Podcasts about sbaen

  • 12PODCASTS
  • 20EPISODES
  • 33mAVG DURATION
  • ?INFREQUENT EPISODES
  • Oct 17, 2023LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about sbaen

Latest podcast episodes about sbaen

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref yr 17eg 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 17, 2023 11:30


Pigion Dysgwyr – Peris Hatton Mae Peris Hatton newydd gyhoeddi llyfr ar gasglu crysau pêl-droed o wahanol gyfnodau. Enw'r llyfr yw “The Shirt Hunter”. Mae e wedi bod yn casglu ers dros dau ddeg pum mlynedd….dyma fe i sôn mwy am yr obsesiwn ar raglen Aled Hughes. Newydd gyhoeddi Just published Cyfnodau Periods of time Ddaru Wnaeth Poblogaidd Popular Oddeutu Tua Mwydro To bewilder Newydd sbon Brand new Offer Equipment Pigion Dysgwyr – Jane Blank Peris Hatton oedd hwnna'n sôn am ei obsesiwn gyda chrysau pêl-droed. Ar BBC Sounds ar hyn o bryd mae'r awdures Jane Blank yn sôn am hanes ei theulu mewn cyfres o'r enw “Fy Achau Cymraeg”. Roedd hi ar raglen Shan Cothi wythnos diwetha i sôn ychydig am ei theulu. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Cyfres Series Achau Lineage Mamgu a tad-cu Nain a taid Ambell i deulu Some families Chwant Desire Tyrchu'n ddwfn To dig deep Pigion Dysgwyr – Beti George Ewch i BBC Sounds os ydych chi eisiau clywed rhagor o'r sgwrs ddifyr honno. Ers bron i bedwar deg mlynedd mae Beti George wedi cyflwyno Beti a'i Phobol. A hi oedd gwestai gwadd Shelley a Rhydian yn ddiweddar ar eu rhaglen Sadwrn. Dyma Beti i esbonio ychydig am gefndir y rhaglen wythnosol mae hi'n ei chyflwyno Yn ddiweddar Recently Bodlon Willing Enghraifft berffaith A perfect example Hyn a'r llall This and that Croesawu To welcome Dwys Intense Pigion Dysgwyr – Ifan Huw Dafydd Ac mae Beti wastad yn neis on'd yw hi, ac yn cael sgyrsiau diddorol gyda'i gwestai. Yn ddiweddar buodd yr actor Ifan Huw Dafydd ar daith gerdded Llwybr y Pererinion sef y Camino Frances, i Santiago de Compostela yn Sbaen. Roedd e'n codi arian i elusen Jac Lewis. Mae elusen Jac Lewis yn cefnogi lles meddwl pobl ifanc ac yn cynnig help i'w teuluoedd... Dyma Ifan Huw Dafydd ar raglen Ifan Jones Evans yr wythnos diwetha yn rhannu ambell i stori o'r daith. Pererinion Pilgrims Elusen Charities Lles meddwl Mental welfare Traddodiad Tradition Bys troed Toe Crwtyn Bachgen Anhygoel Incredible Llwch Ashes Gwasgaru Scatter Pigion Dysgwyr – Heledd Garddio Llongyfarchiadau mawr i Ifan Huw Dafydd am lwyddo i wneud y daith arbennig hon, ac roedd cwmni diddorol iawn ganddo ar y ffordd on'd oedd? Weithiau mae ‘Heledd Garddio' yn cyfrannu at raglen Caryl Parry Jones i rannu ei chyfrinachau garddio gyda Caryl a'r gwrandawyr. Ond wythnos diwetha rhannodd Heledd gyfrinach wahanol iawn gyda Caryl sef beth fasai ei pharti delfrydol hi…… Cyfrannu To contribute Cyfrinachau Secrets Delfrydol Ideal Crybwyll To mention Plentynaidd Childish Sa i di meddwl Dw i ddim wedi meddwl Pigion Dysgwyr – Awduron Mae parti Heledd yn swnio'n llawer o hwyl on'd yw e? Mae awduron plant ar draws Prydain wedi cyfarfod yn Abertawe yn ddiweddar i gynnal sesiynau storïau ac awduro. Dau oedd yno oedd y gŵr a'r wraig Thomas Docherty a Helen o Abertawe. Maen nhw hefyd wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Dyma nhw ar raglen Ffion Dafis i sôn am eu gwaith…. Awduro Authoring Amser maith yn ôl A long time ago Antur Adventure Cyfleoedd Opportunities Pe byddai rhywun Tasai rhywun Dwlu ar Wrth ei bodd efo Mamiaith Mother tongue

