Podcasts about gaernarfon

  • 8PODCASTS
  • 23EPISODES
  • 32mAVG DURATION
  • ?INFREQUENT EPISODES
  • Sep 8, 2024LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about gaernarfon

Latest podcast episodes about gaernarfon

Beti a'i Phobol
Yassa Khan

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Sep 8, 2024 50:28


Yassa Khan, cyfarwyddwr ffilmiau o Gaernarfon yn wreiddiol yw gwestai Beti George.Mae Yassa Khan yn dweud bod rhannau o'i fagwraeth yn ei atgoffa o'r ffilm maffia Goodfellas – ond yng Nghaernarfon, nid Efrog Newydd. Roedd ei Dad yn lleidr banc adnabyddus o Gaernarfon, ac fe dreuliodd flynyddoedd yn y carchar trwy gyfnod plentyndod Yassa.Doedd tyfu i fyny yn y dre' yn yr 1980au ddim yn hawdd iddo gyda'i dad i mewn ac allan o garchar - ac i wneud pethau'n anoddach, roedd o'n fachgen o dras Pakistani ac yn hoyw.Ond mae ei fagwraeth liwgar wedi arwain ato'n gweithio fel cyfarwyddwr sydd wedi ffilmio'r Pet Shop Boys, Vivienne Westwood a Billie Eilish. Bu hefyd yn gweithio gyda chynllunwyr ffasiwn Gucci a YSL.Yn ddiweddar mae wedi bod yn gweithio ar ffilm Pink, ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ffilm hir Daffodil, sydd yn ddarlun o hanes ei fagwraeth.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 23ain 2024.

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Apr 23, 2024 17:45


1 Trystan ac Emma – Hyd 1.49.Ar eu rhaglen wythnosol mae Trystan ac Emma yn cynnal cwis gyda Ieuan Jones neu Iodl Ieu fel mae'n cael ei alw. Ac yn ddiweddar roedd rhaid i Ieuan ofyn cwestiwn tie break i Trystan, Emma, a'u gwestai Megan...a dyma'r cwestiwn:Yn ddiweddar Recently Llongyfarchiadau Congratulations2 Rhaglen Ffion Dafis – Hyd 2.28.Wel, dan ni'n gwybod rŵan pa mor gyflym mae cangarŵ yn medru rhedeg yn tydan?Ar hyn o bryd mae‘r actor Dafydd Emyr yn perfformio mewn drama lwyfan yn Saesneg yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug. Enw'r ddrama ydy ‘Kill Thy Neighbour‘ a chafodd ei sgwennu gan y dramodydd Lucie Lovatt. Mi gafodd Ffion Dafis, yn ei rhaglen bnawn Sul, sgwrs efo Dafydd Emyr er mwyn cael gwybod dipyn mwy am y ddrama. Trawiadol Striking Difrifol Serious Cyfoes Modern Cyfredol Contemporary Y felltith The curse Dychmygol Imaginary Trigolion cynhenid Indigenous residents Estroniaid cefnog Rich outsiders Rhwystro To prevent (G)oblygiadau Consequences Gostwng yn ddifrifo Fallen sharply3 Beti a'i Phobol – Hyd 2.51.Dafydd Emyr yn fanna'n sôn am y ddrama ‘Kill Thy Neighbour‘ sydd i'w gweld yn Theatr Clwyd yr Wyddgrug.Y nofelydd, cogydd ac actores Rhian Cadwaladr oedd gwestai Beti George ddydd Sul ac yn y clip hwn mae hi'n sôn am ei henw ‘Cadwaladr'. Mae hi hefyd yn sôn ei bod yn hoff o hel achau, ac wedi canfod ei bod yn perthyn i Cadwaladr, Brenin y Brythoniaid. Mae hi hefyd yn sôn am ei chefndir yn Llanberis a hanes ei rhieni.Hel achau To genealogize Y Brythoniaid The Britons Canfod To find Plwyf Parish Ymwybodol Aware Rhyfedd Strange Dirprwy swyddog Deputy officer Awyrlu Airforce Be dach chi'n dda? What are you doing? Alla i ddychmygu can imagine4 Aled Hughes – Hyd 2.00Wel, wel, mae Rhian Cadwaladr yn perthyn i un o frenhinoedd y Brythoniaid – pwy fasai'n meddwl!Mae Antur Waunfawr yn dathlu pen-blwydd yn bedwar deg oed eleni. Mae'r Antur yn rhoi gwaith a chyfleoedd i bobol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn y gogledd orllewin. Ddydd Gwener y deuddegfed o Ebrill, ‘roedd na daith feics pedwar deg milltir o hyd fel rhan o'r dathliad. Mi fuodd Aled Hughes draw i Gaernarfon i sgwrsio efo Jack Williams, sy'n trefnu'r daith feics ar ran Antur Waunfawr.Dathliad Celebration Unigolion Individuals Trwsio To repair5 Bore Cothi – Hyd 2.26.A phen-blwydd hapus i Antur Waunfawr sy'n gwneud gwaith gwerth chweil yn ardal Arfon yng Ngwynedd.Antur arall sy'n gwneud gwaith campus yng Ngwynedd ydy Antur Aelhearn ym Mhen Llŷn, ac yn ddiweddar ar Bore Cothi, cafodd Shan sgwrs efo John Pritchard, Dirprwy Gadeirydd yr Antur. Mae'r Antur am brynu Becws Glanrhyd, Llanaelhaearn, sydd wedi bod yn yr ardal am bron i gan mlynedd.Gwerth chweil Worthwhile Dychmygu To imagine Galwad A call Arwr Hero Mor ddiolchgar So thankful Llewyrchus Prosperous Yn hanfodol Essential Craidd Core Ehangu To expand Cynhyrchu To produce Go sylweddol Quite substantial Os na watsia i If I don't look out6 Dros Ginio – Hyd 2.30.Pob lwc i'r Antur efo'r fenter newydd, dw i'n siŵr bydd hi'n llwyddiant mawr.Ddydd Mawrth diwetha ar raglen Dros Ginio, mi gafodd Catrin Heledd gwmni'r meddyg teulu Dr Llinos Roberts, a dyma i chi flas ar sgwrs gaethon nhw am gyflwr ein gwallt ac am effaith hynny ar ein hiechyd:Cyflwr Condition Dw i yn cyfadde I admit Blewyn A hair Straen Stress Yn raddol Gradually Yn ei gylch e About it Ymddangos To appear Ansawdd Texture Menywod Merched Brau Brittle

ac sul shan wel trystan pob jack williams ieuan john pritchard podlediad llanberis saesneg ebrill enw gaernarfon beti george
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 2il 2024

