Podcasts about pwy

  • 24PODCASTS
  • 53EPISODES
  • 36mAVG DURATION
  • ?INFREQUENT EPISODES
  • Feb 20, 2025LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about pwy

Latest podcast episodes about pwy

Y Coridor Ansicrwydd
Sut mae datrys problemau Abertawe?

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Feb 20, 2025 47:05


Mae Abertawe yn chwilio am eu 10fed rheolwr mewn naw mlynedd ôl diswyddo Luke Williams.. Ac mae Ows yn poeni fod y clwb yn syrthio mewn i "drwmgwsg" tuag at Adran Un. Pwy fydd y nesa' i gymryd yr awenau? Fydd y clwb yn barod i'w gefnogi drwy arwyddo mwy o chwaraewyr?Tydi sefyllfa Caerdydd heb wella chwaith yn dilyn canlyniadau siomedig, ac mae Wrecsam wedi colli bach o dir yn y ras am ddyrchafiad awtomatig wrth golli eto ar y Cae Ras. Ond mae hi'n gyfnod cyffrous i dîm merched Cymru wrth iddyn nhw gychwyn eu hymgyrch yn Adran A Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Yr Eidal a Sweden.

Y Coridor Ansicrwydd
Cymru, Caerdydd ac Alton Towers

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Oct 24, 2024 50:41


Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n ystyried gobeithion Cymru yn erbyn Slofacia yng ngemau ail-gyfle gemau rhagbrofol pencampwriaeth Ewro 2025 i ferched. Pwy fydd yn gallu camu mewn i esgidiau Sophie Ingle a fydd Jess Fishlock yn holliach?Ydi Omer Riza wedi gwneud digon i gael ei benodi'n rheolwr newydd Caerdydd? Mae o'n sicr i weld yn cael y gorau allan o Rubin Colwill. A pham bod Owain druan wedi torri ei galon yn Alton Towers..?

Y Coridor Ansicrwydd
Cymru'n ceisio cadw momentwm

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Oct 10, 2024 52:53


Ar ôl cael eu plesio'n fawr yn nwy gêm gyntaf, mae Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn disgwyl yn eiddgar i weld y perfformiadau nesaf Cymru o dan y rheolwr newydd Craig Bellamy yn erbyn Gwald yr Iâ a Montenegro yng Nghynghrair y Pencampwyr. Pwy fydd yn cychwyn tro ‘ma? Beth fydd siâp y tîm? A pham bod gan Ows atgofion sigledig o chwarae yn Reykjavik?01'00 Cyffro'r cyfnod rhyngwladol 04'00 Anaf Ows a cherydd Bellamy 10'00 Disgwyliadau'n codi? 21'00 Dewis y tîm a dyfalu'r sgôr 28'45 Y ddaear yn symud i OTJ 30'00 Hoff dîm Cymru 35'00 Acen mawr Saesneg 39'00 Tîm dan21 am greu hanes 44'45 Lewis Koumas – y gobaith mawr newydd? 48'00 Omer Riza yn y ffrâm gyda Chaerdydd? 51'20 Paul Watson yn gadael Abertawe

Podcast Rygbi Cymru
Daw eto haul ar fore

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Oct 8, 2024 74:56


Mae'r bois yn edrych nôl ar benwythnos rhwystredig i'r rhanbarthau ar ôl colledion clod i'r Dreigiau a'r Sgarlets gartref ynghŷd â dyfarnu a rheolau yn difethau gobeithion y Gweilch a Chaerdydd. Pwy fydd yn ennill y gêm fawr yn. super Rygbi Cymru ar ôl i Lanymddyfri colli dwywaith i Glyn Ebwy. Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

haul pwy
Yachting Channel
Breaking Barriers: Samantha Moore on Empowering Women in Yachting | YACHTING USA

Yachting Channel

Play Episode Listen Later Aug 18, 2024 33:29


Join Rick from Yachting USA as he sits down with Samantha Moore, the trailblazing founder of Professional Women in Yachting (PWY). In this episode, Samantha shares her inspiring journey from the Jersey Shore to the yachting industry, where she's leading efforts to empower women and promote diversity. Discover the story behind PWY, the challenges faced by women in this male-dominated field, and the importance of networking and philanthropy. Plus, learn about Samantha's commitment to marine conservation, including her work with Sea Keepers and innovations in eco-friendly yachting. Don't miss this insightful conversation on breaking barriers and advancing sustainability in the yachting world! For Samantha Moore: @Samantha Moore - LinkedIn For PWI: professionalwomeninyachting.com @Professional Women in Yachting - LinkedIn @pwy_international - Instagram Proudly sponsored by Resolve Academy: resolveacademy.com @ResolveAcademy - Facebook @resolveacademy - Instagram @ResolveAcademy - X @Resolve-Maritime-Academy - LinkedIn To contact Rick Thomas: Email: Rick@rt-yd.com LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/rick-thomas-51909821/

Podcast Rygbi Cymru
Pwy fydd yng ngharfan Cymru am yr Haf?

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later May 30, 2024 78:17


Mae Carwyn, Iestyn a Carwyn yn dewis eu carfan nhw am yr Haf yn cynnwys ambell i ddewis dadleuol dros ben. Pa chwaraewr 50 cap bydd allan o garfan Iestyn? Pwy yw'r 'bolters' allai cael ei ddewis? Clywch bopeth ynghyd a newyddion yr wythnos fan hyn! Learn more about your ad choices. Visit podcastchoices.com/adchoices

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 19eg o Fawrth 2024

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Mar 19, 2024 15:56


DROS GINIO 11.03.24Buodd Rhodri Llywelyn yn holi Mahum Umer o Gaerdydd. Mae'r cyfnod Ramadan i Foslemiaid ar draws y byd wedi cychwyn. Beth mae'r ŵyl yn ei olygu i Foslem ifanc Cymraeg?Ympryd A fastCymuned CommunityNodi To markCrefyddol ReligousDatgelu To revealHunanddisgyblaeth Self disciplineLlai ffodus Less fortunateAnsicrwydd UncertaintyHeriol ChallengingAdlewyrchu To reflect ALED HUGHES 12.03.24Blas ar sut mae cyfnod Ramadan yn effeithio ar Foslemiaid ifanc Cymru yn fanna ar Dros Ginio. Pwy fasai'n meddwl ei bod yn bosib cynhyrchu gwin cyn belled i'r gogledd â Dyffryn Clwyd? Wel dyna sy'n digwydd yng Ngwinllan y Dyffryn a buodd perchennog y winllan, Gwen Davies, yn sgwrsio gydag Aled Hughes fore Mawrth am yr her o dyfu grawnwin yn yr ardal honno.Cynhyrchu To produceGwinllan VinyardHer A challengeGrawnwin GrapesLlethr SlopeGwerthfawrogi To appreciateAddas AppropriateSefydlu To establishMicro hinsawdd Microclimate Yn y man Mewn munudGwinwydd VinesArallgyfeirio To diversify GEORGIA RUTH 12 03 24Ac erbyn hyn mae sawl gwinllan yng Nghymru on'd oes e? Pwy â ŵyr, falle mai Cymru bydd y Bordeaux newydd!Bardd mis Mawrth Radio Cymru yw Sam Robinson. Mae e'n byw ym Machynlleth, nawr ond yn dod o Rydychen yn wreiddiol ac mae e'n rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn. Dyma fe'n sôn wrth Georgia Ruth am daith arbennig buodd e arni i Wlad y Basg...Rhydychen OxfordGwlad y Basg The Basque CountryOfferyn InstrumentGwneuthurion ManufacturersPreniach Small pieces of woodPastynau ClubsGwledda To feastWedi swyno CharmedYmatebol ResponsiveLlanast MessRhyfeddol Wonderful BORE COTHI 15.03.24Un arall sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhyfeddol, fel Sam Robinson yw Debora Morgante o Rufain. Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes dydd Gwener, noson cyn gêm rygbi Cymru a'r Yr Eidal, a chafodd hi sgwrs gyda Debora gan ofyn iddi hi sut gwnaeth hi ddysgu Cymraeg yn y lle cynta...Rhufain RomeCwrs Preswyl Residential courseYmarfer To practiceDROS FRECWAST 14.03.23Debora Morgante o Rufain oedd honna, fuodd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yn 2015. Yn anffodus colli wnaeth Cymru yn y gêm yn erbyn yr Eidal a hon oedd gêm ola George North i chwarae dros Gymru gan iddo ddweud basai'n ymddeol yn dilyn y gêm honno. Cennydd Davies fuodd yn sgwrsio gyda George am ei benderfyniad.Rhestr fer Short listPenderfyniad enfawr Huge decisionCyflawni To achieveY cyhoedd The publicUchafbwynt HighlightBETI A'I PHOBOL 17.03.24George North oedd hwnna enillodd cant dau ddeg o gapiau i Gymru gan ennill ei gap cynta yn 2010. Trueni mawr ei fod yn ymddeol ond mae e wedi rhoi gwasanaeth arbennig i Gymru dros y blynyddoedd. Hazel Thomas o Lanwenog yng Ngheredigion fuodd yn sôn wrth Beti George am ei hamser yn gweithio fel chef yn y Dorchester yn Llundain …y ferch gynta i wneud hynny!Trueni BechodSylw a stwr Fuss and attentionCefn gwlad The countrysideEnwoca The most famousBodoli To exist

Y Coridor Ansicrwydd
Evans yn serennu a Brooks mewn lle da

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Feb 1, 2024 53:20


Siomedig oedd canlyniadau clybiau Cymru ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr, ond o leiaf rhoddodd Gasnewydd fraw go iawn i Manchester United. Ac ôl sgorio yn erbyn cewri Old Trafford, fydd Will Evans wedi dal sylw rai o glybiau Adran Un neu hyd yn oed y Bencampwriaeth?Un sydd wedi symud ydi David Brooks, ac mae Owain Tudur Jones yn credu mai Southampton ydi'r lle perffaith i asgellwr Cymru ar hyn o bryd - ac yn darogan pethau mawr i'r rheolwr Russell Martin. Go brin fydd o mor llwyddiannus â Jurgen Klopp. Pwy fydd yn gallu llenwi'r esgidiau mawr yna yn Anfield?