Pod Sgorio
Cwpan Y Byd 10: Auf Wiedersehen

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Dec 2, 2022 18:23


Cwpan Y Byd 10: Auf Wiedersehen Ifan Gwilym a Nicky John sy'n trafod gemau'r dydd yng Nghwpan y Byd. Noson wyllt yng Ngrŵp E yn gweld Japan a Sbaen yn ennill eu lle yn rownd yr 16 olaf lle byddant yn cwrdd â Morocco a Croatia o Grŵp F. Cyfle hefyd i edrych ymlaen at Ghana v Uruguay, i wylio Brasil eto ac at gêm gystadleuol rhwng Serbia a'r Swistir. Ifan Gwilym and Nicky John discuss all the talking points from the World Cup in Qatar. A crazy night in Group E saw Japan and Spain advance to the Last 16 where they'll meet Morocco and Croatia from Group F. There's also a chance to look forward to Ghana v Uruguay with Brazil also in action and a grudge match between Serbia and Switzerland.

Pod Sgorio
Cwpan Y Byd 6: LewanGOALski

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Nov 28, 2022 21:49


Cwpan Y Byd 6: LewanGOALski Uwch-gynhyrchydd Sgorio, Seiriol Dawes-Hughes, sy'n ymuno ag Ifan Gwilym i drafod gemau'r penwythnos yng Nghwpan Y Byd. Yr enwau mawr yn serenu ar ddydd Sadwrn, y gêm fawr rhwng Sbaen a'r Almaen a henaint tîm Gwlad Belg sy'n cael sylw'r ddau cyn edrych ymlaen at gemau ail rownd Grwpiau G a H. Sgorio Exec Producer Seiriol Dawes-Hughes joins Ifan Gwilym to discuss the weekend's talking points from the World Cup in Qatar. They look back on a star-studded Saturday, an entertaining game between Spain and Germany and Belgium's decline before looking ahead to the second round of games in Groups G and H.

Pod Sgorio
Cwpan Y Byd 3: JAPAN

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Nov 24, 2022 18:16


Cwpan Y Byd 3: JAPAN Nicky John ac Ifan Gwilym sy'n trafod gemau'r dydd yng Nghwpan y Byd. Japan yn curo'r Almaen, Sbaen yn eu seithfed nêf, Gwlad Belg yn goroesi her Canada a Morocco 0-0 Croatia. Beth sydd gan un o sêr carfan Cymru i ddweud am Kieffer Moore? Bydd cyfle hefyd i edrych ymlaen at gemau heddiw rhwng Y Swisdir v Cameroon, Uruguay v De Corea, Portiwgal v Ghana a Brasil v Serbia. Nicky John and Ifan Gwilym discuss all the talking points from the World Cup in Qatar. Japan's victory over Germany, Spain hit seven, Belgium survive Canada scare and Morocco 0-0 Croatia. We'll hear what one of Wales' star men had to say about Kieffer Moore. Also, a quick look ahead to today's games between Switzerland v Cameroon, Uruguay v Korea Republic, Portugal v Ghana and Brazil v Serbia.

Pod Sgorio
Cwpan Y Byd 2: Saudi Arabia!

