Podcasts about nghaerdydd

  • 17PODCASTS
  • 82EPISODES
  • 37mAVG DURATION
  • 1MONTHLY NEW EPISODE
  • Mar 23, 2025LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about nghaerdydd

Latest podcast episodes about nghaerdydd

Beti a'i Phobol
Dr Eurfyl ap Gwilym

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Mar 23, 2025 50:07


Dr Eurfyl ap Gwilym yr economegydd yw gwestai Beti George. Daeth un digwyddiad yn 2010 ag ef i sylw mawr pan fentrodd herio Jeremy Paxman, un o'r newyddiadurwyr uchaf ei barch ym Mhrydain. Drannoeth 'roedd y gwefannau ar dân. Mi ddaru Eurfyl elwa o'r ffaith fod o ddim yn cyfadde' ei fod o'n anghywir ac mi ddaliodd arno. Mae o di cael pobol yn dod ato yn ei adnabod o'r teledu - yng Nghaerdydd a Llundain … “You're the Paxman man! Well Done”.Dechreuodd ei yrfa gyda chwmni Unilever ar gynllun datblygu rheolwyr busnes. Bu'n gweithio gyda chwmni John Williams yn rheoli pob agwedd o'r busnes. Bu'n Bennaeth adran gwerthu cyfrifiaduron gyda chwmni mawr electroneg Philips, cwmni rhyngwladol – o'r Iseldiroedd. Bu'n gweithio gyda GE. Bu'n brif weithredwr i gwmni meddalwedd rhyngwladol yn Llundain ( Cwmni o UDA ydoedd). Gwerthu a datblygu meddalwedd i fanciau.Bu'n gweithio gyda'r Principality yn ddirprwy gadeirydd ac yn gyfarwyddwr anweithredol byrddau technolegol, a bu'n gweithio gyda Phlaid Cymru. Bu'n helpu Gwynfor Evans yn ystod cyfnod 1966- '67. " Doedd dim llawer o adnoddau pan aeth Gwynfor mewn i'r Senedd yn '66, 'roeddem ni'n gosod cwestiynau Seneddol, doedd dim google, a dim modd cael llawer o wybodaeth, felly roedden ni'n codi llawer iawn o gwestiynau".Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân gan gynnwys Dafydd Iwan a Karl Jenkins.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pont: Alanna Pennar Davies

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Feb 11, 2025 23:50


Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Alanna Pennar Davies.Cerddor llawrydd yw Alanna Pennar Davies. Yn wreiddiol o dref Sterling yr Alban, mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Dechreuodd ddysgu'r Gymraeg o ddifri yn 2020 yn ystod y cyfnod clo. Cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2024. Erbyn mae hi wedi sefydlu cwmni creu adnoddau i ddysgwyr sef Pennarbapur

davies pont alban yn cymraeg gymraeg flwyddyn nghaerdydd erbyn
Beti a'i Phobol
Lisabeth Miles

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Dec 22, 2024 50:18


Yr actores Lisabeth Miles sy'n actio Megan Harris ar Pobol y Cwm yw gwestai Beti George. Mae hi'n flwyddyn fawr i'r opera sebon eleni wrth iddi ddathlu'r 50! Mae'n wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, a cafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Caernarfon. Aeth ymlaen wedyn i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Wedi gadael y coleg, cychwynodd ei gyrfa efo'r Welsh Theatr Company, ac efo adain Gymraeg y cwmni sef Cwmni Theatr Cymru. Roedd Lisabeth ym mysg actorion Cymraeg cyntaf y cwmni, ynghŷd â Gaynor Morgan Rees a Iona Banks. Bu'n gweithio'n gyson mewn cynhyrchiadau i'r BBC hefyd, gan gynnwys “Esther”, “Y Stafell Ddirgel”, “Lleifior” a “Branwen” yn ystod diwedd y 1960au a dechrau'r 70au.

Beti a'i Phobol
Owain Gwynfryn

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Dec 8, 2024 48:47


Owain Gwynfryn yw gwestai Beti George.Fe gafodd Owain ei fagu yng Nghaerdydd, ac yna ym Mhrestatyn.Wedi sefydlu gyrfa lwyddiannus iddo'i hun fel ceiropractydd, fe benderfynodd Owain newid cyfeiriad a mynd i astudio'r llais yng Ngholeg y Guildhall yn Llundain. Graddiodd y llynedd, ac yntau yn ddeugain oed.Mae'n parhau gyda'i yrfa fel ceiropractydd yn ei glinig yn Llundain, pan fo amser yn caniatáu, ond ei nod yw cyrraedd y brig o ran ei yrfa fel canwr - ym myd opera a thu hwnt.

fe guildhall owain wedi nghaerdydd beti george
Pigion: Highlights for Welsh Learners

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Naomi Hughes. Merch a fagwyd yng Nghaerdydd yn ardal Llaneirwg yw Naomi Hughes. Mae hi o dras cymysg, ei mam o dras Tsieineaidd a'i thad yn Gymro di-Gymraeg o Gaerdydd. Er iddi gael ei magu yng Nghaerdydd yn yr wythdegau a'r nawdegau prin oedd ei hymwybyddiaeth a'i chysylltiad â'r Gymraeg. Wedi cyfnod yn teithio'r byd yn ei hugeiniau, dychwelodd i Gymru yn benderfynol o ddysgu'r Gymraeg. Cymhwysodd fel athrawes ac erbyn hyn mae'n dysgu ei phwnc drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Ysgol Gyfun Gymraeg. Mae'n gadeirydd Menter Iaith Merthyr Tudful ac yn gyfrifol am ddatblygiad y Gymraeg yn ei hardal. Mae hefyd yn is-gadeirydd Yes Cymru.

Beti a'i Phobol
Meirion MacIntyre Huws

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 10, 2024 49:15


Meirion MacIntyre Huws yw gwestai Beti George.Mae'n gyfarwydd iawn i ni fel bardd, ac ef oedd Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993.Mae Mei Mac yn un sy'n barod i fentro a wynebu heriau newydd.Bu'n gweithio i'r Bwrdd Dŵr cyn ac ar ôl bod yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, cyn ymhel â sawl maes arall fel cartwnydd, dylunydd, rhedeg safle glampio, a gwesty.Bellach mae ganddo gwmni paneli solar, ac mae'n gweithio fel swyddog enwau lleoedd i Gyngor Gwynedd.

bu macintyre nghaerdydd beti george
Pigion: Highlights for Welsh Learners

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Joseff Gnagbo.Ffoadur a wnaeth ffoi o'r Arfordir Ifori yng Ngorllewin Affrica yn 2010 yw Joseff. Yn dilyn rhyddhau cân rap yn annog ei gydwladwyr i wrthsefyll y chwyldro yn ei wlad, daeth yn darged milwrol a bu rhaid iddo ffoi o'r wlad. Bu'n byw ym Morocco am gyfnod cyn ymgeisio am loches ym Mhrydain yn 2017. Wedi iddo gyrraedd Cymru aeth ati'n syth i ddysgu'r Gymraeg. Erbyn hyn, mae'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg fel athro cyflenwi yng Nghaerdydd. Wedi cyfnod yn gwirfoddoli gyda Chymdeithas yr Iaith, cafodd Joseff ei ethol yn Gadeirydd y Gymdeithas, ac mae'n newydd gael ei ail-ethol yn Gadeirydd am dymor arall. Eleni yn y Brifwyl ym Mhontypridd cafodd Joseff ei urddo i'r orsedd am ei gyfraniad i'r Gymraeg.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Sgwrsio: Isabella Colby Browne

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 8, 2024 41:32


‘Sgwrsio' ydy enw'r podlediad hwn ac mae'n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Isabella Colby Browne, enillydd Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod eleni. Cafodd Isabella ei geni yn America cyn symud i'r Wyddgrug pan yn ifanc. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores.

Beti a'i Phobol
Dr Ffion Reynolds

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Sep 22, 2024 50:23


Beti George yn sgwrsio gyda Dr Ffion Reynolds sydd yn Uwch Reolwr Digwyddiadau Treftadaeth a Chelfyddydau gyda Cadw.Mae Ffion wedi ei magu yng Nghaerdydd. Un o'r geiriau cyntaf ddysgodd Ffion oedd mabwysiadu. Gwnaeth ei rhieni'n n siŵr fod Ffion y ymwybodol o'i chefndir. Dywedwyd wrthi eu bod wedi sgwennu llythyr o amgylch y byd i ffeindio merch fach. Roeddynt wedi sgwennu i China, Japan Affrica ac fe gawsant ateb i'w llythyr drwy gael Ffion.Mae wedi treulio amser yn gweithio yn Namibia a bu'n Dde America lle bu'n byw efo'r trigolion mewn un o'r fforestydd glaw ac yn astudio efo'r Shaman. Mae gan Ffion ddiddordeb mawr mewn madarch! Ceir biliynau o wahanol fathau o fadarch. Mae Ffion hefyd yn credu taw madarch sy'n mynd i achub y blaned!

china reynolds shaman namibia ffion ceir nghaerdydd beti george
Y Coridor Ansicrwydd
Poen cyn pleser i Gymru o dan Bellamy?

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Sep 5, 2024 46:38


Mae yna gyffro mawr ymysg Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen wrth i gyfnod newydd i Gymru o dan Craig Bellamy gychwyn nos Wener yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd. Beth fydd y tactegau, pa siâp fydd i'r tîm, pwy fydd yn cychwyn? Ac yn bwysicach oll, beth fydd Bellamy yn ei wisgo wrth ochr y cae..?Cawn hefyd atgof hyfryd gan Malcolm o gyfarfod Sol Bamba, yn dilyn y newyddion hynod drist am farwolaeth ddiweddar cyn amddiffynnwr Caerdydd.

Beti a'i Phobol
Katie Hall

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Aug 4, 2024 49:37


Y gantores Katie Hall yw gwestai Beti George. Katie yw prif leisydd y band amgen o Bontypridd, CHROMA. Mae'r band wedi profi llwyddiant yn y blynyddoedd diwethaf, gan ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2016, ac ennill lle yn nghynllun Gorwelion y BBC i artistiaid newydd yn 2018, ynghyd â pherfformio mewn gigs a gwyliau ledled Cymru a thu hwnt. Bu'n cefnogi'r Foo Fighters yn ddiweddar ac yn teithio i Dde Korea. Cafodd ei magu yn Aberdâr. Mynychodd ysgol gynradd Aberdâr ac yna ysgol Uwchradd Rhydywaun. Cafodd ddiagnosis o Dyslecsia yn eithaf ifanc., a thrwy gydol ei dyddiau ysgol yn ffodus iawn, cafodd pob cymorth a chefnogaeth.Dewis ar y funud olaf oedd mynd i astudio Cymraeg yng Nghaerdydd, ac y penderfyniad yma oedd yr allwedd i Katie, ac fe wnaeth hynny newid trywydd ei bywyd. Cafodd ei chyflwyno i fandiau newydd Cymraeg gan ei ffrindiau coleg, wnaeth arwain at ddilyn bandiau a gweithio yn Clwb Ifor Bach.Pan ddaeth CHROMA at ei gilydd, fe wnaeth y triawd sgwennu caneuon Saesneg a Chymraeg yn rhannol er mwyn bod yn wahanol i fandiau o'r Cymoedd - a gan eu bod nhw'n gallu.Mae'n rhannu profiadau bywyd yn trafod ei chyfnod yn gweithio mewn canolfan alwadau, cyfansoddi caneuon gwleidyddol a'r dylanwadau eraill sydd wedi ysgogi cerddoriaeth CHROMA, gan gynnwys Cate Le Bon a Gwenno.

bbc pan bu foo fighters chroma cymru cate le bon cymraeg gwenno katie hall saesneg nghaerdydd cymoedd cafodd clwb ifor bach beti george
Beti a'i Phobol
Myron Lloyd

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jun 30, 2024 48:40


Mae Myron Lloyd wedi gwirfoddoli efo Eisteddfod Llangollen ar yr ochr farchnata ers blynyddoedd maith, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi bod yn edrych ar ôl noddwyr yr Eisteddfod, ond fe ddechreuodd ei chysylltiad bron I 60 mlynedd nol, pan enillodd y wobr 1af yn yr Alaw Werin dan bymtheg oed. Blwyddyn ar ôl hynny, Myron oedd ‘pin up' yr Eisteddfod a bu ei lluniau mewn gwisg Gymreig ar bob math o nwyddau ar ol I lun ohonno gael ei gyhoeddi yn y gyfrol ‘North Wales in Colour'. Ar y clawr ôl roedd llun mawr o Myron a dynnwyd yn Eisteddfod Llangollen.Cafodd Myron ei derbyn i fynd i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Ond roedd ei llais y math oedd yn blino'n fuan, meddai hi. Roedd ganddi hefyd ddiddordeb mawr mewn ffermio felly penderfynodd fynd i goleg Gelli Aur i wneud cwrs Amaethyddol. Ar ôl cyfnod yno cafodd gyfweliad efo'r Weinyddiaeth Amaeth a chael swydd yn Nolgellau. Roedd hi'n gweithio mewn labordy yn mynd o gwmpas ffermydd Sir Feirionnydd i gyd a oedd yn gwerthu llaeth.Ond 'da ni dal i feddwl amdani fel cantores gyda llais melfedaidd ac wedi arbenigo ar ganu gwerin. Cawn hanesion ei bywyd ac mae'n dewis cerddoriaeth sydd yn golygu dipyn iddi.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Sgwrsio 14eg o Fai 2024

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later May 14, 2024 37:28


‘Sgwrsio' ydy enw'r podlediad hwn ac mae'n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Luciana Skidmore.Cafodd Luciana ei geni ym Mrasil, ond erbyn hyn mae hi yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

yn cymraeg nghaerdydd
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 6ed o Chwefror 2024

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Feb 6, 2024 13:22


Pigion Dysgwyr – Bethesda Buodd Aled Hughes yn ddiweddar yn Mynwent Tanysgrafell ym Methesda yng Ngwynedd. Mae'r fynwent wedi ei chau ers blynyddoedd ac wedi mynd yn flêr ac yn anniben ei golwg. Ond mae ‘na griw o wirfoddolwyr wedi bod yn ei thacluso ac yn gofalu amdani a dyma Sian Evans o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yn sgwrsio gydag Aled ac yn rhoi ychydig o hanes y fynwent.. Mynwent CemeteryYmddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd Gwynedd Archaeological TrustDdaru nhw Wnaethon nhwYmchwil ResearchDogfennau DocumentsOes Victoria Victorian AgeEhangu To expandBwriad IntentionStad ddiwydiannol Industrial Estate Pigion Dysgwyr – Robat ArwynYchydig o hanes Mynwent Tanysgrafell yn fanna ar raglen Aled Hughes. Mae ymchwil yn dangos bod cymryd rhan mewn gweithgareddau cerdd yn gallu helpu'r cof wrth i bobl fynd yn hŷn. Mae dau ddeg pum mil o bobl wedi bod yn rhan o astudiaeth ddangosodd bod gwell cof gan bobl oedd wedi bod yn chwarae offeryn neu oedd yn aelodau o gôr. Ydy hynny'n wir tybed? Wel dyma arweinydd Côr Rhuthun, Robat Arwyn, ar Dros Ginio bnawn Mawrth yn dweud pam ei fod e'n cytuno gyda'r astudiaeth... Offeryn InstrumentArweinydd ConductorI gyd ar y cof All by heartArwyddion cerddorol Musical gesturesCydsymud CoordinationYmennydd BrainYn effro AwakeGradd GradeGweddill y teulu The rest of the family Pigion Dysgwyr – SnwcerFelly dyna ni, os dych chi eisiau gwella eich cof ymunwch â chôr! Cafodd Caryl Parry Jones gwmni Elfed Evans ar ei rhaglen nos Fawrth ddiwetha. Mae Elfed yn aelod o Glwb Snwcer Pwllheli a chafodd e gyfle i hyrwyddo'r clwb yn ei sgwrs gyda Caryl. Gofynnodd hi i Elfed ers pryd mae e wedi bod yn aelod o'r clwb….. Hyrwyddo To promoteWedi gollwng DroppedDenu To attractPoblogaidd popularPob gallu Every abilityPigion Dysgwyr – Steffan RhodriElfed o Glwb Snwcer Pwllheli oedd hwnna'n sgwrsio gyda Caryl Parry Jones. Yr actor Steffan Rhodri oedd gwestai arbennig Bore Sul. Mae e wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar fel esboniodd e wrth Elliw Gwawr... Yn ddiweddar RecentlyAr fin dod mas About to come outWedi ei gyfarwyddo DirectedGwaith dur SteelworksTeulu cyffredin Ordinary familyFfoaduriaid RefugeesI raddau To an extentMae'n anochel It's inevitablePigion Dysgwyr – Geraint RowlandsWel mae Steffan Rhodri wir wedi bod yn brysur yn ddiweddar on'd yw e? Yn y clip nesa ‘ma byddwn yn clywed y patholegydd o Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd, Geraint Lloyd Rowlands, yn sôn am sut buodd e'n codi arian er cof am Alan, ei ffrind o ddyddiau ysgol. Buodd Alan farw o Gancr y Pancreas dwy flynedd yn ôl, a dyma Geraint ar Bore Cothi ddydd Mercher diwetha i sôn mwy am yr her mae wedi ei chwblhau i gofio am ei ffrind... Her A challengeWedi ei chwblhau Has completedCampfa GymWedi hen gyrraedd Easily reachedYmdrech EffortPigion Dysgwyr – Bryn TerfelWel dyna wych, Llongyfarchiadau mawr i Geraint am gerdded mor bell er cof am ei ffrind, on'd ife?Mae'r canwr opera Bryn Terfel newydd ryddhau albwm newydd, a chafodd Alun Thomas sgwrs gyda fe ar y rhaglen Bore Sul. Buodd Bryn yn sôn am yr adeg pan ganodd e ddeuawd gyda Sting. Gofynnodd Alun iddo fe sut wnaeth e gyfarfod â'r canwr pop enwog am y tro cynta Newydd ryddhau Just releasedDeuawd DuetCyngerdd mawreddog A grand concertCefn llwyfan BackstageArddull StyleCysylltiad ConnectionCychod BoatsRhediad A run

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 9fed o Ionawr 2024.

