POPULARITY
Beti George sydd yn cael cwmni Hannah Parr sydd yn sylwebu ar S4C yn y Sioe Frenhinol yng Nghymru ac yn Horse of the year. Mae Hannah hefyd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan; yn fridwraig ceffylau yn Llangeitho; ac mae ganddi siop ddillad yn Aberaeron sydd yn apelio at bobol sy'n byw yng nghefn gwlad, ac mae hi'n cael cymorth ei rhieni i redeg y busnes ac i ofalu am y ceffylau.Fe symudodd y teulu i Gymru o Birmingham pan oedd Hannah yn 5 oed, 'roedd hi'n fodlon symud os oedd ei thâd yn fodlon prynu dolffin neu geffyl iddi. Cadwodd ei thad ei air, a daeth y merlen yn ddechrau ar daith newydd i'r teulu, a fyddai'n cysylltu'n agos â gyrfa Hannah heddiw.Mae hi'n cystadlu mewn dosbarthiadau arddangos ceffylau a disgyblaethau marchogaeth eraill fel marchogi amatur a dangos mewn llaw.Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis ambell i gân, yn cynnwys 'Sebona Fi' gan Yws Gwynedd sydd wastad yn codi ei chalon.
Beti George sydd yn holi Iwan Teifion Davies, arweinydd cerddorol a phianydd o Gymru sy'n ffigwr amlwg ym myd cerddoriaeth glasurol a'r opera yng Nghymru a thu hwnt.Fe ddaw yn wreiddiol o Landudoch a fe oedd y cyntaf yn ei deulu i fynd i'r Brifysgol. Fe aeth i Goleg Emmanuel yng Nghaergrawnt i astudio gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg. Mae bellach yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Aberystwyth ers 2021, ac mae'n arwain cerddorfa Philomusica of Aberystwyth. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig Musicfest Aberystwyth ers 2023 ac yn Bennaeth Cerdd ar Ŵyl Ryngwladol Buxton yn Swydd Derby.
Owain Richards Pennaeth yr Heddlu yn Gibraltar yw gwestai Beti George, ac mae'n cael ei alw yn " Geidwad y Graig".Fe gafodd ei fagu ar fferm Cae'r Defaid ger Trimsaran yng Nghwm Gwendraeth, ac roedd o wrth ei fodd gyda rhaglenni am yr heddlu fel 'The Bill' ac fe benderfynodd yn fachgen ifanc mai plismon oedd ef am fod wedi tyfu fyny. Fe ddechreuodd ei yrfa yn Aberystwyth, aeth ymlaen i'r "Met" yn Llundain ac fe gafodd ei ddyrchafu i fod yn Commander. Roedd Owain wedi ei leoli yn Wandsworth borough, yn Tooting fel Arolygydd Ditectif. Bu'n gweithio wedyn yn Barnet, a Kingston Upon Thames fel Prif Arolygydd yna dyrchafiad arall i fod yn Arolygydd Prif Dditectif, ble roedd o'n delio gyda throseddau yn erbyn plant. Roedd hyn yn anodd iawn, a fynta'u yn dad ei hun, roedd darllen a delio gyda rhai o'r achosion difrifol hynny yn erchyll, ond roedd hi'n rhan o'r swydd ac roedd rhaid dysgu sut i ddygymod ar sefyllfaoedd oedd yn codi yn y gweithle. Yn ystod y cyfnod yma hefyd, roedd ail strwythuro mawr yn digwydd ar draws Heddlu'r Met, a daeth Owain yn Prif Uwch-arolygydd yn San Steffan. Roedd hyn yn anhygoel wrth edrych yn ôl. Roedd Llundain mor iconic, ac roedd dros 2 fil o staff yn gweithio oddi dano ar yr amser. Roedd yn gyfrifoldeb mawr! Cafodd dau heddwas ei hanafu yn ddifrifol yn y cyfnod yma, ac mae Owain yn cofio mynd i'w gweld yn yr ysbyty. Ond llynedd fe benderfynodd symud gyda'i wraig a'i blant i rywle mwy gwledig, ac fe wnaeth gais am swydd Comisiynydd yr Heddlu yn Gibralter, a'i gael.Mae'n rhannu hanesion ei fywyd ac yn dewis 4 can yn cynnwys 'Wonder Child' gan Mary Black, gan iddo ef a'i wraig fynd trwy driniaeth IVF.
Beti George sydd yn sgwrsio gyda Heledd Williams o Drefdraeth, Sir Benfro. Mae Heledd yn un o Ferched y Môr a groesodd Fôr yr Iwerydd taith o 3,000 o filltiroedd mewn 50 diwrnod, 14 awr a 43 munud fel rhan o World's Toughest Row. Fe ddechreuodd Merched y Môr - y criw benywaidd cyntaf o Gymru i gymryd rhan yn y ras - rwyfo o San Sebastián de La Gomera, ger Tenerife, ar 14 Rhagfyr 2025. Er gwaethaf wynebu tonnau 20 troedfedd, gorflinder a salwch y môr, fe lwyddodd y tîm a'r cwch rhwyfo, o'r enw 'Cariad', groesi'r llinell derfyn yn ynys Antigua yn y Caribî.Cawn hanes ei thaith trwy stormydd a thonnau o 20 troedfedd a'r heriau wnaeth ei wynebu. " merched cyffredin yn eu 40'au + mae rhywbeth yn bosib".Mae Heledd yn weithiwr cymdeithasol sy'n helpu i ddod o hyd i deuluoedd maeth. Mae hi hefyd yn dewis 4 cân, gan gynnwys Adra gan Gwyneth Glyn.
Gareth Hallet Davis yw gwestai Beti George. Fe ddaw yn wreiddiol o bentref bach Pant y Brad, sydd rhwng Tonyrefail a Llantrisant. Mae wedi treulio 20 mlynedd yn teithio'r byd gan iddo weithio i gwmni Americanaidd oedd yn cynhyrchu rhaglenni teithio. Mae wedi hwylio'r afon Nîl dair gwaith ac wedi cysgu allan yn yr anialwch yng ngwlad yr Iorddonen.Ar ôl ymweliad â'r Tŷ Gwyn yn Washington fe benderfynodd ddod i wybod mwy am hanes gogledd America a'r Unol Daleithiau a gwneud ei radd doethuriaeth yn y pwnc. Erbyn hyn mae'n byw yn y byd academaidd, yn aelod o staff adran Hanes Prifysgol Abertawe ar Coleg Cymraeg.
Datblygwr eiddo o'r Sarnau ger y Bala yw gwestai Beti George, ond sydd erbyn hyn yn rhannu ei amser rhwng Gwlad Pwyl a Norwy.Doedd Rhys ddim yn rhy hoff o'r Ysgol, ond yn mwynhau gweithio allan yn yr awyr agored gyda'I Dad ar y fferm, ac yn helpu gyda'i fusnes adeiladu. Fe aeth i'r coleg yn Llundain a chymhwyso fel syrfeiwr siartredig. Mae wedi treulio rhanfwyaf o'i fywyd yng ngwlad Pwyl lle mae ganddo gwmnïau ‘Real Estate'. Mae'r busnes wedi mynd ag ef i ddwyrain Ewrop yn ogystal â Sbaen ac mae ganddo fferm olewydd yn Sicily. Mae hefyd yn treulio amser yn Norwy, lle mae ei deulu yn byw ac yn siarad sawl iaith. Mae ganddo farn gref am sefyllfa economaidd Cymru ac mae'n sôn fel mae Gwlad Pwyl yn ffynnu, ac mae'n credu'r dyle ni gefnogi ein ffermwyr a'n busnesau lleol. Mae hefyd yn sôn ein bod yng Nghymru yn annog talent i fynd i'r byd actio a chanu ond ddim i fyd busnes. Ac mae'n sôn hefyd am Wcráin ac effaith y rhyfel ar Wlad Pwyl.Mae hefyd yn awdur y llyfr “Taming the Monkey Brain – A Welshman's Journey to the Heart of America.
