Trafod pêl-droed o Gymru, Ewrop a thu hwnt. | Welsh-language football fan chat
Ifan, Rhodri, Telor a Rhys sy' nôl i drafod hanner cynta'r tymor yn y Cymru Premier, North a South, y penawdau ar draws Ewrop a Kit Corner AFCON
Ifan, Rhodri, Rhys a Telor sy nôl (o'r diwedd!) i drafod eu uchafbwyntie pêl-droed o'r misoedd dwetha, ac edrych mlan i dymor newydd y Cymru Premier, Bundesliga, La Liga, Ligue 1 a Serie A!
Nick Davies a Jordan Griffiths sy’n ymuno gyda Ligo ar y rhifyn newydd i drafod eu cylchgrawn - Welsh Soccerites - sydd yn dathlu pêl-droed yng Nghymru. Ifan a Rhodri sy’n holi’r ddau am eu atgofion cynnar o ddilyn pêl-droed, eu hoff grysau pêl-droed, ac yn gofyn beth sy’n gwneud pêl-droed Cymreig yn grêt.
Ifan, Rhodri a Telor sy’n edrych ar brif benawdau pêl-droed o Ffrainc, Yr Almaen a’r Eidal, yn ogystal â Chynghrair y Pencampwyr
Ifan, Rhodri, Rhys, a Telor sy’n trafod Club World Cup, crysau Mexico, Twrci, a phrif gynghrieiriau Ewrop
Ifan, Rhodri a Telor (a cameo gan Rhys) sy’n edrych ar rownd derfynol y Copa Libertadores, Ligue 1, Bundesliga, a Phencampwriaeth Gwledydd Affrica
Ifan, Rhodri, Rhys, a Telor sy’n trafod digwyddiadau pêl-droed y cyfandir dros yr wythnos dwetha
Wedi saib dros y Dolig, ma Ligo nôl i edrych ar beth sydd di bod yn digwydd ym myd pêl-droed y cyfandir dros yr wythnose dwetha
Ifan, Rhodri, Rhys, a Telor sy’n bwrw golwg ar y Cymru Premier a phêl-droed o’r cyfandir
Ifan, Rhodri, a Telor yn trafod pêl-droed yr wythnos o’r cyfandir
Ifan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n edeych nôl ar wythnos dda i Gymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd, ac yn trafod pwy arall sydd di cael wythnos i’w gofio (a phwy sydd di cael wythnos i’w anghofio hefyd!)
Ifan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n edrych ar y sefyllfa yng Nghynghrair y Pencampwyr a Chynghrair Ewropa.
Ifan, Rhodri, Rhys, a Telor sy’n edrych ar gynghrieriau ar draws Ewrop heddi, o Gymru i’r Ffindir, o Felarws i’r USA. Ac wrth gwrs, ma wastad amser i drafod y ras am y bencampwriaeth ar Ynysoedd Faro
Ifan, Rhodri, Rhys, a Telor sy’n edrych nôl dros yr wythnos dwetha yn y Cymru Premier, Cynghrair y Pencampwyr, a phrif chynghreiriau’r cyfandir!
Ifan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n edrych nôl ar ffenest ryngwladol cymysg i Gymru. Wedi colli’n drwm yn erbyn yr hen elyn (Lloegr), 4 pt o’r ddau gêm UEFA Nations League yn cadw Cymru ar frig eu grŵp. Odd na gêmau yn y Cymru Premier i’w trafod hefyd, yn ogystal ag edeych mlan at bêl-droed y penwythnos sydd i ddod!
Ifan, Rhodri, Rhys a Telor yn trafod Cymru Premier, Cynghrair y Pencampwyr, gêmau rhyngwladol, a’r ffenest drosglwyddo.
Ifan, Rhodri, a Telor sy’n bwrw golwg ar gêmau diweddar y Cymru Premier, Bundesliga, a Serie A
Criw Ligo yn trafod gêmau agoriadol y Cymru Premier, y Seintiau yn Ewrop, Ligue 1, DFB Pokal a Serie A!
Ifan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n edrych nôl dros ffenest ryngwladol llwyddianus i Gymru, ac edrych mlan at dymor newydd y Cymru Premier
Ifan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n trafod diwedd un tymor yn Ewrop, a dechrau tymor newydd. Ma hefyd digon o amser i drafod crys oddi-cartre newydd Nefyn United!
Wrth i dymor 2019/20 ddod i ben o’r diwedd, Ifan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n edrych nôl ar sawl rownd terfynol ac yn edrych mlan i gystadlaethau UEFA barhau. Ma’r sgwrs am byramid pêl-droed Cymru yn parhau hefyd, gyda newid hwyr i haen 3 ar ôl i STM Sports dynnu mas o’r gynghrair!
