Podcasts about llywodraeth cymru

  • 10PODCASTS
  • 15EPISODES
  • 36mAVG DURATION
  • 1MONTHLY NEW EPISODE
  • Jun 29, 2024LATEST

POPULARITY

20172018201920202021202220232024


Best podcasts about llywodraeth cymru

Latest podcast episodes about llywodraeth cymru

Haclediad – Hacio’r Iaith
Hac the Planet!!

Haclediad – Hacio’r Iaith

Play Episode Listen Later Jun 29, 2024 171:15


"I am a Haclediad, and this is my manifesto. You may stop this podcast, but you can't stop us all... " Y flwyddyn yw 1995, mae sbectols bychan a rollerblades yn bla ar ein strydoedd, a mae 'Hackers' yn dy siop video leol... ochenaid dyddiau da. Yn y bennod yma o'r Haclediad (sy'n brysur troi mewn i Milennial hiraeth cast) bydd Iest, Sions a Bryn yn trafod:

Bwletin Amaeth
NSA Cymru yn anhapus gyda Llywodraeth Cymru

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later Jun 21, 2024 4:59


Cadeirydd NSA Cymru, Caryl Hughes, sy'n nodi'r rhesymau wrth Rhodri Davies.

gyda rhodri davies llywodraeth cymru
Bwletin Amaeth
Ymateb i gyhoeddiad cymorth ariannol Llywodraeth Cymru

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later May 1, 2024 4:30


Rhodri Davies sy'n cael ymateb i'r cyhoeddiad gan Dylan Morgan o NFU Cymru.

rhodri davies llywodraeth cymru nfu cymru
Beti a'i Phobol
Felicity Roberts

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Oct 23, 2023 48:18


Mae Felicity Roberts yn Diwtor a Chydlynydd Cymraeg i Oedolion yn Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi bod yn diwtor Cymraeg am dros hanner can mlynedd. Yn 2023 enillodd wobr am fod yn diwtor Cymraeg Ysbrydoledig gyda ‘Inspire Awards' dan nawdd Llywodraeth Cymru. Magwyd Felicity ar aelwyd llawn cariad yn Chwilog a bu ei magwraeth yno yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd ei hoes. Cafodd ei haddysg yn ysgol gynradd Chwilog hyd nes roedd hi'n 8 oed, yna am 3 blynedd bu'n aros yng nghwfaint St Gerard's Bangor. Roedd ei rhieni'n awyddus iddi gael addysg yn y cwfaint er mwyn gwneud yn siŵr bod Felicity yn pasio'r arholiad 11+. Yna mynychodd Ysgol Ramadeg Pwllheli ac ar ôl 2 flynedd ym Mhwllheli safodd yr arholiadau i fynd i Ysgol Howells yn Ninbych. Ers dyddiau ysgol roedd hi wedi bod yn canlyn Robert Roberts ac roedd y ddau'n fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor. Priododd y ddau ar ddiwedd eu blwyddyn gyntaf a ganwyd eu plentyn cyntaf ar ddiwedd eu hail flwyddyn, y cyntaf o chwe phlentyn i'r ddau. Swydd gyntaf Felicity pan symudodd y teulu i fyw i Flaenplwyf, oedd swydd rhan amser fel cynorthwyydd ymchwil i ysgolion Meithrin Cymru. Yn 1978 cafodd radd mewn Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth ac mi gafodd swydd yn yr adran Gymraeg yn dysgu Cymraeg i ddechreuwyr yno. Ni adawodd Felicity yr adran Gymraeg wedyn am 27 mlynedd. Daeth ei phriodas â Robert i ben ac mae hi mewn perthynas ers 44 o flynyddoedd efo Jaci ac mae'n byw bywyd prysur iawn rhwng y gwaith a'r teulu mawr.

roberts bangor ers jaci yn aberystwyth cymraeg gymraeg yna robert roberts llywodraeth cymru cafodd daeth
Podcast Pêl-droed
Ep.160 – The Dragon On My Shirt with Darren Chetty