Bethan Rees Roberts yw gwestai Beti George. Yn wreiddiol o'r Wyddgrug, mae Bethan bellach yn rhannu ei hamser rhwng Llundain a Caerdydd.Mae'n Beirianydd Cemegol, ac wedi gweithio efo'r Tiwb yn Llundain (London Underground), a chwmni Shell.Ei swydd olaf oedd fel Prif Swyddog Data Shell, lle bu'n gweithio am 18 mlynedd. Collodd ei swydd wrth i'r cwmni dynnu'n ôl o ddatblygu Ynni Gwyrdd, ac mae'n siomedig o weld y sector yn dirywio.Treuliodd chwe mis yn California cyn Cofid yn datblygu systemau ynni gwyrdd, gan ddod â'r dechnoleg yn ôl i Brydain i adeiladu timau yn Lloegr ac Ewrop.
Yr awdur a darlithydd Peredyr Glyn yw gwestai Beti George. Fe enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2025 am ei nofel Anfarwol sy'n dilyn bywyd yr actor enwog o'r ddeunawfed ganrif, Theophilus Cibber.Daw Peredur Glyn o Ynys Môn, ac yno mae'n byw heddiw gyda'i deulu ym Mhorthaethwy.Aeth i Ysgol Gymuned Bodffordd ac Ysgol Gyfun Llangefni, cyn graddio ym Mhrifysgol Caergrawnt.Cwblhaodd ddoethuriaeth mewn Ieithyddiaeth o Brifysgol Bangor yn 2010.Mae Peredur wedi bod yn darlithio ym maes ieithyddiaeth ers dros bymtheg mlynedd. Bellach mae'n Ddarllenydd mewn Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd yn Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor gan addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau a phapurau ysgolheigaidd ar ieithyddiaeth y Gymraeg, gan gynnwys am amrywiaeth sosioieithyddol, newid gramadegol a chyfnewid côd.Cawn hanesion ei fywyd ac mae'n dewis 4 can yn cynnwys 'My Eyes Are Fully Open' – Gilbert and Sullivan, mae Peredur wedi bod yn arwain ac yn perfformio operâu Gilbert and Sullivan ers blynyddoedd ac yn aelod selog o gorau Hogia Llanbobman a Chôr Esceifiog.
Beti George sydd yn cael cwmni ysbrydoledig Mati Roberts, y Nyrs o Gaerdydd sydd wedi helpu i sefydlu ysgol yn Affrica yn ei amser rhydd. Pan welodd Mati Roberts decstilau lliwgar mewn siop yn Affrica fe newidiodd llwybr ei bywyd hi a chymuned gyfan yn Ghana am byth.Deuddeg mlynedd ers disgyn mewn cariad gyda'r defnydd mae ganddi fusnes creadigol sy'n rhoi hwb i economi'r wlad ac yn helpu addysgu dros 200 o blant - a hyn oll wrth barhau i weithio fel nyrs arbenigol yng Nghaerdydd, yn diogelu plant ac yn gofalu am iechyd rhywiol pobol ifanc. Mae Mati yn sôn iddi ddarganfod fod ganddi ddyslecsia a dyspracsia wrth astudio yn y Coleg. Cawn glywed hefyd stori hyfryd am ei Thaid, y diweddar John Rowley oedd yn Bennaeth y BBC yng Nghymru am gyfnod, gafodd ei adael yn fabi bach yn amddifad wrth giât fferm teulu caredig yn Bwlch y Cibau ger Llanfyllin.
Meinir Gwilym, y gantores sydd wedi cynhyrchu 6 albwm dros 20 mlynedd, yw gwestai Beti George. Mae hi hefyd yn gyflwynwraig radio a theledu, ac yn wyneb cyfarwydd ar gyfresi Garddio a Mwy ar S4C - ac yn aelod o'r grŵp Pedair.Cawn ei hanes ym Mhatagonia gyda Pedair a datblygiad y grŵp. Mae hi'n trafod heriau cerddorion Cymraeg a'r gostyngiad mewn breindaliadau, effaith y llwyfannau digidol a pa mor anodd ydi hi bellach i wneud bywoliaeth fel cerddor. Fe fydd yn trafod crefydd ac fe gawn glywed sut mae hi'n mynd ati i greu caneuon a phwysigrwydd geiriau, a'r ysbrydoliaeth sy'n dod o brofiadau bywyd.Mae bywyd personol a chefndir teuluol Meinir Gwilym yn cael sylw, gan gynnwys hanes y teulu, perthynas â rhieni a brodyr, a'r dylanwad cerddorol yn y cartref. Mae'r sgwrs yn cynnwys atgofion am blentyndod, addysg, a'r ffordd y mae cerddoriaeth yn rhan annatod o'r teulu.
Iolo Williams y naturiaethwr, awdur a'r cyflwynydd poblogaidd ar raglenni natur ar BBC Cymru ac ar y rhwydwaith Prydeinig yw gwestai Beti George. Mae'n adnabyddus am raglenni fel Springwatch, Autumnwatch a'i gyfres ei hun ‘Wild Wales' ac mae wedi cyflwyno rhaglenni Radio Cymru, Galwad Cynnar a chyfres Sarn Helen. Mae'n trafod dylanwad ei Daid arno ac yn sôn am ei Dad fel ei arwr " dyn cadarn, gonest oedd yn trin pawb 'run fath". Cawn hanesion ei fagwraeth yn Llanwddyn, ei gyfnod yn Ysgol Gynradd Llanwddyn ble 'roedd ei Dad yn Brifathro ac wedyn yn yr Ysgol Uwchradd Llanfyllin, lle y byddai Iolo yn aml yn triwanta. Mae'n trafod ei gyfnod yn y coleg yn Llundain ac y bu bron iddo ymuno â'r fyddin ar ôl ei arholiadau Lefel O.Yn 2023 cafodd drawiad ar y galon a strôc ond adferodd yn dda, diolch i weithredu cyflym a gofal gan y GIG. Mae'n trafod y cyfnod yma ac yn sôn nad ydi o ofn marw " mae marw yn rhan o fyw", ac ein bod yn cael " un go ar fywyd".
Ani Glass yr artist electro-pop o Gaerdydd yw gwestai Beti George. Enillodd ei halbwm cyntaf Mirores wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, ac mae ei hail albwm Phantasmagoria newydd ei rhyddhau. Cawn hanesion difyr ei bywyd o'r sîn gerddoriaeth, i'w chefndir mewn ffasiwn, a'i chariad tuag at Lerpwl a'r Beatles. Yn y 5 mlynedd diwethaf mae hi wedi croesawu merch fach i'r byd, ac mae hi'n fyddar. Mae Ani yn sôn am ddysgu BSL ac am gyfansoddi a chynhyrchu cerddoriaeth gynhwysol. Fe gafodd Ani hefyd ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd, ac mae'r albwm diweddaraf Phantasmagoria yn gasgliad o ganeuon sydd yn ymateb i'r byd o'i chwmpas. Ymysg ei dewisiadau cerddorol mae 'Pan Ddaw Yfory' gan Caryl Parry Jones a darn 'Mishima/Closing' gan artist sydd wedi ei dylanwadu, Philip Glass.