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jan 9, 2024 15:41


Pigion Dysgwyr – Jessica Robinson Cynrychiolydd Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd, cafodd ei gynnal yng Nghaerdydd yn 2023, oedd y soprano o Sir Benfro Jessica Robinson. Ddydd Calan, hi oedd gwestai Shan Cothi ar ei rhaglen, a gofynnodd Shan iddi hi yn gynta beth oedd ei gobeithion hi am 2024…. Cynrychiolydd RepresentativeGŵyl gerddorol Musical festivalSafon QualityAnelu ato To aim forDatganiad RecitalYn elfennol bwysig Of prime importanceCydbwysedd BalanceCyfansoddwyr ComposersCyfeilio To accompanyDehongliad Interpretation Pigion Dysgwyr – Sion Tomos Owen Wel mae blwyddyn brysur iawn o flaen Jessica yn does? Bardd y Mis ar gyfer mis Ionawr ar Radio Cymru, ydy Sion Tomos Owen o Dreorci. Mae Sion yn arlunydd ac yn fardd, ond mae o hefyd yn un o gyflwynwyr rhaglen Cynefin ar S4C. Dyma fe ar Ddydd Calan yn sgwrsio gyda Sara Gibson, oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes, i sôn am un o uchafbwyntiau 2023 iddo fe…. Bardd y mis Poet of the monthArlunydd ArtistCyflwynwyr PresentersUchafbwyntiau HighlightsMurluniau MuralsOgofau CavesTafliad carreg A stone's throwAmgenach DifferentDylunio DesigningArbrofi ExperimentingPigion Dysgwyr – Meleri Wyn James Sion Tomos Owen oedd hwnna, Bardd y Mis Radio Cymru yn sôn am graffiti. Bob wythnos ar raglen Bore Sul mae gwestai yn rhannu straeon a phrofiadau. Ar rifyn ola 2023, yr awdures Meleri Wyn James o Aberystwyth fuodd yn siarad gyda Betsan Powys. Meleri enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan a hi hefyd ydy awdures y gyfres boblogaidd, Na Nel. Dyma hi i sôn am sut mae arferion darllen plant, yn ei barn hi, wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwetha … Y Fedal Ryddiaith The Prose MedalGofid ConcernAnnog To encourageDychymyg ImaginationAnnibynnol IndependentGwnïo To sewPwytho To stitchPenderfynol DeterminedDisgyblaeth DisciplineDadwneud To undoPigion Dysgwyr – Liz Saville Roberts Ie, mae hi mor bwysig i annog plant i ddarllen ond yw hi? A gobeithio bydd llyfrau Meleri yn llwyddo i wneud hynny yndife? Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts oedd gwestai Beti a'i Phobol yr wythnos hon. Mi gafodd hi ei magu yn Llundain ond mi gafodd hi ei denu i Gymru oherwydd ei diddordeb yn y Mabinogi. Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth mi aeth yn newyddiadurwraig ag yn ddarlithydd cyn iddi hi droi at wleidyddiaeth. Dyma hi'n sôn am ei diddordeb yn y Mabinogi…. Cofiwch bod yna gyfle i glywed y rhaglen gyfan ar BBC Sounds. Cafodd hi ei denu She was luredY Chweched Sixth formTraethawd estynedig DissertationCyhoeddiad A publicationWedi gwirioni Wedi dwlu arFel petai Seems to Bellach yn yr etholaeth In the constituency by nowRhyfedd StrangePigion Dysgwyr – Dylan Jones Liz Saville Roberts oedd honna'n sôn am sut oedd y Mabinogi wedi dylanwadu ar ei bywyd hi. Y ceffyl oedd thema Troi'r Tir fore Sul, ac un oedd yn siarad ar y rhaglen oedd Dylan Jones o Foelfre ger Abergele. Mae Teulu Dylan, ers y 70au, wedi bod yn cyflenwi ceffylau ar gyfer y diwydiant ffilm. Dyma fe i sôn mwy... Wedi dylanwadu Had influencedCyflenwi To supplyDiwydiant IndustryPigion Dysgwyr – Cleif Harpwood Ceffylau Cymru yn chwarae rhan bwysig mewn ffilmiau a rhaglenni teledu. Difyr yndife? Mi fuodd Dei Tomos yn recordio yn ddiweddar yng Nghwm Afan ar gyfer ei raglen Nos Sul. Un gafodd ei fagu yn yr ardal ydy'r cerddor Cleif Harpwood ac mi fuodd o'n sôn wrth Dei am hanes Cymreictod y cwm…… Cerddor MusicianY Canol Oesoedd The Middle AgesArglwyddi LordsYr Ucheldir The HighlandsCaerau FortsCors halenog Salty marshMintai TroopBraw A frightCenhadu Doing missionary work Y groesgadoedd The crusadesYmestyn To extend

Radio YesCymru
Joseff Gnagbo - O Côte d'Ivoire i Gymru, Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith 14/11/23. Cyfres 5 Pennod 27

Radio YesCymru

Play Episode Listen Later Nov 14, 2023 35:08


Joseff Gnagbo yw Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Ond nid Cymro Cymraeg nac hyd yn oed Cymru yw Joseff - mae'n newyddiadurwr, academydd ac ymgyrchydd gwleidyddol o'r Côte d'Ivoire yng ngorllewin Affrica a gafodd loches wleidyddol a danfonwyd i fyw yng Nghaerdydd yn 2018. Yn y brifddinas dysgodd y Gymraeg ac mae bellach yn dysgu Cymraeg fel ail iaith i oedolion - gan gynnwys ceiswyr lloches. Bu'n siarad â Siôn Jobbins o Radio YesCymru am ei fywyd yng Nghymru, ei gefnogaeth i'r Gymraeg ac annibyniaeth Gymreig a'r tebygrwydd a welai â'i famwlad a'i wlad fabwysiedig. * Cymdeithas yr Iaith Gymraeg = http://cymdeithas.cymru * Melin Drafod, melin drafod asgell chwith dros annibyniaeth - http://melindrafod.cymru * Y Sŵn - ffilm am Gwynfor Evans a sefydlu S4C - https://www.s4c.cymru/cy/drama/y-swn/ * Cymraeg i Oedolion - https://dysgucymraeg.cymru * Canolfa Oasis, Caerdydd - https://www.oasiscardiff.org/ * Yr Americanwr Ari Smith (sianel @Xiaomanyc) yn siarad Cymraeg ar strydoedd Caerdydd - https://www.youtube.com/watch?v=dp-QCiACGAU Dolenni eraill - Dysgwr Americanaidd: https://youtu.be/dp-QCiACGAU?si=VC52fJhy3e9GHaiz

bu ond ys yn cymru s4c cymraeg nghymru gymru gymraeg pennod joseff iaith nghaerdydd affrica cymdeithas cadeirydd
Y Coridor Ansicrwydd
Sut mae stopio Luka Modric?

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Oct 13, 2023 49:06


Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n edrych ymlaen at gêm anferth Cymru yn erbyn Croatia yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2024 yng Nghaerdydd. A'r cwestiwn mawr - sut fydd Cymru yn gallu tawelu capten Croatia Luka Modric?

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Hydref 3ydd 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 3, 2023 12:19


Pigion Dysgwyr – Heather Jones Mae'r tri chlip cynta i gyd am bobl amlwg sy wedi dysgu Cymraeg, a beth am i ni gychwyn gyda'r gantores Heather Jones? Yn yr ysgol dysgodd Heather Gymraeg yn ail iaith, ond buodd hi'n perfformio a recordio yn y Gymraeg am flynyddoedd maith. Mae Heather newydd gyhoeddi ei bod hi wedi canu'n fyw am y tro ola ac ar Bore Cothi esboniodd hi wrth Shan Cothi sut dechreuodd ei gyrfa ym myd canu Amlwg Prominent Cyhoeddi Announce Ymennydd Brain Yn gyfangwbl Completely Tinc Tone Pigion Dysgwyr – Johnny Tudor Mae'n rhyfedd meddwl na fyddwn yn clywed llais Heather Jones ar lwyfannau Cymru eto on'd yw hi? Dysgu Cymraeg fel oedolyn ar gwrs Wlpan yng Nghaerdydd wnaeth y diddanwr, y dawnsiwr a'r canwr Johnny Tudor, ac roedd e'n dathlu 60 mlynedd ym myd adloniant eleni. Ar gyfer rhaglen Ffion Dafis bnawn Sul, aeth Lily Beau draw i gartre Johnny i'w holi. Dyma fe gydag un stori fach o'i yrfa... Diddanwr Entertainer Dynwared To impersonate Llwyfan Stage Pigion Dysgwyr – Dinbych y Pysgod A dw i'n siŵr bod gan Johnny lawer iawn o straeon difyr eraill o'i yrfa hir ym myd adloniant. Mae Jo Heyde wedi dysgu Cymraeg ac yn byw yn Ninbych y Pysgod erbyn hyn. Mae hi'n fardd, yn barddoni yn Gymraeg, ac wedi ennill cadair am ei barddoniaeth. Nos Fawrth diwetha ar raglen Caryl esboniodd Jo pam daeth hi i fyw i dde Sir Benfro yn y lle cyntaf…… Dinbych y Pysgod Tenby Bardd Poet Hala Treulio Dim syndod No surprise Yn syth bin Straight away Unigryw Unique Haenau Layers Tirwedd Landscape Llanw Tide Cyfnewidiol Changeable Awen Muse Pigion Dysgwyr – Lliw Ddall Wel dyna i chi dri sy wedi dysgu Cymraeg yn wych, ac sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r byd Cymraeg. Diolch Heather, Johnny a Jo. Mae Owen Jones o Gaerdydd yn un o'r 1 o bob 12 dyn sydd yn lliwddall, ond yn ôl gwyddonwyr dim ond 1 o bob 200 o ferched sy‘n lliwddall ac mae Bethan Rhys Roberts yn un ohonyn nhw. Ar gyfer Bore Sul yr wythnos diwetha trïodd Owen a Bethan sbectolau arbennig sydd i fod i gywiro eu golwg...dyma sut aeth pethau …. Cyfraniad gwerthfawr A valuable contribution Lliwddall Colour blind Yn ôl According to Gwyddonwyr Scientists Cywiro eu golwg Correct their eyesight Llachar Bright Sefyll mas To stand out Cyfoethog Rich(colour) Ffug Fake Pigion Dysgwyr – 1973 Wel newyddion da i‘r rhai sy'n lliwddall on'd ife – mae'n debyg bod y sbectol newydd yn gweithio! Mae'r flwyddyn 1973 yn cael ei gyfri'n flwyddyn arbennig ym myd gwneud ffilmiau. Ond beth oedd mor arbennig am y flwyddyn honno? Cafodd Dion Wyn sgwrs gydag Owain Llyr ar Dros Ginio yr wythnos diwetha i esbonio mwy….. Cyfnod Period of time Hogiau Bechgyn Tywyll Dark Agwedd Attitude Eithafol Extreme Naws Mood Anhygoel Incredible Pigion Dysgwyr – Max Boyce Dion Wyn ac Owain Llyr oedd y rheina'n sgwrsio am pa mor bwysig oedd 1973 i fyd y ffilmiau. Ddydd Mercher diwetha roedd y canwr a'r diddanwr Max Boyce o Lyn Nedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mae Max wedi bod yn diddanu pobl Cymru ac ar draws y byd ers diwedd y 60au. Cafodd Aled Hughes gyfle i holi Jed O'Riley o Glwb Rygbi Glyn Nedd sy'n ei adnabod e'n dda…. Cymuned Community Sgwrs ddifyr An interesting conversation Ymwybodol Aware Pwysigrwydd Importance

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 19eg 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Sep 19, 2023 17:09


Pigion Dysgwyr – Podlediad I Fyfyrwyr Bore Llun diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs ar ei raglen gyda Cerith Rhys-Jones a Steffan Alun Leonard. Mae'r ddau wedi rhyddhau podlediad newydd o'r enw 'Sgwrsio am Brifysgol' sy'n rhoi blas i ddarpar-fyfyrwyr ar beth yw bywyd coleg, gyda phrofiadau myfyrwyr go iawn. Rhyddhau To release Darpar-fyfyrwyr Prospective students Rhannu profiadau Sharing experiences Gwerthfawr Valuable Cyflwyno To present Teimlo'n gartrefol Feeling at home I ryw raddau To some extent Yn gwmws Yn union Rhinwedd Merit Mewnwelediad Insight Trawstoriad eang A wide cross-section Pigion Dysgwyr – Tomatos Podlediad gwerthfawr iawn ac amserol hefyd gyda chymaint o fyfyrwyr yn cychwyn ar eu taith brifysgol yn ystod y mis hwn. Ychydig wythnosau yn ôl ar Pigion clywon ni sgwrs rhwng Adam Jones sef Adam yn yr Ardd a Shan Cothi. Rhoddodd Adam her i Shan i dyfu tomatos ac adrodd yn ôl ar ddiwedd yr haf ar sut aeth pethau. Dyma ddarn o'r sgwrs gafodd y ddau wythnos diwetha…. Her A challenge Teimlo fel oes Feels like ages Crasboeth Scorched Yn y cnawd In the flesh Awdurdod Authority Pencampwyr Champions Carotsen Moronen Llawn cystal Just as good Iseldiroedd Netherlands Chwerw Bitter Pigion Dysgwyr – Fflemeg Wel pwy fasai'n meddwl mai rhywun o'r Iseldiroedd sy'n gyfrifon am liw oren moron, on'd ife! Iseldireg wrth gwrs yw iaith y wlad honno, ond mae hi hefyd yn cael ei siarad mewn rhan o Wlad Belg sef Fflandrys. Ac yn Fflandrys yn ddiweddar mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud Iseldireg yn unig iaith yr iard ysgol. Mae'r Dr Guto Rhys, yn byw ac yn magu ei blant yn Fflandrys a dyma fe i esbonio mwy am y sefyllfa ar Dros Ginio bnawn Mawrth…… Cenhedlaeth Generation Tafodieithoedd Dialects Cymhleth Complicated Pryder A concern Gorfodi To compel Tybio To presume Anniddigrwydd Discontent Anghyfleus Inconvenient Iaith leiafrifol Minority language Iaith rymus A powerful language Pigion Dysgwyr – Bethan Rhys Roberts Hanes sefyllfa gymhleth ieithoedd Gwlad Belg yn fanna gan Dr Guto Rhys. Mae'n wythnos a hanner bellach ers i ddaeargryn nerthol daro dinas Marrakech ac ardaloedd cyfagos. Un oedd yn y ddinas ar y pryd oedd Bethan Rhys Roberts, un o newyddiadurwyr BBC Cymru. Dyma hi ar raglen Bore Sul yn esbonio beth ddigwyddodd ar yr union eiliad pan darodd y daeargryn…… Daeargryn nerthol A powerful earthquake Hynafol Ancient Strydoedd culion Narrow streets Sŵn byddarol A deafening noise Dychrynllyd Frightening Ymgynnull To congregate Llafnau Slabs Dymchwel To collapse Sgrialu Scrambling Anhrefn Disarray Yn reddfol Instinctively Pigion Dysgwyr – La Liga Ac yn drist iawn wrth gwrs buodd miloedd o bobl farw ym Morocco yn dilyn y daeargryn. Bethan Rhys Roberts yn fanna yn rhoi syniad i ni o'r sefyllfa ddychrynllyd ym Marrakesh. Mae tîm pêl-droed pentre Llanfairpwll ar Ynys Môn wedi cael noddwyr newydd ar gyfer y tymor newydd. Mi fydd enw'r gynghrair Sbaenaidd - LaLiga - ar flaen crysau'r chwaraewyr eleni. Ie wir, darn o España ar dir Ynys Môn. Hannah Thomas ydy ysgrifennydd y tîm, a dyma hi i esbonio mwy ar Dros Frecwast fore Mercher Noddwyr Sponsors Ysgrifennydd Secretary Yn raddol Gradually Pwyllgor Committee Manteision Advantages Hogia Bechgyn Diolchgar Thankful Denu To attract Pigion Dysgwyr – Clwb Ifor Bach Wel dyna ni, tybed fyddwn ni'n gweld Llanfairpwll yn chwarae yn erbyn Barcelona neu Real Madrid yn y dyfodol! Dych chi wedi ymweld â Chlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd erioed? Sefydlwyd y clwb bedwar deg o flynyddoedd yn ôl er mwyn rhoi llwyfan i fandiau Cymraeg chwarae, a hefyd fel man ble gallai siaradwyr Cymraeg y Brifddinas ddod i gymdeithasu. Nos Sul darlledwyd rhaglen i nodi y garreg filltir bwysig, hon ac mae cyfle wrth gwrs i chi wrando ar y rhaglen gyfan ar BBC Sounds….. Llwyfan A stage Darlledwyd Was broadcast Carreg filltir Milestone Sylfaenwyr Founders Cyfeddach Companionship Hwb cymdeithasol Social hub Sefydliad Establishment Cynhyrchydd Producer Pigion Dysgwyr – Rhys Taylor Sefydliad arall oedd yn dathlu carreg filltir arbennig oedd Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, a dathlu pumdeg o flynyddoedd ers ei sefydlu oedd yr ysgol hon. Cafodd y cerddor Rhys Taylor sgwrs gyda Caryl Parry Jones wythnos diwetha gan fod Rhys yn gyn-ddisgybl yr ysgol. Nos Sadwrn roedd e'n un oedd yn cymryd rhan mewn cyngerdd yn Nghanolfan y Celfyddydau y dre fel rhan o'r dathliadau Cerddor Musician Breintiedig Privileged Oes euraidd Golden age Preswyl Residential Cerddorfeydd Orchestras Brolio To boast T'mod Rwyt ti'n gwybod

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 29ain 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Aug 29, 2023 13:13


Pigion Dysgwyr – Stacey Mae Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips wedi bod yn cadw sedd Emma Walford a Trystan Ellis Morris yn gynnes dros yr wythnosau diwetha ac yn ddiweddar caethon nhw air gydag un ddysgodd Gymraeg 25 mlynedd yn ôl. Stacey Blythe yw ei henw hi, mae hi'n storïwraig ac yn gerddor sy'n dod o Birmingham yn wreiddiol ond sy'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn... Storïwraig Storyteller (female) Cerddor Musician Tmod Ti'n gwybod Cyfansoddwraig Composer (female) Ceinciau Branches Bodoli To exist Enaid Soul Pigion Dysgwyr – Eiry Palfrey Stacey Blythe yn fanna yn dal yn frwd dros y Gymraeg ar ôl ei dysgu 25 mlynedd yn ôl. Mae llyfr newydd ei gyhoeddi gan Eiry Palfrey sy'n sôn am hanes a thraddodiad dawnsio gwerin yng Nghymru. Llwybrau'r Ddawns yw enw'r llyfr, a dyma Eiry yn sôn wrth Nia Parry, oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn dwym yr wythnos diwetha, am gefndir cyhoeddi'r llyfr Brwd Enthusiastic Dogfen Document Cyfrifol Responsible Dow dow Very slowly Dallt y dalltings Knowing the ins and outs Hoelion wyth Eminent people Adfer To restore Aelwydydd Homes Pigion Dysgwyr – Dwyeithrwydd Bach o hanes dawnsio gwerin yng Nghymru yn fanna gan Eiry Palfrey, awdures Llwybrau'r Ddawns. Roedd ymchwil diweddar yn dangos bod gan unigolion oedd yn ddwyieithog sgiliau cof gwell na phobl oedd yn unieithog, ond dyw hi ddim mor syml â hynny yn ôl Dr Peredur Glyn Webb-Davies. Dyma fe'n sôn am yr unig elfen o'r ymchwil sy'n dangos bod cof gwell gan bobl ddwyieithog na'r rhai sy'n gallu siarad un iaith yn unig... Ymchwil Research Dwyieithog Bilingual Llefaru To speak Cymhleth Complicated Cadarnhau To confirm Pigion Dysgwyr – Elin Maher Ond wrth gwrs mae sawl mantais dros fod yn ddwyieithog on'd oes yna? Yn enwedig yn Nghymru'r dyddiau hyn. Mae Elin Maher yn dod o Gwm Tawe'n wreiddiol ond yn byw yng Nghasnewydd gyda'i theulu ers ugain mlynedd. Buodd hi'n gweithio'n galed dros y blynyddoedd yn datblygu addysg Gymraeg, a'r Gymraeg o fewn y gymuned, yng Ngwent. Hi hefyd oedd gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol wythnos diwetha a dyma hi'n sôn am ambell i her oedd rhaid ei hwynebu wrth ymladd dros addysg Gymraeg yn y Sir. Her A challenge Safleoedd Sites Agwedd Attitude Cynghorwyr Councillors Ddim o reidrwydd Not necessarily Brwydr A fight Dealltwriaeth Understanding Heb os nac oni bai Without doubt Cydnabod To acknowledge Dychymyg Imagination Pigion Dysgwyr – Adri A diolch byth am bobl fel Elin sy'n dal i frwydro dros addysg Gymraeg on'd ife? Mae Heledd Cynwal wedi bod yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes yn ddiweddar, a dydd Mercher diwetha gwahoddodd hi ddysgwraig Cymraeg o'r Iseldiroedd sef Adri Witens ar ei rhaglen. Mae Adri yn byw mewn tref fechan ger dinas yr Haag a dysgodd Gymraeg ar ôl iddi hi ymweld ag Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen ddechrau'r 80au. Dyma hi'n sôn am daith awyren ddiddorol gaeth hi yn y gorffennol... Iseldiroedd Netherlands Anaddas Unsuitable Tanwydd Fuel Suddo To sink Arfordir Coastline Creigiau Rocks Darlledu To broadcast Doniol Funny Pigion Dysgwyr – Dianne Roberts On'd yw Atri'n gymeriad a hanner? Dianne Roberts yw Trysorydd Sioe Arddwriaethol Llangernyw ger Llanrwst. Eleni mae'r Sioe yn dathlu ei bod wedi cael ei chynnal am 175 o flynyddoedd. Dyma Dianne i sôn mwy.. Sioe arddwriaethol Horticultural show Annog To encourage Hen bryd About time Hud a lledrith Magic