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Apr 2, 2024 13:57


Pigion y Dysgwyr – Tomos Owen Mae dyn o Gaernarfon wedi dechrau menter newydd yn gwneud "smoothies". Beth sy'n arbennig ydy bod beic yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu'r "smoothies". Cafodd Aled Hughes air gyda Tomos Owen ddydd Mawrth diwetha am ei fenter. Cynhyrchu To produceAr y cyd TogetherHybu To promoteMaeth NutritionTroellwr SpinnerAtgofion MemoriesAgwedd AspectLles WelfareManteisio ar To take advantage ofAddas SuitablePigion y Dysgwyr – Andy John Wel dyna ffordd ddiddorol o gael plant i yfed "smoothies" on'd ife? Sawl Archesgob sydd gyda tatŵ tybed? Wel, mae gan Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andy John, datŵ mawr iawn a fe oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol yr wythnos hon… Archesgob Archbishop Y Parchedicaf The Most ReverandAtgof memoryPam lai? Why not?Olrhain To tracePigion y Dysgwyr – Pasg Hanes tatŵ'r Archesgob yn fanna ar Beti a'i Phobol. Ond sôn am ddathliadau'r Pasg oedd y Parchedig Beti Wyn James pan fuodd hi'n sôn am draddodiadau'r Pasg ar draws y byd wrth Shan Cothi. Dyma'r gweinidog o Gaerfyrddin yn sôn am sut mae Cristnogion Ethiopia'n dathlu… Traddodiadau TraditionsGweinidog MinisterAmrywio To varyY Grawys LentYmprydio To fastDipyn o her Quite a challengeGwylnos A vigilY wawr Dawn Mae'n ymddangos i mi It appears to mePigion y Dysgwyr – Twin Town Y Parchedig Beti Wyn James oedd honna'n sôn am ddathliadau Pasg Ethiopia. Nos Lun wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn gwmni yr actor Llŷr Ifans. Fe, a'i frawd Rhys, oedd prif gymeriadau'r ffilm gomedi enwog Twin Town recordiwyd yn Abertawe a'r cyffiniau. Dyma Rhys yn holi Llŷr am ei atgofion o cael ei gastio i actio yn y ffilm…… Prif gymeriadau Main charactersCyffiniau VicinityYmchwil manwl iawn Very detailed researchYmwybodol AwareAwyddus iawn Very keenCyfweliad InterviewFatha FelPlentyndod ChildhoodProfiad ExperiencePigion y Dysgwyr – PianoAc os dych chi wedi gweld y ffilm, dw i'n siŵr basech chi'n cytuno bod perthynas y ddau frawd wedi dod drosodd yn wych ynddi hi. Mae sawl diwrnod arbennig yn ystod y flwyddyn i ddathlu'r hyn neu'r llall on'd oes yna? Ond oeddech chi'n gwybod bod Diwrnod Rhyngwladol y Piano i'w gael? Catrin Haf Jones fuodd yn holi'r pianydd Gwenno Morgan ar Dros Ginio a gofyn iddi hi beth mae'r diwrnod arbennig hwn yn ei olygu iddi hi…Offeryn InstrumentCyflawni To achieveAnwybyddu To ignoreCymryd yn ganiataol Taking for grantedCerddorfa OrchestraCyfeilyddion AccompanistsHyblyg FlexibleY deunawfed ganrif 18th centuryEsblygu To evolvePigion y Dysgwyr – Isabella Ac mae perfformio yn ganolog i'r sgwrs nesa ‘ma wrth i ni wrando ar Aled Hughes yn sgwrsio gyda Isabella Colby Browne, actores sydd wedi dysgu Cymraeg, ac sydd erbyn hyn yn actio yn Gymraeg ar lwyfan gyda chwmni Arad Goch.… Mae Isabella yn dal i gael gwersi Cymraeg ar-lein ac mae hi am fynd ar gwrs i Nant Gwrtheyrn cyn bo hir. Yr Wyddgrug MoldLlwyfan StageO ddifri(f) SeriouslyTanio dy frwdfrydedd Sparked your enthusiam Argraff enfawr A huge impressionDiwylliant CultureAilgysylltu To reconnectParch Respect

piano fe wel ond beti cymraeg gymraeg dyma podlediad twin town abertawe ebrill gaernarfon beti george
Beti a'i Phobol
Yr Arglwydd Dafydd Wigley

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Mar 12, 2024 76:58


Yr Arglwydd Dafydd Wigley yw gwestai Beti George, a hynny 50 mlynedd ers ei ethol i San Steffan eleni. Mae'n trafod hanesion ei fywyd prysur ac yn dewis ambell gân.Wedi 50 mlynedd mewn gwleidyddiaeth mae'r Arglwydd Dafydd Wigley wedi penderfynu ymddeol o Dŷ'r Arglwyddi eleni. Mae'n dal record o ran Aelod Seneddol i gynyddu'r bleidlais a chynyddu canran y bleidlais a hynny mewn 5 etholiad yn olynol. Mae e wedi cynrychioli Arfon yn Senedd San Steffan am 27 mlynedd. Fe gafodd Mr Wigley ei ethol yn gynghorydd Plaid Cymru ym Merthyr yn 1972, cyn cynrychioli Caernarfon yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1974 a 2001.Roedd yn Aelod Cynulliad i Gaernarfon rhwng 1999 a 2003 ac mae wedi bod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ers 2011."Pan ddes i Dŷ'r Arglwyddi gyntaf ddeng mlynedd yn ôl, doedd aelodau fan hyn ddim yn cael ymddeol, mi oeddan nhw'n mynd allan pan oeddan nhw'n marw. Ond wrth gwrs mae hawl i ymddeol wedi dod i fewn."Cawn stori'r Gangster, Murray the Hump - Llewellyn Morris Humphreys, fyddai wedi bod yn drydydd cefnder i Dafydd Wigley, ef wnaeth greu Las Vegas , cafodd ei recriwtio gan Al Capone ac a oedd ganddo ran yn llofruddiaeth JFK?