Podcast Rygbi Cymru
Pwy fydd Brenin y darbi Dolig?

Podcast Rygbi Cymru

Play Episode Listen Later Dec 20, 2023 66:08


Colli oedd hanes y pedwar rhanbarth yn Ewrop ond nawr mae'r darbi's Dolig i Carwyn ac Iestyn trafod. Pwy bydd yn serennu?  Dilyn ni ar gyfryngau gymdeithasol @RygbiCymruPod  Mae unrhyw ymateb yn werthfawr i ni. Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices

Pod Sgorio
Pod 67: Clybiau Cymru yn Ewrop

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Jul 11, 2023 42:05


Pod 67: Clybiau Cymru yn Ewrop Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer ac Ifan Gwilym sy'n edrych ymlaen at gemau'r Seintiau Newydd, Penybont, Hwlffordd a Chei Connah yng nghystadlaethau Ewrop. Pwy sydd wedi cael “stinker o draw” a phwy sydd â'r cyfle gorau i barhau ar antur Ewropeaidd? BK Häcken (pencampwyr Sweden) v Y Seintiau Newydd - (Gem yn fyw ar S4C – cic gyntaf am 18:00) Ail gymal yn Neuadd y Parc ar nos Fawrth 18fed o Orffennaf (hefyd ar S4C) Penybont v Santa Coloma (Andorra), ar Gae'r Bragdy (Yn fyw ar-lein gyda Sgorio – cic gyntaf am 18:30) FK Shkëndija (gogledd Macedonia) v Hwlffordd (ail gymal yn fyw ar-lein ar Sgorio) KA Akureyri (Gwlad yr Ia) v Cei Connah (y ddwy gymal yn fyw ar sianel YouTube Cei Connah) Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer and Ifan Gwilym look forward to The New Saints', Penybont, Haverfordwest and Connah's Quay Nomads' games in the Champions and Europa Conference League qualifiers. Who've been given a “stinker of a draw” and who have the best chance of prolonging their European adventure? BK Häcken (Sweden) vs The New Saints - (Live on S4C, KO 18:00) Second leg at Park Hall, Tuesday July 18th (also on S4C) Penybont vs Santa Coloma (Andorra), at Brewery Field - (Live on Sgorio's online platforms – KO 18:30) FK Shkëndija (North Macedonia) vs Haverfordwest (second leg live on S4C's online platforms) KA Akureyri (Iceland) vs Connah's Quay (both legs live on Connah's Quay's YouTube channel)

Podcast Pêl-droed
Ep.158 – Armenia/Türkiye preview

Podcast Pêl-droed

Play Episode Listen Later Jun 15, 2023 49:23


Leon and Russell look ahead to the final internationals of the 2022/23 season: at home to Armenia, away to Türkiye. They discuss the returns to the squad for Brennan Johnson, Ben Davies and David Brooks; the return to the coaching set-up for psychologist Ian Mitchell; a £30m bid for Johnson; and ask 'Who the hell is Joe Low?!' Mae Leon a Russell yn edrych ymlaen at gemau rhyngwladol olaf y tymor 2022/23: gartre yn erbyn Armenia, oddi gartre yn Nhwrci. Maen nhw'n sgyrsio dychwleyd Brennan Johnson, Ben Davies a David Brooks i'r garfan; dychwelyd y seicolegydd Ian Mitchell i'r tîm hyfforddi; cais £30m am Johnson; a gofyn 'Pwy yn uffern yw Joe Low?!'

Pod Sgorio
Irate 2: Yr Wyth

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later May 22, 2023 18:47


Dyma stori yr Irate Eight: Bae Colwyn, Bangor, y Barri, Caernarfon, Casnewydd, y Drenewydd, Merthyr, a'r Rhyl. Mewn cyfres arbennig gan bodlediad Sgorio fyddwn ni'n olrhain hanes ein cynghrair cenedlaethol, a'r wyth clwb cafodd yr alwad i ddychwelyd i Gymru yn 1992. Fe glywn ni wrth y cefnogwyr a'r chwaraewyr oedd yno ar y pryd, newn ni ddilyn hanes yr wyth clwb hyd heddiw, a gofyn shwt ma pethe am newid i'r clybiau yn y dyfodol. Yn ail bennod y gyfres, edrychwn ni ar y cyfnod yn arwain at ddechrau'r gynghrair newydd yng Nghymru. Pwy oedd yr Irate Eight? Sut lwyddiant gath y clybiau yn y ddegawd cynt? Pam brwydro yn erbyn yr alwad i ddod nol? Diolch i holl gyfrannwyr y gyfres am eu hamser nhw – eu stori nhw yw hwn. This is the story of the Irate Eight: Colwyn Bay, Bangor, Barry, Caernarfon, Newport, Newtown, Merthyr, and Rhyl. In a special series by the Sgorio podcast we trace the history of our national league, and the eight clubs that were called to return to Wales in 1992. We will hear from the fans and players who were there at the time, we will follow the story of the eight clubs up to this day, and ask what the future holds in store. In the second episode of the series, we look at the period leading up to the start of the new league in Wales. Who were the Irate Eight? How successful were the clubs in the previous decade? Why fight the call to come back to Wales? Thanks to all the contributors to the series for their time - this is their story.

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: LAURA WYN

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Mar 5, 2023 43:38


Felly pwy sy'n neud yoga? Pwy sydd wedi meddwl neud yoga ond heb fentro? Athrawes yoga Laura Wyn sy'n siarad â fi ar y bennod nesaf o Cymeriadau Cymru ac i ni'n siarad am ei bywyd diddorol hi, ei dylanwadau, iechyd meddwl a chorfforol, ac wrth gwrs, am yoga! Braf yw cael sgwrsio â phobl neis a braf iawn oedd dod i nabod Laura.

Podcast Pêl-droed
Ep.151 – Vital statistics | Ystadegau hollbwysig

Podcast Pêl-droed

Play Episode Listen Later Dec 6, 2022 6:37


As we know, Wales waited 64 years to reach a second World Cup. But is that the longest period between appearances on the game's biggest stage? Who else has waited as long, or is still waiting...? Fel y gwyddwn ni, roedd Cymru'n aros ers 64 mlynedd i gyrraedd ei hail Gwpan y Byd. Ond ai hynny'r cyfnod hiraf rhwng ymddangos ar lwyfan mwyaf y gêm? Pwy arall fu aros cyhyd, neu aros o hyd....?

Podpeth
Podpêl-droed 2022 (v Iran)

Podpeth

Play Episode Listen Later Nov 26, 2022 39:25


Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod ail gêm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 wrth iddynt golli 2-0 i Iran. Mae Mel yn darllen barddoniaeth Ryan Giggs, ac yn gofyn y cwestiwn - Pwy oedd Hitler?  Hefyd, cawn hanes sioe Spotify newydd Iwan (The Internet Radio Tapes). Mae Hywel ar ei ffordd i gig ym Mryngwran - Bragdy'r Beirdd, ac yn sôn am ei gigs ar y gweill.

Y Coridor Ansicrwydd
Mae Cwpan y Byd yma (bron!)

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Nov 15, 2022 30:56


Gyda llai na wythnos i fynd cyn y gem gynta' draw yn Qatar mae Owain a Malcolm yn teimlo'r cyffro a'r nerfusrwydd! Oes gobaith i Joe Allen? Pwy fydd yn serennu i Gymru? Pwy fydd yn dechrau yn erbyn yr Unol Daleithiau? Ac ydi Malcolm angen gwersi cyfri? Mae'r atebion i gyd i'w cael yma!

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 6ed o Fedi 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Sep 16, 2022 15:08


