Podcasts about daeth

  • 9PODCASTS
  • 28EPISODES
  • 31mAVG DURATION
  • 1MONTHLY NEW EPISODE
  • Mar 23, 2025LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about daeth

Latest podcast episodes about daeth

Beti a'i Phobol
Dr Eurfyl ap Gwilym

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Mar 23, 2025 50:07


Dr Eurfyl ap Gwilym yr economegydd yw gwestai Beti George. Daeth un digwyddiad yn 2010 ag ef i sylw mawr pan fentrodd herio Jeremy Paxman, un o'r newyddiadurwyr uchaf ei barch ym Mhrydain. Drannoeth 'roedd y gwefannau ar dân. Mi ddaru Eurfyl elwa o'r ffaith fod o ddim yn cyfadde' ei fod o'n anghywir ac mi ddaliodd arno. Mae o di cael pobol yn dod ato yn ei adnabod o'r teledu - yng Nghaerdydd a Llundain … “You're the Paxman man! Well Done”.Dechreuodd ei yrfa gyda chwmni Unilever ar gynllun datblygu rheolwyr busnes. Bu'n gweithio gyda chwmni John Williams yn rheoli pob agwedd o'r busnes. Bu'n Bennaeth adran gwerthu cyfrifiaduron gyda chwmni mawr electroneg Philips, cwmni rhyngwladol – o'r Iseldiroedd. Bu'n gweithio gyda GE. Bu'n brif weithredwr i gwmni meddalwedd rhyngwladol yn Llundain ( Cwmni o UDA ydoedd). Gwerthu a datblygu meddalwedd i fanciau.Bu'n gweithio gyda'r Principality yn ddirprwy gadeirydd ac yn gyfarwyddwr anweithredol byrddau technolegol, a bu'n gweithio gyda Phlaid Cymru. Bu'n helpu Gwynfor Evans yn ystod cyfnod 1966- '67. " Doedd dim llawer o adnoddau pan aeth Gwynfor mewn i'r Senedd yn '66, 'roeddem ni'n gosod cwestiynau Seneddol, doedd dim google, a dim modd cael llawer o wybodaeth, felly roedden ni'n codi llawer iawn o gwestiynau".Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân gan gynnwys Dafydd Iwan a Karl Jenkins.

Beti a'i Phobol
Gareth Parry

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Feb 23, 2025 50:18


Yr arlunydd o Flaenau Ffestiniog, Gareth Parry, yw gwestai Beti George. Magwyd yn y tŷ lle ganwyd ei Fam a'i Nain yn Manod, Blaenau Ffestiniog. Cawn hanesion difyr ei fagwraeth yn ogystal â'i hanes yn denig o Blaenau ar drên gyda'i ffrind ysgol am "fywyd gwell" yn Llundain a hynny yn ei arddegau. Wedi gadael ysgol, fe aeth i'r coleg celf ym Manceinion, cyfnod y mods a'r rocers a'r gerddoriaeth soul. O fewn dim amser, mi roedd y teimlad o gaethiwed yn ôl, rhyw deimlad fod o yn y carchar eto (fel roedd yn teimlo adre efo Dad) . Daeth y rebel allan ynddo ac wedyn daeth y dylanwadau o'r tu allan i'r coleg. Gadawodd y coleg a dod 'nôl i weithio yn y chwarel yn Blaenau. Dylanwadodd y naturiaethwr Ted Breeze arno, a bu'n gwerthu lluniau i'r cylchgrawn Country Life. Mae bellach yn gwerthu ei waith mewn orielau celf yn Llundain ac yng Nghymru.

dad fam gareth parry nain yr country life wedi nghymru cawn blaenau ffestiniog daeth beti george
Beti a'i Phobol
Noel Thomas a Siân Thomas: Rhaglen 1

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 5, 2025 56:37


Yn y gyntaf o ddwy raglen, Beti George sydd yn sgwrsio gyda Noel Thomas, cyn is-bostfeistr a'i ferch Siân am fagwraeth a gyrfa'r ddau yn Ynys Môn ac fel yr oedd Swyddfa Bost Gaerwen yn mynd yn dda tan Hydref y 5ed 2005, pam ddaeth rhai o swyddogion ariannol y Swyddfa Bost a chnocio ar ei ddrws ac yna mynd a Noel i swyddfa'r heddlu yng Nghaergybi a'i gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug.Cafodd Noel Thomas o'r Gaerwen, Ynys, Môn ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon. Fe gafodd y cyn is-bostfeistr ei garcharu am naw mis yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon. Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod hyn o ganlyniad i nam ar feddalwedd Horizon Swyddfa'r Post.

horizon fe yn ynys hydref daeth beti george
Beti a'i Phobol
Alison Roberts

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jul 7, 2024 49:18


Fe gafodd Alison Roberts ei geni a'i magu ym mhentref Killin yn yr Alban, ac fe ddaeth i Gymru pam gafodd alwad gan ffermwr i ddofi un o'i geffylau. Mae hi bellach wedi priodi ac yn byw ar Ynys Môn, ac yn magu 7 o blant. Alison enillodd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023. Daeth i benderfyniad ei bod yn Gymraes pan enillodd hi gystadleuaeth cneifio yn y Sioe Frenhinol, Llanelwedd. Mae'n gweithio fel gofalwraig ac yn credu ei bod yn bwysig ei bod hi'n siarad Cymraeg gyda'r cleifion.Roedd hi wedi dysgu Cymraeg wrth wrando ar Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch. Dydy hi erioed wedi cael gwers Gymraeg.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 16eg o Ionawr 2024.

