Welsh national radio station
POPULARITY
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Ebrill yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennodCLIP 1 Cynyddu: To increase Sionc: Lively Drygionus: Naughty Ambyti nhw ffordd arall o ddweud Amdanyn nhw Efeilliaid: Twins Yn gwmws: Exactly Cerrig milltir: MilestonesCLIP 2 Penillion: Verses Gorchymyn: Command Bwrw mlaen : To get on with it Egni: Energy Ysgwyddo: To shoulder Tewch â sôn: Don't mention Rhyfedda: Strangest Dod i ben: To fulfil Pellter: Distance Helaeth: Extensive CLIP 3 Safbwynt: Point of view Addas: Suitable Hoyw: Gay Uchelgais: Ambition Mewnblyg: Introverted Angerdd: Passion Gwrywaidd: Masculine Rhwydwaith: Network Galluogi;: Enabling Awydd: Desire Gweddnewid: To transform Adlewyrchu: To reflectCLIP 4 Coelio ffordd arall o ddweud Credu Dychmygu: To imagine Hedyn: Seed Diarth, neu dieithr: Foreign Dychrynllyd: Frightening Ben i waered; Upside down Defnyddiol : Useful Gwirioni; To doteCLIP 5 Llysgenhadon: Ambassadors Hybu: To promote Annog: To encourage Her: A challenge Ymgymeryd: To undertake Yn yr un gwynt: In the same breath Yn uniongyrchol: Directly Codi ymwybyddiaeth: Raising awareness Ysbrydoledig; Inspiring Gorchfygu; To conquer Brwydr: Battle Cynrychioli; To representCLIP 6 Cyflwynydd: Presenter Rhyddid i'r celfyddydau; Freedom for the arts Pennaeth; Head Cyfweliad; Interview Fatha ffordd arall o ddweud Fel Cytundeb: ContractCLIP 7 Maeth: Nutrition Deilen; A leaf Gwrthsefyll heintiau; To withstand diseases Adweithiad; Reaction Cyfraddau; Rates Gwyddonol: Scientific Honni: To claim Drudfawr: Expensive Cnydau; Crops Graddfa diwydiant; Industrial scaleCLIP 8 Cadarnhaol: Positive Yn awyddus: Eager Sefydlu yr elusen; Establish the charity Nerth; Strength Ymdopi; Coping Teyrngedau: Tributes I'r eithaf; To the full Mwyafrif; Most Ffugenw; Nickname Anferth; Huge
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mawrth yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.GEIRFACLIP 1 Cadair olwyn: Wheelchair Fatha - ffordd arall o ddweud - Fel Profiad: Experience Gwerthfawrogi bywyd: To appreciate life Rhwystredig: Frustrating Goleuni: Light Coelio - ffordd arall o ddweud - Credu Tîm elusennol: Charity Team Ymateb: To respond Difaru: RegrettingCLIP 2 Cyfarwydd: Familiar Diflannu: Disappearing Chwyldroadol: Revolutionary Cenhedlaeth: Generation Gohebu: Reporting Lloeren: Satellite Cael gwared ar: To get rid of Cynnyrch craidd: Core product Canolbwyntio: ConcentratingCLIP 3 Dymchwel: To demolish Ymwybodol: Aware Atyniad: Attraction Ymgyfarwyddo: To familiarize oneself Torf: A crowdCLIP 4 Ymladdwr cawell: Cage fighter Pwysau: Pressure Bant - ffordd arall o ddweud - I ffwrdd Llefain - yn y gogledd mi fasen ni'n dweud - CrioCLIP 5 Pencampwraig: Champion Mocha o gwmpas: Messing around Cystadleuol: Competitive Llyfn: Smooth Llechen: Slate Galluogi: To enableCLIP 6 Saer: Carpenter Prin: Scarce Sa i'n cofio - ffordd mae rhai'n dweud - Dw i ddim yn cofio Dieithr: Unfamiliar Mwyach: Any moreCLIP 7 Penodol: Specific Datgelu: To disclose Gwatswch allan: Look out Dail: Leaves Gwythiennau: Veins Bwytadwy: Eatable Caniatâd: Permission Tlws: Pretty Sawrus: SavouryCLIP 8 Cuddio: Hiding Dinistr: Destruction Cragen: Shell Llecyn: A small place Deiliach: Herbage Difa: To kill
As the news spreads about access to BBC Sounds being blocked outside the UK, we hear more of your comments on the issue. Andrea Catherwood speaks to Radio Cymru reporter Alun Thomas about what these changes will mean for Welsh speakers living abroad. A recent episode of Radio 4's Inside Health about hearing loss intrigued listeners - and then baffled those experiencing hearing loss themselves by including a section that was particularly difficult to hear.After listeners criticised a recent Archers storyline about Linda Snell fasting for Ramadan, we hear from the people who found it enlightening and uplifting.And what did Martha Kearney do after Today? Well, she's been talking to more public figures - but this time, it's all about their personal connections to nature. Two listeners, Christine and Kate, review her series This Natural Life for our VoxBox. Martha joins Andrea to respond to their thoughts.Presenter: Andrea Catherwood Producer: Pauline Moore Assistant Producer: Rebecca Guthrie Executive Producer: David PrestA Whistledown Scotland production for Radio 4
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Chwefror yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennod:-CLIP 1 Sawna: Sauna Buddion: Benefits Diffyg cwsg: Lack of sleep Arbrofi: To experiment Plymbwll: Plunge pool Datblygu: To develop Corddi: Churning Chwysu: Sweating Elwa: To benefit Pwysau gwaed: Blood pressure Dihuno ffordd arall o ddweud DeffroCLIP 2 Pennaeth: Head Byth bythoedd: Never ever Yn hytrach na: Rather than Cynhyrchu: To produce Hewl dyma'r ffordd mae llawer yn dweud y gair HeolCLIP 3 Dylunydd ydy Designer Ymgyrch: Campaign Ro'n i'n cael (f)y nenu at: I was drawn to Cyfrifoldebau penna(f): Main responsibilities Deunyddiau: Materials Cynnwrf: Excitement Cyfryngau cymdeithasol: Social media Ail benodi: To reappoint I'r dim: ExactlyCLIP 4 Trawiadol: Striking Yn gyfrifol am: Responsible for Wedi gwirioni efo yn y de ‘dwlu ar ‘ Hoff iawn Ymgorffori: To incorporate Teyrnged: Tribute Arwyddocaol: SignificantCLIP 5 Yr Aifft: Egypt Enfawr: Huge I raddau: To an extent Amlwg: Obvious Meddylfryd: Intention Corff: Body Wedi tynhau: Have tightened Ysbrydoliaeth: InspirationCLIP 6 Bwriadol: Intentional Adnabyddus gair arall am Enwog Cynulleidfa: AudienceCLIP 7 Mas ffordd arall o ddweud Allan ‘Slawer dydd ffordd arall o ddweud Ers talwm Mam-gu a Tad-cu neu Nain a Taid Yr aelwyd: HomeCLIP 8 Go iawn? Really? Cefnogol: Supportive Mewn cyswllt efo: In contact with Fatha yr un fath â neu Fel Picio draw: Come over Gwirfoddoli: Volunteering Annog: Encouraging Bwrw ymlaen fel 'na: Carried on like that
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Ionawr yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennod:-Clip 1 Cyfres: Series Cychwynnol: Initial Pennod: Episode Andros o gyffrous: Very exciting Datgelu: To reveal Llywio: Presenting Cyngor: Advice Gweithgareddau: Activities Heb os nac oni bai: Without doubtClip 2 Cynhesu, neu C'nesu, i fyny: Warming up Asgellwr: Winger Eisteddle: Stands Canlyniad: Results Cic o'r smotyn: Penalty Efaill: Twin Callio: To wisen up Dyrchafiad: PromotionClip 3 Ffyddlon: Faithful Bradwyr: Traitors Yn datgan: Declaring Rhyfedd: Strange Yn fanwl gywir: Being accurate Wedi bachu: Nicked Cael gwared ar: To get rid of Ansicrwydd: Uncertainty Strwythuro: To structure Cuddio: To hide Ymwybodol : AwareClip 4 Mwya poblogaidd: Most popular Cynulleidfa lawn: A capasity audience Denu: To attract Yn gyson: Regularly Hybu: To promote Perchnogion: Owners Ar y cyd â: Jointly with Diwylliant: Culture Annog: To encourageClip 5 Y Deyrnas Unedig: The United Kingdom Traddodiadau: Traditions Unigryw: Unique Cysylltu yn ddyfnach: Connecting deeper Llenyddiaeth: LiteratureClip 6 Llachar: Bright Yn glou - Ffordd arall o ddweud: Yn gyflym Pydru: To decay Moy'n - Ffordd arall o ddweud: Isio Dail: Leaves Cael gwared ar: To get rid ofClip 7 Mae'n bwrw ti: It knocks you Ynghlwm â: Connected to Defod: Ritual Hylif: Liquid Ystol: Ladder Tagu: To chokeClip 8 Oes Aur: Golden Age Huawdl: Eloquent Tu fas: Tu allan Hapusrwydd: Happiness Rhan annatod: An essential part
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Rhagfyr yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennod:-CLIP 1Beiriniaid: JudgesIas: A shiverChwerw-felys: Bitter sweetDiniwed: InnocentCynhyrchwyr: ProducersClyweliadau: AuditionsHyfforddwyr: CoachesEwch amdani: Go for itSylwadau: CommentsY Bydysawd: The UniverseCyfarwyddwr: DirectorCLIP 2Lleoliad: LocationGwerthfawrogi: To appreciateHeb os: Without doubtYn ei hawl ei hun: In its own rightDenu cynulleidfa: To attract an audienceDifreintiedig: DisadvantagedWedi elwa: Has profitedYn sylweddol: SubstantiallyFyddwn i'n dychmygu: I would imagineYn bellgyrhaeddol: Far reachingY tu hwnt i: BeyondAchlysuron arbennig: Special occasionsCLIP 3Yn achlysurol: OccasionallyTroedio yn ofalus: Treading carefullyI raddau: To an extentYmwybodol: AwareAgweddau: AspectsRhagrith: HypocrisyEithafiaeth: ExtremismAr yr ymylon: On the fringesFfydd: FaithCLIP 4Cic o'r smotyn: PenaltyErgyd: A shotY cwrt cosbi: Penalty areaYsbrydoli: To inspireMenywod: ffordd arall o ddweud MerchedCLIP 5Cyd-destun: ContextAgweddau: AttitudesBuddsoddiad: InvestmentCynnydd: IncreaseParhau i ddatblygu: Continuing to developCarfan: SquadCLIP 6Atgofion: MemoriesCerddoriaeth: MusicCerrig milltir: MilestonesTegan: ToyCLIP 7Bugeiliaid: ShepherdsDrama'r Geni: NativityBraint: A privilegeY Ceidwad: The SaviourUnig: LonelyMynyddig: MountainousDeuddeg can erw: 1200 acresTerfynau: BoundariesEang: ExtensiveAwydd: DesireEr bore oes: Since childhoodCLIP 8Agorawd: OvertureGwisgoedd: DressesCystadleuol tu hwnt: Extremely competitiveHeriol: ChallengingCerddorfa: OrchestraYsgafnder: LightnessGwaith caib a rhaw: Spadework er mai ‘pick and shovel' ydy' caib a rhaw' fel arferCynhyrchiad: ProductionUchafbwynt: HighlightHyblyg: Flexible
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Tachwedd yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Hydref yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Medi yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.Geirfa ar gyfer y bennod:-Clip 1 Trawsblaniad calon: Heart transplant Cwpan y Byd: World Cup Y garfan: The squad Be mae o'n ei olygu: What does it meanClip 2 Ymateb: Response Cyflawn: Complete Rhyng Gol: Inter college Di-lol: No nonsense Yn y pen draw: In the end Enwogrwydd: Fame Rhyngwladol: International Corwynt: Hurricane Cyfweliadau: Interviews Medra: I canClip 3 Cyfryngau cymdeithasol: Social media Dilynwyr: Followers Hyrwyddo: To promote Bob cwr: Every corner Yn gyfrifol am: Responsible for Dylsen ni neu dylen ni: We should Cenedl: Nation Yn ormodol: ExcessivelyClip 4 Swyddog Datblygu Cymunedol; Community Development Officer Darganfod: To discover Addas: Appropriate Ymgeisiais i: I applied Gwobr: Award Diolchgar: Thankful Enwebu: To nominate Ysbrydoli: To inspire Ystyried: To consider Trochi: To immerse Yn y bôn: BasicallyClip 5 Cynefin: Abode Yn falch iawn: Very proud Cyfathrebu: CommunicatingClip 6 Dylanwad: Influence Degawd: Decade Cyfnod: Period Cyfansoddi: To compose Alawon: Tunes Cyfrol: Book Cyfarwydd: FamiliarClip 7 Enwebiadau: Nominations Sylweddol: Substantial Yn fraint: An honour Yn ychwanegol: Additionally to Plentyndod: Childhood Cyswllt: Connection Celfyddydau: Arts
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Awst yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.Geirfa ar gyfer y bennod:-Clip 1 – Sian Phillips Cysylltiadau : Connections Dodi : To put Adrodd : To recite Am wn i : I suppose Y fraint : The honour Gwrthod : To refuseClip 2 - Megan Williams Awgrymu : To suggest Yr Unol Daleithiau : The United States Yn gyffredinol : Generally Cymuned : Community Golygydd : EditorClip 3 – Katie Hall Cyflwyniad : Introduction Gradd : Degree Y fath beth : Such a thingClip 4 – Lili Mohammad Caeredin : Edinburgh Ysbrydoli : To inspire Datblygu : To develop Sioe gerdd : Musical Llywodraeth : Government Rhyfel : War Doniol : Amusing Ysgafn : Light O ddifri : Serious Arwain y fyddin : Leading the armyClip 5 – Elen Rhys ‘Sa i'n gwybod' : am ‘dw i ddim yn gwybod' Mo'yn' : am ‘isio' Diwydiant : Industry Diflannu : To disappear Y cyfnod clo : The lockdownClip 6 - Andy Bell Cyfarwydd â : Familiar with Torf : Crowd Drwy gyfrwng : Through the medium Darlledwr cyhoeddus : Public broadcaster Cynghrair : League Campau : Sports Neuadd mabolgampau : Sport halls Corfforol : Physical Ar y brig : On top Dyfarnwyr a hyfforddwyr : Referees and coachesClip 7 – Pwyll ap Sion Cyfeirio at : To refer to Cynhyrchu : To produce Mor uchelgeisiol : So ambitious Cysyniad : Concept Offerynnau : Instruments Yn wirioneddol anhygoel : Really incredible Athrylith : Genius Cydio : To take hold Y tu hwnt i : BeyondClip 8 – Prif Stiward Deugain mlynedd : 40 years Haeddu mensh : Deserving a mention
Uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Gorffennaf.
Fe gafodd Alison Roberts ei geni a'i magu ym mhentref Killin yn yr Alban, ac fe ddaeth i Gymru pam gafodd alwad gan ffermwr i ddofi un o'i geffylau. Mae hi bellach wedi priodi ac yn byw ar Ynys Môn, ac yn magu 7 o blant. Alison enillodd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023. Daeth i benderfyniad ei bod yn Gymraes pan enillodd hi gystadleuaeth cneifio yn y Sioe Frenhinol, Llanelwedd. Mae'n gweithio fel gofalwraig ac yn credu ei bod yn bwysig ei bod hi'n siarad Cymraeg gyda'r cleifion.Roedd hi wedi dysgu Cymraeg wrth wrando ar Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch. Dydy hi erioed wedi cael gwers Gymraeg.