Podcast Pêl-droed

Play Episode Listen Later Aug 3, 2023 31:39


The Dragon On My Shirt is a brand new series looking at the experiences of some of the people of colour to represent Wales in football. Produced by East Sleep Media and supported financially by Welsh Government's anti-racism programme, the series is written and presented by Darren Chetty (@rapclassroom). It features the likes of Neil Taylor, George Berry, Wendy Reilly and Safia Middleton-Patel. Darren has also prepared an Info Pack for the series, including an educational Discussion Resource. The series is available to watch on the FAW's RedWall+ streaming channel. Trigger warning: this episode refers to racism and people's experiences of overt racism. No racial slurs are used but they are implied. Cyfres newydd sbon yw The Dragon On My Shirt sy'n edrych ar brofiadau rhai o'r pobl o liw sydd wedi cynrychioli Cymru ym mhêl-droed. Cynhyrchwyd gan East Sleep Media gyda chefnogaeth ariannol oddi wrth raglen gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru, mae'r gyfres wedi'i hysgrifennu a'i chyflwyno gan Darren Chetty (@rapclassroom). Mae'n cynnwys chwaraewyr megis Neil Taylor, George Berry, Wendy Reilly a Safia Middleton-Patel. Hefyd mae Darren wedi paratoi Pecyn Gwybodaeth ar gyfer y gyfres, gan gannwys Adnodd Trafod addysgol. Mae'r gyfres ar gael i'w gwylio ar RedWall, sianel ffrydio CBDC. Rhybudd: mae'r episod yma yn cyfeirio at hiliaeth a phrofiadau pobl o hiliaeth amlwg. Does dim sarhau hiliol ond maen nhw'n cael eu hawgrymu.

Beti a'i Phobol
Eluned Morgan AS

Beti a'i Phobol

Play Episode Listen Later Nov 6, 2022 51:49


Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol yw gwestai Beti George. “Mae 'na real cyfle i wneud gwahaniaeth pan ma' chi sydd yn gyfrifol am 50% o gyllideb Llywodraeth Cymru”. Dyna ddywed Eluned Morgan AS wrth Beti George, sy'n ei holi am ei gwaith a'i chyfrifoldebau fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mae Eluned Morgan yn y swydd yma ers 18 mis ac mae Beti yn ei holi am yr heriau mae hi'n ei wynebu - o gyfnod Cofid i'r rhestrau aros am driniaethau NHS. Hefyd mae'n sôn am ei gwr sef “ei ffrind gorau” y meddyg a'r offeiriad Rhys Jenkins, a'u hoffter o ganeuon Queen.

nhs beti hefyd llywodraeth cymru beti george
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
#70 - Cynllun Ffermio Cynaliadwy - Ymchwilio'n ddyfnach i'r manylion

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear

Play Episode Listen Later Oct 9, 2022 45:22


Bydd y podlediad hwn yn gyfle i ddeall ychydig mwy am gynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a sut y gallai'r cynllun weithredu yng nghyd-destun fferm ddefaid go iawn. Byddwn yn canolbwyntio ar y camau gweithredu cyffredinol ar gyfer meincnodi, iechyd anifeiliaid a bioddiogelwch yn benodol wrth i ni ystyried y broses barhaus o gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy o fewn y cynigion. Mae holl ffermwyr Cymru'n cael eu hannog i gwblhau'r arolwg SFS i helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynigion yr SFS i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio ar lawr gwlad. Gellir dod o hyd i'r arolwg [yma] a daw i ben ar 31 Hydref 2022.

cymru sfs bydd hydref byddwn llywodraeth cymru
Bwletin Amaeth
Llywodraeth Cymru yn rhwystro ffermydd solar ar dir cynhyrchiol

Bwletin Amaeth

Play Episode Listen Later May 16, 2022 5:19


Aled Rhys Jones sy'n clywed mwy gan Teleri Fielden, Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru.

solar llywodraeth cymru
Pigion: Highlights for Welsh Learners
Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 4ydd 2022