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 4ydd o Ebrill 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Apr 3, 2023 14:09


Cafodd Aled Hughes sgwrs wythnos diwetha gyda Sioned Mair am Fondue, bwyd sydd yn dod yn ôl i ffasiwn y dyddiau hyn. Ond beth yn union yw Fondue? Doedd dim syniad gydag Aled a dyma i chi Sioned yn esbonio… Toddi To melt Mae'n debyg Probably Amrwd Raw Rhannu To share Argymell To recommend Pigion Dysgwyr – Troi'r Tir Mae'n debyg bod Fondue yn un o nifer o fwydydd y 70au sy'n dod yn ôl i ffasiwn. Cyw iâr mewn basged unrhyw un? Mae Troi'r Tir ar Radio Cymru yn rhoi sylw i faterion ffermio a chefn gwlad, a'r wythnos diwetha dysgon ni ychydig am waith y fet. Mae Malan Hughes yn filfeddyg yn ardal Y Ffor ger Pwllheli a dyma hi yn rhoi syniad i ni o'r math o waith mae hi'n ei wneud o ddydd i ddydd…… Milfeddyg Vet Un ai Either Ymddiddori To take an interest in Ambell i lo Some calves Cathod di-ri Innumerable cats Pry lludw Wood lice Silwair Silage Ardal eang A wide area Pigion Dysgwyr - Maori Wel am fywyd prysur ac amrywiol sy gan milfeddygon on'd ife? I Seland Newydd nawr - ble mae Iwan Llyr Jones, sy'n dod o Finffordd ger Penrhyndeudraeth Gwynedd yn wreiddiol, yn byw. Cafodd Iwan ei ganmol ar-lein am iddo ddewis cael ei seremoni dinasyddiaeth yn Seland Newydd yn gyfan gwbl drwy'r iaith Maori. Dyma Iwan ar Dros Frecwast fore Iau yn esbonio wrth Dylan Ebenezer faint o'r iaith Maori sydd i'w chlywed yn Seland Newydd Canmol To praise Dinasyddiaeth Citizenship Ymateb Response Trawiadol Striking Sylw Attention Tyngu llw To swear an oath Tebygrwydd Similarity Pigion Dysgwyr – Nina Iwan Llyr Jones oedd hwnna'n sôn am y sylw gafodd e ar TiK ToK ar i'w bartner bostio'r seremoni dinasyddiaeth Maori ar Tik Tok. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Nina Evans Williams yr wythnos diwetha. Llwyddodd Nina i ennill cystadleuaeth addurno cacennau Salon Culinaire yn Llundain yn ddiweddar. Ynys Môn oedd yr ysbrydoliaeth dros ei haddurniad a buodd Nina'n sôn wrth Shan Cothi sut aeth hi ati i gynrychioli'r Ynys ar ei chacen... Addurno To decorate Yn ddiweddar Recently Cynrychioli To represent Ysbrydoliaeth Inspiration Teyrnged Tribute Golygfeydd hardd Lovely scenery Arfordir Coastline Goleudy Lighthouse Tonnau Waves Pigion Dysgwyr – Elin Angharad Ac o un artist at artist arall. Gwestai Beti George yr wythnos diwetha oedd y grefftwraig lledr o ganolbarth Cymru Elin Angharad. Mae gwaith celf wedi bod o ddiddordeb mawr i Elin ers pan oedd hi'n ifanc. Buodd hi'n astudio cwrs celf yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, ac erbyn hyn mae hi wedi cychwyn busnes ei hunan yn dylunio a chreu cynnyrch lledr ym Machynlleth. Dyma hi'n sôn am draddodiad crefft ei theulu Dylunio To design Lledr Leather Gwneuthurwr dreser Cymreig Welsh dresser maker Anghyffredin Unusual Diwydiant cig Meat industry Lladd-dai Abattoirs Cymhorthydd Assistant Cymharol fach Relatively small Gwledig Rural Dio'm bwys Does dim ots Pigion Dysgwyr – Kamalagita Elin Angharad oedd honna ar Beti a'i Phobol yn sôn am ei theulu ac am ei gwaith yn dylunio a chreu cynnyrch lledr. Yr wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn sgwrs gyda Kamalagita Hughes o Dreorci. Dysgodd Kamalagita Gymraeg ar ôl un noson fythgofiadwy mewn clwb yn y de, ble roedd band Cymraeg yn chwarae. Dyma hi i sôn mwy am y noson honno…. Bythgofiadwy Unforgettable Egni Energy Diwylliant Culture Ieuenctid Youth

Beti a'i Phobol
Elin Angharad

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Apr 2, 2023 49:48


Crefftwraig lledr o ganolbarth Cymru yw Elin Angharad. Mae gwaith celf, dylunio a chreu wedi bod o ddiddordeb mawr iddi ers yn ifanc. Bu'n astudio cwrs 'Artist, Designer, Maker yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, ac wedyn cychwyn busnes ei hun yn dylunio a chreu cynnyrch wedi ei wneud o ledr.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 21ain o Fawrth 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Mar 21, 2023 16:42


Pigion Dysgwyr – Doctor Cymraeg Cafodd Steven Rule ei eni yn Nghoed-llai ger yr Wyddgrug ond mae llawer yn ei nabod erbyn hyn fel y Doctor Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar Twitter mae Steven yn ateb cwestiynau dysgwyr Cymraeg am yr iaith. Gofynodd Aled Hughes iddo fe'n gynta, gafodd Steven ei fagu ar aelwyd Cgymraeg? Aelwyd Home Cyfryngau cymdeithasol Social media Yr Wyddgrug Mold Bodoli To exist Bellach By now Fel petai As it were Ar y ffin On the border Anogaeth Encouragment Pigion Dysgwyr – Dawnswyr Mon On'd yw hi'n braf cael clywed am blant y ffin yn cael Dysgu Cymraeg? Daliwch ati Doctor Cymraeg! Buodd Mair Jones yn sgwrsio gyda Shan Cothi ar ei rhaglen yr wythnos diwetha yn apelio am aelodau newydd i ymuno â chriw Dawnswyr Môn. Dyma Mair i esbonio yn gynta sut a pryd ffurfiwyd y grŵp... Mi ddaru John sefydlu John formed Treulio To spend (time) Y clo The lockdown Ail-gydio To rekindle Gwlad Pwyl Poland Cynulleidfaoedd Audiences Anferth Huge Yn rhwydd Yn hawdd Yn helaeth Extensively Pigion Dysgwyr – Geraint Roberts Felly os dych chi'n byw yn y gogledd orllewin ac eisiau dysgu dawnsio gwerin , cysylltwch â dawnswyr Môn. Fe gafodd Trystan ac Emma gwmni y pibydd o Ystradgynlais Geraint Roberts ar eu rhaglen yn ddiweddar. Mae Geraint yn chwarae'r bib Gymreig mewn gorymdeithiau a phriodasau, a bu'n esbonio beth yn gwmws yn ei farn e yw eu hapel Mewn – gallech chi ddweud Allan – I ddweud y gwir Hyd – 1'39” Pigion Dysgwyr – Pryd Ma Te Felly os dych chi'n byw yn y gogledd orllewin ac eisiau dysgu dawnsio gwerin , cysylltwch â dawnswyr Môn. Nos Lun ar ei raglen gwahoddodd Rhys Mwyn - Mair Tomos Ifans, Carys Huw, Sian Wheway a Nia Owens i'r stiwdio. Yn yr 80au ffurfion nhw fand o'r enw Pryd Ma Te. Dyma Mair Tomos Ifans yn gynta i sôn am ba offeryn roedd hi yn chwarae yn y band Offeryn Instrument Mi ddaru ni benderfynu Penderfynon ni Genod Merched Chdi Ti Pigion Dysgwyr – Quincy Jones Criw Pryd Ma Te yn fanna'n cofio dyddiau cynnar y band efo Rhys Mwyn. Ddydd Mawrth diwetha roedd y cerddor a'r cyfansoddwr Quincy Jones yn dathlu ei benblwydd yn 90 oed. Ar Dros Ginio y diwrnod hwnnw cafodd y cerddor jazz Tomos Williams gyfle i edrych yn ôl dros ei yrfa, gan ddechrau drwy sôn am ble gafodd Jones ei fagu….. Y cerddor a'r cyfansoddwr The musician and composer Ardal ddiwydiannol Industrial area Hiliaeth Racism Rhaglenni dogfen Documentaries Llygod Ffrengig Rats Cnewyllyn o brofiadau A grain of experiences Y tu hwnt i Beyond Tlodi enbyd Extreme poverty Ysgoloriaeth Scholarship Mireinio ei grefft To refine his craft Pigion Dysgwyr – Berwyn Rowlands Bach o hanes Quinzy Jones yn fanna ar ddiwrnod ei benblwydd yn 90 oed. Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobol bnawn Sul oedd Berwyn Rowlands. Berwyn oedd sylfaenydd gwyl ffilmiau Iris sef gwyl ffilmiau ar gyfer y gymuned LGBTQ+ . Dyma fe i sôn am ei ddyddiau Ysgol ar Ynys Môn Sylfaenydd Founder Mynedfa Entrance Babanod Infants Arlunio Painting Gwnïo Sewing Cofrestr register Gydol yr wythnos Throughout the week Ymddangos To appear Chwysu chwartiau Sweating like a pig ( lit: sweating quarts) Pigion Dysgwyr – Sandra de Pol Dw i'n meddwl bod ysgolion Môn wedi newid yn fawr ers dyddiau ysgol Berwyn Rowlands. Wel gobeithio on'd ife? Dros yr wythnosau nesa bydd Aled Hughes yn sgwrsio gyda rhai o enillwyr Gwobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn y gorffennol i nodi 40 mlynedd er cychwyn y wobr. Wythnos diwetha dechreuodd Aled drwy holi enillydd y flwyddyn 2000 sef Sandra De Pol sy'n dod o'r Ariannin yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel tiwtor Cymraeg. Ariannin Argentina Adfywio To revive Disgynyddion Descendants Diwylliant Culture Enwebu To nominate Cyfweliadau Interviews Cyfathrebu To communicate Ymdrech Attempt Hynod o arwyddocaol Very significant Heriol Challenging

In Lockdown With...
Penod 3: Nia Morais

In Lockdown With...

Play Episode Listen Later Mar 4, 2023 46:56


Y ddramodydd Nia Morais yw'r cwmni ar y penod yma o 'Cyfnod Clo Gyda/In Lockdown With...' Ar ol astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, dechrauodd Nia ei yrfa fel sgwenwr. Cymerodd Nia rhan yng nghynllyn Sgwenwyr Ifanc Fran Wen, cyn dod yn awdur preswyl Theatr y Sherman yng Nghaerdydd. Yn 2020 cafodd drama Nia 'Crafangau/Claws' eu cynhyrchu fel drama sain ar gyfer y Sherman. Eleni, fydd eu ddrama 'Imrie' yn teithio Cymru. Yma mae Ciaran yn siarad i Nia am eu yrfa hyd heddiw. Playwright Nia Morais is the guest on this week's episode of 'In Lockdown With...' After studying at Cardiff University, Nia started her career as a writer. Nia was part of Sgwenwyr Ifanc Fran Wen, before becoming Writer in Residence at the Sherman Theatre in  Cardiff. In 2020, Nia's play 'Crafangau/Claws' was produced as an audio drama for the Sherman. This year, her play 'Imrie' will tour Wales. Here Ciaran talks to Nia about her career so far.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 17eg 2023

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jan 17, 2023 11:45


Pigion Dysgwyr – Kath Morgan 8.1 Gwestai Beti George ar Beti a'i Phobl wythnos dwetha oedd cyn gapten pêl-droed merched Cymru, Kath Morgan. Mae angen bod yn berson hyderus iawn i gymryd y swydd honno on'd oes? Wel nid felly yn ôl Kath... Cyn gapten Former captain Yn falch Proud Difaru To regret Braint An honour Ymfalchïo To be proud of oneself Cyfrifoldeb Responsibility Gormod o bwysau Too much pressure Mynnu To insist Cyfarwyddiadau Instructions Pigion Dysgwyr 10.1 – Gareth Bale O cyn-gapten tîm merched Cymru i gyn-gapten tîm dynion Cymru - Gareth Bale, a daeth y newyddion yr wythnos diwetha bod y pêl-droediwr enwog yn ymddeol. Dyma Nic Parri yn edrych yn ôl ar ei yrfa ar Dros Frecwast fore Mercher. Cyfadde(f) To admit Di-ri(f) Innumerable Annisgwyl Unexpected Ystyried To consider Syllu To stare Llusgo To drag Pencampwriaeth Championship Ysbrydoliaeth Inspiration Aruthrol Huge Breuddwydiol, euraidd Dreamy, golden Yng nghysgod In the shadow Pigion Dysgwyr – Aled Hughes 9.1 R'yn ni'n aros yng Nghaerdydd ar gyfer y clip nesa o raglen Aled Hughes. Cafodd Aled sgwrs gyda Tim Hartley am yr ymgyrch lwyddiannus i gael datblygwyr i ddefnyddio enwau Cymreig ar stad o dai sydd ar hen bencadlys BBC Cymru yn Llandaf. Dyma Tim yn sôn mwy am hanes y pencadlys a rhai o'r strydoedd sydd wedi ei henwi ar ôl unigolion enwog. Ymgyrch llwyddiannus A succesful campaign Datblygwr Developer Pencadlys Headquarters Unigolion Individuals Safle wreiddiol The original site Darlledwr Broadcaster Fel petai ysbrydion yna As if spirits were there Cawr Giant Cofnodi To record Sefydlydd Founder Cadw ar gof To keep on record Pigion Dysgwyr - Alun Gibbard 13.1 Mae'n braf gweld bod enwau Cymraeg ar ardal sydd â hanes pwysig iawn o ran yr iaith, on'd yw hi? Mae Shan Cothi yn gwahodd rhywun i roi Munud I Feddwl i ni bob dydd. Mae'r rhan yma o'r rhaglen yn rhoi munud i ni feddwl a sefyll yn ôl o brysurdeb ein bywydau bob dydd. Tro Alun Gibbard oedd hi fore Gwener. Dychmygwch Imagine Coedwig Wood Y tu draw Beyond Tirwedd Landscape Cysurus Comforting Gwrando'n astud Listen closely Cyfarwydd Familiar Sefyll yn rhydd Freestanding Ehangder The expanse Pigion Dysgwyr – Vicky Alexander 11.1 Munud i Feddwl ar ffurf llun bach yn fanna gan Alun Gibbard. Nos Fercher ar raglen Caryl cafodd hi sgwrs gyda Vicky Alexander o Lanbradach. Mae Vicky yn helpu yn Nghanolfan Soar ym Merthyr Tydfil a hi sydd yn rhedeg y siop lyfrau yno dyma hi i sôn mwy am y lle. Enfys Rainbow Cefnogi To support Cynhesrwydd Warmth Canolfan Gelfyddydol Arts centre Creadigol Creative

Beti a'i Phobol
Shan Jamil Ashton

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Dec 11, 2022 50:24


Shan Jamil Ashton yw gwestai Beti George. Mae Shan yn gyn darlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn Gymdeithasegydd. Mae hi'n arwain gwaith Cymunedau ac yn byw yn Capel Curig – yn chwaer i Caradog Jones y Cymro 1af aeth i fyny Everest. Cafodd ei geni ym Mhontrhydyfen De Cymru. Ei henw canol ydi Jamil - pan oedd ei thad yn ifanc bu'n aelod o'r Palestine Mountain Police ac mae ei chwaer wedi ei henwi'n Jasmine ar ôl yr ardal. Am flynyddoedd creda Shan mai ystyr Jamil oedd camel. Ond deallodd yn ddiweddarach drwy'r myfyrwyr yn y Coleg mai ystyr y gair ydi prydferth neu hardd. Bu'n astudio Celf am gyfnod yng Nghaerdydd. Ar ôl magu'r plant fe aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Bangor a graddio yn 1990. Roedd hi wedi bwriadu astudio Addysg er mwyn hyfforddi'n athrawes ond pan roedd hi yn ei blwyddyn gyntaf fe ddewisodd Ieithyddiaeth a Chymdeithaseg hefyd fel pynciau. Ar ôl ei darlith gyntaf mewn Cymdeithaseg mi roedd hi'n hooked meddai hi! Bu'n tiwtora a darlithio yn y Coleg Normal ac wedyn yn y Brifysgol ym Mangor.

mount everest bu ei shan jamil ond coleg celf mangor cymro nghaerdydd cafodd beti george
Beti a'i Phobol
Sylvia Davies

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Dec 4, 2022 52:13


Sylvia Davies, amgylchedd wraig a sefydlodd ei chwmni ei hun Eto Eto yw gwestai Beti George. Mae hi'n creu bagiau ac ategolion allan o wastraff fydda fel arall yn mynd i'r domen sbwriel. Roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn gwnïo a dysgodd wnïo pan oedd hi'n 4 oed - roedd ei Mam yn arfer gwnïo dillad iddi hi a'i chwaer. Fe wnïodd Sylvia ei ffrog briodas ei hun. Roedd gwnïo felly yn rhywbeth oedd yn ei chysylltu hi a'i mam. Sgil bywyd a ddysgodd ganddi, ac yn dilyn ei marwolaeth fe ddaeth yn llinyn cyswllt ac yn ffordd o ddygymod a'r galar. Bu Sylvia yn byw a gweithio yn Israel ac yn Thailand a hynny ar ôl astudio ei gradd mewn Anthropoleg yn y Brifysgol yn Llundain. Bu'n dipyn o rebel yn ei harddegau, ac mae hi'n rhannu'r straeon ei bywyd cynnar yng Nghaerfyrddin. Mae hi bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

israel thailand bu davies fe mam nghaerdydd beti george
Hefyd
Steve Dimmick, Dyn Busnes o'r Cymoedd | Pennod 19

Hefyd

Play Episode Listen Later Nov 17, 2022 37:57


Ein gwestai ni y tro yma ydy Steve Dimmick, cyd-sylfaenydd (co-founder) y cwmni Doopoll, sy'n gwneud arolygon ar lein (online surveys). Cafodd e ei fagu yng nghymoedd de-ddwyrain Cymru, ac ar ôl cyfnod yn Abertawe a Llundain mae e'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn. Yn y pennod yma, rydyn ni'n trafod y Gymraeg yn y byd busnes a thechnoleg, yn ogystal â phrofiadau Steve o dysgu'r iaith a'i defnyddio hi gyda theulu, ffrindiau ac yn y gymuned. Hefyd yn y pennod yma rwy'n rhannau rhai o'ch atebion i'r #CwestiwnYMis ar Twitter: ‘Dysgwyr: ble rwyt ti'n defnyddio dy Gymraeg?'. Mae mwy o wybodaeth am Steve, gyda geirfa o'r pennod yma a linciau perthnasol, ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.  

spotify google podcasts yn cymru gymraeg pennod hefyd abertawe nghaerdydd steve dimmick cafodd cymoedd
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 25ain o Hydref 2002