Ifan, Rhodri a Rhys sy’n trafod popeth Cymru Leagues wythnos ma wedi newidiadau mawr i’r pyramid pêl-droed yn Haen 3 a 4
Ma criw Ligo yn trafod be ma nhw wedi bod yn gwylio dros y pythefnos dwetha, ac yn cal sgwrs am y crysau newydd sydd yn dod mas ar gyfer tymor nesa
Ifan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n cal catch-up dros Zoom ac yn trafod newyddion y Cymru Premier, gêmau heb dorf yn y Bundesliga, a beth sydd di bod yn digwydd yn y byd pêl-droed yn absenoldeb *actual* pêl-droed!
Ma cyfres nostalgia Ligo nôl, gyda Ifan, Rhodri, Rhys a Telor yn trafod Cwpan y Byd cynta’r ganrif newydd, gan ganolbwyntio ar grysau, gôls, a gwallt!
Ifan, Rhodri, Rhys a Telor sy’n edrych ar beth sy’n digwydd i gynghreiriau ar draws Ewrop ar hyn o bryd, ac yn edrych mlan at adeg pan fydd bywyd normal yn dychwelyd!
Draw i’r tiroedd isel ma Ligo yn mentro wthnos yma wrth edrych nôl ar dwrnament Ewro 2000 gathe i gynal yng Ngwlad Belg a’r Iseldiroedd
Mae’n fis Mai 1996 yn Stadio Olimpico Rhufain, ac yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ma Juventus yn heiro’r deiliaid Ajax. Ymunwch da Ifan, Rhodri, Rhys a Telor wrth iddyn nhw gyd-wylio’r gêm a thrafod llwyddiant y ddau dîm a’u chwaraewyr yn ystod y 90au
Zizou, Bunny Hops, Boteli Bleach, Iran v USA, Reggae Boyz, Kits Cŵl, a Norwy pan o nhw’n dda!
Dentist Chairs, Cheeky Chips, Golden Goals, Fußball’s Coming Home, Fantasy Football, El Tel, Cŵl Croatia, a Chymru’n colli i Georgia a Moldofa. Ymunwch ‘da Ligo wrth iddyn nhw edrych nôl ar dwrnament nath newid pêl-droed yn Lloegr am byth.
Dyw’r Coronavirus ddim am roi stop ar griw Ligo, wrth i Ifan, Rhodri, Rhys, a Telor recordio dros y ffôn wythnos yma tra’n hunan ynysu! Ar yr agenda, mae’r pêl-droed prin sydd yn digwydd yn Ewrop, a golwg nôl ar hoff gêmau cyfrifiadur ein gwrandawyr, ac yn gofyn p’un sydd orau - FIFA neu Pro-Evo?!
Rhodri, Rhys, Telor, ac Ifan sy’n trafod Joe Allen a’r Cymru Premier, ac yn methu osgoi trafod y Coronavirus wrth iddo fe amharu ar bêl-droed ar draws Ewrop
‘Rhybudd: Iaith Anweddus!’ ar y pod wythnos yma wrth i Ifan, Rhodri, Rhys a Telor drafod Nations League, Cwpan Cymru, protests yn y Bundesliga, ac ail-ddechrau’r MLS!
Ma na westai arbennig gyda Ligo wythnos yma wrth i Dylan Ebenezer ymuno da Ifan, Rhodri, Rhys, a Telor. Odd na ddigonedd o bêl-droed i’w drafod yng Nghymru ac Ewrop dros y penwythnos, a ma’r criw yn atgyfodi Kit Corner er mwyn trafod hoff grysau pêl-droed Dylan! ⚽️ Cymru - 00m31e ⚽️ Ewrop - 18m42e ⚽️ Kit Corner Dylan Ebenezer - 37m35e ⚽️ Amser Ychwanegol- 48m34e
Mond Ifan, Rhodri a Rhys sy’n trafod pêl-droed ar y rhifyn yma - wedi penwythnos stormus nath amharu ar sawl gêm!
Rhodri, Rhys, Telor ac Ifan sy’n trafod wythnos o bêl-droed yng Nghymru ac ar y cyfandir. Tipyn i’w drafod gan gynnwys Cardiau Coch a Chynghrair y Pencampwyr
Cast llawn wythnos yma wrth i Rhodri, Telor, Rhys ac Ifan drafod Cwpan y Gynghrair, ail-strwythuro cynghreiriau Cymru, a’r ras am y Bundesliga.
Rhodri, Telor, ac Ifan sy’n edrych nôl ar benwythnos Cwpan Cymru. Tra bod dim un sioc ‘di digwydd yn y Gwpan yng Nghymru, mi odd sawl cynghrair ar draws Ewrop lle nath y rhai ar y brig ildio pwyntiau pwysig!