Rhaglen wahanol i'r arfer i nodi diwedd blwyddyn arall. Pytiau o rai o sgyrsiau Beti a'i Phobol 2025, gan ddechrau gyda dwy bennod gynta'r flwyddyn - tad a merch yn sôn am y hunlle brofon nhw fel teulu oherwydd ymddygiad anfaddeuol y Swyddfa Bost. Cawn glywed stori Siân Thomas a Noel Thomas. Fe awn wedyn i China i sgwrsio a Teleri Wyn Davies. Mae hi yn byw yn Shenzen, yn ne-ddwyrain y wlad, a'i gwaith yno yw hyfforddi rygbi merched.Fe gafodd Beti gwmni Glenda Jones-Williams o Frynaman yn wreiddiol sydd â swydd uchel yng nghwmni anferth Coca Cola. Mae'n is-lywydd pobol a diwylliant y cwmni yng ngogledd Ewrop, Asia ac ardal y Môr Tawel ac mae'n teithio'r byd gyda'i gwaith. Mae bywyd wedi bod yn hectic i'r awdur, y cyfansoddwr a'r dramodydd Daf James yn ddiweddar oherwydd llwyddiant ysgubol ei gyfres ddrama - Lost Boys and Fairies. Ond fe lwyddodd i dreulio awr fach yng nghwmni Beti George.Fe gawn hefyd gwmni'r Pianydd byd enwog o Bentrebychan, Llŷr Williams, Georgia Ruth, Mark Williams, Jess Davies, yr artist Gareth Parry a'r meddyg Dr Llinos Roberts.
Beti George yn holi y cerddor a'r cyn nyrs Edwin Humphreys.Nid yn aml mae Beti yn cael gwestai sydd wedi cael gyrfa mor amrywiol â hynny mewn meysydd mor wahanol i'w gilydd. Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 mlwydd oed fe aeth Edwin Humphreys i'r fyddin a bu'n aelod o Fand Pres Catrawd Hussars. Yna bu'n gerddor yn chwarae gyda sawl band Cymraeg ac wedyn fe aeth i'r Brifysgol yn 30 mlwydd oed i astudio cerdd - ond wedi iddo raddio, doedd dim digon o waith ac felly penderfynodd gael gradd arall mewn nyrsio.Treuliodd flynyddoedd yn nyrsio mewn meysydd heriol, ac wedi ymddeol o'r swydd yna fe gafodd swydd arall yn gweithio gyda Gwasanaeth Cerdd Gwynedd. Mae'n Dad balch i 3 o blant ac mae'n dewis 4 cân yn cynnwys un gan y grŵp Pys Melyn gan fod ei fab Ceiri yn y band.
Sioned Fôn Jones, gwyddonwraig ifanc o bentref Waunfawr, Gwynedd yw gwestai Beti George.Mae wedi creu cwmni Booby Biome yn Llundain. " Ni oedd y cwmni cyntaf o'i fath yn y maes yma" meddai Sioned. Maen nhw'n creu llaeth sydd yn debyg i laeth y fron, "mae'n cocktail o facteria perffaith i fabi" tebyg i probiotic sydd wedi ei ddylunio o laeth y fron gan griw o wyddonwyr ifanc. Y gobaith ydi y bydd yn cael ei gyflwyno i ysbytai, wardiau babis flwyddyn nesa. Mae'r cwmni wedi tyfu ers ei sefydlu yn 2019. Fe sefydlwyd y cwmni yn Ysbyty Great Ormond Street , gan mae dyma'r ysbyty plant gorau yn y byd ac mae'r ymchwil sydd yn cael ei wneud yno yn arwain y ffordd mewn sawl maes o fewn iechyd plant.Mae gan Sioned lawer o uchafbwyntiau i'w gyrfa. Un pennaf oedd ennill lle ar restr ‘Forbes 30 Under 30' llynedd. Mae'r wobr yma yn ddathliad o 30 o bobl o dan 30 oed sydd wedi gwneud cyfraniad nodweddiadol yn eu maes ac wedi cyflawni rhywbeth arbennig.Cawn hanesion ei bywyd ac mae'n dewis 4 cân gan gynnwys darn piano arbennig wnaeth y diweddar Annette Bryn Parri ei chwarae i'w diweddar Dad.
Beti George yn holi Dr Brython Hywel.Bod yn ddeintydd oedd ei uchelgais cyntaf ond ar ôl profiad gwaith yn ysbyty Glan Clwyd fe newidiodd ei feddwl, er bod meddyg ifanc yn fanno wedi dweud wrtho beidio mynd yn feddyg. Ond tydi o ddim wedi difaru anwybyddu cyngor y doctor ifanc ac erbyn hyn wedi blynyddoedd lawer o astudio a hyfforddi mae wedi cyrraedd y brig ac yn arbenigo mewn maes Niwroleg a Niwroffisioleg.Magwyd Brython yn Llangernyw, Dyffryn Conwy. Enillodd ei radd feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2008 cyn gweithio yng ngogledd Cymru am bedair blynedd fel meddyg iau, lle ymgymerodd â'i hyfforddiant sylfaen yn Ysbyty Glan Clwyd a hyfforddiant meddygol craidd yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Tra roedd yno, fe ymgeisiodd i gael hyfforddiant yn Lerpwl fel Niwrolegydd. Ar ôl cwblhau hyfforddiant uwch yng Nghanolfan Walton – canolfan arbenigol y GIG ar gyfer Niwroleg – o 2012 i 2019, dechreuodd fel Niwrolegydd Ymgynghorol a Niwroffisiolegydd Clinigol ym mis Awst 2019.Mae Brython bellach yn bennaeth yr adran Niwroffisioleg yng Nghanolfan Walton lle mae'n gwneud gwaith EMG ac EEG. Mae Brython hefyd yn gwneud clinigau niwroleg ac adolygiadau ward yn Ysbyty Gwynedd. Cawn hanes difyr ei fywyd a'i waith ac mae'n dewis 4 darn o gerddoriaeth yn cynnwys Cymru, Lloegr a Llanrwst, gan Y Cyrff. Roedd tad Brython yn diwtor dosbarth ar Mark Roberts Y Cyrff yn Ysgol Dyffryn Conwy.
Beti George sydd yn holi'r peilot Jâms Powys.Ar hyn o bryd mae'n gweithio i gwmni awyrennau British Airways ac mae'n cyfarch y teithwyr yn Gymraeg.Ers yn blentyn bach doedd dim byd arall yn apelio fel gyrfa, ac fe ddechreuodd hedfan cyn iddo yrru car. Cawn glywed ei hanesion yn hedfan i Efrog Newydd, Nigeria a Mecsico. Mae'n sôn am gyfnod Covid ac effaith hynny ar y diwydiant, ac am newidiadau sydd tuag at danwydd mwy gwyrdd yn sgil newid hinsawdd.