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mai yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.Geirfa ar gyfer y bennod:- Clip 1 Creais i - I created Pam est ti ati - Why you went about it Cerddoriaeth - MusicClip 2 Hediadau - Flights Ymdopi - To cope Blinedig - Tiring Seibiant - A rest Effro - Awake Wrth y llyw - At the tiller Newid perchnogaeth - Change of ownership Diwydiant - Industry Adfer - To recoverClip 3 Profiadau -Experiences Antur - Adventure Rhyngwladol - International Gwerthfawr tu hwnt - Extremely valuable Anhygoel - IncredibleClip 4 Rhydychen - Oxford Rhyfedd - Strange Prif Weinidog - Prime Minister Doniol - Amusing Dwyrain Canol - Middle East Cyfreithiwr - SolicitorClip 5 Chwerthin - To laugh Y cof cynta - The first memory O waelod bol- From the bottom of the stomach Gweladwy - Visual Llwyfan - StageClip 6 Ynglŷn â - Regarding Breuddwyd - A dream ‘Swn i ddim yn synnu - I wouldn't be surprised Wedi eu dodrefnu - Fitted Rargian mawr - Goodness me Cnau - Nuts Chwalu mhen i - Blew my mind Ffasiwn beth - Such a thingClip 7 Magu hyder - To build confidence Pennod - EpisodeClip 8 Cyfrifoldeb - Responsibility Dangos parch - To show respect Ysbrydoli - To inspire Croesawgar - Welcoming Gwefreiddiol - Thrilling Yn falch o fy hun - Proud of myself Diwylliant - Culture Llenyddiaeth - Literature
Ar Blât – Elinor SnowsillY cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda'r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta'n dda ac yn iach pan oedd hi'n ifanc…?Cyn-chwaraewr Former player Rysetiau Recipes Atgofion Memories Gwrthod To refuse Cytbwys Balanced Adnabyddus Famous Wastad AlwaysDros Frecwast – Toiledau CyhoeddusWel dw i'n siŵr bod Elinor yn bwyta'n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi'n ifanc! Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy'n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi … Diffyg Lack of Cyflwr Condition Coluddyn Bowel Rheolaeth Control Straen Stress Croen Skin Ar hap Randomly Ailadroddus Repetitious Cyfleusterau cyhoeddus Public conveniences Cymryd yn ganiataol Taking for grantedBore Cothi – Menna WilliamsLois Mererid Edwards oedd honna'n sôn am pa mor bwysig yw bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael, yn enwedig i'r rhai sy'n diodde o gyflwr meddygol. Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Gwobr yw hon sy'n cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. Wythnos diwetha, Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes, a chafodd hi sgwrs fach gyda Menna ar y rhaglen: Tlws Trophy Cyfraniad sylweddol A substantial contribution Braint A privilege Dirprwy Deputy Cyfeilio To accompany (on piano) Amyneddgar iawn Very patient Llenni Curtains Deuawd Duet Pan ddaru o Pan wnaeth e Ienga Ifanca Anrhydedd An honourBeti a'i Phobol – Shelley ReesA llongyfarchiadau mawr i Menna Williams ar ennill y Tlws arbennig yna, dw i'n siŵr bydd hi'n mwynhau'r seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Shelley Rees yr actores, a chyflwynydd Radio Cymru oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen nos Sul. Yma mae Shelley yn sôn am actio. Mae hi wedi perfformio ers pan oedd hi'n blentyn bach, ond nawr bod hi'n bum deg oed tybed ydy hi'n anoddach iddi hi gael gwaith actio? Cyflwynydd Presenter Sefyll yn llonydd Standing still Menywod Merched Arallgyfeirio Diversify Ymgyrchu To campaign Egni Energy Drygionus Naughty Yn go glou Yn eitha cyflym Mam-gu Nain Taw MaiAled Hughes – SingaporeYchydig o hanes gyrfa actio Shelley Rees yn fanna ar Beti a'i Phobol. Basen ni'n disgwyl clywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, neu gweld eisteddfod mewn ysgol yng Nghymru …ond yn Singapore? Wel dyna sy'n digwydd mewn un ysgol draw ar yr ynys bell honno, diolch i bennaeth o Gymru, sydd wedi recriwtio nifer o athrawon Cymreig i weithio yn yr ysgol. Rhys Myfyr, un o athrawon yr ysgol fuodd yn sgwrsio gydag Aled Hughes: Pennaeth Head Rhyfedd Strange Rhyngwladol International Wedi ei leoli Located Diwylliannol Cultural Hap a damwain Luck Denu To attract Ymddiried To trust Cystadleuol CompetitiveDros Ginio – LlyfrauEisteddfod ysgol yn Singapore, gwych on'd ife? Tybed faint o lyfrau dych chi'n llwyddo i'w darllen o glawr i glawr? Yn ddiweddar, mae sawl ap yn crynhoi cynnwys llyfrau, ond ydy hyn yn mynd i gael effaith ar werthiant llyfrau? Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha, buodd Jennifer Jones yn holi'r awdur a'r golygydd, Elinor Wyn Reynolds am ei barn: Clawr Cover Crynhoi cynnwys To summarise the content Cyfrolau Books Adolygiadau Review Yn ei chrynswth In its entirety Drwgdybus Suspicious Yn hytrach na Rather than Bod dynol Human being Bygythiad Threat Annog To encourage Agor cil y drws To open the door slightly
Shelley Rees yr actores, cyn-wleidydd a chyflwynydd Radio Cymru yw gwestai Beti George. Yn wyneb cyfarwydd ar y sgrîn deledu am flynyddoedd wrth iddi bortreadu cymeriad Stacey yn yr opera sebon Pobol y Cwm, ar ôl gadael y gyfres yn 2012 bu'n Gynghorydd yn y Rhondda am 10 mlynedd, tan i ddigwyddiad lle y cafodd y ffin ei groesi ac fe gafodd ei bygwth a gadael y swydd yn fuan wedi hynny. Mae hi'n angerddol am actio ar Gymraeg ac yn ymfalchïo yn ei bro enedigol Ton Pentre yn Cwm Rhondda.
Pigion Dysgwyr – Jessica Robinson Cynrychiolydd Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd, cafodd ei gynnal yng Nghaerdydd yn 2023, oedd y soprano o Sir Benfro Jessica Robinson. Ddydd Calan, hi oedd gwestai Shan Cothi ar ei rhaglen, a gofynnodd Shan iddi hi yn gynta beth oedd ei gobeithion hi am 2024…. Cynrychiolydd RepresentativeGŵyl gerddorol Musical festivalSafon QualityAnelu ato To aim forDatganiad RecitalYn elfennol bwysig Of prime importanceCydbwysedd BalanceCyfansoddwyr ComposersCyfeilio To accompanyDehongliad Interpretation Pigion Dysgwyr – Sion Tomos Owen Wel mae blwyddyn brysur iawn o flaen Jessica yn does? Bardd y Mis ar gyfer mis Ionawr ar Radio Cymru, ydy Sion Tomos Owen o Dreorci. Mae Sion yn arlunydd ac yn fardd, ond mae o hefyd yn un o gyflwynwyr rhaglen Cynefin ar S4C. Dyma fe ar Ddydd Calan yn sgwrsio gyda Sara Gibson, oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes, i sôn am un o uchafbwyntiau 2023 iddo fe…. Bardd y mis Poet of the monthArlunydd ArtistCyflwynwyr PresentersUchafbwyntiau HighlightsMurluniau MuralsOgofau CavesTafliad carreg A stone's throwAmgenach DifferentDylunio DesigningArbrofi ExperimentingPigion Dysgwyr – Meleri Wyn James Sion Tomos Owen oedd hwnna, Bardd y Mis Radio Cymru yn sôn am graffiti. Bob wythnos ar raglen Bore Sul mae gwestai yn rhannu straeon a phrofiadau. Ar rifyn ola 2023, yr awdures Meleri Wyn James o Aberystwyth fuodd yn siarad gyda Betsan Powys. Meleri enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan a hi hefyd ydy awdures y gyfres boblogaidd, Na Nel. Dyma hi i sôn am sut mae arferion darllen plant, yn ei barn hi, wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwetha … Y Fedal Ryddiaith The Prose MedalGofid ConcernAnnog To encourageDychymyg ImaginationAnnibynnol IndependentGwnïo To sewPwytho To stitchPenderfynol DeterminedDisgyblaeth DisciplineDadwneud To undoPigion Dysgwyr – Liz Saville Roberts Ie, mae hi mor bwysig i annog plant i ddarllen ond yw hi? A gobeithio bydd llyfrau Meleri yn llwyddo i wneud hynny yndife? Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts oedd gwestai Beti a'i Phobol yr wythnos hon. Mi gafodd hi ei magu yn Llundain ond mi gafodd hi ei denu i Gymru oherwydd ei diddordeb yn y Mabinogi. Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth mi aeth yn newyddiadurwraig ag yn ddarlithydd cyn iddi hi droi at wleidyddiaeth. Dyma hi'n sôn am ei diddordeb yn y Mabinogi…. Cofiwch bod yna gyfle i glywed y rhaglen gyfan ar BBC Sounds. Cafodd hi ei denu She was luredY Chweched Sixth formTraethawd estynedig DissertationCyhoeddiad A publicationWedi gwirioni Wedi dwlu arFel petai Seems to Bellach yn yr etholaeth In the constituency by nowRhyfedd StrangePigion Dysgwyr – Dylan Jones Liz Saville Roberts oedd honna'n sôn am sut oedd y Mabinogi wedi dylanwadu ar ei bywyd hi. Y ceffyl oedd thema Troi'r Tir fore Sul, ac un oedd yn siarad ar y rhaglen oedd Dylan Jones o Foelfre ger Abergele. Mae Teulu Dylan, ers y 70au, wedi bod yn cyflenwi ceffylau ar gyfer y diwydiant ffilm. Dyma fe i sôn mwy... Wedi dylanwadu Had influencedCyflenwi To supplyDiwydiant IndustryPigion Dysgwyr – Cleif Harpwood Ceffylau Cymru yn chwarae rhan bwysig mewn ffilmiau a rhaglenni teledu. Difyr yndife? Mi fuodd Dei Tomos yn recordio yn ddiweddar yng Nghwm Afan ar gyfer ei raglen Nos Sul. Un gafodd ei fagu yn yr ardal ydy'r cerddor Cleif Harpwood ac mi fuodd o'n sôn wrth Dei am hanes Cymreictod y cwm…… Cerddor MusicianY Canol Oesoedd The Middle AgesArglwyddi LordsYr Ucheldir The HighlandsCaerau FortsCors halenog Salty marshMintai TroopBraw A frightCenhadu Doing missionary work Y groesgadoedd The crusadesYmestyn To extend
1 Uffern Iaith y Nefoedd:Brynhawn Sadwrn diwetha mi glywon ni raglen arbennig o'r Sioe banel hwyliog Uffern Iaith y Nefoedd dan ofal Gruffudd Owen. Y panelwyr oedd Richard Elis, Sara Huws, Llinor ap Gwynedd a Lloyd Lewis. Rownd cyfieithu caneuon oedd hon:Nid anenwog Famous (not unfamous) Cyffwrdd To touch Dychwelyd To return Aflonyddu To disturb Nadoligaidd Christmasy Clych Bells2 Elin Fflur a'r Gerddorfa:Dipyn bach o hwyl yn dyfalu caneuon oedd wedi eu cyfieithu'n wael yn fanna. Ddechrau'r mis, mi gafodd cyngerdd arbennig ei gynnal efo Elin Fflur yn canu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Tudur Owen oedd yn arwain y noson a dyma i chi foment emosiynol o'r rhaglen pan mae Tudur yn holi Elin am hanes ei chân fwya poblogaidd, sef Harbwr Diogel – y gân gafodd ei hysgrifennu gan Arfon Wyn, wrth gwrs, a'r gân enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2002:Cerddorfa Orchestra Breintiedig tu hwnt Privileged beyond Crïo Llefain Cryndod Tremor Golygu To mean Oesol Everlasting Uniaethu To identify Mor gyfarwydd So familiar3 Rhaglen Cofio:Noson emosiynol iawn i Elin Fflur, ac i Tudur hefyd, yng Nghanolfan Pontio ym Mangor.Nadolig oedd thema rhaglen archif Cofio gyda John Hardy brynhawn Sul, a Noswyl Nadolig yn thema arbennig felly. Un o draddodiadau mawr y Nadolig yn y capeli ydy plant bach yn perfformio Drama'r Geni, ac mae llawer o hwyl wrth i'r plant grwydro o'r sgript weithiau. Dyma glip o ddau weinidog yn cofio ambell i ddrama o'r fath:Drama'r Geni Nativity play Gweinidog Minister Hogyn Bachgen Gŵr y llety Innkeeper Yn ffradach Chaotic Ymgnawdoliad Incarnation Beichiog Pregnant Gweddi A prayer Mo'yn Eisiau 4 Chwalu Pen:On'd oes yna hwyl efo Drama'r Geni pan mae'r plant yn penderfynu mynd eu ffordd eu hunain?Un o uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr Ŵyl ydy'r cwis poblogaidd Chwalu Pen, a chafodd y rhaglen ei darlledu brynhawn Gwener diwetha yr 22ain o Ragfyr. Mari Lovgreen oedd yn trïo cadw trefn ar Catrin Mara, Arwel Pod Roberts, Welsh Whisperer a Mel Owen. Dyma nhw'n trio dyfalu'r rownd gyntaf ond cyn hynny, Mari sydd yn ein hatgoffa o'r rheolau:Uchafbwyntiau Highlights Darlledu To broadcast Dyfalu To guess Atgoffa To remind Rheolau Rules Y flwyddyn a fu The past year Cwblha! Complete! Cyn seren Former star5 Ho Ho Hywel:Mae Mel yn amlwg yn nabod ei chaneuon Nadoligaidd yn tydy?Ar ddydd Nadolig mi fuodd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis yn mwynhau straeon a chaneuon yng nghwmni gwesteion ar y rhaglen arbennig Ho Ho Hywel. A dyma'r comedïwr Dilwyn Morgan yn rhannu rhai o'i atgofion cynnar am y Nadolig :Atgofion Memories Tro ar ôl tro Time after time Tyddyn bach A smallholding Ar lethrau On the slopes Hel tai Going from house to house Comisiwn Coedwigaeth Forestry Commission Beudy Cowhouse Wedi sychu'n grimp Dry as a bone6 Talwrn Nadolig:Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy'r Talwrn ac unwaith eto eleni mi fuodd yna raglen arbennig o'r Talwrn – sef Talwrn Nadolig rhwng dau dîm o feirdd amrywiol – sef tîm Bethlehem a thîm Nasareth. Un o'r tasgau oedd sgwennu cerdd ysgafn ar y testun ‘Cinio Nadolig', a dyma gynnig Iwan Rhys o dîm Bethlehem:Cerdd Poem Strach A mess Fflwr Blawd Llysfwytäwr pybyr A staunch vegetarian Ffili treulio Can't digest Di dafod Tongueless Llosg cylla Heartburn Yn sgit Keen on Ysgewyll Sprouts Achwyn Cwyno Tynn Tight Egwyddor Principle Newydd garw Bad news7 Rhaglen Ifan:Bydd Y Talwrn yn ôl ar Radio Cymru ar y seithfed o Ionawr am saith o'r gloch efo rhifyn arbennig rhwng Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Maes Garmon. Yr actores Catrin Mara oedd gwestai Ifan Jones Evans ar ei raglen yn ddiweddar. Sôn oedd Catrin am yr anrheg Dolig gorau a'r gwaetha gafodd hi erioed:Allweddell Keyboard Cwningen Rabbit Wedi gwirioni Wedi dwlu ar Cwffio Ymladd Alla i ddim dychmygu I can't imagine Hwyrach Efallai Erchyll Terrible