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jan 16, 2024 12:44


Pigion Dysgwyr – Gwyneth Keyworth Mi fydd yr actores o Bow Street ger Aberystwyth, Gwyneth Keyworth, yn perfformio mewn cyfres ddrama deledu newydd, Lost Boys and Fairies cyn bo hir. Dyma Gwyneth ar raglen Shelley a Rhydian yn sôn mwy am y ddrama a'i rhan hi ynddi. Cyfres SeriesYmdrin â To deal with Mabwysiadu To adoptHoyw GayTyner Gentle Pigion Dysgwyr – Ian Gwyn Hughes Gwyneth Keyworth oedd honna'n sôn am ei rhan hi yn y ddrama deledu newydd Lost Boys and Fairies . Gwestai Arbennig rhaglen Bore Sul oedd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Yn ystod ei sgwrs gyda Betsan Powys mi soniodd Ian am ei weledigaeth pan ddechreuodd weithio efo'r Gymdeithas Bêl-droed. Gweledigaeth VisionPennaeth Cyfathrebu Head of CommunicationCyflwyno IntroduceNaws Cymreig A Welsh ethosPlannu hadau Planting seedsGorfodi To forceDiwylliant CultureHunaniaeth IdentityCynrychioli To representBalchder PrideYmateb To respondGan amlaf More often than not Pigion Dysgwyr – Nayema Khan Williams Cofiwch y gallwch chi wrando ar sgwrs gyfan Ian Gwyn Hughes unrhyw bryd sy'n gyfleus i chi drwy fynd i wefan neu ap BBC Sounds. Nayema Khan Williams ymunodd â Beti George ar Beti a'I Phobol wythnos diwetha. Mae Nayema a'i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Mi gafodd hi ei magu yng Nghaernarfon, ond roedd ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn yn dod o Bacistan yn wreiddiol. Daeth ei thad draw yn y 50 i Gaernarfon, ac ar y dechrau mi fuodd o'n gwerthu bagiau o gwmpas tafarndai. Wedyn mi fuodd yn gwerthu bagiau ym marchnad Caernarfon ac mewn marchnadoedd eraill am flynyddoedd. Dyma Nayma yn sôn am ei ffydd…… Ffydd FaithDwyn i fyny Brought upGweddïo To prayAballu And so onPigion Dysgwyr – Pilates Nayema Khan Williams o Gaernarfon yn fanna yn sôn ychydig am Islam. Drwy gydol wythnos diwetha thema Rhaglen Aled Hughes oedd “ Dydy hi byth yn rhy hwyr” sef cyfres o eitemau i annog gwrandawyr i sylweddoli nad ydy hi byth yn rhy hwyr i wynebu sialensau newydd. Mi ymwelodd Aled ag Eirian Roberts yng Nghaernarfon i gael gwers Pilates. A dyma sut aeth pethau Annog To encourage Garddwrn WristY glun The hipAnadlu To breathAsennau HipsTueddu i or-ddatblygu Tend to over developSbio Edrych Pigion Dysgwyr – Chloe Edwards Gobeithio bod Aled yn iawn ynde ar ôl yr holl ymarferion Pilates ‘na! Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu Cymraeg chwaith, ac un sydd wedi profi hynny ydy Chloe Edwards. Fore Mercher diwetha ar raglen Aled Hughes mi soniodd Chloe wrth Aled am y daith mae hi wedi gymryd i ddod yn rhugl yn yr iaith. Trwy gyfrwng Through the mediumGweithgareddau Activities Pigion Dysgwyr – Pantomeim Ac mae Chloe newydd ymuno â thîm tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor. Pob lwc iddi hi ynde? . Nos Fawrth ddiwetha ar ei rhaglen mi gafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Rhian Lyn Lewis. Mae Rhian ar hyn o bryd yn chwarae rhan un o'r gwragedd drwg ym Mhanto y Friendship Theatre Group yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli. Gofynnodd Caryl iddi hi'n gynta ers pryd mae'r cwmni wedi bod yn perfformio Pantomeim Elusennau CharitiesLlwyfan StagePres ArianBant I ffwrddY brif ran The main partYmylol PeripheralTywysoges PrincessTylwyth teg Fairy

Beti a'i Phobol
Nayema Khan Williams

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 14, 2024 50:12


Nayema Khan Williams sy'n ymuno â Beti. Mae Nayema a'i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Cawn glywed ei hanes difyr yn mentro o fyd y gwasanaeth iechyd i fyd triniaethau anfeddygol. Cafodd ei magu yng Nghaernarfon, daeth ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn y ddau'n wreiddiol o Pacistan. Daeth ei thad draw yn y 50/60au i Gaernarfon ac fe ddilynodd ei mam wedyn . Mae Nayema yn un o naw o blant a hi ydi'r ieuengaf ond un. Gwraig tŷ oedd ei mam a phan ddaeth ei thad draw o Bacistan i gychwyn bu'n gwerthu bagiau o gwmpas y tafarndai. Yna bu'n gwerthu bagiau yn farchnad Caernarfon ac mewn marchnadoedd eraill am flynyddoedd. Cafodd ei magu'n Moslem ac 'roedd ei thad yn ffigwr blaenllaw yn y Mosque ym Mangor. Mae Naymea'n credu'n gryf fod angen mwy o ferched fentro mewn busnesau ac na ddylai merched ddim bod ofn cymryd y risg i ddechrau a chychwyn busnesau eu hunain.

khan mosque beti moslem s4c caernarfon yna mangor cawn cafodd daeth gaernarfon nghaernarfon
Beti a'i Phobol
Felicity Roberts

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Oct 23, 2023 48:18


Mae Felicity Roberts yn Diwtor a Chydlynydd Cymraeg i Oedolion yn Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi bod yn diwtor Cymraeg am dros hanner can mlynedd. Yn 2023 enillodd wobr am fod yn diwtor Cymraeg Ysbrydoledig gyda ‘Inspire Awards' dan nawdd Llywodraeth Cymru. Magwyd Felicity ar aelwyd llawn cariad yn Chwilog a bu ei magwraeth yno yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd ei hoes. Cafodd ei haddysg yn ysgol gynradd Chwilog hyd nes roedd hi'n 8 oed, yna am 3 blynedd bu'n aros yng nghwfaint St Gerard's Bangor. Roedd ei rhieni'n awyddus iddi gael addysg yn y cwfaint er mwyn gwneud yn siŵr bod Felicity yn pasio'r arholiad 11+. Yna mynychodd Ysgol Ramadeg Pwllheli ac ar ôl 2 flynedd ym Mhwllheli safodd yr arholiadau i fynd i Ysgol Howells yn Ninbych. Ers dyddiau ysgol roedd hi wedi bod yn canlyn Robert Roberts ac roedd y ddau'n fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor. Priododd y ddau ar ddiwedd eu blwyddyn gyntaf a ganwyd eu plentyn cyntaf ar ddiwedd eu hail flwyddyn, y cyntaf o chwe phlentyn i'r ddau. Swydd gyntaf Felicity pan symudodd y teulu i fyw i Flaenplwyf, oedd swydd rhan amser fel cynorthwyydd ymchwil i ysgolion Meithrin Cymru. Yn 1978 cafodd radd mewn Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth ac mi gafodd swydd yn yr adran Gymraeg yn dysgu Cymraeg i ddechreuwyr yno. Ni adawodd Felicity yr adran Gymraeg wedyn am 27 mlynedd. Daeth ei phriodas â Robert i ben ac mae hi mewn perthynas ers 44 o flynyddoedd efo Jaci ac mae'n byw bywyd prysur iawn rhwng y gwaith a'r teulu mawr.