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 25, 2022 15:48


BETI A'I PHOBOL Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe'n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae'n sôn am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu'r iaith… Treulio amser - To spend time Mynd mas - Mynd allan Profiad - Experience Mam-gu - Nain Cymdeithasol - Sociable Gorfodi - To force Cefnogol - Supportive Becso - Poeni Trochi - To immerse ALED HUGHES Dim ond ers mis Ebrill eleni mae Katie Owen o Ferthyr yn dysgu'r iaith ar ôl iddi gymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith gyda'r DJ Huw Stephens yn fentor iddi hi. Dyma hi'n sgwrsio gydag Aled Hughes… Gwahanol - Different Tad-cu - Taid ALED HUGHES Cafodd Laura Jones o Gaerdydd ychydig o wersi Cymraeg yn yr ysgol, ond penderfynodd ddysgu'r Gymraeg fel oedolyn er mwyn cyfieithu rhannau o'r Quran. Dyma flas ar y sgwrs cafodd hi gydag Aled Hughes... Oedolyn - Adult TGAU - GCSE Annog - To encourage Gyrfa - Career Cyfleoedd Gwaith - Work opportunities Bwlch - A gap Dywediadau - Sayings ALED HUGHES Beth tybed oedd rheswm Kelly Webb-Davies sy'n dod o Awstralia'n wreiddiol dros ddysgu'r iaith? Fel cawn ni glywed mae hi'n briod â Peredur Glyn awdur nofel o'r enw ‘Pumed Gainc y Mabinogi' ac mae hi wedi magu ei mab drwy'r Gymraeg. Dyma hi'n sgwrsio efo Aled Hughes... Ieithyddiaeth - Linguistics Bathu term - To coin a phrase Sillafu - To spell Seiniau - Sounds Clwt - Cewyn Llwglyd - Hungry BORE COTHI Mae stori Sara Maynard o Sir Gaerfyrddin ychydig yn wahanol. Cafodd hi ei haddysg mewn ysgolion Cymraeg ond ar ôl gadael ysgol collodd hi ei hyder o ran sgwennu Cymraeg. Aeth hi ar gwrs Cymraeg i Oedolion i wella'r sgil yma ac erbyn hyn mae hi'n swyddog iaith ym Mhrifysgol De Cymru. Ysgol gynradd - Primary School Ysgol Gyfun - Secondary School Trwy gyfrwng - Through the medium of Ysgrifenedig - Written Sbarduno - To spur BORE COTHI Cafodd Shân Cothi sgwrs ddiddorol arall gyda Dickon Morris, cafodd ei eni yng Nghaergrawnt, ei fagu yn Sir Benfro ond sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Mae e'n gweithio fel daearegydd ac yn amlwg mae e wrth ei fodd gyda'r gwaith... Caergrawnt- Cambridge Daearegydd - Geologist Plentyndod - Childhood Dinbych y Pysgod - Tenby Diwydiant - Industry Tirwedd - Landscape Llethrau serth - Steep slopes Amrywiaeth - Variety

wimbledon quran fel cymraeg daith gymraeg dyma mabinogi podlediad wythnos iaith hydref ysgol aeth nghaerdydd gaerdydd flwyddyn ebrill sir benfro cafodd daeth beti george
Beti a'i Phobol
Joe Healy

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Oct 16, 2022 50:37


Joe Healy, enillydd Dysgwr y flwyddyn yw gwestai Beti George wrth i ni ddathlu Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg. O Wimbledon yn Ne Llundain y daw Joe Healy ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers degawd. Fe ddaeth i'r brifddinas i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros. Fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac mae'n trafod sut wnaeth o ddysgu'r iaith. Mae'n rhannu hanesion ei gyfnod yn Peru ac yn dewis ei hoff ganeuon yn cynnwys rhai gan Breichiau Hir a Datblygu. Llun: Dafydd Owen - ffotoNant.

peru fe cymraeg joe healy datblygu nghaerdydd beti george
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 27ain o Fedi 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Sep 27, 2022 14:24


Radio'r Cymry Mae hi bron yn ganrif ers i'r geiriau Cymraeg cyntaf gael eu clywed ar y radio. Yn y gyfres newydd, Radio'r Cymry, mae Hywel Gwynfryn yn edrych ar raglenni, digwyddiadau â'r cymeriadau sydd wedi gwneud Radio Cymru yr hyn ydy o heddiw. Yn 1935 daeth Sam Jones yn Bennaeth y BBC ym Mangor ac roedd hi'n ddechrau ar gyfnod cyffrous iawn yn hanes Radio Cymraeg. Dyma ei ysgrifenyddes, Morfudd Mason Lewis, yn sôn am y dyddiau hynny..... Canrif - Century Cyfres - Series Pennaeth - Head Parchu - To respect Peirianwyr - Engineers Tyrfa - A crowd Rhaglenni byw - Live programmes Pennill - A verse A ddeuai - Fasai'n dod Aled Hughes Aeth Aled Hughes draw i Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn i gwrdd â Reuben Hughes, sy'n bencampwr reslo braich! Mae o'n aelod o glwb reslo braich Roar yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin, ac mae o newydd ennill ei gystadleuaeth reslo braich gynta. Pencampwr - Champion Am sbort - For fun Yr amser yn brin - Time was scarce Penderfynol - Determined Diogelwch - Safety Poendod - A worry Gwarchod - To protect Rhoi'r fantais - To give an advantage Cryfder - Strength Gwneud Bywyd yn Haws Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth, buodd Hanna Hopwood yn sgwrsio efo Dr Elinor Young. Mae gan Elinor gi therapi o'r enw Tana sydd yn rhan o gynllun Cŵn Cymorth Cariad a dyma hi'n sôn ychydig wrth Hanna am y cynllun… Cafodd ei sefydlu- Was established Hwlffordd - Haverfordwest Disgwyliadau - Expectations Hyfforddiant - Training Cyfathrebu - To communicate Perchennog - Owner Lles - Welfare Dychryn - To frighten Llyfu - To lick Bore Cothi Therapi sy'n cael sylw yn y clip nesa ‘ma hefyd, sef Adweitheg, neu Reflexology. Mi roedd hi'n Wythnos Adweitheg y Byd wythnos diwetha, ac mi fuodd Sioned Jones yn sgwrsio efo Shân Cothi am y therapi. Mae Sioned yn dod o Waunfawr yng Ngwynedd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae hi'n byw yng Nghaerdydd ac yn berchen ar gwmni J Reflexology yn y ddinas. Cysur - Comfort Adweitheg - Reflexology Heriau - Challenges Gradd ychwanegol - An extra degree Addas - Suitable Dan bwysau - Under pressure Egni - Energy Treulio - To digest Crediniol - Convinced Beichiogi - To become pregnant Bore Cothi Sut mae gwybod y gwahaniaeth rhwng colomen a sguthan? Dyna oedd cwestiwn Shân Cothi i Daniel Jenkins Jones, a dyma fo'n ateb mewn ffordd ddiddorol iawn. Colomen - Pigeon (Y)sguthan - Wood Pigeon Gwahaniaethu - To differenciate Turtur Dorchog - Collared Dove Tlws - Pretty Coedwigoedd - Woodlands Yn bla - A plague Cerddorol - Musical Atgoffa - To remind Sill - Syllable Aled Hughes Tybed ydy amser yn ymddangos i fynd yn arafach i blant nag ydy o i oedolion? Mae Dr Rhys Morris yn gweithio yn adran astroffiseg, Prifysgol Bryste, ac mae'n grediniol bod hynny'n digwydd. Dyma fo'n esbonio pam mae o'n credu hynny wrth Aled Hughes... Ymddangos - To appear Hŷn - Henach Atgofion - Memories Canran - Percentage Ymenydd - Brain Golygfeydd - Scenes Cyfnod llai - A shorter period Manylyn - A detail Gweledol - Visual

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 6ed o Fedi 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Sep 16, 2022 15:08


Bore Cothi Sarah Astley Hughes sy'n byw yng Nghaerdydd, ond sy'n dod Lanrhaeadr ym Mochnant, Powys yn wreiddiol, fuodd yn sôn wrth Shelley Rees Owen ar Bore Cothi fore Iau am ei phenderfyniad i groesawu'r gwallt llwyd ar ôl cael llond bol o orfod lliwio ei gwallt bob pythefnos! Croesawu - To welcome Lliwio - To dye Sylweddoli - To realise Ffili - Methu Colurwraig - Make-up artist Bwrw Golwg Ddechrau wythnos diwetha mi ddaeth y newyddion am y llifogydd ofnadwy sydd wedi taro Pacistan. Dyma i chi Tom Davies o'r elusen Cymorth Cristnogol yn sôn am y drychineb… Llifogydd - Floods Trychineb - Disaster Heb rybudd - Without warning Diflannu'n weddol glou - Disappearing quite quickly Distryw - Destruction Ceisio dygymod â - Trying to come to terms with Yn sgil - As a consequence of Cilio - To recede Newid hinsawdd - Climate change Argyfyngau - Crisis Cymry a Mwy Pan symudodd Gwenfair Griffith a'i theulu i Sydney, Awstralia, sefydlodd hi Grŵp Chwarae Cymraeg er mwyn helpu ei phlant i gadw cysylltiad â'u gwreiddiau yng Nghymru. Yn y rhaglen hon, mae Gwenfair yn cwrdd â Lin Dodd sy'n byw yng Nghaerffili, ond sy'n dod o Tseina yn wreiddiol, ac sy'n ceisio dod yn rhan o'r gymuned leol … Y gymuned leol - The local community Cyfathrebu - To communicate Y profiad - The experience Aled Hughes Mae Vaughn Smith o Washington yn medru siarad 36 o ieithoedd ac mae'n rhugl mewn 24 ohonyn nhw! Rhai o'r ieithoedd mae o'n eu siarad ydy Rwmaneg, Ffineg, Sbaeneg, Pwyleg, Norwyeg, Iseldireg….ac erbyn hyn mae Cymraeg ar ei restr o ieithoedd yn ogystal. Pwyleg - Polish Iseldireg - Dutch Defnyddiol - Useful Tras Cymreig - Welsh heritage Ar ei thraws - Across it Y Deyrnas Unedig - The UK Cefais fy swyno - I was enchanted Yn ddiweddarach - Later on Dros Ginio Draw i Feirionnydd aeth Dewi Llwyd i gwrdd â thad a merch o bentre Llanuwchllyn, sef Huw Antur a Marged Gwenllian. Mae Huw yn Gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd yng Nglanllyn ac mae Marged hefyd yn gweithio i'r Urdd fel Swyddog Cymunedol Meirionnydd. Cyfarwyddwr Gwersyll - Camp Director Swyddog Cymunedol - Community officer Dylanwad - Influence Dau gan llath - 200 yards Tebyg - Similar Milltir sgwâr - Square mile Hwyrach - Perhaps Ymgyrchu - Campaigning Cynyddu - To increase Lleihau - To decrease Aled Hughes Cyhoeddodd Aled Hughes newyddion cyffrous ar Radio Cymru ddydd Mercher diwetha! O Hydref y 3ydd, mi fydd cyflwynydd newydd ar y tonfeddi bob nos Lun i Iau o 9 tan hanner nos. Pwy ydy o, neu hi. tybed…? Cyflwynydd - Presenter Tonfeddi - Wavelength Ar fin datgelu - About to disclose Llawn cyffro - Full of excitement Rhoi'r gorau iddi - To give it up Arloesol - Pioneering Cyfrwng - Medium Heb unrhyw amheuaeth - Without any doubt Cynulleidfa - Audience

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 30ain o Awst 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Aug 30, 2022 14:06


Dros Ginio Mae Jeremy Paxman wedi dweud ei fod am roi'r gorau i University Challenge wedi 28 mlynedd o gyflwyno'r cwis.   Dr Alun Owens fuodd yn sôn wrth Dewi Llwyd am ei amser ar y rhaglen yn 2015 pan oedd o'n fyfyriwr yn Mhrifysgol Abertawe. Dyna oedd y tro cynta i Brifysgol Abertawe fod ar y rhaglen ers tua 20 mlynedd.     Rhoi'r gorau i To give up Haerllug Cheeky Camddeall To misunderstand Ymdrech An attempt Dychrynllyd Frightening Yr ystafell werdd The green room Lled awgrym A hint of a suggestion Delwedd darlledu Broadcasting image Croesholwr Cross examiner Dirmygus Scornful Bore Cothi Dr Alun Owens oedd hwnna'n sôn am ei brofiad ar University Challenge. Mi fuodd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes wythnos diwetha ac mi gafodd hi sgwrs efo'r arbenigwraig ffasiwn, Sina Haf Hudson am y cynllunydd ffasiwn o Siapan , Issey Myake fuodd farw ar Awst 5 eleni... Persawr Perfume Oglau Fragrance Hawlio To claim Fyw i rywun arall No-one else would dare Blaenllaw Prominent Dylanwadu To influence Plentyndod Childhood Arddull Style Efrog Newydd New York Ymysg Amongst Dysgwr y Flwyddyn Joe Healy Ychydig o hanes y cynllunydd ffasiwn o Siapan , Issey Myake yn fan 'na ar Bore Cothi. Ar raglen Aled Hughes cafodd Bryn Tomos sgwrs efo enillydd cystadleuaeth Dysgwr y flwyddyn yn Eisteddfod Ceredigion eleni  sef Joe Healy o Wimbledon ond sydd erbyn hyn wedi setlo yng Nghaerdydd.  Gofynnodd Bryn iddo fo oedd o wedi clywed am y Gymraeg pan oedd o'n blentyn ysgol yn Llundain.  Tyfu lan Growing up Ymwybodol Aware Ysgogi To motivate Ysbrydoli To inspire Mo'yn Eisiau Shelley & Rhydian a Sarra Elgan ...a llongyfarchiadau mawr i Joe ar ennill Dysgwr y Flwyddyn ynde?. Y gyflwynwraig Sarra Elgan oedd gwestai Shelley Rees Owen a Rhydian Bowen Phillips fore Gwener – a buodd hi'n sôn am roi gwersi Cymraeg i chwaraewr rygbi enwog iawn o Dde Affrica, Bryan Habana.  O ddifri Seriously Stwr A row Hala Anfon Dishgwl Edrych Awyddus Eager Brwdfrydedd Enthusiasm Ymateb Response Profiad anhygoel An incredible experience Ni y Nawdegau Sarra Elgan oedd honna fuodd yn diwtor Cymraeg ar Bryan Habana! Buodd Esyllt Sears y ddigrifwraig yn edrych yn ôl ar oes aur y nawdegau yng Nghymru.   Dyma hi'n trafod “brand” Cymru, neu ella diffyg brand Cymru.  Digrifwraig Comedienne Oes aur Golden Age Diffyg Lack of Byth yn buddsoddi ceiniog  Never investing a penny Arbenigwyr Experts Cael gwared o nadroedd Getting rid of snakes Gwelededd Visibility Anwastad Rugged Mabwysiadu arloesedd Adopting innovation Beti a'i Phobol ‘Brand Cymru' yn cael amser caled gan Esyllt Sears yn fanna. Yr artist Seren Morgan Jones o Aberystwyth oedd gwestai Beti George wythnos diwetha.  Pan oedd hi'n 15 oed symudodd y teulu i Kuwait, ond nid dyna ddiwedd ei theithio, fel cawn ni glywed... Mas Allan Awyddus Eager Twymo lan Warming up Tamaid bach Tipyn bach Porfa las Green grass Anialwch Desert

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr 26ain o Orffennaf 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jul 26, 2022 14:22


Pigion Aled Hughes Rhestr fer dysgwr y flwyddyn Mi fuodd Aled Hughes yn cael sgwrs efo'r 4 sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn 2022. Mi fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Tregaron wythnos nesa. Bore Llun mi gafodd o gyfle i ddod i nabod Stephen Bale, un o'r pedwar sydd yn y ffeinal. Mae Stephen yn dod o ardal Castell-nedd yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o'n byw yn Sir Fynwy. Rhestr fer Short list Cyhoeddi To announce Castell-nedd Neath Sir Fynwy Monmouthshire Cwrs dwys Intensive course Yn y pendraw In the end Degawd Decade Gohebydd Correspondent Rhyngwladol International Y Llewod The Lions Hyrwyddo To promote Pigion Aled Hughes DyFlwyddyn – Sophie Tuckwodd Stephen Bale oedd hwnna – gohebydd rygbi sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni. Dydd Mawrth mi gafodd Aled gyfle i gael sgwrs efo Sophie Tuckwood un arall sydd ar y rhestr fer. Daw Sophie o Nottingham yn wreiddiol ond symudodd hi i Sir Benfro ddeg mlynedd yn ôl. Wynebu To face Ar yr un pryd At the same time Yr ifanca Y fenga Cyfathrebu To communicate Pigion Aled Hughes DyFlwyddyn – Joe Healy Ac mae Sophie erbyn hyn wedi ennill cymhwyster Dechrau Dysgu i fod yn diwtor Cymraeg i Oedolion ac mae hi'n dysgu dosbarthiadau Mynediad yn Sir Benfro.. Cyfle i ddod i nabod Joe Healy oedd hi ddydd Mercher. Mae Joe yn dod o Wimbledon yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o'n byw yng Nghaerdydd. Gwiwer Squirrel Diwylliant Culture Cysylltiad Connection Braidd ‘di gadael Hardly left Ymwybodol Aware Iau ‘fengach/ifancach Pigion Aled Hughes Rhestr fer dysgwr y flwyddyn – Ben Ó Ceallaigh Mae Aled yn amlwg yn mwynhau sgwrsio efo'r 4 sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn ac yn synnu bod eu Cymraeg nhw cystal ar ôl cyn lleied o amser yn dysgu. Dydd Iau mi gafodd o gyfle i sgwrsio efo'r pedwerydd ymgeisydd, Ben Ó Ceallaigh sydd ond wedi bod yn dysgu ers 20 mis! Daeth Ben i Gymru o Iwerddon flwyddyn yn ô,l ac erbyn hyn mae o'n darlithio yn Gymraeg. Darlithio Lecturing Ymgeisydd Candidate Gwyddeleg Irish language Rhwystredig Frustrating Parhau To continue Rhyfeddol Amazing Mynychu To attend Diolchgar Thankful Pigion – Bore Cothi Sioe Fawr Lowri Dyna bedwar dysgwr gwych ynde? Pob lwc i bob un ohonyn nhw yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn wythnos nesa. Roedd y Sioe Fawr ymlaen yn Llanelwedd wythnos diwetha am y tro cynta ers tair blynedd ac mi roedd Shan Cothi wrth ei bodd yng nghanol hwyl y sioe. Clwyd oedd Sir Nawdd y sioe a mi gafodd Shan air efo Lowri Lloyd Williams, llysgennad y sioe, fore Llun. Mae Lowri'n dod o Efenechtyd ger Ruthin. Rownd derfynol Final round Y Sioe fawr The Royal Welsh Nawdd Sponsorship Llysgennad Ambassador Braint ac anrhydedd An honour and a privilege Cynrychioli To represent Atgofion Memories Cystadlu To compete Agosatrwydd Intimacy Pigion – Ar Blat Roy Noble Shan a Lowri yn amlwg wrth eu boddau yn y Sioe yn Llanelwedd. Cafodd Beca Lyne-Pirkis gwmni y darlledwr Roy Noble i drafod bwyd. Ydy Roy yn hoffi bwyta allan tybed? Darlledwr Broadcaster Ers achau A long time ago Pan o'n i'n caru When I was courting Lan lofft I fyny'r grisiau Swllt A shilling Wejen Girlfriend Beudy Cowhouse Hanesyddol Historical

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 31ain 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later May 31, 2022 17:15