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 20fed o Chwefror 2024

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Feb 20, 2024 12:24


Pigion Dysgwyr – Crempog Roedd hi'n Ddydd Mawrth Ynyd ddydd Mawrth diwetha a chafodd Shan Cothi gwmni Lisa Fearn, y gogyddes a'r awdures, ar ei rhaglen. Dyma Shan a Lisa yn sgwrsio am grempogau neu bancos!!!! Dydd Mawrth Ynyd Shrove TuesdayCrempogau/pancos PancakesPoblogaidd PopularIseldiroedd NetherlandsFfrimpan Padell ffrioBurum YeastDwlu ar Hoff iawn oGwead TextureTwym CynnesDodi Rhoi Pigion Dysgwyr – Cefn Shan Cothi a Lisa Fearn oedd y rheina'n sôn am y gwahanol mathau o grempogau sydd i'w cael. Dych chi'n cael problemau gyda'ch cefn? Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae bron i filiwn o bobl y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod nhw'n rhy dost i weithio oherwydd poen yn eu cefnau. Cafodd Gwyn Loader, oedd yn cadw sedd Jennifer Jones yn dwym bnawn Mawrth, sgwrs gyda Fflur Roberts o Gaernarfon, sy'n ffisiotherapydd ers pymtheg mlynedd. Gofynnodd Gwyn iddi hi'n gynta oedd hi'n credu bod y nifer o bobl sy'n gweithio o gartre ers y pandemig wedi gwneud y sefyllfa'n waeth? Swyddfa Ystadegau Gwladol Office for National StatisticsYn rhy dost Yn rhy sâlY Deyrnas Unedig The UKCymalau JointsGwanio To weaken Pigion Dysgwyr – Chicago Y pandemig wedi gwneud drwg i'n cefnau ni yn ôl y ffisiotherapydd Fflur Roberts a chyngor pwysig iawn ganddi am yr angen i symud o'r sgrîn bob hyn a hyn.. Mae Cymdeithas Gymraeg Chicago yn dathlu chwarter canrif o fodolaeth eleni. Aelod o'r Gymdeithas yw Catrin Rush o ardal Aberporth ger Aberteifi yn wreiddiol, a chafodd hi sgwrs gyda Aled Hughes ddydd Mercher. Gofynnodd Aled iddi hi faint o aelodau oedd gan y Gymdeithas... Chwarter canrif Dau ddeg pum mlyneddBodolaeth ExistenceTu fas Tu allanDigwyddiad EventGoleuo IlluminatedPigion Dysgwyr – Y Lleuad Llongyfarchiadau mawr i Gymdeithas Gymraeg Chicago a phob hwyl ar y dathlu on'd ife? Bore Iau diwetha cafodd Gwenllian Grigg a Dylan Ebenezer gwmni Geraint Jones ar Dros Frecwast i sôn am deithiau roced i'r lleuad gan gychwyn ym mis Rhagfyr 1972. Unol Daleithiau USAY lleuad The moonGlanio To landLlwyddiannus ofnadwy Terribly successfulGofodwyr AstronautsPridd SoilLlwch DustAflwyddiannus UnsuccessfulYmdrechion Attempts Pigion Dysgwyr – Rex Ychydig o hanes teithiau i'r lleuad yn fanna ar Dros Frecwast. Fore Gwener diwetha ar eu rhaglen cafodd Trystan ac Emma gwmni y ffermwr o Abergwaun Charles Lamb. Mae gan Charles gi defaid annwyl iawn o'r enw Rex. Mae Rex yn dipyn o gymeriad ac yn fwy na pharod i ddangos i Charles beth mae e'n hoffi a beth mae e'n ei gasau Yn fwy na pharod More than readyFfindir Finland Pigion Dysgwyr – Aderyn y MisRex yn ei gwneud yn glir nad oedd e am fynd i'r gwely! Bob mis ar ei rhaglen mae Shan Cothi yn cael cwmni yr adarwr Daniel Jenkins Jones i sôn am Aderyn y Mis. Y tro ‘ma y Gornchwiglen oedd o dan y chwyddwydr a dyma Daniel i sôn mwy am yr aderyn arbennig hwn…. Adarwr OrnithologistCornchwiglen LapwingChwyddwydr Microscope Yn gyfarwydd Familiar Nythu To nest Wedi prinhau Has become scarce Gwarchodfeydd natur Nature reserves Pert Del Adenydd Wing Pluen Feather Trawiadol Striking

Pod Sgorio
Pod 85: Rhagolwg Rownd Derfynol Nathaniel MG

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Jan 17, 2024 26:49


Pod 85: Rhagolwg Rownd Derfynol Nathaniel MG Sioned Dafydd ac Ifan Gwilym sy'n edrych nôl ar dydd Sadwrn prysur wrth i Gaernarfon cadw eu lle yn y Chwech Uchaf ar drael Hwlffordd. Yna, mae Sioned wedi bod yn sgwrsio rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG gyda'r rheolwyr a chwaraewyr y ddau glwb; Y Seintiau Newydd ac Abertawe dan21. Sioned Dafydd and Ifan Gwilym look back at a chaotic Saturday that saw Caernarfon Town keep their spot in the Top Six at the expense of Haverfordwest County. Then, Sioned talks to both managers and a couple of players from The New Saints and Swansea City under21's before the Nathaniel MG Final this coming Saturday.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 16eg o Ionawr 2024.