roberts bangor ers jaci yn aberystwyth cymraeg gymraeg yna robert roberts cafodd llywodraeth cymru daeth
Beti a'i Phobol
Dr Eilir Hughes

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Aug 11, 2023 50:44


Meddyg teulu a ddaeth i amlygrwydd reit o ddechrau'r pandemig gan iddo chwarae rhan mor bwysig wrth geisio rheoli'r Covid-19 yw gwestai Beti a'i Phobol, ac fe gafodd ei enwebu am ei waith ar gyfer un o wobrau Dewi Sant. Mae Dr Eilir Hughes yn gweithio fel meddyg teulu yn Nefyn, Gogledd Cymru. Mae'n gwerthuso meddygon teulu yn yr ardal a newydd ddechrau fel Cyfarwyddwr Meddygol gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Sefydlodd ymgyrch Awyr Iach Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd awyru a gwisgo masgiau i leihau'r risg o ledaenu a dal COVID-19. Daeth yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod. Sefydlodd raglen frechu yn y gymuned hefyd. Tŷ Doctor yn Nefyn oedd un o'r meddygfeydd cyntaf i frechu cleifion â'r brechlyn Pfizer.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Orffennaf 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jul 11, 2023 12:01


Pigion Dysgwyr – Cerys Hafana Cerys Hafana, y cerddor ifanc o Fachynlleth oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol wythnos diwetha. Mae hi'n chwarae'r delyn ers pan oedd hi'n 7 mlwydd oed. Daeth hi i Fachynlleth i fyw yn blentyn bach o ddinas Manceinion. Dyma hi'n sôn am sefyllfa byd cerddoriaeth werin yng Nghymru, ymhlith pobl ifanc. Cerddor Musician Telyn Harp Ymhlith Amongst Offeryn Instrument Cerddoriaeth (g)werin Folk music Mae'n ddilys It's valid Mynegi eich hunain To express yourselves Llawysgrifau Manuscripts Plant yn eu harddegau Teenagers Ysbrydoliaeth Inspiration Pigion Dysgwyr – Cernyweg Y cerddor Cerys Hafana oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George. Enillodd Matt Spry wobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018 ac aeth ymlaen i fod yn diwtor Cymraeg gyda Phrifysgol Caerdydd. Mae'n dod o Aberplym neu Plymouth yn wreiddiol, ac nawr mae e wedi bod yn dysgu Cernyweg ers tua 8 mis. Wythnos diwetha ar raglen Aled Hughes cafodd Matt air gydag Aled i esbonio pam ei fod wedi mynd ati i ddysgu'r iaith … Cernyweg Cornish language Yn bennaf Mainly Ar y ffin On the border Cysylltu To contact Wythnosol Weekly O gymharu â Compared to Anhawsa Most difficult Yn rheolaidd Regularly Hynod o bwysig Extremely important Pigion Dysgwyr – Talwrn A phob lwc i Matt gyda'r Gernyweg on'd ife? Cystadleuaeth rhwng dau dîm o feirdd ydy'r Talwrn a'r wythnos diwetha y ddau dîm oedd yn cymryd rhan oedd Tir Iarll a'r Glêr, mewn rhaglen cafodd ei recordio yn Neuadd Pontyberem. Dyma Ceri Wyn Jones i osod tasg y limrig….. Dim peryg No danger Barddoniaeth Poetry Gosod tasg Setting the task Unwaith y flwyddyn Once a year ‘Na ryfedd That's strange Awgrymais I suggested Fy ffiol oedd lawn My cup was overflowing Pigion Dysgwyr – Gyrru Dramor Wel dyna ddau limrig doniol on'd ife? P'run enillodd tybed? Dych chi wedi gyrru dramor erioed? Un sydd wedi gwneud yn aml yw arbenigwr moduro Rhaglen Bore Cothi, Mark James. Wythnos diwetha cafodd Mark sgwrs gyda Shan Cothi am beth sydd angen ei gofio pan dych chi'n gyrru ar gyfandir Ewrop. Tramor Overseas Arbenigwr Expert Cyfandir Continent Esgeuluso To neglect Trwydded yrru Driving license Pigion Dysgwyr – Dafydd Morgan Pethau i chi gofio wrth yrru ar gyfandir Ewrop yn fan'na ar Bore Cothi. Awn i gyfandir arall nawr – Awstralia. Mae Dafydd Morgan o bentre Ffarmers yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn byw yn Awstralia ers mis Medi y llynedd. Mae Dafydd wedi bod yn gweithio ar ffermydd y wlad a dyma fe i sôn wrth Ifan Evans am y tywydd yno ar hyn o bryd….. Gaeafau Winters Porfa Pasture Sulwair Silage Plannu To plant Ffrwythlon Fertile Pigion Dysgwyr – Rhys Mwyn Wel dyna ni, nid Cymru sy'n cael y glaw i gyd! Yn y cylchgrawn Far Out mae'r cerddor a'r canwr Paul Weller, fuodd gyda band The Jam, wedi dewis yr albwm Hotel Shampoo gan Gruff Rhys fel un o'i hoff albymau. Ymhlith ei hoff albymau eraill roedd rhai gan y Beatles, Stevie Wonder, Bob Marley a David Bowie. Dyma Rhys Mwyn ar Dros Frecwast fore Iau diwetha'n sôn am gerddoriaeth Rhys a'r Super Furry Animals Tueddu i Tend to Edmygu neu gwerthfawrogi Admire or appreciate Petai Tasai Arbrofol Experimental Cydnabod To acknowledge