Beti a Sian Eirian Mae Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Nimbych yr wythnos hon ac mi gafodd Beti George gwmni Cyfarwyddwr Dros Dro yr Eisteddfod, Sian Eirian, ar Beti a'i Phobol fore Sul. Yn y gorffennol buodd Sian yn gweithio fel Pennaeth Rhaglenni Plant S4C a dyma hi'n sôn am yr adeg aeth hi â CYW (y cyw annwyl felly- eicon rhaglenni plant bach) i gyfarfod â Boris Johnson pan oedd o'n Faer Llundain... Cyfarwyddwr Dros Dro - Temporary Director Awyddus I ymestyn - Eager to extend Adran Gyfathrebu - Communications Department Sylweddoli - To realize Tanddaearol - Underground Heddlu cudd - Secret police Terfysgwr - Terrorist Gweithredu - To act (upon) Degau ar ddegau - Many (lit: tens on tens) Hanes 'Cywgate' yn fan'na gan Sian Eirian. Butlins Oeddech chi'n gwybod bod yna Eisteddfodau o fath yn Butlins Pwllheli ac yn Butlins y Barri ers talwm? Wel cystadleuaeth talent oedden nhw cael eu galw mewn gwirionedd! Buodd Ffion Emyr yn cyflwyno rhaglen oedd yn edrych yn ôl ar 75 mlynedd ers agor Butlins Pwllheli. Dyma hi'n cael sgwrs efo Bob Morris fuodd yn gweithio yn Butlins, ac sy'n cofio gweld Billy Butlin ym Mhwllheli, ac yna hanes Mair Evans o Lanbedr Pont Steffan, neu Llambed, wnaeth yn dda iawn yn y cystadlaethau talent - ei mam Janet sy'n dweud yr hanes. Datganiad - Statement Gwersyllwyr - Campers Beirniadaeth - Adjudication Beirniaid - Judges Wedi dotio ar - Wedi dwlu ar Neb llai na - None other than Gwlad yr Haf - Somerset Meddyliwch ennill cystadleuaeth dalent a Catherine Zeta Jones yn dod yn ail i chi - gwych yn de? Bore Cothi a Manuela Manuela Niemetscheck, sy'n seicotherapydd celf, oedd dysgwr y flwyddyn Bwrdd Betsi Cadwaladr. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob dwy flynedd ac roedd y tri beirniad yn cytuno mai Manuela oedd yn haeddu teitl Dysgwr y Flwyddyn. Dyma Manuela ar Bore Cothi yn rhoi ychydig o'i hanes hi ac yn sôn am ei swydd ddiddorol ... Haeddu - To deserve Llwyth - Loads Dwyieithog - Bilingual Bwrw ymlaen - To get on with it Mae talent dysgu ieithoedd anhygoel gan Manuela yn does? Dros Ginio Caryl a Miriam Mam a merch, Caryl Parry Jones a Miriam Isaac, oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Caryl sy'n dechrau'r sgwrs, yn cofio am ei magwraeth yn Ffynnongroyw, Sir y Fflint. Gwerthfawrogi magwraeth - Appreciating the upbringing Pentref glofaol - A coal mining village Pwll glo - Coal mine Brawdgarwch - Brotherhood Y Parlwr Du - Point of Ayr Diwylliant - Culture Nefolaidd - Heavenly Arddull - Style Mae'n amlwg bod Caryl a Miriam wedi cael magwraeth wrth eu boddau, ac atgofion melys iawn gan Miriam o Nain a Taid I Mewn I'r Gol Yn 2021, mi fuodd yna newid anferth i Glwb Pêl-droed Wrecsam wrth i ddau o sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu'r clwb! Cyhoeddodd y ddau fideo aeth yn feiral - a chael Maxine Hughes , sy'n byw yn yr Unol Daleithiau i gyfieithu ar y pryd ar y fideo. Rŵan dan ni'n mynd i glywed lleisiau Maxine, Wayne Phillips, fuodd yn chwarae i Wrecsam, a hefyd Cledwyn Ashford sy'n sgowt I academi'r clwb yn sôn am y newid ddaeth i'r clwb ers i'r sêr ddod mewn. Dylan Griffiths, o Adran Chwaraeon Radio Cymru, fuodd yn dilyn y stori Cyfieithu ar y pryd - Instantaneous translation Perchnogion - Owners Cadarnhad - Confirmation Hyrwyddo - To promote Sylw byd eang - Worldwide attention Disgleirio - To shine Llwyfan - A stage Argraffiadau cynnar - Early impressions Breuddwyd - A dream Yn y cefndir - In the background A dw i'n siŵr bod ffans Wrecsam i gyd yn drist ddydd Sul pan gollodd y clwb gêm fwya'r tymor o bum gôl i bedair. Stiwdio Tlws y Dysgwr Ac mi ddown ni'n ôl at Eisteddfod yr Urdd efo'r clip ola. Mae gan Francesca Sciarrillo atgofion melys iawn o'r Eisteddfod gan iddi hi ennill Medal y Dysgwyr pan oedd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd yn 2019, ac erbyn hyn mae hi'n byw ei bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ei rhieni'n dod o'r Eidal yn wreiddiol a dyma Francesca yn disgrifio sut gwnaeth ei thad ymateb i'w llwyddiant yn yr Eisteddfod Atgofion - Memories Trwy gyfrwng - Through the medium of Yr Wyddgrug - Mold Cyfarwydd - Familiar

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 10fed 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later May 10, 2022 16:08


Bore Cothi Anne Henrot Un o Wlad Belg ydy Anne Henrot ac mi ddechreuodd ddysgu Cymraeg ym 1984 ar ôl bod ar wyliau i Gymru. Mi wnaeth hi deithio ar hyd a lled Cymru pan oedd hi yma - o Gaerdydd i Fangor. Mae hi wedi ymweld â Chasgwent sawl gwaith ac mae wrth ei bodd gyda'r ardal. Dyma Anne yn dweud wrth Shan Cothi sut a pham dechreuodd hi ddysgu Cymraeg. Gwlad Belg - Belgium Yn rhyfeddol - Wonderous Ail-ddechreuais i - I re-commenced Anne Henrot, fuodd yn Nant Gwrtheyrn am bythefnos yn unig, a heblaw am hynny wedi dysgu Cymraeg yn ei chartref yng Ngwlad Belg. Gwych ynde? Aled Hughes ac Ezzati Ariffin Mae E'zzati yn dod o Brunei yn wreiddiol, ond mae hi'n disgrifio ei hun fel "merch Bruneian yng Nghymru" erbyn hyn. Buodd hi'n egluro wrth Aled Hughes mwy am yr ŵyl Hari Raya Aidilffitri sydd yn dathlu diwedd cyfnod ymprydio Ramadan. Gŵyl - Festival Ymprydio - Fasting Am wn i - As far as I know Canolbwyntio - To concentrate Dihuno - Deffro Bennu - Gorffen Dathliad - A celebration A phob hwyl i bawb fydd yn dathlu Hari Raya Aidilffitri, neu Eid al-Ffitr iid ffitr, ynde? Gwneud Bywyd yn Haws - Carys Mai Hughes Mae Carys Mai Hughes yn gweithio o'i champerfan yn hytrach nag o adre er mwyn teithio Ewrop a gwneud y gorau o bob eiliad o'i hamser hamdden. Dyma hi ar Gwneud Bywyd yn Haws yn sgwrsio o lan Llyn Léman... Darlledu - To broadcast Ar bwys - Wrth ymyl Rhyngwladol - International Diflasu - To become weary of Gwenu - Smiling Sa i'n mynd - Dw i ddim yn mynd Dyna'r bywyd ynde - mae gweithio o'r camperfan yn gwneud bywyd yn dipyn haws i Carys Mai Hughes dw i'n siŵr o hynny. Papur Ddoe Mae Elin Tomos yn dilyn hanesion o hen bapurau newydd yn y gyfres Papur Ddoe. Mae hi'n dod ar draws sawl stori ddifyr fel hanes llofruddiaeth Dafydd Lewis cafodd ei saethu yn ei ben gyda phistol llaw yn 1844. Dyma'r hanesydd Erin White i roi ychydig o'r hanes. Llofruddiaeth - Murder Yn dwyn yr enw - Named Tyddyn - Smallholding Cynnyrch - Produce Y Chwyldro Diwydiannol - The Industrial Revolution Swm sylweddol - A considerable amount Tollborth - Toll gate Ymosodiad gan ladron - An attack by thieves Tystion - Witnesses Daethpwyd o hyd - Was found Cwato - Cuddio Hanes llofruddiaeth Dafydd Lewis yn fan'na ar Papur Ddoe. Ifan Evans a Nigel Owens Un o'r pethau unigryw ym myd rygbi Cymru ydy timau cymunedol o bob oedran yn cael chwarae rowndiau terfynol eu cystadlaethau yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd. Er bod Nigel Owens wedi ymddeol fel dyfarnwr rygbi, buodd o yn y Stadiwm yn helpu efo'r gemau. Cafodd Ifan Evans sgwrs efo fo am y digwyddiad... Dyfarnwr - Referee Rowndiau terfynol - Finals Gêm y gymuned - The community game Rowndiau terfynol - Finals Cyfleoedd - Opportunities Yr Undeb - The Union (WRU) Unigryw - Unique Profiad - Experience Wastad - Always Braf gweld Nigel yn helpu'r gêm gymunedol yn tydy? Stiwdio Cefyn Burgess Mae'r artist Cefyn Burgess yn cofio arian yn cael ei gasglu yn yr ysgol Sul ers talwm ar gyfer cenhadaeth yr Eglwys Bresbyteraidd yn Casia India. Cyn y cyfnod clo aeth o draw i Casia er mwyn cael dysgu mwy am bobl y rhan yna o'r byd, ac mae o wedi creu arddangosfa artistig o'i brofiadau yno. Aeth Elinor Gwynn draw i Storiel, Bangor i weld yr arddangosfa a chael gair efo Cefyn am y gwaith. Os dach chi yn yr ardal o gwbl mae'r arddangosfa ymlaen tan yr 2il o Orffennaf 2022. Arddangosfa - Exhibition Casgliad - Collection Bylchau cenhadol - Missionary collection boxes Yn gyfarwydd - Familiar Dychymyg - Imagination Yn fy oed ac amser - At this stage in my life Ehangach - Wider Talaith - State

Beti a'i Phobol
Beks - Rebekah James

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Apr 3, 2022 53:10


Beks - Rebekah James yw gwestai Beti George, cyn-gyflwynydd ar Radio Cymru, sydd bellach yn byw yn Hong Kong. Ganwyd Beks yng Nghaerdydd cyn i'r teulu symud i Abertawe pan oedd yn ei harddegau. 20 mlynedd nol roedd hi'n un o sêr Radio Cymru, ac ond wedi iddi gyfarfod a'i gwr, Rhodri fe symudodd i fwy gydag ef i Hong Kong. Eleni fe fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 50, mae hi'n sôn am ei theulu, ei bywyd yn Hong Kong a'r sefyllfa sydd ar hyn o bryd yna yn sgil covid.

hong kong beks rhodri abertawe radio cymru nghaerdydd beti george
Beti a'i Phobol
Elin Prydderch

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Feb 6, 2022 49:10


Elin Prydderch yw gwestai Beti George, merch sydd yn wreiddiol o Nasareth yn Nyffryn Nantlle. Mae hi'n Faethegydd ac yn Adweithegydd, yn Fam i 3 a bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae ganddi ddiddordeb mawr yn y corff ac mewn bwyta bwyd iach sydd yn gwneud i ni deimlo'n well. Fe gafodd ddiagnosis o Ddyslecsia'n oedolyn ac mae hi'n rhannu profiadau bywyd ac yn dewis ambell i gan sydd yn agos at ei chalon o Sunami i Sia.

fe fam sia elin nghaerdydd beti george
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 28ain 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jan 28, 2022 17:08


1. Aled Hughes a Melanie Owen Melanie Carmen Owen, sy'n dod o Aberystwyth yn wreiddiol ond sy'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn, oedd gwestai Aled Hughes bore Llun diwetha. Melanie fydd yn cyflwyno cyfres newydd o Ffermio ar S4C ond mae hi hefyd wedi mentro i fyd y 'stand-up'. Sut digwyddodd hynny tybed? Caredig Kind Awgrymu To suggest Menywod Merched Beirniadu To adjudicate Yn fuddugol Victorious Profiadau personol Personal experiences Perthnasol Relevant Her A challenge Cynulleidfa Audience Addasu To adapt 2. Bore Cothi - Muhammad Ali Melanie Owen oedd honna'n esbonio sut dechreuodd hi weithio ym myd 'stand-up'. Ar Ionawr 17 eleni basai Muhammad Ali wedi dathlu ei benblwydd yn 80 oed. Un gafodd cwrdd â'r dyn ei hun, oedd Hywel Gwynfryn yn ôl yn 1966 draw yn LLundain, pan oedd Hywel yn gweithio fel gohebydd i'r rhaglen Heddiw. Roedd Cassius Clay (fel roedd Muhammad Ali ar y pryd) yn Llundain yn barod i focsio yn erbyn Henry Cooper, a chafodd e anrheg arbennig gan Hywel.. Syllu Staring Tawelwch Silence Cerddi Poems Pencampwr Bocsio'r Byd Boxing World Champion Na welwyd ei debyg o'r blaen Never seen his like before Wrth-law Nearby 3. Gwneud Bywyd yn Haws - Caris Hedd Bowen Hywel Gwynfryn yn sôn wrth Shan Cothi am ei sgwrs gyda Cassius Clay, neu Mohammed Ali. Roedd y bocsiwr hwnnw'n enwog am ei farddoniaeth gyda llinellau fel: Float like a butterfly, sting like a bee. His hand can't hit what his eyes can't see. Tybed ai barddoniaeth TH Parry Williams oedd wedi ei ysbrydoli? Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd yn Haws cafodd Hanna Hopwood gwmni menyw arbennig sydd wedi wynebu sawl her gorfforol a meddyliol. Ar ôl iddi wella o ganser Hogkins Lymphoma roedd Caris Hedd Bowen yn teimlo'n ddiolchgar, ac yn teimlo fel tasai hi'n profi bywyd am y tro cynta. Dyma hi'n disgrifio ei theimladau wrth Hanna... Ysbrydoli To inspire Diolchgar Thankful Cyfweliadau Interviews Mas y bac Allan i'r cefn Gwynto Arogli Yn grac Yn flin 4. Ar y Marc Sadwrn - Dave Rogers Caris Hedd Bowen yn ysbrydoli Hanna Hopwood wrth rannu ei stori. I glywed y bennod yn llawn ewch draw i BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws. Mae Dave Rogers yn byw yng Nghaerloyw ac wedi dysgu Cymraeg, a fe sy'n cynnal cyfri Twitter newydd Clwb Pêl-droed Casnewydd @YrAlltudion. Mae'r cyfrif yn ffordd o rannu newyddion am y tîm, y canlyniadau ac ati, ac hynny i gyd drwy'r Gymraeg. Mae llawer o gefnogwyr Casnewydd yn ddysgwyr ac mae Dave yn trio dysgu termau pêl-droed Cymraeg i'r dilynwyr, fel esboniodd e wrth Dylan Jones ar Ar y Marc... Pennod Episode Caerloyw Gloucester Yr Alltudion The Exiles Canlyniadau Results Cefnogwyr Fans Dilynwyr Followers Tad-cu Taid 5. Ifan Evans a Mari Gwilym Dave Rogers yn rhoi gwasanaeth Gymraeg i gefnogwyr Casnewydd - ac i'w fab hefyd. Mae Ifan Evans wedi sôn sawl tro bod ofn llygod bach arno fe ac roedd e wedi dychryn pan welodd e lygoden bach yn y tŷ. Ar ei raglen ddydd Mawrth clywon ni hanes gan Mari Gwilym am gael llygod bach yn ei thŷ hi. Olion Traces Baw llygoden Mouse droppings Hogia bach! Dear me! Cofi Dre Person o Gaernarfon Hadau Seeds Llygoden bengron goch Bank vole Cael gwared ar To get rid of Anghenfil Monster 6. Bore Cothi a Llew Richards Mari ac Ifan yn trafod llygod yn fan'na. Mae Llew Richards sy'n 17 oed, a'i frawd Bryn sydd yn 15, wedi cychwyn menter newydd ar ddechrau blwyddyn newydd - rhentu cae er mwyn i bobol gael dod â'u cŵn yno i redeg a chwarae. Dyma Llew yn sôn wrth Shan Cothi am y fenter Newydd... Dere Tyrd Wedi dod i glawr Has come about Ni sy berchen e We own it Gwartheg Cattle Tennyn Lead Llanw lan Welling up Rhyddid Freedom

Hefyd
David Clubb, Amgylcheddwr ac Arbenigwr Technoleg | Pennod 9

Hefyd

Play Episode Listen Later Jan 20, 2022 36:54


David Clubb yw fy ngwestai y tro yma. Mae Dave yn dod o ardal Penybont ar Ogwr yn wreiddiol, ond heddiw mae e'n byw yng Nghaerdydd. Mae e'n gadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, ac yn gweithio fel un o bartneriaid y cwmni Afallen. Mae e wedi dysgu Cymraeg, yn ogystal â sawl iaith arall, ac mae e wedi byw yn Sbaen, Denmarc ac India. Trafodon ni ei waith amgylcheddol a'i ddiddordeb mewn technoleg.  Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i. Cyflwynydd: Richard Nosworthy *** Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr y 10fed 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Dec 10, 2021 17:57


01. Beti – Laura Karadog Clip o Beti a'i Phobol ddydd Sul diwetha, a Laura Karadog oedd gwestai Beti. Yn y clip hwn mae Laura'n sôn am yr amser buodd hi'n gweithio yn San Steffan fel profiad gwaith yn rhan o gwrs gradd mewn gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth. Fel gwnawn ni glywed cafodd hi brofiadau diddorol iawn yno…. San Steffan Westminster Gradd mewn gwleidyddiaeth A politics degree Breintiedig Privileged Yn rheolaidd Regularly Erchyll Awful Hurt Stupid Dinistrio bywydau Destroying lives Diniwed Innocent Grym Power Tu hwnt Beyond Heb os Without doubt 02. Bore Cothi – Rhona Duncan Ychydig o hanes diddorol Laura Karadog yn fan'na ar Beti a'i Phobol. Oes planhigion gyda chi yn y tŷ? Dych chi'n poeni fyddan nhw'n para dros y gaeaf? Os felly dylai'r tips glywon ni ar Bore Cothi fod o ddiddordeb mawr i chi. Rhona Duncan, sy'n rhedeg siop blanhigion yng Nghaerdydd, fuodd yn rhoi cynghorion ar sut i ofalu am blanhigion suddlon... Planhigion suddlon Succulent plants hinsawdd cras An arid climate Dail Leaves Mo'yn Eisiau Gofod Space Hyd oes Lifespan Enfawr Huge 03. Cofio – Bryn Terfel Rhona Duncan oedd honna ac mae hi'n amlwg yn caru planhigion suddlon! Canu a Byd y Gân oedd thema Cofio wythnos diwetha. Dyma i chi glip o Bryn Terfel yn sgwrsio gyda Beti George yn ôl yn 1995 ac yn sôn am weithio gyda chantorion enwog ac yn sôn am sut mae hynny wedi effeithio ar ei ddiddordeb mewn gwin… Cantorion Singers Arweinyddion Conductors Cig eidion Beef Rhyngddon ni Between ourselves 04. Shelley a Rhydian yn holi Dan Lloyd Tenoriaid ‘tempremental', gwin a bwyd da – dyna i chi flas ar fywyd seren y byd opera yn fan'na ar Cofio. Daniel Lloyd oedd y gwestai cyntaf i ateb Ho Ho Holiadur y Sioe Sadwrn gyda Shelley a Rhydian, ond cyn iddo fe wneud hynny, holodd Shelley Dan am ei waith ar un o ffilmiau'r Muppets.. O nerth i nerth From strength to strength Barf/Locsyn Beard Aled Hughes – Carys Eleri Daniel Lloyd oedd hwnna'n sôn am ei ran e yn un o ffilmaiu'r Muppets. Dych chi wedi meddwl beth i'w gael yn anrheg Nadolig i rywun, wel mae hi wastad yn braf cael llyfr newydd on'd yw hi? Wel beth am lyfr newydd gan yr actores a'r gomedïwraig Carys Eleri ‘Dod nôl at fy nghoed'. Llyfr ydy hwn ble mae Carys yn sôn am rai o'r digwyddiadau sy wedi newid ei ffordd o feddwl a'i ffordd o fyw. Un o'r digwyddiadau hynny oedd marwolaeth ei thad ac yn y clip yma mae Carys yn sôn wrth Aled Hughes am daith beics o Lundain i Baris aeth hi a'i chwaer Nia arni ychydig wythnosau ar ôl iddyn nhw golli eu tad. Dameg Parable Ffili Methu Sa i'n gwybod Dw i ddim yn gwybod Angladd Funeral Dim lot o glem Not much of an idea Nunlle Nowhere Pennod Chapter Galar Grief Datgelu To reveal Tanwen Cray - Gucci Ac os dych chi eisiau gwybod sut aeth y daith beics – prynwch y llyfr! Ar raglen Aled Hughes ddydd Llun cafodd Aled gwmni'r hanesydd ffasiwn Tanwen Cray, a soniodd Tanwen am y ffilm ‘House of Gucci' sydd yn y sinemâu ar hyn o bryd. Ond, oeddech chi'n gwybod bod yna Gymraes o Groesoswallt wedi prodi un o'r Guccis, sef un o deuluoedd mawr y byd ffasiwn? Olwen Price Gucci oedd hi a dyma Tanwen yn dweud yr hanes wrth Aled. Croesowallt Oswestry Sefydlu To establish Sylfaenydd Founder Menyw Dynes Y tîm cynhyrchu The production team Yn gysylltiedig Connected to Offeiriaid A priest Rhyfeddol Astonishing