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jan 16, 2024 12:44


Pigion Dysgwyr – Gwyneth Keyworth Mi fydd yr actores o Bow Street ger Aberystwyth, Gwyneth Keyworth, yn perfformio mewn cyfres ddrama deledu newydd, Lost Boys and Fairies cyn bo hir. Dyma Gwyneth ar raglen Shelley a Rhydian yn sôn mwy am y ddrama a'i rhan hi ynddi. Cyfres SeriesYmdrin â To deal with Mabwysiadu To adoptHoyw GayTyner Gentle Pigion Dysgwyr – Ian Gwyn Hughes Gwyneth Keyworth oedd honna'n sôn am ei rhan hi yn y ddrama deledu newydd Lost Boys and Fairies . Gwestai Arbennig rhaglen Bore Sul oedd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Yn ystod ei sgwrs gyda Betsan Powys mi soniodd Ian am ei weledigaeth pan ddechreuodd weithio efo'r Gymdeithas Bêl-droed. Gweledigaeth VisionPennaeth Cyfathrebu Head of CommunicationCyflwyno IntroduceNaws Cymreig A Welsh ethosPlannu hadau Planting seedsGorfodi To forceDiwylliant CultureHunaniaeth IdentityCynrychioli To representBalchder PrideYmateb To respondGan amlaf More often than not Pigion Dysgwyr – Nayema Khan Williams Cofiwch y gallwch chi wrando ar sgwrs gyfan Ian Gwyn Hughes unrhyw bryd sy'n gyfleus i chi drwy fynd i wefan neu ap BBC Sounds. Nayema Khan Williams ymunodd â Beti George ar Beti a'I Phobol wythnos diwetha. Mae Nayema a'i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Mi gafodd hi ei magu yng Nghaernarfon, ond roedd ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn yn dod o Bacistan yn wreiddiol. Daeth ei thad draw yn y 50 i Gaernarfon, ac ar y dechrau mi fuodd o'n gwerthu bagiau o gwmpas tafarndai. Wedyn mi fuodd yn gwerthu bagiau ym marchnad Caernarfon ac mewn marchnadoedd eraill am flynyddoedd. Dyma Nayma yn sôn am ei ffydd…… Ffydd FaithDwyn i fyny Brought upGweddïo To prayAballu And so onPigion Dysgwyr – Pilates Nayema Khan Williams o Gaernarfon yn fanna yn sôn ychydig am Islam. Drwy gydol wythnos diwetha thema Rhaglen Aled Hughes oedd “ Dydy hi byth yn rhy hwyr” sef cyfres o eitemau i annog gwrandawyr i sylweddoli nad ydy hi byth yn rhy hwyr i wynebu sialensau newydd. Mi ymwelodd Aled ag Eirian Roberts yng Nghaernarfon i gael gwers Pilates. A dyma sut aeth pethau Annog To encourage Garddwrn WristY glun The hipAnadlu To breathAsennau HipsTueddu i or-ddatblygu Tend to over developSbio Edrych Pigion Dysgwyr – Chloe Edwards Gobeithio bod Aled yn iawn ynde ar ôl yr holl ymarferion Pilates ‘na! Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu Cymraeg chwaith, ac un sydd wedi profi hynny ydy Chloe Edwards. Fore Mercher diwetha ar raglen Aled Hughes mi soniodd Chloe wrth Aled am y daith mae hi wedi gymryd i ddod yn rhugl yn yr iaith. Trwy gyfrwng Through the mediumGweithgareddau Activities Pigion Dysgwyr – Pantomeim Ac mae Chloe newydd ymuno â thîm tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor. Pob lwc iddi hi ynde? . Nos Fawrth ddiwetha ar ei rhaglen mi gafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Rhian Lyn Lewis. Mae Rhian ar hyn o bryd yn chwarae rhan un o'r gwragedd drwg ym Mhanto y Friendship Theatre Group yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli. Gofynnodd Caryl iddi hi'n gynta ers pryd mae'r cwmni wedi bod yn perfformio Pantomeim Elusennau CharitiesLlwyfan StagePres ArianBant I ffwrddY brif ran The main partYmylol PeripheralTywysoges PrincessTylwyth teg Fairy

Beti a'i Phobol
Nayema Khan Williams

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 14, 2024 50:12


Nayema Khan Williams sy'n ymuno â Beti. Mae Nayema a'i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Cawn glywed ei hanes difyr yn mentro o fyd y gwasanaeth iechyd i fyd triniaethau anfeddygol. Cafodd ei magu yng Nghaernarfon, daeth ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn y ddau'n wreiddiol o Pacistan. Daeth ei thad draw yn y 50/60au i Gaernarfon ac fe ddilynodd ei mam wedyn . Mae Nayema yn un o naw o blant a hi ydi'r ieuengaf ond un. Gwraig tŷ oedd ei mam a phan ddaeth ei thad draw o Bacistan i gychwyn bu'n gwerthu bagiau o gwmpas y tafarndai. Yna bu'n gwerthu bagiau yn farchnad Caernarfon ac mewn marchnadoedd eraill am flynyddoedd. Cafodd ei magu'n Moslem ac 'roedd ei thad yn ffigwr blaenllaw yn y Mosque ym Mangor. Mae Naymea'n credu'n gryf fod angen mwy o ferched fentro mewn busnesau ac na ddylai merched ddim bod ofn cymryd y risg i ddechrau a chychwyn busnesau eu hunain.

khan mosque beti moslem s4c caernarfon yna mangor cawn cafodd daeth gaernarfon nghaernarfon
Pod Sgorio
Pod 70: Penwythnos Agoriadol

Pod Sgorio

Play Episode Listen Later Aug 15, 2023 33:38


Pod 70: Penwythnos Agoriadol Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer, ac Ifan Gwilym sy'n trafod penwythnos agoriadol Uwch-gynghrair Cymru, gan gynnwys y fuddugoliaeth fawr i Gaernarfon ym Mae Colwyn o flaen camerau byw Sgorio. Cyfle hefyd i drafod crysau gorau'r tymor newydd, golwyr yn sgorio yn yr ail haen, a bywyd heb Fantasy Football. Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer, and Ifan Gwilym discuss the opening weekend of the Cymru Premier, including the big win for Caernarfon at Colwyn Bay in front of Sgorio's live cameras. There's also time to discuss the best kits of the new season, goalscoring keepers in the Cymru South, and the peace and quiet of life without Fantasy Football.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 27ain o Fehefin 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jun 27, 2023 10:59