Beti a'i Phobol
Y Parchedig John Owain Jones

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 27, 2022 51:30


Mae'r Parchedig John Owain Jones yn ymddeol fel Gweinidog ar Ynys Bute yn mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel Gweinidog yno. Cafodd ei eni yn Llanelwy a'i fagu yn Rhyl nes roedd yn 13 oed, cyn symud i Gaernarfon. Roedd ei Dad yn gweithio i'r Swyddfa Bost a chafodd swydd fel Post feistr yn Nghaernarfon. Mae cysylltiad Owain â'r Alban wedi bod yno bron o'r cychwyn. Wedi i'w rieni ddyweddïo roedd ei Dad eisiau arian i brynu tŷ felly aeth i weithio am gyfnod i'r Swyddfa Bost yn Rhodesia. Ar y llong ar ei ffordd draw yno rhannodd fync ar y llong gyda David Walker a oedd yn dod o Ynys Bute. Daeth ei Dad ac yntau'n ffrindiau pennaf a bu'n was priodas i'w Dad. Priododd ei fam a'i dad yn Salisbury, Rhodesia (Harare bellach). Priodwyd y ddau yn y Second Presbyterian Church ac roedd y Gweinidog yn dod yn wreiddiol o St Andrews (lle bu Owain yn y Brifysgol), a dychwelodd David yn ôl i Ynys Bute yn ddiweddarach. David hefyd oedd tad bedydd Owain a'i frawd Gethin. Bob haf roedd y teulu'n mynd draw i Ynys Bute ar wyliau. Roedd hynny yn un o'r rhesymau pam y dewisodd Owain Brifysgol St Andrews. Yn ddiweddarach fe aeth Owain i Rhodesia am gyfnod i weinidogaethu. Mae Owain yn cyfrannu'n gyson i'r slot Thought for Today Radio Alban ac wedi cyfrannu hefyd i'r Daily Service ar Radio 4. Fe fydd hefyd yn cyfrannu ar Munud i Feddwl, Radio Cymru. Mae'n rhannu straeon am ei fywyd ac yn dewis ambell i gân.

Beti a'i Phobol
Meleri Davies

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 13, 2022 50:35


"Cymuned, Amgylchedd, Economi - dyna ydy calon ein gwaith ni yn Partneriaeth Ogwen, Meleri Davies Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu ar y fferm Hendre yng Nghwm Prysor sydd rhyw 3 milltir o Drawsfynydd ar y ffordd i Bala a'r Fferm fynydd yn magu defaid Cymreig. Mae hi yn un o 4 o blant - y cyw melyn olaf. Dewi Prysor yr awdur ydi'r hynaf sy'n byw ym Mlaenau Ffestiniog, yna Manon sy'n byw yn Sir Fôn sy'n actores ac yn cynnal gweithdai, a mae Rhys sy'n ffermio adref , fo ydi'r 3ydd genhedlaeth i ffermio yno. Fel Prif Swyddog, mae Meleri yn angerddol am dyfu Partneriaeth Ogwen fel menter gymdeithasol sy'n gwneud gwahaniaeth – yn amgylcheddol, gymunedol ac economaidd. Mae wedi arwain ar brosiectau mwyaf y Bartneriaeth, yn cynnwys datblygiad Ynni Ogwen, canolfan Dyffryn Gwyrdd a throsglwyddiadau asedau. Ers ei phenodiad, mae wedi ennill gwobr Pencampwr Cynaladwyedd Cymru yng ngwobrau Academi Cynaliadwy Cymru a Green Energy Pioneer yng ngwobrau Regen Prydain. Dechreuodd Partneriaeth Ogwen yn 2014 drwy gael 3 cyngor cymuned yn gweithio efo'i gilydd, sef Llanllechid, Llandegai a Bethesda. Daeth y tri at ei gilydd i gyflogi un clerc yn hytrach na tri ac yna defnyddio yr arbed i gyflogi Meleri i ddatblygu prosiectau. Dechreuwyd y bartneriaeth efo Meleri'n gweithio 2 ddiwrnod yn unig a clerc am ddau ddiwrnod. Bellach cyflogir 23 o bobl, rhai yn rhan amser ac eraill yn llawn amser. Mae Meleri'n gweithio'n llawn amser ers sawl blwyddyn bellach ac yn magu 3 o blant gyda'i gwr Meirion. Cawn hanesion ei bywyd o Trawsfynydd i Nepal, ac mae hi'n dewis ambell i gân - gan gynnwys caneuon gan Lleuwen Steffan a Gruff Rhys.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Hydref 2002

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 25, 2022 15:48


BETI A'I PHOBOL Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe'n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae'n sôn am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu'r iaith… Treulio amser - To spend time Mynd mas - Mynd allan Profiad - Experience Mam-gu - Nain Cymdeithasol - Sociable Gorfodi - To force Cefnogol - Supportive Becso - Poeni Trochi - To immerse ALED HUGHES Dim ond ers mis Ebrill eleni mae Katie Owen o Ferthyr yn dysgu'r iaith ar ôl iddi gymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith gyda'r DJ Huw Stephens yn fentor iddi hi. Dyma hi'n sgwrsio gydag Aled Hughes… Gwahanol - Different Tad-cu - Taid ALED HUGHES Cafodd Laura Jones o Gaerdydd ychydig o wersi Cymraeg yn yr ysgol, ond penderfynodd ddysgu'r Gymraeg fel oedolyn er mwyn cyfieithu rhannau o'r Quran. Dyma flas ar y sgwrs cafodd hi gydag Aled Hughes... Oedolyn - Adult TGAU - GCSE Annog - To encourage Gyrfa - Career Cyfleoedd Gwaith - Work opportunities Bwlch - A gap Dywediadau - Sayings ALED HUGHES Beth tybed oedd rheswm Kelly Webb-Davies sy'n dod o Awstralia'n wreiddiol dros ddysgu'r iaith? Fel cawn ni glywed mae hi'n briod â Peredur Glyn awdur nofel o'r enw ‘Pumed Gainc y Mabinogi' ac mae hi wedi magu ei mab drwy'r Gymraeg. Dyma hi'n sgwrsio efo Aled Hughes... Ieithyddiaeth - Linguistics Bathu term - To coin a phrase Sillafu - To spell Seiniau - Sounds Clwt - Cewyn Llwglyd - Hungry BORE COTHI Mae stori Sara Maynard o Sir Gaerfyrddin ychydig yn wahanol. Cafodd hi ei haddysg mewn ysgolion Cymraeg ond ar ôl gadael ysgol collodd hi ei hyder o ran sgwennu Cymraeg. Aeth hi ar gwrs Cymraeg i Oedolion i wella'r sgil yma ac erbyn hyn mae hi'n swyddog iaith ym Mhrifysgol De Cymru. Ysgol gynradd - Primary School Ysgol Gyfun - Secondary School Trwy gyfrwng - Through the medium of Ysgrifenedig - Written Sbarduno - To spur BORE COTHI Cafodd Shân Cothi sgwrs ddiddorol arall gyda Dickon Morris, cafodd ei eni yng Nghaergrawnt, ei fagu yn Sir Benfro ond sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Mae e'n gweithio fel daearegydd ac yn amlwg mae e wrth ei fodd gyda'r gwaith... Caergrawnt- Cambridge Daearegydd - Geologist Plentyndod - Childhood Dinbych y Pysgod - Tenby Diwydiant - Industry Tirwedd - Landscape Llethrau serth - Steep slopes Amrywiaeth - Variety

wimbledon quran fel cymraeg daith gymraeg dyma mabinogi podlediad wythnos iaith hydref ysgol aeth nghaerdydd gaerdydd flwyddyn ebrill sir benfro cafodd daeth beti george
Morning Watch Prayercast

Death is swallowed up in victory, O Death where is your sting, O Hades where is your victory. St Paul - John 16:32, Matt 16:21-23, Matt 17: 22-23, Matth 20:17-19, Heb 2:14-15, 1 Cor 15:50-55 Eph 1:6. 