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 22ain Hydref 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 22, 2021 14:30


CYMRY NEWYDD Y CYFNOD CLO - MOHINI GUPTA Bardd o Delhi Newydd, Mohini Gupta, ddysgodd Cymraeg ar ôl iddi dreulio tri mis yn Aberystwyth yn 2017. Mae hi wedi cyfieithu cân boblogaidd yr Anhrefn a Candelas, Rhedeg i Baris, i Hindi ac mae'n gobeithio cryfhau'r cysylltiad rhwng y ddwy iaith yn y dyfodol. Dyma hi'n esbonio pam dechreuodd hi ddysgu Cymraeg Bardd Poet Cymrawd Fellow Cwympo mewn cariad To fall in love Mwyaf rhyfeddol Most amazing Y gynghanedd Welsh metrical alliteration Yn gysylltiedig â barddoriaeth Connected to poetry Led-led y wlad Throughout the country Gweithdy Workshop Sylweddoli To realise Cenhadon Missionaries GWNEUD BYWYD YN HAWS – ROB LISLE A DAVID THOMAS Mohini Gupta oedd honna'n sôn am y cysylltiad rhwng y Gymraeg a Hindi. Cafodd Hanna Hopwood gwmni rhai o gystadleuwyr 'Dysgwr y Flwyddyn 2021', i rannu cynghorion am sut i wneud bywyd yn haws wrth ddysgu Cymraeg. Mae Rob Lisle wedi bod yn helpu dysgwyr eraill i ddechrau sgwrsio yn Gymraeg mewn ffordd ymarferol a dyma e'n esbonio wrth Hanna sut mae e'n mynd o'i chwmpas hi... Mynd o'i chwmpas hi To go about it Dipyn o gamp Quite an achievment Cymryd yn ganiataol To take for granted Canolbwyntio Concentrating Ystyried Considering Gwybodaeth gyffredinol General information Mo'yn Eisiau BORE COTHI -MELANGELL DOLMA A RHIANNON OLIVER Mae'n wych gweld rhai fel Rob, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn rhoi help llaw i'r rhai sydd eisiau ei defnyddio. Un gafodd gyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn fuan ar ôl ei dysgu ydy'r actores Rhiannon Oliver a lwyddodd i gael rhan yn ‘Enfys' drama ddigidol Theatr Genendlaethol Cymru. Clywon ni'r hanes mewn sgwrs gafodd hi gyda Shan Cothi… Dwys Intensive Cyngor Celfyddydau Cymru Welsh Arts Council Llawrydd Freelance GERAINT LLOYD – JAMES HORNE Wel dyna brofiad gwych i Rhiannon on'd ife? Roedd Geraint Lloyd yn holi ‘dysgwr y dydd' ar ei raglen wythnos diwetha ar nos Fawrth. Myfyriwr sy'n astudio ym Mhrifysgol Bangor o'r enw James Horne oedd yn cadw cwmni iddo fe. Cwrs TAR PGCE course Parhau To continue Hedfan Flying Cwrs Calan New Year's course GERAINT LLOYD – ELISABETH HALIJAS Ac arhoswn gyda Geraint Lloyd nawr i glywed rhan o sgwrs gaeth e gydag Elisabeth Halijas dietegydd sydd yn byw a gweithio yng Nghaerdydd, ond sy'n dod o Estonia yn wreiddiol. Fel James Horne, mae hi wedi dysgu Cymraeg yn gyflym iawn – dim ond tair blynedd mae hi wedi bod wrthi. Gofynnodd Geraint iddi hi a oedd y Gymraeg yn help iddi yn y gwaith. Defnyddiol Useful Ymgynghoriad Consultation Gwirfoddoli To volunteer BETI GEORGE – GRANT PEISLEY Wel dyna fywyd prysur sy gyda Elisabeth on'd ife? Ac mae'n wych ei bod hi, sy'n dod o Estonia yn medru cynnig gwasanaeth Gymraeg i'w chleientau. Grant Peisley oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae Grant yn dod o Picnic Point ger Sydney Awstralia yn wreiddiol ac roedd e'n hapus iawn pan ofynnodd Beti iddo fe am ei deulu…. Hynafiaid Ancestors Ymhlith y carcharorion Amongst the prisoners Go iawn Really Cyswllt Connection Ieuengaf Fenga/ifanca Cyfnitherod Female Cousins Wel dyna ni, mae wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar Radio Cymru wedi mynd â ni i India, Lloegr, Estonia ac Awstralia. Ond ble bynnag dych chi'n byw, o ble bynnag dych chi'n dod, dyn ni yn Radio Cymru a, dw i'n siŵr, pobl Cymru gyfan yn falch iawn ohonoch chi, ac yn falch o'ch cyfraniad at y bywyd Cymraeg. Daliwch ati!

ac estonia hindi rhiannon ond beti cymru aberystwyth baris mynd cymraeg candelas gymraeg dyma enfys hydref radio cymru nghaerdydd flwyddyn rhedeg beti george
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 15fed Hydref 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Oct 15, 2021 14:06


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” SIWRNA SIONED Siwrna Sioned, sef rhaglen arbennig am ferch arbennig o Lanrug ger Caernarfon. Cafodd Sioned Roberts ddiagnosis o'r clefyd Motor Neurone yn 2006. Mae hi am ddefnyddio pob cyfle i rannu ei phrofiadau er mwyn helpu rhai eraill sydd â'r un clefyd. Dyma hi'n sgwrsio gydag Aled Hughes… Clefyd Disease Ymlaen llaw Before hand Iesgob! Goodness! Sylweddoli To realise Cryfder Strength Magwraeth Upbringing Ymchwil Research Triniaeth iachâd A cure Ymwybyddiaeth Awareness Cyfryngau cymdeithasol Social media SIOE SADWRN SHELLEY A RHYDIAN Ie, fel d'wedodd Aled, roedd Sioned yn gryf, yn ddewr ac yn onest yn fan'na wrth drafod ei phrofiadau hi o'r clefyd Motor Neurone. Rhodri Owen oedd gwestai Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn a buodd e'n sôn am yr adeg pan aeth i gyfweld Matthew Rhys am y ffilm A Beautiful Day in the Neighbourhood. Ond doedd cael cyfweld Mattthew ddim yn ddigon i Rhodri, roedd e am gael gair gyda seren arall y ffilm, sef yr actor enwog Tom Hanks. Lwyddodd e i wneud hynny tybed? Dyma fe'n dweud yr hanes… Dewr Brave Cyfweld To interview Rhes A row Anhygoel Incredible Yn llythrennol Literally Tueddiad ofnadwy An awful terndency GERAINT LLOYD Stori anhygoel gan Rhodri Owen am sut lwyddodd e i gael cyfweliad gyda Tom Hanks. Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda'r gyrrwr ralio Elfyn Evans ar ôl iddo fe ennill Rali'r Ffindir - y Cymro cyntaf i wneud hynny. Enillodd y gyrrwr o Ddinas Mawddwy, ger Dolgellau naw o 19 cymal y rali heriol yma, ac ennill pum pwynt bonws drwy ennill y cymal olaf. Ffindir Finland Cymal Stage (of race) Heriol Challenging Yn fwy diweddar More recently O'r cychwyn cynta From the very start Ychydig o fantais A slight advantage Yn dywyllach darker Gwastad Level Tymheredd Temperature Cyn ised â As low as BETI A'I PHOBL Ac mae hi'n dal yn bosib i Elfyn ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd, felly pob lwc iddo fe. Buodd Beti George yn sgwrsio gyda'r fenyw fusnes Sioned Llywelyn Williams, ac yn y clip nesa mae Sioned yn sôn am ei chyfnod yn byw yng Nghaerdydd pan oedd hi'n ifancach, ac yn esbonio pam ei bod wedi dod yn ôl i fyw i Lanuwchlyn yn Ngwynedd, sef yr ardal ble cafodd hi ei magu… Pencampwriaeth Championship Ifancach Fengach Wastad Always Bwrlwm Buzz Am gyfnod For a period Cydnabyddiaeth Acknowledgment Eithriadau Exceptions Broydd Region Yn fwy cyffredin More prevalent Faswn i'n tybio I'd imagine DEWI LLWYD Sioned Llywelyn Williams oedd honna'n falch iawn o fod yn ôl yn Llanuwchllyn. Roedd stori dda gan westai pen-blwydd Dewi Llwyd sef Nia Roberts. Stori oedd hon am yr adeg Nia wedi mynd am glyweliad i chwarae rhan merch Owain Glyndŵr mewn ffilm ar gyfer S4C. Y cyfarwyddwr James Hill oedd yn gwneud y penderfyniad ac roedd Nia yn reit hyderus gan mai ei thad hi, J O Roberts, oedd wedi cael ei ddewis i chwarae rhan Owain. Pwy well felly na Nia i chwarae rhan ei ferch? Ond nid felly aeth hi, fel cawn ni glywed yn y clip yma… Clyweliad Audition Cyfarwyddwr Director Hogiau Bechgyn Diarth (dieithr) Strange Cynhyrchu To produce Trafodaeth A discussion

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 17eg Medi 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Sep 17, 2021 15:35


S'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BORE COTHI Mae Gruffudd Eifion Owen yn Brifardd, hynny yw rhywun sy wedi ennill un ai'r gadair neu'r goron yn yr Eistedfod Genedlaethol, ond ddim am farddoniaeth oedd e'n sgwrsio gyda Shan Cothi, ond yn hytrach am synhwyrau. Tybed beth yw hoff flas a lliw y bardd o Ben Llŷn? Barddoniaeth Poetry Ond yn hytrach But rather Synhwyrau Senses Oes tad Goodness, yes Chwalu To demolish Balm i'r enaid Balm to the soul Ysgubol Sweeping Cynnil Subtle ALED HUGHES Y Prifardd Gruffudd Eifion Owen oedd hwnna'n sôn am ei hoff liwiau a'i hoff flasau ar Bore Cothi, ac yn sôn am liwiau anhygoel yr aderyn Coch y Berllan. Wel Coch yr Old Trafford gafodd sylw ym myd chwaraeon dros y penwythnos gyda Ronaldo'n dod yn ôl i Manchester United, ac yn sgorio dwy gôl yn ei gêm gynta. Mae Ronaldo wedi cael dylanwad enfawr ar beldroedwyr eraill, gan gynnwys Katie Midwinter o dim pêl-droed Merched Bethel. Dylanwad enfawr A huge influence Arwr Hero Oni bai am Were it not for Ysbrydoli To inspire Wedi mopio efo Wedi dwlu ar Yn y gwaed In the blood Efelychu To emulate Prif gynghreiriau Main leagues Syfrdanol Stunning Ystadegau Statistics DROS GINIO Ac i aros yn myd chwaraeon, mae Heledd Anna yn rhan o dîm chwaraeon y BBC a Heledd a'i thad Dafydd Roberts oedd gwestai Dau Cyn Dau ar Dros Ginio wythnos diwetha. Mae Dafydd wedi bod yn perfformio gyda'r grŵp Ar Log ers y saithdegau ac mae'r teulu i gyd gyda diddordeb mewn ceddoriaeth fel clywodd Iolo ap Dafydd. Ond pa mor gerddorol ydy Heledd tybed? Edmygu To admire Rhinweddau Virtues Parodrwydd i fentro Willingness to venture Meddylgar Thoughtful Brwdfrydedd Enthusiasm Difaru To regret RHYS MWYN Dafydd Roberts yn fan'na wedi perfformio gydag Ar Log ers y saithdegau, ond ers yr wythdegau mae Neil Rosser yn perfformio ac mae e dal wrthi, y tro ‘ma gyda band rocabili o'r enw Pwdin Reis. Prif gantores y band ydy Betsan Haf Evans a dyma hi a Neil yn sôn wrth Rhys Mwyn am beth sy wedi dylanwadu ar eu cerddoriaeth... Dylanwadu To influence Menywod Merched Hygrydedd Integrity Shwd gymaint Cymaint â hynny GERAINT LLOYD Mae llais arbennig iawn gan Betsan, ond oeddech chi'n gwybod bod yna gôr ar gael i bobl sy ddim yn medru canu'n dda o gwbl? Wel mae Cor Di-Dôn yng Nghaerdydd yn chwilio am aelodau newydd fel clywon ni gan Rhian Thomas fuodd yn sgwrsio gyda Geraint Lloyd…. Di-dôn Tuneless Awgrymu To suggest Sefydlwyd Was established Yn gymdeithasol Socially Lletchwith Awkward Cryn dipyn Quite a lot Arweinydd Conductor BORE COTHI Côr Di-dôn Caerdydd yn chwilio am aelodau ac arweinydd newydd, pob lwc iddyn nhw on'd ife? Mae can mlynedd wedi mynd heibio ers i Harry Secombe gael ei eni. Roedd y comedïwr, actor, canwr a chyflwynydd teledu'n dod o Abertawe yn wreiddiol a dyma i chi flas ar sgwrs cafodd y cerddor a chyflwynydd Alwyn Humphreys am Harry Secombe gyda Shan Cothi... Y fyddin The army Rhyfel War Adloniant Entertainment Milwyr Soldiers Diddanwr Entertainment Cyfresi Series Yn dwlu arno fe Yn ei hoffi'n fawr Eidalaidd Italian Cyfansoddi To compose Denu To attract

CYMERIADAU CYMRU
CYMERIADAU CYMRU : GARETH POTTER

CYMERIADAU CYMRU

Play Episode Listen Later Aug 26, 2021 55:32


DJ, actor, cerddor, cyflwynydd a chyn bo hir, 'tour guide' yng Nghaerdydd. Ie, mae bywyd a gyrfa fy ngŵr gwadd wythnos hon, Gareth Potter, yn un diddorol, lliwgar, dylanwadol a hwyliog. Wnes i fwynhau gymaint yn siarad â Gareth, sy di actio yn Eastenders, DJ'io yn Ibiza a chyflwyno ymhobman, ac sy 'di bod mor ddewr yn ddiweddar yn siarad am ei brofiadau personol. Anrhydedd yw nabod Gareth a phleser yw ei gael ar y podlediad. Diolch eto i bawb am wrando ac am adael adborth gwych a diolch o galon i'r wondyrfwl Nia Parry am fod mor wych ar y bennod ddiwethaf.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion Dysgwyr 25ain Mehefin 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jun 25, 2021 16:32


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” CARYL AG ALUN …wel pêl-droed wrth gwrs! Mae Cymru wedi llwyddo i fynd drwodd i rownd nesa'r Ewros ac mae Carl Roberts yn un o'r bobl lwcus sy wedi bod yn Baku ac yn Rhufain yn sylwebu ar gemau Cymru ar ran Radio Cymru. Cafodd Caryl ac Alun sgwrs gyda fe ar y Sioe Frecwast fore Iau… Sylwebu - Commentating Ychwanegu - To add Syth bin - Straight away Ynganu - To pronounce Awrgylch - Atmosphere Yn drydanol - Electric Yn y cnawd - In the flesh Cymeradwyo - To applause Parchus - Respectful Di-ri - Countless Llifoleuadau - Floodlights MERCHED Y WAL GOCH Dim ond ychydig o ffans Cymru oedd wedi gallu mynd i Baku oherwydd Covid, ond roedd hi dal yn bosib clywed y Wal Goch yn canu drwy gydol y gêm. Mae'r Dr Penny Miles yn un o fenywod y Wal Goch ond dyw hi ddim wastad wedi cael croeso gan rhai o'r cefnogwyr eraill. Penderfynodd hi felly fod angen gwneud gwaith ymchwil i brofiadau menywod sy'n gwylio gemau pêl-droed, fel cawn ni glywed yn y clip nesa 'ma… Drwy gydol - Throughout Menywod - Merched Ymchwil - Research Aelodau - Members Rhannu eu profiadau - Sharing their experiences Yn gyffredinol - Generally Meithrin - To nurture TITWS TAF …a dyn ni'n aros gyda merched a phêl-droed yn y clip nesa. Oeddech chi'n gwybod bod tîm pêl-droed merched yng Nghaerdydd o'r enw Titws Tâf Cymric? Dyma i chi rai o'r chwaraewyr yn dweud eu hanes … Defod - Custom Hogan - Merch Rhanbarthol - Regional Parhau - To continue Gwledig - Rural Hogiau - Bechgyn Genod - Merched Annog - To encourage LISA GWILYM … dyn ni heb orffen eto gyda merched na gyda phêl-droed. Mae Sioned Dafydd yn brysur iawn ar hyn o bryd yn sylwebu ar y pêl-droed ar S4C, ond gaeth hi amser i sôn wrth Lisa Gwilym am ei dydd Sul perffaith , a hynny yn Madrid. Ond wrth gwrs roedd rhaid dod â thimoedd pêl-droed y ddinas mewn i'r sgwrs… Dwlu ar - Mad about Cartrefol - Homely Prif ddinas - Capital city Wrth ystyried - Considering Ffili - Methu Enfawr - Huge Yn amlwg - Obviously Yn gwmws yr un peth - Exactly the same Sa i'n rhugl - Dw i ddim yn rhugl Unioni - To unite ESGUSODWCH FI Nid pêl-droediwr ond chwaraewr rygbi oedd tad y ‘TikToker' Ellis Lloyd Jones, ac mae'r ffaith honno a'r ffaith bod Ellis yn berfformiwr drag wedi achosi ambell i broblem iddo fe yng nghymoedd y de. Fe oedd gwestai Podlediad Esgusodwch Fi wythnos diwetha a dyma i chi flas ar ei sgwrs… Cymoedd - Valleys Colur - Make-up Yn falch - Pleased FFION EMYR Y Perfformiwr drag TIK Tok, Ellis Lloyd Jones oedd hwnna'n sgwrsio ar Esgudowch Fi. Mae'r gantores Betsan Haf yn briod ag Eleri, a buodd hi'n rhannu ambell i stori am sut wnaeth eu perthynas ddatblygu gyda Ffion Emyr… Cantores - Singer (female) Datblygu - To develop Cwrdd - Cyfarfod Graddio - To graduate Cwympo mewn cariad - To fall in love Trefnu - To organise

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 14eg Mai 2021

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later May 14, 2021 13:39


S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … DDIM YN DDU A GWYN Mae dinas Minneapolis wedi bod yn y newyddion yn y misoedd diwetha gan mai dyna lle cafodd George Floyd ei lofruddio gan Derek Chauvin, oedd yn swyddog heddlu ar y pryd. Buodd y newyddiadurwraig Maxine Hughes yn dilyn yr achos mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru, Ddim yn Ddu a Gwyn. Mae Maxine yn dod o Gonwy yn wreiddiol ond yn byw yn Washington DC erbyn hyn, a dyma hi’n cael sgwrs gyda Gerallt Jones sy’n byw yn Minneapolis... Achos llys - Court hearing Llofruddio - Murder O dan sylw - Under attention Llinyn amser - Timeline Protestiadau chwyrn - Fierce protests Euogrwydd - Guilt Anghydraddoldeb hiliol - Racial inequality Carfan - A faction Mynychu - To attend Cyfryngau - Media TROI’R TIR Dau o Gymry America yn fan’na yn rhoi syniad i ni o fywyd Minneapolis yn dilyn marwolaeth George Floyd. Mae cwmni byrgyrs ‘Ansh’ yng Nghaerdydd wedi bod yn boblogaidd iawn ers iddyn nhw agor ger Victoria Parc yn Nhreganna y llynedd. Dyma hanes Aled o’r Rhondda a Sion o Lanbedr Pont Steffan adawodd eu swyddi blaenorol i ddechrau eu busnes byrgyrs newydd. Blaenorol - Former Cigydd - Butcher Cynnyrch - Produce Awyddus - Eager Diwylliant - Culture Clymu mewn - To tie in DEI TOMOS ...stori dda arall ar Troi Tir yn fan’na a phob lwc i’r ddau gyda’u busnes newydd on’d ife? Mae Dafydd Iwan wrth gwrs yn enwog am ei ganeuon, ond roedd Dei Tom yn awyddus i siarad gyda fe am ei lyfr newydd sy’n sôn am hanes rhai o’r caneuon hynny. Gofynnodd Dei iddo fe pwy oedd wedi dylanwadu mwya arno fe o ran cyfansoddi caneuon... Dylanwadu - To Influence Cyfansoddi - To compose Ein hoes ni - In our time Teimladau cymysg - Mixed feelings Traddodiad canu gwleidyddol - A tradition of political singing Tueddfryd - A tendency Y dirwasgiad - The depression Buddsoddi - To invest Cyni - Adversity Arwr - Hero Uniongyrchol - Direct BETI A’I PHOBL Dafydd Iwan oedd hwnna’n sôn am ddylanwad Woodie Guthrie ar ei ganeuon. Gwestai Beti George wythnos diwetha oedd y ddawnswraig Jen Angharad, a gofynnodd Beti iddi hi sut wnaeth hi gwrdd â’I phartner Zayn, a hynny dros 30 mlynedd yn ôl.... Ble gwrddoch chi? - Lle wnaethoch chi gyfarfod? Digwydd bod - As it happens Sylweddoli - To realise Gweinyddu - Administrating Pam lai? - Why not? Y dechreuad - The beginning DROS GINIO Wedi meddwl, mae cabaits a the yn swnio bach yn od on’d yw e? Mae Lowri Roberts sy’n byw yn Gaersallog, neu Salisbury, yn gweithio fel archeolegydd morol, ond beth yn union mae hynny’n ei olygu? Vaughan Roderick fuodd yn ei holi ar Dros Ginio… Henebion - Antiquities Yn cynnwys - Including Llongdrylliadau - Shipwrecks Dyfnderoedd - Depths Taid - Tad-cu Bedyddio - To baptise Wedi eu claddu - Buried