Pigion Dysgwyr – Sulwyn Thomas Gwestai gwadd rhaglen Bore Cothi ddydd Llun wythnos diwetha oedd y darlledwr Sulwyn Thomas. Am flynyddoedd lawer roedd gan Sulwyn raglen yn y bore ar Radio Cymru. Roedd e'n dathlu ei ben-blwydd yn 80 yn ddiweddar a gofynnodd Shan Cothi iddo fe beth yw cyfrinach cadw'n ifanc ei ysbryd Darlledwr Broadcaster Cyfrinach Secret Ysbryd Spirit Ffodus Lwcus Cam bihafio Misbehaving Newyddiadurwr Journalist Bant I ffwrdd Dyfalu To guess Pigion Dysgwyr – Ann Ellis Sulwyn Thomas yn fanna'n swnio'n llawer ifancach nag wythdeg oed, a gobeithio iddo fe fwynhau'r dathlu yn Nhŷ Ddewi on'd ife? Ann Ellis yw un o benaethiaid cwmni Mauve Group sydd ar fin cael ei bresenoldeb cynta yng Nghymru. Mae'r cwmni yn helpu busnesau sefydlu mewn gwledydd newydd ar draws y byd. Yn ddiweddar ar raglen Bore Sul sgwrsiodd Ann gyda Bethan Rhys Roberts a dyma hi‘n sôn am sut dechreuodd y cwmni mewn cwpwrdd yn yr Eidal…. Sefydlu To establish Ar fin cael About to have Penaethiaid Heads Hardd Pretty Uwchben Above Pigion Dysgwyr – Richard Hughes Rhyfeddol on'd ife, fel mae'r cwmni bach wedi tyfu i weithio mewn dros gant o wledydd! Richard Hughes o Gaernarfon oedd gwestai gwadd Beti George ar Beti a'i Phobol yr wythnos diwetha. Mae e wedi bod yn gweithio ym maes cyfrifiadureg a mathemateg ers y 60au. Mae'n rhaglennydd cyfrifiadureg ac wedi gweithio ar systemau ym meysydd awyr Heathrow a Charles de Gaulle. Cynhaliodd Beti y sgwrs ar Zoom a gwrandewch ar be sydd gan Richard i ddweud am hynny….. Cyfrifadureg Computer science Rhaglennydd Programmer Yn ddyddiol Daily Arbenigo To specialise Chwedl y Sais As they say in English Addas Appropriate Rhan helaeth The majority Dadansoddi To analyse Pigion Dysgwyr – Ian Parry Mae ieithoedd cyfrifiadureg yn swnio'n llawer mwy cymhleth na'r Gymraeg on'd yn nhw? Buodd Ian Parri'n gweithio fel newyddiadurwr, fel tafarnwr ac fel tiwtor Cymraeg i Oedolion ac nawr mae e newydd gyhoeddi llyfr ar Wyddeldod. Buodd Ian yn gyrru o amglych arfordir Iwerddon am naw wythnos yn ei gartre modur. Dyma fe i sôn mwy am y daith wrth Dei Tomos... Gwyddelod Irishness Y Weriniaeth The Republic Dulyn Dublin Ymestyn To extend Y machlud The sunset Yn ei anterth At its peak Trefniant swyddogol Official arrangement Penrhyn Peninsula Yn ei sgil As a consequence Pigion Dysgwyr – Talwrn Ian Parri oedd hwnna'n sôn am ei daith o gwmpas Iwerddon. Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy Y Talwrn a'r wythnos diwetha y ddau dîm oedd yn cymryd rhan oedd Dros yr Aber a Dwy Ochr i'r Bont. Cafodd y rhaglen ei recordio yn Neuadd Bentref Y Groeslon yng Ngwynedd. Dyma Ceri Wyn Jones yn gosod un o'r tasgau ar gyfer y beirdd… Mawl Praise Dychan Satire Casâf Dwi'n casáu Hy Audacious Yr heidiau The swarm Oedi Staying Cyn ymlwybro Before making their way Fe lofruddiaf I will murder Malwod di-frys Unhurried snails Ochneidio Groaning Pigion Dysgwyr – Cor Dysgwyr Ardal Wrecsam Dw i'n falch mai malwod mae Rhys am eu lladd – ro'n i'n poeni am ychydig pwy oedd e'n mynd i fwrw gyda'r rhaw yna! Bore Mercher diwetha ar raglen Shan Cothi cafodd Shan gwmni Pam Evans Hughes. Pam yw arweinydd Côr Dysgwyr Ardal Wrecsam, neu Côr DAW, a dyma hi i esbonio mwy am hanes y côr… Bwrw To hit Rhaw Spade Arweinydd Conductor Cerddorol Musical Trwy gydol fy oes All my life Traddodiadol traditional

Beti a'i Phobol
Richard Hughes

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jun 25, 2023 51:41


Arbenigwr ar gyfrifiaduron a mathemateg o Gaernarfon, Richard Hughes ydi gwestai Beti George. Mae'n raglennydd cyfrifiadureg, ac wedi gweithio ar systemau gweithredu ym meysydd awyr Heathrow a Charles de Gaulle. Mae wedi dysgu 10 o ieithoedd cyfrifiadurol, ac ati ac wedi ysgrifennu sawl rhaglen gyfrifiadurol ei hun. Bu'n gyrru lori, yn gwneud cyfrifiadur ar gyfer y ffilm Billion Dollar Brain efo Michael Caine yn y 60'au ac mae'n mwynhau chwarae'r ffliwt a dyfarnu snwcer, ac mae wedi ymgartrefu yn yr Almaen ers blynyddoedd.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Ebrill 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Apr 11, 2023 13:58