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Nov 23, 2022 19:29


Cwpan Y Byd 2: Saudi Arabia! Ifan Gwilym a Nicky John sy'n trafod gemau'r dydd yng Nghwpan y Byd. Y sioc fawr rhwng Saudi Arabia a'r Ariannin, dwy gêm ddi-sgôr a buddugoliaeth gyfforddus Ffrainc dros Awstralia. Hefyd bydd cyfle i edrych ymlaen at gemau heddiw rhwng Morocco v Croatia, Yr Almaen v Japan, Sbaen v Costa Rica a Gwlad Belg v Canada. Ifan Gwilym and Nicky John discuss all the talking points from the World Cup in Qatar. Saudi Arabia's shock win over Argentina, the two goalless draws and France's comfortable win over Australia. They also look ahead to today's games between Morocco v Croatia, Germany v Japan, Spain v Costa Rica and Belgium v Canada.

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#66 - Busnes ac Arloesedd yn Rhanbarth y Basg o Sbaen

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear

Play Episode Listen Later Jul 17, 2022 38:47


Rhywbeth ychydig yn wahanol yn y bennod hon wrth i ni gael ein harwain gan arweinydd yr Academi Amaeth, Llyr Derwydd ac aelodau o'r rhaglen Busnes ac Arloesedd wrth iddynt ymweld â Bilboa a rhanbarth y Basg. Mae'n daith wib o amgylch arferion ffermio amrywiol y rhanbarth, o fferm laeth confensiynol yn Laukiz i winllan a chynhyrchydd tomatos yn Arrankudiaga. Bu'r grŵp hefyd yn ymweld â Mutriku, pentref glan môr lle mae'r gwaith trydan tonnau cyntaf yn Ewrop. Mae'r daith hon yn sicr wedi ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arloeswyr ac entrepreneuriaid ffermio a choedwigaeth yng Nghymru.

bu nghymru ewrop mutriku sbaen
Y Coridor Ansicrwydd
Angharad Davies: Llygad VARcud ym Madrid

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later May 19, 2022 42:37


Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n sgwrsio gydag Angharad Davies, sy'n dechnegydd gyda chwmni Hawkeye yn Sbaen. Ac yn syfrdanol, mae hi'n llwyddo i newid meddwl Mal am fanteision VAR!

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: HANNAH BETH

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Apr 14, 2022 46:16


Cyflwynwraig, dawnswraig, actores ac ''all-rounder'' go iawn sydd ar y podlediad wythnos hon. Efallai mai i wylwyr ifanc S4C fydd Hannah Beth yn gyfarwydd ond ma'r fam ifanc o Lanelli yn aml-dalentog, yn gyfeillgar, positif ac yn......wel, jyst yn berson neis. Sgwrs hyfryd yn siarad am ei gyrfa, ei phrofiad o fod yn fam ifanc iawn, dawnsio ar y bar yn Sbaen, gwisgo pinc, cyflwyno i blant, actio a hyd yn oed helpu pobl ag anableddau. Merch â gwên pob amser yw Hannah ac roedd hi mor braf cael siarad â hi.

Pod Sgorio
Pod 24: Gemma Grainger

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Feb 9, 2022 48:53


Sgwrs arbennig gyda rheolwr Cymru, Gemma Grainger. Bydd Gemma Grainger yn ymuno â Sioned Dafydd a Dylan ebenezer i edrych nôl ar ei blwyddyn gyntaf wrth y llyw fel rheolwr tîm rhyngwladol y merched ac yn edrych ‘mlaen at flwyddyn cyffrous i bêl-droed Merched yng Nghymru. Bydd Cymru yn cystadlu yn y Pinatar Cup yn Sbaen ym mis Chwefror cyn parhau a'u hymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2023 gyda gêm fawr yn erbyn Ffrainc i ddod ym mis Ebrill. Croeso i'r pod!

Hefyd
David Clubb, Amgylcheddwr ac Arbenigwr Technoleg | Pennod 9

Hefyd

Play Episode Listen Later Jan 20, 2022 36:54


David Clubb yw fy ngwestai y tro yma. Mae Dave yn dod o ardal Penybont ar Ogwr yn wreiddiol, ond heddiw mae e'n byw yng Nghaerdydd. Mae e'n gadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, ac yn gweithio fel un o bartneriaid y cwmni Afallen. Mae e wedi dysgu Cymraeg, yn ogystal â sawl iaith arall, ac mae e wedi byw yn Sbaen, Denmarc ac India. Trafodon ni ei waith amgylcheddol a'i ddiddordeb mewn technoleg.  Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter

Y Busnes Rhedeg 'Ma
Pennod 3 - Angharad Davies

Y Busnes Rhedeg 'Ma

Play Episode Listen Later Sep 4, 2020 75:00


Ym mhennod diweddaraf y podlediad mae Owain yn sgwrsio gyda'r athletwraig elité, Angharad Davies, Mae Angharad yn dod yn wreiddiol o Lanymddyfri, ond bellach yn byw yn Galicia, Sbaen. Ar ôl serennu fel rhedwraig ieuenctid ac wrth gamu i'r categori oedolion, bu iddi gymryd egwyl o athletau am gwpl o flynyddoedd. Bellach mae nôl yn cystadlu ar y trac dros y pellteroedd canolig, ac yn rhedeg yn well nag erioed. Yn y cyfweliad mae'n trafod her hyfforddi yn ystod y cloi mawr, cydraddoldeb i ferched yn y byd rhedeg a sawl pwnc amserol arall. Yn ystod y cyfweliad rydym yn trafod achos penodol yn ymwneud â diogelwch merched wrth redeg yn Sbaen. Dyma ddolen i'r erthygl sy'n dyfynu Angharad ynglŷn â hyn - https://www.runnersworld.com/women/a28368894/running-as-a-woman-in-spain/ Hefyd yn y podlediad yma, newyddion am record newydd yn Rownd y Paddy Buckley, llwyddiant pellach i Melissa Courtney-Bryant a chanlyniadau 10k Pont Hafren. 'Golau' gan .magi ydy'r dewis o gerddoriaeth yn y bennod yma - https://www.youtube.com/watch?v=oNbY1DcKRMc