Clip 1: Bore Cothi Bore Llun y 6ed o Dachwedd, Mici Plwm oedd yn cadw cwmni i Shân Cothi. Gan ei bod hi'n dymor piclo a gwneud siytni, dyma gael sgwrs efo'r prif biclwr ei hunan. Yma mae Mici yn sôn am nionod brynodd o yn Roscoff, Llydaw, a sut mae o am eu piclo mewn cwrw: Nionod Winwns Llydaw Britanny Ar gyrion Ger Bragdai Breweries Arbrofi To experiment Eirin Plums Eirin tagu Sloes Hel Casglu Y werin The common people Byddigion Posh people Clip 2 – Rhaglen John ac Alun. Www, nionyn wedi ei biclo mewn cwrw, swnio'n ddiddorol yn tydy? Roedd ‘na barti mawr ar Raglen John ac Alun ar y 5ed o Dachwedd– parti penblwydd y rhaglen yn 25 oed! Ac mi ymunodd Dilwyn Morgan yn yr hwyl hefyd, a buodd hi'n gyfle i hel atgofion. Yma, mi gawn ni glywed clip o'r archif sef rhaglen gyntaf John ac Alun cafodd ei darlledu yn ôl yn Ebrill 1998: Hel atgofion Reminisce Darlledu To broadcast Dipyn o gamp Quite an achievement Para To last Cyflwyno Presenting Cynulleidfa Audience Wch chi be? You know what? Cefndir Background Clip 3: Dros Ginio John ac Alun yma o hyd, ac yn boblogaidd iawn gyda gwrandawyr Radio Cymru. Yn ddiweddar mae llawer mwy o bobl ifanc yn delio efo eco-bryder, sy'n cael ei achosi drwy boeni am effeithiau newid hinsawdd. Mae Fflur Pierce o Ddyffryn Nantlle yn un o'r rheini, a buodd hi'n sôn wrth Cennydd Davies wythnos diwetha am y profiad o fyw efo'r cyflwr hwn: Eco-bryder Eco anxiety Newid hinsawdd Climate change Cyflwr Condition Yn fengach Yn ifancach Baich A burden Teimlo'n euog Feeling guilty Rhwystredig Frustrating Gwyddonwyr Scientists Sbio Edrych Amgylchedd Environment Clip 4: Newid Hinsawdd a Fi Does na ddim llawer o fanteision i newid hinsawdd nac oes, ond mi glywon ni am un fantais ar y rhaglen Newid Hinsawdd a Fi bnawn Sul y 5ed o Dachwedd. Aeth Leisa Gwenllian draw i Winllan y Dyffryn ger Dinbych. Mae newid hinsawdd yn golygu ei bod yn bosib cynhyrchu gwin yn Nyffryn Clwyd hyd yn oed. Yma mae Leisa yn sgwrsio efo perchennog y winllan, Gwen Davies sydd wedi dysgu Cymraeg: Cynhyrchu To produce Perchennog Owner Gwinllannoedd Vineyards Cynnydd sylweddol A substantial increase Yn yr un gwynt In the same breath Gwinwydd Vine Arallgyfeirio Diversify Datblygu To develop Aeddfedu To mature Cysgodi To shelter Clip 5: Rhaglen Ifan Ia, mae na sawl gwinllan wedi agor yng Nghymru dros y blynyddoedd diwetha yn does? Er dw i ddim yn cofio clywed am un mor ogleddol a Gwinllan y Dyffryn chwaith. Pob lwc a iechyd da i holl gynhwychwyr gwin Cymreig! Yn ddiweddar ar raglen Ifan, tra bod Hana Medi yn cadw ei sedd yn gynnes, sgwrsiodd Hana gyda Cefin Evans o glwb Dyfed Dirt Bikes. Mae Cefin wedi teithio yr holl ffordd o Gymru i'r Ariannin i wylio cystadleuaeth arbennig iawn, un o brif gystadlaethau Enduro'r Byd, a hynny gan fod ei fab Rhys yn cystadlu yno ar ran y clwb: Ariannin Argentina Eang Wide Mas Allan Bola Bol Paratoi To prepare Tlodi Poverty Gwerthfawrogi To appreciate Clip 7 – Beti a'i Phobol Wel dyna brofiad gwych i glwb Dyfed Dirt Bikes ynde? Dw i'n siŵr eu bod wedi mwynhau pob eiliad o'r daith arbennig i'r Ariannin. Bronwen Lewis, y gantores, oedd gwestai Beti George nos Sul ddiwetha. Cafodd Bronwen ei magu ym Mlaendulais a daeth yn amlwg ar y gwefannau cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo, wrth iddi hi ganu o'i chartref a rhannu'r perfformiad ar Facebook. Mi fuodd Branwen yn cystadlu ar raglen deledu The Voice yn y gorffennol ac mae'n cyflwyno rhaglen ar Radio Wales ar foreau Sul ar hyn o bryd: Amlwg Prominent Gwefannau cymdeithasol Social media Yr aelwyd The home Tad-cu Taid Ffili Methu Arweinydd Conductor Mas Allan
Siw Hardson Ar raglen Trystan ac Emma roedd Siw Harston, sy'n dod o Landeilo yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yn Surrey, yn sgwrsio am y siaradwyr Cymraeg mae hi wedi dod ar eu traws dros y blynyddoedd, ym mhob rhan o'r byd: Anhygoel Incredible Cynhesrwydd i'r enaid Warmth for the soul Y tu hwnt i Beyond Rogue Jones Does ots ble fyddwch chi, dych chi'n siŵr o glywed y Gymraeg, on'd dych chi? Buodd Mari Grug yn holi Bethan Mai o'r band Rogue Jones, ar raglen Ffion Dafis yn ddiweddar, hyn ar ôl iddyn nhw ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, nos Fawrth y 10fed o Hydref. Dyma i chi flas ar y sgwrs: Gwobr Gerddoriaeth Gymreig Welsh Music Prize Sylw Attention Llafur cariad Labour of love Yn ariannol Financially Gwefreiddiol Thrilling Cyfweliadau Interviews Ffydd Faith Llinach Pedigree Rhyfedd Strange Toddi To melt Jenny Adams A llongyfarchiadau mawr i Rogue Jones, yn llawn haeddu'r wobr. Roedd hi'n Wythnos y Dysgwyr wythnos ddiwethaf ar Radio Cymru a Heledd Cynwal oedd yn sedd Shan Cothi fore Llun Hydref 16, a chafodd hi sgwrs gyda Jenny Adams, sy'n dod o Surrey yn wreiddiol, ond sy'n byw ym Machen, ger Caerffili ar hyn o bryd: Yn llawn haeddu Wholly deserving Cyfathrebu Communicate Swyddogol Official Profiad Experience Codi hyder To raise confidence Disney Jenny Adams oedd honna – un o'r nifer fawr o ddysgwyr y Gymraeg glywon ni ar Radio Cymru yn ddiweddar. Ddydd Llun rhoddodd Dros Ginio sylw i'r ffaith bod cwmni Disney yn 100 oed, a Catrin Heledd fuodd yn holi'r Dr Elain Price sy'n darlithio ar ffilm a theledu, am ddylanwad y cwmni ar y byd ffilmiau dros y blynyddoedd: Darlithio To lecture Dal dychymyg To catch the imaginagion Yn ddiweddarach Later on Cydamseru Synchronize Arloesi To innovate Wrth wraidd At the root of Dyfeisio To invent Bodoli To exist Addasu To adapt Cyfarwydd Familiar Tybio To suppose Mai Lloyd Dr Elain Price yn fanna yn rhoi ychydig o hanes cwmni Disney i ni. Fore Mawrth wythnos ddiwethaf ar raglen Aled Hughes, Mai Lloyd o Aberteifi oedd yn edrych yn ôl ar ei hamser yn Trinidad a Tobago dros yr haf, yn cystadlu efo'r ddisgen yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad: Disgen Discus Y Gymanwlad The Commonwealth Uchafbwyntiau Highlights Pobl hŷn Older people Gareth Wyn Jones A dw i'n siŵr byddwn ni clywed llawer iawn mwy am Mai yn y dyfodol, a hithau'n amlwg wedi mwynhau'r cystadlu. Gwestai Ifan Jones Evans yn y clip nesa yw ffermwr mwya enwog Cymru, sef Gareth Wyn Jones. Mae ganddo ddilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ddiweddar, mae wedi croesi carreg filltir anferth ac wedi cyrraedd miliwn o danysgrifwyr ar ei sianel You Tube: Dilyniant Following Cyfryngau cymdeithasol Social media Carreg filltir anferth Huge milestone Tanysgrifwyr Subscribers Diwydiant amaeth Agricultural industry Ymdopi To cope
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Trystan ab Ifan dw i ac i ddechrau'r wythnos yma … Pigion Dysgwyr – Dechrau‘r Steddfod Buodd Radio Cymru‘n darlledu o Faes yr Eisteddfod ym Moduan drwy'r wythnos diwetha gan ddechrau am ganol dydd ar y dydd Sadwrn cyntaf. Dyma sut dechreuodd y darlledu…… Darlledu To broadcast Cynnau tan To light a fire Cynnal To maintain Blodeuo To flower Eisteddfodwr o fri A renowned Eisteddfod person Hawlio To claim Deuawd Duet Craith A scar Llwyfan Stage Noddi To sponsor Pigion Dysgwyr – Martin Croydon …ac wrth gwrs bydd blas ar sawl darllediad o'r Eisteddfod yn y podlediad wythnos yma, gan ddechrau gyda Martyn Croydon enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddeg mlynedd yn ôl. Daw Martin o Kidderminster yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae o'n byw ym Mhen Llŷn. Gwobr Prize Enwebu To nominate Rowndiau terfynol Final rounds Gwrthod To refuse Cyfweliad Interview Beirniaid Judges Cynifer So many Cyfathrebu To communicate Ysbrydoli To inspire Cynulleidfa Audience Terfynol Final Pigion Dysgwyr – Dysgwr y Flwyddyn Ac roedd Martyn yn un o'r criw fuodd yn brysur iawn yn cynnal gweithgareddau Maes D yn Steddfod Boduan. Ond pwy enillodd gwobr Dysgwr y Flwyddyn eleni tybed? Roedd pedwar ymgeisydd ardderchog wedi cyrraedd y rownd terfynol, a dydd Mercher yn yr Eisteddfod cyhoeddwyd mai Alison Cairns yw Dysgwr y Flwyddyn eleni. Daw Alison yn wreiddiol o'r Alban ond mae hi a'i theulu erbyn hyn yn byw yn Llannerchymedd ar Ynys Môn. Dyma hi'n sgwrsio ar Post Prynhawn yn dilyn y seremoni wobrwyo. Y gymuned The community Pigion Dysgwyr – Esyllt Nest Roberts de Lewis A llongyfarchiadau i Alison ar ennill y wobr – dwi'n siŵr bydd hi'n mwynhau ei blwyddyn. Daw Esyllt Nest Roberts de Lewis yn wreiddiol o Bencaenewydd ger Pwllheli ond mae hi erbyn hyn yn byw yn ardal Gymraeg Patagonia, sef Y Wladfa, ac wedi bod yno ers nifer o flynyddoedd. Ar Dros Frecwast yr wythnos diwetha cafodd Kate Crocket gyfle i'w holi hi gan ofyn iddi'n gynta iddi pam aeth hi allan i'r Wladfa yn y lle cynta? Yn y cyfamser In the meantime Annerch To address (a meeting) Y cyfryngau The media Dylanwadu To influence Rhyngrwyd Internet Yn anymwybodol Unaware Pigion Dysgwyr – Cai Erith Ac Esyllt oedd yn arwain Cymru a'r Byd, sef y Cymry sy'n byw ym mhob rhan o'r byd erbyn hyn, yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni Os chwiliwch chi ar BBC Sounds gwelwch raglen arbennig wnaeth Aled Hughes ei recordio dan y teitl Mordaith. Rhaglen yw hi lle mae Aled yn hwylio o amgylch Penrhyn Llŷn yn sgwrsio gyda rhai o drigolion yr ardal. Morwr yw Cai Erith a dyma fe'n sôn ychydig am ei fywyd Penrhyn Peninsula Trigolion Residents Porthladdoedd Ports Yn llythrennol Literally Wedi dy hudo di Has lured you Pigion Dysgwyr - Ffobia Hanes bywyd diddorol Cai Erith yn fanna ar raglen Mordaith. Buodd Catrin Mai yn siarad ag Emma Walford a Trystan Ellis Morris ar eu rhaglen yn ddiweddar. Mae gan Catrin ffobia anarferol iawn… sbyngau, neu sponges! Dyma Emma yn holi Catrin gynta……. Cyffwrdd To touch Colur Makeup Fatha Yr un fath â Trin To treat Nadroedd Snakes Corynnod Pryfed cop Arnofio To float Amsugno To absorb
SHELLEY & RHYDIAN Yr awdures Manon Steffan Ros oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae Manon wedi ennill Gwobr Medal Yoto Carnegie am ei llyfr “The Blue Book of Nebo” sy'n gyfieithiad o'i llyfr “Llyfr Glas Nebo” enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018. Sut deimlad oedd ennill gwobr Carnegie tybed… Y Fedal Ryddiaith The prose medal Wedi gwirioni Over the moon Braint Privilege Enwebu To nominate Rhestr fer Short list Coelio Credu Trosi To translate Yn reddfol Instinctively Addasu To adapt Llenyddiaeth Literature Hunaniaeth Identity CLONC Manon Steffan Ros oedd honna'n sôn am lwyddiant anferthol “Llyfr Glas Nebo” sydd wedi ei gyfieithu i nifer fawr o ieithoedd. Roedd rhaglen gomedi newydd ar Radio Cymru dros y penwythnos, wedi cael ei hysgrifennu gan Tudur Owen, Sian Harries a Gareth Gwynn. Mae Gareth yn dysgu Cymraeg, a dyma i chi Radio Clonc... Sy berchen Who owns Yn sgil As a result of Disgyrchiant Gravity Wedi cythruddo Has angered Atal To stop Synau Sounds Cael eu hystyried Being considered Anferth Huge Gwichian To squeak Y diweddara The most recent ALED HUGHES Doniol iawn on'd ife? Blas ar Radio Clonc yn fanna – rhaglen gomedi newydd Radio Cymru. Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Gwilym Morgan, enillydd Medal y Dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023, a hefyd gyda Rebecca Morgan, ei athrawes, a hithau wedi ennill Medal y Dysgwyr yn 2018. Mae Gwilym yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Caerdydd a dyma fe'n sôn am ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol... Doniol Funny Disgybl Pupil Ysbrydoli To inspire Cwblhau To complete Y genhedlaeth nesa The next generation Yn amlwg Obvious Ewch amdani Go for it ALED HUGHES Wel dyna stori dda on'd ife? Yr athrawes a'r disgybl wedi ennill Medal y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd. Ar raglen Aled Hughes clywon ni Iestyn Tyne, bardd preswyl Eisteddfod Llyn ac Eifionydd, yn sôn am y llaw-lyfr lliwgar ar gyfer ymwelwyr a dysgwyr, neu siaradwyr newydd, i'r Eisteddfod eleni. Aled Hughes fuodd yn ei holi. Bardd preswyl Resident poet Deunydd Material Diwylliant Culture Arwynebol Superficial Annog To encourage Gafael weddol A reasonable grasp Cenedl ddwyieithog A bilingual nation Safbwynt Perspective Pwyllgor Llen Literature committee Gwaddol Residue BORE COTHI On'd yw hi'n dda o beth bod yr Eisteddfod yn gwneud yn siŵr bod croeso i bawb ym Moduan eleni? Mae'r tri chlip nesa i gyd i wneud ag amaethyddiaeth, a hynny gan fod y Sioe Fawr, neu'r Sioe Frenhinol wedi cael ei chynnal yn Llanelwedd yr wythnos diwetha. Bechgyn “Trio” oedd gwesteion arbennig Shân Cothi yn y Sioe Fawr a chafodd Shân sgwrs gyda'r tri cyn iddyn nhw ganu ar lwyfan Radio Cymru yn y Sioe. Mae'r cantorion Emyr Wyn Gibson, Bedwyr Gwyn Parri a Steffan Lloyd Owen yn dathlu 10 mlynedd eleni fel Trio. Amaethyddiaeth Agriculture Y Sioe Fawr The Royal Welsh Dwlu Hoff iawn Asiad y lleisiau The blend of the voices Cyfarwyddiadau Instructions Yn unigol Individually Doniau Talents Yndw Ydw Droeon Many times BORE COTHI Un arall welodd Shan Cothi ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd fore Iau oedd Huw Williams o'r Felinheli ger Caernarfon. Mae Huw yn ffarmwr balch ac ar dân dros gefn gwlad ac amaethyddiaeth. Balch Proud Ydy glei Of course it is Golygfeydd godidog Superb views Yn gyfarwydd Familiar Cynnyrch Produce Ffasiwn angerdd Such passion Dieithr Unfamiliar Beirniadu To judge Annerch To address (a meeting) BETI A'I PHOBOL ..ac mae Huw yn llawn angerdd dros amaethyddiaeth on'd yw e? Mared Rand Jones oedd gwestai Beti George. Cafodd ei magu ar fferm yng Ngheredigion, ac ymunodd hi â'r Ffermwyr Ifanc pan oedd hi'n ddeuddeg oed. Erbyn hyn hi yw Prif Weithredwr y mudiad a dyma hi'n sôn am ei thad wnaeth ddysgu Cymraeg ar ôl cwrdd â mam Mared... Prif Weithredwr Chief Executive Bant I ffwrdd Mynychu To attend