Bore Cothi Sarah Astley Hughes sy'n byw yng Nghaerdydd, ond sy'n dod Lanrhaeadr ym Mochnant, Powys yn wreiddiol, fuodd yn sôn wrth Shelley Rees Owen ar Bore Cothi fore Iau am ei phenderfyniad i groesawu'r gwallt llwyd ar ôl cael llond bol o orfod lliwio ei gwallt bob pythefnos! Croesawu - To welcome Lliwio - To dye Sylweddoli - To realise Ffili - Methu Colurwraig - Make-up artist Bwrw Golwg Ddechrau wythnos diwetha mi ddaeth y newyddion am y llifogydd ofnadwy sydd wedi taro Pacistan. Dyma i chi Tom Davies o'r elusen Cymorth Cristnogol yn sôn am y drychineb… Llifogydd - Floods Trychineb - Disaster Heb rybudd - Without warning Diflannu'n weddol glou - Disappearing quite quickly Distryw - Destruction Ceisio dygymod â - Trying to come to terms with Yn sgil - As a consequence of Cilio - To recede Newid hinsawdd - Climate change Argyfyngau - Crisis Cymry a Mwy Pan symudodd Gwenfair Griffith a'i theulu i Sydney, Awstralia, sefydlodd hi Grŵp Chwarae Cymraeg er mwyn helpu ei phlant i gadw cysylltiad â'u gwreiddiau yng Nghymru. Yn y rhaglen hon, mae Gwenfair yn cwrdd â Lin Dodd sy'n byw yng Nghaerffili, ond sy'n dod o Tseina yn wreiddiol, ac sy'n ceisio dod yn rhan o'r gymuned leol … Y gymuned leol - The local community Cyfathrebu - To communicate Y profiad - The experience Aled Hughes Mae Vaughn Smith o Washington yn medru siarad 36 o ieithoedd ac mae'n rhugl mewn 24 ohonyn nhw! Rhai o'r ieithoedd mae o'n eu siarad ydy Rwmaneg, Ffineg, Sbaeneg, Pwyleg, Norwyeg, Iseldireg….ac erbyn hyn mae Cymraeg ar ei restr o ieithoedd yn ogystal. Pwyleg - Polish Iseldireg - Dutch Defnyddiol - Useful Tras Cymreig - Welsh heritage Ar ei thraws - Across it Y Deyrnas Unedig - The UK Cefais fy swyno - I was enchanted Yn ddiweddarach - Later on Dros Ginio Draw i Feirionnydd aeth Dewi Llwyd i gwrdd â thad a merch o bentre Llanuwchllyn, sef Huw Antur a Marged Gwenllian. Mae Huw yn Gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd yng Nglanllyn ac mae Marged hefyd yn gweithio i'r Urdd fel Swyddog Cymunedol Meirionnydd. Cyfarwyddwr Gwersyll - Camp Director Swyddog Cymunedol - Community officer Dylanwad - Influence Dau gan llath - 200 yards Tebyg - Similar Milltir sgwâr - Square mile Hwyrach - Perhaps Ymgyrchu - Campaigning Cynyddu - To increase Lleihau - To decrease Aled Hughes Cyhoeddodd Aled Hughes newyddion cyffrous ar Radio Cymru ddydd Mercher diwetha! O Hydref y 3ydd, mi fydd cyflwynydd newydd ar y tonfeddi bob nos Lun i Iau o 9 tan hanner nos. Pwy ydy o, neu hi. tybed…? Cyflwynydd - Presenter Tonfeddi - Wavelength Ar fin datgelu - About to disclose Llawn cyffro - Full of excitement Rhoi'r gorau iddi - To give it up Arloesol - Pioneering Cyfrwng - Medium Heb unrhyw amheuaeth - Without any doubt Cynulleidfa - Audience

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 21ain Mehefin 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jun 21, 2022 17:08


Gwneud Bywyd yn Haws Oeddech chi'n gwybod mae'r Ffindir a'r Swistir ydy'r ddwy wlad hapusa i fyw ynddyn nhw? Wel yn ôl un adroddiad beth bynnag. Dewch i ni gael clywed dipyn am fywyd yn y ddwy wlad gan Dwynwen Hedd o'r Swistir a Tristan Owen Williams o'r Ffindir. Dyma nhw'n sgwrsio efo Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws. Mor ddwfn - So deep Diwylliant - Culture Cyd-fynd - To agree Traddodiad - Tradition Coedwigoedd - Forests Penodol - Specific Ysgogi - To motivate Noeth - Naked Bedydd tân - Baptism of fire A sôn am sauna, os dach chi isio gwybod rhagor gan Trystan a Dwynwen ac am fywyd yn y Ffindir a'r Swistir yna agorwch ap BBC Sounds a theipio'r geiriau Gwneud Bywyd yn Haws i fewn i'r bar bach chwilio. Aled Hughes a Maggie Morgan Wedi dysgu Cymraeg mae Maggie Morgan a buodd hi'n chwilio mewn i hanes ei theulu yn y gobaith o ddod o hyd i'r rhesymau pam nad oedd ei theulu bellach yn siarad Cymraeg. Cafodd Aled Hughes sgwrs efo Maggie ar ei raglen fore Llun. Bellach - By now Di-Gymraeg - Non Welsh speaking Mewn gwirionedd - In reality Teulu estynedig - Extended familly Tad-cu - Taid Aelod - Member Yr aelwyd - The hearth Mamiaith - Mother tongue Mae mwy o hanes Maggie i'w gael yn y rhaglen arbennig ‘Fy Achau Cymraeg' ar BBC Sounds Ifan Evans a Nan Thomas Enillodd rhaglen Ifan Evans wobr arbennig mewn ŵyl Geltaidd yn ddiweddar ac un o'r cynta i'w longyfarch ar ei raglen oedd Nan Thomas o Eglwyswrw. Roedd Nan yn falch bod Cymru'n gwneud yn dda ar lwyfan rhyngwladol ac yn awyddus i ni gymryd rhan fel gwlad yn yr Eurovision Song Contest, ond pwy fasai Nan yn licio ei weld yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth tybed? Achau - Ancestry Gwobr - Award Llongyfarch - To congratulate Llwyfan rhyngwladol - International stage Cynrychioli - Represent Pwy gelen i? - Pwy gawn ni? Yr unig fai - The only fault Pallu - Gwrthod Dewis da ynde? Morgan Elwy enillodd Can i Gymru y llynedd, ac mae o'n diwtor Cymraeg yn ogystal! Rhys Mwyn a Catrin Saran Buodd Rhys Mwyn yn trafod sut mae cerddoriaeth yn siapio ein bywydau efo Catrin Saran o Abertawe. Aeth Catrin yn eitha emosiynol wrth gofio am ei mam-gu yn canu ‘Y Darlun – Dwy Law yn Erfyn' – iddi pan oedd hi'n blentyn... Mam-gu - Nain Erfyn - Praying Difyr - Diddorol Wyres - Grand-daughter ‘Y Darlun – Dwy Law yn Erfyn' dyna i chi gân hyfryd, syml ac un emosiynol iawn i Catrin Saran ynde? Bore Cothi - Shan Cothi a Debra Drake Os dach chi'n gwylio ‘The Great British Sewing Bee' dach chi'n siŵr o fod yn nabod Debra Drake sydd yn cystadlu yn y rhaglen. Mi wnaeth hi blesio'r beirniaid yn arbennig yr wythnos o'r blaen ac ennill gwobr ‘Dilledyn yr Wythnos'. Dyma Debra yn sôn am y gystadleuaeth wrth Shan Cothi... Beirniaid - Judges Dilledyn - Garment Uffar o brofiad - Hell of an experience Gwnio - To sow Her - A challenge Cyd-destyn - Context Becso - Poeni Cywrain - Elaborate Trawsnewid - To transform Dyluniad - A design Lluchio - Taflu A phob lwc i Debra efo'r gystadleuaeth o hyn ymlaen! Dei Tomos a Dani Schlick Mi symudodd Dani Schlick o Berlin i Gymru saith mlynedd yn ôl, mae hi wedi dysgu Cymraeg ac erbyn hyn mae hi'n gweithio i'r Mentrau Iaith. Dyma hi'n egluro wrth Dei Tomos sut daeth hi i Gymru i ddechrau, a pham ei bod hi wedi dysgu Cymraeg. Wedi gwirioni ar - Wedi dwlu ar Tebygrwydd - Similarity Synau - Sounds Ymdopi - To cope Ieithyddol - Linguistic Cam - A step Mynychu digwyddiadau - Attending evebts Cysylltiadau - Connections

Charles Loves
Pwy gbwy

Charles Loves

Play Episode Listen Later Mar 29, 2022 2:07


Pwy gbwy

pwy
Colli'r Plot
Losing The Plot

Colli'r Plot

Play Episode Listen Later Mar 15, 2022 58:28


Croeso i bennod newydd o Losing The Plot gan lais Radio 4 Dafydd Llewelyn.Darllen llyfrau mewn unrhyw iaith er pleser, trafod llyfrau dan ni wedi mwynhau, darganfod ein llyfrau ar Good Reads, canmol sgwrs Siân gyda John Roberts a phenblwydd hapus i ni!Pwy fydd Dafydd yn holi erbyn y podlediad nesaf?Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:Tu Ôl I'r Awyr - Megan Angharad HunterAaron Ramsey A Fi - Manon Steffan RosHeb Law Mam - Heiddwen TomosY Gwynt Braf - Gwyn ParryDod nôl at fy nghoed - Carys Eleri Ysbrydion - Elwyn Edwards The Lamplighters - Emma StonexYmbapuroli - Angharad PriceMay We Be Forgiven - A.M. HomesOur house is on fire - Greta Thunberg, Svante Thunberg, Malena Ernman Beata ErnmanYn Fyw yn y Cof - John Roberts The Illustrated Mum - Jaqueline Wilson

Colli'r Plot
Nadolig, Niwl Ddoe a Gadael Lenin

Colli'r Plot

Play Episode Listen Later Dec 15, 2021 67:18


Croeso i barti Nadolig Colli'r Plot!Trafod pa lyfrau ydyn ni eisiau gan Siôn Corn, Niwl Ddoe gan Geraint Vaughan Jones a Dafydd yn ceisio bod fel Lenin.Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennodNadolig, Pwy a Wyr? - AmrywiolPaid â Bod Ofn - Non ParryHela - Aled HughesMori - Ffion DafisDod 'Nôl at fy Nghoed - Carys EleriYn Fyw yn y Cof - John Roberts100 Cymru - Y Mynyddoedd a Fi - Dewi PrysorBeing Mortal - Atul GawandeHello Friend We Missed You - Richard Owain RowlandsThe Other passenger - Louise CandleishThe Day That Never Comes - Caimh McDonnellBedydd Tân - Dyfed EdwardsBrodorion - Ifan Morgan JonesAr Daith Olaf - Alun DaviesNiwl Ddoe - Geraint Vaughan JonesEat. Sleep. Rage. Repeat. - Rebecca RobertsI Am Thunder - Muhammad KhanLying ways - Rachel LynchThe Song that Sings Us - Nicola DaviesA Leviathan - Philip Hoare

Caerphilly Works
Episode 7: Caerphilly Works Christmas Quiz

Caerphilly Works

Play Episode Listen Later Dec 14, 2021 27:28


On today's festive episode of the Caerphilly Works podcast we challenge eight members of the team to take part in our Caerphilly Works Christmas Quiz. Who has the best knowledge of CV's, interview skills, Christmas songs and films? Find out either by listening on your favourite podcasting app or by watching our extra special video available on Facebook and YouTube. Watch on YouTube: https://youtu.be/p4GbDqcLc1s Listen on Anchor: https://anchor.fm/caerphilly-works Listen on Amazon Music: https://music.amazon.co.uk/podcasts/f3b81ca6-f456-430d-985d-69fa2ef44314/caerphilly-works? ___ Ar bennod Nadoligaidd heddiw o'n bodlediad Caerphilly Works rydym yn herio wyth aelod o'r tîm i gymryd rhan yn ein Cwis Nadolig Gwaith Caerffili. Pwy sydd â'r wybodaeth orau am CV, sgiliau cyfweld, caneuon Nadolig a ffilmiau? Dysgwch naill ai drwy wrando ar eich hoff ap podledu neu drwy wylio ein fideo arbennig ychwanegol sydd ar gael ar Facebook ac YouTube. Gwyliwch ar YouTube: https://youtu.be/p4GbDqcLc1s Gwrando ar Angor: https://anchor.fm/caerphilly-works Gwrandewch ar Amazon Music: https://music.amazon.co.uk/podcasts/f3b81ca6-f456-430d-985d-69fa2ef44314/caerphilly-works?