Pigion: Highlights for Welsh Learners

Play Episode Listen Later Feb 4, 2022 16:56


1. Beti a'i Phobol a Rebecca Roberts Buodd Beti George yn sgwrsio efo'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi sgwennu pedair nofel ac wedi ennill sawl gwobr am ei llyfrau. Yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad efo anabledd ac yn gwisgo coesau prosthetig yn union fel rhai merch yr awdur. Roedd Rebecca wedi bod yn ymgyrchu i gael Llywodraeth Cymru i awdurdodi ysbytai i wario ar goesau a breichiau prosthetig. Dyma hi'n sôn wrth Beti sut cafodd hi wybod bod yr ymgyrch wedi llwyddo... Anabledd - Disability Ymgyrchu - To campaign Llywodraeth Cymru - The Welsh Government Awdurdodi - To authorize Arbenigol - Specialized Byd o wahaniaeth - A world of difference Deisebu - To petition Arbenigedd - Expertise Gwaith ymchwil - Research Dadlau fy achos - Arguing my case Rhoi cynnig arni - To give it a go 2. Cymru Carwyn Iau efo Max Boyce Rebecca Roberts oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George am y gwahaniaeth mae cael coesau prosthetig wedi gwneud i fywyd ei merch. Yn y gyfres Cymru Carwyn mae Carwyn Jones yn trafod y pethau sy'n gwneud Cymru'n wlad mor arbennig, yn enwedig felly pobl a hanes y wlad. Yn y clip nesa mi gawn ni glywed Carwyn yn sgwrsio gydag un o drysorau mwya Cymru, Max Boyce. Cymuned - Community Sylw - Attention Dwlu bod - Wrth fy modd bod Hollol lofaol - Predominantly coalmining Prydferth - Beautiful Mo'yn - Eisiau 3. Aled Hughes a Mirain Iwerydd Carwyn Jones oedd hwnna'n sgwrsio gyda Max Boyce. Mi roedd Mr Urdd yn gan mlwydd oed wythnos diwetha ac mi lwyddodd yr Urdd i ddathlu'r pen-blwydd mewn steil drwy dorri record y byd am y nifer mwya o fideos o bobl yn canu'r un gân sef Hei Mistar Urdd. Bore Mercher mi roedd y cyflwynydd Mirain Iwerydd yn sgwrsio efo Aled Hughes am y cyfleoedd mae hi wedi eu cael efo'r Urdd gan gynnwys taith i Batagonia. Dyma Mirain yn sôn am y daith arbennig honno... Cyflwynydd - Presenter O bob cwr - From every corner Y Wladfa - The Welsh settlement in Patagonia Diolchgar - Thankful Cyffelyb - Equivalent Hala ni mas - Anfon ni allan Llwyfan - Stage Lledaenu - Spread Neges Ewyllys Da - The Peace and Good Will Message Cyfrinach - Secret Ymwybodol - Aware 4. Betsan Powys ac Owain Wyn Evans Mirian Iwerydd yn fan'na yn sôn am rai o'r pethau pwysig mae'r Urdd yn ei wneud. Mae Owain Wyn Evans yn gyfarwydd wrth gwrs fel cyflwynydd y newyddion a'r tywydd, ond yn ddiweddar mae o hefyd wedi dod yn enwog am ei ddrymio. Ar gyfer Plant Mewn Angen buodd o'n drymio am ddau ddeg pedair awr a chodi swm anhygoel o arian. Dyma fo'n datgelu mewn sgwrs efo Betsan Powys faint o bres yn union a godwyd... Cyfarwydd - Familiar Pedair awr ar hugain- 24 hours Anhygoel - Incredible Datgelu - To reveal Taw - Mai Amlwg - Prominent Cefnogaeth - Support Anferth - Huge Her - A challenge Ffili - Methu 5. Isio Babi Tri phwynt wyth miliwn o bunnau- dyna swm anhygoel ynde? Nos Fercher mi glywon ni stori Carys Barratt a'i gŵr, Craig, fuodd yn trio cael babi am flynyddoedd. Mae'r rhaglen yn dilyn hanes Carys dros y misoedd pan oedd hi'n paratoi i gael triniaeth IVF, misoedd o obaith ac o siom. Dyma Carys yn rhoi ychydig o gefndir i ni... Triniaeth - Treatment Cefndir - Background Di-Gymraeg - Ddim yn siarad Cymraeg Gofal plant - Childcare Ffodus - Lwcus Llonni - Gwneud yn hapus Ar waith - Working 6. Trystan ac Emma a Mot y ci Pob lwc i Carys ac i Craig ynde? Ac i orffen , dyma i chi hanes anhygoel Mot y ci, aeth ar goll am 5 wythnos. Aeth Tecwyn Vaughan Jones o Fae Colwyn â Mot am dro ond rhywsut aeth y ci ar goll. Ar ôl i Tecwyn chwilio a chwilio efo help cymdogion, drones, yn wir help y gymuned gyfan, o'r diwedd gwelodd neges ar Facebook oedd yn rhoi gobaith iddo fo ..... Mi ddaru - Gwnaeth Ymateb - Response Wedi crwydro - Had wandered Tebygrwydd - Similarity Anobaith llwyr - Sheer hopelessness Traddodiad - Tradition Dianc - To escape Rhuthro - To rush Sefyll yn stond - Standing still Yn cyfarth ac yn llyfu - Barking and licking