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 7fed o Fai 2020

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later May 7, 2020 16:00


S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Beti A’I Phobol – Sul a Iau – 26 a 30/04/20 Cai Wilshaw Gwestai Beti George oedd y sylwebydd gwleidyddol Cai Wilshaw ac yn y clip yma mae e’n sôn am ei brofiad o weithio fel intern i Nancy Pelosi, sef menyw, neu ddynes, fwya pwerus Unol Daleithiau America Sylwebydd gwleidyddol Political correspondent Etholiadau Elections Cyswllt Connection Rhydychen Oxford Ymweliad A visit Gwleidyddiaeth Politics Y Gyngres Congress Swyddfa’r wasg The press office Chwant Desire Cynhadleddau’r wasg Press conferences -------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- COFIO – Sul a Mercher 03 a 06/05/20 Colur Cai Wilshaw oedd hwnna’n sôn wrth Beti George am Nancy Pelosi. Gwesteion gwahanol iawn i Cai oedd gan Beti ar un o’i rhaglenni yn 1976. Pobol ifanc oedd thema Cofio wythnos diwetha a chlywon ni ran o sgyrsiau gafodd Beti gyda rhai o ferched y de yn cofio pa fath o golur oedden nhw’n ddefyddio pan oedden nhw’n ifanc... Colur Make-up Bodlon Willing Dodi To put on Mochyndra Filth Rhydd Free Nisied Handkerchief Bant Away Gwefusau Lips Heol Road -------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- Oedfa – Sul 03/05/20 Ysbyty Gwynedd Wel mae pethau wedi newid ers i Beti gael y sgwrs honno on’d dyn nhw? Mae llawer iawn ohonon ni’r dyddiau hyn yn ddiogel iawn yn ein cartrefi yn ystod y cyfnod anodd yma , ond mae llawer o bobl yn gorfod gweithio wrth gwrs. Un o’r rheini yw Menna Morris sydd yn gweithio fel nyrs yn Adran Frys Ysbyty Gwynedd. Ar raglen Oedfa ddydd Sul gofynnodd John Roberts i Menna ddisgrifio’r sefyllfa yn yr ysbyty ar hyn o bryd….. Adran Frys A&E Ardaloedd Areas Gwisgoedd amddiffynol Personal Protection Equipment Ffedog a menyg An apron and gloves Unedau damweiniau Accident units Argyfwng Crisis ----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- Sioe Frecwast Radio Cymru 2 gyda Daf a Caryl - Mawrth, 28/04/20 Dolly Parton Mae ganddon ni le mawr i ddiolch i’r gweithwyr allweddol i gyd on’d oes? Menna Morris, nyrs yn Ysbyty Gwynedd fuodd yn siarad gyda John Roberts ar Oedfa. Sioned Mills ydy arbenigwraig Radio Cymru ar bodlediau a hi oedd yn cadw cwmni i Daf a Caryl ar y Sioe Frecwast ddydd Mawrth. Dyma hi’n sôn am un o’i hoff bodlediadau, na nid Pigion y Dysgwyr, ond un am Dolly Parton… Gweithwyr allweddol Key workers Arbenigwraig Expert (female) Yn benodol Specifically Cyfres Series Yr eilyn The idol Yn wirioneddol dda Really good Dogfen Documentary Egni Energy Pennod Chapter Amlenni Envelopes Goddefgarwch Tolerance ---------------------------------------------------------------------------------------------------------- Lisa Gwilym – Mercher 29/04/20 Osian Candelas Sioned Mills yn fan’na yn amflwg yn ffan mawr o Dolly Parton. Nos Fercher cafodd Lisa Gwilym sgwrs gyda Osian Williams o’r band Candelas a’i chwaer Branwen. Mae Osian yn byw yng nghartre’r teulu yn Llanuwchllyn ger y Bala a gofynnodd Lisa iddo fe ble mae e’n recordio’i gerddoriaeth y dyddiau hyn… Gweddill y tŷ The rest of the house Taflu llwyth o bethau Throwing loads of stuff Cyfansoddi Composing O ystyried Considering Offer Equipment Offerynnau Instruments Yn syth bin Straight away Yn fyw Live Yn wyrthiol Miraculously Yn ysu Yearning -------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- Geraint Lloyd – Mawrth – 28/04/20 Sbaen A dw i’n siŵr bod yna edrych ymlaen mawr at albwm newydd Candelas. Mae Gwenno Fflur yn dod o Rydyfoel ger Abergele yn wreiddiol, ond mae hi ar hyn o bryd yn dysgu mewn Ysgol Brydeinig Ryngwladol yn Sbaen ac mae hi wedi bod yn byw ac yn gweithio yno ers 5 mlynedd. Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda hi ddydd Mawrth a holi sut oedd pethau yn Sbaen erbyn hyn Ysgol Brydeinig Ryngwladol International British School Rheolau tipyn llymach Much harsher rules Dw i’n byw a bod I spend all my time Yn gaeth i’r cartre Confined to the house Rhwystrau Obstacles Dirwyon Fines Caniatâd Permission Y rhyddid The freedom Derbynneb Receipt Mygydau Masks ------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Dysgu Cymraeg - 25ain o Chwefror 2019

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Feb 27, 2019 14:55


Podlediad yn cynnwys Ceir Trydan, Siestas yn Sbaen a Stadia Pel-droed Prydain

Podcast Pêl-droed
Podcast / Podlediad #74: Where next for Aaron, Spain & Brian Flynn / Ble nesa i Aaron, Sbaen a Brian Flynn

Podcast Pêl-droed

Play Episode Listen Later Oct 6, 2018 68:06


In this episode Leon, Rich, Daniel and Russell consider Aaron Ramsey's options; the squad for Spain and Ireland and what can Giggs reasonably expect to achieve with the games; and reflect on a terrific evening with the Little Wonder himself Brian Flynn in Port Talbot. And they get a bit political. Yn y podlediad yma mae Leon, Rich, Daniel a Russell yn ystyried opsiynau Aaron Ramsey; y garfan ar gyfer Sbaen ac Iwerddon a beth all Giggs ddisgwyl yn rhesymol gyflawni â'r gemau; a myfyrio ar noson fendigedig yng nghwmni Little Wonder ei hunan Brian Flynn ym Mhort Talbot. Ac mae'n nhw'n dod yn waddol wleidyddol.  