Pigion Dysgwyr – Sulwyn Thomas Gwestai gwadd rhaglen Bore Cothi ddydd Llun wythnos diwetha oedd y darlledwr Sulwyn Thomas. Am flynyddoedd lawer roedd gan Sulwyn raglen yn y bore ar Radio Cymru. Roedd e'n dathlu ei ben-blwydd yn 80 yn ddiweddar a gofynnodd Shan Cothi iddo fe beth yw cyfrinach cadw'n ifanc ei ysbryd Darlledwr Broadcaster Cyfrinach Secret Ysbryd Spirit Ffodus Lwcus Cam bihafio Misbehaving Newyddiadurwr Journalist Bant I ffwrdd Dyfalu To guess Pigion Dysgwyr – Ann Ellis Sulwyn Thomas yn fanna'n swnio'n llawer ifancach nag wythdeg oed, a gobeithio iddo fe fwynhau'r dathlu yn Nhŷ Ddewi on'd ife? Ann Ellis yw un o benaethiaid cwmni Mauve Group sydd ar fin cael ei bresenoldeb cynta yng Nghymru. Mae'r cwmni yn helpu busnesau sefydlu mewn gwledydd newydd ar draws y byd. Yn ddiweddar ar raglen Bore Sul sgwrsiodd Ann gyda Bethan Rhys Roberts a dyma hi‘n sôn am sut dechreuodd y cwmni mewn cwpwrdd yn yr Eidal…. Sefydlu To establish Ar fin cael About to have Penaethiaid Heads Hardd Pretty Uwchben Above Pigion Dysgwyr – Richard Hughes Rhyfeddol on'd ife, fel mae'r cwmni bach wedi tyfu i weithio mewn dros gant o wledydd! Richard Hughes o Gaernarfon oedd gwestai gwadd Beti George ar Beti a'i Phobol yr wythnos diwetha. Mae e wedi bod yn gweithio ym maes cyfrifiadureg a mathemateg ers y 60au. Mae'n rhaglennydd cyfrifiadureg ac wedi gweithio ar systemau ym meysydd awyr Heathrow a Charles de Gaulle. Cynhaliodd Beti y sgwrs ar Zoom a gwrandewch ar be sydd gan Richard i ddweud am hynny….. Cyfrifadureg Computer science Rhaglennydd Programmer Yn ddyddiol Daily Arbenigo To specialise Chwedl y Sais As they say in English Addas Appropriate Rhan helaeth The majority Dadansoddi To analyse Pigion Dysgwyr – Ian Parry Mae ieithoedd cyfrifiadureg yn swnio'n llawer mwy cymhleth na'r Gymraeg on'd yn nhw? Buodd Ian Parri'n gweithio fel newyddiadurwr, fel tafarnwr ac fel tiwtor Cymraeg i Oedolion ac nawr mae e newydd gyhoeddi llyfr ar Wyddeldod. Buodd Ian yn gyrru o amglych arfordir Iwerddon am naw wythnos yn ei gartre modur. Dyma fe i sôn mwy am y daith wrth Dei Tomos... Gwyddelod Irishness Y Weriniaeth The Republic Dulyn Dublin Ymestyn To extend Y machlud The sunset Yn ei anterth At its peak Trefniant swyddogol Official arrangement Penrhyn Peninsula Yn ei sgil As a consequence Pigion Dysgwyr – Talwrn Ian Parri oedd hwnna'n sôn am ei daith o gwmpas Iwerddon. Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy Y Talwrn a'r wythnos diwetha y ddau dîm oedd yn cymryd rhan oedd Dros yr Aber a Dwy Ochr i'r Bont. Cafodd y rhaglen ei recordio yn Neuadd Bentref Y Groeslon yng Ngwynedd. Dyma Ceri Wyn Jones yn gosod un o'r tasgau ar gyfer y beirdd… Mawl Praise Dychan Satire Casâf Dwi'n casáu Hy Audacious Yr heidiau The swarm Oedi Staying Cyn ymlwybro Before making their way Fe lofruddiaf I will murder Malwod di-frys Unhurried snails Ochneidio Groaning Pigion Dysgwyr – Cor Dysgwyr Ardal Wrecsam Dw i'n falch mai malwod mae Rhys am eu lladd – ro'n i'n poeni am ychydig pwy oedd e'n mynd i fwrw gyda'r rhaw yna! Bore Mercher diwetha ar raglen Shan Cothi cafodd Shan gwmni Pam Evans Hughes. Pam yw arweinydd Côr Dysgwyr Ardal Wrecsam, neu Côr DAW, a dyma hi i esbonio mwy am hanes y côr… Bwrw To hit Rhaw Spade Arweinydd Conductor Cerddorol Musical Trwy gydol fy oes All my life Traddodiadol traditional
Pigion Dysgwyr - Catherine Woodword Wythnos diwetha ar ei rhaglen cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Catherine Woodward. Roedd Catherine yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed a dyma Shan yn gofyn iddi hi sut yn union oedd hi am ddathlu'r pen-blwydd arbennig hwn... Dathliadau Celebrations Cysylltu To contact Becso Poeni Gwisgo lan To dress up Noswaith i ryfeddu A wonderous evening Casglu To collect Bryd ‘ny At that time Pigion Dysgwyr – Betty Williams … a gobeithio bod Catherine wedi cael parti gwych on'd ife? Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobl oedd cyn Aelod Seneddol Conwy Betty Williams. Dyma hi'n esbonio wrth Beti pam aeth hi i fyd gwleidyddiaeth yn y lle cynta… Cyngor Plwyf Parish Council Cludiant Transport Pwyllgorau Committees Yr awydd i gynrychioli The desire to represent Araith Speech Oedi To hesitate Mynwentydd Cemeteries Llwch llechen Slate dust Cydymdeimlad Sympathy Deddfu To legislate Pigion Dysgwyr – Ifan Gwilym Y cyn aelod seneddol Betty Williams oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George. Dych chi'n credu mewn ofergoelion? Fasech chi'n cerdded o dan ysgol, neu pasio rhywun ar y grisiau? Carl ac Alun fuodd yn cadw sedd Trystan ag Emma yn dwym yn ddiweddar ac ofergoelion ym myd chwaraeon oedd un o'r pynciau buon nhw'n eu trafod ar y rhaglen. Dyma Ifan Gwilym i sôn mwy am hyn… Cyn aelod seneddol Former MP Ofergoelion Superstitions Twym Cynnes Tyfu barf To grow a beard Rownd cynderfynol Semi-final Hylendid Hygiene Y garfan The squad Trwy gydol Throughout Pigion Dysgwyr – Non Parry Ifan Gwilym oedd hwnna'n sôn am ofergoelion byd chwaraeon. Mae cyfres newydd o Ar Blât wedi cychwyn ar Radio Cymru gyda'r cogydd Beca Lyne-Perkis yn cyflwyno. Yn y bennod gynta ddydd Sul Non Parry o'r band Eden oedd y gwestai. Gofynnodd Beca iddi hi beth oedd ei hatgof cynta o goginio… Atgof cynta First memory Glöwr Coal miner Uwchben Above Arogl Smell Gallwn i ddychmygu I could imagine Llanast Mess Prysurdeb Rush Hylif Liquid Unigryw Unique Pigion Dysgwyr – Mullett Non Parry yn fanna'n cofio am brofiadau coginio ei phlentyndod. Beth sydd gan Rod Stewart, Paul McCartney, Dolly Parton a Miley Cyrus yn gyffredin…wel buon nhw i gyd gyda mullet ar un adeg. Dydd Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd Jennifer Jones sgwrs gyda'r hanesydd ffasiwn Sina Haf i sôn am yr adfywiad sy wedi bod yn y steil gwallt arbennig yma…. Adfywiad Revival Eitha trawiadol Quite striking Poblogaidd Popular Gwar Nape of the neck Y ganrif gyntaf The first century Cerflun Statue Amlwg Obvious Pigion Dysgwyr – Twm Morys Wel y mullet amdani felly!! Bore Iau ar raglen Aled Hughes buodd y bardd Twm Morys yn rhoi ychydig o hanes y siantis môr. Ond oes yna draddodiad canu siantis yng Nghymru? Dyma Twm i sôn mwy… Traddodiad Tradition Perchnogion llongau Ship owners Cyflogi To employ Cyfandaliadau Shares Milwyr Soldiers Emynau Hymns Mor gyfarwydd â nhw So familiar with them Gwerin Folk Amrywio To vary
Pigion Dysgwyr – Geraldine MacByrne Jones Mae Geraldine MacByrne Jones yn yn byw yn Llanrwst, ond yn dod o'r Wladfa yn wreiddiol, sef y rhan o Ariannin ble mae'r Gymraeg yn dal i gael ei siarad. Yr wythnos diwetha buodd hi'n sgwrsio gyda Aled Hughes am sut mae'r ddwy wlad, Cymru a'r Ariannin wedi ei hysbrydoli i farddoni….. Ariannin Argentina Ysbrydoli To inspire Barddoni To write poetry Tirwedd Landscape Ysbryd Spirit Daearyddiaeth gorfforol Geography Dychymyg Imagination Ysgogi To motivate Digwyddiadau hanesyddol An historical event Pigion Dysgwyr – Dafydd Cadwaladr Mate ydy'r diod mwya poblogaidd yn y Wladfa ond basai nifer yn dweud mai te ydy diod mwya poblogaidd Cymru, ac roedd hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol Yfed Te yn ddiweddar. Ar eu rhaglen fore Gwener buodd Trystan ac Emma yn sgwrsio gyda un sydd yn ffan enfawr o yfed te sef Dafydd Cadwaladr o Fethesda. Dyma fe i sôn am ei hoff de… Nodweddiadol Typical Arogl Aroma Cryfhau a chyfoethogi To strengthen and enrich Cwdyn Bag Ysgafnach Lighter Amrywiaethau Varieties Deilen A leaf Cychwyn crino Begins to wither Gwelltglaets Green grass Pigion Dysgwyr – Clare Mackintosh Dafydd Cadwaladr oedd hwnna'n sôn am ei hoff de. Ar ei rhaglen am y Celfyddydau, buodd Ffion Dafis yn sgwrsio gyda'r nofelwraig boblogaidd o ogledd Cymru, Clare Mackintosh. Dyma Clare yn esbonio ychydig am ei gyrfa cyn iddi ddod yn nofelwraig llawn amser… Poblogaidd Popular Cefndir Background Defnyddiol Useful Ymchwilio To research Troseddau Crimes Pigion Dysgwyr – Iola Ynyr Clare Mackintosh yn sôn am sut mae hi wedi dod â'i phrofiadau fel ditectif i mewn i'w nofelau. Dydd Sul ar Beti a'i Phobol, Iola Ynyr oedd y gwestai. Mae Iola yn cynnal gweithdai ‘Ar y Dibyn' – sydd yn herio'r stereoteip o bobol sydd â dibyniaeth. Buodd Iola yn gaeth i alcohol ar un adeg ond mae hi wedi derbyn cymorth 12 cam ac mae hi'n sobor nawr ers dros bedair blynedd. Yn y clip nesa mae hi'n sôn am y prosiect Ar y Dibyn... Ar y dibyn On the edge Herio To challenge Dibyniaeth Addiction Yn gaeth i Addicted to Camdrin sylweddau Substance abuse Digon difyr Interesting enough Unigolion Individuals Llenyddiaeth Cymru Literature Wales O nerth i nerth From strength to strength Y weledigaeth The vision Yn benodol Specifically Pigion Dysgwyr – Bethan Wyn Jones A phob lwc i brosiect ‘ Ar y Dibyn' on'd ife? Mae'r naturiaethwraig a'r ddarlledwraig Bethan Wyn Jones newydd ymddeol o ysgrifennu erthyglau a hefyd o gyfrannu i raglen byd natur Galwad Cynnar ar Radio Cymru. Buodd Dei Tomos ar ei raglen yn sgwrsio gyda hi'n ddiweddar gan ddechrau drwy ei holi am sut dechreuodd hi ysgrifennu colofn i'r Herald Cymraeg. Darlledwraig Broadcaster Rhywiogaethau Species Arfordir Môn Anglesey coast Planhigion meddigyniaethol Medicinal plants Y golygydd The editor Ymateb darllenwyr Readers' response Rwbath rwbath Any old thing Wedi mynd i drafferth Had gone to the bother Pigion Dysgwyr – Aderyn y Mis Ac i aros gyda byd natur, bob mis ar raglen Shan Cothi mae'r adarwr Daniel Jenkins Jones yn sgwrsio gyda Shan am un aderyn penodol. Y tro yma roedd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shan yn dwym a'r aderyn dan sylw gan Daniel oedd Gwennol y Bondo. Ydych chi'n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng Gwennol y Bondo a Gwennol cyffredin? Dyma Daniel yn esbonio... Gwennol y Bondo House Martin Gwennol cyffredin An ordinary Sparrow Plu Feathers Gwddf Neck Cynffon fforchog Forked tail Pryfetach Insects Uchder Hight Tebygol Likely
Bore Cothi Dim ond ers blwyddyn mae Angharad Jones yn dysgu Cymraeg ac eto erbyn hyn mae hi'n ddigon rhugl i gynnal sgwrs ar Radio Cymru gyda Shan Cothi. Mae hi'n dod o Fedwas ger Caerffili a gofynnodd Shan iddi hi faint o Gymraeg oedd yn ei theulu... Pert Del Yn ôl According to Cenhedlaeth Generation Mo'yn Eisiau Llywodraeth Cymru The Welsh Government Ffili credu Methu coelio Yn gyffredinol Generally Llwyfan Stage Y Talwrn Angharad Jones oedd honna sydd wedi dysgu Cymraeg yn wych a hynny mewn blwyddyn yn unig. Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy Talwrn Radio Cymru ac yn aml iawn mae beirdd gorau a mwya profiadol Cymru yn cymryd rhan. Yr wythnos diwetha ar Y Talwrn, cynhaliwyd cystadleuaeth wahanol i'r arfer. Am y tro cyntaf dwy ysgol oedd yn cymryd rhan sef Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd a hynny yng Nghapel Bethel, Rhiwbeina. Pennill ymson Soliloquy Goruchwyliwr Invigilator Lleddf Miserable (but also = minor in music) Y gamp The achievement Dychmygu To imagine Diniwed Innocent Uniaethu To identify (with) Arswydus Frightening Cyfoes Modern Haeddu To deserve Ergyd A blow Beti a'i Phobol Dau bennill ymson arbennig yn fanna gan y disgyblion, a'r Meuryn, Ceri Wyn Jones, yn hapus iawn gyda'r ddau. Ar raglen Beti a'i Phobol, Al Lewis oedd y gwestai. Mewn sgwrs agored ac emosiynol ar adegau, buodd yn sôn wrth Beti am y profiad o golli ei dad yn ifanc a'r effaith gafodd hynny arno fe. Meuryn Adjudicator Marwolaeth Death Cyhoeddi To announce Anghyfforddus Uncomfortable Amddiffyn fy hun Defending myself Galar Bereavement Claddu To bury Cynhyrchydd Producer Degawd Decade
Claire Victoria Roberts is a composer, vocalist, and violinist, who blurs the boundaries of jazz, contemporary, and singer-songwriter genres. She collaborates, as an artist, with musicians from classical, jazz, and folk spheres, drawing upon her diverse influences and melding styles together: through improvised vocals, contemporary classical timbres, and melody-driven compositions. Her work has been performed by the BBC National Orchestra of Wales, Psappha Ensemble, cellist Oliver Coates, Opra Cymru, Uproar Ensemble, Solem Quartet, and The Carice Singers. She has collaborated as a violinist and improvising vocalist with Camden Symphony Orchestra, Sherman Theatre, New Voices Choir, Morley Arts Festival, Aberystwyth Arts Festival, and Sherman Theatre. As a composer, she has been commissioned by Cheltenham Festival, Presteigne Festival, MusicFest, and the Wigmore Hall. As a jazz vocalist, Claire has performed at festivals across the UK and abroad including Brecon jazz, Marsden jazz, and Begues jazz (Cataluna). 2021 saw the release of her E.P. 'NOIR', alongside the Treske Quartet, interpreting the melancholy, cynical lyrics of her chosen jazz and chanson material. Claire won the Welsh Music Guild's Young Composer award in 2022, was awarded a Jerwood Arts composer award in 2021, is the Winner of a Royal Philharmonic Society Composition Prize 2019-2020, as well as 2017 winner of the Mathias Composition prize, and 2019 winner of a Francis Chagrin award. She has been broadcast on Radio 3, Radio Wales, and Radio Cymru. In this episode, Claire shares her background, education, and musical journey. If you enjoyed this episode please make sure to subscribe, follow, rate, and/or review this podcast on Spotify, Apple Podcast, Google Podcast, ect. Connect with us on all social media platforms and at www.improvexchange.com