Emma & Tom's PGCE Podcast
Tameidiau o Ymchwil TAR 3 - Cyd-destun Dilys gyda Daniel Roberts

Emma & Tom's PGCE Podcast

Play Episode Listen Later Sep 24, 2021 15:59


Mae Tameidiau o Ymchwil TAR yn cyflwyno ymchwil gorau myfyrwyr ar gyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon gyda Phartneriaeth Caerdydd. Yn y bennod hon mae Daniel Roberts yn trafod sut yr aeth ati i ddysgu mwy am ddefnyddio cyd-destun dilys wrth addysgu mewn ysgol gynradd, drwy ymchwil ac ymholi. Gallwch hefyd wrando ar Tameidiau o Ymchwil TAR ar ffurf glywedol drwy gofrestru i wrando ar bodlediadau Emma and Tom Talk Teaching, ar gael ar blatfformau cyffredin podlediadau. Gallwch wylio'r bennod hon ar YouTube - https://smarturl.it/cardiffpartnership     Cyfeirnodau Aspy, D. N., Aspy, C. B., Quinby, P. M. (1993) What doctors can teach teachers about problem-based learning. Educational Leadership, 50(7), t. 22–25. Blumenfeld, P. C., Soloway, E., Marx, R. W., Krajcik, J. S., Guzdial, M., Palincsar, A. (1991) Motivating project-based learning: Sustaining the doing, supporting the learning. Educational Psychologist, 26(3 & 4), t. 369–398. Braund, M., Reiss, M. (2006) Towards a more authentic science curriculum: The contribution of out-of-school learning. International Journal of Science Education, 28(12), t.1373–1388. Brown, J. S., Collins, A., Duguid, P. (1989) Situated cognition and the culture of learning. Educational Researcher, 18, t. 32-42. Callison, D., Lamb, A. (2004) Key words in instruction: Authentic learning. School Library Media Activities Monthly, 21(4), t. 34-39. Deci, L., Vallerand, R., Pelletier, L., Ryan, R. (1991) Motivation and Education: The Self-Determination Perspective. Routledge. t.325-346 Donaldson, G. (2015) Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Cymru, UK: Crown.  Donovan, M. S., Bransford, J. D., Pellegrino, J. W. (Eds.). (1999) How people learn: Bridging research and practice. Washington, DC: National Academy Press. Duke, N. K., Purcell-Gates, V., Hall, L. A., Tower, C. (2006) Authentic literacy activities for developing comprehension and writing. The Reading Teacher, 60(4), t. 344–355. Estyn (2018) Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Ar gael yn: https://www.estyn.llyw.cymru/system/files/2020-07/Estyn_Annual%2520Report_Accessible_Welsh_2018.pdf Gardner, H. (1991) The unschooled mind: How children think and how schools should teach. New York: BasicBooks. Hobart, P. (2005) Authentic learning beyond the classroom: Authentic learning, VELS, and PoLTs. Ethos, 13(1), t. 12–19. Hui-ju, L. (2015) Learner Autonomy: The Role of Motivation in Foreign Language Learning. Journal of Language Teaching & Research, Vol 6 t. 1165-1175 Irvin, L. K., Horner, R. H., Ingram, K., Todd, A. W., Sugai, G., Sampson, N. K. (2006) Using office discipline referral data for decision making about student behavior in elementary and middle schools: An empirical evaluation of validity. Journal of Positive Behavior Interventions, 8, t. 10–23. Llywodraeth Cymru (2020a). Canllawiau Cwricwlwm i Gymru. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Llywodraeth Cymru (2020b) Ystyriaethau gweithredu ac ymarferol -rhan o Cynllunio eich cwricwlwm. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Llywodraeth Cymru (2015) Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes. Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Maina, F.  W. (2004) Authentic learning: Perspectives from contemporary educators. Journal of Authentic Learning, 1(1), t. 1-8. Parsons, S. A., Ward, A. E. (2011) The case for authentic tasks in content literacy. The Reading Teacher, 64(6), t. 462–465.                              Pearson, P.D., Raphael, T.E., Benson, V.L., Madda, C.L. (2007) Balance in comprehensive literacy instruction: Then and now. In L.B. Gambrell, L.M. Morrow, & M. Pressley (Eds.), Best practices in literacy instruction. New York: Guilford. t. 30–54. Prince, M. (2004) Does Active Learning Work? A Review of the Research. Journal of Engineering Education. t.223-231 Renzulli, J. S., Gentry, M., Reis, S. M. (2004) A time and a place for authentic learning. Educational Leadership, 62(1), t. 73-77.                    Rule, A. C. (2006) The components of authentic learning. Journal of Authentic Learning, 3(1), t. 1–10. Ryan, R., Deci, L. (2000) Intrinsic and extrinsic motivation. Contemporary Educational Psychology. University of Rochester. Santrock, J. W. (2011) Educational psychology (5th ed.). New York, NY: McGraw-Hill. Stiggins, R. J. (2005) Assessment FOR learning defined. Portland, OR: Assessment Training Institute. Thoonen, E. E. J., Sleegers, P. J. C., Oort, F. J., Peetsma, T. D., Geijsel, F. P. (2011). How to improve teaching practices: The role of teacher motivation, organizational factors, and leadership practices. Educational Administration Quarterly, 47(3), t. 496–536. Turner, E. E., Gutiérrez, M. V., Simic-Muller, K., Díez-Palomar, J. (2009) Everything is math in the whole world: Integrating critical and community knowledge in authentic mathematical investigations with elementary Latina/o students. Mathematical Thinking and Learning, 11(3), t. 136–157. William, D. (2017) Embedded Formative Assessment: Strategies for Classroom Assessment That Drives Student Engagement and Learning. Solution Tree   Willems, P., Gonzalez-DeHass, A. (2012) ‘School-Community Partnerships: Using Authentic Contexts to Academically Motivate Students', School Community Journal, 22(2) t. 9-30

Menter Môn - Sgyrsiau am Gynlluniau / Talks About Projects
SMART Towns Wales #1 - The why, the what and the how