Podcast Pêl-droed
Podcast / Podlediad #73: The ‘Booting’: Ireland and Denmark reviewed

Podcast Pêl-droed

Play Episode Listen Later Sep 16, 2018 60:01


In this podcast Gareth, Russell and Leon look back at Wales's opening Nations League games against Ireland and Denmark; encouraging performances by the likes of Chris Mepham and Ethan Ampadu; and they cast their minds towards October's Spain friendly and consider how Ryan Giggs may use the fixture. Yn y podlediad yma mae Gareth, Russell a Leon yn edrych yn ôl at gemau agorol Cymru yng Nghynghrair y Cenhedlaethau yn erbyn Iwerddon a Denmarc; perfformiadau calonogol gan rheini megis Chris Mepham ac Ethan Ampadu; a bwrw eu meddwl tuag at frwydro Sbaen fis Hydref ac ystyried sut efallai bydd Ryan Giggs yn defnyddio'r gêm cyfeillgar yna.

Y Dihangiad
Teithiau Sbaen a Phrydain

Y Dihangiad

Play Episode Listen Later Sep 3, 2018 23:24


Wythnos cynta'r Vuelta, a Grand Départ Sir Gâr

Beti a'i Phobol
Ed Holden

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Dec 11, 2016 45:18


Gwers rapio? Pam ddim! Ed Holden, y rapiwr adnabyddus o Borthmadog, sy'n ymuno â Beti George i rannu hanes ei fagwraeth a'i yrfa o Genod Droog i Mr Phormula. Yn ogystal â pherfformio ar hyd a lled Cymru, mae o hefyd wedi bod i lefydd fel Yr Eidal, America, Sbaen a Ffrainc.

america yn cymru phormula ffrainc sbaen beti george
Stori Cymru
Newidiadau Crefyddol y Tuduriaid

Stori Cymru

Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


Roedd crefydd yn bwnc peryglus yng nghyfnod y Tuduriaid. Aeth diwygiad Eglwys Lloegr a Chymru gan Harri’r VIII ag ef i wrthdaro â’r Ewrop Gatholig yn gyfan, yn arbennig Sbaen. Mewn cyfnod o’r fath gosododd y wladwriaeth reolau llym ar addoliad a rhyddid crefyddol. Ond byddai’r sefyllfa swyddogol yn newid yn ôl ffydd y brenin neu’r frenhines. Dilynwyd y Protestant Edward VI gan y Gatholiges Mari ac yna ar ei hôl hi daeth Elisabeth, y Protestant. Cafodd hyn i gyd effaith fawr ar fywydau pobl gyffredin drwy’r eglwysi yr oeddent yn eu mynychu, fel y dywed Huw wrthym yn Eglwys Teilo Sant yn Sain Ffagan.

viii protestant ond huw chymru aeth sbaen cafodd
Stori Cymru
Newidiadau Crefyddol y Tuduriaid

Stori Cymru

Play Episode Listen Later Nov 19, 2012 3:15


Roedd crefydd yn bwnc peryglus yng nghyfnod y Tuduriaid. Aeth diwygiad Eglwys Lloegr a Chymru gan Harri’r VIII ag ef i wrthdaro â’r Ewrop Gatholig yn gyfan, yn arbennig Sbaen. Mewn cyfnod o’r fath gosododd y wladwriaeth reolau llym ar addoliad a rhyddid crefyddol. Ond byddai’r sefyllfa swyddogol yn newid yn ôl ffydd y brenin neu’r frenhines. Dilynwyd y Protestant Edward VI gan y Gatholiges Mari ac yna ar ei hôl hi daeth Elisabeth, y Protestant. Cafodd hyn i gyd effaith fawr ar fywydau pobl gyffredin drwy’r eglwysi yr oeddent yn eu mynychu, fel y dywed Huw wrthym yn Eglwys Teilo Sant yn Sain Ffagan.

viii protestant ond huw chymru aeth sbaen cafodd
Dialogues for Welsh Learners: Entry Level
15. I'd like to...: "Hoffwn i fynd i Sbaen..."

Dialogues for Welsh Learners: Entry Level

Play Episode Listen Later Aug 17, 2010 26:54