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: LISA PEDRICK

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Nov 11, 2021 42:47


Pwy sy'n cofio'r gyfres Y Wow Ffactor ar S4C rhai blynyddoedd yn ôl? Enillydd y gyfres oedd fy ngwraig gwadd wythnos hon. Y gantores hyfryd, cyflwynwraig a chyfansoddwraig Lisa Pedrick (Rumble) wnaeth siarad â fi peth amser yn ôl am ei gyrfa, Wow ffactor, canu, dylanwadau, dysgu, teulu, Gwauncaegurwen a llawer mwy ac unwaith eto, pleser pur oedd cael sgwrsio gyda rhywun mor dalentog ac mor hyfryd!

Podpeth
Odpeth 21 - Judge Jeffreys

Podpeth

Play Episode Listen Later Nov 2, 2021 28:43


Pwy oedd yr "Hanging Judge" o Wrecsam, a be mae o'n dda mewn tafarn yn Llundain yn 2014? Y teulu Pitts sy'n ymchwilio...

pitts pwy wrecsam judge jeffreys
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 15fed Hydref 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 15, 2021 14:06


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” SIWRNA SIONED Siwrna Sioned, sef rhaglen arbennig am ferch arbennig o Lanrug ger Caernarfon. Cafodd Sioned Roberts ddiagnosis o'r clefyd Motor Neurone yn 2006. Mae hi am ddefnyddio pob cyfle i rannu ei phrofiadau er mwyn helpu rhai eraill sydd â'r un clefyd. Dyma hi'n sgwrsio gydag Aled Hughes… Clefyd Disease Ymlaen llaw Before hand Iesgob! Goodness! Sylweddoli To realise Cryfder Strength Magwraeth Upbringing Ymchwil Research Triniaeth iachâd A cure Ymwybyddiaeth Awareness Cyfryngau cymdeithasol Social media SIOE SADWRN SHELLEY A RHYDIAN Ie, fel d'wedodd Aled, roedd Sioned yn gryf, yn ddewr ac yn onest yn fan'na wrth drafod ei phrofiadau hi o'r clefyd Motor Neurone. Rhodri Owen oedd gwestai Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn a buodd e'n sôn am yr adeg pan aeth i gyfweld Matthew Rhys am y ffilm A Beautiful Day in the Neighbourhood. Ond doedd cael cyfweld Mattthew ddim yn ddigon i Rhodri, roedd e am gael gair gyda seren arall y ffilm, sef yr actor enwog Tom Hanks. Lwyddodd e i wneud hynny tybed? Dyma fe'n dweud yr hanes… Dewr Brave Cyfweld To interview Rhes A row Anhygoel Incredible Yn llythrennol Literally Tueddiad ofnadwy An awful terndency GERAINT LLOYD Stori anhygoel gan Rhodri Owen am sut lwyddodd e i gael cyfweliad gyda Tom Hanks. Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda'r gyrrwr ralio Elfyn Evans ar ôl iddo fe ennill Rali'r Ffindir - y Cymro cyntaf i wneud hynny. Enillodd y gyrrwr o Ddinas Mawddwy, ger Dolgellau naw o 19 cymal y rali heriol yma, ac ennill pum pwynt bonws drwy ennill y cymal olaf. Ffindir Finland Cymal Stage (of race) Heriol Challenging Yn fwy diweddar More recently O'r cychwyn cynta From the very start Ychydig o fantais A slight advantage Yn dywyllach darker Gwastad Level Tymheredd Temperature Cyn ised â As low as BETI A'I PHOBL Ac mae hi'n dal yn bosib i Elfyn ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd, felly pob lwc iddo fe. Buodd Beti George yn sgwrsio gyda'r fenyw fusnes Sioned Llywelyn Williams, ac yn y clip nesa mae Sioned yn sôn am ei chyfnod yn byw yng Nghaerdydd pan oedd hi'n ifancach, ac yn esbonio pam ei bod wedi dod yn ôl i fyw i Lanuwchlyn yn Ngwynedd, sef yr ardal ble cafodd hi ei magu… Pencampwriaeth Championship Ifancach Fengach Wastad Always Bwrlwm Buzz Am gyfnod For a period Cydnabyddiaeth Acknowledgment Eithriadau Exceptions Broydd Region Yn fwy cyffredin More prevalent Faswn i'n tybio I'd imagine DEWI LLWYD Sioned Llywelyn Williams oedd honna'n falch iawn o fod yn ôl yn Llanuwchllyn. Roedd stori dda gan westai pen-blwydd Dewi Llwyd sef Nia Roberts. Stori oedd hon am yr adeg Nia wedi mynd am glyweliad i chwarae rhan merch Owain Glyndŵr mewn ffilm ar gyfer S4C. Y cyfarwyddwr James Hill oedd yn gwneud y penderfyniad ac roedd Nia yn reit hyderus gan mai ei thad hi, J O Roberts, oedd wedi cael ei ddewis i chwarae rhan Owain. Pwy well felly na Nia i chwarae rhan ei ferch? Ond nid felly aeth hi, fel cawn ni glywed yn y clip yma… Clyweliad Audition Cyfarwyddwr Director Hogiau Bechgyn Diarth (dieithr) Strange Cynhyrchu To produce Trafodaeth A discussion

CYMERIADAU CYMRU
Cymeriadau Cymru: DELYTH EIRWYN

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Oct 14, 2021 35:37


Pwy sy'n cofio gweld Emyn roc a rôl ar S4C? Neu Bob a'i Fam? Actores wych yw Delyth Eirwyn, neu efallai mai 'oedd' sy'n gywir erbyn hyn gan mai athrawes yw hi bellach. Cyfweliad wedi ei recordio yn ystod tywydd poeth iawn eleni ag ambell i hofrennydd neu feic modur yn y cefndir! Ha!! Recordio byw! Sgwrs ddiddorol am ei dyddiau cynnar yn actio a'i rhesymau dros newid gyrfa, 10 cwestiwn cyflym, a chwis bach! Ac os oes rhywun wedi gweld y ffilm sinema 'Arthur's Dyke', wel mae Delyth yn y ffilm honno! Ond i fi, 'Bob a'i fam' odd y gorau!

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: AMANDA PROTHEROE-THOMAS

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Jun 17, 2021 34:16


Wel, am 'treat' wythnos hon! Pwy sy'n cofio gwylio Sgorio, Pacio, Gwyllt ar Grwydr ar S4C, a Hot Houses ar BBC? A phwy sy'n cofio cyflwynwraig y rhaglenni hynny? Ie, y ffabiwlys Amanda Protheroe-Thomas sy'n sgwrsio â fi wythnos hon! Dyw Amanda ddim wedi bod ar ein sgrins ers rhai blynyddoedd bellach. Felly, beth mae di bod yn neud? Sut ddyddiau oedd ffilmio Pacio a nifer o gyfresi eraill? Beth mae di bod yn neud yn ddiweddar i gadw'n frysur? A beth yn y byd oedd hi'n neud yn gweithio gyda 'stingrays' gwyllt yn ynysoedd y Cayman? Y cyfan ar y bennod nesaf o CYMERIADAU CYMRU ar gael ar Spotify, Anchor, Apple casts, Breaker, Radio cast, Google pods a Y Pod Cymru.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 28ain Mai 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later May 28, 2021 15:19