Cafodd Aled Hughes sgwrs wythnos diwetha gyda Sioned Mair am Fondue, bwyd sydd yn dod yn ôl i ffasiwn y dyddiau hyn. Ond beth yn union yw Fondue? Doedd dim syniad gydag Aled a dyma i chi Sioned yn esbonio… Toddi To melt Mae'n debyg Probably Amrwd Raw Rhannu To share Argymell To recommend Pigion Dysgwyr – Troi'r Tir Mae'n debyg bod Fondue yn un o nifer o fwydydd y 70au sy'n dod yn ôl i ffasiwn. Cyw iâr mewn basged unrhyw un? Mae Troi'r Tir ar Radio Cymru yn rhoi sylw i faterion ffermio a chefn gwlad, a'r wythnos diwetha dysgon ni ychydig am waith y fet. Mae Malan Hughes yn filfeddyg yn ardal Y Ffor ger Pwllheli a dyma hi yn rhoi syniad i ni o'r math o waith mae hi'n ei wneud o ddydd i ddydd…… Milfeddyg Vet Un ai Either Ymddiddori To take an interest in Ambell i lo Some calves Cathod di-ri Innumerable cats Pry lludw Wood lice Silwair Silage Ardal eang A wide area Pigion Dysgwyr - Maori Wel am fywyd prysur ac amrywiol sy gan milfeddygon on'd ife? I Seland Newydd nawr - ble mae Iwan Llyr Jones, sy'n dod o Finffordd ger Penrhyndeudraeth Gwynedd yn wreiddiol, yn byw. Cafodd Iwan ei ganmol ar-lein am iddo ddewis cael ei seremoni dinasyddiaeth yn Seland Newydd yn gyfan gwbl drwy'r iaith Maori. Dyma Iwan ar Dros Frecwast fore Iau yn esbonio wrth Dylan Ebenezer faint o'r iaith Maori sydd i'w chlywed yn Seland Newydd Canmol To praise Dinasyddiaeth Citizenship Ymateb Response Trawiadol Striking Sylw Attention Tyngu llw To swear an oath Tebygrwydd Similarity Pigion Dysgwyr – Nina Iwan Llyr Jones oedd hwnna'n sôn am y sylw gafodd e ar TiK ToK ar i'w bartner bostio'r seremoni dinasyddiaeth Maori ar Tik Tok. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Nina Evans Williams yr wythnos diwetha. Llwyddodd Nina i ennill cystadleuaeth addurno cacennau Salon Culinaire yn Llundain yn ddiweddar. Ynys Môn oedd yr ysbrydoliaeth dros ei haddurniad a buodd Nina'n sôn wrth Shan Cothi sut aeth hi ati i gynrychioli'r Ynys ar ei chacen... Addurno To decorate Yn ddiweddar Recently Cynrychioli To represent Ysbrydoliaeth Inspiration Teyrnged Tribute Golygfeydd hardd Lovely scenery Arfordir Coastline Goleudy Lighthouse Tonnau Waves Pigion Dysgwyr – Elin Angharad Ac o un artist at artist arall. Gwestai Beti George yr wythnos diwetha oedd y grefftwraig lledr o ganolbarth Cymru Elin Angharad. Mae gwaith celf wedi bod o ddiddordeb mawr i Elin ers pan oedd hi'n ifanc. Buodd hi'n astudio cwrs celf yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, ac erbyn hyn mae hi wedi cychwyn busnes ei hunan yn dylunio a chreu cynnyrch lledr ym Machynlleth. Dyma hi'n sôn am draddodiad crefft ei theulu Dylunio To design Lledr Leather Gwneuthurwr dreser Cymreig Welsh dresser maker Anghyffredin Unusual Diwydiant cig Meat industry Lladd-dai Abattoirs Cymhorthydd Assistant Cymharol fach Relatively small Gwledig Rural Dio'm bwys Does dim ots Pigion Dysgwyr – Kamalagita Elin Angharad oedd honna ar Beti a'i Phobol yn sôn am ei theulu ac am ei gwaith yn dylunio a chreu cynnyrch lledr. Yr wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn sgwrs gyda Kamalagita Hughes o Dreorci. Dysgodd Kamalagita Gymraeg ar ôl un noson fythgofiadwy mewn clwb yn y de, ble roedd band Cymraeg yn chwarae. Dyma hi i sôn mwy am y noson honno…. Bythgofiadwy Unforgettable Egni Energy Diwylliant Culture Ieuenctid Youth
In this episode, Chris Hawkins speaks with a DJ who has a firm grasp of their broadcasting medium; former Radio 1 and current BBC Radio Wales & Radio Cymru presenter Huw Stephens. Huw's obsession began with magic but as soon as he heard Virgin Radio 1215 AM at an impressionable age, he quickly turned his hand to Hospital Radio before landing a job at Radio 1 at the age of seventeen. Huw's journey would appear to have started at the top but he's never stopped wanting to learn and make the most of those opportunities … although there may be a former Children's TV star he's still too ashamed to thank (!) From club to radio and every other music DJ in between; Chris Hawkins warms up his guests before asking them to pick a set of 5 questions from a box of 45 and there's always an apocalyptic set closer too! In Series 6 Chris cues up eight more episodes of life stories & experiences, tips & techniques, to find out just how the minds of much-loved DJs work. Guests still to come in this series include Sam Divine, Don Letts & more! How to DJ is a Listening Dog Media production. Learn more about your ad choices. Visit megaphone.fm/adchoices
Pigion Dysgwyr – Dion Mae Dion Paden, sy'n dod o Gerrigydrudion yn Sir Conwy yn wreiddiol, wedi symud i fyw i Darwin yng ngogledd Awstralia, ac yn ddiweddar cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda Dion. Gofynnodd Shan iddo fe'n gynta pam symudodd e i Awstralia? Yn ddiweddar Recently Pigion Dysgwyr - Meinir Dion o Darwin yn siarad gyda Shan Cothi yn fanna. Ar raglen Beti a'i Phobol ddydd Sul y gwestai oedd Meinir Thomas o Ynys Môn. Mae Meinir yn chwarae hoci i dîm dros 55 Menywod Cymru. Mae hi'n hoffi nofio gwyllt hefyd a dyma Meinir i ddweud beth sydd mor arbennig am nofio ym mhob tywydd a hynny drwy'r flwyddyn. Menywod Merched Arnofio To float Tonnau Waves Plentyndod Childhood Golwg gwirion arna i I looked ridiculous Be ar y ddaear…? What on earth…? Gwefreiddiol Thrilling Morlo Seal Pigion Dysgwyr – Dros Ginio 6.2 Meinir yn poeni dim am beth mae pobl yn ei feddwl amdani'n nofio'n wyllt, chwarae teg iddi hi. Gwestai Dewi Llwyd yn y slot 2 cyn 2 ar Dros Ginio bnawn Llun oedd y cyn bêl-droediwr a'r arlunydd Owain Vaughan Williams, a'i frawd Gethin. Mae Owain erbyn hyn yn hyfforddi gôl-geidwaid Fleetwood Town ac mae Gethin yn gerddor ac yn drydanwr. Dyma'r ddau yn sôn am rywbeth anffodus ddigwyddodd yn eu plentyndod… Arlunydd Artist Gôl-geidwaid Goalkeepers Yn gerddor ac yn drydanwr A musician and electrician Sail Basis Go dyngedfennol Really fateful Llithro To slip Dychmygu To imagine Cymar Partner Dihangfa An escape Pigion Dysgwyr – Geraint Rhys Whittaker Y ddau frawd, Owain a Gethin oedd rheina'n sgwrsio gyda Dewi Llwyd. Yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi bod yn recordio synau anifeiliaid sydd yn byw ym mhegwn y gogledd a phegwn y de. Mae nhw'n aml yn synau does neb byth yn eu clywed. Un sydd wedi gweithio yn y maes yma yw Geraint Rhys Whittaker a buodd e'n siarad am ei waith ar Dros Frecwast fore Mawrth. Gwyddonwyr Scientists Synau Sounds Pegwn y gogledd North Pole Darganfod To discover Mor rhyfeddol So amazing Ail-ddadansoddi To reanalyse Nodau Aims Ysbrydoli To inspire Swnllyd Noisy Amgylchedd Environment Pigion Dysgwyr – James Cuff Stori wyddonol anhygoel yn fanna ar Dros Frecwast. Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i ddysgu Cymraeg? Cerddoriaeth Gymraeg oedd ysbrydoliaeth James Cuff ddechreuodd dysgu Cymraeg bedair blynedd yn ôl. Erbyn hyn mae e'n ddigon hyderus yn yr iaith i siarad am ei daith bersonol gyda'r Gymraeg ar Radio Cymru. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd e gydag Aled Hughes… Anhygoel Incredible Cymreictod Welshness Mo'yn Eisiau Becso Poeni Colli mas To lose out Pigion Dysgwyr – Snwcyr Amlwch Gobeithio, on'd ife, bod yna rai eraill fel James gaeth eu hysbrydoli i ddysgu Cymraeg ar Ddydd Miwsig Cymru, ddydd Gwener diwetha. Ar ei rhaglen nos Fercher cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Jeff Price o Amlwch. Jeff yw Is-Gadeirydd clwb snwcer y dre sydd yn dathlu 90 mlynedd ers ei sefydlu. Gofynnodd Caryl i Jeff yn gynta sawl bwrdd snwcer sydd yn y clwb Is-gadeirydd Vice chairman Sefydlu Founded Mae hi'n glamp o neuadd It's a huge hall Calch (sialc) Chalk Rheolaeth Management
Y dramodydd Rhiannon Boyle yw'r gwestai. Mae ei drama newydd ar gyfer Radio Cymru, 'Lysh', wedi'i selio ar brofiadau personol a'i pherthynas hi gydag alcohol. Pan fyddai hi'n yfed roedd yn tueddu o yfed tipyn ar y tro, gan fynd dros ben llestri a gwneud pethau gwirion. Wedi iddi roi'r gorau i yfed am fis, teimlodd bod ei hiechyd meddwl wedi gwella, ac roedd hi'n cysgu'n well. O ganlyniad, mi benderfynodd beidio ag yfed alcohol eto. Cawn glywed am sut y dechreuodd astudio Drama yn yr ysgol, wedi cyfnod anodd ar ôl i'w rhieni wahanu, a sut y newidiodd ei byd. Clywn hefyd am rai o'i dramâu, yn cynnwys 'Safe From Harm' i Radio 4, sydd dal ar BBC Sounds; 'Anfamol' a gynhyrchwyd gan y Theatr Genedlaethol, a'i chomisiwn diweddaraf i addasu'r nofel 'Un Nos Ola Leuad' ar gyfer Radio 4 a Radio Cymru.
Kath Morgan, sylwebydd pêl droed a chyn Gapten tîm pêl droed merched Cymru, yw gwestai Beti a'i Phobol. Dechreuodd Kath chwarae pêl droed yn yr ysgol gynradd a hithau'n 7 oed; mae'n cofio diflasu chwarae gyda'r genethod a phenderfynu ei bod yn awyddus i ymuno efo'r bechgyn. Bu'n gwylio'r bechgyn yn chwarae am flynyddoedd i ddysgu sgiliau. Mae hi newydd ddychwelyd o Qatar lle bu'n sylwebu yno gyda Radio Cymru, ac fe recordiwyd y rhaglen hon ar y 13eg o Ragfyr 2022, yn ystod Cwpan y Byd. Ganwyd Kathryn Mary Morgan yn ysbyty Aberdâr ac fe'i magwyd yn Merthyr; mae hi'n sôn am ei magwraeth a'r gefnogaeth a gafodd gan ei theulu i chwarae pêl droed. Mae hi wedi dysgu Aaron Ramsey, ac 'roedd e bob amser yn ei holi hi pryd 'roedd hi'n chwarae ei gem nesa. Mae Kath yn hoff iawn o emynau gan eu bod yn ei hatgoffa o'i chefndir capel a'r ysgol Sul. Mae'r emyn Pantyfedwen (Tydi a Roddaist) yn un o'i dewisiadau.
Bore Cothi – Iestyn Jones Mae Iestyn Jones o Gapel Hendre yn Sir Gaerfyrddin yn gerddor llwyddiannus sy'n gweithio yn y West End, ac ar hyn o bryd mae e'n aelod o gerddorfa sioe ‘Back to The Future'. Buodd Iestyn yn sôn wrth Shan Cothi am ei yrfa…………. Cerddor llwyddiannus A successful musician Cerddorfa Orchestra Sioe gerdd Musical theatre Dwlu ar Wrth ei fodd efo Llwyfan Stage Anghyffredin Unusual Profiadau Experiences Trwy rinwedd By virtue of Beti a'i Phobl – John Owain Jones 27.11 Iestyn Jones oedd hwnna'n sôn am rai o'i brofiadau yn y West End ar Bore Cothi. Pnawn Sul ar Beti a'i Phobl y Parchedig John Owain Jones oedd gwestai Beti. Bydd e'n ymddeol fel gweinidog ar Ynys Bute yn yr Alban ym mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel gweinidog yno. Dyma fe'n sôn am sut dechreuodd ei gysylltiad â'r ynys... Parchedig Reverend Gweinidog Minister Yn y fyddin In the army Hel pres Casglu arian Llongau Ships Ymerodraeth Empire Ffrindiau mynwesol Bosom pals Ddaru Wnaeth Naill ai Either Gwas priodas Best man Gwneud Bywyd yn Haws – Lloyd Henri 22.11 Y Parchedig John Owain Jones yn fanna, ac mae Owain yn cyfrannu'n aml i'r slot Thought for Today Radio Alban ac wedi cyfrannu hefyd i'r Daily Service Radio 4. Bydd e hefyd yn cyfrannu ar Munud i Feddwl, Radio Cymru. Nos Fawrth ar ei rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws, cafodd Hanna Hopwood gwmni Lloyd Henri , athro coginio sydd wedi sgwennu llyfr o'r enw Cegin Mr Henri. Gofynnodd Hanna iddo fe'n gynta pam aeth o ati i sgwennu'r llyfr Ymarferol Practical Cynyddu To increase Enfawr Huge Llwyth Loads Gwastraff Waste Yn eu harddegau In their teens Rhwng y cloriau Between the covers Heriol Challenging Cynhwysyn Ingredients Sawrus Savoury Aled Hughes – Ian ap Dewi 21.11 Dw i'n siŵr basai hwnna'n gwneud anrheg Dolig neis i rywun –Cegin Mr Henri. Dyw hi ddim yn bosib dianc rhag pêl-droed y dyddiau hyn nag yw hi? Bore Llun aeth Aled Hughes i Ganolfan yr Urdd Llangrannog a chafodd air gyda Ian ap Dewi sylfaenydd tîm pêl-droed y pentre sef Crannog. Dianc rhag To escape from Sylfaenydd Founder Cyfaill Ffrind Y gynghrair The league Cais Application Cymuned Community Ieuenctid Youth O dipyn i beth Little by little Mas Allan Caryl – Eleri Lloyd Jones 22.11 Hanes sefydlu tîm pêl-droed Crannog yn fanna ar raglen Aled Hughes. Cafodd Caryl Parry Jones gyfle i sgwrsio gyda Eleri Lloyd Jones o Ffostrasol yng Ngheredigion ar ei rhaglen nos Fawrth. Mae Eleri yn athrawes wrth ei gwaith bod dydd, ond gyda'r nos mae hi'n hoff iawn o uwchgylchu dodrefn. Uwchgylchu Upcycle Dodrefn Celfi Tywyll Dark Gweddill The rest Yn dueddol Tend to Cael gwared To get rid of Harddwch Beauty Derw Oak Goleuo To lighten Newid ei wedd To change its complexion Bore Cothi – Elinor Young Os nad oeddech chi'n gwybod beth ydy uwchgylchu o'r blaen, dych chi'n siŵr o fod yn gwybod nawr! Wythnos diwetha roedd rhaglen Shan Cothi yn rhoi sylw i elusennau bychain Cymru a buodd Elinor Young o Cŵn Cymorth Cariad yn siarad â Shan am y gwaith mae ei chi Tana yn ei wneud ar ran yr elusen Elusennau bychain Small charities Lles Welfare Cleifion Patients Mwythau Pandering Delwedd Image Ystyried To consider
Mae'r Parchedig John Owain Jones yn ymddeol fel Gweinidog ar Ynys Bute yn mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel Gweinidog yno. Cafodd ei eni yn Llanelwy a'i fagu yn Rhyl nes roedd yn 13 oed, cyn symud i Gaernarfon. Roedd ei Dad yn gweithio i'r Swyddfa Bost a chafodd swydd fel Post feistr yn Nghaernarfon. Mae cysylltiad Owain â'r Alban wedi bod yno bron o'r cychwyn. Wedi i'w rieni ddyweddïo roedd ei Dad eisiau arian i brynu tŷ felly aeth i weithio am gyfnod i'r Swyddfa Bost yn Rhodesia. Ar y llong ar ei ffordd draw yno rhannodd fync ar y llong gyda David Walker a oedd yn dod o Ynys Bute. Daeth ei Dad ac yntau'n ffrindiau pennaf a bu'n was priodas i'w Dad. Priododd ei fam a'i dad yn Salisbury, Rhodesia (Harare bellach). Priodwyd y ddau yn y Second Presbyterian Church ac roedd y Gweinidog yn dod yn wreiddiol o St Andrews (lle bu Owain yn y Brifysgol), a dychwelodd David yn ôl i Ynys Bute yn ddiweddarach. David hefyd oedd tad bedydd Owain a'i frawd Gethin. Bob haf roedd y teulu'n mynd draw i Ynys Bute ar wyliau. Roedd hynny yn un o'r rhesymau pam y dewisodd Owain Brifysgol St Andrews. Yn ddiweddarach fe aeth Owain i Rhodesia am gyfnod i weinidogaethu. Mae Owain yn cyfrannu'n gyson i'r slot Thought for Today Radio Alban ac wedi cyfrannu hefyd i'r Daily Service ar Radio 4. Fe fydd hefyd yn cyfrannu ar Munud i Feddwl, Radio Cymru. Mae'n rhannu straeon am ei fywyd ac yn dewis ambell i gân.
Simon Davies is joined by BBC Radio Wales and Radio Cymru commentators Rob Phillips and Dylan Griffiths and speaks to all of Wales' goalkeepers, Wayne Hennessey, Danny Ward and Adam Davies.