Beti George sy'n holi Jane Richardson - Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru.Fe gafodd Jane ei geni a'i magu yn Lloegr. Cymraes oedd ei mam, ac i Gymru y bydden nhw'n dod fel teulu ar eu gwyliau.Wedi graddio yn Rhydychen ac yna priodi, fe ddaeth i Ben Llŷn i fyw, a chael gwaith gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac fe ddysgodd Gymraeg.Ddwy flynedd yn ôl fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr yr Amgueddfa Genedlaethol, a hynny ar adeg heriol iawn yn hanes y sefydliad.
Beti George yn holi Mari Huws - warden ar Ynys Enlli.Fe gafodd Mari ei magu yng Nghaernarfon a Phenygroes, ac fe gafodd brofiad yn ifanc o deithio hefo'r teulu, gan gynnwys mynd i Ynys Enlli.Treuliodd gyfnodau yn gwirfoddoli a gweithio yn Costa Rica, Nicaragua, Siapan ac Indonesia.Mae hi wedi cynhyrchu ffilmiau dogfen, a Mari oedd yn gyfrifol am y prosiect 'Olew Drwg' sy'n trafod y diwydiant olew palmwydd yn Indonesia, a dangoswyd ei ffilmiau ar Hansh.Teithiodd i'r Arctig hefyd i ffilmio ar gyfer ei phrosiect ymchwil ar lefelau llygredd plastig. Bu'n gweithio ym myd teledu hefyd cyn cael swydd fel warden ar Ynys Enlli, ac mae hi yno bellach ers chwe blynedd.
Beti George yn holi Nolwenn Korbell.Llydawes wnaeth syrthio mewn cariad hefo'r Gymraeg ydi Nolwenn, a hynny ers pan oedd hi'n blentyn yn mynd gyda'i mam bob blwyddyn i'r Gyngres Geltaidd.Fe dreuliodd gyfnod yng Nghymru, a bu'n canu gyda Bob Delyn a'r Ebillion.Ar ôl mynd yn ôl i Lydaw aeth ei gyrfa fel cantores o nerth i nerth gan gyrraedd y brig. Mae hi wedi rhyddhau saith albym hyd yn hyn.
A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Beti George yn holi Marcus Whitfield.Mae Marcus yn siaradwr newydd sydd mor frwd dros yr iaith nes iddo fynd ati i agor canolfan yn Llanbedr Pont Steffan i ddod â dysgwyr at ei gilydd i ymarfer yr iaith, a chodi eu hyder.Wedi sawl ymdrech ar ddysgu'r iaith, yr ysgogiad mawr i Marcus ail afael ynddi oedd mynd i Euro 2016 a glanio yng nghanol cymaint o siaradwyr Cymraeg.Mae'n dod yn wreiddiol o Fwcle yn Sir Y Fflint, ond mae o bellach yn byw yn swydd Caint, ac mae ganddo sawl dosbarth dysgu Cymraeg yn Lloegr.
Dafydd Roberts yw gwestai Beti George.Mae'n gerddor ac yn gynhyrchydd, ac yn aelod o'r grwp gwerin poblogaidd Ar Log, sy'n hanner cant oed flwyddyn nesaf.Pan yn ifanc, roedd Dafydd a'i fryd ar fod yn feddyg, ond Seicoleg oedd ei bwnc ym Mhrifysgol Bangor.Mae wedi protestio ac ymgyrchu dros yr iaith, ac yn ddiweddarach dros chwarae teg i gerddorion.Bu'n gynhyrchydd teledu ac yn brif weithredwr cwmni Sain.Mae wedi teithio'n helaeth, a cherddoriaeth yw'r llinyn cyswllt drwy'r cyfan.Mae'n chwarae sawl offeryn gan gynnwys y delyn deires, ac yn un o ddisgyblion Nansi Richards.
A hithau'n Fis Ymwybyddiaeth Canser Plant, mae Beti George yn holi Dr Celyn Kenny.Meddyg sydd yn gweithio gyda phlant sy'n dioddef o ganser yw Celyn.Doedd hi ddim yn hawdd iddi gael lle ar y cwrs Oncoleg Plant gan fod 'na gyfyngu ar y nifer, ond llwyddodd i ddod yn gyntaf drwy Brydain.Mae hi newydd dreulio chwe mis yn Ysbyty Great Ormond Street, a bellach mae hi'n ôl yn gweithio ar Ward Arch Noa yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.Mae hi hefyd yn darlithio ar y cwrs meddygaeth - cyfrwng Cymraeg, sydd yn bwysig iawn iddi, ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn un o'r meddygon ar raglen 'Prynhawn Da' ar S4C.
Beti George yn holi Dr Gareth Evans-Jones. Mae Gareth yn awdur, bardd a dramodydd ac wedi ennill Y Fedal Ddrama ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.Fe gafodd fagwraeth gymhleth, ac fe wahanodd ei rieni pan oedd yn bump oed.Aeth i Brifysgol Bangor, a chael gradd meistr a doethuriaeth, ac ennill sawl gwobr hefyd. Mae Gareth bellach yn gweithio fel darlithydd yn Adran Grefydd ac Athroniaeth Prifysgol Bangor, ac mae Iddewiaeth a Phaganiaeth yn feysydd y mae'n arbenigo ynddyn nhw.Ef yw sylfaenydd Clwb Darllen Llyfrau Lliwgar.
Beth Winter cyn aelod seneddol dros Gwm Cynon yw cwmni Beti George.Fe dreuliodd ei phlentyndod yn Aberdâr, ac roedd ymgyrchu dros achosion gwahanol yn ganolog i'r teulu. Fe gafodd ei hethol i Senedd San Steffan yn 2019 wedi Ann Clwyd benderfynu peidio sefyll. Fe unwyd Cwm Cynon a Merthyr Tudful ac o ddau aelod seneddol, hi gollodd y dydd yn etholiad 2024.Fe aeth Beth i'r brifysgol ym Mryste i astudio polisi cymdeithasol, ac fe wnaeth hi fwynhau ei chyfnod yno yn fawr iawn. Tra yn y brifysgol roedd hi'n gwneud llawer o waith gwirfoddol gyda phobl ddigartref ym Mryste, yn helpu mewn ‘night shelters' ac ati. Bu'n gweithio yn Southampton am gwpwl o flynyddoedd, cyn dychwelyd i'r cymoedd. Mae hi bellach yn byw ym Mhenderyn ger Aberdâr ac yn weithgar gyda gwaith ym maes ynni cymunedol a Cymunedoli ac yn Fam i 3 o blant.
Beti George sydd yn holi Ffrancon Williams - cyn Brif Weithredwr Cymdeithas Dai 'Adra'.Fe'i magwyd ym Mangor.Fe astudiodd Ffrancon Beirianneg Electroneg yn y brifysgol, ond penderfynodd newid maes ar ôl sylweddoli ei fod eisiau gweithio yng nghanol pobl, ac eisiau gwneud gwahaniaeth i'w bywydau.Treuliodd gyfnod yn gweithio i British Standards, cyn mynd i weithio i gwmni preifat oedd yn ymwneud yn bennaf â diogelwch ar y rheilffyrdd.Dychwelodd adref i Ogledd Cymru ar ôl derbyn swydd yn Adran Dai Cyngor Gwynedd, ac yna fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr Cymdeithas Dai 'Adra'.Mae'n gwirfoddoli gyda Beiciau Gwaed Cymru.