Pigion Dysgwyr – Al Lewis Ar Beti a'i Phobol dydd Sul diwetha cafodd Beti gwmni y cerddor Al Lewis fel gwestai. Esboniodd Al sut aeth e ati i sgwennu llythyrau ac i e-bostio er mwyn cael gwaith yn Nashville, Tennessee a llefydd eraill…… Cynhyrchydd Producer O fewn Within Cerddoriaeth Music Dychmygu To imagine Breuddwydion Dreams Hynod dalentog Extremely talented Profiad anhygoel An incredible experience Hwb A boost Ar y trywydd iawn On the right track Cael ei barchu Being respected Pigion Dysgwyr – Sonia Edwards Profiad anhygoel i Al Lewis yn fanna yn Nashville, Tenesse. Buodd y nofelydd Sonia Edwards yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar ei raglen yr wythnos diwetha am ei nofel ddirgelwch newydd. Dyma Sonia i sôn mwy…. Llacio To loosen Dirgelwch Mystery Llofruddiaeth Murder Yn feddalach Softer Ymgynghori To consult Ymchwil To research Cyffuriau Drugs Darganfod To discover Yn ymarferol Practical Doethuriaeth PhD Pigion Dysgwyr – Jason Mohammad A dyna i chi Sonia Edwards yn rhoi blas i ni ar ei nofel ddirgelwch newydd fydd yn y siopau'n fuan. Un o westai Shelley a Rhydian yn ddiweddar oedd y darlledwr Jason Mohammad. Mae Shelley a Rhydian yn rhoi cyfle i'w gwestai bob wythnos ddewis caneuon Codi Calon. Un o ddewisiadau Jason oedd “Pride in the Name of Love” gan U2. Dyma fe i sôn mwy am ei ddewis….. Yn ddiweddar Recently Darlledwr Broadcaster Codi Calon Raising the spirits Cyfweliadau Interviews Watsio Gwylio T'm bod Rwyt ti'n gwybod Atgofion Memories Pigion Dysgwyr – Theatr Wild Cats Y darlledwr Jason Mohammad oedd hwnna'n esbonio pam mai “Pride in the Name of Love” oedd ei ddewis fel Cân Codi Calon. Ac roedd angen codi calon arno gan i'w dîm, Dinas Caerdydd, golli i Abertawe yn y ‘Derby' Cymreig nes ymlaen y diwrnod hwnnw. Yn Aberhonddu mae yna gwmni theatr arbennig wedi ei sefydlu o'r enw Theatr Wild Cats sy'n gweithio gydag unigolion sydd ag anableddau dysgu. Mae Gwenno Hutchinson yn gwirfoddoli gyda'r Theatr ac esboniodd hi wrth Caryl Parry Jones ar ei rhaglen nos Fawrth, sut aeth ati i helpu'r criw….. Anableddau dysgu Learning disabilities Gwirfoddoli To volunteer Gweithgaredd Activity Yn gyfleus Convenient Haeddu To deserve Cyfraniad Contribution Cymdeithasu To socialise Celfyddydau Arts Pigion Dysgwyr – Vaughan Evans Gwenno Hutchinson oedd honna'n sôn am y gwaith pwysig mae Theatr Wild Cats yn ei wneud. Dych chi yn gwybod beth yw Northern Soul? Wel, daeth Vaughan Evans ar raglen Aled Hughes fore Llun wythnos diwetha i esbonio mwy am y symudiad cerddorol hwn…… Symudiad cerddorol Musical movement Tanddaearol Underground Curiad Beat Cefn gwlad The countryside Tywyll Dark Digalon Downhearted Pigion Dysgwyr – Dylan Rhys Parry A dyna ni'n gwybod llawer mwy am Northern Soul a'r Wigan Casino nawr, diolch i Vaughan Evans. Mae Dylan Rhys Parry wedi ei ddewis fel un o arweinwyr y rhaglen deledu S4C Ffit Cymru am 2023. Gweinidog yw Dylan sy'n byw yn Coety ger Pen-y-bont ar Ogwr, ond sy'n dod o Gaernarfon yn wreiddiol. Buodd Dylan yn sgwrsio gyda Heledd Cynwal fore Mercher diwetha a gofynnodd Heledd iddo fe'n gyntaf pam ei fod e wedi rhoi ei enw ymlaen i fod yn rhan o'r gyfres.…….. Gweinidog Minister Y gyfres The series Gwaed Blood Clefyd siwgr Diabetes Canlyniadau Results Ysgogiad Impetus Canrannau Percentages

Beti a'i Phobol
Y Parchedig John Owain Jones

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 27, 2022 51:30


Mae'r Parchedig John Owain Jones yn ymddeol fel Gweinidog ar Ynys Bute yn mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel Gweinidog yno. Cafodd ei eni yn Llanelwy a'i fagu yn Rhyl nes roedd yn 13 oed, cyn symud i Gaernarfon. Roedd ei Dad yn gweithio i'r Swyddfa Bost a chafodd swydd fel Post feistr yn Nghaernarfon. Mae cysylltiad Owain â'r Alban wedi bod yno bron o'r cychwyn. Wedi i'w rieni ddyweddïo roedd ei Dad eisiau arian i brynu tŷ felly aeth i weithio am gyfnod i'r Swyddfa Bost yn Rhodesia. Ar y llong ar ei ffordd draw yno rhannodd fync ar y llong gyda David Walker a oedd yn dod o Ynys Bute. Daeth ei Dad ac yntau'n ffrindiau pennaf a bu'n was priodas i'w Dad. Priododd ei fam a'i dad yn Salisbury, Rhodesia (Harare bellach). Priodwyd y ddau yn y Second Presbyterian Church ac roedd y Gweinidog yn dod yn wreiddiol o St Andrews (lle bu Owain yn y Brifysgol), a dychwelodd David yn ôl i Ynys Bute yn ddiweddarach. David hefyd oedd tad bedydd Owain a'i frawd Gethin. Bob haf roedd y teulu'n mynd draw i Ynys Bute ar wyliau. Roedd hynny yn un o'r rhesymau pam y dewisodd Owain Brifysgol St Andrews. Yn ddiweddarach fe aeth Owain i Rhodesia am gyfnod i weinidogaethu. Mae Owain yn cyfrannu'n gyson i'r slot Thought for Today Radio Alban ac wedi cyfrannu hefyd i'r Daily Service ar Radio 4. Fe fydd hefyd yn cyfrannu ar Munud i Feddwl, Radio Cymru. Mae'n rhannu straeon am ei fywyd ac yn dewis ambell i gân.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 1af o Dachwedd 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Nov 1, 2022 17:27