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BETI A'I PHOBL Merch o Gaerdydd ydy Sara Yassine ond mae ei theulu hi’n dod o’r Aifft yn wreiddiol. Gofynnodd Beti i Sara beth mae Caerdydd yn ei olygu iddi hi Yr Aifft - Egypt Golygu - To mean Trwy gydol fy mywyd - All my life Hen dad-cu - Great-grandfather Rhyfel Byd Cyntaf - First World War Morwr - Seaman GWNEUD BYWYD YN HAWS Ychydig o hanes Sara Yassine yn fan’na ar Beti a’i Phobl Mae hi wedi bod yn flwyddyn rhyfedd on’d yw hi? Pwy fasai wedi medru darogan fel roedd rhaid i ni gyd newid ein ffordd o fyw oherwydd Covid? Sut flwyddyn bydd eleni tybed? Dyma i chi glip o Llio Angharad, awdures y blog bwyd a theithio “dine and disco”, yn ceisio darogan beth fydd y 'trends' bwyd ar gyfer gweddill y flwyddyn… Darogan - To predict Dilynwyr - Followers Dy hynt a dy helynt di - All about you Ail- greu - To re-create Datblygu - To develop Eitha poblogaidd - Quite popular Profiadau gwahanol - Different experiences PENBLWYDD DEWI LLWYD Wel , tybed fyddwn ni’n gweld holl ‘trends’ Llio Angharad yn ystod y flwyddyn? Cawn ni weld on’d ife? Mae rhaglen Tudur Owen ar Radio Cymru yn boblogaidd iawn ond mae Tudur hefyd yn hoff o wneud gwaith ‘stand-up’. Fe oedd gwestai penbwlydd Dewi Llwyd fore Sul a soniodd e wrth Dewi am ei deimladau am fynd yn ôl ar lwyfan i berfformio… Llwyfan - Stage Cynulleidfa fyw - Live audience Ymwybodol - Aware Camu ar - To step onto Ail-gychwyn - To start again Diweddaru fy neunydd - Update my material Am wn i - I suppose Padl fyrddio - Paddle boarding Mae’n llonyddu rhywun - It’s relaxing Cydbwysedd - Balance Cyhyrau - Muscles ALED HUGHES Tudur Owen yn edrych ymlaen mwy at badl fyrddio nag at fynd yn ôl i berfformio, ond dw i’n siŵr byddwn yn ei weld ar lwyfan eto cyn bo hir. Mae’r milfeddyg Malan Hughes wedi gweld llawer iawn o bethau rhyfedd wrth ei gwaith ac yn ddiweddar gwelodd hi rywbeth rhyfedd iawn – llo gyda thair llygad. Tynnodd hi lun o’r llo ac mae’r llun hwnnw wedi cael ei rannu ar draws y byd! Milfeddyg - Vet Gwlybaniaeth - Moisture Y creadur - The creature Aeiliau - Eyebrows Amrannau - Eye lash Pwy â ŵyr? - Who knows? Penglog - Skull Cromfachau - Brackets Caniatâd - Permission Y diweddara - The most recent DROS GINIO Hanes llo gyda thair llygad yn fan’na – diddorol on’d ife?l Mae’n 50 mlynedd ers rhyddhau albym Marvin Gaye – Whats Going On. Y cerddor Carwyn Ellis fuodd yn sôn wrth griw Dros Ginio am bwysigrwydd yr albym yn gerddorol, ac yn wleidyddol Rhyddhau - To release Cerddor - Musician Dylanwadol - Influencial Enfawr - Huge Cyd-destun - Context Cefndir - Background Hynod bwysig - Extremely important Perthnasol - Relevant Hiliaeth - Racism AR Y MARC Y cerddor Carwyn Ellis oedd hwnna’n sôn am albwm eiconig Marvin Gaye. Roedd Abertawe yn chwarae yn erbyn Barnsley ar y Liberty nos Sadwrn diwetha mewn gêm ail-gyfle’r Bencampwriaeth. Abertawe enillodd ac ond i’r tîm ennill un gêm arall bydd Abertawe yn cael dyrcharfiad i’r Uwchgynghrair. Mae OJ wedi ei fagu yn Sheffield, yn ffan mawr o Barnsley ac yn dal i fyw yn yr ardal, ond sut a pham dysgodd e Gymraeg? Dyma fe’n esbonio ar Ar y Marc… Gêm ail-gyfle - Play off Y Bencampwriaeth - The Championship Dyrchafiad - Promotion Uwchgynghrair - The Premier League Rheolwyr - Managers Uniongyrchiol - Direct Cyfleon - Opportunities

Welsh Wednesdays
Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a'r Gwareiddiad Cymraeg

Welsh Wednesdays

Play Episode Listen Later May 26, 2021 24:32


Mae'r awdur o'r llyfr ‘Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a'r Gwareiddiad Cymraeg', Dr Simon Brooks o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn ymuno a mi i rhoi cip olwg o ymchwil fe mewn i hanes lleiafrifoedd ethnig yn Gymru. "Mae'r gyfrol arloesol hon yn cyflawni dau amcan. Yn gyntaf, mae'n cynnwys, am y tro cyntaf, hanes lleiafrifoedd ethnig oddi mewn i'r diwylliant Cymraeg, a hynny o ddyddiau Macsen Wledig hyd heddiw. Yn ail, mae'n dehongli amlethnigrwydd o safbwynt Cymraeg yn hytrach na Saesneg, sy'n arwain at y cwestiwn, ‘Pwy yw'r Cymry?' Yn ogystal â'r hanes cyffredinol, ceir penodau am Gymry du, y Sipsiwn Cymreig, Gwyddelod ac Iddewon yng Nghymru, amlethnigrwydd cefn gwlad, a'r Cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr. O ran ei syniadaeth, trafodir pethau mor amrywiol â pherthynas y Cymry â threfedigaethedd a chaethwasiaeth, hybridedd grwpiau lleiafrifol, Saeson Cymraeg, a chenedlaetholdeb a hil. Wrth gloi, gofynnir ai'r Cymry yw pobl frodorol Ynys Prydain." Archebwch y llyfr yma: https://www.uwp.co.uk/book/hanes-cymry/ --- Send in a voice message: https://anchor.fm/katie-phillips5/message

hanes yn cymraeg nghymru gymru wrth pwy saesneg cymry simon brooks
CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU: MORGAN ELWY WILLIAMS

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Mar 18, 2021 22:52


Pwy wnaeth wylio Cân i Gymru eleni? Wel enillydd y gystadleuaeth sydd ar y podlediad wythnos hon.... Morgan Elwy Williams o Lansannan ac yn athro ffiseg! Job go iawn! Sgwrs am ei gerddoriaeth a'i ddylanwadau a'i brofiad ar lwyfan Canolfan y Mileniwm a hanes yr hogyn ifanc, diymhongar yma yn rhoi ei aren i'w chwaer fach! Parch!!! Dwi wrth fy modd gyda'i gân fuddugol ''Bach o hwne'' ac mae albwm solo cyntaf Morgan, 'Teimlo'r Awen' allan ar ei label ei hun Bryn Rock Records. Yn ddigon rhyfedd, dyw safon y sain ar y sgwrs ddim yn y gorau weithiau (canlyniadau zoom dros y ffôn) ond nes i rili fwynhau! A dwi jyst methu stopio canu'r gân!!! ''Bach o bach o hwne, bach o bach o hwne......''

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 18fed Chwefror 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Feb 19, 2021 0:49


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Dros Ginio - Anthony Evans Morgi a Draenog y Môr- dyn nhw dim yn swnio’n ddeniadol iawn nac ydyn, er eu bod yn bysgod blasus iawn. Mae pysgotwyr yng Nghernyw eisiau newid enwau eu pysgod er mwyn iddyn nhw swnio’n fwy lleol a deniadol. Ddylai ni wneud yr un peth yng Nghymru? Dyma farn y cogydd Anthony Evans yn sgwrsio gyda Vaughan Roderick… Morgi - Dogfish Draenog y Môr - Sea Bass Pwysleisio - To emphasise Cregyn gleision - Mussels Cynnyrch - Produce Moethus - Luxurious Croen - Skin Papur tywod - Sandpaper Dros Frecwast - Cledwyn Ashford Y cogydd Anthony Evans oedd hwnna yn meddwl dylid newid enwau rhai o‘r pysgod sy’n cael eu dal yng Nghymru. Mae ychydig bach o Hollywood wedi cyrraedd Wrecsam gyda’r newyddion bod yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi prynu’r clwb pêl-droed. Mae ffans y clwb wrth eu boddau a dyma un ohonyn nhw, Cledwyn Ashford, yn sgwrsio gyda chriw Dros Frecwast am y newyddion cyffrous Dylanwad - Influence Y gymuned - The community Anhygoel - Incredible Perchnogion - Owners Dyled - Debt Sicrhau pryniant - To clinch the purchase Buddsoddi - To invest Ieuenctid - Youth Ysbryd - Spirit Troi’r Tir - Emyr Lewis ..a nawr symudwn ni o bêl-droed i rygbi ac roedd Cymru’n chwarae yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y penwythnos diwetha. Ar Troi’r Tir yr wythnos diwetha, clywodd Terwyn Davies hanes ffermwr o ganolbarth Cymru sy bellach yn ffermio yn yr Alban. Pwy oedd e’n ei gefnogi yn y gêm fawr tybed? Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - Six nations Y Canolbarth - Mid Wales Sir Drefaldwyn - Montgomeryshire Rheolwr - Manager Gradd amaeth - A degree in agriculture Sioe Frecwast - Emyr Lewis Gan ein bod ni newydd fod ym myd amaeth beth am i ni sôn am y Tarw – na nid yr anifail fferm ond Emyr Lewis oedd yn arfer chwarae fel rhif wyth i Lanelli ac i Gymru. Cafodd e’r enw tarw achos ei rediadau cryf fel wythwr yn torri drwy’r gwrthwynebwyr ond roedd dawn cicio ganddo hefyd fel buodd e’n sôn wrth Daf a Caryl… Rhediadau - Runs Gwrthwynebwyr - The opposition Cryn dipyn o bwysau - Quite a lot of pressure Digwydd bod - As it happens Asgell - Wing Buddugoliaethau - Victories O’ch plaid chi - In your favour Cenhedlaeth - Generation Cerddorol - Musical Unigryw - Unique Gwneud Bywyd yn Haws - Cerys Davage Ac mae Emyr Lewis yn sylwebu ar holl gemau Cymru yn y Chwe Gwlad ar Radio Cymru. Un o effeithiau’r cyfnod clo yw nad yw hi wedi bod yn bosib mynd i wrando ar gerddoriaeth fyw. Mae’n debyg bod hyn wedi effeithio ar bobl ifanc yn fwy na neb. Ar Gwneud Bywyd Yn Haws, cafodd Hanna Hopwood sgwrs am hyn gyda Cerys Davage sydd ar ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth … Sylwebu - To commentate Cymdeithasol - Social Gweld eisiau - To miss Bloc Llety - Residential block Mae e wir yn drueni - It’s a real shame Yn gyfarwydd iawn - Very familiar Dathlu - To celebrate Cyfryngau cymdeithasol - Social media Bore Cothi - Aled Llyr Gruffudd Cerys Davage o Brifysgol Aberystwyth oedd honna’n sôn am sut mae'r cyfnod clo wedi effeithio ar fywyd cymdeithasol myfyrwyr. Enillodd Aled Llŷr Gruffudd wobr yn ddiweddar am un o’i ffilmiau, a gofynnodd Shan Cothi iddo fe sut cafodd e’r syniad am y ffilm...... Gwobr - Award Pwnc - Subject Galar - Bereavement Nain - Mam-gu Gwacter - Emptiness Di-nod - Pointless Ysbrydoli - To inspire