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 12fed Mawrth 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Mar 12, 2021 15:22


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … TRYSTAN AC EMMA Roedd gan Trystan ac Emma ddiddordeb mawr mewn rhestr oedden nhw wedi ei weld o‘r gemau bwrdd mwya poblogaidd – a Monopoly oedd ar y brig wrth gwrs! Cafodd y ddau sgwrs gyda Dyfed Edwards o gwmni What Board Games i drafod y rhestr ac i ystyried apel gemau bwrdd yn gyffredinol Rhestr - List Gemau bwrdd - Board games Ar y brig - In the top spot Ystyried - To consider Yn gyffredinol - Generally Yn amlwg - Obviously Ennyn diddordeb - To arouse the interest Ymddiddori - To be interested in Ehangu meddyliau - To expand the minds Rhyngrwyd - Internet FFION EMYR A dw i’n siŵr bod llawer mwy ohonon ni wedi bod yn chwarae gemau bwrdd yn ystod y cyfnod clo on’d oes? Rhywbeth arall sy wedi bod yn boblogaidd yn ystod y flwyddyn ddiwetha ydy cwisiau. Daeth Cris, cwis feistr rhaglen Geth a Ger i gael sgwrs gyda Ffion Emyr nos Wener a rhoi tips iddi hi ar sut i ennill mewn cwis tafarn. Yr un un diddordebau - Exactly the same interests Ail-greu - To re-create Rhyfeloedd - Wars Dw i’n cymryd - I presume Rhestrau - Lists Prif Wenidogion - Prime Ministers Arlywyddion - Presidents Taleithau - States ALED HUGHES Wel dych chi’n gwybod beth i’w wneud nawr pan fydd cwisiau tafarn yn ail-gychwyn – dim ffrindiau yn eich tîm! Gyda Phrifysgol Lerpwl yn dechrau cwrs gradd MA ar hanes a cherddoriaeth y Beatles, cafodd Aled Hughes a Meurig Rees Jones sgwrs am y cysylltiad rhwng y Fab 4 a Chymru Gradd - Degree Cerddoriaeth - Music Cysylltiad - Connection Ddaru nhw - Wnaethon nhw Hel - To collect Diswyddo - To sack GERAINT LLOYD Meurig Rees Jones oedd hwnna yn sôn wrth Aled Hughes am y cysylltiadiau rhwng y Beatles a Chymru. Daeth y sianti yn boblogaidd iawn yn ddiweddar ar Tik Tok ac ar-lein. Ar raglen Geraint Lloyd buodd Anna Sherratt yn sôn am ei chôr rhithiol, Côr Pawb, ac yn rhoi her i Geraint ymuno â nhw i ganu ac i greu sianti môr Her - A challenge Sylweddoli - To realise Caneuon gwerin - Folk songs Ymuno â - To join Dolen - Link Archebu - To order Ymchwilio - Researching Yn y cefndir - In the background SHELLEY A RHYDIAN Tybed fydd Geraint yn derbyn yr her? Dyn ni’n siŵr o gael gwybod ar ei raglen on’d dyn ni?. Matthew Rhys oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Fe oedd yn dewis rhai o’i hoff ganeuon ‘codi calon’ ac yn rhannu rhai o’i hanesion Hollywood – fel pan gafodd y fraint o eistedd ar bwys Michelle Obama mewn swper moethus! Y fraint - The honour Ar bwys - Wrth ymyl Moethus - Luxurious Pob arweinydd y byd - Every world leader Fforcais i e - I forked it Prawf - Proof Ffrwydro - To explode Wir Dduw - God’s truth GWNEUD BYWYD YN HAWS Meddyliwch tasai‘r tomato wedi glanio ar ffrog Michelle – roedd Matthew yn lwcus iawn on’d oedd e? Yr wythnos hon ar Gwneud Bywyd yn Haws buodd Hanna Hopwood Griffiths yn sgwrsio gyda thri sydd wedi dysgu Cymraeg. Yn y clip yma mae hi’n sgwrsio gyda’r Dr Jonathan Hurst, meddyg yn Ysbyty Merched Lerpwl ac Ysbyty Plant Alder Hey sydd wedi dysgu Cymraeg er mwyn gallu siarad yn Gymraeg gyda theuluoedd o Ogledd Cymru sy’n gorfod mynd i’r ddwy ysbyty Mynychu - To attend Yn rheolaidd - Regularly Ymddengys - It appears Gwenu - Smiling Fy annog - Encourages me