BORE COTHI Buodd Mari Grug yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes ddechrau'r wythnos diwetha, a chafodd hi sgwrs gyda Eirian Muse o Garmel ger Caernarfon am greu basgedi. Dechreuodd diddordeb Eirian mewn basgedi pan gafodd daleb i fynd i weithdy creu basgedi fel anrheg penblwydd tua phum neu chwe blynedd yn ôl. Dyma Eirian yn dweud yr hanes… Taleb - Voucher Ar hap - Accidentally Helyg - Willow Sir Amwythig - Shropshire Cymhwyster - Qualification Gwledig - Rural Hwb - A boost Gwlad yr Haf - Somerset Cynnyrch adnewyddadwy - Renewable produce Hyblyg - Pliable Trwch - Thickness BETI A'I PHOBL Eurig Druce ydy Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni ceir Citroën yn y Deyrnas Unedig a fe oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae'n dod o bentref Bethel ger Caernarfon yn wreiddiol a phwy gwell nag Eurig i drafod ceir gyda Beti. Dyma i chi flas ar y sgwrs … Rheolwr Gyfarwyddwr - Managing Director Y Deyrnas Unedig - The UK Anferth - Huge Cynhyrchu'n unigol - Individually produced Diwydiant - Industry Sylfaen - Foundation Trydanol - Electrical Perthnasol - Relevant ALED HUGHES Roedd y grŵp cerddorol HAPNOD yn boblogaidd yn ystod yr 80au. Roedd pedwar aelod o'r grŵp - Cefin Roberts, Rhian Roberts, Gwyn Vaughan Jones ac Ann Llwyd. Dyma nhw'n sôn wrth Aled Hughes sut cafodd y grŵp ei ffurfio yn y lle cynta, Ann sy'n siarad gynta. Tywysog - Prince Trefniannau - Arrangements Emynau - Hymns Cyfres - Series Unig - Lonely Cyhoeddus - Public Dere - Tyrd JONATHAN YN 60 Mae'r cyn-chwaraewr rygbi Jonathan Davies yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 eleni a buodd e'n edrych yn ôl ar ei fywyd a'i yrfa gyda Sarra Elgan. Dyma fe'n sôn am yr adeg pan fuodd ei dad farw, a Jonathan ond yn bedair ar ddeg oed. Paratoi - To prepare Twlu - Taflu Yn grac - Yn flin Llefain - Crïo Cyfnod - Period Mam-gu - Nain CLONC Roedd yna gystadleuaeth rhyfedd iawn ar Radio Cymru wrth i Radio Clonc gymryd drosodd tonfeddi Radio Cymru nos Fawrth. Dyma i chi “Richard” o Gaernarfon yn trïo ennill gwobr fawr cystadleuaeth Alff a Bet… Rhyfedd - Strange Tonfeddi - Wavelength Di o'm bwys - Dydy o ddim yn bwysig Llythyren - Letter Asiantaeth Gofod - Space Agency Teyrnas - Kingdom Madarch - Mushroom Unigryw - Unique COFIO Cymdeithas oedd thema'r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy bnawn Sul. Dyma glip o raglen o ddiwedd y ganrif ddiwetha gyda phobl ar draws Cymru, yn hen ac ifanc, yn trafod sut mae cymdeithas a chymuned wedi newid. Cymuned - Community Rhywsut - Somehow Elfen - Element Bodoli - To exist Y cymoedd - The valleys Fawr o neb - Hardly anyone Hwn a'r llall - This and that Tlodi - Poverty Hela cwningod - Hunting rabbits Hwyrach - Efallai Parch - Respect Wedi darfod - Has ceased to exist

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU : MARI LOVGREEN

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Oct 21, 2021 42:58


Na, nid camgymeriad yw sillafiad cyfenw fy ngwraig gwadd wythnos hon, Mari Lovgreen. S'nam e!!!

cymru s4c radio cymru gaernarfon
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 30ain o Orffennaf 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jul 30, 2021 16:05


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … LISA ANGHARAD Dych chi wedi bod ar wyliau y tu allan i Gymru a chlywed pobl yn siarad Cymraeg? Yn ôl cyflwynydd y rhaglen deledu Cynefin, Sion Thomas Owen, mae hyn yn digwydd iddo fe bob tro mae'n mynd i ffwrdd. Fe oedd gwestai Lisa Angharad fore Gwener ar RC2, a dyma i chi ychydig o'r hanesion rannodd e am ei wyliau.... Cyflwynydd Presenter Mam-gu Nain Mo'yn Eisiau Cnoi Brathu Anghyfarwydd Unfamiliar CARYL AC ALUN Sion Thomas Owen oedd hwnna'n sôn am ddod ar draws pobl o Gymru ar ei wyliau. Cyflwynydd newydd Sioe Frecwast Bore Sul ar RC2, Miriain Iwerydd, oedd gwestai arbennig Caryl ac Alun yr wythnos yma. Mae'n debyg bod Mirain yn hoff iawn o fisgedi a dyma hi'n dewis ei hoff rai... Mae'n debyg Apparently STIWDIO Dych chi'n cytuno gyda dewis Mirain? Mae'n rhaid dweud bod y bisged siocled tywyll yn swnio'n hyfryd! Mae Oriel Môn, oriel gelf ger Llangefni ar Ynys Môn, yn 30 oed eleni ac i nodi'r penblwydd hwnnw cafodd Nia Roberts sgwrs gydag artist o Fôn, Iwan Gwyn Parry, ar Stiwdio nos Lun. Cafodd yr oriel ei hagor yn wreiddiol er mwyn dangos gwaith yr artist bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe, ac mae Iwan yn cofio gweld Tunnicliffe wrth ei waith pan oedd Iwan yn blentyn bach. Pa effaith cafodd hynny ar ei yrfa fel artist tybed...? Oriel gelf Art gallery Cyffredin Common Ymwybodol Aware Dylanwad Influence Trobwynt Turning point Isymwybod Sub-conscious Efelychu To emulate Esblygu To evolve Unigryw Unique Ewyllys Will Cenhedlaeth Generation MOEL Mae Iwan Gwyn Parri wir yn gobeithio bydd e'n berchen ar y darlun hwnnw rywdro on'd yw e? Mae gan Aled Hughes bodlediad gwych o'r enw Moel sy'n trafod pob math o bynciau gwahanol - a'r tro hwn, Ffilmiau Mawr Hollywood oedd yn cael sylw ac yn y clip hwn mae'n trafod ‘Gone with The Wind'... Moel Bald Oedi To delay Dal allan Caught out Heb ‘di Ddim wedi Anhygoel Incredible Ail-adeiladu To rebuild Enfawr Huge Y meddylfryd Mentality SARA GIBSON Ac o bodlediad ‘Moel' i glip sy'n sôn am steiliau gwallt. Sara Gibson oedd yn cyflwyno rhaglen Aled ar Radio Cymru wythnos diwetha a chafodd hi air gyda'r barbwr Jason Parry o Gaernarfon am ddylanwad pêl-droedwyr ar ffasiwn gwallt dynion. Enghraifft Example Yn gyffredinol Generally Ers talwm In the past Poblogaidd Popular Be ddiawl...? What on earth...? SIOE FAWR SHAN Ie, diddorol on'd ife - dw i'n siŵr eich bod yn cofio i lawer o blant ifanc Cymru liwio eu gwalltiau yn wyn er mwyn efelychu Aaron Ramsey pan oedd yn chwarae i Gymru yn Euros 2016. Roedd y Sioe Fawr, neu'r Sioe Frenhinol, ar ffurf wahanol eleni – ac er nad oedd posib mynd i Lanelwedd i fwynhau'r Sioe, roedd digon o adloniant amaethyddol yn digwydd, ac yn cael ei rannu ar Radio Cymru. A dyw'r sioe ddim yn sioe heb Shan Cothi nac yw? Dyma ran o sgwrs Shan gyda Melanie Owen am… beth arall… ond ceffylau!! Y Sioe Frenhinol The Royal (Welsh) Show Amaethyddol Agricultural Tanio diddordeb To spark an interest Tanllyd Fiery Ymddiried ynddyn nhw Trust in them Hyblyg Flexible Y sylw The attention Pencampwriaethau Championships Pedoli To shoe Berwedig Boiling Prydferth Beautiful