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 12fed Chwefror 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Feb 12, 2021 16:04


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … TROI’R TIR Roedd gêm gynta Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn un gyffrous iawn gyda Chymru yn ennill o bum pwynt yn unig. Pwy tybed oedd Gwenan Morgan Lyttle yn ei gefnogi dydd Sadwrn gan ei bod hi bellach yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac wedi priodi Gwyddel? Dyma i chi glip o Gwenan yn sgwrsio gyda Terwyn Davies ar Troi Tir Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - Six Nations Championship Cefnogi - To support Gwyddel - An Irishman Gwartheg - Cattle Tad-cu - Taid Bugail - Shepheard Yn y gwaed - In the blood Y Weriniaeth - The Republic Hwyluso - To facilitate Ar y ffin - On the border DANIEL GLYN AC ELLIW GWAWR Dw i’n siŵr bod Gwenan yn hapus iawn dydd Sadwrn ar ôl i Gymru guro’r Iwerddon. Y newyddiadurwraig Elliw Gwawr oedd gwestai Daniel Glyn ar y sioe Frecwast dros y penwythnos. Dyma hi’n sôn am sut mae’r blynyddoedd diwetha wedi bod yn rhai diddorol iawn iddi hi… Newyddiadurwraig - Female journalist Anghyffredin - Uncommon Prif Weinidogion - Prime Ministers Llywodraethu - To govern Newid enfawr - A huge change Llywodraeth Cymru - The Welsh Government Anhygoel - Incredible San Steffan - Westminster Cyn lleied â - As little as Gwefannau cymdeithasol - Social media Diddiolch - Thankless TATŴS TRYSTAN AC EMMA Elliw Gwawr oedd honna’n sôn am waith newyddiadurwraig wleidyddol yn ystod y blynyddoedd prysur diwetha. Ar ôl i Brooklyn Beckham, y model sy’n fab i David a Victoria Beckham, gael tatŵ arall i ychwanegu at yr holl ink sy ar ei gorff, cafodd Trystan ac Emma sgwrs gydag Elin Mai o Lanberis sy hefyd yn dipyn o ffan o datŵs… Na fo - Dyna fe/fo Uniaethu - To empathise Wastad - Always Ymhelaethu - To expand Ysgogi - To inspire GWEN SGWRS YR HET Hanes tatŵs Elin Mai yn fan’na ar raglen Trystan ac Emma. Mae het Geraint Lloyd wedi teithio ar draws Gymru wrth i un gwrandäwr ei phasio at wrandäwr arall. Yr wythnos diwetha roedd yr het wedi cyrraedd Castell-Nedd a dyma Geraint yn holi perchennog newydd yr het - Gwen… Ymgymryd â her - Taking up a challenge Elusen - Charity Elwa - To benefit Gwledd - A feast FFION DAFIS Gwen o Gastell-Nedd oedd honna, yn sôn am ei hetiau. Roedd gan yr actores Ffion “gwallt” Dafis ddewis anodd iawn i’w wneud yn ddiweddar - parhau i actio rhan Alwenna yn y gyfres boblogaidd Rownd a Rownd neu wneud cyfres newydd o’r ddrama boblogaidd ‘Byw Celwydd’. Hi oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd dydd Sul gan ei bod yn dathlu ei phenblwyddd yn hanner cant. Dyma hi’n esbonio wrth Dewi pam gwnaeth hi ddewis ‘Byw Celwydd’… Cyfres - Series Yn werthfawrogol iawn - Very appreciative Pryderus - Worried Cyfuniad - A combination Troi a throsi - Tossing and turning Anwyldeb - Affection Yn wythnosol - Weekly Magwraeth - Upbringing FY STORI I - DEWI TUDUR Penderfyniad anodd iawn yn fan’na i Ffion Dafis. Mewn rhaglen arbennig o’r enw Fy Stori i, glywon ni hanes yr artist Dewi Tudur sydd yn byw yn yr Eidal erbyn hyn. Yn y rhaglen clywon ni ei fod wedi cael cyfnodau trist iawn yn eu fywyd ond yn y clip yma dyma fe’n sôn am ddigwyddiad hapus iawn newidiodd ei fywyd yn llwyr… Cyfeillgarwch - Friendship Gwas y Neidr - Dragonfly Selio - Based Diniweidrwydd - Innocence Cynhyrchwyr - Producers Dyma fi’n digwydd - I happened to Ro’n i wedi gwirioni - I was delighted Unig ac anial - Lonely and desolate

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion Dysgwyr 5ed Chwefror 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Feb 5, 2021 16:53


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Steffan Cennydd Os oeddech chi’n un o’r miliynau wyliodd y gyfres The Pembrokeshire Murders ar ITV yn ddiweddar, efallai eich bod chi’n cofio cymeriad mab y ditectif DCI Steve Wilkins. Luke Evans oedd yn chwarae rhan y ditectif a Steffan Cennydd o Gaerfyrddin oedd yn chwarae rhan y mab. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Caryl a Daf gyda Steffan ar eu rhaglen yr wythnos yma Mwya llwyddiannus - Most successful Golygfa - Scene Gyferbyn â - Opposite to Mae’n fyd enwog - He’s world famous Egni - Energy Rhwydd - Hawdd Derwen - Oak Marian Brosschot Steffan Cennydd oedd hwnna ac roedd e’n amlwg wedi mwynhau cymryd rhan yn The Pembrokeshire Murders. Mae Marian Brosschot yn diwtor Cymraeg i Brifysgol Bangor a buodd hi'n dysgu Cymraeg ym Mhatagonia y llynedd. Mae hi’n rhugl mewn Cymraeg, Saesneg, Iseldireg a Sbaeneg ac mae hi nawr yn dysgu Daneg. Pwy well felly i roi cynghorion ar ddysgu iaith. Dyma ambell i gyngor rannodd hi ar raglen Aled Hughes wythnos diwetha. Gofynnodd Aled iddi hi oedd canu yn ffordd dda o ddysgu iaith… Iseldireg - Dutch Daneg - Danish Ystyr dyfnach - A deeper meaning Arwynebol - Superficial Llythrennol - Literal Trwytho - To saturate Dywediadau - Sayings Chdi - Ti Wsos - Wythnos Ynganiad - Pronunciation Am w’n i - As far as I know Jonathan Simcock Rhywun sy wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg yn rhugl ydy Jonathan Simcock, er ei fod yn byw yn Derby. Mae Jonathon wedi bod yn trefnu clwb a gwersi Cymraeg i ddysgwyr ardal Derby a Nottingham ers blynyddoedd. Cafodd Shan Cothi sgwrs gydag e ar Bore Cothi a gofynnodd hi i Jonathon sut oedd Cylch Dysgwyr Derby a Nottingham wedi ymdopi â’r cyfnod clo… Ymdopi - To cope Arferol - Usual Tu hwnt - Beyond Ymhlith - Amongst Alltud - Exiled Cerdd - Poem Offeryn - Instrument Cymunedol - Community Llawen - Merry Llion Thomas Felly os dych chi’n barod i gymryd rhan yn y noson lawen cysylltwch â Jonathon Simcock, dw i’n siŵr basai’n falch iawn o glywed gennych. Mae gan Llion Tomos o Ynys Môn gi talentog iawn o’r new Max – fel clywodd Emma a Trystan ar eu rhaglen fore Gwener… Dallt - Deall Sillafu - To spell Cawn ni weld - We’ll see Aballu - And so on Gwenith Evans Wel dyna ni berfformiad perffaith i noson lawen Cylch Derby – Llion rhaid i chi gysylltu â Jonathon Simcock! Therapydd cerdd ydy Gwenith Evans o Benparc ger Aberteifi, a buodd hi’n gweithio yn Seland Newydd tan tua dau fis yn ôl ond erbyn hyn mae hi’n byw yng Nghymru unwaith eto. Dyma hi’n sôn ychydig wrth Hanna Hopwood Griffiths am ei phrofiad yn Seland Newydd yn ystod y pandemig… Ffodus - Fortunate Eitha clou - Quite quickly Llond llaw - Handful Dihunais i - Wnes i ddeffro Rhyddid - Freedom Ffaelu - Methu Sa i’n siŵr - Dw i ddim yn siŵr Aeron Pughe Hanes y cyfnod clo yn Seland Newydd yn fan’na ar y rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws. Mae priodi yng nghefn gwlad Cymru yn gallu bod yn rhywbeth peryglus iawn yn ôl yr hanesion glywon ni ar Troi’r Tir. Dyma i chi Aeron Pughe o Gomins Coch ger Machynlleth i ddechrau yn rhoi hanes ei briodas e… Drygioni - Mischief Gwas priodas - Best man Cwmpodd y goeden - The tree fell Llanast - Mess Budreddi - Dirt Yn enedigol o - A native of Fawr ddim cwsg - Hardly any sleep Traddodiad - Tradition Rhaffau - Ropes Groes yr heol - Ar draws y ffordd

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU RHIF 11: NERYS HOWELL

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Dec 10, 2020 38:13


Pwy sy'n hoffi bwyd a choginio a'r diwydiant fwyd? Fy ngwraig gwadd arbennig wythnos hon yw'r cogydd, awdur, cyflwynydd a gwraig fusnes Nerys Howell. Fel bach o 'nympty' anwybodus am fwyd yn gyffredinol, nes i ddysgu tipyn am yr holl fyd tra'n cyfweld â hi yn ddiweddar a mae Nerys yn engraifft berffaith o rhywun proffesiynnol a phrofiadol a thalentog sy' di' addasu ei sgiliau i'r byd digidol a rhithiol. Er, sdim ots pha mor dda ma hi yn coginio ac yn cyflwyno am fwyd.......bara lawr?????? Dim diolch!!