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 4ydd Rhagfyr 2020

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Dec 4, 2020 15:49


"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … " ALED HUGHES - RHYS AB OWEN Mae na lawer o bobl yn credu mai rhywbeth newydd yw clywed Cymraeg yn cael ei siarad mewn rhannau o Gaerdydd. Ond mae llyfr Owen John Thomas, The Welsh Language in Cardiff : A history of survival yn dangos bod yr iaith wedi bod yn fyw iawn mewn sawl ardal o’r ddinas yn y gorffennol. Daeth mab yr awdur, Rhys ab Owen, i sgwrsio am y llyfr gydag Aled Hughes a dyma i chi flas ar y sgwrs… Y bedwaredd ganrif ar bymtheg - 19th Century Enghreifftiau - Examples Y mwyafrif llethol - The vast majority Cyfrifiad - Census Yn fanteisiol iawn - Very advantageous Delwedd - Image Canrif yn ddiweddarach - A century later Tu fas - Outside Y dystiolaeth - The evidence Yr Eglwys Newydd - Whitchurch FFION EMYR - SANDRA LLAN Ychydig o hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd yn fan’na ar raglen Aled Hughes. Mae gan Ffion Emyr raglen newydd nos Wener ar Radio Cymru, a phob wythnos mae hi’n mynd i ofyn “pwy sy’n gwneud y coctel gorau yng Nghymru?” . Sandra Llan oedd ei gwestai cyntaf…. Mi fydd gynnon ni - Bydd gyda ni Hyd yn oed - Even Brifo - Anafu Nei di’m cofio - Wnei di ddim cofio TRYSTAN AC EMMA - JOHN PRITCHARD Hanes coctels peryglus Llanberis oedd hwnna ar raglen Ffion Emyr. Wel gwnaeth tîm pêl-droed Cymru yn dda yn y gêmau diweddar yn Nghwpan y Cenhedloedd ac ennill dyrchafiad i Grŵp A yn y gystadleuaeth. Ond oeddech chi’n gwybod bod yna dîm Pêl-droed Cerdded Cymru hefyd, a bod y tîm wedi ennill Cwpan y Byd? Beth yn union ydy Pêl-droed Cerdded? Dyna un o gwestiynau Trystan Ellis Morris ac Emma Walford i John Pritchard o Ynys Môn sy’n chwarae Pêl-droed Cerdded dros Gymru... Cwpan y Cenhedloedd - Nations Cup Dyrchafiad - Promotion Pencampwr o fri - A renowned champion Yr un rheolau - The same rules Arferol - Usual Pwyslais - Emphasis Yn dda i ddim - No good Dw i’n dychmygu - I imagine GWNEUD BYWYD YN HAWS - GWENNO ROBERTS John Pritchard, un o sêr tîm Pêl-droed Cerdded Cymru oedd hwnna’n siarad gyda Trystan ac Emma ar eu rhaglen newydd sbon bob bore Gwener am 9. Mae Gwenno Roberts wedi dechrau cwmni codi pwysau o’r enw Vulcanna Fit ac yn ystod rhaglen gynta y gyfres newydd ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ gofynnodd Hannah Hopwood iddi hi pam yr enw Vulcanna? Codi pwysau - Weightlifting Edmygu - To admire Ysbrydoliaeth - Inspiration Ofnadwy o ddewr - Terribly brave Mewn oes - In an age Dyletswyddau - Duties Ymgyrchu - To campaign Prydferth - Beautiful Noeth luniau - Nude portraits Penodol - Specific POST CYNTAF - ANT A DEC Wel dyna sgwrs aeth â ni o godi pwysau i Vulcanna i Michelangelo ac i golli pwysau, diddorol on’d ife? Os ydych chi’n un o’r MILIYNAU sy’n gwylio I’m a Celeb sy’n cael ei ffilmio yng Nghastell Gwrych ger Abergele, byddwch chi wedi clywed Ant a Dec yn siarad ychydig o Gymraeg. Cafodd Dylan Jones air gyda’u tiwtor Garffild Lewis ar y Post Cyntaf.... Y gyfres The series Darlledu - Broadcast Cyflwynwyr - Presenters Llais cyfarwydd - A familiar voice Ynganu - Pronunciation Cywair - Register (of language) Ymddiriedolaeth - Trust Ymgynghorwyr - Consultants Tîm cynhyrchu - Production team Agwedd - Attitude SIOE FRECWAST - CARYL A DAF Ac arhoswn ni gyda I’m a Celeb am y clip ola. Un sy’n byw yn agos iawn at Gastell Gwrych ydy Sian Rees a gofynnodd Caryl a Dafydd iddi hi sut ymateb sy wedi bod yn yr ardal i’r gyfres.. Ymateb - Response Pwnc trafod - Talking point Arferiad - A habit Hyd y gwela i - As far as I can see Yn eu hoed a’u hamser - Of a certain age Byrlymu - Buzzing Rhoi ni ar ben ffordd - Bring us up to date

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr Hydref 30ain 2020

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 30, 2020 16:52


"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Beti George Cafodd Beti George y cyfle i sgwrsio gydag Aran Jones o’r cwmni Say Something in Welsh ar ddiwedd wythnos dysgwyr BBC Radio Cymru. Yn ôl Aran, mae’r cwmni gafodd ei greu unarddeg o flynyddoedd yn ôl, yn newid cyfeiriad yn y ffordd maen nhw’n dysgu’r iaith. Dyma Aran yn dweud mwy am hyn wrth Beti… Ymdrech sylweddol - A substantial effort Addasiad niwrolegol - a neurological adjustment Arbrofi - To experiment Bron yn ddi-baid - Almost non-stop Ymenydd - Brain Cymhleth - Complex Eitha hyblyg - Quite flexible Dwys - Intense Syfrdanol - Astounding Cyflawni - To achieve Ar y Marc Aran Jones o Say Something in Welsh oedd hwnna’n sgwrsio gyda Beti George. Un fuodd yn defnyddio gwefan Say Something in Welsh i ddysgu Cymraeg ydy’r Almaenwr Klaus Neuhaus. Does gan Klaus ddim cysylltiad â Chymru o gwbl heblaw am ei gariad tuag at tîm pêl-droed y wlad. Mae e’n ffan mawr o dîm Cymru ers chwarter canrif ac erbyn hyn mae e’n aelod llawn o’r wal goch ac yn dilyn y tîm ar hyd a lled y byd. A dyma pam mae e wedi dechrau dysgu Cymraeg fel buodd e’n esbonio wrth Dylan Jones ar Ar y Marc… Peirannydd cyfathrebu - Communication engineer Hyd yn hyn - Up to now Awyrgylch - Atmosphere Canlyniad - Result Heulwen - Sunshine Yr olygfa - The scene Mo’yn - Eisiau Yn ddiweddarach - Later on Rownd derfynol - The final Aled Hughes (Natalie Jones) Dysgu Cymraeg i blant fydd Natalie Jones ar ôl iddi orffen ei chwrs ymarfer dysgu. Cafodd Natalie ei magu ym Mhwllheli ond mae hi’n byw yn San Cler yn Sir Gaerfyrddin erbyn hyn. Yn ystod y mis yma mae hi wedi cael y cyfle, bob nos Iau ar S4C, i gyflwyno cyfres sydd yn rhan o fis Hanes Pobol Ddu yng Nghymru. Dyma hi’n sôn wrth Aled Hughes am beth hoffai hi weld yn newid yng Nghymru o ran y boblogaeth ddu… Dinbych y Pysgod - Tenby Hyfforddi - To train Profiadau newydd - New experiences Anweledig - Invisible Hiliaeth - Racism Bodoli - To exist Parch a sylw - Respect and attention Annhegwch - Unfairness Balchder - Pride Hunaniaeth - Identity Bore Cothi Natalie Jones oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am brofiadau’r boblogaeth ddu yng Nghymru. Daeth y syniad o gael pobl noeth ar galendrau gan y Calender Girls ar ddiwedd y nawdegau, ac ers hynny dyn ni wedi gweld sawl calendr gyda phobl bron yn noeth, neu’n borcyn, yn aml iawn i godi arian at achosion da. A nawr mae Calendr Clo-rona ar werth i godi arian at wefan iechyd meddwl meddwl.org. Syniad Catrin Toffoc oedd hyn ac mae hi wedi perswadio deg o gantorion clasurol Cymru i ddangos y cyfan! Un ohonyn nhw ydy’r tenor Trystan Llyr Griffiths a buodd e’n esbonio wrth Shan Cothi sut aeth e ati i dynnu llun ohono’i hun yn hollol noeth... Noeth - Naked Ei dîn ma’s - His backside out Y mannau iawn - The right places Pipo ma’s - Peepimg out Siglo chwerthin - Rolling with laughter Y tywyllwch - The dark Twlu - To throw Hydrefol - Autumnal Twym - Cynnes Stiwdio Trystan Llyr Griffiths oedd hwnna’n esbonio ar Bore Cothi sut aeth e ati dynnu llun ohono’i hun yn hollol noeth ar gyfer calendr Clo-rona... Ar Stiwdio wythnos diwetha agwedd y Cymry tuag at gelf weledol oedd yn cael sylw ac yma mae Nia Roberts yn holi’r artist Mike Jones am ei fagwraeth, a faint o gelf oedd o’i gwmpas pan oedd e’n ifanc... Agwedd - Attitude Celf weledol - Visual art Cyd-destun - Context Ysbrydoliaeth - Inspiration Lisa Gwilym Mike Jones yn esbonio wrth Nia Roberts beth wnaeth ei ysbrydoli e i fod yn artist. Mae’r band Ail Symudiad o Aberteifi yn perfformio ers y saithdegau ac mae’n debyg mai nhw yw un o’r grwpiau sydd wedi gigio mwyaf o gwmpas Cymru. Mae’r ddau frawd yn y band, Rich a Wyn wedi rhyddhau cân newydd. Dyma Rich yn cael sgwrs gyda Lisa Gwilym am greu’r gân honno a’r hanes y tu ôl iddi hi. Rhyddhau - To release Yr ysfa i greu - The desire to create Y dôn - The tune Testun - Text Carcharorion rhyfel - Prisoners of War Anghredadwy - Unbelievable Yr un egwyddor - The same principle Gwersyll - Camp