Menter Môn - Sgyrsiau am Gynlluniau / Talks About Projects

Sgwrs rhwng Nathan Craig a Daniel Lewis, ddau o Gaernarfon sydd yn rhan brosiect Llwyddo’n Lleol. Mae hefyd cwpl o leisiau cyfarwydd o’r dre i drafod sut beth yw bod cofi mewn busnes!

Y Sgwrs
Pennod 2: Lockdown Life

Y Sgwrs

Play Episode Listen Later Apr 27, 2020 25:11


Yn pennod 2 byddwn ni'n croesawu Kim, Cynan a Siwan fach o Gaernarfon, Deltyh o Bala, a Llyr ac Angharad o Lanuwchllyn i ymuno yn Y Sgwrs. Byddwn ni'n trafod nappies, teithiau cerdded ben bore, a dod i garu Iesu yn fwy yn ystod y lockdown.

Ar y Marc
Cian Williams - Wrecsam

Ar y Marc

Play Episode Listen Later Sep 14, 2019 30:18


Hanes Cian Williams o Gaernarfon sydd yn y llyfrau hanes am fod y chwaraewr ieuengaf i chwarae i dîm cynta Wrecsam ar y Cae Ras.

cian wrecsam gaernarfon
Podpeth
Podpeth #63 - "Ffrindiau Elin Haf"

Podpeth

Play Episode Listen Later Feb 20, 2019 32:24


Mae'r podlediad gorau o Gaernarfon (os na mae 'na un arall) yn dychwelyd i'r arfer gyda sgwrs hirwyntog a ddibwynt am sgiliau cyflwyno Hywel, gyrfa gyfryngol Elin, Odpethau Iwan, a dyfodol y Podpeth.  Bydd na fwy o Class Cymraeg?  Bydd na fwy o Odpethau?  Bydd na fwy o "PETH!" (y podlediad i blant)?  Pryd da ni am gael gwesteion yn nol?!  PWY FYDD Y GWESTEION?!  Oedd Ross a Rachel ar break?!  Dyma'r cwestiynau da ni isio chi ateb - gadawn ni wybod ar Facebook a Twitter (@Podpeth).  Wsos nesa - SyniaDad!

elin hywel mae'r peth bydd pryd gaernarfon podpeth
Beti a'i Phobol
John Grisdale

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Aug 15, 2017 50:05


Beti George yn sgwrsio gyda John Grisdale. Wedi'i eni ym Mangor a'i fagu ym Mhenisarwaun, symudodd i Gaernarfon pan oedd ond yn blentyn bach. Ar ôl gyrfa ym maes addysg, gan gynnwys dod yn bennaeth Ysgol Brynrefail yn Llanrug yn y 1990au, cafodd swydd gyda Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio ar gynllun cyswllt rhwng yr heddlu a holl ysgolion Cymru. Mae bellach wedi ymddeol, ond yn dal yn aelod gwirfoddol o Dîm Achub Mynydd Llanberis. Fo hefyd oedd un o sylfaenwyr Clwb Mynydda Cymru ar ddiwedd y 1970au.

fo cymru mangor gaernarfon beti george
Podpeth
Podpeth #37 - Gŵyl Arall 2017

Podpeth

Play Episode Listen Later Jul 9, 2017 45:20


Er bod yr hogiau heb gael gwahoddiad i recordio podlediad arbennig yn fyw o Ŵyl Arall, mi wnaethom fynd a'r recordydd sain lawr i Gaernarfon yn ystod yr wyl ar b'nawn Dydd Sadwrn yn yr haul, a dros awr mewn 4 leoliad gwahanol, mi wnaethom lwyddo i recordio...  Podpeth!Dim Elin, SyniaDad, Class Cymraeg, Postpeth, Gwestai Arbennig 'na Odpeth wythnos yma, mond Iwan a Hywel yn yfed ac yn mwydro.  Mwynhewch!

er iwan hywel arall gaernarfon podpeth
Beti a'i Phobol
23/11/2014 - Robert Haynes

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Dec 1, 2014 38:41


Beti George yn holi Robert Haynes o Gaernarfon.

haynes gaernarfon beti george