Storytelling with Michael Harvey
Dydd Mercher y Mabinogi gyda Dafydd Davies Hughes

Storytelling with Michael Harvey

Play Episode Listen Later Nov 27, 2020 16:47


Mae Dafydd wedi bod yn gyfarwydd gyda'r Mabinogi ers yn blentyn. Mae wedi crwydro'r dirwedd a dod i nabod y straeon a'u gweld nhw'n dod yn fyw wrth droedio'r tir a dod i'w nabod nhw 'trwy sodlau eu traed'. Mae'n gweld y Mabinogi fel rhan o'n hunaniaeth fel Cymry a'r cymeriadau fel drych i ni'n hunain a'r ffordd rydym yn ymddwyn yn y byd. Wrth ymweld â'r llefydd mae'r stori yn sôn amdanynt mae bron yn amhosib teimlo mai 'yma ddigwyddodd hi'. Wrth adrodd, rhwng y storïwraig/wr a'r dirwedd a phwy bynnag sydd yn clustfeinio.Wrth dyfu gyda'r Mabinogi ffeindiodd bod cymeriadau gwahanol y straeon yn atseinio gyda'i fywyd ei hunan mewn ffyrdd gwahanol nes cyrraedd y rhyfelwr Zen Manawydan sydd yn dadwneud hud a lledrith wrth beidio â gweithredu. Y mae Dafydd yn edmygydd o fersiwn Guto Dafis o hanes Manawydan. Y mae cyfweliad gyda Guto nes ymlaen yn y gyfres.I gloi mae Dafydd yn dweud mai cwestiynau yw'r Mabinogi. Pwy oeddem ni, pwy ydyn ni a phwy ydyn ni am fod fel Cymry.Y mae Dafydd yn gyfarwyddwr Menter y Felin Uchaf ym Mhen Llŷn

Nawr yw’r awr
3. Pwy sydd angen Sa Calobra?!

Nawr yw’r awr

Play Episode Listen Later Jun 29, 2020 43:37


“Pwy sydd angen Sa Calobra pan ti ‘lli cleimo mas o Langrannog” - clywch am ein trip ddiweddar ar y beics ar hyd arfordir De Ceredigion cyn i ni ateb eich cwestiynau gan gynnwys pwy sydd ore yn y bore, tips nofio(!), sut yr ydym yn motivato ein gilydd a pha sialens yr ydym wedi osod ein hunain nesaf tra bo' ddim rasys ar y calendar. Os oes cwestiwn hoffwch chi glywed ni'n ateb yna cysylltwch â ni - nawrywrawr@hotmail.com, Twitter (@nawrywrawr) neu Facebook (Nawr Yw'r Awr)

os awr angen pwy
Y Coridor Ansicrwydd
Pump disglair Uwch Gynghrair Cymru

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later May 26, 2020 64:03


Pwy yw'r goreuon yn hanes Uwch Gynghrair Cymru? Mae 'na enwau mawr heb wneud y rhestr!

Yma Mae Dreigiau - Here Be Dragons

Pwy oedd Gwyddno Garanhir, a pham ei fod yn ochneidio! Dyma hanes am damwain naturiol sydd, efallai, gyda mwy o wir ynddi nag unrhyw stori arall o'r canol oesoedd. Dyma hanes Cantre'r Gwaelod. Mae'r podlediad yma yn rhad ac am ddim ond os hoffech chi gadael adolygiad (review) 5 seren ar iTunes neu lle bynnag rydych yn cael eich podlediadau Ac os hoffwch brynu goffi i mi am fy waith caled mae croeso i chi wneud hynny yma www.ko-fi.com/llusern Cerddoriaeth ddi-hawlfraint yng Nghymru diolch i Slic, rhan o Sain. Safe we www.slictrac.com --- Send in a voice message: https://anchor.fm/herebedragons/message

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 21ain o Chwefror 2020

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Feb 21, 2020 16:19


Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. Ifan Evans - Kat Von Kaige bwriadu rhyddhau - intends to release wastad wedi - always have dawnsio gwerin - folk dancing llefaru - recitation perthynas - relationship yn hollol - exactly y gwedill - the rest yn bendant - definitely trwm - heavy Mae Rhiannon Osbourne o Ferthyr Tudful yn wreslo ar draws Ewrop gan ddefnyddio'r enw Kat Von Kaige. Ond mae hi hefyd wedi sgwennu caneuon Cymraeg ac mae hi'n bwriadu rhyddhau albwm Cymraeg yn y dyfodol. Dyma hi'n sgwrsio gyda Ifan Evans. Rhaglen Aled Hughes - Monopoly dyfeisio - to invent annheg - unfair sylweddoli - to realise cynyddu eu cyfoeth - to increase their wealth dychmygu - to imagine y pendraw - the end dameg - parable yn weddol boblogaidd - fairly popular cogio - to pretend i'r gwrthwyneb - to the contrary Rhiannon Osbourne oedd honna'n esbonio sut mae sgwennu caneuon wedi ei helpu hi i ddod dros perthynas anodd. Ar raglen Aled Hughes yr wythnos yma roedd Peredur Webb-Davies yn sgwrsio am y gêm 'Monopoply'. Yn y clip nesa cawn ni glywed Peredur yn esbonio o ble daeth y syniad gwreiddiol am y gêm. Sioe Frecwast Radio cymru 2 - Bryn Fôn doniol - funny dwys - intense cyfweliad - interview ymarferol - practical fy nghelf - my art trefnus - organised cyfuniad - combination mae gynno chdi - mae gyda ti anhygoel - incredible Cymraeg coeth - elegant Welsh Wel wel, pwrpas y gêm fodern Monopoly yn hollol wahanol i bwrpas y gêm wreiddiol felly. Rhyfedd on'd ife? Mae Bryn Fôn yn enwog fel canwr ond hefyd fel actor ac mae o'n actio yng nghyfres newydd Hidden ar y BBC. Fe sy'n chwarae rhan Hefin yn ail gyfres y ddrama dditectif. Roedd Bryn yn westai ar y Sioe Frecwast gyda Daf a Caryl, tybed pa fath o ddramâu mae Bryn yn ei licio fwya? Hwyrnos Georgia Ruth - Sian Reese Williams cynhyrchu - to produce Prydeinig - British tirwedd - landscape ansawdd - quality ymateb - response cyfforddus - comfortable Un arall sy'n actio yn y gyfres Hidden ydy Sian Reese-Williams hi sy'n actio rhan DI Cadi John yn y gyfres. Sian oedd gwestai Georgia Ruth nos Fawrth a gofynnodd Georgia iddi oedd hi'n hoff o'r cyfresi Scandi Noir. Beti A'i Phobol - Aled Rees Yr Athro Ddocctor - Proffesor Dr ymchwil - research hyfforddiant - training profiad annymunol - an unpleasant experience fel chi mo'yn - as you want meddygaeth - medicine ymdopi - to cope claf - patient trin - to treat yn astud iawn - very carefully A dw i'n siwr bod llawer o bobl yn edrych ymlaen i weld cyfres newydd Hidden ar BBC Wales ac ar BBC4. Cafodd Beti George sgwrs gyda'r Athro Ddoctor Aled Rees sydd yn rhannu ei amser rhwng gwaith academaidd, gwaith ymchwil a gwaith meddygol. Yn y clip yma mae Beti yn holi am yr hyfforddiant gafodd e fel meddyg. Rhaglen Aled Hughes - Bathodynnau clybiau pêl-droed cynrychioli - to represent llew - lion arfbais - coat of arms morthwyl hirgoes - rivet hammer diflannu - to disappear hunaniaeth - identity adlewyrchu - to reflect diwydiant trwm - heavy industry camarweiniol - misleading dryslyd - confusing Blas ar waith a hyfforddiant meddygon yn fan'na ar Beti a'i Phobol. Ar raglen Aled Hughes clywon ni am y straeon sy'n cael eu cynrychioli ar fathodynnau timau pêl-droed Chelsea, West Ham ac Arsenal. Pwy fasai'n meddwl bod bathodynnau clybiau pêl-droed gyda chymaint o hanes y tu ôl iddyn nhw?

BE' TI'N MEDDWL!?
"Pwy yw'r Tory Gorau erioed!?" (Y cwestiwn amhosib!)

BE' TI'N MEDDWL!?