Coven of the Mind
XIII The Death Tarot Card

Coven of the Mind

Play Episode Listen Later Jul 9, 2019 31:36


Does the Daeth card mean that someone will die as it appears in a tarot spread. Could it rather mean an end to one cycle and then the start of another cycle? Join me as we take a look at path 24 - Death.

Beti a'i Phobol
Ifana Savill

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Apr 14, 2019 48:13


Menyw ei milltir sgwâr yw Ifana Savill, wedi dychwelyd i fyw yn y pentref lle cafodd ei magu. Mae chwe chenhedlaeth o'r teulu wedi byw ym Mlaenpennal ger Tregaron, a mae'n sôn wrth Beti am hanes rhai ohonynt. Pan oedd yn ifanc, roedd wrth ei bodd yn darllen, a byddai wedi hoffi astudio celf, ond hyfforddi fel athrawes wnaeth hi'n y pen draw. Un diwrnod yn unig y parodd ei gyrfa fel athrawes. Roedd yn gwybod yn syth iddi wneud camgymeriad, a fe drodd yn lle hynny at lenyddiaeth ac ysgrifennu. Cafodd foment o ysbrydoliaeth wrth sgwennu rhaglenni ar gyfer S4C, sef i ddefnyddio rhai o gymeriadau enwog yr awdur Mary Vaughan Jones ar gyfer cyfres deledu newydd o'r enw Caffi Sali Mali. Daeth rhan o gartre'r teulu'n set ar gyfer Pentre Bach, ac er bod y gyfres honno wedi dod i ben, mae Ifana a'i gŵr wedi troi Pentre Bach yn bentref gwyliau.

pan beti s4c pentre bach cafodd daeth
Beti a'i Phobol
Rhys Mwyn

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 13, 2019 48:08


Archeoleg, angerdd ac Anhrefn yw rhai o'r pynciau trafod wrth i Rhys Mwyn sgwrsio gyda Beti George. Un o Sir Drefaldwyn yw Rhys, a mae'n cael ei adnabod fel un sydd â dim ofn dweud ei farn a siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod. Pan oedd yn ifanc, roedd yn teimlo nad oedd cerddoriaeth Gymraeg yn rhoi llais iddo fe a'i debyg. Cafodd ei ysbrydoli wrth wrando ar raglen radio John Peel, a chlywed grwpiau fel Sex Pistols, Delta 5 a'r Mekons. Daeth yn aelod o'r grŵp pync Cymraeg Anhrefn, cyn troi at reoli a hyrwyddo cerddorion. Yn golofnydd i'r Herald Cymraeg, mae hefyd wedi dychwelyd at ei bwnc gradd, sef archeoleg. Dyna ble mae hapusaf, yn cloddio gyda ffrindiau.

Open Door Bible Baptist Church
Fall Revival: Will Wars

Open Door Bible Baptist Church

Play Episode Listen Later Sep 17, 2017 27:41


A message from Matthew 26:39Support the show (http://pushpay.com/pay/opendoornj)

ScriptureLinks Daily
What are you waiting for

ScriptureLinks Daily

Play Episode Listen Later Oct 26, 2016 6:12


People put off faith in Jesus every day. What are you waiting for? A warning sign that you may be traveling down the wrong road is casting Jesus aside.

ScriptureLinks Daily
What are you waiting for

ScriptureLinks Daily

Play Episode Listen Later Oct 26, 2016 6:12


People put off faith in Jesus every day. What are you waiting for? A warning sign that you may be traveling down the wrong road is casting Jesus aside.