Menter Môn - Sgyrsiau am Gynlluniau / Talks About Projects

Play Episode Listen Later Apr 1, 2021 26:41


This podcast takes a look back at the 4 Smart Town Masterclasses which highlighted how towns in Wales could benefit from Smart Technology to help them recover from the impact of COVID 19. The podcast also provides an overview of the support which will be available to towns via the Welsh Government as part of the 'Year of SMART Towns' project. Contributing to the podcast is Clive Davies from Cardigan, Linda Chandler from Hyperlocal Cities, and Dafydd Gruffydd from Menter Môn. Mae'r podlediad yn edrych yn ôl ar y 4 gwersfeistr Trefi Smart oedd yn amlygu sut mae trefi yng Nghymru yn medru buddio wrth ddefnyddio Technoleg Smart. Mae'r podlediad hefyd yn rhoi trosolwg o'r gefnogaeth sydd ar gael i drefi fel rhan o'r cynllun "Blwyddyn Trefi Smart' Llywodraeth Cymru. Yn cyfrannu mae Clive Davies o Aberteifi, Linda Chandler o Hyperlocal Cities a Dafydd Gruffydd o Menter Môn.

Syniadau Iach
Creu cymunedau iach yng Nghymru

Syniadau Iach

Play Episode Listen Later Jun 4, 2019 19:44


Mae Syniadau Iach yn trafod sut y mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar iechyd cymunedau Cymru. “Mae anghyfiawnder cymdeithasol yn lladd ar raddfa fawr” Dyna oedd farn Comisiwn Penderfynyddion Cymdeithasol ar Gyfer Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd nol yn 2008. Cadeirydd y Comisiwn oedd yr Athro Syr Michael Marmot,(LINK) sy’n Athro Epidemioleg ac Iechyd Cyhoeddus yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i oes yn ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol a deall sut mae'n effeithio ar ein hiechyd.Fel aelod o Gomisiwn Bevan, mae Syr Michael, yn cynghori Llywodraeth Cymru ac eraill ar bolisi iechyd a gofal cymdeithasol.Yn y podlediad hwn fe fydd Dr Zoe Morris Williams, meddyg teulu ym Mhontypridd a Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan yn ymateb i sylwadau Syr Michael.Byddan nhw’n trafod sut mae ffactorau cymdeithasol, fel cyflwr tai, gwaith a bwyd yn dylanwadu ar iechyd.“Mae na ardaloedd o Gymru yn rhai o ardaloedd fwya’ tlawd yn Ewrop, ac mae hwnna yn mynd i effeithio ar iechyd pobl,” dywed Zoe gan ychwanegu bod hi’n bwysig i edrych nid dim ond ar ba mor hir mae pobl yn byw ond eu hansawdd bywyd.“Ma pawb yn deall bod y ffactorau yma yn dylanwadu ar eu hiechyd nhw, ond be ma nhw’n ffindio fe’n galed i neud dwi’n credu, yw i neud y penderfyniad fel ma nhw’n newid eu hymddygiad a fel ma nhw’n neud pethau drostyn nhw’u hunain,” meddai Sion. Sut mae mynd i’r afael ar newid meddylfryd pobl er mwyn creu cymunedau iach yng Nghymru?

sion byd fel yn cymru creu sut gymru nghymru iach podlediad iechyd ewrop llywodraeth cymru cadeirydd
Mwy na geiriau...
Adroddiad Ymchwil

Mwy na geiriau...

Play Episode Listen Later Sep 6, 2012


Profiad Siaradwyr Cymraeg o'r Gwasanaethau Iechyd a Gofal Adroddiad a baratowyd gan IAITH: y Ganolfan Cynllunio Iaith ar gyfer yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gofal Cymru

iaith llywodraeth cymru
Mwy na geiriau...
Crynodeb Gweithredol

Mwy na geiriau...

Play Episode Listen Later Sep 6, 2012


Roedd yr ymgynghoriad hwn yn gwahodd barn a sylwadau ar Fframwaith Strategol drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben.

cymraeg mae'r iechyd llywodraeth cymru
Mwy na geiriau...
Dogfen Ymgynhori

Mwy na geiriau...

Play Episode Listen Later Sep 6, 2012


Roedd yr ymgynghoriad hwn yn gwahodd barn a sylwadau ar Fframwaith Strategol drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben.

cymraeg mae'r iechyd llywodraeth cymru