S'mae... Ry'ch chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse ydw i, ac i ddechrau'r wythnos yma... Aled Hughes - Dafydd Iwan 7.11 Roedd Dafydd Iwan yn westai ar raglen Aled Hughes fore Llun i sôn am Yma o Hyd, y gân sydd wedi ei dewis fel anthem tîm Pêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd. Recordiwyd Yma o Hyd gynta bron i bedwar deg mlynedd yn ôl, ond mae hi wedi cael bywyd newydd yn ddiweddar, gyda recordiad newydd sydd wedi cael sylw mawr y tu hwnt i Gymru. Tu hwnt Beyond Wedi hen arfer Well used to Bodoli ers degawdau Existed for decades Rhyfedda Strangest Pwysleisio'r angen Stresses the importance Ail-greu To recreate Ers tro For a long time Ysbrydoli To inspire Yr alwad The call Llorio To floor Bore Cothi – Roy Noble 7.11 ...a buodd chwarter miliwn o blant ysgol Cymru yn canu Yma o Hyd fel rhan o Jiwbili yr Urdd, gwych on'd ife? Ddydd Llun hefyd cafodd Shan Cothi gyfle i groesawu y darlledwr Roy Noble oedd yn edrych ymlaen at ei ben-blwydd yn 80. Dechreuodd Roy drwy sôn am ei ddyddiau cynnar yn darlledu……. Darlledwr Broadcaster Traffordd Motorway Bwrw To hit Yr Hollalluog The Almighty Camsyniad Camgymeriad Menwyod Merched Wejen Cariad Yn gymharol ddiweddar Fairly recently Traddodiad Tradition Beti a'I Phobl – Meleri Davies 13.11 Roy Noble oedd hwnna'n siarad gyda Shan Cothi. Brynhawn Sul, Meleri Davies o Fenter Ogwen oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobl. Mae brawd Meleri, Dewi Prysor, yn nofelydd a gofynnodd Beti oedd diddordeb gyda hi mewn creu llenyddiaeth yn ogystal Llenyddiaeth Literature Dihangfa An escape Rhyddiaith Prose Cerddi rhydd Free verse Chwant An inclination Cyfrwng Medium Atomfa Nuclear power station Dylanwad Influence Amaethwyr Farmers Ymbelydredd Radiation Peri dychryn To cause alarm Dros Ginio - Delyth Wyn a Elin Fflur 8.11 Blas ar sgwrs gafodd Beti George gyda Meleri Davies oedd hwnna, a nawr cawn wrando ar ran o sgwrs cafodd Jennifer Jones ar Dros Ginio gyda Delyth Wyn ag Elin Fflur sef cynhyrchydd a chyflwynwraig y gyfres deledu Sgwrs Dan y Lloer. Cynhyrchydd Producer Cyflwynwraig Female presenter Addas i'r cyfnod Suitable for the period Dynoliaeth Humanity Rhyfeddu To wonder Gwerthfawrogi To appreciate Cymdeithasu To socialise Cefnlen Backdrop Creu'r naws Creating the atmosphere Caryl - Heledd Fflur 8.11 Ac mae rhaglenni Sgwrs Dan y Lloer wedi bod yn rhai gwych on'd yn nhw? Heledd Fflur, sydd yn dod o Drewyddel, Sir Benfro yn wreiddiol, yw garddwraig wadd rhaglen Caryl gyda'r nosau, a'r wythnos yma buodd hi'n sôn wrth Caryl am gyfrinachau tyfu moron da Cyfrinachau Secrets Dyfrhau To water Os wedwn i If I say so Pridd Soil Parhau To continue Yn hytrach na Rather than Diog Lazy Sychder Drought Arwynebedd Surface area Tueddol i Tend to Ifan Evans – Clive Edwards 10.11 Dyna ni wedi cael gwybod sut i dyfu moron da – dyfrhau o'r gwaelod! Brynhawn Iau buodd Ifan Evans yn siarad gyda'r canwr Clive Edwards am ei gryno ddisg, neu CD, newydd, Dyddie Da, sy'n cael ei ryddhau cyn bo hir. Llongyfarchiadau Congratulations Offerynwyr Instrumentalists Ffair Aeaf Winter Fair Hala Anfon Diniwed Innocent
BETI A'I PHOBOL - MIRAIN IWERYDD Y cyflwynydd Mirain Iwerydd oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ydy Mirain ac mae hi'n cyflwyno Hansh a Stwnsh Sadwrn ar S4C, a'r Sioe Frecwast Radio Cymru 2 fore Sul. Mae hi hefyd yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth newydd bob nos Fercher ar Radio Cymru. Cefndir Jamaicaidd ac Indiaidd sydd gan fam Mirain a gofynnodd Beti iddi oedd hi wedi profi hiliaeth o gwbl o'r herwydd… Hiliaeth Racism O'r herwydd As a consequence Dathlu diwylliant Celebrating the culture Synnu To be surprised Ffodus Lwcus (G)wynebu To face Cymharol Relatively Cyfryngau cymdeithasol Social media Becso Poeni Bodoli To exist SHELLEY A RHYDIAN Mirain Iwerydd oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George. Yr actor, canwr a sylwebydd Rhys ap William oedd gwestai Shelley a Rhydian brynhawn Sadwrn. Rhys oedd yn sylwebu yn Stadiwm y Principality yn ystod y gêm rygbi rhwng Cymru a'r Crysau Duon ddydd Sadwrn diwetha ond beth tybed yw hanes y sgidiau arbennig iawn mae e'n eu gwisgo yn ystod y gêm? Sylwebydd Commentator Y Crysau Duon The All Blacks Cefnogaeth Support Rhyngwladol International Gan amlaf Usually Dylanwadu To influence NIA PARRY - GOGGLEBOX Yn anffodus doedd Rhys ddim yn gallu dylanwadu ar y sgôr ddydd Sadwrn wrth i Gymru golli'n drwm yn erbyn y Crysau Duon. Mae Huw Williams o Frynaman yn un o dri brawd (Mike a Stephen yw'r ddau arall) fydd yn ymddangos ar y gyfres newydd Gogglebocs Cymru cafodd ei weld am y tro cynta nos Fercher diwetha. Nia Parry fuodd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes wythnos diwetha, a chafodd hi sgwrs gyda Huw am y gyfres... Ymddangos To appear Cyfres Series Yr Wyddgrug Mold Swyddogol Official Anghytuno To disagree Hogyn Bachgen Licsen Baswn i'n hoffi Dodi pethau lan Rhoi pethau i fyny Sbort Hwyl BORE COTHI - ALED HALL Hanes y brodyr o Frynaman ar Gogglebox Cymru yn fanna ar raglen Aled Hughes. Mae'r tenor o Bencader, Aled Hall, newydd gyhoeddi ei hunangofiant “O'r Da I'r Direidus”. Gofynnodd Shan iddo a oedd cyfnod wedi bod ble roedd e‘n meddwl bod pethau‘n galed, ac ei fod wedi gwneud y peth iawn yn dilyn y llwybr cerddorol. Hunangofiant Autobiography Direidus Mischievous Y llwybr cerddorol The musical path Llwyfan Stage Cyfarwydd â Familiar with Sa i'n credu Dw i ddim yn credu Ystyried To consider Cynulleidfa fyw A live audience Braidd dim Hardly any Annog To encourage DROS GINIO - DAU CYN DAU …a dw i'n siŵr bydd hanesion diddorol iawn yn hunangofiant Aled Hall. Brawd a chwaer o Aberystwyth oedd ar Dau Cyn Dau yn y rhaglen Dros Ginio. Mae Gwenan Creunant yn gweithio i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen ac mae Deian yn gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg. Dyma i chi flas ar y sgwrs… Ymddiriedolaeth Trust Rhan fwyaf eich oes Most of your life Bwrlwm Buzz Amrywiaeth variety Cymuned glos A close community Atgofion a magwraeth Memories and upbringing Tafod ym moch Tongue in cheek Gwirionedd Truth BORE COTHI - MARK ADEY Gwenan a Deian yn fanna yn amlwg wrth eu boddau gydag Aberystwyth. Mae Mark Adey yn athro Gwyddoniaeth yn ysgol Uwchradd Llanisien, Caerdydd ac mae e hefyd yn ffan mawr o Elvis ac yn perfformio tipyn fel Elvis. Mae e'n dod o Bontlliw ger Abertawe yn wreiddiol a gofynnodd Shan Cothi iddo a oedd e'n clywed Cymraeg ar yr aelwyd pan oedd e'n blentyn. Gwyddoniaeth Science Ar yr aelwyd At home Trwy gyfrwng Through the medium of Rhyfedd Strange Cyfarwyddo To become familiar with Sail Foundation Dynwared To imitate Enfawr Huge Llwyth o Loads of Addas Appropriate
BORE COTHI Buodd Mari Grug yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes ddechrau'r wythnos diwetha, a chafodd hi sgwrs gyda Eirian Muse o Garmel ger Caernarfon am greu basgedi. Dechreuodd diddordeb Eirian mewn basgedi pan gafodd daleb i fynd i weithdy creu basgedi fel anrheg penblwydd tua phum neu chwe blynedd yn ôl. Dyma Eirian yn dweud yr hanes… Taleb - Voucher Ar hap - Accidentally Helyg - Willow Sir Amwythig - Shropshire Cymhwyster - Qualification Gwledig - Rural Hwb - A boost Gwlad yr Haf - Somerset Cynnyrch adnewyddadwy - Renewable produce Hyblyg - Pliable Trwch - Thickness BETI A'I PHOBL Eurig Druce ydy Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni ceir Citroën yn y Deyrnas Unedig a fe oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae'n dod o bentref Bethel ger Caernarfon yn wreiddiol a phwy gwell nag Eurig i drafod ceir gyda Beti. Dyma i chi flas ar y sgwrs … Rheolwr Gyfarwyddwr - Managing Director Y Deyrnas Unedig - The UK Anferth - Huge Cynhyrchu'n unigol - Individually produced Diwydiant - Industry Sylfaen - Foundation Trydanol - Electrical Perthnasol - Relevant ALED HUGHES Roedd y grŵp cerddorol HAPNOD yn boblogaidd yn ystod yr 80au. Roedd pedwar aelod o'r grŵp - Cefin Roberts, Rhian Roberts, Gwyn Vaughan Jones ac Ann Llwyd. Dyma nhw'n sôn wrth Aled Hughes sut cafodd y grŵp ei ffurfio yn y lle cynta, Ann sy'n siarad gynta. Tywysog - Prince Trefniannau - Arrangements Emynau - Hymns Cyfres - Series Unig - Lonely Cyhoeddus - Public Dere - Tyrd JONATHAN YN 60 Mae'r cyn-chwaraewr rygbi Jonathan Davies yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 eleni a buodd e'n edrych yn ôl ar ei fywyd a'i yrfa gyda Sarra Elgan. Dyma fe'n sôn am yr adeg pan fuodd ei dad farw, a Jonathan ond yn bedair ar ddeg oed. Paratoi - To prepare Twlu - Taflu Yn grac - Yn flin Llefain - Crïo Cyfnod - Period Mam-gu - Nain CLONC Roedd yna gystadleuaeth rhyfedd iawn ar Radio Cymru wrth i Radio Clonc gymryd drosodd tonfeddi Radio Cymru nos Fawrth. Dyma i chi “Richard” o Gaernarfon yn trïo ennill gwobr fawr cystadleuaeth Alff a Bet… Rhyfedd - Strange Tonfeddi - Wavelength Di o'm bwys - Dydy o ddim yn bwysig Llythyren - Letter Asiantaeth Gofod - Space Agency Teyrnas - Kingdom Madarch - Mushroom Unigryw - Unique COFIO Cymdeithas oedd thema'r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy bnawn Sul. Dyma glip o raglen o ddiwedd y ganrif ddiwetha gyda phobl ar draws Cymru, yn hen ac ifanc, yn trafod sut mae cymdeithas a chymuned wedi newid. Cymuned - Community Rhywsut - Somehow Elfen - Element Bodoli - To exist Y cymoedd - The valleys Fawr o neb - Hardly anyone Hwn a'r llall - This and that Tlodi - Poverty Hela cwningod - Hunting rabbits Hwyrach - Efallai Parch - Respect Wedi darfod - Has ceased to exist
Y cyflwynydd Mirain Iwerydd yw gwestai Beti George. Mae Mirain yn dod o Grymych ac yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Hansh a Stwnsh Sadwrn, mae hi'n cyflwyno Sioe Frecwast Radio Cymru 2 ar fore Sul ac mae hi hefyd yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth newydd bob nos Fercher ar Radio Cymru. Mae'n byw yn Aberystwyth ac yn astudio Cymraeg yn y brifysgol yno. Yn ei amser hamdden mae'n mwynhau gwnïo, cymdeithasu a theithio. Mae hi'n ddiolchgar iawn i Fudiad Ffermwyr Ifanc ac yn diolch am yr hyder a gafodd wrth gystadlu gyda'r adran. Mae hi hefyd yn trafod pwysigrwydd Mis Dathlu Diwylliant Pobol Dduon,"shwt arall ydym ni'n mynd i gael cynrychiolaeth deg".
Radio'r Cymry Mae hi bron yn ganrif ers i'r geiriau Cymraeg cyntaf gael eu clywed ar y radio. Yn y gyfres newydd, Radio'r Cymry, mae Hywel Gwynfryn yn edrych ar raglenni, digwyddiadau â'r cymeriadau sydd wedi gwneud Radio Cymru yr hyn ydy o heddiw. Yn 1935 daeth Sam Jones yn Bennaeth y BBC ym Mangor ac roedd hi'n ddechrau ar gyfnod cyffrous iawn yn hanes Radio Cymraeg. Dyma ei ysgrifenyddes, Morfudd Mason Lewis, yn sôn am y dyddiau hynny..... Canrif - Century Cyfres - Series Pennaeth - Head Parchu - To respect Peirianwyr - Engineers Tyrfa - A crowd Rhaglenni byw - Live programmes Pennill - A verse A ddeuai - Fasai'n dod Aled Hughes Aeth Aled Hughes draw i Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn i gwrdd â Reuben Hughes, sy'n bencampwr reslo braich! Mae o'n aelod o glwb reslo braich Roar yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin, ac mae o newydd ennill ei gystadleuaeth reslo braich gynta. Pencampwr - Champion Am sbort - For fun Yr amser yn brin - Time was scarce Penderfynol - Determined Diogelwch - Safety Poendod - A worry Gwarchod - To protect Rhoi'r fantais - To give an advantage Cryfder - Strength Gwneud Bywyd yn Haws Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth, buodd Hanna Hopwood yn sgwrsio efo Dr Elinor Young. Mae gan Elinor gi therapi o'r enw Tana sydd yn rhan o gynllun Cŵn Cymorth Cariad a dyma hi'n sôn ychydig wrth Hanna am y cynllun… Cafodd ei sefydlu- Was established Hwlffordd - Haverfordwest Disgwyliadau - Expectations Hyfforddiant - Training Cyfathrebu - To communicate Perchennog - Owner Lles - Welfare Dychryn - To frighten Llyfu - To lick Bore Cothi Therapi sy'n cael sylw yn y clip nesa ‘ma hefyd, sef Adweitheg, neu Reflexology. Mi roedd hi'n Wythnos Adweitheg y Byd wythnos diwetha, ac mi fuodd Sioned Jones yn sgwrsio efo Shân Cothi am y therapi. Mae Sioned yn dod o Waunfawr yng Ngwynedd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae hi'n byw yng Nghaerdydd ac yn berchen ar gwmni J Reflexology yn y ddinas. Cysur - Comfort Adweitheg - Reflexology Heriau - Challenges Gradd ychwanegol - An extra degree Addas - Suitable Dan bwysau - Under pressure Egni - Energy Treulio - To digest Crediniol - Convinced Beichiogi - To become pregnant Bore Cothi Sut mae gwybod y gwahaniaeth rhwng colomen a sguthan? Dyna oedd cwestiwn Shân Cothi i Daniel Jenkins Jones, a dyma fo'n ateb mewn ffordd ddiddorol iawn. Colomen - Pigeon (Y)sguthan - Wood Pigeon Gwahaniaethu - To differenciate Turtur Dorchog - Collared Dove Tlws - Pretty Coedwigoedd - Woodlands Yn bla - A plague Cerddorol - Musical Atgoffa - To remind Sill - Syllable Aled Hughes Tybed ydy amser yn ymddangos i fynd yn arafach i blant nag ydy o i oedolion? Mae Dr Rhys Morris yn gweithio yn adran astroffiseg, Prifysgol Bryste, ac mae'n grediniol bod hynny'n digwydd. Dyma fo'n esbonio pam mae o'n credu hynny wrth Aled Hughes... Ymddangos - To appear Hŷn - Henach Atgofion - Memories Canran - Percentage Ymenydd - Brain Golygfeydd - Scenes Cyfnod llai - A shorter period Manylyn - A detail Gweledol - Visual
Bore Cothi Sarah Astley Hughes sy'n byw yng Nghaerdydd, ond sy'n dod Lanrhaeadr ym Mochnant, Powys yn wreiddiol, fuodd yn sôn wrth Shelley Rees Owen ar Bore Cothi fore Iau am ei phenderfyniad i groesawu'r gwallt llwyd ar ôl cael llond bol o orfod lliwio ei gwallt bob pythefnos! Croesawu - To welcome Lliwio - To dye Sylweddoli - To realise Ffili - Methu Colurwraig - Make-up artist Bwrw Golwg Ddechrau wythnos diwetha mi ddaeth y newyddion am y llifogydd ofnadwy sydd wedi taro Pacistan. Dyma i chi Tom Davies o'r elusen Cymorth Cristnogol yn sôn am y drychineb… Llifogydd - Floods Trychineb - Disaster Heb rybudd - Without warning Diflannu'n weddol glou - Disappearing quite quickly Distryw - Destruction Ceisio dygymod â - Trying to come to terms with Yn sgil - As a consequence of Cilio - To recede Newid hinsawdd - Climate change Argyfyngau - Crisis Cymry a Mwy Pan symudodd Gwenfair Griffith a'i theulu i Sydney, Awstralia, sefydlodd hi Grŵp Chwarae Cymraeg er mwyn helpu ei phlant i gadw cysylltiad â'u gwreiddiau yng Nghymru. Yn y rhaglen hon, mae Gwenfair yn cwrdd â Lin Dodd sy'n byw yng Nghaerffili, ond sy'n dod o Tseina yn wreiddiol, ac sy'n ceisio dod yn rhan o'r gymuned leol … Y gymuned leol - The local community Cyfathrebu - To communicate Y profiad - The experience Aled Hughes Mae Vaughn Smith o Washington yn medru siarad 36 o ieithoedd ac mae'n rhugl mewn 24 ohonyn nhw! Rhai o'r ieithoedd mae o'n eu siarad ydy Rwmaneg, Ffineg, Sbaeneg, Pwyleg, Norwyeg, Iseldireg….ac erbyn hyn mae Cymraeg ar ei restr o ieithoedd yn ogystal. Pwyleg - Polish Iseldireg - Dutch Defnyddiol - Useful Tras Cymreig - Welsh heritage Ar ei thraws - Across it Y Deyrnas Unedig - The UK Cefais fy swyno - I was enchanted Yn ddiweddarach - Later on Dros Ginio Draw i Feirionnydd aeth Dewi Llwyd i gwrdd â thad a merch o bentre Llanuwchllyn, sef Huw Antur a Marged Gwenllian. Mae Huw yn Gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd yng Nglanllyn ac mae Marged hefyd yn gweithio i'r Urdd fel Swyddog Cymunedol Meirionnydd. Cyfarwyddwr Gwersyll - Camp Director Swyddog Cymunedol - Community officer Dylanwad - Influence Dau gan llath - 200 yards Tebyg - Similar Milltir sgwâr - Square mile Hwyrach - Perhaps Ymgyrchu - Campaigning Cynyddu - To increase Lleihau - To decrease Aled Hughes Cyhoeddodd Aled Hughes newyddion cyffrous ar Radio Cymru ddydd Mercher diwetha! O Hydref y 3ydd, mi fydd cyflwynydd newydd ar y tonfeddi bob nos Lun i Iau o 9 tan hanner nos. Pwy ydy o, neu hi. tybed…? Cyflwynydd - Presenter Tonfeddi - Wavelength Ar fin datgelu - About to disclose Llawn cyffro - Full of excitement Rhoi'r gorau iddi - To give it up Arloesol - Pioneering Cyfrwng - Medium Heb unrhyw amheuaeth - Without any doubt Cynulleidfa - Audience