Play Episode Listen Later Jan 1, 2020 57:13


Ymunwch ni ar 1af Mis Ionawr 2020 tra bod ni'n son am bwnciau pwysig fel y Milleniwm, Parkrun, #Ranuary, KFC a Greggs yn gwneud dewisiadau ar gyfer vegans ac ein gem sy'n anodd iawn... bron amhosib "Pwy yw'r Tory gorau erioed" - play along at home! Mae'n nhw gyd yn conts ond mae taking part sy'n cyfri. Joiwch a chofiwch.. ein tudalen Instagram ar gael instagram.com/betinmeddwl Does gen ni ddim cyfeiriad ebost eto, felly os dych chi isio anfon neges ato ni, gyrrwch nhw i MYNDAMBEINTGYDA@GMAIL.COM tan byddwn ni'n trefnu cyfeiriad newydd sbon!

kfc greggs parkrun pwy cwestiwn
Dim Rwan na Nawr
Yr Oesoedd Tywyll

Dim Rwan na Nawr

Play Episode Listen Later Nov 29, 2019 57:17


Dr Rebecca Thomas a Dr Owain Jones o Brifysgol Bangor sy'n ymuno gyda Tudur a Dyl i drafod yr Oesoedd Tywyll. Ydy Tudur yn gywir i ddefnyddio'r term? Pwy oedd yn ymosod ar Gymru ar y cyfnod "tywyll" yma? Oedd 'na lonydd i'w gael i'r Cymry? Oedd na'r fath beth a Chymru, neu Gymry, ar y pryd?!

Dim Rwan na Nawr
Pwy oedd y Rhufeiniaid gyntaf yng Nghymru?

Dim Rwan na Nawr

Play Episode Listen Later Nov 22, 2019 58:06


Pwy oedd y Rhufeiniaid gyntaf yng Nghymru? Faint o hir nath y nhw aros? Pam oedd y nhw yma? Cewch yr atebion yma i gyd yng nghwmni Dewi Prysor ar y 3ydd pennod o Dim rwan na nawr!

dim nghymru pwy rhufeiniaid
Clic o'r Archif
Clic o'r Archif: Tydi Bywyd yn Boen & Tydi Coleg yn Grêt

Clic o'r Archif

Play Episode Listen Later Sep 30, 2019 33:21


Pwy sy’n cofio hynt a helynt Delyth wrth iddi lywio’i ffordd drwy fywyd ysgol a choleg? Yn y bennod yma o’r podlediad Clic O’r Archif bydd rhai o wynebau cyfarwydd S4C a Hansh yn bwrw’u llygaid dychanol ar ddwy o gyfresi cwlt archif S4C: Tydi Bywyd yn Boen a Tydi Coleg yn Grêt. Ma’ nhw’n trafod bob dim; o ffasiwn, steil gwallt a rhywiaeth i Hywel o Pobol y Cwm mewn speedos! Os y’ch chi’n cofio’r gyfres yn cael ei dangos y tro cyntaf ac am ail-fyw anturiaethau Delyth, neu os nag y’ch chi erioed wedi clywed am y gyfres o’r blaen ac ishe gweld sut oedd bywyd cyn y smart phone, dyma’r podlediad i chi. Wedyn ewch i wefan dal i fyny S4C Clic i wylio’r bocs sets. RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref! Dilynwch y linc i weld y bocs sets: https://www.s4c.cymru/clic/BoxSets Special Guests: Non Parry and Sam Rhys.

Y Gic Rydd
PWY FYDD YN CAEL Y SAC GYNTAF? BALE YN TROI CORNEL, DYLANWAD OSIAN, UNITED v PALACE

Y Gic Rydd

Play Episode Listen Later Sep 4, 2019 44:15


Yn ymuno â Sioned Dafydd mis yma ar bodlediad Y Gic Rydd, mae Aled Tomos Hughes (cefnogwr Manchester United) a Lois Angharad (cefnogwr Crystal Palace). Pwy fydd yn cael y sac gyntaf? Be fydd effaith Osian Roberts yn gadael Cymru? Yw Bale wedi troi cornel yn Madrid?

Hansh
Eistwebfod 2019 gyda Aled ac Adam

Hansh

Play Episode Listen Later Aug 5, 2019 32:56


Yn (beth sy'n debygol o fod) y podlediad eisteddfod llwyr ddigidol gyntaf erioed, ma’ Aled Illtud ac Adam Gilder yn agor gatiau Eistwebfod 2019. Y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol fydd ei maes, pafiliwn a’u horielau; a ma’ nhw’n dathlu’r goreuon yn y byd digidol. Pwy fydd yn ennill y goron? Pam na dyle Garfield gael gwahoddiad i’r pafiliwn? Ac a dyle pwyllgor yr Eistwebfod neud fel Belle Delphine a gwerthu dŵr bath Dewi Llwyd i godi arian? Bydd Aled ac Adam yn rhoi croeso cynnes Cymreig i’r memes mwyaf dank a chynnwys mwyaf fiery y byd digidol. RHYBUDD - Yn cynnwys iaith gref a themâu sydd yn anaddas i blant. Is (what's likely to be) the first ever digital eisteddfod podcast, Aled Illtud and Adam Gilder open the gates of Eistwebfod 2019. The internet and social media are their maes, pavilion and galleries; and they’ll be celebrating the best the digital world has to offer. Who will win the crown? Why shouldn’t Garfield get an invite to the pavilion? And should the Eistwebfod take inspiration from Belle Delphine and sell Dewi Llwyd bath water to raise money? Aled and Adam give a warm Welsh welcome to the dankest memes and the most fiery content in the digital world. WARNING - Contains strong language and themes unsuitable for children.

Podlediad Caersalem
"Pwy oedd Mair yn meddwl oedd hi?" Hanes Mair a Martha yn cyfarfod Iesu (Luc 10:37-42) gyda Rhys Llwyd

Podlediad Caersalem

Play Episode Listen Later Jun 4, 2019 24:43


"Pwy oedd Mair yn meddwl oedd hi?" Hanes Mair a Martha yn cyfarfod Iesu (Luc 10:37-42) gyda Rhys Llwyd

Hansh
Esyllt Ethni-Jones yn cyflwyno: Iwan a Rhianna

Hansh

Play Episode Listen Later Apr 25, 2019 22:18


Helo! Iwan Pitts sydd yn holi Rhianna Loren am y cymeriad boncyrs Esyllt Ethni-Jones. Pwy, pam, sut?!

Y Gic Rydd
CYMRU, CAERDYDD v ABERTAWE a VAR !

Y Gic Rydd

Play Episode Listen Later Mar 20, 2019 31:51


Sioned Dafydd sy'n cadw Gruff Huws a Huw Harries dan reolaeth wrth iddyn nhw drin a thrafod gobeithion Cymru, Caerdydd v Abertawe a VAR . Pwy yw'r clwb mwyaf yng Nghymru? Bydd Cymru ar ei ffordd i'r Euros eto? Ac yw VAR yn helpu neu'n gwaethygu pêl-droed? Sioned Dafydd keeps Gruff Huws and Huw Harries under control as they look forward to Wales' chances in the Euro qualifiers, Cardiff vs Swansea and VAR. Who's the biggest club in Wales? Will Wales ever reach another Euros championship? And is VAR good or bad for football?

Podpeth
Odpeth #7 - "Birdie? Eagle? Camel!"

Podpeth

Play Episode Listen Later Feb 13, 2019 32:14


Birdie? Eagle? Camel!, R.I.Pwy?, Jackson Chwilod. (O Podpeth 38 - “Umami!” 17/7/2017)

Podpeth
Podpeth #51 - "Mochan"

Podpeth

Play Episode Listen Later Nov 21, 2018 30:05


Elin, Hywel ac Iwan yn cyflwyno Podpeth!   Mae Elin yn dangos sgiliau acenion hi, mae Iwan yn siarad am neud rhaglenni datio i S4C, ac mae Hywel yn ateb y cwestiwn “Pwy di Hywel Pitts?” Hefyd, yn dod yn fuan - t-shirts a hwdis Podpeth!

Yn Y Parth
Pennod 14 - Helo James Lawrence!

Yn Y Parth

Play Episode Listen Later Nov 6, 2018 55:53


OTJ a Malcs sy'n edrych ar garfan Cymru fydd yn wynebu Denmarc ac Albania. Pwy di James Lawrence? Pwy fydd yn llenwi sgidia' Ben Davies? A gaiff Harry Wilson ei le wedi'r gol yn Nulyn?Hefyd, oes gan Y Barri ddigon i ennill Uwch Gynghraid Cymru ac mae OTJ yn trio gneud mis heb siwgwr, all Malcolm fynd heb gyri?

Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 14: Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw)

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Nov 7, 2011 69:38


Croeso i Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw), y rhifyn cyntaf gyda chyfweliad gyda pherson go iawn! Yn ymuno gyda Sioned, Bryn ac Iestyn mae Garmon Gruffydd o gyhoeddwyr Y Lolfa, gyda’u gobeithion a chynlluniau nhw ar gyfer cyhoeddi e-lyfrau yn y Gymraeg. Byddwn yna yn trafod lle mae hyn yn gadael gobeithion rhai am gyhoeddi agored Cymreig ar-lein, ond nid sioe llyfrau yn unig fydd hi peidiwch poeni! Mae’r Nokia Lumia 800 yn ein temtio, ynghyd â’r newyddion gwych am brosiect Radio’r Cymry a’n plyg traddodiadol i Hacio’r Iaith ym mis Ionawr, joiwch! Dolenni Nokia Lumia 800 Pwy sy’n rheoli’r cyfryngau yn y 21ain ganrif? Coelcerth Kindles E-lyfrau 2011, recordiadau 2004 Radio’r Cymry The post Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw) appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad. Special Guest: Garmon Gruffydd.

Eglwys Efengylaidd Rhydaman
Pwy ydw i? - Audio

Eglwys Efengylaidd Rhydaman

Play Episode Listen Later Jun 25, 2011 34:30


Pregeth Peter Hallam ar 26 Mehefin 2011 ar 'Pwy ydw i?' yn y gyfres 'Cwestiynau'

pwy mehefin cwestiwn