Beti George yn holi Mel Owen - cyflwynydd, awdur a digrifwr.Fe'i magwyd yng Nghapel Seion ger Aberystwyth, ac aeth i Brifysgol Caerdydd.Wedi iddi weithio yn y maes gwleidyddol pan yn ifanc, mae Mel Owen bellach yn gyflwynydd ar y cyfryngau Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys y rhaglen 'Ffermio' ar S4C.Mae hi hefyd i'w gweld ar lwyfannau comedi stand up, a llynedd fe gafodd gryn lwyddiant yng Ngŵyl Caeredin. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar gomedi ar gyfer Netflix.Hi yw awdur y llyfr 'Oedolyn(ish!)
Beti George sydd yn holi'r pianydd sydd yn adnabyddus trwy'r byd, Llŷr Williams. Cafodd ei fagu yn Pentre Bychan, Wrecsam ac mae dal i fyw yno. Mae wedi perfformio mewn neuaddau megis Carnegie Hall, Efrog Newydd, ac wedi llenwi neuadd fawr yn y Moscow Conservatory, Rwsia. Mae wedi teithio i berfformio'n Tokyo a Mecsico ac yn rhannu eu straeon difyr. Mynychodd Ysgol Gynradd ID Hooson yn Rhosllannerchrugog, cyn mynd ymlaen i Ysgol Uwchradd Morgan Llwyd. Yn Dilyn pynciau Cerddoriaeth, Cymraeg a Saesneg, cyn mynd ymlaen i gael gradd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg y Frenhines yn Rhydychen (Queens College Oxford) ac yna yn gorffen ei addysg yn yr Academi Frenhinol yn Llundain.Fe wnaeth Llŷr basio gradd 8 ar y piano yn 11 mlwydd oed, ac fe gafodd "distinction" ymhob un.Mae'n ymarfer y piano am 6 awr y dydd - ac yn dal i ddarganfod pethau newydd, ac yn mwynhau cerdded yn ei amser sbâr i ymlacio.
Llinos Roberts o Rosllannerchrugog yw gwestai Beti George, mae hi'n Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025. Yn wreiddiol o'r ardal, mae hi wedi byw a gweithio yn y sir fwy neu lai ar hyd ei hoes, ac mae'n Bennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a'r Gymraeg yng Ngholeg Cambria. Mae 3 mlynedd wedi pasio ers i Aled Roberts ei gŵr farw yn sobor o ifanc yn 59 mlwydd oed. Bu Aled Roberts yn Gomisiynydd y Gymraeg ac mae ganddynt ddau o fechgyn, sef Osian ac Ifan. Mae Llinos yn gefnogwr brwd o Glwb Pêl Droed Wrecsam ac wedi eu dilyn ers yn ferch fach. Cawn hanesion difyr ei magwraeth a'i bywyd ac mae hi'n dewis ambell gân gan gynnwys John's Boys.
Beti George yn sgwrsio gyda chyn-ymosodwr Cymru, Wyn Davies. Darlledwyd y rhaglen yn wreiddiol yn 2003.
Beti George sydd yn holi'r actores a'r hyfforddwraig yoga Leisa Mererid.Mae'n disgrifio ei phlentyntod fel hogan fferm ym mhentref Betws Gwerfyl Goch fel un 'eidylig' ac roedd yn treulio ei hamser sbâr i gyd allan yn chwarae.Astudiodd Ddrama yn Ysgol Theatr Fetropolitan Manceinion lle enillodd radd mewn actio, cyn hyfforddi ymhellach yn Ysgol Ryngwladol Meim, Theatr a Symudiad Jacques LeCoq ym Mharis.Bu'n byw yn Lesotho am gyfnod yn gwirfoddoli mewn cartref i blant amddifad .Roedd yn aros mewn pentref bach yng nghanol unman yn y mynyddoedd. Dywed fod y profiad yma yn bendant wedi ei siapio hi fel person.Mae Leisa wedi gweithio'n helaeth ym maes Theatr a theledu. Ymddangosodd yn chwe chyfres Amdani. Yn 2002 chwaraeodd rôl Edith yn y ffilm Eldra. Yn 2002 hefyd cychywnodd ei rhan fel Joyce Jones yn y gyfres ddrama Tipyn o Stad. Bu'n gweithio hefyd gyda chwmni theatr Oily Cart, cwmni sydd yn arloesi mewn gweithio yn aml synhwyrol. Ma' nhw yn cyfeirio at eu hunain fel pob math o theatr ar gyfer pob math o bobl. Maen nhw yn gweithio efo babanod, plant, a phobl efo anghenion dwys.Mae Leisa wedi rhyddhau dau lyfr i blant, Y Goeden Yoga yn 2019 a'r Wariar Bach yn 2021.Erbyn hyn, mae Leisa hefyd wedi cychwyn ei busnes ‘Gongoneddus' – sydd yn cynnal sesiynau trochfa gong.Mae hi'n Fam brysur ac yn magu 3 o blant, Martha, Mabon ac Efan.
Yr artist Manon Awst yw gwestai Beti George. Mae hi'n arbenigo mewn celf gyhoeddus ac yn gwneud cerfluniau, gosodiadau a pherfformiadau sy'n archwilio themâu lle, hunaniaeth a thirwedd. Mae ei gwaith diweddar yn ymwneud â chorsydd a mawndiroedd. Fe gafodd wobr i artistiaid gan yr Henry Moore Foundation (2022-23) a Chymrodoriaeth Cymru'r Dyfodol (2023-2025) fel rhan o raglen Natur Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Magwyd Manon ar Ynys Môn gan fynychu Ysgol Uwchradd Bodedern ac aeth ymlaen i astudio Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt.Bu'n byw ym Merlin am sawl blwyddyn, ac mae ganddi ddarn o waith celf gyhoeddus yn y ddinas sydd wedi ei wneud allan o gregyn gleision o'r Fenai.Mae hi hefyd yn cael ei hadnabod fel bardd ac yn aelod o'r grŵp Cywion Cranogwen ac yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn digwyddiadau fel Y Talwrn ac Ymryson y Beirdd ar BBC Radio Cymru. Yn fam i ddau o fechgyn, Emil a Macsen ac yn briod gydag Iwan Rhys. Cawn hanes difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis 4 cân gan gynnwys un gan Jean Michel Jarre.
Yn rhan o dymor Merthyr BBC Cymru mae Beti George yn holi Bethan Sayed, gwleidydd gafodd ei hethol i'r Cynulliad yn 2007 pan oedd hi'n 25 mlwydd oed.Roedd hi'n bach o rebel yn yr ysgol gynradd ac yn y cynulliad yn adnabyddus am draethu'n blwmp ac yn blaen, ac yn barod iawn i herio'r drefn. Fe benderfynodd beidio sefyll yn etholiad 2021, gan nad oedd yn hapus gyda'r hyn oedd yn digwydd yn ei phlaid, Plaid Cymru ac fe benderfynodd ganolbwyntio ar y teulu. Mae hi'n briod â Rahil Sayed sydd yn ymgynghorydd busnes ac yn gweithio yn y byd ffilm Bollywood, ac yn creu ffilmiau yng Nghymru ar gyfer India a'r byd.Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis 4 cân gan gynnwys cân gan Sobin a'r Smaeliaid; 'roedd hi'n ffan o Bryn Fôn tra'n tyfu fyny ym Merthyr.