Cofio - Gwersylla oedd thema Cofio dros y Sul ac mi gaethon ni gyfle arall i glywed Wil Parry Williams o Dregarth yng Ngwynedd, yn sôn am weithio fel Red Coat yng ngwersyll Butlins, Pwllheli rhwng 1954 a 1961. Agorwyd y gwersyll 75 mlynedd yn ôl a chlywon ni'r recordiad arbennig yma am y tro cynta ar raglen Cofio yn 2009. Gwersylla To campOddeutu AboutYchwanegol AdditionalGan benna(f) MainlyAdnoddau ResourcesCychod BoatsAdran feithrin NurseryAdloniant EntertainmentDiddori To entertainDyletswyddau cyffreinol General dutiesDei Tomos – Wel ia, hi di hi yn wir – hanes diddorol Butlins Pwllheli yn fanna ar Cofio. Aeth Dei Tomos i Aberystwyth i weld llyfrgell bersonol Gerald Morgan sydd yn awdur, ac yn gyn athro a phrifathro. Mi aeth draw i'w gartref a chael gweld rhywbeth prin iawn - copi o Destament Newydd William Salesbury oedd yn dyddio'n ôl i 1567! Prin iawn Very rareRhagair IntroductionBiau To ownYn gymharol ddiweddar Fairly recentlyCasglwyr CollectorsCofi dre Person o Gaernarfon O fath yn y byd Of any kind Bore Cothi - Dei Tomos oedd hwnna'n cael golwg ar lyfrgell arbennig Gerald Morgan. Shelley Rees Owen fuodd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes ddydd Mercher diwetha ac mi gafodd hi sgwrs efo Daniel Jenkins Jones o'r RSPB am y Pâl neu'r Puffin. Colur dros eu pig Makeup over their beakTriongl TriangleLlachar BrightMas yn yr Iwerydd Out in the AtlanticNythu To nestY bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th centuryLlongddrylliad ShipwreckLlygod mawr RatsDifa To destroyBeti a'i Phobol - Bach o hanes y palod yn fanna , bechod eu bod wedi ein gadael ni erbyn hyn ynde? Cafodd Beti George sgwrs efo'r dylunydd a'r gemydd Ann Catrin Evans o Dregarth ger Bangor. Ann wnaeth Coron Eisteddfod yr Urdd eleni. Dyma Beti'n gofyn iddi hi ai cael gyrfa ym maes celf oedd hi eisiau ei wneud erioed? Dylunydd a gemydd Designer and jewellerCoron CrownCam i'r tywyllwch A step into the unknownCelfyddydau The artsBywoliaeth A livelihoodClod PraiseHybu To promoteCefnogaeth SupportCydnabyddiaeth AcknowledgementNi y Nawdegau - Ann Catrin Evans yn siarad efo Beti George am ei gwaith fel dylunydd a gemydd. Nos Iau ar Radio Cymru, y ddig-rifwraig Esyllt Sears oedd yn edrych yn ôl ar Oes Aur y 90au ... Digrifwraig Female comedian Oes aur Golden ageAberthu To sacrificeUchafbwyntiau HighlightsMaeddu Curo Ymdrechion AttemptsLlwyfannau StagesDygymod To put up withGoroesi To surviveAmherthnasol IrrelevantBore Cothi - Esyllt Sears oedd honna'n edrych yn ôl ar y nawdegau. Mi roedd hi'n Wythnos y Bandiau Pres ar Bore Cothi ac mi gafodd Shelley Rees Owen sgwrs efo Tomos Evans o Fand Cross Keys, enillodd Dosbarth 4 a 3 yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron. Dyma i chi flas ar y sgwrs,,,Bandiau pres Brass bands Llwyddiannus iawn Very successful Dyrchafu To be promoted Darnau Pieces Yn glou Quickly Crynhoi To summarise
Stiwdio Nofel hanesyddol enillodd gwobr Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac ar Stiwdio buodd Nia Roberts yn dathlu bywyd a gwaith awdures sy'n enwog ar ei nofelau hanesyddol sef Marion Eames. Hi sgwenodd Y Stafell Ddirgel a'r Rhandir Mwyn, ac roedd hi hefyd yn gerddor talentog. Cafodd hi ei geni yn 1921 a buodd farw yn 2007. Aeth Nia draw i Ddolgellau i gwrdd â'r Dr Buddug Hughes yng Nghapel y Tabernacl I gael ‘chydig o hanes cynnar Marion Eames… Cymry alltud Welsh exiles Dianc To escape Yn ddiwylliannol ac yn grefyddol Culturally and religiously Cyfarfu Gwladys a William Gwladys and William met Yr aelwyd The home Prinder tai affwysol Severe housing shortage Prin oedd ei gafael ar y Gymraeg Her grasp of Welsh was very weak Chwithig aruthrol Lletchwith iawn Awyddus Eager Cyfoedion Peers Aled Hughes Ychydig o hanes bywyd cynnar yr awdures Marion Eames yn fan'na ar Stiwdio. Dach chi'n dechrau pob sgwrs yn Gymraeg? Mae Awel Vaughan Evans o Adran Seicoleg Prifysgol Bangor yn ymchwilio i beth sy'n gweithio orau i annog pobl i ddechrau sgyrsiau yn y Gymraeg. Dyma hi'n siarad efo Aled Hughes fore Mawrth. Ymchwilio To research Annog To encourage Arbrawf Experiment Cortyn gwddw Lanyard Yn fwy tebygol More likely Ysgogi To inspire Caniatâd i'r ymennydd Permission for the brain Yn benderfynol Determined Llwybr yr Arfordir Coastal path Daearyddiaeth Geography Dei Tomos Y swigen oren yn gweithio felly – da ynde? Dei Tomos fuodd yn holi'r dramodydd a'r sgriptiwr o Bensarn Ynys Môn, Dewi Wyn Williams, oedd yn cofio y crwydriaid yn galw heibio ei fferm ar yr Ynys. Un ohonyn nhw oedd Washi Bach, crwydryn oedd yn eitha enwog ar Ynys Môn. Crwydriaid Tramps Piser Pitcher Bing Alley in a cow house Yn fratiog iawn Very ragged Mwmian To mumble Gwneud Bywyd yn Haws Hanes Washi Bach yn fan'na ar raglen Dei Tomos. Mae Kayley Sydenham yn dod o Gasnewydd, ond yn astudio ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd ac ar Gwneud Bywyd yn Haws buodd Kayley yn edrych yn ôl ar ei phrofiadau fel myfyrwraig y flwyddyn gyntaf gan siarad yn onest am iechyd meddwl ac am hunan anafu. Profiadau Experiences Hunan anafu To self harm Barddoni To write poetry Lles Welfare Cerdd A poem Gor bryder Anxiety Trafod yn agored To talk openly Gwaethygu To worsen Ffili Methu Mo'yn canolbwyntio Want to concentrate Ni y Nawdegau Kayley Sydenham oedd honna ac os dach chi'n fyfyriwr sy'n cychwyn yn y coleg mae'n bosib cael help a phob math o gyngor drwy gyfrwng y Gymraeg ar les a iechyd meddwl wrth fynd ar myf.cymru Ar Ni y Nawdegau buodd y gomedÏwraig Esyllt Sears yn edrych yn ôl ar y 90au ac yn canolbwyntio ar ffilmiau Cymraeg. Dyma hi'n sôn am ffilm o 1992 cafodd ei enwebu am Oscar – ‘Hedd Wyn'.. Lles Welfare Cafodd ei enwebu Which was nominated Yn gwegian yn feddw In a drunken stupor Degawd Decade Ffynnu Thriving Yn borcyn Naked Dadansoddi To analyse TGAU GCSE Beti a'i Phobol Ifan Jones Evans Esyllt Sears oedd honna'n edrych yn ôl ar y ffilm Hedd Wyn. Ffermwr a darlledwr o Geredigion oedd gwestai Beti George – Ifan Jones Evans - un sydd i'w glywed ar Radio Cymru o ddydd Llun hyd at ddydd Iau. Cafodd Ifan ei fagu ym Mhont-rhyd-y-groes yng Ngheredigion, ac mae'n sôn yn y clip yma am hanes diwydiant yr ardal, yn arbennig felly y gweithfeydd plwm, arian a sinc Darlledwr Broadcaster Diwydiant Industry Gweithfeydd plwm Lead works Olion Remains Twyni tywod Sand dunes Nant A brook Mwynau Minerals Tirwedd Landscape Gadael ôl To leave a mark
Cor y Byd Llangollen Cȏr CF1 o Gaerdydd enillodd gystadleuaeth Cȏr y Byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni. Dyma i chi flas ar sgwrs rhwng Eilir Owen Griffiths, arweinydd y côr a Shan Cothi fore Llun diwetha. Arweinydd Conductor Ymarfer Rehearsal Datblygu To develop Paratoi To prepare Llwyfan A stage Symudiadau Movements Cerddorion Musicians Creu To create Balch Proud Anwen bowlio i'r gymanwlad …a llongyfarchiadau mawr i Eilir ac i gôr CF1 ynde? Eleni mi fydd Anwen Butten yn cystadlu am y chweched tro yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham, ac mi fydd y gemau'n cychwyn ar yr 28ain o Orffennaf. Mae Anwen wedi cael ei dewis fel Capten Tîm Cymru yn y gemau eleni, felly bydd hi'n gapten ar 202 o athletwyr o Gymru. Gofynnodd Shan Cothi i Anwen sut dechreuodd hi ar y bowlio…. Gemau'r Gymanwlad Commonwealth Games Tîm hŷn Senior Team Hyfforddi To coach Cefnogwr brwd An enthusiastic supporter Profiadol Experienced Yn olygu Means Anrhydedd Honour Dros Ginio Dyfrig a Rhodri …a phob lwc i Anwen ac i dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwald nes ymlaen yn y mis. Tad a mab o Ddolgellau oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Y tad , Dyfrig Siencyn, yn arweinydd Cyngor Gwynedd a'r mab, Rhodri ap Dyfrig yn Gomisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C. Dyma Dyfrig i ddechrau'n sôn am ei rôl fel arweinydd y cyngor... Gomisiynydd Cynnwys Ar-lein Online Content Commissioner Y gallu The ability Cymhellion Motives Nodweddion Characteristics Dadleugar Argumentative Etifeddu To inherit Perthynas Relationship Anawsterau Difficulties Chwaraeon rygbi De Affrica Dyfrig Siencyn a'i fab Rhodri oedd rheina yn sgwrsio efo Dewi Llwyd. Mi gafodd tîm rygbi Cymru fuddugoliaeth hanesyddol yn erbyn De Affrica yn Ail brawf Cyfres yr Haf. Gareth Anscombe a Josh Adams oedd arwyr Cymru yn Stadiwm Toyota, Bloemfontein yn ennill y gêm i Gymru yn y munudau ola. Heledd Anna, cyflwynydd Chwaraeon Radio Cymru fuodd yn trafod efo tîm sylwebu'r gêm, dau gyn chwaraewyr i dimau rhyngwladolCymru, Emyr Lewis a Caryl James... Buddugoliaeth hanesyddol An historic victory Ail brawf Cyfres yr Haf The second test in the Summer Series Arwyr heroes Tîm sylwebu Commentary team Yn ysu Itching Maswr Outside half Mewnwr Scrum half Bore Cothi HG yn 80 ...ac yn anffodus collodd Cymru'r trydydd prawf yn Cape Town ddydd Sadwrn, ar ôl perfformiad da iawn. Dydd Mercher y 13eg o Orffennaf mi roedd y darlledwr Hywel Gwynfryn yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mi ddaeth o mewn i'r stiwdio at Shan Cothi i ateb cwestiynau am ei barti penblwydd delfrydol . Un o westeion y parti yn sicr basai'r diweddar Hywel Teifi Edwards... Delfrydol Ideal Y diweddar The late Areithiwr Orator O'r frest Off the cuff Di-nodyn Without notes Cŷn a morthwyl Hammer and chisel Cynhwysfawr Comprehensive Cynhesu To warm Cynghrair League Diwrnod Dathlu Dai Tad Huw Edwards y BBC oedd Hywel Teifi Edwards a phen-blwydd hapus iawn i'n Hywel ni ynde? Dydd Sul cyn y Sioe Frenhinol mi roedd Radio Cymru yn cael diwrnod i gofio a dathlu bywyd y diweddar Dai Jones oedd yn cyflwyno'r rhaglen Cefn Gwlad. Mi roedd Dai hefyd yn ganwr arbennig iawn fasai wedi medru gwneud gyrfa iddo'i hun ym myd yr opera. Dyma glip o'r archif lle roedd Beti George yn holi Dai ar gyfer Beti a'i Phobol yn 1989. Y Sioe Frenhinol The Royal Welsh Cefn Gwlad The countryside Hiraethu To long for Pridd Soil Brycheiniog Breconshire Llond dwrn A small amount Aredig Ploughing Dyled A debt Cyfryngau media Mwyniant Pleasure
Huw Stephens, familiar to listeners to Radio Cymru and Radio Wales presents a multilingual, multicultural Bank Holiday edition of Front Row from Cardiff. Caryl Lewis is a mighty presence in Welsh literature, author of more than 25 books. Her novel Martha, Jac a Sianco is a modern classic, taught at A Level. She wrote the screenplay for the film – and won 6 Welsh Baftas. She wrote for the television series Y Gwyll - Hinterland in English - inventing Cymru Noir, so noir it was shown on Danish television. She was also the main writer of Hidden, screened in 60 countries. Until now all her work has been in Welsh but she wrote her new novel, Drift, in English. Nefyn lives on the Welsh coast, near a military base. She gathers what the tide carries in and her world changes when she finds Hamza, a Syrian cartographer, washed up. Caryl tells Huw about her modern and ancient story, and why she chose to write it in English. In 2009 the Atlas of the World's Languages in Danger declared Cornish extinct. But musician Gwenno Saunders was alive then, and she grew up speaking it. Most of the songs on her new album, Tresor, are in Cornish - the others in Welsh. Gwenno explains why, and performs two songs, one in each language. Choreographers Anthony and Kel Matsena were born in Zimbabwe, in a culture where everyone dances. They moved to Swansea as boys and were nurtured by the people there, and Wales as a whole. They take a break from rehearsing their new work, Shades of Blue, which will premier at Sadler's Wells, to talk about this and Codi, a piece for the National Dance Company Wales that is inspired by Welsh mining communities, and about Brothers in Dance, a BBC documentary film charting their journey. Presenter: Huw Stephens Producers: Nicki Paxman and Julian May
Bore Cothi - Ciwcymbyr Mae na ddywediad Saesneg 'cool as a cucumber' yn does? Ond beth sydd y tu ôl i'r dywediad hwn tybed? Alison Huw fuodd yn sgwrsio am hyn efo Shan Cothi... Sail wyddonol - A scientific basis Oeri'r gwaed - Cools the blood Ar drothwy - The onset of Cynnwys - To include Dyfrllyd - Watery Unigryw - Unique Si - A rumour Rhesymol - Reasonable Rhwydd - Hawdd Cnwd - Crop Dyna ni felly - ewch ati i blannu'ch ciwcymbers! Eden Cafodd y band Eden ei ffurfio yn 1996 ac ar ôl cyfnod o beidio perfformio mi ddaethon nhw'n ôl at ei gilydd yng ngwyl fawr Caerdydd, Tafwyl, yn 2016. Cafodd hyn ei ddisgrifio fel 'comeback' y ganrif ar Golwg 360! Roedd Rachael Solomon yn aelod o'r band a hi oedd gwestai Iwan Griffiths fore Sul. Dyma hi'n sôn am y profiad o berfformio yn Tafwyl... Man a man - Might as well Ymateb - Response Symudiadau - Movements Cynulleidfa - Audience Synnu - To be surprised Cysylltu - To connect Www, caneuon newydd gan Eden - rhywbeth i edrych ymlaen ato ynde? Aled Hughes Siarcod Ar raglen Aled Hughes clywon ni Lowri O'Neill, myfyrwraig bywydeg ym Mhrifysgol Abertawe, yn sôn am ei phrofiadau yn nofio efo siarcod yn Hawaii. Oedd hi mewn cawell? Oedd yna reolau am sut i ymddwyn wrth nofio efo nhw? Dyna oedd rhai o gwestiynau Aled i Lowri... Bywydeg - Biology Cawell - Cage Ymddwyn - To behave Bwystfil - Monster O hyd - Length Yn y bôn - Basically Cystadleuaeth syllu - Staring competition Ymddangos - To appear to Ysglyfaethod gweithredol - Predator Yn ôl pob golwg - Apparently Merch ddewr iawn ydy Lowri O'Neill ynde? Bore Cothi - deg uchaf adar Dan ni'n aros efo byd natur rŵan ond efo rhywbeth dipyn llai peryglus na siarcod sef yr adar sy'n dod i'n gerddi yng Nghymru. Gofynnodd yr RSPB i bobl nodi pa adar oedden nhw'n eu gweld yn eu gerddi ac mi wnaeth Daniel Jenkins Jones rannu deg ucha yr arolwg ar raglen Shan Cothi... Arolwg - Survey Crybwyll - To mention Ymdrech - Attempt Ji-binc - Chaffinch Pioden - Magpie Nico - Goldfinch Ysguthan - Woodpigeon Drudwy - Starling Titw Tomos las - Blue tit Aderyn y to - House Sparrow Aderyn y to yn ennill unwaith eto, chwarae teg ynde? Dros Ginio - Mererid a Hanna Mam a merch oedd gwesteion Dau cyn Dau Dewi Llwyd bnawn Llun diwetha a'r ddwy yn byw yn ardal Caerfyrddin, sef y prifardd Mererid Hopwood a'i merch, y cyflwynydd radio a theledu Hanna Hopwood. Nid yng Nghymru cafodd Hanna ei geni a dyma Mererid yn dweud rhagor am hynny... Prifardd - National crowned/chaired poet Cyflwynydd - Presenter Tystysgrif geni - Birth certificate Yn benderfynol - Determined Sylweddoli - To realize Y cyfnod Llundeinig - The London period ...a dyna beth da bod y teulu wedi symud i Gymru ynde, fel ein bod ni'n medru gwrando ar Hanna'n cyflwyno Gwneud Bywyd yn Haws ar Radio Cymru. Y Ffatri Ddillad Roedd ffatri ddillad Laura Ashley yn gyflogwr pwysig yng ngogledd Powys gan roi gwaith i tua wyth cant o bobl yr ardal ar un adeg. Buodd Eddie Bebb o Lanidloes yn gweithio i'r cwmni am 37 o flynyddoedd a chafodd Sian Sutton sgwrs efo am ddyddiau cynnar a llewyrchus Laura Ashley... Cyflogwr - Employer Llewyrchus - Prosperous Hwb - A boost Ysbryd - Spirit