Stori Cymru
David Lloyd George

Stori Cymru

Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


O wreiddiau gwerinol yn Llanystumdwy, gogledd Cymru, daeth David Lloyd George yn un o’r dynion mwyaf dylanwadol yn hanes Prydain fodern. Roedd yn hynod uchelgeisiol. Dechreuodd ei yrfa fel cyfreithiwr a daeth yn Aelod Seneddol dros Fwrdeistrefi Caernarfon ym 1890, a daliodd ei afael ar y sedd honno hyd 1945. Roedd yn areithiwr rhagorol. Erbyn 1908 roedd wedi dod yn Ganghellor y Trysorlys ac ef gyflwynodd y pensiwn gwladol cyntaf i’r oedrannus, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf o Dŷ’r Arglwyddi. Ym 1911 rhoddodd ei Ddeddf Yswiriant Gwladol yr hawl i weithwyr gael tâl salwch a math o fudd-dal diweithdra. Gellir ei ystyried fel un o sylfaenwyr y wladwriaeth les. Chwaraeodd rôl allweddol yn y Rhyfel Byd Cyntaf fel yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel ac, o 1916, fel Prif Weinidog. Daeth buddugoliaeth â chlod iddo ond niweidiwyd ei enw da gyda chyhuddiadau ei fod wedi gwerthu urddolaethau i ariannu ei blaid. Collodd rym ym 1922.

Stori Cymru
Llywelyn ein Llyw Olaf

Stori Cymru

Play Episode Listen Later Apr 9, 2013


Tywysog o Gymru yn byw yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, yn y Canoloesoedd oedd Llywelyn ap Gruffydd. Daeth yn arweinydd y Cymry ac ef yw’r unig Gymro erioed i gael ei gydnabod gan Goron Lloegr yn Dywysog Cymru. Fodd bynnag, pan ddaeth y rhyfelwr ffyrnig Edward I yn Frenin Lloegr cafwyd gwrthdaro hir a chwerw rhwng y ddwy wlad. Ym 1282 lladdwyd Llywelyn gan olygu i bob pwrpas ddiwedd statws Cymru fel gwlad annibynnol. Cafodd y golled hon ganlyniadau anferth ar ddyfodol.

Stori Cymru
David Lloyd George

Stori Cymru

Play Episode Listen Later Mar 25, 2013 5:08


O wreiddiau gwerinol yn Llanystumdwy, gogledd Cymru, daeth David Lloyd George yn un o’r dynion mwyaf dylanwadol yn hanes Prydain fodern. Roedd yn hynod uchelgeisiol. Dechreuodd ei yrfa fel cyfreithiwr a daeth yn Aelod Seneddol dros Fwrdeistrefi Caernarfon ym 1890, a daliodd ei afael ar y sedd honno hyd 1945. Roedd yn areithiwr rhagorol. Erbyn 1908 roedd wedi dod yn Ganghellor y Trysorlys ac ef gyflwynodd y pensiwn gwladol cyntaf i’r oedrannus, er gwaethaf gwrthwynebiad cryf o Dŷ’r Arglwyddi. Ym 1911 rhoddodd ei Ddeddf Yswiriant Gwladol yr hawl i weithwyr gael tâl salwch a math o fudd-dal diweithdra. Gellir ei ystyried fel un o sylfaenwyr y wladwriaeth les. Chwaraeodd rôl allweddol yn y Rhyfel Byd Cyntaf fel yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel ac, o 1916, fel Prif Weinidog. Daeth buddugoliaeth â chlod iddo ond niweidiwyd ei enw da gyda chyhuddiadau ei fod wedi gwerthu urddolaethau i ariannu ei blaid. Collodd rym ym 1922.

Stori Cymru
Llywelyn ein Llyw Olaf

Stori Cymru

Play Episode Listen Later Nov 19, 2012 7:33


Tywysog o Gymru yn byw yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, yn y Canoloesoedd oedd Llywelyn ap Gruffydd. Daeth yn arweinydd y Cymry ac ef yw’r unig Gymro erioed i gael ei gydnabod gan Goron Lloegr yn Dywysog Cymru. Fodd bynnag, pan ddaeth y rhyfelwr ffyrnig Edward I yn Frenin Lloegr cafwyd gwrthdaro hir a chwerw rhwng y ddwy wlad. Ym 1282 lladdwyd Llywelyn gan olygu i bob pwrpas ddiwedd statws Cymru fel gwlad annibynnol. Cafodd y golled hon ganlyniadau anferth ar ddyfodol Cymru.

Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 23: 23: Yn fyw o Eisteddfod y Fro 2012

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Aug 20, 2012 52:58


Rhifyn arbennig o’r diwedd, anrheg hafaidd i’ch clustiau – rhifyn byw arbennig yr Haclediad o faes Eisteddfod y Fro 2012. Daeth miloedd[1] ohonoch yno i wylio Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod popeth o gysylltiadau digidol y maes ac ap y brifwyl hyd at bosibiliadau 4G mewn cae yn Ninbych flwyddyn nesa. Hefyd, mae cyfle i wrando ar swn peraidd y trac go-karts drws nesa i’r maes[1] yn ogystal â lleisiau melfedaidd eich cyflwynwyr. Ac wrth gwrs, mae digon o’r rantio a rwdlan hwyl arferol i’w gael yn yr Haclediad hefyd, felly s’dim angen i chi boeni! Mwynhewch bodlediad gorau’r hâf[1] ar eich peiriant NAWR O.N. Mae’n ddrwg gennym am ansawdd y sain (Gafyn wedi trio ei orau efo be recordiwyd), ond pe bai rhywun yn awyddus i gyfrannu ychydig o feicroffonau i’r achos… Dolenni Ap Yr Eisteddfod 4G erbyn eisteddfod 2013 Stiwdio gwellt ar y Maes Gwyrdd Nid yw pob un o’r datganiadau hyn yn ffeithiol gywir  ↩ The post Haclediad #23: Yn fyw o Eisteddfod y Fro 2012 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Spot On Radio.com
INSPIRATIONS_0039 What happens at death?

Spot On Radio.com

Play Episode Listen Later Aug 24, 2009 27:42


INSPIRATIONS_0039 What happens at death? Hosts-Bridgette Mongeon, Christina Sizemore and in spirit Barbara Ingersoll Listening time approximately 28 minutes SHOW NOTES This podcast talks about the unusual circumstances or visits that Barbara had in the hospital from those relatives that had gone on before her.  The experience of helping Barbara transition from this world to the next was an incredible experience.  Her daughter and granddaughter share some of the wonderful spirit lead moments before Barbara’s death and how God had the entire experience in his hand.  I loving memory of our co-host mom and grandmother Barbara IngersollOn August 17th, 2009 Barbara Ingersoll went to be with the Lord.  She will be greatly missed, however her ministry and this podcast continue with her many years of journals. Sponsored by God's Word Collectibles http://www.godsword.net Give God's Word as a gift, collect God's Word in your heart! PLEASE NOTE:  You will have to turn your volume up to hear this podcast.  We are sorry for this technical difficulty, we are aware of it and hope to have this technical problem fixed in up and coming podcasts.  Don't forget to turn your volume down after listening.