Beti a'i Phobol
Paul Carey Jones

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later May 7, 2021 51:49


Y canwr opera Paul Carey Jones yw'r cwmni, ac mae'n sôn am ei blentyndod yng Nghaerdydd, astudio Ffiseg yn Rhydychen a mynd i ddysgu cyn newid gyrfa a throi at ganu Opera. Mae Paul hefyd wedi cyhoeddi blog am ei brofiadau fel canwr yn ystod y cyfnod clo, ac am ei brofiad o gael ei daro gan Covid 19 ym mis Ebrill.

covid-19 opera nghaerdydd ebrill
Mwy o Sgwrs Dan y Lloer
1: Mark Lewis Jones

Mwy o Sgwrs Dan y Lloer

Play Episode Listen Later Feb 1, 2021 46:56


I ddechrau'r ail gyfres fe fydd Elin Fflur yn ymweld â'r actor a'r rhedwr marathon ultra, Mark Lewis Jones yng ngardd ei gartref yng Nghaerdydd. Gyda thanllwyth o dân a'r sêr yn gwmni fe fydd Elin yn cael hanes ei yrfa, o Con Passionate i'r Crown, mae Mark Lewis Jones wedi swyno gwylwyr ar hyd y degawdau. Yn y sgwrs estynedig yma fe gawn wybod mwy am ei fagwraeth yn Rhosllanerchrugog, dylanwad unigiolion allweddol o'i gyn athrawes ysgol i Anthony Hopkins a dod i adnabod Mark y wyneb tu ôl i'r holl gymeriadau. We kick-off the second series as Elin Fflur visits the actor and the ultra marathon runner, Mark Lewis Jones at his home in Cardiff. In this extended chat we'll learn more about the man who's been at the forefront of some of the most watched dramas and films of all time, from Netflix's The Crown to the cult classic, Star Wars.

Y Coridor Ansicrwydd
Ashley Williams a'r larwm tân yn Sweden

Y Coridor Ansicrwydd

Play Episode Listen Later Jan 29, 2021 48:05


Ymddeoliad cyn-gapten Cymru Ashley Williams a phenodiad Mick McCarthy yn Nghaerdydd sy'n cael sylw Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yr wythnos yma.

Pathways - Llwybrau
Tua'r Môr

Pathways - Llwybrau

Play Episode Listen Later Dec 6, 2020 51:02


Perfformiad 4 Llwybrau / Pathways. Ewch i www.pathways-llwybrau.com am fwy o wybodaeth a'r llwybr i'w gerdded yng Nghaerdydd.Geiriau gan Tamar Eluned WilliamsCerddoriaeth gan Morwen Williams

nghaerdydd
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 4ydd Rhagfyr 2020

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Dec 4, 2020 15:49


"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … " ALED HUGHES - RHYS AB OWEN Mae na lawer o bobl yn credu mai rhywbeth newydd yw clywed Cymraeg yn cael ei siarad mewn rhannau o Gaerdydd. Ond mae llyfr Owen John Thomas, The Welsh Language in Cardiff : A history of survival yn dangos bod yr iaith wedi bod yn fyw iawn mewn sawl ardal o’r ddinas yn y gorffennol. Daeth mab yr awdur, Rhys ab Owen, i sgwrsio am y llyfr gydag Aled Hughes a dyma i chi flas ar y sgwrs… Y bedwaredd ganrif ar bymtheg - 19th Century Enghreifftiau - Examples Y mwyafrif llethol - The vast majority Cyfrifiad - Census Yn fanteisiol iawn - Very advantageous Delwedd - Image Canrif yn ddiweddarach - A century later Tu fas - Outside Y dystiolaeth - The evidence Yr Eglwys Newydd - Whitchurch FFION EMYR - SANDRA LLAN Ychydig o hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd yn fan’na ar raglen Aled Hughes. Mae gan Ffion Emyr raglen newydd nos Wener ar Radio Cymru, a phob wythnos mae hi’n mynd i ofyn “pwy sy’n gwneud y coctel gorau yng Nghymru?” . Sandra Llan oedd ei gwestai cyntaf…. Mi fydd gynnon ni - Bydd gyda ni Hyd yn oed - Even Brifo - Anafu Nei di’m cofio - Wnei di ddim cofio TRYSTAN AC EMMA - JOHN PRITCHARD Hanes coctels peryglus Llanberis oedd hwnna ar raglen Ffion Emyr. Wel gwnaeth tîm pêl-droed Cymru yn dda yn y gêmau diweddar yn Nghwpan y Cenhedloedd ac ennill dyrchafiad i Grŵp A yn y gystadleuaeth. Ond oeddech chi’n gwybod bod yna dîm Pêl-droed Cerdded Cymru hefyd, a bod y tîm wedi ennill Cwpan y Byd? Beth yn union ydy Pêl-droed Cerdded? Dyna un o gwestiynau Trystan Ellis Morris ac Emma Walford i John Pritchard o Ynys Môn sy’n chwarae Pêl-droed Cerdded dros Gymru... Cwpan y Cenhedloedd - Nations Cup Dyrchafiad - Promotion Pencampwr o fri - A renowned champion Yr un rheolau - The same rules Arferol - Usual Pwyslais - Emphasis Yn dda i ddim - No good Dw i’n dychmygu - I imagine GWNEUD BYWYD YN HAWS - GWENNO ROBERTS John Pritchard, un o sêr tîm Pêl-droed Cerdded Cymru oedd hwnna’n siarad gyda Trystan ac Emma ar eu rhaglen newydd sbon bob bore Gwener am 9. Mae Gwenno Roberts wedi dechrau cwmni codi pwysau o’r enw Vulcanna Fit ac yn ystod rhaglen gynta y gyfres newydd ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ gofynnodd Hannah Hopwood iddi hi pam yr enw Vulcanna? Codi pwysau - Weightlifting Edmygu - To admire Ysbrydoliaeth - Inspiration Ofnadwy o ddewr - Terribly brave Mewn oes - In an age Dyletswyddau - Duties Ymgyrchu - To campaign Prydferth - Beautiful Noeth luniau - Nude portraits Penodol - Specific POST CYNTAF - ANT A DEC Wel dyna sgwrs aeth â ni o godi pwysau i Vulcanna i Michelangelo ac i golli pwysau, diddorol on’d ife? Os ydych chi’n un o’r MILIYNAU sy’n gwylio I’m a Celeb sy’n cael ei ffilmio yng Nghastell Gwrych ger Abergele, byddwch chi wedi clywed Ant a Dec yn siarad ychydig o Gymraeg. Cafodd Dylan Jones air gyda’u tiwtor Garffild Lewis ar y Post Cyntaf.... Y gyfres The series Darlledu - Broadcast Cyflwynwyr - Presenters Llais cyfarwydd - A familiar voice Ynganu - Pronunciation Cywair - Register (of language) Ymddiriedolaeth - Trust Ymgynghorwyr - Consultants Tîm cynhyrchu - Production team Agwedd - Attitude SIOE FRECWAST - CARYL A DAF Ac arhoswn ni gyda I’m a Celeb am y clip ola. Un sy’n byw yn agos iawn at Gastell Gwrych ydy Sian Rees a gofynnodd Caryl a Dafydd iddi hi sut ymateb sy wedi bod yn yr ardal i’r gyfres.. Ymateb - Response Pwnc trafod - Talking point Arferiad - A habit Hyd y gwela i - As far as I can see Yn eu hoed a’u hamser - Of a certain age Byrlymu - Buzzing Rhoi ni ar ben ffordd - Bring us up to date

Beti a'i Phobol
Tedi Millward

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Dec 1, 2020 33:22


Cyfle i wrando eto ar sgwrs rhwng Beti George a'r ysgolhaig, Yr Athro Tedi Millward a fu farw yn gynharach eleni. Yn y rhaglen mae e'n sôn am ei fagwraeth yng Nghaerdydd ac am ddylanwad yr athro Elvet Thomas arno i ddysgu'r Gymraeg. Cawn hanes dechreuad Cymdeithas yr Iaith a hefyd ei waith fel tiwtor personol i Dywysog Cymru cyn iddo gael ei Arwisgo nôl yn 1969.

yn millward gymraeg iaith cawn nghaerdydd cymdeithas beti george
Beti a'i Phobol
Robin Anderson

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 27, 2020 45:33


Beti George yn holi Prif Weithredwr Cwmni Aspen Healthcare, Rob Anderson, am ei fagwraeth a'i addysg yng Nghaerdydd, gan gynnwys mai ei dad oedd un o'r meddygon cyntaf i gyrraedd y trychineb yn Aberfan. Mae Rob hefyd yn trafod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ysbytai preifat, a sut mae'r ddau yn delio gyda Cofid-19.

Pathways - Llwybrau
Pererindod

Pathways - Llwybrau

Play Episode Listen Later Nov 6, 2020 65:54


Perfformiad 3 Llwybrau / Pathways.Ewch i www.pathways-llwybrau.com am fwy o wybodaeth a'r llwybr i'w gerdded yng Nghaerdydd.Geiriau gan Tamar Eluned WilliamsCerddoriaeth gan Morwen WilliamsTW/Rhybudd: Trais rhywiol, ddim yn fanwl. 10+

nghaerdydd
Dark Unicorn in Conversation
Timothy J. Howe

Dark Unicorn in Conversation

Play Episode Listen Later Oct 8, 2020 73:32


Mae Timothy J. Howe yn gyfarwyddwr, dramodydd, addasydd gwaith ar gyfer y llwyfan ac yn arbenigwr theatr ieuenctid sy'n gweithio fel Rheolwr Ymgysylltu Creadigol yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd.Yn y cyfweliad hwn â Chyfarwyddwr Artistig Cynyrchiadau Unicorn Tywyll (a'i gyn-ddarlithydd) Paddy Cooper, mae'n trafod ei fywyd, ei yrfa a'i athroniaeth wrth greu perfformiadau gyda phobl ifanc ac ar eu cyfer.Timothy J. Howe is a director, facilitator, stage adaptationist and youth theatre expert who works as Creative Engagement Manager for the Sherman Theatre in Cardiff.In this interview with the Artistic Director of Dark Unicorn Productions (and his former lecturer) Paddy Cooper, he discusses his life, career and philosophy when it comes to creating performances with and for young people. **Follow Dark Unicorn Productions here and on all good podcast providers for the latest content, and also follow us on: YouTube: http://tiny.cc/DUTubeTwitter: http://www.twitter.com/DarkUnicornUKInstagram: http://www.instagram.com/darkunicorntheatreFacebook: http://www.facebook.com/darkunicorntheatreTo support the work of Dark Unicorn Productions, visit http://www.darkunicorn.org/support-usCREDITS: Written, Presented and Edited by Paddy Cooper Title Sequence: Matt McGurk (http://www.matthewmcgurk.com)Title Music: Curtis Batson (http://www.curtbmusic.com)Special thanks to: The estate of James Lipton, Theatr Sherman Theatre, Brough GirlingExecutive Producer: Eleanor Stourton See acast.com/privacy for privacy and opt-out information.

Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 19eg 2020

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Jun 19, 2020 15:25


HEATHER JONES Mae Dewi Llwyd yn dymuno pen-blwydd hapus i un o’i westeion ar ei raglen bob bore Sul. Yr wythnos yma, y gantores Heather Jones oedd yn torri’r gacen pen-blwydd. Dyma Heather yn cofio am benblwyddi’r gorffennol – ei magwraeth yng Nghaerdydd a’i pherthynas gyda’r canwr Geraint Jarman… Magwraeth Upbringing Hudolus Magical Plentyndod Childhood Cernyw Cornwall Bywiog Lively Swil Shy Denu To attract Efengyl Tangnefedd The Gospel of Peace (a hymn) Yn benderfynol Determined IFAN EVANS A'R WELSH WHISPERER Bachgen bach deg mlwydd oed sy’n mynd i Ysgol Cilie Parc ydy Osian, ac ei arwr ydy’r perfformiwr Welsh Whisperer. Ar raglen Ifan Evans cafodd Osian y cyfle i holi ei arwr, ac roedd gyda fe gwestiynau diddorol iawn i’r Welsh Whisperer… Arwr Hero Yn y man In a moment Enwoca Most famous Glou Quick Cerddoriaeth Music Deuawd Duet Rhed! Run! Hendy-gwyn Whitland YNYS YR HUNAN YNYSWYR Bob wythnos ar y rhaglen Ynys yr Hunan Ynyswyr mae dau westai yn trafod eu hoff lyfrau, eu hoff gerddoriaeth a’u hoff ffilmiau, er mwyn trio perswadio Dylan Ebenezer i adael iddyn nhw aros ar yr ynys. Y gwesteion wythnos diwetha oedd y gomedïwraig Esyllt Sears a’r actor Richard Ellis ac yn y clip mae’r ddau westai yn sôn am beth sydd wedi eu helpu drwy’r cyfnod clo, a beth fasen nhw’n mynd gyda nhw i’r ynys ... Hunan-ynyswyr Self-isolators Cyfnod clo Lockdown Sylweddoli To realise Pa mor llwglyd How hungry Oesoedd yn ôl Ages ago Argymell To recommend PATRICK RIMES A BETI GEORGE Un sy’n gwneud rhywbeth bach yn wahanol yn ystod y cyfnod clo ydy’r cerddor Patrick Rimes. Mae Patrick wedi dod yn ôl i’w gartref ym Methesda, Gwynedd dros y cyfnod er mwyn helpu ei fam gyda’r busnes caws llaeth dafad... Cerddor Musician Godro To milk Ar y gweill In the pipeline (idiom) Ei chael hi’n anodd Finding it difficult Pa mor hurt How stupid Brwdfrydig Enthusiastic Wedi cymryd yr awenau Taken charge of Diadell A flock Ffynhonnell Source Rhy styfnig Too obstinate Annibynnol Independent DROS GINIO Buodd Jennifer Jones yn holi Jenni Hall sy’n fam i 10 o blant ar Dros Ginio yr wythnos yma. Sut, tybed, mae hi’n ymdopi gyda’r cyfnod clo? Dyma i chi flas ar y sgwrs... Ymdopi To cope Prif heriau Main challenges Gafon ni drafferth We had difficulties Hawsach Easier Sylwadau Comments STEFFAN RHYS HUGHES Mae’r cerddor Steffan Rhys Hughes wedi bod yn gwneud fideos cerddorol ers dechrau'r cyfnod clo. Penderfynodd e ddod â chriw o Gymry'r West End at ei gilydd i berfformio caneuon o sioeau a ffilmiau cerdd - er mwyn rhoi gwên ar wynebau pobl. Y syniad oedd codi arian i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac i annog pobl i fynd yn ôl i'r theatrau pan mae hi'n saff i wneud hynny. Daf a Caryl glywodd yr hanes.... Annog To encourage Cantorion Singers Balchder Pride Canlyniad Result Cysylltu â To contact Taflu rhwyd To cast a net Yn falch o wneud Happy to do so Mor hael So generous Negeseuon Messages Creadigol Creative

Syniadau Iach
Lledaenu a Graddfa

Syniadau Iach

Play Episode Listen Later Jun 3, 2020 25:21


Mae gweithlu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn datblygu mwy o brosiectau arloesi a gwella nag erioed o’r blaen. Ond unwaith y byddan nhw wedi profi bod eu prosiect yn llwyddiannus yn eu hardal leol, beth yw’r cam nesaf? Yn y podlediad hwn bydd Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan yn trafod sut mae goroesi’r rhwystrau y mae arloeswyr yn eu gwynebu wrth geisio ledaenu’u syniadau ar raddfa fawr. “Y rhwystrau i’r arloeswyr yw amser, neu creu amser, arian a sgiliau,” meddai. Fe fydd yn sôn am raglen ddwys newydd- yr Academi Lledaeniad a Graddfa- lansiwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar y cyd gyda’r Comisiwn Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, lle daeth tua hanner cant o arloeswyr Cymru a thu hwnt ynghyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar.Yn ôl Joe McCannon, un o sefydlwyr y Billions Institute, cwmni o’r Unol Daleithiau America oedd yn arwain y sesiynau, dim gweithio 10 gwaith yn fwy caled i gyrraedd 10 gwaith fwy o bobl sydd angen. Mae‘r cwmni wedi helpu sefydliadau mawr i feddwl yn wahanol wrth gyflwyno newidiadau ar raddfa eang.“You have to really think very deliberately about how you tap into others and their creativity and their ideas and effectively deputize others to carry the work forward,” medd Joe McCannon. Clywn ni hefyd gan rai oedd wedi mynychu’r Academi fel Dr Arfon Williams sydd wedi dechrau gweithio mewn ffordd gwahanol yn ei feddygfa yn Nefyn ac sydd am gyflwyno’r model hwn ar draws Cymru. “Be mae nhw’n gwneud yw mynd a chi allan o’ch comfort zone a gwneud ichi feddwl yn wahanol,” meddai.Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.

fe ond bevan fro yn cymru nghymru academi iechyd nghaerdydd hgbc
Third Sector Insights / Trydydd Sector Mewn Golwg

On this episode we’ll be focusing project sustainability. We talk to Reynette Roberts, the Director of Oasis Cardiff, about their National Lottery-funded project, and how they plan to keep it going after our funding comes to an end. Read the full transcript here: www.tnlcommunityfund.org.uk/media/Oasis-Transcription-E.docx Yn y bennod hon, byddwn yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd prosiect. Rydym yn sgwrsio â Reynette Roberts, Cyfarwyddwr Oasis yng Nghaerdydd, am eu prosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol a sut maent yn bwriadu ei gynnal wedi i’n harian grant ddod i ben. Darllen y trawgrifiad llawn yma: www.tnlcommunityfund.org.uk/media/Oasis-Transcription-W.docx

Ligo
Slofacia a Chroatia - Ligo Nations

Ligo

Play Episode Listen Later Oct 8, 2019 40:50


Rhodri, Telor, Rhys, ac Ifan sy’n cael cysgod o’r glaw mewn caffi yng Nghaerdydd ac yn trafod gêmau rhyngwladol Cymru, un o derbys Belffast, y diweddara gyda Bangor 1876, a’r ras agored am y Cymru Premier! Intro (00m00e) Slofacia (03m07e) Croatia (08m59e) Gogledd Iwerddon - Derby Belffast (19m54e) Cynghreiriau Cymru (27m56e) Amser Ychwanegol (36m51e) Diolch i Blue Honey Local am fod yn gartref i'r pod am brynhawn! Gwrandewch, tanysgrifiwch, rhannwch gyda'ch ffrindiau, a gadewch ni wybod be chi'n feddwl trwy gysylltu ar Twitter @podligo

Syniadau Iach
Syniadau Arloesol gyda Dafydd Loughran

Syniadau Iach

Play Episode Listen Later Aug 12, 2019 25:56


Mae Cymru o’r maint perffaith i fedru arloesi ym myd iechyd a gofal yn ôl un entrepreneur o Gymro. Yn y podlediad hwn bydd Dafydd Loughran, clinigwr ac entrepreneur sefydlwr cwmni Concentric yng Nghaerdydd yn trafod sut mae ecosystem iechyd digidol Cymru mewn sefyllfa arbennig o dda i greu pethau arloesol ym myd iechyd. “Mae gan y GIG enw da ac mae cyfle gyda ni i fod ar y blaen, ond mae angen llai o gymhlethdodau yn y broses,” meddai. “Mae maint Cymru yn berffaith i ddangos bod sustemau yn gweithio felly mae angen i ni wneud Cymru yn le hawdd i fusnesau arloesol weithio….. mae’n dda bod ni’n gallu gwneud pethau ar raddfa genedlaethol.”Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, astudiodd Dafydd feddygaeth yng Nghaerdydd, ac yna hyfforddiant llawfeddygol yng Nghymru. Cyn sefydlu Concentric, ymgymerodd â chymrodoriaethau deallusrwydd artiffisial yn Babylon Health yn Llundain, ac mae'n dod â'r arbenigedd hwnnw i'r ecosystem technoleg iechyd sy'n ehangu yng Nghymru. Mae cwmni Concentric wedi datblygu llwyfan sy'n cynorthwyo cleifion sy'n wynebu llawdriniaeth i wneud penderfyniadau ar y cyd â'u clinigwyr. Mae Dafydd o’r farn taw prynwriaeth o’r fath yma fydd un o themâu pwysicaf y byd iechyd yn y dyfodol ynghyd â defnyddio data i gefnogi penderfyniadau. Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.

