen, Y Swltan a Cwpan Cymru

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Jan 27, 2020 40:44


Owain a Malcolm yn trin a thrafod digwyddiadau’r wythnos yn y byd pêl-droed yng Nghymru a thu hwnt gan gynnwys Joe Allen, Caerdydd yng Nghwpan FA Lloegr a Cwpan Cymru.

Syniadau Iach
Gofal iechyd Cymru’r dyfodol

Syniadau Iach

Play Episode Listen Later May 14, 2019 29:21


Mae Syniadau Iach yn trafod gweledigaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ynglŷn â’r ffordd y gall arloesedd wella’r byd iechyd a gofal yng Nghymru. Mae anghydraddoldebau iechyd yn broblem fawr yng Nghymru, medd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford AC ond mae ganddo weledigaeth am sut y gellid ddefnyddio arloesedd i wella’r sefyllfa. “Bydd arloesi’n cynnig nid yn unig ffordd i wella gofal iechyd ond bydd yn ein helpu ni ar y daith i sicrhau Cymru fwy cyfartal,” meddai.Yn y podlediad hwn bydd Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan a’r Dr. Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito, yn ymateb i’r weledigaeth hon. Mae Sion o’r farn bod yr un feddylfryd sydd ganddo ni wrth ddefnyddio ffôn i archebu tacsi yn “gallu helpu ni i baratoi gwasanaethau iechyd gwell yng Nghymru.” Treuliodd Elin lawer o'i hamser fel nyrs bediatrig yn gofalu am blant â chlefydau prin. Ar ôl teimlo bod y dulliau o fonitro’r cleifion yn aneffeithiol, fe wnaeth Elin feddwl am y syniad o fonitro cleifion o bell mewn amser real ac fe sefydlodd gwmni ei hun i wireddu’r syniad hwn.Ond nid technoleg yn unig all fod o help i gleifion Cymru. Meddai Elin, “ Y peth mwyaf innovative allwn ni wneud yw tynnu allan o’r sustem y practises sydd ddim yn gweithio bellach.” Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.

Hansh: Blas Cyntaf
Diwedd y Sîn?....gyda Dan a Gwil

Hansh: Blas Cyntaf

Play Episode Listen Later Mar 18, 2019 22:07


Beth yw dyfodol Sîn Cerddoriaeth Caerdydd? Dan Jones a Gwil Hughes sy'n trafod y sîn presennol, lleoliadau gigs pwysig yn cau a beth ma’ nhw'n meddwl sy'n mynd i ddigwydd nesaf. Oes gobaith i'r Sîn? Rhybudd - cynnwys iaith gref....a chadair wichlyd!

sin buffalo dan jones gyda oes podlediad dyfodol cerddoriaeth clwb ifor bach
Institute of Welsh Affairs
July 2017: Session 1 of ''A smart energy future for Wales / Dyfodol ynni glyfrach i Gymru"

Institute of Welsh Affairs

Play Episode Listen Later Jul 19, 2017 68:19


The opening sessions of the IWA / Smart Energy GB event "A smart energy future for Wales" / "Dyfodol ynni glyfrach i Gymru" that took place at the Radisson Blu hotel on Wednesday 12th July 2017.

Institute of Welsh Affairs
July 2017: Session 2 of "A smart energy future for Wales / Dyfodol ynni glyfrach i Gymru"

Institute of Welsh Affairs

Play Episode Listen Later Jul 19, 2017 52:13


The post-break sessions of the IWA / Smart Energy GB event "A smart energy future for Wales" / "Dyfodol ynni glyfrach i Gymru" that took place at the Radisson Blu hotel on Wednesday 12th July 2017.

Gweithgareddau Papur

dyfodol
Haclediad – Hacio’r Iaith
Haclediad 15.5 – Yr Iest Test: Adroddiad Digidol S4C

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Dec 20, 2011 49:18


Anrheg Nadolig cynnar i chi Hacledffans, dyma ein hasesiad ni o adroddiad Panel Digidol S4C – Cofleidio’r Dyfodol. Mae Rhodri ap Dyfrig (@nwdls), aelod o’r panel yn mynd a ni trwy’r adroddiad, a be mae’n meddwl i ni ddefnyddwyr gwasanaethau S4C. Bydd Iestyn yn rhoi’r adroddiad i’r Iest Test, gwrandewch i glywed y ddyfarniad. Nadolig Llawen iawn hefyd i chi gyd sy’n gwrando, a diolch mahwsif i chi am wneud. Ymlaen i Hacio’r Iaith 2012! The post Haclediad 15.5 – Yr Iest Test: Adroddiad Digidol S4C appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad. Special Guest: Rhodri ap Dyfrig.

s4c nadolig llawen iaith dyfodol
Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 15: Yr un Gaeafol

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Dec 5, 2011 55:50


Croeso i rifyn gaeafol, lled-Nadoligaidd diweddaraf yr Haclediad! Tro hwn bydd Bryn (@Bryns), Iestyn (@Iestynx) a Sioned (@llef) yn trafod Rasberry Pi – y cyfrifiadur bach haciol i blant (neu ni oedolion!) ddysgu rhaglennu, adroddiad Cofleidio’r Dyfodol am ddyfodol digidol S4C; y rhwydwaith cymdeithasol newydd Path ac wrth gwrs Hacio’r Iaith 2012 (Aberystwyth 27 a 28 Ionawr, dewch yn llu!). Gobeithio gwnewch chi fwynhau, ac os na, dangoswch eich rhesymu yma! Dolenni Swyddi cynnwys Digidol yn S4C Adroddiad “Cofleidio’r Dyfodol” Raspberry Pi Spotify – API newydd wp di dw? Path Hacio’r Iaith 2012! The post Haclediad #15 – Yr un Gaeafol appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.