Ma’r criw Ligo nôl ar ôl egwyl dros y Nadolig, ac yn bwrw golwg nôl ar y tymor hyd yn hyn. Siôn Meurig Lewis sy’n ymuno fel cwis feistr i brofi faint ma Rhodri, Telor, Rhys ac Ifan wedi bod yn talu sylw
Rhodri, Telor, Rhys, ac Ifan sy’n rhannu anrhegion Santa Cudd mewn rhifyn arbennig o Kit Corner, ac yn edrych mlan i’r Nadolig!
Rhifyn ola Ligo yn 2019, wrth i Rhodri, Telor, Rhys ac Ifan drafod Cwpan Cymru, cynghreiriau mawr Ewrop, a threfniadau Ewro 2020!!
Rhodri, Telor, Rhys ac Ifan sy’n trafod gêmau’r Cymru Premier a Cymru South wythnos hyn, yn ogystal â bwrw golwg ar benawdau pêl-droed ar draws Ewrop ac hel atgofion am Championship Manager
Rhodri, Telor, Rhys ac Ifan sy’n trafod Cwpan y Gynghrair, Cymru Leagues, a phencampwyr clybiau De America ac Asia.
Rhodri, Telor, ac Ifan sy’n edrych nôl ar lwyddiant Cymru ac edrych mlaen i’r Ewros haf nesa. Ma hefyd penwythnos o gêmau Cymru Premier i drafod a rhagolwg o rownd derfynol y Copa Libertadores!
Rhodri, Telor, Rhys, ac Ifan sy’n edrych mlaen at gêmau Cymru yn erbyn Azerbaijan a Hwngari. Ar yr agenda: Hanes Azerbaijan ers chwarae Cymru (02m06e) Hwngari (09m36e) Gweddill y gêmau rhagbrofol (25m00e) Amser Ychwnaegol - Cymru Premier, Cwpan Cymru, Ligue 1 a Bundesliga (32m40e) Gwrandewch, tanysgrifiwch, rhannwch gyda'ch ffrindiau, a gadewch ni wybod be chi'n feddwl trwy gysylltu ar Twitter @podligo
Ar noson tân gwyllt, ma Rhodri, Telor, Rhys ac Ifan yn trafod pêl-droed y penwythnos o Gymru ac Ewrop. Ma’r 4 hefyd yn hel atgofion o’r gêmau cynta iddyn nhw weld yn fyw, ac yn rhannu straeon y gwrandawyr. Mae hefyd digon o amser i drafod crys newydd Cymru!
Rhodri, Telor ac Ifan sy’n edrych nôl dros gêmau’r penwythnos yng Nghymru ac Ewrop, ac edrych mlaen at y gêm ddarbi Berlin gynta i’w chwarae yn y Bundesliga. Ja!
Rhodri, Telor, Rhys ac Ifan sy'n trafod pêl-droed y penwythnos o Gymru ac Ewrop, gan gynnwys bloopers y Cymru Premier, pencampwyr Scandinavia 2019, a edrych nôl ar memorabilia y 90au. Cwpan Cymru a'r Cymru Premier (00m26e) Cynghreiriau Ewrop (10m53e) Modelau Corinthian (22m15e) Amser Ychwanegol (32m35) Gwrandewch, tanysgrifiwch, rhannwch gyda'ch ffrindiau, a gadewch ni wybod be chi'n feddwl trwy gysylltu ar Twitter @podligo
Rhodri, Telor ac Ifan sydd wedi mynd draw i dŷ Rhys i drafod gêmau rhyngwladol, gêmau’r Cymru Leagues, ac esgidiau Cei Connah yn y Tunnock’s Caramel Teacake Irn-Bru Wafer Challenge Cup of Scotland. Gêmau rhagbrofol Ewro 2020 (00m26e) Cymru Leagues (23m05e) Amser Ychwanegol (32m54e) Gwrandewch, tanysgrifiwch, rhannwch gyda'ch ffrindiau, a gadewch ni wybod be chi'n feddwl trwy gysylltu ar Twitter @podligo
Rhodri, Telor, Rhys, ac Ifan sy’n cael cysgod o’r glaw mewn caffi yng Nghaerdydd ac yn trafod gêmau rhyngwladol Cymru, un o derbys Belffast, y diweddara gyda Bangor 1876, a’r ras agored am y Cymru Premier! Intro (00m00e) Slofacia (03m07e) Croatia (08m59e) Gogledd Iwerddon - Derby Belffast (19m54e) Cynghreiriau Cymru (27m56e) Amser Ychwanegol (36m51e) Diolch i Blue Honey Local am fod yn gartref i'r pod am brynhawn! Gwrandewch, tanysgrifiwch, rhannwch gyda'ch ffrindiau, a gadewch ni wybod be chi'n feddwl trwy gysylltu ar Twitter @podligo
Rhodri, Ifan, Rhys ac Ifan yn trafod y penderfyniad i ohirio gêm Met v Derwyddon, canlyniadau Cwpan Cymru, gêmau Cynghrair y Pencampwyr, a rhifau ar gefn crysau