Syniadau Iach
Hac Iechyd Cymraeg

Syniadau Iach

Play Episode Listen Later Jul 16, 2019 26:54


Sut mae defnyddio rhith realaeth (Virtual Reality) i ddysgu nyrsus? Oes modd i roi ymarferion ffisiotherapi ar Ap? Ydy hi’n bosib creu rhaglen rheoli poen i gleifion yn Gymraeg?Mae clinigwyr a gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd yn wynebu problemau fel hyn dydd ar ôl dydd ac yn aml ddim yn gwybod at bwy i droi. Yn y podlediad hwn fe fyddwn ni’n codi’r llen ar yr Hac Iechyd Cymraeg 2019 , sef ‘marathon dyfeisio’ dau ddiwrnod a gynhaliwyd yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yng Nghaerdydd, lle daeth dros gant o bobl ynghyd i greu atebion digidol neu dechnolegol i’r sialensiau hyn- yn apiau, prototeip neu syniad o gynnyrch newydd. Meddai Ifan Evans, cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid Llywodraeth Cymru: “ Mae systemau iechyd yn llawn pobl sydd yn alluog iawn, wedi’u hyfforddi’n broffesiynol tu hwnt, ac yn aml yn edrych yn fewnol er mwyn ceisio atebion i’r heriau hynny. Ond dwi’n meddwl bod na gyfleoedd mawr i rannu hynny’n allanol gyda diwydiant, gyda phrifysgolion, a chleifion, achos yn aml iawn ma’r syniadau creadigol yn medru dod o’r sectorau eraill.”“Mae’r sesiwn hyn yn cysylltu’r pobl sydd â arian i ddatblygu projects newydd gyda phobl sydd â phroblemau a’r gallu, er mwyn creu’r dechnoleg sydd yn mynd i helpu, “ medd Siôn Charles, is-gyfarwyddwr Comisiwn Bevan oedd yn arwain y diwrnod.Y gobaith yw y bydd yr arloesi cydweithredol yma yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion Cymru.Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.

Beti a'i Phobol
Gwerfyl Roberts

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jun 27, 2019 44:38


Beti George yn sgwrsio gyda Gwerfyl Roberts. Yn enedigol o Lanbrynmair, ac wedi gweithio fel nyrs a darlithydd yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Bangor, mae wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd lawer i wella statws y Gymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd.

Galwad Cynnar
Tŵr pwrpasol i wenoliaid duon

Galwad Cynnar

Play Episode Listen Later May 25, 2019 57:10


Bryn Tomos a'i westeion yn trafod pynciau'n cynnwys tŵr pwrpasol i wenoliaid duon yng Nghaerdydd. Deio Gruffydd o RSPB Cymru sy'n ymuno ag o i sgwrsio am hynny. Sylw hefyd i un o deithiau Cymdeithas Edward Llwyd yn y gogledd-ddwyrain, a cherdd newydd sbon gan Iwan Huws, sef Bardd Mis Mai Radio Cymru. Y panelwyr ydi Twm Elias, Ian Keith Jones ac Eifiona Thomas Lane.

duon nghaerdydd sylw
Beti a'i Phobol
Catrin Williams

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later May 5, 2019 45:05


Mae'r artist Catrin Williams wedi'i disgrifio fel chwa o awyr iach yn y byd celfyddydol, oherwydd ei defnydd o liw; serch hynny, mae pobl yn prynu ei gwaith yn parhau i'w synnu. Cafodd ei magu ar fferm ger Y Bala, ac mae'r profiad o fyw yng Nghymru wedi dylanwadu'n fawr ar ei chelf. Astudiodd ym Mangor gyda'r arlunydd Peter Prendergast, ac yna yng Nghaerdydd. Ar daith i Baris fel myfyriwr, gwelodd arddangosfa o waith Matisse. Cafodd ei hysbrydoli, a mae'n dweud iddi ddarganfod ei harddull ei hun fel artist o ganlyniad. Paentio mae hi gan fwyaf, ond mae hefyd yn gweithio gyda chyfryngau a deunyddiau amrywiol, ac yn hen law ar gynnal gweithdai celf ar hyd a lled Cymru. Mae'n sgwrsio gyda Beti am orfod creu, teithio gydag Anhrefn, ac am bwysigrwydd cerddoriaeth.

Beti a'i Phobol
Dylan Griffith

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 6, 2019 48:44


Amsterdam yw cartref Dylan Griffith, ers iddo gael cynnig swydd gydag MTV yn y ddinas. Mae'n dychwelyd i Gymru yn aml, gan hiraethu am ei mynyddoedd. Teipograffeg, brandio a hyrwyddo yw ei gefndir, a fe oedd yn gyfrifol am ailfrandio S4C yn 2006. Treuliodd flwyddyn yn teithio'r byd gyda ffrindiau ar ôl graddio, gan greu cyfres o raglenni am y profiad. Mae wedi teithio'n helaeth ers hynny hefyd, gan fyw yn Awstralia am gyfnod, a chael ei daflu allan o Tibet. Mae bellach yn gydberchennog cwmni Smörgåsbord, sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd ac Amsterdam. Mae'n disgrifio'r cwmni fel stiwdio syniadau, ac yn gweithio gyda Croeso Cymru ymhlith eraill.

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM
Pennod 21 - Hanna Jarman a Sion Alun Davies

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM

Play Episode Listen Later Sep 22, 2018 98:53


Sgwrs hynod hwyliog am eu hanturiaethau yn tyfu lan yng Nghaerdydd gyda'r show-offs proffesiynol, Hanna Jarman a Sion Alun Davies. Pynciau llosg: perm Geraint Jarman, halio cyn y rhyngrwyd, pa mor sgwar oedd Hanna'n tyfu fyny, y gansen, Capel y Crwys, eisteddfota gyda Dave Datblygu, moshpits, LSD a llwyth o shout-outs dienw.

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM
Pennod 017 - Elan Evans a Garmon ab Ion

Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM

Play Episode Listen Later Jun 28, 2018 88:00


I ddathlu Tafwyl 2018, dyma sgwrs hynod hilariws am dyfu lan yng Nghaerdydd gyda'r DJs Elan Evans a Garmon ab Ion. Pynciau llosg: llysenwau, muff vodka, ID ffug, bands, athrawon, afiechyd weil, cachu pants a chwydu dros bob man.

Podcast Pêl-droed
Podcast / Podlediad #70: You Mackem, We Sack ‘Em – Chris Coleman’s time at Sunderland with @innerglee

Podcast Pêl-droed

Play Episode Listen Later May 13, 2018 27:40


In this podcast Russell looks back at Coleman’s brief reign as manager of Sunderland with comedy writer and Black Cats fan Neil Green who lives in Cardiff. Yn y podlediad yma mae Russell yn edrych yn ôl ar deyrnasiad byr Coleman fel rheolwr Sunderland gyda Neil Green, ysgrifennydd comedi a chefnogwr o’r Cathod Duon sy’n byw yng Nghaerdydd.

Beti a'i Phobol
Siân Lewis

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Apr 29, 2018 46:13


Beti George yn sgwrsio â Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru. Dychwelyd at yr Urdd wnaeth Siân, wedi cyfnod yn gweithio gyda'r mudiad ar ddechrau'r 90au, ac mae'n disgrifio'r rôl fel swydd ei breuddwydion, er bod dychwelyd i Wersyll Glan-llyn fel aelod o staff yn hytrach na disgybl ysgol yn brofiad rhyfedd. Cafodd ei magu yng Nghaerdydd, a dyw hi ddim wedi crwydro'n bell iawn o'r brifddinas. Er ei bod wrth ei bodd yn gymdeithasol yn Ysgol Glantaf, doedd y pwyslais academaidd ddim yn plesio. Ailddarganfyddodd ei hoffter o fyd addysg yng Ngholeg Rhymni, cyn symud i Brifysgol Morgannwg i astudio busnes, ac yna cwblhau cwrs ôl-radd mewn busnes a chyllid. Wedi ei chyfnod cychwynnol yn gweithio i'r Urdd, symudodd i Fenter Caerdydd, a thra wrth y llyw yno roedd yn gyfrifol am ddatblygu gŵyl Tafwyl. Gyda throsiant o £10 miliwn, dros 300 o staff, a hefyd 10,000 o wirfoddolwyr, beth yw gobeithion Siân ar gyfer dyfodol yr Urdd?

er gyda wedi nghaerdydd urdd cafodd beti george
Beti a'i Phobol
John Rea

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Feb 18, 2018 50:55


Aeth John Rea i Ysgol Gyfun Llanhari ac wedyn i Brifysgol Caerdydd lle bu'n astudio cwrs cyfansoddi dan oruchwyliaeth yr Athro Alun Hoddinott. Gan weithio o'i stiwdio recordio yng Nghaerdydd, mae John yn mwynhau arbrofi gydag offeryniaeth draddodiadol a thechnoleg stiwdio fel ei gilydd. Mae wedi ennill dwy wobr BAFTA yn y categori 'Cerddoriaeth Wreiddiol Orau', ac wedi cydweithio gyda sawl artist o'r byd pop a roc, gan gynnwys y Manic Street Preachers, Charlotte Church a John Cale.

Beti a'i Phobol
07/01/2018

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jan 7, 2018 47:45


Yn wreiddiol o Wauncaegurwen, roedd Barry Morgan yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera cyn mynd i'r brifysgol yn Llundain i astudio hanes, ac yna i Gaergrawnt i wneud gradd mewn diwinyddiaeth. Cafodd ei ordeinio gan fynd yn giwrad i Ddinas Powys am dair blynedd a bu ar staff Coleg Mihangel Sant, Caerdydd, am ddwy flynedd yn ogystal ag yn darlithio mewn diwinyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Aeth Barry Morgan wedyn yn gaplan i Fangor, gan ddarlithio yn y Brifysgol yno cyn symud i Wrecsam fel offeiriad plwy. Fe'i galwyd nôl i Esgobaeth Bangor, i Gricieth, i fod yn Rheithor ac Archddiacon Meirionydd, cyn ei ethol yn Esgob Bangor yn 1993, yn Esgob Llandaf yn 1999, ac yna'n Archesgob Cymru yn 2003.

yn barry morgan wrecsam nghaerdydd cafodd
Podcast Pêl-droed
Podcast / Podlediad #65: Live Q+A with Leon Barton, author of Little Wonder

Podcast Pêl-droed

Play Episode Listen Later Dec 12, 2017 53:05


Our first ever podcast with a live audience at Chapter Arts Centre in Cardiff with St. David's Press. Russell and Rich interview Leon Barton about his biography of Brian Flynn, Little Wonder. Little Wonder is available to buy from www.st-davids-press.wales. You can read an excerpt here. Brian will be signing copies of Little Wonder at Wrexham AFC on 16 December.  Dyma ein podlediad cyntaf erioed o flaen cynulleidfa fyw yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd gyda St. David's Press. Mae Russell a Rich yn holi Leon Barton am ei fywgraffiad o Brian Flynn, Little Wonder. Mae Little Wonder ar gael i'w brynu trwy www.st-davids-press.wales. Gallwch chi ddarlen detholiad yma. Bydd Brian yn arwyddo copïau o Little Wonder yn CPD Wrecsam ar 16 Rhagfyr.

Beti a'i Phobol
David Sinclair

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Oct 22, 2017 47:02


Beti George yn sgwrsio gyda'r Albanwr David Sinclair. Yn wreiddiol o Sterling, aeth i Brifysgol Aberdeen, ond gyda'i ddarpar wraig yn byw yng Nghaerdydd, daeth i Gymru i fyw am gyfnod. Ar ôl dysgu'r iaith, mae bellach yn siarad Cymraeg ers degawdau. Wedi cyfnod o fod yn weithiwr cymdeithasol, hyfforddodd i ddod yn weinidog, ac wrth sgwrsio gyda Beti mae ar fin dechrau ar gyfnod newydd yn ei fywyd. Ar ôl bron i ddeng mlynedd o waith mewn eglwys yn Glasgow, mae ef a'i wraig Mary yn paratoi i symud i Prague, gyda'r bwriad o ymddeol ymhen rhyw bedair blynedd.

Beti a'i Phobol
Andrew Tamplin

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Oct 15, 2017 49:08


Beti George yn sgwrsio gydag Andrew Tamplin. Yn wreiddiol o Lanelli, cafodd ei fagu ar aelwyd ddwyieithog, a roedd y capel yn rhan bwysig o'r fagwraeth honno. Bu'n canu'r organ yno o oedran ifanc iawn, a daeth i arwain côr merched yn y dref, yn ogystal ag arwain cymanfaoedd canu yn yr ardal. Dod yn athro oedd y nod wrth fynd i Goleg y Drindod, ond newidiodd ei feddwl a mynd i fyd bancio. Aeth hynny ag o i sawl lle gwahanol, gan gynnwys Southampton, Ynysoedd y Philipinau a Manila. Yna, aeth yn sâl gyda blinder meddyliol a chorfforol, a dechreuodd deimlo'n isel iawn. Ar ôl ymddiswyddo o'r banc, a chyfnod o driniaeth i drechu'r iselder, dechreuodd feddwl am gynnig cymorth i eraill gyda'u datblygiad gyrfa. Canna Consulting ydi enw'r cwmni yng Nghaerdydd, a mae'n fusnes sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd. Mae'n byw gyda John, ei bartner, sydd wedi bod yn graig iddo drwy'r cwbl, a mae'r ddau yn adeiladu tŷ yn Y Barri.

southampton dod manila yn yna tamplin aeth goleg nghaerdydd beti george
Beti a'i Phobol
Hywel Davies

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Oct 1, 2017 50:40


Beti George yn holi Hywel Davies. Wedi'i eni ym Mhontarddulais, symudodd y teulu i'r gogledd-ddwyrain pan oedd ond yn 18 mis oed, cyn symud yn ôl i'r de flynyddoedd yn ddiweddarach. Ar ôl blynyddoedd o fod yn newyddiadurwr yng Nghymru, gan gynnwys gweithio i HTV yng Nghaerdydd, symudodd i America. O'r wlad honno y daw ei wraig, Charlotte, ond roedd hi wedi dysgu Cymraeg cyn i'r ddau gwrdd. Yn ôl yng Nghymru, symudodd y teulu i Dreforys, ac roedd ei waith teledu'n cynnwys Hel Straeon. Yn 2007, dechreuodd gyhoeddi Y Papur Gwyrdd, sydd bellach yn wefan. Gyda chymorth Charlotte, tynnu sylw at honiadau difrifol gwyddonwyr ynghylch peryglon i'r Ddaear yw'r nod.

america yn gyda cymraeg htv nghymru nghaerdydd hywel davies beti george
Beti a'i Phobol
Ian Cottrell

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Sep 17, 2017 49:49


Beti George yn holi Ian Cottrell. Ar ôl dechrau ei yrfa fel athro yn Aberdâr, daeth yn adnabyddus fel cyflwynydd teledu ac aelod o'r grŵp Diffiniad. Mae cerddoriaeth yn dal yn rhan bwysig iawn o'i fywyd, a does ond angen mynd i Glwb Ifor Bach yng Nghaerdydd am brawf o hynny. Yno, mae'n un o DJs Dirty Pop pob nos Sadwrn.

cottrell nghaerdydd beti george
Beti a'i Phobol
Wyn Bowen Harries

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Sep 3, 2017 50:01


Beti George yn sgwrsio gyda'r actor Wyn Bowen Harries. Wrth astudio biocemeg yn Aberystwyth, roedd yn treulio llawer iawn o'i amser yn Theatr y Werin, ac aeth i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd i ddilyn cwrs ôl-radd. Gyda dyfodiad S4C, daeth yn wyneb cyfarwydd i wylwyr y sianel. Mae ei waith ar hyd y blynyddoedd yn cynnwys rhannau yn Dinas, Rownd a Rownd, Pengelli a 35 Diwrnod, ond y ffilm Gadael Lenin yw uchafbwynt ei yrfa. Yn fwy diweddar, dilynodd gwrs MA mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy, gan arwain at sefydlu Pendraw - cwmni sy'n ceisio cyfuno profiadau theatrig gyda hanes a gwyddoniaeth.

Beti a'i Phobol
Sara Powys

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Jul 13, 2017 46:19


Beti George yn sgwrsio â Sara Powys. Wedi cyfnodau yn gweithio ym meysydd y diwydiant ymwelwyr a iechyd meddwl, hi yw perchennog Coffi Cwtch yng Nghaerdydd.

powys wedi nghaerdydd beti george
Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 49: 49: Haciaith 2016

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Apr 28, 2016 44:54


Mentrodd 66% o griw’r Haclediad i ddigwyddiad byw Hacio’r Iaith 2016 yng Nghaerdydd – ar cyfan gewch chi di’r podlediad ma! Buodd Bryn a Sioned yn cyfweld creawdwyr Macsen, llais AI cynta’ Gymraeg, yn ogystal â bwyta llawer gormod o Jelly Babies… The post Haclediad 49: Haciaith 2016 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

ai jelly babies gymraeg iaith nghaerdydd
Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 48: 48: OMB Haclediad arall syth bin!

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Apr 13, 2016 78:33


Haclediad newydd i’ch clustiau mewn llai na 6 mis? Be sydd, yn wir, haru ni? Tro yma bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod iPhones newydd (dyna sioc), Apple yn 40, rhwydwaith cymdeithasol kawaii ru hwnt newydd Nintendo, pa hawl sgen yr FBI i’ch gwybodaeth chi a cheir widawiw Tesla. Hyn oll a mwy yn arwain at Hacio’r iaith 2016 yng Nghaerdydd ar Ebrill 16, mwynhewch! The post Haclediad 48: OMB Haclediad arall syth bin! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

apple iphone fbi tesla nintendo tro iestyn iaith hyn nghaerdydd ebrill arall
Haclediad – Hacio’r Iaith
Episode 31: 31: Anturiaethau 4G a HalfArsedCymru

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Sep 2, 2013 44:12


Wedi rhifyn byw’r eisteddfod, mae’r criw nôl yng Nghaerdydd, Llundain a Chaernarfon am rifyn diweddara’r haclediad! Bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod 4G yn cyrraedd, mwy o esiamplau o brosiectau a gwefannau Half Arsed Cymru, a bydd Bryn Blin yn ailymuno efo’r criw yn achlysurol – ond rhaid gwrando i weld pam! 4G Buers Guide – The Verge Gwladigidol The post Haclediad #31: Anturiaethau 4G a HalfArsedCymru appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

4g wedi iaith nghaerdydd