Beti George sy'n cael cwmni Jess Davies sydd wedi ymddangos mewn cylchgronau Nuts a ZOO fel 'glamour model' ond sydd bellach yn ymgyrchu dros hawliau merched a'i diogelwch ar y we. Mae hi ar hyn o bryd yn gweithio gyda gwleidyddion yn San Steffan ar fesur sydd yn mynd drwy'r senedd i wella diogelwch ar y we. Mae hi wedi cael profiadau gwael ei hun, mae lluniau o'r model a'r cyflwynydd o Aberystwyth wedi cael eu camddefnyddio cannoedd o weithiau ar-lein.Mae hi hefyd wedi derbyn llu o negeseuon amhriodol gan ddynion ar-lein ac mae ei phrofiadau wedi arwain iddi ysgrifennu llyfr sy'n ceisio egluro casineb at fenywod ar-lein.Cawn hanesion ei bywyd ac mae'n dewis 4 darn o gerddoriaeth gan gynnwys cân Croeso I Gymru - Tara Bandito, gan iddi symud i Gymru yn 6 mlwydd oed a dysgu'r iaith.
Ian Keith, sydd newydd ymddeol fel Prifathro yw gwestai Beti George. Fe adawodd y byd addysg llynedd ar ôl bod yn Bennaeth ysgol San Siôr, Llandudno. Fe enillodd sawl gwobr, gan gynnwys Pennaeth y Flwyddyn gyda'r Daily Express a'r Daily Post; gwobr David Bellamy am ysgol oedd yn gwneud gymaint gyda byd natur; a gwobr werdd y World Wildlife Fund.Roedden nhw'n cadw ieir a gwenyn ac yn gwerthu'r cynnyrch yn y siopau lleol. Mae'n trafod heriau byd addysg, ac yn rhannu hanesion ei blentyndod. Mae'n hoff iawn o gasglu planhigion ac yn teithio pellteroedd i weld adar a gwyfynod prin.
Mandy Watkins, cynllunydd cartref a chyflwynwraig ar gyfres S4C Dan Do, Hen Dŷ Newydd a 'BBC Wales' Home of the Year' yw gwestai Beti George.Cafodd ei magu yn y Fali, ar Ynys Môn mewn tŷ o'r enw Graceland, a hynny gan fod ei rhieni yn hoff iawn o'r canwr Elvis, ac mae ganddi atgofion hapus iawn o blentyndod yn gwylio ffilmiau Elvis ar y teledu gyda'i theulu.Doedd bod yn gynllunydd cartrefi ddim yn rhan o'r cynllun gwreiddiol, fe raddiodd mewn cymdeithaseg a busnes ym Mhrifysgol Bangor. Bu'n gweithio gyda chwmni gwerthu gwyliau yng Nghaer a hefyd i gynllunydd cartrefi. Bu'n gweithio gyda Cyngor Cefn Gwlad Cymru am 10 mlynedd ac fe gafodd gyfnod yn labro i'w thad, cyn adnewyddu cartref iddi hi a'i theulu. Mae wedi sefydlu busnes ei hun a'r Ynys Môn, Space Like This.Mae'n trafod cael ei bwlio yn yr ysgol, pwysigrwydd cwnsela a'i chyfnod yn dioddef o bulimia. Mae hi'n Fam i 3, ac yn rhannu straeon ei bywyd prysur ac yn dewis 4 can yn cynnwys un gan Amy Winehouse, Elvis a Bryn Fon.
Beti George sydd yn holi Iwan Steffan, cyflwynydd a dylanwadawr ar wefannau cymdeithasol, er nad ydi Iwan yn rhy hoff o'r term dylanwadwr. Yn wreiddiol o bentref Rhiwlas, tu allan i Fangor, ond mae bellach yn byw yn Lerpwl, ac yn cael ei adnabod gan bobol y ddinas oherwydd ei bresenoldeb ar Tik Tok, sydd yn ei gyflogi fel llysgennad swyddogol, mae dros 52 o filiynau o bobol wedi gweld ei fideos am ysbrydion Lerpwl. Mae'n rhan o deulu creadigol - y cerddor Steve Eaves yw ei Dad ac mae Iwan yn frawd bach i Lleuwen Steffan a Manon Steffan Ros. Mae'n trafod hanesion ei fywyd, yn credu bod gormod o bwysau ar blant i lwyddo yn yr ysgol mewn arholiadau, " Ges i TGAU Cymraeg ac Addysg Grefyddol. Tyda ni gyd ddim yn dysgu fel ‘na – dylsa ni ddysgu am brynu tai, pres, colled, iechyd meddwl“.Tydi'r ffordd ddim wedi bod heb ei heriau, rhai yn boenus iawn, ond mae Iwan yn hapus erbyn hyn ei fod yn gweithio tipyn yng Nghymru hefyd yn cyflwyno rhaglenni i S4C. “ dwi'n dathlu fy hun rŵan – dwi wedi treulio gymaint o'm mywyd yn anhapus”
Kathy Gittins, artist a gwraig fusnes yw gwestai Beti George. Cawn hanesion difyr ei magwraeth ar fferm fynydd Penrhos, uwchben Pontrobert a Meifod yn Sir Drefaldwyn. Roedd y capel mor bwysig i fagwraeth Kathy, i Gapel Gad yr oedd hi'n mynd bob dydd Sul gyda'i theulu. Y capel drws nesa, rhyw filltir i fyny'r lon oedd Capel Penllys, sef lle sefydlwyd Aelwyd Penllys gan y diweddar Parch Elfed Lewis, ac mae hi'n hel atgofion am yr eisteddfodau rhwng y ddau gapel a mynd i'r aelwyd. Fe astudiodd gwrs celf yn Leeds, cwrs cynllunio graffeg ac wedyn agor oriel ym Meifod a hynny yn ystod cyfnod anodd iawn iddi yn ei bywyd. Fe ddatblygodd yr Oriel yn siop ddillad, a bu'n rhedeg 3 siop Kathy Gittins ym Mhwllheli, Trallwng a'r Bont-faen, ond bu cyfnod covid yn heriol a Brexit. Fe benderfynodd gau'r busnesau llynedd. Mae hi'n Fam i 4, ac yn Nain i 12eg o wyrion ac wyresau.
Beti George sydd yn sgwrsio gyda Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Yn wreiddiol o Aberpennar ger Aberdâr, dechreuodd Rhian ei gyrfa fel swyddog heddlu, bu gyda nhw am 7 mlynedd ond y 3 mlynedd ola yn gweithio gyda aml asiantaeth efo trais yn y cartref. Penodwyd hi'n Gynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer mynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn 2015. Cyn iddi ymgymryd â'i swydd fel Comisiynydd, cafodd Rhian ei chydnabod fel Cadeirydd Arbenigol yr Adolygiadau Dynladdiadau Domestig sy'n ymwneud â phobl hŷn.