Stiwdio Sharon a Saran Ar Stiwdio nos Lun mi gafodd Nia Roberts gwmni'r fam a'r ferch, yr actorion, Sharon a Saran Morgan. Mae Saran newydd ennill gwobr Marc Beeby y 'Best Debut Performance' am ei pherfformiad yn y ddrama radio 'Release' ar Radio 4 yn Ionawr 2021. Gyda'i mam yn y proffesiwn, oedd hi'n syndod bod Saran hefyd wedi dilyn yr un llwybr gyrfa? Gwobr - Award Mewn gwirionedd - In reality Sa i'n credu - Dw i ddim yn meddwl Disgyblaethau - Disciplines Llefain - Crïo Rhwystro - To obstruct Ei hargymell hi - To recommend her Llawfeddyg - Surgeon Bregus - Vunerable O fy herwydd hi - Because of me Cynyrchiadau - Productions Saran Morgan yn falch iawn o ddilyn ôl-traed ei mam yn tydy? Aled Hughes a Toda Sgwrs o'r archif sy nesa, o 2020, pan brofodd Toda Ogunbanwo a'i deulu hiliaeth ym mhentre Penygroes, Gwynedd, pan gafodd swastika ei beintio ar ddrws garej eu cartre. Aled Hughes fuodd yn sgwrsio efo Toda. Profi - To experience Hiliaeth - Racism Blin - Angry Derbyniol - Acceptable Ymddiheuro - To apologise Galwad - A calling Gweinidog - Minister Dallt - Deall Plentyndod - Childhood Profiad ofnadwy o hiliaeth yn fan'na i deulu Toda ym Mhenygroes Gwynedd. Nant Gwrtheyrn Pedwardeg mlynedd yn ôl mi gyrhaeddodd y criw cynta o ddysgwyr Cymraeg Nant Gwrtheyrn. Ond lle mae'r dysgwyr rheini rŵan? Mae Wyn Roberts, rheolwr cyfathrebu a marchnata'r Nant, wedi dod o hyd i un o'r tiwtoriaid cynta, ond rŵan mae o eisiau cysylltu efo'r dysgwyr gwreiddiol...... Cyfathrebu a marchnata - Communications and marketing Hogyn - Bachgen Pentref chwarelyddol - A quarrying village Atgyfodi - Resurrect Y diweddar - The late Yn uniongyrchol - Directly Hel atgofion - To reminisce Felly os dach chi'n nabod rhywun oedd yn un o'r dysgwyr gwreiddiol cysylltwch â Wyn yn y Nant. Beti a Dai Jones Buodd Dai Jones, Llanilar farw fis Mawrth eleni a chollodd Cymru un o'i chymeriadau mwya lliwgar. Buodd Dai ar nifer o raglenni Cymraeg ar S4C ac ar Radio Cymru gan gynnwys Sion a Sian, Cefn Gwlad ac Ar Eich Cais. Mi gaethon ni gyfle'r wythnos diwetha i glywed rhaglen arbennig, efo Beti George yn sgwrsio efo Dai yn 2002, a dyma i chi flas ar y sgwrs... Tafodiaith - Dialect Gwybyddus - Familiar Rhaff - Rope Llacio - To loosen Llenwi - To fill Mor dynn - So tight Ar ei liniau - On his knees Lan - i fyny Cynhyrfu - To agitate Y diweddar Dai Jones oedd hwnna'n sôn wrth Beti George am rai o'i anturiaethau. Dros Ginio Dyfan ac Arfon Gwilym Dau frawd oedd y Ddau Cyn Dau fuodd yn siarad efo Alun Thomas ar Dros Ginio pnawn Llun sef yr actor Dyfan Roberts a'r canwr gwerin, Arfon Gwilym. Dyma nhw'n sôn am eu magwraeth... Anturiaethau - Adventures Awgrymu - To suggest Telynores - Harpist (female) Celfyddydau - Arts Anochel - Inevitable Dylanwadau - Influences Diwylliant - Culture Roedd bri ar y canu - Singing was popular Anogaeth - Encouragement Adrodd - Recitation Bach o hanes y ddau frawd Dyfan Roberts a Arfon Gwilym ar Dros Ginio. Gwlad yr Ia Cafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Alaw Edwards o Drefriw, Llanrwst sy'n byw ar hyn o bryd yng Ngwlad yr Iâ. Mae Alaw newydd ddechrau gweithio yno fel au pair ac mae hi'n byw mewn pentre o'r enw Suðureyri, pentre pysgota bach yng ngogledd gorllewin yr ynys. Pam dewisodd fynd yno i weithio tybed? Gwlad yr Iâ - Iceland Argraff - Impression Agwedd - Attitude Penodol - Definite
Post Prynhawn - Beryl y Nyrs Ar Post Prynhawn dydd Llun mi gafodd Nia Cerys sgwrs efo Beryl Roberts, nyrs arbennig sy newydd ymddeol yn 55 oed. Cychwynnodd ei gyrfa yn ysbyty Clatterbridge ac mae hi wedi gweithio gyda chleifion Canser ers hynny yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac yn Wrecsam. Dyma i chi flas ar y sgwrs ... Cleifion - Patients Triniaethau - Treatments Y gweddill - The rest Datblygu - To develop Pennaeth - Head Sgileffeithiau - Side-effects A phob lwc i Beryl ar ei hymddeoliad ynde? Beti a Beks Beks - Rebekah James oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Roedd Beks yn arfer cyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru ond erbyn hyn mae hi'n byw yn Hong Kong. Dyma i chi ran o'r sgwrs efo Beti ble mae Becks yn esbonio pam gwnaeth hi werthu ei thŷ, a'i char a rhoi'r gorau i'w gyrfa efo'r BBC ugain mlynedd yn ôl.... Cyflwyno - To present Rhoi'r gorau i - To give up Cwympo - Syrthio Anhygoel - Incredible Delfrydol - Ideal Yn llythrennol - Literally Enfawr - Huge Ysgariad - Divorce Go gyhoeddus - In the public eye ...ac mae Beks yn dathlu ei phenblwydd yn 50 eleni a dw i'n siŵr bydd yna dipyn o ddathlu draw yn Hong Kong. Aled Hughes - Edina a Lin Y Gymraeg sydd yn cysylltu Edina Potts-Clement o Hwngary a Lin Dodd o Tsieina ac mae'r ddwy erbyn hyn yn gweithio yn yr un ysgol - Ysgol Gymraeg Caerffili. Gofynnodd Aled Hughes i'r ddwy ohonyn nhw ar ei raglen bore Mawrth pam wnaethon nhw ddysgu Cymraeg Addysg Cyfrwng Cymraeg - Welsh medium education Cymraeg yw iaith y dyfodol - clywch clywch Lin. Bore Cothi - Rich Pooley Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes fore Iau a buodd hi'n sgwrsio efo Richard Pooley sy'n byw yn Shotton yn Sir y Fflint, ond sy'n dod o Gaerdydd yn wreiddiol ac sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 8 mlynedd. Mae Richard wedi dechrau Clwb Siarad Shotton i roi cyfle i ddysgwyr ac i siaradwyr y Gymraeg yr ardal ddefnyddio'r iaith Ymdrech - Attempt Cylchdaith - Circuit Addas - Appropriate Profiadau - Experiences Cefnogol - Supportive Syniadau gwych yn fan'na gan Richard Pooley am sut i roi cyfleoedd i bobl ardal Shotton ddefnyddio eu Cymraeg. Ar Blat - Owain Wyn Evans Buodd Beca Lyne-Pirkis yn siarad efo Owain Wyn Evans, y cyflwynydd tywydd, ac os dach chi'n cofio llwyddodd Owain i chwarae'r drymiau am 24 awr er mwyn codi arian i Plant Mewn Angen y llynedd. Dyma Owain yn sôn am sut oedd drymio wedi bod o help iddo fo mewn cyfnodau anodd pan oedd o'n ifanc... Cyfnodau - Periods of time Hoyw - Gay Ffonau symudol - Mobile phones Estron - Foreign Owain Wyn Evans y cyflwynydd tywydd oedd hwnna'n sgwrsio efo Beca Lyne-Pirkis. Byd Iolo Aeth Iolo Williams ar daith i Allerdale yng ngogledd yr Alban - rhyw awr a hanner i'r gogledd o Inverness ac mi aeth o â ni, gwrandawyr Radio Cymru, ar y daith efo fo..... Gwarchodfa - Nature reserve Erwau - Acres Hir dymor - Long term Ail-wylltio - Rewilding Ysgubor - Barn Baw - Excrement Ucheldir - Highlands Tylluan - Owl Nythu - To nest Hela - To hunt
Beks - Rebekah James yw gwestai Beti George, cyn-gyflwynydd ar Radio Cymru, sydd bellach yn byw yn Hong Kong. Ganwyd Beks yng Nghaerdydd cyn i'r teulu symud i Abertawe pan oedd yn ei harddegau. 20 mlynedd nol roedd hi'n un o sêr Radio Cymru, ac ond wedi iddi gyfarfod a'i gwr, Rhodri fe symudodd i fwy gydag ef i Hong Kong. Eleni fe fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 50, mae hi'n sôn am ei theulu, ei bywyd yn Hong Kong a'r sefyllfa sydd ar hyn o bryd yna yn sgil covid.
Cofio 'Theatr' Byd y Theatr oedd thema Cofio efo John Hardy ac mae byd y theatr Gymraeg wedi newid yn llwyr dros yr hanner canrif diwetha. Dyma Falmai Jones yn cofio sut gychwynnodd ei gyrfa hi a sut arweiniodd hynny at ffurfio'r theatr gymunedol Theatr Bara Caws... Cynulleidfaoedd Audiences Does bosib Surely Perthnasol Relevant Egin A bud Yn gorfforol Physically Sefydlog Settled Gwreiddiau Roots Heb fawr o bres Without much money Atgof Memory Peth a peth This and that Falmai Jones oedd honna'n cofio dechreuad Theatr Bara Caws. Gwneud Bywyd yn Haws - Naomi Saunders Mae gan Naomi Saunders dros gant o blanhigion yn ei chartref ac mae hi wrth ei bodd yn tyfu ffrwythau, llysiau a phlanhigion cartref, ond sut dechreuodd y diddordeb yma? Planhigion Plants Sbïo Edrych Nain a Taid Mam-gu a Tad-cu Ailgydio To resume Addurno To decorate Naomi Saunders yn fanna yn sôn am ei phlanhigion ar Gwneud Bywyd yn Haws. Aled Hughes ac Elis James Buodd Elis James yn trafod dyfodol yr iaith efo Aled Hughes fore Iau a gofynnodd Aled iddo fo pam ein bod ni yng Nghymru'n poeni cymaint am y Gymraeg... Pryder naturiol Natural concern Ysgwyddo'r baich Shouldering the burden Cyfrifoldeb Responsibility Ymgyrchu Campaigning TGAU GCSE Dan warchae Under siege Bygythiad Threat Amddiffynnol Defensive Cefndryd Cousins Daioni Goodness ... a gobeithio'n wir bydd merch bach Elis yn dal ati efo'r Gymraeg draw yn Llundain, ynde? AR BLAT - Beca a Mari Cyfres newydd ydy Ar Blât ac yn y clip nesa mi gawn ni glywed Beca Lyne-Pirkins a Mari Løvgreen yn trafod popeth "bwyd" ac yn enwedig bwyd cysur. Cyfres Series Bwyd cysur Comfort food Brenhines Queen Hallt Salty Llawdrwm Heavy handed Wystrys Oyster Mae'n amlwg bod Mari Løvgreen wir yn mwynhau cinio dydd Sul ei mam yn tydy? Aled Hughes a Dr Jonathan Hurst Mae'r Dr Jonathan Hurst yn dod o Stockport yn wreiddiol ac yn byw yn Lerpwl. Mae o'n gweithio yn y Liverpool Women's Hospital ac yn Ysbyty Plant Alder Hey. Mae o wedi dysgu Cymraeg er mwyn siarad yr iaith efo'i gleifion o Gymru. Mi fydd Jonathan yn derbyn gwobr Dathlu Dewrder 2022 am wneud gwahaniaeth gwerthfawr i fywydau teuluoedd o ogledd Cymru drwy ddysgu Cymraeg a'i defnyddio efo'r cleifion. Cleifion Patients Gwobr Dathlu Dewrder Celebrating Bravery Award Gwahaniaeth gwerthfawr A valuable difference Cysylltiad Connection Babanod Babies Genedigaeth Birth Sylweddoli To realise Cymhleth Complicated Ystyried To consider Gwych iawn ynde, mae Jonathon yn llawn haeddu'r wobr yn tydy ? Llythyr o Wcrain Dydd Iau ar Radio Cymru mi glywon ni gyfieithiad o ail lythyr yr awdur o Wcrain Andrey Kurkov, a'r tro 'ma gaethon ni ychydig o hanes ei frawd a'i deulu. Ifan Huw Dafydd oedd yn darllen. Llawn haeddu Fully deserves Droeon Several times Myfyrio To meditiate Pwyllog Measured Brwydro ffyrnig Fierce fighting Bochdew Hamster Cymharol ddiogel Comparatively safe Arfau Weapons Ffynnon A well Sythu Freezing
Geraint Lloyd a Ann Cooper Athrawes gelf oedd Anne Lloyd Cooper cyn iddi hi ymddeol ond rŵan mae ganddi fusnes yn gwerthu gwawdluniau , neu 'caricatures'. Roedd hi wedi gwneud un o Geraint Lloyd ac roedd yn falch iawn ohono fo, ond sut a pham wnaeth Ann ddechrau gwneud y lluniau 'ma? Dyma hi'n dweud yr hanes wrth Geraint... Gwawdluniau - Caricatures Graddio - To graduate Degawdau - Decades Gwerth chweil - Worthwhile Tomen o luniau - Heaps of pictures Gweddill - The rest Elfennau - Elements Anne Lloyd Cooper o Gapel Garmon yn Sir Conwy oedd honna yn sôn am ei busnes gwneud gwawdluniau. Stiwdio Shirley Valentine Ar y podlediad wythnos diwetha clywon ni Manon Eames yn sôn am ei haddasiad hi o'r ddrama Shirley Valentine. Mae'r ddrama ar daith o gwmpas Cymru ar hyn o bryd ac mi aeth Branwen Cennard i'w gweld. Shelley Rees-Owen oedd yn cymryd rhan Shirley, sut hwyl gaeth hi tybed? Cafodd Nia Roberts sgwrs efo Branwen ar raglen Stiwdio... Addasiad - Adaptation Camu - To step Ysgubol - Sweeping Her aruthrol - A huge challenge Yn llythrennol - Literally Cyfathrebu - To communicate Cael eich denu - Being drawn into Menyw - Merch Cyffwrdd - To touch Roedd Branwen Cennard yn amlwg wedi mwynhau 'Shirley Valentine' yn doedd? Bore Cothi gwylio adar Mae'r Dr Emyr Wyn Jones, meddyg o Doncaster, yn mwynhau byd natur a thynnu lluniau o adar ar gyfer ei gyfrif trydar. Dechreuodd ei ddiddordeb pan oedd yn fachgen ifanc ym Mhwllheli ac mae o wrth ei fodd efo enwau Cymraeg yr adar. Dyma ran o sgwrs cafodd Shan Cothi efo fo... (c)hwyaid - Ducks Dylanwad - Influence Bywydeg - Biology Modrwyon - Rings Brych y coed - Mistle thrush Gylfinir - Curlew Siglo - Waging Cnocell y coed - Woodpecker Troellwr bach - Grasshopper warbler Telor yr helyg - Willow warbler Tydy enwau Cymraeg ar adar yn wych 'dwch? Dw i wrth fy modd efo 'cnocell y coed' - dach chi'n medru ei glywed yn cnocio wrth ei enwi yn tydach? Beti a'i Phobol Siân Elen Siân Elen Tomos ydy Prif Weithredwr GISDA, elusen sy'n cefnogi rhai sy'n ddigartref rhwng 16-25 oed yn y gogledd, a hi oedd gwestai Beti George. Prif Weithredwr - Chief Executive Digartrefedd - Homelessness Cynnydd - Increase Cynllunio - Planning Datblygu - To develop Darpariaeth - Provision Llety - Accommodation Buddsoddiad - Investment Y galw - The demand Rhestri aros - Waiting lists Siân Elen Tomos, o GISDA yn fan'na yn esbonio sut mae digartrefedd yn broblem fawr i bobl ifanc y gogledd. Sam Robinson Mae Sam Robinson o Rydychen yn wreiddiol, wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair mlynedd. Mae o'n byw ym Machynlleth erbyn hyn yn ffermio ac adeiladu waliau. Cafodd o sgwrs hir efo Dei Tomos a dyma i chi ran o'r sgwrs ble mae o'n sôn am pryd clywodd o'r Gymraeg am y tro cynta... Rhydychen - Oxford Y Goron - The (Eisteddfod) Crown Barddoniaeth - Poetry Mynnu - To insist Adrodd - Narrating Ymwybodol - Aware Cydio - To take hold of Uffernol - Hellish Mewnfudwyr - Immigrant Safle - Position Doedd dim eisiau i Sam boeni am ei Gymraeg o gwbl, nac oedd? Llythyr o Wcrain Dydd Iau ar Radio Cymru clywon ni gyfieithiad o waith yr awdur o Wcrain Andrey Kurkov, sy'n edrych yn ôl ar ddigwyddiadau yr wythnosau diwetha yn y wlad ac ar sut gwnaeth ei deulu ddianc o'u cartref yn Kyiv. Ifan Huw Dafydd oedd yn darllen. Mae'n bosib gwrando ar y llythyr ar BBC Sounds ac mi fydd llythyr arall wythnos nesaf. Dianc - To escape Llawenydd - Happiness Gofidiau - Worries Ffrwydrad - Explosion Pwyllo - To pause Rhyfel - War Ochneidio - To sigh Adnabyddus - Enwog Cymhlethdodau - Complications Difetha - To spoil