Dr Eurfyl ap Gwilym yr economegydd yw gwestai Beti George. Daeth un digwyddiad yn 2010 ag ef i sylw mawr pan fentrodd herio Jeremy Paxman, un o'r newyddiadurwyr uchaf ei barch ym Mhrydain. Drannoeth 'roedd y gwefannau ar dân. Mi ddaru Eurfyl elwa o'r ffaith fod o ddim yn cyfadde' ei fod o'n anghywir ac mi ddaliodd arno. Mae o di cael pobol yn dod ato yn ei adnabod o'r teledu - yng Nghaerdydd a Llundain … “You're the Paxman man! Well Done”.Dechreuodd ei yrfa gyda chwmni Unilever ar gynllun datblygu rheolwyr busnes. Bu'n gweithio gyda chwmni John Williams yn rheoli pob agwedd o'r busnes. Bu'n Bennaeth adran gwerthu cyfrifiaduron gyda chwmni mawr electroneg Philips, cwmni rhyngwladol – o'r Iseldiroedd. Bu'n gweithio gyda GE. Bu'n brif weithredwr i gwmni meddalwedd rhyngwladol yn Llundain ( Cwmni o UDA ydoedd). Gwerthu a datblygu meddalwedd i fanciau.Bu'n gweithio gyda'r Principality yn ddirprwy gadeirydd ac yn gyfarwyddwr anweithredol byrddau technolegol, a bu'n gweithio gyda Phlaid Cymru. Bu'n helpu Gwynfor Evans yn ystod cyfnod 1966- '67. " Doedd dim llawer o adnoddau pan aeth Gwynfor mewn i'r Senedd yn '66, 'roeddem ni'n gosod cwestiynau Seneddol, doedd dim google, a dim modd cael llawer o wybodaeth, felly roedden ni'n codi llawer iawn o gwestiynau".Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân gan gynnwys Dafydd Iwan a Karl Jenkins.
" Mae bywyd yn rhy fyr" meddai Teleri Wyn Davies mewn cyfweliad arbennig gyda Beti George. " Mae beth sydd wedi digwydd i Dad wedi siapio fi, ac wedi neud i fi edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol".Mae Teleri yn un o gyn-chwaraewyr tîm rygbi Cymru, ac wedi derbyn gwahoddiad i gael chwarae a hyfforddi'r gamp yn Tsieina. Mae hi'n byw yn ninas Shenzen sydd wedi ei lleoli yn ne-ddwyrain Tsieina, dinas gyda phoblogaeth o 17.5 miliwn sy'n cysylltu Hong Kong â'r tir mawr.Mae hi hefyd yn credu y byddai ei phenderfyniad wedi cael sêl bendith ei thad, Brian 'Yogi' Davies, a fu farw yn 56 oed - chwe blynedd ar ôl cael ei barlysu wrth chwarae ei gêm olaf i Glwb Rygbi'r Bala. Naw oed oedd Teleri ar y pryd, ac mae hi'n cofio'r diwrnod yn glir, ac yn trafod dylanwad ei thad a'i mam.Mae hi'n trafod rygbi merched ac yn rhannu straeon ei bywyd yn ogystal â dewis caneuon sydd wedi dylanwadu arni, gan gynnwys cân Mynediad am Ddim - Cofio dy Wyneb. Hon oedd y gân ar gyfer angladd Dad. "Mae jyst yn gân mor neis a mor agos i nghalon i. " Mi ddaru'r hogiau rygbi ddod at ei gilydd a chanu hon.
Yr arlunydd o Flaenau Ffestiniog, Gareth Parry, yw gwestai Beti George. Magwyd yn y tŷ lle ganwyd ei Fam a'i Nain yn Manod, Blaenau Ffestiniog. Cawn hanesion difyr ei fagwraeth yn ogystal â'i hanes yn denig o Blaenau ar drên gyda'i ffrind ysgol am "fywyd gwell" yn Llundain a hynny yn ei arddegau. Wedi gadael ysgol, fe aeth i'r coleg celf ym Manceinion, cyfnod y mods a'r rocers a'r gerddoriaeth soul. O fewn dim amser, mi roedd y teimlad o gaethiwed yn ôl, rhyw deimlad fod o yn y carchar eto (fel roedd yn teimlo adre efo Dad) . Daeth y rebel allan ynddo ac wedyn daeth y dylanwadau o'r tu allan i'r coleg. Gadawodd y coleg a dod 'nôl i weithio yn y chwarel yn Blaenau. Dylanwadodd y naturiaethwr Ted Breeze arno, a bu'n gwerthu lluniau i'r cylchgrawn Country Life. Mae bellach yn gwerthu ei waith mewn orielau celf yn Llundain ac yng Nghymru.
Georgia Ruth, y gantores a'r gyflwynwraig yw gwestai Beti George. Mae wedi rhyddhau 4 albwm, ac yn ystod y cyfnod clo, mi ddechreuodd sgwennu ychydig bob dydd. Mi ddaru hunan gyhoeddi ei nofel gyntaf “Tell Me Who I am”. Cafodd gynnig wedyn i sgwennu yn Gymraeg – Casglu Llwch, sef casgliad o fyfyrdodau ganddi.Roedd llynedd yn dipyn o flwyddyn rhwng popeth! Roedd ganddi albwm allan mis Mehefin. Roedd hi'n cyhoeddi llyfr Saesneg yr un cyfnod ac yn cyhoeddi llyfr Cymraeg mis Tachwedd. A dros yr haf – ar lwyfan Sesiwn Fawr yn Nolgellau - fe aeth Iwan ei gwr yn sâl, roedd bron a gorffen ei set (efo Cowbois) pan gafodd strôc ar y llwyfan. Mae Georgia yn trafod y cyfnod yma, a sut y gwnaeth hi ac Iwan ymdopi.Mae hi'n fam i 3 bellach, recordiwyd y sgwrs cyn genedigaeth Alma Gwen.
Glenda Jones-Williams Is lywydd pobol a diwylliant Gogledd Ewrop ac Asia a'r Môr Tawel gyda Coca Cola yw gwestai Beti George.Yn wreiddiol o Frynaman fe gafodd gyfnod yn gweithio ym myd y gyfraith ac wedyn cwympo mewn i'r byd corfforaethol ac i fyd adnoddau dynol (Human Resources neu Personnel gynt neu People and Culture fel maen nhw'n cael eu hadnabod yn Coca Cola). Mae wedi gweithio gyda Coca Cola ers tua 18 mlynedd bellach.Tydi methu credu fod merch sy'n siarad Cymraeg ac yn dod o Frynaman mewn swydd uchel yn y byd corfforaethol. Y cynllun oedd bod yn gyfreithwraig am byth. Fe gafodd ei 'head huntio' i'r swydd, ac fe gynigiwyd swydd ryngwladol iddi ond wedi ei leoli yn Llundain, ond mi roedd ei mab, Harri newydd ei eni ac roedd hi am iddo gael magwraeth Gymraeg a doedd hi ddim isio symud i Lundain, felly mi ddaru berswadio ei phennaeth yn Atlanta fod posib neud y swydd yn unrhyw le!Mae'n trafaelio'r byd efo'i gwaith – Awstralia, Ewrop i gyd, Phillipines, Jakarta, Bali, India ac America.
Daf James, y dramodydd, cerddor, cyfansoddwr, perfformiwr ac awdur yw gwestai Beti George. Fe gafodd lwyddiant ysgubol diweddar gyda'i gyfres deledu Lost Boys and Fairies, ac mae'n trafod yr heriau sydd yn dod yn sgil ysgrifennu. Mae yn rhannu ei brofiad o fabwysiadu dau fachgen a merch fach gyda'i ŵr, Hywel, ac yn trafod sut mae hynny wedi newid eu byd. Fe ddaeth yn rhiant yn fuan ar ôl colli ei Fam, ac mae'n trafod effaith galar gyda Beti.Ei gyngor i ysgrifenwyr ifanc yw “Y mwyaf authentic ych chi – mae'r stori yn mynd yn bellach, gonestrwydd mae cynulleidfa eisiau.”Mae'n hoff iawn o'r grŵp Eden a Caryl Parry Jones, ac yn credu eu bod yn gwneud gwaith ffantastig yn gymdeithasol o ran iechyd meddwl, a'u bod wedi esblygu gydag amser, rhaid gwneud os ti'n artist.
Heledd Wyn yw gwestai Beti George mae'n ymchwilio i ddyfodol ein gwlad wrth i'r byd gynhesu. Mae hi'n credu bod rhaid i ni feddwl yn wahanol am y ffordd i ni'n cynhyrchu bwyd. Mae hi'n cyfarwyddo a chynhyrchu yn y byd ffilm a theledu, ac mae'n angerddol am y maes. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn barddoni a chynganeddu a chanu, ac fe gawn glywed hi'n canu cân hyfryd mae hi wedi ei ysgrifennu gyda'i merch Alys Mair 'Camu Mlaen' ar gyfer ei mab tra ‘roedd e'n mynd trwy gyfnod anodd.
Dyma'r ail raglen lle mae Beti George yn sgwrsio gyda'r cyn is-bostfeistr Noel Thomas a'i ferch Siân am hanes eu brwydr yn erbyn y Swyddfa Bost. Cafodd Noel ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon a'i garcharu am naw mis yn 2006. Yn y rhaglen hon cawn ei hanes yn y carchar a'r ymdrechion yn dilyn hynny i glirio ei enw.
Yn y gyntaf o ddwy raglen, Beti George sydd yn sgwrsio gyda Noel Thomas, cyn is-bostfeistr a'i ferch Siân am fagwraeth a gyrfa'r ddau yn Ynys Môn ac fel yr oedd Swyddfa Bost Gaerwen yn mynd yn dda tan Hydref y 5ed 2005, pam ddaeth rhai o swyddogion ariannol y Swyddfa Bost a chnocio ar ei ddrws ac yna mynd a Noel i swyddfa'r heddlu yng Nghaergybi a'i gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug.Cafodd Noel Thomas o'r Gaerwen, Ynys, Môn ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon. Fe gafodd y cyn is-bostfeistr ei garcharu am naw mis yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon. Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod hyn o ganlyniad i nam ar feddalwedd Horizon Swyddfa'r Post.
Yr actores Lisabeth Miles sy'n actio Megan Harris ar Pobol y Cwm yw gwestai Beti George. Mae hi'n flwyddyn fawr i'r opera sebon eleni wrth iddi ddathlu'r 50! Mae'n wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, a cafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Caernarfon. Aeth ymlaen wedyn i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Wedi gadael y coleg, cychwynodd ei gyrfa efo'r Welsh Theatr Company, ac efo adain Gymraeg y cwmni sef Cwmni Theatr Cymru. Roedd Lisabeth ym mysg actorion Cymraeg cyntaf y cwmni, ynghŷd â Gaynor Morgan Rees a Iona Banks. Bu'n gweithio'n gyson mewn cynhyrchiadau i'r BBC hefyd, gan gynnwys “Esther”, “Y Stafell Ddirgel”, “Lleifior” a “Branwen” yn ystod diwedd y 1960au a dechrau'r 70au.
Ar Blât – Elinor SnowsillY cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda'r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta'n dda ac yn iach pan oedd hi'n ifanc…?Cyn-chwaraewr Former player Rysetiau Recipes Atgofion Memories Gwrthod To refuse Cytbwys Balanced Adnabyddus Famous Wastad AlwaysDros Frecwast – Toiledau CyhoeddusWel dw i'n siŵr bod Elinor yn bwyta'n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi'n ifanc! Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy'n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi … Diffyg Lack of Cyflwr Condition Coluddyn Bowel Rheolaeth Control Straen Stress Croen Skin Ar hap Randomly Ailadroddus Repetitious Cyfleusterau cyhoeddus Public conveniences Cymryd yn ganiataol Taking for grantedBore Cothi – Menna WilliamsLois Mererid Edwards oedd honna'n sôn am pa mor bwysig yw bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael, yn enwedig i'r rhai sy'n diodde o gyflwr meddygol. Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Gwobr yw hon sy'n cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. Wythnos diwetha, Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes, a chafodd hi sgwrs fach gyda Menna ar y rhaglen: Tlws Trophy Cyfraniad sylweddol A substantial contribution Braint A privilege Dirprwy Deputy Cyfeilio To accompany (on piano) Amyneddgar iawn Very patient Llenni Curtains Deuawd Duet Pan ddaru o Pan wnaeth e Ienga Ifanca Anrhydedd An honourBeti a'i Phobol – Shelley ReesA llongyfarchiadau mawr i Menna Williams ar ennill y Tlws arbennig yna, dw i'n siŵr bydd hi'n mwynhau'r seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Shelley Rees yr actores, a chyflwynydd Radio Cymru oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen nos Sul. Yma mae Shelley yn sôn am actio. Mae hi wedi perfformio ers pan oedd hi'n blentyn bach, ond nawr bod hi'n bum deg oed tybed ydy hi'n anoddach iddi hi gael gwaith actio? Cyflwynydd Presenter Sefyll yn llonydd Standing still Menywod Merched Arallgyfeirio Diversify Ymgyrchu To campaign Egni Energy Drygionus Naughty Yn go glou Yn eitha cyflym Mam-gu Nain Taw MaiAled Hughes – SingaporeYchydig o hanes gyrfa actio Shelley Rees yn fanna ar Beti a'i Phobol. Basen ni'n disgwyl clywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, neu gweld eisteddfod mewn ysgol yng Nghymru …ond yn Singapore? Wel dyna sy'n digwydd mewn un ysgol draw ar yr ynys bell honno, diolch i bennaeth o Gymru, sydd wedi recriwtio nifer o athrawon Cymreig i weithio yn yr ysgol. Rhys Myfyr, un o athrawon yr ysgol fuodd yn sgwrsio gydag Aled Hughes: Pennaeth Head Rhyfedd Strange Rhyngwladol International Wedi ei leoli Located Diwylliannol Cultural Hap a damwain Luck Denu To attract Ymddiried To trust Cystadleuol CompetitiveDros Ginio – LlyfrauEisteddfod ysgol yn Singapore, gwych on'd ife? Tybed faint o lyfrau dych chi'n llwyddo i'w darllen o glawr i glawr? Yn ddiweddar, mae sawl ap yn crynhoi cynnwys llyfrau, ond ydy hyn yn mynd i gael effaith ar werthiant llyfrau? Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha, buodd Jennifer Jones yn holi'r awdur a'r golygydd, Elinor Wyn Reynolds am ei barn: Clawr Cover Crynhoi cynnwys To summarise the content Cyfrolau Books Adolygiadau Review Yn ei chrynswth In its entirety Drwgdybus Suspicious Yn hytrach na Rather than Bod dynol Human being Bygythiad Threat Annog To encourage Agor cil y drws To open the door slightly